12
M ae Chwarae Cymru bob amser wedi ceisio’n galed i ymrwymo gyda phawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant ac i hyrwyddo darpariaeth chwarae, gwaith chwarae a chyfleoedd chwarae o safon uchel i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Felly er bod llawer o sefydliadau cyffelyb ym Mhrydain yn codi ffi aelodaeth, am yr wyth mlynedd ddiwethaf cafodd y rhan fwyaf o wasanaethau Chwarae Cymru eu darparu’n ddi-dâl. Fodd bynnag mae’r byd yn symud ymlaen ac mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu y medrai Chwarae Cymru ymgymryd yn well â’i rôl gynrychioladol a chynnig amrediad o wasanaethau a buddion drwy ddatblygu aelodaeth gyffredinol. Bwriadwn y bydd ein haelodau yn rhoi gwybodaeth ar gyfer ein hymatebion i ymgynghoriadau a chynlluniau, ac er y bydd y broses yn gymharol anffurfiol i ddechrau, credwn y bydd yn ein galluogi i ymateb yn fwy effeithlon i anghenion plant a darparwyr chwarae ym mhob rhan o’r wlad, a hefyd gynyddu ein hawdurdod wrth negodi a lobïo yn lleol ac yn genedlaethol. Rydym yn awr mewn sefyllfa i gynnig amrediad eang o fanteision i bawb sy’n dewis ymuno â Chwarae Cymru. Mae’r manteision hynny’n cynnwys: Cefnogaeth a chyngor arbenigol; Mynediad drwy Uned Cofnodion Troseddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i wiriadau di-dâl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer darpariaeth chwarae sector gwirfoddol rheoledig; Cyfraddau is ar gyfer hysbysebion mewn cylchlythyrau; Ffioedd is ar gyfer cynadleddau a seminarau; Cyfraddau is ar gyfer cyhoeddiadau Chwarae Cymru; Ffioedd ymgynghori is; Defnydd estynedig o’n hadnoddau gwybodaeth chwarae ar gyfer myfyrwyr ac ymchwilwyr; Cyfle i enwebu a chael enwebiad ar gyfer corff rheoli Chwarae Cymru; a Chyfle i fynegi eich barn fel rhan o fforwm ymgynghorol genedlaethol. Mwy > t2 Chwarae Cymru i ddod yn sefydliad aelodaeth yn 2006 PLAYWORK VALUES REVIEW AT www.playwales.org.uk Chwarae dros Gymru Rhifyn 17 GAEAF2005 NEWYDDION CHWARAE A BRIFFIAD GAN Y SEFYDLIAD CENEDLAETHOL AR GYFER CHWARAE

chwarae dros gymru rhifyn 17

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

Citation preview

Page 1: chwarae dros gymru rhifyn 17

Mae Chwarae Cymru bob amserwedi ceisio’n galed i ymrwymo

gyda phawb sydd â diddordebmewn chwarae plant ac i hyrwyddodarpariaeth chwarae, gwaithchwarae a chyfleoedd chwarae osafon uchel i blant a phobl ifancledled Cymru. Felly er bod llawer osefydliadau cyffelyb ym Mhrydainyn codi ffi aelodaeth, am yr wythmlynedd ddiwethaf cafodd y rhanfwyaf o wasanaethau ChwaraeCymru eu darparu’n ddi-dâl.

Fodd bynnag mae’r byd yn symudymlaen ac mae’r Ymddiriedolwyr wedipenderfynu y medrai Chwarae Cymruymgymryd yn well â’i rôl gynrychioladola chynnig amrediad o wasanaethau abuddion drwy ddatblygu aelodaethgyffredinol.

Bwriadwn y bydd ein haelodau yn rhoigwybodaeth ar gyfer ein hymatebion iymgynghoriadau a chynlluniau, ac er ybydd y broses yn gymharol anffurfiol iddechrau, credwn y bydd yn ein galluogii ymateb yn fwy effeithlon i anghenionplant a darparwyr chwarae ym mhobrhan o’r wlad, a hefyd gynyddu einhawdurdod wrth negodi a lobïo yn lleolac yn genedlaethol.

Rydym yn awr mewn sefyllfa i gynnigamrediad eang o fanteision i bawb sy’ndewis ymuno â Chwarae Cymru. Mae’rmanteision hynny’n cynnwys:

• Cefnogaeth a chyngor arbenigol;

• Mynediad drwy Uned CofnodionTroseddol Cyngor GweithreduGwirfoddol Cymru i wiriadau di-dâlgan y Swyddfa Cofnodion Troseddolar gyfer darpariaeth chwarae sectorgwirfoddol rheoledig;

• Cyfraddau is ar gyfer hysbysebionmewn cylchlythyrau;

• Ffioedd is ar gyfer cynadleddau aseminarau;

• Cyfraddau is ar gyfer cyhoeddiadauChwarae Cymru;

• Ffioedd ymgynghori is;

• Defnydd estynedig o’n hadnoddaugwybodaeth chwarae ar gyfermyfyrwyr ac ymchwilwyr;

• Cyfle i enwebu a chael enwebiad argyfer corff rheoli Chwarae Cymru; a

• Chyfle i fynegi eich barn fel rhan offorwm ymgynghorol genedlaethol.

Mwy > t2

Chwarae Cymru i ddod yn sefydliadaelodaeth yn 2006

PLAYWORK VALUES REVIEW AT www.playwales.org.uk

Chwarae dros GymruRhifyn 17 GAEAF 2005

NEWYDDION CHWARAE A BRIFFIAD GAN Y SEFYDLIAD CENEDLAETHOL AR GYFER CHWARAE

Page 2: chwarae dros gymru rhifyn 17

Ar yr un pryd mae cynlluniau’r Loteri Fawr afedrai ddarparu arian ar gyfer prosiectau yngysylltiedig â chwarae yn dechrau prosesuceisiadau, ac rydym yn dal i ragweld ycyhoeddir cynllun penodol ar gyfer chwaraeplant a phobl ifanc yn 2006. Felly er mwynhelpu darparwyr chwarae i fanteisio i’r eithafar y cyfleoedd hyn rydym yn cynllunioymestyn y gefnogaeth a’r gwasanaethau agynigir gan Chwarae Cymru a bu’n gamnaturiol i adolygu cyfansoddiad y sefydliad.

Fel ymddiriedolwyr, nid oedd y penderfyniadi newid Chwarae Cymru i sefydliad ynseiliedig ar aelodaeth yn un rhwydd – yn wirrydym wedi llwyddo i’w ohirio am nifer oflynyddoedd! Goruchwyliwn dîm bychangyda llawer o waith i’w wneud, a’n dadl fu ybyddai’n well defnyddio’r amser a gymerid iweinyddu'r cynllun o’r fath er mwynhyrwyddo cyfleoedd chwarae safon uchel arran plant a phobl ifanc. Rydym hefyd ynymwybodol iawn fod llawer o’r rhai ar gronfa

ddata Chwarae Cymru yn annhebygol o fodag arian dros ben i dalu am ffi aelodaeth isefydliad anghysbell. Nes y byddem wedicyflawni pethau sylweddol ac yn medrucynnig buddion diriaethol i amrediad eang oaelodau, roeddem yn anhapus i godi tâl amy gwasanaethau a gynigir gan ChwaraeCymru. Rydym hefyd yn glir iawn y byddpobl a sefydliadau nad ydynt yn dewis dodyn aelodau yn dal i gael mynediad iwybodaeth ac arweiniad. Felly bydd ycylchlythyr hwn, er enghraifft, yn parhau igael ei ddosbarthu yn ddi-dâl.

Fel sefydliad sy’n ymdrechu i adlewyrchubarn darparwyr chwarae yng Nghymru,buom bob amser yn anesmwyth am gymrydrôl gynrychioliadol heb gyfeirio at gorffymgynghori. Rydym yn ceisio bob amser igadw’n clust yn agos at y ddaear wrth gwrs,ond y bwriad yw ymgynghori’n anffurfiol â‘nhaelodau, fel y medrwn ymateb yn fwyeffeithlon i anghenion darparwyr chwarae ar

draws y wlad, a hefyd fod â‘r awdurdod inegodi a lobio ar lefel genedlaethol.

Wrth gwrs mae anghenion chwarae planta phobl ifanc yn greiddiol i’n gwaith fellyymddengys yn iawn i ofyn i aelodaudanysgrifio i ddogfennau sy’n rhoichwarae yn gyntaf. Mae cysylltau i BolisiChwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’rEgwyddorion Gwaith Chwarae ar gael arein gwefan.

Gobeithiwn yn ddiffuant y bydd hwnyn gam cadarnhaol i bawb ohonomfel pobl chwarae yng Nghymru ac ybydd llawer o’n cydweithwyr asefydliadau cysylltiedig yn teimloawydd i ymuno.

Margaret JervisCadeirydd, Bwrdd YmddiriedolwyrChwarae Cymru

Bydd Chwarae Cymru yn parhau i lobiodros chwarae a gwaith chwarae plant aphobl ifanc ar lefel genedlaethol aPhrydeinig ac i gefnogi gweithwyr chwaraeyn lleol a bydd rhai o’r gwasanaethau addarparwn yn parhau i fod yn ddi-dâl i raiar ein cronfa ddata sy’n byw o fewn Cymru– er enghraifft dosbarthu ein cylchlythyr ahysbysebion swyddi ar ein gwefan. Foddbynnag rhagwelwn yn y dyfodol y byddrhai tudalennau ‘aelodau’n unig’ ar eingwefan ac e-fwletinau ac e-fforymau argyfer aelodau yn unig.

