Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Crynodeb Adroddiad Blynyddol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 2010/11 Gwybodaeth yw arian cyfred democratiaeth
Ein cenhadaeth
Cenhadaeth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw cynnal hawliau gwybodaeth er lles y cyhoedd, gan annog cyrff cyhoeddus i fod yn agored a diogelu preifatrwydd data unigolion.
Ein gweledigaeth
I gael ein cydnabod gan ein rhanddeiliaid fel y canolwr awdurdodol ar hawliau gwybodaeth, gan gyflawni deilliannau o ansawdd uchel, perthnasol ac amserol, a bod yn ymatebol ac allanol yn ein hymagwedd, gyda staff ymroddedig a galluog – model o reoleiddio da, a lle gwych i weithio a datblygu.
4 Eich hawliau gwybodaeth
Eich hawliau gwybodaethMae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl cyffredinol i bobl gael mynediad at wybodaeth sydd gan y rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus. Wedi ei anelu at hyrwyddo diwydiant o fod yn agored ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus, mae’n galluogi gwell dealltwriaeth o sut mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau, pam eu bod yn gwneud penderfyniadau a sut maent yn gwario arian cyhoeddus.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn darparu modd ychwanegol o gael mynediad at wybodaeth amgylcheddol. Mae’r Rheoliadau yn cwmpasu mwy o sefydliadau na’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn cynnwys rhai cyrff yn y sector preifat, ac mae ganddynt lai o eithriadau.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi hawliau pwysig i ddinasyddion, yn cynnwys yr hawl i wybod pa wybodaeth a gedwir amdanynt a’r hawl i gywiro gwybodaeth sy’n anghywir. Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn helpu diogelu buddiannau unigolion trwy orfodi sefydliadau i reoli’r wybodaeth bersonol sydd yn eu meddiant mewn modd priodol.
Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 yn cefnogi’r Ddeddf Diogelu Data trwy reoleiddio’r defnydd o gyfathrebu electronig i ddibenion marchnata digymell i unigolion a sefydliadau.
Mae’r Rheoliadau Seilwaith ar gyfer Gwybodaeth Ofodol yn y Gymuned Ewropeaidd 2009 yn rhoi pwerau gorfodi i’r Comisiynydd Gwybodaeth, parthed y ddarpariaeth ragweithiol gan awdurdodau cyhoeddus, o wybodaeth ddaearyddol neu seiliedig ar leoliad.
Cynnwys 5
Cynnwys
3 Cenhadaeth a gweledigaeth4 Eich hawliau gwybodaeth6 Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth12 Cipolwg ar ein blwyddyn16 Ymwybyddiaeth o hawliau gwybodaeth 18 Bodloni anghenion cwsmeriaid42 Datganiad Ariannol Cryno
Gwybodaeth yw arian cyfred democratiaethPriodolwyd i Benjamin Franklin. Dyfyniad o gynllun dylunio Writing on the Wall yn yr ICO yn Wilmslow.
6 Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth
Hawliau gwybodaeth mewn byd newidiolMae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cerdded ar raff dyn, yn cydbwyso hawliau gwybodaeth – yr hawl i wybod a’r hawl i breifatrwydd. Ble mae tryloywder ac atebolrwydd yn gorffen a phreifatrwydd a diogelu data yn cychwyn? Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorfodi’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data, felly mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn ganolog i’r trafodaethau cyfredol iawn hyn. Ein gwaith ni yw gwneud y penderfyniadau anodd. Sut i gysoni preifatrwydd, diogelwch ac effeithlonrwydd – er lles y cyhoedd?
Mae datblygiadau mewn technoleg, busnes a llywodraeth yn galw i’r ICO farnu ar y materion hyn yn wythnosol. Rhaglenni newydd, gwasanaethau newydd, a llywodraeth newydd yn awyddus i sicrhau arbedion trwy fwy o dryloywder, atebolrwydd a rhannu data. Sut allwn ni sicrhau manteision cyfleoedd digidol newydd wrth reoli’r risgiau?
Mae hyn yn amser heriol i’r ICO, gydag angen i ddarparu atebion ac yn ganolbwynt y sylw. Ond, wedi blwyddyn o aildrefnu ac adnewyddu, rwy’n hyderus ein bod yn barod i gyflawni’r dasg.
Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth
Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth 7
Cadarn a pharodRydym wedi cyfnerthu ein gweithrediadau yn ein prif swyddfa yn Wilmslow, mewn llety modern, agored, gan ddod â staff ein prif swyddfa ynghyd ar un safle. Rydym wedi mabwysiadu ymagwedd cynyddol integredig i ddilledyn diwnïad hawliau gwybodaeth. Rydym wedi cyflwyno strwythurau a phrosesau newydd. O ganlyniad i’r aildrefnu ac ail-ffurfweddu hwn, rydym nawr yn delio’n llawer cyflymach â chwynion rhyddid gwybodaeth. Erbyn hyn dim ond tri chwyn sydd gennym a fu yn nwylo’r ICO ers dros flwyddyn (oll yn faterion cymhleth dan ymchwiliad) o gymharu â 117 yr adeg hon y llynedd. Gallwn gyflawni ein penderfyniadau yn llawer cyflymach, gan ein galluogi i ddyfarnu ar faterion cyfredol, perthnasol. Mae ein proses gymeradwyo symlach wedi’n galluogi i gwblhau mwy o hysbysiadau penderfyniad nag erioed o’r blaen, heb unrhyw leihad mewn ansawdd a dim cynnydd yn y gyfradd o apeliadau.
Cyflawnodd ein staff y gwelliant trawiadol hwn er gwaethaf cynnydd o 17% yn nifer yr achosion rhyddid gwybodaeth a gyfeiriwyd atom, a lleihad mewn adnoddau.
Gyda’r grym i osod cosbau ariannol sifil ar gyfer y tramgwyddau diogelu data mwyaf difrifol ac yn dilyn strategaeth orfodi gliriach, yn cynnwys monitro mwy systematig o gydymffurfiad â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’r ICO wedi dangos ei hun i fod yn rheolydd cadarn. Fe gyhoeddom ein pedwar hysbysiad cosb ariannol cyntaf am doriadau difrifol o’r Ddeddf Diogelu Data, a chyflwyno pum erlyniad. Mae’n safbwynt mwy cadarn ar gydymffurfiad rhyddid gwybodaeth yn talu ar ei ganfed, gydag ymhell dros hanner yr awdurdodau a osodwyd ar fonitro arbennig yn gwella eu perfformiad yn sylweddol.
8 Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth
Fodd bynnag, rydym yn awyddus i gael ein hystyried i fod yn ymarferol a chynorthwyol yn ogystal â bod yn gyfrifol am orfodi. Mae ein cod ymarfer ar wybodaeth bersonol ar-lein yn cynnig canllaw i fusnesau a defnyddwyr ynglŷn â hawliau gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein. Mae’r cod ymarfer ar rannu data yn dangos sut y gall sefydliadau gydweithredu i rannu data mewn amgylchiadau priodol, ar yr amod eu bod wedi ystyried y goblygiadau preifatrwydd ac wedi sefydlu mesurau diogelwch priodol.
Mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd yma hefyd. Golyga’n hymagwedd rheoleiddio well ein bod yn defnyddio’r ystod lawn o’n grymoedd, abwyd a bachyn, i sicrhau canlyniad, yn hytrach na chwilio am gyhoeddusrwydd ac ymateb gorawyddus i bob pennawd.
Rydym yn ymgynghori ar Strategaeth Hawliau Gwybodaeth diwygiedig ar hyn o bryd, yn dangos sut ydym yn blaenoriaethu’r gwahanol sectorau a phynciau ar gyfer sylw rheoleiddiol.
Ymateb i’r agenda newyddMae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos cyfleoedd i ni yn ogystal â heriau.
Canfu pwyslais llywodraeth y glymblaid ar dryloywder ac atebolrwydd fod yr ICO yn barod ac abl i gyflawni, gan wneud defnydd o’r mecanwaith cynlluniau cyhoeddi dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi hen ganfod ei le. Hefyd, mae’n hymagwedd i’r Fenter Data Agored wedi bod yn bositif, wrth rybuddio am yr angen i ystyried y dimensiwn preifatrwydd o’r cychwyn. Rydym yn gweithio i sicrhau rheoleiddio cydlynol o gamerâu cylch cyfyng, DNA a chofnodion troseddol, gan gydweithio ag eraill sy’n gweithio yn y meysydd hyn.
Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth 9
Rydym hefyd yn ceisio chwarae rôl bositif a realistig yng nghyflwyniad rheolau newydd yr UE ar gwcis, ble mae gan ddefnyddwyr y we bellach hawl i beidio cael gosod dyfais tracio ar eu cyfrifiadur gan weithredwr gwefan neu rwydwaith hysbysebu heb eu caniatâd. Mae ein canllaw yn ceisio helpu busnesau ar-lein i gydymffurfio â’r gyfraith mewn modd sy’n cael yr effaith lleiaf niweidiol ar brofiad y defnyddiwr. Byddwn yn cadw ein grymoedd gorfodi wrth gefn, gan ymyrryd yn y flwyddyn gyntaf dim ond os yw’n glir nad yw perchennog y wefan yn gwneud llawer o ymgais i gydymffurfio.
Pam bod annibyniaeth yn bwysigEr mwyn i’r ICO allu gwneud ei waith yn effeithiol, mae’n allweddol bod annibyniaeth y Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei sicrhau, yn ymarferol ac mewn theori. Mae’r gofyniad i awdurdodau diogelu data ’weithredu gydag annibyniaeth lwyr’ hefyd yn ofyniad yng Nghyfarwyddeb Diogelu Data’r UE 95/46/EC, fel y cadarnhawyd mewn achos diweddar yn Llys Cyfiawnder Ewrop.
Dynodwyd cydnabyddiaeth y llywodraeth o bwysigrwydd annibyniaeth fy swyddfa gan y Gweinidog Cyfiawnder yr Arglwydd McNally.
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo tryloywder a diogelu hawliau unigolion parthed eu data personol. Mae’r llywodraeth yn gwbl ymroddedig i gomisiynydd annibynnol a’r rôl allweddol mae’n chwarae fel hyrwyddwr ac amddiffynnydd hawliau gwybodaeth. Tŷ’r Arglwyddi, 16 Chwefror 2011
Rwy’n croesawu’r mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau, sydd wedi ei gynllunio i gryfhau annibyniaeth yr ICO. Ond mae gwaith i’w wneud o hyd i gwblhau’r fframwaith.
10 Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth
Mae annibyniaeth o ddydd i ddydd hefyd yn ddibynnol ar fod gan yr ICO adnoddau digonol i wneud ei waith. Fel pob corff cyhoeddus, rhaid i ni ysgwyddo’n cyfran o faich y toriadau gwariant. Rydym yn parhau i ymdrechu i ganfod effeithlonrwydd ac i gyflawni ’gwell am lai’. Ond gyda galw cynyddol am ein gwasanaethau, mae’n anodd dod o hyd i arbedion. Ble gofynnir i ni dderbyn cyfrifoldebau newydd, byddwn angen adnoddau ychwanegol i gyflawni’r gwaith.
Yn y tymor hirach, gall fod yn amser ystyried dilyn rhesymeg ein gwaith hawliau gwybodaeth cynyddol integredig ac i gwestiynu’r trefniant presennol o gyllid ar wahân ar gyfer gweithgareddau diogelu data a rhyddid gwybodaeth. Mae’n gwneud llai a llai o synnwyr i ariannu rhyddid gwybodaeth trwy gymorth grant a diogelu data trwy ffioedd hysbysu, heb i’r un o’r ddau ddod ynghyd.
Byddai annibyniaeth ac effeithiolrwydd yr ICO yn fwy cadarn trwy ddefnyddio trefniadau ariannu mwy hyblyg. Yn ogystal â rhyddhau’r ICO o ofal y Weinyddiaeth Gyfiawnder, efallai y bydd angen i ni ganfod ffynhonnell ariannu amgen i Drysorlys EM. Byddai trefniant o’r fath hefyd yn dangos ymroddiad y llywodraeth i ddiogelu hawliau gwybodaeth ac i werth goruchwyliwr annibynnol.
Edrych ymlaenOnd nawr rydym yn wynebu 12 mis prysur arall. Trwy ein haelodaeth o Weithgor Erthygl 29, rydym yn ymgysylltu yn llawn yn y broses o adolygu Cyfarwyddeb Diogelu Data’r UE. Edrychwn ymlaen at gyfrannu i’r craffu ôl-ddeddfwriaeth o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin. A, gyda chymorth ein rhanddeiliaid, byddwn yn asesu i ba raddau yr ydym yn gwireddu ein gweledigaeth o ’ganolwr awdurdodol hawliau gwybodaeth’.
Financial Times
Corff gwarchod preifatrwydd sy’n brathu25 Tachwedd 2011
“Yn anfon neges o rybudd i bawb ynglŷn â chamddefnydd o ddata personol, mae’r Comisiynydd Gwybodaeth Christopher Graham, pennaeth corff gwarchod preifatrwydd y Deyrnas Unedig, wedi cyflwyno dirwyon am y tro cyntaf erioed. Wedi lobïo cryf, fe sicrhaodd y cyn newyddiadurwr 60 oed, a benodwyd i Swydd Comisiynydd Gwybodaeth y llynedd, rymoedd newydd yn Ebrill i ddirwyo sefydliadau hyd at £500,000 am dorri’r Ddeddf Diogelwch Data.”
Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth 11
Mae’r ICO yn elwa’n sylweddol o gyfraniad Aelodau Anweithredol ein Bwrdd Rheoli. Yn y cyd-destun hwn, rhaid i mi nodi fy ngwerthfawrogiad o waith y Fonesig Clare Tickell a Dr Robert Chilton a ymddeolodd o’r Bwrdd y llynedd. Fe ymunodd Jane May ac Andrew Hind yn eu lle. Rwy’n ddiolchgar i holl Aelodau’r Bwrdd Rheoli, y rhai Gweithredol a’r Anweithredol. Ac rwy’n talu teyrnged i holl staff yr ICO ac yn diolch iddynt am eu gwaith caled ac ymroddiad mewn blwyddyn o newid a her.
