20
'DOLIG DEDWYDD ADARYDDOL! aAfizawAs 25c .§LEOFMk'.1`1 RODSTRUPE, ER1THACUS RUBECULA : NORGE 2,00 IfftWall7ORY pFIRECIS KCXCO .ao orrIMEM Sro. CYLCH LYTHYR CYMDEITHAS TED BREEZE JONES RHIF 15 - NADOLIG 2008 HEL STAMPIAU ADAR HEFYD YN Y RHIFYN HWN - BYWYD GWYLLT ALASGA ADAR LWCUS TEITHIAU'R GYMDEITHAS A LLAWER, LLAWER 1VIVVY! ER BUDD ADAR A BYD NATUR

CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

'DOLIGDEDWYDDADARYDDOL!

aAfizawAs25c

.§LEOFMk'.1`1 RODSTRUPE, ER1THACUS RUBECULA

: NORGE 2,00IfftWall7ORYpFIRECIS KCXCO .ao

orrIMEM

Sro.

CYLCH LYTHYR

CYMDEITHAS TED BREEZE JONES

RHIF 15 - NADOLIG 2008

HEL STAMPIAU ADARHEFYD YN Y RHIFYN HWN -

• BYWYD GWYLLT ALASGA

• ADAR LWCUS

• TEITHIAU'R GYMDEITHAS

A LLAWER, LLAWER 1VIVVY!

ER BUDD ADAR A BYD NATUR

Page 2: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

GolygyddolYn ôl y swyddfa dywydd, mae dechrau'r gaeaf eleni wedi bod yn un o'r rhai oeraf ersdros 30 mlynedd. Ddechrau Rhagfyr, cafwyd cyfartaledd tymheredd o 1.7°C, syddgryn dipyn is na'r cyfartaledd tymor hir (1971-2000) o 4.7°C. Yn 1976 y cafwyd un o'rcyfnodau oeraf — dim ond 0.8°C oedd cyfartaledd Rhagfyr y flwyddyn honno.

Wn i ddim beth ydy eich barn chi am yr holl dywydd oer `nna — mi fydda i wrth fy moddgyda thywydd oer tra bo eraill yn casau'r boreau iasol pan fydd ffenestri'r car wedirhewi'n gorn a'r ffyrdd yn dywyllodrus (a pheryglus) — oni bai fod y loris melyn wedibod allan yn 'sgaru halen dan olau'r s6r wrth gwrs.

Bydd amryw yn casau eira hefyd, gan fod hwnnw'n rhoi stop ar bopeth, fwy neu lai,ac yn gwneud bywyd yn anodd i ddyn ac anifail. Ar y Ilaw arall, bydd eraill yn gwirioniar weddnewidiad prydferth y tirlun ac ar y tawelwch unigryw hwnnw sydd ond i'w gaelpan fo cwrlid gwyn yn gorchuddio popeth.

Un peth sy'n sicr — mae'n gyfnod anodd i adar. Mae posib rhoi help Ilaw iddyn nhwwrth gwrs — drwy ddarparu cnau, cacennau saim, a thaflu briwsion a hen ffrwythau arhyd yr ardd. Mae hyn heb os yn achubiaeth i nifer o'n hadar Ileiaf. Ond onid yw'nanhygoel sut mae cymaint o adar yn Ilwyddo, rywsut, i oroesi'r gaeaf noethlwm hebgymorth o gwbl — a byw drwy gyfnodau hynod galed.

Yn ein haberoedd ac ar hyd y glannau mi fydd cynnydd mawr yn niferoedd y chwiaida gwyddau o bob math, yn ogystal a throchyddion. Gall clegar y gwyddau fod ynfyddarol, ond gwefreiddiol, ar fore braf o aeaf. Daw rhydyddion bach a mawr yma yneu cannoedd i ddianc rhag rewynt gaeafol eu tiroedd magu. A be am yr 'adar gaeaf'go iawn — coch dan adain, socod eira, tresglod — yma eto yn eu miloedd i wledda araeron gan flingo Ilwyni'r gwrychoedd bob yn un. Yn eu mysg eleni gwelwyd nifer o'radar anghyffredin a thlws rheini — y gynffon sidan — unwaith eto yng Nghymru. Feddaeth heidiau ohonynt yma o flaen y gwyntoedd oer gogleddol a thywydd brwntgwynt traed y meirw o'r dwyrain ym mis Rhagfyr. Ydach chi wedi eu gweld nhw eto?

