6
Cylchlythyr chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd a gweithgaredd corfforol cymunedol yng Nghymru Cnoi Cil Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi cael ei gydnabod fel ‘Arfer Addawol’ yng Nghynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru. Sefydlwyd Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, gan y rhwydweithiau iechyd cyhoeddus i ddarparu dull systematig o ganfod arferion da mewn ymarfer hybu iechyd a chefnogi a rhannu’r arferion da hynny. Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf wedi sefydlu nifer o grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar ôl i’r cymunedau fynegi’r angen am ddewis amgen lleol rhad hyn hytrach na grwpiau colli pwysau masnachol. Dan arweiniad gweithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr, mae’r grwpiau lleol yn rhoi cyfle i’r aelodau ddysgu am faeth, cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd mewn amgylchedd cefnogol. Eu nod yw cefnogi aelodau’r grw ˆ p i wneud newidiadau realistig i’w ffordd o fyw er mwyn rheoli eu pwysau. Nod y gwaith a wneir gan y tîm i gefnogi arweinwyr grwpiau lleol yw datblygu dull cydgysylltiedig o gyflwyno’r prosiect ledled Cwm Taf. Cyflawnwyd hyn drwy ddarparu cymorth, hyfforddiant ac arweiniad i arweinwyr y grwpiau a rhoi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r sgiliau iddynt allu arwain grwpiau rheoli pwysau yn hyderus ac yn effeithiol yn y gymuned. Ar y cyd ag arweinwyr grwpiau, datblygwyd adnodd rheoli pwysau a phecyn cymorth cymunedol lleol yn amlinellu canllawiau arfer gorau ar gyfer grwpiau rheoli pwysau yn ogystal ag ystod o syniadau am weithgareddau ac enghreifftiau o offer monitro a gwerthuso i ategu gwaith y grwpiau. Yn ogystal, cynigiwyd pecyn hyfforddiant i arweinwyr grwpiau gan gynnwys gweithdy rhagarweiniol, hyfforddiant ar newid ymddygiad a gweithdy coginio ymarferol sydd wedi cael ei groesawu gan weithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr. Un o’r grwpiau a gefnogir gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf yw Grw ˆ p Rheoli Pwysau Cymunedol Rhydyfelin, a lansiwyd ym mis Mai 2012 ar ôl i’r aelodau gymryd rhan yn y prosiect ac mae wedi cyfarfod bob wythnos ers hynny. Parhad ar dudalen 2

Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

1

Cylchlythyr chwarterol Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru ar gyfer mentrau bwyd a gweithgaredd corfforol cymunedol yng Nghymru Cnoi Cil

Tachwedd 2012 | Rhifyn 37

Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol

Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi cael ei gydnabod fel ‘Arfer Addawol’ yng Nghynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru.Sefydlwyd Cynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd bellach yn ei ail flwyddyn, gan y rhwydweithiau iechyd cyhoeddus i ddarparu dull systematig o ganfod arferion da mewn ymarfer hybu iechyd a chefnogi a rhannu’r arferion da hynny.

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf wedi sefydlu nifer o grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar ôl i’r cymunedau fynegi’r angen am ddewis amgen lleol rhad hyn hytrach na

grwpiau colli pwysau masnachol. Dan arweiniad gweithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr, mae’r grwpiau lleol yn rhoi cyfle i’r aelodau ddysgu am faeth, cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd mewn amgylchedd cefnogol. Eu nod yw cefnogi aelodau’r grwp i wneud newidiadau realistig i’w ffordd o fyw er mwyn rheoli eu pwysau.

Nod y gwaith a wneir gan y tîm i gefnogi arweinwyr grwpiau lleol yw datblygu dull cydgysylltiedig o gyflwyno’r prosiect ledled Cwm Taf. Cyflawnwyd hyn drwy ddarparu cymorth, hyfforddiant ac arweiniad i arweinwyr y grwpiau a rhoi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r sgiliau iddynt allu arwain grwpiau rheoli pwysau yn hyderus ac yn effeithiol yn y gymuned.

Ar y cyd ag arweinwyr grwpiau, datblygwyd adnodd rheoli pwysau a phecyn cymorth cymunedol lleol yn amlinellu canllawiau arfer gorau ar gyfer grwpiau rheoli pwysau yn ogystal ag ystod o syniadau am weithgareddau ac enghreifftiau o offer monitro a gwerthuso i ategu gwaith y grwpiau. Yn ogystal, cynigiwyd pecyn hyfforddiant i arweinwyr grwpiau gan gynnwys gweithdy rhagarweiniol, hyfforddiant ar newid ymddygiad a gweithdy coginio ymarferol sydd wedi cael ei groesawu gan weithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr.

