15
‘Walking with Dinosaurs’ 03/04/05 Newyddion 06 Lôn Cariadon 07 Neuadd Rathbone 09 Parc Gwyddoniaeth Menai 10/11 Digwyddiadau 12/13 Rhoi i Fangor 14 Proffiliau Alumni HYDREF 2013 Cylchgrawn i Alumni a Chyfeillion Prifysgol Bangor Y cynhyrchydd Tim Haines a enillodd gwobr BAFTA yn dod â’r Celfyddydau a'r Gwyddorau ynghyd

Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

‘Walking withDinosaurs’

03/04/05Newyddion 06Lôn Cariadon

07 Neuadd Rathbone09Parc Gwyddoniaeth Menai

10/11 Digwyddiadau 12/13Rhoi i Fangor14 Proffiliau Alumni

HYD

REF

2013

Cylchgrawn i Alumni a Chyfeillion Prifysgol Bangor

Y cynhyrchydd Tim Haines a enillodd gwobr BAFTA yn

dod â’r Celfyddydau a'rGwyddorau ynghyd

Page 2: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

CroesoCyfarchion o Fangor!

Wrth i’r gwaith adeiladu ar Pontio, y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesinewydd ym Mangor, fynd yn ei flaen,a chyda dyfodiad Parc Gwyddoniaethnewydd yn yr ardal, mae PrifysgolBangor a’r ardal yn cychwyn argyfnod cyffrous. Yn rhifyn presennol y Bangoriad, rydym yn dod ânewyddion am y ddau broject hyn ichi, yn ogystal â’r diweddaraf gan yBrifysgol a’r Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni.

Rydym hefyd yn cyflwyno proffiliau rhai o'n halumni ac yn dathlu cyplaualumni yn ein herthygl Lôn Cariadon.Cysylltwch os oes gennych unrhywhanesion i'w rhannu. Rydym yngwerthfawrogi ein halumni ac wrth ein boddau yn clywed am eich amserym Mangor a chael gwybod beth ydych yn ei wneud erbyn hyn, felly cadwchmewn cysylltiad.

Dymuniadau gorau,

Bethan PerkinsGolygydd a Swyddog Datblygu Alumni

Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau AlumniPrifysgol BangorBangorGwyneddLL57 2DGDU

Ffôn: + 44 (0)1248 388332 / 382020Ffacs: +44 (0) 1248 383268e-bost: [email protected]/alumni

Prifysgol Bangor + 44 (0) 1248 351151

Ar ddechrau blwyddynacademaidd arall, rwyf wedi bodyn ystyried beth sy'n gwneudprofiad Prifysgol Bangor yn unarbennig i'n myfyrwyr. Gan foddros 12,000 ohonynt erbyn hyn,mae yna wrth gwrs lawer oamrywiadau unigol i rai o'rthemâu cyffredinol rwyf wedi eunodi yn ystod fy nhair blyneddyma. Mae'r rhain yn cynnwys:ansawdd ein haddysgu a'ndysgu; y cyfle a gaiff myfyrwyr iymwneud ag aelodau staffacademaidd sy'n ymchwilwyrblaenllaw yn eu meysydd; ygweithgareddau allgwricwlaiddsydd ar gael yn y Brifysgol ac yny gymuned ehangach; ac yn olaf,ond eto'n bwysig iawn, ein saflemewn ardal eithriadol hardd yngNgogledd Cymru.

Wrth i'n cymuned o fyfyrwyrhefyd - o fwriad - ddatblygu'n ungynyddol ryngwladol, rwy'nymwybodol hefyd sut maecymysgu â phobl o wahanolddiwylliannau'n paratoi myfyrwyrat fywyd y tu hwnt i BrifysgolBangor. Rydym yn addysgu einmyfyrwyr i fod yn ddinasyddionbyd-eang da, ac i addasu acymestyn eu gwybodaeth o'ucyfnod yn y brifysgol wrth iddyntddechrau ar yrfaoedd mewnamryfal feysydd. Yr hyn sy'n unoein grŵp amrywiol o dros 52,000o alumni - y bydd ein myfyrwyrpresennol yn ymuno â hwy ar ôl

iddynt raddio - yw'r amser ygwnaethant ei dreulio ymMangor, a'r ffordd mae hynnywedi dylanwadu ar lwybrau eubywydau'n ddiweddarach.

Rydym i gyd yn y Brifysgol yngwerthfawrogi'r gefnogaethariannol a gwirfoddoli y mae einalumni – o Brifysgol Bangor,Coleg Prifysgol Gogledd CymruBangor, y Coleg Normal a Cholegy Santes Fair – a chyfeillion yn eirhoi i sicrhau parhad llwyddiant yprofiad hwn. Yn y rhifyn hwn o'rBangoriad fe welwch y GofrestrRhoddwyr ddiweddaraf, sy'ncydnabod y gefnogaeth y maeunigolion a sefydliadau'n ei rhoi ifeysydd yn amrywio oysgoloriaethau a gweithgareddaumyfyrwyr i raglenni academaidda datblygiadau cyfalaf, yncynnwys Canolfan y Celfyddydauac Arloesi Pontio, a fydd yn agor yflwyddyn nesaf.

Diolch i chi am gadw eichcysylltiad â Bangor ac am eichdiddordeb cyson yn einllwyddiant. Rwy'n gobeithio ycewch gyfle i ymweld â Bangoreto yn fuan.

Yr Athro John G. HughesIs-Ganghellor

Gair gan yr Is-ganghellor

SWYDDFADATBLYGU ACHYSYLLTIADAUALUMNIRydym ni yma i’ch helpu igadw mewn cysylltiad â’chgilydd a’r Brifysgol.

Ewch i’n gwefan i weld manyliondigwyddiadau, gwasanaethau a’rbuddion sydd ar gael a gwybod mwy amein gweithgareddau codi arian. Gallwchhefyd weld beth mae cyn-fyfyrwyr eraillyn ei wneud heddiw, a gweld manylionam sut gallwch chi gymryd rhan:www.bangor.ac.uk/alumni

Dod o hyd i ffrindYdych chi wedi colli cysylltiad â ffrinddros y blynyddoedd? Gallwn ni eichhelpu! E-bostiwch fanylion eich henffrindiau at [email protected] abyddwn yn chwilio drwy ein cronfa data iweld a oes gennym fanylion cyfredol areu cyfer, a cheisio eich rhoi mewncysylltiad â’ch gilydd eto.

Cydnabyddiaethau: Hyd eithaf eingwybodaeth, roedd yr erthyglau syddwedi’u hargraffu yma yn gywir adeg myndi’r wasg. Nid yw’r safbwyntiau a fynegir yny cylchgrawn hwn o anghenraid yn eiddo iBrifysgol Bangor na’r Golygydd. Amganiatâd i atgynhyrchu unrhyw erthygl,cysylltwch â’r Golygydd.

Gwarchod Data: Cedwir data am alumni ynddiogel a chyfrinachol yng nghronfa ddataalumni’r Brifysgol yn y Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni i’r diben o hybucysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol a’ichyn-fyfyrwyr. Mae’r data ar gael iadrannau academaidd a gweinyddol yBrifysgol i’r diben o hyrwyddo cysylltiadauagosach â chyn-fyfyrwyr, yn ogystal âchymdeithasau cydnabyddedig y Brifysgol.Am fwy o fanylion ewch i:www.bangor.ac.uk/alumni

© Prifysgol Bangor 2013

Cadw mewn cysylltiad ar-leinBangor UniversityAlumniPrifysgol Bangor

BangorAlumni

Bangor UniversityALUMNI

Bangoriad Ar-leinHelpwch ni i leihau costau a niwed i’ramgylchedd drwy ddewis derbynBangoriad ar-lein yn unig. Os ydychyn fodlon derbyn rhifynnauBangoriad drwy e-bost yn y dyfodol,ewch i www.bangor.ac.uk/alumni/update i ddangos eich diddordeb.

Page 3: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

3NEWYDDION BANGORIAD

www.bangor.ac.uk/news

Mae Alumnus / Alumna yFlwyddyn yn cydnabod cyn-fyfyriwr sydd wedi caelllwyddiannau arbennig naill aiyn y sectorau cyhoeddus neubreifat yng Nghymru, rhannaueraill o Brydain neu'nrhyngwladol. Mae'n bleser ganBrifysgol Bangor gyhoeddi maiCatrin Brace yw enillyddgwobr gyntaf Alumnus /Alumna y Flwyddyn.

Fe wnaeth Catrin, sy'n wreiddiol o Ben-y-bont arOgwr, raddio yn y Gymraeg yn 1975. O'i gwaithcynnar ym maes tafodieithoedd, hanes llafar adweud storïau, ac fel ymchwilydd i AmgueddfaWerin Cymru, i'w swydd bresennol fel PennaethMarchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus yn yr UnolDaleithiau i Lywodraeth Cymru, mae ganddiargyhoeddiad cadarn fod Cymru'n bwysig yn y byd.Mae Catrin yn cynrychioli Cymru a LlywodraethCymru'n rheolaidd fel siaradwr gwadd mewnamrywiaeth o ddigwyddiadau a chiniawau, acmae'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo Cymru yn yrUnol Daleithiau yn y sectorau busnes, diwylliannolac academaidd. Mae wedi cefnogi llawer oddigwyddiadau'r Brifysgol ac wedi helpu i greu achryfhau cysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a'rUnol Daleithiau.

