31
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Chapter Medi 2015

  • Upload
    chapter

  • View
    240

  • Download
    7

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Chapter Medi 2015

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Medi 2015

Croeso i gylchgrawn mis Medi. Wrth i ni ddod at ddiwedd yr haf, byddwn yn ffarwelio ag arddangosfa gyfredol yr Oriel, Thirteen Blackbirds Look at a Man. Byddwn yn flin i weld yr arddangosfa, â’i fideos o gaeau hafaidd tesog a chypyrddau’n llawn trugareddau a theimladau hiraethus am wyliau plentyndod yng Nghymru, yn dod i ben. Gallwch weld y sioe tan ddydd Sul 6 Medi (tt4–5). Draw yn ein theatr, bydd Waking Exploits yn eu holau â chynhyrchiad theatr newydd, NSFW (Not Safe for Work) (t14), sydd yn gomedi finiog am y byd cyfoes. A dyma gyhoeddiad arbennig i ffans Anime! Byddwn yn croesawu Kotatsu (tt24–25), gŵyl animeiddio undydd Japan, yn ôl i Chapter — bydd honno’n cynnwys ffilmiau byrion, ffilmiau nodwedd a marchnad yn llawn dop o bethau hyfryd. Ydych chi’n fyfyriwr ar fin dechrau cwrs neu’n dychwelyd i goleg neu brifysgol? Mae gan Gaerdydd lawer i’w gynnig ac rydym yn falch iawn eich bod yn mwynhau dod i ymweld â ni. Ymunwch â Chynllun Myfyrwyr Chapter (yn rhad ac am ddim) ac fe gewch chi fwynhau llond lle o fanteision, gan gynnwys prisiau gostyngol ar docynnau ac yn ein Caffi Bar. Fe gewch chi’r holl wybodaeth – ac fe glywch chi gan un myfyriwr sydd yn byw ac yn bod yma yn Chapter — ar dudalen 8. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.

Croeso02 chapter.org

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr–lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

02

Delwedd y clawr: NSFW (Not Safe For Work). Llun: Farrows Creative/ Waking Exploits

Page 3: Chapter Medi 2015

Uchafbwyntiau

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

03chapter.org

Oriel tudalennau 4–7

Cefnogwch Nitudalennau 8–9

Bwyta Yfed Llogitudalen 10

Chapter Mix tudalen 11

Theatr tudalennau 12–15

Sinematudalennau 16–28 Addysgtudalen 29

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30

Cymryd Rhan tudalen 31

Calendr tudalennau 32–33

03

Page 4: Chapter Medi 2015

Oriel04 029 2030 4400

Cath

ie P

ilkin

gton

, Lam

b, 2

004

Page 5: Chapter Medi 2015

Oriel 05chapter.org

Thirteen Blackbirds Look at a Man Fiona MacDonald, Cathie Pilkington, Annie Whiles & Sean AshtonTan ddydd Sul 6 Medi

Daw teitl yr arddangosfa o’r gerdd ‘Thirteen Blackbirds Look at a Man’ gan RS Thomas ac mae’r arddangosfa ei hun yn cynnwys gwaith gan bedwar artist sydd yn ymwneud â’n bodolaeth mewn byd modern, ynghyd â’r modd y’n gwahanwyd ni o fyd natur, yn gymdeithasol, yn ysbrydol ac yn ddiwylliannol. Rydym yn byw mewn byd cymhleth lle mae cysylltedd, a ystyrid unwaith yn beth hudolus, yn cael ei ystyried bellach mewn ffyrdd mwyfwy rhesymegol. Mae’r artistiaid yn archwilio’r bylchau yn ein gwybodaeth gyfun a’n profiad personol ac yn cyflwyno cyfres o gyfarfyddiadau symbolaidd a dychmygol. Maent yn gwneud hynny â hiwmor, fel petai i’n cymell ni i gredu eu neges.Mae’r gweithiau’n osgoi elfennau bob dydd ac yn archwilio ffuglen a llên gwerin; maent yn aros yn y parth hwnnw, wedi hynny, yn hytrach na chwilio am

esboniadau neu ddadansoddiadau. Daw stori i’r amlwg yn raddol, drwy gyfrwng pytiau o naratif, sydd yn datgelu syniadau am gyfriniaeth weledol a’r ocwlt. Mae’r cymeriadau wedi eu tynnu o fywyd go iawn, o’r Beibl, ac o chwedlau Groegaidd neu straeon tylwyth teg Almaenaidd, ond caiff y straeon hyn eu troi ar eu pennau.Mae’r gweithiau’n tynnu at ei gilydd syniadau am y byd, rhai ohonynt yn cyfeirio at ddimensiwn lled–grefyddol neu ysbrydol. Mae’r weithred bersonol o grefftio — boed hynny’n gerfio, yn greu delweddau symudol, yn beintio, modelu neu frodio — yn ymwneud â thraddodiad o wrthrychau a delweddau ledled y cyfandiroedd: mewn crefydd uchel ac ar lafar gwlad, yn wrthrychau talismonaidd, gwrthrychau ffetis, creiriau neu wrthrychau lwcus.

O’r Chwith i’r dde: Fiona MacDonald, Forage, 3 x lŵp fideo Manylder Uchel; Annie Whiles, One of the Gapers (manylyn), 2015

Page 6: Chapter Medi 2015

Oriel06 029 2030 4400

Tan ddydd Sul 6 MediMae’r wyddor yn gynrychioliad o syniadau haniaethol a syniadau anthroposentrig am ystyr ac, o’r herwydd, yn gyferbyniad llwyr â materoldeb organig coed. Cafodd y ‘llythrennau’ eu dewis a’u trefnu o blith casgliad parhaus o ffotograffau o siapiau hapgael ac mae MacDonald yn dehongli’r rhain fel arwyddion a chyfathrebiadau o fyd natur annynol. Cynnig chwareus, difrifol, dwfn ac arwynebol y gwaith yw nad yw ystyron yr ystumiau a’r ffurfiau hyn yn cydnabod ffiniau rhywogaethol. Gall ystyr yr arwyddion fod yn fwy haniaethol hefyd, neu yn fwy diriaethol. Wrth greu ac astudio paentiadau, mae rhywun yn darllen amrywiadau cynnil o ran pwysau, lliw, gwead a disgleirdeb, sydd yn ymdebygu i’r modd y mae naturiaethwr yn dysgu adnabod blew neu lwybrau anifail: gall pob marc fod yn arwydd o newid

cyfeiriad neu fwriad. Mae Wild Word hefyd yn ystyried syniadau am symbolaeth gysegredig ac ‘amhur’ — yr ystyron cudd sydd i’w cael mewn gwrthrychau neu ddelweddau na ellir mo’u darllen ond gan ddarllenwr hyddysg. Un wedd ar hyn oedd ‘athrawiaeth y nodweddion’ Cristnogaeth ganoloesol (‘doctrine of signatures’) – sef y syniad y gallai planhigion a rhannau o anifeiliaid helpu (neu iachau) organau y tybid eu bod yn weledol debyg iddynt.

CELFYDDYD YN Y BAr

Fiona MacDonald: Wild Word

Fiona MacDonald, Wild Word, 2015

Page 7: Chapter Medi 2015

07chapter.org Oriel

OFF THE PAGEMer 9 Medi 6.30pmMae OFF THE PAGE yn archwilio cysylltiadau rhwng ysgrifennu, cyhoeddi a pherfformio ac yn archwilio rhai o elfennau mwy anarferol y celfyddydau gweledol. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal mewn arddull anffurfiol, DIY, ac yn caniatáu i artistiaid roi cynnig ar bethau newydd ac i gymryd risgiau. Mae pob artist yn cyflwyno’i waith yn ei ddull unigryw a phersonol ei hun. Caiff sesiynau OFF THE PAGE eu curadu gan Samuel Hasler, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ym meysydd testun a pherfformio.RHAD AC AM DDIM ond bydd angen tocyn — gallwch gadw lle drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau.