Christopher GrahamY Comisiynydd Gwybodaeth
12 Cipolwg ar ein blwyddyn
Ebrill 2010
Daeth ein grymoedd newydd i rym, gan alluogi’r ICO i gyflwyno dirwyon ariannol o hyd at £500,000 am doriadau difrifol o’r Ddeddf Diogelu Data.
Rydym yn mynychu cynhadledd Comisiynwyr Preifatrwydd a Diogelu Data Ewrop ym Mhrâg.
Rydym yn cyhoeddi canllaw diogelu data i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol.
Gwybodaeth Amgylcheddol yn rheolaidd.
Rydym yn lansio ymgyrch i atgoffa ymarferwyr meddygol preifat i hysbysu gyda’r ICO os ydynt yn prosesu gwybodaeth bersonol. Derbyniwyd dros 3,000 o hysbysiadau newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r ymgyrch.
Rydym yn atgoffa myfyrwyr ynglŷn â’u hawl diogelu data i gael mynediad at wybodaeth ynglŷn â’u marciau arholiad.
Awst 2010
Rydym yn cyhoeddi datganiad mewn ymateb
Mai 2010
Rydym ar y rhestr fer am wobrau Training Journal yng nghategori ’E-ddysgu Gorau’ ar gyfer ein hyfforddiant e-ddysgu Meridio.
Mehefin 2010
Rydym yn cyflwyno hysbysiad gorfodi yn erbyn Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu am gymryd mwy na’r amser a ganiateir i gydymffurfio wrth ddelio â cheisiadau rhyddid gwybodaeth o ffin sylweddol ar fwy nag un achlysur.
Rydym yn cyhoeddi datganiad ar alwad y Comisiwn Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig gryfhau grymoedd ei awdurdod diogelu data cenedlaethol.
Gorffennaf 2010
Rydym yn lansio ein ’Cod ymarfer gwybodaeth bersonol ar-lein’, gan ddarparu cyngor ymarfer da i sefydliadau yn gwneud busnes ar-lein.
Rydym yn sefydlu mesurau y bydd awdurdodau cyhoeddus yn wynebu os ydynt yn methu bodloni gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau
Cipolwg ar ein blwyddyn
Cipolwg ar ein blwyddyn 15
Rydym yn comisiynu ’Adolygiad o Argaeledd Cyngor ar Ddiogelwch ar gyfer Sefydliadau Bach a Chanolig’, i gael gwell dealltwriaeth o sut maent yn cael mynediad i gyngor am ddiogelu gwybodaeth bersonol.
Medi 2010
Penodir Ken Macdonald yn Gomisiynydd Cynorthwyol i Ogledd Iwerddon a’r Alban.
Rydym yn cynnal y Gweithdy Delio ag Achosion Ewropeaidd ym Manceinion gyda 50 o gynrychiolwyr yn mynychu o 29 o wledydd ledled Ewrop.
yn erbyn y Ddeddf Diogelu Data.
Google Inc. yn llofnodi ymroddiad i wella triniaeth o ddata i sicrhau nad yw tramgwyddau megis casglu data taliadau Diwifr gan gerbydau Google Street View yn digwydd eto.
Mae’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol yn cytuno i weithredu wedi i fanylion personol ASau gael eu rhyddhau i’r cyhoedd ar gronfa ddata costau ASau.
Rydym yn annerch cyfarfod o Ysgrifenyddion Parhaol Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.
i gynnig y llywodraeth i ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan asiantaethau cyfeirnod credyd i atal twyll budd-daliadau.
Rydym yn atgoffa asiantaethau gosod a thai eu bod yn wynebu gweithredu cyfreithiol os nad ydynt yn hysbysu’r ICO. Derbyniwyd bron i 1,000 o hysbysiadau newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r ymgyrch.
Rydym yn croesawu dirprwyaeth o Facedonia, y mae eu haelodau yn chwilio am gyngor ar weithredu a rheoleiddio deddfwriaeth diogelu data.
Hydref 2010
AS lleol a Thrysorydd y Canghellor, George Osborne, yn agor yr estyniad i’n prif swyddfa, Wycliffe House, yn swyddogol gan ddod â holl staff yr ICO yn Wilmslow dan un to.
Rydym yn cyhoeddi rhestr o sefydliadau i’w monitro gan yr ICO am fethu arddangos eu gofyniad i ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth mewn pryd.
Rydym yn cyflwyno’n dwy gosb ariannol cyntaf yn erbyn y cwmni preifat A4e a Chyngor Swydd Hertford, am dramgwyddau difrifol
14 Cipolwg ar ein blwyddyn
Tachwedd 2010
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi ei gyfathrebiad ar ddyfodol fframwaith deddfwriaethol diogelu data.
Mae Pwyllgor Dethol Ewrop Tŷ’r Arglwyddi yn cyhoeddi adroddiad yr ICO parthed cronfa ddata ’ELMER’ yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol – catalog o adroddiadau gweithgaredd amheus a ddarparwyd gan sefydliadau ariannol yn bennaf fel mesur i atal gwyngalchu arian.
Rydym yn darparu adroddiad diweddariad i’r Senedd ar gyflwr gwyliadwriaeth, gan nodi y dylai cyfreithiau newydd sy’n effeithio ar
Rydym yn cyhoeddi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban o Egwyddorion Rheoli Hunaniaeth a Phreifatrwydd ar gyfer sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus.
Ionawr 2011
Rydym yn cyflwyno’n trydedd a phedwaredd cosb ariannol yn erbyn Cyngor Ealing a Chyngor Hounslow am dramgwyddau difrifol yn erbyn y Ddeddf Diogelu Data wedi iddyn nhw golli dau liniadur heb eu hamgryptio yn cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif.
Rydym yn nodi Diwrnod Diogelu Data Ewrop trwy lansio ’Arweinlyfr gwybodaeth bersonol’ newydd a hyrwyddo’r
breifatrwydd fynd trwy graffu ôl-ddeddfwriaeth.
Rydym yn llwyddo i erlyn dau gyn weithiwr T-Mobile am droseddau dan adran 55 y Ddeddf Diogelu Data, ble mae’n drosedd i gaffael, datgelu neu werthu data personol heb ganiatâd y rheolydd data.
Rhagfyr 2010
Mae Prifysgol East Anglia yn llofnodi ymroddiad i wella’r modd mae’n ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Rydym yn gorchymyn yr Adran Iechyd i ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â chostau prynu brechiad y ffliw oedd mewn defnydd yn Chwefror 2010.
Rydym yn atgoffa ysgolion i beidio cuddio tu ôl i fythau diogelu data i atal rhieni rhag tynnu lluniau yn sioeau Nadolig ysgolion – gan greu dros 100 darn o sylw yn y wasg.
Rydym yn croesawu dirprwyaeth o Sefydliad yr Ombwdsmon o Ethiopia, y mae eu haelodau yn chwilio am gyngor ar weithredu a rheoleiddio deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth.
Rydym yn cyhoeddi cyfres o awgrymau da ar ryddid gwybodaeth i weithwyr cyfathrebu yn gweithio mewn awdurdodau cyhoeddus.