Llongyfarchiadau mawr i Catrin ar ennill y wobr. I ddarllen proffil llawn Catrin, ewch i:www.bangor.ac.uk/alumni/award/2013

Os hoffech enwebu alumnus am Wobr Alumnus y Flwyddyn 2014, ewch i'n gwefan am gyfarwyddiadau: www.bangor.ac.uk/alumni/award

PROJECT DEMENTIA A’RCELFYDDYDAU GWELEDOLMae Prifysgol Bangor wedi derbyn grant RhaglenCymunedau Cysylltiedig o £1.2 miliwn i arwainproject a fydd yn edrych ar sut gall y celfyddydaugweledol gyfrannu at iechyd a lles pobl gydadementia.

Mae gan y Ganolfan Datblygu GwasanaethauDementia ym Mhrifysgol Bangor arbenigeddmewn datblygu ac ymchwilio i effeithiolrwyddymyriadau seico-gymdeithasol ar bobl â dementiaa’u gofalwyr, ymyriadau sy'n gwella iechyd a llesmewn pobl hŷn, a chyflwyno hyfforddiant arbenigolmewn gofal dementia.

Drwy weithio mewn partneriaeth â grwpiaucymunedol, mae'r ymchwil yn gallu cynhyrchugwybodaeth a chreu adnoddau sydd o bwysuniongyrchol i'r grwpiau dan sylw, ond sydd hefydâ manteision cymdeithasol, diwylliannol aceconomaidd ehangach.

ALUMNUS / ALUMNA Y FLWYDDYN

CYNLLUN IAITHYm mis Mai, pwysleisiodd Prifysgol Bangor ei hymrwymiad i’r Gymraeg wrth i’r Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes, lansioei chynllun iaith diwygiedig.

Roedd y lansiad yn arwydd o ymrwymiad yBrifysgol i gynnal y safonau uchaf posib, i barchu'r iaith a'i defnyddio i'r eithaf ymmhob agwedd ar ein gwaith a'n cenhadaeth.

Yn ei chynlluniau niferus i ddarparugwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac igynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle,mae’r Brifysgol yn awyddus i ddiogelu ei saflefel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran yGymraeg ac i arwain yn y maes a chefnogi achynghori eraill i gyrraedd yr un safonau.

Page 4: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

4Llongyfarchiadau mawr i dîm University Challenge Prifysgol Bangor am gyrraedd y rownd gynderfynol o’r sioe gwis BBC yn ystod yr haf, yn curo timau fel Durham, St. Andrews, a Coleg King’s, Caergrawnt.

Aelodau’r tîm oedd: Nina Grant (Ffrangeg ac Ieithyddiaeth), Simon Tomlinson(Seicoleg), Mark Stevens (Gwyddoniaeth Amgylcheddol) ac Adam Pearce (Cyfieithu).

Meddai capten y tîm, Nina Grant: “Mae hyn wedi bod yn brofiad anhygoel, ’doedd yrun ohonom yn sylweddoli wrth ddechrau y byddem yn cyrraedd mor bell ond rwy’ncredu bod gan aelodau’r tîm ystod eang o wybodaeth.”

MYFYRWYR MENTERYN CAEL EUGWOBRWYO Mae Byddwch Fentrus (B-Enterprising) ymMhrifysgol Bangor, sy’n rhoi cefnogaeth igannoedd o fyfyrwyr bob blwyddyn iddatblygu eu sgiliau menter acentrepreneuriaeth, wedi rhoiYsgoloriaethau Entrepreneuriaeth newydd,gwerth cyfanswm o £5,000, i'w myfyrwyr.

Mae Catrin Hicks (de), a raddiodd yn ddiweddargyda gradd mewn Dylunio a Thechnoleg gydaStatws Athro Cymwysedig, wedi derbyn'Ysgoloriaeth Rhagoriaeth mewn Menter'Santander-Abbey gwerth £1,000 i ddatblygu eiphroject ar declyn i osod blew amrant ffug.

Enillwyr eraill oedd KalaivaniKrishnanmurthi, un o raddedigion YsgolBusnes Bangor, sydd wedi datblygu alansio dau ap i ffonau symudol, alumnaAstudiaethau Busnes a Ffrangeg Emma-Louise Jones am ennill y nifer uchaf obwyntiau XP am weithgareddau menter yngNgwobr Cyflogadwyedd Bangor agraddedigion Cyfrifiadureg Lee Williams aShane Parker sydd wedi datblygu busnes iddatblygu meddalwedd a chymwysiadausymudol pwrpasol a darparugwasanaethau i’r we.

Derbyniodd tîm o fyfyrwyr entrepreneuraiddysgoloriaeth hefyd am eu project 'Universityof Ales' sy’n mynd o nerth i nerth. Roedd ytîm yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynolPrydain o'r Young Enterprise Start UpProgramme, gan ennill gwobr am y CynnigBuddsoddiad Gorau/Adroddiad Cwmni.Cynhyrchodd y tîm gynllun busnes i weithiogyda bragdai lleol i ail-farchnata eu cwrwdan frand newydd wedi'i anelu at yfarchnad myfyrwyr.

O’r chwith i'r dde: Eric Hepburn,Tom James MBE a Terry Jones

Cymrodoriaethau erAnrhydedd 2013

UNIVERSITY CHALLENGE

Dyfarnwyd Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystodseremonïau graddio Prifysgol Bangor 2013 i’r canlynol:

Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y Sefydliad MaterionCymreig ers 1992 a Chadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru.Rheolwr BBC Cymru, 1990-2000

Dr Lyn Evans CBE, FRS, Cyn-bennaeth Project y PeiriantGwrthdaro Hadron Mawr yn CERN, y Swistir

Dr Peter Florence MBE,Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gŵyl y Gelli

Ann Griffiths, Telynores, hanesydd y delyn, athrawes achyfansoddwraig a aned yn ne Cymru

Eric Hepburn, Conswl Cyffredinol Prydain yn WashingtonDC a chyn-fyfyriwr Ysgol Busnes Bangor (1983)

Patrick Holdich, Conswl Cyffredinol Prydain ym Montrealers 2009 a chyn-fyfyriwr Bangor (Hanes, 1978)

Bryan Hope, Cyn brif beiriannydd Cynnal a Chadw yngNghyngor Gwynedd a Llywydd YmddiriedolaethDdiwydiannol Amlwch

Tom James MBE, Enillydd medalau aur am rwyfo ymMhencampwriaethau’r Byd ac yn y Gemau Olympaidd,magwyd yng Nghoedpoeth ger Wrecsam

Huw Jones, Cadeirydd S4C, Cyd-sylfaenydd Recordiau Saina Theledu'r Tir Glas

Yr Athro Paul Mealor, Athro Cyfansoddi ym MhrifysgolAberdeen, a aned yn Llanelwy

Yr Athro Mark Williams FBA, Athro Seicoleg Glinigol ynRhydychen ers 2004. Yn flaenorol yn Athro Seicoleg Glinigolym Mangor (1991-97) ac yn Ddirprwy Is-ganghellor (1997-2001) Prifysgol Bangor.

Hefyd yn derbyn Cymrodoriaethau a dyfarnwyd mewnblynyddoedd blaenorol oedd:

Terry Hands, Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru ers 1997

Terry Jones, awdur, actor a chyfarwyddwr ffilmiau sy’nfwyaf adnabyddus am ei ymddangosiadau a gwaithysgrifennu ar gyfer Monty Python’s Flying Circus (1969-75).Ganwyd Terry Jones ym Mae Colwyn a bu'n allweddol yn ygwaith o adfywio Theatr Colwyn.

Page 5: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

MEDAL I ALWYN R. OWENS

5

MEDALAU CWMNIDRAPERSDyfarnwyd y medalau gan Gwmni Drapers ifyfyrwyr eithriadol, yn seiliedig ar gyrhaeddiadacademaidd ac ymwneud â’r gymunedacademaidd o fewn y Brifysgol ac yn rhyngwladol,yn ogystal â chyfraniad diwylliannol achymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith ymchwil,cefnogaeth fugeiliol a mentora.

Eleni, derbyniodd Rosie Poynor, myfyrwraig PhDyn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd acYmarfer fedal arian am ei gwaith academaidd acam ei chyfraniad at addysg ei chyd fyfyrwyr.Dyfarnwyd medal efydd Gwmni Drapers i HelenGlanville, a enillodd ddoethuriaeth ym maesgwyddor amgylcheddol yn ddiweddar.

PROJECTCYFLOGADWYEDDRHYNGWLADOLBwriad project newydd ar y cyd gydaPhrifysgol Aberystwyth, a gyllidir gan yrAcademi Addysg Uwch, yw gwella rhagolygoncyflogaeth byd-eang ein myfyrwyr. Mae'rProject Cyflogadwyedd Rhyngwladol yn ceisiocynorthwyo myfyrwyr a graddedigion i gaelmynediad at gyfleoedd cyflogaeth rhyngwladoldrwy ein alumni gan nodi lleoliadau gwaith acinterniaethau dramor, hysbysebu swyddi gwagrhyngwladol, a thrwy ddatblygu cyswllt gydachyflogwyr rhyngwladol (yn cynnwys rhai ymMhrydain â ffocws rhyngwladol) sy'n fodlonmentora ein myfyrwyr drwy e-bost, ffôn neuwyneb yn wyneb. Os gallwch chi gyfrannuunrhyw leoliadau neu fentor i fyfyriwr ymMhrifysgol Bangor, cysylltwch â ni yn:[email protected]

GO WALES YN DATHLUMae rhaglen GOWales yn dathlu eiphen blwydd yn 10oed eleni. Mae GOWales yn rhaglendrwy Gymru gyfan

ac mae ganddi swyddfa ym mhob sefydliadaddysg uwch yng Nghymru. Mae swyddfaBangor wedi ei lleoli yn y GwasanaethGyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Yn ystod y dengmlynedd diwethaf,mae swyddfaBangor wedihwyluso 530 oleoliadau wedi eunoddi gydachwmnïau bach lleol a 33 o leoliadau wedi eunoddi yn y sector cyhoeddus. Rydym weditrefnu mwy na 400 gyfleoedd blasu gwaith ynyr ardal ac, ers 2009, wedi cymeradwyo 170 ogeisiadau am gyllid hyfforddiant.

