Upload
rural-caerphilly
View
242
Download
9
Embed Size (px)
DESCRIPTION
LLYFRYN BWYD A DIOD CAERFFILI - cynnyrch llafur cariad! Gan rannu ein brwdfrydedd dros fwyd a diod lleol, mae’r llyfryn hwn yn gydweithrediad rhwng cynhyrchwyr lleol a Chynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili. Mae’n gyfle i ddathlu’r cynnyrch bendigedig sydd i’w gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn y llyfryn hwn, mae rhestr o’r cynhyrchwyr, y manwerthwyr a’r marchnadoedd sy’n tyfu, cynhyrchu a gwerthu cynnyrch lleol yma yng Nghaerffili. Os mai bwyd sy’n mynd â’ch bryd, mae yma ambell awgrym am weithgareddau addas sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn hefyd! Mae’n cynhyrchwyr wrth eu bodd yn rhannu eu brwdfrydedd am eu cynnyrch ac yn y llyfryn mae proffiliau o ambell gynhyrchydd sy’n rhoi wyneb i’r hyn sydd gan y mae’r Cymoedd i’w gynnig. Felly chwiliwch am damaid blasus!
Citation preview
Bwyd a Diod Caerffili
food directory welsh .indd 1 23/04/2015 08:06:31
Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer DatblyguGwledig: Ewrop yn Buddsoddimewn Ardaloedd GwledigThe European Agricultural Fund forRural Development: Europe Investing inRural Areas
food directory welsh .indd 2 23/04/2015 08:06:32
3
CYNNWYS 1 - Croeso i’r llyfryn Bwyd a Diod 5 2 - Bwyd lleol 6 3 - Ble i Brynu 7 4 - Marchnadoedd lleol 8 5 - Digwyddiadau a Gwyliau Bwyd 10 6 - Ffili a tsili – Rysáit Selsig Morgannwg 11 7 - Cwrdd â’r Cynhyrchwyr 13 8 - Byrgyr Cig Oen 17 9 - Y Cyfeirlyfr 1810 - Amdanom Ni 22
food directory welsh .indd 3 23/04/2015 08:06:35
4
food directory welsh .indd 4 23/04/2015 08:06:40
5
LLYFRYN BWYD A DIOD CAERFFILI...cynnyrch llafur cariad!
Gan rannu ein brwdfrydedd dros fwyd a diod lleol, mae’r llyfryn hwn yn gydweithrediad
rhwng cynhyrchwyr lleol a Chynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd Caerffili. Mae’n
gyfle i ddathlu’r cynnyrch bendigedig sydd i’w gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn y
llyfryn hwn, mae rhestr o’r cynhyrchwyr, y manwerthwyr a’r marchnadoedd sy’n tyfu,
cynhyrchu a gwerthu cynnyrch lleol yma yng Nghaerffili. Os mai bwyd sy’n mynd â’ch
bryd, mae yma ambell awgrym am weithgareddau addas sy’n cael eu cynnal gydol y
flwyddyn hefyd!
Mae’n cynhyrchwyr wrth eu bodd yn rhannu eu brwdfrydedd am eu cynnyrch ac yn y
llyfryn mae proffiliau o ambell gynhyrchydd sy’n rhoi wyneb i’r hyn sydd gan y mae’r
Cymoedd i’w gynnig. Felly chwiliwch am damaid blasus!
food directory welsh .indd 5 23/04/2015 08:06:40
6
Bwyd Lleol!Mae bwyd yn agos at ein calon yng Nghaerffili -
ac yn cynnwys ein Caws Caerffili byd enwog
(bob blwyddyn bydd Ras Gaws enfawr yn y dref
fel rhan o ddigwyddiad y Caws Mawr), cwrw,
lager a seidr lleol sydd wedi ennill gwobrau,
siocled a hufen iâ cartref! Rydym ni’n dwli arno,
ac nid ni yw’r unig rai gan fod bwydydd a o
Gaerffili i’w gweld ym mhobman o Sbaen i
Sgandinafia ac wrth gwrs ledled y De a gweddill
gwledydd Prydain hefyd - tipyn o gamp!
Ambell damaid blasus!Mae Braces Bakery yng Nghroespenmaen yn
gallu cynhyrchu 6000 torth o fara bob awr!
Diolch i rysáit cyfrinachol, hufen iâ go iawn
Hufen Iâ Hapus yw’r unig hufen iâ i
ennill Cystadleuaeth Genedlaethol Hufen Iâ
‘Pencampwr y Pencampwyr’ bedair gwaith!