CELFYDDYD YN Y BAr

Gwyn Williams: Chipwood and ChoppersGwe 18 Medi — Sul 1 TachweddMae cyfres newydd Gwyn Williams yn seiliedig ar ei freuddwydion a’i ddiddordeb yn yr hen ffordd Americanaidd o fyw.Mae Williams yn chwilota am luniau a delweddau archif ar y we a’r rheiny’n cyfleu golygfeydd o Americana clasurol: dynion a menywod wedi’u gwisgo fel cowbois mewn ffair haf; cwpl yn eistedd mewn canŵ ar lyn glas eang wedi’u hamgylchynu gan goed pinwydd; cipluniau sydd fel petaent wedi’u tynnu yn ystod gwyliau teuluol.Heb eu golygu na’u trin, mae Williams yn cyfosod y delweddau hiraethus hyn ag adrannau o bapur wal ‘chipwood’, deunydd sydd yn dwyn i gof yr artist atgofion am ei blentyndod yng Ngogledd Cymru a’i ffantasïau am y ‘Freuddwyd Americanaidd’.Mae Gwyn Williams yn byw ac yn gweithio yn Clwt–y–bont ger Caernarfon. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys, ‘The Scent of Dic Aberdaron’, Oriel Davies, Y Drenewydd (2015); ‘Y Lle Celf’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru; ‘Oriel Davies Open’, Oriel Davies, Y Drenewydd (y ddwy yn 2014); ‘Pebbledash and Polaroids’, Hackney Picturehouse, Llundain; MOSTYN Open 18, MOSTYN, Llandudno (y ddwy yn 2013).

Gwyn

Will

iam

s, B

lydi

Cow

bois

, 201

5

Page 8: Chapter Medi 2015

Cefnogwch Ni08 029 2030 4400

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

Aelodaeth i FyfyrwyrYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar ambell gynnig arbennig iawn? Ymunwch heddiw! Mae’r manteision yn cynnwys:• Prisiau gostyngol ar bob tocyn theatr a sinema• Gostyngiad o 10% yn ein Caffi Bar• Cyfleoedd i ennill gwobrau gwych• Cylchlythyrau ecsgliwsif• Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig Cofrestrwch heddiw yn www.chapter.org/cy/myfyrwyr.

CEFNOGWCH NI

Christian WebbMyfyriwrDw i ar fin dechrau ar fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Clywais am Chapter am y tro cyntaf yn ystod fy ffair gyntaf un i las–fyfyrwyr (roedd hynny ddwy flynedd yn ôl ond mae’n teimlo fel oes yn barod ... aaa!). Mae Aelodaeth Chapter i Fyfyrwyr yn cynnig ambell ffordd ardderchog o arbed arian, fel 10% oddi ar fwyd a diod (gan gynnwys alcohol os ydych chi dros 18 oed!), a thocynnau sinema a theatr am bris gostyngol. Ar ben hynny, mae cerdyn Myfyriwr yn golygu y gallwch chi gasglu pwyntiau i’w gwario wedi hynny ...Dw i’n aml yn gwahodd fy ffrindiau i Chapter ar nosweithiau llwm yng nghanol yr wythnos ar ôl oriau yn y llyfrgell ac mae hi wastad yn rhyddhad gallu mwynhau ffilm yn y sinema, a sgwrs wedi hynny gyda rhai o ddarlithwyr Prifysgol Caerdydd ei hun. Gall fod yn anodd perswadio myfyrwyr i ddod i Dreganna o ochr arall Caerdydd ond, wedi i chi lwyddo y tro cyntaf, maen nhw’n dychwelyd dro ar ôl tro — dyna ddigwyddodd i fi, beth bynnag!

Page 9: Chapter Medi 2015

09chapter.org Cefnogwch Ni

UnigolionFfrindiauYmunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd : £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40 RhoddionCofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar–lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch–ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad. CymynroddionMae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

BusnesauClwbCynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar.I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter–clwb.

NawddYn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer fawr o gyfleoedd i’n noddi a’r rheiny’n cynnig buddion ardderchog, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a chyfleoedd i hyrwyddo eich brand.I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 02920 355662 neu e–bostiwch [email protected].

Ein cefnogwyr wrth eu gwaith:Stiwdios Sweet Spot yw cefnogwyr diweddaraf Chapter ac fe ddatblygodd y berthynas o ganlyniad i berthynas Chapter â Richer Sounds. Mae’r fenter newydd hon, dan arweiniad Andie Bosley, yn cynnig stiwdios recordio proffesiynol a fforddiadwy a hynny mewn awyrgylch croesawgar a diogel sy’n annog unigolion i ymlacio ac i’w mynegi eu hunain pryd bynnag a sut bynnag y gwelant yn dda. Mae elfen recordio symudol ychwanegol y stiwdio yn caniatáu i Andie fynd at y gymuned yn uniongyrchol. Mae e’n mynd i gartrefi unigolion nad ydyn nhw’n gallu dod ato fe neu at bobl nad oes ganddyn nhw ddigon o hyder i fynd i stiwdio. Gall unigolion recordio eu lleisiau, eu straeon neu eu cerddoriaeth – mae’r deunydd yn mynd yn ôl i’r stiwdio wedi hynny i gael ei brosesu, ei gynhyrchu a’i gymysgu. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.sweetspotstudio.uk.com. Gallwch ffonio 07815848195 hefyd neu e–bostio [email protected].

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 02920 355662 neu e–bostiwch [email protected].

Page 10: Chapter Medi 2015

Bwyta + YfedAr hyn o bryd, rydym yn mwynhau diweddaru bwydlenni Brecwast a Picnic Chapter, ein deli amser cinio poblogaidd. Cadwch lygad ar ein gwe–fan, www.chapter.org, a dilynwch ni ar Twitter @chapter_eats i gael y newyddion diweddaraf!

ChapterLiveGwe 4 Medi + Gwe 18 Medi 9pmMae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, sydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Cynhelir ChapterLive yn y Caffi Bar ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Does yna ddim genres penodol, felly mae’r nosweithiau’n gyfle i chi ddod o hyd i artistiaid newydd gwych. A rhag ofn bod angen mwy o berswâd arnoch, mae mynediad i’r nosweithiau’n rhad ac am ddim. Ffordd wych o gychwyn y penwythnos!I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe–fan.RHAD AC AM DDIM@JealousLovers1#ChapterLive

LlogiMae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe–fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e–bost at [email protected].

Pop Up ProduceMer 2 Medi 3–8pmMae ein marchnad fisol boblogaidd yn llawn dop â chynhyrchwyr bwyd lleol ac fe fydd y rheiny’n cynnig danteithion i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os felly, ac os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu’ch cynhyrchion chi, cysylltwch â Philippa — [email protected] — i wneud cais am stondin.

10 029 2030 4400Bwyta Yfed Llogi

Page 11: Chapter Medi 2015

11chapter.org Chapter Mix

Clwb Comedi The DronesGwe 4 + Gwe 18 Medi Drysau’n agor am 8.30pm Sioe’n dechrau am 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand–ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.£3.50 (wrth y drws)

Gerddi Agored NGS ar Ddiwrnod yr ElusennauSad 5 Medi 10.30am–4.30pmAr ddydd Sadwrn 5 Medi, bydd Gardd Gymunedol Chapter yn cymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol: Gerddi Agored ar Ddiwrnod yr Elusennau. Mae’r cynllun yn sicrhau bod gerddi diddorol, llawn cymeriad, yng Nghymru a Lloegr, ar agor i’r cyhoedd, a hynny er mwyn codi arian i elusennau. Ers ei sefydlu ym 1927, cododd y cynllun dros £40 miliwn ac mae mwy na hanner miliwn o bobl yn ymweld â gerddi bob blwyddyn. Dewch draw i weld ein gardd ogoneddus yn ei blodau hydrefol hardd; fe fydd yna gyfle i gyfnewid planhigion, i ddysgu am gompostio ac i glywed am wenyn Chapter – a blasu eu mêl ardderchog! Fyddwch chi’n dod gyda’r teulu? Bydd yna weithgareddau hwyliog i blant o ganol dydd ymlaen.£2.50 (mynediad yn cynnwys te/coffi a chacen am ddim)www.ngs.org.ukwww.cantoncommunitygardens.co.uk