Darllenwch rai o'r llwyddiannau ar-lein:www.gowales.co.uk/en/Employer/News

I gael gwybod mwy am sut mae GO Wales yncefnogi graddedigion a chyflogwyr yngNghymru, ewch i: www.gowales.co.uk neucysylltwch â'r tîm ym Mhrifysgol Bangor ar01248 383 586 / [email protected]

HYRWYDDO EIN HANESA’N HETIFEDDIAETHYn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, byddnifer o ystafelloedd ym Mhrif Adeilad y Brifysgolyn cael eu hail-enwi ar ôl unigolion amlwg sy’ngysylltiedig â hanes y Brifysgol.

Bydd Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau yn cael eienwi’n Ddarlithfa Eric Sunderland, er cof am ycyn Is-ganghellor, a fydd y pump darlithfa’ncael eu henwi ar ôl J. F. Danby, BrendaChamberlain, R. T. Jenkins, Syr Ifor Williams acA. H. Dodd. Bydd ystafelloedd hefyd yn cael euhenwi ar ôl R. Williams Parry a Kate Roberts,gydag ystafelloedd cynhadledd y Teras yn newidi Ystafelloedd Cledwyn.

Peiriannydd enwog a chyn bennaeth yr AdranElectroneg ym Mhrifysgol Bangor, Alwyn R.Owens, oedd enillydd Medal Gwyddoniaeth aThechnoleg Eisteddfod Genedlaethol SirDdinbych a'r Cyffiniau eleni. Graddiodd Alwyn(uchod) o Fangor yn 1952 gyda gradd anrhydedddosbarth cyntaf mewn Peirianneg Electronig cynastudio Mathemateg fel myfyriwr ôl-raddedig awedyn symud i Brifysgol Manceinion i wneudgradd uwch. Bu gyda'r Sefydliad Ymchwil YnniAtomig (AERE) yn Harwell am 5 mlynedd cyndychwelyd i Fangor yn 1960 lle bu'n dysgu taniddo ymddeol yn 1998. Llongyfarchiadau Alwyn!

PRIFYSGOL WYRDDAF CYMRU Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod ynddeunawfed drwy’r byd am ei hymroddiad i'r'agenda gwyrdd', yn ôl tabl cynghrair byd-eang.Mae'r tabl, a luniwyd gan Universitas Indonesia(UI), yn cymharu ymdrechion prifysgolion ym maes cynaliadwyedd a rheolaeth mewn ffordd sy'ngwarchod yr amgylchedd o dan gategorïau felrheoli gwastraff, defnyddio dŵr a chludiant.

GWEDDNEWID MAES GLASFel Cam 1 project adnewyddu mawr yngnghanolfan chwaraeon Maes Glas PrifysgolBangor, mae Dôm Awyr wedi cael ei godi i roi mwyo le i gystadlaethau pêl rwyd a thenis myfyrwyr,ynghyd â lliaws o weithgareddau eraill. Codwyd ydôm dros ddau gwrt tenis awyr agored sy'n golyguy gellir chwarae tenis drwy'r flwyddyn, yn ogystal âdarparu dau o gyrtiau pêl rwyd ychwanegol ibedwar tîm pêl rwyd Prifysgol Bangor.

Bydd Cam 2 y project adnewyddu'n awr yn cynnwysad-drefnu’r tu mewn i ganolfan chwaraeon MaesGlas, yn cynnwys creu campfa dau lawr, stiwdionewydd i ddosbarthiadau ymarfer ac adnewyddu'rystafelloedd newid yn llwyr.

Peidiwch ag anghofio bod alumni Bangor yn caelgostyngiad o hyd at 30% oddi ar gostau aelodaeth,dosbarthiadau a llogi cyrtiau ym Maes Glas -gofynnwch yn y dderbynfa am fanylion pellach.

CYMRODYRCYMDEITHASDDYSGEDIG CYMRULlongyfarchiadau i bedwar aelod o staffPrifysgol Bangor sydd wedi eu hethol ynGymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yr unigolion yw: Yr Athro Dyfrig HughesFLSW, Athro Ffarmacoeconomeg, y Ganolfan Economeg Iechyd a GwerthusoMeddyginiaethau; Yr Athro John HughesFBCS FLSW, Is-ganghellor; Yr Athro JerryHunter FLSW, Athro’r Gymraeg aChyfarwyddwr Ymchwil (Diwylliant), Pontio,a’r Athro Thomas Watkin FLSW, AthroAnrhydeddus y Gyfraith.

Rosie Poynor (de) a Meistr y Brethynwyr y fonesigVictoria Diana Leatham, DL

Page 6: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

6

A wnaethoch chi erioed gamu i lawr LônCariadon gyda'ch cymar oes pan oeddechchi'n fyfyrwyr yn y Brifysgol? Mae llawero gyn-fyfyrwyr Bangor yn briod â chyn-fyfyrwyr eraill y gwnaethant gyfarfod ânhw yn ystod eu cyfnod yma yn ybrifysgol. A dweud y gwir, cyfarfu BethanPerkins, (née Taylor, Ieithyddiaeth, 2002),ein Swyddog Datblygu Alumni, ei gŵrDave pan oeddynt yn fyfyrwyr yn byw ynNeuadd Reichel!

Isod ceir detholiad o straeon serch Bangor ac maemwy i’w gweld ar-lein ar:www.bangor.ac.uk/alumni/loncariadon

“Dyweddïon ni ynNhachwedd 1968.Gadawodd PhilFangor wedi dwyflynedd, ond ddeunawmis wedyn cafoddswydd gyda'rSwyddfa Gartref ymMae Colwyn yn gofaluam delegyfathrebu'rheddlu a'rgwasanaeth tân. Yna,ychydig ddegawdau

wedyn, gan adeiladu ar yr wybodaeth a gafoddwrth astudio pynciau cyfrifiadurol ym Mangor, aethi weithio ym maes caledwedd cyfrifiadurol hyd nesiddo ymddeol. Graddiais yn 1971, pan briodasom,yna gwnes gwrs TAR ym Mangor, a bûm yn dysguSaesneg ac Addysg Grefyddol hyd nes imiymddeol. Rydym yn byw ym Macclesfield, sef y dreflle cefais fy magu.

Mae gennym ddau o blant, Michael (35) a aeth i'rawyrlu cyn gwneud gradd ddysgu dylunio athechnoleg yn Sheffield Hallam, a Liz (30).Graddiodd hi mewn Astudiaethau Teulu ynLancaster, ac mae newydd orffen M.A. mewnGwaith Cymdeithasol yn Salford. Rydym yn byw ymMacclesfield, ac yn mwynhau breintiau nain a thaiddrwy ofalu am ein hŵyr, Albert, bob wythnos.

Roedd Bangor yn lle gwych i astudio ynddo, ac iddechrau canlyn. Rydym yn mynd yn ôl yn aml, ac wedi mwynhau'n fawr iawn y digwyddiadau ialumni rydym wedi mynd iddynt.”

Delia Archer (née Spilsted), Saesneg acAstudiaethau Beiblaidd, 1971

“Fe wnes i gyfarfodfy ngŵr Mahfuz ar ôli ffrind ein cyflwynoni yn 2007. Daethomyn ffrindiau da iawna threulio llawer oamser gyda'n gilydd.Gan ein bod ogefndiroedddiwylliannolgwahanol nidoeddwn eisiaucydnabod i ddechrauein bod wedi'nbwriadu ar gyfer ein

gilydd. Rwyf yn hanu o Lwcsembwrg, ac mae ef oFangladesh. Ac er bod ein dwy fagwraeth yn burwahanol, roeddem yn meddwl yn debyg amfaterion pwysig bywyd.

Cawsom fywyd gwych ym Mangor nes i Mahfuzorffen ei radd a mynd adref i Fangladesh amflwyddyn. Roedd yn amser anodd iawn oherwyddmai dim ond dros y ffôn y gallem siarad ac ynaml nid oedd y cysylltiad yn un da.

Ar ôl blwyddyn, dychwelodd i Fangor ac yna yn2010 gwnaethom symud i Lwcsembwrg aphriodi yno ar 3 Rhagfyr. Ym mis Mai 2011,euthum i Fangladesh am y tro cyntaf i gwrdd â'irieni. Cawsom ddathliad gyda'i deulu a'i ffrindiauac roeddwn yn teimlo fel tywysoges o un ostraeon Y Fil Noswaith ac Un. Y mis Awsthwnnw, cawsom briodas Fwslimaidd a Chatholigyn Lwcsembwrg a dathlu gyda'm teulu i a'nffrindiau ni’n dau. Roeddem yn lwcus iawn bodrhai o'n ffrindiau gorau o Fangor yn gallu bodyna i ddathlu gyda ni.”

