View
237
Download
7
Category
Preview:
DESCRIPTION
Â
Citation preview
www.bangor.ac.uk/sustainability
Faint ohonoch sydd
wedi sylwi fod ‘Y
Labordy
Cynaliadwyedd’ yn
amlygu ei hun ar draws y Brifsygol? Wel, dyma
gyflwyniad.
Yng nghynllun Strategol 2015-2020 y Brifysgol
mae ‘Cynaliadwyedd’ yn cael ei nodi fel un o’r
‘galluogwyr strategol’. Ein nod yw dod yn
'Brifysgol Gynaliadwy' ym mhob agwedd ar
hynny. Mae ein huchelgais yn cynnwys nid yn
unig isadeiledd a gweithrediad safleoedd y
Brifysgol, ond sut mae'r Brifysgol yn cynllunio ar
gyfer twf, yn ogystal â'n rôl yng Nghymru a thu
hwnt.
Mae SBBS, oedd yn rhan o’r hen Sefydliad
Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol wedi bod yn
gweithio tu ôl i’r llenni ers blynyddoedd ond
bellach, mewn ymateb i’r cynllun Strategol mae’r
Brifysgol wedi ail-enwi’r uned yn ‘Labordy
Cynaliadwyedd’ fydd yn gweithredu fel
canolbwynt corfforaethol amlwg i arwain ar
ddatblygu cynaliadwy.
Yn y misoedd a’r blynyddoedd sy’n dod fe
fyddwn yn cydweithio gyda phob un ohonoch er
mwyni:
cyd-ddatblygu cynllun gweithredu ar
gynaliadwyedd
sefydlu cynaliadwyedd yn gadarn yn ein holl
swyddogaethau i integreiddio pob agwedd
ar gynaliadwyedd yn ein gwaith bob dydd
cynnal rhaglen o adolygiadau
cynaliadwyedd ar draws yr holl Golegau ac
Adrannau Gwasanaeth
datblygu fframwaith a gydnabyddir yn
fyd-eang i adrodd ar faterion cynaliadwy
sicrhau negeseuon clir, cryno a phriodol i'w
cynulleidfa ar gynaliadwyedd
ymwneud â busnesau a sefydliadau eraill ar
ddatblygu busnes cynaliadwy a defnyddio
adnoddau'n effeithlon
lleihau ôl-troed carbon y Brifysgol
Bydd y gweithgareddau, y gwefannau ag ati yn
parhau gyda’r brandio newydd yn digwydd fesul
dipyn.
O ran dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr mae’r
Brifysgol wedi ymrwymo i ‘Sicrhau bod
datblygiad ein cwricwlwm yn adlewyrchu ein
hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a
dinasyddiaeth fyd-eang.
O ran ymchwil mae’n amcan i ‘feithrin diwylliant
sy'n gwerthfawrogi a hyrwyddo cynaliadwyedd
ochr yn ochr â gweithgareddau busnes a
menter’. Un ffordd gyffrous o wneud hyn fydd
‘Cryfhau profiad Myfyrwyr, Staff a'r Gymuned o
gynaliadwyedd yn ei holl gyfanrwydd drwy
Ymchwil Weithredol - 'dysgu trwy wneud'.
Yn y cyfamser rydym yn chwilio am bobl frwd-
frydig sy’n awyddus i fod yn rhan o’r Labordy – o
bob cwr o’r Brifysgol beth bynnag yw’ch cefndir
academaidd neu adran gefnogi.
Cofiwch gysylltu! Efallai gallwn gynnwys eich
hanes chi yn y rhifyn nesaf.
