18
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 365 365 365 365 365 Chwefror 2012 Chwefror 2012 Chwefror 2012 Chwefror 2012 Chwefror 2012 40 40 40 40 40c Ac awel front y Gaeaf - yn herio Ac awel front y Gaeaf - yn herio Ac awel front y Gaeaf - yn herio Ac awel front y Gaeaf - yn herio Ac awel front y Gaeaf - yn herio dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, awn yn ôl a chofiwn Haf awn yn ôl a chofiwn Haf awn yn ôl a chofiwn Haf awn yn ôl a chofiwn Haf awn yn ôl a chofiwn Haf Y werin ar ei phuraf. Y werin ar ei phuraf. Y werin ar ei phuraf. Y werin ar ei phuraf. Y werin ar ei phuraf. Dathlu’r flwyddyn newydd ym Mwyty’r Dyffryn Y Foel fu aelodau a ffrindiau Cymdeithas y Merched, Dolanog ar ddechrau mis Ionawr. Roeddynt hefyd yn dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 30 oed a chafwyd cwis wedi ei drefnu gan Beryl Roberts, y llywydd presennol yn olrhain hanes y Gymdeithas dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf. Yn y llun gwelir yr aelodau presennol gyda thair o’r aelodau gwreiddiol yn sefyll yn y rhes ganol - Myfanwy Morgan, Myra Savage ac Eirian Roberts. PENCAMPWYR PÊL-DROED POWYS DATHL THL THL THL THLU PEN-BL U PEN-BL U PEN-BL U PEN-BL U PEN-BLWYDD WYDD WYDD WYDD WYDD YN 30ain YN 30ain YN 30ain YN 30ain YN 30ain COFIO CYFAILL Bu farw Emlyn Tyisaf ar Ionawr 21. Lluniwyd yr englyn uchod gan Arwyn Groe er cof amdano. Gwelir teyrngedau iddo hefyd ar dudalennau 10 ac 11. Er bod Ysgol Uwchradd Caereinion yn un o’r ysgolion lleiaf ym Mhowys mae ei hadran Ymarfer Corff yn llwyddiannus dros ben. Yn y llun uchod gwelir tîm pêl-droed dan 14 oed yr Ysgol. Y nhw yw Pencampwyr Pêl-droed Powys a Phencampwyr Timau Bach Pêl- droed Powys dan 14 oed. Callum Foulkes a Nyasha Mwamuka serenodd gyda pherfformiadau disglair o fewn y holl gemau. Plant Ysgol Gynradd Llanerfyl yn eu gwisgoedd lliwgar ar ôl perfformio eu sioe,‘Beth ar y Ddaear’

365 Chwefror 2012 40c COFIO CYFAILLjonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/...Gorff. 19/20, 2013 Eisteddfod Powys Llanfair Caereinion yng Nghanolfan Hamdden Caereinion

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    365365365365365 Chwefror 2012Chwefror 2012Chwefror 2012Chwefror 2012Chwefror 2012 4040404040ccccc

    Ac awel front y Gaeaf - yn herioAc awel front y Gaeaf - yn herioAc awel front y Gaeaf - yn herioAc awel front y Gaeaf - yn herioAc awel front y Gaeaf - yn herio dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf, dros erwau T~-Isaf,awn yn ôl a chofiwn Hafawn yn ôl a chofiwn Hafawn yn ôl a chofiwn Hafawn yn ôl a chofiwn Hafawn yn ôl a chofiwn HafY werin ar ei phuraf.Y werin ar ei phuraf.Y werin ar ei phuraf.Y werin ar ei phuraf.Y werin ar ei phuraf.

    Dathlu’r flwyddyn newydd ym Mwyty’r Dyffryn Y Foel fu aelodau affrindiau Cymdeithas y Merched, Dolanog ar ddechrau mis Ionawr.Roeddynt hefyd yn dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 30 oed achafwyd cwis wedi ei drefnu gan Beryl Roberts, y llywydd presennolyn olrhain hanes y Gymdeithas dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf.Yn y llun gwelir yr aelodau presennol gyda thair o’r aelodau gwreiddiolyn sefyll yn y rhes ganol - Myfanwy Morgan, Myra Savage ac EirianRoberts.

    PENCAMPWYR PÊL-DROED POWYS DDDDDAAAAATHLTHLTHLTHLTHLU PEN-BLU PEN-BLU PEN-BLU PEN-BLU PEN-BLWYDD WYDD WYDD WYDD WYDD YN 30ainYN 30ainYN 30ainYN 30ainYN 30ain

    COFIO CYFAILL

    Bu farw EmlynTyisaf ar Ionawr21. Lluniwyd yrenglyn uchod ganArwyn Groe er cofamdano.Gwelir teyrngedauiddo hefyd ardudalennau 10 ac11.

    Er bod Ysgol Uwchradd Caereinion yn un o’r ysgolion lleiaf ym Mhowysmae ei hadran Ymarfer Corff yn llwyddiannus dros ben. Yn y llunuchod gwelir tîm pêl-droed dan 14 oed yr Ysgol. Y nhw ywPencampwyr Pêl-droed Powys a Phencampwyr Timau Bach Pêl-droed Powys dan 14 oed. Callum Foulkes a Nyasha Mwamukaserenodd gyda pherfformiadau disglair o fewn y holl gemau.

    Plant Ysgol Gynradd Llanerfyl yn eu gwisgoedd lliwgar ar ôl perfformio eu sioe,‘Beth ar y Ddaear’

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    DYDDIADURChwef. 9 (nos Iau) Gyrfa Chwilod a bwyd yn

    Dyffryn, Foel o dan nawdd Merched yWawr. Croeso i ddysgwyr yr ardal. £5.

    Chwef. 18 Bingo Neuadd Pontrobert 7.30Chwef. 19 Cinio Elusennol yng Nghanolfan

    Hamdden Llanfair er budd ‘CymorthCanser Macmillan’ am 12 o’r gloch.Tocyn £18 yn cynnwys band a siaradwrgwadd. Ffoniwch Sarah ar 01938 820168am docynnau.

    Chwef. 20 Cymdeithas Hanes Dyffryn Banw.Cyflwyniad gan yr YmddiriedolaethArchaeolegol o’u gwaith ac o raisafleoedd archaeolegol diddorol ynNyffryn Banw. Neuadd Llanerfyl am 7.30

    Chwef. 23 Cystadlaethau Dawnsio yr Urdd CylchCaereinion yng Nghanolfan HamddenLlanfair

    Chwef. 24 Gyrfa Chwist yn Neuadd Pontrobert am 8o’r gloch

    Chwef. 27 am 7.30 yn Neuadd y pentref Adfa. CinioG@yl Dewi. Ffoniwch Tom a Ruth ar01938 810313 am docynnau.

    Chwef. 28 Cwmni Drama Dinas Mawddwy ynNeuadd Llwydiarth am 7.30 y h.

    Mawrth 1 Dathlu Gwyl Ddewi gyda theuluMoeldrehaearn am 7.30 yng Nghanolfany Banw. Trefnir gan Gangen Merched yWawr y Foel. Croeso cynnes i bawb

    Mawrth 3 Eisteddfod Cylch Caereinion yngNghanolfan Hamdden Llanfair Caereinion.

    Mawrth 3 Cinio G@yl Ddewi yng NghanolfanDolanog am 7.30. Adloniant gan Barti’rOgof. Tocynnau gan Felicity ar 810901

    Mawrth 7 Eisteddfod Ddawnsio Rhanbarth Maldwynyn Theatr Hafren, Y Drenewydd. Bydd yDawnsio Uwchradd yn dechrau am 1.30y pnawn a’r Cynradd i ddilyn. Bydd amserdechrau’r cynradd yn dibynnu ar nifer ycystadleuwyr yn yr Uwchradd. Mi fyddgennym fwy o syniad yn fwy agos at ydyddiad.

    Mawrth 8 Cyfarfod Chwarter yr Annibynwyr ynEbeneser, Llanfair Caereinion

    Mawrth 10 Arddangosfa Celf a Chrefft YsgolGynradd Llanfair Caereinion

    TÎM PLU’R GWEUNYDD YMARFERION ATGYMANFAOEDD CANU YR

    OFALAETH 19 Chwefror 6pm Moreia 18 Mawrth 6pm Adfa 22 Ebrill 6pm Moreia 13 Mai 6pm Moreia

    Mehefin 17 Cymanfa’r AnnibynwyrGorffennaf 1 Cymanfa Moreia

    TTTTTeipyddeseipyddeseipyddeseipyddeseipyddesCatrin Hughes, Llais AfonLlangadfan 01938 820594

    [email protected]

    CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddArwyn Davies

    Groe, Dolanog, 01938 820435Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddDelyth Francis

    Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

    YsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

    Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

    Trefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauGwyndaf Roberts, Coetmor

    Llanfair Caereinion 01938 810112

    Golygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolNest Davies

    Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolCatrin Hughes, Llais Afon, Llangadfan

    Mary Steele, EirianfaLlanfair Caereinion 810048

    [email protected] Hughes, Llais Afon, LlangadfanMari Lewis, Swyddfa’r Post, Meifod

    500286

    DiolchHoffai Rose a’r teulu Tyddyn Heulyn ddiolch ynfawr iawn i bawb am eu cydymdeimlad a’ucaredigrwydd ar ôl colli Dennis. Diolch amymweld â Dennis yn yr ysbyty, am y cannoeddo gardiau, y galwadau ffôn, yr ymweliadau a’rrhoddion er cof. Dymuna Rose hefyd ddiolchyn fawr am yr holl gardiau Nadolig adderbyniwyd ac mae’n anfon Cyfarchion yFlwyddyn Newydd i’w pherthnasau, cymdogiona ffrindiau oll.

    DiolchHoffwn i, Margaret Tynyfron, Llanfair ddiolch ogalon i fy nheulu a fy ffrindiau am fod mor garedigwrthyf ar fy mhen-blwydd yn ddiweddar. Diolcham y llythyrau, yr holl gardiau, anrhegion,galwadau ffôn a ‘syrpreisys’. ‘Ffrindiau’ ganDewi Bowen sydd yn crynhoi’r cyfan:Pan fydd beichiau byd yn drwmYn pwyso ar ein ’sgwyddau,Rhyw sibrwd pob cyfrinach fachA wnawn wrth gwrdd â ffrindiau;Mae’n werth ail-fyw profiadau fyrddA sôn am yr hen ddyddiau.Bydd gwên a sgwrs a hwyl i miFel gwin yng nghwmni ffrindiau.Gyda llawer o ddiolch.Margaret

    DiolchDymuna Morfydd Jones, Glanaber, Melin y Ddôl,a’r teulu ddiolch am bob arwydd ogydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwydyn ein phrofedigaeth. Hefyd y cardiau,galwadau ffôn, yr ymweliadau, eichpresenoldeb yn yr angladd a’r rhoddion er cofam ei brawd Elfyn tuag at Hospis HafrenAmwythig.

    DiolchHoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a brynoddgardiau Nadolig er budd T~ Gobaith. Diolch ynfawr iawn am eich cefnogaeth a’ch haelioniunwaith eto. Llwyddwyd i godi £600 trwywerthiant cardiau a rhoddion.Enid Edwards

    Mawrth 9 Cymdeithas Adloniant Llanfair (C.A.Ll) yncyflwyno Noson Gomedi efo Eilir Jones(‘Ffarmwr Ffowc’ gynt) yn yr Institiwt,Llanfair am 7.30. £5.00 (yn cynnwysgwydriad o win a nibyls).

    Mawrth 10 Eisteddfod 12 – 15 oed Neuadd GoffaTrefeglwys

    Mawrth 14 Noson Chwaraeon Merched y Wawr yn yCann Office.

    Mawrth 17 Eisteddfod Cynradd Rhanbarth Maldwynyn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd

    Mawrth 23 Eisteddfod 15+ ac Aelwydydd CanolfanGlantwymyn

    Ebrill 26 Noson Gymdeithasol CymdeithasEdward Llwyd Maldwyn a’r Cyffiniau 7pm.Hen Gapel John Hughes, Pontrobert.Sgwrs gan y bardd lleol Emyr Davies‘Byw yn y Wlad’. Croeso i aelodau aceraill. Darperir lluniaeth ysgafn. Tâl £2.Cysylltwch â Nia Rhosier 01938 500631.Trefnydd: Eluned Mai Porter 01746765422

    Mai 5-7 Arddangosfa Hen Luniau Dolanog.Mai 5 Cyngerdd yr Hospis gyda Chôr Meibion

    Maelgwyn o dan arweiniad Tristan Lewisac artistiaid eraill. Tocynnau £10 ar gaelgan aelodau’r pwyllgor yn fuan.

    Mai 19 Band Porthywaen ym Mhontrobert am7.30

    Meh. 16 Taith Gerdded Plu’r Gweunydd o GoedDyfnant i’r Foel. Cychwyn am 1.30

    Meh. 17 Cymanfa’r Annibynwyr yn LlanfairMeh. 23 Cyhoeddi Eisteddfod Powys Llanfair

    Caereinion. Gorymdaith i ddechrau o’rdref am 1.30 ar gyfer y seremoni yngNghoed y Deri am 2.00. Cyngerddmawreddog i ddilyn.

    Gorff. 1 Cymanfa Ganu MoreiaGorff. 28 Cyngerdd Dathlu gyda Chantorion Colin

    Jones yng Nghanolfan RhiwhiriaethMedi 27 Pwyllgor Blynyddol Plu’r Gweunydd am

    7.30 yn Neuadd Pont RobertHydref 13 G@yl Ranbarth Merched y Wawr yn

    Llanfair CaereinionHydref 13 Noson o Dalent Lleol yn Neuadd

    Pontrobert am 7.30.Gorff. 19/20, 2013 Eisteddfod Powys Llanfair

    Caereinion yng Nghanolfan HamddenCaereinion.

    A fyddech cystal ag anfon eichcyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyn dyddSadwrn, 18 Chwefror. Bydd y papur yncael ei ddosbarthu nos Fercher, Chwefror29

    Rhifyn nesaf

    Arholiadau CerddTachwedd 2011

    Mae’r isod yn ddisgyblion i Dr David Whitfield-Jones, Llanerfyl.P ianoPianoPianoPianoPianoGradd 1: Lili Davies, Glantanant;

    Gwawr Jones, Dolwen (Merit)Annie May, Cringoed Isaf(Distinction)

    Gradd 7: Osian Davies, Glantanant(Merit)

    TheoriTheoriTheoriTheoriTheoriGradd 3: Ben May, Cringoed Isaf (Merit)

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    Meifod 500355 a 500222

    Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

    Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Dervac Olew Iro a

    Thanciau StorioGWERTHWR GLOCYDNABYDDEDIG

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    Garej LlanerfylCeir newydd ac ail law

    Arbenigwyr mewn atgyweirio

    Ffôn LLANGADFAN 820211

    Diolchiadau £5Taliad i’r Trysorydd, gohebydd lleol

    neu un o’r tîm

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 33333

    O’R GADER

    Llun a ddaeth i’m llaw trwy Ike Davies Gwern-y-Bwlch o Gwmni Drama Llanfair Caereinion1975/76. Y fi yw’r dyn â’r ‘stetson’ a’r sigâr’. Y cast ar y soffa: Linda Griffiths, Dewi, Gors;Sister James a Roy Griffiths. Tu ôl o’r chwith i’r dde: pwy yw dyn y camera?; Arwyn, Tyisa;Dafydd Davies, Megan Roberts (Banc), Eleri Gwilym, Emyr Davies a Megan Roberts, Llanerfyly forwyn.Roeddwn yn holi i Siân James yn ddiweddar os oedd ’na lun ar gael, a dyma fo! Sôn amhwyl! Emyr

    CAWL CENNIN

    Tro Trwstan

    Adroddaf i chwi hanes dynA aeth i helynt rhyw ‘bnawn Llun,Wrth alw’n y ‘Garej’ yn y llan,A’i gerbyd ‘pick-up’ o Japan.Yr oedd y prydydd mwyn ar frys,Ac ar ei dalcen dafnau chwys,Ond, ‘Mwyaf Hâst’ a rhwystrau sy –A dyma’r hanes fel y bu.