Er yr holl boeni am y `wasgfa ariannol' bondigrybwyll y dyddia' yma, a'r straen obaratoi at y Nadolig — mae Ile i ni ddiolch fod gennym (ar hyn o bryd o leiaf!) gartreficlyd a bwyd ar y bwrdd, ac nad oes yn rhaid inni ddianc o'r wlad i chwilio amborfeydd brasach dros fisoedd y gaeaf. Rydym yn ffodus iawn bod digon o fywyd argael inni — rhywbeth sy'n bwysig iawn i'w gofio pan mai dim ond pethau gweddolddibwys sy'n ein poeni mewn gwirionedd. Ydy, mae cynnal bywyd dros fisoedd llwmy gaeaf yn dipyn anoddach i'r adar nag ydyw i ni.

Ys gwn i be ddaw, yn 2009?Pwth gwirion iawn ydy darogan unrhyw beth nad ydy yn ein dyddiaduron yn barodynde? Byw mewn hyder y cawn ni Iwyddiant ym mhob menter — dyna fy ngobaith i oleia. Felly Iwc dda i bawb; Ilewyrch i Gymdeithas Ted; gan edrych ymlaen at helcofnodion i Atlas Adar y BTO a gobeithio y daw gweilch y Glaslyn yn eu holau amdymor Ilwyddiannus arall.

Ac ar y nodyn hwnnw gobeithio yn wir y ceir trefn ar y Cynllun Gweilch y Glaslynnesa. Mae cynllun 3 mlynedd yr RSPB wedi dod i ben erbyn hyn a'r gobaith yw ybydd y cynllun newydd ddaw yn ei le, pwy bynnag fydd yn rhedeg hwnnw, yn dipynmwy cymunedol ei fryd. O'r gymuned leol, wedi'r cyfan, y daw mwyafrif ygwirfoddolwyr a fu mor hanfodol i weithredu'r cynllun hydyn hyn. Heb ewyllys da y gwirfoddolwyr go briny ceir cynilun fydd yr un mor effeithiol aIlwyddiannus a'r un a gafwyd.

2

Page 3: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

LLYGAD BARCUD - Cylchlythyr Cymdeithas Ted Breeze Jones

Rhif 15 — Nadolig 2008

Golygyddion —Rhodri Dafydd (CCGC) a Twm Elias (PTyB)

Cyfranwyr —Dafydd Guto, leuan Bryn, Huw Dafydd Jones, Twm Elias, Rhodri Dafydd

Pob Ilun — hawlfraint yr awdur oni nodir yn wahanol.

CYMDEITHAS TED BREEZE JONESLlywydd Anrhydeddus —

lolo Williams

Cadeirydd y Gymdeithas a Golygydd Ymgynghorol Llygad Barcud-Twm Elias, Plas Tan y BwIch, Maentwrog, Gwynedd LL41 3YU, (01766) 772 610

Trysorydd —Brian Paul, Ty Fry, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6RT, (01766) 770 500

Ysgrifennydd a Golygydd Llygad Barcud-Rhodri Dafydd, 2 Ty'n Ddôl, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7TN, (01678) 540 545

Ysgrifennydd Aelodaeth —Anwen Breeze Jones, Tan y Deri, Bryn Eithin, Llandecwyn, Gwynedd LL47 6YF, (01766) 770 833

Am fwy o wybodaeth a ffurflen ymaelodi A'r Gymdeithas cysylltwch âg Anwen Breeze Jones.

Croesawir Ilythyrau, cwestiynau, newyddion ac ati ar gyfer y rhifyn nesaf.Anfoner unrhyw ddeunydd at yr Ysgrifennydd cyn diwedd Chwefror os gwelwch yn dda

Manteision ymaelodi â Chymdeithas Ted Breeze Jones.

Bob blwyddyn bydd aelodau'r Gymdeithas yn derbyn tri rhifyn o'r cylchlythyrLlygad Barcud. Cyn hir, byddwch fel aelodau yn derbyn cerdyn aelodaeth fyddyn eich galluogi i fynychu sgyrsiau a theithiau'r gymdeithas yn ddi-dâl. Ond un ofanteision mawr aelodaeth o'r Gymdeithas yw y bydd y cerdyn hwn yn caniatáu ichi gael gostyngiadau sylweddol o'r siopau isod —

• Cotswold Outdoor, Betws y Coed — 15%• Gelert, Port — 15`)/0 ar nwyddau Gelert, 10% ar nwyddau eraill• Siop lyfrau Browsers, Port 1 0%• Fifth Element, Port — 10%• Bear Print, Port — 10%• Nigel Hughes, Port — 10% (ar wahan i gamerau digidol — prisiau cystadleuol eisoes!)

• Arwyn Edwards, Penrhyndeudraeth — 10% ar wydrau a nwyddau eraill

3

Page 4: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Oes yr arth a'r blaidd... a'r eryr!