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 6 Medi 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De CymruIau 10 Medi 2pm‘The England of Eric Ravilious (1903–1942)’ David Boyd Haycock BA (Anrh) MA PhDRoedd Eric Ravilious yn artist Prydeinig nodedig yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Byddwn yn edrych ar ei yrfa fel artist dyfrlliwiau, murluniwr, seramegydd ac ysgithrwr pren, a hynny yng nghyd–destun cymdeithasol a diwylliannol Lloegr y 1920au a’r 30au. Cynhaliwyd arddangosfa nodedig o waith Ravilious yn Oriel Dulwich yn ystod haf 2015.£6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Jazz ar y SulSul 20 Medi 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.RHAD AC AM DDIMwww.glenmanby.com

Fforest Breuddwydion Gwe 25 Medi 8pm‘Fforest Breuddwydion: Straeon o Goetiroedd Gwylltion Cymru’, gyda’r storïwr, Fiona Collins, a cherddorion gwadd.£5/£4

Gwyl ‘New Under the Sun’Sad 26 Medi 11am–7pm

11am–12pm: Ffaith neu Ffuglen?Gyda’r nofelwyr, Gary Raymond a Lewis Davies, a chroniclwr Clwb Pêl–droed Dinas Caerdydd, Nick Fisk. RHAD AC AM DDIM

12–2pm: Ffair Lyfrau RHAD AC AM DDIM

2–3pm: Cyfieithu LlenyddiaethBydd Wil Roberts a Tony Bianchi yn trafod cyfieithiadau newydd o’u nofelau Cymraeg.

4–5pm: Dihangfa, Awydd a Chyflyrau’r MeddwlBydd Gee Williams, Alix Nathan a Susmita Bhattacharya yn trafod eu nofelau diweddaraf sydd yn teithio drwy amser ac ar hyd a lled y cyfandiroedd.

6.15–7pm: Esgidiau Clown a DoppelgängersGweithiau byrion newydd a nodedig gan Rebecca F. John & Mark Blayney. Sesiwn wedi’i chadeirio gan Jon Gower.

Mae tocynnau ar gyfer pob sesiwn o 2pm ymlaen yn £6 yr un neu gallwch brynu tocynnau ar gyfer pob un o’r tair sesiwn am £12.Ar y cyd â Gwasg Parthian

nutscardiff.wordpress.com @nutscardiff

Page 12: Chapter Medi 2015

Theatr12 029 2030 4400

“ Egnïol, ysbrydolgar a theimladwy” Theatr Critics Wales

The

Good

Ear

th. L

lun:

Tom

Fla

nner

y

Page 13: Chapter Medi 2015

Theatr 13chapter.org

MOTHErLODE YN CYFLWYNO

The Good EarthMer 9 — Sad 12 Medi 7.30pmStori Gymreig newydd am y frwydr i achub cymuned.Sut fyddech chi’n teimlo pe deuai rhywun o’r tu allan i’r pentref lle mae eich teulu wedi trigo ers cenedlaethau a dweud wrthych chi i gyd am adael? Wedi’i gosod yn nwfn y Cymoedd, mae The Good Earth yn brotest newydd ffrwydrol wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn.Mae’r digwydd yn datblygu drwy gyfrwng theatr gorfforol, caneuon gwerin Cymreig godidog a gwaith ysgrifenedig newydd, a’r cwbl yn cyflwyno bywyd mewn cwm sydd wedi’i rwygo’n ddau gan y cyngor lleol, gan fusnesau mawrion — a chan y trigolion eu hunain, yn y pen draw.Syniad gwreiddiol a chyfarwyddo gan Rachael Boulton. Cyfarwyddo cerddorol & Threfniannau gan Max Mackintosh. Dyfeisiwyd gan Motherlode. The Good Earth yw cynhyrchiad cyntaf Motherlode — mae’n gydweithrediad rhwng Fragments, Motherlode & Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a Chapter. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

£12/£1014+ oed

Homo irrationalis Gwe 11 Medi 8pm + Sad 12 Medi 4pmPerfformir H.i. gan dri dawnsiwr gwrywaidd clyfar ond hynod hurt; mae’r sioe’n ymgais gorfforol a doniol i ddod o hyd i wir natur dynol ryw. Mae Homo Irrationalis (Lladin: “bod dynol afresymol”) yn gangen newydd a ddarganfuwyd yn ddiweddar oddi mewn i rywogaeth yr Homo Sapiens (Lladin: “bod dynol doeth”). O ganlyniad i addasiad esblygiadol, mae bodau H.i. wedi colli’r gallu i fod yn ddeallus (i feddwl neu i fod yn ddoeth), ac felly maent yn gaeth i batrymau o ymddygiad mwyfwy ansicr, anesboniadwy ac afresymol.Fe’ch gwahoddir chi gan dri ymchwilydd gwych ac anghonfensiynol i gyflwyniad a fydd yn defnyddio symudiadau, tafluniadau a hiwmor amharchus i’ch harwain ar daith o organebau un gell i “fodau dynol deallus” a thu hwnt. Coreograffi: Karol Cysewski.Cynhyrchydd: Laura H Drane Associates.£12.50/£10.50@kcysewskidance

Hom

o irr

atio

nals

. Llu

n: J

ohn

Colli

ngsw

ood

/ M

arc

Heat

ley

Page 14: Chapter Medi 2015

Theatr14 029 2030 4400

WAkiNG ExPLOiTS YN CYFLWYNO

NSFW (Not Safe For Work)Maw 15 — Sad 26 Medi 8pm (dim perfformiad ar Sul 20 Medi)Perfformiadau matinée ar Sad 19 + Sad 26 Medi 2.30pm “The articles are sh*t. No offence Charlotte. But no–one buys our publication principally for the literature. I think it’s important to acknowledge that.”Mae Carrie’n dangos eu bronnau i’r bois. Mae Charlotte yn ddiolchgar bod ganddi swydd, mae disgwyl i Sam werthu mwy na’i gorff ac mae Aidan yn ceisio cadw Doghouse rhag mynd i’r wal.Arian, rhyw a Photoshop. Mae comedi finiog Lucy Kirkwood yn archwilio grym a phreifatrwydd yn ein byd cyfoes. [NSFW: ‘Not Safe for Work’ — deunydd ar–lein nad yw’r defnyddiwr fel arfer yn awyddus iawn i gael ei weld yn ei wylio mewn lleoliad cyhoeddus neu ffurfiol fel y gweithle].Ysgrifennwyd gan Lucy Kirkwood. Cyfarwyddwyd gan Anna Poole.£14/£12/£10Oed 14+ (sioe’n cynnwys iaith gref)www.wakingexploits.co.uk@wakingexploits

NSFW

(Not

Saf

e Fo

r Wor

k). L

lun:

Far

row

s Cr

eati

ve /

Wak

ing

Expl

oits

.

Page 15: Chapter Medi 2015

Theatr 15chapter.org

The Drowned GirlMer 30 Medi — Sad 3 Hydref 8pmDywedodd nain Kelly wrthi iddi gael ei geni’n fôr–forwyn ac, o’r herwydd, roedd ei phlentyndod yn llawn anturiaethau môr–forwynaidd a chynffonnau wedi’u gwneud o focsys creision ŷd. Doedd dim ots nad oedd Kelly’n gallu nofio...Ond roedd hynny i gyd amser maith yn ôl ac mae pethau’n wahanol iawn erbyn hyn. Mae Kelly’n boddi mewn swydd heb ddyfodol yn Asda ac fe fu farw ei hannwyl nain flwyddyn yn ôl. Mae yna gysur iddi yn ei breuddwydion, wrth iddi blymio i realiti hollol wahanol yn llawn môr–forynion ac atgofion hapus o fod ar lan y môr, ond wrth i’r breuddwydion ddechrau ei meddiannu, rhaid i Kelly ddysgu nofio eto.Weithiau’n ddoniol, weithiau’n drist, mae The Drowned Girl yn ddrama un–fenyw am ieuenctid coll, anwyliaid coll a môr–forynion. Ymunwch â Kelly mewn byd lle daw rhith a realiti’n un, wrth iddi rannu ei straeon â chi.Ysgrifennu a Pherfformio: Kelly Jones.Cyfarwyddwr: Anna Poole.Cerddor: Chris Young.Cynhyrchydd: Olivia Harris.Cefnogir The Drowned Girl gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynllun TEAM National Theatr Wales.

