15
Cyflogwr Diwrnod da o waith Adroddiad Blynyddol 2011/12 5 MAI 2011 25 MAI 2011 LlGIW 7 GORFFENNAF 2011 Cofrestru Stryd Pendyris 30 MAWRTH 2012 3 IONAWR 2012

Annual Report 2012 Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Annual Report 2012 Welsh

Citation preview

Page 1: Annual Report 2012 Welsh

Cyflogwr

Diwrnod da o waith

Adroddiad Blynyddol 2011/125MAI

2011

25MAI2011

LlGIW

7GORFFENNAF

2011

Cofrestru

Stryd Pendyris

29JULY

201130MAWRTH

20123IONAWR

2012

Page 2: Annual Report 2012 Welsh

Cyflwyniad gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredydd Bob dydd, mae ein staff yn gwneud pethau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau ein cwsmeriaid. Weithiau mae hynny’n beth bach - cael sgwrs pan fyddant yn glanhau’r grisiau, rhoi taflen i roi gwybodaeth am wasanaeth newydd, neu wneud gwaith trwsio’n gyflym ac effeithiol.

Ar adegau eraill, gall rhywbeth a wnawn newid bywyd person - mae trosglwyddo’r allweddi i gartref yn cynnig dechrau newydd mewn bywyd; mae eu helpu i wynebu problem bersonol a fu’n eu poeni ers talwm yn gam cyntaf i oresgyn eu hanawsterau; mae sicrhau eu bod o’r diwedd yn derbyn siec am fudd-dal wedi’i ôl-ddyddio ar ôl i ni apelio drostynt yn llacio straen ariannol.

Nid yw’n Cynllun Busnes ni yn ddim gwahanol i un neb arall - gosodwn nodau uchel i’n hunain ac rydym yn falch pan ydym yn eu cyflawni. Eleni aethom ati i baratoi ein cwsmeriaid ar gyfer yr heriau anodd sydd i ddod, gweithio gyda hwy i ddod o hyd i swyddi a hyfforddiant, eu holi am ansawdd ein gwasanaethau, drwy ddau brif arolwg, a pharhau ein rhaglen fuddsoddi boblogaidd (Safon Ansawdd Tai Cymru) yn eu cartrefi.

Fe wnaethom anelu i ysbrydoli hyder yn ein Rheoleiddwyr drwy broses hunanasesu gadarn, a hefyd gynnal ystod helaeth o weithgareddau Cyswllt â Chwsmeriaid a Datblygu Cymunedol. Fe wnaeth ein tîm Datblygu unwaith eto gyflawni’r mwy nag a ragwelwyd, gan greu cartrefi i 59 o aelwydydd.

Fe wnaethom ehangu ein Gwasanaethau Cymorth drwy ennill contractau newydd a mwy ym Mro Morgannwg, a thalu am dros 100 o baneli solar o’n harian ein hunain, gan helpu tenantiaid a’n hincwm yn y dyfodol ar yr un pryd.

Ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, yn arolwg Lle Gwych i Weithio, ynghyd ag asesiad annibynnol, fe wnaethom ennill y 5ed ‘Gweithle Gorau’ ym Mhrydain, gan drechu pob corff arall yng Nghymru a phob Cymdeithas Tai arall y Deyrnas Unedig a gymerodd ran.

Ond yr hyn sy’n ein gwneud yn fwyaf balch yw’r hyn y mae ein gwaith yn ei olygu i unigolion, a sut y gall diwrnod da o waith newid bywydau.

Yn yr adroddiad yma, rhannwn rai o’n ‘dyddiau da’ o’r llynedd gyda chi i ddangos y gwahaniaeth a wnawn.

2

“Drwy fynd i ddigwyddiadau Taff mae’r rhan fwyaf o newidiadau pwysig yn digwydd yn fy mywyd.”Waffa Fadeel – Cynorthwydd Yn Ysgol Gynradd Parc Ninian a Tenant

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

Page 3: Annual Report 2012 Welsh

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

3

1 2 3 4 10 11 12

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

4 Ebrill Ar y dydd Llun cyntaf ym mis Ebrill fe wnaethom ddechrau ar ein contractau newydd sbon Cefnogi Pobl ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg. Buom yn llwyddiannus yn ennill dau gontract:• Gwasanaeth cyffredinol sy’n cynnwys pobl gydag anabledd dysgu,

problemau iechyd meddwl a symudedd corfforol/anabledd, salwch cronig, pobl hy^n

• Gwasanaeth Rhieni Bregus ar gyfer rhieni sengl a theuluoedd.Bu’r broses dendro yn drwyadl iawn ac roedd yn cynnwys casglu amrywiaeth o dystiolaeth, ymateb i gwestiynau a osodwyd ymlaen llaw a rhoi cyflwyniadau i staff y Fro. Fe wnaethom wahodd defnyddwyr gwasanaeth draw i ddweud eu hanesion yn ystod y cyflwyniadau, a dweud sut oedd ein gwaith wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.“Mae Tai Taff wedi troi fy mywyd o amgylch er gwell. Heb eu cefnogaeth a’u help nhw, fyddwn i ddim wedi gallu gwneud unrhyw beth.”“Rydw i wedi cael gwasanaeth ardderchog gan y gweithwyr cymorth unigol a hefyd gan yr holl dîm. Mae cael staff yn ymweld â fi ac yn fy nghefnogi wedi gwneud gwahaniaeth i fy mywyd.”Roeddem yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad ac yn falch a hapus tu hwnt i ennill y ddau gontract, fel y gallwn barhau gyda’r gwaith da.

6 Ebrill Croeso i Kevin a Jonny a gyflogwyd i wneud yr holl waith trydanol yn ein cartrefi -

mae hyn yn lle defnyddio contractwyr. Yn ystod y flwyddyn fe wnaeth y tîm 1,448 o

atgyweiriadau a phrofi 212 o systemau trydanol. Fe wnaethom arbed £89,000 drwy

wneud y gwaith ein hunain, yn cynnwys yr holl Dreth ar Werth y byddem wedi

gorfod ei thalu pe byddem wedi defnyddio contractwyr.

Roedd tenantiaid yn falch gyda’r gwasanaeth newydd yma

hefyd. Dyma ddwy o’r negeseuon yn canmol a gafodd y tîm

yn ystod y flwyddyn:

“Roedd y trydanwr yn gwrtais a thaclus iawn. Fe wnaeth

esbonio’r gwaith y byddai’n ei wneud ac roedd yn

broffesiynol iawn.”