Rydym yn cyhoeddi ymateb i gyhoeddiad y llywodraeth ar y Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau.
Cipolwg ar ein blwyddyn 15
Rydym yn cyhoeddi datganiad yn croesawu cyhoeddiad y Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau, cefnogi ei nodau o gryfhau preifatrwydd, cyflawni mwy o dryloywder a gwell atebolrwydd, yn ogystal â mwy o annibyniaeth i’r ICO.
Rydym yn penodi cynghorydd technoleg i chwarae rôl arweiniol yng ngwaith y Comisiynydd Gwybodaeth ar ddatblygu polisi, ymchwiliadau a delio â chwynion.
Mawrth 2011
Rydym yn cynnal y gynhadledd Swyddogion Diogelu Data ym Manceinion, gyda dros 500 yn mynychu’r digwyddiad.
â rhwydwaith Ddiwifr yn eu cartref yn deall sut i’w diogelu.
Rydym yn cyflwyno cyfres o gynadleddau ar thema ledled Cymru, wedi eu trefnu gan Lywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo ei rhaglen ’Rhannu Gwybodaeth Bersonol’.
Graham Smith, Dirprwy Gomisiynydd yn annerch cynhadledd gyntaf Cyfraith Gwybodaeth Genedlaethol yn Canberra.
prosiect ’i in online’ – yn cyrraedd 6,000 o bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig.
Rydym yn cyhoeddi cyngor ar fenter mapio troseddau’r llywodraeth.
Rydym yn croesawu dirprwyaeth o Awdurdod y Gyfraith, Gwybodaeth a Thechnoleg Israel, y mae ei aelodau yn ceisio cyngor ar reoleiddio deddfwriaeth diogelu data.
Chwefror 2011
Rydym yn llwyddo i erlyn dau asiant tai dan y Ddeddf Diogelu Data am fethu hysbysu gyda’r ICO fel rheolyddion data.
Rydym yn lansio ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a LinkedIn.
Rydym yn ailgyhoeddi canllaw diogelu data i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr yn ymgyrchu yn refferendwm y Deyrnas Unedig ac etholiadau lleol a chenedlaethol.
Rydym yn darparu tystiolaeth i Bwyllgor Mesur Cyhoeddus ar y Mesur Seneddol Ynghylch Diogelu Rhyddidau.
Rydym yn cynnal seminar ar wneud data yn anhysbys yn Llundain.
Rydym yn cyhoeddi canllaw newydd ar osodiadau diogelwch Diwifr wrth i arolwg am arferion ar-lein ddangos nad yw 40% o bobl sydd
16 Ymwybyddiaeth o hawliau gwybodaeth
Roedd ymwybyddiaeth o hawliau gwybodaeth yn parhau i fod yn uchel eleni.
Parhaodd ymwybyddiaeth wedi ysgogi unigolion o hawl rhyddid gwybodaeth i weld gwybodaeth a gedwir gan y llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn uchel ar 84%, o gymharu ag 85% y llynedd a dim ond 73% yn ein blwyddyn llinell sylfaen o 2005.
Ymwybyddiaeth o hawliau gwybodaeth
60%
2005
Yr hawl i ofyn am wybodaeth a gedwir gan y llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill
2006 2007 2008 2009 2010
65%
70%
75%
80%
85%
90%
Ymwybyddiaeth o hawliau gwybodaeth 17
Yn yr un modd, roedd ymwybyddiaeth wedi ysgogi unigolion o’r hawl diogelu data i weld gwybodaeth amdanynt yn 89%, o gymharu â 91% y llynedd a dim ond 74% yn ein blwyddyn llinell sylfaen o 2004.
60%
2004
Yr hawl i weld gwybodaeth amdanynt
2005 2006 2007 2008 2009 2010
65%
70%
75%
80%
85%
90%
18 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Rydym nawr yn delio’n llawer cynt â cheisiadau am gyngor a chwynion, yn dilyn newidiadau helaeth i’n trefniadaeth.
Bodloni anghenion cwsmeriaid
Rhyddid gwybodaethGwaith achos a dderbyniwyd
2010/11 4,374
2009/10 3,734
17%
4%
2009/10 4,196
2010/11 4,369
Gwaith achos a gaewyd
cynnydd o gymharu â 2009/10
cynnydd o gymharu â 2009/10
Bodloni anghenion cwsmeriaid 19
2009/10 Achosion dros 9 mis 176
2010/11
Oed llwyth achos cwynion
Achosion dros 9 mis 47
2009/10 Cyfartaledd oed achosion mewn dyddiau 140
2010/11 Cyfartaledd oed achosion mewn dyddiau 97
2009/10 Achosion dros 6 mis 294
2010/11 Achosion dros 6 mis 179
73% gostyngiad mewn achosion dros 9 mis oed o gymharu â 2009/10
39%
31%
gostyngiad mewn achosion dros 6 mis oed o gymharu â 2009/10
gostyngiad yn oed cyfartalog achosion o gymharu â 2009/10
20 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Diogelu data
21% lleihad o gymharu â 2009/10
2009/10 32,714
2010/11 29,685
9% lleihad o gymharu â 2009/10
2010/11 26,227
2009/10 33,234
Gwaith achos a dderbyniwyd
Gwaith achos a gaewyd
Bodloni anghenion cwsmeriaid 21
96% gostyngiad mewn achosion dros 9 mis oed o gymharu â 2009/10
85%
33%
gostyngiad mewn achosion dros 6 mis oed o gymharu â 2009/10
gostyngiad yn oed cyfartalog achosion o gymharu â 2009/10
2009/10 Achosion dros 9 mis 212
Oed llwyth achos cwynion
2010/11 Achosion dros 9 mis 9
2009/10 Achosion dros 6 mis 894
2010/11 Achosion dros 6 mis 137
2009/10 Cyfartaledd oed achosion mewn dyddiau 89
2010/11 Cyfartaledd oed achosion mewn dyddiau 60
22 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Datrys cwynion rhyddid gwybodaethMae lleihau’r amser a gymer i ni ddatrys cwyn rhyddid gwybodaeth wedi parhau i fod yn ffocws sylweddol i’n sylw.
Dechreuom y flwyddyn gyda 117 o gwynion dros flwydd oed. Erbyn diwedd Mawrth 2011, roedd hyn wedi ei leihau i ddim ond tri chwyn, pob un yn ymwneud â materion cymhleth a dan ymchwiliad gweithredol.