Cip yn 61 ar daith i Alasga

gan leuan Bryn

Haf 2007

5 AwstPebyll, dwy stof fach, poteli nwy, tegell anferthol, sosbenni, bocseidiau o fwyda diod, trelar bychan y tu 61 i fws mini, a'i chychwyn hi tua'r canolbarth —canolbarth Alasga!

Mae tri o'r grwp yn dod o Gymru — uno Gaerdydd a chwpwl ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr. Un ferch yn dod oFecsico, ac un arall o Ganada. Ygweddill o Loegr — ar wahân i beiriantgwnTo o wraig fechan, barablus,drigain oed sydd newydd fod ar anturyng nghanol coedwigoedd Borneo...Daw hi o ucheldir yr Alban.

Gwersylla wrth Rewlif Matanuska i'rgogledd-ddwyrain o Anchorage, achyn iddi nosi, mynd i chwilio amfoncyffion i'w rhoi ar y tân. Mae hi'nchwarter i un ar ddeg, ac yn olau felcanol dydd.

8 AwstYmweld â Pharc Cenedlaethol Denali.Chewch chi ddim gyrru drwyddo yneich car eich hun, ond mae croeso ichi grwydro i wahanol rannau ohonoyn un o gerbydau swyddogol y parc,stopio ble mynnwch chi, mynd igerdded, a dod yn ôl i'r man cychwynar ddiwedd y dydd.

A dyna dwi'n bwriadu ei wneud...

Ond distaw iawn ydi hi o ran gweldcreaduriaid gwyllt — dim ondysgyfarnog eira a dyrnaid o rugieirAlasgaidd, hyd yma.

Ymhellach ymlaen, mae yna glwstwr oddefaid DâI gwyllt ar un o'rIlechweddau. Mae eu cyrn praff yndipyn o ryfeddod i mi, ac maen nhw'ndweud y cymer saith mlynedd i dyfu ungyrlen o gbrn!

Eryr aur yn cylchu ar y gorwel, a thricaribw'n gorwedd ar y Ilethr oddi tanofo.

Mae gyrrwr ein cerbyd yn aros, arhywun yn sibrwd y gair `blaidd'. Cigwyllt feddyliais i oedd o, pan ges i'rcip cyntaf arno! Ond wrth iddo ddod ynnes ac yn nes, doedd yna ddim moddcamgymryd. Mi fyddai awdur Galwad yBlaidd, Cledwyn Fychan, yn gwirionidwi'n siwr!

http://www.hallobay.com/images/wildlife/Camp_wolf 1 Ljpg

Mae o'n tuthio'n ysgafndroed dros ytwndra, yn oedi bob hyn a hyn isnwyro'r ddaear, yn troi'n 61 i snwyroeto, ac yna'n mynd ar ei hynt. Doedd oddim mwy na deugain Ilath i ffwrdd.

4

Page 5: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Blewyn Ilwyd a du, a iasau'r cynfyd ynei ganlyn o.

mewn amgylchiadau perffaith. Rydanni'n Iwcus; mi fydd y copa dan gwmwlddeuddydd o bob tri, ar gyfartaledd...

* * * * * * * *

Cerbyd un o wardeiniaid y Parc wedistopio fymryn o'n blaen ni, a does dimangen sbienddrych. Mae eirth Iliw mélgryn dipyn yn fwy na'r rhai duon, acmae ganddyn nhw grwb amlwg iawn.Hyd yn oed yng nghanol yr eangderau,mae hi'n anferth.

Ymlaen â ni am blwc, ac ar gribgyfagos, mae cyrn un caribw llonyddyn batrwm pigog, du yn erbyn yr awyr.Mae o'n gostwng ei ben, ei godi i'rawyr eto, carlamu i lawr y Ilethr, acaros gyferbyn â ni. Mi rown i'r byd amweld y rhain yn mudo wrth eu miloeddi'w mannau gaeafu, yn rhimyn hir drosyr eira...

9 AwstAddasu ein cynlluniau y bore `ma, adilyn lôn raean i Barc CenedlaetholWrangell St. Elias. `Denali Highway'(highway!) ydi'r enw swyddogol arni,ac mae'n rhedeg yn gyfochrogmynyddoedd Cadwyn Alasga — oCantwell, yn y gorllewin, i Paxon yn ydwyrain — am dros gan milltir. Dim ondo Fai tan ddechrau mis Hydref y byddhi ar agor oherwydd yr eira.

http://abandonrealityphotography.googlepages.corn/busroof-denali-s1OL.jpg/busroof-denali-s1OL-full.jpg

Bore heulog, glas. Aros ar ymyl y lôn igael golwg iawn ar Denali, mynydduchaf Gogledd America, a chael gweldtri chwarter uchaf ei 20,320 troedfedd

Mwclis hir o gopaon gwyn ydi gweddilly siwrnai. Mewn un Ile, rydan ni'ncroesi afon fawr Susitna, ac yna, yngnghanol nunlle, yn dod at gaffi Ile maeyna gesan o wraig mewn ffedog yngwneud y darten lus orau yr ochr yma iIwyni Ilus Brynrefail yn Arfon! Ar bentafell sy'n Ilenwi `mhowlen, caf ganddifryncyn o hufen iâ a blas mwyar ybrain arno. Dim rhyfedd bod y caffianghysbell yn dod yn fwy poblogaiddbob dydd!

