10
‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd Iesu, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr.’ Ond wrth inni edrych ar gyflwr ein byd, hawdd ydi gofyn, ‘Ble maen nhw?’ Yn awr yn fwy nag erioed, rydym angen heddwch. Petai tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2030 bydd mwy na hanner tlodion y byd yn byw mewn gwledydd a effeithir gan lefel uchel o drais. Yn Cymorth Cristnogol, gwyddom fod heddwch ar y ddaear yn bosibl. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn lleol i adeiladu heddwch, mewn ffyrdd bach a mawr. Dyma’r tangnefeddwyr sydd ar y llinell flaen ac maent eisoes yn trawsnewid bywydau. Y Nadolig hwn, gallwch chithau fod yn dangnefeddwr hefyd. Defnyddiwch yr adnoddau yn y pecyn hwn i annog eich cynulleidfa i fyfyrio, gweddïo ac adeiladu heddwch dros yr Adfent a’r Nadolig. O litwrgi cannwyll yr Adfent i nodiadau pregeth, mae digon o adnoddau ar eich cyfer. Pecyn creu tangnefeddwyr eich eglwys Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. © Cymorth Cristnogol Medi 2018. Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. Llun: Cymorth Cristnogol.

Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’

Mathew 5:9

Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwnDywedodd Iesu, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr.’ Ond wrth inni edrych ar gyflwr ein byd, hawdd ydi gofyn, ‘Ble maen nhw?’

Yn awr yn fwy nag erioed, rydym angen heddwch. Petai tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2030 bydd mwy na hanner tlodion y byd yn byw mewn gwledydd a effeithir gan lefel uchel o drais.

Yn Cymorth Cristnogol, gwyddom fod heddwch ar y ddaear yn bosibl. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn lleol i adeiladu heddwch, mewn

ffyrdd bach a mawr. Dyma’r tangnefeddwyr sydd ar y llinell flaen ac maent eisoes yn trawsnewid bywydau.

Y Nadolig hwn, gallwch chithau fod yn dangnefeddwr hefyd. Defnyddiwch yr adnoddau yn y pecyn hwn i annog eich cynulleidfa i fyfyrio, gweddïo ac adeiladu heddwch dros yr Adfent a’r Nadolig.

O litwrgi cannwyll yr Adfent i nodiadau pregeth, mae digon o adnoddau ar eich cyfer.

Pecyn creu tangnefeddwyr eich eglwysAdnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. © Cymorth Cristnogol Medi 2018. Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. Llun: Cymorth Cristnogol.

Page 2: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

CynnwysLitwrgi goleuo cannwyll Adfent 3

Amlinelliad oedfa Adfent neu Nadolig 4-6

Nodiadau pregeth 7

Syniadau gweddi greadigol 8-9

Esgidiau rhyfelwyr (i’w hargraffu) 10

2 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Mae’r adnoddau hyn yn hyblyg er mwyn ichi eu defnyddio mewn ffordd sy’n gweithio i’ch eglwys a’ch cyd-destun chi. Mae’r adnoddau wedi eu hysgrifennu gan aelodau o gymuned diwinyddiaeth ac addoli Cymorth Cristnogol.

Lawr lwythwch eich adnoddau Nadolig yn caid.org.uk/christmas-resources

Pecyn creu tangnefeddwyr eich eglwysAdnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Page 3: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Litwrgi goleuo cannwyll Adfent

Mae’r litwrgi hwn ar gyfer goleuo canhwyllau ar dorch yr Adfent yn helpu eich eglwys i fyfyrio ar fod yn dangnefeddwyr. Teimlwch yn rhydd i addasu, ychwanegu neu gwtogi’r litwrgi yn unol â’r hyn sy’n gweithio yn eich cyd-destun chi.

Sul Cyntaf yr Adfent

Cymeriadau’r Hen Destamentmatriarchiaid a phatriarchiaidyn dweud eu stori am drais a thywallt gwaedyn ein gwahodd i gofio a chyffesuyr ochr dywyll o fod yn ddynol.