Yn ychwanegol at y ffi resymol tu hwnt acer mwyn i ni rannu ein dealltwriaeth yn wello hanfod Chwarae Cymru, rydym hefyd yngofyn i’n Haelodau gytuno i gymeradwyo'rhyn a gredwn sy’n ddau ddatganiadneilltuol o bwysig. Y cyntaf o’r datganiadau

yw Polisi Chwarae Llywodraeth CynulliadCymru a’r ail yw’r Egwyddorion GwaithChwarae sy’n sefydlu’r fframwaithproffesiynol a moesegol ar gyfer gwaithchwarae ac yn disgrifio’r hyn sy’n unigrywam chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi’rpersbectif gwaith chwarae ar gyfergweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Am y flwyddyn gyntaf, er mwyn i ni fedrumesur y galw a’r ymateb i’r cynllun hwn, ahefyd i leihau’r baich gweinyddol, rydymwedi gosod ffi aelodaeth syml o £25 i bawbsy’n dymuno ymuno fel aelodaucyffredinol. Mae’r ffi yma yn weithredol argyfer pawb o sefydliadau cenedlaethol acadrannau awdurdodau lleol i gynghoraucymuned, colegau, prosiectau chwarae acunigolion. Dros y flwyddyn i ddod byddwnyn gofyn i aelodau am eu barn ar sut ymedrid datblygu ffioedd aelodaeth iadlewyrchu elfen o degwch.

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

2Chwarae dros Gymru

GOLYGYDDOLGOLYGYDDOLMae ein cydweithwyr o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ein sicrhau y cyhoeddir y strategaeth chwarae genedlaethol hir-ddisgwyliedig cyn diwedd Ionawr. Ar yr un pryd mae cynlluniau’r Loteri Fawr a all ddarparu arian ar gyfer prosiectau yngysylltiedig â chwaraeon yn dechrau prosesu ceisiadau, a chyhoeddir cynllun penodol ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc yn2006. Felly bwriadwn ehangu y gefnogaeth a’r gwasanaethau a gynigir gan Chwarae Cymru er mwyn helpu darparwyr chwaraei fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn, a bu’n gam naturiol i adolygu'r ffordd y mae’r sefydliad yn gweithredu.

Chwarae Cymru i ddod yn sefydliad aelodaeth yn 2006 (parhad)

SWYDDOG DATBLYGU (GOGLEDD CYMRU) – CYFLE SWYDD – GWELER TUDALEN 12

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw'r farn a fynegir yn y cylchlythyr yma. Rydym yn cadw'r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Bydd Chwarae Cymru yn cynnwys mewnddodion ahysbysebion yn y cylchlythyr hwn (cysyllter â Kathy Muse yn y cyfeiriad uchod i gael prisiau) fodd bynnag, nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch neu’r digwyddiadau a

hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.Dylun iwyd ac argraf fwyd gan Carr ick Bus iness Serv ices Cyf . F fôn: 029 2074 1150. E-bost ; sa les@carr ickdes ignpr int .co.uk L lun iau car tw^ n gan Les Evans.

Chwarae dros GymruCyhoeddir gan Chwarae Cymru deirgwaith y flwyddyn. Dylid cyfeirio pob gohebiaeth ac ymholiadau at y Golygydd yn:

Chwarae Cymru, Ty^ Balt ic , Sgwâr Mount Stuart , Caerdydd, CF10 5FHFfôn: 029 2048 6050 Ffacs: 029 2048 9359 E-bost : mai [email protected]

Rhi f E lusen Gofrest redig 1068926

Page 3: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

3 Chwarae dros Gymru

Ail-lansiwyd Chwarae Sir Ddinbychyn dilyn cyfarfod o rai â diddordeb

a gynhaliwyd ym Maes Chwarae Antury Rhyl. Cafwyd ymateb brwdfrydig i gyflwyniadgan Tony Chilton, ein Uwch SwyddogDatblygu ac roedd Bob Barton, aelod oGyngor Sir Ddinbych, yn falch iawn ifedru ffurfio pwyllgor newydd. Er iddogael ei sefydlu fel corff annibynnol ynceisio statws elusennol, bydd y sefydliad

yn gweithio’n agos iawn gyda ChyngorSir Ddinbych ac asiantaethau eraill, gydaphob bwriad o weithredu strategaethchwarae i’r sir gyfan.

Swyddogion newydd Chwarae SirDdinbych yw: Bob Barton, Cadeirydd;Jonathon Bentley, Is-Gadeirydd; a CarolHolliday, Ysgrifennydd gyda chymorthnaw o aelodau pwyllgor eraill.

Ail-lansio Chwarae Sir DdinbychAil-lansio Chwarae Sir Ddinbych

• Golygyddol T2• Y Loteri Fawr yn rhoi cyllid i

Chwarae yng Nghymru T3• Ail-lansio Chwarae Sir Ddinbych T3• Chwarae Cymru ar y Maes T3• Newyddion Da i Ganolfan Caerffili T4• Gweinidog ar Daith Chwarae T4• Cyfeillion yng Nghynlluniau Chwarae

Sir y Fflint T5

• Chwarae am Iechyd Bryn Gwalia T5• Hwyl Diwrnod Chwarae ym Merthyr Tudful T6• Parc Slefrio Cruisers Talysarn T7• Cynhadledd Ryngwladol yn

Chwarae Tu Allan T8/9• Beth Sydd mewn Enw? T10• Aelod Newydd o’r Tîm T10• Mwd a Gwreichion T11• Digwyddiadau/Cyllid/Newyddion T12

CYNNWYS Chwarae Cymruar y Maes

Yn ystod yr haf, ymunodd ChwaraeCymru gyda Plant yng Nghymru a

Swyddfa’r Comisiynydd Plant i rannustondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynhaliwyd Eisteddfod 2005 ar Stad yFaenol ym Mangor, a rhoddodd gyfle i niledaenu neges Chwarae Cymru,rhwydweithio gyda phobl o sefydliadaueraill a chwrdd â’r cyhoedd, a gweld ymath o ddarpariaeth chwarae oedd argael ar y maes. Roedd hefyd yn gyflegwych i ymrwymo gyda’r cyfryngau i roicyhoeddusrwydd i’r Diwrnod Chwaraegyda chymorth Marc Phillips, un oymddiriedolwyr Chwarae Cymru sy’nGyfarwyddydd Plant mewn Angen BBCCymru ac yn aelod o Fwrdd yr IaithGymraeg.

Cawsom gyfle i gwrdd a sgwrsio gydagamrediad eang o bobl a dosbarthuholiaduron yn gysylltiedig â chwarae, ynogystal ag ychwanegu ein posteri gemauplant i’r llwythi o bethau y mae plant yn eucasglu wrth fynd o amgylch o stondin istondin i chwilio am y rhoddion gorau.Cafwyd bron i saith deg o arolygon eullenwi gan blant 6-16 oed, oedd yncynnwys cwestiynau am eu hoff fathau oweithgareddau chwarae a’r peth gorauam le maent yn chwarae. Dangosodd ycanlyniadau mai’r tri phrif le y mae plantyn chwarae yw “yn y ty”, “yn yr ysgol” ac“yn yr ardd” gyda rhai o’r hoffweithgareddau chwarae yn cynnwyschwarae gyda ffrindiau, llunio gemau,ceisio pethau newydd a chwarae gydadwr. Dro ar ôl tro cyfeiriodd plant at“digonedd o le” fel y peth gorau am lemaent yn chwarae, dywedodd unymatebydd yn syml “digonedd o le, caeaupêl droed, meinciau a choed”.

Bu’r ymweliad yn llwyddiant mawr acrydym eisoes yn paratoi ar gyferEisteddfod y flwyddyn nesaf yn Abertawe.

Os hoffech wybodaeth bellach amEisteddfod Genedlaethol 2006, gwelereu gwefan www.eisteddfod.org.uk

Y Loteri Fawr yn rhoi arian iCChhwwaarraaee yynngg NNgghhyymmrruuDdiwedd mis Tachwedd

cyhoeddodd y Gronfa Loteri Fawrei rhaglen Teuluoedd Egniol ac Iach aChwarae Plant. Bydd y rhaglen yndarparu £20 miliwn i hyrwyddo iechyda llesiant plant a phobl ifanc drwygefnogi datblygiad chwarae plant, ahyrwyddo dynesiad cydlynol at faeth agweithgaredd corfforol drwy waithgyda theuluoedd. Mae’r Gronfa yn awyddus i wneud ycysylltiad strategol rhwng gweithgareddcorfforol, maeth a chwarae a bydd ynymchwilio ffyrdd o hwyluso chwaraeplant i hyrwyddo gweithgaredd corfforolac i edrych sut y medrir ystyriedmaterion maeth fel rhan o’r agendachwarae.

Mae’r Gronfa yn cydnabod anghenioncymorth a datblygu gwahanol y ddaufaes a dargedwyd gan y rhaglen. Bydd£13 miliwn ar gael i adeiladu’r seilwaithsy’n cefnogi datblygu chwarae plant ac igreu cynlluniau a chyfleusterau chwarae.

Bydd gan y rhaglen ddynesiad strategolyn anelu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethaudatblygu allweddol ar gyfer chwarae yngNghymru.

