35
Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135 Dyddiad yr Arolygiad: 18-20 Hydref 2004 gan Dr Eric Peagam W200/14943 Dyddiad: 20 Rhagfyr 2004 Dan rif contract Estyn: T14/04P

Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

  • Upload
    vodiep

  • View
    214

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996

YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog

Dinbych LL16 4EY

Rhif yr Ysgol: 663/2135

Dyddiad yr Arolygiad: 18-20 Hydref 2004

gan

Dr Eric Peagam W200/14943

Dyddiad: 20 Rhagfyr 2004

Dan rif contract Estyn: T14/04P

Page 2: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

‰ Hawlfraint y Goron 2004 Gellir atgynhyrchu rhan neu’r cyfan o’r Adroddiad hwn at ddibenion addysgol anfasnachol ar yr amod na chaiff unrhyw ddarnau a ddyfynnir eu haddasu a’u bod yn hytrach yn dilyn y gwreiddiol air am air, ac y cydnabyddir ffynhonnell a dyddiad y dyfyniadau. Mae copïau o’r adroddiad hwn ar gael gan yr ysgol. Dan Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996, mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu copïau o’r adroddiad yn ddi-dâl i gategorïau penodol o bobl. Gellir codi tâl nad yw’n fwy na’r gost o atgynhyrchu ar eraill sy’n gwneud cais am gopi o’r adroddiad.

Page 3: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Arolygwyd Ysgol Bryn Clwyd fel rhan o raglen genedlaethol arolygu ysgolion. Diben yr Adroddiad yw nodi nodweddion da a diffygion mewn ysgolion er mwyn iddynt allu gwella ansawdd yr addysg a gynigir a chodi’r safonau a gyflawnir gan eu disgyblion. Cynlluniwyd y broses o arolygu pob ysgol o fewn cylch chwe blynedd hefyd i roi mwy o wybodaeth i rieni am ysgolion eu plant. Cynhaliwyd arolygiad o Ysgol Bryn Clwyd rhwng 18-20 Hydref 2004. Fe’i cynhaliwyd gan dîm annibynnol o dri o arolygwyr, dan arweinyddiaeth Dr Eric Peagam. Comisiynwyd yr arolygiad gan Estyn, corff statudol annibynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond sy’n cael ei ariannu ganddo. Roedd yn ofynnol i’r tîm adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth a’r cyfraniad a wna’r ysgol at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ei disgyblion. Mae’r graddfa pum pwynt a ddefnyddir i gynrychioli holl farnau’r arolygiad yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn: Gradd 1 da gyda nodweddion eithriadol Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig Gradd 3 nodweddion da yn gorbwyso diffygion Gradd 4 rhai nodweddion da, ond diffygion mewn meysydd pwysig Gradd 5 llawer o ddiffygion pwysig

Page 4: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol Mae ysgolion yn defnyddio system gyffredin o rifo grwpiau blwyddyn o gychwyn oed gorfodol ysgol hyd at 18 mlwydd oed. Mae’r system hon yn pwysleisio pwysigrwydd dilyniant ac yn hwyluso cyfarthrebu rhwng ysgolion, cyrff llywodraethol, rhieni ac AALlau. Mae’r term ‘Derbyn’ (D) yn cyfeirio at grðp blwyddyn disgyblion mewn ysgol gynradd sy’n troi 5 oed yn ystod y flwyddyn academaidd. Cyfeiria Blwyddyn 1 at grðp blwyddyn disgyblion sy’n troi 6 oed yn ystod y flwyddyn academaidd ac ati. Blwyddyn 13 yw grðp blwyddyn myfyrwyr sy’n troi 18 oed yn ystod y flwyddyn academaidd. Cyfnod cynradd:

Blwyddyn D B 1 B 2 B 3 B 4 B 5 B 6 Oed 4-5 5-6 6-7 7-8 8-9 9-10 10-11

Cyfnod uwchradd:

Blwyddyn B 7 B 8 B 9 B 10 B 11 B 12 B 13 Oed 11-12 12-13 13-14 14-15 15-16 16-17 17-18

Mae’r cwricwlwm cenedlaethol yn cynnwys pedwar cyfnod allweddol fel a ganlyn:

Cyfnod allweddol 1 Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Cyfnod allweddol 2 Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6 Cyfnod allweddol 3 Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9 Cyfnod allweddol 4 Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11

Page 5: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Cynnwys Tudalen

Cyd-destun

1

Crynodeb

1

Argymhellion

5

Safonau

5

Cwestiwn allweddol 1: Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni?

5

Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant

7

Cwestiwn allweddol 2: Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu?

7

Cwestiwn allweddol 3: Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?

9

Cwestiwn allweddol 4: Pa mor dda yw’r gofal, yr arweiniad a’r cymorth i ddysgwyr?

10

Arweinyddiaeth a rheolaeth

12

Cwestiwn allweddol 5: Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth strategol?

12

Cwestiwn allweddol 6: Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?

12

Cwestiwn allweddol 7: Pa mor effeithlon mae arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau?

13

Safonau a gyflawnir mewn pynciau a meysydd dysgu

14

Saesneg 14Gwyddoniaeth 15Cymraeg 16Dylunio a thechnoleg 17Hanes 18Addysg Gorfforol 19 Ymateb yr ysgol i’r arolygiad

20

Atodiadau

21

A Gwybodaeth sylfaenol am yr ysgol 21B Data a dangosyddion yr ysgol 21C Canlyniadau asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol 2003 22Ch Sail dystiolaeth yr arolygiad 22D Cyfansoddiad a chyfrifoldebau’r tîm arolygu 23

Page 6: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

1

Cyd-destun Natur y darparwr Mae Ysgol Bryn Clwyd, a leolir ym mhentref gwledig Llandyrnog ger Dinbych, yn darparu addysg ar gyfer 25 o fechgyn a merched o’r oedran tair i 11, ac mae pedwar ohonynt yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r ardal o’i gwmpas ond, tan yn ddiweddar, mae uned anghenion arbennig a leolir yn yr ysgol wedi tynnu llawer o’i ddisgyblion o ardaloedd eraill. Ers ail-leoliad yr Uned yn rywle arall, mae’r ysgol wedi bod yn defnyddio grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i dderbyn plant cyn oedran meithrin.

Mae’r ysgol yn adrodd nad yw’r ardal y daw’r disgyblion ohoni yn llewyrchus nac o dan anfantais arbennig. Mae gan tua 11 y cant o’r disgyblion hawl i brydau ysgol am ddim sydd yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae ystod lawn o allu yn y nifer a dderbynnir, ond mae’r cyrhaeddiad ar fynediad yn is na’r cyfartaledd at ei gilydd. Mae gan tua 25 y cant o’r disgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA), gan gynnwys tri disgybl gyda datganiadau o AAA. Saesneg yw iaith y cartref bron pob disgybl ac nid oes disgyblion sydd yn dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf.

Addysgir y disgyblion mewn dau ddosbarth, un ar gyfer pob cyfnod allweddol, ac mae’r ddau ohonynt yn sylweddol llai na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn Nhachwedd 1998, lle adroddwyd ei bod yn gwneud darpariaeth gyffredinol foddhaol, ond gyda rhai diffygion mewn safonau, cynllunio cwricwlwm a datblygiad ysgol, darpariaeth iechyd a diogelwch, gwybodaeth ar gyfer rhieni a chyfleusterau chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Blaenoriaethau a thargedau’r ysgol Mae’r ysgol wedi mabwysiadu datganiad o genhadaeth newydd yn ddiweddar sef ‘Dysgu a thyfu gyda’n gilydd’ ar ôl trafodaethau gyda’r disgyblion, staff a llywodraethwyr. Mae hyn yn cynnal set o nodau ac amcanion wedi eu teilwra yn briodol i gyd-destun yr ysgol.

Tra na rhagwelir unrhyw newidiadau mawr yn ffocws yr ysgol, mae targedau cyfredol yn y cynllun datblygu ysgol (CDY) yn cynnwys: gwella darpariaeth a’r cwricwlwm ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gweithredu cynllun ysgol-gyfan ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol, yn ogystal ag amcanion datblygu penodol yn nhechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), gwyddoniaeth, Saesneg, Cymraeg, technoleg, hanes ac addysg gorfforol.

Crynodeb Mae Ysgol Bryn Clwyd yn ysgol dda gyda nodweddion eithriadol ac ychydig o ddiffygion, y rhai mwyaf arwyddocaol yn gysylltiedig â safonau a darpariaeth yn nylunio a thechnoleg. Mae wedi gwella yn dda ers yr arolwg diwethaf. Cytunodd y tîm arolygu gyda’r mwyafrif o arfarniadau a wnaed gan yr ysgol yn y ddogfen hunan-arfarnu.

Page 7: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

2

Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd

Barnodd y tîm arolygu waith yr ysgol fel a ganlyn:

Cwestiwn allweddol

Gradd yr arolygiad

1 Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? 2

2 Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu? 1

3 Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach? 2

4 Pa mor dda yw’r gofal, yr arweiniad a’r cymorth i ddysgwyr? 1 5 Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth

strategol? 2

6 Pa mor dda mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau? 2

7 Pa mor effeithlon mae arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau? 1

Safonau

Mae ansawdd gyffredinol y ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant dan bump yn briodol i’w hanghenion a gwna’r plant gynnydd da iawn yn eu datblygiad personol a chymdeithasol yn ogystal â chymhwyso sgiliau allweddol llythrennedd, cyfathrebu a rhifedd.

Mae safonau cyflawniad a arsylwir mewn gwersi yn y meysydd dysgu a phynciau a arolygwyd fel a ganlyn:

Safonau cyflawniad y disgyblion

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

Canran ar bob gradd

42 42 16 0 0

Yng Nghyfnod Allweddol (CA) 1 a CA2, gwna’r disgyblion gynnydd da i gyflawni yn dda. Mewn rhai pynciau, mae eu cyflawniad yn eithriadol. Yn y chwe phwnc a arolygwyd, graddiwyd cyflawniad fel a ganlyn:

Pwnc Cyfnod Allweddol 1 Cyfnod Allweddol 2 Saesneg 1 1 Gwyddoniaeth 2 2 Cymraeg 2 2 Dylunio a thechnoleg 4 4 Hanes 2 1 Addysg gorfforol 1 1

Am fod y nifer o ddisgyblion yn fach iawn, nid yw yn briodol i gymharu canlyniadau’r ysgol ar ddiwedd pob cyfnod allweddol gyda’r rheiny o ysgolion eraill. Fodd bynnag, os yw canlyniadau’r ysgol yn cael eu cydgasglu dros y 10 mlynedd diwethaf i roi sampl ddibynadwy, mae’r ysgol wedi cyflawni yn dda iawn o’i chymharu â chanlyniadau cyfartaledd ar gyfer ysgolion tebyg yng Nghymru dros yr un cyfnod. Mae’r ysgol yn gosod a chwrdd â thargedau wedi eu seilio ar y disgwyliadau ar gyfer disgyblion unigol.

Page 8: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

3

Yn CA1 a CA2, mae safonau a chynnydd y disgyblion ym medrau allweddol siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, rhifedd a defnyddio TGCh yn dda a chânt eu defnyddio yn dda mewn pynciau eraill.

Mae sgiliau personol a chymdeithasol y disgyblion yn datblygu yn dda, gan gynnwys y gallu i gydweithio ac i ddatrys problemau. Mae sgiliau creadigol yn datblygu yn dda ac fe’u hamlygir yng ngwaith ystod o bynciau.

Gwna’r disgyblion ag AAA, gan gynnwys y rheiny â datganiadau, gynnydd da ac maent yn cyflawni’r targedau a osodir iddynt. Gwna’r disgyblion â gallu uchel a’r rheiny gyda doniau a thalentau arbennig gynnydd da hefyd.

Mae agweddau’r disgyblion at eu dysgu, y diddordeb maent yn dangos yn eu gwaith a’u gallu i gadw i ganolbwyntio yn nodweddion arbennig o gryf a chyfrannant yn dda at safonau. Mae presenoldeb a phrydlondeb yn dda.

Mae’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn, yn cefnogi ei gilydd; erbyn Blwyddyn (B) 6, maent yn datblygu i ddod yn aelodau aeddfed a meddylgar o gymuned yr ysgol, sydd yn mynegi eu safbwyntiau yn dda. Maent yn dangos ymwybyddiaeth dda o faterion ynghylch cyfleoedd cyfartal ynghyd â dealltwriaeth o, a pharch at amrywiaeth mewn diwylliant a chredo.

Cymera’r disgyblion ran lawn yng ngweithgareddau cymunedol ond maent yn dangos datblygiad cyfyngedig o ymwybyddiaeth economaidd neu’r byd gwaith.