£12/£1014+ oed

The

Drow

ned

Girl

Page 16: Chapter Medi 2015

Sinema16 029 2030 4400

The

Diar

y of

a T

eena

ge G

irl

Page 17: Chapter Medi 2015

17chapter.org Sinema

45 YearsGwe 28 Awst — Iau 10 MediDG/2015/97mun/15. Cyf: Andrew Haigh. Gyda: Charlotte Rampling, Tom Courtenay, Geraldine James.

Wythnos yn unig sydd yna tan i Kate Mercer a’i gŵr ddathlu 45 mlynedd o briodas. Ond pan ddaw llythyr i’w gŵr, Geoff, mae holltau’n ymddangos mewn priodas ymddangosiadol hapus. Daethpwyd o hyd i gorff ei gariad cyntaf ef, mewn rhewlif yn Alpau’r Swistir. Mae’r ffilm hon yn talu sylw manwl i fecaneg bob dydd perthynas gariadus ac mae hi’n cynnwys perfformiadau anhygoel.

The Diary of a Teenage GirlGwe 28 Awst — Iau 3 MediUDA/2015/102mun/18. Cyf: Marielle Heller. Gyda: Bel Powley, Alexander Skarsgård, Kristen Wiig.

Fel y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau, mae Minnie’n ysu am gariad, am gael ei derbyn ac am sicrhau teimlad o bwrpas yn y byd. Mae hi’n cychwyn ar garwriaeth gymhleth gyda chariad ei mam, sy’n arwain at stori finiog a doniol, stori bryfoclyd a diduedd, am ddeffroad rhywiol ac artistig merch yng ngwrth–ddiwylliant San Francisco y 1970au.

Moviemaker ChapterLlun 7 AwstSesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu unrhyw wybodaeth arall, e–bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Gemma BoveryGwe 28 Awst — Iau 10 MediFfrainc/2015/100mun/is–deitlau/15. Cyf: Anne Fontaine. Gyda: Gemma Arterton, Jason Flemyng, Fabrice Luchini.

Yn y gomedi swynol hon, mae’r cwpl Prydeinig, Gemma a Charles Bovery, yn ymfudo i bentref bychan yn Normandi, ac yn symud i dŷ gyferbyn â phobydd canol oed lleol — a ffan pybyr o Flaubert — o’r enw Martin Joubert. Mae dychymyg eu cymydog yn ei arwain i gymharu Gemma ag arwres drasig Madame Bovary. Ag yntau’n benderfynol o atal y diweddglo trist hwnnw yn y byd go iawn, mae e’n dod yn rhan o’u bywydau.

+Gemma Bovery: AddasiadauMaw 1 MediMae’r ffilm hon yn gyfle i ddilyn gwe o addasiadau amrywiol. Mae Gemma Bovery, a gyfarwyddwyd gan Anne Fontaine, yn seiliedig ar y nofel graffig gan Posy Simmonds sydd, yn ei thro, yn seiliedig ar y clasur Ffrengig gan Gustave Flaubert sydd, yn ei fersiwn Saesneg, yn gyfieithiad — sef math o addasiad ynddo’i hun! Wrth fynd ati i greu darn o gelfyddyd, mae pob aelod o’r gynulleidfa yn cynnig ei ddehongliad ei hun, felly mae ein grŵp trafod, Addasiadau, yn gyfle i ddatod y gwahanol glymau hyn ac i gael clonc a lleisio barn ar ôl y ffilm.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: 45

Year

s, G

emm

a Bo

very

Page 18: Chapter Medi 2015

Sinema18 029 2030 4400

Magician: The Astonishing Life and Work of Orson WellesGwe 28 Awst — Mer 2 MediDG/2015/91mun/12A. Cyf: Chuck Workman. Gyda: Orson Welles, Martin Scorsese, Peter Bogdanovich.

Yn bianydd rhyfeddol yn 10 oed, yn beintiwr ac yn gyfarwyddwr dramâu gan Shakespeare yn 14 oed ac yn seren y llwyfan a’r radio yn 20 oed, aeth Orson Welles ati, yn 25 oed, i gyfarwyddo ffilm sydd yn aml yn dod i frig rhestrau beirniaid o’r ffilmiau gorau erioed. Dweud llai na’r gwirionedd fyddai dweud iddo gael bywyd hudolus a rhyfeddol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn defnyddio golygfeydd o’i yrfa doreithiog ac yn cynnwys enghreifftiau o ffraethineb chwedlonol Welles ynghyd â chyfraniadau gan edmygwyr enwog di–ri.

The Mercury Theatr on the Air (digwyddiadau gwrando)Cyf: Orson Welles. Gyda: Orson Welles, Joseph Cotten, Agnes Moorehead, Kenny Delmar.

Cyfle i eistedd yn ôl ym moeth Sinema 2 a mwynhau’r recordiadau a lansiodd yrfa Welles a’i gwmni o actorion, i gyfeiliant cerddoriaeth gan Bernard Herrmann.Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.

War of the Worlds gan HG Wells Sad 5 MediMae gohebydd newyddion yn dyst i ymosodiad gan fodau arallfydol o’r blaned Mawrth yn y ddrama radio arloesol hon. Mor effeithiol oedd hi, yn wir, fel yr achosodd banics gwyllt ymysg gwrandawyr diniwed nad oedden nhw’n sylweddoli mai ffrwyth dychymyg oedd y darllediad.

Bram Stoker’s DraculaSad 12 MediMae dyn ifanc yn mynd i weithio dros ŵr bonheddig dirgel yn Nwyrain Ewrop ond yn ei gael ei hun yn sownd mewn gwe sydd yn arwain yn y pen draw at ei ddyweddi annwyl ac at beryglu dyfodol Lloegr. Hwn oedd cynhyrchiad radio cyntaf Welles ac mae’n bortread dramatig a phwerus o fampir enwocaf llenyddiaeth.

The Immortal Sherlock HolmesSad 19 MediDrama wreiddiol, sydd yn addasiad llac o blotiau straeon byrion Arthur Conan Doyle am y ditectif byd–enwog.

I nodi canmlwyddiant geni un o’r ffigyrau mwyaf carismatig a diddorol yn hanes y sinema, rydym yn falch iawn o allu dangos detholiad o waith Orson Welles. Mae’r campweithiau pryfoclyd a diddorol hyn yn mynegi gobaith — a brwydrau tywyll — y freuddwyd Americanaidd. Bydd yna gyfle hefyd i glywed llais bariton bythgofiadwy y dyn ei hun yn ei waith radio arloesol.

Tymor Orson Welles

Mag

icia

n: T

he A

ston

ishi

ng L

ife a

nd W

ork

of O

rson

Wel

les

Page 19: Chapter Medi 2015

19chapter.org Sinema

Citizen KaneSul 6 + Maw 8 MediUDA/1941/119mun/U. Cyf: Orson Welles. Gyda: Orson Welles, Joseph Cotten, Dorothy Comingore.

Caiff gohebydd ei gyflogi i ddehongli’r geiriau a ynganwyd gan berchennog papurau newydd, Charles Foster Kane, ar ei wely angau. Mae ei ymchwiliad yn datgelu dyn cymhleth a gododd o ddim i’r uchelfannau. Mae’r campwaith arloesol hwn — ffilm gyntaf Welles — yn cyfleu gwagedd y freuddwyd Americanaidd ac fe gyrhaeddodd frig sawl rhestr nodedig o’r ffilmiau gorau erioed.

The Lady from ShanghaiSul 13 + Maw 15 MediUDA/1947/87mun/PG. Cyf: Orson Welles. Gyda: Rita Hayworth, Orson Welles, Everett Sloane.

Yn y ffilm noir lawn steil hon, cawn gwrdd â O’Hara, morwr masnachol sy’n cael ei gyflogi gan y cyfreithiwr cyfoethog, Bannister, a’i wraig hardd, Elsa, i weithio ar eu llong foethus. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys a daw gorffennol dirgel Elsa i’r amlwg, cyn i O’Hara ei gael ei hun yn rhan o gynllwyn cymhleth sy’n cynnwys llofruddiaeth...

