56
Canllaw poced i gyllid a chymorth busnes Fersiwn 2

Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Partneriaeth Arloesi'r Ddraig

Citation preview

Page 1: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Canllaw poced i gyllid a chymorth busnes

Fersiwn 2

Page 2: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

RHAGARWEINIAD

Dyluniwyd Canllaw poced i gyllid a chymorth busnes i’ch gwneud chi’n ymwybodol o’r ffyrdd y gall prifysgolion a busnesau ac/neu sefydliadau gydweithio er lles ei gilydd, a helpu ysgogi ffyniant economaidd. Mae’r canllaw, a roddwyd at ei gilydd gan Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig, sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn rhagarweiniad byr i rai o’r cyfleoedd cyllid a chymorth busnes sydd ar gael yn y rhanbarth, yng Nghymru a thu hwnt. Nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr, ond yn hytrach mae’n grynodeb o nifer o fentrau allweddol.

Dilynwch ein dadansoddiad cam wrth gam o bob cyfle er mwyn ichi allu darganfod beth sy’n gweddu i’ch anghenion a chysylltu â rhywun a all roi mwy o help ichi.

PARTNERIAETH ARLOESI’R DDRAIG

Nod Partneriaeth Arloesi’r Ddraig yw helpu busnesau a sefydliadau i gyrraedd arbenigwyr perthnasol o’r prifysgolion i drafod eu hanghenion datblygu, cymorth a dysgu. Saif cryfder y Bartneriaeth yn amrywiaeth yr arbenigeddau ar draws y tair prifysgol, yn ogystal â’r wybodaeth a rannant ar y cyd. Mae lleoliadau’r tri thîm sy’n ffurfio’r Bartneriaeth yn:

Y Gwasanaethau Masnachol, Prifysgol Fetropolitan [email protected] neu +44 (0)1792 481163

Yr Adran Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol [email protected] neu +44 (0)1792 606060

Swyddfa Ymchwil a Datblygu, Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi [email protected] neu +44 (0)1267 676864

I gael mwy o wybodaeth am y sgiliau ac arbenigedd ym mhob prifysgol, gofynnwch am y taflenni Gwasanaethau i Gyflogwyr trwy lenwi’r ffurflen gyswllt ar www.dragonip.ac.uk neu gofynnwch am gynrychiolydd Partneriaeth Arloesi’r Ddraig.

Page 3: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

3

CYNNWYS

Cyfleoedd cyllid i fusnesau

Llwybr Cyflym Entrepreneuriaid yr Ymddiriedolaeth Garbon Rhaglen Adnewyddu’r Economi (RhAE) - Cyllid Busnes - Cyllid Cymru - Cymorth Masnach - Arloesi mewn Busnes ac Ymchwil a Datblygu - Gwybodaeth am Fusnesau ac Entrepreneuriaeth - Hyfforddiant - E-fusnes Y Gronfa Fuddsoddi Leol (GFL)Y Bwrdd Strategaeth Technoleg (BST)Gwobrau Trosi Ymddiriedolaeth Wellcome

Cyfleoedd cymorth busnes cyffredinol y prifysgolion

Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B)Creadigrwydd ac Arloesedd mewn Micro-fentrau (CIME)Ymgynghoriaeth uniongyrcholCymunedau Gweithgar trwy Gyfleoedd Rhyngranbarthol a Rhwydweithiau (ACTION)Partneriaethau Astudio a ChyflogwyrLle deori busnes Y Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS)Rhwydwaith Cefnogi Diwydiannau Creadigol ar gyfer BBaChau yr Iwerydd (CISNET) ITWales - Cynghrair Meddalwedd CymruCyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW)Rhyddhau Gallu drwy Gydnabod ac Achredu Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (LATERAL)Leading Enterprise and Development Wales (LEAD Cymru)Lle Deori’r Technium DigidolMentora Ein Gweithlu

Lleoliadau â chymhorthdal i raddedigion ar gyfer datblygu busnes

Mynediad i Radd MeistrYsgoloriaethau ymchwil CASE - doethuriaethau diwydiannolGO WalesIT Wales - Gwasanaethau i Fyfyrwyr a GraddedigionYsgoloriaethau Sgiliau’r Economi WybodaethPartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG)Ysgoloriaeth Arloesi Tywysog Cymru (POWIS)

GeirfaDatganiadau hygyrchedd a dwyieithrwydd

050707080910121213141617

19212324

252628

293132

343537

39414244464749

5255

Page 4: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

44RHA

N U

Ncy

fleoe

dd c

yllid

i fu

snes

au

Page 5: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

4 54

LLWYBR CYFLYM ENTREPRENEURIAID YR YMDDIRIEDOLAETH GARBONNoddwr: Yr Ymddiriedolaeth GarbonArgaeledd: Ledled y Deyrnas Unedig

Beth yw Llwybr Cyflym Entrepreneuriaid yr Ymddiriedolaeth Garbon?Eleni, mae dros £3 miliwn ar gael i gefnogi entrepreneuriaid technoleg carbon isel Prydeinig. Maent yn darparu pecyn wedi’i addasu o gyngor masnachol arbenigol, cyfleoedd rhwydweithio a chyllid grant i fentrau bach sy’n datblygu technolegau carbon isel yn y Deyrnas Unedig.

Rhoddir Cyngor Masnachol trwy wasanaethau ymgynghorol masnachol a thechnegol sy’n werth hyd at £70 mil. Gellir ariannu hwn yn llawn ac mae’n cynnwys:

Rhoi cyngor ar strategaethau patentu ac eiddo deallusolBlaenoriaethu marchnadoedd a rhoi cyngor ar sut i fynd i mewn iddyn nhwMeithrin timau rheoli galluogHelpu dod o hyd i gwsmeriaid, partneriaid a buddsoddwyrDatblygu cynllun busnes a chynnig parod i fuddsoddwyr.Hybu galluoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddusDarparu peirianneg, modelu a datblygu cynnyrch arbenigolBodloni profion y cynnyrch a’r rheoliadauCymorth gyda chwyddo cynnyrch yn gymesur i’w weithgynhyrchu.

Cyfleoedd Rhwydweithio gyda buddsoddwyr a phartneriaid y diwydiant trwy’n cysylltiadau.

Mae Cyllid Grant ar gael ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu sy’n anelu at gefnogi datblygu a masnacheiddio technolegau a chanddynt y potensial i leihau gollyngiadau Carbon y Deyrnas Unedig.

Pwy sy’n gymwys? Mae’n agored i bob sefydliad gan gynnwys busnesau, Prifysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru.

Page 6: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Gwasanaeth Rhoi Cyngor: Mae ar gael ar gyfer unrhyw dechnoleg carbon iselRhwydweithio: Mae ar gael ar gyfer unrhyw dechnoleg carbon iselGrantiau: Fe’u hadolygir ar sail achos

Pa mor hir mae’n para?Mae amser yn nwydd gwerthfawr i fentrau bach ac felly mae Llwybr Cyflym yr Entrepreneuriaid wedi’i ddylunio i fod yn syml, yn effeithiol ac yn gyflym:

Mae’n broses ymgeisio sydd wastad yn agored, yn gyflym ac yn effeithlon.

Mae mwyafrif y broses ymgeisio’n golygu siarad â’r ymddiriedolaeth garbon, nid llenwi ffurflenni.

Bydd gennych reolwr perthynas ymroddedig sy’n gyfrifol am wneud yn siwr eich bod yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn a’ch bod yn gwneud y mwyaf o’r cymorth a gynigir.

Faint mae’n ei gostio?Cyngor Masnachol - Am DdimCyfleoedd Rhwydweithio - Am DdimCyllid Grant - Mae hyd at £500,000 o Gyllid Grant ar gael ar gyfer ymchwil gymhwysol sy’n arwain at gynhyrchion neu wasanaethau carbon isel. Bydd disgwyl i’r holl bartneriaid wneud cyfraniad o 40% o leiaf at gost y prosiect naill ai mewn arian neu mewn da.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEr mwyn gwneud cais, ffoniwch ganolfan gwsmeriaid yr Ymddiriedolaeth Garbon ar 01789 200306 neu ewch i www.carbontrust.co.uk

Page 7: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

7

RHAGLEN ADNEWYDDU’R ECONOMI (ERP)Noddwyr: Llywodraeth Cymru, Masnach a Buddsoddi y DU ac Awdurdodau LleolArgaeledd: Ledled Cymru

Beth yw Rhaglen Adnewyddu’r Economi?Rhaglen Adnewyddu’r Economi (RhAE) yw strategaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi busnes a thwf yn economi Cymru. Bydd rhaglen RhAE yn cynnig isadeiledd cynaliadwy o safon uchel, bydd yn datblygu sail sgiliau eang, yn annog ymchwil a datblygu ac arloesi ac yn targedu cymorth busnes i feysydd blaenoriaeth i Gymru, gan wneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes. Mae’r RhAE yn cefnogi symudiad at ddiwylliant buddsoddi yng Nghymru ac mae wedi golygu newidiadau di-oed i becynnau cymorth ariannol y mae pob un bellach yn seiliedig ar fodel ariannol ad-daladwy gyda llog o 0% sy’n cefnogi ail-fuddsoddi adnoddau.

Bydd y RhAE yn blaenoriaethu cymorth a chyllid i brosiectau mewn 6 sector blaenoriaeth lle mae gan Gymru fanteision a chyfleoedd clir ac sy’n cynnig y potensial mwyaf i dyfu economi Cymru. Dyma nhw:-

Uwch Ddeunyddiau a GweithgynhyrchuY Diwydiannau CreadigolGwasanaethau Ariannol a PhroffesiynolYnni a’r AmgylcheddGwyddorau BywydTGCh

Bydd cymorth busnes yn cael ei ddarparu yn y meysydd canlynol (Lle mae cymorth ar gael yn ehangach y tu allan i’r sectorau blaenoriaeth , bydd yn cael ei egluro isod):-

1. CYLLID BUSNES

Mae Cyllid Busnes yn disodli’r hen Gronfa Fuddsoddi Sengl. Mae’r cynnig yn seiliedig ar gyllid ad-daladwy o 0% o log a gall gynorthwyo â:

Dechrau busnesEhanguModerneiddioAilstrwythuroDatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd

Page 8: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Swm y cymorth y gellir ei gyfrannu yw’r isafswm sy’n ofynnol i wneud i’r prosiect fwrw yn ei flaen. Mae angen archwilio pob ffynhonnell cyllid arall y sector preifat gan gynnwys benthyciadau banc, estyniad i’r gorddrafft, benthyciadau Cyfarwyddwyr etc, wedyn gellir mynd at Lywodraeth Cymru i ariannu’r diffyg sy’n ofynnol. Asesir pob cais fesul achos ac mae’n rhaid bod effaith gadarnhaol profadwy ar economi Cymru er mwyn sicrhau’r diffyg mewn cyllid.