Ansawdd yr addysg ac hyfforddiant

Barnwyd ansawdd yr addysgu fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5 58 25 17 0 0

Mae’r canran o wersi da lawer yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru o 95 y cant yn foddhaol neu well ac mae’r canran o wersi da iawn lawer yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru o 50 y cant yn dda neu well.

Mewn dros hanner o’r gwersi a arsylwyd arnynt, roedd gan addysgu nodweddion eithriadol. Roedd y rhain yn cynnwys:

• cwestiynu medrus iawn a oedd yn galluogi’r disgyblion i gyfranogi yn hyderus mewn gwaith llafar ac i sicrhau bod y pwyntiau addysgu wedi cael eu deall yn llawn;

• cydberthynas ardderchog a gyfrannodd yn dda iawn at hyder a bodlonrwydd y disgyblion i archwilio syniadau a chysyniadau;

• gwybodaeth fanwl iawn o bob disgybl, gan wneud defnydd effeithiol iawn o’r dosbarthiadau anarferol o fach i ddarparu lefel uchel iawn o sylw ffocysedig ac unigol;

• cydweddiad da iawn o weithgareddau i anghenion a doniau disgyblion i sicrhau bod yr addysgu yn briodol i’r ystod eang o oedran a gallu o fewn pob dosbarth;

• anogaeth gref i ddisgyblion gymryd cyfrifoldeb am ddysgu eu hunain trwy gyfleoedd da ar gyfer gwneud penderfyniadau o fewn gwersi ac ar gyfer arfarnu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd gyda golwg ar nodi ffyrdd y gallai gael ei wella.

Page 9: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

4

Mae ansawdd yr asesu yn dda iawn. Defnyddir asesu yn gyson i hysbysu cynllunio a gosod targedau yn effeithiol, ac mae’r athrawon yn cadw cofnodion cynhwysfawr o gyflawniadau’r disgyblion, yn gysylltiedig â lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (CC). Mae’r adroddiad blynyddol i rieni yn cydymffurfio â gofynion statudol ac mae o ansawdd da.

Darpara’r ysgol fynediad cyfartal i gwricwlwm eang a chytbwys sydd yn cwrdd â gofynion y CC a darpara yn dda ar gyfer parhad a dilyniant mewn dosbarthiadau oedran cymysg. Fodd bynnag, mae diffygion yn y ddarpariaeth ar gyfer dylunio a thechnoleg.

Mae trefniadau i gyfoethogi’r cwricwlwm yn dda iawn gyda defnydd effeithiol o’r amgylchedd lleol, y gymuned, ymwelwyr ac ymweliadau, gan gynnwys profiad preswyl ar gyfer holl ddisgyblion CA2 uchaf.

Hyrwydda’r ysgol ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda iawn. Mae cysylltiadau gyda rhieni yn effeithiol ac mae partneriaethau gyda’r gymuned ac ysgolion cynradd eraill yn dda. Mae cytundeb cartref-ysgol effeithiol mewn lle. Mae cysylltiadau gyda’r ysgolion uwchradd y mae’r disgyblion yn trosglwyddo iddynt yn gwella, ond mae’r ysgol yn ymwybodol bod diffygion mewn perthynas â chysylltiadau cwricwlwm a threfniadau i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalus ble mae’r disgyblion yn teimlo’n werthfawr a’u bod yn cael eu cefnogi. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion ag AAA yn dda ac yn cwrdd â gofynion y Côd Ymarfer. Mae’r ddarpariaeth i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles disgyblion yn dda iawn ac mae’r ysgol yn darparu cyfarwyddyd academaidd a phersonol effeithiol iawn ar gyfer y disgyblion.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae’r ysgol yn cael ei harwain yn dda gyda gweledigaeth glir ac ymdeimlad o bwrpas. Mae ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb corfforaethol ac mae’r nodau a gwerthoedd a rennir yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith yr ysgol.

Mae hunan-arfarniad yn datblygu yn dda ac mae’r trefniadau ar gyfer rheolaeth perfformiad yn effeithiol o ran hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon. Fodd bynnag, mae gosod targedau heb ei ddefnyddio ddigon; er enghraifft, ni cheir targedau ar gyfer gwella presenoldeb.

Mae’r corff llywodraethol, â llawer o’i aelodau yn gymharol newydd, yn gefnogol iawn ac wedi ei hysbysu’n dda. Mae rhai llywodraethwyr, yn enwedig y cadeirydd, yn ymwneud yn agos ym mywyd dyddiol yr ysgol.

Mae’r llywodraethwyr yn helpu gosod cyfeiriad strategol a monitro ansawdd y ddarpariaeth trwy ymweliadau a thrwy adroddiadau’r pennaeth.

Mae’r CDY yn gosod allan blaenoriaethau’r ysgol yn glir gyda ffocws priodol ar godi safonau. Mae hunan-arfarnu yn datblygu yn dda ac mae newydd gael ei ehangu i ystyried safbwyntiau’r rhieni. Mae unrhyw ddiffygion yn y broses yn codi o’r prinder o wybodaeth cymharol o ysgolion eraill i sefydlu graddau gyda’r canlyniad bod dogfen hunan-arfarnu’r ysgol wedi bychanu ansawdd ei darpariaeth.

Gwnaeth yr ysgol gynnydd da ers yr arolwg diwethaf. Rhoddwyd sylw da i’r holl faterion allweddol ac mae nifer o fentrau newydd wedi cael eu gweithredu. Yn arbennig, gwobrwywyd yr ysgol gyda Marc Ansawdd y Sgiliau Sylfaenol.

Page 10: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

5

Mae’r ysgol wedi ei staffio yn dda iawn ar gyfer y nifer o ddisgyblion ond mae maint yr ysgol yn golygu bod gan athrawon faich trwm o ran rheoli’r cwricwlwm.

Mae gan yr ysgol ddigon o adnoddau ac mae’r adeiladau ac ystafelloedd o safon uchel iawn gyda llawer iawn o ofod y tu mewn a’r tu allan a ddefnyddir yn dda iawn. Rheolir y gyllideb yn dda iawn ac mae’n adlewyrchu blaenoriaethau datblygiad yn dda. At ei gilydd, gwna’r ysgol ddefnydd effeithiol iawn o’i adnoddau ac, er gwaethaf y cost uchel ar gyfer pob disgybl, mae’n cynnig gwerth da am arian.

Argymhellion

Er mwyn cyflawni gwelliant ymhellach, mae angen i’r ysgol:

A1. wella safonau a darpariaeth yn nylunio a thechnoleg gan sicrhau ei fod yn cael ei addysgu yn rheolaidd a bod cynllun gwaith effeithiol sydd yn gysylltiedig â rhaglenni astudio’r CC ac yn sicrhau bod disgyblion yn adeiladu yn gadarn ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol heb ormod o ailadrodd;

A2. roi sylw i unrhyw ddiffygion a nodir mewn pynciau neu agweddau o waith yr ysgol lle mae safonau yn dda at ei gilydd;

A3. ddatblygu strategaeth glir ar gyfer cefnogi dealltwriaeth y disgyblion o’r byd gwaith a datblygu eu hymwybyddiaeth economiadd;

A4. edrych am ffyrdd mewn cydweithrediad ag ysgolion eraill yn y clwstwr, i wella’r bartneriaeth gydag ysgolion uwchradd mewn perthynas â chysylltiadau cwricwlwm a threfniadau trosglwyddo.

Mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am newid ei gynllun datblygu presennol i ymgorffori camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion cyn pen 45 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad, yn dangos yr hyn y mae’r ysgol yn mynd i wneud ynglþn â’r argymhellion. Caiff y cynllun hwn, neu grynodeb ohono, ei ddosbarthu i bob rhiant yn yr ysgol.

Safonau

Cwestiwn allweddol 1: Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni?

Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig

1. Asesodd yr ysgol cyflawniad fel Gradd 3 (cryfderau yn gorbwyso diffygion), ond gwelodd yr arolygwyr nad oedd hyn yn gwneud cyfiawnder â’r safonau ar y cyfan yn yr ysgol, a welwyd i fod yn uchel yn y mwyafrif o bynciau a arolygwyd gyda diffygion arwyddocaol yn nylunio a thechnoleg yn unig.

2. Mae safonau cyflawniad yn dda at ei gilydd ac yn y mwyafrif o bynciau. Mae safonau cyflawniad y disgyblion mewn gwersi at ei gilydd, yn rhwydd yn rhagori ar dargedau Cymru gyfan Llywodraeth Cynulliad Cymru o 95 y cant o safonau i fod yn foddhaol a 50 y cant i fod yn dda.

3. Mae’r safonau cyflawniad a arsylwyd arnynt yn y meysydd dysgu a’r pynciau a arolygwyd fel a ganlyn:

Safonau cyflawniad y disgyblion

Gradd 1

Gradd 2

Gradd 3

Gradd 4

Gradd 5

Canran ar bob gradd 58 25 17 0 0

Page 11: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

6

4. Mae ansawdd cyffredinol y ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant o dan bump yn briodol i’w hanghenion a gwna’r plant gynnydd da tuag at y Canlyniadau Dymunol ar gyfer Dysgu Plant. Mae’r safonau a gyflawnir mewn datblygiad personol a sgiliau dysgu allweddol a chymdeithasol yn dda.

5. Yn CA1 a CA2, mae’r disgyblion yn cyflawni yn dda at ei gilydd ac maent wedi eu paratoi yn dda ar gyfer cyfnod nesaf eu haddysg. Yn y pynciau a arolygwyd, mae’r safonau cyflawniad yn dda at ei gilydd. Mae graddau pynciau unigol fel a ganlyn:

Pwnc Cyfnod Allweddol 1 Cyfnod Allweddol 2 Saesneg 1 1 Gwyddoniaeth 2 2 Cymraeg 2 2 Dylunio a thechnoleg 4 4 Hanes 2 1 Addysg gorfforol 1 1

6. Mae’r diffygion yn nylunio a thechnoleg yn gysylltiedig â’r ystod gyfyngedig o brofiadau mae’r disgyblion wedi eu cael a’r ffaith nad yw meysydd arwyddocaol o ddysgu wedi cael sylw hyd yn hyn. Mae profiadau trawsgwricwlaidd da wedi bod yn annigonol i roi sylw i hyn, ac nid yw’r ysgol wedi datblygu strategaeth glir ar gyfer y pwnc eto. Mae addysgu diweddar wedi cael ei gyfyngu i annog datblygiad sgiliau gwneud ac nid yw hyn hyd yn oed wedi cael ei effaith lawn eto.

7. Asesir y disgyblion gan yr athrawes ar ddiwedd CA1 ac fe eisteddant y profion cenedlaethol ar ddiwedd CA2. Fel arfer, mae’r nifer sy’n cyrraedd diwedd cyfnod allweddol mewn unrhyw un flwyddyn yn rhy isel i’r ysgol fod ag angen adrodd arnynt.

8. Nid yw yn briodol i gymharu’r canlyniadau gyda’r rheiny o ysgolion eraill am fod maint bach y grðp blwyddyn yn gwneud y fath gymariaethau yn ystadegol annibynadwy. Ar yr un pryd, mae presenoldeb uned anghenion arbennig o fewn yr ysgol wedi golygu bod gan y nifer newidiol o ddisgyblion â datganiad mewn unrhyw grðp blwyddyn yr effaith o ystumio’r canlyniadau cyffredinol. Fodd bynnag, os caiff canlyniadau’r ysgol eu cydgasglu dros y 10 mlynedd diwethaf i roi sampl ddibynadwy, y mae’r ysgol wedi cyflawni yn dda iawn o’i chymharu â’r canlyniadau cyfartalaidd ar gyfer ysgolion tebyg yng Nghymru dros yr un cyfnod.

9. Mae’r ysgol yn gosod targedau yn seiliedig ar ddisgwyliadau ar gyfer disgyblion unigol. Bob blwyddyn, mae’r targedau hyn yn cael eu cyflawni ac fel arfer yn rhagori ar y rhain. Rhydd asesiad gwaelodlin a data gyda gwerth wedi‘u hychwanegu iddo, gan gynnwys profion safonedig, ddarlun clir iawn o gyflawniad unigol da.

10. Mae’r disgyblion ag AAA yn gwneud cynnydd da at ei gilydd, gyda’r disgyblion â datganiad yn gwneud cynnydd cyson tuag at y targedau yn eu cynlluniau addysgol unigol (CAUau). Mae’r disgyblion gyda gallu uchel a’r rheiny gyda doniau a thalentau yn gwneud cynnydd da hefyd.