Lyane Schmitz, Saesneg, 2007

“Cyfarfûm â'm gŵrAlex pan oeddem ni'ndau yn astudio ymMangor. Roedd ynastudio GwyddorauBiofeddygol acroeddwn innau'nastudio Seicoleg, ondfe wnaethom gwrddwrth berfformioSouth Pacific gydaSODA (cymdeithasdrama gerdd ymyfyrwyr). Cymeroddflwyddyn i ni ddod atein gilydd, ond yn y pendraw gofynnodd i mi fyndallan ag ef ar Ddydd Gŵyl Dewi 2005.Gwnaethom briodi ym mis Medi 2012 yn EglwysGadeiriol Lancaster ac roedd nifer o'n henffrindiau o SODA yno.”

Hannah Morris (née Kearney) Seicoleg, 2005

“Dechreuais yn yradran Fiocemeg yn1975. Roedd HeatherQuayle yn y flwyddynoddi tanaf, ond niwnaethom gyfarfodtan 1979 pan oeddwnyn gwneud gwaithdoethuriaeth acroedd hi yn eithrydedd flwyddyn.Cawsom ein cyflwyno gan ffrind, Anuka (syddbellach wedi marw gwaetha’r modd).

Gwnaethom briodi yn 1988 - y gwas priodas oeddDave (Jim) Roberts, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwrBiocemeg, a chefais i'r anrhydedd o ad-dalu'rgymwynas yn ei briodas yntau. Symudodd Heathera minnau yn gyntaf i Leeds ac yna i Kendal. Ganedein merch Katie yn 1990, ac mae'n astudiomeddygaeth yn Sheffield, a ganwyd Chris ddwyflynedd yn ddiweddarach. Mae Chris yn awr ynastudio Bioleg ym Mangor. Daeth Holly (ychydig ynannisgwyl!) 7 mlynedd yn ddiweddarach.

Roeddwn yn caru Bangor, ac er fy mod yn bywmewn rhan brydferth o'r byd yn awr, rwy'n dal ifethu'r cymysgedd yna o'r mynyddoedd, y môr aChymreictod. Byddaf yn dychwelyd yn aml (maegen i esgus da yn awr bod Chris yno!)”

Allan Miller, Biocemeg, 1978

“Wrth gofrestruym mis Medi 1956roedd ffrind i mi,Sophia Mortimer,wrth y bwrddGilbert a Sullivangyda myfyriwr ôl-raddedig,Peter Arnott, panoeddwn i wrthfwrdd yGymdeithasGatholig.GwahoddoddSophia fi i ymunoâ rhai o'r criw G&S am egwyl yn yr Undeb. Roeddcopi o 'Punch' yn mynd o gwmpas y bwrdd ac fewnaeth Peter a minnau ei rannu. Rwy'n darllen yngynt na'r rhan fwyaf o bobl ond pan wnes i edrych ifyny i weld am ba mor hir y byddai'n rhaid i mi eiddisgwyl, gwelais ei fod wedi gorffen yn barod.Meddyliodd y ddau ohonom "O'r diwedd! Rhywunna fydd angen i mi aros amdano" ac roeddem wedidyweddïo ymhen tair wythnos.

Gwnaethom briodi yn 1958 ar ôl i ni'n dau raddioac yna mudo i'r Unol Daleithiau ble buom ynhapus gyda'n gilydd nes y bu farw yn 1990.”

Eva Arnott (née Schenkel), Saesneg / Athroniaeth, 1958

Cariadon

Page 7: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

7

Mae aelod o staff Prifysgol Bangor syddhefyd yn gyn-fyfyriwr, Keith Beasley (1979,Peirianneg Electronig), yn olrhain hanes uno brif adeiladau’r Brifysgol, o neuaddbreswyl i ferched yn unig i fod yn ganolbwyntGwasanaethau Myfyrwyr.

“Cerddwch ar hyd Ffordd y Coleg hyd at Brif Adeilad yBrifysgol, a byddwch yn mynd heibio adeilad trawiadol ofrics coch. I fyfyrwyr presennol, yn enwedig y rhai o bedwarban byd sy’n gwella eu gwybodaeth o’r Saesneg, NeuaddRathbone yw ei enw, cartref ELCOS: y Ganolfan IaithSaesneg ar gyfer MyfyrwyrTramor. Mae hefyd ar hyn obryd yn gartref i CAR (yGanolfan Addysg Ryngwladol)a’r Ganolfan GwasanaethauMyfyrwyr. Fodd bynnag,preswylwyr diweddar yw’rrhain i gyd, yn un o’radeiladau hanesyddol hynafsy’n rhan o bortffolio Ystadauhelaeth Prifysgol Bangor.

Ym 1902, yn ystod ymweliadgan Eu HuchelderauBrenhinol Tywysog aThywysoges Cymru âBangor a Chaernarfon, ar achlysur Sefydlu Ei Uchelder Brenhinol yn GanghellorPrifysgol Cymru, cyflwynwyd tusw o flodau iddo ynNeuadd y Brifysgol.

Trwy gydol yr amser y defnyddiwyd y Neuadd fel preswylfa,o leiaf tan y 1990au, câi myfyrwyr brydau bwyd wedi’ucoginio, yn wahanol iawn i brydau bwyd parod a chynigionarbennig o Morrisons yr oes sydd ohoni!

O ganol y 1970au tan y 1990au cynnar, cyn troi’n‘Rathbone’, adwaenid Neuadd y Brifysgol fel Neuadd JohnMorris-Jones - neu ‘JMJ’, h.y. neuadd breswyl y myfyrwyroedd yn siarad Cymraeg. Mae’r rhod wedi troi, o’r adeg nasiaredid gair o Saesneg o fewn y waliau hynny i’r oesbresennol, a’r Saesneg yn cael ei dysgu yma!”

Mae mwy o luniau cynnar o Neuadd y Brifysgol i’w gweldar dudalen Facebook ELCOS:www.facebook.com/BangorEnglishLanguageLearners

Diolch i Archifau’r Brifysgol (www.bangor.ac.uk/archives)am luniau a deunydd cefndirol.

Hanes Neuadd Y BRIFYSGOL

Ym 1897, agoroddNeuadd y Brifysgolfel Hostel iFenywod ar gyfer48 o fyfyrwyr, a’rffioedd preswyl argyfer ystafellastudio breifatwedi’u pennu’n£61 y sesiwn, yncynnwys defnyddcyrtiau tennis yNeuadd.

Page 8: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

8

I nodi'r digwyddiad hwn, bydd yr ysgolyn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn2013/14, ac mae wedi sefydlu gwefansy'n gyforiog o wybodaeth amddatblygiad yr ysgol dros yr hannercan mlynedd diwethaf.

I ddechrau'r dathliadau, cynhaliodd yr ysgolCeilidh pen-blwydd ar 4 Gorffennaf i gyd-fynd âchinio cynhadledd y Gymdeithas Seicoleg Arbrofol(Experimental Psychology Society) y cafodd yrysgol yr anrhydedd o'i chynnal eleni. Yn bresennolyn y Ceilidh roedd aelodau staff presennol a chyn-aelodau, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r myfyrwyrpresennol, ac alumni. Mae’r Ysgol hefyd wedinodi'r pen-blwydd gydag Ysgol Haf ar botensialau digwyddiad-berthynol (ERP),ac ysgoloriaethau PhD.

Mae’r Ysgol wedi tyfu o fod yn adran gyda dim ond43 myfyriwr a llond llaw o staff yn 1963, i fod yn uno'r adrannau Seicoleg mwyaf o’r 130+ o adrannau

yn y DU, gyda dros 1,300 myfyriwr a 50 aelod ostaff. Ar hyd y daith, mae'r Ysgol wedi profi nifer ouchafbwyntiau, yn cynnwys ymweliad gan BFSkinner yn 1969 (gweler y llun), datblygiad yGanolfan Dyslecsia Miles enwog a'r grŵp ymchwilFood Dudes, sefydlu'r cwrs DClinPsy cyntaf i'wddysgu yn y DU, y cwrs ABA cyntaf i gael eiachredu gan y BACB yn Ewrop, a dyfodiad sganiwrfMRI at ddibenion ymchwil. Ar hyn o bryd gall yrYsgol hawlio ei bod nid yn unig ymysg yr adrannauSeicoleg hynaf a mwyaf yn y DU, ond ymysg ygoreuon hefyd. Rhestrir hi yn uchel yn nhabl TheTimes, yn cynnwys cael ei gosod yn ail am 'BrofiadMyfyrwyr'. Mae wedi'i rhestru ymysg y 5 uchaf am'Fodlonrwydd Myfyrwyr' yn yr Arolwg CenedlaetholMyfyrwyr dros y tair blynedd ddiwethaf, ac ynseithfed yn y DU am bŵer ymchwil yn seiliedig aryr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf. Ar hyn obryd, gellir rhannu prif gryfderau'r ysgol yn ôl ypedair prif thema ganlynol: Canfyddiad,gweithredu a chof; Iaith, dwyieithrwydd adatblygiad gwybyddol; Niwrowyddoniaeth

gymdeithasol, a seicoleg ymddygiad, iechyd, achlinigol. Meddai'r Athro Charles Leek, pennaethpresennol yr Ysgol, "Nid wyf yn credu mai dim ondy ffaith fod yr Ysgol yn fawr, yn hen, ac yn uchel eipharch sy'n ei gwneud hi'n lle mor unigryw. Bethsy'n arwyddocaol go iawn i staff a myfyrwyr fel ei

gilydd yw'r awyrgylch cyfeillgar sy'nmynd law yn llaw â'n rhagoriaeth ymmeysydd dysgu ac ymchwil."