“Gwnaed y gwaith i safon uchel iawn. Roedd yn gwrtais tu

hwnt ac roeddwn yn fodlon iawn. Fe wnaeth lanhau ar ei ôl.

Fe ddywedais y byddwn i’n gwneud hynny ond gadawodd

bopeth yn lân a thaclus.”

18EBRILL

201118 Ebrill - Proffilio TenantiaidFe wnaethom ddechrau’r dasg enfawr o ddiweddaru’r wybodaeth sydd gennym ar ein tenantiaid. Fe wnaethom anfon holiaduron yr oedd tenantiaid wedi’u llenwi o’r blaen yn gofyn iddynt gadarnhau fod yr wybodaeth a gawsom yn dal yn gywir, a hefyd ofyn am fwy o wybodaeth, er enghraifft, am incwm tenantiaid. Os nad oeddem yn cael ateb, fe wnaethom ffonio neu ymweld. Mae gennym wybodaeth erbyn hyn ar 90% o’n cwsmeriaid. Defnyddiwn yr wybodaeth i deilwra ein gwasanaethau i gwsmeriaid ar sail ddyddiol, ond rydym hefyd wedi’i defnyddio i’n helpu i fesur effaith newidiadau mewn budd-daliadau ar gyfer pob person. Gallwn yn awr gynnig cyngor a chefnogaeth unigol i’r tenantiaid yr effeithir arnynt.

4EBRILL

2011

6EBRILL

2011

Page 4: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

5 Mai Roedd Esther Patricio o Glanyrafon, sy’n denant i Gymdeithas Tai Taff,

wrth ei bodd i dderbyn cyfrifiadur wedi’i adnewyddu gennym.

“Roedd Tai Taff yn garedig iawn yn rhoi cyfrifiadur i mi. Doedd gen i

ddim un o’r blaen - i mi, roedd cyfrifiaduron yn brathu! Roeddwn wedi

bod ar gynifer o gyrsiau, ond es i ddim ar ôl pethau nes i mi gael y

cyfrifiadur. Fedrwn i ddim bod wedi fforddio prynu un fy hunan.”

Cafodd cyfanswm o fwy na 35 o gyfrifiaduron ac un gliniadur gartrefi

newydd gyda thenantiaid yn ystod prosiect pum mis yn cynnwys meddalwedd gweithredu

sylfaenol a gwrth-firws a, lle’r oedd angen, ddonglau i gysylltu gyda darparydd rhyngrwyd.

Derbyniodd tenantiaid yng Nglanyrafon, Grangetown, Lecwydd a Threganna

gyfrifiaduron personol i’w helpu i fynd ar lein.

Dywedodd Esther, sy’n hanu o Zimbabwe, fod y cyfrifiadur wedi agor byd

newydd iddi: “Nawr rydw i ar Facebook ac yn gallu cysylltu gyda phobl. Mae gen i

ffrindiau a theulu ym mhob rhan o’r byd. Mae cysylltu â hwy drwy e-bost yn beth

arall y gallaf ei wneud erbyn hyn.”

Mae tenantiaid hefyd yn defnyddio eu cyfrifiaduron ar gyfer gwaith cartref,

chwilio am swydd a siopa ar y rhyngrwyd.

“Mae wedi gwneud bywyd yn haws ac rwy’n awr yn gallu siopa o gartref.”

“Rwy’n fodlon iawn gydag ef. Mae’n helpu llawer arnaf i drefnu fy mhethau.

Hefyd, rwy’n dysgu sgiliau newydd bob hyn a hyn.”

“Mae wedi gwneud cyfathrebu gydag aelodau fy nheulu yn llawer haws. Rwyf

hefyd yn darllen papurau newydd ar y rhyngrwyd.”

18 Mai Roedd yr hyn a edrychai’n dasg amhosibl - troi pum llain ddiffaith yn rhandir

- yn sydyn yn edrych o fewn cyrraedd, pan ymunodd mwy na 20 o staff

Taff gyda staff o Barclays am Ddiwrnod Rhandir Corfforaethol arbennig yn

Lecwydd ym mis Mai.

Yn yr wythnosau blaenorol, roedd staff Taff, tenantiaid

a chontractwyr o Macob a Landcraft, wedi bod yn brysur

yn clirio sbwriel o’r safle, yn barod ar gyfer y diwrnod

gweithredu.

Diolch yn fawr i Barclays - bancwyr Taff - am gyfrannu sied ar gyfer

y rhandiroedd, a gafodd ei chodi gan y gwirfoddolwyr ar y dydd.

Ymunodd tîm Barclays gydag aelodau eraill o staff a thenantiaid i

adeiladu gwelyau plannu, peintio a glanhau’r safle’n gyffredinol -

tipyn o gamp, gan ei fod yn faint pum cwrt tenis!

Defnyddiwyd y sied newydd ar unwaith ar gyfer cyfarfodydd, gwneud te a choffi,

storio a hyd yn oed fel tŷ gwydr ar gyfer tomatos un o’r tenantiaid.

Cafodd y gwelyau uchel a wnaed ar y dydd eu llenwi gyda chennin, pys, nionod a

courgettes, a roddodd maes o law gnydau gwych i denantiaid eu mwynhau.

Cafodd tenantiaid lawer o fanteision o’r prosiect - tyfu bwyd rhad, iach, cadw’n

heini ac yn iach, heb sôn am gwrdd â thenantiaid a garddwyr eraill (mae’n safle

cyfeillgar iawn, gyda llawer o bobl yn rhannu planhigion a chynnyrch!).

4

5MAI

2011

18MAI

2011

Page 5: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

5

25 Mai: Lle Gwych i WeithioNoswaith i’w chofio! Cawsom ein dewis y 5ed Gweithle Gorau ym Mhrydain, y 44fed yn Ewrop gyfan ac ennill gwobr Prydain am Iechyd a Lles staff. Ni oedd y gymdeithas tai yn y safle uchaf a’r sefydliad gorau yng Nghymru ar y rhestr o 50 - hyd yn oed yn curo Admiral Insurance! Bu’n nod gennym bob amser gyrraedd y 5 uchaf yn y rhestr yma, y wobr bwysicaf i gyflogwyr y Deyrnas Unedig, felly roeddem wrth ein bodd i’w hennill, yn arbennig gan mai un o’n hoff sêr teledu Bill Turnbull oedd arweinydd y noson.

