41

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

  • Upload
    fisk

  • View
    68

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio? . Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein ar ddisgyblion 7-16 oed ac ar yr athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 2: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 3: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Mae’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn arolwg ar-lein ar ddisgyblion 7-16 oed ac ar yr athrawon sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg gorfforol (AG) a chwaraeon ysgol.

Gwahoddir pob ysgol yng Nghymru sydd â disgyblion 7 i 16 oed i gymryd rhan.

Mae’n edrych yn fanwl ar gyfranogiad plant a phobl ifanc mewn chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned, ac yn casglu gwybodaeth gan athrawon am y ddarpariaeth o weithgareddau AG a chwaraeon amrywiol mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae’n ein helpu ni i ddeall y rôl y mae AG a chwaraeon yn ei chwarae mewn cyfrannu at les corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion i gyd.

Mae data’r arolwg yn galluogi i Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru gofnodi tueddiadau’r cyfranogiad mewn chwaraeon ac yn darparu tystiolaeth i helpu i ddylanwadu ar bolisïau chwaraeon ac i gynllunio’r gwaith o gyflwyno chwaraeon ledled Cymru.

Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Page 4: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Derbyniwyd bron i 40,000 o ymatebion gan ddisgyblion – derbyniwyd mwy na 27,000 o ymatebion yn ystod tair wythnos derfynol y gwaith maes.

Cymerodd 580 o ysgolion ran yn yr arolwg ar ddisgyblion, yr arolwg ar y ddarpariaeth neu’r ddwy elfen (432 cynradd a 148 uwchradd).

Ar gyfartaledd, cymerodd y disgyblion 29.5 munud i lenwi’r arolwg - 37.8 munud i ddisgyblion cynradd a 23.7 munud i ddisgyblion uwchradd.

Derbyniodd tîm ymchwil Chwaraeon Cymru fwy na 600 o ymholiadau am yr arolwg yn ystod cyfnod y gwaith maes, gan ysgolion yn bennaf ac yn ystod mis terfynol y gwaith maes yn bennaf.

Cymhwysodd 198 o ysgolion – (149 o ysgolion cynradd a 49 o ysgolion uwchradd) i dderbyn adroddiadau unigol ar eu canlyniadau.

Derbyniodd Blaenau Gwent, Conwy a Sir Benfro gyfres lawn o ganlyniadau. Cymhwysodd Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Thorfaen i gael dwy neu fwy o elfennau o ganlyniadau arolwg.

Edrych yn ôl ar Arolwg 2011 ar Chwaraeon Ysgol...

Page 5: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 6: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru – sylfaen i ddylanwadu ar bolisïau chwaraeon, monitro a chofnodi tueddiadau mewn cyfranogiad a darpariaeth ledled Cymru;

Ysgolion ac Arolygwyr Estyn – mae’n darparu tystiolaeth am sut mae chwaraeon ac AG yn yr ysgol yn cyfrannu at les disgyblion, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin;

Awdurdodau lleol / Rhanbarthau / Consortia – data yn sail i gynllunio a chyflwyno lleol;

Cyrff rheoli cenedlaethol – edrych yn fanwl ar chwaraeon unigol penodol yn sail i gynllunio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol;

Disgyblion a Llysgenhadon Ifanc.

Cynulleidfaoedd Allweddol

Page 7: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 8: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Manteision cymryd rhan Ysgolion

Page 9: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Bydd yr ysgolion sy’n sicrhau sampl gytbwys o ymatebion yn derbyn adroddiad unigol ar eu canlyniadau. Byddant yn gallu dangos y canlynol:

Lefelau’r ymwneud ag AG a chwaraeon;

Cyfranogiad a mwynhad y disgyblion wrth ddysgu;

Ydi darpariaeth yr ysgol yn diwallu anghenion y dysgwyr i gyd?

Oes cysylltiadau’n cael eu gwneud â’r gymuned leol?