11. Gwobrwywyd yr ysgol yn ddiweddar gyda Marc Ansawdd y Sgiliau Sylfaenol, yn adlewyrchu’r safonau da a gyflawnir yn y sgiliau cyfathrebu a llythrennedd

Page 12: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

7

allweddol. Mae’r disgyblion yn dangos gallu sydd wedi ei ddatblygu yn dda i ddefnyddio sgiliau rhifedd a TGCh mewn ystod o wahanol gyd-destunau. Mae’r disgyblion yn dangos datblygiad da yn eu sgiliau personol a chymdeithasol, yn enwedig wrth ddatrys problemau a chydweithio. Datblygir sgiliau creadigol yn dda trwy’r ysgol.

12. Mae agweddau’r disgyblion tuag at eu dysgu, y diddordeb maent yn ei ddangos yn eu gwaith a’u gallu i barhau i ganolbwyntio yn dda. Dangosant ddiddordeb yn eu gwaith ac maent yn cymryd rhan yn yr ystod o weithgareddau a ddarperir gyda pharodrwydd.

13. Mae ymddygiad y disgyblion trwy gydol y diwrnod ysgol yn dda iawn ac mae’r ysgol yn cyflawni un o’i nodau o greu awyrgylch lle gall pob disgybl wneud cynnydd. Mae’r ysgol yn gymuned drefnus ac mae’r disgyblion yn fonheddig, awyddus i helpu ei gilydd, cwrtais a chyfeillgar. Maent yn ymarfer lefel uchel o hunan-ddisgyblaeth ac yn derbyn cyfrifoldebau ystafell ddosbarth a chyfrifoldebau eraill gyda brwdfrydedd.

14. Cyflawna’r disgyblion lefelau da o bresenoldeb. Roedd y presenoldeb cyfartalaidd ar gyfer y tri thymor cyn yr arolwg yn 95 y cant. Mae trefniadau cofrestru yn cwrdd â gofynion statudol. Mae’r disgyblion yn brydlon ar ddechrau’r diwrnod.

15. Trwy’r ysgol, gwna’r disgyblion gynnydd da yn eu datblygiad personol, cymdeithasol, moesol ac ehangach. Mae ganddynt hefyd ddealltwriaeth o faterion ynglþn â chyfleoedd cyfartal ac mae ganddynt barch at yr amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau diwylliannol o fewn cymdeithas.

16. Mae cyfranogiad ym mywyd y gymuned ac ymweliadau â llefydd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol yn helpu i ehangu dealltwriaeth y disgyblion o’u cymuned ac ar brydiau y byd gwaith.

Ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant

Cwestiwn allweddol 2: Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu?

Gradd 1 da gyda nodweddion eithriadol

17. Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r cwestiwn allweddol yma fel Gradd 2.

18. O bell ffordd, mae’r rhan fwyaf o’r addysgu y mae’r disgyblion yn ei dderbyn o safon uchel iawn. Mae llawer iawn o gryfderau yn yr addysgu, sy’n parhau i wella o ganlyniad i cydgordio dulliau i gynllunio ledled yr ysgol a’r defnydd effeithiol iawn o wybodaeth asesu i sicrhau bod y gwaith a’r disgwyliadau wedi eu cydweddu yn ofalus i ddisgyblion unigol. Mae gan yr athrawon wybodaeth fanwl iawn o’r disgyblion yn eu gofal, ac maent yn defnyddio’r wybodaeth yma yn dda iawn o ran sicrhau bod y gweithgareddau yn cael eu cynllunio yn y fath ffordd i gynnwys yr holl ddisgyblion ac i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau a’r arteffactau i egluro pwyntiau addysgu.

19. Mae’r addysgu yn hyrwyddo datblygiad personol y disgyblion yn llwyddiannus iawn o ganlyniad i feithrin perthnasau da iawn o fewn y dosbarth.

Page 13: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

8

20. Arsylwodd y tîm arolygu ar yr addysgu mewn chwe phwnc o’r CC. Yn y gwersi a arsylwyd arnynt, barnwyd ansawdd yr addysgu fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5 58 25 17 0 0

21. Mewn dros hanner o’r gwersi yr arsylwyd arnynt, roedd gan yr addysgu nodweddion eithriadol. Roedd y rhain yn cynnwys:

• cwestiynu medrus iawn o oedd yn galluogi’r disgyblion i gyfranogi yn hyderus mewn gwaith llafar ac i sicrhau bod y pwyntiau addysgu wedi cael eu deall yn llawn;

• cydberthynas ardderchog a gyfrannodd yn dda iawn i hyder a pharodrwydd y disgyblion i archwilio syniadau a chysyniadau;

• gwybodaeth fanwl iawn o bob disgybl, gan wneud defnydd effeithiol iawn o’r dosbarthiadau anarferol o fach i ddarparu lefel uchel iawn o sylw ffocysedig unigol;

• cydweddiad da o weithgareddau i anghenion a doniau’r disgyblion er mwyn sicrhau bod yr addysgu yn briodol i’r ystod eang o oedran a gallu o fewn pob dosbarth;

• anogaeth gref i’r disgyblion gymryd cyfrifoldeb am ddysgu eu hunain trwy gyfleoedd da ar gyfer gwneud penderfyniadau o fewn gwersi ac ar gyfer arfarnu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd gyda golwg ar nodi ffyrdd y gallai gael ei wella.

22. Mae ansawdd yr asesu a’i ddefnydd mewn cynllunio, gan gynnwys AAA, yn dda iawn. Mae wedi ei seilio ar dargedau a chanlyniadau disgyblion unigol, wedi ei sefydlu yn dda a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae meini prawf asesu ar gyfer amcanion dysgu yn glir a chyson. Mae’r athrawon yn arsylwi ar waith y disgyblion a darparu cyfarwyddyd priodol ar sut i wella.

23. Cynhelir cofnodion cynhwysfawr o gyflawniadau’r disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys asesiadau gwaelodlin, meini prawf y CC a phrofion safonedig. Caiff yr holl ofynion statudol eu diwallu yn drwyadl. Mae’r safonau a gyflawnir gan y disgyblion yn cael eu monitro a’u defnyddio yn effeithiol mewn cynllunio a gwella dysgu.

24. Gwneir y disgyblion yn ymwybodol yn gyson o’u hymdrechion. Caiff y gwaith ei farcio yn rheolaidd gyda sylwadau cadarnhaol ac adeiladol. Mae’r disgyblion yn trafod eu gwaith gyda’r athro/athrawes, fe’u hanogir i gynnig sylwadau ar wella ac i ddod i ymwneud â chynllunio cynnydd eu hunain.

25. Mae’r adroddiad blynyddol i rieni yn cydymffurfio â gofynion statudol ac mae o safon dda iawn. Ceir cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol i’r rhieni drafod cynnydd eu plentyn gyda’r athro/athrawes ddosbarth. Ar gais, mae gan y rhieni fynediad at gofnodion ac adroddiadau yn gysylltiedig â’u plentyn.

26. Ar gyfer y disgyblion sydd â datganiad neu sydd ar y gofrestr AAA, mae’r rhieni yn ymwybodol o, ac yn ymwneud â CAUau, adolygiadau blynyddol a mewnbwn asiantaethau allanol.

Page 14: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

9

Cwestiwn allweddol 3: Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?

Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig

27. Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn cydweddu â’r arfarniad a wnaed gan yr ysgol yn yr adroddiad hunan-arfarnu.

28. Mae’r ddarpariaeth gwricwlaidd yn nodwedd gref o’r ysgol. Mae’r ansawdd a’r ddarpariaeth gyffredinol o brofiadau dysgu yn cwrdd yn briodol ag anghenion y dysgwyr.

29. Mae’r cwricwlwm cynlluniedig yn eang, cytbwys, ystwyth ac yn darparu yn dda ar gyfer parhad a dilyniant mewn dosbarthiadau oedran-cymysg. Fodd bynnag, mae diffygion yn y ddarpariaeth ar gyfer dylunio a thechnoleg.

30. Mae datblygiad sgiliau sylfaenol ac allweddol y disgyblion yn nodwedd gref o’r ysgol. Yn 2002, gwobrwywyd yr ysgol gyda’r Marc Ansawdd Sgiliau Sylfaenol am ei strategaeth i wella sgiliau sylfaenol y disgyblion. Mae disgyblion o oedran meithrin yn ennill sgiliau allweddol llythrennedd, cyfathrebu a rhifedd yn dda. Yn CA1 a CA2, mae cynnydd y disgyblion yn siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, rhifedd ac yn y defnydd o TGCh yn dda a defnyddir y sgiliau yn dda mewn pynciau eraill. Mae’r cynlluniau gwaith yn sicrhau darpariaeth eglur ac wedi ei chydlynu ar gyfer sgiliau allweddol.

31. Mae profiadau’r disgyblion yn cael eu gwella a’u cyfoethogi trwy amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol. Mae’r rhain yn cynnwys clybiau gwerthfawr ar ôl yr ysgol, profiad preswyl ar gyfer holl ddisgyblion CA2 uchaf, ymweliadau â theatrau lleol, ymweld â chwmnïau theatr a dathlu digwyddiadau arbennig. Mae chwaraeon a gemau cystadleuol wythnosol gydag ysgolion lleol yn cymryd lle. Mae’r gweithgareddau yma yn cyflenwi ac ymestyn darpariaeth y cwricwlwm. Cyfrannant hefyd tuag at godi safonau cyflawniad y disgyblion mewn datblygiad personol a chymdeithasol.

32. Mae’r ysgol yn llwyddiannus iawn o ran hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. Mae amser gwasanaeth yn darparu cyfle da i’r disgyblion gyfranogi, ymateb, ac adlewyrchu ar eu bywydau bob dydd, teuluoedd a digwyddiadau. Mae’r disgyblion yn gwahaniaethu rhwng da a drwg ac fe’u hanogir yn gyson i fod yn onest, yn deg a pharchus. Rhoddir cyfleoedd da i’r disgyblion actio ac ymddwyn yn gyfrifol. Mae’r berthynas dda iawn sy’n bodoli rhwng staff a disgyblion, yn ogystal â rhwng y disgyblion eu hunain yn amlwg ac mae yn nodwedd gref o’r ysgol. Ceir cyfleoedd da mewn gwersi hanes, daearyddiaeth ac addysg grefyddol i’r disgyblion astudio eu diwylliant Cymreig eu hunain a diwylliannau eraill. Datblyga agweddau o waith celf a llenyddiaeth werthfawrogiad y disgyblion o’r byd naturiol.

33. Ceir cysylltiadau effeithiol a chefnogol iawn rhwng y rhieni a’r ysgol. Gydag ail-leoliad uned AAA yr awdurdod addysg lleol (AALl) fis Gorffennaf diwethaf mae cyfle wedi codi i’r ysgol symud ymlaen mewn cyfeiriad newydd. Canolbwyntir ymdrechion ar y ddarpariaeth ar gyfer addysg yn y blynyddoedd cynnar a disgwylir y bydd mwy o rieni yn cofrestru eu plant yn yr ysgol.

34. Mae’r rhieni yn ymwneud yn llawn â’r ysgol trwy brosiectau ail-gylchu a bwyta yn iach; hyrwyddo gweithgareddau hamdden, megis seryddiaeth a gwaith cyfrifiadurol; helpu gyda darllen a chynhyrchu sachau stori o safon uchel. Mae

Page 15: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

10

gan gyfraniad cefnogol y corff llywodraethol cyfredol effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgu y disgyblion. Mae’r effaith hon yn amlwg iawn yn ymglymiad bodlon a pharod cadeirydd y llywodraethwyr.

35. Ceir cysylltiadau cryf ac effeithiol gyda’r gymuned. Mae rhieni, teulu a ffrindiau yn mynychu pan mae’r disgyblion yn cymryd rhan yn yr eisteddfod leol a chyfarfod diolchgarwch yn yr eglwys. Lleolir neuadd y pentref yn yr ysgol ac fe’i defnyddir i gyflwyno sioe ffasiwn o ddillad plant neu sioe’r Nadolig. Mae cwmnïau a busnesau lleol yn cefnogi’r ysgol. Caiff cysylltiadau cymunedol eu gwella trwy ymweliadau cwricwlaidd.