Newyddlen
Cynaliadwyedd@Bangor
Tymor yr Haf 2015
LAB Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor
Cytundeb prifysgolion dros ddatblygu cynaliadwy cyfandiroedd
Teithiodd arbenigwyr o Brifysgol Bangor draw i Brifysgol Makerere, Kampala, Uganda (MUK) yn Chwefror 14-19 i lofnodi cytundeb pum mlynedd i gydweithio ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd ar gyfer rhoi datblygu cynaliadwy ar waith. Bydd y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth (MODd) rhwng Prifysgolion Bangor a Makerere yn llwyfan ar gyfer cydweithredu i ddenu cyllid gan raglenni megis y Rhaglen Cyd-Ymchwil rhwng Affrica ac Ewrop ar yr Agenda Arloesi Rheoli Gwastraff. Bydd hyn yn ffordd o hybu ymchwil ac arloesi cydweithredol. Y gobaith yw y bydd bartneriaeth yn ffordd o ddenu myfyrwyr o Uganda ac o ddwyrain Affrica i ddewis Bangor wrth ystyried astudio yn y Deyrnas Unedig. Mae dwy thema posib ar gyfer cydweithio: i) Mae defnyddio adnoddau’n fwy effeithiol o bwys mawr iddyn nhw fel ninnau ac mae Prifysgol Makerere wedi sefydlu rhwydwaith arloesol ar gyfer busnesau ar ffurf Rhaglen ‘Glwstwr’ sy’n rhan o Fforymau Cystadleurwydd Pan-Affrica a Dwyrain yr Affrica. Y gobaith yw y gallwn rannu’n harbenigedd gyda’r clystyrau yma. ii) Mae Prifysgol Makerere yn bwriadu efelychu Prifysgol Bangor drwy ymgorffori cynaliadwyedd yn ei holl waith, dysgu, addysgu, ymchwil yn ogystal â datblygu atebion ymarferol i fusnesau yn Uganda a byddwn yn trafod sut i gydweithio ar yr elfen hon hefyd Dywedodd arweinydd tîm yr ymwelwyr, Dr Einir Young, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, "Mae cynaliadwyedd a'r amgylchedd yn symud i frig yr agenda rhyngwladol. Gall ein harbenigedd fel Prifysgol fod o fudd i fusnesau a sefydliadau i’w helpu i fabwysiadu dulliau cynaliadwy gwahanol fydd yn arwain at leihau costau, cynyddu cynhyrchiant a’u herio i gymryd eu cyfrifoldeb
amgylcheddol a cymdeithasol o ddifri." Ychwanegodd Dr Young, "O ganlyniad i'n hymroddiad cyson i geisio bod yn fwy cynaliadwy mae Prifysgol Bangor yn awr ymhlith y 10% uchaf o Brifysgolion gwyrddaf yn y byd mewn cynghrair ryngwladol o sefydliadau sy'n llesol i'r amgylchedd. "Rydym yn datblygu enw da’n rhyngwladol fel arbenigwyr mewn datblygu cynaliadwy, nid yn unig ar gyfer corfforaethau mawr a chyrff cyhoeddus ond hefyd ar gyfer busnesau bach lle mae arbed pob ceiniog yng ngheg y sach yn hanfodol. Gobeithio y bydd y berthynas â Makerere yn ffynnu ac y bydd llawer o fyfyrwyr o Uganda sy'n teithio i'r DU ar gyfer astudio ac ymchwil uwch yn cryfhau’n perthynas drwy ddewis dod i Fangor. " Daeth aelodau’r ddirprwyaeth aeth ar y daith i Uganda i osod y sylfeini o SBBS a’r Ganolfan Bio-Gyfansoddion. Mae SBBS wedi arbenigo ar ymgorffori cynaliadwyedd o fewn sefydliadau ac wedi datblygu i fod yn ganolbwynt corfforaethol yr agenda cynaliadwyedd o fewn Prifysgol Bangor – Y Labordy Cynaliadwyedd. Mae Bio-Gyfansoddion yn defnyddio bioddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff a phlanhigion, i lunio bio-gynnyrch ar gyfer diwydiant fel ffordd i leihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Dywedodd yr Athro John Ddumba Ssentamu, Is-ganghellor Prifysgol Makerere, "Bydd cydweithio â Phrifysgol Bangor yn ein galluogi i gynnig i'n myfyrwyr a’n partneriaid busnes fynediad at ei harbenigedd addysgol ac ymarferol. Maent yn bartneriaid delfrydol ar ein cyfer, ac ymhlith prifysgolion gorau’r byd ar gymhwyso atebion effeithiol i faterion fel effeithlonrwydd ynni, rheoli gwastraff, ailgylchu cynaliadwy ac ailddefnyddio deunyddiau."
Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Ym Mis Mawrth cafodd siop wag yng Nghanolfan
Siopa Deiniol fywyd newydd dros dro wrth i
fyfyrwyr fentro agor ’Siop Bwydydd Hyll’. Pwrpas y
siop oedd gwerthu bwyd sy’n ‘rhy hyll i’w werthu’
yn ôl archfarchnadoedd. Y newydd da yw y bydd
y siop yn ail agor ym mis Medi oherwydd y galw
poblogaidd.