Mae Seidr Blaengawney sy’n cael ei wneud
yn Hafodyrynys, yn cynhyrchu’r seidr enwog
Hallets a dyma’r berllan seidr uchaf yng
Nghymru!6
food directory welsh .indd 6 23/04/2015 08:06:44
7
Ble i BrynuMae llawer o bethau da ynglyn â phrynu’n lleol! Gall olygu llai o filltiroedd rhwng ble
mae’r bwyd yn cael ei gynhyrchu a’n platiau ac mae’n cefnogi’r economi leol hefyd.
Does dim angen iddo fod yn ddrud chwaith ac mae sawl lle yn lleol lle gallwch chi
gael gafael ar rhai o’r danteithion sydd yn y llyfryn hwn (a llawer mwy hefyd).
Cofiwch, mae cyfeiriadau, gwefannau a gwybodaeth gyswllt pob busnes yn y cyfeirlyfr
yng nghefn y llyfryn a gallan nhw ddweud wrthych lle gallwch brynu eu cynnyrch!
Canolfan Ymwelwyr CaerffiliMae Castell anhygoel Caerffili, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif, yn olygfa wych o siop
goffi Lolfa’r Castell yng Nghanolfan Ymwelwyr Caerffili. Erbyn hyn mae’r ganolfan
yn ganolbwynt i fwyd lleol Caerffili.
O gaws Caerffili, Siocledi’r Castell, danteithion Plant2Plate a chwrw a lager Celt
yn ogystal â llu o grefftau lleol a phaned wych o goffi, dyma’r lle i weld ac i flasu
tamaid o Gaerffili!
Marchnad Ffermwyr CaerffiliDrws nesaf i’r Ganolfan Ymwelwyr mae’r Twyn, sef lleoliad marchnad ffermwyr
Caerffili a gynhelir bob mis. Mae’r farchnad yn rhan o nifer gynyddol o
farchnadoedd bwyd ledled yr ardal sy’n cynnig popeth o fara, teisennau,
pastai, mêl, jam, siocledi, prydau parod, cigoedd a mwy. Trowch i’r adran
ar farchnadoedd lleol i weld beth sy’n digwydd a ble!7
food directory welsh .indd 7 23/04/2015 08:06:45
8
Marchnadoedd LleolMae Caerffili yn gartref i nifer gynyddol o farchnadoedd
cynnyrch bywiog sy’n rhoi cyfle i ni gael gafael ar fwyd
a diod lleol o’r radd flaenaf ac yn rhoi cyfle i ni ddod i
adnabod rhai o’r wynebau y tu ôl i’r cynnyrch hefyd. Mae
pob marchnad yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol
ond nod pob un yw cynnig y gorau o gynnyrch lleol gan
helpu i gefnogi masnachwyr lleol hefyd. Mae popeth ar
gael o wyau, cigoedd, teisennau, bara, ffrwythau a mêl
i brydau, sbeisys a bwyd poeth gan gynnwys sawl caffi
dros dro!
Marchnad Gymunedol BedwasNeuadd y Gweithwyr Bedwas, Ffordd Casnewydd,
Caerffili CF83 8BJ
Dyddiadau: marchnad dymhorol yn y
Gwanwyn, Haf, Hydref a Gaeaf.
Cyswllt: www.facebook.com/BedwasWorkmensHall
Marchnad Ffermwyr CaerffiliY Twyn, Caerffili CF83 1JL
Dyddiadau: Ail ddydd Sadwrn bob mis
Cyswllt: www.caerphillyfarmersmarket.co.uk
8
food directory welsh .indd 8 23/04/2015 08:06:50
9
Marchnad Wledig CrymlynSafle pwll glo’r Navigation, Crymlyn, Trecelyn
Dyddiadau: Marchnad bob deufis ar ddydd Sadwrn
olaf y mis yn dechrau ym mis Chwefror.
Cyswllt: Chwiliwch am farchnad wledig Crymlyn
/‘Crumlin navigation rural market’ ar facebook
Marchnad Wledig Machen Neuadd Pentref Machen, Y Cilgant, Machen, Caerffili,
CF83 8ND
Dyddiadau:
Marchnad bob deufis ar ddydd Sadwrn olaf
y mis yn dechrau ym mis Mawrth.
Cyswllt: www.facebook.com/MachenMarket
Marchnad Wledig Cegin RhydriNeuadd y Plwyf Rhydri, Rhydri, CF83 3DF
Dates: marchnad dymhorol yn y gwanwyn, haf,
hydref a gaeaf.