Tystiolaeth o wrando ar lais y disgyblion, gweithio gyda’r dysgwyr a rhoi cyfrifoldeb iddynt;

Eu bod yn monitro cynnydd dros amser.

Mae Estyn yn cydnabod yr arolwg fel adnodd effeithiol i ddangos tystiolaeth o les yn ei gyfarwyddyd hunanarfarnu i ysgolion.

Manteision cymryd rhan

Page 10: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Mae’r adroddiad i ysgolion unigol yn canolbwyntio ar y pedwar canlyniad lles a ddynodir yn Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Ysgolion yng Nghymru:

Agweddau at gadw’n iach a diogel

Cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu

Ymwneud â’r Gymuned a gwneud penderfyniadau

Attitudes to keeping healthy and safe

Sgiliau cymdeithasol a bywyd

Yr Adroddiad Ysgol

Page 11: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Agweddau at gadw’n iach a diogel:

Beth yw barn y disgyblion am y cyfraniad y mae AG a chwaraeon yn ei wneud at fod yn iach a sicrhau ffordd gytbwys o fyw?

Sut mae’r disgyblion yn teimlo am gymryd rhan mewn AG a Chwaraeon? Ydyn nhw’n gyfforddus yn cymryd rhan?

Ydi’r disgyblion yn dewis blaenoriaethu chwaraeon a hamdden gorfforol yn eu hamser hamdden?

Cyfranogiad a mwynhad wrth ddysgu:

Ydi’r disgyblion yn mwynhau AG a chwaraeon ysgol? Oes gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched a gwahanol grwpiau blwyddyn?

Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol?

Ydi’r disgyblion yn awyddus i ymarfer a gwella eu sgiliau mewn AG a chwaraeon allgyrsiol?

Beth gall y data ei ddweud wrthym ni am les y disgyblion?

Page 12: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Ymwneud â’r Gymuned a gwneud penderfyniadau:

Oes tystiolaeth o wrando ar lais y dysgwr? Ydi’r disgyblion yn cyflwyno syniadau am AG a chwaraeon ac yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn?

Beth sy’n cymell eich disgyblion i gymryd rhan? Beth yw’r rhwystrau?

Ydi’r disgyblion yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol ac yn mynd i ganolfannau hamdden pan nad ydynt yn yr ysgol?

Sgiliau cymdeithasol a bywyd:

Ydi’r disgyblion yn teimlo bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gymryd rhan? Oes gwahaniaethau rhwng y bechgyn a’r merched a’r gwahanol grwpiau blwyddyn?

Ydi’r disgyblion yn helpu ac yn ymwneud â gwersi AG a chwaraeon?

Ydi’r disgyblion yn hyderus i roi cynnig ar weithgareddau newydd?

Ydi’r disgyblion yn annog eu ffrindiau a’u teulu i gymryd rhan ac a ydynt yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth eu hunain?

Beth gall y data ei ddweud wrthym ni am les y disgyblion?

Page 13: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Cynigiwyd wyth gwobr o £1,000 ar gyfer offer chwaraeon mewn raffl i’r ysgolion (dwy ym mhob rhanbarth) a chafodd yr holl ysgolion a gymhwysodd dystysgrif. Dyma’r enillwyr yn 2011:

Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn

Ysgol Botwnnog, Gwynedd

Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory, Sir Benfro

Ysgol Gynradd Gatholig Sain Dewi, Torfaen

Ysgol Yr Eos, Rhondda Cynon Taf

Ysgol Gyfun Treorci, Rhondda Cynon Taf

Ysgol Gynradd Gymunedol Brynconin, Sir Benfro

Ysgol Gynradd Mount Pleasant, Casnewydd.

Manteision cymryd rhan

Page 14: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Manteision cymryd rhan

Awdurdodau Lleol

Page 15: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Bydd yr Awdurdodau Lleol sy’n sicrhau nifer digonol o ymatebion i’r arolwg yn derbyn adroddiad penodol ar eu canlyniadau. Bydd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol:

Y lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol a chlwb – pa mor aml mae pobl ifanc yn cymryd rhan?