Wedyn, eangderau gwag. Ambellgoeden. Ambell lyn hefyd, ac wrth uno'r rheiny, ddau alarch pigddu(trumpeter swan).

Gwersylla ar lan Afon MacLaren, agosod y babell fel bod y `drws' yn agorar ribidirés o fynyddoedd eira.Milltiroedd o bob gwawr o wyrddrhyngof a'u rhewlifoedd, ac ar fy`rhiniog', glystyrau piws o chwyn tân.

Yn yr oriau mân, codi. Y cribau'ngysgodion tywyll ar gynfas glasbinc yrawyr. Gewin main, main o leuad, amymryn o darth yn cerdded drwy'igwsg, yn freuddwydiol fel finnau!

10 AwstCodi'n blygeiniol, a phob diferyn oleithder ar du allan fy mhabell yn berl orew.

Ceisio dychmygu pa mor egr ydi hiyma, berfedd gaeaf. Yn Fairbanks(sy'n weddol agos i Cantwell Ile'roedden ni ddoe), mi fydd y tymhereddyn gostwng yn rheolaidd i -60°F yn ygaeaf. A hyd yn oed yma, maen nhw'ndal i ddefnyddio cwn sled i fynd o le ile, pan fydd yr eira'n garchar.

Mae yna bantiau niferus yn y brifforddy teithiwn arni o Glenallen tua'r de, ambod y `rhew parhaol' dan wyneb yffordd bellach yn dadmer. Arwyddbach arall bod hinsawdd y byd ynnewid...

5

Page 6: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Eryr penwyn yn codi ar ymyl y ffordd, ahedfan ar yr un lefel yn union â ni.Wyth troedfedd o adenydd!

naw o fynyddoedd ucha'r UnolDaleithiau, a thros gant o rewlifoedd.Mae un o'r rhain (Rhewlif Root)gyferbyn â'n Ile gwersylla ni, a mynd ifyny hwn ydi fy mwriad i heddiw.Yn y man, cyrraedd pentref McCarthy,

a gosod ein pebyll.

Dim ond pompren (ac afon fydd ynrhewi'n ddigon caled yn y gaeaf i chiallu gyrru cerbyd drosti) sy'n cysylltu'rpentref â'r byd mawr, a dyma syddyno: salwn o ddechrau'r 1900au...banc Wells Fargo... wagen bren ar eihechel... pwerdy trydan bychan... acyng nghanol y rhain, gwesty MaJohnson wedi'i adnewyddu yn arddullgwesty gwreiddiol 1923. Lôn bridd ydi'rbrif stryd.

Mwynwyr copr y 1900au cynnar agododd y pentref, ond heddiw, dimond rhyw ddwsin o bobl sy'n mentrobyw yma drwy'r flwyddyn.

11 AwstNeb wedi codi, a'r pebyll fel cerrigbeddau.

Swn carlamu trwm...

Oherwydd y coed sydd o 'nghwmpas,fedra'i ddim gweld yr un creadur.

Ond yna, arth ddu, dindrwm yntrybowndian drwy'r gwersyll, a'r un o'rboregodwyr cysglyd yn fy nghredu ipan ddeffroeson nhw!

http://www.free-desktop-wallpaper-download.com/data/media/29/spotted_a_black_bear.jpg

Erbyn hyn, rydan ni ym mherfeddionparc 13 miliwn-erw Wrangell St. Elias,Ile mae yna afancod, bison, bleiddiaid,mws, geifr mynydd... Yma hefyd, ceir

Gyda'r nos, galw yn y Golden Saloon.

Mae yno 'fand tir glas' yn creu llond yIle o ddifyrrwch. Un ar y ffidil, un ar ybanjo, un ar y mandolin, a merch efocap stabal a sgert yn chwarae bâsdwbwl! Digon o fynd, a phawb yndawnsio o'i hochr hi. Gwerin ydigwerin ym mhob gwlad, a gwyn, gwynei byd hi.

