Upload
duongtram
View
217
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Tud
ale
n 2
Rhagair gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Claire Parmenter
Ar ran y Tîm Prif Swyddogion yn Heddlu Dyfed-Powys, mae’n
bleser gennyf gyflwyno ein Hadroddiad ar y Bwlch Cyflog
Rhwng y Rhywiau ar gyfer 2017 i chi, gan gynnwys ein
cynllun gweithredu ar gyfer lleihau’r bwlch dros y
blynyddoedd i ddod.
Mae manteision amrywiaeth ryweddol o fewn ein sefydliad yn
amlwg – mae’n cynorthwyo â denu talent, yn hybu
cynhyrchiant staff, yn bodloni anghenion ein cwsmeriaid a’n
cyflenwyr, ac yn sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu
gwerthfawrogi a’u cefnogi. Er ein bod ni wedi gweld gwelliannau mawr dros y
blynyddoedd o ran recriwtio mwy o swyddogion a staff benywaidd i’r gwasanaeth
Heddlu, mae tipyn o ffordd i fynd eto hyd nes y byddwn ni wir yn gynrychiadol ar
draws pob rheng. Fel Heddlu, rydyn ni’n cydnabod hyn, a chyn hir, byddwn ni’n
cyhoeddi ein dogfen ‘Gweithredu Cadarnhaol: Strategaeth Datblygu a Chadw’ a fydd
yn ceisio mynd i’r afael â’r gynrychiolaeth annigonol hon mewn rhengoedd uwch.
Er ein bod ni’n cydnabod bod gwaith yn parhau i’w wneud o ran sicrhau bod menywod
yn cael eu cynrychioli’n gyfartal ymysg rhengoedd, y mae hefyd yn hollbwysig ein bod
ni’n cydnabod y gwaith arbennig y mae ein swyddogion a’n staff, yn arbennig o fewn
ein Rhwydwaith Cefnogi Menywod, wedi bod yn ei gyflawni dros nifer o flynyddoedd
er mwyn gwella profiadau menywod o fewn yr Heddlu. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i
ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd parhaus – cefnogaeth sydd yn siŵr
o’n cynorthwyo i leihau ein bwlch cyflogau dros amser.
Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Claire Parmenter
Tud
ale
n 3
Cynnwys
1. Ynglŷn â Heddlu Dyfed-Powys …………………………………………………...4
2. Beth yw Adrodd am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau? ………..................7
3. Beth mae ein cyfrifiadau statudol yn dweud wrthym?..................................8
4. Sut ydyn ni’n bwriadu lleihau’r bwlch?…………………………………..…....15
5. Camau Gweithredu.………………………………………………………….........15
6. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf? 17
Tud
ale
n 4
1. Ynglŷn â Heddlu Dyfed-Powys
Ein Cymunedau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn diogelu’r bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Sir
Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Mae ganddo boblogaeth o dros
515,000, sy’n cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn gyda dyfodiad twristiaid, ac yn
ymestyn dros hanner tirwedd Cymru.
Ffurfiwyd yr heddlu yn 1968 pan unwyd y pedwar Cwnstabliaeth Sirol. Yn
ddaearyddol, yr heddlu mwyaf yng Nghymru a Lloegr ydyw, gyda dros 350 milltir o
arfordir, llawer o gymunedau gwledig anghysbell, ynghyd â nifer o ganolfannau sydd
â phoblogaeth gymharol fach gan gynnwys Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd,
Caerfyrddin ac Aberhonddu. Mae’r ardal yn ymestyn o Dyddewi yn y Gorllewin i
Grucywel yn y Dwyrain a hyd at y Trallwng a Machynlleth yn y Gogledd.
Ein gweledigaeth yw 'Diogelu ein Cymunedau’, a’n hethos cyffredinol yw teilwra'r
gwasanaeth a ddarparwn at anghenion lleol ein cymunedau drwy weithio gyda’n
sefydliadau partner.
Ar hyn o bryd, mae’r Heddlu’n cyflogi 2,008 o bobl1 ar draws y 4 ardal Awdurdod
Lleol. Mae hyn yn cynnwys 1,180 Swyddog Heddlu ac 828 aelod o staff. Mae
cyfnodau recriwtio rheolaidd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn yn unol â
chynllunio’r gweithlu.