“Mae Welles yn cyfleu byd o ddieithrwch breuddwydiol â dogn hallt o gomedi dywyll a cherrynt o fygythiad ac awydd; [mae i’r ffilm hon] egni anorchfygol” Peter Bradshaw, The Guardian

Touch of EvilSul 20 + Maw 22 MediUDA/1957/104mun/12A. Cyf: Orson Welles. Gyda: Charlton Heston, Janet Leigh, Orson Welles, Marlene Dietrich.

Mae Vargas yn heddwas delfrydyddol sy’n gweithio ar y ffin rhwng Mecsico a’r UDA. Mae e’n priodi Susan, blonden Americanaidd hardd. Mae hynny’n cythruddo prif swyddog cam o’r enw Quinlan, sydd yn ceisio cynnal y status quo llygredig. Mae yntau’n penderfynu defnyddio’r gang cyffuriau lleol i ymosod ar Susan mewn gwesty anghysbell a’i fframio hi fel un sy’n gaeth i gyffuriau. Ffilm emosiynol–afaelgar ac artistig–arloesol sydd yn wledd i’r llygaid ac yn llawn cyffro tanbaid.

The Magnificent AmbersonsSul 27 + Maw 29 MediUDA/1942/86mun/U. Cyf: Orson Welles. Gyda: Joseph Cotten, Dolores Costello, Anne Baxter, Agnes Moorehead.

Yn feistres ar Blasty’r Ambersons, caiff Isabel ei rhwygo rhwng ei chariad cyntaf, Eugene, a’r Wilbur cyfoethog, oeraidd. Mae hi’n dewis dyletswydd ac yn pentyrru ei serch ar eu mab George, sy’n cael ei ddifetha, a hynny’n arwain at oblygiadau trychinebus i’r teulu. Yn rhy hir ac yn rhy ddrud, aeth y stiwdio ati i gwblhau fersiwn derfynol y ffilm hon ond, er gwaetha’ hynny, goroesodd syniad gwreiddiol Welles ar gyfer y ffilm, ynghyd â’i sinematograffi syfrdanol a’i pherfformiadau pwerus.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Cit

izen

Kan

e, T

ouch

of E

vil

Page 20: Chapter Medi 2015

Sinema20 029 2030 4400

TheebGwe 4 — Iau 10 MediYr Emiradau Arabaidd Unedig/2014/100mun/is–deitlau/PG. Cyf: Naji Abu Nowar. Gyda: Jacir Eid Al–Hwietat, Hussein Salameh Al–Sweilhiyeen.

Yn Anialwch Arabia ym 1916 mae Theeb (‘blaidd’ yn yr iaith Arabeg), bachgen Bedwynaidd ifanc sydd newydd golli ei dad, yn cychwyn ar daith beryglus ar hyd yr anialwch. Os yw Theeb am oroesi, bydd yn rhaid iddo ddysgu am ymddiriedaeth a cholled – a dysgu hefyd nad oes brad yn ystyr yr enw a gafodd gan ei dad.Enillydd Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau, Gŵyl Ffilm Fenis

“Ffilm antur glasurol o’r iawn ryw” Variety

Cartel LandGwe 11 — Iau 17 MediUDA/2014/98mun/is–deitlau/15. Cyf: Matthew Heineman.

Yn nhref fach Michoacán, Mecsico, mae’r Dr Jose Mireles, “El Doctor”, yn arwain gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y cartel cyffuriau treisgar a fu’n rheibio’r rhanbarth ers blynyddoedd. Yn y cyfamser, yn Nyffryn Altar yn Arizona (coridor cul, 52 milltir o hyd yn yr anialwch a adwaenir fel ‘Cocaine Alley’), mae Tim Foley yn arwain grŵp parafilwrol sy’n ceisio atal rhyfel cyffuriau Mecsico rhag croesi’r ffin i’r Unol Daleithiau. Llwyddodd gwneuthurwyr y ffilm i dreiddio i fannau nas gwelwyd o’r blaen i greu’r ffilm hon sydd yn daith angerddol i galon y rhyfel cyffuriau.

Closed CurtainGwe 4 — Iau 10 MediIran/2014/106mun/is–deitlau/12Aarf. Cyf: Jafar Panahi. Gyda: Jafar Panahi, Maryam Moqadam, Kambuzia Partovi.

Mae sgriptiwr yn Iran yn ffoi gyda’i gi ar ôl i’r llywodraeth ddatgan bod cŵn yn “amhur” a’u gwahardd o fywyd cyhoeddus. Mae e’n tywyllu’r holl ffenestri yn ei fila lan–môr ac yn paratoi i fyw, mewn heddwch cymharol, gyda’i anifail anwes annwyl. Mae dyn a dynes ifanc yn ymddangos, mewn cyflwr o ofn a dryswch ymddangosiadol, ac mae e’n teimlo rheidrwydd i’w croesawu nhw i’w dŷ. Cwblhawyd y ffilm hon yn y dirgel, o ganlyniad i waharddiad Panabi rhag gwneud ffilmiau; mae’r cyfarwyddwr yn cyflwyno, er gwaetha’ hynny, astudiaeth o gymdeithas lle mae hurtrwydd bellach yn rhan o fywyd bob dydd.

13 MinutesGwe 11 — Iau 17 MediYr Almaen/2015/114mun/is–deitlau/15. Cyf: Oliver Hirschbiegel. Gyda: Christian Friedel, Katharina Schüttler, Burghart Klaußner.

Yn 1938, ceisiodd y gwneuthurwr clociau, Georg Elser, lofruddio Hitler ym Munich. Fodd bynnag, ffrwydrodd ei fom 13 munud yn rhy hwyr i achub 55 miliwn o fywydau. Mae’r ffilm hon yn gipolwg meddylgar ar y gŵr rhamantaidd ac addfwyn a welodd ei ffrindiau’n dioddef o ganlyniad i’w credoau ac a benderfynodd weithredu ...

O’r b

rig: T

heeb

, Clo

sed

Curt

ain

Page 21: Chapter Medi 2015

21chapter.org Sinema

Zeitghost: i Speak MachineSul 13 MediCyf: Maf Lewis. Perfformiwr / Cyfansoddwr: Tara Busch.

Cyflwyniad arbennig sy’n cynnwys y ffilm wyddonias, The Silence, a’r ffilmiau arswyd byrion, See Me a 1985, trwy ddefnydd o Synchronika — proses o gyfansoddi cydamserol sy’n uno sain a deunydd gweledol er mwyn creu darn o gelfyddyd gyfun. Ysbrydolwyd y broses gan Ennio Morricone a bydd y sgôr fyw yn cael ei pherfformio ar allweddellau analog ‘vintage’. Bydd deunydd lleisiol hefyd yn cyd–fynd â’r ffilmiau. £12/£10/£8

The Damned: Don’t You Wish That We Were DeadGwe 25 Medi — Iau 1 HydrefUDA/2015/110mun/TiCh (18arf). Cyf: Wes Orshoski. Gyda: Chrissie Hynde, Mick Jones, Lemmy.

Ffilm newydd gan gyfarwyddwr Lemmy, Wes Orshoski, sy’n adrodd hanes arloeswyr anghofiedig pync, The Damned. Nhw oedd y pyncs Prydeinig cyntaf i recordio a’r rhai cyntaf i groesi’r Iwerydd. Yn cynnwys cyfweliadau â llu o’u cyfoedion, cafodd y ffilm ei saethu ledled y byd dros gyfnod o dair blynedd ac mae’n adrodd hanes cymhleth y band a’u dadleuon niferus. Wrth iddynt ddathlu pen–blwydd y band yn 35 oed, gwelwn gyn–aelodau yn cychwyn allan ar eu teithiau pen–blwydd eu hunain, wrth i eraill frwydro yn erbyn canser.

Orion: The Man Who Would Be kingGwe 25 Medi — Iau 1 HydrefDG/2014/87mun/TiCh. Cyf: Jeanie Finlay.

Stori Jimmy Ellis yw hon — canwr anhysbys a ddaeth i enwogrwydd yn sgil cynllun gwallgo’ i esgus taw ef oedd Elvis wedi codi o farw’n fyw. Â’i hunaniaeth ffuglennol, a oedd fel petai wedi’i thynnu o dudalennau nofel, ac â chefnogaeth gan label chwedlonol Sun Records, ynghyd â llais a oedd fel petai’n perthyn i’r Brenin ei hun, roedd y cynllwyn yn llwyddiant ysgubol ac fe gychwynnwyd y myth bod “Elvis yn fyw”.... + Sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cyfarwyddwr, Jeanie Finlay, ar Sul 27 Medi

roger Waters: The WallMaw 29 MediCyf: Roger Waters, Sean Evans.