36. Mae trefniadau clwstwr gydag ysgolion cynradd eraill yn dda. Trefnir cyfarfodydd i helpu gyda datblygu cynlluniau a pholisïau cydweithredol ac i ddilyn grantiau ysgol-fach. Mae cysylltiadau gyda’r ysgolion uwchradd y mae disgyblion B6 yn trosglwyddo iddynt yn gwella, ond mae diffygion mewn perthynas â chysylltiadau cwricwlwm a threfniadau i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

37. Mae myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon o Fangor a Wrecsam yn ymgymryd â lleoliad pedair i chwe wythnos yn yr ysgol yn flynyddol yn ystod tymor y gwanwyn. Mae’r pennaeth yn fentor myfyrwyr hyfforddedig. Defnyddir y trefniad yn dda er budd myfyrwyr a disgyblion.

38. Mae’r disgyblion yn elwa o rai gweithgareddau ac ymweliadau yn gysylltiedig â gwaith a cheir enghreifftiau da o fusnesau lleol yn cefnogi gweithgareddau ysgol, Yn ychwanegol, mae ymweliadau a wneir gan yr heddlu, gwasanaeth tân, nyrs a phostmon yn ychwanegu at ddysgu’r disgyblion a’u dealltwriaeth o’r byd gwaith. Ceir cyfleoedd cyfyngedig iawn i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd ac i staff godi eu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth bersonol o’r byd gwaith.

39. Gwna’r ysgol ymdrechion da o ran datblygu profiadau’r disgyblion o’r iaith Gymraeg. Fe’i integreiddir yn effeithiol i fywyd bob dydd yr ysgol. Mae pwyslais cryf ar ddysgwyr i astudio etifeddiaeth a diwylliant Cymru.

40. Ceir darpariaeth dda ar gyfer addysgu am ddatblygiad cynaliadwy o fewn meysydd pynciol ac mae’r disgyblion yn ymhel ag ystod o fentrau ail-gylchu.

41. Mae polisi cyfle cyfartal clir ac fe’i adlewyrchir mewn sawl agwedd o fywyd yr ysgol megis gemau a gweithgareddau cymdeithasol eraill.

42. Mae’r cwricwlwm yn cymryd ystyriaeth dda o flaenoriaethau a mentrau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cwestiwn allweddol 4: Pa mor dda yw’r gofal, yr arweiniad a’r cymorth i ddysgwyr?

Gradd 1 da gyda nodweddion eithriadol

43. Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r cwestwn allweddol hwn fel Gradd 2.

44. Darpara’r ysgol lefel uchel o ofal, cyfarwyddyd a chefnogaeth i’w disgyblion drwy gydol y dydd. Mae arsylwi ar wersi a gweithgareddau eraill yn dangos pa mor effeithiol mae’r ysgol yn cynllunio a rheoli’r trefniadau yma. O ganlyniad, mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalus ble mae’r disgyblion yn teimlo yn werthfawr ac wedi’u cefnogi.

Page 16: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

11

45. Ymdrecha’r ysgol i weithio mewn partneriaeth gyda’r rhieni. Cânt groeso yn yr ysgol, ac maent yn ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol a gwaith cartref. Mae’r wybodaeth a gafwyd o holiadur diweddar wedi’i gwblhau gan rieni ar agweddau o ddarpariaeth, gan gynnwys gofal a chefnogaeth, yn gadarnhaol a chalonogol.

46. Mae cysylltiadau partneriaeth gyda chyflogwyr yn faes tanddatblygedig. Mae’r ysgol wedi cydnabod hyn ac yn dilyn rhaglen “Byd Gwaith”. Gwrandewir ar awgrymiadau rhieni ac mae’r ymateb yn gadarnhaol; er enghraifft, gweithgareddau paentio, sachau stori, prosiectau ail-gylchu. Yn yr achos prin iawn o gwyn, mae’r ysgol yn ei gymryd i ystyriaeth ac yn gweithredu yn unol â hynny.

47. Ceir canllawiau a gweithdrefnau cyfarwydd ac wedi eu sefydlu yn dda i helpu disgyblion newydd i gynefino yn gyflym â’r drefn ddyddiol. Ceir hefyd, os bydd angen, cefnogaeth ychwanegol neu arbenigol o’r AALl. Mae cytundeb cartref/ysgol yn hysbysu disgyblion o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae’n pwysleisio’r pwysigrwydd bod disgyblion o bob oedran yn teimlo yn saff a diogel. Mae hefyd yn annog cydbarch, cefnogaeth a chydweithrediad o fewn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.

48. Mae’r staff yn nodi a monitro anghenion a chynnydd y disgyblion yn gyson. Mae ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gryfderau’r disgyblion a meysydd sydd angen gwella arnynt o ran addysg iechyd, bersonol a chymdeithasol. Maent yn sicrhau cyfarwyddyd wedi ei gydlynu a da ei strwythur a gwnânt ddefnydd da o gysylltiadau gydag asiantaethau allanol. Ymgymerodd heddwas ag ymweliad diweddar i drafod y peryglon iechyd yn gysylltiedig ag ysmygu ac alcohol.

49. Ymgymerir â chyfnodau cofrestru yn briodol ac mae’r gweithdrefnau ar gyfer monitro prydlondeb, presenoldeb, ymddygiad a pherfformiad y disgyblion yn eu lle. At ei gilydd, mae gan y ffactorau hyn effaith fuddiol ar gynnydd a hyder y disgyblion ac mae’n eu helpu i ffynnu mewn awyrgylch dda ei strwythur.

50. Hyrwydda’r ysgol ddatblygiad iach, diogelwch a lles y disgyblion. Mae gan un llywodraethwr gyfrifoldeb am iechyd a diogelwch o fewn yr ysgol. Mae rheolau ymddygiad clir i’r disgyblion arsylwi arnynt y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad. Mae’r ysgol yn amddiffyn y disgyblion rhag sefyllfaoedd niweidiol ac yn eu hatgoffa yn gyson o iechyd a diogelwch trwy ei gweithdrefnau dyddiol. I’r disgyblion hynny sy’n derbyn prydau ysgol, mae’r bwyd yn flasus a maethlon. Mae mwyafrif y bwyd sydd wedi ei baratoi yn ffres ac wedi ei brynu yn lleol.

51. Mae gweithdrefnau amddiffyn plant yn eu lle ac ymgymerir ag asesiadau risg pan fo’u hangen gyda gweithgareddau arbennig neu ymweliadau dosbarth.

52. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion ag AAA yn dda ac yn cwrdd â gofynion y Côd Ymarfer. Mae gan yr ysgol gyfran uwch na’r cyfartaledd o ddisgyblion ag AAA, gan gynnwys rheiny â datganiadau. Gwneir defnydd effeithiol o gefnogaeth allanol i ddarparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer athrawon a disgyblion. Ar gyfer y disgyblion nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, mae’r ysgol yn rhestru cymorth gwasanaeth yr AALl ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol, a gwna’r cyfryw ddisgyblion gynnydd da iawn.

53. Mae gan y disgyblion cyfleoedd da i brofi agweddau o ddinasyddiaeth ac amrywiaeth. Ceir cynrychioliad da o amrywiaeth yn y cwricwlwm, addysgu addysg grefyddol ac o fewn y rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol. Mae’r

Page 17: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

12

storïau yn y gwasanaethau yn cynnwys topigau sydd yn helpu disgyblion i ddysgu am bwysigrwydd parch a goddefgarwch.

54. Mae polisïau a gweithdrefnau yn eu lle i sicrhau bod digwyddiadau o ymddygiad drwg yn brin ac mae hyn yn cynnwys pob math o ddirnadaeth ac aflonyddwch.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Cwestiwn allweddol 5: Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth strategol?

Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig

55. At ei gilydd, mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn cydweddu’r arfarniad a wnaed gan yr ysgol yn yr adroddiad hunan-arfarnu.

56. Yn yr ysgol fach iawn hon, mae ansawdd yr arweinyddiaeth gorfforaethol yn dda ac yn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rheoli yn bwrpasol gydag ymwybyddiaeth glir o gyfeiriad. Mae nodau ac amcanion wedi eu rhannu a’u hadlewyrchu yn dda yng ngwaith yr ysgol ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pawb. Mae gan y corff llywodraethol cymharol newydd olwg glir o’r hyn mae angen i’r ysgol ei wneud ac mae yn gynyddol effeithiol o ran ei gyflawni.

57. Mae ansawdd y perthnasau a’r lefel uchel o ymddiriedaeth rhwng y staff a’r llywodraethwyr yn sicrhau y rheolir yr ysgol mewn ffordd agored a chlir iawn.

58. Mae’r ysgol yn cymryd ystyriaeth dda o flaenoriaethau cenedlaethol. Mae mentrau diweddar, megis y rhaglen ‘dal i fyny’, yn helpu mwy o ddisgyblion i gyflawni safonau uwch. Mae’r ysgol yn datblygu strategaeth dda ar gyfer hyrwyddo dinasyddiaeth a datblygiad cynaliadwy ac mae wedi derbyn yr angen i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ac hydeimledd at amrywiaeth.

59. Mae hunan-arfarnu a gosod targedau yn datblygu yn dda yn strwythurau rheolaeth yr ysgol. Ceir rheolaeth ac arfarniad da o ddarpariaeth a safonau pwnc. Mae rheolaeth perfformiad yn dechrau bod yn effeithiol o ran hyrwyddo datblygiad parhaus yr athrawon a gwella effeithiolrwydd yr ysgol.

60. Mae’r system gwerthuso staff yn hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon ac yn help i wella ansawdd darpariaeth yr ysgol.

61. Mae’r corff llywodraethol yn hysbys iawn ac yn ymwneud yn llawn ym mywyd yr ysgol. Mae llawer o lywodraethwyr wedi cael eu penodi yn ddiweddar a gwnaethpwyd defnydd effeithiol o hyfforddiant o’r AAA ar gyfer cychwyniad ac ar gyfer ailhyfforddi y llywodraethwyr presennol. Mae’r llywodraethwyr yn gynyddol effeithiol o ran gosod cyfeiriad strategol ac o ran monitro ansawdd y ddarpariaeth gan gynnwys honno ar gyfer y disgyblion ag AAA, a’r safonau mae’r disgyblion yn eu cyflawni. Maent wedi clustnodi dylunio a thechnoleg fel maes i’w datblygu ac wedi ceisio rhoi sylw i hyn.

Cwestiwn allweddol 6: Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?

Gradd 2 nodweddion da a dim diffygion pwysig

62. Cytunodd y tîm arolygu gyda gradd hunan-arfarniad yr ysgol.

63. Ceir ymrwymiad cryf ar ran y llywodraethwyr, y pennaeth a staff i godi safonau a gwella perfformiad yr ysgol. Tra bod rhai agweddau ffurfiol o hunan-arfarniad

Page 18: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

13

newydd gael eu datblygu gan y llywodraethwyr, mae’r ysgol, o leiaf ers yr arolwg diwethaf, wedi cynllunio a dilyn strategaethau ar gyfer gwella yn gyson. Roedd y cynllun gweithredu yn gynhwysfawr ac roedd yn sicrhau bod pob mater a godwyd yn yr adroddiad wedi cael sylw llwyddiannus.

64. Mae’r gweithdrefnau newydd hyn yn cynnwys cael safbwyntiau rhieni er mwyn i’r rhain gael eu hymgorffori yn yr hunan-adolygiad yn arwain i ddatblygu blaenoriaethau o fewn y CDY. Mae’r staff i gyd, ynghyd â’r corff llywodraethol, yn ymwneud â’i gynhyrchiad o gyfnod cynnar.

65. Mae’r CDY yn gryno ac wedi ei ffocysu ar nifer fach o amcanion, gyda chynllunio, cyfrifoldebau, graddfa amser ac adnoddau wedi eu nodi. Gosodir 10 targed; mae’r pump uchaf ar gyfer sylw manwl, y gweddill ar gyfer cyffyrddiad ysgafn.

66. Ar hyn o bryd, nid yw’r cynllun yn rhagweld mentrau sylweddol heblaw am baratoi ar gyfer cyflwyniad y cyfnod sylfaenol, ond ceir pwyslais da ar wella safonau.

67. Darpara’r strwythur monitro pynciau arfarniad effeithiol o safonau a darpariaeth, gan nodi cryfderau a diffygion lle mae’r rhain yn bodoli. Maent yn manylu ar y strwythur ar gyfer monitro ac asesu yn ogystal â’r safonau a gyflawnir, ac yn blaenoriaethu meysydd i’w datblygu ar gyfer eu cynnwys yn y CDY.

68. Mae’r adroddiad hunan-arfarnu a gynhyrchwyd gan yr ysgol cyn yr arolwg, yn gryno a chlir; mae’n nodi cryfderau a meysydd lle mae angen gwelliannau er ni roddir digon o bwysigrwydd i gryfderau mewn rhai meysydd.