Ac felly goleuwn y gannwyll gyntaf i ddweud bod ddrwg gennymam yr adegau hynny yr ydym wedi brifo eraill.

Bydded inni droi oddi wrth drais at heddwcha dod yn dangnefeddwyr y Nadolig hwn.

Ail Sul yr Adfent

Mae’r proffwydi yn colli eu lleisiauyn beiddio herio grymyn dweud storïau am weithredoedd symbolaiddyn ein gwahodd i ymuno â hwy ar daithfydd yn troi cleddyfau yn sychau aradr.

Ac felly goleuwn yr ail gannwyll fel nodo’n hymrwymiad i gerdded yn y goleuni.

Bydded inni droi oddi wrth drais at heddwcha dod yn dangnefeddwyr y Nadolig hwn

Trydydd Sul yr Adfent

Mae dyn garw o’r enw Ioanyn ein galw allan o’r canoli gamu i ymylon pell ein cymdeithasyn ein gwahodd i edifarhau, i droiyn ein herio i fentro ar antur newydd.Ac felly goleuwn y drydedd gannwyll fel her i ni’n hunain i ddilyn galwad Duw i fynd allan i’r ymylon.

Bydded inni droi oddi wrth drais at heddwcha dod yn dangnefeddwyr y Nadolig hwn.

Pedwerydd Sul yr Adfent

Mae merch feichiog yn ei harddegau o’r enw Mairyn clywed llais Duw ac yn dweud gwnafadroddir ei chân ar hyd y cenedlaethauyn ein gwahodd i ganu ein caneuon ni am gyfiawnderyn llawenhau wrth i’r newynog gael eu llenwi â phethau da.

Ac felly goleuwn y bedwaredd gannwyll i godi ein llais wrth ymuno â’r genhedlaeth iau yn eu caneuon am ryddid.

Bydded inni droi oddi wrth drais at heddwcha dod yn dangnefeddwyr y Nadolig hwn.

Noswyl Nadolig/Dydd Nadolig

Baban, o’r enw Iesu,bach a bregus, wedi ei enia’i lapio mewn cadach a’i osod mewn presebyn ein gwahodd i benlinio mewn parchedig ofn a rhyfeddoda disgyn mewn cariad gyda Thywysog Tangnefedd.

Ac felly goleuwn y bumed gannwyll fel arwydd o’n cariad; ein ie ni i wahoddiad Duw i fywtangnefedd Crist.

Bydded inni droi oddi wrth drais at heddwcha dod yn dangnefeddwyr y Nadolig hwn.

3 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Page 4: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Amlinelliad Gwasanaeth Adfent neu Nadolig

Galwad i Addoli

Yn y dyddiau hyn o drais ac anghydfodCerddwn tuag at enedigaeth heddwchCymerwn gamau tuag at heddwch

Yn y dyddiau hyn o boen a dioddefaint Cerddwn tuag at enedigaeth iachâdCymerwn gamau tuag at iachâd

Yn y dyddiau hyn o dywyllwch cynyddolCerddwn tuag at enedigaeth goleuni Cymerwn gamau tuag at oleuni

Yn y dyddiau hyn o Adfent Cerddwn tuag at enedigaeth Duw Cymerwn gamau tuag at y Nadolig

Cyflwyno’r gair

Wrth inni gerdded tuag at enedigaeth Duw a phreseb Tywysog Tangnefedd, cawn ein gwahodd yn ein haddoliad i ystyried sut y gallwn gymryd camau ymarferol tuag at ddod yn dangnefeddwr y Nadolig hwn, oherwydd mae llawer yn byw mewn byd tywyll a chythryblus; mae llawer yn byw tra’n ysu am wawr heddwch, yn disgwyl am y goleuni.

Ysu am y goleuni ydi natur yr Adfent Felly efallai na ddylem ruthro i oleuo ein canhwyllau. Efallai y dylem am ennyd eto aros a gwrando am yr ysfa am gyfiawnder a heddwch a ddarluniwyd amser maith yn ôl gan y proffwyd Eseia. A dyma a ddywedodd.