Gwaith achos rhyddid gwybodaeth
Derbyniwyd yn y flwyddyn 4,374
Caewyd yn y flwyddyn 4,369
Gwaith ar y gweill ar 31 Mawrth 2011 1,069
Gwaith ar y gweill ar 1 Ebrill 2010 1,035
Bodloni anghenion cwsmeriaid 23
Beth ddigwyddodd i’r gwaith achos cwynion a dderbyniwyd
Wedi cau mewn 30 niwrnod neu lai 30%
Wedi cau mewn 90 niwrnod neu lai 61%
Wedi cau mewn 180 niwrnod neu lai 71%
Wedi cau mewn 365 niwrnod neu lai 77%
Agored ar 31 Mawrth 23%
50%
40%
30%
20%
10%
0%
0–30 o
ddyd
dia
u
31–90 o
ddyd
dia
u
91–180 o
ddyd
dia
u
181–365 o
ddyd
dia
u
Agored
30% 31%
10%6%
23%
Dosbarthiad oed llwyth achos cwynion
0–30 o
ddyd
dia
u
31–90 o
ddyd
dia
u
91–180 o
ddyd
dia
u
181–365 o
ddyd
dia
u
1 flwyddyn
–18 m
is
50%
40%
30%
20%
10%
0%
30%26% 27%
17%
*
* Tri chwyn
24 Bodloni anghenion cwsmeriaid
50%
40%
30%
20%
10%
0%
0–30 o ddyddiau
31–90 o ddyddiau
91–180 o ddyddiau
181–270 o ddyddiau
271–365 o ddyddiau
1 flwyddyn –18 mis
18 m
is +
Dosbarthiad oed llwyth gwaith cwynion a gwblhawyd
30 niwrnod neu lai 31%
90 niwrnod neu lai 65%
180 niwrnod neu lai 78%
365 niwrnod neu lai 94%
31%34%
13%9%
7% 4%2%
Bodloni anghenion cwsmeriaid 25
Llywodraeth leol 44%
Llywodraeth ganolog 30%
Yr heddlu a chyfiawnder troseddol 9%
Iechyd 9%
Addysg 7%
Cwmnïau preifat 1%
Meysydd yn ysgogi’r mwyaf o gwynion ble dynodir y sectorDeilliannau achosion ar gyfer gwaith achos a gwblhawyd eleni
Cyhoeddi hysbysiad penderfyniad 20%Dim arolwg mewnol 7%Wedi ailagor canlyniad terfynol sydd dan ystyriaeth 7%Dim angen gweithredu gan yr ICO, neu’r cwyn wedi ei dynnu yn ôl gan yr achwynydd 2%
Wedi datrys yn anffurfiol 47%
Anghymwys neu nid adran 50 17%
Canlyniad gwaith achos cwyn ble cyhoeddwyd hysbysiad penderfyniad
Cyfanswm a gyhoeddwyd 817
Cwyn wedi ei ategu 215 26%
Cwyn heb ei ategu 369 45%
Wedi ei ategu’n rhannol 233 29%
26 Bodloni anghenion cwsmeriaid
50%
40%
30%
20%
10%
0%0–30
o ddyddiau31–90
o ddyddiau91–180
o ddyddiau181–365
o ddyddiau
Dosbarthiad oed llwyth achos
50%
29%
17%
4%
Adfer cwynion diogelu dataCawsom gryn gynnydd o ran crebachu proffil oed ein llwyth achosion diogelu data, gan leihau’r nifer o achosion dros naw mis oed o 96%, ac achosion dros chwe mis oed o 85%.
Derbyniwyd yn y flwyddyn 26,227
Caewyd yn y flwyddyn 29,685
Gwaith ar y gweill ar 31 Mawrth 2011 3,558
Gwaith ar y gweill ar 1 Ebrill 2010 7,251
Gwaith achos diogelu data
Bodloni anghenion cwsmeriaid 27
Dosbarthiad oed llwyth gwaith a gwblhawyd
30 niwrnod neu lai 42%
90 niwrnod neu lai 68%
180 niwrnod neu lai 86%
50%
40%
30%
20%
10%
0%0–30
o ddyddiau31–90
o ddyddiau91–180
o ddyddiau181–365
o ddyddiau
42%
26%
18%14%
Darparwyd cyngor ac arweiniad 44%
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Deilliannau achosion ar gyfer gwaith achos a gwblhawyd eleni
Tramgwydd yn debygol 23%
Tramgwydd yn annhebygol 12%
Wedi ailagor nes canlyniad terfynol 2%
Cwyn anghymwys 19%
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Benthycwyr 13%Busnes cyffredinol 11%Marchnata uniongyrchol 9%Llywodraeth leol 7%Iechyd 6%Llywodraeth ganolog 5%Telathrebu 5%Plismona a chofnodion troseddol 5%Casglwyr dyledion 3%Rhyngrwyd 3%
Y 10 maes uchaf yn ysgogi’r mwyaf o gwynion ble dynodir y sector
Mynediad gwrthrych 28%Data anghywir 15%Datgelu data 12%Galwadau ffôn – awtomatig 9%Galwadau ffôn – byw 9%Diogelwch 7%E-bost 6%SMS 3%
Hawl i atal prosesu 2%
Heb ddarparu gwybodaeth prosesu deg 2%
10 rheswm uchaf dros gwyno
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Help a chyngorMae dros 98% o gwsmeriaid sy’n ffonio’n llinell gymorth yn derbyn ateb i’w cwestiynau gan yr unigolyn cyntaf maent yn siarad â nhw.
Rydym yn parhau i weithio’n galed i ddarparu sefydliadau a’r cyhoedd â digon o wybodaeth i’w galluogi i ddatrys problemau eu hunain. Rydym yn defnyddio’n gwefan i’n helpu i gyflawni’r nod hwn. Yn benodol, rydym yn sicrhau bod y wefan wedi ei diweddaru i ddarparu cymorth ar sut i ddelio â materion presennol ac atebion i gwestiynau cyffredin. Er enghraifft, yn ystod achosion amlwg megis y gosb ariannol sifil a gyflwynom yn erbyn ACS Law a phryder y cyhoedd ynglŷn â gweithredoedd Google Street View, fe wnaethom sicrhau bod ein gwefan a llinell gymorth yn cynnwys gwybodaeth i helpu cwsmeriaid fel mai dim ond os oeddynt wedi eu heffeithio yn uniongyrchol gan y mater oedd angen iddynt gysylltu â ni.
80,000
2007/08
Cyswllt cyntaf
2008/09 2009/10 2010/11
85,000
90,000
95,000
100,000
105,000
125,000
120,000
115,000
110,000
Hysbysiad
80,000
2007/08
Cyswllt cyntaf
2008/09 2009/10 2010/11
85,000
90,000
95,000
100,000
105,000
125,000
120,000
115,000
110,000
Hysbysiad80,000
2007/08
Cyswllt cyntaf
2008/09 2009/10 2010/11
85,000
90,000
95,000
100,000
105,000
125,000
120,000
115,000
110,000
Hysbysiad
Galwadau a wnaed i’n llinell gymorth
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Mae ein darpariaeth o gyngor ysgrifenedig wedi gwella yn ystod y flwyddyn ac mae bellach yn cael ei ddarparu o fewn 30 niwrnod neu lai. Rydym yn delio â 46% o’r cwynion a dderbyniwn o fewn 60 niwrnod i’w derbyn.
Apeliadau i’r Tribiwnlys Gwybodaeth Fe gyhoeddom 817 o hysbysiadau penderfyniad dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, o gymharu â 628 yn 2009/10.
Cafwyd 202 apêl yn erbyn ein penderfyniadau (25%), lefel sy’n gyson â 2009/10 ble apeliwyd 161 o achosion (26%).
