Upload
louisecemas
View
228
Download
3
Embed Size (px)
Citation preview
Gwestyr Celtic Manor,
Casnewydd, 29th Ebrill 2015
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber
Ddiogelwch Gymreig
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
@cemas_usw
www.cemas.mobi
fb.com/cemas.wales
Yr Athro Khalid Al-BegainCyfarwyddwr CEMAS
Maen bleser mawr gennyf gyflwynor Uwchgynhadledd gyntaf ar Seiberddiogelwch i Ddiwydiant Cymru. Maer uwchgynhadledd yn ffrwyth cydweithredu agos rhwng
Airbus Defence a Security, TARIAN, Uned Troseddau Cyfundrefnol
Ranbarthol (ROCU) De Cymru, Llywodraeth Cymru ar Ganolfan
Ragoriaeth mewn Cymwysiadau a Gwasanaethau Symudol
(CEMAS) ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae Seiberddiogelwch bellach yn destun pryder mawr i bob
busnes ledled y byd. Maen effeithio ar fusnesau waeth beth fou
sector, eu maint au lleoliad daearyddol. Gall seiberymosodiadau
ddigwydd mewn nifer o ffyrdd ac mae eu heffeithiau yn amrywio
o achosion syml o ddwyn data i ymosodiadau eang eu cwmpas
megis ymosodiadau Gwrthod Gwasanaeth neu ddwyn eiddo
deallusol hanfodol neu wystlo digidol. Gall bod yn agored
i seiberymosodiadau, pun a ydynt yn rhai bach neu fawr,
danseilio hyder mewn unrhyw fusnes neu allu unrhyw fusnes
i ddod yn rhan or gadwyn gyflenwi ar gyfer diwydiannau neu
fusnesau mawr eraill.
Mae gan Gymru gryn arbenigedd ym maes seiberddiogelwch
sydd wedii rannu ymhlith diwydiannau mawr megis Airbus
Defence a Security a General Dynamics, llawer o BBaChau,
canolfannau ymchwil academyddion megis y Grp Ymchwil
Diogelwch Gwybodaeth (ISRG) ar Ganolfan Ragoriaeth mewn
Cymwysiadau a Gwasanaethau Symudol (CEMAS) ym Mhrifysgol
De Cymru ac Uned Troseddau Cyfundrefnol yr Heddlu.
Felly, credir y gall Seiberddiogelwch gynnig cyfle i Gymru
yn hytrach na bod yn fygythiad iddi.
Cyflwyniad
Maer pedwar parti a drefnodd yr Uwchgynhadledd gyntaf
hon ar Seiberddiogelwch i Ddiwydiant Cymru wedi cydnabod
pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth busnesau yng Nghymru
fel y gellir ystyried seiberddiogelwch ar lefel Bwrdd ym mhob
cwmni bach neu fawr.
Rwyn gobeithio y bydd yr Uwchgynhadledd hon yn ysgogi
ymdrech ehangach a mwy cydgysylltiedig i fanteisio ar yr
arbenigedd ar cyfleoedd yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gobeithio
y bydd yr Uwchgynhadledd yn hwylusor broses o ffurfio
Partneriaeth Ranbarthol Cymru ar gyfer Rhannu Gwybodaeth
am Seiberddiogelwch (CSIP) fel cyfrwng i rannu gwybodaeth
a chyngor ar unrhyw faterion syn ymwneud seiberddiogelwch.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
9.30am
Cofrestru a Choffi
10.00am
Croeso a Chyflwyniadau
Dr. Rhobert Lewis, Prifysgol De Cymrus
10.05am
Sylwadau Agoriadol y Cadeirydd
Dr Bob Nowill, UK Cyber Security Challenge
10.10am
Y Brif Araith Mr Paul Kahn, Llywydd Airbus Group UK
10.25am
Datblygiad Seiberfygythiadau Tim Hull, Pennaeth Desgiau
Bygythiadau, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
10.55am
Enghreifftiau o Ymosodiadau Diweddar
Andrew Beckett, Airbus Defence and Space
11.25am
Seiberdroseddu Maes Newydd Terry Wilson,
Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC)
11.45am 12.00pm
Egwyl Goffi a chyfle i Rwydweithio
12.00pm
Trafodaeth Banel/Sesiwn Holi ac Ateb yr Asiantaeth
Troseddu Cenedlaethol, Tarian, Airbus a Phrifysgol
De Cymru
12.30pm
Seiberddiogelwch a Seiberhanfodion
Dr Bob Nowill, UK Cyber Security Challenge
12.50pm
Cyflwyniad ir Bartneriaeth Rhannu Gwybodaeth
am Seiberddiogelwch Andrew Beckett, Airbus Defence
and Space
1.00 2.00pm
Cinio
2.00pm
Cymorth Technegol ac Ymarferol
Ioan Peter, Airbus Defence and Space
2.30pm
Trafodaeth Banel/Sesiwn Holi ac Ateb
Terry Wilson, Ioan Peters, Simon Kendall
3.00pm 3.15pm
Egwyl Goffi a chyfle i Rwydweithio
3.15pm
Seiberarloesi a Chyfleoedd yng Nghymru
yr Athro Andrew Blyth a Dr Kevin Joness
4.00pm
Closing Keynote
4.15pm
Sylwadaur Cadeirydd i Gloi Dr Bob Nowill,
UK Cyber Security Challenge
4.30pm
Diwedd y Digwyddiad
Rhaglen
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Dr Rhobert LewisDeon y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg
a Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol De Cymrues
Cyn cael ei benodi iw swydd bresennol fel Deon cyfleuster
newydd Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym
Mhrifysgol De Cymru, Dr Rhobert Lewis oedd Pennaeth
yr Adran Gwyddoniaeth a Chyfarwyddwr Canolfan
Gwyddoraur Heddlu yn y brifysgol honno.