25MAI2011

LlGIW

13MEHEFIN

2011

13 Mehefin Dechreuodd Miss A ar denantiaeth newydd cymdeithas tai a gyda help ei Gweithiwr Cefnogaeth Tenantiaid, setlodd yn gyflym i’w chartref, gan gysylltu â’r asiantaethau allanol a’r cwmnïau cyfleustodau perthnasol i agor cyfrifon newydd. Roedd yn 18 oed ac yn feichiog ar y pryd. Llenwodd y Gweithiwr Cymorth gais grant Gofal Cymunedol am help i brynu eitemau hanfodol i’r ty^. Yn anffodus, gwrthodwyd y cais a’r apêl. Yn benderfynol, gofynnodd ei Gweithiwr Cymorth am adolygiad

gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ac fel canlyniad derbyniodd Miss A £1,471 mewn cymorth ariannol a’i galluogodd i brynu eitemau hanfodol ac addurno ei chartref.

Ers hynny cafodd Miss A ferch fach. Mae’n rheoli ei thenantiaeth yn annibynnol ac yn mwynhau bod yn fam newydd yn ei chartref ei hunan.

20 Mehefin Fy enw yw Babi Ty ac rwy’n byw yn Nhy^ Enfys gyda fy mam. Rwyf bron yn 2 oed. Cefais lawer o ddyddiau hwyl!

Un diwrnod pan oedd yr haul yn tywynnu fe fûm yn chwarae yn ein gardd gyda fy ffrindiau.Y peth gorau gen i yw pan fydd Elaine a Michelle, ein gweithwyr chwarae, yn cael y pwll padlo allan ac rydym i gyd yn mynd yn wlyb iawn. Weithiau mae ein mamau’n chwarae yn yr ardd hefyd. Unwaith fe wnaethant chwarae cerddoriaeth a buom yn neidio o gwmpas. Dywedodd mam mai Zumba oedd hynny - roeddem i gyd yn meddwl ei bod yn ddigri iawn! Dro arall fe wnaeth rhywun ddod â pharasiwt mawr i chwarae arno ac fe fuom yn bownsio fy Tigger i fyny a lawr ynddo.

20MEHEFIN

2011

Page 6: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

7GORFFENNAF

2011

Cofrestru

Stryd Pendyris

29JULY

2011

14GORFFENNAF

2011

4GORFFENNAF

2011 4 Gorffennaf Cwblhawyd cytundeb benthyca newydd £5m gyda Banc

Barclays. Mae’r cytundeb ar gyfer cyfleuster benthyca 30

mlynedd er, fel sy’n arfer cyffredin ers y wasgfa ar gredyd,

cynhelir adolygiadau bob pum mlynedd a all ailosod

telerau’r benthyciad. Rydym eisoes wedi defnyddio £2.5m

o’r cyfleuster i helpu ariannu cartrefi newydd.

7 Gorffennaf: Cofrestru Stryd Pendyris

Cafodd tenantiaid cyntaf ein datblygiad Stryd Pendyris yr allweddi

i’w cartrefi newydd ar y ‘diwrnod cofrestru’. Mae’n dyddiau

cofrestru bob amer yn boblogaidd, gyda thenantiaid yn cael cyfle

i gwrdd â’u cymdogion newydd a dysgu popeth am eu cartrefi

newydd a pholisïau Taff.

Bu’n flwyddyn wirioneddol lwyddiannus i’r rhaglen ddatblygu a

gwariwyd dros £5m ar gartrefi newydd. Adeiladwyd 59 o gartrefi newydd ar 2 safle

mawr - Golchfa Stryd Pendyris a Ffordd Bartley Wilson (hen gae pêl-droed Parc Ninian) -

fydd yn gartref i 158 o bobl.

Datblygwyd Ffordd Bartley Wilson mewn 2 gam mewn partneriaeth gyda Redrow Homes

a ddatblygodd dai preifat ar weddill y safle gan greu nifer o brentisiaid newydd fel rhan

o’r contract adeiladu. Yn yr un modd, mae MiSpace - datblygwyr hen safle’r golchdy -

hefyd wedi ymrwymo i gyflogi llafur lleol a darparu lleoedd i brentisiaid ar y safle.

Mae’r ddau ddatblygiad yn cyflawni Lefel 3+ y Cod Cartrefi Cynaliadwy gan roi graddfa

uchel o insiwleiddiad a chynhesrwydd i’r adeiladau, yn ogystal â phaneli solar i ddarparu

dŵr poeth.

“Y gwahaniaeth mwyaf a wnaeth hyn yw pa mor hapus yr ydym. Rwy’n agos at fy nheulu

ac yn dal i fod yn y gymuned. Mae’r ardd yn breifat iawn. Roedd fy nghartref diwethaf yn

llaith iawn. Yma mae’r gwres yn twymo’r ty^’n braf mewn dim o dro.”

14 Gorffennaf: Lansio’r Grw^ p Gweithredu Anabledd

Mae’r grw^ p hwn wedi tyfu mewn cyfnod byr ac wedi datblygu

ei gyfansoddiad ei hun, yn ogystal â dod yn aelodau o Anabledd

Cymru a Rhwydwaith Agored Anabledd De Cymru. Maent yn

anelu i godi ymwybyddiaeth o faterion anabledd a chynnig

arwyddbostio a gwybodaeth. Mae’r grw^ p wedi ffurfio cysylltiad

agos gyda Neil Thomas, Hyrwyddwr Amrywiaeth Anabledd Taff.

6

Page 7: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

29 Gorffennaf: Diwrnod Hwyl Teulu Taff

Cafodd Diwrnod Hwyl Teulu Taff yn y

Stadiwm Athletau Rhyngwladol yn Lecwydd

fis Gorffennaf ei alw’n un o’r digwyddiadau

gorau erioed gan Taff, gyda mwy na

750 o bobl yn bresennol. Fe wnaeth hyn

wirioneddol gadarnhau ein henw da fel

cymdeithas gymunedol gan i ni wahodd

pawb yn yr ardal, nid dim ond tenantiaid.

Roedd gweithgareddau’n amrywio o reslo

Sumo i Bucking Broncos, reidiau ffair,

arddangosiad o adar gwyllt, sgiliau syrcas,

chwaraeon ar yr astro-turf a llawer mwy.

