View
238
Download
9
Category
Preview:
DESCRIPTION
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 2009
Citation preview
15 Tachwedd – 3 Ionawrar diroedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
www.gwleddygaeafaryglannau.com
❅ Yr unig gylch iâ blant yng Nghymru
❅ Arddal seddi dan do
NEWYDD
City and County of SwanseaDinas a Sir Abertawe
Fel rhan ô
Gyda sglefrio iâ go iawn, Olwyn Fawr Admiral, ffair bleser i’r teulu, bwyd y Nadolig ac adloniant byw, bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n gwefreiddio’r torfeydd unwaith eto.
Atyniad newydd sbon ar gyfer 2009 yw Cylch Iâ Cochyn, sef llyn sglefrio bach i blant ac ardal dan do i wylwyr – cymerwch sedd wrth ochr y llyn a gwylio wrth i’r sglefrwyr wibio heibio!
Rydym wedi trefnu cystadleuaeth* wych i ennill Nintendo DSi ar gyfer y Nadolig. Mynnwch ffurfl en gais yn ystod Gorymdaith y Nadolig, 15 Tachwedd neu yn lleoliadau’r Cyngor ar draws y ddinas a gallech ennill y rhodd berffaith ar gyfer y Nadolig.
*Ewch i’r wefan am y telerau ac amodau
Sêr yn yr awyr, mins-peis, sglefrio iâ a hwyl Nadolig –
rydych yn gwybod bod y Nadolig ar y ffordd pan fydd
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n agor ei gatiau am
fl wyddyn arall. Ymunwch â’r hwyl o 15 Tachwedd pan
fydd tiroedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n
cael eu trawsnewid yn atyniad Nadolig hudol.
Ffoniwch 01792 637300 neu ewch i www.gwleddygaeafaryglannau.com am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dydd Llun – Dydd Gwener (tan 18 Rhagfyr) 12 ganol dydd - 10pm Dydd Llun – Dydd Gwener (o 21 Rhagfyr) 10am - 10pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10am - 10pm
Noswyl Nadolig 10am - 7pmDydd Nadolig Ar gauDydd San Steffan 11am - 6pmNos Galan 10am - 6pm
Amserau agor
Glunn
AAyw
Mynnwch tod
ffaith
www.gwleddygaeafaryglannau.com
Sglefrio Iâ Cadw lle ar gyfer sglefrio a gwybodaethFfôn: 01792 637300
Ar-lein: www.gwleddygaeafaryglannau.com
Yn bersonol: Canolfan Croeso, Stryd Plymouth, Abertawe neu prynwch eich tocynnau wrth Lyn Iâ Admiral o 15 Tachwedd.
Argymhellir cadw lle’n gynnar ar gyfer y ddau lyn iâ er mwyn osgoi cael eich siomi. Amser dechrau sglefrio olaf ar y ddau lyn iâ yw awr cyn iddynt gau.
r sgle
00
nnau c
o, Strydtawe neu cynnau wrth achwedd
1 2
Mae Llyn Iâ Admiral yn ôl ac nid yw ar ei ben ei hun! Cylch Iâ Cochyn yw’r cylch iâ mini newydd sbon ar gyfer plant a’r unig un o’i fath yng Nghymru. Mae cyfyngiadau taldra, felly mesurwch yn erbyn Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd cyn sglefrio.
Prisiau o £5 y sesiwn. Ewch i’r wefan am fanylion llawn.
1.35m
Mae llond gwlad o hwyl i’w chael yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau – Ewch ar yr Olwyn Fawr a gweld y ddinas o 44m i fyny – mae’n rhaid gweld y golwg panoramig! Mae ffefrynnau’n dychwelyd gyda’r ceffylau bach a reid y Storm Eira, ac rydym yn ychwanegu reid newydd eleni – i’w chyhoeddi’n fuan.
Hwyl y Nadolig
Groto Siôn CornDewch i fwynhau hud y Nadolig yng Ngroto Siôn Corn. Bydd coblynnod bach Siôn Corn yn eich cyfarch cyn i chi gwrdd â Mr Corn ei hun! Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg a ffotograff dewisol.
Postiwch eich llythyr at Siôn Corn ym mlwch post y Post Brenhinol erbyn 18 Rhagfyr a gallech gael ateb hyd yn oed!
Pris£3.00 y plentyn i weld Siôn Corn. £4.50 y plentyn i weld Siôn Corn a chael llun.
Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener 3.30pm – 7pm Dydd Sadwrn a dydd Sul 11am – 7pm
Amserau agor 15 Tachwedd - 23 Rhagfyr
www.gwleddygaeafaryglannau.com
3 4
Bwyd a diod Losin a danteithion, twrci a stwffi n, siocled poeth a mins-peis... Mae gan Wledd y Gaeaf ar y Glannau ddewis o fannau gwerthu bwyd a diod i’ch cynhesu.
AdloniantMwynhewch raglen o adloniant ar ddydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion.
Tripiau Ysgol ac Ymweliadau GrwpMae gennym becynnau arbennig ar gyfer tripiau ysgol ac ymweliadau grwp gan gynnwys partïon pen-blwydd. Os nad ydych wedi trefnu’ch trip ysgol neu’ch ymweliad grwp, ewch i’r wefan neu ffoniwch 01792 635428 am fwy o wybodaeth.
dydd y Glandyydyddydd
Enillydd cystadleuaeth ffotograffi aeth 2008
Rydych chi’n siwr o ddod o hyd i’r anrheg Nadolig perffaith yng Nghanol Dinas Abertawe - mae bwticau annibynnol, siopau arbenigol, y Farchnad Dan Do, arcedau traddodiadol a phrysurdeb Canolfan Siopa’r Cwadrant yndarparu’r dewis gorau o fwy na 260 o siopau dros yr wyl.
Beth am ddewis rhywbeth unigryw gan un o’n masnachwyr arbenigol sy’n cynnig amrywiaeth rhagorol o nwyddau Nadolig fel rhan o Farchnad Nadolig Stryd Rhydychen 27 Tachwedd - 13 Rhagfyr a’r Farchnad Ffrengig 10 - 13 Rhagfyr. Bydd llawer o hwyl yr wyl gyda’n rhaglen gyffrous o adloniant cerddorol dyddiol ac adloniant
i blant. Bydd gweithgareddau arbennig y Nadolig hefyd ar gael yn y rhan fwyaf o leoliadau hamdden a diwylliannol.
Mae Canol Dinas Abertawe yn gyrchfan hamdden prysur gyda dewis o dros 50 o leoliadau gan gynnwys bwytai traddodiadol a chyfandirol sy’n croesawu teuluoedd, bwytai o safon, caffi s ar y palmant, tafarndai, clybiau a chyrchfannau adloniant.
Gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar eich gorau ar gyfer dathliadau’r wyl. O ffasiwn y stryd fawr i ddillad unigryw gan ddylunwyr enwog, a’n salonaugwallt a harddwch arobryn, mae
www.gwleddygaeafaryglannau.com
Mae cymaint i’w weld a’i wneud yn Abertawe dros y Nadolig eleni. Cyfunwch ymweliad â Gwledd hudol y Gaeaf ar y Glannau â hosanaid o siopa a hwyl y Nadolig i’r teulu cyfan dafl iad carreg i ffwrdd yng Nghanol Dinas Abertawe.
www.nadoligabertawe.com
5 6
Canol y Ddinas yn cynnig pecyn o’r corun i’r sawdl.
Mae hyd yn oed fwy o resymau dros siopa yn Abertawe gyda 25 maes parcio â lle i dros 8,580 o gerbydau yng nghanol y ddinas a’r cyfl e i barcio am 2 awr AM DDIM bob dydd ym Maes Parcio Aml-lawr Dewi Sant. Peidiwch ag anghofi o bod Parcio Parcio a Theithio’n gweithredu trwy’r wythnos yn ystod tymor y Nadolig. Gweler trosodd am fanylion.
Ac yn goron ar y cyfan – sut hoffech chi ennill £1,000 i wario yng Nghanol y Ddinas ar roddion o’ch dewis? I roi cynnig, ewch i www.nadoligabertawe.com.
Gorymdaith y Nadolig 15 Tachwedd 5pm, Neuadd y Ddinas Mae’r Nadolig yn dechrau’n swyddogol yma! Mae’r adloniant yn dechrau o 12 ganol dydd yng nghanol y ddinas. Ymunwch â miloedd o bobl ar gyfer Gorymdaith y Nadolig a Chynnau’r Goleuadau a gwyliwch yr orymdaith o ffl otiau gwych, addurnedig trwy ganol y ddinas.
Taith Loncian Siôn Corn Sefydliad Prydeinig y Galon29 Tachwedd, Amgueddfa Genedlaethol y GlannauMae Taith Loncian Siôn Corn Abertawe i bobl o bob oedran fagu ysbryd y Nadolig! Caiff y rhai sy’n cymryd rhan gerdded, loncian neu redeg yng ngwisg Siôn Corn. Ewch i www.bhf.org.uk/santajog am fwy o fanylion.
