Upload
fulton-howell
View
46
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
AMGYLCHEDD. ARLUNWYR CYMREIG AC ERAILL. Iwan Bala www.iwanbala.com. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Iwan Balawww.iwanbala.com
“Mae fy ngwaith yn ymdrin â thirwedd, tirwedd diwylliant, cof, dychymyg. Tirwedd hunaniaeth. Rwyf yn ymdrechu i ymchwilio ac i greu rhyw fath o fap o'r dirwedd bersonol yma, fy ynys fechan, er mwyn ei lleoli o fewn tirwedd ehangach y byd mawr".
My work attempts to define the cultural particularity that I was born with, the language, myths, history and poetry. In a multicultural world, I am aware also of the fragility of all core cultural identities, just as I am aware of the fragility of the landscape and ecology of the places we live in, and the barren materialism of much of our lives.
Lluniau trwy ganiatad caredig Iwan Bala
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Brendan Stuart Burnswww.brendanstuartburns.co.uk
Mae perthynas agos gydag arfordir Sir Benfro wedi ysgogi cyfres o beintiadau mawr a chyfredol.
Mae’r cysyniad o ofod, yn wirioneddol ac yn ddarluniadol; goblygiadau amser a lle; materion o fewn symudiadau, tywydd a golau; ochr yn ochr ag ystum, cipolwg a chof yn themâu angenrheidiol o fewn y peintiadau hyn
Lluniau trwy ganiatad caredig Brendan Stuart Burns
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Sarah Bettswww.oriel.org.uk
Mae ei gwaith yn archwilio ei phrofiadau o ddieithrio, cyfrinachedd, tristwch a llawenydd. Mae hi’n defnyddio delweddau o ddrysau a ffenestri fel symbolau er mwyn mynegi’r profiadau preifat hyn. Mae hi’n gweithio gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu a gwrthrychau mae hi’n canfod eu bod yn cynnwys eu hanesion eu hunain.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Gwenllian Beynonwww.artinwales.com“Pan oeddwn yn iau roeddwn
bob amser yn cydnabod ysbryd y lle yn sythweledol – mewn anheddau yn arbennig - “Dyma le hapus". “Dyma le trist". Roeddwn bob amser yn teimlo mai hanes, y bobl a oedd wedi bod yno a oedd wedi creu’r ysbryd hwn. Ar hyn o bryd, rwyf yn byw mewn man lle rwyf wedi cael llawer o broblemau – cymydog gwael, gwyddau’n sgrechian ac yn ymladd, combács, i enwi ond ychydig. Rwyf yn cael fy hun yn myfyrio ar ai’r lle neu’r presennol sy’n creu ei ysbryd – Rwyf yn GADAEL".
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
David Garner www.davidgarnerartist.com
Mae cyfosodiadau atgofus Garner yn ymwneud â natur hepgorol pobl. Caiff gwrthrychau a delwedd o fywyd pob dydd eu defnyddio i wneud gwaith sy’n myfyrio ar anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, yn enwedig o ran ffoaduriaid a phobl wedi’u dadleoli. Caiff deunyddiau wedi’u hepgor ac wedi’u hailgylchu o’n cymdeithas sy’n taflu i ffwrdd eu bwndelu, gan greu eiddo wedi’u pecynnu, bywydau wedi’u pecynnu.
Lluniau trwy ganiatad caredig David Garner
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Arthur GiardelliYn 90 oed mae Giardelli yn
parhau i “greu’r adeiladweithiau cerfweddol ysgafn a barddol y mae’n fwyf adnabyddus yn eu cylch. Yn haniaethol o ran ffurf, mae’r rhain yn adleisio symudiad y tymhorau, egni’r gwynt, neu symudiadau’r llanw. Cânt eu gwneud o ddeunyddiau hapgael atgofus, wedi’u gwneud ac yn naturiol, pob un â’i hanes a’i gysylltiadau.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Neale Howells“Mae’n ymddangos bod ei
beintiadau a’i ddarluniadau a ysbrydolwyd gan graffiti yn cyfeirio at y teledu, clebran a gipglywyd neu ddarnau o wybodaeth a glywyd wrth diwnio’r radio. Y canlyniad yw mas o farciau sy’n gadael y gwyliwr yn ansicr sut a phryd i symud ymlaen. Mae gwaith Howells yn ymddangos yn ‘rywbeth’ byw sydd â’i fywyd ei hun"
(wedi’i ddyfynnu o Ffresh 3, arddangosfa yn Chapter/G97 ym Mawrth 2002).