Cyswllt: Chwiliwch am Rudry Rural Market ar facebook.
9
food directory welsh .indd 9 23/04/2015 08:06:56
10
Digwyddiadau a Gwyliau BwydGwyl Fwyd Caerffili - 9 Mai 2015Yn ôl am ei phedwaredd flwyddyn, mae Gwyl Fwyd
Caerffili am ddod â dwr i’n dannedd!
Unwaith eto, bydd yr wyl yn denu llu o bobl sy’n caru bwyd gyda’r cynnyrch
lleol a rhanbarthol gorau yn ogystal â nifer o arddangosiadau coginio byw.
Am y wybodaeth ddiweddaraf neu os ydych am ychwanegu eich bwyd neu’ch
diod chi i’r gymysgedd, cysylltwch â ni! Trowch i’r wefan neu’r cyfryngau
cymdeithasol am fwy o wybodaeth!
http://your.caerphilly.gov.uk/foodfestival/Twitter - @visitcaerphillyFacebook - VisitCaerphilly
Y Caws Mawr - 24, 25 a 26 Gorffennaf 2015Yng nghysgod un o gestyll mwyaf Ewrop, gwyl Y Caws Mawr yw’r uchafbwynt!
Mae dros 80,000 o bobl yn dod i Gaerffili y penwythnos hwn ac mae’r hwyl yn
dechrau gyda’r Ras Fawr ar nos Wener. Dewch i wylio timau yn rasio o amgylch
Caerffili, pob un â chosyn mawr o Gaws Caerffili – adloniant pur! Mae’r Caws
Mawr hefyd yn gartref i un o bebyll bwyd mwyaf Cymru, gydag amrywiaeth
anhygoel o fwydydd lleol a rhanbarthol. Rhesymau di-rif dros ymweld felly.
http://your.caerphilly.gov.uk/bigcheese/home-page twitter - @visitcaerphillyfacebook - VisitCaerphilly10
food directory welsh .indd 10 23/04/2015 08:06:57
11
Ffili a Tsili (llysieuol) Selsig Morgannwg gyda chaws Caerffili a relish winwns coch, tsili a seidr!
Digon i 4Amser paratoi – 45 munudAmser coginio – 45 munud
Ar gyfer y selsigl25g o fenyn (rydym yn defnyddio Castle Dairies)l115g o gennin, wedi’u sleisio’n fân (pwysau ar ôl eu paratoi)l175g o friwsion bara gwynl2 lwy fwrdd o bersli ffres wedi’i dorri’n fânl1 llwy fwrdd o deim ffres wedi’i dorri’n fânl150g o gaws Caerffili wedi’i ratio’n fân (rydym yn defnyddio Caws Cenarth)l2 wy maes wedi’u gwahanul1 llwy de o fwstard Seisnigl5 llwy fwrdd o olew blodau’r haullHalen wedi’i falu’n fânlPupur du wedi’i falu’n fân
Ar gyfer y relish winwns coch a tsilil2 lwy fwrdd o olew blodau haull2 winwnsyn coch wedi’u torri’n fân l1 tsili coch wedi’i dorri’n fân (rydym yn defnyddio Caerphilly Chilli Co)l2 ewin garlleg wedi’u malul70g siwgr brown ysgafn muscovadol5 llwy fwrdd o seidr crefft (rydym yn defnyddio Seidr Cymreig Hallets o Fferm Seidr Blaengawney)
food directory welsh .indd 11 23/04/2015 08:07:01
121212
Dull
1. Ar gyfer y selsig, toddwch y menyn mewn padell ffrio fawr wrthlud a ffriwch y cennin dros dymheredd canolig nes eu bod yn feddal ond ddim yn frown. Bydd hyn fel arfer yn cymryd 5 munud.
2. Rhowch 100g o’r briwsion bara ynghyd â’r persli, teim a chaws Caerffili wedi’i gratio mewn powlen gymysgu fawr a’u cymysgu’n dda.
3. Gwahanwch y ddau felynwy o’r gwyn a churwch y melynwy gyda’r mwstard, halen a phupur mewn powlen.
4. Tynnwch y cennin oddi ar y gwres a’u hychwanegu at y gymysgedd briwsion bara.
5. Ychwanegwch y melynwy a chymysgwch yn dda gyda llwy bren.
6. Leiniwch dun pobi bas gyda haenen lynu a rhannwch y gymysgedd yn wyth a’u rholio’n siâp selsig gan osod pob un ar y tun pobi.
7. Taenwch y briwsion bara sydd ar ôl dros blât mawr a chwipiwch y gwynwy yn ysgafn mewn powlen nes ei fod yn ewyn ysgafn.
