17
Bro Ffestiniog a Phorthmadog www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk Calon Eryri

Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Brochure to promote this wonderful area

Citation preview

Page 1: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Bro Ffestiniog aPhorthmadog

www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk

Calon Eryri

Page 2: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Bro Ffestiniog a PhorthmadogCalon Eryri

CYNNWYS1 Cyflwyniad

3 Llechwedd

4 Rheilffordd Ffestiniog

5 Portmeirion

6 Atyniadau lleol eraill

7 Tro mynydd

8 Tro yn y goedwig

9 Tro arfordirol

10 Beicio a gweithgareddau eraill

11 Trefi a Pentrefi

12 Bwyd a diod

13 Aros yma

14 Cyrraedd a teithio o gwmpas

15 Y tymhorau gwahanol

Lluniau - © Hawlfraint (2010) Croeso Cymru

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 3: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Calon Eryri

Yng nghanol Eryri dyma galon y parc cenedlaethol. Mynyddoedd garw ar dair

ochr a thraeth tywodlyd ar hyd yr arfordir.

Llechi o Flaenau oedd technoleg ddiweddaraf toi ysgafn – yn aur llwyd. Am

flynyddoedd byddai’r pynfeirch yn eu cludo i lawer i’r ceiau ar Afon Dwyryd a

byddai’r cychod rhwyfo’n mynd â nhw allan ar y llanw heibio i Bortmeirion i’r

llongau oedd yn eu disgwyl allan ar y môr.

Ar y mynydd mae tysteb i ddyfeisgarwch y Fictoriaid. Er cymaint eu

tebygrwydd i lethrau sgïo enfawr, gwelyau parau o dramffyrdd yw’r rhain:

byddai pwysau’r wagen yn mynd i lawr yn tynnu’r un wag yn ôl i fyny. Roedden

nhw’n cysylltu â Rheilffordd Ffestiniog a agorodd yn 1836 fel trên disgyrchiant

gyda cheffylau’n tynnu’r wagenni gwag yn ôl i Flaenau.

Mae milltir olaf y rheilffordd yn rhedeg ar hyd y Cob, sef arglawdd a

adeiladwyd gan William Madocks i ddal y môr yn ôl. Sgil ddatblygiadau

naturiol i hyn oedd y porthladd dŵr dwfn ar y pen gogleddol, sef Maddock’s

Port a drodd yn Borthmadog, lle mae cychod a badau hwylio bellach yn angori.

Yn y 1860au cafodd y rheilffordd ei moderneiddio ac erbyn hyn mae’n lle

poblogaidd i ymlacio neu gael hwyl: mae’n ardal hyfryd i gerdded ac yn cynnig

poeth o droeon yn yr ucheldir a golygfeydd i’r pellter i grwydro’n hamddenol ar

y traeth wrth i’r haul suddo y tu ôl i gastell i’r môr.

Llan Ffestiniog oedd yr anheddiad gwreiddiol, mae’n mynd yn ôl i’n dyddiau

cynnar ac mae ganddo wreiddiau hir yn ein hanes; Blaenau Ffestiniog yw’r

dref fodern a adeiladwyd pan oedd y diwydiant llechi ar ei anterth.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 4: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

ymlaen - Bro Ffestiniog a PhorthmadogCalon Eryri

Hanner ffordd i lawr y Dyffryn ceir Plas Tan-y-bwlch – cyn-gartref Teulu

Oakley oedd yn berchen ar y chwarel fwyaf ond mae’r plas bellach yn

ganolfan astudio yn nwylo’r parc cenedlaethol. Mae’n cynnig amrywiaeth

o gyrsiau o wylio adar i gasglu (a ffrio!) madarch gwyllt.

Mae rhyw hud breuddwydiol ond cyfarwydd i dirwedd Eryri, o bosibl gan mai

dyma leoliad cymaint o ffilmiau megis First Knight a Clash of the Titans sydd

newydd ei rhyddhau. Mae’n edrych fel tirwedd o’r oes a fu, pan oedd yn dal

heb ei hanharddu gan ddyn. Mae yma le i enaid gael llonydd ac i anadlu awyr

sydd newydd chwythu 3,000 o filltiroedd i groesi Môr Iwerydd.

Cododd y Rhufeiniaid gaer yn Nhrawsfynydd ac mae un o’r cerrig gwreiddiol,

sy’n nodi bod milwyr Marcus wedi gorffen adeiladu eu rhan nhw o’r waliau,

bellach i’w gweld yng nghilbost y dafarn ym Maentwrog. ‘Rwy’n mynd i

wneud ychydig o archaeoleg nawr!’

