Modiwl 10: Menter

Preview:

DESCRIPTION

Modiwl 10: Menter. Syniadau codi arian/menter. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Modiwl 10: Menter

Syniadau codi arian/menter• Bydd nifer o ysgolion yn cynnal digwyddiadau

codi arian. Maen nhw’n ddelfrydol i ddysgwyr brofi gweithgareddau ‘go iawn’ sy’n cwmpasu’r datganiadau yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).

• Gall y deilliannau dysgu canlynol (mewn teip trwm) gael eu troi’n ddigwyddiad codi arian wedi’i gynllunio’n dda.

Ar Drywydd Dysgu yn y FfLlRh

Os yw’n gymwys i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y Cynllunydd rheoli arian.

Rheoli arian

Mae dysgwyr yn gallu:

Camau A • rhoi darn arian yn gyfnewid am eitem ar ôl gweld eraill yn gwneud hynny mewn siop chwarae rôl (efallai nad oes ganddynt unrhyw syniad o werth y darn arian, ond byddent yn cymryd rhan yn y rhyngweithio cymdeithasol).

Camau B • pwyntio at eitem o’u dewis o blith dwy neu dair eitem mewn siop chwarae rôl yna’n rhoi’r darn(au) arian yn gyfnewid am yr eitem

• canfod darnau arian o gasgliad cyfyngedig sydd yr un peth â’r darnau arian a ddangosir gan oedolyn.

Camau C • rhoi arian yn gyfnewid am eitem mewn siop go iawn pan fydd y darnau arian a’r dewis wedi’u paratoi ymlaen llaw

• didoli darnau arian yn unol ag un nodwedd, e.e. lliw, maint neu siâp.

Deilliannau dysgu FfLlRh

Rheoli arianRheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:

Dosbarth derbyn

• defnyddio darnau arian 1c, 2c, 5c, a 10c i dalu am eitemau.

Blwyddyn 1 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at 20c

• canfod beth yw’r cyfanswm a rhoi newid o 10c.

Blwyddyn 2 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £1

• canfod beth yw’r cyfanswm a rhoi newid o luosrifau 10c.

Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:

Blwyddyn 3 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £2 a chyfrifo’r newid

• trefnu a chymharu eitemau hyd at £10• cofnodi arian a wariwyd a chynilion.

Blwyddyn 4 • defnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid• rhoi eitemau yn eu trefn a’u cymharu hyd at £100• adio a thynnu cyfansymiau llai na £10 gan ddefnyddio’r nodiant

cywir, e.e. £6.85 – £2.76• rheoli arian, cymharu costau rhwng adwerthwyr gwahanol a

phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodedig.

Blwyddyn 5 • cymharu a rhoi eitemau mewn trefn o ran cost, hyd at £1 000• adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio’r nodiant

cywir, e.e. £28.18 + £33.45• cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion

cywir• deall bod cyllidebu’n bwysig.

Blwyddyn 6 • defnyddio’r termau elw a cholled mewn gweithgareddau prynu a gwerthu a gwneud cyfrifiadau syml ar gyfer hyn

• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifon banc

• cymharu prisiau a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:

Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu

• deall y manteision a’r anfanteision sy'n gysylltiedig â chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc

• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â gostyngiadau a chynigion arbennig.

Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau’n mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca

• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.

Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid• deall y risgiau sy'n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a

buddsoddi• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio â

threfnu yswiriant.

Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.

Syniadau Mawr CymruBeth yw Syniadau Mawr Cymru?

Syniadau Mawr Cymru yw ymgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes.

Mae'r ymgyrch yn cael ei reoli gan y Tîm Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru.

Mae'r sleidiau canlynol yn awgrymu sut y gallai'r ymgyrch ddatblygu entrepreneuriaeth gyda dysgwyr yn y sector cynradd ac uwchradd.

I gael rhagor o fanylion ac adnoddau ewch i http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb

Mae’r sleidiau canlynol yn rhannu rhai syniadau codi arian a menter a gafodd eu treialu gan athrawon mewn

ysgolion yng Nghymru.

Syniadau codi arian/menter• Mae'r pennaeth yn rhoi £10/£20/£50 i bob dosbarth yn y gwasanaeth.

Mae pob dosbarth yn cynnal digwyddiad codi arian. Mewn gwasanaeth dilynol maen nhw'n dychwelyd y £10 ynghyd ag unrhyw elw y maen nhw wedi'i wneud.

• 'Tyfu £1' – Mae pob plentyn yn cael £1 ac mae'n rhaid iddyn nhw gael hyd i ffyrdd o'i dyfu, e.e. gwneud a gwerthu eitemau, cynnig gwasanaeth, cronni eu harian i ddechrau busnes gyda dysgwyr eraill.