Pa chwaraeon mae pobl ifanc yn cymryd rhan ynddynt mewn clybiau cymunedol?

Pa chwaraeon maen nhw eisiau cymryd mwy o ran ynddynt?

Beth yw’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad a beth fyddai’n annog pobl ifanc i wneud mwy o chwaraeon?

Ydi pobl ifanc yn defnyddio’r ganolfan hamdden a chyfleusterau cymunedol eraill fel parciau, caeau chwarae, pyllau nofio a pharciau sglefrio?

Ydi’r ysgolion yn yr awdurdod wedi gwneud cysylltiadau ffurfiol â chlybiau cymunedol, ac ym mha chwaraeon?

Ydi pobl ifanc yn aelodau o glybiau chwaraeon, ac ym mha chwaraeon?

Mae’r holl ddata’n cael eu rhannu fesul blwyddyn ysgol a rhyw.

Manteision cymryd rhan

Page 16: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Gall staff awdurdodau lleol elwa o gefnogi proses yr arolwg – gall helpu i greu perthnasoedd da gydag ysgolion a disgyblion a helpu i ddylanwadu ar y gwaith o gynllunio a chyflwyno chwaraeon cymunedol yn y dyfodol.

1. Yn ystod cyfnod y gwaith maes, gallai’r staff gynnig helpu ysgolion unigol wrth i’w disgyblion lenwi’r arolwg, oherwydd mae hyn yn cynnig cyfle i drafod chwaraeon yn uniongyrchol gyda defnyddwyr a dod i ddeall y cwsmeriaid.

2. Gallai’r staff gynnwys ail gyfnod ‘adborth’ unwaith mae adroddiadau’r ysgolion a’r awdurdodau lleol wedi’u dosbarthu. Gellir trafod y canlyniadau hyn gydag athrawon a disgyblion a’u defnyddio fel sail ar gyfer cynllunio yn y dyfodol. Gellir cyfeirio disgyblion at glybiau neu weithgareddau lleol ac mae’r broses yn darparu cyfrwng i ddatblygu perthnasoedd da gyda staff a disgyblion ysgol.

Bydd yr adroddiadau unigol yn darparu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer dylanwadu ar gynlluniau lleol. Mae’r arolwg yn cynnig cyfrwng i gasglu corff eang o dystiolaeth am ddefnyddwyr gwasanaethau datblygu chwaraeon ac addysg cymunedol a’r rhai nad ydynt yn eu defnyddio.

Manteision cymryd rhan

Page 17: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 18: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Ymatebion disgyblion

cynradd

Darpariaeth gynradd

Ymatebion disgyblion uwchradd

Darpariaeth uwchradd

Gogledd Cymru 2680 102 4257 31

De Orllewin a Chanolbarth Cymru 4501 118 6529 48

Canolbarth De Cymru 3599 97 6895 35

De Ddwyrain Cymru 5410 80 5769 28

Cyfraddau ymateb – Consortia

Page 19: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Ymatebion disgyblion

cynradd

Darpariaeth gynradd

Ymatebion disgyblion uwchradd

Darpariaeth uwchradd

Bridgend 533 10 769 1

Cardiff 375 16 933 8

Merthyr Tydfil 1379 18 672 3

Rhondda Cynon Taff 1008 38 3360 13

Vale of Glamorgan 303 7 1161 2

Cyfraddau ymateb: Canolbarth De Cymru

= wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

Page 20: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Ymatebion disgyblion

cynradd

Darpariaeth gynradd

Ymatebion disgyblion uwchradd

Darpariaeth uwchradd

Blaenau Gwent 1569 23 1238 5

Caerphilly 2012 28 2488 9

Monmouthshire 153 6 527 3

Newport 350 7 1001 6

Torfaen 1324 14 505 3

Cyfraddau ymateb: De Ddwyrain Cymru

= wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

Page 21: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Ymatebion disgyblion

cynradd

Darpariaeth gynradd

Ymatebion disgyblion uwchradd

Darpariaeth uwchradd

Carmarthenshire 771 31 2013 11

Ceredigion 77 8 457 4

Neath Port Talbot 435 7 729 7

Pembrokeshire 1645 33 1560 8

Powys 647 19 553 5

Swansea 926 12 1216 8

Cyfraddau ymateb: De Orllewin a Chanolbarth Cymru

= wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

Page 22: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Primary pupil responses

