14
Rhifyn. 64 Hydref 2014 Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429 www.avow.org I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar: /AVOWWrexham @AVOWWrexham NEWYDDION Mwy o doriadau i ddod? Gofynnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam arbed £4miliwn arall ar gyfer cyllideb 2015/16 - mae hyn yn ychwanegol i’r £8miliwn sydd wedi ei arbed eisoes ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n anochel y bydd toriadau i wasanaethau ac fe drafodwyd hyn ym Mhwyllgor Gwaith y Cyngor ar Awst y 5ed 2014. Dywedwyd ei bod hi’n bosib y bydd cyfanswm o £500,000 o doriadau i wasanaethau’r trydydd sector, y sector ffydd a gwasanaethau cynghori. Dywedwyd yn y cyfarfod nad oedd unrhyw gynnig wedi ei gymeradwyo hyd yn hyn a bydd ymgynghoriad pellach a mwy manwl yn y man. Caiff adroddiad o Adolygiad y Trydydd Sector ei gyflwyno i Grŵp Gwaith y Cyngor yn eu cyfarfod nesaf ar Fedi’r 9fed 2014. Bydd copi ohono ar gael ar wefan Cyngor Wrecsam yn nes at yr amser. Bydd cyfle i chi gyflwyno cwestiynau / datganiadau yn y cyfarfodydd yn unol â’r protocol. Mwy o fanylion ar dudalen 8. Beth bynnag sy’n digwydd, gwneud yn siŵr eich bod yn codi eich llais dros ddyfodol y Trydydd Sector yn

AVOW Autumn 2014 Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: AVOW Autumn 2014 Welsh

www.avow.org

Rhifyn. 64 Hydref 2014

Elusen Rhif 1043989 Cwmni Cyfyngedig gan Warant Rhif 2993429

www.avow.org

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf dilynwch ni ar:

/AVOWWrexham @AVOWWrexham

NEWYDDION Mwy o doriadau i ddod?Gofynnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam arbed £4miliwn arall ar gyfer cyllideb 2015/16 - mae hyn yn ychwanegol i’r £8miliwn sydd wedi ei arbed eisoes ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n anochel y bydd toriadau i wasanaethau ac fe drafodwyd hyn ym Mhwyllgor Gwaith y Cyngor ar Awst y 5ed 2014. Dywedwyd ei bod hi’n bosib y bydd cyfanswm o £500,000 o doriadau i wasanaethau’r trydydd sector, y sector ffydd a gwasanaethau cynghori.

Dywedwyd yn y cyfarfod nad oedd unrhyw gynnig wedi ei gymeradwyo hyd yn hyn a bydd ymgynghoriad pellach a mwy manwl yn y man. Caiff adroddiad o Adolygiad y Trydydd Sector ei gyflwyno i Grŵp Gwaith y Cyngor yn eu cyfarfod nesaf ar Fedi’r 9fed 2014. Bydd copi ohono ar gael ar wefan Cyngor Wrecsam yn nes at yr amser. Bydd cyfle i chi gyflwyno cwestiynau / datganiadau yn y cyfarfodydd yn unol â’r protocol.

Mwy o fanylion ar dudalen 8. Beth bynnag sy’n digwydd, gwneud yn siŵr eich bod yn codi eich llais dros ddyfodol y Trydydd Sector yn