Mae ganddo gryn brofiad ym meysydd ymgynghori,
busnes newydd a datblygu cwricwla ym maes gwyddoniaeth
a thechnoleg. Mae gan ei gyfadran broffil ymchwil cryf ym
meysydd ynni hydrogen, treulio anerobig, cynhyrchu trydan,
diogelwch gwybodaeth a fforenseg, systemau cyfrifiadurol
a systemau cyfathrebu ac optoelectroneg.
Mae cysylltiadau diwydiannol yn cynnwys partneriaethau British
Airways, General Dynamics, Tata steel, Renishaw ac EDF Energy.
Mae Rhobert yn ystyried bod prifysgolion yn hanfodol i ysgogi
economi Cymru drwy ddarparu graddedigion o ansawdd uchel
a gydnabyddir gan gyrff proffesiynol a thrwy gymryd rhan mewn
prosesau cyfnewid gwybodaeth syn canolbwyntio ar ddiwydiant.
Speakers & Panel ExpertsDr Bob NowillCadeirydd y Bwrdd yng nghwmni
UK Cyber Security Challenge Ltd
Bob yw Cadeirydd y Bwrdd yn UK Cyber Security Challenge
Ltd, ac maen Ymgynghorydd ac yn Gynghorydd Diogelwch
annibynnol drwy Herne Hill Consulting Ltd.
Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Aelod o Fwrdd
cwmni Information Risk Management (IRM) ccc ac ef yw
Cadeirydd Pwyllgor Achredu Sefydliad y Gweithwyr Diogelwch
Gwybodaeth Proffesiynol (IIS).
Ef oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Seiber a Sicrwydd yn BT
Security Enterprise tan ddiwedd 2013. Cyn ymuno BT yn 2005,
Bob oedd Cyfarwyddwr yr Adran Technoleg a Pheirianneg ac
roedd yn aelod or Bwrdd ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth
y DU (GCHQ) a bu mewn nifer o swyddi eraill cyn hynny.
Mae ei yrfa hefyd wedi cynnwys cyfnodau gyda Gweinyddiaeth
Amddiffyn y DU (yr Asiantaeth Caffael Amddiffyn ac Asiantaethau
Ymchwil), yn yr Iseldiroedd gyda Chanolfan Dechnoleg y SHAPE,
a bun gwneud ymchwil yn Adran Beirianneg Prifysgol Caergrawnt.
Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt (Coleg y Drindod) ac ar
l hynny bun astudio ar gyfer PhD hefyd yng Nghaergrawnt.
Maen Beiriannydd Siartredig ac yn Weithiwr TG Proffesiynol
Siartredig, yn Gymrawd yr IET ar BCS, ac yn Aelod Sefydlu llawn
o Sefydliad y Gweithwyr Diogelwch Gwybodaeth Proffesiynol.
Enwyd Bob yn rhestr Secure Computing (SC) Most Influential
2010 mewn cysylltiad ag (ISC)2 fel un or bobl fwyaf dylanwadol
ym maes diogelwch gwybodaeth.
Mae Bob yn briod Dr Joanna Nowill, syn Seicolegydd Cwnsela
syn rhedeg Clinig Trawma a Chwnsela Cheltenham, ac mae
ganddynt dri o blant sydd bellach yn oedolion yn ogystal Milgi
a achubwyd.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Paul KahnLlywydd Airbus Group
Penodwyd Paul Kahn yn Llywydd Airbus Group UK ar
1 Hydref 2014 ar l gweithio yn Thales, yn fwyaf diweddar
fel Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Thales, Canada.
Mae gan Paul brofiad rhyngwladol helaeth o reoli yn y
diwydiannau awyrofod, amddiffyn a chludiant, yn y sector
preifat ar sector cyhoeddus.