69. At ei gilydd, cytunodd y tîm arolygu gyda chydnabyddiaeth yr ysgol o’i chryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Cytunodd y tîm arolygu gyda’r arfarniadau a wnaed gan yr ysgol mewn pump o’r saith cwestiynau allweddol. Lle roedd gwahaniaeth mewn barn, mae’r tîm arolygu wedi dyfarnu gradd uwch.

Cwestiwn allweddol 7: Pa mor effeithlon mae arweinwyr a rheolwr wrth ddefnyddio adnoddau?

Gradd 1 da gyda nodweddion eithriadol

70. Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r cwestiwn allweddol hwn fel Gradd 2.

71. Ac eithrio dylunio a thechnoleg, mae gan y staff ddigon o wybodaeth ac arbenigedd cynhwysfawr i addysgu pob pwnc ac agwedd o gwricwlwm yr ysgol. Mae’r ysgol wedi ei staffio yn dda ar gyfer y nifer o ddisgyblion ond mae maint yr ysgol yn cynhyrchu llwyth gwaith sylweddol o ran rheoli’r cwricwlwm.

72. Mae staff cynnal medrus yn sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu yn effeithiol. Mae athrawon yr AALl yn ymweld yn rheolaidd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer y disgyblion ag AAA a Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae’r ‘Athrawon Bro’ yn cyflenwi addysgu’r Gymraeg fel ail iaith. Defnyddir cynorthwy-ydd dosbarth yn ddefnyddiol ac yn werthfawr gyda’r plant ifancach ac mae’n cyfrannu gyda phob agwedd o’r ddarpariaeth gwricwlaidd.

73. Mae argaeledd a safon uchel o lyfrau darllen cyffredinol, cyfeirlyfrau, deunyddiau ac offer a welir mewn ystafelloedd dosbarth, mannau darllen a’r ystafell adnoddau yn hybu ansawdd gwaith disgyblion a dysgu. Mae’r ystod eang o adnoddau yn briodol i oedran ac anghenion y disgyblion.

Page 19: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

14

74. Mae adeiladau ac ystafelloedd digonol ar gyfer y nifer gyfredol o ddisgyblion sydd yn mynychu’r ysgol. Gwneir defnydd da o’r cyfleusterau gan gynnwys y neuadd bentref gyfagos. Cynhelir adeilad a meysydd yr ysgol yn dda. Ceir maes chwarae diogel a helaeth ac ardal maes dda iawn.

75. Gydag ail-leoliad diweddar yr Uned, mae gan yr ysgol lawer mwy o ofod. Mae dosbarth CA1 wedi cael ei ail-leoli i’r hen Uned ac mae ystafell fawr ar gael bellach fel man adnoddau.

76. Mae’r ysgol yn cynllunio yn briodol a gwna defnydd o adnoddau cyllidol ac eraill yn unol â’i blaenoriaethau addysgiadol ac eraill. Mae’r pennaeth a’r llywodraethwyr yn adolygu ac arfarnu yn rheolaidd y defnydd o adnoddau a gofynion ar gyfer y dyfodol.

77. Gwneir defnydd da iawn o’r gymuned leol a lleoliadau addysgiadol eraill i gyfoethogi dysgu’r disgyblion. Mae’r disgyblion, rhieni, yr ysgol a’r gymuned i gyd yn elwa o‘u partneriaeth glòs ac effeithiol.

78. At ei gilydd, darpara’r ysgol werth da am arian.

Safonau a gyflawnir mewn pynciau a meysydd dysgu Saesneg

Cyfnod Allweddol 1 - Gradd 1: da gyda nodweddion eithriadol Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 1: da gyda nodweddion eithriadol

Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i’r rheiny yn hunan-arfarnu yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r pwnc hwn fel Gradd 3 yn y ddau gyfnod allweddol.

Nodweddion da ac eithriadol

Mae’r disgyblion yn astud yn y gwersi; maent yn gwrando ar yr athro/athrawes a dilyn cyfarwyddiadau. Maent yn ymateb yn dda i gwestiynau gan ddangos diddordeb a dealltwriaeth, sydd yn hyrwyddo a gwella eu dysgu. Maent yn mwynhau cyfrannu at wersi ac yn gefnogol iawn i’w gilydd.

Mae’r disgyblion yn elwa o’r pwysigrwydd mae’r ysgol yn rhoi ar sgiliau darllen ac o’r diddordeb y mae’n cyffroi mewn darllen. Gosodir targedau priodol yn rheolaidd ac anogir y disgyblion yn weithredol i gadw cofnod o gynnydd eu hunain. Mae disgyblion CA2 yn ymgyfarwyddo gyda gofynion lefel ddarllen - ymateb, mynegiant, darllen a deall ac agwedd. Maent yn dangos cynnydd da ac yn dod yn ddarllenwyr hyderus.

Mae disgyblion CA1 yn siarad yn glir, er enghraifft, wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod Diolchgarwch. Maent yn adnabod geirfa briodol a, chan weithio yn gydweithredol, cynhyrchant gerdd gryno.

Mae’r disgyblion yn adnabod synau llythyron dechreuol ac meant yn gwneud cynnydd i ddarllen y gair cyfan. Maent yn dangos cynnydd da iawn wrth iddynt adnabod ffonemau a chyfuniadau a’u defnydd wrth ffurfio geiriau. Maent yn dangos dealltwriaeth dda o derfyniadau lluosog a’u hysgrifennu yn gywir.

Gwna’r disgyblion gynnydd da iawn o ran darllen. Yn CA1, mae rhai disgyblion yn darllen yn weddol gywir gydag awgrymiadau gweledol tra bod eraill yn darllen yn rhugl, gyda mynegiant a thrafodant y testun. Mae’r disgyblion yn CA2, yn adnabod cytseiniau/llafariaid ac yn cyfrannu yn frwdfrydig mewn sesiwn rap yn seiliedig ar y

Page 20: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

15

rhaglen ffoneg strwythuredig. Maent yn dangos gafael gadarn o iaith ffonemau, graffemau a deuseiniaid ac yn deall y gall defnyddio amrywiaeth o gyfuniadau llythrennau gynhyrchu seiniau.

Yn CA2, mae’r disgyblion yn dangos sgiliau ymddiddanol a arsylwadol da. Wrth ddarllen “Out of the Ashes” gan Michael Morpurgo, maent yn ystyried y testun, adlewyrchu yn synhwyrol i’r digwyddiadau yn y stori ac yn cysylltu’r rhain â digwyddiadau yn eu bywydau a phrofiadau eu hunain.

Mae disgyblion uchel eu cyrhaeddiad yn CA2 yn dangos dealltwriaeth dda iawn o’r defnydd o drosiadau ac yn dangos hyn mewn arddangosfa o’u gwaith, gan adlewyrchu dychymyg a meddwl da.

Erbyn diwedd CA1, mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn ysgrifennu yn ddarllenadwy ac yn gywir. Datblygant sgiliau llawysgrifen da trwy gwblhau ymarferion, croeseiriau, ymchwiliadau geiriau a chwblhau brawddegau. Maent yn dechrau defnyddio atalnodau ac mae eu llawysgrifen wedi ei huno.

Yn CA2, gwna’r disgyblion gynnydd da wrth ennill sgiliau llawysgrifen trwy wers ffurfiol. Maent yn ffurfio’r llythrennau yn ofalus ac maent yn ymwybodol o ddisgrifyddion a ddefnyddir, er enghraifft, esgynyddion a disgynyddion. Gwna’r disgyblion uchel eu cyrhaeddiad gynnydd da iawn o ran ysgrifennu yn rhydd. Maent yn golygu a sganio testun; gwneud defnydd da o eiriadur; adrodd ar brofiad personol; cymharu llyfr a ffilm gan amlinellu’r manteision a’r anfanteision; ysgrifennu barddoniaeth seml ar ffurf rap; ac ailysgrifennu cerdd fel stori. Mae ansawdd cyffredinol ac amrywiaeth gwaith ysgrifenedig a safonau uchel yn nodweddion cryf o gynnydd disgyblion.

Diffygion

Nid oes diffygion arwyddocaol.

Gwyddoniaeth

Cyfnod Allweddol 1 - Gradd 2: nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 2: nodweddion da a dim diffygion pwysig

Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarnu’r ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r pwnc fel Gradd 3 yn y ddau gyfnod allweddol.

Nodweddion da ac eithriadol

Mae disgyblion CA1 yn cynnal archwiliadau rhagnodedig yn dda. Maent yn defnyddio ystod o synhwyrau i wneud arsylwadau gofalus, gan gofnodi eu canfyddiadau yn effeithiol ar bapur ac ar ffurf diagram. Dônt i ddeall yr hyn sydd yn gwneud prawf teg ac wrth gynnal archwiliadau, gwnânt ragfynegiadau synhwyrol ynglþn â’r hyn maent yn meddwl y gall ddigwydd.

Mae eu gwybodaeth o bethau byw yn dda. Maent yn plannu hadau a’u tyfu o dan gwahanol amodau. Trwy ymwneud â gardd yr ysgol, maent yn ennill gwybodaeth gadarn o gylchred bywyd planhigion. Deallant y pwysigrwydd o fwyta yn iach a chymryd ymarfer yn rheolaidd.

Mae’r disgyblion yn categoreiddio defnyddiau yn ôl eu priodweddau, gan adnabod y gall defnyddiau rannu rhai priodweddau, ond nid y cyfan, gydag eraill. Maent yn archwilio eitemau bob dydd i sefydlu o ba beth y gwnaed hwy ac yn adnabod y deunydd priodol ar gyfer dillad glaw.

Page 21: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

16

Mae’r disgyblion yn gwybod bod grymoedd yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd ac y gall gwrthrychau sy’n symud gael eu cyflymu, eu harafu neu eu hailgyfeirio gan gymhwysiad grymoedd gwahanol.

Maent yn datblygu dealltwriaeth o gynefin, er enghraifft, y gwrych lleol, gan adnabod a dosbarthu creaduriaid a phlanhigion a welir yno. Gwnânt ddefnydd da o’r amgylchedd lleol ar gyfer arsylwi ac archwilio.

Mae disgyblion CA2 yn ymestyn eu gwybodaeth o’r byd naturiol a chyd-ddibyniaeth rhywogaethau, gan arwain at ddealltwriaeth dda o’r materion ecolegol sy’n wynebu’r byd. Maent yn rhoi hyn mewn grym gan ailgylchu defnyddiau, gan gynnwys defnyddiau planhigion a ddefnyddiant i baratoi compost.

Erbyn diwedd CA2, mae gallu’r disgyblion i gynllunio, cynnal a chofnodi archwiliadau ymarferol wedi ei ddatblygu yn dda. Mae ganddynt ddealltwriaeth gadarn o sut i gynllunio prawf teg ac ystyried hyn yn ofalus wrth gynllunio arbrawf. Maent yn gosod allan eu syniadau a dethol yn gywir elfennau o’r prawf y gallent gadw yr un peth a’r rheiny y byddai angen iddynt eu newid. Cofnodant eu harsylwadau yn ofalus mewn siartiau a graffiau.

Wrth gynllunio archwiliad i arddangos yr amodau sydd yn ffafrio anweddiad, er enghraifft, maent yn ymwybodol bod angen i fesur y dðr fod yn gyson yn ogystal â’r amser ar gyfer yr arbrawf. Maent yn cymhwyso eu gwybodaeth i ddatblygu dealltwriaeth o’r gylchred ddðr, gan gynnwys termau megis ‘anweddiad’, ‘dyddodiad’ a ‘chyddwysiad’.

Yn y ddau gyfnod allweddol, dengys y disgyblion ystyriaeth dda o ddiogelwch a dilynant gyfarwyddiadau yn ofalus. Maent yn dangos lefel dda o barch tuag at fywyd anifeiliaid, gan gynnwys y creaduriaid bach a ddaethant ar eu traws yn yr ymchwiliad o’r gwrych.

Diffygion

Mae’r disgyblion hþn ac uchel eu cyrhaeddiad yn CA2, yn dangos sgiliau cyfyngedig o ran adnabod ffyrdd priodol o archwilio cwestiynau gwyddonol o egwyddorion cyntaf.

Cymraeg

Cyfnod Allweddol 1 – Gradd 2: nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 2: nodweddion da a dim diffygion pwysig

Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarnu'r ysgol am fod yr ysgol wedi barnu'r pwnc yma fel Gradd 2 yn CA1 a Gradd 1 yn CA2.

Nodweddion da ac eithriadol

Mae’r disgyblion yn CA1 yn gwrando yn ofalus ar yr athrawes tra mae cofrestru yn cael ei gymryd yn y Gymraeg. Maent yn dilyn cwestiynau syml ac ymateb yn Gymraeg.