Ffilm o un o’r sioeau byw mwyaf uchelgeisiol a chymhleth erioed. Mae’r gwaith yn cyflwyno’r albwm lled–hunangofiannol enwog ac yn tynnu at ei gilydd orffennol Waters a phrotestiadau gwrth–ryfel — mae’r cwbl at ei gilydd yn ddogfen ddiddorol o bennod ddylanwadol yn ein diwylliant poblogaidd. £12/£10/£8

Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r gymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu yn cynnwys sgôr sain ardderchog.

Orio

n: T

he M

an W

ho W

ould

Be

King

Page 22: Chapter Medi 2015

Sinema22 029 2030 4400

The Legend of Barney ThomsonGwe 18 — Iau 24 MediDG/2015/96mun/15. Cyf: Robert Carlyle. Gyda: Robert Carlyle, Emma Thompson, Ray Winstone, Tom Courtenay.

Mae’r barbwr addfwyn a lletchwith, Barney, yn cael damwain yn y gwaith sy’n ei arwain ar ei ben i fyd grotesg a hurt llofrudd cyfresol. Mae e’n troi am gymorth at ei fam ffyrnig, Cemolina, wrth iddi geisio ei lywio ef o afael heddwas diamynedd o’r enw Holdall. Mae’r ffilm gyntaf dywyll hon gan Carlyle, wedi’i haddasu o lyfrau Douglas Lindsay, yn llawn o hiwmor miniog Glasgow.

Miss JulieGwe 11 — Iau 17 MediNorwy/2014/129mun/12A. Cyf: Liv Ullmann. Gyda: Jessica Chastain, Colin Farrell, Samantha Morton.

Yn ystod noson o haf, ac mewn awyrgylch o rialtwch gwyllt a chyfyngiadau cymdeithasol llac, mae gwraig fonheddig o’r enw Miss Julie a valet ei thad, John, yn dawnsio, yn yfed ac yn manipiwleiddio’i gilydd. Yn ddarlun o frwydrau cymdeithasol a brwydrau rhwng y rhywiau am rym a goruchafiaeth, mae’r ffilm yn addasiad moethus o ddrama glasurol Strindberg, wedi’i gosod yn Iwerddon, lle mae dihangfa ac achubiaeth mor aruchel ac mor erchyll â thrasiedi Roegaidd.

Mistress AmericaGwe 11 — Iau 24 MediUDA/2014/84mun/15. Cyf: Noah Baumbach. Gyda: Greta Gerwig, Lola Kirke.

Yn y gomedi finiog hon, mae Tracy’n cyrraedd Efrog Newydd i fynd i’r brifysgol ond yn cael nad yw bywyd yno mor fetropolitan a soffistigedig ag y dychmygodd. Ond pan ddaw hi dan ddylanwad y ferch sydd am fod yn llyschwaer iddi, mae ei siom yn diflannu ac mae hi’n ymroi i gynlluniau gwallgo’ ac atyniadol Brooke.

“Ffilm sy’n cadarnhau bod Gerwig yn un o comediennes mwyaf a mwyaf eofn ei chenhedlaeth” Variety BAFTA CYMrU’N CYFLWYNO:

Y Gwyll Mer 9 MediRhagolwg arbennig o bennod gyntaf cyfres newydd Y Gwyll ynghyd â sesiwn holi–ac–ateb gyda’r cynhyrchwyr, Ed Thomas ac Ed Talfan (Fiction Factory), Gwawr Martha Lloyd (Comisiynydd Drama S4C) a’r actores, Mali Harries.

O’r b

rig: T

he L

egen

d of

Bar

ney

Thom

son,

Mis

tres

s Am

eric

a

Page 23: Chapter Medi 2015

chapter.org Sinema 23

ruth & AlexGwe 18 — Mer 23 MediUDA/2015/92mun/12A. Cyf: Richard Loncraine. Gyda: Diane Keaton, Morgan Freeman, Cynthia Nixon.

Mae Ruth ac Alex wedi treulio’u bywydau yng nghwmni ei gilydd yn yr un fflat yn Efrog Newydd ac, wedi ymddeol bellach, maent yn gobeithio treulio’u blynyddoedd olaf mewn rhan llai hip o’r byd. Ar ôl derbyn beirniadaeth am werthu eu fflat, maent yn ailystyried yr hyn sydd ganddynt ynghyd â’u rhesymau dros fod eisiau newid byd. Mae’r ffilm hon yn gomedi swynol am agweddau at fywyd yn y ddinas fawr. CLWB FFiLMiAU GWAEL

road HouseSul 6 MediUDA/1989/114mun/18. Cyf: Rowdy Herrington.

Gall dychwelyd ar ôl gwyliau’r haf fod yn brofiad anodd felly gadewch i’r Clwb Ffilmiau Gwael godi’ch calon â Road House. Yn y ffilm cic–focsio zen glasurol hon, mae Patrick Swayze yn gorfod brwydro yn erbyn biliwnydd lleol sydd yn benderfynol o feddiannu’r dref. A fydd ei jîns glas a’i dechnegau swyno od yn ddigon i ennill y dydd?Nodwch os gwelwch yn dda y bydd yna sylwebaeth fyw yn ystod y ffilm hon. Fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf hefyd.

The Second MotherGwe 18 — Iau 24 MediBrasil/2015/114mun/is–deitlau/15. Cyf: Anna Muylaert. Gyda: Regina Casé, Antonio Abujamra, Helena Albergaria.

Mae Val wedi treulio 13 mlynedd yn cadw tŷ yn Sao Paulo, ac yn byw â’r euogrwydd o fod wedi gadael ei merch, Jessica, i gael ei chodi gan berthnasau iddi yng nghefn gwlad. Er eu bod wedi ymddieithrio, mae Jessica’n dod i’r ddinas i ymweld â’i mam ac mae ei phresenoldeb yn ymyrryd â’r drefn arferol, wrth i’w phersonoliaeth afieithus effeithio ar bawb yn y tŷ. Drama fanwl a chymhleth am wahaniaethau cymdeithasol a pherthnasau teuluol.

O’r b

rig: R

uth

& A

lex,

The

Sec

ond

Mot

her

Page 24: Chapter Medi 2015

Sinema24 029 2030 4400

1.15pm:

Short Peace + rhaglen o ffilmiau byrionJapan/2013/68+24mun/15.

Casgliad o saith ffilm fer sy’n rhychwantu’r canrifoedd:

PossessionsCyf: Shuhei Morita.

Yn Japan y ddeunawfed ganrif, mae teithiwr unig yn nwfn y mynyddoedd yn colli ei ffordd ar noson stormus ac yn dod ar draws cysegrfan sydd yn gartref i greaduriaid arallfydol.

CombustibleCyf: Katsuhiro Otomo.

Yn Japan y ddeunawfed ganrif, mae Owaka a Matsukichi yn ysu am gael bod gyda’i gilydd, ond ar ôl i Matsukichi fynd yn ddyn tân a chael ei ddiarddel gan ei deulu, ac ar ôl i rieni Owaka drefnu priodas iddi hi, dyw pethau ddim yn edrych yn rhy obeithiol. Mae ffawd fel petai yn eu herbyn ond fe ddaw tân â nhw at ei gilydd o’r newydd.

Gŵyl Animeiddio kotatsu Japan Sad 26 MediByddwn yn cyflwyno dangosiadau Cymreig cyntaf o ffilmiau nodwedd o Japan, ynghyd â chystadlaethau i ennill gwobrau unigryw a marchnad Japaneaidd wych. Gweler gwe–fan yr ŵyl www.kotatsufestival.com am fanylion y gweithdy i blant a gwobrau’r raffl.Pris Pas Gŵyl i weld yr holl ffilmiau fydd £30/£25. Gallwch archebu tocynnau ar gyfer dangosiadau unigol drwy ein gwe–fan. Ffoniwch 029 2030 4400 i archebu tocyn gŵyl.