Pwy sy’n gymwys?Cwmnïau yn y Sectorau Blaenoriaeth. Gellir mynd at Gyllid i Dwristiaeth trwy ‘Croeso Cymru’.

Faint mae’n ei gostio?Mae’r cyllid yn rhydd o log. Cyn y gwneir cynnig, bydd y telerau ad-dalu’n cael eu cytuno gyda chi a bydd yr ad-daliadau dechrau pan fydd y busnes yn dechrau gweld y manteision o ymgymryd â’r prosiect e.e. pan fydd y trosiant yn dechrau cynyddu.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.business-support-wales.gov.uk neu ffoniwch03000 603000 E-bost: [email protected]

2. CYLLID CYMRU

Mae Cyllid Cymru yn gwmni annibynnol y mae Llywodraeth Cymru’n berchen arno. Mae’n cynnig buddsoddiadau masnachol i fusnesau ledled Cymru ar bob cam o’u datblygiad, o’u ffurfio i cyn-sefydlu. Mae’r cwmni’n buddsoddi mewn busnesau newydd a busnesau ar gyfnod cynnar, cyfalaf datblygu, prosiectau masnachol creadigol a bargenion dilyniant ac mae ganddo agwedd hyblyg ond gyda ffocws at fuddsoddi.

Pwy sy’n gymwys?Er mwyn bod yn gymwys am fuddsoddiad masnachol gan Gyllid Cymru, mae’n rhaid ichi gyflogi llai na 250 o bobl a chael trosiant blynyddol heb fod yn fwy na €50 miliwn ewro. Mae hyn yn agored i bob busnes, nid yn unig y sawl yn y 6 sector blaenoriaeth.

Faint mae’n ei gostio?£5,000 yw’r buddsoddiad isaf gyda buddsoddiad uchaf mewn un cylch o £2 filiwn. Gellir cymeradwyo penderfyniadau ar fuddsoddiadau o hyd at £25,000 mewn 5 niwrnod gwaith yn y rhan fwyaf o achosion.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.financewales.co.uk neu ffoniwch 0800 5874140 i gael mwy o wybodaeth

Page 9: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

9

3. CYMORTH MASNACH

Llywodraeth CymruCynigir cymorth masnach i fusnesau yn y 6 sector blaenoriaeth sy’n dymuno ehangu eu busnes trwy fasnach ryngwladol. Mae’r mathau canlynol o gymorth ar gael:-

Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD) - Datblygu strategaethau Busnes Rhyngwladol: dewis marchnad; cynllunio strategaeth allforio a chyngor prosesu. Cyllid grant o 100% ar gyfer prosiect penodol.

Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (ITO) - Ymchwil i’r Farchnad, Cymorth lleol wrth ddod o hyd i gwmnïau, darpar gwsmeriaid ac asiantau, paratoi amserlenni teithio a darparu cyfieithwyr. Cyllid grant o 75% fesul prosiect.

Teithiau Masnach - Trefnir yr ymweliadau masnach a’r rhaglenni o gyfarfodydd ac mae cyllid ar gael i dalu am deithiau hedfan, llety a gellir rhoi cymhorthdal o 50% at gostau Arddangos.

Masnach a Buddsoddi y DURhaglen Mynediad i Fasnach (TAP) - £1000 tuag at alldeithiau Masnach a Buddsoddi y DU a drefnir tramor. Mae hwn ond ar gael i BBaChau sy’n newydd i allforio neu sydd wedi bod yn masnachu am lai na 10 mlynedd.

Cynllun Cyflwyno Marchnadoedd Tramor – Defnydd hyblyg o dimau masnach mewn ystod o farchnadoedd i helpu datblygu busnes cwmnïau.

Pwy sy’n gymwys?Cynllun llywodraeth Cymru - cwmnïau mewn 6 sector blaenoriaeth sydd wedi’u cyfeirio at y tîm Masnach o dîm Datblygu Busnes Llywodraeth Cymru. Masnach a Buddsoddi y DU - pob cwmni mewn unrhyw sector.

Faint mae’n ei gostio?Gweler uchod.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.uktradeinvest.gov.uk neu ffoniwch03000 60 3000 i gael mwy o wybodaethE-bost: [email protected]

Page 10: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

4. ARLOESI MEWN BUSNES AC YMCHWIL A DATBLYGU

Cyflwynir Cymorth Arloesi mewn Busnes gan dîm o arbenigwyr arloesi hynod brofiadol, a fydd yn ymgymryd ag adolygiad ar y cyd gyda’ch busnes i nodi cyfleoedd i arloesi ac ecsbloetio’ch eiddo deallusol.

Gall y rhaglen Arloesi Busnes ddarparu cymorth technegol, proffesiynol ac ariannol 1 i 1 i gwmnïau yn y 6 sector blaenoriaeth, ar bob cam o’r broses arloesi gan gynnwys:-

Datblygu Cynnyrch Newydd (DCN) - Gall y tîm, gyda phrofiad ‘uniongyrchol’ helaeth o’r diwydiant, ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd ichi ar ddatblygu cynnyrch newydd. I ddechrau, trwy gynnal adolygiad i helpu nodi anghenion busnes. Wedyn, pan fydd prosiect ymchwil a datblygu neu DCN wedi’i nodi, darperir cymorth i gwmpasu’r prosiect, mynd at gyllid priodol, nodi gofynion o ran technoleg a datblygu’r prosiect trwy gyfeirio at gymorth perthnasol. Pan fydd y prosiect ar waith, bydd yr arbenigwr arloesi’n gweithio gyda chi i fonitro cynnydd a darparu cymorth parhaus.

Dyluniad - Gall tîm amlddisgyblaethol o ddylunwyr profiadol y sector preifat ddarparu cyngor ac arweiniad ymarferol i fwyhau ansawdd dylunio. Mae’r cymorth yn ymdrin ag ystodau a marchnadoedd presennol y cynnyrch, brandio, dylunio, proses, cyfarpar a meddalwedd, deunyddiau, dylunio pecyn, dylunio gweithgynhyrchu a dyluniad dan arweiniad deddfwriaeth.

Gwella’r Broses Weithgynhyrchu - Adolygiadau busnes cyfredol gan reolwyr profiadol ‘uniongyrchol’ y sector preifat i nodi rhwystrau i broffidioldeb. Mae arbenigedd ar gael ar gynhyrchiant, cyflwyno ar amser, mapio llif gwerth, rheoli gweithrediadau, effeithiolrwydd cyfarpar, defnyddio lle, lleihau gwastraff ac arwain gostyngiad mewn amser.

Eiddo Deallusol a Masnacheiddio - Gall arbenigwyr Eiddo Deallusol ddarparu gwybodaeth sylfaenol ac ateb ymholiadau sylfaenol mewn perthynas â phatentau, nodau masnach, hawlfraint, dylunio a thrwyddedu. Mae help ar gael hefyd ar chwilio cronfeydd data patentau ac eiddo deallusol, gan ffurfio strategaeth eiddo deallusol a chyllid tuag at ffeilio patentau a cheisiadau nod masnach neu gostau ffurfio cytundebau trwydded. Mae cymorth ar gael hefyd i nodi llwybrau i’r farchnad yn gynnar ac i helpu’ch busnes i fasnacheiddio trwy gyflwyniadau rhwydweithio, arddangos a mynediad i gyllid buddsoddi.

Page 11: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

11

Talebau Arloesi yw symiau bach o gyllid ad-daladwy y gellir eu defnyddio i fynd at arbenigedd technegol y tu allan i’r busnes. Er enghraifft:

Caffael ymgynghoriaeth dechnegol o’r sector preifat.Gweithredu canfyddiadau’r broses adolygu mewn meysydd datblygu, gweithgynhyrchu a dylunio cynnyrch newydd.Ariannu cydweithrediad gyda Phrifysgolion neu Golegau Addysg Bellach a chwilio am gyfleusterau, cyfarpar neu arbenigedd. Caffael Gwasanaethau arbenigol ar gyfer cofrestru eiddo deallusol.

Yn ogystal, mae’r Rhaglen Arloesi mewn Busnes yn cynnig mynediad i gyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi graddfa fwy trwy grantiau ad-daladwy ar gyfer:

Hyfywedd Technegol a Masnachol - mae’n ymchwilio i hyfywedd technolegol a masnachol trosi syniadau arloesol yn gynhyrchion, yn brosesau ac yn dechnolegau newydd.Ymchwil Diwydiannol - er mwyn caffael gwybodaeth i ddatblygu cynhyrchion neu dechnolegau newyddDatblygu Arbrofol - gweithredu canlyniadau ymchwil i’r diwydiant, gan gynnwys creu prototeipiau cyn cynhyrchu.Ecsbloetiaeth - er mwyn cynorthwyo gyda chostau ecsbloetio cynhyrchion neu brosesau newydd, gan gynnwys marchnata, cyhoeddusrwydd a phresenoldeb mewn ffeiriau masnach.

Pwy sy’n gymwys?Cwmnïau yn y 6 Sector Blaenoriaeth.

Faint mae’n ei gostio?Mae’r lefelau cyllid yn dibynnu ar gam proses ymchwil, datblygu ac arloesi a maint y busnes sy’n gwneud cais. Bydd disgwyl i fusnesau roi tystiolaeth o gyllid cyfatebol digonol. Mae’r lefelau cyllid yn amrywio o 75% o gyllid ar gyfer cam hyfywedd i 35% ar gyfer cam datblygu arbrofol hyd at uchafswm grant i’w ad-dalu o £200 mil - I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Arloesi mewn Busnes.

Mae’r Talebau Arloesi werth hyd at gyllid o 50% ac yn werth hyd at uchafswm grant i’w ad-dalu o £10,000. Gellir dyfarnu £20,000 o dalebau i gwmni mewn cyfnod o 12 mis.

Page 12: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Er mwyn cael mwy o wybodaethFfoniwch 03000 60300 i gael mwy o wybodaeth neu ewch iwww.business.wales.gov.uk/innovation

5. GWYBODAETH AM FUSNESAU AC ENTREPRENEURIAETH

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gweithredu rhwydwaith o 12 canolfan ranbarthol ledled Cymru. Mae gan ymgynghorwyr mewn canolfannau rhanbarthol wybodaeth arbenigol am y rhanbarth a’r cymorth sydd ar gael i fusnesau lleol.

Gall y canolfannau rhanbarthol hyn roi cyfle ichi siarad wyneb yn wyneb â rhywun. Mae’r holl gyngor am ddim ac yn ddiduedd a gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth mor aml ag y dymunwch.