13 AwstYn Valdez, mae yna sawl cwmni'n llogicaiacs. Dwi'n dewis 'AnturiaethauAnadyr' am eu bod nhw'n rhoi pwysmawr ar warchod yr amgylchedd, ac argyflogi pobl leol. Ond dechrau simsanuydw i pan maen nhw'n trio egluro i mibeth i'w wneud tasa'r caiac yn troi...

Mae Swnt y Tywysog William (dynaenw!) yn 15,000 o filltiroedd sgwâr.Mae ynddo 15 o brif ynysoedd a 200 orai mân. Ceir yma hefyd amrywiaetheang o gynefinoedd i adar, creaduriaidy môr ac anifeiliaid y tir.

Ar ôl awr o forio yn y cwch mawr, dodar draws degau o ddyfrgwn y môr yncael parti a hanner! Rhai'n chwarae yny dwr; eraill yn torheulo ar dalpiau orew, ac wrth i ni nesu atyn nhw, ynsleifio i'r dwr ar yr eiliad olaf...

Ymhen hir a hwyr, rydan ni'n angori,yn tynnu'r caiacs o'r cwch, a dechraurhwyfo tua'r talpiau o iâ sy'n nofio arwyneb y ffiord. Mae'r dwr mor Ilyfn â'rolew hwnnw sydd i fod i wneud i chideimlo hanner eich oed, ond pwyllpiau hi wrth i ni weu rhwng y talpiaucyfrin, gwyn gan eu bod nhw'n symudyn dawel fach, ac mi allech yn hawddiawn gael eich cau o bob ochrganddyn nhw!

6

Page 7: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Ar 61 rhwyfo o Fae Columbia i Fae'rGrug, mae'n bryd cael tamaid i'wfwyta.

Gosod y caiacs yn ddigon uchel ar ylan, a cherdded dros y gefnen. Islaw ini, mae Bae Columbia'n un gybolfa odalpiau o iâ sy'n edrych yn union felliliau gwynion ar glustog moethus,glas. Y tu 61 iddyn nhw, rhewlif milltir oled yn crafu i lawr Mynydd MarcusBaker, a nadreddu i'r culfor. Ac o unpegwn i'r Ilall ar y gorwel, copaon eiraac awyr ysgafn las.

Gwledda ar olygfa na welswn eithebyg, a rhwyfo wedyn i fyny afonsy'n Ilifo o un o'r rhewlifoedd. Yr unigswn ydi tincial dwr yn tasgu'ndameidiau bach gloyw o'n rhwyfau.Mae'n waith caled ond yn ymlacio corffa meddwl yn Ilwyr, ac ar y pryd,doeddwn i ddim yn dymuno bod ynunman arall ar y ddaear, nes i ni sylwiar arth yn loetran ar graig, yn rhy agoso lawer...

Ymlaen at afon arall, a dynesu ganbwyll bach at eryr penwyn sy'nclwydo'n gwbl ddidaro uwch einpennau. Ac mae'n siwr i ni weld tuadeg o rai eraill, wrth i ni rwyfoymhellach i fyny'r afon — un pâr yngalw ar ei gilydd, eryr arall yn hedfanheibio'n isel, isel ac un arall yn darnioeog ar y dorlan.

Yn y man, rydan ni'n cyrraedd nantsy'n berwi o eogiaid yn ymbalfalu amIwybr at eu deorfeydd.

Rhaid ein bod ni wedi rhwyfo tua chwemilltir i gyd, ac ar ein taith yn 61 iharbwr Valdez, roedd yr eogiaid aoedd yn rhydd o grafangau'r eryrod ynIlamu wrth y dwsinau, mewnIlawenydd!

15 AwstHwylio i Whittier, ac ar y ffordd yno,mynd heibio Bligh Reef Ile'r aeth yrExxon Valdez ar y creigiau ym Mawrth1989, gan arllwys 11 miliwn galwyn oolew crai i'r swnt. Llygrwyd dros 1,500milltir o arfordir, ac amcangyfrifir i tua450,000 o adar môr, 4000 o ddyfrgwn,300 o forloi, 250 o eryrod penwyn, a22 o forfilod orca farw. A taswn i'nedrych dan wyneb y tywod ar ytraethau Ileol, mi welwn fod yno olew ohyd, er i ugain mlynedd bron fyndheibio.

16 AwstHeb weld morfil eto, a'r cynllunheddiw, felly, ydi mynd i chwilio am unyn ffiordau Parc Cenedlaethol Kenai.

0 ran tywydd, dydi hi ddim yn argoeli'ndda. Dal i dduo mae'r awyr wrth i niddilyn glannau deheuol BaeAtgyfodiad, a chorddi mwy a mwymae'r môr.