    Medd wrth ei wraig “Mae yn hwyrhauA ffyrm Wynnstay am bump yn cau”.A ffwrdd yr aeth ac yn llawn ffydd,Yn fodlon iawn ar waith y dydd.Meddyliodd am ei ‘newydd fyd’Ac am ei aelwyd gynnes glyd,Ond, cymylau stormus yn crynhoi,A sioc ofnadwy gath y boi.

    Yn ôl y stori, rhodd y llanc –Danwydd anghywir yn y tanc.Peiriant dîsl yw y carAc yntau’n llenwi â ‘four star’.Yn ôl rhai tystion, medden nhw,Y cerbyd oedd fel [email protected] hyn i mi gael tôn –Yn Garej Brookside ar y ffôn.

    Mae’r dyn yn gwsmer da i mi,Cael ambell tsiain ac ambell li,Ni allwn anwybyddu’r ffôn,At ‘Mitsubwshi’ lawr y lôn.Mewn ‘sbyty mae’r cerbyd o JapanYn treulio noson yn y Llan.A dyna’r stori am y dyn –A’i helynt tanwydd ’nawn dydd Llun.

    ‘Eos Llwydiarth’

    Dros y Gwylie mi ge’s i bnawn difyriawn yn ardal Llanrhaeadr aLlansilin. Ar ddiwrnod iasoer oaeafol mi oedd ‘na flas ar dân ynogystal â’r cinio yn y caffi wrth uno ryfeddode Cymru, Pistyll

    Rhaeadr. Mae’n olygfa hudolus ac yn olygfasy’n amlwg yn denu, roedd ‘na fwrlwm o bobolyno.Yr un pnawn mi es i am gyfeiriad Llansilin aci le o’r enw Sycharth! Lle diarffordd ydiSycharth heddiw, heb arwydd yn unman i’chcyfeirio yno. Dydi hi ddim yn syndod nad oeddneb arall yno. Cofiwch, mae hi wedi gwellamymryn yno’n ddiweddar. Mae ’na faes parcioi dri neu bedwar car yno r@an, ac un arwyddbach hanner maint y cyfrifiadur ’ma yn daloggyhoeddi enw’r lle!Mae pethe’n wahanol mewn gwledydd eraill.Mae’r parch mwya’n cael ei roi i arwyr cenedlmewn gwledydd sy’n meddu ar hunan barch.Mi fues ar gyrion Bannockburn un tro, lle maeamgueddfa brysur yn cyflogi nifer o bobol ynparchu, na, mawrygu arwyr yr Alban. Mae lle ibarcio mwy na pedwar car yn Bannockburn.

    * * *Mi fues i yn Neuadd Llanerfyl y penwythnos‘ma yn dathlu noson Santes Dwynwen. Y ferchhonno oedd yn ei blodau mil a chwech chanto flynyddoedd yn ôl ac yn un o ferchedprydferthaf y brenin Brychan Brycheiniog [ynôl y sôn!]. Braf ydi cael dathlu eicon Cymru,yn hytrach [yn y cyswllt yma] na’r Ffolantestron.Mi fydd hi’n ddydd g@yl i Sant arall mewn rhaiwythnose. Ac mi fydda’ i’n trin Dydd G@yl Dewi’leni fel G@yl y Banc. Mae ’na wleidyddion sy’nparchu Cymru yn galw am hyn ersblynyddoedd, ond yn cael eu trechu gan yceffylau trojan o wleidyddion rheiny o fewnCymru sy’n gwrthwynebu sefydlu symbol morgadarn o blaid ein gwlad. Rhy gostus, meddenhw, gan gyhoeddi’n dalog faint o filiynau obunnoedd fyddai’r gost i’r economi o gaeldiwrnod o wyliau ychwanegol i’r gweithlu.Ond MAE g@yl y banc ychwanegol eleni.Diwrnod y gallwn ni’i gyd ddathlu 60 mlyneddo oruchafiaeth brenhines a choron Lloegr drosGymru gaeth.Efallai y bydd rhai o ddarllenwyr y Plu ynddigon gwasaidd a di-hid o’u hanes i ddathlu’rJiwbilî eleni. Dathlu parhad a goruchafiaethcoron Lloegr dros Glynd@r a Llywelyn...a ni.Efallai’n wir. Ond Dydd G@yl Dewi fydda’ i’n eiddathlu fel G@yl Banc ychwanegol ’leni. A ’dall‘run gwleidydd, trojan neu beidio, gwyno am ygost!

    Dymuna Ddolen Ffermio ddiolch o galon i bawbfu mor hael yn cefnogi ei gwaith yn ystod 2011.Er mor fregus y sefyllfa ariannol llwyddodd Apêl“Catalog Nadolig 2011” godi £5650 tuag atBrosiect Plant Amddifad Kumi yn NwyrainUganda. Bydd yr arian yn lleihau tlodi a gwelladyfodol y plant drwy eu galluogi i aros yn yr ysgola hefyd cael hyfforddiant amaeth. Diolch ynarbennig i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllinam gyfrannu £200.Sefydlwyd Dolen Ffermio yn 1989. Ers caelstatws elusen gofrestredig yn 2007 mae eigwaith wedi ehangu. Yn 2011, yn ogystal â rhoicymorth dyngarol i amddifaid bu’r elusen ynymwneud â’r canlynol:· Cefnogi canolfan bridio geifr yn Kumi i’wdosbarthu i wella bywoliaeth amddifaid· Hybu dolennau cyswllt rhwng ysgolion SirDrefaldwyn a Dwyrain Uganda· Rhoi peiriannau gwnïo yn anrheg i ysgoldechnegol i hyfforddi ieuenctid· Rhoi offerynnau cerdd traddodiadol yn anrhegi ysgolion yn Nwyrain Uganda· Cefnogi prosiect ‘photodiary’ i blant gyfleuhanes ‘bywyd pob dydd’ yn Uganda· Sefydlu dolennau cyswllt amgylcheddol;cefnogi chwech o Ugandiaid i deithio i Gymru iweld ffermydd, gerddi, a’r Sioe Frenhinol ynLlanelwedd· Yn Nhachwedd, ynghyd ag Ysgolion UwchraddLlanfyllin a’r Drenewydd, trefnu cynhadledd iddisgyblion chweched dosbarth ar ‘Ffermio achoedwigo o blaid yr amgylchedd’ yn YsgolUwchradd y Drenewydd. Mae copïau o’rcyflwyniadau i’w cael gan Emyr (01938 811299)· Yn Nhachwedd, yn nhafarn y Tan House,trefnu noson ‘Hawl i holi’ ar y pwnc ‘A fydd posibcynhyrchu mwy o fwyd yn y dyfodol hebniweidio’r amgylchedd?’Am fwy o fanylion cysylltwch â Val Talbot,Ysgrifennydd (01691 791310) neu Emyr Owen,Is-Gadeirydd (01938 811299) neu’r wefan(www.dolen-ffermio.org.uk)

    Cyflwyniad gan yrCyflwyniad gan yrCyflwyniad gan yrCyflwyniad gan yrCyflwyniad gan yrYmddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol o’uArchaeolegol o’uArchaeolegol o’uArchaeolegol o’uArchaeolegol o’u

    gwaith ac o rai safleoeddgwaith ac o rai safleoeddgwaith ac o rai safleoeddgwaith ac o rai safleoeddgwaith ac o rai safleoeddarchaeolegol diddorol yn Nyffrynarchaeolegol diddorol yn Nyffrynarchaeolegol diddorol yn Nyffrynarchaeolegol diddorol yn Nyffrynarchaeolegol diddorol yn Nyffryn

    BanwBanwBanwBanwBanwNos Lun, Chwefror 20fed

    ynNeuadd Llanerfyl am 7.30

    Cymdeithas Hanes DyffrynBanw

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    FOELMarion Owen

    820261

    LLANGADFAN

    GwaeleddAnfonwn ein cofion at Mr Richard Rees,Esgairllyn sydd yn Ysbyty Amwythig ar hyno bryd. Gobeithio y byddwch yn teimlo’n wellyn fuan ac y cewch ddod adre cyn gynted âphosibl.Treuliodd Mr Sid Evans, Pantgwyn gyfnod ynyr ysbyty hefyd. Mae wedi dod adre bellachac roeddwn yn falch o glywed ei fod yn gwellaerbyn hyn.Cafodd Catherine, Llwydcoed driniaeth fawrar ei chefn mewn ysbyty yn Llundain raimisoedd yn ôl bellach a da yw deall ei bod yngwella.

    DyweddioLlongyfarchiadau i Gill, Tynewydd ac Allan areu dyweddiad dros y Nadolig. Dymuniadauda iawn i chi eich dau ar gyfer y dyfodol.Clywais fod Allan wedi dewis y fodrwy ei hunheb yn wybod i Gill. Faswn i ddim ynymddiried yn Alwyn ddewis pâr o sannau i fiheb sôn am fodrwy!

    Dymuniadau gorauMae Mr Richard Brown, Glanymorfa wedisymud i gartref Llwynteg, Llanfyllin. Gobeithioy bydd yn hapus iawn yno.

    LynwenMae Lynwen wedi bod yn reit brysur ers gadaelYsgol Nant Caerau a phenderfynu mentro i’rbyd perfformio yn llawn amser. Bu yn ffodusi gael gwahoddiad gan Theatr Na Nôg iglyweliad Sioe/Drama o’r enw Arandora Staryn Theatr Dylan Thomas y Glannau,Abertawe. Hanes teulu o Eidalwyr ynAbertawe amser yr 2il Ryfel Byd. Drama fachdda eithaf pwerus ar gyfer ysgolion efoLynwen yn chwarae’r brif ran.Cafodd hefyd wahoddiad gan Gwmni Avanti iffurfio gr@p i ganu cefndir i Raglenni Rhydian.Gwelwyd hi a Rhodri a Mark ar rai o’r rhaglenniGwefr oedd canu cefndir efo Ruthie Henshawa chael cyfle i gael sgwrs efo hi ar y diwedd.Mae ar hyn o bryd yn ymarfer Fala Surion efoCwmni’r Frân Wen am 5 wythnos cyn myndar daith. Mae’r daith yn cychwyn yngNghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar y28ain o Chwefror.

    Blwyddyn Newydd Dda os nad yw’n rhy hwyri ddymuno hyn i chi.

    BeicwyrMae pedwar mis ers i’r beicwyr heini fentrobeicio ar draws Cymru. Dymuna Wyn Owenddatgan ei ddiolch i bawb a’u cefnogodd arFedi 3ydd 2011 – llwyddasant i godi £3,000a’r arian yn mynd at ymchwil canser ac YsbytyGobowen.

    Prawf GyrruMae un arall o bobl ifanc y Cwm wedi llwyddoyn y prawf gyrru. Carwyn Owen yw’rdiweddara. Bydd angen cymryd gofal osydych chi am fentro i Gwm Banw – mae Nia,Gwenno, Siony, Gemma a Carwyn ar y ffordd.Lwc owt!

    FfarwelioDymuniadau gorau i Mrs Dilys Morris,Brynawel gynt, sydd wedi symud i fyw yn nesat ei merch yng Nghastell Caereinion.

    Y Fari LwydAeth Dawnswyr Llangadfan i ymuno yn hwyly Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy – nosSadwrn, Ionawr 14eg. Cafwyd noson hwyliogdros ben fel yr arfer – a diolch i Arfon Hughesam ein gwahodd ac am drefnu’r cyfan. Roeddyn noson rynllyd iawn, a phenderfynodd ydawnswyr hepgor eu gwisgoedd dawnsio alapio’n gynnes!

    Merched y WawrNos Iau, Ionawr 12fed cawsom noson arbennigo hwyliog yng nghwmni dau @r ifanc o’r Cwm– Gerallt Dolymaen, a John Maesllymystyn.

    Roeddent wedi bod yng Nghenia ar wyliaugydag aelodau eraill o Fudiad y FfermwyrIfanc. Cafwyd sgwrs oedd yn llifo rhwng yddau, a sleidiau diddorol i gadw ein sylw.Roeddem yn teimlo ein bod wedi bod yno efonhw. Diolch yn fawr bois.Nos Iau, Chwefror 2il daw’r Cogydd Crand i’ndiddori. Mae croeso cynnes i chi ymuno âni.Byddwn yn dathlu G@yl Ddewi ar y 1af oFawrth yng nghwmni Teulu Moeldrehaearn.

    Gwellhad BuanDymuniadau da i Meira, Gesail Ddu sydd wediderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.

    PenblwyddFrances Jones, Glanyrafon ar Chwefror y5ed, Steve Elmore, yr Efail ar Chwefror y 8feda phenblwydd priodas Alun a Maureen arChwefror yr 22ain.

    Pryd ar GludMae hi’n bryd estyn diolch i’r gwirfoddolwyrsy’n mynd â Phryd ar Glud i rai cartrefi yn yrardal. Cofiwch fod croeso i unrhyw un wneudymholiadau yngl~n â hyn – dim ond cysylltuâ fi ar 820261 yn y lle cyntaf, neu holi i’rgofalwyr wneud ar eich rhan. Mae’r pryd yncael ei rannu ar ddydd Mawrth a Dydd Iau a’rgost yw £3 y dydd. Cewch ginio a phwdin.Mae fy niolch yn mynd i Elen Jones, Hafod;Rhiannon Gittins; Dwynwen Jones; Ann aLynn Wiliams, Dilys Lewis, Enid Edwards acAnn Tudor, Llysun. Diolch am eichcefnogaeth ers sawl blwyddyn.

    CofionAnfonwn ein cofion at ddarllenwyr y Plu syddddim wedi bod yn hwyliog yn ddiweddar, agobeithio fod dyddiau gwell o’ch blaen. Maeprofedigaeth wedi cyrraedd amryw o’ndarllenwyr – anfonwn ein cydymdeimladcywiraf atoch chithau.

    CONTRACTWR TRYDANOLHen Ysgubor

    Llanerfyl, Y TrallwmFfôn: 01938 820130

    Rhif ffôn symudol: 07966 231272

    ALUN PRALUN PRALUN PRALUN PRALUN PRYCEYCEYCEYCEYCE

    Gosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäig

    Gellir cyflenwi eich holl angheniontrydanol

    - amaethyddol, domestig neuddiwydiannol.

    Gosodir stôr-wresogyddiona larymau tân hefyd.

    CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

    Gwaith Cerrig

    #####yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?