Yn ôl y Brifysgol roedd y Siop Bwydydd Hyll fu’n
gwerthu ffrwythau a llysiau o bob siap wedi bod
yn llwyddiant mawr ac wedi cael "ymateb
cadarnhaol” iawn gan y gymuned. Meddai
llefarydd ar ran y Brifysgol: "Mae'r siop wedi dod â
bywyd newydd i Ganolfan Siopa Deiniol Bangor,
yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau
menter a chyflogadwyedd fydd yn hanfodol ac
amhrisiadwy iddynt ar ôl gadael y coleg ag ymuno
â byd gwaith.
Bu’r ymateb gan gwsmeriaid y siop yn gadarnhaol
iawn ac mae hyn wedi arwain at gynlluniau i’r siop
ail-agor ei drysau yn Medi 2015. Mae’r myfyrwyr
yn edrych ymlaen at ddatblygu'r brand Bwydydd
Hyll hyd yn oed ymhellach. "
Gwerthwyd ffrwythau a llysiau anarferol yr olwg a
di siâp fyddai ddim yn edrych yn hardd wedi eu
pentyrru ar silffoedd yr archfarchnadoedd a
siopau mawrion. Heblaw am hynny, nid oedd dim
byd o’i le ar y bwyd oedd yn hollol iawn i’w bwyta.
Roedd y siop yn cynnig cyfle i gwsmeriaid i wneud
defnydd o’r bwydydd ‘hyll’ fyddai fel arall wedi
cael eu danfon i’r dymp. Ac fel bonws i’r cwsmer
roeddent yn gallu prynu’r bwyd yn rhatach na’r
bwyd ‘hardd’ sydd ar werth mewn siopau
confensiynol. Cafwyd danteithion diddorol megis
Cawl mewn Sach a smwddis ffres, yn ogystal â
ffrwythau a llysiau heb eu prosesu.
Dywedodd Gwyn Hughes, Clerc y Dref, Cyngor
Dinas Bangor “gwnaeth y siop helpu sicrhau bod
Bangor yn cynnig profiad gwahanol i'r hyn y gall
siopwyr ei gael mewn mannau eraill.
Meddai Dan Taylor, myfyriwr o Ysgol Seicoleg y
Brifysgol a oedd yn rheoli'r siop y : "Mae'r siop
bwydydd hyll wedi fy nysgu am y potensial i ddod
yn entrepreneur yn y dyfodol.
"Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac yn
wych i allu bod yn rhan o fenter sydd wedi taro
deuddeg gyda’r gymuned."
Cydlynwyd y fenter gan dîm Byddwch Fentrus y
brifysgol, ac maent hwy yn cydnabod yn
ddiolchgar y cymorth a gafwyd gan Gyngor Dinas
Bangor fu’n gweithio gyda'r myfyrwyr ac i
Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol.
Bangor yn y 10% uchaf o Brifysgolion Gwyrddaf y Byd Mae Ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd unwaith eto wedi ennill ei safle uchel mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy’n gyfeillion i’r amgylchedd. Cafodd y gynghrair ei lansio gyntaf gan Brifysgol Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ar draws y byd. Bob blwyddyn mae nifer y Prifysgolion sy’n cymryd rhan yn cynyddu; yn y gynghrair ar hyn o bryd mai 360 o Brifysgolion o 62 o wledydd yn cymryd rhan a Bangor cyrraedd safle 28. “Rwy’n falch iawn bod Bangor yn parhau i gynnal ei safle fel arweinydd cynaliadwyedd o fewn y sector addysg uwch ryngwladol. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a chyflawni gwelliant amgylcheddol parhaus,” meddai’r Is-Ganghellor yr Athro John G Hughes. Ychwanegodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr Adran Ystadau a Chyfleusterau: “Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol, nid yn yn lleol, ond yn fyd-eang, fel y dangosir gan ein llwyddiant diweddar gyda ein Safon Amgylcheddol ISO14001 sy’n ein cydnabod yn rhyngwladol. Rydym hefyd wedi cynnal ardystiad amgylcheddol y Ddraig Werdd Cymru ers 2009 “. Ymatebodd Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd y Brifysgol, Dr Einir Young i’r cyhoeddiad gan ddweud: “Mae ein hymdrechion i yrru gwelliannau amgylcheddol defnyddio adnoddau yn effeithiol ar draws y sefydliad yn dwyn ffrwyth. Rydym yn cydnabod mai dim megis dechrau’r daith yw hyn ac mai ond un agwedd ar yr agenda datblygu cynaliadwy yw’r amgylchedd. Rydym, fodd bynnag, yn canolbwyntio ein hymdrechion ar wreiddio arferion cynaliadwy ym mhopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein haddysgu a’n cadwyn gyflenwi”.
