34
Briffio ymgeiswyr ac asiantiaid Etholiadau llywodraeth leol

Briffio ymgeiswyr ac asiantau

  • Upload
    tuan

  • View
    64

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Briffio ymgeiswyr ac asiantau. Etholiadau llywodraeth leol. Pynciau. pwy ’dy pwy amserlen yr etholiad cymwysterau gwaharddiadau enwebiadau asiantau pleidleisiau drwy’r post y diwrnod pleidleisio cyfrif pleidleisiau treuliau ymgeiswyr cysylltwyr. Pwy ’dy pwy. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Briffio ymgeiswyr ac asiantiaidEtholiadau llywodraeth leol

Page 2: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Pynciau • pwy yw pwy• dyddiadau allweddol amserlen yr etholiad• cymwysterau • gwaharddiadau• enwebiadau• asiantiaid• pleidleisiau post• y diwrnod pleidleisio• cyfrif pleidleisiau • treuliau ymgeiswyr• cysylltiadau

Page 3: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Pwy yw pwy • Y Swyddog Canlyniadau yw’r sawl sy’n gyfrifol am redeg yr etholiadau. Y Swyddog Canlyniadau yw [nodwch yr enw]

• Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy’n gyfrifol am gynnal y gofrestr o etholwyr a’r rhestrau o bleidleiswyr absennol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw [nodwch yr enw]

• Ceir manylion cyswllt yn ddiweddarach

Page 4: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Dyddiadau allweddol

Cyhoeddi’r Hysbysiad o Etholiad Dim ar ôl [E-25]

Enwebiadau’n dechrau

Cau enwebiadau 4pm - [E-19]

Cyhoeddi datganiad o'r personau a enwebwyd

4pm – [E-18]

Hysbysu penodi asiantiaid etholiadol 4pm – [E-19]

Cyhoeddi hysbysiad o bleidlais/lleoliad gorsafoedd pleidleisio

[E-6]

Amser cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau post newydd/ newidiadau i drefniadau pleidleisiau post neu drwy ddirprwy presennol

5pm[E-11]

Amser cau ar gyfer ceisiadau i gofrestru i bleidleisio

Canol nos - [E-12]

Page 5: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Dyddiadau allweddol

Amser cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisiau newydd drwy ddirprwy

5pm– [E-6]

Penodi asiantiaid cyfrif a phleidleisio [E-5]

Y diwrnod pleidleisio [dyddiad] – 7am i 10pm

Amser cau ar gyfer gwneud cais newydd i bleidleisio drwy ddirprwy oherwydd argyfwng meddygol neu os gelwir i ffwrdd yn annisgwyl oherwydd gwaith neu wasanaeth

5pm – diwrnod pleidleisio

Amnewidiadau ar gyfer pleidleisiau ar goll/a ddifethwyd yn dod i ben

5pm – diwrnod pleidleisio

Newidiadau i’r gofrestr i gywiro camgymeriad clercyddol

9pm – diwrnod pleidleisio

Darparu manylion treuliau etholiad + 35 diwrnod ar ôl y canlyniad

Page 6: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cymwysterau • Rhaid i ymgeiswyr fodloni meini prawf ar ddiwrnod eu henwebu ac ar y diwrnod pleidleisio:– bod yn 18 oed o leiaf– naill ai fod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd

Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys y Gymanwlad

• Hefyd o leiaf un o’r canlynol:– Etholwr llywodraeth leol cofrestredig ar gyfer ardal

awdurdod lleol– Perchennog neu tenant unrhyw dir neu eiddo yn yr ardal

awdurdod leol yn ystod y 12 mis cyfan cyn enwebu– Prif neu unig le gwaith (gan gynnwys heb gyflog) yn

ystod y 12 mis diwethaf yn yr awdurdod lleol– Wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis

diwethaf

Page 7: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Gwaharddiadau • Ni all person fod yn ymgeisydd os:

– Ydynt wedi’u cyflogi gan yr awdurdod lleol neu’n dal swydd wedi’I thalu yn yr awdurdod (gan gynnwys cyd-bwyllgorau neu bwyllgorau). Gall ymgeiswyr fod wedi’u ‘cyflogi gan yr awdurdod lleol’ os ydynt yn gweithio mewn rhai ysgolion, gwasanaethau tân, gwasanaethau’r heddlu neu iechyd

– Yn destun Gorchymyn Cyfyngiadau Methdaliad (neu orchymyn interim) yng Nghymru neu Lloegr

– Wedi’ch dedfrydu i gyfnod o garchar o dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd wedi’i gohirio) heb ddewis o ddirwy, yn ystod y 5 mlynedd cyn y diwrnod pleidleisio