Fel peiriannydd siartredig gradd Meistr mewn systemau
peirianyddol a systemau rheoli o Brifysgol Brunel, bun gweithio
i gwmni Ford Motor yn Ewrop ar Unol Daleithiau, cyn ymuno
r sector cyhoeddus fel gwas sifil yng Ngweinyddiaeth
Amddiffyn y DU. Yno, arweiniodd un or adolygiadau mawr
o brosesau caffael.
Gan symud or Weinyddiaeth Amddiffyn yn l ir sector preifat,
roedd ei yrfa yn Thales wedi cynnwys amrywiaeth o swyddi
gweithredol a chorfforaethol fwyfwy uchel, fel arweinydd nifer
o unedau busnes ac Is-lywydd, Datblygu Busnes y Grp yn
y pencadlys ym Mharis.
Mae Mr Kahn yn Gymrawd y Gymdeithas Awyrenegol
Frenhinol, mae ganddo MBA o Ysgol Fusnes Llundain ac aeth
ir Coleg Astudiaethau Amddiffyn Brenhinol. Mae Paul, syn hoff
o weithgareddau awyr agored, yn byw yn Surry, maen briod
ac mae ganddo dri o blant. Mae ganddo genedligrwydd
Prydeinig ac Americanaidd deuol.
Tim HullPennaeth Desgiau Bygythiadau,
yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaetholcy
Mewn gyrfa syn ymestyn dros 30 o flynyddoedd, bu Tim Hull
yn gweithio yn yr asiantaethau cudd-wybodaeth, y Gydganolfan
Dadansoddi Terfysgaeth, y Swyddfa Gartref ar Asiantaeth
Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi cael llawer o swyddi
amrywiol, er bod pob un ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol
neun anuniongyrchol maes cudd-wybodaeth, pun a oeddent
yn cynnwys casglu a dadansoddi cudd-wybodaeth, buddsoddi
technegol neu reoli rhaglenni. Mae wedi gweithio ar amrywiaeth
o bynciau, gan gynnwys geowleidyddiaeth, terfysgaeth, gwrthdaro
milwrol, troseddu difrifol a seiberdroseddu. Yn 2011 dyfarnwyd
yr OBE iddo.
O 2012-14 arweiniodd Tim y gwaith o gynllunio Canolfan
Cudd-wybodaeth Genedlaethol yr NCA. Lleolir y Ganolfan yng
nghanol yr asiantaeth, gan roi darlun cynhwysfawr or bygythiad
i fuddiannaur DU syn gysylltiedig throseddu difrifol a throseddu
cyfundrefnol... darlun y maer NCA yn dibynnu arno er mwyn
cyflawni ei ddiben craidd, sef arwain a chydgysylltu ymateb
cenedlaethol y DU. O fewn y Ganolfan, mae Tim yn arwain
y naw Desg syn gyfrifol am gasglu cudd-wybodaeth strategol
a thactegol am y bygythiadau syn gysylltiedig throseddu difrifol
a chyfundrefnol fel y nodir yn Asesiad Strategol Cenedlaethol
cysylltiedig y DU.
Ymhlith y bygythiadau syn ein hwynebu mae seiberdroseddu
yn un or prif flaenoriaethau, yr arweinir ymateb yr Asiantaethau
Gorfodir Gyfraith cenedlaethol iddo gan Uned Seiberdroseddu
Genedlaethol yr NCA. O fewn y systemau llywodraethu
a ddefnyddir i reolir bygythiad hwn, mae Tim yn cadeirio
corff amlasiantaeth sydd, mewn cydweithrediad phartneriaid
mewn diwydiant a phartneriaid rhyngwladol, yn canolbwyntio
ar y farchnad seiberdroseddu, h.y. y farchnad ryngwladol
soffistigedig lle mae troseddwyr yn masnachu mewn offer,
sgiliau ac amrywiaeth eang o wasanaethau troseddol cysylltiedig.
Mae Tim yn briod ac mae ganddo ddau o blant. Maen treulio ei
amser rhydd (ac yn gwario ei arian) yn adfer hen geir ac adeiladau
henach fyth.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Ditectif Uwcharolygydd Terry WilsonAweinydd Rhaglen Seiberdroseddu
Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion
yr Heddlu (NPCC)
Ymunodd Terry Gwasanaeth Heddlu Llundain yn 1986.
Mae wedi treulior rhan fwyaf oi yrfa fel ditectif, i ddechrau
mewn swyddi yng nghanol Llundain yn Clapham a Brixton.
Mae wedi gweithio i Uned Droseddau Ranbarthol De-ddwyrain
Lloegr, Uned Reoli Gwrthlygredd a Grp Troseddau Difrifol
a Chyfundrefnol Gwasanaeth Heddlu Llundain Flying Squad
mewn swyddi lle y bun arbenigo mewn ymchwilio i achosion
o Ladrata Arfog gan ddringo drwyr rhengoedd o Dditectif Ringyll
i Dditectif Brif Arolygydd, yn ogystal chyflawni rolau mwy
confensiynol mewn bwrdeistrefi yn y rhengoedd hynny.