Melin Drafod Cynaliadwyedd Cawsom flwyddyn lwyddiannus arall yn y gyfres o
Felinau Trafod Cynaliadwyedd. Pwrpas y sesiynau yw dod
â chynaliadwyedd yn fyw i bob rhan o’r brifysgol drwy hybu
syniadau a thrafodaeth o gwmpas
Cynaliadwyedd@Bangor.
Cafwyd trafodaethau amrywiol a diddorol ar bynciau mor
amrywiol â newid ymddygiad a chynaliadwyedd,
ymwybyddiaeth ofalgar, caffael cynaliadwy, prynu ‘gwyrdd’ a phrynu’n lleol – yn enwedig bwyd lleol,
lleihau effaith yr amgylcheddol ar becynnau bwyd, Partneriaeth Caru Bangor a llawer mwy.
Os oes gennych unrhyw syniadau ynghylch cynaliadwyedd beth am ddod â hwy draw i un o'r
sesiynau Melin Drafod misol, neu os hoffech chi arwain sesiwn eich hun cysylltwch â Mair drwy
e-bost sustainability@bangor.ac.uk
Prifysgol yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2015
Adroddiad Rheoli Amgylcheddol Blynyddol Prifysgol Bangor
Mae adroddiad amgylcheddol eleni (sy’n adrodd ar 2013/14) newydd ei gyhoeddi.
Bu 2014 yn flwyddyn o bwys ar y daith tuag at arwain y sector ym maes cynaliadwyedd. Cafwyd
llwyddiant wrth dderbyn achrediad rhyngwladol ISO14001:2004, sef y safon a gydnabyddir yn
fyd-eang ar gyfer Systemau Rheoli Amgylcheddol. Mae hyn yn gam ymlaen ac yn adeiladu ar y
llwyddiant a gafwyd gydag ardystiad amgylcheddol "Y Ddraig Werdd" Cymru sydd gennym ers 2009.
Ar ben hyn roeddem ymhlith y 10% uchaf o dros 300 o brifysgolion drwy'r byd am ein hymrwymiad i
gynnal yr amgylchedd.
Mae llwyddiannau Bangor yn dangos yn eglur i'n myfyrwyr, staff a'n budd-ddeiliaid yn genedlaethol a
thrwy'r byd ein bod fel prifysgol yn rhoi’r pwys mwyaf ar ein cyfrifoldebau amgylcheddol.
Darllenwch yr Adroddiad Rheoli Amgylcheddol
Fe wnaeth Prifysgol Bangor wahodd staff, myfyrwyr a’r gymuned leol i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2015 yn mis Chwefror. Eleni, fe wnaeth y Brifysgol a Grŵp Masnach Deg Cymunedol Bangor ddod at ei gilydd i Gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn ystod y bythefnos i atgoffa pawb o'r gwahaniaeth dramatig a’r effaith gadarnhaol y gall mae Masnach Deg ei gael o gwmpas y byd. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus e.e. Rygbi Masnach Deg, Ffair Masnach Deg; cystadleuaeth pobi, cwis a noson ffilm fawredd-og Masnach Deg. Cafodd rhai nwyddau Masnach Deg eu gwerthu yng Ngorymdaith a gwasanaeth Gŵyl Dewi Bangor yn y Gadeirlan ar y 1af o Fawrth. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo
Masnach Deg, mae gennym statws Masnach Deg a Pholisi Masnach Deg sy'n sicrhau bod nwyddau Masnach Deg ar gael i'w prynu yn holl siopau ac ardaloedd arlwyo’r campws ac yn annog ehangu’r ddarpariaeth o gynhyrchion Masnach Deg lle mae’n bosib. Mae bod yn Brifysgol Masnach Deg a hyrwyddo Masnach Deg yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i gael ein hadnabod fel y Brifysgol Gynaliadwy. Mae prynu Masnach Deg yn un o’r dewisiadau hawdd i unigolion wneud. Mae’n gyrru neges bwysig i fusnesau nad ydym yn fodlon ddioddef annhegwch; nad ydym eisiau i bobol na’r amgylchedd cael eu trin yn wael dim ond er mwyn i ni allu prynu nwyddau rhad. Roedd yn wych gweld cynifer yn ymuno â’r Brifysgol yn ystod y bythefnos wrth ddewis masnach deg ble bynnag y bo modd er lles gwledydd sy'n datblygu ar draws y byd.
