4
www.horizonnuclearpower.com Datganiad o Ymgynghori Cymunedol Mae’r Datganiad o Ymgynghori Cymunedol hwn, a gynhyrchwyd gan Horizon Nuclear Power Wylfa Limited (Horizon), yn cydymffurfio ag Adran 47(6) Deddf Cynllunio 2008 ac fe’i cynhyrchwyd yn dilyn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ynys Môn ym mis Medi 2011. Gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa Helpwch ni i siapio ein cynigion Cwmni E.ON a RWE yn y DU Beth yw Datganiad o Ymgynghori Cymunedol? Mae’r Datganiad o Ymgynghori Cymunedol (SOCC) hwn yn egluro sut y bydd Horizon yn ymgynghori’n ffurfiol â phobl sy’n byw yng nghyffiniau’r tir yn Wylfa (y gymuned leol) lle mae’n gobeithio datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd. Mae hyn yn ychwanegol at y gweithgareddau ymgysylltu llai ffurfiol a gynhaliwyd hyd yma ac a fydd yn parhau, gan gynnwys cymorthfeydd galw-i-mewn, digwyddiadau a chyfarfodydd lleol. Mae eich sylwadau ar y cynigion yn bwysig i ni a chânt eu hystyried wrth i ni lunio a pharatoi ein cais ar gyfer y prif ganiatâd cynllunio – y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) – a gyflwynir i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC). Rydym am i’n hymgynghoriad fod yn un gonest, ystyrlon, cynhwysol ac eglur i bawb. Mae ‘Wylfa – Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol’ yn cynnwys manylion pellach am ein hymgynghoriad ac mae ar gael yn www.horizonnuclearpower.com neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â ni. Cafodd y dogfennau eu cynhyrchu yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol â Chyngor Sir Ynys Môn ac yn dilyn trafodaethau â Chyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ar beth mae Horizon yn ymgynghori? Mae Horizon yn awyddus i adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ar dir wrth ymyl yr Orsaf bŵer bresennol yn Wylfa ym Môn. Disgwylir y byddai’r orsaf bŵer newydd yn cynhyrchu tua 3,300 megawatt o drydan carbon isel – digon i gyflenwi tua phum miliwn o gartrefi. Gwneir y cais am DCO ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear gan gynnwys adeiladau’r adweithydd, y neuaddau tyrbin, staciau awyru, cyfleusterau storio gweddillion tanwydd, adeiladau gweinyddu a seilwaith dw ˆ r oeri. Bydd yr ymgynghoriad yn gwbl eglur ynghylch pa elfennau o’r cynigion yr ydym am glywed barn y gymuned leol arnynt, a’r rhai nad ydym yn gofyn am sylwadau arnynt (er enghraifft, y dewis o dechnoleg ar gyfer yr adweithydd) ac os felly, pam. Bydd angen rhywfaint o ddatblygiadau pellach hefyd nad ydynt yn dod o fewn cwmpas y DCO, ac mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys llety oddi ar y safle ar gyfer y gweithwyr, gwelliannau i ffyrdd, parcio a theithio, canolfannau crynhoi Cerbydau Nwyddau Trwm a chyfleusterau dadlwytho morol. Mae’r elfennau ychwanegol hyn o’r prosiect yn cael eu galw’n Ddatblygiadau Cysylltiedig. Yng Nghymru nid oes gofyniad cyfreithiol i ymgynghori ar Ddatblygiadau Cysylltiedig gan fod prosesau cynllunio gwahanol yn weithredol. Mae hyn yn golygu bod ceisiadau’n cael eu hystyried gan benderfynwyr gwahanol, er enghraifft Cyngor Sir Ynys Môn. Byddwn, fodd bynnag, yn cynnwys y Datblygiadau Cysylltiedig yn ein prif ymgynghoriad, er mwyn eu gosod yng nghyd-destun y prosiect llawn. Beth fydd effeithiau tebygol y datblygiad? Byddai’r prosiect yn arwain at fuddsoddiad a buddiannau sylweddol i’r ardal yn sgil creu tua 5,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu ac 800 o swyddi parhaol i redeg yr orsaf. Byddai’r orsaf bw ˆ er newydd yn cynhyrchu cyflenwad dibynadwy o drydan carbon isel a fyddai’n helpu’r Llywodraeth i gyflawni ei thargedau newid yn yr hinsawdd ac amcanion ei pholisi ynni. Fodd bynnag, byddai hwn yn brosiect adeiladu mawr hefyd. Byddai’r gwaith adeiladu ar y safle’n digwydd dros nifer o flynyddoedd a byddai’r orsaf bŵer newydd yn nodwedd amlwg o’r dirwedd yn lleol ar ôl iddi gael ei hadeiladu. Bydd y deunyddiau a ddarperir gennym fel rhan o’r ymgynghoriad felly’n amlinellu ac yn gwahodd sylwadau ar ein cynigion yn y cyfnod cyn gwneud y cais am y DCO. Byddwn yn cynnwys gwybodaeth am effeithiau posibl y cynigion (gan gynnwys effeithiau cronnus), megis traffig a thrafnidiaeth, sw ˆ n, llifogydd, archeoleg, ecoleg a’r effaith weledol, yn ogystal â’r effeithiau ar iechyd a diwylliant. Bydd cynigion yn cael eu cynnwys ar ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl er enghraifft, tirlunio, defnydd o’r tir yn y dyfodol a chynigion lliniarol i leihau effeithiau ar gynefinoedd naturiol, ymhlith pethau eraill. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cael ei gyfrif fel datblygiad Asesu Effeithiau Amgylcheddol i ddibenion Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009. Mae hyn yn golygu y bydd Datganiad Amgylcheddol yn cael ei baratoi i gyd-fynd â’r cais am DCO. Byddwn yn ymgynghori hefyd ar Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEI) yn ystod pob un o brif gamau’r ymgynghoriad a amlinellir isod. Yn ystod pob cam o’r broses bydd y dogfennau hyn yn amlinellu ein dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol posibl y cynigion. Bydd dogfennau cryno annhechnegol ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Pam mae Horizon yn ymgynghori? Mae Horizon yn cydnabod rôl bwysig yr ymgynghoriad i sicrhau bod cymunedau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae ein cynigion yn datblygu, yn ogystal â gwrando ar eu barn er mwyn siapio ein cynigion. O dan system gynllunio’r DU ar hyn o bryd, byddai’r prif gais am orsaf bŵer newydd yn cael ei gyflwyno i’r IPC, sef y corff annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau ar geisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Bwys Cenedlaethol (NSIP). Fodd bynnag dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 a wnaethpwyd yn ddeddf yn ddiweddar, mae’r rôl gwneud penderfyniadau ar gynlluniau NSIP wedi cael ei throsglwyddo i’r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar argymhellion y tîm seilwaith mawr yn y Gyfarwyddiaeth Gynllunio (a fydd yn disodli’r IPC). Disgwylir y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgymryd â’r swyddogaeth hon o fis Ebrill 2012 ymlaen. Disgwylir y bydd y gofynion ymgynghori cyn ymgeisio presennol yn aros yr un fath yn bennaf. Mae gwybodaeth am yr IPC a’i broesau ar gael ar ei wefan: http://infrastructure.independent.gov.uk. Bydd yr IPC yn ystyried a yw ein prosesau ymgynghori’n ddigonol cyn penderfynu a yw am dderbyn ein cais. Ar ôl iddo dderbyn cais, bydd yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a sut y mae hyn wedi helpu i ddylanwadu ar ddatblygiad y prosiect, yn cael ei ystyried gan yr IPC. Rhaid i’r IPC ystyried cais ar sail y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) perthnasol, sef y Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol ar Ynni (EN-1) yn yr achos hwn, sy’n penderfynu a oes angen gorsafoedd pŵer niwclear newydd a’r NPS Niwclear (EN-6) a oedd yn enwi safle’r Wylfa fel un posibl ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd. Cafodd y Datganiadau Polisi Cenedlaethol eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Senedd fis Gorffennaf 2011. Bydd ein hymgynghoriad yn cynnwys ein cynigion yn hytrach na’r polisi a amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Gellir gweld y Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar-lein yn: www.decc.gov.uk/en/content/ cms/meeting_energy/consents_planning/ nps_en_infra/nps_en_infra.aspx Pa bryd fydd Horizon yn ymgynghori? Mae’n bwysig bod yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle gwirioneddol i bobl i helpu i ddylanwadu ar y cynigion. Er mwyn sicrhau hyn, bydd Horizon yn cynnal o leiaf ddau gam o ymgynghoriadau gyda phob un yn para tua 10 wythnos: Cam Un (yn gynnar yn 2012) Bydd hwn yn gyfle i bobl weld ac i wneud sylwadau ar ein cynigion cynnar ar gyfer y prosiect, gan gynnwys y datblygiadau cysylltiedig (dyluniad yr orsaf bw ˆ er, llety’r gweithwyr a gwelliannau i ffyrdd), gan gynnwys manylion am yr opsiynau a ystyriwyd, neu sy’n cael eu hystyried. Bydd hefyd yn cynnwys PEI fydd ar gael adeg yr ymgynghoriad, a fydd yn diweddaru ein hastudiaethau amgylcheddol parhaus. Cam Dau (yn gynnar yn 2013) Bydd hwn yn egluro sut y cafodd yr adborth a gafwyd hyd yma ei ystyried. Ar ben hynny, byddwn yn rhoi ac yn gwahodd barn am gynigion mwy manwl ar gyfer y safle a PEI pellach (manylach na Cham Un). Bydd hyn yn disgrifio canlyniadau a deilliannau datblygiad yr Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol hyd yma. Gall Horizon gynnal rowndiau ymgynghori byrrach ychwanegol ar Ddatblygiadau Cysylltiedig neu ar agweddau penodol eraill ar y prosiect pan fydd yr wybodaeth ar gael neu mewn ymateb i ymatebion a gafwyd i ymgynghoriadau cynharach. Bydd y dyddiadau dechrau a gorffen, lleoliadau’r digwyddiadau a manylion ar ble i gael gafael ar wybodaeth bellach a sut y gallwch ymateb yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol ac ar ein gwefan mewn da bryd. Pwy mae Horizon yn ymgynghori â hwy? Bydd yr ymgynghoriad yn agored i bwy bynnag sy’n dymuno ymateb, beth bynnag yw eu hoed neu eu lleoliad. Bydd yr holl ohebiaeth leol mewn iaith eglur, annhechnegol a bydd yn ddwyieithog. Bydd siaradwyr Cymraeg ar gael yn ein digwyddiadau ymgynghori, megis arddangosfeydd cyhoeddus.