Un o’r grwpiau a gefnogir gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf yw Grwp Rheoli Pwysau Cymunedol Rhydyfelin, a lansiwyd ym mis Mai 2012 ar ôl i’r aelodau gymryd rhan yn y prosiect ac mae wedi cyfarfod bob wythnos ers hynny.

Parhad ar dudalen 2

Page 2: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

2 3

Y Diweddaraf am Fentrau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Lleol

Cyfle i helpu i nodi ffactorau llwyddiant i atal gordewdra

Sefydlu fforwm bwyd a maeth yng Ngwynedd

Ydych chi’n gweithio ar brosiect atal gordewdra i oedolion yn y gymuned, mewn canolfan hamdden neu yn y gweithle? Ydych chi erioed wedi meddwl pam mae rhai prosiectau’n fwy llwyddiannus nag eraill? Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen yn gweithio ar raglen ymchwil a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd o’r enw Spotlight a hoffent weithio gyda phrosiect yn Ne Cymru i dreialu offer a allai helpu prosiectau’r dyfodol. Gallai cymryd rhan yn y peilot eich helpu chithau hefyd, drwy eich annog chi a’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw i bwyso a mesur eich prosiect eich hun.

Daw’r rhaglen â chonsortiwm amlddisgyblaeth ynghyd o 13 o sefydliadau mewn 8 o wledydd Ewropeaidd i ddiffinio’r ffactorau sydd eu hangen i sefydlu dulliau hybu

iechyd effeithiol a chynaliadwy er mwyn mynd i’r afael â gordewdra. Mae’r prosiect yn edrych ar ymyriadau sy’n gweithredu ar fwy nag un lefel, er enghraifft ar lefel unigolyn a newidiadau yn y gweithle/y gymuned/lleoliadau eraill, ond nid rhai sy’n canolbwyntio’n benodol ar blant.

Nod y gwaith a wneir yn Rhydychen yw datblygu dulliau i nodi pa ffactorau sy’n helpu prosiectau i lwyddo, a’r ffactorau sy’n eu llesteirio. Dros yr ychydig fisoedd nesaf hoffent dreialu’r dulliau mewn safle peilot, ac maent yn edrych am brosiectau gweithredol neu brosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan.

Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected] neu [email protected] neu ewch i’r wefan www.spotlightproject.eu

Mae partneriaid sy’n ymwneud â bwyd a maeth yng Ngwynedd wedi dod ynghyd i sefydlu Fforwm Bwyd a Maeth ar gyfer y sir, gyda’r nod o gynyddu gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth.

“Roeddem yn teimlo bod llawer o waith cyffrous ac arloesol yn digwydd yng Ngwynedd ar fwyd a maeth ac roeddem am ddod â phawb ynghyd i rannu arferion da ac i ymchwilio i sut y gallem weithio’n well gyda’n gilydd ar brosiectau er mwyn gwella cynaliadwyedd,” eglurodd Aled Hughes, Uwch Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau sy’n digwydd yng Ngwynedd:

Prosiect Tref Werdd Blaenau Ffestiniog - sy’n annog trigolion yr ardal i greu danteithion gyda chynhwysion sy’n tyfu’n wyllt yn yr ardal o’u hamgylch, fel marmalêd dant y llew. Mae’r cynllun hwn yn estyniad i’r cynllun ‘Plate from Slate’ sy’n cynorthwyo’r Gymdeithas Rhandiroedd leol i dyfu llysiau iach ar dir diffaith.

Deudraeth Cyf - sefydlwyd y fenter datblygu ac adfywio cymunedol hon i hyrwyddo’r economi leol, yr amgylchedd, y Gymraeg a diwylliant ac i wella safon bywyd cymunedau lleol. Ar hyn o bryd maent yn datblygu prosiect cyffrous: Gardd Gymunedol Deudraeth, i’w sefydlu yng Ngherddi Portmeirion a fydd yn eu galluogi i dyfu llysiau, ffrwythau a blodau.

Mae prosiect newydd cyffrous hefyd ar y gweill yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog i ddefnyddio’r mannau gwyrdd o amgylch y ganolfan i ddatblygu gardd ffrwythau a llysiau gymunedol. Mae’r prosiect yn rhan o’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) sy’n helpu pobl â gwahanol gyflyrau meddygol i wneud ymarfer corff er budd eu hiechyd a’u ffitrwydd.