Cynrychiolaeth menywod o fewn y sefydliad
Er bod gwasanaethau heddlu yn hanesyddol wedi profi anawsterau o ran denu
menywod i ymuno, mae’n dda nodi bod cynrychiolaeth fenywaidd o fewn
ymgyrchoedd recriwtio nawr yn gydradd â chynrychiolaeth wrywaidd. O’r herwydd,
mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld cynnydd yn nifer y menywod sy’n cael eu
recriwtio fel Swyddogion Heddlu a SCCH, ac mae menywod yn cael eu cynrychioli’n
1 Ffigurau’n gywir ar 31
ain Mawrth 2017
Tud
ale
n 5
dda o ran rolau staff o fewn y sefydliad. Fodd bynnag nid yw’r gynrychiolaeth hon yn
cael ei hadlewyrchu’n gyffredinol o fewn rhengoedd Swyddogion Heddlu uwch na
rolau rheoli o fewn staff yr heddlu, lle mae dynion yn parhau i fod yn fwy amlwg. Mae
gwaith yn cael ei gynnal er mwyn mynd i’r afael â’r gynrychiolaeth hon a chyn hir
bydd yr Heddlu’n cyhoeddi ei ddogfen ‘Gweithredu Cadarnhaol: Strategaeth
Datblygu a Chadw’, a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar gadw a datblygu menywod
o fewn y sefydliad.
Beth mae’r sefydliad wedi’i wneud yn y gorffennol er mwyn cynyddu
cynrychiolaeth fenywaidd?
Cydnabyddir yn eang o fewn y maes plismona nad yw’r gwasanaeth heddlu o
reidrwydd yn gynrychiadol o fenywod, yn arbennig ar rengoedd uwch, ac felly mae
nifer o fentrau wedi’u cynnal dros y blynyddoedd er mwyn gwella hyn. Mae mentrau
o fewn Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys:
1. Ail-lansio’r Rhaglen Springboard – Mae cyrsiau Springboard wedi’u
hadnewyddu o fewn y sefydliad er mwyn galluogi menywod i roi a derbyn
mwy o’u bywydau a’u gyrfaoedd, a sefydlir carfanau rheolaidd yn y
Pencadlys;
2. Codi ymwybyddiaeth trwy ein Rhwydwaith Cefnogi Menywod – Ers nifer
o flynyddoedd, mae’r Heddlu wedi cefnogi Rhwydwaith Cefnogi Menywod er
mwyn darparu gwell cefnogaeth i fenywod, a hefyd er mwyn gweithredu fel
ymgynghorwyr i’r Heddlu o ran datblygiad a chynrychiolaeth menywod. Mae’r
Rhwydwaith Cefnogi Menywod wedi gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth
o faterion sy’n effeithio ar fenywod, gan gynnwys cynnal digwyddiadau
Ymwybyddiaeth Menopos a gweithio gyda menywod yn y sefydliad er mwyn
nodi eu profiadau o feichiogrwydd a mamolaeth. Roedd y rhwydwaith hefyd
yn sylfaenol wrth lywio ail-lansiad Springboard o fewn yr Heddlu;
Tud
ale
n 6
3. Cefnogi’r ymgyrch #FiHefyd – Yn dilyn y sgandal cam-drin byd-eang
diweddar, lansiwyd yr ymgyrch #FiHefyd fel ffordd hawdd ei hadnabod o
ddileu’r stigma ynghylch aflonyddu rhywiol, a hynny gan ddioddefwyr a
chefnogwyr yr ymgyrch. Er mwyn cydlynu ymateb yr Heddlu i’r ymgyrch hon,
a sicrhau ein bod ni’n darparu amgylchedd teg, diogel a chyfiawn i’n
swyddogion a’n staff, sefydlwyd gweithgor i edrych ar adolygu polisïau,
gweithdrefnau ac arferion i sicrhau eu bod yn parhau’n gyfredol a’u bod yn
cefnogi dioddefwyr a throseddwyr honedig. O ganlyniad i waith y grŵp hwn,
cyn hir, bydd yr Heddlu’n cyflwyno ac yn cyhoeddi polisi Urddas yn y Gweithle
a fydd yn diffinio’n glir sut y bydd materion o’r fath yn cael eu trin;
4. Rhaglenni cynnydd megis Llywio - Er nad yw’r rhaglen hon wedi’i hanelu’n
benodol at ddatblygu menywod, mae’r rhaglen Llywio ar agor i bob swyddog
ac aelod staff wneud cais amdani, ac mae dynion a menywod yn cael eu
cynrychioli’n gyfartal. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi swyddogion a staff i
ddatblygu setiau sgiliau newydd ac ennill cymwysterau dros gyfnod o ddwy
flynedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu gyrfa o fewn Heddlu Dyfed-
Powys;
5. Annog a Mentora – Ers nifer o flynyddoedd mae’r heddlu wedi hyrwyddo
rhaglen Annog a Mentora. Mae’r cynllun hwn wedi bod o fudd i staff a
swyddogion ar draws yr Heddlu, gan gynnwys menywod, wrth iddynt
ddatblygu’r sgiliau i ddod yn anogwyr neu’n fentoriaid, neu wrth iddynt
dderbyn anogaeth neu fentora eu hunain er mwyn cyflawni eu hamcanion; a
6. Digwyddiadau Ymgyfarwyddo â Gyrfa - Bwriad y digwyddiadau hyn yw codi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael o
fewn Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys cyfleoedd datblygu gyrfa. Mae’r
rhaglen wedi rhedeg dros y ddwy flynedd diwethaf a cheir cynlluniau i gynnal
digwyddiadau pellach yr haf hwn, gan ganolbwyntio’n benodol ar annog
gweithlu cynrychiadol.