– Wedi’ch gwahardd yn unol â Deddf Comisiwn Archwilio 1998

– Yn destun gwaharddiad o ganlyniad i’ch cael yn euog o arfer llwgr neu anghyfreithlon gan lys etholiadol

– Yn dal swydd cyfyngedig yn wleidyddol

Page 8: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cyflwyno papurau enwebu

• Rhaid cyflwyno dau bapur pleidleisio gan bob ymgeisydd erbyn 4pm [E-19]:– Y ffurflen enwebu– Y cydsyniad i’r enwebiad

• Hefyd bydd angen i ymgeiswyr dros bleidiau gyflwyno erbyn 4pm [E-19] :– dystysgrif yn awdurdodi defnyddio enw plaid/

disgrifiad cofrestredig ar y papur pleidleisio – cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o

arwyddluniau’r blaid ar y papur pleidleisio (dewisol)

Page 9: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cyflwyno papurau enwebu

• Byddwch yn ofalus wrth gwblhau eich papurau enwebu gan y gall camgymeriadau wneud eich enwebiad yn annilys.

• Cwblhewch eich papurau enwebu yn gynnar a threfnwch i ni ddarparu gwiriad anffurfiol.

• Mae'n rhaid i'r papurau enwebu gael eu danfon yn bersonol

Page 10: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Ffurflen enwebu

• Cynhwyswch eich enw llawn a’ch cyfeiriad cartref

• Dewisol: defnyddiwch y blwch/blychau enwau a ddefnyddir fel arfer os mai dyna ydych chi fel arfer yn cael eich galw yn lle’ch enw llawn a’ch bod eisiau defnyddio’r enw a ddefnyddir fel arfer

• Maes disgrifiad – 3 opsiwn: • ei adael yn wag• Independent ac/neu Annibynnol• gall ymgeiswyr dros blaid ddefnyddio enw’r

blaid neu ddisgrifiad y mae tystysgrif sydd wedi’i chyhoeddi gan neu ar ran y Swyddog Enwebu yn ei awdurdodi

Page 11: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Ffurflen enwebu

• Llofnodwyr: mae angen cael 10 llofnodwr o’r etholaeth.

• Mae’n rhaid iddynt lofnodi a phrintio’u henwau. Cymharwch fanylion y llofnodwyr â’r manylion ar y gofrestr etholiadol.

• Peidiwch â gofyn i’r llofnodwyr lofnodi hyd nes eich bod wedi llenwi’r meysydd enw a disgrifiad ar y ffurflen.

Page 12: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Ffurflen cydsynio i enwebu

Rhaid i’r ffurflen hon gynnwys:

•Enw a chyfeiriad•Pa ardal yr ydych yn sefyll ynddi•Cadarnhau cymhwyster(au) sy’n berthnasol (o leiaf 1, ond dewiswch bob un sy’n berthnasol)•Dyddiad geni a llofnod•Enw, cyfeiriad a llofnod tystion

Page 13: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Tystysgrif awdurdodi

• Mae’n rhaid i ymgeiswyr dros blaid gael caniatâd ysgrifenedig i ddefnyddio enw/disgrifiad y blaid gan y Swyddog Enwebu (neu rywun sydd wedi’i benodi weithredu ar eu rhan)

• Gall y dystysgrif:– ganiatáu defnyddio enw’r blaid neu ddisgrifiad– caniatáu i’r ymgeisydd ddewis p’un a yw am

ddefnyddio enw’r blaid neu unrhyw un o’r disgrifiadau sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Etholiadol

• Rhaid ei chyflwyno gyda’r papurau enwebu eraill erbyn 4pm ar [E-19].

Page 14: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Ffurflen cais am arwyddlun

• Gall ymgeiswyr dros blaid ofyn am gael argraffu arwyddlun ar y papur pleidleisio

• Rhaid cyflwyno ffurflen gais am arwyddlun erbyn 4pm ar [E-19]

• Dylai ymgeiswyr dros blaid gyflenwi fersiwn electronig o’r arwyddlun i’r Swyddog Canlyniadau os oes angen

Page 15: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Ymgeiswyr dros bleidiau ar y cyd

• Wedi’u henwebu gan fwy nag un blaid

• Gallant ddefnyddio cyd-ddisgrifiadau cofrestredig– rhaid cael cefnogaeth tystysgrif awdurdodi

oddi wrth bob plaid

• Gallant ddefnyddio un arwyddlun un o’r pleidiau ond nid oes unrhyw arwyddluniau ar y cyd

Page 16: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Asiant etholiad • Yn gyfrifol am reoli'ch ymgyrch etholiad yn briodol; yn enwedig rheolaeth ariannol.