A new nuclear power station at Wylfa - Help us shape our proposals

Embed Size (px)

DESCRIPTION

This SOCC, produced by Horizon Nuclear Power Wylfa Limited (Horizon), complies with Section 47(6) of the Planning Act 2008 and has been produced following consultation with Isle of Anglesey County Council in September 2011.

Citation preview

Page 1: A new nuclear power station at Wylfa - Help us shape our proposals

www.horizonnuclearpower.com

Datganiad o Ymgynghori Cymunedol

Mae’r Datganiad o Ymgynghori Cymunedol hwn, a gynhyrchwyd gan Horizon Nuclear Power Wylfa Limited (Horizon), yn cydymffurfio ag Adran 47(6) Deddf Cynllunio 2008 ac fe’i cynhyrchwyd yn dilyn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ynys Môn ym mis Medi 2011.

Gorsaf bŵer niwclear newydd yn WylfaHelpwch ni i siapio ein cynigion

Cwmni E.ON a RWE yn y DU

Beth yw Datganiad o Ymgynghori Cymunedol?

Mae’r Datganiad o Ymgynghori Cymunedol (SOCC) hwn yn egluro sut y bydd Horizon yn ymgynghori’n ffurfiol â phobl sy’n byw yng nghyffiniau’r tir yn Wylfa (y gymuned leol) lle mae’n gobeithio datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd. Mae hyn yn ychwanegol at y gweithgareddau ymgysylltu llai ffurfiol a gynhaliwyd hyd yma ac a fydd yn parhau, gan gynnwys cymorthfeydd galw-i-mewn, digwyddiadau a chyfarfodydd lleol.

Mae eich sylwadau ar y cynigion yn bwysig i ni a chânt eu hystyried wrth i ni lunio a pharatoi ein cais ar gyfer y prif ganiatâd cynllunio – y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) – a gyflwynir i’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith (IPC).

Rydym am i’n hymgynghoriad fod yn un gonest, ystyrlon, cynhwysol ac eglur i bawb.

Mae ‘Wylfa – Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol’ yn cynnwys manylion pellach am ein hymgynghoriad ac mae ar gael yn www.horizonnuclearpower.com neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â ni. Cafodd y dogfennau eu cynhyrchu yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol â Chyngor Sir Ynys Môn ac yn dilyn trafodaethau â Chyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Ar beth mae Horizon yn ymgynghori?

Mae Horizon yn awyddus i adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ar dir wrth ymyl yr Orsaf bŵer bresennol yn Wylfa ym Môn. Disgwylir y byddai’r orsaf bŵer newydd yn cynhyrchu tua 3,300 megawatt o drydan carbon isel – digon i gyflenwi tua phum miliwn o gartrefi.

Gwneir y cais am DCO ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear gan gynnwys adeiladau’r adweithydd, y neuaddau tyrbin, staciau awyru, cyfleusterau storio gweddillion tanwydd, adeiladau gweinyddu a seilwaith dw r oeri. Bydd yr ymgynghoriad yn gwbl eglur ynghylch pa elfennau o’r cynigion yr ydym am glywed barn y gymuned leol arnynt, a’r rhai nad ydym yn gofyn am sylwadau arnynt (er enghraifft, y dewis o dechnoleg ar gyfer yr adweithydd) ac os felly, pam.

Bydd angen rhywfaint o ddatblygiadau pellach hefyd nad ydynt yn dod o fewn cwmpas y DCO, ac mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys llety oddi ar y safle ar gyfer y gweithwyr, gwelliannau

i ffyrdd, parcio a theithio, canolfannau crynhoi Cerbydau Nwyddau Trwm a chyfleusterau dadlwytho morol. Mae’r elfennau ychwanegol hyn o’r prosiect yn cael eu galw’n Ddatblygiadau Cysylltiedig. Yng Nghymru nid oes gofyniad cyfreithiol i ymgynghori ar Ddatblygiadau Cysylltiedig gan fod prosesau cynllunio gwahanol yn weithredol. Mae hyn yn golygu bod ceisiadau’n cael eu hystyried gan benderfynwyr gwahanol, er enghraifft Cyngor Sir Ynys Môn. Byddwn, fodd bynnag, yn cynnwys y Datblygiadau Cysylltiedig yn ein prif ymgynghoriad, er mwyn eu gosod yng nghyd-destun y prosiect llawn.

