Upload
beatrice-cantu
View
65
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
CREFYDD. CYRFF CREFYDDOL. CYRFF CREFYDDOL. CYRFF CREFYDDOL. Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid. Mae crefydd yn creu unigolion goddefol nad ydynt yn ceisio newid y y byd er gwell, ond a ydynt yn syml yn derbyn dewisiadau ysbrydol. Mae crefydd yn atal - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
CYRFF CREFYDDOL
EGLWYS
Corff crefyddol confensiynol gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn y gymdeithas; cenedlaethol neu/a rhyngwladol; hierarchaidd a biwrocrataidd; clerigwyr wedi'u hyfforddi; defnydd helaeth o ddefod; aelodaeth eang o gymdeithas; rhwydweithiau sefydledig byd-eang; fel arfer fe'u derbynnir gan y sefydliad. E.e.
Anglicaniaeth, Pabyddiaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Sikhiaeth
ENWAD
Corff crefyddol confensiynol, fel arfer; cenedlaethol ac yn aml, rhyngwladol; biwrocrataidd; Clerigwyr wedi'u hyfforddi ond pregethwyr lleyg yn aml; llai o ddefod ond pwyslais ar sêl emosiynol; aelodaeth eang yn aml o fewn cymdeithasau; rhwydweithiau sefydledig; fe'u derbynnir yn gyffredinol, ond yn aml nid ydynt yn rhan o'r sefydliad ffurfiol. E.e. Bedyddwyr, Methodistiaid, Pentecostiaid .
CYRFF CREFYDDOL
SECT
Corff crefyddol confensiynol gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn y gymdeithas; cenedlaethol neu/a rhyngwladol; hierarchaidd a biwrocrataidd; clerigwyr wedi'u hyfforddi; defnydd helaeth o ddefod; aelodaeth eang o gymdeithas; rhwydweithiau sefydledig byd-eang; fel arfer fe'u derbynnir gan y sefydliad. E.e. Anglicaniaeth, Pabyddiaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Sikhiaeth
CWLT
Yn gyffredinol ni dderbynnir y rhain fel cyrff crefyddol confensiynol; lleol, cenedlaethol neu ryngwladol; gwirfoddol, strwythur llac; unigolyddol, arweinydd ysbrydoledig yn aml; defod yn aml yn cael ei benthyg o wahanol ffynonellau; aelodaeth gynhwysol; rhwydweithiau llac/anffurfiol; yn derbyn neu'n feirniadol o gymdeithas. E.e. Seientoleg, Myfyrdod Trosgynnol, Ysbrydegaeth.
CYRFF CREFYDDOLMudiadau Crefyddol Newydd (MCN)
Gall gynnwys cwlt a sect; mae llawer o gyrff wedi'u seilio dramor; gall fod ganddynt aelodaeth fawr, ymroddiad trwy ymarfer a chred yn hytrach nag aelodaeth ffurfiol; heb strwythur trefniadol ffurfiol (clerigwyr, man cyfarfod ayb,); meddylfryd dewis a chymysgu - cymysgu cred brif ffrwd gydag eraill; yn aml yn apelio at y rhai sydd wedi'u siomi gan y byd; yn aml yn cael eu cyhuddo o gyflyru; gwrthod y byd e.e. Moonies; derbyn y byd e.e. Seientoleg
Mudiadau Oes Newydd (MON)
Yn aml gyltiau sydd wedi'u seilio ar iachau ysbrydol, paganiaeth ayyb; ymroddiad trwy ymarfer a chred yn hytrach nag aelodaeth ffurfiol; heb strwythur trefniadol ffurfiol (clerigwyr, man cyfarfod ayyb,); croesrywiau o wahanol systemau cred; cyltiau cleientiaid - cynnig gwasanaethau i'w dilynwyr e.e. darlleniadau tarot, adweitheg, I Ching; cwlt cynulleidfaol - cysylltu drwy'r cyfryngau torfol, y rhyngrwyd a chynadleddau. E.e. Sêr-ddewiniaeth a chred mewn Gwrthrychau Hedegog Anhysbys.FFWNDAMENTALIAETH
Wedi troi i mewn at graidd crefydd - yr ysgrythur, athrawiaethau a thraddodiadau - yn ceisio amddiffyn y rhain rhag ymyrraeth y byd modern, seciwlar. Ym marn y ffwndamentalydd, rhaid i'r byd seciwlar addasu i, a dod dan reolaeth y byd crefyddol. Yn nodweddiadol, mae meddylfryd y ffwndamentalydd yn gweld pethau mewn du a gwyn, yn nhermau terfynau clir sy'n pennu'r hyn sydd yn gred dderbyniol ai peidio, a phwy sydd yn y gymuned ai peidio.
Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid
Crefydd
Mae crefydd yn atal newid mewn cymdeithas.
Mae'n cynnal ac ynatgyfnerthu
gwerthoedd ceidwadol athraddodiadol.
Yn aml gall crefydd fod mewn perthynas
agos â'r Wladwriaeth – gan atgyfnerthu ideoleg
wleidyddol a chymdeithasol.
Mae crefydd yn cyfyngu ar newid cymdeithasol ac yn
cyfiawnhau anghydraddoldeb cymdeithasol.
Mae'nbatriarchaidd ac mae'n
caniatáu i lawerddioddef ymaar y Ddaear.
Mae crefydd yn creu unigolion goddefol nad ydynt yn
ceisio newid y y byd er gwell,
ond a ydynt yn syml yn derbyndewisiadau ysbrydol.
Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid
Crefydd
Mae mudiadau crefyddol radical yn
ymladd dros newid mewn cymdeithas.
Mae gan y Dde Grefyddolyn America
ddylanwad mawr ar wleidyddion ac
arweinwyr mewn cymdeithas.
Mae grwpiau crefyddolgydag ymdeimlad cryf
o awdurdod a threfniadaeth dda yn fwy tebygol o
gynhyrfu
newid cymdeithasol.
Mae grwpiau crefyddol sy'nrecriwtio eu haelodau
o blith pobl lai breintiedigyn fwy tebygol o
ddymuno peri newid cymdeithasol.
E.e. offeiriaid Pabyddolyn America Ladina grwpiau radical
Islamaidd.
Mae rhai cyrff crefyddol yn pwysleisio gwneud daioni ar y Ddaear. Mae'r cyrff hyn yn fwy tebygol o gynhyrfu newid. Mae Diwinyddiaeth Rhyddhad yn pwysleisio iachawdwriaeth oddi wrth
ormes - yn arbennig yn America Ladin.
Crefydd a Dosbarth Cymdeithasol
• Mae crefyddau prif ffrwd yn gynhwysol felly maent yn recriwtio o gyfres eang o ddosbarthiadau.
• Mae crefyddau sefydledig megis Eglwys Lloegr yn tueddu i fod yn ddosbarth canol, a'i harweinwyr yn tueddu i ddod o gefndiroedd breintiedig.
• Mae llawer o enwadau yn tueddu i fod â mwy o aelodau dosbarth gweithio.
• Yn aml, mae cyltiau yn recriwtio ymhlith grwpiau difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, er y gallant ddenu croestoriad o gymdeithas.
• Mae MON (Mudiadau Oes Newydd) a MCN (Mudiadau Crefyddol Newydd) yn tueddu i apelio at y dosbarth canol, yn enwedig pobl ifanc broffesiynol.
Crefydd a Grwpiau Oedran• Mae'r hen a'r ifanc yn tueddu i fod yn fwy
crefyddol, er bod llawer o grefyddau sefydledig yn cael cefnogaeth gan grŵp oedran eang.
• Mae'r rhai mewn oed yn aml yn “troi at grefydd” am gysur neu fel profiad cymdeithasol.
• Mae grwpiau canol oed yn fwy tebygol o gael eu denu gan y MON, a’r MCN sy'n fyd-gadarnhaol
• Yn aml mae pobl ifanc yn gwrthryfela yn erbyn crefydd eu rhieni neu'n dewis ymeithrio. Mae llawer yn cael eu denu gan gyltiau a sectau - yn aml o ganlyniad i newid yn eu dull o fyw neu i ddylanwad y Cyfryngau Torfol neu grwpiau cyfoedion.
Crefydd a Rhyw• Er mai dynion sy'n rheoli Eglwys Lloegr,
mae menywod yn fwy tebygol o fynd i'r eglwys na dynion.
• Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn MCN a MON.
• Yn aml, mae menywod yn cael eu denu gan MON am eu bod yn pwysleisio nodweddion “benywaidd” megis gofalu ac iacháu.
• Mae menywod hŷn yn troi at grefydd i gael ymdeimlad o gymuned.
• Yn y rhan fwyaf o grefyddau, mae menywod yn chwarae rhan eilradd i ddynion, ac yn aml yn cael eu gwthio i un ochr neu eu hymyleiddio, a gwelir hyn gan lawer fel math o reolaeth gymdeithasol.
Crefydd ac Ethnigrwydd• Mae llawer o grwpiau ethnig yn fwy
crefyddol ac yn fwy parod i gymryd rhan mewn crefydd, gan eu bod yn fwy arwyddocaol yn eu diwylliant nhw.