Rhwng 2009 a 2013 Terry oedd arweinydd gweithredol Uned
e-Droseddu Ganolog yr Heddlu (PCeU). Roedd y cylch gwaith
cenedlaethol hwn a arweiniwyd gan Heddlu Llundain yn cynnwys
cyfrifoldeb am sicrhau ymateb mwy amserol i achosion difrifol
o Seiberdroseddu drwy fenter partneriaeth cyhoeddus-preifat
i leihau niwed cymaint phosibl a meithrin hyder y cyhoedd
drwy fynd ati i dargedu rhwydweithiau troseddol a oedd yn
cyflawni Seiberdroseddau, yn benodol, yr achosion mwyaf
difrifol o ymyrryd chyfrifiaduron, dosbarthu codau maleisus,
ymosodiadau gwrthod gwasanaeth a thwyll y gellir ei gyflawni
ar y Rhyngrwyd.
Ar hyn o bryd, Terry yw arweinydd y rhaglen seiberdroseddu
genedlaethol ac maen gweithion uniongyrchol ir arweinydd
plismona cenedlaethol, Ditectif Brif Arolygydd Peter Goodman.
Maen gyfrifol am ddatblygu seiberallu ar lefel ranbarthol a lefel
heddlu ledled Cymru a Lloegr.
Andrew BeckettPennaeth Gwasanaethau Seiberamddiffyn,
Airbus Defence and Space
Andrew oedd un o sylfaenwyr Regency IT Consulting ac
fei penodwyd yn Rheolwr-Gyfarwyddwr y cwmni yn 2005.
Datblygodd y cwmni ymgynghorol Seiber a Sicrhau Gwybodaeth
arbenigol llwyddiannus hwn nes iddo gael ei gaffael gan Cassidian
(rhan o Grp Airbus) yn 2010.
Ers hynny, mae Andrew wedi parhau yn ei swydd yn Regency
ond mae hefyd yn bennaeth ar Wasanaethau Seiberamddiffyn
ar gyfer Airbus Defence a Space yn y DU.
Cyn symud i faes ymgynghori, treuliodd Andrew ddwy flynedd
gydar Gwasanaeth Sifil Rhyngwladol yn yr Hag lle bun bennaeth
ar Swyddfa Cyfrinachedd a Diogelwch y Sefydliad Gwahardd
Arfau Cemegol a dderbyniodd Wobr Heddwch Nobel yn
ddiweddar yn 2013.
Wedi graddio ymunodd Andrew r Gwasanaeth Sifil o dan gynllun
llwybr carlam a threuliodd ei yrfa gynnar yn GCHQ lle y bun
arbenigo ym maes seiberamddiffyn gan arwain y timau a oedd
yn gyfrifol am ymgynghori ynghylch Diogelwch Gwybodaeth
a Phrofion Treiddio; gan roi cymorth ei hun ir prif adrannau ac
Asiantaethau Cudd-wybodaeth yn Whitehall.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Ioan PeterPennaeth Dylunio Technegol
yn Regency IT Consulting
Ymunodd Ioan Regency IT Consulting o Swyddfa Eiddo
Deallusol y DU ym mis Ebrill 2012, yn dilyn gyrfa a oedd wedi
rhychwantu Gwasanaeth Sifil y DU, Gwasanaeth yr Heddlu
ar Sector Preifat.
Ers ymuno Regency, mae Ioan wedi cwblhau nifer fawr
o brosiectau i gleientiaid gan weithio ar bob lefel or sefydliadau
cleient. Ymhlith ei hoff brosiectau mae gweithio gyda
Chwmni Cyfleustod er mwyn diogelu ei seilwaith helaeth rhag
seiberymosodiadau a helpur Swyddfa Gartref i chwilio data
DNA yn fwy effeithiol er mwyn ei gwneud yn bosibl i achosion
nas datryswyd yn llawn gael eu prosesu er mwyn sicrhau bod
troseddwyr yn cael eu cosbi.
Ar hyn o bryd maen arwain rhaglen waith ar ran cwmni
uwch-dechnoleg rhyngwladol mawr iawn, er mwyn profi
ei seiberamddiffynfeydd drwy ysgogi seiberymosodiadau
soffistigedig a bygythiadau go iawn eraill. Ystyrir bod hwn
yn waith strategol ac maen cyflwyno adroddiadau i Brif
Swyddog Diogelwch y Grp a Phrif Swyddog Gweithredol
y Grp.
Ioan oedd Swyddog Diogelwch Adrannol yr Asiantaeth Weithredol
hon ac roedd yn gyfrifol am ddiogelu casgliad mwyaf y DU o Eiddo
Deallusol ac am wybodaeth hyd at y lefelau dosbarthu uchaf.