Mae’r disgyblion yn adnabod ac ymateb yn briodol i gardiau fflach a gweithio yn effeithiol mewn parau. Mae ynganiad a goslef yn dda. Maent yn gwybod eu rhifau yn Gymraeg wrth chwarae gêm fwrdd ac yn dangos dealltwriaeth gadarn wrth ddefnyddio patrwm brawddeg syml.

Yn seiliedig ar eu gwaith thema, mae disgyblion B1 yn mwynhau ymateb i gwestiynu syml ynglþn â sut maent yn teimlo. Mae disgyblion B2 yn ymestyn eu geirfa gan

Page 22: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

17

ymgymryd ag ymarferion ysgrifenedig/lliwio ar geisiadau megis “Ga’ i lemonêd/hufen iâ os gwelwch yn dda?”

Dengys y disgyblion gynnydd wrth ddarllen storïau syml o’r cyfresi ‘Paent Gwlyb’ a ‘Dewi Deinosor’. Maent yn darllen eu storïau yn uchel gydag ynganiad a mynegiant da a chyfleu’r cynnwys yn effeithiol.

Mae gan y disgyblion yn CA2 eirfa Gymraeg estynedig a sgiliau llafar da; gwnânt gynnydd da iawn yn Gymraeg ysgrifenedig. Yn seiliedig ar y gyfres “Ymlaen â Ni”, mae’r disgyblion yn adolygu, atgyfnerthu ac ymestyn patrymau iaith a ddysgwyd yn flaenorol.

Tra’n gweithio ar y thema “Bwyd”, maent yn gofyn ac ateb cwestiynau ar fwydlen, er enghraifft, “Pwy sy’n hoffi brechdan wy, creision halen a finegr/plaen, iogwrt mefus?” Dangosant agwedd frwd a chadarnhaol tuag at eu Cymraeg lafar. Maent yn adrodd cerdd Gymraeg gyda mynegiant a dealltwriaeth dda. Gwerthfawroga’r disgyblion y gweithgareddau pwrpasol sydd yn annog trafodaeth ac yn hwyluso cynnydd da mewn sgiliau llafar.

Mae ymarferion ysgrifenedig y disgyblion yn cynnwys amrywiaeth o themâu sydd yn amrywio o gofnodion dyddiadur, adroddiadau cryno, i ymweliad preswyl gyda’r holl weithgareddau a ymgymerwyd. Mae patrymau brawddeg yn fyr ac yn seiliedig ar eirfa gyfarwydd â phatrymau.

Mae gweithlyfr Cymraeg yn seiliedig ar “Wyliau” yn dangos cynnydd da gan ddisgyblion yn eu hymatebion a sgiliau ysgrifennu brawddegau. Mae safon y gwaith at ei gilydd yn dda iawn ac yn adlewyrchu diddordeb dilys disgyblion yn y thema.

Gwna pob disgybl defnydd da o’r cyfle i ganu yn Gymraeg, yn anffurfiol yn y dosbarth ac yn ffurfiol yn ystod gwasanaeth ysgol-gyfan. Ar achlysuron arbennig, mae’r disgyblion yn darllen, adrodd a chanu yn Gymraeg yn glir ac i safon dda o flaen rhieni ac aelodau o’r gymuned.

Diffygion

Nid oes diffygion arwyddocaol.

Dylunio a thechnoleg Cyfnod Allweddol 1 - Gradd 4: rhai nodweddion da, ond diffygion mewn meysydd

pwysig Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 4: rhai nodweddion da, ond diffygion mewn meysydd

pwysig Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r pwnc fel Gradd 2 yn y ddau gyfnod allweddol. Nodweddion da ac eithriadol Yn y ddau gyfnod allweddol, datblyga’r disgyblion sgiliau wrth ddefnyddio yn ddiogel ystod o offer llaw i fesur, marcio, siapio, torri ac uno ystod o ddefnyddiau, gan ddilyn briff dylunio.

Mae’r disgyblion ieuengach yn dangos chwilfrydedd ynglþn â sut mae pethau yn gweithio a gwnânt ddefnydd effeithiol o gitiau adeiladu i gynnal gweithgareddau dylunio a gwneud syml. Defnyddiant ddeunyddiau syml i greu bocs i gynnwys ‘cinio ceidwad y goleudy’.

Page 23: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

18

Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau wrth lawdrin defnyddiau parod i blygu ac mae’r disgyblion yn talu sylw cynyddol i bwysigrwydd gorffeniad a chyflwyniad yn eu gwaith dylunio.

Trwy waith yn gysylltiedig ag archwiliadau gwyddonol, datblyga’r disgyblion ddealltwriaeth o’r egwyddorion sydd yn ymwneud â dylunio a chryfhau strwythurau megis pontydd i’w galluogi i wrthsefyll llwythi, yn ogystal â’r mecanweithiau yn ymwneud â rotor hofrennydd.

Mae deall prosesau rheolaeth gan ddefnyddio TGCh yn datblygu yn dda, trwy weithio gyda LOGO i reoli symudiad ‘crwban’ a thrwy waith ar raglennu ‘ceffylau bach’ yn y ganolfan dechnoleg gwybodaeth leol.

Mae’r disgyblion yn archwilio strwythur bara a bisgedi, gan adnabod agweddau cadarnhaol a’u hymgorffori yn nyluniadau eu hunain yn ogystal â pharatoi a chyflwyno bwyd arall. Maent yn dylunio diod newydd, gan ystyried nid yn unig yr hyn y bydd yn gynnwys, ond hefyd sut y caiff ei gyflwyno.

Erbyn diwedd CA2, mae sgiliau’r disgyblion yn datblygu yn dda ac maent yn defnyddio yn gynyddol gwybodaeth eu hunain i gynllunio, dylunio a gwneud modelau cymhleth megis model wrth raddfa o’r ysgol.

Diffygion

Mae’r disgyblion yn y ddau gyfnod allweddol yn brin o brofiad a gwybodaeth mewn meysydd arwyddocaol o’r pwnc. Nid oes ganddynt brofiad o fecanweithiau megis liferi, colynnau, niwmateg a hydroleg ac mae ganddynt wybodaeth gyfyng o strwythurau ac atgyfnerthu yn ogystal â thechnoleg rheoli.

Nid yw’r disgyblion yn adnabod yn ddigonol angen dylunio a rhoi sylw iddo, gweithio i feini prawf ac arfarnu’r canlyniad yn erbyn eu bwriadau er mwyn gwella eu dyluniad.

O ganlyniad i weithio gyda briffiau rhagnodedig, mae tebygrwydd mawr iawn rhwng y modelau a’r arteffactau y mae’r disgyblion yn eu cynhyrchu, gyda gwahaniaethau yn aml yn gyfyngedig i’r dewis o liwiau neu ddefnyddiau ar gyfer yr addurno terfynol.

Hanes

Cyfnod Allweddol 1 - Gradd 2: nodweddion da a dim diffygion pwysig Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 1: da gyda nodweddion eithriadol

Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r pwnc hwn fel Gradd 2 yn y ddau gyfnod allweddol.

Nodweddion da ac eithriadol

Dangosant gynnydd da wrth ddatblygu eu dealltwriaeth o gronoleg a sut mae pethau wedi newid dros amser. Yn dilyn ymweliad ag Erddig, mae’r disgyblion yn gallu nodi yn gywir rhannau’r o wisg morwyn ac enwi gwrthrychau cyfredol, na fyddai i’w gweld mewn ystafell fyw neu gegin Fictoraidd. Maent yn torri allan a threfnu lluniau o ymdrochi trwy gyfnodau hanesyddol amrywiol.

Adlewyrchir ymdeimlad o gysyniad a pharhad yn eu gwaith.Yn ystod gwaith thema, mae’r disgyblion yn CA1 yn astudio ffynonellau o olau hen a newydd - canhwyllau, olew, nwy a thrydan.

Page 24: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

19

Mae’r disgyblion yn gwrando ac arsylwi yn ofalus ar stori “Salem” - paentiad gan Curnow Vosper (1868-1942). Maent yn deall y gwahaniaeth rhwng ffynhonnell wreiddiol ac eilaidd. Arsylwir ar gynnydd da yn eu hymatebion llafar ac ysgrifenedig.

Mae disgyblion CA2 yn dangos diddordeb a brwdfrydeddd wrth astudio cymdeithas Geltaidd Oes yr Haearn. Maent yn nodi gwledydd a gyfanheddwyd gan y Celtiaid, yn ogystal â deunyddiau adeiladu a ddefnyddiwyd ar gyfer eu hanheddau a gwneud cymariaethau gyda chartrefi eu hunain.

Maent yn dangos dychymyg da wrth drafod ac ysgrifennu am sut oedd bywyd yn oes y Celtiaid. Cynhyrchant adroddiadau ysgrifenedig da o’u hymweliad ag annedd Celtaidd, gan ymgymryd ag ymchwil eu hunain a dangos diddordeb ac ymroddiad trwy’r prosiect.

Ar hyn o bryd, mae disgyblion CA2 yn dechrau astudio bywyd yng Nghymru a Phrydain yn y cyfnod Tuduraidd. Maent wedi ymweld â Rhuthun i weld adeiladau o arddull Duduraidd a chofnodi eu canfyddiadau. Gallant adnabod brenhinoedd a phersonoliaethau’r cyfnod ac maent yn mwynhau gwrando ar rap da a llawn gwybodaeth ar Harri’r VIII (‘Dyfalwch pwy?’ – Coral Rumble). Dangosant gynnydd da wrth ddethol a chyfuno gwybodaeth o amryfal ffynonellau, er enghraifft, ymweliadau dosbarth, cyfeirlyfrau, llenyddiaeth a defnydd o’r Rhyngrwyd.

Diffygion

Nid oes diffygion arwyddocaol.

Addysg gorfforol

Cyfnod Allweddol 1 - Gradd 1: da gyda nodweddion eithriadol Cyfnod Allweddol 2 - Gradd 1: da gyda nodweddion eithriadol

Mae canfyddiadau’r tîm arolygu yn wahanol i hunan-arfarniad yr ysgol am fod yr ysgol wedi barnu’r pwnc yma fel Gradd 2 yn CA1.

Nodweddion da ac eithriadol

Yn y ddau gyfnod allweddol, mae’r disgyblion yn ymwybodol o effaith ymarfer ar eu cyrff. Mae disgyblion CA1 yn nodi'r curiad calon mwy cyflym ac esbonio hyn o ran darparu mwy o egni i’r corff. Erbyn diwedd CA2, mae’r disgyblion yn disgrifio buddion ymarfer rheolaidd. Maent yn gwybod bod ymarfer yn bwysig i iechyd a lles ac yn cymryd rhan yn frwd mewn ystod o weithgareddau chwaraeon a chorfforol eraill.

Datblyga disgyblion CA1 ystod dda o sgiliau gymnasteg, gan ddangos dealltwriaeth dda o foddau teithio a chydbwyseddau, gan ddefnyddio’r llawr a chyfarpar isel. Maent yn cyfuno cyfres o’r symudiadau hyn i ffurfio dilyniant maent yn ei ymarfer a mireinio, gan newid cyflymdra a chyfeiriad gydag ystyriaeth dda ar gyfer anghenion gofodol eu hunain a’r rheiny i eraill.

Mae disgyblion CA2 yn ymestyn hyn i berfformio dilyniannau yn cynnwys ystod o lefelau, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar, dysgu eu dilyniannau ar gof a’u hail-wneud. Mae‘r disgyblion hþn yn cynnig modelau rôl da naill ai wrth arddangos sgiliau neu weithio gyda’r disgyblion ieuengach.

Yn y ddau gyfnod allweddol, mae’r disgyblion yn dechrau a stopio ar orchymyn ac yn dangos ymwybyddiaeth dda o bwysigrwydd llonyddwch i arwyddocáu dechrau a diwedd dilyniant.

Page 25: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

20

Datblyga’r disgyblion sgiliau da yn dawnsio, naill ai wrth ddilyn dilyniant wedi ei addysgu ac wrth addasu symudiad i ddarlunio thema arbennig. Maent yn ymgyfuno i berfformio mewn cyngherddau ysgol.

Gwna’r holl ddisgyblion gynnydd da yn nofio. Er bod rhai disgyblion yn cyrraedd gyda phrofiad cyfyngedig iawn, maent yn magu hyder yn y dðr yn gyflym ac, erbyn B6, mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn cyrraedd safon y 25 metr gyda rhai yn defnyddio ystod o ddulliau a gwneud pellterau mwy.