Mae’n boblogaidd iawn fel cyrchfan ers llawer dydd. Dyddiadur yr Arglwydd

Lyttleton ym 1776 ....’Ddigwyddodd dim byd diddorol ar ein taith, nes

inni gyrraedd Ffestiniog, sydd â’r Fro bertaf a welwyd gennym i gyd .....

gyda’r wraig rydych chi’n ymserchu ynddi, eich ffrindiau mynwesol, a

chasgliad da o lyfrau, gallech fyw yma am oes, heb deimlo fel nad

wy mwy na diwrnod wedi pasio.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 5: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Llechwedd

Fel parc thema ond yn fywyd go iawn, yn fwy cyffrous, llawn ysbrydantur ac arloesed. Nid amgueddfa ‘mo hon, dyma lle y byddaiein cydeidiau’n clocio i mewn ar gyfer eu gwaith a chewch weldenghreifftiau o’u hamgylchiadau gwaith, y mathau o swyddi y byddennhw’n eu gwneud a’r heriau peirianegol oedd yn eu hwynebu. Mae’nchwarel fyw sy’n dal i gynhyrchu cynhyrchion llechi hyd heddiw, er maidim ond ychydig a gyflogir o gymharu â’r dyddiau a fu, ac mae iechyda diogelwch yn bwysig iawn a does dim rhaid gweithio 6 diwrnodyr wythnos neu 12 awr y dydd!

Os ewch i mewn i’r ogofâu yn Llechwedd fe ewch i mewn i fyd tywyll ymwynwyr a chewch ddewis dilyn taith trwy’r pwll dwfn neu ddal y trênbach a dilyn tramffordd y mwynwyr ar hyd y lefel. Beth oedden nhw’nei wneud i lawr yno drwy’r dydd? Ble roedden nhw’n bwyta? Oeddennhw wir yn canu? Wedi dod yn ôl i wyneb y ddaear cewch weldarddangosfeydd o hollti a thrimio llechi i’r maint iawn cyn eu rhoi yn ywagenni llechi a’u cludo i lawr y rhiw i Reilffordd Ffestiniog ac i’r byd.

Gallwch weld ‘car gwyllt’, y ffordd fwyaf eithaf o deithio i lawr mynydd,a chlywed fel y defnyddiwyd cloddfa gyfagos i storio cynnwys yr OrielGenedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn fwy diweddar, mae tri phâr ofrain coesgoch wedi dechrau nythu yn Llechwedd.

Wrth gerdded drwy’r Pentref Fictorianaidd cewch gyfle i gyfnewid eicharian, nid am Euro ond yn ôl mewn amser, ar gyfradd gyfnewid o£2-40 i ddarn chwecheiniog. Cewch lawer am ddarn chwech yn siopda-da Ffestin, a’i silffoedd yn llawn jariau gwydr o losin berwitraddodiadol, a gallwch dorri eich syched wrth far y Miners Arms.

Boed law neu hindda dyma atyniad i bob tywydd – cyfle i’r henhel atgofion a hwyl ac addysg i’r ifanc.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 6: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Rheilffordd Ffestiniog

Hon sy’n clymu popeth ynghyd – y rheilffordd fu gynt yn cario llechi i lawr

o’r mynydd ond bellach yn cario pobl yn gyfforddus. Nid unrhyw hen

reilffordd dreftadaeth ‘mo hon ond, ynghyd â’r Rheilffordd Ucheldir Cymru,

yr hwyaf a’r un sy’n brolio’r golygfeydd mwyaf ysblennydd. Ymwelwch â

Llechwedd hefyd er mwyn dod â’r chwyldro diwydiannol yn fyw mewn

ffordd sy’n eich ysbrydoli heb ramantu dim.

Dyma beth ysgrifennodd un fam mewn llyfr ymwelwyr: ‘..... does dim un

ohonom eisiau mynd adref. Mae’r trenau’n bleser go iawn – yn sydyn

roedd fy mab 3 oed a’m gwr 40 oed yr un oedran!’

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn dyheu am gefn gwlad a’r awyr agored ond gall

fod yn anodd cyrraedd yno weithiau - gyda’r rheilffordd gallwch fynd â phlant

bach, perthnasau hŷn neu goes glec i bob math o lefydd i weld y golygfeydd.

Dyma gadair freichiau symudol â ffenestr dros dirwedd Eryri ynghyd â

gwasanaeth car bwyd heb i chi orfod symud o’ch sedd.

I gerddwyr mae’r daith ar y trenau’n ehangu’r gorwelion ar gyfer teithiau hirach.

O’r orsaf yn Nhanygrisiau, dros gopaon y Moelwyn ac yna ddal y trên yn

Nhan-y-bwlch. Cadwch lygad yn agored am y geifr gwyllt. Ac am y canon cerrig!