• Mae'r dysgwyr yn cynnig am swm penodol o arian er mwyn dechrau menter arbennig, e.e. cynnig am ddigon o arian i hurio castell neidio neu brynu'r eitemau sydd eu hangen i redeg busnes golchi ceir. Ar ôl y digwyddiad, maen nhw'n dychwelyd yr arian ynghyd â'r elw.

• Cystadleuaeth i weld pa grŵp/dosbarth all godi'r arian mwyaf.

• Tyfu hadau – mae pob plentyn yn cael pecyn o hadau; allan nhw wneud arian drwy eu tyfu a gwerthu'r cynnyrch?

Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon)

Cynnig gwasanaeth neu gynnal sioe/digwyddiad/cystadleuaeth•Golchi ceir.•Cystadleuaeth chwaraeon a chodi tâl ar ddysgwyr i gystadlu, e.e. tennis, tennis bwrdd, cic o'r smotyn, ras hwyl.•Gwneud gwaith tŷ gartref/yn yr ysgol.•Digwyddiadau noddedig.•Cynnal sioe neu sioe dalent.•Dawns te prynhawn.•Disgo.•Bar ewinedd.•Paentio wynebau.•Diwrnod dillad eich hunan – dysgwyr yn talu i wisgo eu dillad eu hunain.•Cwis.•Ffair/gemau'r ffair, e.e. taflu sbwng at y pennaeth, map trysor.

Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon)

Syniadau gwneud/gwerthu•Gwerthu byrbrydau/smwthis/nwyddau diangen/eitemau Masnach Deg/cacennau/ac ati.•Siop ffrwythau'r ysgol – grwpiau o ddysgwyr yn cynllunio ac yn rhedeg y siop eu hunain am wythnos, e.e. dewis o ffrwythau, cebab ffrwythau, smwthis, salad ffrwythau. Pa grŵp sy'n gwneud yr elw mwyaf?•Arwerthiant/addewidion – cynigion ysgrifenedig ar gyfer eitemau sydd ar werth, y cynnig gorau yn ennill yr eitem.•Llenwi cwpan de/jar jam ag eitemau a'u gwerthu, e.e. blodau, melysion, pennau, goleuadau te.•Eisteddfod – gwerthu cynnyrch Cymreig•Eitemau wedi'u personoli – ffotograffau, tywelion te, mygiau, magnetau, cylch allweddi, calendrau a bagiau.•Cardiau pen-blwydd neu Nadolig, e.e. o waith llaw, cyhoeddedig, wedi'u personoli.•Un bêl-droed yw'r wobr a dylai'r dysgwyr benderfynu sut y gallan nhw wneud yr arian mwyaf ohono, e.e. cic o'r smotyn, raffl, hysbysebu, y tîm lleol yn arwyddo'r bêl a chynnal arwerthiant.•Tyfu pecyn o hadau a gwerthu'r cynnyrch.

Syniadau ‘Gwneud i arian dyfu’ (argymhellwyd gan athrawon)

Syniadau gwneud/gwerthu•Agor ‘siop dros dro’ yn gwerthu eitemau i’r cyhoedd.•Gwneud a gwerthu llyfrau, e.e. hoff ryseitiau athrawon, jôcs, cerddi, straeon.•CD neu DVD o gyngerdd/caneuon ysgol.•Oriel gelf ac arwerthiant.•Gemwaith.•Eitemau brecwast/bore goffi/te prynhawn/barbeciw.•Marchnad/arwerthiant cist car ar iard yr ysgol.•Modelau yn seiliedig ar brosiect Eden.•Hufenau a hylifau/eitemau pampro.•Gardd yr ysgol – tyfu a gwerthu cynnyrch.•Gwneud eitemau i’w gwerthu o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu, e.e. addurniadau Nadolig.

Syniadau ar gyfer defnyddio’r arian a godwyd

• Defnyddio’r arian i ‘wella’r’ ysgol, defnyddio’r syniadau a awgrymwyd gan y dysgwyr, e.e. i brynu offer dosbarth/ysgol, gemau amser chwarae gwlyb, amser chwarae awyr agored/offer chwaraeon, adnoddau TGCh, eitemau ar gyfer gardd yr ysgol.

• Taith dosbarth diwedd tymor/trît/parti/prom.

• Rhoi'r arian i elusen, e.e. offer ar gyfer ysgol efeillio, pwmp dŵr.

• Prynu darn o fforest law/enwi seren.

• Rhannu’r elw – 50% at elusen, 50% i'r dosbarth/ysgol.

Cofnodi, cynllunio ac olrhain yr arian a wariwyd ac a gynilwyd

Syniadau:• Gosod swm targed i’r dysgwyr ei godi, e.e. £200 ar gyfer

offer chwarae awyr agored.

• Gall dysgwyr gynllunio sut i godi’r arian.