Y tu draw i Drwyn Callisto, dawRhewlif yr Arth i'r golwg, ac mewncilfach fach unig ar lannau gogleddolPenrhyn Aialik, mae yna ddyfrgi'nnofio ar ei gefn wrth agor cragenfylchog i ginio!

http://s190.photobucket.comialbums/z257iamericanwildlifeMammaliZ-MikeBAird-SeaOtter2.jpg

Maen nhw'n amcangyfrif bod yna56,000 o adar yn magu ar y clogwyniIleol — gwylanod, gwylogod, palod,

7

Page 8: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Gorfod gadael y bae heb weld yr un, apharhau i hwylio i'r gogledd-ddwyrainheibio Ynys Harbwr, Ynys Natoa acYnysoedd Chiswell.

* * * * * * * *

Chwistrelliad o aer yn codi o'r culfor.Llonyddwch am rai munudau, achwythiad uchel eto.

Troi'r llong yn araf, a phawb yn craffuwrth i gefn bwaog enfawr, a chefnbwaog Ilai, anelu'n syth aton ni.

Maen nhw mor, mor agos. Morfilodcefngrwm - mam a'i chyw. Oes ynahanner canllath rhyngon ni?

Mae'r ddau'n dod i'r wyneb un waithyn rhagor, ac yna'n diflannu, ganchwifio eu cynffonnau wrth ffarwelio!

http://www.canada-photos.com/data/media/1 ihumpback-whale-watching-bc_523.jpg

`Allwn i ddim dymuno cael delweddbertach yn anrheg i fynd adre. Torritaith yn ei blas — hwnna ydi o!

pigfain, morfilod asgellog a morfilodorca.

piod y môr, mulfrain, hebogiaidtramor...

Dwi'n cael fy swyno'n arbennig gan yddwy rywogaeth o balod — palodcorniog (horned puffins) a phalodcopog (tufted puffins). Mi fydd y rhainyn curo eu hadenydd dros 300 oweithiau y funud wrth hedfan, ac ynplymio rai cannoedd o droedfeddi danwyneb y dwr i bysgota, ganddefnyddio'u hadenydd yn unig i'wgyrru ymlaen drwy'r dyfnderoedd.Dywedir y gall y pâl corniog gadw hydat ddwsin o bysgod bach ar y tro, yn eibig... ac mae cudynnau aur y palodcopog yn ddigon o sioe!

http://www.sewardwatertaxi.com/a laskabirdi rigtours.html

Mae yna fulfran wridog (red-facedcormorant) yn mynd a dod o'ncwmpas, ac ar greigen yn y swnt, maeyna dri saer du (black oystercatcher) agolwg ddigon be-wna'i arnyn nhw.

* * * * * *

I Fae Aialik nesaf i weld rhewlif sy'nIlifo'n uniongyrchol i'r môr, a'i dalcenyn codi 350 troedfedd o'r dwr.

Angori o fewn tua decllath ar hugainiddo.

Niwl yn dechrau crynhoi. Dafnau o lawsmwc. Talp o rew'n dymchwel oddi ardalcen y rhewlif, a'i ddwndwr fel tarancanol Awst. Mor anial, mor syfrdanol ohardd! Ac un eryr penwyn yn Ilithro'nddistaw drwy'r olygfa.

Dim golwg o forfil, er bod yna bump orywogaefhau yn y cyffiniau — morfilodIlwyd, morfilod cefngrwm, morfilod

Llysieuyn y Diafol

Rydym yn gwybod bod `baco yn ddrwginni, ond dyma rigwm difyr am Faco'rDeryn Du [baco siag Cwmni Amlwch]:

Mae Owen Edwards Coed-y-pryYn ffond o faco'r Deryn Du,A Beti'r wraig sy'n caru'r mwg,Mae'n danfon draw ei hysbryd drwg.

(o ardal Llanuwchllyn)

8

Page 9: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

trolork4 popelo sid Ardtur citc ergg

Stampiau Post gwahanol wledydd —Cyfrwng byw! Coethder Byd Natur!

Dafydd Guto, Llanrug

Yn ei lyfrau Enwau Adar (1994) a Rhagor o Enwau Adar (2006 — y ddau ganWasg Carreg Gwalch), ceir gan Dewi Lewis enwau eraill Ilawn morddiddorol am y Crëyr glas, a atgynhyrchwyd isod ar ffurf stamp post, aluniwyd yn Tsiecoslofacia.

Nid Af i fanylu'n ormodol yn y fanyma — dim ond dweud yn blwmp acyn blaen fod yna domenni ardomenni o stampiau post ar gael,wedi eu cyhoeddi dros yblynyddoedd gan sawl gwlad led-ledyr hen fyd 'ma, a bod yn eu mysgnifer swmpus o stampiau post adar —y cyfan wedi eu portreadu'n goeth ardameidiau bychain o bapur gludiog.