I’r rhai llai egnïol mae taith i’r Dduallt i weld unig ddolen reilffordd Prydain , ac

yna i lawr y llethrau wrth ymyl y rheilffordd drwy Goed y Bleiddiau - ydy hi’n

wir mai fan hyn y saethwyd y blaidd olaf yng Nghymru? A arhosodd yr Arglwydd

Haw-Haw yn y bwthyn hwn? Ac ymlaen i dafarn ym Maentwrog neu i gaffi

yn Nhan-y-bwlch.

Mae’r rheilffordd yn dod â phobl o bob oed a galwedigaeth ynghyd. O ran y gwasanaeth,

gwirfoddolwyr ymroddedig wedi derbyn yr hyfforddiant mwyaf - chlywch chi ddim ‘mwynhewch

eich diwrnod’ difflach yma ond ymrwymiad go iawn i’r gwaith.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 7: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Portmeirion

Os yw’r Eryri’n fyd gwahanol, mae hynny’n sicr yn wir am Bortmeirion, gyda’i

lliwiau pastel llon yn cyferbynnu â’r creigiau garw a llanw a thrai’r môr dros y

traethau maith. I lawr dyma fan cysegredig i’r gyfres teledu The Prisoner,

sy’n dal yn enwog ddeugain mlynedd ar ôl y bennod olaf. Mae’r cotiau ysgafn

ag ymylon gwyn, fel rhai Patrick McGoohan, ar werth yn Rhif 6!

Mae cerdded yn araf o gwmpas y llu o lwybrau troed a’r pentref fel bod

ar daith ddarganfod, mae pethau rhyfedd a diddorol ym mhob man.

Strwythurau a wnaed gan ddyn yn gwthio allan o’r cerrig neu wedi’u

hadeiladu o gwmpas boncyffion a gwreiddiau coed - er eu bod mor

od mae’r cyfan yn cydweddu â’i gilydd.

Mae sŵn yn teithio’n bell ar draws dyfroedd gwastad yr aber a sŵn

y tonnau’n torri’n cario’n bell ar yr awel o’r gorllewin. Mae’r planhigion

toreithiog, trofannol bron, ar hyd y llain arfordirol hon yn tystio i effaith

dwymo Llif y Gwlff – coctels a phalmwydd ar noson dwym o haf a

sŵn ceiliogod y rhedyn yn canu ac arogl ffres y môr.

Bydd llawer o bobl yn dewis priodi ym Mhortmeirion ac mae’n lle gwych

am wyliau bach beth bynnag yw’r achlysur. Yn ogystal â gwestyau crand,

mae digonedd o ddewisiadau hunanarlwyo, neu gallwch ymweld ar daith

ddiwrnod - dim ond yn filltir ar droed o Reilffordd Ffestiniog neu daith bws

o Borthmadog. Os ydych ar hast, gallwch ddefnyddio’r hofrenfa.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 8: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Atyniadau lleol eraill

Mae ansawdd ein pysgota’n enwog ar hyd y lle ac ers 2004 rydym wedi gwylio

gweilch y pysgod yn plymio ar gyflymder o 50 milltir yr awr i’r dŵr i ddala

brithyllod a hyrddiaid i fwydo eu cywion. Yn ogystal â gwe-gamerâu a theles-

gopau pwerus mae tywyswyr brwdfrydig yr RSPB yno i’ch pwyntio i’r cyfeiriad

iawn - maen nhw’n arbennig iawn gan mai nhw yw’r unig bâr o weilch y pysgod

sy’n bridio yng Nghymru. Y gobaith yw y byddan nhw’n ffurfio cnewyllyn cytref

ac mae nythod artiffisial wedi eu hadeiladu i annog rhai newydd i ddod.

Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru’n teithio o Gaernarfon drwy Feddgelert ac

yn dod i’w therfyn ger nyth gweilch y pysgod ac mae’r gyrwyr yn ymatal rhag

ymarfer eu brwdfrydedd i chwythu’r chwiban er mwyn osgoi amharu ar yr adar

ar eu nyth. Yn 2011 dylai’r rhan olaf o’r lein i Borthmadog gael ei hagor.

Rheilffordd arall sydd ag enw tebyg yw Rheilffordd Dreftadaeth UcheldirCymru, gerllaw gorsaf y brif linell ym Mhorthmadog. Er nad yw ei thrac yn

hir iawn mae’n gwneud yn iawn am hyn fel atyniad etifeddiaeth (y car bwffe

lled gul cyntaf yn y byd) a thrwy gynnig llawer iawn o adloniant

gwerth yr arian i deulu.