Dros y flwyddyn academaidd nesaf,wrth i'r hanner canfed garfan ofyfyrwyr Seicoleg israddedig

ddechrau ar eu taith academaidd, mae'r Ysgol yncynllunio nifer o ddigwyddiadau eraill i nodi'rachlysur, yn cynnwys cyfres fer o ddarlithoeddcyhoeddus gan aelodau staff presennol a chyn-aelodau, a chyhoeddir y rhain ar wefan yr Ysgol.Mae'r Ysgol yn annog unrhyw gyn-aelodau staffneu gyn-fyfyrwyr i edrych ar ein gwefan i ddathlu'rhanner cant: www.bangor.ac.uk/psychology, neui ddilyn y ffrwd Twitter:@PsychBangor

Eleni mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn dathlu'iphen-blwydd yn 50, sy'n golygu'i bod yn un o'r ysgolionhynaf yn y DU.

YN DATHLU'I

50phen-blwydd yn

Yr Ysgol Seicoleg

Yr Athro C. Fergus Lowe (chwith) a BF Skinner

Page 9: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

Mae technoleg chwyldroadol gadarnar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntafgan Brifysgol Bangor, yn arwain o rancyflawni’r galw am gynyddu cyflymdera gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol.

Mae’r Athro Jianming Tang o Ysgol PeiriannegElectronig Prifysgol Bangor yn wyddonyddblaenllaw ym maes y dechnoleg newydd, sydd yndefnyddio’r ceblau rhyngrwyd optegol presennol, i gynyddu trawsyriant band eang hyd at ddwy fil oweithiau yn fwy na’r cyflymder a’r gallu presennol.Er enghraifft, byddai hynny’n golygu gallu lawrlwytho 20 ffilm hir mewn un eiliad.

Ffyrdd eraill o ddefnyddio’r gallu hwn yw 3D-TV,gwefannau cymdeithasol a rhannu fideos.

Mae Prifysgol Bangor yn arwain y project tairblynedd oherwydd y wybodaeth dechnegol unigrywsydd yn y Brifysgol. Mae partneriaid sy’n gweithiogyda Phrifysgol Bangor yn y consortiwm yncynnwys y cwmnïau technoleg a sefydliadauymchwil mwyaf blaenllaw drwy’r byd fel FujitsuSemiconductors Ewrop.

Mae’r project yn werth dros dair miliwnEwro ac yn cael ei ariannu ganyr Undeb Ewropeaidd.

Bangor yn arwainy gwasanaethband eang

Yn ddiweddar, rhoddodd Cyngor yBrifysgol sêl ei fendith ar fenter newyddo bwys, sef datblygu Parc Gwyddoniaethdan arweiniad y Brifysgol.

Bydd safle Parc Gwyddoniaeth Menai yn fodd iymchwil academaidd flaengar gysylltu âdatblygiadau masnachol er budd y gymuned leola’r genedl gyfan. Mae Gogledd-Orllewin Cymrumewn lle da i gael budd o gyfuniad o ffactorau – ybuddsoddiad mawr a ragwelir mewn projectauynni carbon isel yn Ynys Môn, yn ogystal â dynodiMôn yn Barth Menter ac, wrth reswm, Prifysgolgerllaw a’r sefydliadau partner.

Ar y cychwyn, bydd Parc Gwyddoniaeth Menaiyn canolbwyntio ar feysydd academaiddtechnoleg lân ac ynni a systemau glân, ondbydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i sawl Ysgol o fewny Brifysgol i gydweithio mewn sectorauallweddol eraill. Y nod yw cyfuno’r bydacademaidd, ymchwil, a chwmnïau yn y sectorpreifat ar y safle hwn, gan greu swyddi uchel eugwerth ar gyfer pobl ifanc yng NgogleddCymru, rhanbarth y gwyddys ei fod ymysg ygwaethaf o ran diweithdra ymysg pobl ifanc.

Bydd y Parc Gwyddoniaeth yn darparu dullagored o arloesi, lle gellir profi a heriosyniadau, a bydd yn roi cyfleoedd sylweddol argyfer rhwydweithio gan raddedigion ac alumni.

Y Parc Gwyddoniaeth fydd yr ychwanegiaddiweddaraf at y diwydiant eco-gyfeillgar syddeisoes yn bodoli yng Ngogledd Cymru, gangynorthwyo i wneud y rhanbarth ynganolbwynt ar gyfer gwyddor ynni yn Ewropsy’n gydnaws â’r amgylchedd. Yn ddiweddar,mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobrau amfod y Brifysgol fwyaf eco-gyfeillgar yngNghymru ac yn un o’r prifysgolion mwyafymwybodol o’r amgylchedd yn y DU, ac mae’rParc Gwyddoniaeth, unwaith eto, yn amlyguymrwymiad y Brifysgol i ymchwil i wyddor yramgylchedd.

Mae cyn-Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan WynJones, wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr ar yParc Gwyddoniaeth; mae’r datblygiad i ddechrauyn 2014. Mae’r project yn cael £10m o gyllidcyfalaf gan Lywodraeth Cymru a £250k o gyllidrefeniw yn y flwyddyn gyntaf, a disgwylir mwy ogyllid refeniw am y 3 blynedd ddilynol.

Wrth siarad am Barc Gwyddoniaeth Menai,meddai Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr AthroJohn G. Hughes:

“Mae hwn yn gyfle heb ei ail, ac mae’n blesergan y Brifysgol chwarae rhan lawn a gweithgar.Mae adfywio economaidd yn hollbwysig i’r rhanhon o Gymru, a bydd y Brifysgol yn ymdrechu i’reithaf i wneud y fenter hon yn llwyddiant mawr.”

PARC

9

Gwyddoniaeth Menai

Page 10: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

DIGWYDDIADAUwww.bangor.ac.uk/alumni

EISTEDDFODGENEDLAETHOL 2013Yn Awst 2013, daeth mwy na 150 o gyn-fyfyrwyr astaff i’n haduniad alumni yn EisteddfodGenedlaethol Cymru, digwyddiad blynyddol agynhelir ar stondin Prifysgol Bangor ar brynhawnMercher yr ŵyl. Yn Llanelli y cynhelir yr EisteddfodGenedlaethol yn 2014.

SEFYDLIAD GWYDDOR Y MÔR, VIRGINIAI ddathlu’r cysylltiadau hirsefydlog rhwngYsgol Gwyddorau‘r Eigion Prifysgol Bangor aSefydliad Gwyddor y Môr, Virginia (VIMS) yngNgholeg William a Mary, Williamsburg,Virginia, cynhaliwyd diwrnod alumni ym Medi.Ymunodd alumni â’r Is-Ganghellor, yr AthroJohn G. Hughes, am y diwrnod, a oedd yncynnwys taith faes i’r bar-ynysoedd, morfeyddheli a morlynnoedd dilychwin ar hyd arfordirallanol Virginia, taith o gwmpas cyfleusterauVIMS a phryd o fwyd môr. Diolch i’nCydweithwyr yn VIMS am eu croeso cynnes.

CARREG SYLFAENPONTIOYn Ionawr, cynhaliwyd seremoni gerddorol wrth igarreg sylfaen Pontio, y Ganolfan Celfyddydau acArloesi newydd sydd i’w hagor ym Mangor yn2014, gael ei dadorchuddio gan y cyn-WeinidogAddysg (ac alumnus o Fangor) Leighton AndrewsAC, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a’r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes.

Diolch i’r alumni sydd wedi dod i gwrdd agaelodau o’r tîm Datblygu a ChysylltiadauAlumni eleni yn ystod ymweliadau âdinasoedd megis Dulyn, Newcastle-upon-Tyne a Boston, Massachusetts, UDA.Byddwn yn eich hysbysu pryd y byddwn ynymweld â’ch ardal chi, gan obeithio cwrddâ chynifer o alumni ag sydd modd yn ystodein teithiau.

Rydym yn awyddus i glywed gennych am ymathau o aduniadau a digwyddiadau sydd oddiddordeb ichi. Llenwch yr holiadur syddwedi’i amgáu gyda’r rhifyn hwn o’r Bangoriad,

er mwyn i ni gael gwybod am y mathau o ddigwyddiadau yr hoffech fynd iddynt, fel y gallwn gynllunio ein gweithgareddau i’ch plesio chi.

Os hoffech drefnu eich aduniad eich hun, gall ySwyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni eichhelpu. Gallwn drefnu ymweliadau â’ch henadrannau a chynnig cyngor ar lety, yn ogystal âcheisio cael hyd i unrhyw ffrindiau yr ydychwedi colli cysylltiad â hwy a’u gwahoddhwythau i’ch aduniad. Am fwy o wybodaeth,cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog DatblyguAlumni, ar: [email protected]

DIWRNOD TREFTADAETHDDIWYLLIANNOL ALUMNIDychwelodd 35 o alumni a’u gwesteion iFangor ym mis Awst am ddiwrnod, i arddangos materion diwylliannol achasgliadau Prifysgol Bangor. Dysgodd yralumni gan sawl un o Ysgolion y Brifysgolam yr ymchwil ddiweddaraf, buont ynmwynhau cyflwyniadau ar hanes acArchifau’r Brifysgol a buont yn gwrando arddarlleniadau o farddoniaeth gan yr AthroGwyn Thomas.