    Prynwr ardal y Plui Welsh Country

    FoodsFfoniwch Elwyn Cwmderwen

    07860 689783neu

    01938 820769

    Morris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant Hire

    OFFER CONTRACWYRAR GAEL I’W HURIO

    gyda neu heb yrwyrCyflenwyr Tywod, Graean a

    Cherrig FforddGosodir Tarmac a Chyrbiau

    AMCANGYFRIFON AM DDIMFfôn: 01938 820 458

    Ffôn symudol: 07970 913 148

    Adeiladau newydd, EstyniadauPatios, Gwaith cerrig

    Toeon

    Tanycoed, Meifod, Powys,SY22 6HP

    Ffôn: 07812197510 / 01938 500514

    GARETH OWEN

    CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR ADEILADUADEILADUADEILADUADEILADUADEILADU

    Dyfynbris am Ddim

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 55555

    Colofn y DysgwyrLois Martin-Short

    GWYLIAU I HAWAIIMae Felicity Ramage o Ddolanog a’i g@r wedibod ar wyliau i ben draw’r byd yn ddiweddar.Dyma eu hanes nhw:

    Meddyliwch am Hawaii a dach chi’ndychmygu traethau gwyn a phalmwydd. Ella

    byddech chi’n synnu at Hawaii - The Big Is-land. Mae ’na chwe ynys Hawaiian a Hawaiiei hun. The Big Island ydy’r fwya’ a’r fenga’.Mae pob ynys yn llosgfynydd marw ond maegan Hawaii bum llosgfynydd. Mae llosgfynyddKilauea yn ffrwydro hefyd. Mae ’na draethgwyn a phalmwydd ond mae ’na draeth duhefyd a choedwigoedd glaw trofannol. Mae’na ddiffeithdiroedd ac ar ben Mauna Kea

    (13,796 troedfedd) mae hi’n bwrw eira! Mae’na ransh cowboi mawr yng ngogledd yr ynys.Y gorllewin ydy’r ochr sycha a’r dwyrain ydywlypa’. Wnaeth Captain Cook gyrraedd Ha-waii yn 1891 ond bu farw ar ôl blwyddyn. Mae’na gofeb iddo fo yn Bae Kealakekua. Rwan,mae Hawaii yn rhan o’r Unol Daleithiau.Mi wnaethon ni ymweld â Pharc CenedlaetholLlosgfynydd. Mi welon ni’r llosgfynydd ac migerddon ni dros hen grater efo lafa poeth dimond cant tri deg troedfedd dan ein traed! Middysges i am y ddau fath o lafa - ‘A’a’ a

    ‘Pahoehoe’. Roedd‘steam vents’ poethiawn yn y crater. Ynagos at y llosgfynydd,ble dydy’r lafa ddim ynrhedeg r@an, mi welonni ‘tree ferns’ o gwmpashen diwb lafa fel twnnel.Mi gerddon ni trwy’r tiwblafa. Pan aethon ni ardrip hofrennydd ogwmpas yr ynys, miwnaethon ni hedfan drosy llosgfynydd ac miwelon ni lif lafa ynrhedeg i lawr i’r môr.Yng ngorllewin yr ynys,

    mi welon niddyffrynnoedd dwfn agwyrdd. Roedd o’ngyffrous iawn i hedfantrwy un ohonyn nhw agweld rhaeadr miltroedfedd.Mi aethon ni ar fws ifyny Mauna Kea.

    Seren Iaith! – Gloywi Iaith iBawbMae Seren Iaith yn cynnwysdros 200 o ymarferionieithyddol. Mae’r llyfr ynaddas ar gyfer myfyrwyrTGAU Cymraeg, SafonUwch Cymraeg ac oedolion.Dyma gyfle i brofi eichhunan. Mae hanner cyntaf yllyfr yn cynnwys ymarferionar bwyntiau gramadegol unigol. Mae’r ailhanner yn canolbwyntio ar roi’r pwyntiau hynat ei gilydd. Ac mae’r atebion yng nghefn yllyfr!Mae Diane Jones wedi prynu copi ac maehi’n dweud: “Mi faswn i’n hoffi cymeradwyo’rllyfr “Seren Iaith” gan Nona Breese a BethanClement i bawb fydd yn sefyll arholiadCanolradd yn yr haf. Mae ‘na ymarferiongramadegol ar gyfer pob dydd tan yr arholiad.Mi gaeth y llyfr ei gymeradwyo gan SteveMorgan yn yr Ysgol Ionawr yn Drenewydd.Dw i’n meddwl bod y llyfr yn ardderchog.”Mae ar gael trwy Pethe Powys am £5.99.Sadwrn SiaradSadwrn SiaradSadwrn SiaradSadwrn SiaradSadwrn SiaradBydd Sadwrn Siarad yn Nolgellau (ColegMeirion Dwyfor) ar 25ain o Chwefror, ac un

    Llosgfynydd marw ydy o. Mae o’n 13,796troedfedd a rhaid i chi fod yn iach i fynd ifyny. Mae’r awyrgylch yn denau ar y copa.Mi ddechreuon ni wisgo crysau-T ond ar ycopa roedd angen cotiau gaeaf - roedd o’n -3gradd! Pan gyrhaeddon ni’r copa, roedd ’nafachlud haul prydferth. Mae un deg trithelesgop mawr ar y copa. Mae un ohonynnhw yn cael ei weithio o Gaeredin! Ar y fforddi lawr, mi gaethon ni siawns i edrych trwydelesgop llai ac mi welon ni’r blaned Merchera phedwar o’i lleuadau.Ond y peth gorau yn Hawaii ydy’r môr. Maeo’n glir ac yn gynnes. Mi wnes i nofio efoCrwban Môr Gwyrdd ac mi weles i lawer obysgod lliwgar iawn. Mae gynnyn nhw enwauneis fel ‘Humuhumu-nukunukuãpua’a’. Dimond deuddeg llythyren sydd yn y wyddor Ha-waiian. Mi aethon ni ar gwch i nofio gydasnorcel ac yn ystod ein cinio, mi weles iddolffiniaid yn nofio a neidio. Un dydd,wnaethon ni ddim nofio achos cafodd siarc eiweld yn y bae!Roedd y daith i Hawaii yn cymryd pedair awrar hugain ac roedd rhaid i ni newid ein watsysun awr ar ddeg. Mi wnes i fwynhau ein gwyliauyn fawr. Mi ges i brofiadau i’w cofio ond ro’n ihapus iawn i fod adref eto!

    Stem yn codi o’r l losgfynydd yn HawaiiStem yn codi o’r l losgfynydd yn HawaiiStem yn codi o’r l losgfynydd yn HawaiiStem yn codi o’r l losgfynydd yn HawaiiStem yn codi o’r l losgfynydd yn Hawaii

    Machlud yr haul ar gopa Mauna KeaMachlud yr haul ar gopa Mauna KeaMachlud yr haul ar gopa Mauna KeaMachlud yr haul ar gopa Mauna KeaMachlud yr haul ar gopa Mauna Kea

    arall yn y Ganolfan Gymunedol, Trewern ar y3ydd o Fawrth. Mae’r ddau yn dechrau am9.30 ac yn gorffen am 3.30. Mae’n costio £8/ £5 am y diwrnod. Bydd te a choffi ar gael,ond dewch â phecyn cinio. Os dach chi eisiaumynd, mae’n bwysig i chi ffonio o flaen llaw.Ffoniwch Menna ar 01686 614226.Cyfleoedd i ddefnyddio eich CymraegChwefror 4 – Dathlu DarllenChwefror 4 – Dathlu DarllenChwefror 4 – Dathlu DarllenChwefror 4 – Dathlu DarllenChwefror 4 – Dathlu DarllenBydd sesiwn arbennig i lansio cyfres newyddStori Sydyn yn y Llyfrgell, Drenewydd, ddyddSadwrn y 4ydd o Chwefror. Bydd Sesiwn i’rteulu rhwng 10:00 - 11:00, wedyn Paned aSgwrs yng nghwmni Hedd Bleddyn. Ar ôlhynny, bydd cyfle i Ffeirio Llyfrau Cymraeg(Welsh Book Swap). Felly, beth am ddod âllyfrau Cymraeg rydych chi wedi gorffen â nhwa chael rhai newydd yn eu lle? I drefnu lle ary Sesiwn i’r Teulu, rhaid i chi gysylltu âMenna, 01686 614226 neu gofynnwch i’chtiwtor am ffurflen.Chwefror 9 – Gyrfa ChwilodChwefror 9 – Gyrfa ChwilodChwefror 9 – Gyrfa ChwilodChwefror 9 – Gyrfa ChwilodChwefror 9 – Gyrfa ChwilodMae Merched y Wawr yn trefnu Gyrfa Chwilodi ddysgwyr yng Ngwesty’r Dyffryn, y Foel, ary 9fed o Chwefror am 7.00. Am fanylion ac igadw lle, cysylltwch â Rona Morris ar 01691780226 neu [email protected]

    Chwefror 10 - Noson Cyri a ChwisChwefror 10 - Noson Cyri a ChwisChwefror 10 - Noson Cyri a ChwisChwefror 10 - Noson Cyri a ChwisChwefror 10 - Noson Cyri a ChwisBydd Noson Cyri a Chwis yngNghlwb y Monti, Drenewydd, nosWener y 10fed o Chwefror, am

    8:00. Mae’n costio £6 yr un. Rhaid bwcio oflaen llaw. Cysylltwch â Menna ar 01686614226 neu [email protected]

    Od,ond dim pawb sy’n gwybod am ein yswiriant ty.

    Am bris galwch 01938 810224 neu galwch i fewn i'r swyddfa a siarad i Wyn, Med, Liz neu Joan yn Swyddfa NFU Mutual Stryd y Bont Llanfair Caereinion Y Trallwng SY21 0RZ

    Agent of The NationalFarmers Union MutualInsurance Society Limited.

    We do right by you

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    COLOFN MAI

    Ceir amrywiaeth mawr o barciau, cestyll aphlasdai ar hyd a lled Cymru ond ddim ynaml y ceir cyfuniad o’r tai gyda’i gilydd.Ar ddiwrnod braf o fis Hydref diwethaf daethcriw o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd atei gilydd i fwynhau rhyfeddodau Parc aChastell Dinefwr a Phlasdy Newton, i gyd brono dan yr un to!Tywyswyd ni o gwmpas gan Iestyn Thomas,un o swyddogion yr YmddiriedolaethGenedlaethol. Mae Iestyn yn fab i’r diweddarMeurwyn Thomas (brawd Ieuan). Mawr ywein diolch iddo am ddiwrnod diddorol dros ben.Camwyd nôl mewn amser wrth i ni grwydrohen lwybrau’r parc gan enwi dim ond ychydigrai sef Llwybr Gwas y Neidr, Llwybr CoedDerw, Llwybr y Gwartheg Gwynion ac ati.Yn y Parc 800 erw, mae yna gaer o Oes yrHaearn, dwy Gaer Rufeinig, castell a dwy drefganoloesol a phlasdy o’r 17eg ganrif.Yma ceir casgliad arbennig o goed hynafol.Saif un goeden dderw y credir ei bod dros700 mlwydd oed. O’r goeden ysblennydd honbraf oedd gwrando ar s@n nodweddiadolcnocellod coed wrth iddynt chwilio am fwyd.Bydd rhannau o goetir y Parc yn aros yn wlybtrwy’r flwyddyn ac o ganlyniad mae coedgwern a helyg yn tyfu’n iach dros ben yma.Mae planhigion sy’n hoff o dd@r yn tyfu’ndoreth yma yn eu tymor, sef y gellesgen felen,melyn y gors, robin carpiog ac eraill.Pan gwympa coeden yn y parc, fe adewir ypren marw yn y fan a’r lle i greu cynefin argyfer chwilod a phryfed prin. Mae dros 140math o gen yn y coetir a ddenwyd yno gan ynifer o hen goed derw, ynn a masarn.Yn ystod yr haf gellir gweld amrywiaeth oweision y neidr yn gwibio uwchben Pwll yFelin gerllaw. Bydd cwtieir, glas y dorlan ahwyaid yn nythu yn y twmpathau o gynffon ygath sy’n tyfu ar lannau’r pwll.Mae Parc Ceirw yn un o’r tri pharc ceirwcaeedig o’r 16eg ganrif sy’n dal i fodoli yngNghymru heddiw. Yn y parc, fe geir dros ganto geirw Brith ac mi fuom yn lwcus iawn o

    gael cip ar ambell un o’r anifeiliaid swil hyn.Doedd yna ddim llawer o swildod ar y gwartheggwynion, a daeth ambell un yn agos iawnatom. Mae Parc Dinefwr yn gartref i yr owartheg gwynion o rywogaeth brin ac yndyddio nôl i’r 9fed Ganrif. Ceir y cyfeiriadcyntaf at y gwartheg yng Nghyfreithiau HywelDda, pryd y’u rhestrwyd fel rhan bwysig o’rdreth a delidd i Dywysogion Cymru. Mae’nhawdd adnabod y gwartheg wrth eu côt wenfel yr eira a blaenau duon ar eu cyrn hirion.Dringwyd i fyny llwybr y Castell trwy’r goedwiggan ddychmygu gweld ycarped o glychau’r gogsy’n tyfu ymhlith y coedym mis Mai. Saif ycastell ar dir uchel ynedrych dros DdyffrynTywi ac yn dyddio nôl iddechrau’r 12fed ganrif,pan oedd yr Arglwydd

    Un o’r gwartheg prin, maent yn rhyfeddol ac yn medru rhedeg yn gyflym iawn dros leoeddcorsiog a serth.

    BOWEN’S WINDOWSGosodwn ffenestri pren a UPVC o ansawdd uchel, a

    drysau ac ystafelloedd gwydr, byrddau ffasgia a‘porches’ am brisiau cystadleuol.

    Nodweddion yn cynnwys unedau 28mm wedi eu selio iroi ynysiad, awyrell at y nos a handleni yn cloi.

    Cewch grefftwr profiadol i’w gosod.

    BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,

    TRALLWM, POWYSFfôn: 01938 811083

    Rhys yn rheoli De Orllewin Cymru.Cyrraedd yn ôl ac i mewn i D~ Newton i flasugwledd hanesyddol arall a the Cymreig.Atgoffwyd pawb bod Edward Llwyd wediymweld â thir Dinefwr yn ystod ei deithiau achael hyd i ffosiliau diddorol yn haenaucreigiau’r tir.Dyma ymweliad y medrwch edrych ymlaenato y gwanwyn neu’r haf nesaf yma. MaeLlandeilo hefyd yn dre fach hyfryd gydasiopau unigryw a diddorol.

    Sgwrs gan y bardd lleol Emyr Davies ‘Byw yn y Wlad’.Croeso i aelodau ac eraill. Darperir lluniaeth ysgafn. Tâl £2.

    Cysylltwch â Nia Rhosier 01938 500631.Trefnydd: Eluned Mai Porter 01746 765422

    Noson GymdeithasolCymdeithas Edward Llwyd Maldwyn a’r Cyffiniau

    Ebrill 26 am 7pm yn Hen Gapel John Hughes, Pontrobert.

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 77777

    LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAdeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr TTTTTai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac EstyniadauGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu Gerrig

    Ffôn: 01938 810330

    ANDREW WATKIN

    Froneithin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,

    O’R GORLAN

    Gwyndaf Roberts

    LLANERFYLPenblwydd PriodasLlongyfarchiadau i Mr a Mrs Owen, DolauCeimion, ar ddathlu 71 o flynyddoedd obriodas yn ddiweddar. Oes yna gwpl yngNghymru sydd wedi bod yn briod yn hwytybed?

    Gwellhad Buani Naomi Perbs, Tyntwll ar ôl llawdriniaeth ynYsbyty Stoke. Dymuniadau gorau hefyd iJohn Williams, Y Felin sydd wedi cael clunnewydd.