Cynlluniwyd y Diwrnod Hwyl i roi diwrnod

gwych am ddim i deuluoedd yng ngwyliau’r

haf - rhywbeth y gwyddom fod pobl yn

ei werthfawrogi pan fo arian yn dyn. Fe

wnaethom hyd yn oed roi cinio am ddim i

denantiaid a’u teuluoedd.

7

1 Awst Babi Ty sydd yma eto! Rydym yn aros tu mewn pan mae’n bwrw ond rydym yn dal i gael llawer o hwyl. Rwy’n hoffi ein hystafell chwarae oherwydd mod i’n peintio a chanu a chwarae teganau gyda fy ffrindiau a’u mamau. Rwy’n hoffi

amser stori hefyd ac yn arbennig pan fyddwn yn gwneud rhigymau gyda’n gilydd. Mae gennym danc pysgod yno hefyd a llun mawr llachar ‘Dan y Môr’. Mae tiwbiau mawr hefyd. Mae ganddyn nhw oleuadau neis ac yn gwneud swigod hyfryd. Mae fy mam yn dweud fod hon yn ystafell synhwyraidd - rwyf wrth fy modd yn edrych ar y pysgod a’r swigod.

“Da iawn ai aff, diwrnod gwych

mas, wrth fy modd, diolch i chi.”

“Lluniau gwych”.

“Llongyfarchiadau am ddiwrnod llawn hwyl.”

29GORFFENNAF

2011

1AWST

2011

Page 8: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

18 Awst: Diwrnod Cymryd Rhan Yn un o bedwar diwrnod ‘Cymryd Rhan’, daeth nifer dda o denantiaid i’r digwyddiad gan fwynhau gweithdai fel ‘Cymorth Cyntaf i Famau’ gan y Groes Goch Brydeinig, sut i hel achau, gwnïo a crochet yn ogystal â llawer o wybodaeth ar yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned.

Mae dyddiau Cymryd Rhan eraill wedi cynnwys sesiwn gydag Undeb Credyd Caerdydd yn canolbwyntio ar drin arian a gweithdy gan ‘Extend Exercise’ i’r rhai dros 50. Dywedodd Mary Hayes, ‘Roedd honno’n

ffordd ddifyr iawn o gadw’n heini heb ei gorwneud hi.’

Mae’r cyflwyniadau wedi cynnwys gwybodaeth am gyffuriau gan yr Heddlu, sesiwn gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar risg llifogydd a lansio rhaglen hyfforddiant “Y Ffordd Ymlaen” yn Taff mewn cysylltiad gyda’r Wallich.

19 Awst: Gw^ yl Glanyrafon Rydym wedi datblygu presenoldeb cynyddol yng Ngŵyl Glanyrafon, gyda staff a thenantiaid yn mwynhau cymryd rhan yn un o ddyddiau cymunedol hynaf a mwyaf bywiog Caerdydd.

Mae llawer o denantiaid Taff yn byw yng

Nglanyrafon a byddant yn cofio g ^wyliau

egsotig a lliwgar dros y blynyddoedd. Daeth

Taff â rhywbeth newydd i’r digwyddiad, gyda’r

gweithgareddau a noddir yn cynnwys tîm

trwsio Doctor Beic - bob amser yn boblogaidd

yng Nglanyrafon! - a thîm crochenwaith

‘Aveagoceramics’, un o ffefrynnau’r w^ yl.

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth am wasanaethau,

daeth stondin Taff yn un o’r llefydd

mwyaf hwyliog gyda gemau i’w chwarae,

cystadlaethau a rhoddion. Roedd plant o

amgylch y stondin drwy gydol digwyddiad

2011 gyda staff yn cynnal gweithgareddau,

dosbarthu rhoddion a gwobrau a chyhoeddi

enwau enillydd y gystadleuaeth.

“Mae’n hwyl fawr cymryd rhan yng Ngw^ yl

Glanyrafon - rwyf wrth fy modd gyda’r

orymdaith, y gwisgoedd lliwgar, stondinau bwyd

o bob rhan o’r byd, y gerddoriaeth a’r canu.

Mae’r cyffro ar y diwrnod yn wych,” meddai

Steve Dixon, Swyddog Datblygu Cymunedol Taff.

8

19AWST

2011

30 Awst Dyma fi eto. Fi sydd yma, Babi Ty! Dysgodd Elaine fy mam i dylino babi a nawr dyma un o fy hoff bethau ac mae’n gwneud i mi deimlo’n braf a chysglyd. Ond pan wyf

yn effro, rydw i’n hoffi mynd i’n campfa babanod neu weithiau, pan mae yna barti, rwy’n hoffi ein Disco Babanod yn arbennig pan mae’n wisg ffansi. Weithiau mae Gaynor, sy’n rhedeg ein ty^, yn cael hyd i leoedd cyffrous i’r holl famau a babanod fynd iddyn nhw. Fe aethom i Wersyll Gweithredu yn Ninbych-y-pysgod ac i ffair fawr - roedd yn wych.

Mae mam wedi dysgu coginio llawer o bethau braf yn Nhy^ Enfys ac rwy’n hoffi pan mae pawb yn cael pryd mawr o fwyd gyda’n gilydd. Weithiau mae ein mamau a’r bobl sy’n gweithio yn Nhy^ Enfys yn gadael i ni roi cynnig arni hefyd. Rwy’n hoffi cymysgu pethau a fy hoff beth yw mynd yn frwnt iawn!

30AWST

2011

18AWST

2011

Page 9: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

98 Medi: Agor Canolfan Adnoddau TenantiaidCafodd y Ganolfan ei hagor gan Gareth Baber, hyfforddydd Gleision Caerdydd, fel rhan o’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Daeth y syniad

am ganolfan adnoddau gan denantiaid a bu ganddynt ran fawr wrth ymchwilio’r angen amdani a’r cynllunio. Caiff y ganolfan adnoddau ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd tenantiaid, cynllunio digwyddiadau, defnyddio cyfrifiaduron a hyfforddi tenantiaid.