Beth fydd effeithiau tebygol y datblygiad?

Byddai’r prosiect yn arwain at fuddsoddiad a buddiannau sylweddol i’r ardal yn sgil creu tua 5,000 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu ac 800 o swyddi parhaol i redeg yr orsaf.

Byddai’r orsaf bw er newydd yn cynhyrchu cyflenwad dibynadwy o drydan carbon isel a fyddai’n helpu’r Llywodraeth i gyflawni ei thargedau newid yn yr hinsawdd ac amcanion ei pholisi ynni.

Fodd bynnag, byddai hwn yn brosiect adeiladu mawr hefyd. Byddai’r gwaith adeiladu ar y safle’n digwydd dros nifer o flynyddoedd a byddai’r orsaf bŵer newydd yn nodwedd amlwg o’r dirwedd yn lleol ar ôl iddi gael ei hadeiladu. Bydd y deunyddiau a ddarperir gennym fel rhan o’r ymgynghoriad felly’n amlinellu ac yn gwahodd sylwadau ar ein cynigion yn y cyfnod cyn gwneud y cais am y DCO. Byddwn yn cynnwys gwybodaeth am effeithiau posibl y cynigion (gan gynnwys effeithiau cronnus), megis traffig a thrafnidiaeth, sw n, llifogydd, archeoleg, ecoleg a’r effaith weledol, yn ogystal â’r effeithiau ar iechyd a diwylliant. Bydd cynigion yn cael eu cynnwys ar ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl er enghraifft, tirlunio, defnydd o’r tir yn y dyfodol a chynigion lliniarol i leihau effeithiau ar gynefinoedd naturiol, ymhlith pethau eraill.

Mae’r datblygiad arfaethedig yn cael ei gyfrif fel datblygiad Asesu Effeithiau Amgylcheddol i ddibenion Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009. Mae hyn yn golygu y bydd Datganiad Amgylcheddol yn cael ei baratoi i gyd-fynd â’r cais am DCO. Byddwn yn ymgynghori hefyd ar Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEI) yn ystod pob un o brif gamau’r ymgynghoriad

a amlinellir isod. Yn ystod pob cam o’r broses bydd y dogfennau hyn yn amlinellu ein dealltwriaeth o effeithiau amgylcheddol posibl y cynigion. Bydd dogfennau cryno annhechnegol ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam mae Horizon yn ymgynghori?

Mae Horizon yn cydnabod rôl bwysig yr ymgynghoriad i sicrhau bod cymunedau yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae ein cynigion yn datblygu, yn ogystal â gwrando ar eu barn er mwyn siapio ein cynigion.

O dan system gynllunio’r DU ar hyn o bryd, byddai’r prif gais am orsaf bŵer newydd yn cael ei gyflwyno i’r IPC, sef y corff annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau ar geisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Bwys Cenedlaethol (NSIP). Fodd bynnag dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 a wnaethpwyd yn ddeddf yn ddiweddar, mae’r rôl gwneud penderfyniadau ar gynlluniau NSIP wedi cael ei throsglwyddo i’r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar argymhellion y tîm seilwaith mawr yn y Gyfarwyddiaeth Gynllunio (a fydd yn disodli’r IPC). Disgwylir y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymgymryd â’r swyddogaeth hon o fis Ebrill 2012 ymlaen. Disgwylir y bydd y gofynion ymgynghori cyn ymgeisio presennol yn aros yr un fath yn bennaf. Mae gwybodaeth am yr IPC a’i broesau ar gael ar ei wefan: http://infrastructure.independent.gov.uk.

Bydd yr IPC yn ystyried a yw ein prosesau ymgynghori’n ddigonol cyn penderfynu a yw am dderbyn ein cais. Ar ôl iddo dderbyn cais, bydd yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau, a sut y mae hyn wedi helpu i ddylanwadu ar ddatblygiad y prosiect, yn cael ei ystyried gan yr IPC.

Rhaid i’r IPC ystyried cais ar sail y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) perthnasol, sef y Datganiad Polisi Cenedlaethol Cyffredinol ar Ynni (EN-1) yn yr achos hwn, sy’n penderfynu a oes angen gorsafoedd pŵer niwclear newydd a’r NPS Niwclear (EN-6) a oedd yn enwi safle’r Wylfa fel un posibl ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd.

Cafodd y Datganiadau Polisi Cenedlaethol eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Senedd fis Gorffennaf 2011. Bydd ein hymgynghoriad yn cynnwys ein cynigion yn hytrach na’r polisi a amlinellir yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol.