Prifysgol Bangor yn dathlu Awr Ddaear
Llun: Ishaq Madan
Bob blwyddyn mae WWF yn trefnu digwyddiad trawiadol a symbolaidd i ganolbwyntio meddyliau dynoliaeth ar y blaned a’r angen i’w pharchu a’i gwarchod. Eleni eto fe wnaeth Prifysgol Bangor gyfrannu at ddyfodol disgleiriach drwy gefnogi Awr Ddaear WWF 2015. Ar 28 Mawrth, am 8.30yh, diffoddwyd goleuadau Prifysgol Bangor a miloedd o adeiladau a strwythurau eiconig eraill ledled y byd, o Bont Harbwr Sydney i Times Square yn Efrog Newydd, fel arwydd o gefnogaeth. Mae tywyllwch yr Awr Ddaear wedi tyfu’n ddigwyddiad byd-eang, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn ymuno i dywyllu’r blaned bob blwyddyn. Yn 2014 crëwyd record pan ymunodd 162 o wledydd a 7000 o drefi a dinasoedd yn y dathliad mwyaf yn y byd. Y llynedd yng Nghymru, amcangyfrifir bod mwy na 400,000 o bobl wedi cefnogi’r ymgyrch a chyfrannu at neges unedig o gefnogaeth. Yn ogystal ag adeilad y Coleg ar y Bryn diffoddwyd
y golau mewn adeiladau amlwg ar draws Cymru yn cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd, Castell Caernarfon, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a Phont Gludo Casnewydd. Roeddent ymysg 200 o adeiladau a strwythurau mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig a dywyllwyd, fel Big Ben a Chastell Caeredin. Cofrestrodd 235 o ysgolion yng Nghymru â’r ymgyrch a dangosodd Aelodau Cynulliad Cymru o bob plaid eu cefnogaeth. I ddathlu Awr Ddaear 2015, diffoddwyd y llifoleuadau ar Brif Adeilad y Brifysgol am 8.30yh ar 28 Mawrth am yr awr, ac anogwyd ein staff a myfyrwyr i ymuno yn eu ffyrdd eu hunain. “Roeddem yn falch i gymryd rhan yn yr Awr Ddaear sy’n ddigwyddiad mor fawr ag sy’n ysbrydoli cymaint. Gall pawb wneud gwahaniaeth i helpu i warchod ein planed ac mae gennym ni i gyd ran allweddol i’w chwarae,” meddai Ricky Carter, Rheolwr yr Amgylchedd Prifysgol Bangor.
Teithio’r Byd
Mae'r Brifysgol yn rhan o’r her "Teithio’r Byd" unwaith eto lle mae'r pellter a
deithiwyd ar y cyd gan staff y Brifysgol fwy neu lai yn mynd â ni ar draws y
byd. Ddwy flynedd yn ôl mewn cystadleuaeth debyg fe wnaethom lwyddo i
deithio dros 67,000 o filltiroedd mewn 90 diwrnod.
Unwaith eto, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn rhedeg y Sialens ac yr
ydym yn cael cystadleuaeth gyfeillgar yn erbyn eu staff i weld pa sefydliad
gall fynd y pellter mwyaf yn ystod y 60 diwrnod.
Wythnos Byw’n Iach Bangor 2015
Y Rhoi Mawr 2015
Mae'r Rhoi Mawr yn brosiect gwirfoddoli sy’n cael ei redeg yn flynyddol gan Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor. Yn ystod y cyfnod hwn mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda thrigolion y neuaddau prifysgol i’w perswadio i roi’r eitemau diangen fydd ddim yn cael mynd adre gyda nhw, yn hytrach na’u taflu. Mae blychau casglu glas yn cael eu gosod ym mhob neuadd a chyfres o gasgliadau rheolaidd yn cael eu trefnu dros gyfnod o fis wrth i fyfyrwyr symud allan. Bob blwyddyn, y nod yw dargyfeirio cymaint o wastraff ag sy'n bosibl o safleoedd tirlenwi ac mae’r myfyrwyr yn gweithio trwy gydol y flwyddyn i nodi cartrefi newydd ar gyfer y miloedd o eitemau a fydd yn cael ei rhoi. Dywedodd llefarydd ar ran Y Rhoi Mawr "Yn amlwg, prif nod y prosiect yw lleihau’r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Heb gael tîm o bobl i gasglu ac yna didoli'r eitemau, ni fyddai'n bosibl ail gyfeirio ac ailgylchu’r gwastraff hwn. Mae rhoi eitemau i elusennau eraill yn yr ardal yn beth hynod bositif am ei fod yn cynnig help llaw go iawn i'r sefydliadau hyn a'r rhai sy'n el-wa o'u gwasanaethau." Mae’r prosiect ymlaen rhwng 15 Mai a 5 Mehefin
Cynhaliodd Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr
Bangor Wythnos Byw'n Iach lwyddiannus yn ddiweddar
gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff i ddysgu am
gynnal ffordd iach o fyw.