Rydym wedi awgrymu goleuo canhwyllau’r Adfent yn y gwasanaeth fel rhan o’r addoliad. Petai well gennych wneud hyn ar y cychwyn, byddai hyn hefyd yn gweithio.

Darlleniad Eseia 9:2-7

Dyma stori Duw Clywsom newydd daGwelsom oleuni mawrYn disgleirio yn y tywyllwchYn cymryd camau tuag at heddwch.

Mewn gwasanaeth Adfent, gallwch hepgor y darlleniad o Luc gyda’i gyflwyniad ac ymateb, a defnyddio Eseia yn unig. Gyfer gwasanaeth Nadolig cynhwyswch y cyflwyniad a’r ymateb canlynol i’r darlleniad o’r Testament Newydd.

Roedd y bobl wedi bod yn disgwyl o amser Eseia i amser Iesu, yn gobeithio a gweddïo a gweithio am yr heddwch y rhoddwyd addewid amdano, ond ddaeth yr heddwch hwnnw ddim eto.

Roedd esgidiau’r rhyfelwyr yn parhau i sathru ar eu gobeithion, roedd y dillad gwaedlyd yn parhau i weiddi dros farwolaeth y diniwed, roedd tân barn y nefoedd yn aros. Ac yna 2,000 o flynyddoedd yn ôl Tywysog Tangnefedd – yr hwn y breuddwydiodd Eseia amdano.

Darlleniad Luc 2:1-20

Dyma hefyd stori Duw Clywsom newydd daGwelsom oleuni mawrYn disgleirio yn y tywyllwchYn cymryd camau tuag at heddwch.

4 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Page 5: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Amlinelliad Gwasanaeth Adfent neu Nadolig

5 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Yn ogystal â darlleniad o’r Beibl, gallech hefyd ddefnyddio stori tangnefeddwr un o bartneriaid Cymorth Cristnogol. Dangoswch ffilm Esgob Paride Taban o Dde Swdan yn adrodd ei 28 gair am heddwch, sydd ar gael i’w lawr lwytho o caid.org.uk/christmas-resources

Gallech hefyd ddefnyddio’r geiriau hyn ar ôl y ffilm:

Heddiw mewn llefydd tebyg i Dde Swdan mae pobl dros gyfiawnder yn gafael dwylo i gymryd y camau cyntaf tuag at heddwch a pharhau i ddweud stori Duw.

Clywsom newydd daGwelsom oleuni mawrYn disgleirio yn y tywyllwchYn cymryd camau tuag at heddwch.

Gweddi gyffes

Arglwydd, clywsom y newydd daa llawenhawn fod heddwch wedi ei gyhoeddiar y ddaear:

Ond mae heddwch yn fwy na geiriauac yn rhy aml, Arglwydd,rydym wedi setlo ar fywydau tawela heb chwilio am weithredoedd o heddwch a chyfiawnder.Pan fo esgidiau rhyfelwyr wedi sathru drosbobl nad ydynt yn perthyn inni, ac ar lefydd sy’n bell oddi cartref, maddau inni ein tawelwch a’n diffyg gweithredu.

Maddau inni pan fo dillad gwaedlyd yn gweiddi dros farwolaeth y diniwed,maddau inni ein tawelwch a’n diffyg gweithredu. Tafla ein beiau a’n methiannaufel tanwydd ar y tân: wedi eu dinistrio yn nhawddlestr barn y nef.Bydded inni godi o’r llwch ar y ddaearwedi’n creu i fod yn bobl dros gyfiawnder,yn wynebu’r herac i mewn i deyrnas heddwch.

Gweddïau diolch

Rhown ddiolch iti, Dduw hael,am y cyfan a roddaisti greu heddwch yn y byd:Y rhoddion hyn o arianein hamser a’n doniauar gyfer ein heglwysi a Cymorth Cristnogola’r rhai sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda hwymewn mannau o anghydfod a thrais.Yn fwy na dim rhown ddiolch itiam rodd dy FabTywysog Tangnefedd.Amen.