8MEDI

2011

23 Medi: Diwrnod Golff Ar y diwrnod hwn fe wnaeth rhai o’n staff, sy’n Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Taff, godi dros £3,000 drwy Ddiwrnod Golff Elusen. Daeth nifer ragorol i’r digwyddiad, gyda dros 30 tîm o bedwar yn bresennol.Ar ôl diwrnod gwych ar y grîn aeth pawb yn ôl i’r Ty^ Clwb am noswaith o adloniant yn cynnwys

gwobrau ar gyfer cystadlaethau’r cwrs (dreif a phwt hiraf ac ati), raffl, disgo, band ac arwerthiant o gyfraniadau hael iawn - crysau rygbi a phêl-droed wedi’u llofnodi, offer golffio a gwyliau, ymhlith pethau eraill.Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Taff yn 2003 gan staff Cymdeithas Tai Taff oedd yn bryderus am yr anawsterau ariannol oedd yn wynebu rhai o’n tenantiaid a chleientiaid cymorth. Rhoddir grantiau fel cyfraniad ac maent ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng hyd at uchafswm o £200.Derbyniodd yr Ymddiriedolaeth dros 150 o geisiadau ers ei sefydlu, gyda 50% ohonynt yn llwyddiannus. Gall ymgeiswyr aflwyddiannus gael cyngor a chymorth ar y ffordd orau i gael help.Yn ystod y flwyddyn derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 36 o geisiadau a chymeradwyo 17, gan wario £1,960 ar bethau fel pecyn cegin argyfwng ar gyfer rhywun a fu’n ddigartref, matresi newydd a gorchuddion matres ar gyfer dau blentyn gydag anableddau, gwely cot ar gyfer teulu mewn tŷ gorlawn lle’r oedd y mab yn cysgu yng ngwely’r teulu gyda mam, tra bod dad ar y soffa.

27 Medi: Grw^ p cyswllt BME Sefydlwyd y grw^ p i godi ymwybyddiaeth am faterion tai ar gyfer y gymuned BME a chaiff ei gefnogi gan gymdeithasau tai Taff, Cadwyn a Chymuned Caerdydd. Cynhaliodd y grw^ p ei gyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf a chael cyfansoddiad ffurfiol ar 27 Medi.

23MEDI

2011

27MEDI

2011

Page 10: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Tai Taff 2011/12

7 Hydref Bu ‘T’ yn byw mewn annedd Tai Taff yng Nglanyrafon ers 2001. Dros y blynyddoedd roedd wedi datblygu problemau ysgyfaint a chefn ac roedd ei iechyd wedi parhau i waethygu, a bu’n rhaid iddo fynd i’r ysbyty yn y diwedd. Daeth i bwynt lle’r oedd yn gaeth i’w gartref gan nad oedd gan ei ysgyfaint y gallu i fynd i fyny tair set o risiau.

Gyda help ei Swyddog Cymorth, llenwodd T gais am drosglwyddo a chafodd fflat yn fuan yn Nhy^’r Môr Coch. Dywedodd:

“Mae’n fflat bwrpasol ar gyfer cleientiaid oedrannus, a chafodd rhai addasiadau eu rhoi i mewn i mi. Mae wedi’i chysylltu gyda’r larwm cymunedol sy’n rhoi tawelwch meddwl i mi gan wybod y gallwn gael help yn syth. Mae popeth ar yr un llawr yn y fflat ac er fod fy fflat ar yr ail lawr, mae lifft yn yr adeilad. Mae fy fflat hefyd yn agos at yr holl gyfleusterau, canol y ddinas ac ati. Yn ychwanegol at hyn, dwi ddim yn coginio’r dyddiau hyn gan fy mod yn cael prydau rhad.”

Cafodd y tenant archwiliad meddygol yn ddiweddar a dywedwyd wrtho fod ei iechyd wedi gwella a bod ei ysgyfaint yn gweithio’n well nag o’r blaen.

“Fe hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud diolch yn fawr i holl staff Cymdeithas Tai Taff a wnaeth fy helpu i symud i fy nghartref presennol.”

10 Hydref Roedd amgylchedd fy nghartref yn wirioneddol anodd - ffraeo drwy’r amser a dim llonydd - yn golygu y byddwn yn aml yn gorfod aros rywle arall i gadw allan o’r ffordd. Rwyf bob amser wedi

credu y gallwn wella fy mywyd os byddwn

yn gweithio ac yn astudio’n galed - ond

roedd fy mhroblemau adref yn golygu na

fedrwn astudio ac roeddwn yn ofnus iawn

na fyddwn yn pasio fy arholiadau. Yna

cefais asesiad yn Nhy^ Seren a fy nerbyn ar

y rhestr aros oherwydd fy sefyllfa.

Symudais i mewn ar 10 Hydref - am

wahaniaeth y gwnaeth y diwrnod hwnnw

i fy mywyd! O’r diwedd roeddwn yn

medru canolbwyntio ar fy ngwaith ysgol -

hyd yn oed gael ffrindiau i ymweld. Gyda

fy ngweithiwr cymorth fe wnes weithio

allan beth oeddwn eisiau ei gyflawni -

dysgu coginio, cael budd-daliadau, trefnu

fy arian, talu rhent a chanfod rhywle mwy

hirdymor i fyw ynddo. Rwy’n awr wedi

symud i fflat gyda chymorth, wedi pasio fy

arholiadau ac yn ystyried mynd i brifysgol.

Diolch Ty^ Seren!

Miss H, Ty^ Seren

10

10HYDREF

2011

7HYDREF

2011

27 Hydref: Bwrdd yn cymeradwyo ein Strategaeth Ymgyfraniad Cwsmeriaid Credwn fod cynnwys cwsmeriaid yn ein gwaith a’n penderfyniadau yn allweddol i gyflawni ein nod o ddod yn Ddarparwr o Ddewis. Yn ystod y flwyddyn buom yn gweithio gyda thenantiaid i adolygu ein hagwedd at ymgyfraniad tenantiaid a chymeradwyodd y Bwrdd ein strategaeth newydd. Roeddem wrth ein bodd pan roddodd TPAS (Gwasanaeth Ymgynghori Cyfranogiad Tenantiaid) sylw i ran o’n strategaeth fel arfer da.

27HYDREF

2011

26 Hydref:Canlyniadau Arolwg Cawsom ganlyniadau ein Harolwg Boddhad Tenantiaid - ein canlyniadau gorau erioed, a chredwn fod gennym y sgôr gorau am wasanaeth atgyweirio

unrhyw le yn y Deyrnas Unedig! 91% boddhad cyffredinol, 90% boddhad atgyweiriadau, 94% yn credu ein bod yn dda am hysbysu pobl beth sy’n digwydd, 97% yn meddwl fod staff y dderbynfa yn gwrtais a chroesawgar. Mae Taff yn defnyddio methodoleg meincnod cenedlaethol i sicrhau cymhariaeth deg gyda landlordiaid cymdeithasol ar draws Prydain.