Roedd hefyd yn gyfrifol am y Gwasanaethau TG syn hwylusor
broses o gyhoeddi Patentau ar gyfer y DU a chynrychiolodd y DU
mewn perthynas materion technegol yn y Gymuned Ewropeaidd
a chymuned y Cenhedloedd Unedig.
Tra roedd yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, arweiniodd Ioan
raglen ddiogelwch a arweiniodd at y sefydliad yn cydymffurfio
safonau diogelwch y Llywodraeth, yn ymgorffori prosesau
rheoli risg yn y busnes, yn cyflawni sgorau uchel yn erbyn Model
Aeddfedrwydd Sicrhau Gwybodaeth y Llywodraeth ac yn ardystio
ei system rheoli diogelwch gwybodaeth yn erbyn ISO 27001.
Cyn ymuno r Swyddfa Eiddo Deallusol, bu Ioan yn arbenigo
mewn cynllunio, gweithredu a chefnogi cymwysiadau a seilwaith
diogel, gydar llawer or gwaith hwnnw yn cael ei wneud gydag
un or heddluoedd mwyaf yn y DU.
Mae ganddo brofiad helaeth ym meysydd Diogelwch TG,
cynllunio systemau diogel syn weithredol am amser hir,
cynnal Gweithrediadau TG ar lefel menter, llunio adnoddau
rhithwir a thechnolegau SAN.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Dr Kevin JonesPennaeth tm Seiberweithrediadau
Airbus Group Innovations
Dr Kevin Jones yw pennaeth tm Seiberweithrediadau
Airbus Group Innovations ac maen gyfrifol am ymchwil ac
atebion seiberddiogelwch or radd flaenaf i gefnogi Grp
Airbus (Airbus, Hofrenyddion Airbus, Amddiffyn ar Gofod
Airbus a Phencadlys Airbus).
Mae ganddo radd BSc mewn Cyfrifiadureg ac MSc mewn
Integreiddio Systemau Dosbarthedig o Brifysgol De Montfort,
Caerlr lle y cafodd ei PhD hefyd: A Trust Based Approach
to Mobile Multi-Agent System Security yn 2010
Maen weithgar yn y gymuned ymchwil seiberddiogelwch
ac maen dal sawl patent yn y maes. Mae ganddo flynyddoedd
lawer o brofiad ym maes ymgynghori i helpu sefydliadau i gael
eu hachredu i safon ISO27001 ar Reoli Diogelwch Gwybodaeth
ac ar hyn o bryd maen gweithredu fel uwch ymgynghorydd i Grp
Airbus ar faterion syn ymwneud seiberddiogelwch (gwybodaeth)
ar draws nifer o feysydd a llwyfannau.
Ymhlith gweithgareddau ymchwil cyfredol Kevin mae Asesiadau
Risg, Strwythurau Diogelwch a Seiberweithrediadau yn:
systemau ICS/SCADA a Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol (CNI),
Canolfannau Gweithrediadau Diogelwch, Diogelwch Symudol
a Diogelwch Cwmwl.
Ar hyn o bryd, maen cadeirior Symposiwm Cenedlaethol
ar gyfer Ymchwil Seiberddiogelwch Systemau Rheoli Diwydiannol
ac maen un o arbenigwyr etholedig y Cyngor Ymchwil Gwyddorau
Ffisegol (EPSRC).
Mae wedi gweithion agos gydag asiantaethaur Llywodraeth
ar seiberddiogelwch ac ar raglenni a gyllidir gan Ewrop megis
Rhwydwaith Ewrop ar gyfer Dadansoddi Digwyddiadau
Diogelwch syn gysylltiedig Systemau Rheoli.
Maen aelod or BCS, IEEE ac ISC2 ac wedii achredu fel
Gweithwyr Proffesiynol Systemau Gwybodaeth Ardystiedig
(CISSP), Rheolwr Diogelwch Gwybodaeth Ardystiedig (CISM)
ac Archwilydd Arweiniol ISO27001.
Yr Athro Andrew BlythPennaeth Peirianneg Systemau
Cyfrifiadura, Prifysgol De Cymru
Maer Athro Andrew Blythe yn academydd uchel ei barch
ym maes diogelwch gwybodaeth.
Maen addysgu diogelwch gwybodaeth a fforenseg gyfrifiadurol
ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Andrew yn arbenigo ym maes
fforenseg gyfrifiadurol a datblygu bregusrwydd.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Partners
Airbus Defence and SpaceAirbus Defence and Space is one of the three divisions
of the Airbus Group and Europes Number 1 defence and
space company.
It is the worlds second largest space company and one of the
top 10 defence companies globally, with revenues of around
13 billion per year and approx. 38,600 employees. The Chief
Executive Officer of Airbus Defence and Space is Bernhard
Gerwert. Airbus Defence and Space puts a strong focus on core
businesses: Space, Military Aircraft, Missiles and related systems
and services.