• Mae pobl o dras Affro-Caribïaidd wedi gwneud cyfraniad enfawr i dwf Pentecostiaeth ac Efengyliaeth.
• Gwelwyd cynnydd graddol yn y nifer o bobl yn y DU sy'n mynychu mannau addoli nad ydynt yn Gristnogol.
• Mae llawer o bobl nad ydynt yn Gristnogion yn y DU yn gweld eu crefydd fel ffordd o fyw yn hytrach na gweithred o ffydd yn unig.
• Gall crefydd gynnal adnabyddiaeth ddiwylliannol a math o gymuned ymhlith grwpiau ethnig.
Twf Crefyddau Gwahanol MCN a MON
• Mae'r gymdeithas Ôl-Fodern wedi arwain at fwy o ddewis ac amrywiaeth, gan roi mwy o bwyslais ar unigoliaeth. Mae mwy o ymddiriedolaeth yng nghredau unigolion nag mewn crefyddau sefydledig.
• Mae sylfaenwyr crefyddau newydd yn datblygu syniadau/cynnyrch newydd i droi pobl atynt.
• Mae llawer o bobl yn gwrthod esboniadau crefyddol traddodiadol o ysbrydolrwydd ac nid ydynt yn derbyn/ymddiried yn theorïau gwyddonol am y byd naturiol.
• Mae llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi'u hymyleiddio gan gymdeithas ac yn chwilio am fudiadau newydd i wneud synnwyr o'u bywydau/o'r byd.
• Mae newid cymdeithasol megis gwahaniaethau diwylliannol, ymddatodiad cymdeithas, seciwlareiddio, argyfwng adnabyddiaeth, terfysgaeth, ansicrwydd cyffredinol, yn gwneud mudiadau newydd yn fwy atyniadol.
• Mae pobl sydd wedi tyfu’n anfodlon gyda'r crefyddau sefydledig prif ffrwd, yn chwilio am systemau cred wahanol.
Twf Ffwndamentaliaeth Gristnogol
• Mae pobl wedi gwrthryfela yn erbyn globaleiddio, ôl-foderniaeth a seciwlareiddio, ac wedi derbyn y sicrwydd y mae ffwndamentaliaeth yn ei chynnig.
• O ganlyniad i ymlacio cyfreithiau ysgariad, erthyliad cyfreithiol, hawliau pobl hoyw, y cynnydd mewn pornograffi, addysg seciwlar, mae grwpiau pwerus wedi datblygu megis Y Dde Grefyddol Newydd yn yr Unol Daleithiau. Maent yn credu bod diwygiadau rhyddfrydol wedi achosi cyflwr o banig moesol ac maent yn dymuno dychwelyd i ddehongliad llythrennol y Beibl.
• Gall arweinwyr cryf, carismataidd sy'n hybu eu barnau trwy gyfathrebu torfol rhoi ymddiriedolaeth ac ystyr mewn cyfnod o ansicrwydd.
• E.e. o Ffwndamentaliaeth Gristnogol bomio clinigau erthylu; herio addysgu esblygiad yn y llysoedd.
Twf Ffwndamentaliaeth Islamaidd
• Mae globaleiddio, ôl-foderniaeth a llywodraethau sy'n moderneiddio wedi arwain at dwf Ffwndamentaliaeth Islamaidd, sy'n ceisio dychwelyd i gredau Mwslimiaid.
• Gwelir gwerthoedd y Gorllewin fel rhai llygredig, sy'n creu ansicrwydd, anghydraddoldeb dosbarth ac erydiad credau traddodiadol.
• Mae arweinwyr carismataidd, cryf sy'n hybu eu barnau trwy gyfathrebu torfol yn addo iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol i ddilynwyr sy'n ufuddhau i'w gorchmynion – e.e. bomwyr hunanleiddiol.
• E.e. o Ffwndamentaliaeth Islamaidd - y Chwyldro yn Iran 1979 al Qaeda – Osama bin Laden; bomio'r Pentagon a Chanolfan Masnach y Byd 2001; Gorffennaf 7fed Llundain 2005.
Crefydd – Marx
• Roedd Marx yn gweld crefydd fel rhywbeth sy'n cyfyngu ar newid – math o reolaeth gymdeithasol sy'n cadw'r dosbarthiadau gweithio mewn cyflwr o ymwybyddiaeth gau.
• “Crefydd yw arwydd o greadur dan ormes, yr ymdeimlad o fyd heb galon ...... Crefydd yw opiwm y bobl.” Mae crefydd fel cyffur nad yw'n datrys problemau ond sydd yn lleddfu'r boen yn unig.
