13
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd Thema 3: Parhau i ddysgu, taflenni adnoddau Blwyddyn 7 Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd, ac ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant Dyddiad cyhoeddi: 05-2009 Cyf: 00043-2009-12-CYMRU

Agweddau Penaethiaid, athrawon ac Cymdeithasol ac ymarferwyr …sealcommunity.org/files/resources/Blwyddyn 7 Thema 3... · 2012. 11. 10. · y creaduriaid ddim yn gwybod beth i’w

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchraddThema 3: Parhau i ddysgu, taflenni adnoddau

    Blwyddyn 7

    Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd, ac ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a Gwasanaethau Plant

    Dyddiad cyhoeddi: 05-2009

    Cyf: 00043-2009-12-CYMRU

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    1

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.1 Darganfod pâr

    papur cyllell esgid

    pâst dannedd cath ci

    bwrdd llygoden soser

    sosban teledu cadair

    teclyn rheoli o bell ysgrifbin pysgodyn

    coler ci trwyn caead

    brwsh gwallt fforc brwsh dannedd

    gwialen bysgota

    brwsh bocs o hancesi

    hosan rhaw lwch gwallt

    goleuadau traffig

    cwpan car

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    2

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU © Hawlfraint y Goron 2009

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.2 Elin, Steffan a’r creaduriaid arian

    Wyt ti’n cofio Elin a Steffan a’u taith i’r dyfodol? Roedden nhw’n chwilio am blanedau newydd heb neb yn byw arnyn nhw, y gallai pobl o’r Ddaear symud iddyn nhw. Roedd y llong ofod yn teithio’n gynt na goleuni. Roedd ei synwyryddion yn chwilio am blaned oedd â dŵr ac atmosffer a fyddai’n addas i bobl.

    Yn hwyr un noson, cafodd prentisiaid y gofod eu galw i’w monitorau i edrych ar y blaned gyntaf y bydden nhw’n ymweld â hi. Arafodd y llong ofod a hofran uwchben y blaned. Gallai’r prentisiaid weld tir cyfoethog â llynnoedd a choedwigoedd tebyg iawn i’r rhai sydd ar y Ddaear. Wrth iddyn nhw edrych, sylweddolodd Elin bod creaduriaid arian yn byw ar y blaned, a’u bod nhw’n methu credu’r hyn yr oedden nhw’n ei weld wrth i’r llong ofod ddechrau disgyn yn araf ac yn ofalus. Yn sydyn, trodd y rhyfeddod ar eu hwynebau’n ofn wrth i’r llong ofod grynu a llithro i’r ochr i gyfeiriad llyn ag adeiladau prydferth o’i amgylch. Roedd gwres y llong ofod yn troi’r dŵr yn stêm ac yn dinistrio’r adeiladau.

    Dysgodd y prentisiaid wedyn bod y creaduriaid yn cael eu holl fwyd o’r llyn. Amser maith yn ôl, roedden nhw wedi datblygu system bysgota awtomatig. Y cyfan yr oedd yn rhaid i’r creaduriaid ei wneud oedd troi switsh ymlaen, a byddai rhwydi enfawr yn codi cannoedd o lysywod o waelod y llyn. Yna, byddai’r llysywod yn cael eu troi’n awtomatig yn fwyd blasus tu hwnt. Doedd y creaduriaid ddim yn gwybod beth i’w wneud heb y peiriant. Roedd y peiriant mor ddibynadwy fel na fu’n rhaid ei drwsio na chael un newydd yn ei le erioed. Nawr felly, doedd y creaduriaid ddim yn gallu ei drwsio nac adeiladu un newydd yn ei le. Bu prentisiaid y gofod yn ymchwilio, gan ddysgu bod y blaned yn frith o lynnoedd a oedd yn llawn llysywod a physgod o bob lliw a llun. Dangosodd synwyryddion y llong ofod bod modd eu bwyta a’u bod nhw’n flasus iawn.

    Roedd prentisiaid y gofod yn poeni am beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw am wneud iawn am y llanast yr oedden nhw wedi’i greu. Buon nhw’n trafod beth allen nhw ei wneud yng nghyfarfod y Cyngor.

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    3

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddau

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    6

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU © Hawlfraint y Goron 2009

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.4 Beth ydy fy agwedd i?

    Cardiau sefyllfa

    Rwyt ti’n gadael dy feic y tu allan i’r siop, ond rwyt ti’n anghofio’i gloi. Mae’n cael ei ddwyn.

    Mae sip dy fag di’n torri, ac mae dy ffôn di’n syrthio allan ohono ac yn torri.

    Rwyt ti’n colli’r bws. Dyma’r trydydd tro i ti fod yn hwyr, ac rwyt ti’n cael dy gosbi.

    Rwyt ti’n colli cyfle i sgorio gôl.

    Rwyt ti’n gadael i ffrind fenthyca dy dop newydd. Mae’n ei rwygo.