Ar hyn o bryd mae Groundwork Gogledd Cymru yn gweithio ochr yn ochr â GISDA, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref yng Ngwynedd. Cynhelir sesiynau yn eu hosteli yng Nghaernarfon er mwyn iddynt allu tyfu eu llysiau eu hunain a dechrau cydweithfa fwyd. Prosiect arall a sefydlwyd gan Groundwork yw Gardd Gymunedol Llanberis. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r feddygfa a’r adran deieteg yn Ysbyty Gwynedd i ddatblygu grwpiau gerddi cymunedol ac i gynnal digwyddiadau i gefnogi adferiad a thriniaeth.

Siarter Bwyd Gwynedd - lansiwyd y siarter yn Eisteddfod yr Urdd yn 2012 ac mae bellach yn y cam datblygu nesaf, sy’n cynnwys marchnata a hyrwyddo’r Siarter i fusnesau a sefydliadau lleol. Mae’r Siarter yn enghraifft o sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector a busnesau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo faint o ffrwythau a llysiau ffres a fwyteir yn y sir.

Peiriannau Gwerthu Iach – fel rhan o’i ymrwymiad i ‘Ffordd Iach o Fyw’, mae Cyngor Gwynedd yn newid y bwyd sydd ar gael mewn peiriannau gwerthu yn ei ganolfannau hamdden am nwyddau iach, yn ogystal â newid y bwyd a weinir yng nghaffis y canolfannau hamdden a chynnig dewisiadau iachach.

Yn ddiweddar rhoddodd grwp rhandiroedd Porthmadog, Cae Pawb, ei gynnyrch i Gwynedd Gynaladwy i’w werthu ym Marchnad Cynnyrch Lleol Porthmadog, a chodwyd bron £90 i’r Ambiwlans Awyr. Y llynedd mewn digwyddiad tebyg codwyd £250. Cynhelir y farchnad cynnyrch lleol yng Nghanolfan Harbourside Porthmadog ar ddydd Sul olaf pob mis (ac eithrio ar 15 Rhagfyr) rhwng 9.30am a 2.00pm.

Yn ogystal â’r prosiectau y sonnir amdanynt uchod, mae’r Grant Darpariaeth Ddeietig yn parhau i fod yn llwyddiannus yn y sir, a darperir hyfforddiant mewn amrywiol leoliadau i wahanol grwpiau. Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn annog ysgolion i edrych ar eu darpariaeth drwy gydol y dydd fel dull ysgol gyfan, yn ogystal â chynnwys bwyd a maeth fel rhan o’r cwricwlwm a thrwy weithgareddau allgyrsiol, fel gerddi ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r proseictau hyn cysylltwch â [email protected]

Ers ei lansio, mae pwysau cyfunol aelodau o grwp Rheoli Pwysau Cymunedol Rhydyfelin wedi lleihau ac mae’r aelodau wedi gwneud newidiadau cyson yn eu hymddygiad fel yfed mwy o ddwr, bwyta brecwast, yfed llai o bop a sicrhau gwell cydbwysedd rhwng prydau cartref a phrydau parod.

Disgrifiodd Bill Turner, Swyddog Datblygu Cymunedol Tai Hafod sy’n cynorthwyo’r grwp y tri diwrnod o hyfforddiant cychwynnol: “Roedd yr hyfforddiant yn amhrisiadwy gan ei fod wedi dwyn ynghyd nifer o grwpiau a gwirfoddolwyr newydd, a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o brosiect mwy a galluogi pawb i rannu syniadau ac elwa ar brofiadau ei gilydd. Mae’r pecyn adnoddau’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i sefydlu grwp newydd, i ddatblygu ystod o sesiynau thema ac, yn unigryw, fframwaith i werthuso’r gwaith.

Gan wneud sylw ar wobr y tîm, meddai Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Cyhoeddus: “Mae’r prosiect hwn wedi cael cydnabyddiaeth am ei ragoriaeth o ran sut y cafodd ei gynllunio a’r ffordd y cafodd ei gyflawni.

Mae’n parhau i fod yn ddyddiau cynnar i’r prosiect ac felly

nid yw wedi gallu cwblhau’r ystod lawn o ofynion er mwyn cael y wobr arfer da cenedlaethol gyflawn ond gwnaeth argraff fawr arnom ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn parhau i ddatblygu.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Julie McDonald o Dîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf ar 01443 744900.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yng Nghynllun Arfer Da Iechyd Cyhoeddus Cymru a manylion y prosiectau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno i’r cynllun ar gael ar wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru.