Gwnaed 170 (84%) o apeliadau gan achwynwyr, 31 (16%) gan awdurdodau cyhoeddus.
0
2007/08
Mili
ynau
2008/09 2009/10 2010/11
0.5
1.0
1.5
2.0
3.0
2.5
Ymwelwyr i’r wefan
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Caniatawyd yn rhannol 15%
Gorchymyn caniatâd 8%
Caniatawyd 4% Annilys 2%
Gwrthodwyd 35%
Tynnwyd yn ôl 21%
Wedi dileu 15%
55
33
23
23
126 3
Pennodd ein Tribiwnlys Gwybodaeth 155 o apeliadau yn 2010/11. Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
Archwiliad – rhan ganolog o waith yr ICO Mae’n harchwiliadau arfer da wedi eu cynllunio i helpu sefydliadau i fodloni eu goblygiadau diogelu data trwy rannu arfer da a gwneud argymhellion defnyddiol ac ymarferol.
Fe gyhoeddom 26 adroddiad archwiliad, 60% yn fwy nag yn 2009/10. Cwblhawyd saith ymweliad gwaith maes archwilio pellach.
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Astudiaeth achos – Archwiliad ICO
Fe gysylltom â dros 100 o sefydliadau, yn y sector preifat a chyhoeddus, i’w hysbysu o’r gwasanaeth archwilio cydsyniol mae’r ICO yn cynnig ac i esbonio manteision cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen. Mae’r rhain yn cynnwys dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r angen i ddiogelu data personol a rhannu gwybodaeth gyda staff ICO profiadol sy’n darparu argymhellion ymarferol, pragmatig a phenodol i’r sefydliad.
O’r holl sefydliadau y cysylltwyd â nhw, cytunodd 30% i gymryd rhan mewn archwiliad cydsyniol. Roedd yr ymateb yn amrywio rhwng sectorau, gyda’r ymateb mwyaf positif gan adrannau llywodraeth ganolog, sydd hefyd yn amodol i’n grym archwiliad gorfodol trwy Hysbysiadau Asesiad. Cafwyd ymateb da gan sefydliadau sector cyhoeddus hefyd, yn arbennig y rhai y cysylltwyd â nhw yn y sectorau plismona a llywodraeth leol.
Fe ysgrifennom at sefydliadau sector preifat hefyd, a derbyn ymateb gan ystod eang o fusnesau, yn arbennig yn y sectorau bancio, cyllid a thelathrebu. Fodd bynnag, dim ond 19% o’r cwmnïau sector preifat cysylltwyd â nhw a gytunodd i archwiliad, o gymharu â 71% o sefydliadau sector cyhoeddus. Bydd annog busnesau i ymgysylltu â’r broses archwilio yn ffocws parhaus ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Ystyrir archwiliadau cydsyniol i fod yn allweddol i weithio’n rhagweithiol gyda rheolyddion data i helpu ac addysgu sefydliadau i fodloni eu rhwymedigaethau diogelu data. Mae’r rhaglen archwilio wedi canolbwyntio’n hanesyddol ar sefydliadau sector cyhoeddus mawr, ac un o heriau’r flwyddyn oedd cynyddu’r nifer o archwiliadau ac i amrywio’r mathau o sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw.
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Cosbau ariannol a gweithredu gorfodol arallFe gyhoeddom ein pedwar hysbysiad cosb ariannol cyntaf. Ni apeliwyd yn erbyn yr un o’r rhain.
Mae codi cosb ariannol yn ymwneud â thramgwyddau difrifol o’r egwyddorion diogelu data yn digwydd wedi 6 Ebrill 2010. I gychwyn, roedd yn rhaid i ni ddatblygu gweithdrefnau i benderfynu pryd fyddai cosb ariannol yn briodol; fe barhaom i gywreinio’r broses ac rydym wedi datblygu fframwaith i benderfynu ar swm y gosb ariannol.
Manylion y pedwar achos cyntaf yn denu Cosb Ariannol Sifil:
Cyngor Sir Swydd Hertford: gwall cyfeirio ffacs.
Anfonwyd papurau yn ymwneud ag achos llys byw gyda chyhuddiadau manwl yn ymwneud â chamdriniaeth rywiol yn erbyn plentyn at aelod o’r cyhoedd ar gam. Yna cafwyd achos arall tebyg iawn 13 niwrnod yn hwyrach.
Ffactorau yn cyfrannu at ein penderfyniad i gyhoeddi cosb ariannol oedd:
• Diffyg asesiad risg parthed negeseuon ffacs mor sensitif.
• Methiant i ddyfeisio modd electronig diogel amgen ar gyfer gohebiaeth data o’r fath.
• Methiant i ddefnyddio system ’ffonio o flaen llaw’ ar gyfer trosglwyddiadau ffacs diogel a methiant i ddefnyddio dalen eglurhaol. (O ganlyniad nid oedd y rheolydd data yn ymwybodol y collwyd y data nes i aelod o’r cyhoedd ei adrodd).
• Mae’n bosibl y byddai achos llys byw wedi ei beryglu.
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
• Y gweithredu a gymerwyd i unioni hyn oedd drafftio newidiadau polisi aneffeithiol ar frys a methiant i sicrhau ailddysgu staff yn briodol.
• Digwyddodd tramgwydd bron yn union yr un fath 13 niwrnod yn hwyrach.
• Arddangosodd y cyngor ddiffyg dealltwriaeth o achos ac arwyddocâd y tramgwydd.
O ganlyniad fe ystyriwyd y bodlonwyd y maen prawf ar gyfer cosb ariannol, ac fe gyhoeddwyd cosb o £100,000 yn Nhachwedd 2010.
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
A4e Limited: Colli gliniadur heb ei amgryptio yn cynnwys 24,000 o setiau data.
Cafodd gliniadur heb ei amgryptio yn cynnwys data personol sensitif 24,000 o unigolion ei ddwyn o gartref cyflogai cwmni preifat.
Roedd y cwmni wedi darparu’r gliniadur heb ei amgryptio yn groes i’w bolisïau ei hun, gan wybod y byddai’r cyflogai yn gweithio o bell a gyda swm sylweddol o ddata personol sensitif.
Roedd y cwmni yn ymwybodol bod gan rai cyflogeion broblemau gyda mynediad o bell i’w weinyddwr.
Roedd y cwmni yn rhedeg dwy ganolfan gynghori cyfreithiol. Pob mis roedd y cyflogai yn cynhyrchu adroddiadau ystadegol ynglŷn â’r gweithgareddau hyn ar y gliniadur. Roedd yr adroddiadau yn caniatáu adnabod y cleientiaid unigol.
Roedd yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â statws cymdeithasol unigolion, rheswm dros geisio cyngor, anabledd, tarddiad ethnig, cofnod troseddol a data personol sensitif arall.
O ganlyniad fe ystyriwyd y bodlonwyd y maen prawf ar gyfer cosb ariannol, ac fe gyhoeddwyd cosb o £60,000.
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Cyngor Ealing a Chyngor Hounslow: colli dau liniadur heb eu hamgryptio.
Roedd dau gyngor unigol yn gysylltiedig â’r un achos o dramgwydd.