8. Dipiwch y selsig fesul un yn y gwynwy a’u rholio yn y briwsion bara nes eu bod wedi’u gorchuddio a’u gosod yn ôl ar y tun pobi.
9. Rhowch nhw i oeri yn yr oergell am 30 munud.
10. Tra bod y selsig yn oeri, twymwch yr olew mewn sosban wrhlud fawr a ffrïwch y winwns nes eu bod wedi meddalu a dechrau newid lliw (tua 20 munud).
11. Trowch y winwns yn rheolaidd ac ychwanegwch y tsili a’r garlleg a’u coginio am 5 munud arall.
12. Taenwch y siwgr muscovado dros y winwns ac ychwanegwch y seidr drostynt.
13. Coginiwch y relish drwy ei fudferwi nes bydd yr hylif yn tewychu a’i fod yn troi’n drwchus a sgleiniog.
14. Tynnwch y relish oddi ar y gwres a’i adael i oeri am ychydig funudau cyn ei weini.
15. Wrth i’r relish oeri, ychwanegwch olew i badell ffrio wrthlud fawr a ffriwch y selsig am ryw 10 munud ar wres canolig a’u troi’n rheolaidd nes eu bod yn frown golau ac yn grimp drostynt.
Gweinwch y selsig gyda llwyaid dda o’r relish tsili a seidr, salad ffres a ffa gwyrdd am bryd blasus.
food directory welsh .indd 12 23/04/2015 08:07:07
13
Moch Coch Mawr Uwchlaw Cwm Rhymni, gyda golygfeydd dros ardal Bedwas a Chaerffili, fe ddewch
ar draws cymeriadau lliwgar iawn â gwallt coch trawiadol, sy’n mwynhau ymdrochi
mewn mwd ac sy’n byw’n eitha bras o ddydd i ddydd.
Dyma foch Tamworth Caerffili - enillwyr gwobrau a’r sêr y tu ôl i’r brand Big Ginger Pigs.
Dechreuodd yr holl beth 14 mlynedd yn ôl pan ddaeth Liz Shankland a Gerry Toms
ar draws hen ffermdy traddodiadol a oedd ar werth gydag ychydig o dir. Dechreuodd
y daith gyda ieir a thyrcwn, yna defaid a geifr a maes o law i foch pedigri a dechrau
Cenfaint Tudful.
Daeth clod a bri i’r moch ledled Prydain a thu hwnt. Mae Liz yn cystadlu’n llwyddiannus
mewn nifer o sioeau amaethyddol ac mae’r moch wedi ennill gwobr fawreddog
Pencampwr y Pencampwyr Tamworth (y moch Tamworth gorau yng ngwledydd Prydain)
deirgwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Liz yw awdur yr Haynes Pig Manual a’r
Haynes Smallholding Manual ac mae’n addysgu hwsmonaeth yn Humble by Nature,
sef yr ysgol sgiliau gwledig a sefydlwyd gan Kate Humble y gyflwynwraig deledu.
ogystal â gwerthu stoc bridio pedigri ledled gwledydd Prydain a thu hwnt, mae Liz a
Gerry’n cynhyrchu’r porc twf araf mwyaf anhygoel hefyd. Yn wahanol i foch arferol,
mae’r Tudful Tamworths yn mwynhau bywyd iach yn yr awyr agored gydol y flwyddyn,
yn bwyta ac yn tyfu wrth eu pwysau. Caiff y selsig a’r byrgyrs eu gwerthu mewn
marchnadoedd gwledig lleol, ac mae croeso i archebion mwy o borc Tamworth brid
prin i’w casglu o’r fferm neu mae modd eu dosbarthu i’ch cartref. Mae bocsys cig
oen a thyrcwn efydd ar gael ar wahanol adegau o’r flwyddyn hefyd. Cefnogwch Fusnesau Lleol!Gwnewch y gorau o’ch cymuned
food directory welsh .indd 13 23/04/2015 08:07:10
14
Dwi’n Hoffi Coffi Mae gan Coffee Punks genhadaeth, sefrhoi cyfle i bobl ary stryd flasu coffi o’r ansawdd gorau!
Dechreuodd Glen Adams ei gwmni Coffee Punks ar ôl dysgucyfrinachau’r espresso perffaith yn dilyn taith ei freuddwydioni gartref coffi, Seattle! Daeth yn ei ôl i’r Cymoedd yn llawnangerdd ac awydd i gynnig y baned berffaith o goffi. Aethati i weddnewid fan VW gyffredin a’i throi’n gerbyd teithiol,ffantasiol y barista!