• Mae crefydd yn arf ecsbloetio dosbarth – mae'n darparu'r sail i ideoleg dosbarth rheoli ac yn cyfiawnhau'r drefn gymdeithasol. Yn yr emyn ‘All things bright and beautiful ‘ceir y pennill, ‘The rich man in his castle, the poor man at his gate, God made them high and lowly, and ordered their estate.’
• Mae crefydd yn rym ceidwadol sy'n atal newid cymdeithasol. Addewir gwobrwyon yn y nefoedd i'r torfeydd, fel y byddant yn ymaros â dioddefaint ar y Ddaear.
• Mae crefydd, felly, yn golygu gwyrdroi realiti. Mae'n ideolegol, gan ei fod yn cyfiawnhau trefn gymdeithasol anghyfiawn ac yn peri iddi ymddangos yn anochel ac yn ddigyfnewid.
Crefydd – Weber, Berger a Theori Rhyngweithedd
• Ym marn Weber, wrth i gymdeithasau symud ymlaen yn dechnolegol ac yn wyddonol, byddai unigolion yn peidio â dibynnu ar ystyron crefyddol. Byddent yn defnyddio esboniadau rhesymegol i ddeall eu byd, fel y byddai hwn yn dod yn llai swynol a chysegredig.
• Mae Weber yn awgrymu bod crefydd yn delio gyda phroblem theodiciaeth (cyfiawnder duw) – sut i wneud synnwyr o dduw goleuedig mewn byd sy'n llawn drygioni a dioddefaint. E.e. Y Gred Galfinaidd mewn rhagordeiniad; Cred yr Hindŵiaid fod pob person, pa mor anffodus bynnag y bo, yn haeddu bod yn y safle lle maent yn eu cael eu hun.
• Mae Berger yn awgrymu mai un o agweddau pwysicaf crefydd yw ei gallu i esbonio ffenomenau megis drygioni, dioddefaint a marwolaeth.
• Mae Berger yn sôn am theodiciaeth difreintiedig - gellir gweld yr addewid o iachawdwriaeth fel iawndal am dlodi. Mae'r fath syniadau yn hybu'r safbwynt nad oes unrhyw bwynt mewn ceisio newid ‘yr yma’ a’r ‘nawr’.
Crefydd - Ffwythiannaeth
• Mae Ffwythianwyr hefyd yn gweld crefydd fel rhywbeth sy'n rhwystro newid. Ond yn eu barn nhw, mae hyn yn beth da – rhywbeth sy'n creu trefn gymdeithasol sy'n seiliedig ar werthoedd a rennir.
• Durkheim – Mae'r hyn sy'n gysegredig (sanctaidd neu ysbrydol) yn cynrychioli gwerthoedd cymdeithas neu'r gymuned. Trwy addoli'r cysegredig yn effeithiol mae pobl yn addoli eu cymdeithas.
• Mae crefydd yn cynnal cydlyniad cymdeithasol trwy ddarparu arferion a chredau sy'n uno – ymwybyddiaeth gyffredinol.
• Mae crefydd yn cryfhau gwerthoedd ac yn hybu ymdeimlad o berthyn ac ymroddiad. Mae newid cymdeithasol ac ymddygiad gwyrdroëdig yn cael eu cyfyngu, gan fod crefydd yn rhwymo pobl i gymdeithas.
Crefydd - Ffwythiannaeth
• Parsons – Mae crefydd yn gosod canllawiau ar gyfer unigolion a chymdeithasau yn nhermau gwerthoedd craidd.
• Mae crefydd yn helpu i integreiddio pobl mewn cymuned neu gymdeithas ac yn eu helpu i wneud synnwyr o'u bywydau.
• Malinowski - Mae crefydd yn helpu i ddelio gyda straen emosiynol a gofid digwyddiadau megis marwolaeth. Mae seremonïau crefyddol mewn angladdau yn creu undod grŵp ac maent yn helpu i reoli tensiwn.
• Bellah - mae Crefydd Sifil (symbolau, defodau a seremonïau seciwlar) yn creu cydlyniad cymdeithasol. Felly mae chwifio baneri, priodasau a marwolaethau teulu brenhinol yn achosi ymdeimlad cyfunol sy'n cynhyrchu trefn.
• Mae Ffwythianwyr yn gweld crefydd fel grym i gymdeithasoli ac integreiddio pobl mewn cymdeithas, i gynnal normau a gwerthoedd cymdeithasau – gan atal anomi, a galluogi pobl i dderbyn digwyddiadau sy'n newid bywyd.