Cafodd dau liniadur heb eu hamgryptio yn cynnwys data personol tua 1,700 o unigolion eu dwyn o gartref cyflogai cyngor.
Roedd Cyngor Ealing wedi darparu gliniadur heb ei amgryptio yn groes i’w bolisïau ei hun, gan wybod y byddai’r cyflogai yn gweithio o’i gartref ac yn delio â symiau mawr o ddata personol sensitif. Roedd y cyflogai hefyd yn defnyddio gliniadur personol i gyflawni’r un gwaith.
Roedd Cyngor Ealing yn rhedeg gwasanaeth tu allan i oriau swyddfa ar ei ran ei hun a Chyngor Hounslow. Nid oedd gan Gyngor Hounslow gontract ysgrifenedig i alluogi rhannu data.
Roedd naw aelod o staff yn gweithio yn y tîm a phob un yn defnyddio gliniaduron gan fod angen iddynt ymateb yn brydlon i faterion gwaith achos.
Ni chyflawnwyd unrhyw wiriadau gan reolwyr i sefydlu gyda sicrwydd pa offer oedd y cyflogeion yn defnyddio. Roedd y gliniaduron yn cynnwys detholiad o ddata personol sensitif.
Penderfynwyd cyhoeddi cosbau ariannol o £80,000 a £70,000.
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Gweithredu i orfodi Y llynedd fe sicrhaom 44 ymlyniad diogelu data a dau yn ymwneud â rhyddid gwybodaeth.
Yn ogystal â chynnwys ymroddiad i wneud gwelliannau penodol, bydd rhai ymrwymiadau hefyd yn rhwymo’r sefydliad i ganiatáu’r ICO i gyflawni archwiliad. Enghraifft o hyn yw’r ymrwymiad a lofnodwyd gan Google, ble cytunodd Google i dderbyn archwiliad ICO o fewn naw mis.
Fe erlynwyd pum achos gennym, dau o’r rhain yn ymwneud â throseddau o gasglu data personol yn anghyfreithiol. Fe blediodd y ddau amddiffynnydd yn yr achosion hyn yn euog yn Llys y Goron. Erlynwyd y tri achos arall, yn ymwneud â dau asiant tai ac un ymchwilydd personol, yn y Llys Ynadon am fethu hysbysu’r Comisiynydd eu bod yn prosesu data yn electronig. Roedd y tri amddiffynnydd wedi methu ymateb i ohebiaeth gan y swyddfa yn eu hatgoffa o’u gofynion i hysbysu.
Fe gyhoeddom un hysbysiad gorfodi rhyddid gwybodaeth a chyflwyno rhaglen fonitro i nodi awdurdodau cyhoeddus nad oeddynt yn bodloni eu goblygiadau i ddelio â cheisiadau rhyddid gwybodaeth mewn modd amserol.
Mae’r monitro hwn wedi bod yn llwyddiant aruthrol gyda 19 o’r 33 awdurdod cyhoeddus oeddem yn monitro yn dangos cymaint o welliant fel nad oedd angen gweithredu pellach.
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Astudiaeth achos – Google Street View
Mae cyflymder newid technolegol a’r dyfeisgarwch a ddefnyddir i gaffael a manteisio ar wybodaeth bersonol unigol i ddibenion masnachol wedi bod yn ddidostur. Mae’r ffaith nad yw mesurau diogelwch sy’n cyd-fynd â hyn yn aml yn datblygu ar yr un cyflymder yn siomedig; a cymaint yn fwy pan mai cwmnïau technoleg mawr yw’r rhai sy’n euog. Fe ymunom â chydweithwyr rhyngwladol i bwysleisio’r mesurau diogelwch data sylfaenol y mae’n rhaid eu cynnwys yng nghynllun gwasanaethau ar-lein yn benodol.
Mae’r achos ble bu Google yn cipio data taliadau Diwifr wrth gasglu delweddau ar gyfer ei wasanaeth Street View yn achos o hyn. Daethom i’r casgliad bod tramgwydd sylweddol o’r Ddeddf Diogelu Data wrth i geir Google Street View gasglu’r data hwn yn rhan o’u hymarfer mapio rhwydweithiau Diwifr yn y Deyrnas Unedig.
Gofynnwyd i Google lofnodi addewid sy’n ymrwymo’r cwmni i wella hyfforddiant ar ymwybyddiaeth diogelwch a materion diogelu data i’w gyflogeion i gyd. Addawodd y cwmni i ofyn i’w beirianwyr gynnal dogfen cynllunio preifatrwydd ar gyfer pob prosiect newydd cyn ei lansio. Gofynnwyd i Google hefyd ddileu’r data taliadau yr oedd wedi casglu’n ddamweiniol yn y Deyrnas Unedig.
I sicrhau eu bod yn cadw at eu haddewidion, byddwn yn cynnal archwiliad o weithrediad Google o’r newidiadau polisi preifatrwydd hyn yn eu gweithrediadau yn y Deyrnas Unedig. Byddant yn cael eu hamlinellu mewn Adroddiad Preifatrwydd a gynhyrchir gan Google, a fydd yn delio â’i strwythur preifatrwydd mewnol, hyfforddiant preifatrwydd a rhaglen ymwybyddiaeth ac adolygiadau preifatrwydd. Yna byddwn yn archwilio casgliadau a chywirdeb yr adroddiad hwn o fewn naw mis i lofnodi’r ymroddiad.
28 Bodloni anghenion cwsmeriaid
Sicrhau bod sefydliadau yn hysbysu Rydym yn parhau i chwilio am sefydliadau a ddylai hysbysu gyda ni ond nad ydynt wedi. Yn benodol, rydym wedi targedu ymarferwyr meddygol preifat ac asiantau tai i’w hysbysu o’u goblygiadau.
Derbyniwyd dros 42,000 o hysbysiadau newydd, 3,314 ohonynt o ganlyniad uniongyrchol i’n hymgyrch a dargedir. Cynyddodd nifer yr asiantau tai ar y gofrestr o 3,617 i 4,312, cynnydd o 19%. Cynyddodd nifer y meddygon preifat ac ymarferwyr meddygol preifat eraill o 10,503 i 13,122, cynnydd o 25%.
Bodloni anghenion cwsmeriaid 29
Safle Cyhoeddiad Cyfanswm ceisiadau
1 Cardiau post diogelu data 27,500
2 Esbonio credyd 22,000
3 Arweinlyfr gwybodaeth bersonol 13,500
5 Eich canllaw i fod yn agored 11,500
6 Deddf Diogelu Data 1998 – pryd a sut i gwyno 9,000
7 The lights are on – DVD hyfforddiant diogelu data 8,500
8 Awgrymau i ymarferwyr ar ddelio â cheisiadau rhyddid gwybodaeth a gwybodaeth amgylcheddol 8,000
9 Canllaw byr i hysbysu 7,000
10 Y canllaw i ddiogelu data 6,000
4 ICO ‘amdanom ni’ 13,000
Ein 10 cyhoeddiad mwyaf poblogaiddGallwch weld gwybodaeth ynglŷn â gwaith yr ICO a hawliau gwybodaeth ar ein gwefan www.ico.gov.uk, a gallwch ofyn am gopïau caled o’n cyhoeddiadau. Y 10 cyhoeddiad y gofynnwyd amdanynt amlaf yn 2010/11 oedd:
42 Datganiad Ariannol Cryno
Datganiad Ariannol Cryno ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011
43 Datganiad y Comisiynydd Gwybodaeth44 Datganiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
i Ddau Dŷ’r Senedd46 Datganiad Ariannol Cryno
Datganiad Ariannol Cryno 43
Datganiad y Comisiynydd GwybodaethMae’r Datganiad Ariannol Cryno hwn yn grynodeb o wybodaeth a gymerwyd o’r cyfrifon blynyddol ac adroddiad taliadau ac nid yw’n cynnwys digon o wybodaeth i ganiatáu dealltwriaeth gyflawn o faterion ariannol y Comisiynydd Gwybodaeth.