Mae Glen yn deall coffi i’r dim gan mai cyflenwi, trwsio agwasanaethu cyfarpar coffi yw hanner arall ei fusnes acmae hyn wedi ei sbarduno i sicrhau bod pob paned ynbaned wych.
Mae paned enwocaf Coffee Punks, y Flat Whiteynboblogaidd tu hwnt gyda’r cwsmeriaid, am eu bod yncymryd ychydig mwy o amser i’w wneud nag yn siopaustryd fawr siwr o fod. Defnyddir ffa sydd wedi’u cludo a’ustorio’n ofalus a chânt eu malu’n ffres cyn pob paned sy’ncael ei gweini i’r safon uchaf gyda gofal mawr.
Os gwelwch fan y Coffee Punks – cofiwch roi cynnig ary Flat White!
14Cefnogwch Fusnesau Lleol!
Gwnewch y gorau o’ch cymuned
food directory welsh .indd 14 23/04/2015 08:07:14
15
Diweddglo Hapus!Ar lethrtua gwaelod Cwm Rhymni isaf, mae yna hufen iâ sydd wedi’i berffeithio
dros bedair cenhedlaeth.
Machen yw cartref hufen iâ yn yr ardal hon ers tro byd ac mae Hufen Iâ Hapus,sy’n cael ei wneud gan Siân a Richard Powell ac sydd wedi ennill gwobrau lu, yn ddiweddglo hapus i stori a ddechreuodd dros drigain mlynedd yn ôl.
Dechreuodd stori Hapus gyda gwr o’r enw Primo Bernie a adawodd ogledd yr Eidal ar ôl yr Ail Ryfel Byd gyda gwybodaeth a chyfrinachau’r grefft o greu hufen iâ blasus traddodiadol Eidalaidd. Trosglwyddwyd y cyfrinachau hyn i Sandra a Bruno Minoli yn y 1960au ac yna ym 1988 i rieni Siân, Sue a Lewis Richards.
Mae’r hufen iâ mae Siân a Richard yn ei gynhyrchu yn y ffatri a’r parlwr ar ffermy teulu yn dal i ddilyn y ddelfryd wreiddiol sy’n golygu mai hwn yw’r unig hufeniâ i ennill her cwpan arian ‘Pencampwr y Pencampwyr’ yng NghystadleuaethGenedlaethol Hufen Iâ y Gynghrair Hufen Iâ bedair gwaith – sy’n golygu maihwn yw hufen iâ gorau Prydain!
Mae’r awydd i greu’r hufen iâ gorau posibl yn agos iawn at galon Siân a Richarda dim ond hufen dwbl a llaeth organig o laethdy teuluol lleol mae’n nhw’n eiddefnyddio. Mae hyn, law yn llaw â’r cynhwysion gorau posibl a’r awydd cryf igefnogi cynhyrchwyr lleol eraill wedi creu busnes gyda chalon fawr a chroesocynnes yn ogystal â blas da! Gallwch gyfrif milltiroedd bwyd eich hufen iâ mewnllathenni, nid milltiroedd.
Ein hargymhelliad ni yw’r Rym a Resin – y gorau yng ngwledydd Prydain ac nid ni
sy’n dweud hynny ond gwobrau 2014 y Gynghrair Hufen Iâ!
Wrth gwrs, gallech roi ynnig ar bob un...Cefnogwch Fusnesau Lleol!
Gwnewch y gorau o’ch cymuned
food directory welsh .indd 15 23/04/2015 08:07:19
16
Tyddyn Wern Ganol Does dim dwywaith bod David a Fiona Spoor a’r teulu yn mwynhau her – rhwngaddasu dau hen fwthyn yn gartref i’r teulu, magu defaid Hardwick, creu gardd geginFictoraidd neu ofalu am eu casgliad cynyddol o ieir brid prin, weithio’n llawn amsera magu teulu hefyd!
Menter ddiweddaraf y teulu yw troi cyfrinach sydd wedi bod yn y teulu ers pedaircenhedlaeth, y gwyr dim ond tri o bobl amdani, yn fusnes llewyrchus gyda’r hollgynhwysion cywir (a llawer ohonynt yn gynnyrch y tyddyn ei hun).
Ar ôl mentro i gystadlu yng nghystadleuaeth y Great Roath Bake-off gyda rysáitei hen famgu o’r 1930au a chael cryn ganmoliaeth gan y beirniaid (ym marn rhaiohonyn nhw hon oedd y deisen ffrwythau orau iddyn nhw ei blasu erioed) a dymaDavid yn mynd ati i lansio teisennau cartref Tyddyn Wern Ganol.