Page 2: AVOW Autumn 2014 Welsh

2 www.avow.org

030405060708091011121314

YN Y RHIFYN HWNTaith Noddedig AVOW 2014

Dydd Nelson Mandela/Cyfarfod Blynyddol AVOW

Derbyniad Nadolig AVOW

Diwrnod Iechyd A Lles AVOW

Yr Hysbysfwrdd

Adolygu’r Trydydd Sector a’r Sector Ffydd

Diwrnod i bawb a Gwirfoddoli/Diwrnod i wirfoddolwyr

Dim ond Dynion yn y Gegin/Swyddfeydd ar Gael

Cronfa Dreftadaeth y Loteri/Cronfa Gymunedol Tirlenwi

Tîm Chwarae/Cyflogwyr yn gorfod talu mwy o gostau Tal Salwch

Newid Cywair

Hyffordiant

Page 3: AVOW Autumn 2014 Welsh

3 www.avow.org

YN Y RHIFYN HWN

Taith Noddedig AVOW 2014Ym mis Gorffennaf, bu i aelodau a staff AVOW ynghyd â gwirfoddolwyr o Gymdeithas Gofalwyr Wrecsam, Sefydliad ‘Breakthrough’, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) Gogledd Cymru, Canolfan Gymuned Brychdyn Newydd ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash frwydro trwy’r tywydd stormus a gwlyb gan gymryd rhan mewn taith noddedig o Drefor i Langollen ac yn ôl. Roedd grŵp AVOW yn codi arian tuag at y cynllun grant M.A.D (Making a Difference) i’w gyfrannu tuag at brosiectau cymunedol gwerth chweil ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Caiff 100% o’r arian a gasglir ei ddosbarthu’n lleol ac fe gasglwyd dros £8,000 yn ystod y 12 mis diwethaf.

Bu i fudiadau eraill ymuno yn yr hwyl i gasglu arian tuag at eu hachosion eu hunain.

Roedd dwy daith i fodloni gofynion pawb a bu i bawb fwynhau’r diwrnod er gwaetha’r tywydd garw. Bu iddyn nhw gasglu ychydig o dan £1,000 i’r sector.

Yn sgil llwyddiant y digwyddiad, mae’n debyg y bydd AVOW yn cynnal taith arall y flwyddyn nesaf er mwyn i fudiadau godi arian a chryfhau’r Trydydd Sector ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr AVOW hefyd yn mwynhau taith gymdeithasol arall yn hwyr mis Medi 2014. Rhowch wybod os hoffech chi ymuno â ni ar unrhyw un o’r teithiau hyn.

Os hoffech chi gynnig cyfraniad tuag at gronfa M.A.D. er mwyn cydnabod ymdrechion dewr y cerddwyr, ewch i www.avow.org a chliciwch ar y logo cyfrannu ar frig y dudalen. Gallwch hefyd anfon y cyfraniad at AVOW, Tŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND.

Page 4: AVOW Autumn 2014 Welsh

4 www.avow.org

AVOW yn dathlu Dydd Nelson Mandela

Cyfarfod Blynyddol AVOW

Bu i Ymddiriedolwyr, Staff a Gwirfoddolwyr AVOW ddathlu dydd Nelson Mandela drwy dreulio 67 munud yn gwirfoddoli (er mwyn cynrychioli ei frwydr am 67 mlynedd tuag at ryddid) yn Swyddfa Byddin yr Iachawdwriaeth yn Wrecsam. Bu i’r gwirfoddolwyr weithio’n galed yn yr haul yn clirio chwyn, mwsog ac ysbwriel wedi eu gwasgaru ar hyd gerddi’r Gaer. Bu’r Uwchgapten Ian McCredie o Fyddin yr Iachawdwriaeth ar ben ei ddigon ag ymateb gwirfoddolwyr AVOW a’u gwaith caled. Bu un o’r gwirfoddolwyr yn gwisgo crys-t yn dweud “we’re in it for the outcome, not the income!”

Os hoffech chi wirfoddoli ar ran eich cymuned, galwch mewn i’r Ganolfan Wirfoddoli, 21 Stryd Egerton, Wrecsam er mwyn trafod yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.

Eleni fe gynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol AVOW mewn cydweithrediad â Dydd Nelson Mandela ac fe groesawon nhw nifer o rwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol Affricanaidd. Roedd gan BAWSO, Gobaith I Ethiopia, ‘Kenyan Schools’, Cysylltiad Affricanaidd Ysgol Maelor, Her De Affrica – Coleg Cambrian ac Eglwys Apostolaidd Crist stondin yr un yno er mwyn rhannu gwybodaeth am eu gwasanaethau. Roedd yn brofiad gwych gweld cymunedau Affricanaidd gwahanol Wrecsam i gyd mewn un lle.