Gellir gweld y Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar-lein yn: www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/consents_planning/nps_en_infra/nps_en_infra.aspx

Pa bryd fydd Horizon yn ymgynghori?

Mae’n bwysig bod yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle gwirioneddol i bobl i helpu i ddylanwadu ar y cynigion. Er mwyn sicrhau hyn, bydd Horizon yn cynnal o leiaf ddau gam o ymgynghoriadau gyda phob un yn para tua 10 wythnos:

Cam Un (yn gynnar yn 2012)

Bydd hwn yn gyfle i bobl weld ac i wneud sylwadau ar ein cynigion cynnar ar gyfer y prosiect, gan gynnwys y datblygiadau cysylltiedig (dyluniad yr orsaf bw er, llety’r gweithwyr a gwelliannau i ffyrdd), gan gynnwys manylion am yr opsiynau a ystyriwyd, neu sy’n cael eu hystyried. Bydd hefyd yn cynnwys PEI fydd ar gael adeg yr ymgynghoriad, a fydd yn diweddaru ein hastudiaethau amgylcheddol parhaus.

Cam Dau (yn gynnar yn 2013)

Bydd hwn yn egluro sut y cafodd yr adborth a gafwyd hyd yma ei ystyried. Ar ben hynny, byddwn yn rhoi ac yn gwahodd barn am gynigion mwy manwl ar gyfer y safle a PEI pellach (manylach na Cham Un). Bydd hyn yn disgrifio canlyniadau a deilliannau datblygiad yr Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol hyd yma.

Gall Horizon gynnal rowndiau ymgynghori byrrach ychwanegol ar Ddatblygiadau Cysylltiedig neu ar agweddau penodol eraill ar y prosiect pan fydd yr wybodaeth ar gael neu mewn ymateb i ymatebion a gafwyd i ymgynghoriadau cynharach.

Bydd y dyddiadau dechrau a gorffen, lleoliadau’r digwyddiadau a manylion ar ble i gael gafael ar wybodaeth bellach a sut y gallwch ymateb yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol ac ar ein gwefan mewn da bryd.

Pwy mae Horizon yn ymgynghori â hwy?

Bydd yr ymgynghoriad yn agored i bwy bynnag sy’n dymuno ymateb, beth bynnag yw eu hoed neu eu lleoliad. Bydd yr holl ohebiaeth leol mewn iaith eglur, annhechnegol a bydd yn ddwyieithog. Bydd siaradwyr Cymraeg ar gael yn ein digwyddiadau ymgynghori, megis arddangosfeydd cyhoeddus.

Page 2: A new nuclear power station at Wylfa - Help us shape our proposals

www.horizonnuclearpower.com

YNN

I YN G

WEITH

IO I B

RYDAIN

Ynys Môn

Gwynedd

Abersoch

Pwllheli

Nefyn

Llanrwst

Betws-y-Coed

CaernarfonLlanberis

Bethesda

LlanfairfechanConwy

Deganwy

LlandudnoLlandrillo-yn-Rhos

Bae ColwynAbergele

RhylPrestatyn

Rhuddlan

Llanelwy

Dinbych

Rhuthun

Corwen

SAFLE

Caergybi

Ynys Gybi Llangefni BiwmaresPorthaethwy

Bangor

LlanfyllinLlyn Efyrnwy

Porthmadog

Harlech

Llanbedr

Abermaw Dolgellau

BlaenauFfestiniog

Bala

Conwy

A5025

Tregele

Cemaes

Gorsaf Bwer Wylfa SAFLE

Sut fydd Horizon yn ymgynghori, ac ym mhle?

Yn ystod pob cam o’r ymgynghoriad, byddwn yn:

• cynhyrchu dogfen gryno o’r ymgynghoriad drwy roi gwybodaeth am y prosiect, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau pwysig;

• rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad drwy gyhoeddi cylchlythyrau, hysbysebion yn y wasg, posteri a thrwy e-bostio pawb sydd ar gronfa ddata Wylfa;

• datblygu gwefan gyda gwybodaeth am y prosiect a holiadur ar-lein;

• rhoi cyfeiriad rhadbost ar gyfer ymateb drwy’r post;

• cynnal cyfres o arddangosfeydd ledled yr ardal leol;

• hysbysu’r cyfryngau lleol o’r datblygiadau;

• ysgrifennu’n uniongyrchol at gynrychiolwyr y gymuned, gan gynnwys Aelodau Seneddol a chynghorwyr;

• cynnig cyfl wyniadau a gwybodaeth yn uniongyrchol i Gynghorau Cymuned a chyfl ogwyr lleol pwysig; a

• chysylltu â grwpiau cymunedol i sicrhau bod yr ymgynghoriad mor gynhwysol â phosibl.