Primary provision

Secondary pupils

Secondary provision

Isle of Anglesey 60 7 522 2

Gwynedd 350 23 1005 7

Conwy 1654 34 1802 6

Denbighshire 188 7 318 3

Flintshire 64 6 71 4

Cyfraddau ymateb: Gogledd Cymru

= wedi cymhwyso am adroddiadau lleol

Page 23: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Problem Atebion a chamau gweithredu Cyfathrebu ag ysgolion – diffyg ymwybyddiaeth.

Cynllunio cynharach, sawl dull gwahanol o gyfathrebu ag ysgolion i gael eu gweithredu.

Ysgolion ddim eisiau cymryd rhan.

Cynllun hyrwyddo, datblygu adnoddau a negeseuon.

Problemau gyda systemau TG a’r gweinydd yn ‘chwalu’.

Y contractwr yn ymgymryd â gwaith datblygu a phrofi – misoedd Hydref a Thachwedd 2012.

Yr holiadur rhy hir. Weithiau’n anodd i ddisgyblion iau. Angen gwella’r fersiwn Gymraeg.

Adolygiad o’r holiadur gan y tîm Ymchwil a grŵp llywio allanol. Bydd yn cael ei dreialu eto gydag athrawon a disgyblion.

Angen lefelau uchel o adnoddau staff yn ystod cyfnod y gwaith maes.

Treuliwyd llawer iawn o amser yn ailgyflwyno cyswllt ag ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau lleol yn cefnogi’r broses hon yn 2013.Bydd opsiynau ar gyfer lleihau nifer yr ymholiadau am gyfraddau ymateb yn cael eu cynnwys yng nghynllun 2013.

Y broses o ddosbarthu’r canlyniadau’n rhy araf. Y disgyblion wedi gwneud llawer o ymdrech yn 2011 a heb gael adroddiad.

Sefydlir systemau adrodd yn ôl gan y contractwr cyn dechrau ar y gwaith maes. Mae opsiwn ar gyfer gwella cyflymder y cyfnod dosbarthu’n cael ei drafod gyda phartneriaid (drwy gasglu gwybodaeth cyfrifiad ysgolion).

Adolygu 2011

Page 24: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 25: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Llythyr at yr holl ysgolion gan Chwaraeon Cymru (Gorffennaf);

Awst-Medi: Gwahoddiad i dendro a phenodi contractwr;

Cynllunio briffiau tîm – cyfarfod cydweithwyr mewnol a phartneriaid allanol a dechrau ar y broses hyrwyddo;

Cynnal cyfarfod cyntaf Grŵp Llywio’r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar 26ain Medi.

Chwarter 1: Gorffennaf – Medi 2012

Page 26: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Datblygu adnoddau cefnogi / hyrwyddo;

Developing supporting resources/advocacy tools;

Datblygu’r holiadur – sefydlu holiaduron ar-lein, treialu a phrofi swyddogaethau gyda’r contractwr;

Llythyr at Gyfarwyddwyr Addysg gan Chwaraeon Cymru;

Questionnaire development - Setting up questionnaires online, piloting and testing functions with contractor;

Erbyn diwedd y flwyddyn – enwi mannau cyswllt lleol ar gyfer cyfathrebu’n uniongyrchol ag ysgolion;

Chwarter 2: Hydref – Rhagfyr

Page 27: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Llwytho adnoddau i’r wefan fel bod yr ysgolion yn gallu eu gweld ymlaen llaw (gan gynnwys adnoddau hyrwyddo a phecynnau technegol / cyfarwyddyd, cyfrifiannell);

Ail gyfarfod y Grŵp Llywio.