Page 3: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

4 5

Ysgol Maes Hyfryd Mae cydweithfa fwyd wedi cael ei sefydlu yn Ysgol Maes Hyfryd, sef ysgol uwchradd arbenigol sy’n darparu ar gyfer myfyrwyr ag anableddau dysgu ac sydd wedi’i lleoli mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Caiff ei rhedeg gan nifer o wirfoddolwyr yn cynnwys

11 o fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu. Mae’r gydweithfa fwyd yn mynd o nerth i nerth ac mae’r myfyrwyr wedi mwynhau’r rhaglen yn arw ac wedi datblygu llawer o sgiliau drwy gymryd rhan ynddi.

Nod y rhaglen yw cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl brynu a bwyta ffrwythau a llysiau ffres a chefnogi cyflenwyr lleol yng Nghymru.

Rheolir y rhaglen gan yr Uned Adfywio Gwledig a chaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn

cefnogi mwy na 350 o gydweithfeydd bwyd ar hyd a lled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am Raglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol a’r adroddiad gwerthuso ar gael ar y wefan www.ruralregeneration.org.uk/welsh/index.php

Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am agor cydweithfa fwyd neu am sut i ddod o hyd i gydweithfa, cysylltwch â’ch Gweithiwr Datblygu Bwyd lleol:

June Jones (Gogledd Cymru) 01766 890637 / 07717 202215

Natalie Edwards (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07772 109695

Karen Robertson (Gogledd-ddwyrain Cymru) 07879 611670

Hannah James (Canol De Cymru) 029 2023 2943 / 07717 205438

Richard Reast (De-orllewin Cymru) 01443 402317 / 07918 715718

Abigail Morrison (Gorllewin Cymru) 07875 224718

Rebecca May (De-ddwyrain Cymru) 07891 883569

Morfa’n mwynhau, diolch i grant y loteri cod postCafodd Canolfan Deulu Morfa haf yn llawn gweithgareddau chwaraeon a thripiau, diolch i arian gan ymddiriedolaeth Cod Post y Bobl. Roedd Gemau ‘Move it in Morfa’ yn brosiect a luniwyd i annog rhieni a’u plant i gymryd rhan mewn rhaglen tair wythnos o weithgareddau, digwyddiadau chwaraeon a diwrnodau hwyl i’r teulu. Y nod oedd cynnal y rhaglen ochr yn ochr â gemau Olympaidd 2012 ac ategu’r chwaraeon a oedd yn cael eu cynnal er gwaetha’r ffaith eu bod 200 milltir i ffwrdd.

Ochr yn ochr â’r gweithgareddau chwaraeon, prif ethos a ffocws y prosiect oedd hyrwyddo cydlyniant rhwng teuluoedd a’r gymuned; ymarfer corff, gwella iechyd a newidiadau cadarnhaol i ffyrdd iachach o fyw. Dechreuodd y prosiect ar 25 Gorffennaf gydag wythnos

yn llawn, rasys, cystadlaethau naid hir a naid uchel, ac ymarfer saethu cyn mynd i’r afael â gweithdy sgiliau syrcas, hyfforddiant sgiliau pêl-droed, a sesiynau merlota a nofio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Cydweithfa Fwyd Llanilltud Fawr Lansiwyd y gydweithfa hon ar 18 Mai 2012 ac fe’i cynhelir yng Nghapel Bedyddwyr Bethel bob dydd Gwener. Yn ei hwythnos gyntaf roedd gan y gydweithfa fwyd dros 90 o fagiau o gynnyrch ac mae wedi ehangu i werthu bara’n ddiweddar. Caiff y bara ei gyflenwi gan bobydd lleol ac mae’n cynnwys bara gwenith cyflawn, bara rhyg, a bara gwenith yr Almaen. Yn y llun mae rhai o’r gwirfoddolwyr gyda’r cynnyrch.

Cenhadon bwyd ysgol AlunMae cenhadon bwyd yn ysgol Uwchradd Alun, Sir y Fflint, wedi cyflwyno system lle mae nifer o fyfyrwyr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb o addysgu eu cymheiriaid yn ystod amser cofrestru.

Cyflwynwyd y cenhadon bwyd ar ôl i Gyngor Sir y Fflint gyflwyno Grwpiau Gweithredu ar Faeth mewn Ysgolion (SNAG) gyda’r bwriad o gael nifer o fyfyrwyr hyfforddedig i ddarparu addysg i gymheiriaid ar fwyta’n iach a chodi ymwybyddiaeth o’r cynllun gweithredu ‘Blas am Oes’, yn ogystal â mynd i’r afael â materion eraill yn gysylltiedig â bwyd yn yr ysgol.