Tud
ale
n 7
2. Beth yw Adrodd am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau?
Adrodd am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yw’r gweithgaredd o gyhoeddi cyfrifon
statudol blynyddol sy’n dangos pa mor fawr yw’r bwlch cyflog rhwng ein gweithwyr
gwrywaidd a benywaidd.
O dan ddarpariaethau Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau
Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys
adrodd ar ei fwlch tâl rhwng y ddau ryw mewn chwe gwahanol ffordd, sef:
1. Y bwlch cyflog cymedrig2 rhwng y rhywiau – y gwahaniaeth rhwng cyflog
cymedrig gweithwyr gwrywaidd fesul awr a chyflog cymedrig gweithwyr
benywaidd fesul awr.
2. Y bwlch cyflog canolrif3 rhwng y rhywiau – y gwahaniaeth rhwng cyflog
canolrif gweithwyr gwrywaidd fesul awr a chyflog canolrif gweithwyr
benywaidd fesul awr.
3. Y bwlch bonws cymedrig – Yw’r gwahaniaeth rhwng y cyflog bonws
cymedrig a delir i weithwyr gwrywaidd a’r cyflog bonws cymedrig a delir i
weithwyr benywaidd.
4. Y bwlch bonws canolrif – y gwahaniaeth rhwng y cyflog bonws canolrif a
delir i weithwyr gwrywaidd a’r cyflog bonws canolrif a delir i weithwyr
benywaidd.
5. Cyfrannau Bonws – cyfran y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd a
dderbyniodd taliadau bonws.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau a Chyflog
Cyfartal?
Er bod cyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n ymdrin â’r anghyfartaledd
rhwng y cyflog y mae menywod a dynion yn derbyn yn y gweithle, dau fater
gwahanol ydynt:
2 Diffiniad cymedrig neu gyfartalog yw swm casgliad o rifau wedi’i rannu gyda chyfanswm y rhifau yn y
casgliad 3 Diffiniad canolrif yw pwynt “canol” set data
Tud
ale
n 8
1. Mae cyflog cyfartal yn golygu bod yn rhaid i ddynion a menywod yn yr un
gyflogaeth sy’n cyflawni gwaith cyfartal dderbyn cyflog cyfartal, fel y nodir yn
Neddf Cydraddoldeb 2010; ac
2. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n fesur o’r gwahaniaeth rhwng enillion
cyfartalog dynion a menywod ar draws sefydliad neu’r farchnad lafur. Mae’n
cael ei fynegi fel canran o enillion dynion.
Ym Mhrydain, ceir bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau o 18.1%4.
Mae’r papur hwn yn adrodd ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau ac felly mae’n
ymwneud â’r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a menywod yn Heddlu
Dyfed-Powys ar 31 March 2017.
4 https://www.equalityhumanrights.com/en/advice-and-guidance/what-difference-between-gender-pay-
gap-and-equal-pay
Tud
ale
n 9
3. Beth mae ein cyfrifiadau statudol yn dweud wrthym?
Noder: Mae’r holl wybodaeth isod yn seiliedig ar wybodaeth a oedd ar gael i ni
ar 31 Mawrth 2017.
Pob Swyddog ac Aelod Staff
Ar hyn o bryd, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyflogi 2,008 o bobl – mae hyn yn
cynnwys 1180 swyddog ac 828 aelod o staff (sy’n cynnwys SCCH).
Mae 57% o’n gweithlu’n ddynion, a 43% yn fenywod.
Canran y bwlch cyflog cymedrig fesul awr i bob gweithiwr cyflogedig
Canran y bwlch cyflog canolrif fesul awr i bob gweithiwr cyflogedig
9.61%
Canran y Bwlch Cyflog
Cymedrig Rhwng y
Rhywiau (£1.50p)
8.03%
Canran y Bwlch Cyflog
Canolrif Rhwng y Rhywiau
(£1.20p)
Tud
ale
n 1
0
Mae’r ffigurau’n dangos gwahaniaeth cyffredinol yng nghyflogau’r rhywiau o 9.61%,
sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 18.1%.