Gall yr ymgynghorwyr roi arweiniad yn y meysydd canlynol:

Cymorth Rheoli Busnes Cyffredinol - adolygiadau busnes, busnes a chynllunio strategol, rhagamcanu ariannol, mynediad i gyllid a marchnata.Cymorth Rheoli’r Amgylchedd - adolygiadau mewnol, monitro cydymffurfiaeth, costio adnoddau, gwell effeithlonrwydd, cynllunio gweithredu amgylcheddol a chyfeirio.Cymorth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Deall a defnyddio arfer da, disgyblaeth a gweithdrefnau cwyno, polisïau bwlio ac aflonyddwch, rheoli absenoldebau, contractau cyflogaeth a gweithio hyblyg.

Pwy sy’n gymwys?Ar agor i bob busnes yng Nghymru.

Faint mae’n ei gostio?Nid oes ffi am y gwasanaeth hwn.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.business.wales.gov.uk Wedyn cliciwch ar ‘Cymorth Llywodraeth Cymru’, cliciwch ar ‘Cymorth gan Awdurdodau Lleol’ neu ‘Cymorth Llywodraeth Cymru - Map y Safle’ neu ffoniwch 03000 6 03000 i gael mwy o wybodaeth.

6. HYFFORDDIANT - I GWMNÏAU MEWN SECTORAU BLAENORIAETH 6

Rhaglen Datblygu’r Gweithlu - Ar ôl cael eich cyfeirio gan dîm Datblygu Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Ymgynghorydd Adnoddau Dynol annibynnol yn mynd i mewn i’ch cwmni ac yn llunio cynllun gweithredu hyfforddiant. Gallwch ddefnyddio pwy bynnag y dymunwch i roi’r hyfforddiant.

Page 13: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

13

Pwy sy’n gymwys?Mae ar gael i fusnesau yn y 6 sector blaenoriaeth.

Faint mae’n ei gostio?Mae pob hyfforddiant a nodir yn gymwys am gyllid o 50% - fel rheol hyd at £10 mil y flwyddyn.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.business.wales.gov.uk Wedyn cliciwch ar ‘Cymorth Llywodraeth Cymru’, cliciwch ar ‘Cymorth gan Awdurdodau Lleol’ neu ‘Cymorth Llywodraeth Cymru - Map y Safle’. E-bost: [email protected] neu ffoniwch 03000 6 03000

7. E-FUSNES – I GWMNÏAU YN SECTORAU BLAENORIAETH 6

Mae Canllaw TG Ar-lein i fusnesau ar gael ynwww.businessitguide.com Gwasanaeth Diagnostig TGCh - “archwiliad iechyd” 1 diwrnod am ddim o Systemau TGPecyn cymorth e-fusnes ar gyfer integreiddio TGCh - penodir Ymgynghorydd TGCh gyda sgiliau addas i helpu dewis a gweithredu ystod o atebion TGCh mewn gwahanol feysydd busnes.

Pwy sy’n gymwys?Mae ar gael i fusnesau yn y 6 sector blaenoriaeth.

Faint mae’n ei gostio?Canllaw TG Ar-lein i fusnesau - Am ddimGwasanaeth Diagnostig TGCh - Am ddimPecyn cymorth e-fusnes ar gyfer integreiddio TGCh - Ceir cymhorthdal ar gyfer dwy ran o dair o’r gost

Er mwyn cael mwy o wybodaeth?Ewch i www.business.wales.gov.uk Wedyn cliciwch ar ‘Cymorth Llywodraeth Cymru’, cliciwch ar ‘Cymorth gan Awdurdodau Lleol’ neu ‘Cymorth Llywodraeth Cymru - Map y Safle’E-bost: [email protected] neu ffoniwch 03000 6 03000 i gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn am drafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 14: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Y GRONFA FUDDSODDI LEOL (GFL)Noddwyr: Consortia o Awdurdodau Lleol Cymru ar draws gogledd orllewin, de orllewin a de ddwyrain CymruArgaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw’r Gronfa Fuddsoddi Leol?Pecyn o gymorth ariannol hyblyg yw’r Gronfa Fuddsoddi Leol (GFL) i helpu busnesau newydd a busnesau sy’n bodoli yng Nghymru trwy gynnig grantiau cyfalaf gan dalu hyd at 40% o brosiectau cymwys, rhwng £1,000 a £10,000.

Ariennir y grant yn rhannol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (Cydgyfeirio).

Gall GFL gefnogi ystod o brosiectau sy’n ymwneud â busnesau newydd, twf, arallgyfeirio ac addasu. Gallai prosiectau cyfalaf cymwys gynnwys:

Cyfarpar cyfalafCyfarpar TGChDatblygu gwefannauMarchnata deunyddiauGwaith adeiladu ac addasiadau allanol a mewnol.

Pwy sy’n gymwys? Mae BBaChau sy’n cyflogi llai na 250 o bobl, gyda throsiant heb fod yn fwy na 50 miliwn Ewro neu fantolen heb fod yn fwy na 43 miliwn Ewro yn gymwys. Ar y cyfan, er mwyn bod yn gymwys am GFL, dylai’r cwmni fasnachu o fusnes i fusnes, ond bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos. Ni all GFL gefnogi prosiectau sy’n achosi dadleoli, (h.y. yn darparu mantais annheg dros y cystadleuwyr lleol).

Mae’r rhan fwyaf o’r sectorau busnes yn gymwys ac eithrio amaethyddiaeth, pysgota, gwasanaethau iechyd a hyfforddiant. Dylid cael arweiniad ar eich sefyllfa benodol chi gan eich tîm GFL lleol.

Faint mae’n ei gostio?Telir y grant mewn ôl-daliadau ac nid yw gwariant a achoswyd cyn cael cymeradwyaeth grant yn gymwys am gyllid. Rhaid i fusnesau dalu 60% o gostau’r prosiect.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.lifcymru.co.uk neu ffoniwch 03000 603000 i gael mwy o wybodaethwww.business-support-wales.gov.uk

Page 15: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

15

“Cyfanswm cost y cyfarpar hwn gyda’r meddalwedd oedd £10,000, felly heb y cyllid, byddai’r gwariant hwn wedi bod y tu hwnt i’n cyrraedd”

Gareth Burris, Insteng Process Automations Ltd

Page 16: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

16

GALWADAU UNIGOL Y BWRDD STRATEGAETH TECHNOLEG (BST) Noddwr: Bwrdd Strategaeth TechnolegArgaeledd: Ledled y DU

Beth yw galwadau unigol y Bwrdd Strategaeth Technoleg (BST)?Mae’r Bwrdd Strategaeth Technoleg yn hyrwyddo arloesi mewn sawl ffordd. Yn ogystal â buddsoddi mewn rhaglenni a phrosiectau, mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â lledu gwybodaeth, deall polisïau, nodi cyfleoedd a dod â phobl ynghyd i ddatrys problemau neu gwneud datblygiadau newydd.

Mae BST wrthi’n rheoli amryw raglenni a mecanweithiau cyflwyno i ysgogi arloesedd. Mae nifer o gystadlaethau ymchwil a datblygu presennol ac ar ddod sy’n ymwneud ag ystod o feysydd technoleg a defnyddio.

Pwy sy’n gymwys? Mae BBaChau a chwmnïau mawr yn y sector cyhoeddus a phreifat yn gymwys.

Pa mor hir mae’n para?Mae parhad yn dibynnu ar y prosiect.

Faint mae’n ei gostio?Mae’r gost yn dibynnu ar y prosiect.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.innovateuk.org/competitions.ashx

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn am drafodaeth fanylach am eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 17: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

1716

GWOBRAU TROSI YMDDIRIEDOLAETH WELLCOME ILITYNoddwr: Ymddiriedolaeth WellcomeArgaeledd: Y Deyrnas Unedig

Beth yw Gwobrau Trosi Ymddiriedolaeth Wellcome?Dyluniwyd y Gwobrau Trosi i bontio’r bwlch cyllido wrth fasnacheiddio technolegau newydd yn y maes biofeddygol.

Bydd prosiectau sy’n ymdrin ag unrhyw agwedd ar ddatblygu technoleg o ystod o ddisgyblaethau - gan gynnwys gwyddorau corfforol, cyfrifiannol a bywyd, yn cael eu hystyried. Mae’n rhaid i’r prosiectau fynd i’r afael ag angen heb ei fodloni mewn gofal iechyd neu mewn ymchwil feddygol gymhwysol, cynnig ateb newydd posibl a meddu ar ddisgwyliad realistig y bydd yr arloesedd yn cael ei datblygu ymhellach gan y farchnad.

Pwy sy’n gymwys? Mae ymchwilwyr o sefydliadau academaidd (prifysgolion a sefydliadau ymchwil) a chwmnïau yn gymwys.

Faint mae’n ei gostio?Nid oes costau ynghlwm.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.wellcome.ac.uk/Funding/Technology-transfer/Awards/Translation-Awards/index.htm

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn am drafodaeth fanylach am eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth. vATION AND R&D

INTRODUCTION

Page 18: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

1818RHA

N D

AU

Cyfl

eoed

d cy

mor

th b

usne

s cy

ffred

inol

y p

rifys

golio

nons

or

Page 19: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

18 1918

ARBENIGEDD ACADEMAIDD I FUSNESAU (A4B)Noddwr: Llywodraeth Cymru a’r UEArgaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw A4B?Cyllid yw rhaglen A4B gan Lywodraeth Cymru trwy Ewrop sy’n anelu at fwyhau effaith economaidd prifysgolion ar ddiwydiant trwy weithio gyda diwydiannau a sefydliadau ar brosiectau ar y cyd i greu sail wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg gryfach gyda photensial masnachol clir. Nod A4B yw helpu creu cyfoeth trwy fusnes trwy fabwysiadu prosesau, systemau a gwasanaethau newydd, neu drwy wella’n sylweddol ar y rhai sydd eisoes wedi’u llunio neu eu gosod. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at greu swyddi gwerth uchel ac yn y pen draw, economi â gwerth ychwanegol.

Pwy sy’n gymwys?Academyddion sy’n arwain prosiectau A4B a byddant yn ceisio cynnwys BBaChau a chwmnïau mawrion fel ei gilydd.