Cafodd nifer o sesiynau eu cynnal drwy’r wythnos a
rheini’n amrywio o sesiwn dysgu symudiadau hunanamddiffyn sylfaenol, i sesiynau cynnal a
chadw Dr Bike, sesiwn Tai-Chi a hyd yn oed rhai sesiynau cael blas ar rwyfo.
Y Ffair Byw'n Iach oedd uchafbwynt yr wythnos lle cafwyd dros ugain o stondinau yn cynrychioli
diddordebau staff a myfyrwyr yn ogystal ag asiantaethau a chwmnïau allanol fel Lidl, Coppafeel,
Camu i’r Copa, Ymddiriedolaeth Iau Brydeinig, Siop Iechyd Dimensions, Motiv8 a'r Gwasanaeth
Rhoi Gwaed y GIG. Daeth Sustrans a’u BEIC SMWDDI i’r digwyddiad ac roedd eu smwddis am
ddim yn boblogaidd iawn ar draws y campws.
Strategaeth Ailgylchu Neuaddau Myfyrwyr
Mae Strategaeth Ailgylchu Neuaddau Myfyrwyr yn brosiect cydweithredol rhwng intern a
benodwyd, yr Adran Neuaddau a SBBS. Dechreuodd y prosiect yn gynharach eleni yng nghanol
mis Ebrill a bydd yn para am gyfnod o 10 wythnos.
Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn monitro ac yn dadansoddi cynnwys y gwastraff, gan edrych ar faint o
wastraff bwyd a deunyddiau sych allai gael ei ailgylchu yn neuaddau’r myfyrwyr. Hefyd mae’r
lefel o ddefnydd ddylai gael ei ailgylchu sy'n dal i wneud eu ffordd i mewn i'r biniau sbwriel yn
cael ei asesu. Mae'r gwaith sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd am roi'r data sylfaenol sydd ei
angen i allu datblygu strategaeth ailgylchu ac ymgyrch effeithiol i gyfleu’r strategaeth hon i fyfyr-
wyr.
Hyd yn hyn, mae’r tîm wedi mesur a dadansoddi gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchadwy sych
mewn 10 o fflatiau mewn gwahanol neuaddau myfyrwyr am 5 wythnos, tra hefyd yn
cynnal archwiliad gwastraff mewn dau o’r fflatiau sy’n cael eu monitro. Mae’r tîm felly hanner
ffordd drwy’r astudiaeth, ac yn edrych ymlaen at rannu'r canlyniadau yn y cylchlythyr nesaf.
Mae Neuadd Cefn y Coed wedi ennill y gystadleuaeth Myfyrwyr yn Diffodd eleni, nhw sydd wedi arbed y mwyaf o ynni yn eu preswylfa ac wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ar y dudalen facebook. Fel dathliad cafodd myfyrwyr fwynhau gwobr o Barti Pizza yn Bar Uno am eu hymdrechion. Bu’n ymgyrch dda iawn ym Mangor gyda myfyrwyr yn ennill hufen iâ Ben & Jerry, cardiau NUS extra yn ogystal â thaleb-au BarUno ac hefyd arbed llwyth o ynni! Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y Llysgen-hadon Myfyrwyr yn Diffodd na’r a'r myfyrwyr gymerodd ran!
Myfyrwyr yn Diffodd
Ar benwythnos Gŵyl y Banc 24 Mai, daeth
trigolion lleol a phlant at ei gilydd i gael
diwrnod o hwyl yn clirio a dysgu am eu
hamgylchedd lleol yn Llanberis a'r cyfle i
gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau
anturus yn y prynhawn.
Llwyddodd y chwe deg wyth o bobl ddaeth i’r
digwyddiad Envirotrek cyntaf tymor 2015 i
gasglu 450 kgs o sbwriel a gwastraff arall o
gwmpas Llanberis!
Partneriaid lleol oedd: Padarn Adventures,
Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff,
Cyngor Gwynedd Council, Rhwydwaith Wise,
RAW Adventures, 'Calon Antur', Awyr Agored
Cymru gwesty’r Heights.