Dywedodd John Leece Jones, Cadeirydd AVOW “Diolch i bawb a ddaeth i’r Cyfarfod Blynyddol hyd yn oed ar ôl i ni orfod ail-drefnu’r munud ola’ oherwydd ei fod yn gwrthdaro â Seremoni Rhyddid y Fwrdeistref. Er gwaethaf y newid mewn amser, roedd yn braf croesawu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth – Lesley Griffiths AC fel siaradwr gwadd ac i ddathlu Dydd Nelson Mandela. Bu iddo hefyd estyn diolch arbennig i’r rheiny a fu’n gwirfoddoli yn y bore.”

Page 5: AVOW Autumn 2014 Welsh

5 www.avow.org

Derbyniad Nadolig AVOW

Dydd Gwener 19eg Ragfyr, 201412 canol dydd i 2:00

Dydd Gwener 19eg Ragfyr, 2014Prifysgol Gylndŵr

Mae Derbyniad Nadolig AVOW yn gyfle delfrydol i rwydweithio gyda’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach yn Sir Wrecsam. Eleni byddwn ni hefyd

yn casglu eitemau i bobl ddigartref Wrecsam. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!

Am ragor o wybodaeth;E-bost [email protected] neu ffoniwch 01978 312556

Achub y dyddiad

Page 6: AVOW Autumn 2014 Welsh

6 www.avow.org

Dirwnod iechyd a lles AVOWEr mwyn helpu AVOW i weithredu eu Strategaeth Iechyd a Lles, cafodd yr holl staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr wahoddiad i ddiwrnod i’r Cwmni lle bu gweithdai ac arweiniad ynghylch cadw’n iach a gofalu am eich lles. Lluniwyd y strategaeth fel rhan o Wobr Arian AVOW gan Wobrau Gweithle Bach Iach a bu’r diwrnod i’r cwmni yn ymarfer ymgynghori i ddarganfod barn pobl ynghylch iechyd a lles a manteision AVOW fel cyflogwr da.

Roedd yn llwyddiant ysgubol a bu i bawb gymryd rhan a rhannu syniadau arloesol a gwych. Y cam nesaf ydi llunio cynllun gweithredu er mwyn rhoi ychydig o’r syniadau ar waith.

Os hoffech chi help yn llunio Strategaeth Iechyd a Lles neu yn hwyluso Diwrnod i’r Cwmni, cysylltwch â Victoria Milner ar 01978 312556.

6

Page 7: AVOW Autumn 2014 Welsh

7 www.avow.org

Hawl gan ddynion i gymryd gwyliau er mwyn bod yn bresennol mewn apwyntiadau cyn geni O Hydref 2014 ymlaen, bydd hawl statudol gan weithwyr i gymryd gwyliau er mwyn body n bresennol mewn apwyntiadau cyn geni os ydyn nhw mewn “perthynas cymwys” â merch feichiog. Bydd hawl gan ddynion ofyn am amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn bod yn bresennol mewn uchafswm o ddau apwyntiad cyn geni (hyd at chwe awr a hanner am bob apwyntiad). Dydi hi ddim yn orfodol i gyflogwyr dalu’r gweithwyr yn ystod y cyfnodau hyn.

Yr Hysbysfwrdd

Hawl i weithio oriau hy

blyg

O Fehefin y 30ain 2014, mae hawl statudol

gan holl weithwyr wneud cais i weithio oriau

hyblyg ar ôl gweithio am 26 wythnos. (Cyn

Mehefin y 30ain 2014, roedd ond hawl i

rieni plant o dan 17 (neu 18 os ydi’r plentyn

yn anabl) a rhai gofalwyr geisio am hawl i

weithio oriau hyblyg.

Hawl i weithio: Gwirydd ar-lein newydd sbon

Help gan Gov.uk. Mae’n bosib y bydd canlyniadau difrifol i

gyflogwyr sy’n cyflogi rhywun sydd ddim yn dal hawl cyfreithiol i

weithio ym Mhrydain.