Page 6: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Amlinelliad Gwasanaeth Adfent neu Nadolig

6 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Pregeth

Gweler awgrym o nodiadau pregeth ar dudalen 7

Goleuo canhwyllau’r Adfent

Rydym wedi disgwyl gydag ysfa am oleuo ein canhwyllau,fel mae eraill o’n blaenwedi disgwyl am gyfiawnder,fel mae pobl yn Libanusyn disgwyl yr Adfent hwnam i bobl y bydymuno â hwy i greu heddwch.

Wrth inni oleuo’r gannwyll hon rydym yn cyflwyno ein gweddïau a rhannu yn ein hymrwymiad i greu heddwch y Nadolig hwn.

Gweddïau eiriolaeth Dduw shalom,rwyt yn croesawu i dy deuluo dangnefeddwyro Abraham i Abigail,Barnabas a’r wraig wrth y ffynnon.Mae dy bobl wedi cymryd camau i wneud heddwch,

o Diana Abbas i Esgob Paride.

Mae dy bobl wedi cymryd camau tuag at heddwch.

Ac felly gweddïwn dros bobl a mannau sydd wedi eu dal gan gylch trais ac anghydfod neu sy’n cynnig lletygarwch i’r rhai sy’n chwilio am loches.

Yn enwedig cofiwn (cynhwyswch enwau pobl a llefydd sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar)

Ac yn arbennig ar yr adeg hon,cofiwn am bartneriaid Cymorth Cristnogol ar draws y byd.Gweddïwn dros Gymdeithas Najdeh yn Libanus ac SSCC yn Ne Swdan,a gweddïwn am yr iachâd a ddaw trwyddynt i rai sydd yn dioddef trawma rhyfel.

Gweddïwn y bydd trwy ein parneriaethauein gweddïau, ein rhoi,a’n dysgu oddi wrth ein gilydd,mannau o lochesoddi wrth draisa hafanau o iachadi bawb sydd angen lle diogel iail ddarganfod eu ffydd mewn heddwch.

Gofynnwn hynyn enw Tywysog Tangnefeddein Ceidwad Iesu Grist.Amen.

Ar yr adeg hon yn y gwasanaeth, gallech ddefnyddio rhai o’r syniadau am weddïau creadigol yn y pecyn.

Y fendith

Ewch yn awr ar daith i’r Nadolig:dowch â gogoniant i Dduw yn y goruchafa heddwch i bawb ar y ddaear.Cymerwch gamau tuag at gyfiawndergyda newydd da diddanwch.Ewch a newydd da llawenyddgyda chi ar y camau a gymerwchwrth ddilyn Tywysog Tangnefedd.Amen.

Gallech ddefnyddio litwrgi goleuo cannwyll yr Adfent o gychwyn y pecyn hwn neu’r geiriau a ganlyn.

Page 7: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Nodiadau pregeth

7 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Mae gennym sgwrs gyda sleidiau i’w lawr lwytho o caid.org.uk/christmas-resources. Mae’r sgwrs honno yn dweud stori tangnefeddwyr o waith Cymorth Cristnogol o amgylch y byd. Petai chi am droi’r sgwrs yn fwy o bregeth dyma ychydig o nodiadau ichi gychwyn. Gallech hefyd ddewis dangos ffilm yr Apêl Nadolig sydd ar gael i’w lawr lwytho.

Pregeth Adfent – Eseia 9:2-7

• Mae Eseia 9 yn aml yn cael ei darllen dros y Nadolig. Fodd bynnag, rydym yn aml yn darllen heibio adnodau 3-5. Nid yw’n Nadoligaidd iawn i feddwl am esgidiau’r gormeswr neu’r dillad gwaedlyd.

• Y gwir yw bod yn rhaid i heddwch a gobaith gydnabod poen anghydfod. Er ein bod ni’n hoff o anwybyddu’r adnodau hyn, maent yno o hyd.