Efallai eich bod wedi sylwi ar olau pinc o do yr Adeilad Coffa yn ddiweddar. Ymhell o fod yn lleoliad amgen ar gyfer disgos myfyrwyr, y mae mewn gwirionedd lawr i'r system eco-gyfeillgar garddwriaethol o oleuadau LED newydd sydd wedi eu gosod yn y 3 ty gwydr ar yr adeilad! Gordon Turner, Uwch Dechnegydd CNS, daeth fyny gyda’r syniad, a’i gyflwyno i Grŵp Tasg Cynaladwyedd y Brifysgol. O'r fan honno aeth y cynnig ei i'r Grŵp Rheoli Ystadau Ynni, sydd wedi rhoi’r cynllun ar waith fel rhan o'u rhaglen flynyddol 'Buddsoddi i Arbed'. Eglura Gordon, “Roedd y system oleuo blaenorol yn aneffeithlon ac yn annibynadwy, gan gostio tua £25 y dydd i’r Brifysgol mewn costau trydan a chynnal a chadw. Mae'r goleuadau Phytolux LED newydd ynni effeithlon yn detholiad darparu Optimwm o donfeddi ar gyfer ffotosynthesis (felly y glow pinc) fydd bod bron yn hanneru’r costau hyn. Bydd y goleadau yn talu am eu hunain dros gyfnod o 3 blynedd, yn ogystal â lleihau ein ôl troed Carbon o hyd at 20 tunnell. " Dywedodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol; "Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffeithiau
amgylcheddol yn ogystal â ein costau ynni, ac mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r ffordd yr ydym yn cyflawni hyn. Mae cynllun Gordon bellach wedi cael ei ymestyn i un o dai gwydr Henfaes, a bydd y gosodiadau yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y targedau ynni a charbon a nodir yn ein System Rheoli'r Amgylcheddol". Os oes gennych unrhyw syniadau "Buddsoddi i Arbed" fel Gordon, ac yn gallu dangos cyfnod ad-dalu o 5 mlynedd neu lai, beth am ddod â nhw draw i un o'r sesiynau Melin Drafod Cynaliadwyedd misol, neu eu hanfon at Ricky ar Environment@bangor.ac.uk
Glanhau Gogledd Cymru Envirotrek, Llanberis
Tŷ Gwydr Bangor yn y Pinc
Caru Bangor Casáu Gwastraff
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor a Cyngor
Gwynedd yn lansio ymgyrch Caru Bangor,
Casáu Gwastraff. Ar ddydd Sadwrn 6
Mehefin, a dydd Gwener 19 o Fehefin bydd y
strydoedd hyn yn cael casgliadau
ychwanegol swmpus i gadw Bangor yn
daclus gan ofyn i fyfyrwyr roi eu sbwriel
ychwanegol allan ar y diwrnodau dynodedig
yma wrth glirio allan o'u llety.
Bydd y partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i
fynd i'r afael â'r problem flynyddol o wastraff
ar ddiwedd tymor gyda sbwriel sarnu ar y
strydoedd a mannau cyhoeddus eraill. Ar y
dyddiau hyn, yr oll mae angen i fyfyrwyr ei
wneud yw rhoi eu gwastraff cartref ac
ailgylchu allan fel y byddent fel arfer, gan
gynnwys unrhyw eitemau swmpus.
Gallwch gael diweddariadau a mwy o
wybodaeth am yr ymgyrch drwy ymuno a'r
digwyddiad Facebook a thrwy fynd ar Hwb
Caru Bangor.
Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr ennill raffl. Trwy
gymryd llun ochr yn ochr â gwastraff ar y
stryd, a'r llun mwyaf doniol fydd yn ennill.
Trydarwch bangorstudents neu postio’r llun
ar dudalen y digwyddiadau Caru Bangor
Casáu Gwastraff. Bydd y tri llun gorau yn
ennill gwerth £50, £30 neu £20 Tocyn Anrheg
Amazon.
Helpwch i wneud Bangor yn daclus!
Sgriniad Ffilm Cowspiracy: Y Gyfrinach i Gynaliadwyedd Ym mis Mawrth helpodd y tîm Cynaliadwyedd i Drefnu sgriniad llwyddiannus o’r ffilm 'COWSIPRACY' ar gyfer y Grŵp lleol Cyfeillion y Ddaear, a'r cyhoedd. Rhaglen ddogfen amgylcheddol sy'n torri tir newydd sy'n dilyn y gwneuthurwr ffilmiau dewr Kip Andersen wrth iddo ddatgelu'r diwydiant mwyaf dinistriol sy'n wynebu'r blaned heddiw - ac ymchwilio pam fod sefydliadau amgylcheddol mwyaf blaenllaw'r byd yn rhy ofnus i siarad am y peth.