Ar y tudalennau hyn ceir ychydigesiamplau y bu i mi eu casglu.

Aland: Y fulfran fawr

9

Page 10: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Y Bahamas: Delor y cnau (2006)

tx, BirdLifeof.to ,Lt

Aland: elyrch y Gogledd.

Aland: crëyr glas.

Y Bahamas: Delor y cnau (2006)

Lithuania: Tylluan glustiog (2005)

I .1 11 1 1 , kAtil .4%*1 1 , Tie

10

Page 11: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Mi fuaswn yn annog aelodau'rGymdeithas (`does wahaniaeth paoedran ydach chi!) i fynd ati i gasglustampiau post, gan ddefnyddiothema benodol — a be'n well nagadar?! Mae dewis thema yn creusialens unigryw, ac yn peri i chiganolbwyntio fwy-fwy ar y casglu,drwy gyfyngu'r hela i faes o'chdewis.

Y sialens a osodais i'm hunan dros yblynyddoedd oedd casglu stampiaupost sy'n portreadu byd natur yn eigyfanrwydd, a dyna sut daeth yralbwm Adar Cymru ac Ewrop ifodolaeth — ie, fesul stamp bu i mifagu amynedd a chreu difyrrwch imi'n hun. Daeth cyfle penigamp(gyda fy nghymar, Linda) i grwydro oun ffair stampiau post i'r Ilall. Do wir,mi fuom ill dau un tro o dan dwnelmewn maes rasio ceffylau er mwyntaro ar stondinau gwerthu bob matho stampiau post! 'Cofia ddwad a dyfflachlamp tro nesa!' crefodd Linda!

Chwilota wedyn mewn siopau hendaclau a geriach; cael hwyl ynghanolgwe pryfed cop, a chanfod ambell istamp post ymysg y Ilwch! Bargeiniowedyn (heb fynd i daeru!), tyrchudrwy fwy o gatalogau stampiau post;pori mewn cylchgronau yn ymwneuda ffilateliaeth (ie, dyna'r enwgwyddonol ar yr hobi hwn!).Pendroni. Dethol yn ofalus. Ymweldâ swyddfeydd post mewn gwledydderaill a mwynhau holi beth oedd argael yno. Cofio am byth y swyddfaBost yng Nghrakow (Gwlad Pwyl) a'rolwg ar wynebau pobl y post oglywed cyfarchiad yn y Gymraeg —ond wedi'r cyfan stamp oedd stampyn y pen draw! Wedyn, cyfeillion yn

cyfrannu. O stamp i stampcasgliad yn fwy. Heb gyfeillion 'dydybywyd ddim yn Ilawn. Yn anad dimbyd arall — derbyn Ilythyrau gangyfeillion o agos a phell — rhywun,neu rywrai ar wyliau yn rhywle arallgwahanol yn y byd — a stampiau postar thema bywyd gwyllt ar gael yno!

`Does dim dwywaith — y mae stamppost yn adrodd hanes, ac yncynrychioli y wlad y tardda ohoni.Ond erys digon o eisiau yma yngNghymru. Pa bryd yn wir y gwelwn niluniau rhai o'n hadar mwyafpoblogaidd, neu'r prinnaf, arstampiau gwir Gymreig? Ond yw hi'nhen bryd i ni newid y sefyllfa syddohoni, a dangos i'r holl fyd mai dymaGymru, a bod iddi ei choethder bydnatur ei hun. Y gorau o'i wlad afynnodd Ted ei chyflwyno — ac maegennym ni ein Ile yn parhau a'rcyflwyniad hwnnw — ei foldio'nofalus, er mwyn plant ein plant aChymru ein hyfory.

Mi hoffwn i, maes o law, weld ydeunydd byd natur a gesglir — felIlyfrau, Ilyfryddiaethau, Ilyfrau lloffionac albwmau stampiau post sy'nymwneud ag adar, anifeiliaid, pryfed,pysgod, ymlusgiaid a Cati sydd ymaar yr aelwyd, gael eu trosglwyddo iGanolfan Ted Breeze Jones, fel eubod yn rhan o weledigaeth o eiddoTed mai enfysau o ryfeddodau ac niddrychiolaethau ydyw'r byd pluog o'ncwmpas, a chynhwysa hyn hefyd,debygaf i, stampiau post gwahanolwledydd y byd!

Y tro nesaf os byw ac iach — Casglucardiau post byd natur.

Page 12: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Adar Morfa HarlechSadwrn, Tachwedd 1 af 2008.