Mae’r disgyblion yn deall yr angen am reolau a threfn mewn gêmau tîm ac yn derbyn y rhain o wirfodd. Mae gan yr holl ddisgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol ac mae disgyblion ieuengach CA2 hyd yn oed yn cymryd rhan mewn gemau cynrychioladwy.

Yn y ddau gyfnod allweddol, mae’r disgyblion yn arfarnu perfformiad eu hunain ac eraill yn dda iawn, gan nodi cyflawniad da ac awgrymu ffyrdd y gellir cael ei wella gyda sensitifrwydd a chanfyddiad.

Mae’r holl ddisgyblion yn elwa o’r cyfle i ddatblygu sgiliau mewn ystod o weithgareddau awyr agored ac antur o ganlyniad i’r ymweliad preswyl â Glan Llyn. Yn y broses, maent yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth bod cyfranogiad gyda’i gilydd mewn gweithgareddau yn bleserus ac yn cefnogi eu sgiliau cymdeithasol.

Diffygion

Nid oes diffygion arwyddocaol.

Ymateb yr ysgol i’r arolygiad

Gwahoddwyd yr ysgol i ddarparu ymateb i’r adroddiad, ond yn yr achos yma, gwrthododd i wneud hyn.

Page 26: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

21

Atodiad A

Gwybodaeth sylfaenol am yr ysgol

Enw’r ysgol Ysgol Bryn Clwyd Math o ysgol Cymunedol Ystod oedran y disgyblion 3-11 Cyfeiriad yr ysgol

Llandyrnog Dinbych

Cod post LL16 4EY Rhif ffôn 01824 790324

Pennaeth Mr C D Roberts Dyddiad penodi 1984 Cadeirydd y Llywodraethwyr Mrs C Boardman Arolygydd Cofrestredig Dr Eric Peagam Dyddiadau’r arolygiad 18–20 Hydref 2004

Atodiad B

Data a dangosyddion yr ysgol

Nifer y disgyblion ym mhob grðp blwyddyn Grðp blwyddyn D B1 B2 B3 B4 B5 B6 Cyfanswm Nifer y disgyblion 2 4 4 6 2 4 3 25

Cyfanswm nifer yr athrawon

Amser llawn Rhan-amser Cyfwerth ag amser llawn (call) Nifer yr athrawon 2 0.3 2.3

Gwybodaeth staffio

Cymhareb disgybl: athro (call) (ac eithrio dosbarthiadau meithrin ac arbennig) 12:1 Maint y grðp addysgu ar gyfartaledd 15 Cymhareb athro (call): dosbarth 1:1 Cymhareb disgybl: oedolyn (call) mewn dosbarthiadau meithrin 4:1

Canran y presenoldeb ar gyfer y tri thymor llawn cyn yr arolygiad

Tymor Derbyn CA1 CA2 Ysgol Gyfan Gwanwyn 2004 92 97 92 95 Absenoldeb anawdurdodedig 0.3 1.3 0 Haf 2004 91 94 96 95 Absenoldeb anawdurdodedig 0.5 0.5 1.5 Hydref 2003 92 90 97 94 Absenoldeb anawdurdodedig 0.6 0.3 0.7

Canran y disgyblion â hawl i gael prydau ysgol am ddim 11 Nifer y disgyblion a waharddwyd yn ystod y 12 mis cyn yr arolygiad 0

Page 27: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

22

Atodiad C

Canlyniadau Asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Diwedd Cyfnod Allweddol 1:

Canlyniadau Asesiadau CA1 y Cwricwlwm Cenedlaethol 2003

Nifer y disgyblion yn B2 3

Gan fod nifer y disgyblion cymwys i’w hasesu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 yn llai na phump, ni chynhwysir gwybodaeth gryno.

Diwedd Cyfnod Allweddol 2:

Canlyniadau Asesiadau CA2 y Cwricwlwm Cenedlaethol 2003

Nifer y disgyblion yn B6 5

Gan fod nifer y disgyblion cymwys i’w hasesu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 yn uwch na phedwar ond yn llai na 10, dim ond dangosyddion perfformiad cyffredinol a gynhwysir Canran y disgyblion yn cyrraedd lefel 4 o leiaf mewn mathemateg, gwyddoniaeth, a naill ai Saesneg neu Gymraeg (mamiaith)

yn ôl Asesiad Athro yn ôl Prawf Yn yr ysgol 100 Yn yr ysgol 100 Yng Nghymru 68 Yng Nghymru 68

Atodiad Ch

Sail dystiolaeth yr arolygiad

Cyflawnwyd yr arolwg gan dîm o dri arolygwr dros gyfnod o ddau ddiwrnod a hanner, ac roedd yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o:

• gyfarfodydd cyn-arolwg a gynhaliwyd gyda’r pennaeth, staff a’r corff llywodraethol;

• ddadansoddiad 12 o holiaduron rhieni wedi eu dychwelyd gan rieni a chyfarfod gydag 11 o rieni;

• arsylwi ar 13 o wersi neu rannau o wersi ac arsylwi ar weithgareddau allgyrsiol;

• archwilio gwaith y disgyblion a chlywed disgyblion yn darllen;

• gyfweliadau gyda’r disgyblion ynglþn â’u dysgu a’u profiadau o’r ysgol;

• archwilio cofnodion asesu ac adroddiadau i rieni;

• arsylwi ar weithdrefnau cofrestru;

• archwilio dogfennaeth ysgol, cynlluniau athrawon a chofnodion asesu;

• arsylwi ar ymddygiad disgyblion yn, ac o gwmpas yr ysgol yn ystod amser egwyl, amser cinio a chyn ac ar ôl yr ysgol;

• bresenoldeb mewn gwasanaethau;

• drafodaethau gyda’r pennaeth a staff eraill;

• gyfarfodydd ôl-arolwg gydag uwch reolwyr a’r corff llywodraethol.

Page 28: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Adroddiad gan Dr Eric Peagam Ysgol Bryn Clwyd – Hydref, 2004

23

Atodiad D

Cyfansoddiad a chyfrifoldebau’r tîm arolygu

Arolygydd Math Cyfrifoldebau Agwedd Cyfrifoldebau Pwnc Eric Peagam ACof Cyd-destun, Crynodeb,

Cwestiynau Allweddol 1, 2, 5, 6 a 7.

gwyddoniaeth dylunio a thechnoleg addysg gorfforol

Gwynoro Jones Lleyg Cyfraniadau i Gwestiynau Allweddol 1, 3, 4 a 7.

Ifan Glyn Jones Tîm Cwestiynau Allweddol 3 a 4. Cyfraniadau i Gwestiwn Allweddol 2 a 7

Saesneg Cymraeg Hanes

Cydnabyddiaeth Hoffai’r tîm arolygu ddiolch i’r llywodraethwyr, y pennaeth, staff, disgyblion a rhieni am eu cydweithrediad a’u cwrteisi trwy gydol yr arolygiad. EPPC/Severn Crossing Cyf Swît H Tþ Britannic Ffordd Britannic Llandarsi Castell Nedd SA10 6JQ

Page 29: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

Arolygiad dan Adran 10

Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996

YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog

Dinbych LL16 4EY

gan

Dr Eric Peagam

W200/14943

Adroddiad Cryno i Rieni

Rhif yr Ysgol: 663/2135

Dyddiad yr Arolygiad: 18-20 Hydref 2004

Page 30: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

2

Arolygwyd Ysgol Bryn Clwyd fel rhan o raglen genedlaethol arolygu ysgolion. Diben yr Adroddiad yw nodi nodweddion da a diffygion mewn ysgolion er mwyn iddynt allu gwella ansawdd yr addysg a gynigir a chodi’r safonau a gyflawnir gan eu disgyblion. Cynlluniwyd y broses o arolygu pob ysgol o fewn cylch chwe blynedd hefyd i roi mwy o wybodaeth i rieni am ysgolion eu plant. Cynhaliwyd arolygiad o Ysgol Bryn Clwyd rhwng 18-20 Hydref 2004. Fe’i cynhaliwyd gan dîm annibynnol o dri o arolygwyr, dan arweinyddiaeth Dr Eric Peagam. Comisiynwyd yr arolygiad gan Estyn, corff statudol annibynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond sy’n cael ei ariannu ganddo. Roedd yn ofynnol i’r tîm adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth a’r cyfraniad a wna’r ysgol at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ei disgyblion. Gwybodaeth sylfaenol am yr ysgol

Enw’r ysgol Ysgol Bryn Clwyd Math o ysgol Cymunedol Ystod oedran y disgyblion 3-11 Cyfeiriad yr ysgol

Llandyrnog Dinbych

Cod post LL16 4EY Rhif ffôn 01824 790324

Pennaeth Mr C D Roberts Dyddiad penodi 1984 Cadeirydd y Llywodraethwyr Mrs C Boardman Arolygydd Cofrestredig Dr Eric Peagam Dyddiadau’r arolygiad 18–20 Hydref 2004

‰ Hawlfraint y Goron 2004 Gellir atgynhyrchu rhan neu’r cyfan o’r adroddiad cryno hwn at ddibenion addysgol anfasnachol ar yr amod na chaiff unrhyw ddarnau a ddyfynnir eu haddasu a’u bod yn hytrach yn dilyn y gwreiddiol air am air, ac y cydnabyddir ffynhonnell a dyddiad y dyfyniadau. Mae copïau o’r adroddiad cryno hwn ar gael gan yr ysgol. Dan Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996, mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu copïau o’r adroddiad yn ddi-dâl i gategorïau penodol o bobl. Gellir codi tâl nad yw’n fwy na’r gost o atgynhyrchu ar eraill sy’n gwneud cais am gopi o’r adroddiad.

Page 31: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

3

Cyd-destun

Natur y darparwr

Mae Ysgol Bryn Clwyd, a leolir ym mhentref gwledig Llandyrnog ger Dinbych, yn darparu addysg ar gyfer 25 o fechgyn a merched o’r oedran tair i 11, ac mae pedwar ohonynt yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r ardal o’i gwmpas ond, tan yn ddiweddar, mae uned anghenion arbennig a leolir yn yr ysgol wedi tynnu llawer o’i ddisgyblion o ardaloedd eraill. Ers ail-leoliad yr Uned yn rywle arall, mae’r ysgol wedi bod yn defnyddio grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i dderbyn plant cyn oedran meithrin.

Mae’r ysgol yn adrodd nad yw’r ardal y daw’r disgyblion ohoni yn llewyrchus nac o dan anfantais arbennig. Mae gan tua 11 y cant o’r disgyblion hawl i brydau ysgol am ddim sydd yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Mae ystod lawn o allu yn y nifer a dderbynnir, ond mae’r cyrhaeddiad ar fynediad yn is na’r cyfartaledd at ei gilydd. Mae gan tua 25 y cant o’r disgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA), gan gynnwys tri disgybl gyda datganiadau o AAA. Saesneg yw iaith y cartref bron pob disgybl ac nid oes disgyblion sydd yn dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf.

Addysgir y disgyblion mewn dau ddosbarth, un ar gyfer pob cyfnod allweddol, ac mae’r ddau ohonynt yn sylweddol llai na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn Nhachwedd 1998, lle adroddwyd ei bod yn gwneud darpariaeth gyffredinol foddhaol, ond gyda rhai diffygion mewn safonau, cynllunio cwricwlwm a datblygiad ysgol, darpariaeth iechyd a diogelwch, gwybodaeth ar gyfer rhieni a chyfleusterau chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Blaenoriaethau a thargedau’r ysgol

Mae’r ysgol wedi mabwysiadu datganiad o genhadaeth newydd yn ddiweddar sef ‘Dysgu a thyfu gyda’n gilydd’ ar ôl trafodaethau gyda’r disgyblion, staff a llywodraethwyr. Mae hyn yn cynnal set o nodau ac amcanion wedi eu teilwra yn briodol i gyd-destun yr ysgol.

Tra na rhagwelir unrhyw newidiadau mawr yn ffocws yr ysgol, mae targedau cyfredol yn y cynllun datblygu ysgol (CDY) yn cynnwys: gwella darpariaeth a’r cwricwlwm ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gweithredu cynllun ysgol-gyfan ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol, yn ogystal ag amcanion datblygu penodol yn nhechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), gwyddoniaeth, Saesneg, Cymraeg, technoleg, hanes ac addysg gorfforol.

Prif Ganfyddiadau

Mae Ysgol Bryn Clwyd yn ysgol dda gyda nodweddion eithriadol ac ychydig o ddiffygion, y rhai mwyaf arwyddocaol yn gysylltiedig â safonau a darpariaeth yn nylunio a thechnoleg. Mae wedi gwella yn dda ers yr arolwg diwethaf. Cytunodd y tîm arolygu gyda’r mwyafrif o arfarniadau a wnaed gan yr ysgol yn y ddogfen hunan-arfarnu.