Mynd at A4BCynigir nifer o wahanol brosiectau A4B trwy Bartneriaeth Arloesi’r Ddraig yn seiliedig ar arbenigedd ac adnoddau unigol y partneriaid. Gall busnesau gymryd rhan yn y canlynol:

1. Canolfannau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTCs)Nod y canolfannau arbenigedd hyn yw dod â busnesau at ei gilydd o dan themâu cyffredin. Mae’r canolfannau’n hyrwyddo ac yn arddangos manteision technoleg a gwasanaethau arbenigol newydd i ddiwydiant a busnes. Darparant gyfleusterau na all cwmnïau fynd atynt yn rhwydd fel arall, fel defnyddio cyfarpar arbenigol drud. Gall cwmnïau gymryd rhan mewn seminarau, gweithdai, digwyddiadau a grwpiau ffocws yn ogystal â chael cymorth un-i-un. Mae’r costau i’r busnes o fod yn rhan mewn KTC yn dibynnu ar brosiectau penodol. Gall busnes gymryd rhan mewn KTC unrhyw bryd.

Mae KTC’s ar gael mewn amrywiaeth eang o feysydd fel E-iechyd, dylunio cynnyrch ar sail efelychiadol, Printio a gorchuddio, technoleg torri a chynhyrchu, y diwydiannau creadigol a’r ddelwedd symudol.

Mae rhestr o’n holl brosiectau A4B presennol ar gael ar ein gwefan yn www.dragonip.ac.uk

Page 20: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

2. Prosiectau Cyfnewid Gwybodaeth (PCG)Nod rhaglen PCG yw nodi a datblygu rhannu gwybodaeth academaidd a busnes arloesol yn effeithiol. Caiff prosiectau cyfnewid gwybodaeth eu harwain gan brifysgolion a byddant yn canolbwyntio ar themâu penodol; gofynnir i fusnesau gyfrannu at gyfnewid gwybodaeth er mwyn i brosiectau pellach allu cael eu harchwilio ac er mwyn gallu nodi prosiectau a chyllid cydweithredol i’r dyfodol a gwneud cais amdanynt. Gall busnesau gymryd rhan mewn PCG unrhyw bryd.

Mae Prosiectau Cyfnewid Gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys darlunio i wella effeithlonrwydd busnes, celf graffig mewn gweithgynhyrchu, defnyddio gwyddoniaeth a chelf greadigol mewn problemau busnes a byw gyda chymorth a heneiddio.

Mae rhestr o bob un o’n prosiectau A4B presennol ar gael ar ein gwefan www.dragonip.ac.uk

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 21: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

21

CREADIGRWYDD AC ARLOESEDD MEWN MICRO-FENTRAU (CIME)Noddwr: Prosiect a ariennir gan INTERREG Ewropeaidd ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, SERA (South East Regional Authority Ireland a Kilkenny Enterprise Board Co.Argaeledd: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Beth yw CIME?Nod cynhwysfawr CIME yw cefnogi arweinwyr busnes i ailfeddwl ynghylch dyluniad eu sefydliad o gwmpas ymarfer arloesol i godi eu natur gystadleuol.

Nod y prosiect yw darparu mecanweithiau priodol ar gyfer dadansoddi, datblygu a gweithredu arferion arloesol gyda BBaChau. Mae’r amcanion penodol yn cynnwys datblygu safonau meincnodi; cyflawni dadansoddiad o anghenion hyfforddi; datblygu deunyddiau hyfforddi a methodolegau sydd wedi’u saernïo i anghenion y busnes; a chyfnewid gwybodaeth trwy greu rhwydweithiau a chysylltiadau busnes.

Mae Cam Un yn cynnwys cyfnod helaeth o ymchwil lle bydd CIME yn dwyn academyddion ac arbenigwyr arweiniol ym maes arloesedd a meddwl creadigol ynghyd gyda’r nod o ddatblygu rhaglen hyfforddi helaeth a dwys. Bydd hyn yn cael ei ddylunio i fynd i’r afael yn benodol ag anghenion BBaChau Cymru ac i greu atebion dychmygus i heriau mawr a bach. Bydd Cam Dau yn cynnwys cyflwyno’r rhaglen gan ddefnyddio ymarferion rhyngweithiol, arddangosiadau a mentora.

Pwy sy’n gymwys?Mae BBaChau a Micro-Fentrau’n gymwys.

Pa mor hir mae’r CIME yn para?Bydd y prosiect yn rhedeg tan 31 Medi 2012.

Faint mae’n ei gostio i’r busnes?Ni chodir tâl ar fusnesau am wasanaethau CIME

Page 22: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Er mwyn cael mwy o wybodaethI gael mwy o wybodaeth ffoniwch

Prifysgol Abertawe +44 (0)1792 481285 neu [email protected] neu [email protected]

YDDS +44 (0)1570 424818 neu e-bost [email protected]

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 23: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

23

YMGYNGHORIAETH UNIONGYRCHOLArgaeledd: Y Deyrnas Unedig

Beth yw ymgynghoriaeth uniongyrchol?Trosglwyddiad masnachol gallu, arbenigedd a thechnoleg gan arbenigwyr prifysgol i’r gymuned yw ymgynghoriaeth uniongyrchol. Mae canlyniadau’r trosglwyddiad gwybodaeth hwn o bwysigrwydd mawr i weithgareddau ymarferol masnach, diwydiant ac awdurdodau cyhoeddus sy’n gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau cymdeithasol, amgylcheddol a gofal iechyd.

Gall prifysgolion ddarparu ymgynghoriaeth i unrhyw fusnes neu sefydliad sy’n gofyn am arbenigedd, cymorth neu gyngor mewn disgyblaeth benodol.

Datblygir ymgynghoriaeth o gwmpas anghenion y cwmni neu’r sefydliad, ac mae wedi’i saernïo i helpu unigolion, cwmnïau a sefydliadau i ennill mynediad i’r adnoddau y mae gan brifysgolion i’w cynnig. Gall prosiectau ymgynghoriaeth uniongyrchol ymdrin ag unrhyw ddisgyblaeth a gynigir gan y brifysgol o’ch dewis, lle mae prosiectau’n cael eu cyfateb i’r arbenigwr/arbenigwyr academaidd sy’n gweddu orau i’r prosiect.

Pwy sy’n gymwys? Mae BBaChau, cwmnïau a sefydliadau mawrion i gyd yn gymwys.

Pa mor hir y mae prosiectau ymgynghoriaeth uniongyrchol yn tueddu i bara?Nid oes amserlen safonol ar gyfer prosiectau ymgynghoriaeth uniongyrchol - gallant bara o un diwrnod i sawl wythnos. Mae’r parhad yn dibynnu ar yr amcanion y mae’r busnes neu’r sefydliad eisiau ei gyflawni.

Faint mae’n ei gostio?Mae’r costau’n amrywio. Maent yn dibynnu’n fawr ar ofynion yr ymgynghoriaeth, er enghraifft, lefel yr arbenigedd a’r adnoddau sy’n ofynnol.

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 24: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

24

CYMUNEDAU GWEITHGAR TRWY GYFLEOEDD RHYNGRANBARTHOL A RHWYDWEITHIAU (ACTION) Noddwr: Prosiect a ariennir gan INTERREG EwropeaiddArgaeledd: Sir Gaerfyrddin yn Unig

Beth yw ACTION?Prosiect a ariennir gan Interreg yw ACTION sy’n cynnwys Y Drindod Dewi Sant fel y prif bartner a Dunhill Rural Enterprises Ltd (www.dunhillecopark.com) fel ein partneriaid prosiect Gwyddelig. Prif thema’r prosiect yw datblygiad menter gymdeithasol ac yn benodol, dylunio a threialu cysyniadau ‘masnachfraint gymdeithasol’. Byddwn yn gweithio i ddynodi syniadau arloesol a mentrau cymdeithasol llwyddiannus sy’n masnachu yn Sir Gaerfyrddin a Swydd Waterford ac yna’n gweithio gyda’r grwpiau trydydd sector hyn i ‘ryddfreinio’ eu gweithgareddau, gyda’u holl fuddiannau cymdeithasol cysylltiedig i grwpiau priodol yn y rhanbarth partner.

Pwy sy’n gymwys?Y sawl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin (neu Swydd Waterford) a chanddynt Fenter Gymunedol neu Gymdeithasol, neu unigolion a chanddynt ddiddordeb mewn dod yn ddeiliaid masnachfraint ar Fenter Gymunedol neu Gymdeithasol.

Pa mor hir mae’n para?Mae’r prosiect yn para 2 flynedd a bydd yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2012.

Faint mae’n ei gostio?Mae prosiect ACTION yn cynnig cymorth gyda chymhorthdal a gwasanaethau broceriaeth lawn i fentrau cymdeithasol yn siroedd Caerfyrddin a Waterford.

Er mwyn cael mwy o wybodaethGellir dod o hyd i fwy o fanylion ar weithgareddau’r prosiect ynwww.irelandwales.ie/projects/priority_2_theme_2/action

Cysylltwch â Laura Stafford ar [email protected] ffoniwch 01267 676748 i gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 25: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

2524

PARTNERIAETHAU ASTUDIO A CHYFLOGWYRNoddwr: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)Argaeledd: Cyflogwyr/Cyflogeion, yn ne orllewin Cymru yn bennaf

Beth yw Partneriaeth Astudio a Chyflogwyr?Mae menter y Partneriaethau Astudio a Chyflogwyr yn meithrin cysylltiadau rhwng cyflogwyr ac academia trwy astudiaeth ran-amser. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cwmpasu cyfleoedd dysgu a bwrsarïau tuag at ffioedd astudio. Mae ar gael i gyflogwyr/cyflogeion o bob sector lle gellir dangos bod modd cryfhau’r cysylltiadau academaidd-cyflogwyr.

Pwy sy’n gymwys?Mae cymorth ar gael i gyflogwyr a chyflogeion sy’n dymuno cymryd rhan mewn astudiaeth ran-amser ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Mae gweithwyr/cyflogwyr sector cyhoeddus a phreifat (o bob maint) o bob sector yn gymwys.

Pa mor hir mae’n para?Mae Partneriaeth Astudio a Chyflogwyr nodweddiadol yn para dwy flynedd (yn seiliedig ar ymrestriad MPhil rhan-amser).

Faint mae’n ei gostio?Mae partneriaethau’n darparu bwrsarïau tuag at ffioedd y myfyrwyr, ond mae’n rhaid i’r cyflogwr ddangos ei ymrwymiad a’i ymgysylltiad â’r gweithgaredd, gan gynnwys darparu trefniadau gweithio cefnogol.