    Rwyt ti’n cael dy wahardd rhag mynd allan am dy fod ti’n hwyr eto. Cefaist dy rybuddio, ond ddechreuaist di ddim ar dy ffordd tan yr eiliad olaf. Roedd olwyn dy feic yn fflat, a bu’n rhaid i ti gerdded.

    Rwyt ti’n cnoi afal, ac mae gwenynen ynddo sy’n dy bigo di.

    Rwyt ti’n dawnsio yng nghyngerdd yr ysgol. Dyma dy berfformiad cyntaf di. Rwyt ti’n baglu ac yn troi dy figwrn.

    Rwyt ti’n gwylio ffilm arswyd, a dwyt ti ddim yn gallu cysgu wedyn.

    Rwyt ti’n mynd â chacen i barti pen-blwydd ffrind sy’n byw yr ochr arall i’r ffordd. Mae’n bwrw glaw, ac mae’r eisin yn cael ei ddifetha.

    Rwyt ti’n esgus ymladd â dy frawd, ac rwyt ti’n gollwng dy chwaraewr MP3 ar y llawr.

    Rwyt ti’n prynu losin ar dy ffordd adref ac yn eu bwyta i gyd. Rwyt ti eisiau prynu cryno-ddisg newydd, ond does gen ti ddim digon o arian.

    Cardiau cymeriad

    Fi sy’n gyfrifol Pam fi? Fi sy’n iawn

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    7

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.5 Fi sy’n gyfrifol

    Gallai tri gwirfoddolwr actio’r tri chymeriad yn y sefyllfaoedd canlynol, neu gallech chi eu hactio.

    Mae Mr Fisyniawn yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw ci. Mae’n edrych i lawr ac yn dweud, ‘Hen gŵn diawledig, ddylen nhw ddim cael dod ‘ma. Os dalia i’r ci a’i berchennog mochaidd, fe wna i’n siŵr na fyddan nhw’n gallu cerdded byth eto!’

    Mae Mr Pamfi? yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw ci. Pan mae’n edrych i lawr ac yn gweld beth sydd wedi digwydd, mae’n dweud, ‘Does dim byd yn newid. Dwi mor anlwcus. Dyw pethau fel hyn byth yn digwydd i unrhyw un arall. Mae popeth yn fy erbyn i... mae’r byd i gyd yn fy erbyn i...’’

    Mae Mr Fisyngyfrifol yn cerdded trwy’r goedwig ac yn camu ar faw ci. Pan mae’n edrych i lawr ac yn gweld beth sydd wedi digwydd, mae’n dweud, ‘O daro! Dyna niwsans! Dylwn i fod wedi talu mwy o sylw – mae llawer o gŵn o gwmpas y goedwig ‘ma. Y tro nesa’, bydd yn rhaid i fi edrych ble dwi’n mynd.’

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    8

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU © Hawlfraint y Goron 2009

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.6 Cyrraedd dy nod

    Cam 1

    Cam 2

    Cam 3

    Cam 4

    Cam 5

    Nod

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    9

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.7 Rhwystrau

    Diflasu

    Drysu

    Meddwl am rywbeth arall

    Methu deall

    Cael dy demtio

    Teimlo’n rhwystredig

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    10

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU © Hawlfraint y Goron 2009

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.8 Her ‘Wrth gwrs y gallwn ni!’

    Byddwch chi’n gweithio mewn grwpiau i helpu’ch gilydd i gyrraedd eich nodau a gwneud eich marc. Her eich grŵp ar gyfer y sesiwn yw creu cynllun i ddangos sut y byddwch yn helpu pawb yn eich grŵp i gyrraedd eu nodau. Bydd angen i chi baratoi cyflwyniad ar gyfer gweddill y grŵp i ddangos sut y byddwch yn gwneud hynny.

    Dylai eich cyflwyniad roi syniad clir i’r gynulleidfa o bob agwedd ar eich cynllun. Bydd angen y canlynol ar eich cynulleidfa:

    • rhywbeth i edrych arno;

    • rhywbethdiddorolifeddwlamdano;

    • rhywbethi’whelpuigofionodeichgrŵp;

    • rhywbethiddangosbethsy’ngwneudeichgrŵp yn arbennig.

    Dylai eich cynllun gynnwys:

    • manylion sy’n dangos sut y bydd pethau pan fyddwch chi i gyd wedi cyrraedd eich nodau;

    • syniadauarsutioresgynrhwystrau;

    • manylionsy’ndangosblerydychchinawrmewnperthynasâ’ch nodau;

    • gwybodaethamsutybyddwchchi’ncefnogieich gilydd;

    • manylionunrhywwobrausyddeuhangeni’channog i ddal ati pan fyddwch chi eisiau rhoi’r ffidil yn y to;

    • rhywbethiddangoseichcynnydd;

    • gwobri’rgrŵpamgyrraeddnodaueichgrŵp.

    Bydd gennych 30 munud i gynllunio beth rydych chi’n mynd i’w wneud, a thair munud i gyflwyno’ch syniadau a’ch cynlluniau i weddill y dosbarth. Bydd gennych weddill y tymor i weithredu’ch syniadau.