Mae Pobl a Lleoedd yn rhaglen arall alansiwyd yn ddiweddar gan y Gronfa yngNghymru a all fod yn ddefnyddiol argyfer darpariaeth chwarae symudol,canolfannau adnoddau chwarae ameysydd chwarae antur.

Cronfa’r Loteri Fawr, Llawr 2, Ty Ladywell, Y Drenewydd, Powys SY16 1JB

Ffôn: 01686 611700

Ffôn testun: 01686 610205

E-bost:[email protected]

I gael pecynnau cais a gwybodaeth ary rhaglenni hyn ffoniwch: 08454 10 20 30

Page 4: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

4Chwarae dros Gymru

Fel rhan o’n cyfres o erthyglau am ddatblygu canolfannauplant integredig ledled Cymru, dywed Mike Allman,

Gweithiwr Datblygu Chwarae Antur, beth sy’n digwydd yngNghaerffili.Cefais fy nghyflogi yn Weithiwr Datblygu Chwarae Antur ers mis Mai2005 i ddatblygu elfen chwarae mynediad agored Canolfan BlantIntegredig Caerffili, y ganolfan gyntaf i’w hariannu gan y GronfaCyfleoedd Newydd/Loteri Fawr, a agorwyd ym mis Medi 2004.

Mae’r Ganolfan yn seiliedig mewn ysgol gynradd fawr newyddyn Nhredegar Newydd, ardal lofaol draddodiadol gydaphoblogaeth wedi gwasgaru ar ddwy ochr y cwm. Dyma’rnawfed cymuned fwyaf difreintiedig yng Nghymru (MynegaiAmddifadedd Lluosog Cymru) ac mae’n un o ardaloeddCymunedau’n Gyntaf. Un o anawsterau gweithio mewn ardalo’r fath yw ei fod wedi ei ffurfio o gymunedau neilltuol agwahanol, pob un gyda’u hymdeimlad o hunaniaeth ei hunan, aall arwain at yr hyn y medrid ei weld fel ynysoldeb.

Pan ddechreuais weithio, yn ogystal â‘r cylch arferol ogyfarfodydd a dechrau sefydlu perthynas gyda phobl yn ygymuned, penderfynais gynnal ymgynghoriad gyda phlant aphobl ifanc yn yr ardal. Fe’i cynhaliwyd mewn dwy ysgol ac yny llyfrgell gyhoeddus. Helpodd hyn i ganfod lle’r oeddent ynchwarae, yr hyn yr oeddent yn ei wneud ar ôl mynd allan ichwarae, ac unrhyw syniadau a fedrai fod ganddynt ar gyfergwella cyfleoedd chwarae yn yr ardal. Fe’m helpodd hefyd i fynghyflwyno fy hunan ac esbonio fy rôl i blant a phobl ifanc.

Dull arall oedd gweithio gyda Chlwb Ar ôl Ysgol y Ganolfan.Roedd hyn yn neilltuol o ddefnyddiol gan y’i ystyriaf yn rhan o fyswyddogaeth i gyflwyno cyfleoedd chwarae antur i bob maes oberson plentyn/person ifanc. Drwy wneud hyn medraf gefnogigweithwyr proffesiynol eraill i gaffael y sgiliau a’r hyder i hwylusocyfleodd chwarae a chwarae antur a ddewiswyd yn rhydd.

Roedd ein sesiynau chwarae gwyliau haf – a drefnwyd mewnpartneriaeth gyda phrosiect Chwarae Creadigol Caerffili – ynwych! Medrais hyd yn oed ddenu’r Cydlynydd Cymunedau’nGyntaf lleol allan o’r swyddfa i ymuno a chwarae gyda ni.Mwynhaodd plant a phobl ifanc adeiladu cuddfannau; newid acaddasu’r amgylchedd i greu ardaloedd chwarae cyfoethog aheriol – er enghraifft hongian siglenni teiars o fframiau siglennigwag, creu rhodfa rhaff ar fframiau dysgu ac offer chwaraesefydlog; a chwarae elfennol yn cynnwys llithren ddwr 50 metr!

Yn ystod hanner tymor mis Hydref trefnais Ddiwrnod ChwaraeElfennau ar dir y Ganolfan, eto wedi’i gefnogi gan chwaraeCreadigol Caerffili a hefyd Sarah, Cydlynydd y Ganolfan, a staffgofal plant y Ganolfan, gweithwyr ieuenctid lleol Cymunedau’nGyntaf ac fe gawsom hefyd y Wardeiniaid Diogelwch Cymunedollleol i ddod a chwarae gyda ni. Roedd y Diwrnod Chwarae yncynnwys ardal dân wedi’i staffio gan geidwaid cefn gwlad lleol,gwneud barcutiaid, ac artist lleol yn cymysgu dwr a phridd iwneud clai modelu naturiol a hefyd fwd, llwythi o fwd, ym mhob man!

Efallai eich bod wedi sylwi mai thema fy ngwaith fu gweithiomewn partneriaeth gydag eraill sydd eisoes yn gweithio yn ygymuned a gyda’r gymuned. Bu hyn yn ddefnyddiol wrth fyhelpu i fedru cyflenwi gwasanaethau a hefyd i godi proffil acymwybyddiaeth o’r hyn yw chwarae ac antur chwarae a sutdeimlad yw hi i fod yn weithiwr chwarae.

Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, y newyddion da yw ein bod o Ebrill’06 wedi sicrhau cyllid Cymorth ar gyfer pedwar gweithiwrchwarae i gyflenwi’r gwasanaeth Chwarae Mynediad Agored.

Newyddion da iNewyddion da iGanolfan CaerGanolfan Caerff filifili

Gall pawb fod ar eu hennill pan fogwleidyddion yn gweld gwerth

prosiectau chwarae – maent yn ennillgwell dealltwriaeth o amgylcheddchwarae plant, ac felly’n gwneudcyfraniadau mwy gwybodus i brosesaugwneud penderfyniadau am chwarae.Felly ewch ati – ysgrifennwch ygwahoddiadau!

Ers ail-drefnu’r cabinet a ychwanegoddchwarae i gylch gwaith y Gweinidog Addysg,mae Jane Davidson wedi dangos ymrwymiadparhaol i’n Polisi Chwarae cenedlaethol aphwysigrwydd chwarae yn gyffredinol. Nid ywhyn yn syndod gan ei bod yn ymwneud âsefydlu darpariaeth chwarae mewn gyrfaflaenorol. Serch hynny, roeddem wrth einbodd pan wirfoddolodd y Gweinidog amser ifynd am daith o amgylch prosiectau chwarae

mynediad agored gyda staff ledled Cymru.

Treuliodd Jane Ddiwrnod ChwaraeCenedlaethol 2005 yn Abertawe lle, yngnghwmni cydweithwyr eraill o’r Cynulliad,ymwelodd â chynlluniau chwarae gwyliau ynYsgol Santes Monica a Llandeilo Ferwallt.Ymwelodd hefyd â maes chwarae anturCanolfan Blant Integredig Abertawe ymMhenlan:

“Roedd yn dda iawn cael cydnabyddiaeth o’ngwaith ym Mhenlan,” meddai Ben Greenawayo Chwarae Iawn. “Gwnaeth argraff ar yGweinidog y gall plant chwarae mewnamgylchedd naturiol gyda mynediad i’r hollelfennau”.

Roedd taith y Gweinidog yn y De hefyd yncynnwys Canolfan Chwarae Trelái (rhan oddatblygiad Canolfannau Plant Integredig yng

Nghaerdydd) a chynllun chwarae all-estynmewn canolfan ieuenctid yn Nhrelái – caiff yddau brosiect eu cefnogi gan WasanaethauChwarae Plant Caerdydd. Oddi yno, teithioddJane i’w hetholaeth i weld CanolfanGymunedol Llan Rhondda Cynon Taf, sy’nsylfaen ar gyfer Prosiect Canolfan IntegredigPlant Rhydfelin, a gefnogir gan Valleys Kids.

Yn y Gogledd cafodd y Gweinidog groesocynnes gan y pwyllgor rheoli, staff a phlantMaes Chwarae Antur y Rhyl, lle bu hyd yn oedyn profi gwerth chwarae gwahanol eitemau!Mae nodweddion diddorol iawn ar y safle,llawer ohonynt wedi’u cynllunio a’u hadeiladugan blant a staff dros flynyddoedd diweddar,ac mae’n amlwg iddynt wneud argraff fawr ary Gweinidog.

Mae Chwarae Cymru yn hynod falch i JaneDavidson roi cymaint o’i hamser i ymweld âdarpariaeth chwarae cymunedol gyda staff,ac rydym yn hyderus iddi fwynhau blas o’rcynfyd wrth wneud hynny!

Gweinidog ar DDaaiitthh CChhwwaarraaee

Page 5: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

5 Chwarae dros Gymru

Datblygwyd cynllun Cyfaill Sir y Fflint i hyrwyddo hawlplant i chwarae drwy alluogi’r rhai gydag anghenion

arbennig i gael mynediad i gynlluniau chwarae lleol.Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Uned Chwarae Sir y Fflint,Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint a’r GwasanaethIntegredig Anabledd Plant yn defnyddio cyllid CYMORTHgan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn benodol ar gyfer‘chwarae mynediad agored’.

Mae 68 o gynlluniau chwarae haf yn Sir y Fflint, ac maent oll âmynediad agored ac yn seiliedig ar ‘hawl plant i chwarae’. Maegennym agenda a arweinir gan blant sy’n anelu i ddarparu argyfer anghenion chwarae plant (yn hytrach nag agendaoedolion, er enghraifft lle darperir sesiynau strwythuredig i atebanghenion oedolion ar gyfer gofal plant).