Cynhaliodd y myfyrwyr drafodaethau gyda staff y ffreutur gan dreialu a hyrwyddo bwydydd newydd ac roedd hyn yn gofyn am lawer o ryngweithio ymysg yr oedolion ifanc a fu o gymorth iddynt feithrin a datblygu sgiliau allweddol fel cyfathrebu, arweinyddiaeth a’u galluogi i gynyddu eu gwybodaeth am faeth.

Gofynnwyd i genhadon Bwyd ysgol Alun gyflwyno eu gwaith i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir y Fflint yn ystod y Digwyddiad Dathlu Ysgolion Iach ym mis Mai 2012. Mynychwyd y digwyddiad gan uwch genhadon bwyd, a gyflwynodd grynodeb o’r gwaith yr oeddent wedi’i wneud ac roedd yn cynnwys gemau bwyd rhyngweithiol gyda’r gynulleidfa. Cyn y digwyddiad, datblygodd y myfyrwyr logo Cenhadon Bwyd gyda’r bwriad o’i gyflwyno ledled Sir y Fflint yn y dyfodol. Y cam nesaf yw cynnal sesiynau addysg boreol i gymheiriaid ym mhob ysgol uwchradd i ategu’r modiwl ABCh.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gobeithio gweithio’n agos gyda mwy o ysgolion i ddatblygu eu cenhadon bwyd yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf. Eu nod yw helpu i gefnogi’r newid i ddarparu prydau ysgol iachach drwy Blas am Oes, a hyrwyddo ac addysgu eu cydweithwyr am bwysigrwydd bwyta’n iach a deiet cytbwys.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag arweinydd Blas am Oes: Ruth_O’[email protected]

Page 4: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

6 7

Gwirfoddolwr yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i’r Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd CymunedolCyflwynwyd Tystysgrif Cyfraniad Eithriadol i fam o ddau, sy’n gwirfoddoli yng Nghanolfan Deulu Caban Bach Barnardos Cymru ym Mlaenau Ffestiniog, am helpu i bacio bagiau o ffrwythau, llysiau a salad sydd wedi cael eu harchebu gan deuluoedd ifanc sy’n defnyddio’r Ganolfan. Cyflwynwyd y dystysgrif i Charlotte Horner yn ddiweddar gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC.

“Fel rhan o’n gwaith yn cefnogi teuluoedd sy’n agored i niwed rydym yn cynnig cyfleuster cydweithfa fwyd lle y gall rhieni archebu bag o ffrwythau, llysiau neu salad am dair punt,” eglura Llinos Rowlands, Rheolwr Caban Bach.

“Un elfen yw’r gydweithfa fwyd o lu o gyfleoedd yr ydym yn eu cynnig i’r gymuned i geisio hyrwyddo ffordd iach o fyw. Mae’n rhan o Raglen Bwyd Cymunedol yr Uned Adfywio Gwledig.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Charlotte wedi gwirfoddoli i ofalu am y ffrwythau a’r llysiau sy’n cyrraedd y ganolfan bob dydd Iau ac mae’n trefnu’r archebion a’u rhoi mewn bagiau unigol sy’n cael eu casglu ar ddydd Gwener. Mae Charlotte yn ymgymryd â’i thasg mewn sied fechan a boed law neu hindda, mae Charlotte yno bob bore Gwener yn trefnu’r archebion.

Unigolion fel Charlotte a’i hymrwymiad i’r gydweithfa fwyd sy’n gwneud y prosiect yn llwyddiant. Mae Barnardo’s yn ddiolchgar iawn i wirfoddolwyr fel hi am eu cymorth a’u cefnogaeth.”

Mae gwirfoddolwyr o Ysgol Friars, Bangor wedi gwirfoddoli gyda’r gydweithfa fwyd dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael Tystysgrif Cyfraniad Eithriadol am eu hymdrechion. Maent yn aberthu eu hawr ginio bob dydd Mercher i helpu gyda’r gydweithfa fwyd ac maent yn haeddu diolch am hynny.

Llongyfarchiadau i wirfoddolwyr o Gydweithfa Fwyd Corny Carrot sy’n gweithredu bob dydd Gwener o Ysgol Gynradd Deri View, y Fenni yn Sir Fynwy, am ennill gwobr gwirfoddoli yn ddiweddar am eu gwaith caled. Cyflwynwyd y wobr iddynt gan GAVO (Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent).