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â thîm y Bartneriaeth Astudio a Chyflogwyr ar +44 (0)1792 513718 i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

“Mae cyfleoedd newydd i astudio’n rhan-amser wedi cefnogi’n datblygiad staff ac wedi gwella’n fawr ar ein hymgysylltiad â Phrifysgol Abertawe”

Mike Kiernan, Seren Technology

Page 26: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

LLEOEDD DEORI BUSNES Y SEFYDLIAD GWYDDOR BYWYD (ILS) Noddwr: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)Argaeledd: Abertawe (ar gyfer unrhyw fusnes byd-eang)

Beth yw Lleoedd Deori Busnes ILS?Lle dynodedig yn yr ILS a ddyluniwyd yn benodol i feithrin cwmnïau yn y sector gwyddor bywyd yw Lleoedd Deori Busnes ILS. Caiff lleoedd sefydliadau’r cleientiaid eu lleoli fel clwstwr gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf yn adeilad cam 1 presennol ILS, neu Gam 2 a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Tachwedd 2011. Mae sefydliadau cleientiaid sydd yn y lleoedd deori busnes yn elwa’n fawr ar agosrwydd arbenigwyr ym meysydd trosglwyddo meddygaeth a thechnoleg ar y safle, a hefyd arbenigwyr mewn meysydd eraill ar draws Prifysgol Abertawe - o Wyddor Iechyd i Beirianneg, o Economeg i’r Gyfraith - ac i’r GIG trwyddo i Ysbyty Singleton gerllaw, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABM).

Pwy sy’n gymwys? Yn aml, bydd y busnesau sy’n gweddu orau i’r ILS yn syrthio i mewn i un o’r grwpiau canlynol:

Cwmnïau deillio’r PrifysgolionBusnesau newydd yng NghymruBuddsoddwyr o’r tu allan (byd-eang, BBaCh, micro-gwmnïau)Sefydliadau ymchwil y llywodraeth.

Pa mor hir mae’n para?Tair blynedd yw cyfnod cychwynnol y denantiaeth.

Faint mae’n ei gostio? Mae manylion llawn ar gael ar gais, ond ffioedd presennol y rhenti yw £11 fesul troedfedd sgwâr a ffi’r gwasanaeth yw £5 fesul troedfedd sgwâr.

Ddim yn barod i gymryd lle mewn lle deori?Mae ein cynllun Affiliate yn eich galluogi chi i fynd at y rhwydweithiau a’r cymorth sydd ar gael heb fod angen ichi ddefnyddio lle mewn lle deori. Mae’n ddelfrydol ar gyfer busnesau ar gyfnod cynnar iawn neu i gwmnïau sy’n edrych i gychwyn busnes yn y rhanbarth. Mae’n ffordd cost isel, risg isel o helpu’ch busnes.

Page 27: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

27

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â’r Rheolwr MasnacholEwch i www.swansea.ac.uk/ils E-bost: [email protected] neu ffoniwch +44 (0)1792 513703 i gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

“Mae ILS wedi darparu’r lle gorau posibl i Calon ddatblygu, a’r hyn sy’n wych am fod yn sefydliad cleient yn y fan hon yw bod cynifer o bobl sy’n meddwl yr un ffordd â ni o’n cwmpas. Mae cael mynediad i arbenigwyr meddygol, labordai o’r radd flaenaf neu gymorth busnes yn dasg hynod anodd i gwmni mor ifanc, felly teimlwn yn freintiedig iawn o gael y tri ar y safle”

Graham Foster, Calon Cardio-Technology Ltd

Page 28: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

RHWYDWAITH CEFNOGI DIWYDIANNAUCREADIGOL AR GYFER BBaChau YR IWERYDD (CISNET)Noddwr: Prosiect a ariennir gan INTERREG EwropeaiddArgaeledd: Cymru gyfan

Beth yw CISNET?Ffocws y prosiect yw gweithgarwch o fusnes i fusnes yn y sector diwydiannau creadigol. Bydd pwyslais penodol yn cael ei roi ar is-sectorau penodol yn yr economi hwn sy’n tyfu. Nod y prosiect yw gwella gweithgareddau busnes busnesau bach a chanolig eu maint (BBaChau) yn y sector hwn i ddatblygu cynhyrchion newydd, mynediad i farchnadoedd, mynediad i dechnoleg ac arbenigedd. Er mwyn datblygu dulliau mwy cydlynol a manteisiol i dechnoleg a throsglwyddo technoleg, bydd gan y prosiect ffocws tynn.

Bydd y prosiect yn goruchwylio’r gwaith o sefydlu ‘Dinas Rithwir’ i ddod â manteision graddfa ac amrywiaeth ardaloedd metropolitan i ranbarthau gwasgaredig Ardal yr Iwerydd. Bydd hyn yn cael ei sefydlu yn y pum rhanbarth dan sylw. Bydd yn darparu marchnadle, marchnata, technoleg ac arloesedd, symbyliad ac adnoddau, a fydd yn gynaliadwy i Ardal gyfan yr Iwerydd ar ôl diwedd y prosiect.

Pwy sy’n gymwys? BBaChau yn y sector creadigol.

Pa mor hir mae CISNET yn para?Tan fis Chwefror 2013.

Faint mae’n ei gostio i’r busnes?Mae’r cymorth i fusnesau’n rhad ac am ddim.

Er mwyn cael mwy o wybodaethE-bost: [email protected] neu ffoniwch 01570 424882 i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 29: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

29

ITWALES - CYNGHRAIR MEDDALWEDD CYMRU (SAW)Noddwr: Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw Cynghrair Meddalwedd Cymru (SAW)?Rhaglen yw Cynghrair Meddalwedd Cymru sy’n cefnogi arloesedd a thwf ymhlith y Sector TGCh a Meddalwedd yn ardaloedd Cydgyfeirio Cymru. Mae’n cyflwyno hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus i weithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth, cyfleoedd i rwydweithio a rhannu arfer gorau ac i hyrwyddo Cymru a BBaChau yn y rhanbarth fel prif rym sy’n cymell mewn TGCh a Datblygu Meddalwedd. Caiff ei arwain gan Brifysgol Abertawe ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Morgannwg a’r Drindod Dewi Sant.

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru’n gwneud hyn trwy gynnig ystod o wasanaethau cymorth gan gynnwys rhaglen hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithwyr proffesiynol TGCh, Cynllun Ardystio i Gwmnïau TGCh a chyfle i fyfyrwyr cyfrifiadureg ddatblygu prosiectau mewn cydweithrediad â BBaChau. Yn ogystal, mae Cynghrair Meddalwedd Cymru’n cynnwys rhaglen o Weithdai TGCh Busnes a gynhelir mewn lleoliadau o gwmpas Cymru gyda’r nod o annog pob busnes yng Nghymru i wireddu’r potensial o fabwysiadu technolegau newydd.

Pwy sy’n gymwys? BBaChau yng Nghymru, gweithwyr TG proffesiynol, cyflogwyr a chyflogeion sy’n byw yn neu y mae ganddynt swyddfa yn ardal gydgyfeirio Cymru.

Pa mor hir mae’n para?Mae’r Gweithdai TGCh Busnes a Hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i Weithwyr Proffesiynol yn barhaus. Mae sesiynau DPP yn amrywio o un diwrnod i bum niwrnod a gellir eu defnyddio fel tystiolaeth gefnogol wrth weithio tuag at statws proffesiynol TG Siartredig gyda’r BCS. Mae Ardystiad Cwmnïau TGCh yn gylch gwella busnes parhaus ac yn gyfle i BBaChau TGCh yng Nghymru ddangos eu harbenigedd a’u hymrwymiad i ansawdd; yn nodweddiadol mae’n cymryd 2-6 mis i gyflawni statws ardystiedig.

Page 30: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Faint mae’n ei gostio?Gall Cynghrair Meddalwedd Cymru gynnig cymorth ariannol i gynorthwyo unigolion a chyflogwyr gyda chostau mynychu sesiynau hyfforddiant DPP ac i BBaChau sy’n mynd trwy Gynllunio Ardystio Cwmnïau TGCh. Nid oes ffi i fynychu Gweithdai TGCh Busnes nac i ymgysylltu â phrosiectau TGCh datblygu myfyrwyr.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ffoniwch +44 (0)1792 606738 i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 31: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

31

CYFNEWID GWYBODAETH CYMRU (KEW)Noddwr: Prifysgol Abertawe a Phrifysgol BangorArgaeledd: Cymru Beth yw Cyfnewid Gwybodaeth Cymru?Mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor wedi ffurfio’r rhwydwaith busnes newydd a chyffrous, Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW), er mwyn cynnig eu harbenigedd a’u cyfleusterau arbenigol i fusnesau. Bydd KEW yn galluogi prifysgolion a busnesau i droi at ei gilydd i symud prosiectau cydweithredol yn eu blaen gyda phartneriaid o’r un meddylfryd, a hyrwyddo rhwydweithio rhwng busnesau. KEW yw’r unig rwydwaith busnes Cymreig sy’n aelod o Global CONNECT, sef rhwydwaith arloesi a buddsoddi ymhlith busnesau byd-eang hynod lwyddiannus, a bydd yn rhoi llwyfan i aelodau ddatblygu cydweithrediadau rhyngwladol arno.

Mae rhwydwaith KEW yn cynnig i fusnesau:

Fynediad carlam i wasanaethau busnes y prifysgolionRhyngweithio gyda chwmnïau sy’n canolbwyntio ar arloeseddMynediad i gyfleoedd datblygu a rhwydweithio byd-eangDigwyddiadau a gweithdai rheolaidd a chanddynt themâu busnesArddangosfeydd o arbenigedd a chyfleusterau’r prifysgolionCyfleoedd i gyfarfod ag arbenigwyr academaidd arbenigol.

Pwy sy’n gymwys?Mae pob busnes a sefydliad yn gymwys i ymuno â KEW.

Faint mae’n ei gostio?Nid oes tâl am aelodaeth a digwyddiadau KEW ar hyn o bryd.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ewch i www.kewales.com neu ffoniwch +44 (0)1792 606060 i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

“Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi defnyddio prifysgolion Cymru fel ffynhonnell amhrisiadwy o unigolion safon uchel ac uchel eu cymhelliant. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyfnewid Gwybodaeth Cymru i gynorthwyo datblygiad ein busnes ymhellach”

Chris James, CIOTEK Limited

Page 32: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

RHYDDHAU GALLU DRWY GYDNABOD AC ACHREDU DYSGU A GYFOETHOGIR GAN DECHNOLEG (LATERAL)Noddwr: Rhaglen dysgu seiliedig ar waith - Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio yng Nghymru

Beth yw LATERAL?(Achredu Dysgu Blaenorol Seiliedig ar Waith)Mae Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant wedi llwyddo i ennill cyllid am brosiect a ddyfeisiwyd i gefnogi datblygiad staff sy’n gweithio mewn mentrau bach a chanolig eu maint yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru. Mae’r prosiect hwn, sy’n eistedd yn Fframwaith Ymarfer Proffesiynol YDDS, yn edrych i gefnogi’r gweithlu gan nodi ac ennill credydau ar gyfer eu dysgu drwy brofiad eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae achredu dysgu blaenorol sy’n seiliedig ar ddatblygiad seiliedig ar waith yn ddibwys ond cynhelir nifer fawr o weithgareddau datblygu staff lefel uwch yn rheolaidd yn y gweithle. Lle mae’n digwydd yn llwyddiannus yw pan fydd y dysgu’n gysylltiedig â gofynion derbyn cyrsiau traddodiadol mewn sefydliad mewn meysydd penodol i’r pwnc. Bydd dangos gwerth trwy achredu’r dysgu seiliedig ar waith hwn o fantais uniongyrchol i ddysgwyr a’u cyflogwyr a bydd hefyd yn darparu fforwm i gefnogi cyflogwyr mewn gweithgareddau hyfforddiant seiliedig ar waith.