26HYDREF

2011

Page 11: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

11

11 Tachwedd Fe wnaethom gwblhau ein rhaglen

adnewyddu offer gwresogi fel rhan o’n

gwaith ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru.

Ers 2007 rydym wedi gosod 308 boeler

newydd, gan wella effeithiolrwydd ynni yn

sylweddol yng nghartrefi tenantiaid.

2TACHWEDD

2011

2 Tachwedd Fe wnaethom lansio prosiect

newydd unigryw yn niwrnod

blynyddol Dofi Technoleg. Mae

tenantiaid yn talu i rentu gliniadur

ac aiff y taliadau hyn i’w cyfrif

undeb credyd. Mae hyn yn

galluogi tenantiaid i ffurfio hanes credyd tra hefyd yn cael

mynediad i liniadur yn eu cartrefi. Cofrestrodd chwe thenant

ar gyfer y cynllun ar y dydd.

11TACHWEDD

2011

29 Tachwedd Buom yn dathlu 100fed atgyfeiriad Taff i brosiect Gofal ‘Ein Busnes’. Yn nhrydedd blwyddyn y prosiect, cymerodd rhai tenantiaid ran yn y rhaglen Marchnad Lafur Canolradd (ILM) ac ymunodd y tenantiaid cyntaf â’r farchnad swyddi. Dywedodd Waraq Osman, a gyflogir yn awr gan PS Services:

“Cyn i mi ddechrau gweithio yn PS Services, doeddwn i ddim wedi bod â swydd lawn-amser. Ar ôl dechrau, fe symudais allan o’r ty^ (Taff) ac mae gen i nawr fy fflat fy hunan.”

Soniodd eraill hefyd am y gwahaniaeth a wnaeth y rhaglen:

“Rwy’n awr yn fwy hyderus. Gallaf weld dyfodol i fi fy hunan.”

“Mae gen i swydd ac arian. Rwy’n gallu mynd i weld fy merch yn rheolaidd.”

29TACHWEDD

2011

8 Rhagfyr Clywsom ein bod wedi ennill £100,000 yng

nghystadleuaeth yr Adran Ynni a Newid

Hinsawydd ar gyfer tai cymdeithasol.

Roedd y cyllid i osod system wresogi

‘wyrdd’ newydd yn un o’n cynlluniau tai

gwarchod. Mae’r system newydd yn un

‘Pympiau gwres aer i ddŵr’, a dylai ostwng biliau trydan

preswylwyr Cwrt Alexandra.

8MEDI

2011

9 Rhagfyr: Cinio Nadolig Hwn oedd y cinio Nadolig cyntaf ar y cyd lle bu’r tenantiaid yn dathlu eu llwyddiant a Taff yn lansio Timbebanks Plus. Timebanks Plus yw’r cynllun gwobrau

ychwanegol ar gyfer y tenantiaid hynny sy’n rhoi mwy na 16 awr o’u hamser bob blwyddyn. Rydym wedi cynnig amrywiaeth o wobrau arbennig, megis trawsnewid ystafelloedd a gerddi, tocynnau theatr yngh^yd â tocynnau teulu ar gyfer gemau pêl-droed Dinas Caerdydd a rygbi Gleision

Caerdydd. Dywedodd Sue Carlton, enillydd Timebanks Plus: “Bu heddiw’n wych. Fe wnes gwrdd gyda phobl eraill sy’n cymryd rhan mewn gwahanol grwpiau ac ennill trawsnewid ystafell am ddim.”

9RHAGFYR

2011

Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar y wefan www.taffhousing.co.uk/publications

Page 12: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

20 Rhagfyr Daeth aelodau o Dîm Rheoleiddio Llywodraeth Cymru i mewn i weld pa mor dda yr ydym yn cyflawni ar eu safonau (y Canlyniadau Cyflenwi). Eisiau gwybod sut hwyl

gawsom ni? ... roedd yn rhaid inni aros hyd at fis Mawrth I gael gwybod!

9 Ionawr Cafodd Mr C ei gefnogi i wneud cais am beiriant golchi drwy gynllun Scottish a Southern Energy - bu’r cais yn llwyddiannus. Y broblem nesaf oedd

help gyda biliau gwresogi - unwaith

eto, fe wnaethom ei helpu i wneud

cais am daliad tanwydd gaeaf SWALEC

a chafodd £120, fydd yn parhau bob

blwyddyn am y 3 blynedd nesaf. Fel

canlyniad i gefnogaeth Taff, mae Mr C

yn awr yn derbyn lwfans cyfradd uchel

ar gyfer symudedd a gofal, a chafodd

£120 i dalu ôl-ddyledion costau dw^ r.

12

9IONAWR

2012

20RHAGFYR

2011

20 Ionawr Roeddwn wedi bod yn ceisio cael gwaith am tua blwyddyn ac roedd bod yn berson ifanc 21 oed ac allan o waith a heb fod mor gymdeithasol ag yr hoffwn yn fy ngwneud yn ddiflas. Dangosais fy CV i fy ngweithiwr cymorth ac fe wnaethom edrych ar ffyrdd o’i newid er mwyn gwneud fy asedau a’n sgiliau gorau yn fwy amlwg. Ar ôl tua awr o dwtio, symud pethau o amgylch ac ati ac ychwanegu darnau, o’r diwedd cafodd fy CV ei orffen ar 20 Ionawr. Roeddwn yn gyffrous iawn am fy CV newydd ac allwn i ddim aros i’w anfon. Roedd gen i gyfweliad o fewn 2 wythnos ac yn teimlo’n hyderus oherwydd bod gen i CV da oedd o’r diwedd yn dangos fy sgiliau a fy nghefndir mewn gwasanaethau cwsmeriaid. Es o gael fawr neu ddim cyfweliadau’r mis i gael 3 neu 4, weithiau yn yr un wythnos!

O fewn ychydig wythnosau cefais swydd ran-amser yn y maes roeddwn eisiau. Rwyf nawr yn gymdeithasol, hapus ac yn fwy hyderus, ac mae’r cyfan diolch i’r diwrnod y gwnes fy CV gyda fy ngweithiwr cymorth.