Mae’r llywodraeth wedi lansio teclyn ar-lein newydd sy’n help

i gyflogwyr wirio oes gan rywun hawl cyfreithiol i weithio ym

Mhrydain. Atebwch y pum cwestiwn – does dim rhaid i chi roi

enwau ac fe gewch chi’r canlyniad ar ddiwedd yr holiadur.

https://www.gov.uk/legal-right-work-uk

Tŷ AVOW – Tenant NewyddMae AVOW yn falch eithriadol o allu croesawu Scope fel tenant newydd i Dŷ AVOW. Mae Scope wedi ymgartrefu yn ystafell 18 yn ddiweddar. Cafodd Scope ei sefydlu er mwyn gwneud Prydain yn wlad lle mae gan bobl anabl yr un cyfleoedd yn union a phobl eraill.

7

www.avow.org

Page 8: AVOW Autumn 2014 Welsh

8 www.avow.org

Ewch i www.avow.org/publications i ddarllen Cylchlythyrau AVOWMae yna Gylchlythyrau Chwartreol AVOW; Cylchlythyrau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, Cylchlythyrau

Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam a Bwletin Ariannu.

Adolygu’r Trydydd Sector a’r Sector Ffydd,

Ail-lunio gwasanaethau gyda’n

gilyn yn WrecsamOs ydych chi’n gweithio gyda mudiadau trydydd sector yn Sir Wrecsam mae’n siŵr eich bod wedi clywed am hyd. Mae’r holl gynlluniau wedi eu dylunio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd i arbed arian cyhoeddus gan ar yr un pryd wella’r berthynas rhwng yr Awdurdod Lleol, ei ddarparwyr a’i drigolion. Mae AVOW wedi ei chael hi’n anodd gweithio drwy’r amrywiol brosesau oedd yn rhan o hyn i gyd. Serch hynny, rydym ni wedi:

• Gweithio drwy Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector

• Gweithio gydag Adran Gontractio ac Archwilio’r Cyngor, ac yn fwy diweddar

• Wedi bod yn trafod gyda Chyfarwyddwyr y Cyngor ac Aelodau Arweiniol.

Beth bynnag ein safbwynt, mae llai o arian ar gael ac mae hi’n bwysig felly i fod yn fwy effeithlon ac i wneud mwy o gydweithio. Fodd bynnag, wrth wneud penderfyniad ynglŷn â dyfodol ariannol mudiadau mae’n rhaid i bobl ddeall:-

• Pen draw effaith hyn ar gymunedau

• Y posibilrwydd o ddadsefydlogi mudiad sy’n darparu gwasanaethau ychwanegol y mae angen mawr amdanynt.

• Peryg colli cyllid sylweddol gan elusennau petai’n rhaid dadgomisiynu.

“Gyda’n Gilydd yn Wrecsam” yw fframwaith y Cyngor ar gyfer ailffurfio’i berthynas gyda’r gymuned. Mae’r Cyngor yn dweud:

“Prif ddiben Gyda’n Gilydd yn Wrecsam yw grymuso cymunedau yn Wrecsam i gael mwy o gyfrifoldeb a mwy o reolaeth dros wella gwasanaethau, ansawdd bywyd a’r berthynas rhwng gwahanol bobl a’i gilydd. Bydd hyn yn ei dro yn gwneud cymunedau’n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol”.

Mae’r Fframwaith yn dal wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a does dim modd ei weld yn gyhoeddus eto. Fodd bynnag, mae adroddiad diweddar gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir yn cyfeirio at Fanciau Amser. System yw hon sy’n gwobrwyo gwirfoddolwyr drwy roi tocynnau neu gredydau i wirfoddolwyr am eu gwaith. Buasai gwirfoddolwyr yn medru cyfnewid y rhain am wasanaethau gwahanol yn eu cymunedau. Er bod banciau amser yn fodd o gymell pobl, dydyn nhw ddim wir yn arwain at fwy o wirfoddoli. Gan eu bod nhw’n gwobrwyo gwaith maen nhw’n tanseilio’r egwyddor glodwiw o wasanaethu’r gymuned heb ddisgwyl dim yn ôl. Fe allai Banciau Amser gael effaith negyddol ar y gwaith gwirfoddol sy’n cael ei wneud eisoes.