Er enghraifft:

Cymhwyster Fformat Credydau CostMeistr -180 Credyd

APEL Gallech hawlio hyd at 120 o gredydau (2/3) fel Dysgu drwy Brofiad (APEL)

Yn rhad ac am ddim o dan – LATERAL

Modiwl Cydnabod ac Achredu Dysgu

Mae’n rhaid gwneud y modiwl Cydnabod ac Achredu Dysgu (aseiniad yw hwn i gyfiawnhau eu hawliad) modiwl 15 credyd

Yn rhad ac am ddim o dan – LATERAL

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae’n rhaid gwneud prosiect dysgu seiliedig ar waith (naill ai prosiect 30, 45 neu 60 credyd)

I’w dalu

Page 33: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

33

Pwy sy’n gymwys?BBaChau - (llai na 250 o weithwyr; a naill ai trosiant blynyddol o 50 miliwn Ewro neu lai; neu gyfanswm mantolen flynyddol o 43 miliwn Ewro neu lai). Mae’n rhaid i’r BBaCh fodoli yn yr ardaloedd Cydgyfeirio ledled Cymru ac mae’n rhaid iddo weithredu o dan reoliadau cymorth ‘De Minimis’. (Cafodd lai na €200,000 dros 3 blynedd (gyllidol) o gymorth y wladwriaeth (cyllid cyhoeddus)).

Pa mor hir mae’n para?Bydd y prosiect yn rhedeg hyd at fis Mai 2013.

Faint mae’n ei gostio?Mae’r cymorth yn rhad ac am ddim i fusnesau.

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â Lowri Harris ar 01267 676814neu e-bost: [email protected]

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 34: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

LEADING ENTERPRISE AND DEvELOPMENT (WALES) (LEAD WALES)Noddwr: Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw LEAD Cymru?Mae’r rhaglen arloesol hon yn canolbwyntio ar ddau faes busnes: y busnes ei hun a datblygiad personol y perchennog-rheolwr; gan ddarparu fframwaith i gynyddu proffidioldeb, galluogi arallgyfeirio a chefnogi twf busnes. Mae’r rhaglen - sydd wedi’i dylunio i fodloni anghenion penodol perchennog-reolwyr - yn integreiddio addysgu gweithgar gyda dysgu gweithredol; gan annog cyfranogwyr i rannu gwybodaeth a phrofiad gyda’u cymheiriaid a defnyddio’r hyn a ddysgir ganddynt i’w sefyllfa fusnes eu hunain. Caiff y prosiect ei redeg o Brifysgolion Abertawe a Bangor.

Pwy sy’n gymwys? Perchennog-rheolwyr BBaCh.

Pa mor hir mae’n para?Mae angen i’r perchennog-rheolwyr roi deuddydd y mis ar y campws dros y cyfnod o 10 mis.

Elfen sylweddol o’r rhaglen yw gweithredu dysgu â chymorth, i ddatblygiad eich busnes neu’ch sefydliad eich hun.

Faint mae’n ei gostio? Ni chodir tâl ar berchennog-rheolwyr cymwys am ddilyn rhaglen LEAD (Cymru).

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ffoniwch +44 (0)1792 606738 i gael mwy o wybodaeth neu trowch at www.leadwales.co.uk neu cysylltwch ag [email protected]

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

“Mae hwn yn chwa o awyr iach o ran rhaglenni cymorth busnes. Mae rhaglen LEAD Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth lwyr i mi. Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw berchennog busnes BBaCh.”

Christine Watkin, Rheolwr Gyfarwyddwr, Quantarc Ltd

Page 35: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

35

LLE DEORI’R TECHNIUM DIGIDOLNoddwr: Llywodraeth Cymru a Phrifysgol AbertaweArgaeledd: Abertawe - Ar agor i bob Cwmni yng Nghymru

Beth yw Lle Deori’r Technium Digidol?Nod y Technium Digidol yw cefnogi twf busnesau gwybodaeth bach a chanolig eu maint sy’n ymwneud â datblygu a defnyddio technolegau digidol. Mae’n gyfleuster 3,500 metr sgwâr wedi’i adeiladu i bwrpas, gydag un o’r tri llawr yn lletya un deg pedwar uned deori busnes ac mae un uned wedi’i chlustnodi at ddefnydd desgiau poeth a ddefnyddir gan Aelodau Cysylltiol.

Dyrennir y lle sy’n weddill i ymchwil arbenigol a labordai datblygu a chymorth busnes sydd wedi’i anelu at gefnogi cwmnïau ifanc arloesol. Mae’r prifysgolion hefyd yn annog cwmnïau i symud i safleoedd ar gampws, i’w helpu i adeiladu cydweithrediadau gydag academyddion ac/neu grwpiau ymchwil. Ceir cyfleusterau deori ar y campws a chyfleoedd ariannu posibl i gefnogi’r math hwn o weithgaredd, gan gynnwys proses a elwir yn ‘cael cwmnïau i mewn’ (spin in).

Pwy sy’n gymwys? Unigolion a BBaChau sy’n arloesol, cwmnïau â’r potensial am dwf uchel, mewn sector Technoleg Uchel neu Seiliedig ar Wybodaeth. Gweler y wefan am fanylion cymhwyster llawn.

Pa mor hir mae’n para? Fel rheol, mae cwmnïau’n aros rhwng dwy a phum mlynedd.

Faint mae’n ei gostio? Ar hyn o bryd, mae’r ffioedd rhenti a gwasanaeth yn gwneud cyfanswm o £15.50 fesul troedfedd sgwâr. Bydd ffioedd eraill yn berthnasol hefyd, megis cyfraddau ffôn a busnes.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.technium.co.uk/digital neu cysylltwch â’r Rheolwr Masnachol ar +44 (0)1792 485500 i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 36: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

“Cwmni dylunio yw Waters Creative sy’n cynnig ystod eang o atebion cyfryngau newydd. Mae gennym bortffolio amrywiol o gleientiaid sy’n amrywio o addysg ac ymchwil, cwmnïau newydd lleol i gorfforaethau mawrion cenedlaethol.

“Wrth ddod i mewn i’r Technium Digidol, roeddem yn cyflogi dau unigolyn yn unig, ond rydym wedi tyfu’n raddol ac rydym bellach yn cyflogi chwe aelod o staff amser llawn. Mae cyfaint ac amrywiaeth y gwaith a gyflawnwyd wedi cynyddu’n sylweddol ac mae trosiant ein cwmni wedi treblu o ganlyniad”

Rachael Wheatley, Cyfarwyddwr, Waters Creative Ltd

Page 37: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

37

MENTORA EIN GWEITHLUNoddwr: Rhaglen dysgu seiliedig ar waith - Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio yng Nghymru

Beth yw Mentora Ein Gweithlu?Modiwl a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw ‘Mentora Ein Gweithlu’ sy’n ffitio o dan y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol (fframwaith Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant i achredu a chronni dysgu lefel uwch trwy ddatblygu mewnol a dysgu carlam blaenorol). Mae’r ddarpariaeth wedi’i dylunio i nodi a hyfforddi aelodau priodol o staff mewn Busnesau Bach a Chanolig i weithredu fel mentoriaid seiliedig ar waith. Nod y modiwl yw galluogi’r cyfranogwyr i ennill ymwybyddiaeth o’r materion dan sylw wrth fentora i wella perfformiad unigolion yn y gweithle ac ystod y prosesau sydd ar gael. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r cyfranogwr i nodi a defnyddio proses fentora sy’n bodloni anghenion a diwylliant y gweithle unigol.

Pwy sy’n gymwys?BBaChau - (llai na 250 o weithwyr; a naill ai trosiant blynyddol o 50 miliwn Ewro neu lai; neu gyfanswm mantolen flynyddol o 43 miliwn Ewro neu lai). Mae’n rhaid i’r BBaCh fodoli yn yr ardaloedd Cydgyfeirio ledled Cymru ac mae’n rhaid iddo weithredu o dan reoliadau cymorth ‘De Minimis’. (Cafodd lai na €200,000 dros 3 blynedd (gyllidol) o gymorth y wladwriaeth (cyllid cyhoeddus)).

Pa mor hir mae’n para?Mae cyllid wedi’i sicrhau tan fis Mai 2013. Bydd y cofrestriad terfynol er mwyn cwblhau’r cymhwyster cyn diwedd y prosiect ym mis Mawrth 2013.

Faint mae’n ei gostio?Ariennir cost y modiwl 20 credyd yn llawn gan y prosiect.

Er mwyn cael mwy o wybodaethFfoniwch Lynsey Harries ar 01267 676813 neu e-bost: [email protected]

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

Page 38: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

3838RHA

N T

RILle

olia

dau

â ch

ymho

rthda

l i ra

dded

igio

n ar

gyf

er d

atbl

ygu

busn

es

Page 39: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

38 3938

MYNEDIAD I RADD MEISTR (ATM)Noddwr: Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol EwropArgaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw Mynediad i Radd Meistr?Nod y Prosiect Mynediad i Radd Meistr yw cefnogi’r ddarpariaeth sgiliau lefel uwch lefel Meistr (ôl-raddedig) i fodloni bylchau sgiliau dynodedig, er mwyn cefnogi’r economi wybodaeth a chynyddu cynhyrchiant. Mae’r prosiect yn galluogi busnesau a chan mwyaf BBaChau i fynd at fyfyrwyr lefel Meistr i gynorthwyo mewn ymchwil a datblygu, trwy gysylltu prosiectau Meistr a addysgir gydag anghenion busnes. Caiff pob prosiect ei gwmpasu’n unigol i ddatrys her ymchwil busnes penodol. Wrth gwblhau’r rhan o’r prosiect Meistr a addysgir, mae’r myfyriwr yn ymgymryd â lleoliad gwaith i drosglwyddo’r wybodaeth ymchwil a datblygu yn ôl i’r busnes.