11am:

A Letter to MomoJapan/2012/120mun/PG. Cyf: Hiroyuki Okiura. Gyda: Karen Miyama, Toshiyuki Nishida, Yuka, Koichi Yamadera, Cho.

Ar ôl marwolaeth ei thad, mae merch ifanc o’r enw Momo a’i mam, Ikuko, yn symud o ddinas brysur Tokyo i gartref plentyndod ei mam ar ynys anghysbell. Mae Momo’n ei chael hi’n anodd ymdopi â marwolaeth ei thad a’i hamgylchiadau newydd ond, ar ôl iddi ddod o hyd i hen lyfr lluniau yn atig ei chartref newydd, a hwnnw’n cynnwys brasluniau o greaduriaid rhyfeddol, mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd ac mae hi’n sylweddoli ei bod yn rhannu tŷ â thri ‘yokai’ direidus.

Shor

t Pe

ace

Page 25: Chapter Medi 2015

chapter.org Sinema 25

GamboCyf: Hiroaki Ando.

Mae diafol coch enfawr yn ymddangos ac yn ymosod ar bentref anghysbell yn ardal fynyddig yng ngogledd–ddwyrain Japan ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae merch ifanc o’r enw Kao yn gofyn am gymorth gan arth wen ddirgel i amddiffyn ei chartref.

A Farewell to Weapons Cyf: Hajime Katoki.

Mewn dyfodol rhyfelgar yn Tokyo, mae platŵn o filwyr arfog yn brwydro yn erbyn tanc robotig.

4pm:

Tiger and Bunny the risingJapan/2014/108mun/12A. Cyf: Yoshitomo Yonetani. Gyda: Hiroaki Hirata, Masakazu Morita, Yuuichi Nakamura.

Caiff partneriaeth Wild Tiger a Barnaby Brooks Jr ei chwalu gan berchennog newydd cwmni cyfryngol Apollon. Rhaid i Barnaby weithio gyda’i bartner newydd, Golden Ryan, ond mae’r bygythiad sy’n wynebu Dinas Sternbild mor ddifrifol fel y bydd angen cymorth Wild Tiger arnynt.

6.30pm:

royal Space Force: The Wings of HonneamiseJapan/1987/121mun/PG. Cyf: Hiroyuki Yamaga. Gyda: Leo Morimoto, Mitsuki Yayoi, Kazuyuki Sogabe, Aya Murata.

Ar Ddaear amgen, ac mewn cenedl sydd ar fin mynd i ryfel, mae dyn ifanc o’r enw Shiro a fethodd fel peilot gyda’r Llynges yn ymuno â’r Llu Gofod Brenhinol. Caiff ei ysbrydoli i anelu am y sêr ar ôl cyfarfod ar hap â heddychwr ond mae amser yn ei erbyn ac mae’n rhaid iddo adael y Ddaear ar frys. Mae rhyfel ar eu gwarthaf ac mae gan ambell un o gefnogwyr Shiro gymhellion cudd. 8.45pm:

Perfect BlueJapan/1997/80mun/18. Cyf: Satoshi Kon. Gyda: Junko Iwao, Rica Matsumoto, Shinpachi Tsuji, Masaaki Okura, Yosuke Akimoto.

Mae Mima Kirigoe yn gadael grŵp J–pop hynod lwyddiannus o’r enw Cham! i ddilyn gyrfa fel actores. Mae ei phenderfyniad yn gwylltio ffans obsesiynol y grŵp, sydd yn ei dilyn hi, yn y byd go iawn ac ar–lein hefyd, ar we–fan o’r enw ‘Mima’s Room’. Mae un o’r stelcwyr hyn, Me–Mania, yn bygwth ei bywyd. Wrth i’r sefyllfa ddwysau, ac wrth i’r bobl sy’n ymwneud â gyrfa Mima ymddangos fesul un yn farw gelain, caiff Mima ei hun yng ngafael paranoia difrifol ac mae hi’n colli golwg ar y ffin rhwng realiti a hunllef.

O’r b

rig: A

Let

ter t

o M

omo,

Tig

er a

nd B

unny

the

Ris

ing

Page 26: Chapter Medi 2015

Sinema26 029 2030 4400

CHAPTEr WAiLS YN CYFLWYNO

Eyes Without a FaceLlun 21 MediFfrainc/1960/90mun/is–deitlau/15. Cyf: Georges Franju. Gyda: Pierre Brasseur, Edith Scob, Alida Valli.

Bu’r ffilm greulon a thyner hon, sydd yn cyfuno arddulliau ‘pulp’, arswyd a barddoniaeth, yn ddylanwad mawr ar wneuthurwyr ffilm mor amrywiol â Jesús Franco a Pedro Almodóvar. Mae’r Dr Genessier yn llawfeddyg plastig gwych a’i obsesiwn yw adfer wyneb ei ferch, a gafodd ei anharddu. Mae e’n cael cymorth yn hyn o beth gan ei gynorthwy–ydd ffyddlon, Louise, sydd yn denu menywod ifainc diniwed i’r feddygfa gudd yn ei chateau diarffordd.+ Cyflwyniad a thrafodaeth ar ôl y ffilm yng nghwmni’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ffan pybyr o ffilmiau arswyd, Ben Ewart–Dean (Chapter Wails).

A Walk in the WoodsGwe 25 — Iau 8 HydrefUDA/2015/98mun/15. Cyf: Ken Kwapis. Gyda: Robert Redford, Nick Nolte, Emma Thompson.

Mae’r awdur taith enwog, Bill Bryson, wedi symud yn ôl i’r Unol Daleithiau ac wedi’i herio’i hun i gerdded ar hyd Llwybr yr Appalachiaid. Yr unig berson sy’n fodlon ymuno ag ef yw ei ffrind, Dylan Katz, sy’n gweld y daith fel modd i osgoi bywyd go iawn. Mae’r ddau ddyn yn rhag–weld teithiau tra gwahanol; mae Bill yn chwilio am lonyddwch a Katz yn chwilio am antur. Maen nhw ar fin dysgu nad yw’r hwyl yn dechrau ond pan fyddwch chi’n eich gwthio eich hun i’r eithaf.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Eye

s W

itho

ut a

Fac

e, A

Wal

k in

the

Woo

ds

Page 27: Chapter Medi 2015

chapter.org Sinema 27

irrational ManGwe 25 — Iau 8 HydrefUDA/2015/98mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Joaquin Phoenix, Emma Stone, Parker Posey.

Ar ôl i athro prifysgol gwych ond lluddedig dderbyn swydd mewn coleg cymharol ddi–nod, mae trigolion y dref yn cyffroi’n lân. Mae e’n dechrau perthynas â darlithydd ac â myfyriwr dawnus ond bydd angen gweithred dywyll, ddramatig a dirfodol cyn iddo newid ei fywyd a dechrau gweld y byd o bersbectif mwy gobeithiol.

My Brief EternityLlun 21 MediCymru/2015/hyd i’w gadarnhau/TiCh. Cyf: Clare Sturges.

Gwnaeth yr artist o Lansteffan, Osi Rhys Osmond, gyfraniad o bwys i gymuned gelfyddydol Cymru dros gyfnod o fwy na deugain mlynedd drwy gyfrwng ei fyfyrdodau ar y cyflwr dynol a’i waith addysgol. Mae’r ffilm ddogfen hon yn edrych ar brofiad Osi wrth iddo geisio ymdopi â chanser ac archwilio ei dreftadaeth ddiwylliannol.Cyflwyniad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Canolfannau Maggie a BAFTA Cymru.

NT Live: The Beaux’ StratagemIau 3 Medi Encore: Llun 14 MediDG/2015/180mun/12A. Cyf: Simon Godwin.

Mae dau ddyn ifanc afradlon wedi gwario eu hetifeddiaeth. O gywilydd, ac yn ddyledwyr bellach, maent yn ffoi i Lichfield i briodi am arian. Yn y dafarn leol, ac wrth iddyn nhw esgus bod yn feistr a gwas, maent yn wynebu amrywiaeth eang o rwystrau. Ac ar ôl cwrdd â Dorinda a Mrs Sullen, mae’r Beaux yn sylweddoli eu bod wedi dod wyneb yn wyneb â chwpwl tra theilwng ...