Yn ddiweddar mae Ysgol Borthyn yn Rhuthun, Sir Ddinbych wedi dathlu’r ffaith bod eu cydweithfa fwyd yn dair oed. Caiff y gydweithfa ei chyflenwi gan John Jones a’i Fab o Stryd Clwyd, Rhuthun (busnes teuluol a sefydlwyd yn 1860) ac mae’r ysgol yn cynnig system syml sy’n galluogi’r gymuned i brynu ffrwythau, llysiau, salad a chig ffres o safon am bris rhesymol bob wythnos.

Fel un o’r cydweithfeydd bwyd mwyaf llwyddiannus yn yr ardal, cyflwynwyd Gwobr Gwirfoddolwr Siroedd Conwy a Dinbych i Mrs Ceri Lewis-Jones, y trefnydd, i gydnabod ei holl waith.

Wedi’i henwebu gan yr Uned Adfywio Gwledig, cyflwynwyd tystysgrif i Mrs Ceri Lewis-Jones gan Karen Robertson, Gweithiwr Datblygu Bwyd, ac fe’i derbyniodd ar ran yr holl rieni, disgyblion a staff sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i’r cynllun.

Mae adroddiad Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cyflwyno canllawiau gweithgaredd corfforol ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU, sy’n cwmpasu’r blynyddoedd cynnar, plant a phobl ifanc, oedolion ac oedolion hyn.

Dyma’r tro cyntaf i ganllawiau gweithgaredd corfforol ar gyfer y DU gyfan gael eu cynhyrchu a byddant yn helpu i sicrhau negeseuon cyson yn y pedair gwlad. Yr adroddiad hwn hefyd yw’r tro cyntaf i ganllawiau gael eu cynhyrchu yn y DU ar gyfer y blynyddoedd cynnar (plant dan bump) yn ogystal ag ymddygiad eisteddog, lle y ceir tystiolaeth bellach bod hyn yn ffactor risg annibynnol sy’n gysylltiedig â salwch.

Bydd y canllawiau hyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol, yn helpu i lunwyr polisïau a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal ag unigolion eu hunain, ddeall sut i leihau’r risg o salwch sy’n gysylltiedig ag anweithgaredd ac ymddygiad eisteddog.

www.wales.gov.uk/topics/health/ocmo/publications/annual/start/?lang=cy

Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, mae Anabledd Dysgu Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y sector gwirfoddol yng Nghymru i ddatblygu gwefan. Bydd y wefan yn galluogi pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd i ddod o hyd i wybodaeth hygyrch am iechyd a lles.

Enw’r wefan yw Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru ac mae wedi cael ei phrofi’n drylwyr gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol i sicrhau ei bod mor hygyrch â phosibl i unrhyw un

a chanddo anabledd. Mae canlyniadau iechyd pobl ag anableddau dysgu yn waeth na chanlyniadau’r boblogaeth yn gyffredinol ac mae cael mynediad i wybodaeth mewn fformat y gallant ei ddeall yn gam pwysig tuag at wella’r sefyllfa.

Mae’n bwysig iawn bod pobl ag anableddau dysgu yn cael mynediad i wybodaeth Hawdd ei Deall am fyw’n iach yn cynnwys pwysigrwydd gwneud ymarfer corff a bwyta’n iach, a cheir gwybodaeth am y ddau bwnc hyn ar y wefan.

www.iechydhawddeiddeallcymru.org.uk

Mae cyfreithiau a rheoliadau iechyd a diogelwch weithiau’n cael eu defnyddio fel rheswm dros beidio ag annog plant a phobl ifanc i wneud rhai gweithgareddau chwarae a hamdden. Yn aml mae penderfyniadau o’r fath yn seiliedig ar gamddealltwriaeth o’r gyfraith.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi gweithio gyda’r Fforwm Diogelwch Chwarae i gynhyrchu datganiad lefel uchel ar y cyd sy’n rhoi negeseuon clir er mwyn mynd i’r afael â’r gamddealltwriaeth hon. Mae’r datganaid hwn ar gael ar wefan yr Awdurdod:

www.hse.gov.uk/entertainment/childs-play-statement.htm

Canllawiau gweithgaredd corfforol i’r DU

Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru

Gweithgareddau chwarae a hamdden i blant: hyrwyddo ymagwedd gytbwys

Page 5: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

8 9

Digwyddiadau

8fed Cyfarfod Blynyddol a Symposiwm HEPA EwropCynhaliodd Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru 8fed cyfarfod blynyddol a symposiwn y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Hybu Gweithgaredd Corfforol sy’n Gwella Iechyd (HEPA Ewrop) ar 26 a 27 Medi

2012. Prif thema’r digwyddiad oedd:

“Cyrraedd llawr gwlad: Defnyddio’r amgylchedd ‘gwyrdd’ i hyrwyddo gweithgaredd corfforol”.