Dyma’r manteision i’r cwmnïau cyfrannog:

Mynediad i fyfyriwr ôl-raddedig hynod fedrus a ariennir yn llawn (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)Cyfle i gynyddu gallu ymchwilAmlygrwydd i’r farchnad a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddusEhangu ar eu sail wybodaeth a chynnal cysylltiadau manteisiol gyda holl brifysgolion Partneriaeth Arloesi’r Ddraig.

Pwy sy’n gymwys? Busnesau a myfyrwyr y DU/UE sy’n bodoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru.

Pa mor hir mae’n para? Un flwyddyn academaidd yw cyfanswm parhad y Dyfarniad Meistr a addysgir, gan ddechrau ym mis Hydref. Mae’r prosiect busnes yn dechrau pan fydd elfen a addysgir y cwrs yn cael ei chwblhau ac mae hyn yn para 16 wythnos.

Faint mae’n ei gostio? Mae angen i’r busnes gyfrannu cyllid cyfatebol mewn da o £1000 (sy’n gyfwerth ag oddeutu 20 awr o amser y staff).

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 40: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

“Roedd prosiect y myfyriwr o fantais a diddordeb mawr i ni yn ein hymdrechion datblygu a gwnaethom fwynhau’r fantais ychwanegol o gymorth a chyfarwyddyd a ddarparwyd gan y goruchwyliwr academaidd. Rydym yn aml yn cyfeirio at adroddiad prosiect (wedi’i ysgrifennu’n eithriadol o dda) y myfyriwr. Mae mantais y prosiect i ni yn barhaus hefyd oherwydd gwnaethom gyflogi’r myfyriwr i waith cyflog amser llawn gyda’r cwmni yn syth ar ôl iddo gwblhau ei radd”

Dyfyniad Cwmni a Gefnogwyd gan Fynediad i Radd Meistr

Page 41: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

41

YSGOLORIAETHAU YMCHWIL CASE - DOETHURIAETHAU DIWYDIANNOLNoddwr: Cynghorau Ymchwil (RCUK) Argaeledd: Ledled y DU

Beth yw ysgoloriaeth ymchwil doethuriaeth ddiwydiannol CASE?Mae ysgoloriaethau ymchwil doethuriaeth ddiwydiannol CASE (Dyfarniadau Cydweithredol mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg) yn galluogi busnesau i arwain wrth drefnu prosiectau gyda phartner academaidd o’u dewis. Mae’r cydweithrediadau unigol hyn yn ceisio sicrhau bod gwybodaeth academaidd ar gael ar raddfa eang i’r diwydiant.

Gan weithio’n gyfan gwbl ar brosiect ymchwil fawr sy’n berthnasol ac o fantais i’r busnes, daw myfyriwr doethuriaeth ag ymchwil newydd i’ch sefydliad dros gyfnod o hyd at bedair blynedd.

Cynigir cymorth llawn trwy gydol y rhaglen, sy’n cynnwys secondiad o dri mis o leiaf, gan gwmni a goruchwyliwr academaidd.

Pwy sy’n gymwys? Mae cwmnïau mawr a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat yn gymwys.

Pa mor hir mae’n para? Tair i bedair blynedd.

Faint mae’n ei gostio?Oddeutu £22,000 dros dair blynedd.

Er mwyn cael mwy o wybodaethCysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 42: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

CYFLEOEDD I RADDEDIGION YNG NGHYMRU (GO Wales)Noddwr: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chronfa Gymdeithasol EwropArgaeledd: Cymru

Beth yw GO Wales?Rhaglen datblygu cyflogadwyedd a busnes yw GO Wales sy’n annog busnesau a graddedigion yng Nghymru i gael y mwyaf o gydweithio ac mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu busnesau i recriwtio a chadw staff graddedig.

Mae lleoliadau i fyfyrwyr GO Wales yn cynnig cyfle i gwmnïau gyflogi rhywun gyda gradd (neu sy’n astudio am radd) i gwblhau prosiect wrth weithio i’r cwmni am oddeutu 10 wythnos.

Yn aml iawn, nid oes gan fusnesau’r amser na’r adnoddau i ddatblygu syniadau a phrosiectau newydd neu nid oes ganddynt y sgiliau arbenigol angenrheidiol i gwblhau tasg benodol. Trwy gynnal lleoliad, gall cwmnïau fynd at sgiliau a manteisio ar frwdfrydedd myfyriwr neu fyfyriwr graddedig.

Pwy sy’n gymwys? Mae BBaChau a chwmnïau neu sefydliadau mawrion yn y sector cyhoeddus a phreifat yn gymwys.

Pa mor hir mae’n para? Yn nodweddiadol, mae Lleoliadau Gwaith yn para rhwng 6 a 10 wythnos, mae’r cwmnïau’n cael y cyfle i recriwtio’r person ar ôl i’r lleoliad ddod i ben neu gellir defnyddio’r lleoliad ar gyfer prosiect unigol.

Faint mae’n ei gostio? Mae disgwyl i gwmnïau dalu isafswm o £250 i fyfyrwyr am wythnos waith arferol. Bydd hyn yn destun cymhorthdal o hyd at £95 yr wythnos gan GO Wales os mai BBaCh ydych chi. Gall fod cymorthdaliadau ar gael hefyd i sefydliadau mwy o faint.

Mae GO Wales hefyd yn cynnig Cronfa Hyfforddiant a Datblygu i Raddedigion i BBaChau yng Nghymru i helpu gyda’r gost o hyfforddi graddedigion sydd eisoes yn gweithio yn eich busnes. Ewch i www.gowales.co.uk/training i gael rhagor o fanylion.

Page 43: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

43

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ewch i www.gowales.co.uk i gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

“O safbwynt cyflogwr, cynigiodd y lleoliad ateb cost effeithiol i brosiect beichus o ran amser ond angenrheidiol ac mae lleoliad y myfyriwr wedi gweithio i’n disgwyliadau ac wedi rhagori arnynt”

Nigel Bowen, JU Bowen Construction Ltd

Page 44: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

ITWALES – GWASANAETHAU I FYFYRWYR A GRADDEDIGIONSNoddwr: Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)Argaeledd: Cymru

Beth yw ITWales?Mae ITWales yn rhaglen ddi-elw a ariennir gan Ewrop sy’n gweithredu o’r adran Gwyddor Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n bodoli i addysgu, annog a galluogi busnesau Cymru i fod ar flaen y gad o ran y defnydd o dechnoleg.

Mae Clwb Busnes ITWales yn darparu llwyfan i fusnesau yng Nghymru rwydweithio’n rheolaidd trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau testunol.

Mae ITWales hefyd yn cyhoeddi cylchgrawn busnes a thechnoleg ar-lein misol rhagorol, itwales.com.

Mae Cynllun Lleoliadau ITWales yn arbenigo mewn rhoi myfyrwyr a graddedigion mewn busnesau yng Nghymru ar gyfer prosiectau neu ddatblygiadau penodol na fyddai gan gwmnïau’r amser na’r adnoddau i’w cyflawni fel rheol. Mae pob lle naill ai’n astudio neu wedi graddio o radd gysylltiedig â Chyfrifiadureg neu TG.

Pwy sy’n gymwys? Mae BBaChau, cwmnïau a sefydliadau mawrion yn y DU yn y sector cyhoeddus a phreifat yn gymwys am bob gwasanaeth, ond er mwyn cymryd rhan yn y cynllun lleoliadau, mae’n rhaid i gwmnïau fasnachu yng Nghymru.

Pa mor hir mae’n para? Gall lleoliadau i fyfyrwyr a graddedigion bara hyd at 10 wythnos yn amser llawn trwy gydol yr haf, ond gellir trefnu lleoliadau rhan-amser hefyd.

Faint mae’n ei gostio?Lleoliadau myfyrwyr a graddedigion: Mae disgwyl i gwmnïau dalu isafswm o £250 i fyfyrwyr am wythnos waith arferol, ond gallai busnesau fod yn gymwys am gymhorthdal o hyd at £95 yr wythnos.

Nid oes ffi ar gyfer aelodaeth o Glwb Busnes ITWales ac mae’r digwyddiadau am ddim.

Page 45: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

45

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ewch i www.itwales.com, e-bost: [email protected] (Prifysgol Abertawe) [email protected] (YDDS) neu ffoniwch 01792 295881 (Prifysgol Abertawe) neu 01570 424948 (YDDS) i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion.

“Mae’n gynllun hyblyg, fforddiadwy, lle mae pawb yn ennill”

Gerhard Mannog, Cyfarwyddwr, Imagitech

Page 46: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

YSGOLORIAETHAU SGILIAU’R ECONOMI WYBODAETH (KESS) Noddwr: Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru Beth yw Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth?Mae ysgoloriaethau KESS yn rhoi cyfle i gwmnïau gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ar y cyd sydd wedi’u halinio i sectorau blaenoriaeth ymchwil a datblygu Llywodraeth Cymru. Economi Ddigidol (TGCh); Economi Carbon isel; Iechyd a Biowyddoniaeth: Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch. Ar y cyd, mae’r cwmnïau cyfrannog yn diffinio ac yn rheoli’r prosiect ymchwil y mae pob ysgolhaig yn ymgymryd ag ef fel rhan o’u hysgoloriaeth, ac felly’n manteisio ar ymchwil yr ysgolhaig, busnes a hyfforddiant arloesi.

Mae’r myfyriwr yn treulio isafswm o un mis y flwyddyn ar safle partner y cwmni sy’n gweithio ar y prosiect. Mae KESS yn darparu ffordd hygyrch iawn i fusnesau greu cysylltiadau parhaus gyda grwpiau ymchwil blaengar yn y sectorau blaenoriaeth ac yn cefnogi datblygu’r sgiliau hollbwysig y mae eu hangen i gefnogi ymchwil a datblygu.

Pwy sy’n gymwys?Mae ystod o sefydliadau a chanddynt sail weithredol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys. Rhaid bod myfyrwyr y DU/UE wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru ar adeg gwneud y cais.

Pa mor hir mae’n para? Mae dau fath o Ysgoloriaeth, Mini a Maxi. Mae Mini yn brosiect blwyddyn o hyd sy’n dechrau ym mis Hydref (cymhwyster Meistr Ymchwil) ac mae’r Maxi yn para tair blynedd gan arwain at ddoethuriaeth.

