Upload
axel
View
78
Download
7
Embed Size (px)
DESCRIPTION
ANDROCLES A'R LLEW. Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
ANDROCLES A'R LLEW
Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio.
Ar y dechrau trodd i ffoi, ond wedyn, ar ôl sylwi nad oedd y llew wedi'i ddilyn, trodd yn ôl ac aeth ato. Wrth iddo nesáu, estynnodd y llew ei bawen a oedd yn hollol chwyddedig ac yn gwaedu, a gwelodd Androcles fod draenen enfawr wedi cydio ynddi a dyma oedd yn achosi'r holl ddolur.
Tynnodd y ddraenen a lapiodd bawen y llew mewn cadach. Cyn pen dim roedd y Llew yn gallu codi i'w draed a llyfnu llaw Androcles fel ci. Yna aeth y Llew ag Androcles i'w ogof, a bob dydd byddai'n dod â chig iddo ei fwyta i oroesi.
Ond yn fuan wedyn, cafodd Androcles a'r Llew eu dal. Dedfrydwyd y dylid taflu'r caethwas i'r Llew, ar ôl i'r Llew gael ei gadw heb fwyd am ychydig ddyddiau.
Daeth yr Ymerawdwr a'i lys cyfan i weld y digwyddiad mawr, a chafodd Androcles ei arwain i ganol yr arena. Yn fuan rhyddhawyd y Llew o'i ffau, ac fe ruthrodd ar garlam tuag at ei ysglyfaeth gan ruo.
ARENA RUFEINIG - VERONA
Ond wrth iddo nesáu at Androcles, roedd e'n adnabod ei hen ffrind a dechreuodd ei bawennu a llyfu ei ddwylo fel ci cyfeillgar. Gofynnodd yr Ymerawdwr, a oedd wedi synnu wrth hyn, i Androcles ddod ato, a dyma fe'n adrodd y stori gyfan. Wedi clywed hyn, cafodd y caethwas bardwn a'i ryddhau, a rhyddhawyd y Llew yntau i'w goedwig frodorol.