Caiff gweithwyr chwarae eu cyflogi a’u hyfforddi ar y sail y gallplant wneud eu trefniadau teithio eu hunain, i fynd a dod fel ymynnant ac i fynychu cynifer o sesiynau ag a ddymunant.FODD BYNNAG, mae hyn yn aml yn anfwriadol yn eithrio plantgydag anableddau oherwydd efallai nad yw eu rhieni a’ugofalwyr yn gysurus am ganiatáu i’w plentyn fynychu ar y sailhwnnw. Felly mewn gwirionedd nid yw’r gwasanaeth yngynhwysol oherwydd na all plant gydag anghenion arbennigfynychu.

Roeddem yn glir ein bod eisiau sefydlu gwasanaeth“cynhwysol”, felly dynodwyd y problemau, anawsterau a’rrhwystrau sy’n atal rhai plant rhag cael mynediad i gyfleoeddchwarae. Penderfynwyd sefydlu cynllun peilot fel y medremennill parch ac ymddiriedaeth rhieni fel y medrai eu plantfynychu.

Yn ystod yr Haf cyflogwyd ‘cyfeillion’ o’r staff gwaith chwaraei weithio gyda grwp bychan o blant gydag anghenion arbennig.Roedd rhai rhieni angen llawer iawn o berswâd i ganiatáu i niweithio gyda’u plant. Fodd bynnag, bu’r canlyniad yn wychgyda phawb a gymerodd ran wedi dysgu llawer fel y medrwnsymud ymlaen ac ymestyn y cynllun.

Mae Cyfeillion yn gweithio ar sail un i un gyda’r plant acroeddent ar y safle i gynnig cefnogaeth yn ddiffwdan.Roeddent yn gwisgo’r un crysau T â’r gweithwyr eraill ar y safleac wedi’u cyfarwyddo i roi’r rhyddid i’r plentyn i chwarae gyda’rplant eraill. Cysylltodd y cyfeillion yn ddyddiol gyda rhieni.Cyflogwyd un o’n Gweithwyr Chwarae Cymunedol i oruchwylioa chydlynu’r cyfeillion a threuliodd oriau yn siarad gyda hwy arhieni i gadw’r cyfathrebu hanfodol oedd ei angen. Gofynnwydi bob un o’r cyfeillion gadw dyddiaduron am eu profiadau abuont yn adroddiadau defnyddiol ac onest iawn o’u gwaithgyda’r plant.

Ar gyfer y cynllun peilot sefydlwyd cyfarfodydd/sesiynauchwarae penodol yn Nhy Catherine Gladstone (GwasanaethAnabledd Integredig Plant) i gwrdd gyda phlant a rhieni. Ermwyn datblygu ac ychwanegu at gynlluniau’r dyfodol,bwriadwn gyflwyno’r Cyfeillion i’r teuluoedd mewn da bryd cyny cynlluniau fel y medrant ddod i adnabod y plentyn unigol alefel y cymorth sydd ei angen er mwyn symud tuag atddynesiad holistig at eu hanghenion chwarae.

Os hoffech wybod mwy am y cynllun hwn, cysylltwch âJanet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae Cyngor Sir yFflint ar 01352 702469.

Chwarae am Iechyd Bryn Gwalia

a Ward Castell y FflintMae’r prosiectau ‘Chwarae am Iechyd’ a

ddechreuwyd yn ein hardal yn 2004 yn wynebullawer o heriau yn y byd modern ar wedd gorsafoeddchwarae, cyfleusterau siopa allan o’r dref a’r cynnyddtybiedig mewn perygl dieithriaid. Eto mae’r ddau brosiectwedi llwyddo i herio agweddau rhieni a thueddiadaumodern a anelwyd at blant. Mae’r ddau brosiect wediymrwymo plant mewn cyfleoedd chwarae mynediadagored diddorol, heriol a chyffrous sydd wedi eu hanelu iddatblygu plant yn feddyliol, corfforol a chymdeithasol.

Enghreifftiau o brosiectau yw:

• Darpariaeth chwarae mynediad agored allan o oriau

• Prosiect celf Maes Gwyn

• Dyddiau blasu ar gyfer plant a rheini

• Prosiect chwarae amgylcheddol

• Ymweliadau i feysydd chwarae antur a pharciau sglefrio

• Ymgynghoriadau chwarae

• Cynnwys Campau’r Ddraig mewn sesiynau chwarae

• Sesiynau dawns a gweithgareddau eraill nad yw llawer o blant yn cael cyfle i’w profi fel arfer

Datblygodd y prosiectau drwy angen a ddynodwyd. YmMryn Gwalia mae’r nifer fwyaf o achosion o dlodi plant ynSir y Fflint, a dywedir mai Ward Castell y Fflint sydd âmwyaf o “ymddygiad gwrthgymdeithasol”. Mae’r ddwy ynardaloedd Cymunedau’n Gyntaf. Ond drwy ymgynghorigyda phlant, pobl ifanc a rhieni, dynodwyd fod y ddwyardal yn dioddef o ddifreintedd chwarae a chrëwyd dwyswydd unigryw fel ymateb uniongyrchol i hyn.

Gwelodd y 18 mis diwethaf ddatblygiadau yn y ddau faesac mae’r prosiectau yn ymrwymo plant a phobl ifanc gydachyfleoedd chwarae cyffrous sy’n galluogi plant ichwarae’n rhydd, i fynegi eu hunain mewn amgylcheddsy’n rhydd o risg amhriodol.

Mae’r prosiectau hefyd wedi helpu i ymrwymo rhieni gydagweithgareddau cymunedol ehangach a all fod ag effaithdybiedig ar ostwng lefelau straen ar deuluoedd achynyddu cefnogaeth deuluol. Daeth nifer o rieni ynwirfoddolwyr yn y prosiectau ac mae dau wedi mynychu’rhyfforddiant cynefino gwaith chwarae Lefel Dau a gafoddei redeg mewn cysylltiad â Chyngor Sir y Fflint. Gall hynfod â rôl wrth wella eu hunanhyder a’u hunan barch.

Gosodwyd y sylfeini ar gyfer datblygu chwarae ym MrynGwalia a Ward Castell y Fflint. Mae’r dynesiad partneriaethat y gwaith hwn wedi dechrau mynd i’r afael â difreinteddchwarae ar nifer o lefelau. Bydd cydweithredu yn y dyfodolyn rhoi cyfleoedd pellach i blant a phobl ifanc gael dyfodoliach.

Liz Hughes, Gweithwraig Ieuenctid a DatblyguChwaraeWard y Castell, Sir y FflintCyswllt: 01352 734485

Cynllun Cyfaill Sir y FflintCynlluniau Chwarae HafCynllun Cyfaill Sir y FflintCynlluniau Chwarae Haf

Page 6: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

6Chwarae dros Gymru

Cynhaliwyd dathliadau diwrnod chwarae eleni ymMerthyr Tudful yn un o’r parciau cymunedol

mwyaf yn y fwrdeistref. Cydlynwyd y digwyddiad ganFforwm Chwarae Merthyr Tudful gyda help achefnogaeth gwahanol asiantaethau chwarae a gofalplant o bob rhan o’r bwrdeistref.

Ffurfiwyd grwp llywio diwrnod chwarae cyn y digwyddiad ermwyn trefnu a chydlynu gweithgareddau, gyda FforwmChwarae Merthyr Tudful yn arwain yn y grwp llywio. Gydagychydig iawn o arian ac adnoddau, penderfynwyd y byddem yngalw ar gynifer o asiantaethau ag y medrem i ddarparugweithgareddau ac adnoddau ar y dydd. Roedd cydlynu’rdigwyddiad yn broses hir, gan gymryd llawer o wythnosau achyfarfodydd. Talodd y gwaith caled ar ei ganfed, gyda’rdigwyddiad yn llwyddiant mawr. Hoffem ddiolch i bawb agymerodd ran.

Ar y DyddRoedd y digwyddiad yn un i’r holl fwrdeistref. Gan mai’r themaoedd “Ffit i Chwarae”, credem y byddai’n addas i ddarparucymaint o weithgareddau egniol ac awyr agored ag y medrem,gan gynnwys: llithrennau dwr, adeiladu cuddfannau, chwaraedarnau rhydd/amgylcheddol, sgiliau syrcas, cestyll bownsio,Campau’r Ddraig a llawer mwy.

Bu’n ddiwrnod gwych, gyda thua 800-900 o ymwelwyr argyfartaledd. Bu plant o nifer fawr o gynlluniau chwarae haf ynbresennol ynghyd â llawer o ymwelwyr o’r tu allan i’rfwrdeistref. Ymunodd Maer Merthyr Tudful yn y dathliadau agwlychu at ei groen – llawer o ddiolch iddo am ei gefnogaeth.

Roedd yr adborth gan rieni a phlant yn galonogol achefnogol iawn:

“Fedrwn ni gael diwrnod chwarae bob mis?”

“Dyma’r diwrnod chwarae gorau i mifod arno erioed”.

“Mae plant Merthyr angen mwy o hyn ...”

Beth fedraf ei ddweud? Roedd yn wych gweld cynifer o blantyn gwenu, yn cael hwyl, yn baeddu ac yn wlyb, dyna oedd prifnod y diwrnod. Yn ogystal â bod yn ddiwrnod hwyliog achyffrous i’r plant, helpodd i godi proffil chwarae ym Merthyr

Tudful, gan gynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwyddchwarae i ddatblygiad plant, sut mae gofod chwarae da awyragored a gweithgareddau chwarae corfforol yn ffactorauhollbwysig i ddatblygu plant iach ac egniol.