    Dymuniadau goraui Janet wrth iddi ddechrau ar ei thriniaethunwaith eto.

    Penblwydd ArbennigDathlodd Debbie Gregory, Cae Ysgubor eiphenblwydd yn 40oed yn ddiweddar. Dathlwydgyda pharti i deulu a ffrindiau yn y Dyffryn.

    Llwyddiant CerddorolLlongyfarchiadau i Lynfa, Maescelynog syddwedi llwyddo i basio Gradd 6 ar y delyn, maeLynfa yn ddisgybl i Ieuan Jones ac i Adleis,ei chwaer, sydd wedi pasio Gradd 4 ar ydelyn, hithau yn ddisgybl i Siân James.

    Swper a ThwmpathDdegawdau yn ôl roedd twmpathau dawns ynnosweithiau poblogaidd iawn ymysg yr ifanc.Cyfle i gymdeithasu a hyd yn oed dod o hydi gariad! Ond daeth oes y disgo a’r clybiaunos ac fe fu bron i’r twmpath ddiflannu oddiar wyneb y ddaear. Wel, ar ôl y nosonlwyddiannus a gafwyd yn Llanerfyl ar nosWener y 27ain o Ionawr dwi’n credu y gwelirmwy o’r digwyddiadau yma yn cael eu cynnalyn y dyfodol. Darparwyd lluniaeth blasus iawnar ein cyfer gan rieni a ffrindiau Ysgol GynraddLlanerfyl. Yna diolch i Bryn Davies a’i fandPentennyn ac aelodau o Barti Dawns Tanatbu dawnsio ffyrnig a llond bol o chwerthin amoriau. I’r dewr a’r ffit roedd cyfle i ddawnsiodisgo wedyn tan oriau mân y bore. Diolch ynfawr i’r trefnwyr - adloniant cymdeithasol arei orau.

    Prawf gyrruDyna gyd-ddigwyddiad anhygoel i’r efeilliaidGuy a Ross, Glynbach lwyddo i basio eu prawfgyrru ar yr un diwrnod! Llongyfarchiadau i’rddau, ond bobl bach dwi’n siwr fod y bilyswiriant yn anferthol!

    Mae i bob stori wreiddyn sydd wedi ei hangorii wirionedd, pa mor ffansïol ac anhygoel yw’rstori honno. Dod o hyd i’r gwirionedd neu’rgwirioneddau yn y stori yw’r gamp bob tro.Dyna pam, yn rhannol, mae nofel a ffilm neustori fer yn ddeniadol i wyliwr, darllenydd agwrandäwr. A dyna pam efallai bod y chwedlaua geir yn y Mabinogi er enghraifft, wedi glynumor dda yng nghof y genedl er nad ydymbellach yn llwyr gredu’r hyn a geir ynddynt.Lleoliad Breuddwyd Rhonabwy yw’r darn tirhwnnw o boptu’r afon Hafren o rhychdir Powys(ger Croesoswallt) yn y gogledd i ardal Rhydy Groes a Maes Argyngrog, y gellid eiddisgrifio’n fras heddiw fel ardal Trallwm.Anfonir Rhonabwy ac eraill i chwilio amIorwerth Goch, brawd Madog ap Maredudd,tywysog Powys (1130-60). Wedi cael llochesyn nh~ Heilyn Goch mae Rhonabwy yn myndi gysgu ar groen ychen melyn ac yn caelbreuddwyd a barodd am dri diwrnod a thairnoson. Mae’r freuddwyd yn hynod o ddi-ddigwydd mewn gwirionedd ac yn mynd aryn ôl, gan sôn am weld Arthur a’i farchogionmewn gwersyll ar lan yr afon Hafren ger Rhydy Groes, sef Buttington heddiw. Mae’r breninyn chwarae gwyddbwyll gydag un o’ifarchogion, Owain ab Urien, ac mae brwydrrhwng milwyr y ddau’n dechrau. Daw heddwcho’r diwedd pan mae Arthur yn malurio’r darnaugwyddbwyll yn llwch.Mae ystyr y stori yn dywyll er bod yr AthroSioned Davies yn awgrymu bod peth dychanuyma yn erbyn y rhai sy’n cymryd yr hanesionArthuraidd a’i gwerthoedd o ddifrif. Bethbynnag am y ddamcaniaeth honno, yr hynsy’n gwneud Breuddwyd Rhonabwy yn bwysigyw’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf mewnrhyddiaith Gymraeg y defnyddir y ddyfais ofreuddwyd i ddweud stori. Bu’n rhaid disgwyltan 1957 i weld y ddyfais hon ar waith unwaitheto yn yr ugeinfed ganrif sef yn nofel IslwynFfowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd.Un o gampweithiau diwedd y bedwaredd ganrif

    ar bymtheg yw Breuddwyd Pabydd wrth eiEwyllys gan Emrys ap Iwan (Robert AmbroseJones (1848-1906). Cyhoeddwyd y Freuddwydgyntaf yn 1890-2 yn chwarterol yn Y Geninen.Yr hyn a geir yn y gwaith yw’r awdur ynbreuddwydio ei fod yn gwrando ar ddarlith yncael ei thraddodi yn 2012 gan offeiriadPabyddol, y Tad Morgan, sy’n Iesüwr ac ynaelod o Gymdeithas yr Iesu. Pwnc y ddarlithyw ‘Achos Cwymp Protestaniaid yngNghymru’. Erbyn 2012, yn ôl y ddarlith, maeCymru wedi ennill ymreolaeth ond wedi colliei chrefydd Ymneilltuol. Mae’r wlad hefyd weditroi’n ôl at Gatholigiaeth Rufeinig gan fod yreglwys honno yn rhoi mwy o statws i’rGymraeg ac yn gosod pwys ar adfer hunan-barch y genedl. Lle bo mesur o hunanlywodraeth a cholli Protestaniaeth yn ycwestiwn, erbyn 2012 roedd Emrys ap Iwanyn bur agos i’w le.Yn y ‘freuddwyd’ mae’r awdur yn cynnig sawlrheswm am gwymp Protestaniaeth yn eingwlad. Dywed, er enghraifft, nad cyfundrefnyw Protestaniaeth oherwydd mai ymwrthodyw ei man cychwyn hi. Llwyddodd i barhaucyhyd drwy wadu ei hegwyddor fawr ei hun,sef bod dyn i farnu drosto’i hunan.Un o gas bethau Emrys ap Iwan oedd polisiei enwad o agor achosion Saesneg yngNghymru – yr ‘Inglis Côs’. Nid oedd ganddowrthwynebiad i bregethu yn Saesneg, bu’ngofalu am eglwys fechan Saesneg Caergwrleam ychydig amser, ond roedd yn gandryll ynerbyn agor eglwysi Saesneg a phawb o’ihaelodau yn Gymry Cymraeg, rhai ohonyntyn wir heb allu deall Saesneg hyd yn oed.Brwydrodd Emrys ap Iwan yn erbyn y polisihwn gan ddod dan ffrewyll neb llai na’i gynbrifathro yn y Bala, y Dr Lewis Edwards.Gwrthodwyd ei ordeinio yn 1881 oherwydd eisafiad ond yn 1883 fe ddaeth yn weinidogordeiniedig ar eglwysi yn nyffryn Clwyd. Bu’ngwrthod rhoi tystiolaeth yn Saesneg yn y llysac ar un achlysur, anfonwyd bom ato drwy’rpost gyda’r bwriad o’i ladd.Eleni mae Cwmni Dalen Newydd wedi ail-gyhoeddi’r Freuddwyd gan ychwanegurhagymadrodd treiddgar gan y dihafal DafyddGlyn Jones, Bangor. Pris y llyfr yw £8. Gobrin y cewch well breuddwyd na hon yn 2012.

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn Ffordd Salop,

    Y Trallwm. Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

    Gwaith tractor yn cynnwysTeilo â “Dual-spreader”Gwrteithio, trin y tir â

    ‘Power harrow’,Cario cerrig, pridd a.y.y.b.

    â threlyr 12 tunnell.Hefyd unrhyw waith ffensio

    Cysylltwch â Glyn Jones:

    01938 82030507889929672

    Contractwr Amaethyddol

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    BECIAN DRWY’R LLÊNgyda Pryderi Jones

    (E-bost: [email protected])SCroesair 183- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -(12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

    Enw: _________________________

    Cofiant newydd y Dr Kate Roberts gan AlanLlwyd oedd y llyfr a goncrais dros y Nadolig!Dyma ichi stepan drws o lyfr 400 a rhagor odudalennau! Mae’n gampwaith o gyfrol sy’ncroniclo bywyd a gwaith “Brenhines ein llên”yn fanwl ac yn ddifyr iawn. Fe gafodd fywydcaled ar sawl ystyr, yn rhychwantu dau ryfelbyd a bu ei bywyd yn gyfres o golledion athrasiedïau, y naill ar ôl y llall. Yn wir, pan forhywun yn meddwl bod pethau ar wella iddi -bod haul ar fryn ac y daw blodau yn hytrachna chwyn, y mae rhyw golled neu anffawdneu salwch yn dod i’w rhan unwaith eto.Mae yna ryw eironi mawr yn y ffaith bod eistraeon byrion a’i nofelau yn sôn am dlodi,am galedi ac am dalu dyledion tra bod eibywyd ei hun yn frwydr i ddod â dau ben llinynynghyd. Gwraig oedd hi a weithiodd ynddiflino ac yn ddigyfaddawd dros Gymru a’riaith Gymraeg. Bu ei dycnwch fel athrawesyn y de, ei gwaith gyda’r Faner a Gwasg Geeyn Ninbych a’i chyfraniad aruthrol i’nllenyddiaeth yn llafur cariad oes. Mae darllenei hanes yn dangos i ni heddiw beth ydyaberthu a gweithio dros y pethau hynny sy’nbwysig inni.Ym mhentref Llansannan, rhyw ddeng milltiro Ddinbych y cefais i fy magu ac mae gen igof plentyn o fod y tu allan i Inffyrmyri Dinbychtra roedd fy nhad yn mynd i weld cleifion yno.Cofiaf yn iawn iddo drio fy annog i ddod iweld y claf enwog iawn a oedd yno ar y pryd,y Dr Kate Roberts! Roeddwn wedi clywedmae’n rhaid nad oedd yn rhyw hoff iawn oblant ac roedd gen i ei hofn hi am fy mywyd!Aros yn y car, hen Fiat 128 melyn wnes ifelly, ac mi rydw i yn edifar am hynny hydheddiw!Sôn am ofn, ac arswyd, stori Eifion JonesBlowty, Llangadfan ddaeth yn fuddugol ynadran ieuenctid Eisteddfod y Foel fisTachwedd. Disgybl da ydy Eifion, talp oGymreictod a da o beth fyddai cael llawermwy o rai tebyg iddo ym Mhrifysgol Llanfair!Dyma’i stori.

    Cyfrinach y CysgodDyn ifanc oedd Dai, dyn tal. Roedd ganddowyneb crwn, wyneb bochgoch, llygaid glasdireidus a gwallt du melfedaidd. Ffermio oeddbywoliaeth Dai ac roedd wrth ei fodd âgwartheg ond roedd hyd yn oed yn wellganddo beiriannau, peiriannau mawr, llydan.A dweud y gwir roedd Dai yn waeth naphlentyn gyda’i deganau.Roedd hi yn ddechrau Gorffennaf ac roeddDai wrthi, fel pob mis Gorffennaf yn troi neuaredig rhyw ddarn bach o dir. Roedd wedidechrau aredig un bore, aredig cae deunawcyfer. Erbyn nos roedd Dai tua chwarterffordd, felly gadawodd ei dractor Massey 4260o dan goeden dderwen dal a’i chychwyn hiam adref. Erbyn hyn roedd hi yn dywyll felbol buwch ddu ac roedd Dai yn ceisio ei orauglas i gyrraedd adre am ei swper, ond roedde’n ei ffeindio hi’n anodd cerdded trwy’r niwltrwchus a oedd yn flanced dew ar waelod ydyffryn. Ni allai Dai weld dim.

    Ond yna daeth fflach o olau .Golau cryf oedd o ac roedd o fel dau lygadfelen lydan.Trwy lwc i Dai, ei gymydog oeddo, Eurwyn drws nesaf. Sgrialodd Eurwyn i stopwrth ymyl Dai a gofyn “Be ti’n neud fama ynganol y niwl ma?” “Di bod yn aredig Pant-yr-Eurych,” atebodd Dai. “Ti am reid ?” cynigioddEurwyn “Pam lai” ac ar hynny neidiodd Dai ifewn i’r open top pick-up tryc.Bu Dai ac Eurwyn yn cloncian am brisiau’rfarchnad a materion amaeth. Dyma oriawrEurwyn yn canu rhyw s@n od a dirgel. Nichymerodd Dai nag Eurwyn sylw o’r s@n. Wrthi Dai ac Eurwyn nesu am adref goleuodd yrawyr yn llond o olau glas fflachiedig a s@naflafar y gwasanaethau brys. Roedd ynaddamwain ac roedd y ffordd ar gau. “Blydiholiday makers o’r Midlands” dwrdiodd Eurwyndan ei wynt wrth drio troi’r open- top- pic- up-tryc. Doedd dim amdani ond mynd yn ôl idroiad y ffordd gefn. Roedd hi yn nesu atunarddeg o’r gloch erbyn hyn.Bu Dai ac Eurwyn yn trafeilo am ryw bumdegmunud yn yr open top pic up tryc. Torrwyd arddistawrwydd y ddau pan floeddiodd Eurwyn“Rhaid fi stopio i biso” ond cyn iddo allu dod ohyd i le call i stopio canodd ei oriawr eto, yrun s@n dirgel yna eto. Neidiodd Eurwyn allano’r open top pick up tryc. Gwrandodd Dai ynddwys er mwyn clywed cân yr oriawr ond nids@n yr oriawr a glywodd ond s@n dillad ynrhwygo. Yna daeth s@n fel taran wrth i lawdaro ochr yr open top pic up tryc . Nid llawdyn oedd hon ond llaw anghenfil. RhewoddDai yn ei unfan, gallai glywed ias oer yn rhedeglawr ei gefn syth. Gafaelodd y llaw yn handlendrws y teithiwr a’i rwygo yn agored. Nid yrEurwyn go iawn oedd hwn ond anghenfil ganolnos ar leuad llawn. Roedd holl gorff Dai wedirhewi wrth i’r llaw fawr flewog afael yn ysgwyddDai a ……………………….!!

    Go dda’n de! Gorffen Limrig oedd GwaithCartre mis diwetha a dyma’r un gorau ddaethi law, gan ‘Yr hen lwynog’

    Gwaith CartrefPwy sy’n cofio rhai o’r cymeriadau yng ngwaithKate Roberts, ‘Brenhines ein Llên’?

    Wrth ddathlu y Calan tro d’wethaFe gafwyd digwyddiad go smala Gollyngodd Groe rech Gwenllian ‘rodd sgrechNes deffrodd y babi yn ei bola!

    Cydymdeimlwn yn ddiffuant â Mr Ieuan Tho-mas. Bu farw ei frawd, Mr Dewi Tomos ynddiweddar. Roedd Dewi yn gyn athro ac ynawdur sawl llyfr. Roedd hefyd yn un o’r rhai aweithiodd yn galed i adfer cartref Dr KateRoberts yn Rhosgadfan gan sicrhau bod yrhai a ymwelai â’r bwthyn a’r ardal gyfagosyn cael cipolwg gwerthfawr ar fywyd ychwarelwyr yn yr oes a fu.