Ychydig o deisennau gaiff eu coginio ar y tro yng nghegin y ffermdy, gan ddefnyddiocynnyrch ac wyau ffres o’r ardd, dilyn ryseitiau traddodiadol, a’u coginio mewn ffwrnâ thân coed. Mae’r arlwy wedi tyfu ymhell y tu hwnt i’r deisen ffrwythau wreiddiolerbyn hyn, a bellach mae’n cynnwys teisen foron Seland Newydd yn ogystal â phicear y maen, sgonau, bisgedi’r ymerodraeth a detholiad newydd o macaroons atheisennau bach ar gyfer te prynhawn!
Ar gael o: Siop Fferm Gwasanaethau Caerloyw ar yr M5, Parlwr Hufen Iâ Hapus,Marchnadoedd Gwledig Rhydri, Machen a Bedwas a chaffi unnos Wern Ganolyn y Ffeiriau Cynnyrch Arbennig yng Nghaerffili neu ar-lein ynwww.wernganolsmallholding.moonfruit.comCefnogwch Fusnesau Lleol!
Gwnewch y gorau o’ch cymuned
food directory welsh .indd 16 23/04/2015 08:07:25
17
Byrgyrs Cig Oen y Gwanwyn
Digon i 4Amser paratoi – 25 munud Amser coginio – 15 munud
l250g o friwgig cig oen (rydym yn defnyddio cig oen lleol gan y cigydd Morgan Thomas)l100g o friwsion bara gwynl4 shibwnsyn wedi’u torri’n fânl1 wyl4 rhôl faralDail saladlJeli mintys (rydym yn defnyddio jeli mintys The Preservation Society o Farchnad Rhydri)
Dull
1. Rhowch y cig oen, y briwsion bara a’r shibwns wedi’u torri gyda’i gilydd mewn powlen fawr, torrwch yr wy a’i ychwanegu at y gymysgedd a chymysgu’n dda.2. Rhannwch y gymysgedd yn bedair rhan gyfartal a’u rholio’n beli.3. Gwasgwch bob pêl i siâp byrgyr a’u rhoi yn yr oergell i oeri am 15 munud.4. Yn y cyfamser, torrwch y rholiau bara yn eu hanner a rhowch y dail salad ar yr hanner isaf gan daenu llwyaid dda o’r jeli mintys ar yr hanner arall.5. Twymwch badell ffrio wrthlud a ffriwch y byrgyrs am 6 munud bob ochr neu hyd nes eu bod wedi coginio’n dda.6. Yna rhowch y byrgyr ar y dail salad a rhowch hanner arall y rhôl fara ar ei ben.
Gweinwch gyda salad ffres a sglodion tatws melys mawr wedi’u coginio yn y ffwrn. Gallech ychwanegu caws Caerffiliat y byrgyr hyd yn oed am fwy o flas lleol.
food directory welsh .indd 17 23/04/2015 08:07:26
18
Y CYFEIRLYFR BWYD
Big Ginger PigsBedwas
Ffôn:07973 632743
Gwefan:www.biggingerpigs.com
Twitter:@BigGingerPigs
PORC, SELSIG, BYRGYRSPorc brid prin o’r ansawddgorau o’n cenfaint o foch Tamworth pedigri sydd wedi ennill gwobrau lu.
Blaengawney CiderHafodyrynys
Ffôn:01495 244691
Gwefan:www.blaengawneycider.co.uk
Twitter:@halletscider
www.facebook.com/halletsrealcider
SEIDRSeidr cartref wedi’i
gynhyrchu yn FfermBlaengawney, Hafodyrynys.
Sudd pur 100%, dimychwanegiadau. Mae’n
fendigedig o syml.
BLAENGAWNEY
CIDER
Blackberry CateringY Coed Duon
Ffôn:01495 230978
E-bost:[email protected]
ARLWYO A HAMPERI,CYNNYRCH WEDI’IBOBI, MELYSION A
PHWDINAUGallwch archebubwffe, teisennau
a phob matho ddanteithion
sawrus.