Mae yna lawer i’w ystyried ond mae’n rhaid i ni i gyd fod yn rhan o’r prosesau hyn. Bydd AVOW yn pwyso am drafodaeth gyhoeddus ac yn galw am adolygu Grŵp Cyswllt y Trydydd Sector i’w wneud yn fwy addas ar gyfer y sefyllfa gymhleth a heriol rydym ni’n gweithio ynddo heddiw. Yn y cyfamser dylai mudiadau wneud y canlynol:-

• Cadw llygad ar adroddiadau cyllidebol Bwrdd Gweithredol y Cyngor

• Bod yn effro ac ymateb i’r ymgynghoriad cyfredol ar Fanciau Amser

• Cymryd rhan lawn yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb sydd i’w ddisgwyl ym mis Medi

Fel arall, hwyrach na fydd y toriadau posib i gyllid eich mudiad yn cael unrhyw sylw o gwbl nes i gael llythyr yn dweud fod un cytundeb neu’r llall wedi dod i ben.

Page 9: AVOW Autumn 2014 Welsh

9 www.avow.org

Diwrnod i bawb a Gwirfoddoli wrth Galon

AVOW yn dathlu diwrnod i wirfoddolwyr dros yr haf

Dechreuodd Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr ac Wythnos Genedlaethol Brydeinig y Galon dydd Sadwrn Mehefin y 7fed a bu i AVOW gynnal diwrnod hwyl “i bawb â Gwirfoddoli wrth Galon” yng nghanol Wrecsam! Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan y Maer am 10.30yb yn Sgwâr y Frenhines.Roedd adloniant ar y prif lwyfan trwy’r dydd ac ymysg yr atyniadau oedd cerddoriaeth, theatr dawnsio a dawnsio iaith arwyddion. Bu i dros 30 o fudiadau gwirfoddol osod stondinau gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwybodaeth i bawb o bob oedran. Eleni fe drefnodd AVOW bod y mudiadau yn canolbwyntio ar iechyd hefyd a bu digonedd o awgrymiadau a gwybodaeth ar gadw’n iach a byw yn annibynnol. Roedd Ollie, masgot AVOW wrthlaw i dynnu lluniau gyda rhai o’r mynychwyr. Hefyd bu i Ollie helpu codi arian tuag at Gynllun Grant ‘Make a Difference’ ar gyfer elusennau lleol. Roedd rhywbeth hwyl a diddorol ar gyfer pob aelod o’r teulu – er gwaethaf y glaw!

Bu i staff ac ymddiriedolwyr AVOW gynnal eu digwyddiad blynyddol i ddathlu gwaith gwirfoddolwyr yn Neuadd Goffa Wrecsam. Y thema oedd Calon Gwirfoddoli. Eleni roeddem ni’n dathlu 27,000 awr o waith gan wirfoddolwyr o bob oed yn Sir Wrecsam. Bu i John Leece Jones, Cadeirydd AVOW, gyflwyno Gwobrau Sêr y Gwirfoddolwyr a Thystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm i wirfoddolwyr. Bu i Faer a Maeres Wrecsam, (y Cynghorydd Alan a Mrs Glenys Edwards) gyflwyno Gwobr Hir Wasanaeth, Gwobr Cyfraniad Neilltuol a Gwobr Teilyngdod Uchel Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Fe soniwyd yn arbennig am waith gwirfoddol Ellie De Bolla a enillodd Gwobr Teilyngdod Uchel Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Gwobr Gwirfoddolwr y Mileniwm a Gwobr Sêr y Gwirfoddolwyr. Fe ddywedwyd gair hefyd am Louise Bollington sy’n rhoi o’i hamser i gwnsela gofalwyr yn ardal Wrexham drwy gyfrwng Gwasanaeth Gofalwyr Wrecsam.

Cafwyd adloniant gan Dylan, David a’r Singing Hands a darparwyd cinio iach gan WARM (Wrexham Addictions Recovery Meetings) o’r Caffi Adfer. Cafwyd cacennau bychain gan EmzCakes: Y Caffi Creadigol.

Os hoffech chi wybod mwy am wirfoddoli yn ardal Wrecsam cysylltwch â Chanolfan Wirfoddoli Wrecsam ar 01978 312556 neu e-bostiwch [email protected]. Mae modd hefyd mynd i www.volunteering-wales.net i weld y gwahanol fathau o waith gwirfoddol sydd ar gael.