Y naill ochr i’r traethau y mae Castell Harlech a

adeiladwyd gan y Saeson a Chricieth gan y Cymry. I’r

rhai mae’n well ganddyn nhw hanes ychydig yn hŷn,

mae tomen a beili Normanaidd a adeiladwyd ar ben y

gaer Rufeinig, Tomen y Mur, ychydig y tu allan i bentref

Trawsfynydd a gerllaw mae Bryn Cader Faner, fath o

gôr y cewri bach ond gyda golygfeydd gwell.

Yng nghanolfan etifeddiaeth Llys Ednowain yng nghanol Trawsfynydd mae arddangosfa

ddeniadol am y merthyr St. John Roberts a’r bardd Hedd Wynn – dau arwr lleol.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Llun Hawfraint © Andy Rouse

Page 9: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Tro Mynydd

Ym mis Ebrill bob blwyddyn bydd rhedwyr yn cystadlu yn Ras y Moelwyn, rasdros y copaon. 10 ½ milltir yn codi i 2,800 troedfedd o uchder, mae’r enillyddfel arfer yn cymryd rhyw 80 munud - ond gan mai cerdded rydym ni’n bwriaduei wneud, cawn ni hepgor y dechrau a chymryd y diwrnod cyfan.

O’r caffi yn Nhanygrisiau dilynwch y llwybr i Gwmorthin, cwm rhewlifolserthochrog. I’r dde mae’r chwarel y galwai’r chwarelwyr ‘y Lladd-dy’ arni. I’rchwith mae llwybr hen dramffordd wrth ochr y llyn a barics y chwarelwyr a hengapel adfeiliedig a fu’n fawreddog ar un adeg yn edrych drosto. Mae’n rhaid bodrhyw ddewiniaeth yma oherwydd dim ond ers 30 munud rydych yn cerddedond rydych chi bellach mewn arallfyd.

Mae’r llwybr yn dringo i ragor o gloddfeydd a chroesffordd. I’r dde maeyna lynnoedd llawn brithyll brown a’r Cnicht, a elwir weithiau yn ‘MatterhornCymru’. Yn syth ymlaen ac i lawr y llwybr mae pentref Croesor gyda’igaffi ac oriel gymunedol. Neu trowch i’r chwith ac i fyny i’r MoelwynMawr, yr uchaf o’r copaon ar 770m.

Cewch olygfeydd anferth gyda’r Wyddfa’n ymddangosyn agos i’r gogledd, a Chadair Idris i’r de a’r arfordiryn llenwi’r gorwel.

Disgynnwch i esgair arw Craig Ysgafn sy’n edrych dros argae uchaf pwerdyhydro-electrig storfa bwmp gyntaf Prydain. Ar adegau o alw mawr am drydan,tynnir yplwgabyddydŵr yn rasio i lawrdrwy’r tyrbinau i’r llynynNhanygrisiau.

Ymlaen i gopa’r Moelwyn Bach lle y cewch olygfa wych dros Fro Ffestiniog, y trenau ager bach yncroesi’r Cob i Borthmadog a milltiroedd o draeth tywodlyd gerllaw’r cestyll yng Nghricieth a Harlech.

Wrth gerdded ar hyd wal yr argae mae’n teimlo fel amffitheatr cawr - fyddai Barnes Wallisbyth yn cael ei fomiau i mewn fan hyn!

Mae Ras y Moelwyn yn mynd i fyny dros Foel yr Hydd ond os ydych chi’n dechrau blino,mae’r llwybr i lawr ffordd y peirianwyr yn ddigon hawdd ac mae’n dod â chi yn ôl i’r man cychwyn.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 10: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Tro coedwig

Hanner ffordd i lawr y Cwm, rhwng Plas Tan-y-bwlch a’r rheilffordd y maeLlyn Mair sydd wedi’i amgylchynu gan goetir derw â llwybrau troed hawddtrwyddo. Mae’r cerdded yn hawdd iawn ac yn hwylus i bawb ond etoheb fod mor brysur fel ei fod yn tarfu ar yr heddwch.

Lle da i ddechrau a gorffen taith gylch yw’r caffi ger yr orsaf, lle mae’rtrenau’n dod i lawr yn cyfarfod â’r rhai’n dod i fyny.

Dilynwch yr arwyddion i lawr y bryn – ar hyd y ffordd mae yna gerfluniau ac arddangosfeydd yn esbonio prinder a phwysigrwydd y coetir, sut ydefnyddiwyd y derw i wneud llongau ac i wneud pyst cnotiog ffensys a fyddyn para am byth. 3 thrawstoriad o foncyff, pob un â throed o faint gwahanolwedi’i gosod yn y top, yn dangos oed cymharol pob coeden - ondpeidiwch â phoeni, nid yw’n ddim i ymwneud â’r 3 arth.