• Rhaid i hysbysiadau o benodiad gyrraedd y Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm ar - [E-19]. Mae’r ffurflen wedi’i chynnwys yn y pecyn enwebu.

• Byddwch yn dod yn asiant i chi eich hun fel mater o drefn os nad oes asiant wedi’i benodi.

Page 17: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Asiantiaid eraill • Gellir penodi asiantiaid eraill i fod yn bresennol ar eich rhan wrth agor pleidleisiau post, mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y cyfrif:

– Mae'n rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig am unrhyw bobl a benodir yn asiantiaid pleidleisio a chyfrif erbyn [E-5].

– Rhaid penodi’r asiantiaid pleidleisio drwy’r post a fydd yn mynychu sesiwn agor benodol cyn dechrau’r sesiwn. Byddwn yn rhoi rhybudd o 48 awr

Page 18: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestrau pleidleiswyr absennol

• Ar gael i ymgeiswyr – cyn gynted ag y dewch yn ymgeisydd yn swyddogol:– y cynharaf, ar [dyddiad cyhoeddi hysbysiad o

etholiad] os ydych chi neu eraill wedi datgan eich bod yn sefyll fel ymgeisydd ar neu cyn y dyddiad hwn

– ar ôl 30 Mawrth, unwaith y byddwch chi neu eraill wedi datgan eich bod yn sefyll fel ymgeisydd neu eich bod yn cyflwyno eich papurau enwebu, p’un bynnag sydd gyntaf

• Gwnewch gais ysgrifenedig i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol – mae ffurflenni ar gael o’r swyddfa gofrestru wedi eu cynnwys yn eich pecyn enwebu.

Page 19: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cael gweld y gofrestr etholiadol/ rhestrau pleidleiswyr absennol

• Dim ond i ddibenion a ganiateir y cewch ddefnyddio’r data– i lenwi’r ffurflen enwebu– i’ch helpu i ymgyrchu– i wirio bod rhoddion/benthyciadau’n ganiataol

Page 20: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cofrestru • Fel ymgeisydd yr ydych mewn sefyllfa unigryw i annog pobl i gofrestru i bleidleisio.

• Dylech annog pobl i gofrestru cyn gynted â phosibl.

• Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar gyfer yr etholiad yw [rhowch y dyddiad].

• Mae cofrestru wedi newid o system aelwyd i system unigol. Erbyn hyn gall unigolion hefyd gofrestru ar-lein ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd.

Page 21: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cofrestru • Wrth drafod cofrestru i bleidleisio gydag unigolion, bydd angen i chi roi gwybod iddynt y byddant angen:– eu rhif Yswiriant Gwladol,– dyddiad geni a chyfeiriad i gofrestru.

• Gall pobl nad oes ganddynt / na allant gael gafael ar eu Rhif Yswiriant Gwladol barhau i gofrestru, ond efallai y bydd angen iddynt ddarparu gwybodaeth bellach. Os felly, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â nhw.

Page 22: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Pleidleisio absennol

• Os ydych yn annog pobl nad oes ganddynt bleidlais bost (neu ddirprwy) i wneud cais am un, gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro bod rhaid iddynt fod wedi'u cofrestru’n unigol i fod yn gymwys am un.

• Byddant yn cael eu cofrestru yn unigol os: – ydynt wedi gwneud cais i gofrestru ar ôl [10

Mehefin (C & Ll) / 19 Medi (Yr Alban) 2014], neu

– os ydynt wedi eu trosglwyddo i'r cofrestrau newydd oherwydd bod eu manylion wedi cael eu paru â’r cofnodion swyddogol. Byddent wedi derbyn cadarnhad o’r trosglwyddiad hwn yn [nodwch y mis].

Page 23: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Gair i gall wrth ymgyrchu

• Defnyddiwch argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu

• Cydymffurfiwch â'r rheolau cynllunio yn ymwneud â hysbysfyrddau a baneri mawr

• Gwnewch yn siŵr bod posteri awyr agored yn cael eu tynnu i lawr bythefnos ar ôl yr etholiad

• Peidiwch â chynhyrchu deunydd sy'n edrych fel cerdyn pleidleisio

• Peidiwch â thalu i bobl arddangos eich hysbysebion (oni bai eu bod yn arddangos hysbysebion fel rhan o'u busnes arferol).