Crefydd - Ffeministiaeth• Mae menywod yn gweld Duw fel duw cariad, cysur a maddeuant – mae
dynion yn gweld Duw fel duw pŵer a rheolaeth. (Davie, 1994)• Yn aml, mae menywod yn cael eu cau allan o bŵer mewn llawer o
grefyddau – mae'r Eglwys Babyddol yn caniatáu offeiriaid sy'n wrywod yn unig, yr Iddewon Uniongred Rabbis sy'n wrywod yn unig ac Islam Imamiaid sy'n wrywod yn unig.
• Mae ffeministiaid yn credu bod crefydd yn batriarchaidd ac yn cyfiawnhau tra-arglwyddiaeth gan ddynion. Mae'r ysgrythurau a thestunau crefyddol yn dweud yn aml fod menywod yn amherffaith, yn demtwragedd neu'n tynnu sylw dynion. E.e. Crëwyd Efa allan o Adda - Efa a'r afal.
• Er bod llawer o fenywod yn cael eu dwysbarchu mewn Cristnogaeth, mae hyn yn digwydd fel arfer trwy weithredoedd o ddiweirdeb, elusen neu fel rhai sy'n esgor ar blant. Gwelir y forwyn Fair fel person dwyfol am ei bod yn fam i'r Iesu.
• Mae ordeinio menywod yn offeiriaid yn Eglwys Lloegr wedi achosi llawer o raniadau. Mae llawer yn gweld hyn fel prawf pellach o ddarostyngiad menywod mewn crefydd.
Seciwlareiddio • “Proses lle mae crefydd yn colli ei dylanwad dros wahanol gylchoedd o
fywyd cymdeithasol”. (Wilson, 1996)• Mae mynychu ac aelodaeth yr Eglwys wedi gostwng (cael gwared a gair
yma) dros 1 miliwn yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, Yn 2000, 7.5% o'r boblogaeth yn unig oedd yn mynd i'r eglwys, a 10% o'r boblogaeth oedd yn aelodau o eglwys. (Religious Trends, 2000)
• Mae bedydd wedi gostwng o bron 40% ers 1900. (Religious Trends, 2000)• Mae oedran cyfartalog eglwyswyr yn cynyddu yn gyflym a 4% yn unig o'r
boblogaeth sy'n mynd i Ysgol Sul. (Religious Trends, 2000)• Bellach 50% o briodasau sy'n cael eu dathlu yn yr Eglwys o gymharu â 75%
30 o flynyddoedd yn ôl.• Yn 1900, roedd dros 45,000 o glerigwyr ym Mhrydain. Mae hyn wedi
gostwng i ychydig dros 34,000 yn 2000 - er bod y boblogaeth wedi dyblu.• Mae'r DU wedi mynd yn fwy aml-ddiwylliannol ac mae eglwysi sefydledig yn
colli eu dylanwad wrth integreiddio pobl i werthoedd a rennir.• Mae gwyddoniaeth ac esboniadau rhesymegol yn tanseilio crefydd.
Seciwlareiddio - gor-gyffredinoli?
• Mae'n anodd mesur seciwlareiddio – mae grwpiau gwahanol yn mesur aelodaeth mewn gwahanol ffyrdd.
• Profiad preifat yw crefydd i lawer ac felly ni ellir ei fesur mewn modd dibynadwy. Mae Davie (1995) wedi disgrifio'r sefyllfa ym Mhrydain fel “credu heb berthyn”.
• Yn ôl yr arolygon, mae lefelau uchel o grefyddoldeb a chredau crefyddol yn dal i fodoli. Ym 1998, cytunodd 21% o'r rhai a holwyd â'r datganiad “Rwy'n gwybod bod Duw yn bodoli ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch hyn”. 10% yn unig ddywedodd nad oeddynt yn credu yn Nuw o gwbl. (Arolwg British Social Attitudes, 1998)
• Mae rhaglenni crefyddol megis Songs of Praise ar y BBC yn denu rhwng 7 ac 8 miliwn o wylwyr.
• Tra bod crefyddau sefydledig yn dirywio ym Mhrydain, mae'r twf yn y boblogaeth o fewnfudwyr wedi arwain i gynnydd mewn crefyddoldeb. Islam yw'r grefydd sy'n tyfu cyflymaf ym Mhrydain ac mae aelodaeth o’r eglwys nad yw'n Drindodaidd yn cynyddu.
• Mae'r nifer sy'n cymryd rhan mewn crefydd yn amrywio hefyd yn ôl grwpiau cymdeithasol, gyda grwpiau lleiafrif ethnig yn parhau i fod yn ymrwymedig i grefydd.