Roedd y symposiwm yn cynnwys anerchiad agoriadol gan

Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, a darlith gan Dr William Bird MBE. Roedd cyfarfod blynyddol HEPA Ewrop yn cynnwys sesiynau cyfochrog o’i weithgorau a chyfarfod llawn blynyddol y rhwydwaith. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys derbyniad yng nghwmni’r maer, cinio’r gynhadledd ac ystod o weithgareddau yn cynnwys taith feiciau o amgylch Caerdydd a sesiwn ragflas cerdded Nordig.

Mae rhagor o wybodaeth am y symposiwm ynghyd ag adroddiad gwerthuso a chyflwyniad Dr William Bird ar gael ar y wefan: www.wales.nhs.uk/hepaewrop2012

Cynllun grant syml yw Arian i Bawb Cymru sy’n dyfarnu grantiau rhwng £500 a £5000 o bunnau.Nod y rhaglen Arian i Bawb yw helpu i wella cymunedau lleol a bywydau’r bobl sydd fwyaf mewn angen. Ei nod yw ariannu prosiectau sy’n:

• Cefnogi gweithgaredd cymunedol - drwy helpu cymunedau i ddiwallu eu hanghenion drwy weithredu’n wirfoddol, prosiectau hunangymorth, cyfleusterau neu ddigwyddiadau lleol.

• Ehangu mynediad a chyfranogiad - drwy annog mwy o bobl i gymryd rhan weithredol mewn grwpiau a

phrosiectau lleol, a thrwy gefnogi gweithgareddau sy’n anelu at fod yn agored ac yn hygyrch i bawb sy’n awyddus i gymryd rhan.

• Cynyddu sgiliau a chreadigrwydd - drwy gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i ddatblygu pobl a sefydliadau, gwella sgiliau a chodi safonau.

• Gwella ansawdd bywyd - drwy gefnogi prosiectau lleol sy’n gwella cyfleoedd, iechyd, lles, amgylchedd neu gyfleusterau lleol i bobl, yn arbennig y bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o www.awardsforall.org.uk/cymru/index.html neu gallwch archebu dros y ffôn ar 0845 4 10 20 30.

Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) borth cyllid ar-lein sy’n siop-un-stop i gyngor a chyfleoedd yn ymwneud â chyllid.Gwasanaeth gwybodaeth ar-lein yw’r porth cyllid i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru, a ddatblygwyd

ar y cyd gan WCVA a Llywodraeth Cymru. Mae’r porth cyllid yn rhoi mynediad i gronfa ddata chwiliadwy o gyfleoedd, cyngor a chymorth a chyfeirio at adnoddau defnyddiol yn ymwneud â chyllid.

www.sustainablefundingcymru.org.uk/?diablo.lang=cym

HysbysfwrddArian i bawb

Porth cyllid Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

‘Standard Evaluation Framework for Physical Activity Interventions’

Mae’r Arsyllfa Gordewdra Genedlaethol wedi cyhoeddi’r adnodd newydd hwn sydd wedi’i anelu at ymarferwyr, comisiynwyr a rheolwyr ymyriadau a phrosiectau gweithgaredd corfforol.

Mae’r adnodd yn adeiladu ar y Fframwaith Gwerthuso Safonol ar gyfer ymyriadau rheoli pwysau, a gyhoeddwyd gan

yr Arsyllfa Gordewdra Genedlaethol yn 2009. Mae’n cymhwyso’r egwyddorion a ddisgrifir yn y Fframwaith gwreiddiol i ymyriadau gweithgaredd corfforol.

www.noo.org.uk/core/frameworks/SEF_PA

‘Physical Activity Statistics 2012’

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi cyhoeddi’r atodiad hwn, sef y cyntaf i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ystadegau gweithgaredd corfforol. Mae’n rhoi ystadegau ar y lefelau, y mathau a’r rhesymau dros weithgaredd corfforol yn y DU.