APÊL 2014 PONTIOYr haf hwn, lansiwyd Apêl 2014 Pontio gydachyngerdd arbennig a gynhaliwyd yn y Brifysgol,gyda’r canwr opera a chyngerdd adnabyddus oGymru, Rhys Meirion, a Huw Ynyr, a raddiodd ynddiweddar o Fangor ac a enillodd Ysgoloriaethfawreddog Bryn Terfel yn 2012. Am fanylion ApêlPontio 2014, ewch i dudalen 12.

10

GRŴP 2020 BANGORParhau i dyfu y mae Grŵp 2020 Bangor , argyfer alumni blaenllaw a chyfeillion i’rBrifysgol sydd wedi’u lleoli yn Llundain, acmae croeso i gyn-fyfyrwyr ymuno â’r grŵp ermwyn rhwydweithio ag alumni eraill achlywed am y datblygiadau diweddaraf ymMangor. Am fwy o wybodaeth am Grŵp 2020Bangor, cysylltwch â Bethan Perkins ar:[email protected] neu 01248 388332.

Page 11: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

GŵYL CYMRUGOGLEDDAMERICARoedd yn bleser gan Brifysgol Bangor fod ynrhan o ŵyl Cymru Gogledd America agynhaliwyd yn Toronto, Canada, yn Awst,pryd cyfarfodd Bethan Perkins, SwyddogDatblygu Alumni, â sawl alumnus o Fangora rhai a oedd â chysylltiadau â GogleddCymru. Trefnwyd yr ŵyl gan Dr. MeganWilliams – sydd ei hun yn aluma o Fangor –ac mae’n anelu at hyrwyddo popethCymreig; roedd yn rhaglen yn cynnwyssesiynau dan arweiniad Yr Athro JerryHunter o Ysgol y Gymraeg ym Mangor.

CLWB MYNYDDAPRIFYSGOL BANGOR,1957-1962Y llynedd, cyfarfu cyn-aelodau Clwb Mynydda’rBrifysgol i ddathlu 50 mlwyddiant y clwb.

RHWYDWEITHIOGYRFAOEDD ALUMNIMae’r gallu i ddefnyddio arbenigedd a gwybodaethein cyn-fyfywryr yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyrpresennol Bangor cyn iddynt raddio a chychwyn areu gyrfaoedd, ac mae’r Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni yn gweithio mewn cysylltiadagos â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedder mwyn trefnu cyflwyniadau a gweithdai danarweiniad alumni. Diolch i bawb ohonoch syddeisoes wedi’n helpu â digwyddiadau. Bwriedircynnal digwyddiadau pwnc-benodol a sesiynaumedrau cyffredinol, felly os hoffech wirfoddoli igymryd rhan a rhannu eich profiadau â myfywryrBangor, cysylltwch â: [email protected]

ADUNIAD CHWARAEON Y1960au A’R 1970au

Ym mis Medi 2012, cynhaliwyd aduniad ym Mangori gyn-fyfyrwyr oedd yn aelodau o dimau chwaraeonyn ystod y 60au a’r 70au. Daeth mwy na 100 o gyn-fyfyrwyr i wrando ar ddarlith a draddodwydgan Dr David Roberts, Cofrestrydd PrifysgolBangor, ac i ddigwyddiad a gynhaliwyd fin nos ymMar Uno ar Safle Ffriddoedd. Mae lluniau o’rdigwyddiad i’w gweld ar ein gwefan:www.bangor.ac.uk/alumni/sportsgallery

Gobeithir trefnu aduniad arall ar gyfer y grŵp yn2014/15. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod ynbresennol, cysylltwch â Foster Edwards ar:[email protected]

HONG KONGCynhaliwyd derbyniad gyda’r Athro John G. Hughes yn Hong Kong ym mis Hydref 2012, ar gyferalumni o Fangor a chysylltiadau eraill. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynd iddigwyddiadau anffurfiol ar gyfer alumni yn y rhanbarth, cysylltwch â: [email protected]

CYMDEITHAS CYN-FYFYRWYR BANGORFfurfiwyd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Bangor yn ôl yn 1898 ac mae croeso i holl gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Coleg Normal a Choleg Santes Fairymuno â’r gymdeithas hon.

Cynhelir y cyfarfod blynyddol a chinio ym mis Medi / Hydref bob blwyddyn, gyda chinio anffurfiolym mis Chwefror a byddai’r grŵp yn falch iawn ogroesawu aelodau newydd.

Os hoffech ymuno â’r gymdeithas cyn-fyfyrwyr,neu gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag EllaOwens: [email protected] neu ffoniwch:01248 712573.

Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadurAduniad Alumni AthenTachwedd 2013. Hotel Grande Bretagne Cysylltwch ag: [email protected]

Aduniad Alumni Köln28 Tachwedd 2013. Brauhauskeller, CölnerHofbräu P. Josef FrühCysylltwch ag: [email protected]

Penwythnos Hen Fechgyn 2014Ymunwch â ni i ddathlu 50 mlwyddiantPenwythnos Hen Fechgyn, 3-5 Mai 2014

Aduniad Nawdd NosChwefror 2014 Mae cynlluniau ar droed i gynnal aduniad o’r rhai fu’n ymwneud â Nawdd Nos, y gwasanaeth gwrando a gwybodaethgyfrinachol a gynhelir gan fyfyrwyr ar gyfermyfyrwyr, yn ystod eu hamser hwy ymMangor. Dyddiad i’w gadarnhau. Am fwy owybodaeth, cysylltwch â:[email protected]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli6 Awst 2014, Stondin Prifysgol Bangor

Coleg Normal 1954-56Cynhelir aduniad yn Hydref 2014 i ddathlu 60mlwyddiant (fwy neu lai) y rheiny a oedd ynfyfyrwyr yn y Coleg Normal ym 1954-56. Am fwyo wybodaeth, cysylltwch ag Ella Owens ar:[email protected] neu: 01248 712573

CANGEN WGANDASefydlwyd cangen Wganda o alumni Bangoryn 2013 er mwyn cynnal gweithgareddaualumni a recriwtio myfyrwyr yn y rhanbarth.Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’rgrŵp, cysylltwch â’r Athro Joseph Obua,Cydlynydd Cangen Wganda o Alumni PrifysgolBangor yn: [email protected]

Cefn: Ben Lyon, Annis Milner, Rosemary Tunstall,Doug Daniels.Blaen: Mike Petrovsky, Ron Ferguson, Alan Orme,Dewi Hudson Jones.

11

Page 12: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

12Rhaglen Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn cael ei gwireddu

Flwyddyn cyn agor Pontio, yganolfan celfyddydau ac arloesinewydd, mae dinas Bangor a'rcylch yn dod yn fyw gydachynyrchiadau agweithgareddau gwych yn ygymuned. Cenhadaeth Pontio ywcreu rhaglen artistig o'r safonorau sy'n arloesol, uchelgeisiolac yn berthnasol i'n cymunedau.

Ym mis Gorffennaf daeth y 'No Fit StateCircus' a'u cynhyrchiad "Bianco" i Fangor.Bu cannoedd o bobl yn mwynhau'r profiado wylio syrcas cyfoes gyda pherfformiadauacrobatig ac awyrol a gynhaliwyd oamgylch y gynulleidfa mewn pabell fawr arFfordd y Traeth. Perfformiwyd Biancomewn lleoliadau eraill yn y DU yn cynnwysy safle Roundhouse enwog yn Llundain.

Gyda rhaglen yn cynnwys y doniau gorau obob rhan o'r byd, o Gymru a'r ardal leol,mae gan Pontio restr o berfformwyr gwychi dymor yr hydref. Bydd y delynores fyd-enwog Catrin Finch a Seckou Kaita oOrllewin Affrica sy'n chwarae'r kora ynperfformio mewn cyngerdd ar 15Tachwedd 2013 yn Neuadd Prichard-JonesPrifysgol Bangor. Ceir rhagor o wybodaethar y wefan: www.pontio.co.uk

Ni fyddai'n bosibl cynnal rhaglencelfyddydau ac arloesi Pontio hebgefnogaeth noddwyr hael. Llynedd,rhoddwyd rhodd o £300,000 gan ysefydliad Garfield Weston i gefnogi TheatrStiwdio Pontio a fydd yn ganolfan igynyrchiadau bach a gweithgareddaucymunedol ac yn ategu prif awditoriwmblaengar Pontio. Meddai Kristen L.Gallagher, Pennaeth Datblygu aChysylltiadau Alumni, "Wrth roi'r grantsylweddol hwn, un o'u rhoddion mwyaf tuallan i ganolfan fetropolitan fawr,dywedodd ymddiriedolwyr sefydliadGarfield Weston eu bod eisiau gwneud

rhywbeth i'r gymuned ehangach yn ardalPrifysgol Bangor. Rwy’n hynod falch bod ySefydliad yn gweld gwerth unigryw mewncefnogi rhaglen gelfyddydol ddwyieithog achyffrous Pontio, fel y gall pawb gymrydrhan ynddi."