Bydd angen tir ar Horizon y tu allan i’r ardal hon er mwyn ei ddefnyddio dros dro yn ystod y cyfnod adeiladau ac ar gyfer gwaith tirweddu a lliniaru’r effaith ar yr amgylchedd yn y dyfodol. Mae Horizon yn siarad â thirfeddianwyr lleol perthnasol a chymdogion y safl e ynghylch y gofynion tir hyn, sydd yn dal i gael eu hystyried. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael am hyn yn ystod y broses ymgynghori.

Er mwyn ceisio sicrhau bod ein gweithgareddau ymgynghori mor effeithiol â phosibl, rydym wedi nodi’r ardaloedd ar y map uchod y bydd hyn yn debygol o effeithio fwyaf arnynt. Bydd gweithgareddau ymgynghori, megis digwyddiadau cyhoeddus, yn cael eu cynnal ledled Gogledd Orllewin Cymru ond canolbwyntir yn bennaf ar barth A, a’r rheini sy’n byw, yn gweithio ac yn defnyddio’r tir y gall hyn effeithio arno. Byddwn hefyd yn teilwra’r ymgynghoriad i’r cymunedau amrywiol ar Ynys Môn. Bydd y gweithgareddau yn y parthau allanol (B & C) yn debyg ond byddant yn llai dwys, gan ganolbwyntio ar ardaloedd poblog.

Beth fydd yn digwydd i’r ymatebion?

Ar ôl pob cam o’r ymgynghoriad byddwn yn cyhoeddi’r prif themâu a godwyd gan yr ymatebwyr ar ein gwefan. Byddwn yn defnyddio ymatebion perthnasol i’n helpu i feddwl am unrhyw newidiadau sydd angen i ni eu gwneud i’n cynlluniau.

Yn ail gam yr ymgynghoriad byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Cryno ar Gam Un yr Ymgynghoriad a fydd yn amlinellu’r ymatebion perthnasol a gafwyd a sut maent wedi helpu i ffurfi o ein cynlluniau diwygiedig ar gyfer Cam Dau.

Byddwn yn adrodd ar holl brosesau ymgynghori a chanfyddiadau Cam Un a Cham Dau mewn Adroddiad ar yr Ymgynghoriad a gaiff ei gyfl wyno i’r IPC ar yr un pryd â’n cais am DCO. Bydd yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn rhoi gwybodaeth am ein proses ymgynghori â’r gymuned leol ochr yn ochr â gofynion ymgynghori eraill, a bydd yn egluro sut y cafodd ymatebion perthnasol eu hystyried wrth ffurfi o’r cynlluniau terfynol ar gyfer y datblygiad. Bydd yr IPC yn ystyried yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn ystod y broses archwilio.

Sut y gallwch gael gafael ar wybodaeth?

Bydd deunyddiau’r ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan yn: www.horizonnuclearpower.com.

Bydd copïau o’r deunyddiau ar gael yn y mannau canlynol:

• Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

• lleoliadau megis prif swyddfeydd eraill y cyngor a llyfgrelloedd fel y nodir yn Wylfa - Dogfen Gefndir yr Ymgynghoriad Cymunedol

• neu drwy gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol.

Sut y gallwch chi gael mwy o wybodaeth?

Gallwch gysylltu â Horizon unrhyw bryd

• drwy anfon e-bost at: [email protected]

• Drwy ffonio: 0800 954 9516

• Gwefan: www.horizonnuclearpower.com

• Cyfeiriad Rhadbost: FREEPOST HORIZON NUCLEAR POWER CONSULTATION.

Ymgynghoriadau eraill

Cyn pob cam ymgynghori byddwn yn gofyn cyngor Cyngor Sir Ynys Môn ac yn ymdrechu i sicrhau bod manylion ar gael yn ein dogfennau cryno ac ar ein gwefan am unrhyw ymgynghoriadau pwysig eraill sy’n cael eu cynnal yn yr ardal ar yr un pryd â’n hymgynghoriad.

Rydym yn rhagweld y bydd ein hymgynghoriadau’n gorgyffwrdd ag ymgynghoriad(au) y National Grid ar gais am uwchraddio rhwydwaith Gogledd Cymru. Bydd hyn yn angenrheidiol er mwy cysylltu’r orsaf bw er newydd y mae Horizon am ei datblygu yn yr Wylfa â’r system drawsyrru trydan.

ALLWEDDParth A – Ynys Môn

Parth B – Gwynedd (Arfon)

Parth C – Gogledd Orllewin Cymru

Amlwch

Page 3: A new nuclear power station at Wylfa - Help us shape our proposals

Statement of Community Consultation (SOCC)

This SOCC, produced by Horizon Nuclear Power Wylfa Limited (Horizon), complies with Section 47(6) of the Planning Act 2008 and has been produced following consultation with Isle of Anglesey County Council in September 2011.

www.horizonnuclearpower.com

A new nuclear power station at WylfaHelp us shape our proposals

A UK company of E.ON and RWE

What is a Statement of Community Consultation?