I gael mwy o wybodaeth, dylid edrych ar y cyfrifon blynyddol llawn ac adroddiad yr archwilydd ar y cyfrifon hynny. Maent ar gael yn rhad ac am ddim ar gais gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF neu’r wefan www.ico.gov.uk.
Llofnodwyd y cyfrifon gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar 27 Mehefin 2011.
Mae’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi tystysgrif ddiamod ar y datganiadau ariannol blynyddol llawn, y rhan o’r adroddiad taliadau y gellir ei harchwilio ac ar gysondeb adran Llywodraethu a Rhagair yr Adroddiad Blynyddol gyda’r datganiadau ariannol blynyddol hynny. Ni adroddodd y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar unrhyw faterion trwy eithriad.
Christopher GrahamY Comisiynydd Gwybodaeth29 Mehefin 2011
44 Datganiad Ariannol Cryno
Datganiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Ddau Dŷ’r SeneddRydw i wedi archwilio Datganiad Ariannol Cryno’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011. Mae’r rhain yn cynnwys Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o Sefyllfa Ariannol a chrynodeb o’r tâl a dalwyd i’r Comisiynydd Gwybodaeth ac uwch swyddogion.
Cyfrifoldebau’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r ArchwilyddMae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am baratoi’r Datganiad Ariannol Cryno yn unol â chyfraith berthnasol y Deyrnas Unedig.
Fy nghyfrifoldeb i yw adrodd i chi fy marn ar gysondeb y Datganiad Ariannol Cryno a’i gydymffurfiad â gofynion perthnasol Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth.
Rwyf wedi darllen yr wybodaeth arall a gynhwysir yn y crynodeb o’r Adroddiad Blynyddol hefyd ac yn ystyried y goblygiadau i’m hadroddiad os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysondebau perthnasol â’r Datganiad Ariannol Cryno.
Datganiad Ariannol Cryno 45
Rwyf wedi cyflawni fy ngwaith yn unol â Bwletin Archwilio 2008/3 a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae fy nhystysgrif ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon llawn y Comisiynydd Gwybodaeth yn disgrifio sail fy marn ar y datganiadau ariannol hynny, yr adroddiadau taliadau a’r adrannau: Rhagair y Comisiynydd Gwybodaeth, Addysgu a Dylanwadu, Datblygu a Gwella a’r Rhagair i’r Datganiadau Ariannol.
BarnYn fy marn i mae’r Datganiad Ariannol Cryno yn gyson ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon llawn y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011 ac mae’n cydymffurfio â gofynion perthnasol Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth.
Amyas C E MorseRheolwr ac Archwilydd CyffredinolY Swyddfa Archwilio Genedlaethol157-197 Buckingham Palace RoadVictoriaLlundainSW1W 9SP
30 Mehefin 2011
46 Datganiad Ariannol Cryno
Datganiad o’r gwariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2011
2010-112009-10
AILDDATGANWYD
£’000 £’000 £’000 £’000
Gwariant
Treuliau staff 11,219 10,693
Dibrisiant 1,221 901
Gwariant arall 7,622 7,097
8,843 7,998
20,062 18,691
Incwm
Incwm o weithgareddau (14,965) (13,192)
Incwm arall (258) (17)
(15,223) (13,209)
Datganiad Ariannol Cryno 47
Gwariant net 4,839 5,482
Llog taladwy (a dderbyniwyd) 14 (1)
Gwariant net wedi llog 4,853 5,481
Gwariant cynhwysfawr arall
Colled net ar ailbrisio eiddo, peiriannau ac offer
(31) (258)
Cyfanswm gwariant cynhwysfawr ar gyfer yflwyddynaddaethiben31Mawrth2011
4,822 5,223
48 Datganiad Ariannol Cryno
Datganiad o safle ariannol ar 31 Mawrth 2011
31 Mawrth 2011 31 Mawrth 2010
£’000 £’000 £’000 £’000
Asedau nad ydynt yn gyfredol
Eiddo, peiriannau ac offer 4,921 3,282
Asedau anghyffyrddadwy 363 76
Cyfanswm asedau nad ydynt yn gyfredol 5,284 3,358
Asedau cyfredol:
Masnach ac elfennau derbyniadwy eraill 660 530
Arian parod a chyfatebol i arian parod 828 377
Cyfanswm asedau cyfredol 1,488 907
Cyfanswm asedau 6,772 4,265
Datganiad Ariannol Cryno 49
Rhwymedigaethau cyfredol
Masnach ac elfennau taladwy eraill (624) (831)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (624) (831)
Asedau nad ydynt yn gyfredol ac asedau net cyfredol
6,148 3,434
Atebolrwydd nad ydynt yn bresennol
Darpariaethau (93) -
Asedau namyn atebolrwydd 6,055 3,434
Wrth gefn
Cronfa wrth gefn ailbrisio 223 231
Cronfa gyffredinol 5,832 3,203
6,055 3,434
2010-11 2009-10
£’000 £’000
Cyflog
Christopher Graham, Comisiynydd Gwybodaeth a Phrif Weithredwr (o 29 Mehefin 2009)
140-145 105-110
David Smith, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Diogelu Data 75-80 70-75
Graham Smith, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Rhyddid Gwybodaeth 80-85 80-85
Simon Entwisle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau 80-85 80-85
Susan Fox, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol 55-60 55-60
Victoria Blainey, Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol 50-55 50-55
Robert Chilton, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (hyd 31 Gorffennaf 2010) 0-5 10-15
Andrew Hind, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (o 01 Medi 2010) 5-10 Amh
Neil Masom, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 10-15 0-5
Jane May, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (o 01 Mai 10) 10-15 Amh
Enid Rowlands, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd 10-15 0-5
Clare Tickell, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (hyd 30 Ebrill 10) 0-5 10-15
Crynodeb o’r taliadau a dalwyd i’r Comisiynydd Gwybodaeth ac uwch swyddogionMae’r tabl canlynol yn rhoi manylion taliadau’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r swyddogion uchaf a gyflogir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
50 Datganiad Ariannol Cryno
Os hoffech gysylltu â ni, ffoniwch: 0303 123 1113
www.ico.gov.uk
Swyddfa’r Comisiynydd GwybodaethWycliffe HouseWater LaneWilmslowSwydd GaerSK9 5AF