• Os ydym am fod yn dangnefeddwyr rhaid inni fynd i’r afael â’r anghydfod. ‘Mae’r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld goleuni mawr,’ (9:2b). Mae mwy o ystyr i’r goleuni yn union oherwydd mai o dywyllwch y daeth.

• Yn ystod yr Adfent rydym yn disgwyl am eni Iesu ond hefyd am yr adeg y daw eto ac am ddyfodiad teyrnas tangnefedd i’r byd. Ers i’r darn hwn gael ei ysgrifennu bu mwy eto o anghydfod, mwy o dywallt gwaed a mwy o drawma ond rydym yn dal i ddisgwyl mewn gobaith. Yn yr aros, rhaid inni ddelio efo trawma a thywyllwch yr anghydfod.

Tywyllwch anghydfod a gobaith heddwch

• Petai’r tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2030 bydd mwy na hanner tlodion y byd yn byw mewn gwledydd a effeithir gan lefel uchel o drais.

• Mae plant yn cael eu gorfodi i weld erchyllterau; caiff teuluoedd eu rhwygo wrth iddynt ffoi eu cartref. I filiynau o bobl y Nadolig hwn, mae

heddwch yn ymddangos fel breuddwyd brau. Mae nifer o bobl yn byw mewn tywyllwch anghydfod pob dydd.

• Yn Cymorth Cristnogol, gwyddom fod heddwch yn bosibl. Gweithiwn ar draws y byd gyda’r rhai sy’n profi anghydfod a gwyddom be sydd ei angen i adeiladu heddwch. Nid yw’n hawdd – ond mae’n bosibl.

• Mae heddwch yn cael ei dorri pob dydd, ond mae hefyd yn cael ei adeiladu pob dydd trwy waith diflino tangnefeddwyr fel Esgob Paride Taban yn Ne Swdan a Diana Abbas yn Libanus. (Lawr lwythwch nodiadau’r sgwrs a sleidiau am fwy o wybodaeth am ein tangnefeddwyr.)

Pregeth Nadolig – Luc 2:1-20

• I Eseia roedd y Tywysog Tangnefedd a addawyd yn bell i ffwrdd. Wrth inni ddarllen Eseia 9 rwan, gwelwn Iesu’r baban a ragddywedwyd gan Eseia, oedd yn ysgrifennu 700 mlynedd cyn y digwyddiad a gawn yn Luc 2.

• Yn Luc 2, mae’r angylion yn dathlu dyfodiad y Meseia yn cyhoeddi heddwch ymhlith y rhai y mae Duw yn eu ffafrio. Wrth inni edrych o’n cwmpas ar ein byd yn yr unfed ganrif ar hugain, cawn ein hatgoffa’n fuan iawn nad ydym yn byw yn y byd heddychol a addawyd gan Eseia.

• I Balestiniaid heddiw, y mae nifer ohonynt wedi cael eu dadleoli (fel teulu Hassan) fwy nag unwaith, y mae heddwch yn ymddangos yn bell iawn i ffwrdd.

• Ond mae heddwch yn cael ei adeiladu pob dydd gan dangnefeddwyr o amgylch y byd. Dros y Nadolig rydym yn dathlu genedigaeth Tywysog Tangnefedd ac yn edrych am y dydd y bydd Teyrnas Dduw yn cyrraedd. Mewn ffyrdd bach o amgylch y byd, mae tangnefeddwyr fel Esgob Paride yn adeiladu’r deyrnas trwy weithredoedd o heddwch.

• Be allwn ni ei wneud y Nadolig hwn i fod yn dangnefeddwyr?

Page 8: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Syniadau gweddi greadigol

8 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Llosgi’r esgidiau

Byddwch angen:• esgidiau papur (gweler tudalen 10)• beiros, pensiliau ac/neu greonau• bwced tân• matsien a thapr• colomennod heddwch papur• deunyddiau celf arall.