    Ar draws1. Heb fod o’r blaen (5)4. Heb lygredd (3)6. Wedi cuddio mewn twmpath (3)7. Tir Pori ger y felin, Llanfair (3)8. Anifail mawr du (7,2)10. Person mawr trwsgl (7)11. Gwlad nid ia! (5013. Cerbyd ysgafn a lemonêd (3,3)15. Am yr ail waith (6)18. Aiff troseddwyr o flaen rhain (2,5)20. Eglwys nesaf i Lanfair ar y A458 (9)23. Tir na? (3)24. Mae un gan Feibion Penrhyn (3)25. Dônt ar ôl C (1,1,1)26. Heb golli amser (5)

    I lawr1. Amser anrhegu (7)2. Dechrau adnod am gennad (4,5)3. Cyn heddiw (3)4. Lliwio’r hwntws! (6)5. Ansawdd o fod yn wir Seisnig (7)6. Disgrifiad o’r t~ bach (3)9. Gwlad yr Yanci (1,1,1)12. Cyn yr alwad am weini’r cledd (9)14. Pam fod rhywun yn hen lanc? (3)18. Gêm peli’r tafarndai (3)21. Rhan o ddydd (3)22. Hen arian (3)

    Atebion 182Ar draws: 1. Pen draw byd; 8. Gweli; 9. Erw; 10.UDA; 11. Yngan; 12. Iechyd; 13. Ail enw; 15.Brodyr; 18. Sebon; 20. Iorwg; 21. Ond; 22. Law;23. Teyrn; 24. Lefel uchafI lawr: 2. Efengyl; 3. Dad; 4. Aderyn; 5. Bowliwr;6. Dau ych; 7. Mab Darogan; 8. Gwyn ap Sion;14. Derwydda; 17. Trywel; 19. Bedol; 23. TocUn ymateb gan Olwen ac yn gywir. Diolch iddi.Mae hwn yn haws, felly disgwyl mwy o ymateb!

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 99999

    DOLANOG

    Y Ganolfan GymunedolMae pwyllgor y Ganolfan yn trefnu sawlgweithgaredd dros y misoedd nesa, gydachroeso i unrhyw un ymuno â nhw. Dyma raidyddiadau i roi yn eich dyddiadur:Sgyrsiau gan ‘Ein Cynrychiolwyr’Sgyrsiau gan ‘Ein Cynrychiolwyr’Sgyrsiau gan ‘Ein Cynrychiolwyr’Sgyrsiau gan ‘Ein Cynrychiolwyr’Sgyrsiau gan ‘Ein Cynrychiolwyr’Cynhelir rhain yn y Ganolfan am 7.30 o’rgloch. Mynediad yn £3 gan gynnwys lluniaethysgafn.Nos Fercher, Chwefror 1af. Tom Jones, PlasCoch, Dolanog. Gwaith Cyhoeddus yr UEayyb.Nos Lun, Chwefror 6ed. Chris Lea, Glan-y-Rhyd, Dolanog. Gwasanaethau TechnegolY Cynulliad.Nos Fercher, Chwefror 15ed. Barry Thomas,Llangynyw. Cyngor Sir Powys.Nos Wener, Chwefror 17eg. Glyn Davies, AS.T~’r Cyffredin.Boreuon CoffiBoreuon CoffiBoreuon CoffiBoreuon CoffiBoreuon Coffi25 Chwefror, 31 Mawrth, 28 Ebrill, 26 Mai.

    MEIFODMarian Craig01938 500440

    Llongyfarchiadaui Rachel Andrew, T~ Cerrig a Bethan Watkin,Llangynyw, y ddwy yn aelodau o GlwbFfermwyr Ifanc Dyffryn Efyrnwy. Mae Bethanwedi cael ei dewis yn Aelod y Flwyddyn aRachel yn Aelod Ifanc y Flwyddyn o GlybiauFfermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn. Da iawn chiferched.

    Sefydliad y MerchedAelod o’r Clwb Ffermwyr Ifainc sef CatherineBennet oedd y siaradwraig yn y Sefydliad ymmis Ionawr. Rhoddodd Catherine gyflwyniaddiddorol dros ben am ei thaith i Kenya gyda’rFfermwyr Ifanc lle buont yn helpu ar wahanolweithgareddau yn ystod eu arhosiad yna.Roeddent wedi cael amser gwych yn ôl pobgolwg. Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd swperwedi ei baratoi gan yr aelodau.

    Clwb Forget Me NotGan nad oedd siaradwr gwadd ym mis Ionawr,mwynhaodd yr aelodau siawns i gael sgwrsioa chael te blasus wedi ei baratoi gan Glenysa Marian. Mae’r Clwb wedi derbyn cyfraniadauhael gan Glwb COBRA ac hefyd gan Gapelyr Annibynwyr. Diolch yn fawr iawn iddynt.

    Prawf GyrruLlongyfarchiadau i Ieuan Williams, Newbridgesydd wedi llwyddo i basio ei brawf gyrru ynddiweddar. Pob dymuniad da i ti Ieu a chymerofal!

    Ysgol MeifodAr ddechrau tymor newydd, braf yw croesawutri phlentyn newydd i’r dosbarth meithrin, sefBethan Owen, Logan Gwalchmai a LoganChisholm. Gobeithio y byddant yn hapus iawnyn yr ysgol.

    S4CMae S4C wedi bod yn y pentref yn ffilmio felrhan o raglen ar Sir Drefaldwyn yn erbynPeilonau. Buont yn ffilmio plant yr Ysgol Sulyn perfformio stori’r geni, drwy ddechrau ynyr Eglwys a cherdded drwy’r pentref (gydamul bach o’r enw Harri) i’r llety (y King’s Head)ac i’r stabl lle roedd gweddill y stori yn cael eihadrodd a’r gynulleidfa yn canu carolau.Edrychwn ymlaen at gael ei gweld ar y teledu.

    Clwb Pêl-droed MeifodMae newidiadau wedi digwydd yn y Clwb ynddiweddar. Maent wedi cael rheolwr newyddar ôl i Geoff Wittal ymddeol. Mae Paul Lewiswedi llenwi’r bwlch, gyda Jamie Davies ynIs-reolwr ac mae Mike, brawd Jamie wediymuno â’r tîm, y tri ohonynt yn hen blantMeifod. Maent wedi cael tymor siomedig iawnhyd yn hyn, ond gobeithio y bydd y tri ymayn gwneud gwahaniaeth ac yn symud y clwbyn ei flaen ac ar i fyny.

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd gan CatrinHughes, a Gwasg y Lolfa, Talybont

    sydd yn ei agraffu

    Huw Lewis

    Ffôn: Meifod 500 286

    Post a Siop Meifod

    Elsie GittinsBu farw Mrs Elsie Gittins yn 92 mlwydd oed dros gyfnod y Nadolig. Yn wreiddiol o Frystedaeth i fyw i Ddolanog yn dilyn ei phriodas â Mr Ynyr Gittins a bu’r ddau yn cadw’r siop yn ypentre am flynyddoedd lawer cyn eu hymddeoliad i ardal Croesoswallt. Roedd hanes y siopyn Nolanog yn un chwedlonol yn ystod yr adeg pan fu Ynyr Gittins yn ei rhedeg, a bu Elsie eiwraig yn gefn mawr iddo gyda’r gwaith. Roedd na feddwl mawr o’r ddau yn yr ardal.Cynhaliwyd y Gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Amwythig, a chydymdeimlwn â Geraint aLinda Gittins Y Faeldref, (nai i Ynyr Gittins) yn eu colled.

    A oes arnoch angen glanhaueich simnai cyn y gaeaf,

    neuhoffech chi brynu coed tân?

    Cysylltwch â Richard JenkinsPont Farm

    Betws Cedewain, Y DrenewyddFfôn: 07976872003 neu

    01686 640 906

    Bryn Haslam y Plymwr01686 630 159 07854508883

    Trin boeleri, gwresogigwyrdd, gwresogi o

    dan y llawr,a phob agwedd ar

    waith plymio

    PLYMIO A GWRESOGI

    Gwasanaeth proffesiynol,

    dibynadwy a fforddiadwy

    Dosbarthiadau ArlunioTrefnydd: Nelian Vaughan-Evans T~’r Ysgol.Saith dosbarth, pob pythefnos ar bnawn ddyddMawrth am 2 o’r gloch yn y Ganolfan.14 Chwefror, 28 Chwefror, 13 Mawrth, 27Mawrth, 10 Ebrill, 24 Ebrill, 8 Mai.Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Nelian(01938 811961).Cinio G@yl DewiCinio G@yl DewiCinio G@yl DewiCinio G@yl DewiCinio G@yl DewiMawrth 3ydd am 7.30 o’r gloch yn y Ganolfan.Adloniant gan Barti’r Ogof. Tocynnau gan yrYsgrifennydd – Felicity ar 01938 810901Helfa wyau’r PasgSadwrn 7ed Ebrill.Arddangosfa Hen Luniau DolanogArddangosfa Hen Luniau DolanogArddangosfa Hen Luniau DolanogArddangosfa Hen Luniau DolanogArddangosfa Hen Luniau Dolanog -Mai 5ed -7ed - i gyd-fynd gyda’r llyfryn syddar y gweillOs oes gennych luniau neu ddogfennau iwneud â Dolanog a’i thrigolion beth am fyndat i chwilio amdanynt. Mae modd gwneudcopiau o bob dim fel bod y lluniau gwreiddiolddim yn mynd allan o’ch meddiant. Mae misneu ddau i fynd tan yr arddangosfa – digon oamser i chi ddod o hyd i’r trysorau yna.Cysylltwch ag Emyr ar (811299), Felicity ar(810901) neu Linda ar (810439).

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    CynefinCynefinCynefinCynefinCynefinAlwyn Hughes

    Cofio Emlyn T~ Isaf – Cyfaill,Cofio Emlyn T~ Isaf – Cyfaill,Cofio Emlyn T~ Isaf – Cyfaill,Cofio Emlyn T~ Isaf – Cyfaill,Cofio Emlyn T~ Isaf – Cyfaill,cymwynaswrcymwynaswrcymwynaswrcymwynaswrcymwynaswr, cerddor, cerddor, cerddor, cerddor, cerddor, Cristion a, Cristion a, Cristion a, Cristion a, Cristion aChymro i’r carnChymro i’r carnChymro i’r carnChymro i’r carnChymro i’r carn

    “Os hoffech wybod sut mae dyn fel fi yn byw,Mi ddysgais gan fy Nhad

    grefft gyntaf dynol ryw”

    Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r geiriau uchod,ond fe fedrent fod wedi’u hysgrifennu gan ydiweddar Emlyn Evans, T~ Isaf, Rhiwhiriaetha fu farw’n dawel arIonawr 21ain yn 95mlwydd oed.Adwaenid ef ganbawb fel Emlyn neuEm T~ Isaf a bu’nun o hoelion wythyr ardal hon amgyfnod maith.Daeth y teulu i T~Isa yn 1910 odyddyn y Ffactriyng NghwmC o w n w yLlanwddyn. Feanwyd Emlyn, athreuliodd ei oesfaith o dan yr untocyn huno’n dawelyn ei gwsg yn ôl eiddymuniad.Dyn y tir ydoedd o’igorun i’w sawdl acroedd parch mawriddo fel amaethwr.Roedd gan y ddafadbenfrith le cynnesiawn yn ei galon, achredai y dylent fyw “ar eu dannedd” gymaintag oedd yn bosib. Credai’n gryf fod gormodo borthi gyda dwysfwyd yn digwydd ar einffermydd heddiw. Tystia’r gwobrau yn ycwpwrdd gwydr i allu’r tad a’r mab fel magwyrstoc – enillwyd y bencampwriaeth i ddefaidpenfrith yn y Sioe Frenhinol yn Llanelweddac roedd galw mawr amdano fel beirniad drosgylch eang.Roedd ganddo doreth o atgofion am yr henddulliau o amaethu ac roedd ganddo dalentnaturiol gyda chreaduriaid yn enwedigceffylau. Bu’n prynu merlod a cheffylaugwedd cyn belled â’r Drenewydd cyn eucerdded adre a’u torri i fewn. Roedd ganddofeddwl y byd o’r llun ohono gyda’r ddeuben ogeffylau gwedd a welir ar y dudalen hon.Roedd yr “hen gaseg ddu” a welir yn y gwysyn ffefryn mawr ganddo a chyfeiriai at y llunhwn yn aml. Tystia’r llun gystal trowr ydoedd– gwelir fod y cwysi cyn sythed â hoelion acroedd yn feistr ar y gamp heb amheuaeth.Arferai gerdded gwartheg, ceffylau a defaid iorsaf y trên bach yn Llanfair er mwyn iddyntgael eu gwerthu ym marchnad y Trallwm.Arferai gadw moch ar y fferm a deuai pobl ahychod at y baedd i T~ Isaf. Cofiaf ef yndweud mai dim ond punt o elw a wnaed ynystod y flwyddyn olaf pan gadwai foch. Roeddyn mynd o amgylch yr ardal i ladd moch ynogystal – rhoddodd yr offer a ddefnyddai i mirai blynyddoedd yn ôl – sticer i ladd y mochyn,

    sgrafell i grafu’r blew i ffwrdd a rasal ‘cut throat’a ddefnyddid i siafio’r croen yn lân – y cwblmewn bag o ddefnydd gyda Kit Kat wedi’iysgrifennu arno!Bu’n torri gwair ac ~d gyda’r bladur, adangosodd yr hen bren grit, y corn grit, y cornbloneg a’r darn lledr a ddefnyddiai i hogi’rbladur cyn dyddiau’r garreg hogi. Sonioddhefyd am weld rhywun yn gwaedu ceffyl, seftorri archoll yng ngwythien y gwddf gyda fflaima phren gwaed. Ar ôl gollwng y gwaed,rhoddwyd pwyth yn y wythien cyn rhoddiychydig o dar poeth dros y briw. Credai’r henbobl fod gwaedu anifeiliaid yn llesol ar gyfergwella rhai afiechydon a gâi anifeiliaid y fferm.