Faint mae’n ei gostio? Mae’n costio £2500 y flwyddyn i BBaChau, a £3500 y flwyddyn i gwmnïau mawrion gyda chyfraniad ‘mewn da’ o £1000 y flwyddyn. Mae pob ysgolhaig KESS yn cael bwrsari a thelir eu ffioedd gan y prosiect hefyd.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth Ewch i wefan KESS yn www.bangor.ac.uk/kessCysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 47: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

47

PARTNERIAETHAU TROSGLWYDDO GWYBODAETH (KTP) Noddwr: Bwrdd Strategaeth Technoleg, Llywodraeth Cymru, Cynghorau YmchwilArgaeledd: Ledled y DU

Beth yw Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth?Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw un o brif raglenni’r DU, sy’n helpu busnesau i wella’u natur gystadleuol a’u cynhyrchant trwy well defnydd o wybodaeth, technoleg a sgiliau sy’n aros yn sail wybodaeth y DU.

Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn golygu ffurfio partneriaeth rhwng diwydiant a phrifysgol sy’n galluogi busnes neu sefydliad i fynd at sgiliau ac arbenigedd i’w datblygu.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnwys un neu’n fwy o raddedigion a gymhwysodd yn ddiweddar i hwyluso’r trosglwyddiad sgiliau ac arbenigedd hwn. Mae’r myfyriwr graddedig yn gweithio’n amser llawn yn y cwmni ar brosiect sy’n ganolog i’w hanghenion a chaiff ei oruchwylio ar y cyd gan bersonél y cwmni ac uwch academydd.

Mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn darparu adnoddau ac arbenigedd i sefydliadau sy’n ffynnu sy’n dymuno arloesi, ehangu neu wella ar eu perfformiad. Yn ogystal, maent yn galluogi academyddion i ddatblygu dealltwriaeth berthnasol a gwell o ofynion busnes a gweithrediadau y gellir eu defnyddio i gynhyrchu deunyddiau addysgu ac ymchwil perthnasol i’r busnes.

Pwy sy’n gymwys?Mae BBaChau, elusennau a chwmnïau a sefydliadau mawrion yn y sector cyhoeddus a phreifat yn gymwys i wneud cais am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Mae dau ddewis Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gwahanol wedi’u hamlinellu isod - bydd y dewis iawn i chi yn cael ei bennu gan natur y prosiect sydd gennych yn eich meddwl.

Pa mor hir mae’n para?Gall parhad y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth amrywio o un flwyddyn i dair blynedd. Yn aml, mae cwmnïau’n dewis cyflogi’r aelod staff cysylltiol ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau.

Page 48: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

Faint mae’n ei gostio?Cost flynyddol gyfartalog Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yw oddeutu £60,000 y mae BBaCh yn cyfrannu oddeutu traean, neu gyfartaledd o £20,000 y flwyddyn, mae cwmnïau a sefydliadau mawrion yn cyfrannu hanner cyfanswm y gost neu gyfartaledd o £30,000 y flwyddyn.

Er mwyn cael mwy o wybodaethEwch i www.ktponline.org.uk

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

“Gwnaeth y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Abertawe nodi, mapio ac ail-beiriannu tair haen bwysig o weithrediadau mewnol y Grwp a sicrhawyd bod y defnydd mwyaf effeithlon o’r dechnoleg sydd ar gael yn cael ei wneud.

“Nid yn unig y mae’n profi’n llwyddiant ysgubol yn fewnol i’r cwmni ond mae’n llwyddiant masnachol hefyd - gan gyflwyno cyfres gyfan o farchnadoedd newydd i ni ac o’r herwydd, rydym wrth ein boddau”

Llefarydd, Laing O’Rourke plc

“O ganlyniad i’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, rydym wedi datblygu cynllun marchnata strategol a’n galluogodd ni i ganoli’n gweithgareddau a’n hadnoddau’n fwy proffidiol a rhoi profiad mwy pleserus i’n cwsmeriaid”

Charles Davies, Heatherton Country Sports Park

Page 49: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

49

YSGOLORIAETH ARLOESI TYWYSOG CYMRU (POWIS)Math: Lleoliadau i raddedigionNoddwr: Ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF)Argaeledd: Ardal Gydgyfeirio, Cymru

Beth yw POWIS?Bydd Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru, a reolir gan Brifysgol Cymru, yn denu graddedigion prifysgol o sefydliadau academaidd gorau’r byd i weithio ar brosiectau ymchwil mewn cwmnïau Cymreig. Nod y prosiect yw lleoli ymchwilwyr doethurol mewn busnesau cyfrannog i helpu datblygu eu gallu i arloesi.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gael pob ysgolhaig i gyflawni prosiectau ymchwil allweddol, gyda chefnogaeth goruchwylwyr academaidd rhyngwladol a chenedlaethol.

Bydd y graddedigion yn ymgymryd â lleoliadau tair blynedd o hyd gyda busnesau (neu glystyrau o fusnesau) yn yr ardal Gydgyfeirio, gyda sefydliad addysg uwch o Gymru’n darparu’r arolygiaeth academaidd.

Nod y prosiectau fydd helpu gwella mynediad busnesau i ymchwil a datblygu a meddylfryd arloesol ac, o hyn, creu cynhyrchion, prosesau, patentau a gwasanaethau newydd. Mae’r pwyslais ar gymell arloesedd a masnacheiddio yn y busnesau.

Bydd y prosiectau a ddewisir mewn busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau blaenoriaeth allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yr Economi Ddigidol (TGCh)Economi carbon iselIechyd a’r BiowyddorauUwch beirianneg a gweithgynhyrchu.

Bydd y busnesau sy’n cymryd rhan yn cael mwy o atebion ymchwil a datblygu ac arloesol i helpu tyfu busnes; mynediad i rai o fyfyrwyr graddedig mwyaf dawnus y byd; cynhyrchion,

Page 50: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

gwasanaethau neu brosesau newydd i wella’r fantais gystadleuol; a mwy o elw a masnacheiddio eiddo deallusol.

Bydd cyflog blynyddol o £20,000 y flwyddyn, a bydd ffioedd dysgu’n cael eu gohirio gan y sefydliadau cyfrannog. Bydd deilydd yr ysgoloriaeth hefyd yn cael grant ymchwil o £5,000 (i dalu am gost y cyfarpar, llyfrau a theithio).

Pwy sy’n gymwys?Mae BBaChau, cwmnïau a sefydliadau mawrion yn gymwys.

Pa mor hir mae ysgoloriaethau POWIS yn para?Bydd cynllun POWIS yn darparu 100 ysgoloriaeth PhD yng Nghymru rhwng 2009 a 2012.

Faint mae’n ei gostio? Os ydy’ch cwmni mewn ardal cyllid Cydgyfeirio Cymru, bydd yn gymwys am gymorth ariannol sylweddol, sy’n gyfwerth â dros 60% o gyfanswm cost pob ysgoloriaeth. Mae disgwyl i bob cwmni wneud cyfraniad blynyddol o £16,000, a allai fod yn gymwys am gredydau treth ymchwil a datblygu, am bob ysgolhaig a leolwn yn eu busnes.

Er mwyn cael mwy o wybodaethE-bost [email protected] ewch i www.globalacademy.org.uk neu ffoniwch +44 (0)1792 485540 i gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig trwy ddefnyddio’r manylion ar flaen y llyfryn hwn i gael trafodaeth fanylach ar eich anghenion ac i gael mwy o wybodaeth.

Page 51: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

51GEI

RFA

Page 52: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

GEIRFA

Gweler isod eirfa o dermau a ddefnyddir yn y canllaw poced i gyllid a chymorth busnes.

Ardaloedd a gynorthwyirRhannau o’r Deyrnas Unedig sy’n gymwys am lwfansau arbennig y llywodraeth i geisio annog cyflogaeth, buddsoddiad a datblygu economaidd, mewn ardaloedd gyda diweithdra cyson uchel.

Ardal GydgyfeirioMae’r ardal Gydgyfeirio’n cynnwys 15 Awdurdod Lleol Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen.

ERDFCyllid o’r Undeb Ewropeaidd yw Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i ddatblygu economi a chyfoeth rhanbarth i fod yn fwy cystadleuol.

ESFCyllid o’r Undeb Ewropeaidd yw Cronfa Gymdeithasol Ewrop i wella cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth.

Cyllid CymruMae Cyllid Cymru, sefydliad Llywodraeth Cymru, yn gwneud buddsoddiadau masnachol mewn busnesau yng Nghymru a chanddynt y potensial i dyfu.

CCAUCCyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yw’r corff sy’n gyfrifol am ddosbarthu arian i addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Mewn daDefnydd o adnodd cwmni fel cyfraniad at brosiect yn hytrach na rhodd ffisegol o arian parod, e.e. amser y staff, defnyddio cyfarpar ac/neu ddeunyddiau etc.

Page 53: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

53

Cyllid cyfatebolCyfran costau’r prosiect y mae’n rhaid i’r busnes/sefydliad ei darparu, a adwaenir hefyd fel ‘cyfraniad y cwmni’. Fel rheol, canran o gyfanswm cost y prosiect. Gall y rhain fod yn rhoddion arian neu’n rhoddion ‘mewn da’.

Ymchwil a datblygu (R&D)Ymchwil a datblygu.

BBaCh Busnesau bach a chanolig (BBaCh) eu maint yw’r rhai sy’n cyflogi llai na 250 o bobl a chanddynt drosiant blynyddol heb fod yn fwy na 50 miliwn.

CyflogCyflog yw math o daliad neu gyflog ariannol, ar gyfer swydd breswyl neu brentisiaeth.

WEFOSwyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru sy’n gyfrifol am ddosbarthu a rheoli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru.

Ymwadiad

Mae’r maes cymorth busnes yn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn mor gywir ag y gallwn ni ei gwneud adeg argraffu ar 14/6/2011, ond dylech wirio’n uniongyrchol gyda’r cysylltiadau a nodwyd ar gyfer y rhan i sicrhau argaeledd a chywirdeb y cyllid cyfredol.

Bilingualism

Page 54: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

5454DAT

GA

NIA

DA

U H

YGYR

CHED

D A

DW

YIEI

THRW

YDD

Page 55: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines

54 5554

Hygyrchedd

Os oes angen y llyfryn cyfan neu ran ohono ar fformat arall, cysylltwch â Phartneriaeth Arloesi’r Ddraig gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar flaen y llyfryn hwn.

Dwyieithrwydd

Copies of a pocket guide to business funding and support are available in Welsh in electronic format on the Dragon Innovation Partnership Website atwww.dragonip.ac.uk/usefulresourcesanddownloads

Mae copïau o’r canllaw poced ar ariannu a chymorth i fusnesau ar gael yn Gymraeg ar ffurf electronig ar wefanPartneriaeth Arloesi’r Ddraig ynwww.dragonip.ac.uk/usefulresourcesanddownloads

Page 56: Canllaw poced i gyllid a chymorth busines