Rhowch esgid bapur i bob person. Gwahoddwch hwy i ddarlunio delweddau rhyfel a thrais, neu i rai sydd ddim am ddarlunio, ysgrifennwch enwau pobl sydd wedi eu heffeithio gan ryfel ar yr esgidiau.

Tra’ch bod yn canu cân heddwch ar gyfer yr Adfent, gwahoddwch y gynulleidfa i roi eu hesgid bapur yn y bwced tân.

Wrth iddynt hwy roi’r esgid yn y bwced, rhowch chi iddynt hwy golomen heddwch i gofio prosiectau therapi celf Cymdeithas Najdeh yn Libanus, sydd yn helpu plant fel Hassan i ganfod heddwch y Nadolig hwn. Os oes amser a gofod, gwahoddwch y gynulleidfa i addurno eu colomen.

Iechyd a diogelwchOs gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn polisïau a rheoliadau iechyd a diogelwch eich adeilad os ydych yn defnyddio’r syniad hwn. Efallai y byddai’n fwy diogel i fynd allan i losgi’r esgidiau neu y gallech ganfod ffyrdd eraill o gynrychioli eu llosgi.

Unwaith y mae’r gân ar ben, taniwch yr esgidiau a gweddïwch y weddi a ganlyn:

Dduw heddwch a chyfiawndery disgwyliwn am ei ddyfodiadac a ddyhewn am ei deyrnasiad,derbyn ein gweddïau dros heddwch

a thafla ein holl anghyfiawnder i fflamaudy farn.Todda ni a chrea ynom dy ddelw unwaith yn rhagorfel y deuwn yn dangnefeddwyr yn ôl dy alwad arnom,yn enw Tywysog Tangnefedd.Amen.

Esgidiau ar y groes

Byddwch angen:• esgidiau papur• pensiliau/creonau.

Rhowch i bawb esgid bapur a gofynnwch iddynt dynnu llun delweddau rhyfel a thrais ac/neu ysgrifennu gweddïau o heddwch ar yr esgid.

Gofynnwch i aelod ieuengaf y gynulleidfa i gasglu’r esgidiau i gyd. Gweithiwch yn ôl oddi wrth y groes (gyda’r traed yn pwyntio tuag at y groes) a gosodwch ôl traed mewn llwybr sy’n arwain at y groes.

Gallech hefyd ddefnyddio preseb os nad oes gennych groes. Beth am lenwi’r preseb gyda cholomennod papur a gofyn i pawb ddod i nôl un iddynt eu hunain?

Gallwch archebu eich colomennod yn caid.org.uk/christmas-resources

Dduw’r groes,rwyt yn ein dwyn atat dy hunac yn ein galw i roi ein hunainfel yr wyt ti wedi rhoi dy hun ar y groes.Derbyn y rhain, ein gweddïau am heddwch,casgla ni at ein gilyddwrth droed dy groesfel nad ydym yn cerdded ein hunaina rho inni’r dewrder i fod yn dangnefeddwyrdy deyrnas atgyfodedig di.

Page 9: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Syniadau gweddi greadigol

9 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Coeden heddwch

Byddwch angen:• coeden Nadolig• addurn colomen heddwch.

Gosodwch yr addurn colomen heddwch mewn mannau o amgylch yr eglwys. Gall aelodau’r gynulleidfa ddewis colomen ac un ai ysgrifennu gweddi, neu dynnu llun o’r hyn sy’n cynrychioli heddwch iddynt hwy.

Wrth ganu cân gwahoddwch bobl i ddod i hongian eu colomen ar y goeden Nadolig.

Gallwch archebu eich colomennod yn caid.org.uk/christmas-resources

Page 10: Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn - Christian Aid...‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ Mathew 5:9 Bydd yn dangnefeddwr y Nadolig hwn Dywedodd

Esgidiau rhyfelwyr (i’w hargarffu)

10 Adnoddau addoli ar gyfer yr Adfent a’r Nadolig

Argraffwch sawl copi o’r dudalen hon a thorrwch yr esgidiau allan er mwyn eu defnyddio gyda’n syniadau gweddi greadigol.