    Cofiodd weldbustach yncael ei laddmewn lladd-dy yn Llanfairpan drawyd efar ei dalcengyda bwyellarbennig aelwid yn ‘poleaxe’ cyn i’rbroses fod ynanghyfreithlon.Roedd brimawr ar yfarchnad ynLlanfair asoniai amddigwyddiadaumegis ‘FfairJones yGraig’. Yradeg honnoroedd popethar gael ynLlanfair (neu‘Llan’ fel ygalwai ef ylle). Cofiai

    fynd â cheffylau at y gof i’w pedoli a chofiai’rcwper yn gwneud bariliau a buddeiau allan ogoed derw, cyn i’r gof eu cylchu. Roedd ynaelod o’r Home Guard ac adroddai straeonam yr helyntion a gawsant.Mae’n debyg fod Emlyn wedi mynychuugeiniau oangladdauyn eia m s e r .Pan oeddyn ifanccofiai weldhers adynnid gangeffylau ync r o e s i ’ rrhosydd ig y f e i r i a dC a p e lH o r e b .R o e d dcludo’r archar elor (bier)yn bethc y f f r e d i niawn bryd hynny hefydCyfarfu Emlyn â’i ddiweddar wraig, Mrs LlinosEvans, pan ddaeth hi i weithio i Swyddfa’rPost yn Llanfair. Cofiwn am Mrs Evans felgwraig garedig a chroesawgar – bu’n ohebydd

    ardal Rhiwhiriaeth i’r papur hwn amflynyddoedd lawer, yn hollol ddibynadwy acyn ofalus iawn wrth gasglu’r newyddion.Cafodd Emlyn ergyd drom ar ôl colli ei gymarac fe barhaodd yr hiraeth hyd y diwedd.Bellach cafodd ei ddymuniad ac maent gyda’igilydd unwaith eto.Roedd Emlyn yn enwog am ei ddawn felcerddor yn ogystal. (Mae Emyr yn manylu’nfwy ar yr agwedd hon yn ei deyrnged gynnesef). Bu’n aelod o Gôr Meibion LlanfairCaereinion ers ei ffurfio yn y 1950au, a bu’narweinydd am dros ddegawd. Bu Emlyn acArwyn yn hynod o ffyddlon i’r Blygain yn yrardal a hwy oedd asgwrn cefn Plygain Seiloers ei sefydlu ynghanol pumdegau’r ganrifddiwethaf. Mynychodd Emlyn blygain Seilotua phythefnos cyn iddo ein gadael a’imwynhau fel arfer. Dyma’r tro olaf iddo fyndallan i rywle cyhoeddus.Roedd yn aelod o Orsedd Powys ersblynyddoedd a’i enw barddol oedd DewiEmlyn. Ef oedd un o ffans mwyaf CwmniTheatr Maldwyn ac fe fuasai wedi ei blesio’nfawr fod Linda wedi chwarae ychydig o’icherddoriaeth wych pan ddaeth y teulu i mewni Gapel Seilo ar ddydd ei angladd.Rhestrodd ganu’r cwmni ymysg ei hoffgerddoriaeth ynghyd â’r Meseia gan Handela dywedodd fod hen garolau’r blygain yn taniorhywbeth arbennig yn ei gyfansoddiad. Uno’i hoff emynau oeddMi dafla maich oddi ar fy ngwarwrth deimlo dwyfol loesCanwyd y geiriau ar y dôn T~ Ddewi gydagarddeliad yn y gwasanaeth angladdol a dwi’nsiwr iddo gael ei blesio o rywle “tu hwnt i’rllen”, fel y dywed Emyr.Roedd Capel Seilo’n fangre gysegredig iawni’r teulu a dilynodd Emlyn ei dad felysgrifennydd a blaenor yno. Roedd ArwynGroe a minnau yn sefyll yn y porth gyda Les,David Glandwr a Geraint Peate yn ystod ygwasanaeth angladdol a braint oedd caelcadw cwmni iddo yn y fan honno. Meddyliaissawl gwaith y cerddodd i mewn i’r capel hwnmewn bron i 96 o flynyddoedd – miloedd oweithiau mae’n siwr!Daeth tyrfa enfawr i dalu’r gymwynas olaf arbrynhawn hyfryd a chafwyd gwasanaeth

    p a r c h u si a w n .D o e d dEmlyn ddime i s i a uteyrnged – iddweud ygwir doeddm o ’ ih a n g e noherwydd few y d d a i ’ rdorf yniawn am eirinweddauniferus –doedd dimangen euhatgoffa.Bu yn

    naturiaethwr craff ac yn ddyn gwn ar hyd eioes. Dywedodd wrthyf yn aml mai dim ondun gystadleuaeth colomennod clai afynychodd erioed, a honno yn ATBRhiwhiriaeth pan enillodd gan saethu dwy ar

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 1111111111

    Fe ddaeth y llun uchod i’m rhan gan MavisLewis, Firbank, gwraig Now sydd yn fachgentua deg oed yn y llun a meddyliais am eindiweddar ffrind a llawer o ffrindiau eraill syddyn y llan hwn.Llun ydyw o Gwmni Drama Llanfair Caereiniona enillodd y Tlws Drama Hir yn EisteddfodGenedlaethol Dolgellau 1949 yn perfformio‘Awel Gref’ dan y cynhyrchydd y diweddarannwyl R Parry Jones a ‘aeth i’w fedd ynfonheddwr’ chwedl Emrys Roberts.Pedwar sydd ar ôl bellach o’r cwmni hwn, sefElwyn Davies y Trallwm, Dilys Watkins,Llanfair, Alwena Jones, Ynys Môn ac EnaLewis, Gwaelod yr Haf.Mae’r llun ei hun yn llawn atgofion amarwolaeth Emlyn yn 95 oed sydd yn ysgogi’rmeddwl.Mae Emlyn i’w weld yn y rhes flaen ac ar ychwith yn llencyn 32 oed, ac yn wir, rhywbethyn debyg oedd, tan yn ddiweddar iawn.G@r ei filltir sgwâr, g@r a gafodd ei eni ac a fufarw yn Tyisa, g@r ardal Seilo, a Seilo a’rBlygain flynyddol oedd ei holl fywyd. Fefynnodd fod yn y Blygain eleni, ac yn y swperwedyn, dyn o benderfyniad oedd Emlyn ahyfryd oedd ei weld.Cyd-ddigwyddiad trist oedd i Emlyn a DorisRoberts farw eleni ym mis Ionawr, y ddau wedicyd-weithio fel arweinydd a chyfeilydd CôrMeibion Llanfair am un ar ddeg o flynyddoedd.Meddai Emlyn ar allu rhyfeddol ym myd ycanu. Dywedid amdano ei fod yn un o’r‘solffeuwyr’ cywiraf yn y cylch, a meddai arlais bâs naturiol a chyfoethog. Golygfaflynyddol yn y Plygeiniau oedd y Tad a’r mabyn canu fel deuawd. Rwy’n cofio dysgu achanu ‘Craig yr oesoedd’ ar gyfer EisteddfodLlanfair – Powys dwi’n meddwl?Yr oedd hefyd yn arbenigwr ar ddefaid ac os

    bymtheg heb fethu’r un. Saethodd gannoeddo gyplau o wningod a thwr go dda o ffesants.Buasai’n gwenu’n dawel pe gwyddai fod dego ffesantod ar wtra T~ Isa y pnawn cyn eiangladd!Treuliais lawer o oriau yn ei gwmni yn ystody blynyddoedd diwethaf pan oedd yn gaethi’w gadair. Byddwn yn mynd â bocsied o hengreiriau yno’n aml a chaed sgwrs ddifyr wrtheu trafod bob yn un.Cofiaf Arwyn ac yntau’n dod draw rhywbrydgyda llond pick up o hen greiriau – llawerohonynt yn gêr y ceffylau gwedd yr oedd morhoff ohonynt. Cyflwynodd imi yr hen eirfa aaeth ar goll bellach – strodur, mwnci, tinbren,tresi blaen, crwper, bacbon, belibon, cefndres,awen ac yn y blaen.Nid anghofiaf byth am ei garedigrwydd ac maegennyf feddwl mawr o’r holl hen greiriau addaeth o T~ Isa.Cyfeiriais at Arwyn, y mab, eisoes ac nid oesraid eich atgoffa am yr hyn a wnaeth i’w rieni.Yn wir nid yw’n ormodiaith ei gymharu â sant.Dangosodd gariad, consyrn a gofal anhygoeltuag at ei Dad a’i Fam. Fe fydd bwlch mawrar ôl y Boss (fel y galwai Arwyn ei Dad) ondfe gaiff gysur mawr o’r ffaith iddo wneud eiorau iddo hyd y diwedd, gan wireddu eiddymuniad o gael huno gartref a hynny yn eigwsg. Cydymdeimlwn yn ddwys ag ef fel ardalyn ei golled.Nid anghofiwn am Emlyn tra bydd Arwyn ogwmpas – mabwysiadodd rinweddau ei dadfel cymwynaswr ac amaethwr gofalus.Defnyddiodd Emyr nifer o eiriau teilwng iddisgrifio Emlyn ac fe hoffwn innauychwanegu eraill: - Cymro i’r Carn,cymwynaswr caredig, gwerinwr diwylliedig,amaethwr amryddawn, g@r bonheddig, ffrindannwyl a ffyddlon a Christion cywir.Hoffais yr hyn a ysgrifennwyd ar y daflenangladdol yn fawr – gwasanaeth oddiolchgarwch a dathliad ydoedd. Roedd ydyfyniad o Garol y Swper yn hynod o effeithiol–“Mae’r dwylo fu dan hoelion yn derbyn plantafradlonI wlad y Gannan nefol i wledda yn dragwyddol.Amen, Amen. Boed moliant byth, Amen.Haleliwia i’r Meseia sy’n maddau byth. Amen.Fydd bywydau llawer ohonom ddim cweit yrun fath ar ôl ymadawiad Em T~ Isa. Braintac anrhydedd oedd cael ei adnabod ac roeddyn enghraifft o ‘Fwynder Maldwyn’ ar ei orau.Gorffwysed mewn hedd yn y pridd yr oeddmor hoff ohono.

    BETH SYDD MEWN LLUNWRTH GOFIO AM EMLYN, TY ISA

    oes gennych hen rifynnau o’r Plu y mae llunohono ac Arwyn gyda hwrdd buddugol yn rhywsioe neu gilydd.

    Os ydych chi a chriw o ffrindiau â diddordeb mewn caelgwersi drwy gyfrwng y Gymraeg yn eich cymuned e.e.

    mewn celf, technoleg, archeoleg,gweithdy gemwaith arian a.y.y.b

    cysylltwch â Lynda Jones neu Nia Llywelyn 01686 610270

    Bill Griffiths, Emlyn a Bob, Brynglas ynEisteddfod Powys Llanfair 1990.

    Un ffaith ddiddorol arall yngl~n ag Emlyn oeddei fod yn un o’r olaf o fuddugwyr EisteddfodPowys, Llanfair Caereinion 1927. Y fo, oeddenillydd ar adrodd dan 10 oed ac yr oedd YsgolRhiwhiriaeth yn flaenllaw iawn fel enillwyr ynyr Adran Celf a Chrefft gyda nifer fawr o wobrau(ai Mr Hamer oedd y prifathro?).Petawn yn gorfod dewis pedwar gair iddisgrifio Emlyn fy newis fuasai hawddgar,cyfeillgar, gonest a thriw.Mae’n cydymdeimlad tuag at Arwyn ynddiffuant iawn, ac y mae yntau wedi eidrwytho yn y ‘pethe’ ac yn addurn i’r fro hon.Chwe blynedd yn ôl bu ffarwelio â’r annwylLlinos, ei wraig, ac wedi ei cholli hi, yr oeddhanner ei fodolaeth wedi mynd, a hiraethaiyn gyson ar ei hôl, ond, mae’r ddau bellachwedi eu huno drachefn...tu hwnt i’r llen.

    E m y rE m y rE m y rE m y rE m y r

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    PONTROBERTElizabeth Human,T~~~~~ Newydd 500493

    CydymdeimloCydymdeimlwn â Glenys Jones, Melindwr,sydd wedi colli cyfnither sef Edwina Augustino Orlando, Florida. Cydymdeimlwn hefyd âGwyn Evans, Tyisa. Bu farw ei nai, ArwelMorris o Faengwynedd.

    Cartref newyddAr ddechrau’r flwyddyn newydd, symudoddRussell a Heather, Yr Hendre, i fyw yngngogledd Cymru. Ganwyd Heather yn yrHendre dros hanner canrif yn ôl. Diolchwn ameich cyfraniad yn y gymuned a dymunwn ygorau i chi yn eich cartref newydd.Bu Gwylfa a Glenys James, Garreg Fach, ynbyw yn yr ardal hon am oddeutu hanner canmlynedd a buont yn weithgar dros ben yn ygymuned. Dymuniadau gorau i chi yn eichcartref newydd yn Meifod.

    DyweddïoLlongyfarchiadau i Mared Edwards,Aberdwynant, ar ei dyweddiad â Dylan oDdinas Mawddwy.

    GenedigaethLlongyfarchiadau i Linda Roberts, Llanwddyn,gynt o Fachwen Fach, ar ddod yn hen-nain.Ganwyd bachgen bach, Gethin, i’w hwyres,Ceri a’i phartner. Linda yw gohebydd Sefydliady Merched yma yn Llwydiarth.

    Pen-blwydd ArbennigLlongyfarchiadau i Morwenna Humphries,Llwyn Onn, ar ddathlu ei phenblwydd yn 70oed.

    Eglwys y Santes FairAr ddiwrnod olaf 2011, bu i’r Ficer, Y Parch.David Francis, ymddeol o’i swydd. Yn ystodei amser yma bu’n gaffaeliad mawr i’r achosgyda’i lais cerddorol, ei gyfeilio crefftus a’ibersonoliaeth gyfeillgar. Dymuniadau gorauiddo a’i wraig, Dorothy, ar ei ymddeoliad oddiwrth holl aelodau a ffrindiau yr Eglwysi a’rgymuned yn yr ardal hon.

    Sefydliad y Merched

    Pen-blwyddiLlongyfarchiadau i Gwyn Jones ar ddathlu ei90 oed ac i Eirlys Edwards, Bryn Awel syddwedi dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed.

    Dyweddiadau!Llongyfarchiadau i Bryn Jones, Tymawr aCeinwen Evans, Tynygarreg, Llanwddyn ac iGwyn Gwalchmai a Sarah Pryce o CrewGreen ar eu dyweddïad ar Ddydd Calan.

    Y Gymdeithas GymraegCroesawyd Mr Bryn Davies – cyn brifathroYsgol Gynradd Llanidloes ac arweinydd CôrLlanwnog atom i siarad am elusen maeynghlwm â hi, sy’n gyfrifol am anfon llyfrau iysgolion yn Swasiland i gynorthwyo plantdifreintiedig i ddysgu darllen. Mae’n gweithiolaw yn llaw efo Prifysgol Rhydychen. Diddoroloedd ei sgwrs a’r lluniau trawiadol iawn yndangos pa mor ffodus ydym yng Nghymrua’r wlad yma’n gyffredinol. Roedd ynddiolchgar iawn i’r ysgolion hynny a roddoddlyfrau iddo i’w trosglwyddo i’r fenter.

    Gwyn Jones ar ei ben-blwydd yn 90

    Gwnaed casgliad ar y diwedd tuag at yr achosteilwng iawn. Cynigiwyd y diolchiadau ganNia Rhosier a diolchwyd hefyd i’r gwrageddam y baned ar ddiwedd noson dda iawn.

    DamweiniauCafodd Bryn Jones Greenhill ddamwain efo’rbeic – bu raid cael llawer o bwythau a threulioun noson yn yr ysbyty.Hefyd cafodd Joyce Evans, Royal Oakddamwain a bu’n rhaid cael llaw driniaeth anoson yn yr ysbyty. Brysiwch wella’n llwyr.

    CydymdeimladCydymdeimlwn yn ddwys efo Ceris Robertsa John, Cofton yn eu profedigaeth o golli Dorismor ddisymwyth. Meddyliwn am y teulu igyd.

    Dechrau’r FlwyddynCafwyd cyfarfod dechrau’r flwyddyn yn yNeuadd dan nawdd y Wesleaid – cymerwydrhan gan Llinos a Brian Jones, Betty aMargaret Jones, Tegwyn Jones, Tymawr,Helen Davies, Margaret Herbert a MennaLloyd. Gwenan Jones oedd wrth yr organ aTecwyn yn codi canu. Cafwyd paned achymdeithasu ar y diwedd.

    LladronCafodd llond tanc o olew gwresogi ei ddwyno d~ ym Mhontrobert dros y Nadolig, acamharwyd ar ddwy set o oleuadau coedNadolig, un mewn t~ preifat a’r llall ar ygoeden yn ymyl y siop oedd wedi ei gosodgan y Cyngor Cymuned – trist iawn meddwlfod digwyddiadau o’r fath yn digwydd yn einpentre ni.