Blackberry Catering
AprestoLlanbradach
Ffôn:07814 431 287
E-bost:[email protected]
Gwefan:www.aprestofood.co.uk
PRYDAU PAROD,ARLWYO A BWFFES
Yn APresto mae bwyd da yn agos at ein calon ac rydym am rannu’r profiad o fwyta bwyd
gwych, wedi’i goginio’n ffres a’iddanfon i garreg eich drws. Rydym
yn cynnig detholiad o brydau blasus a gwasanaeth arlwyo a gallwch ddewis bwffe oer neu
boeth bendigedig sy’n gweddu’nberffaith i’ch achlysur arbennig chi.
food directory welsh .indd 18 23/04/2015 08:07:32
19
Y CYFEIRLYFR BWYD
Coffee Continental LtdFfôn:
01495 228801Gwefan:
www.coffeecontinental.com www.facebook.com/
continentalblackwood Twitter:
@coffeecontinent
CYNNYRCH WEDI’I BOBI, PWDINAU A MELYSION
Yn Coffee Continental rydymyn rhoi’n cwsmeriaid gyntaf.
Beth bynnag fo’ch angenbyddwn yn gwneud cacennau â llaw yn arbennig i chi wedi’u
hysbrydoli gan dai coffi’rAlmaen/Awstria. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu ar ansawdd ein coffi, a’n nod yw sicrhau eich
bod chi ar ben eich digon.
Cig Mynydd CymruTreharris
Ffôn:01443 413195
Gwefan:www.cigmynyddcymru.co.uk
CIG EIDION DU CYMREIGCIG OEN A DAFAD
MYNYDDOEDD Y DE PORC, BYRGYRS, FFAGOTS
Siop cigydd draddodiadol wedi’i sefydlu 7 mlynedd yn ôl gan bartneriaeth o bum ffermwr lleol. Daw’r holl gig eidion a chig oen o ffermydd y partneriaid.
The Celt ExperienceCaerffiliFfôn:
02920 867707Gwefan:
www.celtexperience.com www.facebook.com/celtbeers
Twitter:www.twitter.com/CeltBeers
DIODYDDCwrw crefft anhygoelo Gaerffili. Casgliad
perffaith o gwrwimperial, cyfresi
unigryw ac wrth gwrs sawl cwrw craidd.
Castle ChocolatesCaerffiliFfôn:
02920 882 22907838 183 958
E-bost:[email protected]
Gwefan:www.castlechocolates.co.uk
SIOCLEDICrefftwr siocled lleolsydd wedi bod yng
Nghaerffili ers 10 mlynedd.Cynnyrch siocled wedi’i
wneud â llaw.
food directory welsh .indd 19 23/04/2015 08:07:40
20
Y CYFEIRLYFR BWYD
Penrhiw Farm Organic MeatTreharris
Ffôn:01443 412949/07796622441
E-bost:[email protected]
Gwefan:www.penrhiwfarmorganic.co.uk
www.facebook.com/penrhiwfarmorganicmeat
CIG ORGANIG:Cig Eidion Aberdeen
Angus (cig eidion gwarthegduon Cymreig) cig oen adafad o fynyddoedd y De,porc Cymreig a Gloucester Old Spot, cyw iâr, byrgyrs a selsig, pastai cig, ffagots.
Daw’r holl gig o’nffermydd ni.
Hapus Ice CreamMachen
Ffôn:07813 212531
E-bost:[email protected]
Gwefan:www.hapusicecream.co.uk
Twitter:@HapusIceCream
www.facebook.com/HapusIceCream
HUFEN IÂRydym wedi troi’n hen stablau
ar y fferm yn ffatri a pharlwr hufen iâ hyfryd. Rydym ar
agor gydol y flwyddyn rhwng Caerffili a Chasnewydd lle
byddwn yn gwneud ac yn gweini ein hufen iâ cartref ynghyd â choffi, te a byrbrydau blasus.
Coffee GearYstrad Mynach
Ffôn:07738091132
Gwefan:www.coffeegear.co.uk
www.coffeepunksE-bost:
@coffeepunks
DIODYDD,ARLWYO A HAMPERI
Coffi arbenigolwedi’i baratoi’n
ffres i’r safon uchaf wedi’i weini mewn
unrhyw ddigwyddiadneu ar garreg
eich drws.
Luv Bee E-bost:
www.luvbee.co.ukTwitter:
@LuvbeeLtd
CYFFEITHIAUMae ein mêl a’n
cwyr wedi’u cynhyrchu ar raddfa fach a daw o gychod gwenyn ar hyd
a lled y Cymoedd.