Sarah Williams, Cydlynydd Digwyddiad –

Gweithwraig Datblygu Gofod Chwarae, Fforwm ChwaraeMerthyr Tudful

Medrir cysylltu â Sarah ar 01685 353960.

HHwwyyll DDiiwwrrnnoodd CChhwwaarraaeeym Merthyr Tudful

CHWARAE MEWN PARCIAU A GOFODAU AGORED

Islaw: Plant yn chwarae yn yr awyr agored mewn cynllun chwaraecynhwysol yng Nghaerdydd

Page 7: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

7 Chwarae dros Gymru

Aethom ati i ganfod lleoliadaddas – roedd darn diffaitho dir ar hen safle’r GloddfaGlai yn Nhalysarn ynddelfrydol; o fewn golwgrhwydd o’r pentref, ond hebfod yn rhy agos i swn fod ynbroblem. Gyda grant o£64,000 a sicrhawyd drwyGyngor Gwynedd, agorwyd ein parc sglefrio erbyn Haf 2003. Ermwyn i ni edrych am fwy o gyllid grant i wella’r safle ac i fod ynberchnogion y parc sglefrio, bu’n rhaid i ni ffurfio fel corff atebol gydachyfansoddiad a chyfrif banc. Roedd yn rhaid i ni hefyd gytuno i les30-mlynedd o’r safle gan Gyngor Gwynedd, lle trosglwyddoddperchnogaeth o’r safle i ni.

Rydym wedi datblygu cynllun pum mlynedd i ddatblygu’r parc felcanolbwynt y gymuned, a buom yn ddigon ffodus i dderbyn grant o£35,000 Cist Gwynedd i wella cyfleusterau ag amgylchedd y parcsglefrio. Mae’r safle wedi gwella’n sylweddol gyda chwblhau’r camcyntaf hwn, a gobeithiwn ddenu buddsoddiad pellach yn y dyfodolagos i ddatblygu ardal gardd gyda meinciau picnic a seddi ar gyferpobl i eistedd ac edrych ar ein sglefrwyr ifanc.

Ein prif gyfrifoldebau fel pwyllgor yw sicrhau fod gennym ddigon oarian i dalu am ein hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, sy’n sugnocronfeydd prin, ac i gynnal arolygiadau diogelwch wythnosol o’nhoffer. Ni ddaw cyfrifoldebau rhedeg parc sglefrio i ben yno, foddbynnag. Er mwyn cadw ymrwymiad ein pobl ifanc, rydym wedigwneud cais am cyllid i ddarparu gweithgareddau cysylltiedig: yn2004 derbyniwyd cyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru,Mantell Gwynedd a Chronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau’n Gyntafi gyflogi artist preswyl am chwe wythnos. Mae’r plant a phobl ifanc(yn amrywio mewn oedran o 6-21 oed) sy’n defnyddio’r parc yncymryd rhan agos iawn gan ddewis Bryce Davies i gynnal gweithdaiCelf Stryd – a arweiniodd at chwistrellu’r cynlluniau ar y rampiausglefrfyrddio. Rydym hefyd wedi ymweld â pharciau sglefrioymhellach i ffwrdd, a threfnwyd cwrs Cymorth Cyntaf a fu o fuddmawr i ddau o’r aelodau a fedrodd helpu person ifanc a gafodddrawiad epileptig. Yn 2005 gwahoddwyd y grwp i arddangos ynNiwrnod Agored blynyddol Antur Waunfawr, ac am dridiau yn yrEisteddfod Genedlaethol ar Stad y Faenol yn arddangos Celf Strydyn stondin Cyngor Gwynedd.

Fel gwirfoddolwyr, nid yw bob amser yn rhwydd. Gall cyflogwyr hebgydymdeimlad wrthod caniatâd i wneud a derbyn galwadau ffôn ynystod oriau gwaith, ac wrth gwrs mae’r rhan fwyaf o bobl y maeangen i chi gysylltu â hwy yn gweithio’r un oriau hynny. Mae ceisiocasglu cefnogaeth gan rieni yn frwydr gyson a siomedig. Foddbynnag, mae gwella’r cyfleusterau i i blant a phobl ifanc yn eincymuned yn wobr ynddo’i hunan, yn arbennig gweld eu mwynhad a

faint o ddefnydd a wneir o’r parc sglefrio. Mae’r ffaith nad yw wedidioddef unrhyw ddifrod o fandaliaeth hyd yma yn dweud cyfrolau, acmae llai o gwynion am grwpiau yn gwag-symera ar gorneli stryd.

Yr anhawster mwyaf sy’n ein hwynebu yw’r angen am YswiriantAtebolrwydd Cyhoeddus blynyddol. Costiodd hyn £850 i ni eleni, adywedwyd wrthym am drefnu am gynnydd blynyddol o 10% p’un awneir cais neu beidio. Mae hwn yn swm enfawr mewn ardalddifreintiedig a heb unrhyw gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol,medrai methiant i godi’r arian hwn yn y tymor hir ein hatal rhagcadw’r cyfleuster yn agored.

I gael gwybodaeth bellach cysyllter â Carys Pritchard ar 01286 881103 neu e-bost [email protected]

Cruisers Talysarn –geni parc sglefrio Mae Cruisers Talysarn yn grwp cymunedol a arweinir

gan wirfoddolwyr a ffurfiwyd ym mis Mai 2001 mewnymateb i angen a fynegwyd gan bobl ifanc yngnghymunedau Talysarn a Nantlle yng Ngwynedd i sefydluparc sglefrio. Cawsant gyllid maes o law drwy gynllunCymunedau’n Gyntaf Llywodraeth Cynulliad Cymru iddatblygu cyfleusterau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Celf Stryd yn Eisteddfod Genedlaethol y Faenol 2005

Mynd am drip i Barc Sglefrio Dan Do Boneyard

Diwrnod Agored Antur Waunfawr2005-12-29

CHWARAE MEWN PARCIAU A GOFODAU AGORED

Page 8: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

8Chwarae dros Gymru

Cyfarfu aelodau o dîmChwarae Cymru a

ymwelodd â’r GynhadleddCymdeithas ChwaraeRyngwladol (IPA) yn Berlin âDr Ute Navidi, CyfarwyddyddLondon Play, mewn parcgwiriodeddol ysbrydoledig.Fel rhan o’n cyfres oerthyglau rhyngwladol,mae’n rhoi rhai o’i sylwadau:

Daeth gweithwyr chwarae proffesiynol obob rhan o’r byd ynghyd yn y 16egCynhadledd Cymdeithas ChwaraeRhyngwladol a gynhaliwyd yn Berlin hafdiwethaf. Roedd rhaglen ddiddorol acamrywiol o ddarlithoedd, gweithdai acymweliadau, ond ganol yr wythnosmanteisiodd llawer o’r cynrychiolwyr ar ycyfle o newid yn y digwyddiadau. Wedi’rcyfan, thema dydd Mercher oedd ‘ygynhadledd yn chwarae’. Aethom arymweliad bws i FEZ Wuhlheide, gan fynddrwy Ddwyrain Berlin, ac am beth o’rffordd ar hyd yr ychydig o rannaugwreiddiol o Fur Berlin sy’n dal yn eu lle.Mae’r ddinas yn rhyfeddol o wyrdd: maechwarter arwynebedd Berlin yn afonydd allynnoedd, coedwigoedd a pharciau. Nidyw natur byth yn rhy bell i ffwrdd yn yramgylchedd trefol hwn.

Er na ddeallai cynrychiolwyr cynhadleddIPA i ddechrau beth oeddent, daeth yllythrennau FEZ yn frand cydnabyddedigar gyfer hamdden ac adloniant egniol argyfer plant, pobl ifanc ac oedolion Berlin.Bob blwyddyn mae’r parc hamdden yncroesawu mwy na miliwn o ymwelwyr,gan wahodd teuluoedd cyfan i arhosiadawyr agored egniol. Gyda’i athroniaeth oddatblygu gallu beirniadol pobl ifanc, a’ugallu i wneud penderfyniadau, cymrydcyfrifoldeb dros eu gweithredoedd eu

hunain a chyfranogiad cymdeithasol, nidyw’n syndod i FEZ gael y marciau uchafyn ymgyrch 1999 ‘Kinder testen Berlin’(prawf plant Berlin’). Gwnaeth i mi dybio addylai trefi a’n dinasoedd ni ddilyn yr unprawf.

Mae hanes y lle yn rhoi’r cyd-destun argyfer gweithgareddau heddiw. Mae’ntarddu o’r 1920au pan ddatblygwyd ysyniad ‘parc coedwig’ gan y symudiadparciau’r bobl. Mae’n gyfuniad 290 erw ogoedwig a pharc a ddefnyddir yn helaeth.Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yparc fel ardal a chysgodfan i ochel rhagawyrennau, yn ogystal â gwersyll carcharmilwrol. Dyna pam y cafodd cymaint o’rparc a’i adeiladau eu dinistrio yn ystod yrhyfel. Ar ôl 1945 daeth ardal gogledd yparc yn wersyll milwrol i’r ComanderDinas Sofietaidd. Ar ôl rhannu’r Almaen,bu’n rhan o Ddwyrain Berlin, prifddinasGweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen.Yn 1951 bu’r parc yn gartref i 3ydd GwylIeuenctid y Byd. Dechreuodd ailadeiladugraddol ar ôl ailuno’r Almaen.