    Clwb CyfeillgarwchCynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ddechraumis Ionawr. Ail etholwyd y swyddogion –Arweinydd Rita Evans; Is-Arweinydd BerylJones a Gwen Jones; Ysgrifennydd SheilaTatlow; Trysorydd – Ken Tatlow; Ysgrifennyddy Cardiau – Menna Lloyd a threfnydd ygwesteion – Gwen Jones. Bydd y cyfarfodcyntaf ar y 7fed o Chwefror.

    Croesawodd ein Llywydd, MorwennaHumphreys, bawb i gyfarfod cyntaf 2012 ar 16ego Ionawr. Llongyfarchodd Catherine Bennett amddod yn Nain am y tro cyntaf a Linda Roberts arddod yn Hen Nain. Dymunodd wellhad buan i@r Glenys James, Gwylfa, ar ôl iddo dderbynllawdriniaeth yn ddiweddar, ac efo thristwchclywyd nad yw Dilys yn dda. Ar ôl mynd trwy’rCylchlythyr misol, a’i drafod, aethom ymlaen igroesawu Alwyn Hughes o Langadfan. RoeddAlwyn wedi dod â hen bethau a ddefnyddid‘amser maith yn ôl’ – ac roedd y rhan fwyafohonom yn eu cofio’n cael eu defnyddio!!Cawsom noson hwyliog a diddorol iawn yn eigwmni. Diolchodd Carolin Bakewell iddo.Ymunodd pawb am luniaeth ysgafn wedi eibaratoi gan Glenys James gyda chefnogaeth eimerch, Gwenan Davies. (Er bod y dynion wedicael gwahoddiad i ymuno a ni, dim ond un dyndewr oedd wedi mentro atom, sef Gwynfryn Tho-mas). Roedd Alwyn yn falch iawn o’i gwmni,meddai fo, am fod yr holl ferched o’i gwmpas!Ar Ionawr 7fed aethom am ein Cinio Nadolig iWesty’r Dyffryn. Ni chawsom ein siomi, cafwydbwyd a chroeso ardderchog fel arfer. Diolchunwaith eto i Mandy a’i staff.

    Catherine yn ymweld â Kenya

    Fis Hydref diwethaf aeth Catherine Bennett,Meifod ar ymweliad â Kenya. Trefnwyd ydaith gan Ffermwyr Ifainc Sir Drefaldwyn.Bu’r aelodau yn casglu arian ar gyfer creumaes chwarae newydd yn un o bentrefi tlawdKenya ac i adeiladu cut ieir i’r ysbyty lleol.

    Yn ychwanegol aeth yr aelodau ati i beintioun o’r ysgolion heb yn wybod i’r plant, a bucryn hwyl pan ddaeth y plant i’r ysgol ar ybore dydd Llun canlynol. Roedd yn brofiadbythgofiadwy i’r bobl ifanc a braf oedd gwybodfod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogiyn fawr iawn gan y gymuned leol.

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 1313131313

    Ffermio- Nigel Wallace -

    CynllunioCynllunioCynllunioCynllunioCynllunioYn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd 2011dywedodd y C.L.A. (Cymdeithas Tir aBusnesau Gwledig) fod y drefn gynllunio yngNghymru ‘yn dal i fod yn gymhleth ac ynlletchwith ac yn rhwystro busnesau gwlediga mentergarwch’. Hefyd soniwyd am yr‘hunllef’ yngl~n ag anghenion tai i ffermwyrsy’n ymddeol ac am ddarparu cyfleoedd i bobliau gymryd drosodd. Dywedwyd y deil hyn ergwaethaf canllawiau diwygiedig diweddar ganlywodraeth ganolog sydd hyd yn hyn heb gaeleffaith sylweddol ar awdurdodau lleol aswyddogion y parciau cenedlaethol.Hefyd yn y newyddion bu beirniadaeth benodolar swyddogion cynllunio yng Ngogledd Powysgan Bwyllgor Archwilio’r Cyngor. Bu hyn yn yCounty Times fwy nag unwaith. Beirniadwydy swyddogion am agweddau negyddol, oedi,diffyg eglurder am ofynion, mân-fiwrocratiaetha diffyg sylw i anghenion adfywiad economeg.Beirniadwyd hefyd feini prawf y drefn am ofynfel rhan o gynllun datblygu, am dai fforddiadwynad oedd yn cyfarfod ag anghenion y rhai agangen amdanynt, e.e. tai sy’n rhy fach ideuluoedd ifanc sydd angen t~ ger y gweithle.Mae angen rhoi sylw hefyd i effeithiolrwyddyn ôl profiad cymydog imi. Gofynnodd am ypum ffurflen gais sy’n angenrheidiol a’rcyfarwyddiadau. Derbyniodd un ffurflen aphum copi o’r cyfarwyddiadau! A oes angendweud rhagor?Mae’r uchod wedi fy ysgogi i ysgrifennu am ypwnc. Mae wedi bod yn fy meddwl ers tro oachos y nifer o hanesion am anawsterau aglywais gan bobl leol dros y blynyddoedd. Maeproblem sylfaenol yn y drefn oherwydd ygofynnir am bolisi manwl. Mae tuedd i luniohwn o safbwynt taclusrwydd gweinyddol ynhytrach na chyfarfod ag anghenion go iawn ybobl a’u busnesau. Yn y gorffennol, pan oeddcerdded y modd arferol o deithio i’r gwaith,darparwyd tai yn agos at y gweithle yn aml,e.e. diwydiannau’r chwareli a mwyngloddio.Hefyd ar ffermydd ac yn arbennig lle ygweithredid y drefn hafod a hendre. Yma codidail d~ ar gyfer y rhai a oedd yn gofalu am yranifeiliaid ar eu porfeydd haf.Heddiw mae diffyg polisi cydgysylltiedig.Mae’r adrannau sy’n ymdrin â’r Amgylcheddac ag Ynni yn annog pobl i leihau eu teithio.Ar yr un pryd mae’r drefn gynllunio’n hoffi tyrrupobl at ei gilydd mewn trefi neu ardaloedddynodedig ar gyrion pentrefi. Hefyd maeadrannau’r llywodraeth a busnesau mawr (ybanciau’n enghraifft dda) bob amser yn ‘gwellaeu gwasanaethau’ drwy gau swyddfeydd achanghennau sydd i gyd yn creu angen ideithio. Pan dderbyniaf lythyr am hyn - felarfer yn hirwyntog ac ar fwy o bapur nag sy’nangenrheidiol - fy ymateb cyntaf yw, “Bethmaen nhw wedi creu llanast ohono r@an?”Dyma enghreifftiau o anawsterau a brofwydgan bobl leol dros gyfnod o flynyddoedd. Bu’rrhan fwyaf o fewn ychydig o filltiroedd o’m t~felly beth yw’r hanes dros yr ardal cynlluniogyfan?1. Mab fferm a oedd eisiau t~ ar dir ar wahâni’r prif ddaliad. Er bod y safle yn agos at daieraill, bu brwydr hir a olygodd sawl cais a

    newid cynllun cyn cafwyd llwyddiant.2. Pâr ifanc â thyddyn a oedd eisiauadnewyddu’r t~ i fyw ynddo. Roedd y t~’n fachiawn ond gwrthodwyd cais i’w ehangu’n ddigoni gynnwys cyfleusterau modern sylfaenol.Hynny ar sail y buasai’r estyniad ynanghyfartal o fawr .3. Pâr ifanc â busnes fel contractwyr.Cawsant frwydr ofnadwy cyn llwyddo i godit~ ac adeilad ar dir teuluol er bod hwn yn agosat ffordd addas ac at dai eraill. Nid oeddgwrthwynebiad gan fewnfudwyr newydd ogymorth.4. Pâr ifanc eto sy wedi cael brwydr enfawr adrud i adnewyddu t~ fferm a oedd yn dechraudadfeilio ond a oedd hefyd yn gofrestredig.Ar un adeg o achos oedi biwrocratig agofynion ychwanegol, roedd perygl y buasai’radeilad yn cwympo yn gyfan gwbl drwyeffeithiau’r tywydd pe na bai gwaith yncychwyn yn gyflym.5. Dyn ifanc arall - hunangyflogedig felcontractwr ac felly angen mwy nag un cerbyd.Derbyniodd ganiatâd am fyngalo ger tai eraillond dim ond un garej yn lle’r garej ddwbl aoedd eisiau.6. Mae pobl a oedd am gael paneli haul affotofoltaidd wedi cael anawsterau i dderbynatebion clir a oedd angen caniatâd neu beidioa hefyd i gael caniatâd lle y dywedwyd bod eiangen.7. Cyfyngwyd ysgubor wedi’i droi’n d~ i wrestanwydd ffosil o achos gwrthodwyd caniatâdi simnai i stôf goed. Hefyd gorfodwyd i’rperchennog glymu stripiau plastig ar y ffenestriVelox i greu argraff o ddau ddarn o wydr ynlle un. Dywedwyd wrtho y buasai simnai’ndifetha golwg draddodiadol yr ysgubor. Cofiafhonno cyn ei newid fel adeilad hirsgwar bachâ tho sinc wedi rhydu - nid perl obensaernïaeth yn hollol!8. Mae o leiaf dau berchennog tir lleol sy wedicael eu herlid am agor a gwella mynediadauhir-sefydledig i’w tir.

    CasgliadCasgliadCasgliadCasgliadCasgliadRydym yn byw yn awr mewn cyfnod oamgylchiadau economeg tynn lle mae’nanodd rheoli busnes sy’n dwyn elw. Mae’nrhaid inni roi sylw i faterion amgylcheddol acarbed adnoddau. Ar yr un pryd mae’n rhaid ifusnesau ddatblygu i gyfarfod ag anghenionpoblogaeth sy’n cynyddu. Hefyd mae polisipresennol y llywodraeth i adfer yr economiyn dibynnu ar y sector preifat. Maebiwrocratiaeth yn achosi costau ychwanegolmewn sawl ffordd. Mae cost i wneud cais yny lle cyntaf, cost y gofynion ychwanegol aorfodwyd, cost o roi ail gais gyda’i gilydd,mae’n debyg, sy’n cynnwys ffioeddproffesiynol ychwanegol i baratoi hwn a’r gostychwanegol o ddeunyddiau o achos prisiausy wedi codi yn ystod yr oedi. Ar ben hynmae’r poen meddwl ar yr ymgeisydd. Tybedfaint o bobl sy’n cael eu troi oddi ar geisiogwneud pethau o gwbl gan hyn i gyd. Nid ywhi’n gynaliadwy bod ymdrechion cymaint obobl i wella eu busnesau yn cael eu rhwystroar bob tro. Mae’n hen bryd inni weld mwy ohwyluso a llai o fiwrocratiaeth.Ers imi ysgrifennu’r darn hwn, cyhoeddwyderthygl yn Y Tir/Welsh Farmer gan EifionBibby o Davis Meade Property Consultants.Mae’n egluro’r canllawiau newydd (TAN6) iawdurdodau cynllunio ac yn sôn am yr effaithgyfyngedig a welir hyd yn hyn.

    ADFARuth Jones, Pentalar

    810313

    AngladdYn syn ar y 15fed o Ragfyr bu farw Mrs MaryHughes, Minynant, Glandulas Drive,Drenewydd. Roedd yn ferch i Mr a Mrs Edwina Mair Turner, Pantycelyn, Adfa lle treulioddei phlentyndod yng nghwmni ei chwaer,Eluned a’i diweddar frawd, Hywel. MynychoddYsgol Pantycrai ac Ysgol Uwchradd Llanfair.Bu’r gwasanaeth angladdol yng Nghapel yrAdfa dan arweiniad y Parch Peter Williams arhoddwyd teyrnged gan Mr Geraint Peate.Cydymdeimlwn yn ddwys â’i phriod Gwilyma’i dau fab Allen a Keith, ei chwaer Eluneda’u teuluoedd a’r perthnasau i gyd yn euprofedigaeth.

    Gwasanaeth NadoligCynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yng Nghapelyr Adfa ar nos Sul y 18fed o Ragfyr.Cymerwyd rhan mewn darlleniadau gan NiaFoulkes, Marion Jones, Ivy Evans a SianFoulkes a chyflwynwyd y carolau gan EllisHumphreys, Ifor Evans, Eldon Jones, RuthJones a Maldwyn Evans. Cafwyd anerchiadac offrynwyd gweddi gan y Parch PeterWilliams. Paratowyd lluniaeth ysgafn ar ydiwedd gan y chwiorydd.

    Cinio G@@@@@yl DdewiEdrychwn ymlaen eto eleni at gynnal y CinioG@yl Ddewi blynyddol ar Nos Iau 27ain oChwefror. Mae Glandon Lewis wedi derbyngwahoddiad i fod yn @r gwadd a bydd PartiMoeldrehaearn yn diddanu. Croeso cynnes ibawb a chofiwch sicrhau sedd.

    Llongyfarchiadaui Chris Cookson a fu’n llwyddiannus iawngyda’i gwyddau a chwid yn y ‘National WelshPoultry Show’ yn Sir Benfro. Enillodd ybencampwriaeth efo’i gwydd American Buffa chipio tair prif wobr gyda’i Welsh HarlequinDuck. Mae’r brid arbennig yma o chwid yngynhenid i Gymru ac rydym yn falch iawn olwyddiant Chris gyda’i dofednod.Hoffai Chris ddiolch i’w holl gymdogionamaethyddol yn arbennig Roy, Mai, Paul aPhilip Richards, Andrew a Carol Jones ac Alana Joan Thomas, sydd dros y blynyddoeddwedi helpu i greu llyn i’r hwyaid, adeiladu cuti’r hwyaid, bwydo a dyfrio’r haid a chadw llygadar bethau pan mae hi ffwrdd yn arddangos eudofednod. Mae ennill PencampwriaethGenedlaethol yn waith tîm a hoffai ddiolch ynfawr iawn i bawb am eu cymorth sydd wedigalluogi i Chris gael y fath lwyddiant ym mydy dofednod.

    DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

    D.R. & M.L. Jones

    Atgyweiriohen dai neu

    adeiladau amaethyddol

    LLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLFfôn: Llangadfan 387

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    Newyddion o’rNewyddion o’rNewyddion o’rNewyddion o’rNewyddion o’r Adran Adran Adran Adran Adran Addysg GorfAddysg GorfAddysg GorfAddysg GorfAddysg Gorfforolforolforolforolforol

    Pencampwriaethau TrawsgwladPencampwriaethau TrawsgwladPencampwriaethau TrawsgwladPencampwriaethau TrawsgwladPencampwriaethau TrawsgwladYsgolion CymruYsgolion CymruYsgolion CymruYsgolion CymruYsgolion Cymru

    Roeddem yn ffodus am unwaith na welsomlaw yn ystod Pencampwriaethau TrawsgwladYsgolion Cymru yn Aberhonddu ym misTachwedd. Roedd y disgyblion yn cystadluyn erbyn ysgolion o bob rhan o Gymru agwelwyd ymdrech wych gan bob disgybl droseu hysgol. Roedd timau’r merched ynllwyddiannus wrth i dîm 9 a 10 gasglu’r 4ydd

    safle, tîm 7 a 8 gasglu’r 9fed safle, a gwelwydtîm bechgyn 7 a 8 yn casglu’r 12fed safle, ytu ôl i Ysgolion mawr y De. Ymdrech wych!