Airbus Defence and Space develops and engineers cutting-edge
and peerlessly reliable products in the field of defence and space.
Its defence and space technologies enable governments and
institutions to protect natural resources, societies and individual
freedom. The aircraft, satellites and services help to monitor
climate and crops, and to secure borders. Airbus Defence and
Space solutions guarantee sovereignty in foreign affairs and
defence matters. Its portfolio also ensures communication,
mobility, the expansion of knowledge and the safeguarding
of the environment.
Airbus Defence and Space is composed of four Business
Lines: Military Aircraft; Space Systems; Communications,
Intelligence and Security (CIS); and Electronics. It brings
together a wide portfolio to continue to meet the complex
needs of its customers across the world, contribute to Europes
defence and security, and secure Europes independent
access to and utilisation of space. Among its flagship products
are the transport aircraft A400M, the military jet Eurofighter
and, in the framework of the Airbus Safran Launcher joint
venture, the Ariane launcher.
.
Andrew BeckettAndrew oedd un o sylfaenwyr Regency IT Consulting ac
fei penodwyd yn Rheolwr-Gyfarwyddwr y cwmni yn 2005.
Datblygodd y cwmni ymgynghorol Seiber a Sicrhau Gwybodaeth
arbenigol llwyddiannus hwn nes iddo gael ei gaffael gan Cassidian
(rhan o Grp Airbus) yn 2010.
Ers hynny, mae Andrew wedi parhau yn ei swydd yn Regency
ond mae hefyd yn bennaeth ar Wasanaethau Seiberamddiffyn
ar gyfer Airbus Defence a Space yn y DU.
Cyn symud i faes ymgynghori, treuliodd Andrew ddwy flynedd
gydar Gwasanaeth Sifil Rhyngwladol yn yr Hag lle bun bennaeth
ar Swyddfa Cyfrinachedd a Diogelwch y Sefydliad Gwahardd
Arfau Cemegol a dderbyniodd Wobr Heddwch Nobel yn
ddiweddar yn 2013.
Wedi graddio ymunodd Andrew r Gwasanaeth Sifil o dan gynllun
llwybr carlam a threuliodd ei yrfa gynnar yn GCHQ lle y bun
arbenigo ym maes seiberamddiffyn gan arwain y timau a oedd
yn gyfrifol am ymgynghori ynghylch Diogelwch Gwybodaeth
a Phrofion Treiddio; gan roi cymorth ei hun ir prif adrannau ac
Asiantaethau Cudd-wybodaeth yn Whitehall.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Gary Phillips Ymunodd Gary Heddlu Dyfed Powys yn 1996 ac fei dyrchafwyd
yn Dditectif Brif Arolygydd yn Tarian, sef Uned Troseddau
Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) De Cymru ym mis Hydref 2013.
Pan oedd yn 20 oed fei penodwyd iw swydd gyntaf yng
Nghaerfyrddin lle y cyflawnai ddyletswydd patrolio plismon
mewn lifrai mewn ardaloedd trefol a gwledig. Fodd bynnag,
ers cychwyn yn ei swydd nesaf yn Adran Ymchwilio i Droseddau
(CID) Rhydaman fel Ditectif Gwnstabl yn 2001, mae wedi parhau
i gyflawni swyddogaethau CID yn bennaf.
Dyrchafwyd Gary yn Dditectif Ringyll yn 2002, ac yn Dditectif
Arolygydd yn 2006 pan gafodd ei benodi i swydd Rheolwr
Cudd-wybodaeth yn Uned Cudd-wybodaeth Adrannol
Sir Gaerfyrddin.
Ar l symud ymlaen a threulio bron i bum mlynedd fel Ditectif
Arolygydd yn CID Llanelli, lle y bun ymdrin throseddau cyffredin
a difrifol, trosglwyddodd Gary i Bencadlysoedd Heddlu Dyfed
Powys yn 2013 ar secondiad am chwe mis mewn lifrai fel Rheolwr
Perfformiad yr Heddlu.
O fewn y rl hon roedd yn atebol i Brif Swyddogion am
archwilio ac adolygu perfformiad cyffredinol Heddlu Dyfed
Powys. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno dyrchafwyd Gary
iw swydd bresennol fel Ditectif Brif Arolygydd yn Tarian
ac mae ei ddyletswyddau yn cynnwys rheolir Tasglu
Rhanbarthol, y Tm Atafaelu Asedau Rhanbarthol, y Tm
Adennill Asedau Rhanbarthol (RART), y Tm Twyll Rhanbarthol
ar Uned Seiberdroseddu Ranbarthol.
