Click here to load reader
View
223
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
BA Perfformio - Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Citation preview
bywcreu
cynhyrchu…
BA Perfformio
0300 500 1822www.ydds.ac.uk
PRIF FFEITHIAU
Y CELFYDDYDAU PERFFORMIO
www.ydds.ac.uk | 3
PRIF FFEITHIAUCynnwys y cwrsMae’r BA Perfformio yn rhaglencyfrwng Cymraeg arloesol a chyffroussydd wedi’i hanelu at y myfyrwyrhynny sydd â’u bryd ar yrfa yn ydiwydiannau perfformio. Bwriad y raddyw meithrin sgiliau a chreadigrwyddperfformwyr aml ddisgyblaethol fyddâ’r gallu, yr adnoddau a’r potensial iweithio a chynhyrchu gwaith mewnsawl maes, arddull a chyfrwng.Byddwch felly yn datblygu:• ymwybyddiaeth greadigol gyflawn;• hyder yn eich syniadau a’ch
mynegiant creadigol;• adnoddau personol er mwyn
gwireddu eich syniadau.
Gwneir hyn drwy osod a sefydlu sgiliauangenrheidiol yn y flwyddyn gyntaf oastudiaeth. Yna, bydd modylau’r ailflwyddyn yn cynnig cyfle i archwilio amentro ymhellach ac yn ddyfnach i’rmaes, ac yn y flwyddyn olaf, rhoddir ysgiliau oll ar waith mewn cynyrchiadaucyhoeddus a phrosiectau ymarferol.Mae gan yr Ysgol draddodiad hir o fyndâ chynyrchiadau theatr a sioeau cerddar daith, sy’n fodd o roi rhagflas i’nmyfyrwyr o heriau a gofynion realistigy byd perfformio proffesiynol.
Yn ogystal â datblygu sgiliauperfformio'r unigolyn, datblygir hefydsgiliau trosglwyddadwy buddiol, gangynnwys gwaith sgriptio a meistrolisgiliau creadigol digidol. Yn ogystal,datblygir sgiliau beirniadol adadansoddol, gyda’r bwriad oddatblygu perfformwyr ac ymarferwyradfyfyriol, sydd yn gallu pwyso amesur elfennau o’u gwaith a’u crefftmewn perthynas â gwerthoeddcynhyrchu safonol.
Meysydd astudiaeth• Technegau llais a llefaru• Hyfforddiant corfforol• Technegau actio ar gyfer y sgrîn a radio • Perfformio yn gerddorol• Agweddau ar fusnes y diwydiant
perfformio • Sgriptio• Creu a llwyfannu • Dadansoddi testunau a chymeriadau• Prif gynyrchiadau• Prosiect personol
Prif nodweddion• Cynyrchiadau dan gyfarwyddyd
tiwtoriaid a chyfarwyddwyrproffesiynol
• Cyfle i ddatblygu doniau newydd achyfleoedd i'w harddangos
• Cyfle i ymestyn sgiliau creadigol aherio galluoedd academaidd
• Cyfleoedd niferus i berfformio yn yBrifysgol ac ar daith
• Gweithdai ymarferol • Cyfle i astudio dramor yn yr Unol
Daleithiau • Sesiynau hyfforddiant unigol• Siaradwyr gwadd ac ymweliadau• Sgiliau trosglwyddadwy helaeth i hybu
cyflogadwyaeth a chyfleon gyrfaol• Bwrlwm o weithgaredd allgyrsiol
gan gynnwys cyngherddau apherfformiadau
• Awyrgylch Cymreig a phrofiad ofywyd unigryw Y Drindod Dewi Sant
• Côr y Drindod Dewi Sant• Cyfleoedd i weithio yn y diwydiannau
perfformio a chyfryngol• Cyfle i geisio am Fwrsarïau y
Brifysgol ac am Ysgoloriaethau yColeg Cymraeg Cenedlaethol
• Cyfle i gymryd rhan yng Ngŵyl YDrindod Dewi Sant, Gŵyl!
Cod UCASBA Perfformio - W470
LleoliadCampws Caerfyrddin
Hyd y cwrs3 blynedd llawn-amser
Gofynion derbynGwahoddir pob ymgeisydd iglyweliad er mwyn asesu eupriodoldeb i'r rhaglen. Mae angenmeddu ar sgiliau llythrennedd da,gan amlaf, gyda TGAU Gradd Cneu uwch yn y Gymraeg.
Cyfleoedd gyrfa Mae graddedigion y Brifysgol i’wgweld yn fynych ar y teledu ac ynperfformio ar lwyfannau ar hyd alled Cymru a thu hwnt. Mae niferohonynt hefyd yn gweithio yngyfarwyddwyr, cynhyrchwyr acyn ymchwilwyr, ac mewnmeysydd ehangach gan gynnwysbyd addysg, hamdden agwasanaethau cyhoeddus.
BA Perfformio
Gwybodaeth bellachAm fwy o wybodaeth, cysyllter â:
Mair George01267 [email protected]
Neu ewch i’r wefan www.ydds.ac.uk/cy/ysgoltheatrcerddarcyfryngau