Miss B, Ty^ Haul

20IONAWR

2012

3 Ionawr Roedd yn ddechrau gwych i 2012 pan gawsom ganlyniadau ein harolwg Defnyddwyr Cymorth - a fyddent gystal â’r Arolwg Tenantiaid? Cawsom sgôr gwych o 98% ar gyfer boddhad

cyffredinol - cynnydd o 11% dros y 6 mlynedd y buom yn ei fesur ac ar gyfartaledd 10% yn uwch na darparwyr cymorth eraill. Roedd 100% o’r ymatebwyr yn fodlon gyda’u Gweithwyr Cymorth, a dywedodd 87% iddynt gael ‘llawer’ o fewnbwn i’w Cynlluniau Cymorth.

3IONAWR

2012

27 Ionawr Clywsom gan Lywodraeth Cymru ein bod wedi cael £1.23 miliwn i ddatblygu Albert Walk yn Nhreganna. Talwyd am hyn fel rhan o’u pecyn

Ysgogiad Economaidd, gyda £9.26 miliwn ar gael ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y datblygiad yn rhoi 13 ty^ a dwy fflat. Daeth y Gweinidog draw i gyhoeddi’r arian ychwanegol i Gymru yn ein safle.

27IONAWR

2012

15 Chwefror Gyda help ei weithiwr cymorth, gwnaeth Mr B ymholiadau am osod ramp tu allan i’w gartref. Mae’r ramp bellach yn ei lle, ac yn galluogi Mr B i fynd allan yn ei gadair olwyn. Cafodd help hefyd i wneud cais i newid y math o fudd-dal a gaiff, ac fel canlyniad mae’n cael mwy o arian. Yn olaf, gwnaed atgyfeiriad am becyn gofal, sy’n awr yn ei le, gan ei wneud yn llawer haws iddo fyw’n annibynnol.

15CHWEFROR

2012

Page 13: Annual Report 2012 Welsh

1 2 3 4 5

6 7 8 9 10 11 12

13 14 15 16 17 18 19

20 21 22 23 24 25 26

27 28 29 30 31

13

16 Chwefror: Pedal Power yn dod yn Bartner TimeBanks Mae Pedal Power yn anelu i wneud “Beicio’n Hygyrch i Bawb” ac mae ganddynt amrywiaeth o feiciau i alluogi pobl gydag anabledd i hefyd i fwynhau manteision seiclo. Mae aelodau Grw^ p Gweithredu Anabledd Taff eisoes wedi manteisio ar y cyfle i gael rhentu beic yn rhatach. Esboniodd y Grw^ p na fyddai beicio’n bosibl i rai ohonynt heb sefydliadau fel Pedal Power yng Nghaerdydd.

16CHWEFROR

2012

2 Mawrth Cafodd tariffau cyflenwi trydan (a helpodd i dalu am osod ein paneli solar) eu haneru. Yn ffodus, fe wnaethom lwyddo i osod paneli solar PV ar 101 o’n cartrefi. Maent yn awr yn darparu peth trydan am ddim yn ystod y dydd a dylai hynny helpu i ostwng biliau ein tenantiaid gan tua £75 y flwyddyn.

30 Mawrth Diwrnod olaf y flwyddyn ariannol, a ffordd wych i orffen 12 mis

llwyddiannus iawn. Cyhoeddwyd ein Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer

Cymdeithas Dai (HARA), yn seiliedig ar yr ymweliad ym mis Rhagfyr,

a chawsom y radd orau posibl - dim ond angen lefel ‘isel’ o gyswllt

rheoleiddiol yn y dyfodol. Bryd hynny ni oedd yr unig Gymdeithas i

gael y graddiad hwn. Dywedodd y rheoleiddwyr:

‘Mae Taf yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mhob un o’r gwasanaethau a

ddarperir, sy’n arwain at lefel uchel o foddhad ymhlith tenantiaid â gwasanaethau

unigol a’r gwasanaeth a ddarperir gan y Gymdeithas yn gyffredinol.

Mae arweinyddiaeth gref wedi helpu i feithrin diwylliant ym mhob rhan o’r

Gymdeithas, sy’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a

chymunedau lleol.’

Rhoddodd Llywodraeth Cymru hefyd adroddiad glân i ni gyda’i Ddyfarniad Hyfywedd

Ariannol a gyhoeddwyd yr un diwrnod - roedd hyn yn ddyfarniad ‘llwyddo’, unwaith

eto, y gorau y gall sefydliad ei gael.

30MAWRTH

2012

7MAWRTH

2012

2MAWRTH

2012

7 Mawrth: Lansio rhaglen ‘Ffordd Ymlaen’Fe wnaethom lansio rhaglen hyfforddiant modiwlar gydag achrediad ar gyfer ein tenantiaid a chleientiaid cymorth. Ar y diwrnod, arwyddodd 12 o bobl i ddilyn yr hyfforddiant. Mae hyn yn rhan o’n gwaith i helpu pobl i gael swyddi.

22MAWRTH

2012

22 Mawrth Babi Ty eto! Bydd yn rhaid i ni adael Ty^

Enfys cyn bo hir a chael ein lle ein hunain.

Symudodd 54 o fy ffrindiau’r llynedd ond

maent weithiau’n dod yn ôl i ymweld ac

rwy’n gwybod y gallaf innau wneud hynny

hefyd.

Page 14: Annual Report 2012 Welsh

14

INCOME AND EXPENDITURE ACCOUNT CYFRIF INCWM A GWARIANT

for the year ended 31 March 2012 am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 20122012 2011£000 £000

Turnover 8,965 8,407 TrosiantOperating Costs (6,360) (6,516) Costau Gweithredu

Operating Surplus 2,605 1,891 Gwarged Gweithredu

Revaluation of Investment Property - (540) Ailbrisio Eiddo Buddsoddi

Operating Surplus after Revaluation of Investment Property

Surplus on Disposal of Housing Property

2,605

260

1,351

-

Gwarged Gweithredu ar ôl Ailbrisio Eiddo Buddsoddi

Gwarged ar Waredu Eiddo TaiInterest Receivable 4 15 Llog Derbyniadwy

Interest Payable and Similar Charges (1,359) (1,142) Llog Taladwy a Thaliadau Tebyg

Surplus for the Year 1,510 224 Gwarged am y FlwyddynTransfer to Restricted/Designated Reserves