Mae noddwyr eraill yn cefnogigweithgareddau celfyddydol Pontio ynogystal â mentrau unigryw eraill ymMangor sy'n dod â'r celfyddydau,cynlluniau arloesol a'r gwyddorau at eigilydd. Bydd y rhaglen "NEET2work" aluniwyd gan Brifysgol Bangor ac sy'nderbyn cyllid sylweddol gan sefydliadEsmée Fairbairn, yn dod ag aelodau o'rgymuned nad ydynt mewn gwaith, addysgna hyfforddiant at ei gilydd gydag aelodauo staff academaidd y Brifysgol, o feysyddfel seicoleg a busnes ac arweinwyrcymunedol lleol i gynllunio atebion i'rproblemau yn eu cymunedau. Gall yratebion hyn gynnwys cynnyrch neuddulliau newydd o ymdrin â materioncymdeithasol. Trwy NEET2Work, byddBangor yn rhannu ffrwyth eu profiadacademaidd ac ymarferol gydag aelodauo’r gymuned sydd angen datblygu sgiliaucyflogadwyedd pwysig.

Dathlwyd rhan y gymuned yn Pontio hefydyn ddiweddar pan lansiwyd apêl 2014Pontio mewn cyngerdd ym mis Mehefin, adrefnwyd gan Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni a chyfarwyddwrartistig Pontio, Elen ap Robert. Ymhlith yrartistiaid oedd y tenor Rhys Meirion, sy'nganwr opera a chyngherddau o fri, a'rtenor ifanc sy'n dechrau ar ei yrfa sef HuwYnyr, myfyriwr cerddoriaeth ym MhrifysgolBangor ac enillydd Ysgoloriaeth BrynTerfel yn 2012. Am fwy o wybodaeth ynglŷnâ sut y gallwch gefnogi apêl 2014 Pontio,ewch i wefan www.bangor.ac.uk/rhoddwyrneu ffoniwch y Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni ar 01248 382020.Byddwch yn rhan o Pontio!

Y GRONFA DIWYLLIANTA THREFTADAETHMae Prifysgol Bangor yn gweldgwerth yn ei threftadaeth a’idiwylliant Cymreig. Mae'n gennymlawer i fod yn falch ohono yn cynnwysPrif Adeilad y Celfyddydau arestrwyd yn adeilad gradd 1* a'ncasgliadau arbennig ac archifau.

Am dros ganrif a chwarter, mae Prifysgol Bangorwedi cael creiriau diwylliannol o Gymru a ledled ybyd, trwy brynu, rhoddion a chymynroddion gangyn-fyfyrwyr, ac fel teyrngedau i gyfeillion apherthnasau. Erbyn hyn mae gan y Brifysgolgasgliad pwysig o asedau diwylliannol, yn

cynrychioli ystod eang o gyfryngau, yn cynnwysdarluniau, cerfluniau, cerameg, murluniau, bydnatur, offerynnau cerdd, llyfrau prin allawysgrifau, a dodrefn. Rydym yn lansio apêlcodi arian i ddathlu a diogelu'r trysorau hyn sy'nunigryw i Brifysgol Bangor. Gellwch ein helpu ibarhau i fod yn warchodwyr pwysig o'r iaithGymraeg, ei llenyddiaeth a chelf. Trwy gyfrannuat yr apêl arbennig hon byddwch yn helpu igynnal ein hamgylchedd adeiledig a chadw einharchifau a chasgliadau gwerthfawr. Bydd ygronfa hon yn cefnogi diogelu a dathlu eincasgliadau arbennig ac adnewyddu Prif Adeilad yCelfyddydau a restrwyd yn adeilad gradd 1*. Amragor o wybodaeth cysylltwch ag Emma [email protected] neu 01248 382594. I roi rhodd ar-lein ewch i:www.bangor.ac.uk/rhoddwyr

RHAGLENCYMYNRODDION Ers ei sefydlu yn 1884 mae cymynroddion wedihelpu i lunio dyfodol Prifysgol Bangor. Yn yrhinsawdd economaidd anodd sydd ohoni'rdyddiau hyn mae'r angen i fuddsoddi mewnaddysg uwch yn fwy nag erioed a gall cofio am yBrifysgol yn eich ewyllys gael effaith barhaol arfyfyrwyr yfory. Mae meysydd sy'n elwa oddi wrthgymynroddion yn cynnwys dibenion cyffredinol,ysgoloriaethau, ymchwil a thrwsio ac adfer PrifAdeilad y Brifysgol, sy'n adeilad rhestredigGradd I. I gael gwybod mwy am ein rhaglengymynroddion a Chylch 1884, cysylltwch â’r tîmDatblygu a Chysylltiadau Alumni, ar: 01248382020; e-bost: [email protected] ewch i'n gwefan.

Page 13: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

CRONFA BANGOREleni cynhaliwyd ein hymgyrch‘telethon’ fwyaf llwyddiannus hydyma, gyda thîm o 35 o fyfyrwyrpresennol yn codi dros £95,000 tuag at Gronfa Bangor.

Cafodd y Grŵp Cymwynasau geisiadau ganwahanol adrannau, ysgolion a cholegau amgrantiau o'r gronfa Anghenion Mwyaf, y gronfaCefnogi Myfyrwyr, y gronfa DarpariaethCyfrwng Cymraeg a'r gronfa Gwella'r Campws.

Rhoddwyd grantiau tuag at:

• Y ddarpariaeth chwaraeon. Rhoddodd CronfaBangor arian i brynu peiriant draenio i gaeauchwarae Treborth. Ni fydd raid canslo gemauoherwydd caeau gwlyb o hyn ymlaen!

• Ysgol Cerddoriaeth. Prynwyd piano cyngerddYamaha newydd i'r myfyrwyr ei ddefnyddio iymarfer, a rhoddwyd arian at gostauadnewyddu ein piano Boesendorfer Imperialyn Neuadd Prichard-Jones.

• Y Gwasanaeth Cynghori.Mae Cronfa Bangorwedi prynu rhaglen ar-lein i gynorthwyomyfyrwyr a staff sy'n dioddef o gyflyrau iechydmeddwl cyffredin.

• Bwrsariaeth teithio i fyfyriwr PhD yn yr YsgolHanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

• Cefnogaeth ariannol i HackSpace, projectdan arweiniad myfyrwyr, yn yr YsgolPeirianneg Electronig.

• Cyflogadwyedd. Cafodd myfyrwyr o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol brofiad gwaith â chyflog trwy roi arddangosfeydd gwyddoniaeth i'r cyhoedd.

• Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau. Rhoddwydgrant i adleoli ac adnewyddu Canolfan YmchwilR.S. Thomas yn Narllenfa Shankland (isod).

Diolch yn fawr i bob un o'n cyfranwyr hael.

PROFFIL MYFYRIWR: DANIAL HEMMINGSENILLYDDYSGOLORIAETH DR. PAUL FEENEY“Rwyf yn fyfyriwr PhD yn fy ail flwyddyn ynYsgol Busnes Bangor. Mae fy thesis yncanolbwyntio ar y posibilrwydd fodcwmnïau’n cyflyru’r farchnad cyn cyflwynoecwiti newydd.

Mae’n ystyried a ddefnyddir cysylltiadau corfforaethol – er enghraifft, trafodaethaumewn adroddiadau blynyddol, datganiadau i’r wasg a gwefannau cwmnïau – ermwyn ennyn gormod o ddiddordeb gan fuddsoddwyr, fel y codir cyfalaf ar deleraumwy ffafriol. Mae nodweddion cynnil y cyfathrebu sy’n digwydd rhwng cwmnïau a’rmarchnadoedd, sydd mewn rhai ffyrdd yn hyrwyddo’r syniad o ‘werth’ a fegir gangymdeithas yn bwnc sydd o ddiddordeb mawr imi.

Ni fyddwn wedi penderfynu dilyn gyrfa academaidd oni bai imi gysylltu â’r gyfadranlawn ysbrydoliaeth tra oeddwn yn astudio ar gyfer BSc ac yna MSc mewn Cyfrifeg aChyllid ym Mangor. Y penderfyniad i astudio tuag at PhD ym Mangor oedd y dewisamlwg, o gofio’r gefnogaeth a’r brwdfrydedd gan staff academaidd a rhagoriaethacademaidd Ysgol Busnes Bangor. Bu’r ffaith imi ennill Ysgoloriaeth Dr. PaulFeeney o bwys tyngedfennol i’m gallu i astudio ymhellach. Mae'n gwneud i mideimlo'n wylaidd iawn fod Paul Feeney, ar ôl gyrfa lwyddiannus iawn yn dilyn eigyfnod ym Mangor, yn awyddus i gefnogi myfyrwyr lleol. A minnau wedi cael fymagu yn Ynys Môn, rhannaf ei gariad tuag at yr ardal, yn ogystal â thuag atgymuned Bangor, oddi mewn ac oddi allan i’r Brifysgol.

Mae rhodd hael gan alumnus o Fangor yn rhoi llawer mwy na chymorth ariannol ynunig. Mae’n golygu llawer iawn fy mod yn cael ysgoloriaeth gan gymwynaswr agafodd brofiad cadarnhaol cyffelyb ym Mhrifysgol Bangor, ac sydd hefyd yngwerthfawrogi ansawdd addysg ym Mhrifysgol Bangor. Heb gymorth ariannol haelgan alumni Bangor, diau na fyddwn i, na llawer o fyfyrwyr eraill, yn gallu parhau iastudio ar lefel ôl-radd. Ailadroddaf werthfawrogiad derbynwyr dirifedi ysgoloriaethaualumni Bangor sy’n manteisio ar y gefnogaeth ariannol ac ysbrydol a gânt trwyddynt.”

CRONFA DR. EILIRHEDD MORGANBu farw Dr. Eilir HeddMorgan, cyn-fyfyriwr acaelod staff yn YsgolGwyddorau EigionPrifysgol Bangor, mewndamwain drasig ym misEbrill 2013, yn ddim ond29 oed.