Gyda chymaint o hanes iddo, mae llawero Barc y Bobl heddiw yn cael ei adael idyfu’n wyllt. Y FEZ, yn ei gornel de-ddwyreiniol, yw canolfan hamdden dielwmwyaf Ewrop ar gyfer plant a phobl ifanc.Mae’n cynnwys parc mawr gydachoedwigoedd, llynnoedd, llociau bywydgwyllt, theatr awyr agored, ardaloeddchwarae, gardd farchnad, trac BMX,pibelli sglefrfyrddio, caeau chwaraeon,llwybrau seiclo, ardaloedd tawel a“Lieegewiesen” – dolydd i orwedd ynddynt.Gall plant hyn yrru trên stêm drwy’r parc agweithredu fel arolygwyr tocynnau. Maety gwydr trofannol ecogyfeillgar achanolfan hamdden ac adloniant 13,000metr sgwâr gyda phwll nofio dan do agofod ar gyfer arddangosfeydd adigwyddiadau eraill, Amgueddfa Plant aChanolfan Ofod unigryw. Mae’n debyg ybyddai llawer o’r hyn a welais ynymddangos yn ddiolwg i oedolion gydabarn draddodiadol o sut olwg ddylai fodar barc – ond nid parc i oedolion oedd hynac roedd yn amlwg fel plant yn ei weld fellle o ryfeddod. Roeddent yn ei ystyried feleu hamgylchedd hwy, eu tiriogaeth hwy.

Mae gan staff FEZ gymwysterauproffesiynol mewn meysydd diwylliannol,pedagogaidd a thechnegol, ac maent yncymryd rhan mewn datblygiadproffesiynol parhaus. Gweithiant mewn

timau prosiect hyblyg yn ôl anghenionplant a phobl ifanc – mae ystod sy’nnewid yn barhaol o gyfleoedd chwarae addewisir yn rhydd ar gael.

Risg – pa risg?Felly beth welsom ni yn FEZ? Wel, yndod o Brydain, cafodd rhai ohonom einsynnu ond yn falch iawn i weld plant yncymryd rhan mewn ystod gyfan oweithgareddau awyr agored a ystyrir ynaml fel bod â ‘gormod o risg’ yma. Mae’rlluniau’n dweud mwy na mil o eiriau –plant yn coginio stiw dros dân gwersyllcanoloesol, torri coed tân gyda bwyell,

Cynhadledd Ryngwladolyynn cchhwwaarraaee ttuu aallllaann

Plant yn coginio cinio dros dân agored, FEZ

Byd y Rhyfeddodau, FEZ

Hwylio yn yr Olympiad fydd nesaf, FEZ

Gosod rhaffau gyda siswrn a thâp, FEZ

Page 9: chwarae dros gymru rhifyn 17

9 Chwarae dros Gymru

padlo ar y llyn, dringo strwythurau, arsiglenni, gweithio gyda sgriwdreifers adriliau trydan a dwr. Dywedwyd wrthym nafu damwain ddifrifol erioed. Roeddoedolion o amgylch ond heb fod yn agos,roedd rhieni yn eistedd yn ôl a gadael i’wplant grwydro. Ymddiriedwyd mewn planti fedru gwneud eu penderfyniadau euhunain a chymryd rhan ar eu lefel euhunain. Roedd yn amlwg iawn i’r holl legael ei gynllunio o’u hamgylch ac i ateb euhanghenion.

Felly, fel yr oeddwn yn crwydro o amgylchy safle enfawr, i fyny ac i lawr bryniaumwd, cwrdd ag anifeiliaid enfawr wedi’igwneud o hen goed, ar hyd llwybrau lle’roedd plant yn rhoi cynnig ar gerbydau yroeddent wedi eu hadeiladu eu hunain, ynymyl stablau lle’r oedd plant heb fod fawrmwy na phedair blwydd oed yn glanhaugyda ffyrchau enfawr, gweld plant dan 5yn padlo ar ben eu hunain mewn cychodar y llynnoedd, cofiais am rywbeth addywedodd y Prif Weinidog Tony Blair yngynharach eleni. Yn ei araith mewnseminar ym Mai 20051, dywedodd ein bod

mewn perygl o fod ag agwedd hollolanghymesur i’r risgiau y dylem ddisgwyleu hwynebu fel rhan arferol o fywyd.Dywedodd na fedrwn ymateb i bobdamwain drwy geisio gwarantu diogelwchllwyr. Ni fedrwn ddileu risg, mae’n rhaid i nifyw gydag ef, ei reoli. Weithiau mae’nrhaid i ni dderbyn nad oes neb ar fai.Dyma’r fath o ddynesiad synnwyrcyffredin a welais o’m hamgylch ymmhobman yn y parc.

Atgoffodd ymweld â FEZ a sylwadau’r PrifWeinidog am y ddadl a gyflwynwyd ganBob Hughes yn ‘Evolutionary playworkand reflective analytic practice’ (2001)2

bod dod ar draws a goresgyn risg yn rhanarferol o fywyd beunyddiol plant ond ynrhy aml heddiw fod plant yn cael eu hatalrhag gwneud gweithgareddau lle mae risgos nad yw oedolion yn tybio fod ygweithgareddau hynny yn ddiogel. Mewngwirionedd, ni fedrant fod yn ddiogel abod â risg. Mae’n ein rhybuddio i beidiodrysu risg gyda pherygl. Dywed fod risgyn rhywbeth mae plant yn ei adnabod ondna all plant asesu perygl.

Ond yn ôl at FEZ a chynhadledd IPA.Cafwyd nifer o gyfraniadau diddorol tuhwnt o bob rhan o’r byd mewn gweithdyar Risg mewn Chwarae, a hwyluswyd ganRobin Sutcliffe, Cadeirydd FforwmDiogelwch Chwarae Ewropeaidd.Dangosodd cyflwyniad gweledol ganShoko Ohmura a chydweithwyragweddau plant at gymryd risg ym MaesChwarae Antur Hanegi yn Tokyo.Rhoddasant enghreifftiau o blant ynchwarae’n hapus mewn sefyllfaoedd ybyddai’r rhan fwyaf o oedolion yn ystyriedfel bod â risg annerbyniol, er enghraifft ardo’r adeilad chwarae. PwysleisioddFernado Pereira o Brifysgol DechnegolLisbon brofiad dysgu ‘methiannauaddfwyn’. Felly nid dim ond mynd â sylwpobl ym Mhrydain mae hyn, mae pobl ymmhob rhan o’r byd yn adeiladu dadleuonam fwy o gyfleodd cymryd risg i blant aphobl ifanc.

Cyflwynodd Robin faniffesto newyddFforwm Diogelwch Chwarae Ewropeaidd.Dywedodd y gall y graddau y cawn eincyflawni fel bodau dynol ddibynnu ar ygraddau yr ydym yn barod i gymrydrisgiau a bydd ein gallu i gymryd risgiau,yn ei dro, yn dibynnu ar brofiadauchwarae ein plentyndod. Fel DatganiadSafbwynt Fforwm Diogelwch Chwarae'rDeyrnas Unedig “Managing Risk in Play”,mae’r Maniffesto wedi ei anelu at bawbsydd â diddordeb mewn diogelwch plantyn ogystal â’r amgylchedd y maent ynchwarae ynddo.

Cadarnhaodd yr ymweliad i FEZ fy marnein bod yn analluo plant wrth eu trin felanghymwys ac y gall diffyg cyfleoeddchwarae heriol mewn meysydd chwaraeatal plant rhag dysgu sut i ddelio gydaperygl a’u diogelu eu hunain. Maetystiolaeth gynyddol fod cyfradddamweiniau yn gostwng, nid cynyddu,pan ailgynllunnir gofodau chwarae i roipethau mwy diddorol i’w gwneud a phlantyn mynd i’r afael gyda rheoli risg euhunain. Mae’n rhaid i ni – pawb ohonom –ddysgu gadael i blant gymryd rhai risgiauwrth chwarae a chydnabod eu bod yngyd-ddinasyddion cymwys a deallus.

Daeth y diwrnod yn FEZ i ben gyda phartibarbiciw traeth Islywydd yr IPA. Ynanffodus, daeth y glaw – a phobl yncysgodi dan gazebos ac mewn pabellfawr – roedd yn olygfa gyfarwydd iawn ibawb o Brydain. Ond roedd yr awyrgylchyn dda a’r cyfle i rwydweithio a chyfnewidsyniadau ar lefel ryngwladol yn werthfawrtu hwnt. Do – bu’r gynhadledd yn chwarae– a bu bron iddi golli’r bws yn ôl i ganolBerlin!