TARIANTARIAN yw Uned Troseddu Cyfundrefnol De Cymru (ROCU),
a sefydlwyd yn 2002 i ddiogelu cymunedau rhanbarth De Cymru
rhag bygythiadau a risgiau Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol;
gan nodir grwpiau troseddau cyfundrefnol hynny syn achosir
niwed mwyaf, tarfu arnynt au chwalu.
Mae troseddu cyfundrefnol yn broblem ddifrifol syn effeithio ar
ein cymunedau bob dydd. Or masnachu mewn cyffuriau ar gornel
y stryd, i gangiau syn dychryn ein cymunedau, i fasnachu mewn
merched ifanc syn agored i niwed iw troin buteiniaid maer cyfan
yn cael ei lywion bennaf gan droseddwyr cyfundrefnol.
Mae Tarian yn rhan o rwydwaith Cenedlaethol; mae naw ROCU
ledled Cymru a Lloegr, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntion
benodol ar fynd ir afael throseddu cyfundrefnol.
Ers lansior Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) ar 7 Hydref
2013, mae Tarian hefyd yn gyfrifol am hwylusor broses gysylltu
rhwng yr NCA a heddluoedd lleol
Our Vision
Our vision is to protect communities of the Southern Wales
Region from the threats and risks of serious and organised crime.
Our Mission
Our mission is to identify, disrupt and dismantle organised
crime groups causing most harm to the Southern Wales Region.
Our Values
We are professional in tackling serious and organised Crime.
We are committed to collaboration and working with partners
and other law enforcement agencies.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Yr Athro Khalid Al-BegainYr Athro Khalid Al-Begain yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Cymwysiadau a Gwasanaethau Symudol (CEMAS) ac Athro Cyfrifiadura a Rhwydweithio Symudol ym Mhrifysgol De Cymru.
Gyda dros 25 o flynyddoedd o brofiad ym meysydd cyfrifiadura a thechnoleg symudol mae ganddo gefndir helaeth ac amrywiol ym meysydd Datblygu Symudol, Peirianneg Cyfathrebu a Modelu ac Efelychu Dadansoddol.
Yn 2013 enillodd Khalid Wobr Ysbrydoli Cymru y Sefydliad Materion Cymreig yn y categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg. At hynny, yn 2006, cafodd gydnabyddiaeth Frenhinol fel un o ddim ond 500 o wyddonwyr Prydeinig am ei gyfraniadau at gymuned wyddonol Prydain. Mae Khalid yn arwain cyfraniadaur Brifysgol at nifer o brosiectau cenedlaethol gan gynnwys chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sefydlu Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Cymru ar Uwchgynhadledd gyntaf ar
Seiberddiogelwch i Ddiwydiant Cymru.
Prifysgol De CymruPrifysgol De Cymru, a sefydlwyd gan ddiwydiant ar proffesiynau, yw un o brifysgolion newydd mwyaf cyffrous Prydain ac yn un brif sefydliadaur sector addysg uwch.
Mae ymhlith y 10 prifysgol gampws uchaf yn y DU yn l nifer
y myfyrwyr ac maen denu cymysgedd cosmopolitaidd o fyfyrwyr
o fwy na 120 o wledydd ac o bob cefndir.
Mae Prifysgol De Cymru yn anarferol yn y DU am ei bod yn dod
r amrywiaeth ehangaf o ddarpariaeth ar mynediad ehangaf at
addysg at ei gilydd. Maen cynnig yr ystod lawn o gymwysterau o
lefel addysg bellach i raddau a chyfleoedd i astudio ar gyfer PhD.
Fel prifysgol fawr maen cyflwynor ystod lawn o bynciau STEM, o
beirianneg a mathemateg i gyfrifiadura ac arolygu yn ogystal bod
yn ddarparwr cyrsiau hyfforddi athrawon profiadol.
Maer Brifysgol yn flaenllaw ym maes ymchwil gymwysedig a ddefnyddir i lywio penderfyniadau pwysig. Fel melin trafod polisi cyhoeddus o bwys, maen cynnig cyngor annibynnol ir llywodraeth, diwydiant a chyflogwyr o bob rhan or DU ar iechyd, addysg, twf economaidd, polisi cymdeithasol a llywodraethu.
Maen darparu llwyfan partneriaeth ar gyfer syniadau a thrafod melinau trafod o bwys megis Sefydliad Joseph Rowntree a NESTA. Fel aelod o Grp Dydd Gyl Dewi, cydnabyddir Prifysgol De Cymru
fel un o brif brifysgolion ymchwil Cymru.
Wayne JamesMae ymwneud Wayne r sector cyhoeddus yn dyddion l i 1987, pan oedd yn dal swyddi fel cynghorydd ar reoli ac wedyn reolwr rhanbarthol gydag is-adran ryngwladol Asiantaeth Datblygu Cymru.