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Shani Rhys JamesRwyf yn peintio am
y stiwdio, y gegin, yr artist, fy mhlant, atgofion o’m plentyndod. Felly mae elfennau dychmygus ac arsylwadol yn cydfodoli ym mhob darn o waith”
Lluniau trwy ganiatad caredig Shani Rhys James
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Mary Lloyd Jones
Mae ei gwaith yn ceisio distyllu’r dirwedd, yn ceisio cipio ei bodolaeth ffisegol, ynghyd â’i chreithiau, wrth ddatgelu ei hanes ac, yn rhyfedd, mewn gwaith sydd bob amser heb ffurf ddynol – yn dangos ein perthynas â’r tir nawr ac yn y gorffennol. '
Lluniau trwy ganiatad caredig Mary Lloyd Jones
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Lois WilliamsYn fy stiwdio, rwyf yn
gweithio â phethau o’m cwmpas: weiar sy’n fy atgoffa o wallt, gwallt go iawn a gwallt synthetig; blew ceffylau, gwlân defaid, mwslin, ffelt, rhaff, papur; pob math o bethau a dweud y gwir.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
GWAITH TIRMae celf daear (fe’i
gelwir hefyd yn “gelf tir") yn cyfeirio at fudiad o artistiaid sydd ag ystod eang o nodau, ond cawsant oll eu creu ym myd natur, gan ddefnyddio deunyddiau megis cerrig, baw a dail. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn gerfluniol.
ARLUNWYR:Robert SmithsonAndy GoldsworthyWalter De MariaChris DuryRichard LongTracey EminVan Gogh
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Robert SmithsonRobert Smithson
(Americanwr, 1938-1973), Spiral Jetty, 1970, cerrig basalt du, pridd a chrisialau halen, torch: 1,500 x 15 troedfedd, yn ymestyn yn wrthglocwedd i ddŵr coch tryleu Great Salt Lake, UT. Hyd yn hyn ni chafodd hyn ei wneud. Spiral
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Andy GoldsworthyAndy Goldsworthy, un o Two
Oak Stacks, 2003, dwy belen fawr o ffyn derw wedi’u pentyrru a’u gweu, Canolfan Gelfyddydol Storm King, NY. Mae’r belen hon o ffyn yn syth y tu allan i adeilad yr amgueddfa, i’w gweld drwy ffenestr yr oriel lle cafodd y belen arall o ffyn yr un peth ei hadeiladu a’i harddangos.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Walter De MariaWalter De Maria (Americanwr,
1935-), The New York Earth Room, 1977, cerflun pridd y tu mewn: 250 o lathenni ciwbig o bridd (197 metr ciwbig), 3,600 troedfedd sgwâr o ofod y llawr (335 metr sgwâr), 22 modfedd o ddyfnder y deunydd (56 centimetr), cyfanswm pwysau’r cerflun: 280,000 pwys. (127,300 cilo), Dia Center for the Arts, 141 Wooster Street, New York City.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Richard LongRichard Long (Sais, 1945-),
A Line Made by Walking, 1967, ffotograff a phensil ar fwrdd, delwedd: 37.5 x 32.4 cm, Tate Gallery, Llundain. Creodd Long y gwaith pridd hwn drwy gerdded yn ôl ac ymlaen ar yr un linell mewn cae glaswelltog yng Ngwlad yr Haf, Lloegr, gan dreulio llwybr cul, a barodd tan i’r glaswellt dyfu’n ôl eto.Tynnodd Long y ffotograff hwn o’i waith er mwyn ei gofnodi.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Tracey EminMae My Bed, Tracey Emin,
a aeth ar y rhestr fer yn hydref 1999 ar gyfer Gwobr Turner (plât 1), yn cyflwyno sylfaen sy’n dal matras ac ar ben hynny mae cynfasau crychlyd, gobenyddion a thywel; wedi’u pentyrru wrth eu hochr mae amrywiaeth o eitemau o boteli fodca i sliperi a dillad isaf, pecynnau sigarennau i gondomau a chyfarpar gwrthgenhedlu, (hunan) bortreadau Polaroid i degan fflwfflyd gwyn.
Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
www.gcad-cymru.org.uk
GCaD CYMRUNGfL
Van GoghCafodd y gwaith hwn ei
beintio tra bod Van Gogh yn gweithio yng nghwmni Gauguin yn Arles. Cafodd ei atgyffwrdd yn gynnar yn 1889. Peintiodd Van Gogh gymar i’r llun, o gadair freichiau Gauguin, a ddangosir gyda’r nos, sydd bellach yn Rijksmuseum Vincent Van Gogh, Amsterdam. Mae’n bosibl mai bwriad y ddau beintiad oedd cynrychioli natur a diddordebau cyferbyniol y ddau arlunydd. Mae’r llun hwn yn y parth cyhoeddus gan fod yr hawlfraint arno wedi terfynu