Os hoffech wybod mwy am yGymdeithas Chwarae Ryngwladol,ewch i www.ipaworld.org

i Seminar ‘Future Challenges – Living with Risk’ Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR), Mai 2005 2 Ar gael ar wefan Chwarae Cymru www.chwaraecymru.org.uk/dalenni ffiethiau neu yn www.nac.org.uk/library/cpis

Ffotograffau: Ute Navidi

Islaw: ‘Darnau rhydd’, FEZAdeiladu cerbyd, FEZ

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

Page 10: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

10Chwarae dros Gymru

H Y F F O R D D I A N T H Y F F O R D D I A N T

Pan roddwyd cyfle i mi ysgrifennuam erthygl am p’un ai oes

gwahaniaeth rhwng rôl gweithwyrgofal plant a gweithwyr chwaraeheblaw’r gwahanol deitlau swydd,roeddwn yn edrych ymlaen at y cyfle.Rwyf wedi gweithio’n uniongyrcholgyda phlant a phobl ifanc yn y sectorgwaith chwarae/gofal plant ers 1970.Gan weithio i ddechrau yn Birminghamfel gwirfoddolydd ar faes chwarae anturac fel aelod o staff y GymdeithasGrwpiau Chwarae Cyn-ysgol, symudaisi Gymru yn 1974 a bum yn ymwneud âsefydlu a rheoli grwpiau chwarae achynlluniau chwarae haf yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Yn fwyafdiweddar bûm yn ymwneud â sefydlu achydlynu un o’r clybiau allan o’r ysgolcyntaf yn Abertawe. Gwelais lawer onewidiadau yn ystod yr amser hwnnw,mae gwahanol strategaethau wedimynd a dod, a bu llawer ouchafbwyntiau a siomedigaethau i’rsector.

Daeth y pleser mwyaf i mi o gwrdd adysgu gan y llu o blant sydd wedimwynhau’r gwahanol gyfleoedd ichwarae yn eu dull eu hunain ac iedrych fel y datblygodd eu hyder ac ycafodd eu dychymyg ryddid i dyfu.Gofid parhaus fu’r diffyg parch yr

ymddengys sydd gan rai staff yngweithio mewn gwahanol rannau o’rsector tuag at ei gilydd.

Mae’n awr yn ymddangos fod pawbsy’n gweithio gyda phlant a phobl ifancdrwy gyfrwng chwarae yn “weithiwrchwarae”. Rwy’n dal i deimlo ei fod yndibynnu ar ba gyfarfod yr ydych ynddoa gyda pha unigolion os yw hyn yn farna dderbynnir yn gyffredinol – ynarbennig os yw’r cyfarfod yn ymwneudâ dosbarthu cyllid. Yn bersonol, rwyf iwedi dewis yn y gorffennol y term hybrid“gofalydd chwarae” yn hytrach na“gweithiwr chwarae” – betio bob fforddefallai.

Mae meddwl beth i’w ddweud yn yrerthygl hon wedi codi mwy ogwestiynau nag o atebion: pan holaisgydweithwyr yn gweithio mewn clybiauos mai “gweithiwr chwarae” neu“ofalydd plant” yr ystyriant eu hunain,cafwyd atebion fel “Mae hynny’n anoddei ateb ..”, “Dwi ddim wedi meddwl amhynny o’r blaen ..” a “Wn i ddim, y ddaumae’n debyg”. Pan ofynnwyd iddynt,ateb cadarn rhai oedd “GweithiwrChwarae”.

Yn adnoddau hyfforddiant Clybiau PlantCymru, rydym wedi penderfynudefnyddio’r geiriau gweithiwr chwarae a

gofalydd plant yn rhyngnewidiol. Caiffstaff sy’n gweithio mewn clybiau allano’r ysgol eu hannog i ddilyn TystysgrifCACHE Lefel II mewn Gwaith Chwaraea Diploma Lefel III mewn GwaithChwarae.

A yw o bwys beth a alwn ein hunain?Mae’n sicr gen i fod argaeledd amrediado gyfleoedd chwarae ansawdd uchel argyfer pob plentyn a pherson ifanc gydagweithwyr ymroddedig, blaengar abrwdfrydig yn bwysicach. Ar gyfer ystaff, y cyfan y medrwn obeithioamdano yw parch at ein gilydd achydnabyddiaeth o werth ein gilydd,gan wyntyllu a rhannu yr hyn sy’n debygrhyngom yn ogystal â’n gwahaniaethau– yn arbennig gyda thebygrwydd rolaumwy aml-swyddogaeth.

Jan OliverRheolydd Hyfforddiant CenedlaetholClybiau Plant CymruTachwedd 2005

Oes gennych chi ddiddordebmewn cychwyn dialog ar y pwnc?Fe’ch gwahoddir i ymateb i erthyglJan – anfonwch eich sylwadau at ygolygydd yn [email protected].

Beth sydd mewn enw?Beth sydd mewn enw?

Mae tîm Chwarae Cymruyn croesawu Richard

Trew, Rheolydd Prosiectnewydd ein cynllun Cwlwm.Ariennir y rhaglen gan raglenEQUAL. YsgrifennoddRichard:Cefais fy magu yn y Barri lletreuliais lawer o fymhlentyndod chwarae ynnofio yn nwr oerllyd lido’rBarri. Mae gen i dri brawd,pob un ohonynt wedi bod ynweithwyr chwarae ar ryw amser, fellymae’n debyg fod gweithio gyda phlantyn ein gwaed.

Roedd fy ngyrfa gyntaf fel cerddorproffesiynol ond yn 1987, yn dlawd acangen saib, cymerais swydd dros yr haf

yng Nghaerdydd yn gweithiogyda phlant. Dwi ddim ynsiwr beth oedd am yr hafcyntaf hwnnw (efallai'rswigod a achoswyd yntyrchu tyllau ar gyferstrwythur chwarae gydaDoug Cole) ond cafodd ypeth afael arnaf mewn moddmawr. Ar ôl gweithio felgweithiwr chwarae, ac ynafel gweithiwr datblygu,symudais maes o law i

hyfforddiant gwaith chwarae ar gyferGwasanaethau Chwarae PlantCaerdydd.

Beth fydd fy ngwaith fel RheolyddProsiect?

Fy ngwaith yw goruchwylio datblygiaddeunyddiau hyfforddiant blaengar ar gyfergwaith chwarae ar lefel cynefino a lefelau 2a 3 yn ogystal â dyfarniad ‘hyfforddi’rhyfforddwr’.

Bydd y deunyddiau a gynhyrchir yn rhoiprofiad cyffrous i ddysgwyr sy’ncanolbwyntio ar egni chwarae plant ac ynymchwilio agendâu oedolion ehangachdrwy’r persbectif hwn. Yn hynny o beth,bydd yr hyfforddiant yn adlewyrchu ethosa phwyslais yr Egwyddorion GwaithChwarae a’r Hawl Cyntaf. Bydd yrhyfforddiant yn cyfuno’r wybodaeth,ymarfer ac adfyfyriad sy’n hanfodol argyfer hwyluso chwarae plant ynllwyddiannus.

Rwyf wrth fy modd i ymuno â ChwaraeCymru ac yn edrych ymlaen at ddod iadnabod y tîm ac wynebu’r heriau o’nblaenau.

Richard Trew

AAeelloodd NNeewwyydddd oo’’rr TTîîmm

Page 11: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

11 Chwarae dros Gymru

H Y F F O R D D I A N T H Y F F O R D D I A N T

Gyda thîm o ymgynghorwyr fe aethom ardaith drwy ddeiliach Parc Margam i ardalbellennig yn berffaith ar gyfer arbrofi ymmhob math o weithgaredd a rhyngweithiadyn defnyddio pethau a roddodd natur i ni.

GWREICHION Ychydig iawn o reolau, rheoliadau neuffiniau oedd (yn union fel yr ydym niweithwyr chwarae yn ei hoffi!) wrth i niadeiladu mân dannau (fe wnaethom dwylloa defnyddio matsis fel arall byddai wedicymryd drwy’r dydd!) ac yn ddiweddarachei ddefnyddio i goginio bwyd – a roddoddfoddhad mawr.

Fe wnaethom hefyd ddefnyddio offer agwneud offerynnau cerdd yn defnyddioamrywiaeth o wahanol adnoddau. Roeddyr ymdeimlad o le a phreifatrwydd yngolygu y medrem wneud digonedd o sôn –chwerthin gan bennaf.

MWDRoedd yn un o’r dyddiau hynny pan oedd ytywydd yn anodd ei ragweld, ond ynamedrech ddweud na chafodd dim am eindiwrnod hyfforddi ym Margam ei ragweld!Nid yn unig yr oeddem yn ymwneud gyda’r

mwd a phridd a’r nant, cawsom hefyd eindal mewn storm o law anferthol. Yn hytrachna gadael i hyn ddifetha ein sesiwn,penderfynodd llawer ohonom goleddu’rtywydd a gwneud y gorau allan o dywyddCymru.

Gwnaethom guddfannau o fewn y coed, ynogystal â phontydd rhaff a siglenni, fyffefrynnau personol – gan eu treialu drwysgrechian mewn gorfoledd wrth i ni siglo imewn i’r coed.

CANLYNIADAUErbyn diwedd y dydd roeddem yn oer, wediblino, yn newynog, budr ac yn gleisiog, ondmedraf siarad dros lawer ein bod yn hapusac wedi ein hysbrydoli. Atgoffodd dysgudrwy brofiad ni am rai o’r teimladaurhyfeddol a gawsom fel plant a dangos

mewn ffordd wych ein harwyddocâd felgweithwyr chwarae. Mae mor syml ac etomor effeithlon a phwysig nad ydym ni felgweithwyr chwarae yn anghofio am yteimladau hyn – fel y medrwnwerthfawrogi’r profiadau sy’n eu creu a’ucynnwys yn ein hamgylchedd chwarae.

Ers y diwrnod Mwd a Gwreichion, mae’ntîm yn Llaneirwg wedi cymryd camau iymestyn a gwerthfawrogi rhyngweithiadgyda natur o fewn ein gosodiad chwarae –daw’r bonllefau o bleser yn awr o’r plantwrth iddynt siglo yn y coed.