• Cofnodi’r arian a gynilwyd/wariwyd neu elw a cholled, e.e. mae’r dysgwyr yn cynllunio eu ffyrdd eu hunain o gofnodi, defnyddio mantolenni, taenlenni.

• Gofyn y cwestiwn i’r dysgwyr neu arddangos y cwestiwn yn y neuadd ‘Faint yn rhagor sy’n rhaid i ni gynilo i gyrraedd y targed?’.

Holiadur

Syniadau:

Gallech chi ofyn i’r dysgwyr gynllunio a chwblhau holiadur cyn y digwyddiad i gael yr wybodaeth ganlynol.

•Beth hoffech chi ei weld/ei wneud yn y digwyddiad?

•Beth fyddech chi’n dewis gwario eich arian arno yn y digwyddiad?

•Faint fyddech chi’n barod i’w dalu?

Cynghorion di-ffael ar gyfer digwyddiadau llwyddiannus

• Hysbysebu'n dda.

• Cymryd archebion ymlaen llaw os oes modd i leihau gwastraff.

• Annog dysgwyr i gymharu prisiau ar gyfer defnyddiau. Maen nhw'n sylweddoli'n fuan drwy ddewis y pris gorau gallan nhw wneud yr elw mwyaf posibl.

• Rhoi cyfle i ddysgwyr gael diwrnod heb wisg ysgol i ddod ag eitemau i'w gwerthu yn y ffair.

• Rhannu dysgwyr Blwyddyn 5/6 yn grwpiau bach i fod yn 'gyfrifwyr/rheolwyr' ar gyfer y dosbarthiadau eraill yn yr ysgol. Mae hyn yn rhoi profiad go iawn iddyn nhw o weithio ar lefel briodol ac mae hefyd yn helpu athrawon dosbarth dysgwyr iau.

• Ymarfer stondin/digwyddiad cyn y diwrnod ei hun drwy chwarae rôl.

Chwarae rôlGall roi cynnig ar stondin/digwyddiad drwy chwarae rôl helpu’r dysgwyr i sylweddoli a datrys heriau posibl. Dylai hyn helpu’r digwyddiad i redeg yn ddiffwdan.

Enghreifftiau:

•Angen prisio a rhoi newid, e.e. os yw’r prisiau yn 25c, bydd angen llawer o 5c i roi newid; os yw’r eitemau yn 99c, bydd angen llawer o 1c; neu benderfynu newid y pris i £1.

•Ydy’r prisiau yn hawdd i’r cwsmeriaid eu darllen?

•Ydych chi am hysbysebu cynigion arbennig?

•Oes angen system giwio?

•Faint o werthwyr/tiliau sydd eu hangen? Ble ddylech chi roi’r tiliau?

•Beth yw pris 2, 3, 4, 5 eitem? Fyddai rhestr o’r rhain yn ddefnyddiol (e.e. gwerthu calendrau am £1.25 yr un)?

•Oes angen bagiau cludo arnoch chi?

•Fyddai archebu eitemau ymlaen llaw yn helpu (e.e. cebab ffrwythau, eitemau wedi’u personoli)?

Cysylltiadau llwyddiannusMae ysgolion wedi cynnal digwyddiadau codi arian llwyddiannus mewn cydweithrediad ag:• Ysgolion Iach (bwyd iach/siop fwyd ffrwythau/digwyddiadau chwaraeon)• Masnach Deg• codi arian ar gyfer ysgol efeillio/plentyn wedi’i fabwysiadu mewn gwlad arall• grŵp menter eu hysgol uwchradd leol• busnesau lleol, e.e. siopau lleol ar gyfer nwyddau, argraffwyr/cyhoeddwyr ar gyfer hysbysebu neu argraffu cardiau/calendrau• cystadlaethau/mentrau menter ieuenctid• diwrnod cydweithredu Ewropeaidd.

Gwefannau ac adnoddau• Syniadau Mawr Cymru

Ymgyrch i geisio annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuriaeth a helpu'r rhai a hoffai ddechrau busnes.http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/big_ideas_wales.aspx?lang=cy-gb

• Enterprise troopershttp://ycriwmentrus.com/home-2/

• Adnoddau Dynamo http://ms.fs4b.wales.gov.uk/sub_sites/yes/content/dynamo/curriculum_materials/dynamo_1.aspx?lang=cy-gb

• pfeg Amryw o adnoddau menter ac astudiaethau achos yn addas ar gyfer ymarferwyr cynradd ac uwchradd.www.pfeg.org Gweler ‘Enterprise’, Learning about money in the primary classroom.

• Trade Your Way www.bbc.co.uk/schools/teachers/tradeyourway

• Values, Money and Me – Entrepreneur Challengewww.valuesmoneyandme.co.uk/calculators/challenge.html

Recommended