Sut y trosglwyddir hyn ar draws y rhengoedd a’r graddau cyflog?
Er mwyn dangos cynrychiolaeth dynion a menywod ar draws y rhengoedd a’r
graddau cyflog, mae pob swyddog ac aelod staff wedi eu rhannu i 4 chwartel cyflog.
Y chwartel cyntaf yw’r rolau â’r cyflogau isaf yn y sefydliad, a’r pedwerydd chwartel
yw’r rolau hynny o fewn y sefydliad sydd â’r cyflogau uchaf.
Fel y gellir gweld isod, mae menywod yn cael eu gorgynrychioli yn y rolau sydd â’r
cyflogau isaf – gan gynrychioli 68% o’r chwartel 1af, a’u tangynrychioli yn y rolau
sydd â’r cyflogau uchaf, gan gynrychioli 23% yn unig o’r 4ydd chwartel.
Tud
ale
n 1
1
Mae’r ffigurau uchod yn nodi anghyfartaledd o ran rheng a chyflog ar gyfer dynion a
menywod, ac mae gwaith yn parhau i ymdrin â’r wybodaeth a amlygwyd. Ceir
manylion ynglŷn â’n camau arfaethedig yn Adran 4 y papur hwn.
Swyddogion Heddlu
O ran cynrychiolaeth Swyddogion Heddlu, ar hyn o bryd mae 68% o’r holl
swyddogion heddlu’n ddynion, a’r 32% sy’n weddill yn fenywod - o gymharu â
chynrychiolaeth fenywaidd genedlaethol o 29%. Er bod o hyd peth ffordd i fynd i
gyflawni ein nod o raniad 50/50, mae’n dda gweld bod y swyddogion rydyn ni wedi’u
derbyn yn ddiweddar yn gymharol gynrychiadol.
Tud
ale
n 1
2
Canran y bwlch cyflog cymedrig fesul awr i Swyddogion Heddlu
Canran y bwlch cyflog canolrif fesul awr i Swyddogion Heddlu
5.14%
Canran y Bwlch Cyflog
Cymedrig Rhwng y
Rhywiau (£0.83p)
7.58%
Canran y Bwlch Cyflog
Canolrif Rhwng y Rhywiau
(£1.38p)
Tud
ale
n 1
3
Mae’r ffigurau ar gyfer swyddogion heddlu’n dangos gwahaniaeth o 5.14% o ran
cyflog gyda Swyddogion Heddlu benywaidd yn ennill cyflog canolrif o £16.83 fesul
awr o gymharu â Swyddogion Heddlu gwrywaidd sydd â chyflog canolrif o £18.21
fesul awr.
Staff Heddlu
Fel y nodir uchod, ar hyn o bryd mae’r Heddlu’n cyflogi 828 aelod o staff (gan
gynnwys SCCH). Mae 42% yn ddynion, a 58% yn fenywod.
Er bod y gynrychiolaeth gyffredinol yn foddhaol, dylid nodi bod y rhan fwyaf o’r
aelodau staff hyn yn cyflawni rolau â chyflogau is, fel y nodwyd yn gynharach yn yr
adroddiad hwn.
Canran y bwlch cyflog cymedrig fesul awr i Staff yr Heddlu
8.39%
Canran y Bwlch Cyflog
Cymedrig Rhwng y
Rhywiau (£1.21p)
Tud
ale
n 1
4
Canran y bwlch cyflog canolrif fesul awr i Staff yr Heddlu
Mae Staff Heddlu’n profi gwahaniaeth cyflog o 8.39%, gydag aelodau staff
benywaidd ar hyn o bryd yn ennill cyflog canolrif o £13.08 yr awr o gymharu ag
aelodau staff gwrywaidd sy’n ennill cyflog canolrif o £13.74 yr awr.
4.80%
Canran y Bwlch Cyflog
Canolrif Rhwng y Rhywiau
(£0.66p)
Tud
ale
n 1
5
4. Sut ydyn ni’n bwriadu lleihau’r bwlch?
Fel yr amlygwyd yn gynharach yn y papur hwn, mae’r Heddlu eisoes wedi cydnabod
yr angen i hyrwyddo datblygiad menywod o fewn ei weithlu er mwyn sicrhau bod
gennym gynrychiolaeth gyfartal ar draws pob rheng.