(128) (120) Trosglwyddo i Gronfeydd Cyfyngedig/Dynodedig

Revenue Reserves Brought Forward 3,584 3,480 Cronfeydd Refeniw a Ddygwyd YmlaenRevenue Reserves Carried Forward 4,966 3,584 Cronfeydd Cadw Refeniw a Gariwyd Ymlaen

BALANCE SHEET MANTOLEN

2012 2011£000 £000

Tangible Fixed Assets Asedau Sefydlog Diriaethol

Housing Properties Eiddo Tai

Gross Cost Less Depreciation 90,950 84,881 Cost Gros Llai Dibrisiant

Less Social Housing & Other Grants

(57,898) 33,052 (55,127) 29,754 Llai Grant Tai Cymdeithasol a Grantiau Eraill

Investment Property 1,240 1,240 Eiddo BuddsoddiOther Fixed Assets 2,205 2,211 Asedau Sefydlog Arall

36,497 33,205Current Assets Asedau CyfredolDebtors 924 1,385 DyledwyrCash at Bank and In-hand 1,673 700 Arian yn y Banc ac Mewn Llaw

2,597 2,085Creditors: Amounts falling due within one year

(2,764) (2,534) Credydwr: Symiau a ddaw'n ddyledus o fewn un flwyddyn

Net Current Liabilities (167) (449) Ymrwymiadau Cyfredol NetCreditors: Amounts Falling Due After One Year

(30,367) (28,303) Credydwyr: Symiau a ddaw'n ddyledus ar ôl un flwyddyn

5,963 4,453Capital & Reserves Cyfalaf a Chronfeydd Restricted Reserves 268 271 Cronfeydd CyfyngedigDesignated Reserves 729 598 Cronfeydd DynodedigRevenue Reserves 4,966 3,584 Cronfeydd Refeniw

5,963 4,453

Summary Financial Report Adroddiad Ariannol Cryno

Page 15: Annual Report 2012 Welsh

15Activity

GweithgareddMeasureMesur

Sub categoryIs-gategori

Year End / Diwedd Blwyddyn

31/03/2012

Rent collection (supported

housing and general needs)

Casgliad rhent (tai â chymorth ac anghenion cyffredinol)

% rent collected% rhent a gasglwyd

As a % rent collectable (inc rent loss through voids)

Fel % rhent casgladwy (yn cynnwys colled rhent drwy unedau gwag)

97.68%

Breakdown of arrears cases Dadansoddiad o achosion ôl-ddyledion

1-3 weeks / 1-3 wythnos 1574-12 weeks / 4-12 wythnos 13013+ weeks / 13+ wythnos 23

Former Tenant Arrears collectedÔl-ddyledion cyn Denantiaid a gasglwyd

£ Value / £ Gwerth £123,400.01

Bad debts written off / Dyledion drwg a ddilewyd £ Value / £ Gwerth £39,348.52

Anti Social Behaviour/ Racial

Harassment

Ymddygiad Gwrth-

gymdeithasol/Aflonyddu

Hiliol

Cases dealt withAchosion a gafodd eu trin

Total number of cases Cyfanswm nifer achosion

146

Number ‘live’ cases Nifer achosion ‘byw’

11

Average time taken to resolveAmser cyfartalog a gymerwyd i ddatrys

Total days Cyfanswm dyddiau

39 days39 diwrnod

% Satisfaction – How quickly interviewed% Boddhad - Pa mor gyflym y cyfwelwyd

Very Satisfied / Bodlon Iawn 73%Satisfied/Fairly Satisfied Bodlon/Gweddol Fodlon

26%

Dissatisfied / Anfodlon 1%% Satisfaction – Advice Given% Boddhad - Cyngor a roddwyd

Very Satisfied / Bodlon Iawn 67%Satisfied/Fairly Satisfied Bodlon/Gweddol Fodlon

31%

Dissatisfied / Anfodlon 2%% Satisfaction – Support Given% Boddhad- Cymorth a Roddwyd

Very Satisfied / Bodlon Iawn 67%Satisfied/Fairly Satisfied Bodlon/Gweddol Fodlon

31%

Dissatisfied / Anfodlon 2%

Repairs

Atgyweiriadau

% repairs completed on time% atgyweiriadau a gwblhawyd ar amser

Emergency / Argyfwng 100%Urgent / Brys 98%

Non urgent / Heb fod yn frys 98%Average time taken to carry out repairs (days)Amser cyfartalog a gymerwyd i wneud atgyweiriadau (dyddiau)

Emergency / Argyfwng 1Urgent / Brys 7

Non urgent / Heb fod yn frys 28Customer Satisfaction Boddhad Cwsmeriaid

Satisfied / Bodlon 99%Not satisfied / Anfodlon 1%

Questionnaire sampleSampl Holiadur

Total repairs returned Cyfanswm atgyweiriadau a ddychwelwyd

1016

Phone surveys / Arolygon ffôn 77

Relets/voids (General Needs)

Ailosod/Unedau Gwag

(Anghenion Cyffredinol)

Time from keys returned to tenant moving inAmser o ddychwelyd allweddi i’r tenant yn symud i mewn

Total days taken to relet Cyfanswm dyddiau a gymerwyd i ailosod

20 days 20 diwrnod

Time taken to complete maintenance worksAmser a gymerwyd i gwblhau gwaith cynnal a chadw

Total days taken Cyfanswm dyddiau a gymerwyd

13 days13 diwrnod

Time taken to let property following worksAmser a gymerwyd i osod eiddo yn dilyn gwaith

Total days takenCyfanswm dyddiau a gymerwyd

7 days 7 diwrnod

Satisfaction with propertyBoddhad gyda’r eiddo

Very Satisfied / Bodlon Iawn 78%Satisfied/Fairly Satisfied Bodlon/Gweddol Fodlon

20%

Dissatisfied / Anfodlon 2%Satisfaction with lettingsBoddhad gyda gosodiadau

Very Satisfied / Bodlon Iawn 76%Satisfied/Fairly Satisfied Bodlon/Gweddol Fodlon

23%

Dissatisfied / Anfodlon 1%Properties refused Eiddo a wrthodwyd

% total lettings% cyfanswm gosodiadau

18%

Gas ServicingGwasanaethu Nwy

Gas servicingGwasanaethu Nwy

% services completed by due date% gwasanaethau a gwblhawyd

erbyn y dyddiad dyledus

98.9%

WHQS /Safon Ansawdd Tai Cymru

% properties compliant % eiddo yn cydymffurfio

90.4%