Page 24: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, ond ni ddylai eu gweithgareddau fwrw amheuaeth ar hygrededd y broses etholiadol •Ceisiadau cofrestru etholiadol a phleidlais absennol:

– Sicrhewch bod ffurflenni yn cydymffurfio'n llawn â gofynion y gyfraith etholiadol

– Cynhwyswch gyfeiriad y Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer dychwelyd ffurflenni

– Sicrhewch bod y ceisiadau heb eu newid yn cael eu hanfon at Swyddog Cofrestru Etholiadol o fewn dau ddiwrnod gwaith

– Gwnewch yn siŵr bod etholwyr yn deall goblygiadau gwneud cais am bleidlais absennol

– Peidiwch ag annog ailgyfeirio pecyn pleidleisio drwy'r post

– Peidiwch ag annog etholwyr i benodi ymgyrchydd fel dirprwy.

Page 25: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr

• Pecynnau pleidleisio drwy'r post:– Peidiwch byth â chyffwrdd papur pleidleisio drwy'r

post – Peidiwch byth ag edrych ar etholwyr yn cwblhau

eu pleidlais drwy'r post – Peidiwch byth â thrin neu gymryd unrhyw bapur

pleidleisio sydd wedi’i gwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post gan bleidleiswyr.

• Ymgyrchu y tu allan i orsafoedd pleidleisio:– Caniateir i chi roi eich negeseuon i bleidleiswyr ar

y diwrnod pleidleisio, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus y tu allan i fannau pleidleisio

– Cadwch y mynediad i fannau pleidleisio a'r palmentydd o amgylch mannau pleidleisio yn glir er mwyn caniatáu i bleidleiswyr fynd i mewn.

Page 26: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Y diwrnod pleidleisio

• Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.

• Bydd y swyddfa ar agor rhwng[x]am a [x]pm ar gyfer ymholiadau neu broblemau sy’n ymwneud â gweinyddu’r etholiad– yn achos ymholiadau sy’n ymwneud â materion

ariannol yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol (dangosir y manylion cyswllt yn ddiweddarach)

• Gall pleidleiswyr sydd yn yr orsaf bleidleisio neu sydd mewn ciw y tu allan i'r orsaf bleidleisio am 10pm wneud cais am bapur pleidleisio.

• Gellir danfon pleidleisiau drwy'r post i orsafoedd pleidleisio yn y ward/dosbarth neu eu danfon i’r swyddfa etholiadol hyd at 10pm.

• Gall person sydd mewn ciw mewn gorsaf bleidleisio am 10pm yn disgwyl i roi ei bleidlais bost i mewn wneud hynny ar ôl 10pm.

Page 27: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cyfrif pleidleisiau

• Cynhelir y cyfrif yn:– [nodwch leoliad/cyfeiriad y ganolfan gyfrif]

• Bydd y ganolfan gyfrif ar agor i asiantiaid ac ymgeiswyr o [X]

• Mae gan ymgeiswyr, asiantiaid etholiad, asiantiaid cyfrif ac un person arall sydd wedi’i benodi gan yr ymgeisydd hawl i fod yno - cyfyngiadau o ran asiantiaid cyfrif : [X]

Page 28: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Materion yn ymwneud â gwariant

Page 29: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Gwariant ymgeiswyr

• Diffinnir gwariant ymgeiswyr fel y treuliau penodol ‘a ddefnyddir at ddiben etholiad yr ymgeisydd’ yn ystod y cyfnod a reoleiddir

• Cyfrifoldeb yr asiant etholiad• Cyfyngiad ar dreuliau:

– £740 +6c am bob etholwr yn y ward/dosbarth ar y gofrestr sydd mewn grym ar [rhowch y dyddiad]

– Wedi lleihau ar gyfer ymgeiswyr ar y cyd• Rhaid cael derbynebau a’u cadw (dros £20)

Page 30: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Manylion gwariant ymgeiswyr

• Mae’n rhaid cyflwyno manylion treuliau 35 diwrnod calendr ar ôl canlyniad yr etholiad

• Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn sicrhau bod y manylion ar gael i’r cyhoedd

• Mae’n bosibl y bydd y Comisiwn Etholiadol yn adolygu sampl o fanylion treuliau

• Mae methu â chyflwyno manylion treuliau'n drosedd y gellir ei gorfodi gan yr heddlu

• Ni ad-delir unrhyw wariant.

Page 31: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cysylltiadau

Page 32: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cysylltiadau • Y swyddfa etholiadau – [nodwch]

• Yr adran briffyrdd – [nodwch]

• Cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol– Am gwestiynau ynglŷn â sefyll am etholiad neu

weinyddiad yr etholiad, cysylltwch â’r Comisiwn ar 029 2034 6800

– Am gwestiynau ynglŷn â chyllid etholiadol, ffoniwch y Comisiwn ar 029 2034 6800

Page 33: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Cwestiynau

Page 34: Briffio ymgeiswyr ac asiantau

Diolch yn fawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â’ch pecyn ymgeisydd gyda chi fel canllaw