Croeswch y ffordd gul i mewn i’r safle picnic lle bydd hwyaid yn aros amdameidiau o dan belen fawr o hadau dant y llew. Dilynwch y llwybrau ynwrthglocwedd o gwmpas y llyn – trowch i’r chwith bob tro a byddwchchi’n iawn! Ar y pen pellaf mae’r dŵr yn llifo i’r pwll melin a fyddaiar un adeg yn rhoi pŵer i’r felin flawd, y felin a melin lifo a’r tyrbinoedd yn cynhyrchu trydan i’r Plas.

Mae llygod pengrwn, llwynogod a 9 math o ystlum yn byw yma a nifer oadroddiadau heb eu cadarnhau o beled. Mae’r gwanwyn a’r haf yn amser da iweld a chlywed gwybedogion brith, tingochion a theloriaid y coed. Maegweilch Marthin, troellwyr mawr a gweilch y pysgod hefyd yn ymweld.Wrth fynd o gwmpas byddwch chi’n gweld llawer o droadau – mae drysfa odeithiau cerdded wrth ochr y rheilffordd ac i lawr trwy’r coed i’r Plas neu’rtafarndai ym Maentwrog. Mae taflenni ar gael o Reilffordd Ffestiniog (yngNgorsaf Tan-y-bwlch, Porthmadog a’r Blaenau) ac o’r Canolfannau Croeso.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 11: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Tro arfordir

O’r bont ym Mhorthmadog dilynwch ymyl y cei. Os ydych yn lwcus efallai ygwelwch chi ddyfrast yn dysgu ei chenawon i ddal crancod – cymaint ynhaws ar gyfer hyfforddi na physgod cyflym.

Dyma ddechrau llwybr arfordirol Llŷn ond nid oes rhaid i chi fynd 84 milltir!Y tu ôl i'r clwb iotiau heibio iardiau cychod prysur ac ymlaen drosfryn bach gyda thai crand ac i mewn i Borth y Gest.

Mae’n anodd dychmygu’r pentref hwn fel y bu gynt, yn llawn seiri llongaua seiri coed. Pan fydd y llanw'n cilio a’r cychod yn gwyro ar eu hochrau,daw piod môr i brocio â’u pigau, yn chwilota am gocos.

Mae meinciau ar lan y cei, yn ymyl y maes parcio rhad ac am ddim a’rtoiledau glân, yn help i sadio ysbienddrychau wrth i chi edrych ar ycyfoeth o adar sy'n elwa ar y traeth draw i Bortmeirion.

Ewch ymlaen heibio'r gaer danddaearol sy'n sefyll fel gwyliwr dros y bae.Mae’r cerhyntau’n gwibio heibio gyda seibiant byr pan fydd y llanw’ntroi - mae’r bobl leol yn eu cychod hirion Celtaidd pedwar â llywiwr, yngwybod i amseru eu teithiau'n gywir wrth iddynt hyfforddi ar gyfer regatas.

Gallwch adael y llwybr unrhyw bryd a disgyn i lawr i’r cildraethau a’r traethaucysylltiedig sydd wedi'u hynysu gan greigiau pan fydd y llanw’n uchel.Bydd llawer o’r bobl leol yn mwynhau Dywedir bod gwichiaid yndda ond maen nhw’n edrych yn rhy debyg i falwod.

Ar draws yr aber mae Castell Harlech yw’r patrwm i ddarpar adeiladwyrcestyll. Mae’n lle ysbrydoledig i'w archwilio, i chwarae ynddoneu ddal draenogyn môr – popeth sydd orau am draethau achildraethau heb y torfeydd.

Taith ddychwelyd mewn llai na 3 milltir neu o faes parcio Borth y Gestmewn milltir yn unig - cewch chi fynd mor bell neu mor agos ag yr hoffechchi gyda seibiant mewn caffi yn edrych dros y naill borthladd neu’r llall.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 12: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Beicio a gweithgareddau eraill

Both i feicwyr yn y triongl o lwybrau yng Nghoed y Brenin, Betws y Coed aPhenmachno. Lonydd tawel a llwybrau golygfaol ar garreg ein drws gyda chyn-lluniau cyffrous am feicio i lawr y bryn uwchben Blaenau a llwybrau teuluol ogwmpas Llyn Tanygrisiau.

Mae traeth Harlech yn ddiddiwedd - golygfeydd o’r Wyddfa yn y pellter, am-bell i ddolffin, madfallod y tywod prin a chyfrinachgar yn y twyni. Mae cil-draethau tywodlyd Borth y Gest yn ymuno â Thraeth y Garreg Ddu, sy’nboblogaidd gyda sgiwyr jet ar un pen a theuluoedd ar y pen arall - mae gallugyrru ar filltiroedd o draeth yn fantais pan fydd llawer i'w gario.