This Statement of Community Consultation (SOCC) explains how Horizon will formally consult with people living in the vicinity of the land at Wylfa (the local community) on which it proposes to develop a new nuclear power station. This is in addition to the less formal engagement activities; including drop-in surgeries, local events and meetings, that have been held to date and which will continue as our plans progress.

Your comments on the proposals are important to us and will be considered as we shape and prepare our application for the main planning approval - the Development Consent Order (DCO) - which will be made to the Infrastructure Planning Commission (IPC).

We want our consultation to be honest, meaningful, inclusive and clear to all.

Our Wylfa – Community Consultation Background Document provides further detail on our consultation and background information behind this SOCC. This is available to view or download at www.horizonnuclearpower.com or by contacting us directly. The documents have been produced in formal consultation with Isle of Anglesey County Council and following discussions with Gwynedd Council and Conwy County Borough Council.

What is Horizon consulting on?

We are proposing to build a new nuclear power station on land next to the existing Wylfa A Power Station on Anglesey. The new power station would be expected to generate around 3,300 megawatts of low carbon electricity – enough to supply around fi ve million homes.

The DCO application will be for the nuclear power station including: reactor buildings, turbine halls, vent stacks, spent fuel storage facilities, administration buildings and cooling water infrastructure. The consultation will be clear about which elements of our proposals we are actively seeking the views of the local community on, and those we aren’t (for example choice of reactor technology) and if so, why we aren’t.

Some further development will also be needed which falls outside of the scope of the DCO, examples include off-site workers’

accommodation, road improvements, park & rides, Heavy Goods Vehicle consolidation centres and a marine off-loading facility. These additional elements of the project are known as Associated Development. In Wales there is no legal requirement to consult on Associated Development as it is subject to a different planning process. This means that applications are determined by different decision makers, such as Isle of Anglesey County Council for example. However, wherever possible, we will include Associated Development within our main consultation, to set it in the context of the full project.

What are the likely impacts of the development?

The project would bring signifi cant investment and benefi ts to the region through the creation of around 5,000 jobs during construction and 800 permanent operational jobs.

The new power station would produce reliable supplies of low carbon electricity, which would help the Government achieve its climate change targets and energy policy objectives.

However, this would also be a large construction project. Construction activities on the site would take place over a number of years and the new power station would be a signifi cant feature within the landscape once constructed. The consultation materials we will provide will therefore outline and seek views on our proposals in the run up to making the DCO application. We will include information on potential impacts of the proposals (including cumulative impacts), such as traffi c and transport, noise, fl ooding, archaeology, ecology and visual impact, as well as health and cultural impacts. Proposals will be included on ways to reduce any potential negative impacts, for example landscaping, future land uses and mitigation proposals to, among other things, reduce impacts on natural habitats.

The proposed nuclear power station is classifi ed as an Environmental Impact Assessment development under Schedule 1 to the Infrastructure Planning (Environmental Impact Assessment) Regulations 2009. This means that an Environmental Statement will be prepared to accompany the DCO application. We will also consult on Preliminary Environmental Information (PEI) at each of our main stages of consultation set out below. These documents

will set out at each stage our understanding of the potential environmental effects of the proposals. Non-technical summary documents will be provided in both Welsh and English.

Why is Horizon consulting?

Horizon recognises the important role of consultation in keeping communities informed of how our proposals progress, as well as listening to their views in shaping our proposals.

Currently under the UK’s planning system the main application for a new nuclear power station would be submitted to the IPC, which is the independent body that makes decisions on applications for Nationally Signifi cant Infrastructure Projects (NSIPs). However, under the recently enacted Localism Act 2011, the decision making function for NSIPs has been transferred to the Secretary of State. The Secretary of State will act upon the recommendation of a major infrastructure team within the Planning Inspectorate (which will replace the IPC). It is expected that the Secretary of State will take on this function from April 2012. Existing pre-application consultation requirements are largely expected to remain unchanged. Information about the IPC and its processes is available on its website: http://infrastructure.independent.gov.uk.

The IPC will consider the adequacy of our consultation processes before deciding whether to accept our application. Once an application has been accepted, the feedback received during the consultations, and how this has helped to infl uence the development of the proposals, will be considered by the IPC.

The IPC must consider an application in light of the relevant National Policy Statements (NPSs), which in this case would be the Overarching NPS for Energy (EN-1), which establishes the need for new nuclear power stations, and the Nuclear NPS (EN-6), which identifi ed the new site at Wylfa as potentially suitable for a new nuclear power station.

The NPSs were formally approved by Parliament in July 2011. Our consultation will cover our proposals rather than the policy set out in the NPSs. The NPSs can be viewed online at: www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/consents_planning/nps_en_infra/nps_en_infra.aspx

When will Horizon consult?