Cyfathrebu â chysylltiadau lleol am y broses derfynol

Cyhoeddi dolenni mewngofnodi unigol i bob ysgol;

Awdurdodau lleol yn casglu data Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Cyflwyno’r data i Chwaraeon Cymru gan ddefnyddio’r templed a ddarperir i dimau AGChY.

Chwarter 3: Ionawr – Mawrth 2013

Page 28: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Yr arolwg yn dechrau. Cyfnod y gwaith maes – Ebrill 8fed tan ddiwedd Gorffennaf;

Diwedd Gorffennaf – Cau’r arolwg a phwysoli’r data;

Dadansoddi ac adrodd yn ôl (Awst/Medi/Hydref);

Dosbarthu adroddiadau ac allbynnau eraill yr arolwg: mis Medi ymlaen.

Dosberthir adroddiadau ysgolion ac awdurdodau lleol yn gyntaf.

Chwarter 4: Ebrill – Gorffennaf …ac ymlaen

Page 29: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Gan ddefnyddio’r templedi Excel a anfonwyd allan gan Chwaraeon Cymru, gwnewch yn siŵr bod y cyfeiriadau e-bost ar gyfer yr ysgolion yn gywir er mwyn sicrhau bod negeseuon e-bost awtomatig yn gallu cael eu hanfon yn ganolog gan Chwaraeon Cymru a Snap. Bydd enw unigolyn cyswllt yn yr ysgol yn cael ei gynnwys yn y bas data os yn bosib.

Bydd y cyswllt lleol ym mhob awdurdod lleol (a/neu gonsortiwm AGChY) yn cael rhestr o’r holl ysgolion yn ei ardal a’u manylion ‘mewngofnodi i’r arolwg’ unigol. Gall y cyswllt gefnogi Chwaraeon Cymru drwy fod yn gyfrifol am ailgyflwyno’r dolenni gwe hyn i ysgolion os nad ydynt yn derbyn eu neges e-bost awtomatig gwreiddiol neu os ydynt yn ei ddileu.

Bydd y cyswllt lleol yn cael diweddariadau cynnydd am y cyfraddau ymateb gan Chwaraeon Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gallu cael mynediad i’r system fonitro fyw.

Rôl y cyswllt (cysylltiadau) lleol

Page 30: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Llenwi’r templed Excel sydd wedi cael ei anfon at y timau AGChY. Ar gyfer pob ysgol, yn seiliedig ar ddata Ionawr 2013 (h.y. yr un data ag a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ar gyfer allbwn y Cyfrifiad Ysgolion):

Nifer y bechgyn ym mhob grŵp blwyddyn (blynyddoedd 3 i 11).

Nifer y merched ym mhob grŵp blwyddyn (blynyddoedd 3 i 11).

Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Am hynny, ceir y canlynol…Gwybodaeth am y sampl sydd ei hangen ar gyfer yr arolwg yn benodol i bob ysgol, ac wedi’i chynnwys yn eu cyfarwyddiadau. Rhyddhau allbynnau’r arolwg yn gynt (adroddiadau ysgolion, prif ystadegau, ac ati) oherwydd gallwn ddefnyddio’r wybodaeth ar gyfer pwysoli data’r arolwg. Bydd yn ofynnol i’r awdurdodau lleol i gyd gyflwyno’r wybodaeth – os oes bylchau ni allwn gyflwyno hyn i unrhyw un.