Plant 2 PlateFfôn:
01633 441272Gwefan:
whttp://plant2plate.co.uk/17 Facebook:
www.facebook.com/pages/Plant2plate/315407968531217
E-bost: [email protected]
ARLWYO A HAMPERIRydym yn cynhyrchu
prydau parod cartref argyfer marchnadoedd ffermwyr,ac ar gyfer y cartref, tafarndai,
caffis a bwytai.Gallwnddarparu bwffe neu brydau
llawn hefyd. Rydym yn defnyddiocig lleol ac mae nifer o’r perlysiau
a’r llysiau yn tyfu yn ein gerddiheb unrhyw blaladdwyr.
food directory welsh .indd 20 23/04/2015 08:07:47
21
Y CYFEIRLYFR BWYD
Canolfan Ymwelwyr CaerffiliThe Twyn, Caerphilly
Ffôn:02920 880011
Twitter:@Visitcaerphilly
CANOLFAN YMWELWYRMae llyfrynnau di-rif i’w cael amddim yn y ganolfan, neu mae
croeso i chi bori yn y siopanrhegion sy’n cynnig dewis
b ei ail o gynnyrch lleol.
Gallwch hefyd brynu cawsbyd enwog Caerffili yma
neu gael paned a sgwrs ynLolfa Goffi’r Castell sy’n rhano’r ganolfan hefyd. Dyma’r lleperffaith i ymlacio a mwynhau
golygfa anhygoel o GastellCaerffili.
Wern Ganol SmallholdingNelson Ffôn:
01443 451955E-bost:
www.wernganolsmallholding.moonfruit.com
Twitter: @wernganolhouse
POPTY, MELYSION A PHWDINAURydym yn dyddyn teuluol sy’n
cynhyrchu teisennau wedi’u pobi yn ein cegin gartref gan ddefnyddio ryseitiau traddodiadol y teulu. Mae’n
teisen ffrwythau yn dilyn rysáitdeuluol gyfrinachol sydd yn y teulu ers pedair cenhedlaeth y gwyr dim
ond tri ohonom amdani. Rydym yn cynnig detholiad o ffefrynnau
traddodiadol gan gynnwys sgonau, bisgedi, a dewis o
deisennau a melysion.
ShaheensVegetarian Kitchen
E-bost:shaheensvegetariankitchen
@hotmail.co.ukGwefan:
shaheensvegetariankitchen.blogspot.com
Twitter:@shaheens kitchen
Facebook:shaheens vegetarian kitchen
BWYD FEGANRydym yn cynhyrchu
teisennau fegan, betys asiocled, rhosyn a phannas, teisennau oreo, stiw, sawlcawl poeth a detholiad ofwydydd ar gyfer bwffe
llysieuol a fegan.
The White CrossGroeswen
Ffôn:02920 851 332
E-bost:[email protected]
Gwefan:www.thewhitecrossinn.co.uk
Facebook:TheWhiteCrossInnGroeswen
Twitter: @The_White_@CF15
TAFARN WLEDIGTafarn wledig fach sy’n
cynnig dewis rhagorol o seidra chwrw go iawn. Mae’n darparu
prydau syml ac mae croeso iblant a chwn. Mae piano a gitâryma i’r cerddorol yn eich plith.
Nid ydym yn cynnig bwyd ar hyn o brydond mae croeso i chi ddod â’ch bwyd eich hun neu archebu
tecawê ii’w fwyta yn y dafarn!
food directory welsh .indd 21 23/04/2015 08:07:55
22
Amdanom NiMae Llyfryn Bwyd a Diod Caerffili yn brosiect sydd wedi’i ddatblygu gan gynhyrchwyr lleol drwy’rRhwydwaith Bwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig a chan dîm Cynllun Datblygu Gwledig Cwm a MynyddCaerffili. Mae wedi derbyn cymorth drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 sydd wedi’i ariannugan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Roedd y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi ac mae wedi’i darparu gan y cynhyrchwyr,y manwerthwyr a’r marchnadoedd eu hunain. Nid yw tîm Cynllun Datblygu Gwledig Caerffili na’r RhwydwaithBwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig yn ardystio nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cynnyrch na’rgwasanaethau a hysbysebir.
Os ydych yn cynhyrchu neu’n gwerthu cynnyrch lleol ac am gymryd rhan yn y Rhwydwaith Bwyd, Diod a Chynnyrch Gwledig neu unrhyw lyfryn yn y dyfodol am Fwyd a Diod Caerffili, cysylltwch â ni!
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tîm y Cynllun Datblygu Gwledig ar 01443 838632
hoffwch ni ar facebook – facebook.com/ruralcaerphillydilynwch ni ar twitter – twitter.com/ruralcaerphilly
food directory welsh .indd 22 23/04/2015 08:07:58
food directory welsh .indd 24 23/04/2015 08:07:58