NT Encore: CoriolanusIau 24 MediDG/2013/180mun/12A. Cyf: Josie Rourke. Gyda: Tom Hiddleston, Mark Gatiss.

Pan ddaw hen elyn i fygwth Rhufain, mae’r ddinas yn galw unwaith yn rhagor ar ei harwr a’i hamddiffynnwr, Coriolanus. Ond mae ganddo fe elynion hefyd. Mae newyn yn bygwth y ddinas ac mae hynny’n datblygu’n awydd ar ran y bobl am newid. Ar ôl dychwelyd o faes y gad, rhaid i Coriolanus wynebu ystyriaethau realpolitik a dicter y dinasyddion. Enillydd Gwobr yr Actor Gorau yng Ngwobrau Theatr yr Evening Standard 2014

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Irr

atio

nal M

an, N

T Li

ve: T

he B

eaux

’ Str

atag

em

Y LLWYFAN Ar Y SGriN

Page 28: Chapter Medi 2015

Sinema28 029 2030 4400

Fantastic FourSad 12 + Sul 13 MediUDA/2015/100mun/12A. Cyf: Josh Trank. Gyda: Miles Teller, Kate Mara, Michael B. Jordan.

Mae pedwar person ifanc ar gyrion cymdeithas yn telegludo i fydysawd gwahanol a pheryglus sydd yn altro’u cyrff mewn ffyrdd dychrynllyd. Rhaid i’r pedwar ddysgu defnyddio eu galluoedd newydd a gweithio gyda’i gilydd i achub y Ddaear rhag cyn–gyfaill sydd bellach yn elyn pennaf.

PixelsSad 19 + Sul 20 MediUDA/2015/105mun/12A. Cyf: Chris Columbus. Gyda: Adam Sandler, Peter Dinklage, Kevin James, Michelle Monaghan.

Ar ôl i aliwns gamddehongli llif byw o gêmau arcêd clasurol fel cyhoeddiad rhyfel, maent yn ymosod ar y Ddaear ac yn gwneud hynny drwy gyfrwng gêmau fideo.

MaxSad 26 + Sul 27 MediUDA/2015/111mun/PG. Cyf: Boaz Yakin. Gyda: Thomas Haden Church, Josh Wiggins, Luke Kleintank.

Mae ci a helpodd Lynges yr Unol Daleithiau yn Affganistan yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau ac yn cael ei fabwysiadu gan deulu ei feistr ar ôl iddo fe gael profiad trawmatig.

Two by TwoGwe 28 Awst — Iau 3 Medi Yr Almaen/2015/87mun/U. Cyf: Toby Genkel, Sean McCormack. Gyda: Dermot Magennis, Callum Maloney, Tara Flynn.

Mae llifogydd ar y ffordd ac fe adeiladwyd arch i achub pob anifail. Ond, yn anffodus, does yna ddim lle i’r Nestriaid — Dave a’i fab, Finny. Maent yn sleifio i fwrdd y llong gyda Grymps, Hazel a Leah, ac yn credu eu bod nhw’n ddiogel, tan i’r plant chwilfrydig ddisgyn oddi ar yr Arch. Rhaid i Dave a Hazel roi’r gorau i’w dadlau wedi hynny ac achub eu plant. Disgrifiadau Sain ar gael ymhob dangosiad (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe–fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Inside OutGwe 4 – Mer 9 MediDangosiad mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig: Sul 6 MediUDA/2015/94mun/U. Cyf: Pete Docter, Ronaldo Del Carmen. Gyda: Amy Poehler, Bill Hader.

Ar ôl i’r Riley ifanc gael ei thynnu o’i bywyd yn y Midwest a’i symud i San Francisco, mae ei hemosiynau — Llawenydd, Ofn, Dicter, Ffieidd–dod a Thristwch — yn ymaflyd â’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o ymdopi â dinas, tŷ ac ysgol newydd.* gweler isod fanylion ein Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig.

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Mae Dangosiadau mewn Amgylchiadau Cefnogol Arbennig yn ddangosiadau i blant ac oedolion ar sbectrwm awtistiaeth, neu bobl a chanddynt anableddau dysgu, ynghyd â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr. Yn ystod y dangosiadau hyn, cedwir goleuadau isel ynghynn yn yr awditoriwm ac ni fydd lefel y trac sain mor uchel ag arfer. Fydd yna ddim hysbysebion cyn y ffilm ac fe all ymwelwyr godi a symud o gwmpas y sinema fel y mynnant.

Insi

de O

ut

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Page 29: Chapter Medi 2015

Sesiynau ‘Sewcial’ Chapter O ddydd Sul 27 Medi ymlaenGweithdai creadigol i bobl ifainc sy’n awyddus i ddechrau gwnïo. Mae’r dosbarthiadau hyn yn annog plant i uwchgylchu, i feddwl yn greadigol ac i gymryd ffrwyth eu gwaith adre’ gyda nhw ar ddiwedd pob sesiwn. Croeso i fechgyn a merched fel ei gilydd!

Dosbarth Dechreuwyr (8–12 oed)Sul 27 Medi 1.30–3pmBob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnosBydd y cwrs hwn yn dysgu sgiliau sylfaenol fel mesur a thorri ffabrig, gwnïo botymau a siapiau ac amrywiaeth o bwythau hwyliog. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.£50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o wyth lle ar gael bob wythnos).

Dosbarth Canolradd (8–14 oed)Sul 27 Medi 3.30–5pmBob dydd Sul am gyfnod o 10 wythnosY tymor hwn, bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu technegau newydd ac yn defnyddio rhaglen y Sinema a’r Oriel fel ysbrydoliaeth ar gyfer ambell i brosiect gwych. Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.£50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le; bydd cyfanswm o 10 lle ar gael bob wythnos).

Animeiddio ac AwtistiaethDyddiau Mercher o ddydd Mercher 23 Medi ymlaen, 5.15–6.45pmYn ystod yr hydref byddwn yn cyflwyno dau gwrs pump wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu eu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy — gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Bydd wyth o leoedd ar gael bob wythnos.£25

Cwrs 1Dyddiau Mercher: 23 Medi, 30 Medi, 7 Hydref, 14 Hydref, 21 Hydref 5.15–6.45pm

Cwrs 2 Dyddiau Mercher: 4 Tachwedd, 11 Tachwedd, 18 Hydref, 25 Tachwedd, 2 Rhagfyr 5.15 — 6.45pm

Moviemaker iauSad 26 Medi 10.30am–12pmOs ydych chi rhwng naw ac 16 oed ac yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, dewch i weld yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Rydym yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion — a byddwn yn dangos eich ffilmiau chi hefyd! Fe allai’r ffilmiau byrion a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Iau gynnwys golygfeydd sy’n cyfateb â thystysgrif PG y BBFC — dylai rhieni gadw hynny mewn cof.£1.50

chapter.org 29Addysg

I archebu lle ar unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400 os gwelwch yn dda.

Page 30: Chapter Medi 2015

30 029 2030 4400Archebu/Gwybodaeth

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm.Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

GwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Page 31: Chapter Medi 2015

31chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar–leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth–myfyrwyr–chapter

Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UESefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr BiffaCronfa Loteri FawrYmddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a ChwaraeonSefydliad Elusennol TrusthousePlant mewn Angen y BBCWaitroseSefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPowerSEWTA

Sefydliad y Brethynwyr WRAPGoogleSefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & GeneralYmddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y MileniwmYmddiriedolaeth Ernest CookSefydliad Boshier–HintonLloyds TSBBarclaysCelfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth OakdaleCwmni Plastig DipecNelmes DesignYmddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake BruceFunky Monkey FeetSefydliad Finnis Scott Cote BrasserieBanc Unity TrustRWETidal Lagoon PowerHugh JamesCymdeithas Celfyddydau Cyfoes CymruWestern Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter:Prifysgol Fetropolitan CaerdyddClearstream TechnologyCake CommunicationsBroomfield & AlexanderLloydsSpindogsTincan1st OfficeUrban SolarPatronbaseGolley SlaterEffective HRMLittle CasinoStills BrandingCDFCyfrifwyr BPUCyfreithwyr MLMRheolwyr Cyfoeth SLD