Page 10: AVOW Autumn 2014 Welsh

10 www.avow.org

Dim ond Dynion yn y GeginDynion sydd hefyd yn ofalwyr yn Wrecsam yn cael y cyfle i wella’u sgiliau coginio.Cafodd y cwrs 7 wythnos o’r enw ‘Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol” ei drefnu ar gais gofalwyr gwrywaidd oedd eisiau ychydig o gefnogaeth i baratoi prydau maethlon iddyn nhw eu hunain ac i’r bobl sydd yn eu gofal.

Trafodwyd beth yw bwyta’n dda, manteisio prydau maethlon ac addasu ryseitiau i’w gwneud yn iachach. Bu i’r dynion allu rhoi eu sgiliau newydd ar waith drwy wneud pryd maethlon, iachus o’r dechrau i’r diwedd.

Dywedodd Roger Moore o Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam, “Diben y cwrs oedd dangos i ddynion sy’n ofalwyr sut i ddefnyddio’r gegin ac i ddysgu technegau coginio amrywiol iddyn nhw fel y gallan nhw baratoi a choginio

Mae mwy na 17,000 o ofalwyr yn byw yn ardal Wrecsam yn unig. Os hoffech chi ddysgu mwy am Wasanaeth Gofalwyr Wrecsam neu am y Grŵp Cefnogi Gofalwyr Gwrywaidd, ffoniwch ni ar 0800 276 1070 neu e-bostiwch [email protected]. Neu, beth am alw draw i’n swyddfa yn 21 Stryd Egerton, Wrecsam am sgwrs.

CYFLEUSTERAULleoliad canolog (gorsaf fysiau gerllaw)Gyda neu heb ddodrefnLifft ar gael i’r llawr cyntaf

Wybod Mwy Cysylltwch Â’r Ken Rowlands: [email protected] | 01978 312556

SWYDDFEYDD AR GAEL

Derbynfa a chyfleusterau ffôn a rhyngrwydYstafelloedd Cyfarfod / CynadleddauGwasanaethau Llungopïo

Page 11: AVOW Autumn 2014 Welsh

11 www.avow.org

Cyfarfodydd Ariannu – Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cronfa Gymunedol Tirlenwi (LCF) – y dyfodol?

Dydd Llun 13eg Hydref 2014Yng Nghronfa Dreftadaeth y Loteri rydym yn ymwybodol fod rhai grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn nerfus am lenwi ffurflenni a gwneud ceisiadau am arian. Dyna pam yr ydym yn cynnig gwasanaeth cynghori un-i-un lle y gallwch gyfarfod swyddogion a thrafod eich prosiect. Mae gennym ffocws dreftadaeth clir ond nid yw hyn yn golygu dim ond adeiladau a chadwraeth, gall hefyd gynnwys hanes a threftadaeth a adlewyrchir drwy gymunedau, straeon ac atgofion pobl

a gweithio gyda phobl ifanc i archwilio syniadau o hunaniaeth a lle.

Bydd Sally Roberts a Julie Furber, Swyddogion Datblygu yn CDL, yn cynnig sessiynau un-i-un rhwng 1 a 4 yn swyddfeydd AVOW, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND ar ddydd Llun 13eg Hydref 2014.

Os hoffech archebu lle 1:1 cysylltwch â Emmelia Booth ar 029 2034 3413 neu [email protected].

Bydd rhaid i chi ein darparu gyda ychydig o wybodaeth sylfaenol cyn y cyfarfod ei hun, a dylech wneud hyn drwy ein gwefan http://welsh.hlf.org.uk/HowToApply/Pages/Sut_i_ymgeisio.aspx

Ydych chi’n rhedeg adeilad neu ganolfan gymunedol?Oes angen ei drwsio neu ei uwchraddio?Ydych chi’n meddwl gwneud cais am grant o’r Gronfa Tirlenwi Gymunedol?Os ydych, pwyswn arnoch i wneud hyn yn hwyr yn hytrach na’n hwyrach, oherwydd gallai deddfwriaeth sydd ar fin dod effeithio ar yr LCF a newid y pwrpas y gellir defnyddio’r arian ar ei gyfer.