Rôl y cyswllt lleol – data CYBLD

Page 31: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 32: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Cyflwyniad PowerPoint – darperir sleidiau i bartneriaid eu defnyddio i hybu’r arolwg

Gofyn am Lythyr Cefnogi gan y Cyfarwyddwr Addysg

Bydd llythyrau enghreifftiol sy’n amlinellu pa wybodaeth mae athrawon AG a staff TG angen ei gwybod am yr arolwg yn cael eu darparu gan Chwaraeon Cymru, a gellir eu dosbarthu drwy gyfrwng y cysylltiadau lleol

Astudiaethau achos sy’n dangos sut mae gwybodaeth yr arolwg wedi cael ei defnyddio i wella’r cyflwyno yn lleol

Enghraifft o adroddiad unigol ar gyfer ysgolion – ar gael nawr

Dyfyniadau ategol gan bartneriaid

Defnydd o wefannau, blogiau, cyfryngau cymdeithasol i hybu’r arolwg

Datblygu adnoddau ‘hyrwyddo’

Page 33: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Pecyn cyfarwyddyd i ysgolionLlyfryn gwybodaeth i ddisgyblion

Tystysgrif i ddisgyblion sy’n llenwi’r holiadur (ysgolion neu bartneriaid i ddosbarthu drwy lawrlwytho) Dogfennau Cwestiynau Cyffredin – cynulleidfaoedd amrywiol

Enghreifftiau o holiaduron ar gael ar-lein

Cyfrifiannell i bartneriaid asesu a monitro cyfraddau ymateb ysgolion

Diweddariadau cynnydd wythnosol i bartneriaid neu fynediad at y monitro byw ar-lein os yn bosib Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer gweithredu’r arolwg gan yr ysgolion a’r partneriaid a gymerodd ran yn 2011Pecyn cyfarwyddyd i ysgolion

Datblygu adnoddau ymarferol

Page 34: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 35: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Llenwodd 500 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 yr arolwg yn ystod eu gwers TG.

Roedd adborth Chwaraeon Cymru yn cynnig cymhariaeth uniongyrchol ag ysgolion sydd â chanran debyg o ddisgyblion sy’n cael Cinio Ysgol Am Ddim, a gydag ysgolion ledled Cymru yn gyffredinol.

Lluniwyd cymariaethau rhwng y rhywiau.

Roedd yr adborth yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnwys siartiau a diagramau.

Defnyddiwyd yr adroddiad i hwyluso’r gwaith cynllunio yn y dyfodol.

Ysgol Gyfun Y Bontfaen

Darparwyd yr astudiaeth achos gan Neil Thomas, Pennaeth AG yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen.

Page 36: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Canlyniad o’r arolwg: nid oedd 8% o’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel/cyfforddus mewn gwersi. Effaith = Mae holl aelodau’r adran wedi archebu lle i ennill cymhwyster cymorth cyntaf sylfaenol yn awr.

Canlyniad o’r arolwg: roedd 41% o’r disgyblion yn teimlo nad oedd ganddynt “lais” mewn Addysg Gorfforol. Effaith = Mae’r adran wedi creu ‘Cyngor Chwaraeon’ i roi adborth i’r cyngor ysgol ar faterion sy’n ymwneud yn benodol â chwaraeon.

Canlyniad o’r arolwg: roedd 90% o’r disgyblion yn mwynhau’r gwersi AG ac 80% yn mwynhau AG allgyrsiol. Effaith = Cadarnhau’r meysydd cryf yn ôl pob tebyg (yr amgylchedd dysgu cadarnhaol sy’n cael ei greu yn y gwersi). Hefyd, mae’r ysgol wedi mynd ati i ehangu’r ystod o weithgareddau a gynigir gan 5x60, i gynnwys Golff, Swmba, Sboncen a Phêl Osgoi, ac roedd y disgyblion yn cael opsiynau yn CA4.

Canlyniad o’r arolwg: roedd llai o ferched ‘wir yn mwynhau’ eu gwersi AG. Effaith = Cynhaliodd Y Bontfaen arolwg mewnol ar holl ferched CA3 i weld beth oedd y rheswm dros hyn. O ganlyniad, addasodd yr adran ei chwricwlwm i ddarparu gymnasteg yn hytrach na dawns.