Y tu ôl i'r twyni yn Harlech mae Royal St Davids, sy’n rhif 73 yn rhestr y GolfDigest o’r Can Cwrs Gorau y tu allan i’r UDA. Mae 14eg twll Porthmadog, syddger y traeth ac sydd â’r enw ’Yr Himalayas', yn annhebygol o gael ei anghofio.Ar gyfer golygfeydd a golff anwastad mae Llan Ffestiniog yn edrych ilawr ar y Dyffryn - efallai cewch chi’r cwrs i chi’ch hunan ar wahân iychydig o ddefaid a sŵn yr ehedydd.

Dringo creigiau ar y clogwyni sy’n wynebu’r de uwchben Tanygrisiau. Milltiroedd di-ri’ o geuffyrdd amwyngloddiau tanddaearol. Os am eu harchwilio,mae tywysydd a het galed yn ddefnyddiol.

Mae caiacio a chanŵio’n boblogaidd gyd thaith badloglasurol o’r porthladd ym Mhorth y Gest at y bont ymMaentwrog ac yn ôl wrth i’r llanw gilio, yn ôl y rhwyfwyrhynafol a aeth â llechi allan i’r llongau ar y môr.

Mae’r pysgota’n wych. Brithyll brown gwyllt mewn llynnoedd yn y mynyddoedd hyd at 2,000troedfedd (y llynnoedd, nid y pysgod!) Llyn Trawsfynydd, lleoliad cystadlaethau rhyngwladol gydachychod i’w llogi. Llynnoedd yn byrlymu â brithyll seithliw. Samwn a sewin yn rasio i fyny’r afonydd,mecryll a draenogiaid y môr oddi ar yr arfordir gyda digonedd o grancod yn yr harbwr. Hefyd mae cwrspysgota â phlu poblogaidd iawn ym Mhlas Tan y Bwlch.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 13: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Trefi a phentrefi

Heb ots nac oni bai adeiladwyd Blaenau Ffestiniog ar y diwydiant llechi ac

mae chwyth achlysurol seiren yn eich atgoffa o hynny. Mae’r etifeddiaeth

fwyngloddio gadarn hon yn ysbrydoli pobl mewn llawer ffordd - yn gartref i

gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2 gôr meibion a seindorf arian.

Wedi’i hamgylchynu gan borfeydd a choetir derw mae naws gwledig i LanFfestiniog.Mae’r golygfeydd a gewch oddi yno i lawr y cwm i’r arfordir

yn rhagorol. Pan gaewyd tafarn y pentref a’i rhoi ar werth daeth y gymuned

ynghyd a’i phrynu fel cwmni cydweithredol er mwy ei chadw yn

ganolfan i fywyd y pentref.

Saif Trawsfynydd ar hen groesffordd y llwybr oes efydd o Iwerddon i Gôr y

Cewri a’r ffordd Rufeinig yn cysylltu eu caerau. Mae’r llyn, sef yr un mwyaf yng

Nghymru yn ôl arwynebedd, yn cynhyrchu trydan hydro-electrig ac roedd yn

arfer oeri adweithyddion yr atomfa a gaeodd ym 1991.

AdeiladwydMaentwrog, a enwyd yn ôl y chwedl ar ôl y maen a daflwyd gan

y cawr Twrog, ar gyfer ystâd Tan-y-Bwlch ac mae’r pentref i’w weld yn glir o’r

plas - gofynnwyd i’r trigolion beidio â rhoi eu dillad i sychu ar y lein ar ddydd

Llun rhag sbwylio’r olygfa i westeion a ddaeth am y penwythnos.

Penrhyndeudraeth yw cartref y Gwaith Powdwr lle y gwnaed 17 miliwn o grenadau!

Erbyn hyn mae’n warchodfa natur hawdd mynd iddi ac mae sied y pendil balistig yn lle

da i wylio adar fel troellwyr mawr.

Mae Porthmadog yn bentref glan môr byrlymus llawn cymeriad a phethau

i’w darganfod. I selogion rheilffyrdd treftadaeth prin bod unman gwell na’r

gyffordd hon – lle mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Cob yn lle poblogaidd i

wylio adar, pwy a yr efallai y gwelwch chi walch y pysgod yn dal hyrddyn

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 14: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Bwyd a diod

Bydd llysieuwyr am fynd heibio’r paragraff hwn. Ar y mynyddoedd gwelwchŵyn yn pori ym mhob man a bustych eidion Duon Cymreig - mor flasus, ynaeddfedu’n araf ar gyflymder naturiol. Yn un o fwydydd arbennig yr ardal ywcig oen y morfeydd heli. Mae’rŵyn yn pori ar y morfeydd wrth ochr y foryd, acyn cael ymborth llawn lafant y môr, corn-carw’r môr a chlustog Fair. Os ‘maidefaid yw’r hyn mae defaid yn ei fwyta’ does dim rhyfedd ei fod mor flasus.Nid yn unig yn crwydro’n rhydd ond yn crwydro’n rhydd ger y môr - awyriach ac ymarfer corff pob llanw a thrai.