Page 32: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

4

Tabl o’r graddau a ddyfarnwyd

Barnodd y tîm arolygu waith yr ysgol fel a ganlyn:

Cwestiwn allweddol

Gradd yr arolygiad

1 Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? 2

2 Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu? 1

3 Pa mor dda mae profiadau dysgu yn diwallu anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach?

2

4 Pa mor dda yw’r gofal, yr arweiniad a’r cymorth i ddysgwyr? 1 5 Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth

strategol? 2

6 Pa mor dda mae arweinwyr a rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau?

2

7 Pa mor effeithlon mae arweinwyr a rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau? 1

Safonau

Mae ansawdd gyffredinol y ddarpariaeth addysgol ar gyfer y plant dan bump yn briodol i’w hanghenion a gwna’r plant gynnydd da iawn yn eu datblygiad personol a chymdeithasol yn ogystal â chymhwyso sgiliau allweddol llythrennedd, cyfathrebu a rhifedd.

Mae safonau cyflawniad a arsylwir mewn gwersi yn y meysydd dysgu a phynciau a arolygwyd fel a ganlyn:

Safonau cyflawniad y disgyblion

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5

Canran ar bob gradd

42 42 16 0 0

Yng Nghyfnod Allweddol (CA) 1 a CA2, gwna’r disgyblion gynnydd da i gyflawni yn dda. Mewn rhai pynciau, mae eu cyflawniad yn eithriadol. Yn y chwe phwnc a arolygwyd, graddiwyd cyflawniad fel a ganlyn:

Pwnc Cyfnod Allweddol 1 Cyfnod Allweddol 2 Saesneg 1 1 Gwyddoniaeth 2 2 Cymraeg 2 2 Dylunio a thechnoleg 4 4 Hanes 2 1 Addysg gorfforol 1 1

Am fod y nifer o ddisgyblion yn fach iawn, nid yw yn briodol i gymharu canlyniadau’r ysgol ar ddiwedd pob cyfnod allweddol gyda’r rheiny o ysgolion eraill. Fodd bynnag, os yw canlyniadau’r ysgol yn cael eu cydgasglu dros y 10 mlynedd diwethaf i roi sampl ddibynadwy, mae’r ysgol wedi cyflawni yn dda iawn o’i chymharu â chanlyniadau cyfartaledd ar gyfer ysgolion tebyg yng Nghymru dros yr un cyfnod.

Page 33: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

5

Mae’r ysgol yn gosod a chwrdd â thargedau wedi eu seilio ar y disgwyliadau ar gyfer disgyblion unigol.

Yn CA1 a CA2, mae safonau a chynnydd y disgyblion ym medrau allweddol siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, rhifedd a defnyddio TGCh yn dda a chânt eu defnyddio yn dda mewn pynciau eraill.

Mae sgiliau personol a chymdeithasol y disgyblion yn datblygu yn dda, gan gynnwys y gallu i gydweithio ac i ddatrys problemau. Mae sgiliau creadigol yn datblygu yn dda ac fe’u hamlygir yng ngwaith ystod o bynciau.

Gwna’r disgyblion ag AAA, gan gynnwys y rheiny â datganiadau, gynnydd da ac maent yn cyflawni’r targedau a osodir iddynt. Gwna’r disgyblion â gallu uchel a’r rheiny gyda doniau a thalentau arbennig gynnydd da hefyd.

Mae agweddau’r disgyblion at eu dysgu, y diddordeb maent yn dangos yn eu gwaith a’u gallu i gadw i ganolbwyntio yn nodweddion arbennig o gryf a chyfrannant yn dda at safonau. Mae presenoldeb a phrydlondeb yn dda.

Mae’r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn, yn cefnogi ei gilydd; erbyn Blwyddyn (B) 6, maent yn datblygu i ddod yn aelodau aeddfed a meddylgar o gymuned yr ysgol, sydd yn mynegi eu safbwyntiau yn dda. Maent yn dangos ymwybyddiaeth dda o faterion ynghylch cyfleoedd cyfartal ynghyd â dealltwriaeth o, a pharch at amrywiaeth mewn diwylliant a chredo.

Cymera’r disgyblion ran lawn yng ngweithgareddau cymunedol ond maent yn dangos datblygiad cyfyngedig o ymwybyddiaeth economaidd neu’r byd gwaith.

Ansawdd yr addysg ac hyfforddiant

Barnwyd ansawdd yr addysgu fel a ganlyn:

Gradd 1 Gradd 2 Gradd 3 Gradd 4 Gradd 5 58 25 17 0 0

Mae’r canran o wersi da lawer yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru o 95 y cant yn foddhaol neu well ac mae’r canran o wersi da iawn lawer yn uwch na tharged Llywodraeth Cynulliad Cymru o 50 y cant yn dda neu well.

Mewn dros hanner o’r gwersi a arsylwyd arnynt, roedd gan addysgu nodweddion eithriadol. Roedd y rhain yn cynnwys:

• cwestiynu medrus iawn a oedd yn galluogi’r disgyblion i gyfranogi yn hyderus mewn gwaith llafar ac i sicrhau bod y pwyntiau addysgu wedi cael eu deall yn llawn;

• cydberthynas ardderchog a gyfrannodd yn dda iawn at hyder a bodlonrwydd y disgyblion i archwilio syniadau a chysyniadau;

• gwybodaeth fanwl iawn o bob disgybl, gan wneud defnydd effeithiol iawn o’r dosbarthiadau anarferol o fach i ddarparu lefel uchel iawn o sylw ffocysedig ac unigol;

• cydweddiad da iawn o weithgareddau i anghenion a doniau disgyblion i sicrhau bod yr addysgu yn briodol i’r ystod eang o oedran a gallu o fewn pob dosbarth;

Page 34: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

6

• anogaeth gref i ddisgyblion gymryd cyfrifoldeb am ddysgu eu hunain trwy gyfleoedd da ar gyfer gwneud penderfyniadau o fewn gwersi ac ar gyfer arfarnu gwaith eu hunain a gwaith ei gilydd gyda golwg ar nodi ffyrdd y gallai gael ei wella.

Mae ansawdd yr asesu yn dda iawn. Defnyddir asesu yn gyson i hysbysu cynllunio a gosod targedau yn effeithiol, ac mae’r athrawon yn cadw cofnodion cynhwysfawr o gyflawniadau’r disgyblion, yn gysylltiedig â lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (CC). Mae’r adroddiad blynyddol i rieni yn cydymffurfio â gofynion statudol ac mae o ansawdd da.

Darpara’r ysgol fynediad cyfartal i gwricwlwm eang a chytbwys sydd yn cwrdd â gofynion y CC a darpara yn dda ar gyfer parhad a dilyniant mewn dosbarthiadau oedran cymysg. Fodd bynnag, mae diffygion yn y ddarpariaeth ar gyfer dylunio a thechnoleg.

Mae trefniadau i gyfoethogi’r cwricwlwm yn dda iawn gyda defnydd effeithiol o’r amgylchedd lleol, y gymuned, ymwelwyr ac ymweliadau, gan gynnwys profiad preswyl ar gyfer holl ddisgyblion CA2 uchaf.

Hyrwydda’r ysgol ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn dda iawn. Mae cysylltiadau gyda rhieni yn effeithiol ac mae partneriaethau gyda’r gymuned ac ysgolion cynradd eraill yn dda. Mae cytundeb cartref-ysgol effeithiol mewn lle. Mae cysylltiadau gyda’r ysgolion uwchradd y mae’r disgyblion yn trosglwyddo iddynt yn gwella, ond mae’r ysgol yn ymwybodol bod diffygion mewn perthynas â chysylltiadau cwricwlwm a threfniadau i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalus ble mae’r disgyblion yn teimlo’n werthfawr a’u bod yn cael eu cefnogi. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion ag AAA yn dda ac yn cwrdd â gofynion y Côd Ymarfer. Mae’r ddarpariaeth i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles disgyblion yn dda iawn ac mae’r ysgol yn darparu cyfarwyddyd academaidd a phersonol effeithiol iawn ar gyfer y disgyblion.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Mae’r ysgol yn cael ei harwain yn dda gyda gweledigaeth glir ac ymdeimlad o bwrpas. Mae ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb corfforaethol ac mae’r nodau a gwerthoedd a rennir yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith yr ysgol.

Mae hunan-arfarniad yn datblygu yn dda ac mae’r trefniadau ar gyfer rheolaeth perfformiad yn effeithiol o ran hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon. Fodd bynnag, mae gosod targedau heb ei ddefnyddio ddigon; er enghraifft, ni cheir targedau ar gyfer gwella presenoldeb.

Mae’r corff llywodraethol, â llawer o’i aelodau yn gymharol newydd, yn gefnogol iawn ac wedi ei hysbysu’n dda. Mae rhai llywodraethwyr, yn enwedig y cadeirydd, yn ymwneud yn agos ym mywyd dyddiol yr ysgol.

Mae’r llywodraethwyr yn helpu gosod cyfeiriad strategol a monitro ansawdd y ddarpariaeth trwy ymweliadau a thrwy adroddiadau’r pennaeth.

Mae’r CDY yn gosod allan blaenoriaethau’r ysgol yn glir gyda ffocws priodol ar godi safonau. Mae hunan-arfarnu yn datblygu yn dda ac mae newydd gael ei ehangu i ystyried safbwyntiau’r rhieni. Mae unrhyw ddiffygion yn y broses yn codi o’r prinder o

Page 35: Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ... fileArolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 YSGOL BRYN CLWYD Llandyrnog Dinbych LL16 4EY Rhif yr Ysgol: 663/2135

7

wybodaeth cymharol o ysgolion eraill i sefydlu graddau gyda’r canlyniad bod dogfen hunan-arfarnu’r ysgol wedi bychanu ansawdd ei darpariaeth.

Gwnaeth yr ysgol gynnydd da ers yr arolwg diwethaf. Rhoddwyd sylw da i’r holl faterion allweddol ac mae nifer o fentrau newydd wedi cael eu gweithredu. Yn arbennig, gwobrwywyd yr ysgol gyda Marc Ansawdd y Sgiliau Sylfaenol.

Mae’r ysgol wedi ei staffio yn dda iawn ar gyfer y nifer o ddisgyblion ond mae maint yr ysgol yn golygu bod gan athrawon faich trwm o ran rheoli’r cwricwlwm.

Mae gan yr ysgol ddigon o adnoddau ac mae’r adeiladau ac ystafelloedd o safon uchel iawn gyda llawer iawn o ofod y tu mewn a’r tu allan a ddefnyddir yn dda iawn. Rheolir y gyllideb yn dda iawn ac mae’n adlewyrchu blaenoriaethau datblygiad yn dda. At ei gilydd, gwna’r ysgol ddefnydd effeithiol iawn o’i adnoddau ac, er gwaethaf y cost uchel ar gyfer pob disgybl, mae’n cynnig gwerth da am arian.

Argymhellion

Er mwyn cyflawni gwelliant ymhellach, mae angen i’r ysgol:

A1. wella safonau a darpariaeth yn nylunio a thechnoleg gan sicrhau ei fod yn cael ei addysgu yn rheolaidd a bod cynllun gwaith effeithiol sydd yn gysylltiedig â rhaglenni astudio’r CC ac yn sicrhau bod disgyblion yn adeiladu yn gadarn ar yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol heb ormod o ailadrodd;

A2. roi sylw i unrhyw ddiffygion a nodir mewn pynciau neu agweddau o waith yr ysgol lle mae safonau yn dda at ei gilydd;

A3. ddatblygu strategaeth glir ar gyfer cefnogi dealltwriaeth y disgyblion o’r byd gwaith a datblygu eu hymwybyddiaeth economiadd;

A4. edrych am ffyrdd mewn cydweithrediad ag ysgolion eraill yn y clwstwr, i wella’r bartneriaeth gydag ysgolion uwchradd mewn perthynas â chysylltiadau cwricwlwm a threfniadau trosglwyddo.

Mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am newid ei gynllun datblygu presennol i ymgorffori camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion cyn pen 45 diwrnod gwaith o dderbyn yr adroddiad, yn dangos yr hyn y mae’r ysgol yn mynd i wneud ynglþn â’r argymhellion. Caiff y cynllun hwn, neu grynodeb ohono, ei ddosbarthu i bob rhiant yn yr ysgol. Hoffai’r tîm arolygu ddiolch i’r llywodraethwyr, y pennaeth, staff, disgyblion a

rhieni am eu cydweithrediad a’u cwrteisi trwy gydol yr arolygiad.