Cyn hynny, roedd yn dal swyddi rheoli ariannol a masnachol yn y sector preifat, gyda rolau yn y cyhoeddwr cylchgronau ac amlgyfrwng IPC, y busnes gweithgynhyrchu a pheirianneg byd-eang Gallagher a Stemcor, cwmni syn masnachu yn ninas Llundain.
Yn 2012 arweiniodd raglen gydweithredu a oedd yn cynnwys naw Rhanbarth Ewropeaidd a chyhoeddodd Ganllaw Arfer Goraur UE ar greu mathau newydd o rwydweithiau busnes digidol ledled Ewrop. Mae rhaglenni cydweithredu blaenorol yn cynnwys gweithio gydar Adran Masnach a Diwydiant, Gweinyddiaethau Datganoledig a diwydiant gan helpu i gyflawni strategaethau economaidd rhanbarthol.
Ar hyn o bryd, ef yw Arweinydd Seiberddiogelwch yn nhm y Sector
TGCh yn Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Welsh GovernmentThe Department for Economy, Science and Transport aim to create a strong economy to enable businesses to create jobs and sustainable economic growth.
Uwchgynhadledd Y Diwydiant Seiber Ddiogelwch Gymreig 2015
Stakeholders
Gyda chefnogaeth noddwyr sefydlol megis Sefydliad SANS,
dechreuodd yr Her yn 2010 gydar nod o lunio cyfres
o gystadlaethau rhithwir ac wyneb yn wyneb a fyddain nodi
pobl dalentog ar gyfer y diwydiant seiberddiogelwch.
Maer Her, sydd bellach yn cychwyn ar ei 6ed flwyddyn, yn cael
ei chefnogi gan fwy na 50 o sefydliadau cyhoeddus, preifat ac
academaidd mwyaf blaenllawr DU ac maen cynnwys rhaglen
eang o weithgareddau y bwriedir iddynt ledaenur gair am pam
mae seiberddiogelwch yn yrfa mor foddhaol ac amrywiol.
Gan weithio o lefel yr ysgol i helpur rhai syn newid gyrfa
i drosglwyddo ir sector seiberddiogelwch, maer Her yn gwneud
gwahaniaeth mawr i ragolygon gyrfar rhai sydd r talentau ar
gallu i fod yn weithwyr seiberddiogelwch proffesiynol. Cynhaliwyd
Dosbarth Meistr 2015 yn ddiweddar ar y llong HMS Belfast yn
Llundain a arweiniodd at Adam Tonks, myfyriwr cyfrifiadura,
yn cael ei enwin Hyrwyddwr Seiberddiogelwch eleni. Am ragor
o wybodaeth am Her Seiberddiogelwch y DU dilynwch y ddolen
ganlynol: www.cybersecuritychallenge.org.uk
Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar gyfer cofnodi
twyll a seiberdroseddau chymhelliant ariannol.
Gall dioddefwyr roi gwybod am dwyll drwy ffonio
0300 123 2040 neu drwy ddefnyddior adnodd cofnodi ar-lein
yn www.actionfraud.police.uk. Maer gwasanaeth hefyd yn
galluogi pobl i gael help, cyngor a chymorth.
Mae Clwstwr Seiberddiogelwch De Cymru yn grp rhwydweithio i fusnesau a ffurfiwyd o dan fantell Fforwm Seiberddiogelwch y DU er mwyn mynd ati i gefnogi Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol Llywodraeth y DU a nod datganedig Llywodraeth Cymru i Dde Cymru fod yn ganolfan ar gyfer Seiberddiogelwch yn y DU.
Fei ffurfiwyd ac fei harweinir gan fusnesau yng Nghymru syn cyfarfod bob mis i roi gwybod am seiberfentrau, datblygu seibersgiliau yng Nghymru a helpu i ddatblygu busnesau ei gilydd.
Gall unrhyw un diddordeb ym maes seiberddiogelwch ymuno r grp am ddim a chynhelir cyfarfodydd bod ar y 3ydd dydd Mawrth o bob mis rhwng 2pm a 4pm yng Nghaerdydd. Ceir rhagor o wybodaeth yn www.southwalescyber.net
Tigerscheme is a certification scheme for technical security
specialists, backed by University standards.
Tigerscheme was founded in 2007, on the principle that
a certification scheme run on independent lines would give
buyers of security testing services confidence that they were
hiring a recognised and reputable company. Tigerscheme is
approved by CESG, the Information Security arm of GCHQ,
to carry out assessments for penetration testers which are
equivalent to CHECK standards.
Tigerscheme provides career progression through certification
and formal recognition of an individuals skills, and is awarded
on the basis of a rigorous independent assessment against
published and widely-accepted standards.
Tigerscheme is run and managed by the University of South
Wales Commercial Services Ltd, a wholly owned subsidiary
of the University of South Wales. The Industry Advisory Committee
includes representatives from Government and various sectors
of industry, including telecoms, utilities and academia.