www.bhfactive.org.uk/homepage-resources-and-publications-item/339/index.html

Taflenni Ffeithiau ar Ymddygiad Eisteddog

Mae’r taflenni ffeithiau newydd hyn yn rhoi trosolwg i ymarferwyr o’r dystiolaeth ar ymddygiad eisteddog. Maent yn cynnwys y ffeithiau a’r ffigurau ar y maes ymchwil cymharol newydd hwn mewn adrannau sy’n hawdd eu defnyddio:

• Beth yw ymddygiad eisteddog

• Lefelau presennol o ymddygiad eisteddog

• Ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad eisteddog

www.bhfactive.org.uk/research-and-evaluation-resources-and-publications-item/335/index.html

Dehongli canllawiau gweithgaredd corfforol i oedolion hyn

Mae Canolfan Genedlaethol Sefydliad Prydeinig y Galon wedi cynhyrchu cyfres o dri llyfryn wedi’u cynllunio i gynorthwyo’r rhai sy’n gweithio gyda phobl hyn i ddehongli canllawiau gweithgaredd corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2011. Cynlluniwyd y canllawiau i’w defnyddio gan ymarferwyr

felly nod y llyfrynnau dehongli hyn yw helpu i drosi’r rhain yn negeseuon sy’n briodol i bobl hyn.

www.bhfactive.org.uk/olderadultsguidelines/index.html

Adnoddau

Page 6: Cnoi Cil · Tachwedd 2012 | Rhifyn 37 Cymorth i grwpiau rheoli pwysau cymunedol Mae gwaith Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf i gefnogi grwpiau rheoli pwysau cymunedol hunangymorth wedi

10

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gynhyrchu a dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil ond mae wedi dirprwyo’r gwaith o ddosbarthu’r Cylchlythyr i RMG: Research and Marketing Group. Os nad ydych yn fodlon i’ch manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i Research and Marketing Limited er mwyn dosbarthu’r cylchlythyr Cnoi Cil, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu ffoniwch 029 2022 7744. Tachwedd 2012 © Hawlfraint y Goron

Amdanom ni

Copi papur o gylchlythyr Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru yw Cnoi Cil ac mae wedi ei anelu at fentrau bwyd a gweithgaredd corfforol cymunedol.

Anfonwch eich cyfraniadau ar gyfer rhifynnau o Cnoi Cil yn y dyfodol at Catherine Evans yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ neu anfonwch e-bost at [email protected]. Y dyddiad cau ar gyfer anfon cyfraniadau i’r rhifyn nesaf yw 23ain Ionawr 2013.

Mae’r wefan www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk yn cynnwys ystod eang o wybodaeth am faeth a gweithgaredd corfforol yng Nghymru. Ewch i’r wefan i gofrestru fel aelod o’r Rhwydweithiau.

Mae bwrdd cynghori yn arwain ac yn goruchwylio gwaith Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru. Os hoffech gyfrannu at waith y Rhwydweithiau neu roi adborth ar eu gwaith, ffoniwch 029 2022 7744 neu ewch i’r adran Amdanom Ni ar wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru.

20 Iechyd Cyhoeddus mewn Cyfnod Cythryblus - Lles a Thlodi Bwyd, 14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd www.gweithgareddcorfforolamaethcymru.org.uk/w-events.cfm?orgid=740&id=6505

21 Darlith Ymddiriedolaeth Caroline Walker, Neuadd y Dref, Kensington, Llundainwww.cwt.org.uk/events_2012.html

22 Innovate to Activate - ffyrdd newydd o hybu gweithgaredd corfforol a lleihau ymddygiad eisteddog, Canolfan Gynadledda Dwyrain Canolbarth Lloegr, Nottinghamwww.equity-events.co.uk/bhfnc12

27 Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau, Prifysgol Glyndwrwww.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/49059

30 Cyflwyniad i werthuso mentrau ffordd o fyw iach, Prifysgol Morgannwg www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/49059

5 Asesu’r Effaith ar Iechyd, Hen Golwynwww.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/49059

5-6 Cynhadledd Flynyddol y Fenter Cyfeillgar i Fabanodwww.unicef.org.uk/BabyFriendly/Health-Professionals/Conferences/This-years-conference/

Mawrth Cynhadledd Stadia Iach Ewrop, Manceinionwww.regonline.co.uk/Register/Checkin.aspx?EventID=1077489

Mehefin 18fed Cyngres Flynyddol Coleg Gwyddor Chwaraeon Ewrop, Sbaenwww.ecss-congress.eu/2013/13/

Hydref 9fed Cyfarfod Blynyddol a 4edd Gynhadledd HEPA Ewrop, y Ffindir

www.hepaeurope2013.fi

Tachwedd Rhagfyr

2013