Gellir golchi baw i ffordd, medrir trwsiodillad, bydd briw neu anaf yn iachau ondmae’r parch at natur a datblygiad personolac ymdeimlad o lwyddiant a boddhad y gallplant ei ennill o chwarae gyda’r elfennau ynwirioneddol amhrisiadwy.

I gael gwybodaeth bellach am hwylusochwarae gyda’r elfennau gweler “YR HAWLCYNTAF – fframwaith ar gyfer asesiadgwaith chwarae o ansawdd” aysgrifennwyd gan Bob Hughes ac agyhoeddwyd gan Chwarae Cymru.

Mwd GwreichionYn gynharach eleni daeth gweithwyr chwarae o bob rhan o Dde Cymru ynghyd ym

Mharc Margam ger Port Talbot am ddiwrnod o hyfforddiant ar hwyluso chwaraegyda’r elfennau. Mae Mwd a Gwreichion (hynny yw pridd/dwr ac aer/tân) ynddigwyddiad rhannu sgiliau a gefnogir gan Chwarae Cymru, lle mae’r rhai gyda’rwybodaeth yn trefnu cyfleoedd i eraill ganfod hyfrydwch ac ymarferoldeb cynnig profiado’r elfennau i blant. Esboniodd Lisa Williams o Brosiect Chwarae Creadigol Caerffili:

Mwd aa Gwreichion

Page 12: chwarae dros gymru rhifyn 17

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 17 Gaeaf 2005

12Chwarae dros Gymru

DDIIGGWWYYDDDDIIAADDAAUU31 Ionawr a 1 Chwefror 2006 – 6edCynhadledd Gwaith Chwarae Birmingham Canolbwyntio ar chwarae a gwaith chwarae gydathrafodaethau bwrdd crwn wedi eu hwyluso.www.playworkconferences.org/6thconference

8 a 9 Chwefror 2006,ILAM Play 2006, WolverhamptonCysyllter ag ILAM Services ar 0491 874800

17 a 18 Mai Chwarae Ysbryd Antur 2006, CaerdyddDodwch y dyddiad yn eich dyddiadur newydd. Mae bob amserlawer o alw am leoedd yng nghynadleddau blynyddol ChwaraeCymru a derbynnir archebion yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.Ffoniwch ni ar 029 2048 6050 neu e-bost [email protected] iwneud yn sicr o’ch ffurflen archebu.

“Mae angen i ni ein hatgoffa ein hunain mai i blant amserchwarae yw’r amser pwysicaf o’u diwrnod ysgol”.

Yn dilyn ein rhifyn diweddar ar chwarae mewn ysgolion,derbyniodd Chwarae Cymru y sylwadau hyn gan Dave Underhill,Pennaeth Ysgol Trefonnen yr Eglwys yng Nghymru, sydd wrth eifodd gyda’r gwahaniaeth a wnaeth offer chwarae newydd iymddygiad plant. Ers gosod yr offer chwarae pren (yn dilynymgynghoriad gyda staff a phlant), bu gwelliant amlwg yngnghyflwr corfforol plant sy’n awr yn defnyddio’r offer bob dydd.

“Bu budd gweladwy i blant yng nghyswllt eu nerth, ystwythdera chydlyniad”, meddai.

Mae hefyd yn awgrymu fod eu hymddygiad cymdeithasol alefelau canolbwyntio wedi newid er gwell. Bu rhieni yn gefnogoliawn i’r prosiect, a gostiodd tua £15,000.

“Bu hyn o fudd gwirioneddol i’r ysgol a rhieni yn ogystal ag i’rplant”, meddai Mr Underhill.

Y CAM SYLFAEN YN YR AWYR AGORED –Datblygu chwarae o ansawdd mewn ysgolionBu Chwarae Cymru yn cydweithio gyda Marc Armitage o PlayPeople i ddarparu hyfforddiant i staff ysgol ledled De Cymru.

Bu dyddiau hyfforddiant mis Medi yn llwyddiannus iawn yngNghastell Nedd a Chaerdydd. Cytunodd pawb a gymerodd ranei fod yn gwrs difyr i ysbrydoli a’i fwynhau gyda llawer osyniadau ymarferol y medrir eu defnyddio mewn amrywiaeth oosodiadau. Roedd penaethiaid ysgol, athrawon, cynorthwywyrystafell ddosbarth ac arolygwyr canol-dydd yn edrych ymlaenat eu gweithredu cyn gynted ag yr oeddent yn ôl yn eumeysydd chwarae ac ystafelloedd dosbarth. Roeddent yn frwdi adolygu eu hymarfer a symud ymlaen, a byddent yn argymellyr hyfforddiant hwn i eraill.

Nodyn byr i adael i chi wybod sut mae pethau’n mynd ymayng Nghastell Nedd a Phort Talbot ar ôl eich ymweliad ym misMedi. Wel, fe wnaethoch yn bendant ysbrydoli fy staff a buontyn frwd iawn i roi cynnig ar ddatblygu amgylchedd mwycyfeillgar i chwarae.

Ddydd Llun yr wythnos nesaf rydym yn cael diwrnod cyfan yngweithio gyda rhiant wirfoddolwyr ar wella’r amgylchedd awyragored.

Jayne Loft, Pennaeth Ysgol Babanod Coedffranc

Mae awdurdodau lleol eraill yn manteisio ar y cyfle acwedi trefnu cyrsiau ar gyfer Ionawr 2006. Os byddaigennych chi ddiddordeb mewn archebu’r cwrs hwn argyfer eich ysgol, cysylltwch â’n swyddfa genedlaethol ar029 2048 6050 neu e-bost [email protected]

DATBLYGU CHWARAE MEWN YSGOLION

Cronfa Amgylchedd HansonMae Cronfa Amgylchedd Hanson wedi cyhoeddi canllawiaunewydd ar gyfer ei gynllun grantiau bach, a elwid yn flaenorol yngynllun grantiau cymunedol. Mae cynllun 2005 yn cynnig grantiauo rhwng £250 a £4,000 i gadw neu greu bywyd gwyllt achynefinoedd ar safleoedd gyda mynediad i’r cyhoedd, megiscoetir wedi ei reoli. Mae hefyd yn rhoi arian ar gyfer adnewyddumeysydd chwarae. Manylion gan www.hansonenvfund.org

Cronfa Gymunedol Pentrefi PrydainMae’r gronfa hon yn darparu grantiau o rhwng £50-£500 i amrediado brosiectau cymunedol megis cylch chwarae sydd angen teganauac offer chwaraeon i glybiau. I gael manylion pellach gwelerwww.ukvillages.co.uk/articles.nsf/content/ukvkitty

Ymddiriedolaeth elusennol gyffredinol J Paul Getty JnrMae’r ymddiriedolaeth yn rhoi arian i brosiectau sy’n helpu i liniaru tlodiac yn ffafrio prosiectau cymunedol a lleol bychan sy’n gwneud defnyddda o wirfoddolwyr, a lle mae’r pwyslais ar hunangymorth, adeiladu parcha galluogi pobl i gyrraedd eu potensial. Y categorïau cyllid yw: llescymdeithasol, troseddwyr, cymunedau, digartrefedd, creu swyddi,lleiafrifoedd ethnig (yn cynnwys ffoaduriaid), celfyddydau, cadwraeth a’ramgylchedd. Mae canllawiau ar gael gan www.jpgettytrust.org.uk

CC YY LL LL II DD

C Y F L E S W Y D D • C Y F L E S W Y D D • C Y F L E S W Y D D • C Y F L E S W Y D D

I gael trafodaeth anffurfiol ffoniwch Mike Greenaway, Cyfarwyddydd, ar 029 2048 6050.

I gael manylion pellach a ffurflen gais cysyllter â Chwarae Cymru, Ty Baltic, Sgwâr MountStuart, Caerdydd CH10 5FH neu e-bost [email protected].

Dyddiad cau dydd Gwener 27 Ionawr 2006. Cynhelir cyfweliadau ar 2/3 Chwefror.

SWYDDOG DATBLYGU(GOGLEDD CYMRU)Mae Chwarae Cymru yn elusenannibynnol a ariennir gan GynulliadCenedlaethol Cymru i ddylanwadu arbolisi, cynllunio strategol ac ymarfer pobasiantaeth a sefydliad sydd â diddordebmewn chwarae plant. Rydym yn creduym mhwysigrwydd dybryd chwarae ynnatblygiad pob plentyn ac yn eihyrwyddo.

Bydd un o’n uwch swyddogion yn ymddeol ynHydref 2006, a dymunwn recriwtio SwyddogDatblygu i weithio fel aelod o’n tîmcenedlaethol i gefnogi seilwaith datblyguchwarae yn genedlaethol ac yn neilltuol yngNgogledd a Chanolbarth Cymru.

Dylai ymgeiswyr fod â gwybodaeth gyfoes achynhwysfawr o waith chwarae a bod ynbrofiadol mewn datblygu cyfleoedd chwarae i

blant yn y sector awdurdod lleol a/neu sectorgwirfoddol. Mae sgiliau cyfathrebu arhyngbersonol da, hyblygrwydd a synnwyrdigrifwch yn ofynion hanfodol o’r swydd.

Telir y swydd ar PO3 pwyntiau 34-41, ganddechrau ar £29,004 y flwyddyn, gyda chyfle iymuno â’r cynllun pensiwn llywodraeth leol.Mae Chwarae Cymru yn ymrwymedig i arferiongweithio hyblyg.