Daeth Eilir i Fangor yn wreiddiolyn 2002 i ddarllen Bioleg y Môr,ac arhosodd ymlaen i ennillrhagoriaeth mewn MSc BiolegPysgodfeydd Pysgod Cregyn aRheolaeth yn 2007 a chwblhau

ei PhD ym mis Tachwedd 2012. Ar ôl hynny fe’i penodwyd i swyddbum mlynedd fel y darlithydd cyfrwng Cymraeg cyntaf ym maesEcoleg y Môr. Roedd yn ymroddedig i'r iaith Gymraeg, ac ynllysgennad gwych i'r Brifysgol a Chymru.

Er cof amdano, mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu 'CronfaYsgoloriaeth Prifysgol Bangor Dr Eilir Hedd Morgan'. Bydd yr arian aroddir i'r gronfa hon yn cefnogi lleoliad haf 5 wythnos bob blwyddyn ifyfyriwr israddedig cyfrwng Cymraeg yn yr ail flwyddyn sy'n astudioBioleg y Môr i wneud gwaith ymchwil, ac i ariannu gwobr ar gyfer ysgwrs PhD gorau yn y flwyddyn gyntaf yng Nghynhadledd MyfyrwyrÔl-radd Ymchwil Gwyddorau Naturiol.

Os hoffech gyfrannu at y gronfa, ewch i:www.bangor.ac.uk/giving/eilir_fund ac anfonwch eich ffurflen wediei llenwi ynghyd â'r cyfraniad at: Paula Fleck, Swyddfa Datblygu aChysylltiadau Alumni, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG.

13

Page 14: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

“Yn yr ysgol uwchradd, chawsom ni fawr ddimcyngor ynglŷn â’r dewis o brifysgolion, fellyroeddwn yn dibynnu’n bennaf ar yr hyn addarllenais yn llawlyfr UCCA. Roedd ganBrifysgol Bangor ddewis trawiadol o gyrsiaumewn gwyddorau naturiol, sef yr hyn yroeddwn am ei wneud. I ddechrau, dewisaisSŵoleg Môr, ond newidiais i SŵolegGymhwysol oherwydd fy niddordeb mewntrychfilod. Ar ôl yr hyn a ymddangosai felblynyddoedd o astudio Mathemateg neuGemeg neu Ffiseg ar gyfer Bioleg, pleser puroedd arbenigo mewn anifeiliaid yn unig. Bu DrCherret, Dr Runham, a’r Athro Dodds ynfrwdfrydig iawn dros eu pwnc, gan wneud ydarlithoedd yn ddiddorol iawn.

Ar ôl imi raddio gyda BSc mewn SŵolegGymhwysol, ymunais â phapur newyddmeddygol o’r enw Doctor fel newyddiadurwrgwyddonol. Dair blynedd wedyn, gweithiais amblwc fel ysgrifennwr copi mewn cwmnihysbysebu cyn ymuno â’r BBC. Symudais trwyamryw o adrannau dogfennol, yn cynnwys:Uned Wyddoniaeth Radio 4, Radio a TheleduByd Natur, Tomorrow’s World, a Horizon.Byddwn bob amser yn tynnu sylw at fynghefndir mewn gwyddoniaeth a’m profiadmewn newyddiaduraeth. Ym 1999, gwnes igyfres ar gyfer BBC 1 o’r enw Walking withDinosaurs, a fu’n llwyddiannus iawn. Ymhenychydig flynyddoedd, sefydliad gwmnicynhyrchu teledu annibynnol, yn arbenigomewn rhaglenni ffeithiol o safon uchel, o’r enwImpossible Pictures. Dros y blynyddoedd,dechreuodd Impossible gynhyrchu dramâuhefyd, a bûm yn cyd-greu cyfres o’r enwPrimeval ar gyfer ITV. Y pryd hynny, enillaissawl Emmy a BAFTA. Enillais hefydGymrodoriaeth Er Anrhydedd gan Fangor, aoedd yn achos o falchder imi.

Mwynheais fy nghyfnod ym Mangor, nid ynunig y cwrs, ond hefyd y golygfeydd. Roeddamgylchedd Bangor yn gwrthgyferbynnu’nllwyr â’m cartref yn Sussex. Fodd bynnag,cefais ei bod yn brofiad therapiwtig camu oddiar y trên yng Ngogledd Cymru; roeddwn ynbarod i ddarganfod rhan newydd o’r wlad.Pleser pur imi oedd cael hyd i em academaiddyng nghanol Eryri. Trwy gydol fy nghyfnod ymMangor, roedd yr ardal o’i chwmpas yn rhanfawr o’i hapêl, yn ddelfrydol ar gyfer teithiaumaes a chymdeithasu. Yn fy ail flwyddyn,prynais gar, fel y gallwn ddarganfod mwy am

“Rwy'n hynod falch bod fy ngyrfa yn yr heddluwedi dod â mi'n ôl i Brifysgol Bangor fel eiswyddog heddlu penodedig. Mae gennyf le cynnesyn fy nghalon i'r Brifysgol gan i mi astudio amradd mewn Saesneg yma o 1992-1995. Rwy'ngobeithio y bydd fy mhrofiadau yn y Brifysgol yn fyhelpu i ddeall y materion sy'n bwysig i fyfyrwyr;ar y llaw arall, fel plismon fe allaf innau dynnu eusylw at faterion nad ydynt yn ymwybodol ohonyntefallai. Rwy'n teimlo'n bur amddiffynnol ohonynta dweud y gwir! Mae Bangor yn lle diogel iawn ifyw ynddo; fodd bynnag, mae yna bethau y gallmyfyrwyr eu gwneud bob amser a fydd yn lleihauunrhyw risgiau ymhellach.

Dewisais astudio ym Mangor oherwydd bod y cwrsyn edrych yn un da iawn, a hefyd oherwydd bod yBrifysgol yn un gyfeillgar, Bangor ddim yn rhy fawra digon o gyfleoedd i fynd i ddringo'n lleol! Ar ôlgraddio gweithiais am gyfnod byr yn UnedGyrfaoedd y Brifysgol cyn mynd i deithio. Ar ôl rhywflwyddyn neu ddwy o'r ardal, dychwelais i Fangorpan ymunais â Heddlu Gogledd Cymru yn 2001.Treuliais ddwy flynedd fel plismones ym Môn cynymuno â'r uned ymateb arfog am ddeg mlynedd,gan fynd i ddigwyddiadau lle defnyddid arfau drosholl ardal y llu. Hefyd yn ffodus iawn, cwrddais â'mgŵr tra yn yr uned hon ac rydym yn byw yn ardalBangor bellach.

Yn y swydd hon byddaf yn gallu annog mwy ofyfyrwyr i ddod i weld yr heddlu gydag unrhywbroblemau sy'n eu poeni, yn ogystal â'u haddysgusut i leihau ymhellach unrhyw siawns iddyntddioddef o ganlyniad i droseddu. Rwy'n arbennig oawyddus i ennill ymddiriedaeth myfyrwyrrhyngwladol sydd mewn sefyllfa unigryw ynastudio mor bell o'u cartrefi a chefnogaeth teulu.Mae angen eu sicrhau bod ein heddlu'n ymdrin âmaterion yn gyfrinachol a phroffesiynol a'i bod ynhawdd troi atom.

Gellwch ein dilyn ar Twitter (NWPBangorUniPolice) a Facebook (Bangor Bobbies)”

ALUMNIProffiliau

Mae'r alumna Antonia Lloyd(Saesneg, 1995) wedidychwelyd i'r Brifysgol ynddiweddar i weithio felswyddog heddlu a fydd ynymwneud yn benodol â helpuein myfyrwyr. Yma mae'ndweud wrthym mor falch ydywo fod yn un o blismyn Bangor.

“Rwy'n falch oddweud fy mod yncyfrannu at GronfaBangor, gan fod ygefnogaeth mae'rgronfa hon yn eirhoi i fyfyrwyr, a'rprofiad o astudioym Mangor, ynwerth chweil.”

Ar ôl graddio yn 1981,ymunodd Tim Haines,cyn-fyfyriwr o Fangor,â’r BBC ac aeth ymlaen igynhyrchu rhaglenni felWalking with Dinosaurs.Yma, mae Tim yn dweudwrthym sut mae ei amserym Mangor wedi caeleffaith barhaol.

14

Page 15: Bangoriad 2013 - fersiwn Cymraeg

LLWYDDIANT

ardal wledig brydferth Gogledd Cymru. Buaswn yncymeradwyo Prifysgol Bangor wrth unrhyw un,yn enwedig os ydych am astudio ar gyfer graddBSc yno.

Rwyf wedi treulio fy oes yn ceisio cyfleugwyddoniaeth i gynulleidfa mor eang â phosibl,ac wedi gweld gwyddoniaeth a thechnoleg yndod yn rhan hanfodol o fywydau pobl. Eto i gyd,wedi dirywio, os rhywbeth, y mae eu gallu ifarnu ac i bwyso a mesur dadl wyddonol.Dyma’r rheswm fy mod yn annog y rhai sydd âdiddordeb i astudio mewn prifysgol a helpu iwella lefel y drafodaeth ar gyfer y genhedlaethnesaf. Ar ben hynny, nid ydych byth yn gwybodpryd y gall eich gwybodaeth am glefyd Paget,rhisotronau neu driniaeth ïonosfferig fod ynhynod o fuddiol o ran cael swydd ichi.”

ENFAWR

15