Tafarndai’r goets fawr ym Maentwrog - mae mor hawdd dychmygu’r ceffylau’ncael eu ffrwyno neu eu harwain i’r stablau. Y dafarn yn Llan Ffestiniog, abrynwyd gan gwmni cydweithredol dan arweinyddiaeth Mel Goch: ‘Mae tafarnyma ers 1726, yn fan yfed pwysig i’r porthmyn cyn croesi’r gweunydd.’A dyma lle roedd y criw yn ffilmio fersiwn Roman Polanski o Macbeth ynmwynhau peint neu ddau. Dark Side of the Moose a chwrw arbennigyr hydref, Bog Myrtle Stout, yw dau o gyrfau poblogaiddbragdy’r Mŵs Piws ym Mhorthmadog.

Mae caffis stryd yn y Blaenau a Phorthmadog yn fannau gwych i wylio pobl.Caffis yn Nhanygrisiau a Than-y-Bwlch yw’r lleoedd delfrydol i gerddwyr gaelhoe o’r cerdded. Hufen iâ Cadwallader neu bysgod a sglodion ar fainc ger yrharbwr. Macrell ffres wedi’i ddal a’i goginio ar y traeth.

Mae cyw iâr bocs mwg yn fwyd arbennig ar y rheilffordd –y cyw iâr a thatwspob eu lapio dair gwaith mewn ffoil a’u coginio yn y bocs mwg ar flaen yrinjan. Ychydig o siyntio a 13 milltir yn ddiweddarach, gyda thun o grefi, mae’nwledd i’r gyrwyr. Nid yw hynny ar y fwydlen ond mae ‘brecwast ar raw’ taniwrar gael yn Rheilffordd Dreftadaeth Ucheldir Cymru.

Mae rhywbeth at bob dant ond os ydych yn gwneud cinio pecyn yn yBlaenau mae’r siop fara’n gwneud ‘pastai Cwrdaidd’ arbennig.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 15: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Ble i aros

O fewn Bro Ffestiniog a Phorthmadog mae dewis eang, o lety mewn

hostel am £19 y noson, gyda lle i gadw beiciau’n ddiogel, i wely a

brecwast mewn swît penty ym Mhortmeirion am £300 – gan gymryd parcio

diogel ar gyfer Bentley yn ganiataol.

Mae’ golygfeydd yn wych ym mhobman ac mae’r lleoedd yn llawn

cymeriad, nid wedi’i arosod ond cymeriad go iawn. Tŷ capten môr neu

fwthyn cychwr ym mhentref adeiladu llongau Borth y Gest. Bwthyn

wrth ymyl y cei yn edrych dros harbwr Porthmadog gyda'r Wyddfa,

y Cnicht a’r Moelwynion yn y pellter. Bwthyn chwarelwr yn

Ffestiniog yn edrych i lawr y cwm ar fachlud yr haul.

Gwesty cefn gwlad crand gyda wal ddringo yn y seler – yn boblogaidd

gyda grwpiau fel gweithgaredd ar ôl cinio. Arhoswch yn ysguboriau wedi’u

trosi plasty 500 mlwydd oed, ar lethrau’r Moelwyn Bach, gyda phlatfform

preifat i ddal y trenau stêm sy’n mynd heibio. Gwely a brecwast islaw’r

clogwyni yn Nhanygrisiau gyda theithiau cerdded a dringfeydd yn dechrau

ar garreg y drws a sawna i hwyluso’ch adferiad gyda’r nos.

Hen dafarndai'r coetsis mawr, heb y stablau, yn anffodus, ond

cysylltiad gyda’r gorffennol a lle da i gwrdd â’r bobl leol. Neu babell

wedi’i chodi ar lan yr afon – cyfle gwych i wylio ein bywyd gwyllt a

gweld y sêr gwib rhyfeddol, mor hawdd eu gweld: heb lygredd golau, mae’r

nos yma yn wirioneddol dywyll.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 16: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Cyrraedd a teithio o gwmpas

Mae gan Fro Ffestiniog a Phorthmadog bopeth sy’n dda a diddorol am gyrch-fannau tramor. Cewch holl gyffro teithio ond heb ddim o’r ffwdan - maecyrraedd yma’n rhan o’r hwyl.

Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn dod â phobl trwy’r Canolbarth i Aberdyfi acyna i fyny’r arfordir mor bell â Phwllheli gan gysylltu â Rheilffordd Ffestiniogym Minffordd a Phorthmadog. Daw mapiau darluniadol â’r golygfeydd o’r trênyn fyw a phan fydd tymor yr haf ar ei anterth bydd gwasanaeth ager fel arferyn gweithio ar hyd y darn arfordirol.