Oherwydd bod y Gronfa Tirlenwi Gymunedol yn deillio o’r Dreth ar Dirlenwi, mae’n debygol o gael ei heffeithio gan y Bil newydd i Gymru sydd am ddatganoli pwerau trethu a benthyca i Lywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi o ddyrannu cyllid yn unol â’i blaenoriaethau strategol, felly pan fydd y ddeddfwriaeth yma’n cael ei phasio gallai’r meini prawf newid. Felly, os ydych yn gymwys am grant o dan y meini prawf presennol, byddai’n well i chi wneud cais cyn gynted â phosibl – rhag ofn.

O dan y meini prawf Gronfa Gymunedol Tirlenwi (LCF) ar hyn o bryd , gellir cynnig grantiau ar gyfer:

• • Gwelliant i fwynderau neu gyfleusterau cymunedol, ar gyfer gweithgarwch adloniadol neu hamdden.

• Ar gyfer cadwraeth rhywogaethau neu gynefinoedd penodol sy wedi’u nodi’n fanwl mewn Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.

• Cynnal a chadw, trwsio neu adfer mannau addoliad crefyddol, neu adeiladau neu adeiladwaith hanesyddol a restrwyd.

Gall ceisiadau cymwys fod yn elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, sefydliadau amgylcheddol, sefydliadau dielw cyfansoddiadol, awdurdodau lleol neu hyd yn oed gyrff llywodraethol. Rhaid i brosiectau fod o fewn 10 milltir i’r mannau tirlenwi a restrir isod Mae nifer o wahanol ddosbarthwyr yr LCF ar draws Cymru. Rhestrir y rhai yn Wrecsam isod:

• WREN, Lleolir yn safle’r Pen y bont, Y Waun. Gwefan: www.wren.org.uk

• Cory Environmental Trust in Britain. Lleolir yn safle’r Hafod, Johnstown. Gwefan: http://www.coryenvironmental.co.uk/page/cetbhomepage.htm

• Cemex – Lleolir yn Chwarel Ballswood, Lôn Gegin, Llai. Gwefan: www.cemexcf.org.uk

Am fwy o wybodaeth, siaradwch efo Heather Hicks at AVOW: 01978 312556 neu e-bost [email protected]

Page 12: AVOW Autumn 2014 Welsh

12 www.avow.org

Tim ChwaraeMae Tîm Chwarae AVOW wedi cael haf arall llwyddiannus eithriadol yn darparu sesiynau chwarae am ddim, mynediad agored, i gannoedd o blant yn Sir Wrecsam. Mae’r Tîm yn gweithio ar draws Brynteg, Brymbo, Cefn Mawr, Gwersyllt, Llai, Pant, Penycae a Phentre Brychdyn. Eu prif brosiect wrth gwrs yw ‘The Land’ sef lle chwarae antur ym Mhlas Madog. Mae ‘The Land’ wedi cael cydnabyddiaeth fyd-eang am y cyfleoedd mae’n ei ddarparu. Yn wir, mae’r plant sy’n chwarae yno ar fin ymddangos mewn rhaglen ddogfen a wnaed gan y gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd Erin Davis a’i chriw dros gyfnod o fis yn y Maes Chwarae llynedd. Mae disgwyl i’r ffilm ddogfen gael ei rhyddhau yn nhymor yr hydref eleni. Allwn ni ddim aros!

Yn ystod yr haf bu i Dîm Chwarae AVOW helpu gyda Diwrnod Chwarae eleni. Roedd cannoedd o bobl yno, yn blant, rhieni a neiniau a theidiau. Caiff y Diwrnod Chwarae ei ddathlu bob blwyddyn ym Mhrydain fel cydnabyddiaeth o hawl plant i chwarae. Mae’n digwydd ar ddydd Mercher cyntaf bob mis Awst a thema eleni yw “Chwarae yw . . .?” Mae Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae bob blwyddyn drwy gynnal drwy gynnal digwyddiad chwarae anferthol sy’n rhad ac am ddim a lle mae croeso i bawb. Mae’r digwyddiad yng nghanol tref Wrecsam ar Sgwâr y Frenhines a Llwyn Isaf.

Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith neu am y sesiynau rydym ni’n eu darparu e.e. dyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r sesiynau ac ati, cysylltwch â Claire Griffiths (Rheolwraig yr Adran Chwarae) ar 01978 813912.

Cyflogwyr yn gorfod talu mwy o gostau Tal SalwchEr ei bod hi’n ofyniad cyfreithiol i dalu tal salwch statudol i weithwyr cymwys, oeddech chi’n gwybod fod y baich i gyd ar ysgwyddau’r cyflogwr ers y 6ed o Ebrill 2014. Cafodd y Cynllun Trothwy Canrannol, sy’n caniatáu i gyflogwyr hawlio’r tal salwch yn ôl mewn amgylchiadau penodol, ei ddiddymu ar y 6ed o Ebrill. O dan y Cynllun Trothwy Canrannol mae modd i gyflogwyr hawlio’r tal salwch yn ôl os yw’n fwy na 13% o’r Cyfraniad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y mis. Dyw cyflogwyr ddim yn medru hawlio unrhyw dal salwch yn ôl oni bai eu bod yn gymwys ar gyfer y cynllun adhawlio.

Mae’r llywodraeth wedi dweud y bydd yr arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y Cynllun Trothwy Canrannol ar hyn o bryd yn cael ei drosglwyddo i gynllun newydd i helpu gweithwyr a fu i ffwrdd o’u gwaith ers pedair wythnos i ddechrau gweithio eto. Mae hyn yn rhan o fenter Iechyd, Gwaith a Lles y llywodraeth. Mae disgwyl i’r fenter hon fod ar gael o ddiwedd 2014.

Page 13: AVOW Autumn 2014 Welsh

13 www.avow.org

CERDDORIAETH – DAWNS - DRAMADydd Gwener yr 21ain o Dachwedd 2014 Neuadd William Aston, Wrecsam

CYMDEITHAS MUDIADAU GWIRFODDOL WRECSAM YN CYFLWYNO

13

Yn dilyn llwyddiant cyngerdd mawreddog y llynedd, mae AVOW yn trefnu sioe arall yn arbennig ar eich cyfer chi! Rydym ni’n edrych am grwpiau i helpu gyda’r gwaith cynhyrchu, y gwaith trefnu, hyrwyddo a gwerthu tocynnau (gan rannu’r

elw wrth gwrs.) Cysylltwch â Victoria Milner os oes diddordeb gennych chi; [email protected]

Page 14: AVOW Autumn 2014 Welsh

14 www.avow.org

Training courses from AVOWEwch i’n gwefan i weld disgrifiad llawn o’r holl gyrsiau.

Os hoffech chi gadw’ch lle ar unrhyw un o’r cyrsiau, ewch i www.avow.org, neu cysylltwch â ni ar 01978 312556 neu [email protected].

Mae’r holl gyrsiau yn Nhŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND (oni bai ein bod yn dweud yn wahanol)

HyffordiantDiweddariadau a chyrsiau hyfforddi’r dyfodol

www.wcva.org.uk

www.flvc.org.uk

Cyfraith Cyflogi Medi’r 17eg 2014

Hyder a Hygrededd 30th September 2014

Gwarchod Data Hydref yr 16eg 2014

Cyrsiau EraillDydi’r un o’r cyrsiau isod yn rhai AVOW.

Cysylltwch â’r hyfforddwr /mudiad perthnasol i wybod mwy am y cwrs ac i weld sut i gadw’ch lle.

Mae’r holl gyrsiau yn y Ganolfan Addysg Datblygu Gweithlu, Prif Swyddfa’r Llyfrgell, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NW (oni bai eu bod nhw’n dweud yn wahanol)

Hyfforddiant Firws a Gludir yn y Gwaed Medi’r 17eg 2014 Hyfforddiant i Hyfforddi Medi’r 22ain 2014 Asesiadau Anghenion Gofalwyr Medi’r 22ain 2014 Ymwybyddiaeth o Orddryswch Lefel 1 Medi’r 24ain 2014

Llunio eich polisi diogelu yn CGGC Medi’r 23ain 2014 , Y RhylCynhadledd Ariannu’r Trydydd Sector Hydref yr 2il 2014, Y Rhyl