Y Bontfaen – Canlyniadau ac Effaith

Darparwyd yr astudiaeth achos gan Neil Thomas, Pennaeth AG yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen.

Page 37: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Creodd Ysgol Dewi Sant Gyngor Chwaraeon Ysgol o ganlyniad i’w harolwg ac mae’n gwneud cais am statws Active Marc Cymru oherwydd ei chanlyniadau cadarnhaol;

Creodd Ysgol Y Preseli fforwm chwaraeon ar gyfer ei Chyngor Ysgol;

Cynyddodd Ysgol Gynradd Maenclochog yr amser y mae’n ei roi i AG fel rhan o’r cwricwlwm o awr i ddwyawr o ganlyniad i’r arolwg, ac mae wedi sefydlu Cyngor Chwaraeon Ysgol;

Mae Ysgol Gynradd Prendergast wedi sefydlu dau glwb allgyrsiol yn arbennig ar gyfer y merched o ganlyniad i’w harolwg. Mae’r presenoldeb yn y ddau yn 15-20 o unigolion bob wythnos yn gyson ac mae’r ysgol yn gwneud cais am statws Active Marc Cymru.

Ysgol Iau Dinbych-y-pysgod: Rhannodd y Cydlynydd AG y canlyniadau gyda’i Chyngor Ysgol, y Llysgenhadon Ifanc, Capteiniaid Chwaraeon yr Ysgol a dosbarth Blwyddyn 6. Mae’r disgyblion wedi awgrymu eu bod nhw’n cael cyfrannu at bennu targedau. Hefyd fe wnaethant benderfynu bod rhaid i fwy o rieni ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol a bydd Clwb Iechyd / Athletau yn cael ei sefydlu. Bydd disgwyl i rieni fynychu’r clwb hwn gyda’u plant a chymryd rhan ochr yn ochr â’u meibion / merched.

Sir Benfro – defnyddio canlyniadau’r arolwg

Darparwyd yr astudiaethau achos gan Dan Field, Rheolwr AG a Chwaraeon Ysgol, Sir Benfro

Page 38: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

“Mae’n ymddangos bod Arolwg ar Chwaraeon Ysgol y llynedd yn llwyddiant ysgubol – gwelwyd bron i 40,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan. Mae’r arolwg ei hun yn ffordd effeithiol o roi llais i ddisgyblion ac yn cyflwyno darlun gwerthfawr i ddarparwyr gwasanaethau o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim. Gobeithio y gwelwn ni fwy fyth o ddisgyblion yn cymryd rhan eleni fel bod pob un ohonyn nhw’n gwirioni ar chwaraeon am oes.”

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

Page 39: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

“Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan allweddol mewn mynd i’r afael â’r ystod eang o broblemau iechyd sydd gennym ni yng Nghymru ac maen nhw’n ein helpu ni i fwynhau iechyd da. Os bydd plant a phobl ifanc yn dysgu’r sgiliau sylfaenol i gymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc, ac yn cael profiadau cadarnhaol o chwaraeon ysgol, bydd posib gwneud gwahaniaeth sylweddol i iechyd y genedl. Mae Arolwg ar Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn darparu sylfaen bwysig o dystiolaeth, nid yn unig o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion, ond hefyd o ran sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo am yr hyn sy’n cael ei gynnig. Dyma arfer amhrisiadwy o ran dylanwadu ar y camau gweithredu ymarferol ar gyfer ysgolion, yn ogystal â galluogi datblygu polisïau ar lefel genedlaethol yn y dyfodol”.

Prif Swyddog Meddygol, Dr Ruth Hussey, OBE

Page 40: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?
Page 41: Beth yw’r arolwg ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio?

Mae rhagor o wybodaeth am yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol ar gael yn www.sportwales.org.uk

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Chwaraeon Cymru yn:Ein gwefan www.sportwales.org.ukTwitter @sport_walesFacebook www.facebook.com/Sportwales