Sleeping Beauty16 Rhagfyr – 17 Ionawr, Theatr y Grand, AbertaweBydd cast llawn sêr yn perfformio chwedl y Rhiain Gwsg. Peidiwch â’i golli! I gael gwybodaeth a thocynnau, ffoniwch 01792 475715 neu ewch i www.swanseagrand.co.uk
Cinderella14 Ionawr – 23 Ionawr 2010, Theatr PenyrheolGwyliwch y chwedl hudol o garpiau i gyfoeth, Cinderella, ar lwyfan Theatr Penyrheol. Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Penyrheol, 01792 897039 neu www.abertawe.gov.uk/penyrheoltheatre
Stadiwm Liberty milltir
Afon Tawe
Heol N
ew Cut
Gorsaf Reilffordd
M4 Cyff 45
M4 Cyff 47
M4 Cyff 42 (dwyrain)Ffordd Fabian
Glannau SA1
Porthladd Abertawe
Heol Pentreguinea
Hwylbont
Pont Trafalgar
Canolfan Dylan
Thomas
Parcio Coetsis
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amgueddfa Abertawe
Bae Abertawe
Heol Trawler
Canolfan Ddinesig a Llyfrgell
H e o l Y s t u m l l w y n a r t h
Carchar EM
Pafiliwn Patti
Parc Victoria
Neuadd y Ddinas a Neuadd Brangwyn
Heol Bryn-y-Môr
I’r Mwmbwls,
Gŵyr a’r Brifysgol
Heol San HelenHeol Walter
Theatr y GrandFfordd y Gorllewin
Stryd Mansel
Heol A
lexa
nder
Oriel Gelf Glynn Vivian
Stry
d y
Berll
an
Stry
d Fa
wr
Canolfan SiopaParc Tawe
Ffordd y Brenin
Stryd Rhydychen
Sgwâr y Castell
Marchnad Abertawe
Canolfan Siopa a Gorsaf Fysus
y Cwadrant
Stryd y GwyntStryd Caer
Ffordd y
Dywysoges
Parcio Coetsis
Dinas a Sir Abertawe 2009
Man gollwngi goetsis
Cludiant CyhoeddusMae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn daith 5 munud ar droed o Ganol y Ddinas a cheir cysylltiadau cludiant ardderchog. Yn ystod gwaith ailddatblygu gorsaf fysus y Cwadrant, bydd yr holl wasanaethau bysus a choetsys yn rhedeg o gyfres o safl eoedd bysus dros dro a bydd gwasanaethau gwennol hefyd yn gweithredu llwybr cylchol. I gael gwybodaeth am fysus ewch i www.swanseacitycentre.com/busstation ac am yr holl wybodaeth deithio ewch i www.traveline-cymru.org.uk
Parcio a TheithioSicrhewch fod eich siopa Nadolig yn ddi-ffwdan gyda Gwasanaeth Parcio a Theithio arobryn Abertawe yng Nglandnˆwr, Fforestfach a Ffordd Fabian. Y pris yw £2.20 yn unig y dydd i hyd at 4 o bobl barcio a theithio ar y bws a bydd y cyfl eusterau ar agor saith niwrnod yr wythnos o 15 Tachwedd- 20 Rhagfyr. I gael gwybodaeth lawn ynghylch amserlenni a manylion eraill, ewch i www.abertawe.gov.uk/parkandride
Parcio CeirAr gyfer ymwelwyr â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, rydym yn argymell Maes Parcio Dewi Sant, cyfl euster arhosiad hir, dim ond munud i ffwrdd o’r safl e a di-dâl os ydych yn siopa mewn siopau dethol i gael yr arian yn ôl am eich tocyn. Mae cyfl e hefyd i barcio AM DDIM ym mhob maes parcio’r Cyngor bob dydd Sul.
ShopmobilityMae Canolfan Shopmobility Abertawe, yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, ar gael i unrhyw un sydd â phroblemau symudoledd. Gallwch hurio sgwteri trydanol neu gadeiriau olwyn pwer/â llaw. Am ragor o wybodaeth neu i ofyn i rywun gadw un i chi, ffoniwch (01792) 461785.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Abertawe, tanysgrifi wch ar www.myswansea.info. Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635478. Mae’r holl fanylion yn gywir adeg argraffu. Edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.
Safl eoedd Bws Parcio a Theithio Gwasanaeth 501 - Landore Gwasanaeth 502 - Fabian Way Gwasanaeth 503 - Fforestfach
www.gwleddygaeafaryglannau.com
Recommended