O Landudno ar arfordir y gogledd mae llinell Dyffryn Conwy’n mynd trwydref farchnad Llanrwst, i Fetws y Coed a Dolwyddelan, gyda golygfa drawam gastell Llywelyn Fawr, ac wedyn trwy dwnnel 2 filltir o hyd yn dodallan o dan Lechwedd i gysylltu â Rheilffordd Ffestiniog.

Efallai bydd fforwyr dewrach am gyrraedd mewn caiac ar yr arfordirneu'n cario sach deithio a phabell wrth gerdded Ffordd y Cambrianneu weithio tuag at Wobrau Dug Caeredin.

Yn y car, mae’n well yng ngolau dydd – mae’n gwella po agosaf yr ewch chi.Mae cloddiau’n troi’n waliau cerrig, bryniau’n troi’n fynyddoedd creigiog ac ynsydyn reit daw’r arfordir i’r golwg. Efallai ein bod yn anghysbell ond mae prifwythiennau'r A5 a’r A55 yn rhedeg yn agos – 2 awr yn unig o Fanceinion acychydig ymhellach o Firmingham.

Unwaith i chi gyrraedd yma rydych chi o fewn both effeithiol iawn odrafnidiaeth gyhoeddus – efallai nad oes yma amlder amserlen drefol onddim ond i chi gynllunio, dyma ffordd effeithiol o fynd o gwmpas. Mae cerddedyn gweithio’n dda o’i gyfuno â’r rheilffyrdd a cheir disgrifiadau o lawer odeithiau cerdded rhwng gorsafoedd mewn llyfrau a thaflenni. Mae trenau abysiau, gyda Thocyn Crwydro Gogledd Cymru, yn ffyrdd gwych o gyrraeddcanolfannau poblogaidd prysur heb lygredd ceir a ffwdan parcio.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk

Page 17: Bro Ffestiniog a Phorthmadog

Y tymhorau gwahanol

Mae’n lle gwahanol i bobl wahanol ar adegau gwahanol ond mae trwy gydol yflwyddyn - mae’r gymuned yn bwrw ymlaen â’i busnes ac yn croesawuymwelwyr waeth beth yw’r tymor. Bydd y myfyrwyr yn mynd ac yn dod ymMhlas Tan y Bwlch wrth i’r cyrsiau newid gyda'r tymhorau. Mae’r cestyll,Llechwedd a Phortmeirion ar agor ac mae’r trenau ager yn rhedeg, er yn llaiaml. Fodd bynnag mae gwalch y pysgod yn hoffi’r hindda, yn cilio iAffrica yn ystod ein gaeaf!

GwanwynBydd gwybedogion brith yn hedfan draw o Affrica fel bod eu cywionyn deor pan fydd argaeledd lindys yn bwydo ar ddail tyner ifanc y derwar ei orau. Byddŵyn bach yn poenydio eu mamau ac yn rasio o gwmpasmewn gangiau. Bydd clychau’r gog yn ffrwydro i’w blodeuo. Bob manyr edrychwch chi mae lliw a gobaith.

HafMae traethau ar eu gorau yn ystod dyddiau hir yr haf ac os byddwn yn ffoduscaiff y macrell eu cwrso i mewn gan y dolffiniaid. Mae hyd at wyth trên ynrhedeg ar hyd Rheilffordd Ffestiniog. Mae ffermwyr a’u cŵn yn casglupreiddiau o ddefaid o’r mynyddoedd i’w cneifio. Bydd llus gwyllt yn y coed a’rmynyddoedd ar eu hanterth ym mis Awst a gweilch y pysgod yn troi tua’r de.

HydrefBydd y grug yn blodeuo, a’r geifr gwyllt yn rhodio ar fynyddoeddMoelwyn. Bydd gwiwerod a sgrechod y coed yn storio bwyd ar gyfery gaeaf. Bydd y dail yn dechrau newid eu lliw. Bydd siantrelau amadarch gwyllt blasus eraill ar eu gorau.

GaeafYn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn debycach i ‘Val de ‘Stiniog’, gyda cherddwyryn gwisgo sgïau a chramponau i symud o gwmpas y wlad hud aeafol. Bydd bywyd gwyllt a natur ynadlenwi eu batris. Amser da ar gyfer fforio tawel gyda swper ar ddiwedd y dydd o flaen tân coed.Plant wedi’u swyno ar drenau arbennig Siôn Corn ar Reilffordd Llechwedd a Ffestiniog.

calon Eryri >>

www.dyff.co.uk www.porthmadog.co.uk