It is important that consultation gives people a real opportunity to help shape the proposals. To do this, Horizon will hold at least two stages of consultation each lasting around 10 weeks:

Stage One (in early 2012)

This will give people the opportunity to see and comment upon our early proposals for the project including Associated Development (for example power station layout, workers’ accommodation and road improvements), including details of options considered, or being considered. It will also include PEI available at the time of consultation, which will update on our ongoing environmental studies.

Stage Two (in early 2013)

This will explain how feedback received to date has been considered. In addition we will provide, and seek views on, more detailed proposals for the site and further PEI (more detailed than Stage One). It will describe the results and outcomes to date of the developing Environmental Impact Assessment.

Horizon may hold additional shorter rounds of consultation on Associated Development or other specifi c aspects of the project as the information becomes available or in response to earlier consultation or responses.

The start and end dates, the locations of events and details about where you can access further information and how you can respond, will be advertised in the local press and on our website in advance.

Who is Horizon consulting?

The consultation will be open to all who wish to respond, regardless of age or location. All local communications will be in clear, non-technical language and will be bilingual. Welsh speaking staff will be available at our consultation events, such as public exhibitions.

How will Horizon consult and where?

During each consultation stage, we will:

• produce a consultation summary document providing information about the proposals, including details of important dates and activities

Page 4: A new nuclear power station at Wylfa - Help us shape our proposals

www.horizonnuclearpower.com

ENERG

Y WO

RKING

FOR B

RITAIN

Anglesey

Gwynedd

Abersoch

Pwllheli

Nefyn

Llanrwst

Betws-y-Coed

Caernarfon Llanberis

Bethesda

LlanfairfechanConwy

Deganwy

LlandudnoRhos-on-Sea

Colwyn BayAbergele

RhylPrestatyn

Rhuddlan

St Asaph

Denbigh

Ruthin

Corwen

SITE

Holyhead

Holy Island Llangefni BeaumarisMenai Bridge

Bangor

LlanfyllinLake Vyrnwy

Porthmadog

Harlech

Llanbedr

Barmouth Dolgellau

BlaenauFfestiniog

Bala

Conwy

A5025

Tregele

Cemaes

WylfaPower Station SITE

• publicise the consultation using newsletters, press adverts, posters and by emailing our Wylfa database

• provide a website with project information and an online questionnaire

• provide a freepost address for postal responses

• hold a series of exhibitions across the local area

• keep the local media up to date

• write directly to community representatives including MPs and councillors

• offer presentations and information directly to Community Councils and major local employers; and

• liaise with community groups to ensure all consultation is as inclusive as possible.

To focus our consultation activities, we have identifi ed the areas most likely to be affected by the project on the map above. Consultation activities, such as public events, will take place across North West Wales but will focus particularly on zone A, and those

Horizon will need land outside of this area for temporary use during construction and for future landscaping work and environmental mitigation. Horizon is talking to the relevant local landowners and site neighbours about these land requirements, which are still under consideration. Further information on this will be available during the consultation process.

who live, work and use the potentially affected land. We will also tailor our consultation to the diverse communities on Anglesey. Activities in the outer zones (B & C) will be similar but gradually less intensive, focusing on populated areas.

What will happen to responses?

After each consultation stage we will publish the key themes that respondents raised on our website. We will use relevant responses to help us to consider any changes that we need to make to our proposals.

At our second stage consultation we will provide a Stage One Consultation Summary Report outlining the relevant responses received and how they have helped to shape our revised proposals for Stage Two.

We will report on all of our consultation processes and fi ndings from both Stage One and Stage Two in a Consultation Report to be submitted to the IPC at the same time as our DCO application. The Consultation Report will provide information on our local

community consultation process alongside other consultation requirements, and will explain how relevant responses were taken into account in shaping the fi nal proposals. The IPC will consider the Consultation Report during the examination process.

How can you access information?

Consultation materials will be available to view on our website: www.horizonnuclearpower.com

Copies of the materials will be available at the following locations:

• Isle of Anglesey County Council, Council Offi ces, Llangefni, Anglesey, LL77 7TW

• locations such as other main council offi ces and libraries as detailed in the Wylfa – Community Consultation Background Document

• by contacting us using the details provided here.

How can you fi nd out more?

You can contact Horizon at any time:

• by email - [email protected]

• by phone - 0800 954 9516

• website - www.horizonnuclearpower.com

• freepost address - FREEPOST HORIZON NUCLEAR POWER CONSULTATION.

Other consultations

Ahead of each stage of consultation, we will seek advice from Isle of Anglesey County Council and aim to make available details of any other major consultations taking place in the area at the same time as our consultation in our summary documents and on our website.

We anticipate that our consultations will overlap with National Grid’s consultation(s) on its consent applications for upgrades to the North Wales network. These upgrades will be necessary in order to connect the new power station Horizon is proposing at Wylfa into the electricity transmission system.

Amlwch

KEYZone A – Anglesey

Zone B – Gwynedd (Arfon)

Zone C – North West Wales