Mae hon yn rhaglen ddogfen syfrdanol ac eto doniol sy'n dangos yr effaith amgylcheddol hollol ddinistriol mae ffermio ffatri ar raddfa fawr yn ei gael ar ein planed, ac yn cynnig llwybr i gynaladwyedd byd-eang ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu.
Mae'r #Ecoamgueddfa (Eco-amgueddfa Llŷn) yn ymgyrch marchnata digidol ar y cyd rhwng saith safle
treftadaeth ym Mhen Llŷn. Mae'r #Ecoamgueddfa yn defnyddio llwyfannau digidol i hyrwyddo
treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yr ardal unigryw i gynulleidfaoedd lleol a ledled y byd. Y
weledigaeth yw gweld cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol yn yr ardal, gan arwain ddiwydiant
twristiaeth cynaliadwy drwy y flwyddyn, a fydd yn gweld manteision economaidd, amgylcheddol a
chymdeithasol.
Mae'r ŵyl yn ddathliad o lwyddiant yr #Ecoamgueddfa. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ym
mhob safle yn ystod yr wythnos o 6ed Mehefin hyd y 14eg. Digon o hwyl a digwyddiadau cyffrous i'r
teulu cyfan.
Dyma Lyfryn Digwyddiadau’r Wŷl #Ecoamgueddfa
Gair gan y Cyfarwyddwr:
“Hed amser meddi, na; erys amser, dyn a” Dyna’r geiriau ar y
cloc haul yng nghwad y coleg ac mae eleni wedi bod yn flwydd-
yn arall sydd wedi ‘hedfan’ heibio gyda digonedd o weithgaredd-
au sydd wedi cyfrannu at ein dyheadau o gael ein hadnabod fel
Prifysgol gynaliadwy.
Dau bwnc sydd dan sylw gen i yn y rhifyn hwn – gwleidyddiaeth
a lles, neu llesiant.
Gwleidyddiaeth: I ddechrau rhaid llongyfarch Mair
Rowlands yn ei rôl fel Cynghorydd Sir Gwynedd. Ers Mis
Tachwedd mae’n aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ac yn
gyfrifol am faes hamdden, plant a phobl ifanc gan gynnwys
maes iechyd plant a phobl ifanc yn ogystal. Ymysg ei llwyddiannau mae cydweithio i sefydlu
Menter Iaith Bangor a ‘Park Run’ cyntaf Gogledd Cymru. Cafodd ei henwebu fel ‘Cyngorydd
Ifanc y Flwyddyn’ a chyraedd y rhestr fer mewn seremoni wobrwyo ym Mis Mawrth eleni.
Rydym i gyd yn falch iawn ohoni.
Mae cymryd rhan yn y drefn ddemocrataidd yn holl bwysig. Rydym newydd gael etholiad
cyffredinol ar gyfer San Steffan; fe fydd etholiadau Cymru ar gyfer y Senedd yng Nghaerdydd
a’r Cyngor Sir fis Mai nesaf ac etholiad ar berthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop rhywbryd
rhwng nawr a diwedd 2017. Hoffwn eich annog i ddilyn arweiniad Mair ac i gymryd
gwleidyddiaeth o ddifri.
Llesiant (gair anghyfarwydd a newydd i lawer)
Ar 29 Ebrill eleni daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gyfraith. Mae’n
ddeddf arloesol sy’n rhoi lle canolog i ‘lesiant’ gyda’r nod o sicrhau na fydd penderfyniadau
fyddwn ni yn eu gwneud heddiw yn cael effaith negyddol ar bobl yn y dyfodol – ein plant a
phlant ein plant. Oes ots? Mewn sesiwn yn ddiweddar roedd un neu ddau/dwy o’r farn fod y
pwnc yn ‘ddiflas’ ac ‘i hen bobl’. Beth yw eich barn chi?
Fe gawsom sesiwn ar Y Gymru a garem/ y Brifysgol a garem’ llynedd ac rydym yn bwriadu
cynnal sesiwn neu ddwy eto i drafod mwy ar beth sydd yn bwysig go iawn. Felly gobeithio y
gallwch ymuno â ni
Gobeithio y gallwn herio pob plaid wleidyddol yn y misoedd
sydd i ddod i rannu eu gweledigaeth hwy ar sut i wireddu’r dy-
headau sydd yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015.
Cynaliadwyedd Prifysgol
Bangor University Sustainability
@planedPBUplanet
www.bangor.ac.uk/sustainability
Recommended