    Gala Nofio PowysGala Nofio PowysGala Nofio PowysGala Nofio PowysGala Nofio PowysDyma ganlyniadau’r diwrnod llwyddiannus a gafwyd ym Mhencampwriaethau Nofio YsgolionPowys ym mis Hydref. Cafwyd diwrnod llwyddiannus hefyd yng Ngala’r Urdd lle mae nifero’r disgyblion wedi cael eu dewis i gynrychioli Sir Drefaldwyn yn MhencampwriaethauCenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Pob lwc!Merched 7 ac 8: Olivia Davies; Gemma Owen. Merched 9 a 10: Jazmin HerdmanMerched 11, 12 ac 13: Rachel Liscombe; Gemma Rudd. Bechgyn 7 a 8: Llyr Griffiths;Sam Davies

    Pêl-rwyd dan 16 a than 18Pêl-rwyd dan 16 a than 18Pêl-rwyd dan 16 a than 18Pêl-rwyd dan 16 a than 18Pêl-rwyd dan 16 a than 18Ar ôl curo Ysgolion Llanfyllin a Bro Ddyfigyda sgoriau uchel yng nghystadlaethau Dan16 a Than 18 Gogledd Powys, collodd eintimau pêl-rwyd mewn gemau agos ofnadwy iYsgol Trallwng i orffen yn yr ail safle. Siomoedd colli’r ddau dwrnamaint mewn gemaumor agos, ond roeddwn yn falch iawn oberfformiad ac ymdrech y merched yn ystody ddau dwrnamaint. Mae sawl aelod o’r ddwygarfan yn edrych ymlaen at eu sialens nesafsef chwarae yn erbyn timau cenedlaetholGibralta pan ânt ar eu taith datblygiad iMarbella yn ystod y haf. Maen nhw’n brysuryn codi arian ar gyfer y daith ar hyn o bryd.

    Hoci dan 16 a than 18Hoci dan 16 a than 18Hoci dan 16 a than 18Hoci dan 16 a than 18Hoci dan 16 a than 18Yr un hen stori eto yn y ddau dwrnamaint –ail i Trallwm yn y ddau dwrnamaint. Agosiawn oedd hi yn y gystadleuaeth dan 18 gydaTrallwm yn fuddugol ar wahaniaethau goliau.Roedd y tensiwn yn uchel gyda’r twrnamaintyn dibynnu ar y gêm olaf. Da iawn i’r mercheda phwy a @yr beth ddigwyddith y flwyddynnesaf.

    Pêl-droedPêl-droedPêl-droedPêl-droedPêl-droedYn dilyn cyfnod prysur ofnadwy o gystadluac ymarfer o fewn dalgylch Gogledd Powys,cafwyd cryn lwyddiant o fewn y gamp. DaethBlwyddyn 7 yn ail gan fethu ennill y gynghrairyng Ngogledd Powys o un gôl, gyda LlyrGriffiths a James Jarvis yn serenu tra bodtîm blwyddyn 9 wedi ennill y gynghrair o fewn

    gogledd Powys a symud ymlaen igystadleuaeth Powys gyfan. Yma hefydcafwyd llwyddiant, gyda Ben Davies yn sgoriofoli arbennig i roi’r ysgol drwodd i chwarteriCwpan Cymru.Mae’r bechgyn yn edrych ymlaen at chwaraeyn erbyn Ysgol Lewis i Fechgyn yngNghaerffili ar eu hantur yn y De. Pob lwcbois.Ni chafodd y bechgyn h~n cystal hwyl. Ondrhaid canmol eu hymdrech a’u hymroddiadyn y gystadleuaeth, a serenodd RhysStephens mewn sawl gêm.

    Cystadleuaeth pêl-droed timauCystadleuaeth pêl-droed timauCystadleuaeth pêl-droed timauCystadleuaeth pêl-droed timauCystadleuaeth pêl-droed timaubychain Powysbychain Powysbychain Powysbychain Powysbychain PowysAr ddiwrnod gwlyb a gwyntog, anodd oeddcael y cymhelliant i chwarae pêl-droed agored.Ond braf oedd gweld ymroddiad y bechgyntuag at berfformio. Daeth tîm blwyddyn 7 ac8 yn ail drwy Bowys gyfan. Serenodd TomGregory ym mlwyddyn 7, a Josh Astley ymmlwyddyn 8, tra llwyddodd tîm blwyddyn 9unwaith eto fel ag yn 2009, i ennill eucystadleuaeth a dod yn bencampwyr Powys.

    RygbiRygbiRygbiRygbiRygbiEleni eto profwyd llwyddiant yn nalgylchGogledd Powys, gyda thîm dan 14 yn llwyddoi ennill y gynghrair a thîm dan 16 yn dod ynail yn eu cynghrair nhw. Cafwyd sawlperfformiad gwych gan Huw Lewis, OwainPugh, Dafydd Thomas, Louie Williams aJosh Jones o fewn y sgwad dan 14, aserenodd Geraint Parry, Daniel Owen, RhysStephens a Tom Astbury o dan 16. Bydd ytîm dan 14 nawr yn mynd i chwarteri olafCwpan Cymru. Pob lwc fechgyn ar eichhantur.

    Cynrychiolwyr Powys/Gogledd CymruCynrychiolwyr Powys/Gogledd CymruCynrychiolwyr Powys/Gogledd CymruCynrychiolwyr Powys/Gogledd CymruCynrychiolwyr Powys/Gogledd CymruLlongyfarchiadau i’r canlynol sydd wedi bodyn cynrychioli Timau Ysgolion Powys neuOgledd Cymru yn ystod tymor y gaeaf mewngwahanol feysydd:Pêl-droedBl7 Jake Claire, Llyr Griffiths, Tom Gregory,Jack DaviesBl8 Josh AstleyBl9 Danny Foulkes, Callum Foulkes, NyashaMwamuka, Dewi Thomas, Gethin Stephens,Bl 10 Ben Jones, Wil Whittington, TobyEvans,Bl 11 Rhys Richards, Rhys StephensRygbi - De Gogledd CymruBl9 Gwyn Humphreys, Josh Jones, DewiWilliams, Gethin Stephens, Dafydd ThomasBl10 Sion Rees, Elliot Davies, WilWhittingtonBl11 Tom Astbury (Gogledd llawn)Pêl-rwydDan 14 Cody Gethin, Georgia Laflain, DanielleHarris, Nia Weaver, Caryl Lewis,Dan 16 Nan Thomas, Bethan Davies, HannahBailey, Bethany Edwards, RhiannonEdwards, Emily Whittington, Ffion Barnett;Emma Lewis, Ffion Watkin, Elin ThomasHociDan 16 Sara Rudd, Ffion Roberts, HannahBaileyTTTTTaith y Gleisionaith y Gleisionaith y Gleisionaith y Gleisionaith y GleisionCafodd llond bws o ddisgyblion hwyl wrth fyndar daith ar nos Wener i Stadiwm Caerdyddym mis Tachwedd i wylio Gleision Caerdyddyn curo Gwyddelod Llundain yn y CwpanHeineken.

  • Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012 1515151515

    Y TRALLWMBryn Ellis552819

    Y Gymdeithas GymraegCafwyd noson o atgofion pleserus yngnghyfarfod mis Ionawr y gymdeithas. DaethEmyr Davies, Gwyndaf Roberts, Rhodri a Huwatom o Lanfair i gyflwyno rhaglen wedi ei seilioar ‘Y Meseia’. Mae gan lawer ohonom gof obwysigrwydd yr oratorio hon yngnghyngherddau ac eisteddfodau einhieuenctid. Cychwynnodd Emyr trwy roddiamlinelliad o hanes bywyd Handel a’r moddiddo ddod i ysgrifennu’r gerddoriaeth. Aethymlaen i glodfori safon uchel y gerddoriaethyn y gwaith a’r emosiynau mae Handel yn eucodi ynom wrth iddo gyfleu’r tristwch a’rllawenydd sydd ynghlwm â hanes y geni. Ynacawsom ddarlleniadau amrywiol gan Gwyndaf,llawer o’r ysgrythurau, gydag unawdau achorysau o’r Meseia yn cael eu chwarae gany technegwyr, sef Rhodri a Huw. Noson ddifyr

    iawn. Llywydd y noson oedd Trefor Owen,gyda Dilys Williams ac Ann Rees yn westeion.

    Cangen Maldwyn o ParkinsonsCangen Maldwyn o ParkinsonsCangen Maldwyn o ParkinsonsCangen Maldwyn o ParkinsonsCangen Maldwyn o ParkinsonsUKUKUKUKUKYm mis Tachwedd, cawsom ymweliad ganbrif weithredwr y Gymdeithas ym Mhrydain.Pwysleisiodd pa mor werthfawr yw’rcanghennau i’r aelodau yn gymdeithasol, ahefyd i godi arian at ymchwil sydd yn edrychi mewn i bosibiliadau cyffrous datblygutriniaethau newydd. Cawsom ein parti Nadoligym mis Rhagfyr pan gawsom amser hwyliogiawn a chyfle i drafod ein gweithgareddau yny dyfodol. Penderfynwyd cael sesiwn canuyn fisol, a chytunodd y Parch Bill Rowell einhelpu. Bydd hyn yn gymorth i gryfhau rhaio’n lleisiau sydd yn gwanhau oherwydd eincyflwr. Cynhaliwn ein cyfarfod blynyddolddiwedd mis Ionawr, ac ar y 23ain o fisChwefror daw Dr Townsend atom i sôn am eiddiddordeb mewn adar. Os am fwy owybodaeth, ffoniwch Anne Smedley ar 01938554062.

    Gwyndaf, Emyr, Huw a Rhodri

    CYDNABYDDIR CEFNOGAETH

    LLANLLUGANI.P.E.

    810658

    BlodauNid ar lawnt y Plas, ond i lawr wrth yr Argaeyng nghysgod y graig sydd rhyngom ni a’rafon yn goleuo’r tywyllwch ar hyn o bryd maena dri o ddaffodils.

    EnwWrth ddod adre un diwrnod yn ddiweddar oGefncoch i Lanllugan, yn mynd o’m blaenroedd dau yn cerdded reit gyflym bron ar drotac mi welais mai Juth o Gefn-y-bryn a’ichariad oedd yno ac mi gofiais mai Robertoedd ei enw. Felly i bawb sydd wedi bod yngofyn dros y wythnosau diweddar – dyna’rateb.

    EglwysAr y Sul cyn y Nadolig daeth cynulleidfa ddaiawn i’r gwasanaeth dwyieithog – Carolau adarlleniadau o’r Beibl. Arweiniwyd yr oedfagan y Parchedigion David a Mary Dunn, achymerwyd rhan hefyd gan Robson a TaylerJones, Jeanne Hill, Michael Owen, GarethDavies, Shan Jones, Ivy Evans a’rorganyddes oedd Olive Owen. Y casglwr oeddMorfudd Huxley gyda’r casgliad yn mynd tuagat elusen T~ Gobaith ac yna cafwyd paned ode neu goffi a minspeis. Bore Nadolig cafwydgwasanaeth Cymundeb ac ambell i garol a’rdarlleniadau gan Jeanne Hill, Michael Oliverac Alison Davies gyda Olive Owen ar yr or-gan. Mae’r aelodau yn lwcus iawn fod ganOlive y ddawn i chwarae organ bibell. Roeddyr oedfa yng ngofal y Parchedig David Dunn.

    Y GanolfanAr y cyntaf o Ionawr mae taith flynyddolCanolfan y Cwm ond fe’i gohiriwyd i’r ail oIonawr eleni. Daeth y cerddwyr ynghyd adechreuwyd y daith o faes parcio’r Eglwys.Ymlaen ar hyd ffordd Belan, draw at FelinUcha, heibio Glan-yr-afon troi i’r chwith a throsWaun Felin ac i lawr heibio Crugnant acymlaen at y Groesffordd ochr yma i Adfa.Gadael y Groesffordd a’r Hen Felin a cherddedmilltir arall i lawr y ffordd i Gil-Wtra, mlaendros yr afon Rhiw a’r hen bont bren a nawrpasio’r Felin, ond y Felin Isaf tro hwn acymlaen i fyny’r allt i mewn i’r cerbydau ac ifyny at y Ganolfan am ymborth i orffen.

    TAN 8Daeth cynghorwyr Dwyrhiw i gyfarfod yn yGanolfan i drafod mater y peilons a’r tyrbinau.Falle bydd ymdeithio dros ein golygfeydd pert.Gwahoddwyd Steve Edwards o ScottishPower i siarad ac eglurodd iddynt ac i’rcyhoedd oedd wedi dod i’r cyfarfod beth oeddeu bwriad. Ond – fe gadwodd ei gyfrinachauyn ddiogel yn y sach!

    CydymdeimlwnHoffwn anfon ein cydymdeimlad dwys atArwyn ar farwolaeth ei dad Emlyn.

    POST A SIOP

    LLWYDIARTH

    KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

    Petrol a’r Plu

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Chwefror 2012

    CYSTADLEUAETHSUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: __________________

    ____________________________________

    ____________________________________

    Daeth 33 ymgais i law y mis diewthaf. Diolch ynfawr i Rhiannon Gittins, Gwel Afon; Glenys Jones,Glanyrafon; Eirys Jones, Derwen; Enid Owen,Dolgoch; Ann Closman, Sir Benfro; MaureenJones, Cefndre; M.E. Jones,Croesoswallt; LlinosRees, Llanidloes; John Evan Jones, Dinbychsy’n dymuno Blwyddyn Newydd Dda a phob lwci gynhyrchwyr a phrynwyr y Plu! Beryl Jacques,Cegidfa; Meinir Evans, Gors; Noreen Thomas,Amwythig; Ann Evans, Bryn-Cudyn; GwynfrynThomas, Llwynhir; Megan Roberts, Llanfihangel;Eurwyn Jones, Croesoswallt; Llinos Jones,Penisa’r Cyffin; Llio Lloyd, Rhuthun; BranwenDavies, T~ Coch; Gordon Jones, Machynlleth;Awel Jones, Llanbrynmair; Anna Jones, Adfa;Morfudd Richards, Meifod; Ieuan Thomas, Caer-narfon; Malcolm Lloyd, Carno; David Smyth,Foel; Mary Pryce, Trefeglwys; Eirwen Robinson,Cefncoch; Myra Chapman, Pontrobert a LindaJames, Llanerfyl.I mewn â’r enwau i’r fasged olchi unwaith eto a’renw cyntaf allan oedd Enid Owen, Dolgoch,Llanfair Caereinion sy’n ennill tocyn gwerth £10i’w wario yn Siop Alexanders, Y Trallwm.Y mis nesaf bydd yr enillydd lwcus yn enill tocyngwerth £10 i’w wario mewn siop Gymraeg o’chdewis.Anfonwch eich atebion at Mary Steele, Eirianfa,Llanfair Caereinion, Y Trallwm, Powys neu CatrinHughes, Llais Afon, Llangadfan, Y Trallwm,Powys, SY21 0PW erbyn dydd Llun Chwefror20. Pob lwc i bawb.

    DARN BACH O HANES

    Bu farw Doris Roberts, Hafodlwyd, Llangynywddydd Sul, Ionawr 15fed wedi gwaeledd byra wynebodd yn ddewr a dirwgnach. Roeddyn 81 oed.Fe’i ganwyd yn FfermEithnog, LlanfairCaereinion ac oddiyno symudodd iHafodlwyd lletreuliodd