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    11

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.9 Dilema Llinos

    ‘Llinos, Llinos... helpa fi! Dere ‘ma, Llinos!’ Ceisiodd Llinos beidio â gwrando, ond aeth ei weiddi’n uwch ac yn uwch. Roedd hi’n gwybod mai dagrau fyddai nesaf. Meddyliodd Llinos, ‘Sut yn y byd ydw i’n mynd i allu gorffen fy ngwaith cartref os nad ydy Dafydd yn stopio gofyn i fi chwarae gyda fe?’ Trodd Llinos. Roedd Dafydd yno’n gwenu arni, ac mewn chwinciad roedd wedi ymestyn a gafael yn ei llyfr braslunio ac roedd yn ei dynnu tuag at ei geg. Roedd yn rhy hwyr erbyn iddi fynd â’r llyfr oddi wrtho – roedd hi’n gwybod y byddai’r braslun wedi’i ddifetha, ac roedd Miss Tomos yn dibynnu arni i baratoi llun da ar gyfer yr arddangosfa.

    Roedd hi ar fin gweiddi ar Dafydd, ond stopiodd ei hun – i beth? Nid fe oedd ar fai. Dylai hi fod wedi bod yn fwy gofalus. Roedd Llinos yn meddwl y byd ohono – yn amlach na pheidio roedd Dafydd yn llawer o hwyl. Ond yn bwysicach fyth, roedd e’n meddwl y byd o Llinos; roedd e’n meddwl mwy ohoni na neb arall a byddai’n fodlon gwneud unrhyw beth drosti.

    Roedd Llinos a Dafydd yn byw gyda’u mam. Gadawodd eu tad nhw’n fuan wedi i Dafydd gael ei eni, ac roedd e’n byw’n ôl yng Ngwlad Pwyl erbyn hyn. Roedd e’n ffonio Llinos bob wythnos, ond doedd e byth yn gofyn am gael siarad â Dafydd. Roedd hynny’n brifo mam Llinos, ond doedd Dafydd ddim yn poeni. Aeth Llinos i lawr y grisiau.

    ‘Paid anghofio ymarfer dy ffliwt!’ dywedodd ei mam. ‘Ddoi di byth i chwarae’r ffliwt yn dda fel Mam-gu os na fyddi di’n ymarfer bob dydd. Mae’n dweud bod gen ti’r ddawn. Os gwnei di ymarfer yn galed, efallai y cei di dy ddewis.’ Roedd Llinos ar fin codi’r ffliwt pan ganodd ei ffôn. Morgan oedd yno. Roedd e eisiau i Llinos gwrdd ag e mewn hanner awr er mwyn mynd i’r dre gyda gweddill eu ffrindiau.

    Rhoddodd Dafydd ei hoff lyfr i Llinos, a chwtsiodd gan ddisgwyl iddi ei ddarllen iddo. Dyna pryd y sylweddolodd hi ei bod wedi anghofio am ei gwaith cartref mathemateg. Sut gallai hi fod wedi anghofio? Roedd hi wedi addo i Dad y byddai’n canolbwyntio ar fathemateg am ei fod e am iddi fynd i’r Brifysgol. Roedd e wedi dweud na fyddai Llinos yn gallu cael lle yn un man heb fathemateg a Saesneg.

    Rhoddodd Llinos ei phen yn ei dwylo.

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    12

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3 00043-2009-12-CYMRU © Hawlfraint y Goron 2009

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.10 Meini’r athronydd

  • Agw

    eddau cymdeithasol ac em

    osiynol ar ddysgu: Thema 3 P

    arhau i ddysgu

    13

    © Hawlfraint y Goron 2009 00043-2009-12-CYMRU Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu ar gyfer ysgolion uwchradd: Taflenni Adnoddau Thema 3

    Taflen adnoddauTaflen adnoddau 3.11 Dy darian gyflawni

    Yn y rhan uchaf, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi sut llwyddaist ti i gyrraedd dy nod.

    Yn y rhan chwith, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi rhywbeth rwyt ti wedi’i gyflawni yn yr ysgol.

    Yn y rhan dde, defnyddia eiriau a/neu luniau i nodi rhywbeth rwyt ti wedi’i gyflawni y tu allan i’r ysgol.

  • Cyf: 00043-2009-12-CYMRU

    © Hawlfraint y Goron 2009

    Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deuyddiau Secondary Social and Emotional Aspects of Learning a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfieithwyd y deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda chaniatâd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr.

    Tîm Ennyn Diddordeb DisgyblionAPADGOSLlywodraeth Cynulliad CymruParc Cathays CaerdyddCF10 3NQ

    Ffôn: 029 2082 1556Ffacs: 029 2080 1044Ebost: [email protected]/topics/educationandskills/learningproviders/schools/pseseal/?lang=cy

    Ymwadiad

    Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adran a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y ddogfen hon, boed y deunyddiau hynny ar ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.

    Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio am resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n golygu bod cwmnïau penodol neu’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.

    Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd y deunyddiau eu hargraffu. Dylai tiwtoriaid wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a dylid eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.