O’r herwydd, cyn hir bydd yr Heddlu’n lansio’i ddogfen ‘Gweithredu Cadarnhaol:
Strategaeth Datblygu a Chadw’ a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu a chadw
swyddogion a staff benywaidd.
Isod, ceir rhai o’r camau gweithredu a fydd yn cael eu datblygu fel rhan o’r
strategaeth honno:
Camau Gweithredu
Annog menywod i ymuno â ni fel cyfle gyrfa - ac ar yr un pryd, codi
ymwybyddiaeth ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael o fewn yr Heddlu, gan
sicrhau bod gan fenywod olwg glir o’r cyfleoedd ar gyfer datblygu o’r cychwyn
cyntaf, gan gynnwys cynlluniau ‘Mynediad Uniongyrchol’ a chanolbwyntio’n
benodol ar godi ymwybyddiaeth o swyddogaethau arbenigol o fewn yr
Heddlu;
Datblygu rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer menywod – gyda golwg ar
sicrhau fod gan ein swyddogion a’n staff benywaidd y wybodaeth berthnasol,
y profiad a’r hyder i wneud cais ar gyfer prosesau dyrchafu o fewn yr Heddlu,
gan gynnwys y rhaglen Llwybr Carlam;
Hyrwyddo rolau arbenigol ymysg menywod – gyda golwg ar gynyddu
cynrychiolaeth o fewn ein hunedau mwyaf arbenigol, megis yr Uned Ymateb
Arfog a’r Uned Plismona’r Ffyrdd, sydd â gweithwyr gwrywaidd yn bennaf.
Rhoi ystyriaeth i hyrwyddo rolau arbenigol ar sail ran-amser a sicrhau bod
cyfleoedd datblygu o fewn rolau o’r fath ar gael i fenywod;
Hyrwyddo Amgylchedd Gwaith Cefnogol – Sicrhau bod digon o wybodaeth
ar gael mewn perthynas â’r Rhwydwaith Cefnogi Menywod o’r cychwyn
cyntaf, a bod ein polisïau a’n gweithdrefnau’n gynhwysol ac yn cefnogi
datblygiad menywod. Bydd ffocws penodol yn cael ei roi ar drefniadau
gweithio hyblyg er mwyn sicrhau eu bod ar gael yn hawdd;
Tud
ale
n 1
6
Parhau i hyrwyddo iechyd a lles Menywod o fewn yr Heddlu - gan
gynnwys ffocws penodol ar famolaeth a’r menopos, gan sicrhau bod
cefnogaeth dda ar gyfer ein swyddogion a’n staff benywaidd yn y gweithle;
Adnabod rhwystrau rhag datblygu – gan weithio gyda swyddogion a staff
benywaidd er mwyn deall beth all achosi’r rhwystrau hyn, gyda golwg ar eu
dileu neu eu lleihau;
Sicrhau bod mentora ar gael yn hawdd – er mwyn sicrhau bod menywod
yn cael eu cefnogi trwy’r broses o ystyried cyfleoedd ar gyfer datblygu a
gwneud cais amdanynt;
Defnyddio’r ‘Cynllun Arfer Gorau’ – er mwyn rhoi cyfle i swyddogion a staff
ennill profiad a gwybodaeth o Heddluoedd eraill ar draws Cymru a Lloegr,
gyda golwg ar ddefnyddio hyn ar gyfer datblygu o fewn Heddlu Dyfed-Powys;
ac
Ymgymryd ag Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ar gyfer pob proses
recriwtio a datblygu – er mwyn sicrhau nad ydym yn rhoi menywod dan
anfantais yn anfwriadol yn ystod y broses o ymgeisio neu ddyrchafu.
Tud
ale
n 1
7
5. Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf?
Os oes gennych unrhyw sylwadau mewn perthynas â’n hamcanion a sut fedrwn ni
ddatblygu’n gwaith yn y maes hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Cydraddoldeb
ac Amrywiaeth gan ddefnyddio’r manylion isod.
Ffôn:
101
Gwasanaeth testun difrys ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn drwm eu clyw, neu â
nam ar eu lleferydd:
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys wasanaeth testun difrys ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn
drwm eu clyw, neu â nam ar eu lleferydd. Does dim rhaid i chi gofrestru er mwyn
defnyddio’r gwasanaeth hwn, ond byddai’n cynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys os
byddech yn dewis rhoi’ch manylion cyswllt i ni.
Y rhif ffôn symudol yw: 07811 311 908
E-bost:
Gwefan:
www.dyfed-powys.police.uk
Fersiwn Saesneg
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael drwy gyfrwng y Saesneg drwy alw heibio i’n
gwefan, neu drwy gysylltu â ni ar y manylion uchod.