Huw Dafydd Jones

Dyma daith gyntaf tymor hydref 2008 dan arweiniad Rhodri,ysgrifennydd y Gymdeithas, i ymweld A'r traeth a thwyni morfa Harlech.Daeth nifer dda o aelodau at ei gilydd yn y maes parcio yng nghefn twyniMorfa Harlech ar fore braf gyda'r bwriad o gerdded ar hyd y traeth.

Edrych dros y môr i gyfeiriad Pen Llyn a gweld cannoedd o Fôrhwyaid

Fel Swyddog Cadwraeth gydaChyngor Cefn Gwlad Cymru sy'nymwneud â bywyd gwyllt arhywogaethau'r twyni, pwy well naRhodri i arwain y daith hon. Yn eiwaith bob dydd mae'n gyfarwydd iawnâ'r adar a'r planhigion yr oeddem i'wgweld ar y daith hon.Cyn cychwyn dangosodd un o'raelodau (JP) lun arbennig iawn odylluan frech wedi ei dynnu yn erbyncefndir o risgl coeden. Prin yn wir oeddyr aderyn i'w weld.

JP a'r dylluan â chuddliw perffaith

Prin hefyd y buasem yn gweld tylluanyn y twyni, ond pwy a wyr — maetylluanod austiog i'w gweld o dro i droyn hela yma yn ystod y gaeaf...

Wrth gychwyn o'r maes parcio achroesi cwrs golff Dewi Sant gwelwydnifer o'r adar cyffredin, yn eu mysg yrobin, y ji binc, y fwyalchen a chorehedyddion y waun. Wrth ddod i olwgy môr 'roedd yn amlwg bod nifer owahanol adar yn nofio'r tonnau.

Y morhwyaid duon tua 300 ohonynt

Ambell i wylan (penwaig), morhwyaidduon (300), hwyaid brongoch (6), agwyeich mawr copog (8). Gan edrychallan i'r môr a gobeithio gweldrhywbeth amgenach, ymlwybrwydymlaen ar hyd tywod y traeth a chynhir yng nghysgod y twyni gwelwyd haido rydyddion bychan yn pigo'r gwymonhyd linell y Ilanw uchel. Cododd yr haida hedfan at ffin y môr, Yn eu mysg

12

Page 13: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

'roedd Pibyddion y Tywod - sanderling(36) a Chwtiaid y Traeth — turnstone(15). Wrth edrych yn fanylach ar yrhaid gwelwyd fod un Pibydd y Mawnyn eu canol.

Cwtiaid y traeth

Pibyddion y Tywod

Cyn troi i mewn i'r twyni dyma edrychyn fanylach ar haid o wylanod penwaiga chanfod fod un wylan gyffredin neuwylan y gweunydd yn eu mysg. Ynwahanol i wylan y penwaig mae honyn Ilai ei maint; mae ei Ilygaid yndywyll, y coesau'n felynwyrdd ac mae'rpig yn Ilai heb y smotyn coch arno. Ary tywod ymhellach i gyfeiriad MorfaBychan gwelwyd haid o filidowcars(15) yn ymestyn eu hadenydd

Wrth Iwybro drwy'r Ilaciau yng nghefny twyni codwyd chwe giach, ac 'roeddcorehedyddion y waun ymhobman.

Brian yn ymlwybro dros y twyni.

Codwyd tua phymtheg corhwyadenwrth nesu at y Ilyn, a syndod oeddgweld un gwydd Canada yn nofio yno.Mae'n debyg mai un ffug (ddisymud!)oedd hon, wedi ei gosod gan helwyr iddenu'r gwyddau yno.

Gwydd Canada ffug neu un go iawn?

Ar un o'r caeau amaethyddol cyfagosgwelsom oddeutu 15 cornchwiglen, acar gae arall haid arall o tua 70 gylfinir.

'Roedd cael dychwelyd i gysgod ycoed pin yn braf iawn ar ôl bod hebgysgod hyd at hynny. Rhyfedd oeddmeddwl fod cymaint o brysurdeb wedibod ar y twyni hyn yn ystod yr Ail RyfelByd. Bellach, mae bywyd gwyllt yn eiôl a'r amrywiaeth o blanhigion,mamaliaid ac adar yn uchel tu hwnt.Gwelsom ymysg mân adar y coedydd,haid o esgyll aur neu nicos. Argoeden, daethpwyd ar draws Gwas yNeidr a'i adenydd ar led, yn torheuloyng ngwres heulwen y prynhawn.

Dychwelwyd i'r maes parcio ar hydffyrdd concrid a osodwyd adeg y rhyfelwedi diwrnod arbennig yn nhwyniMorfa Harlech.

(Hoffwn ddiolch i Mr. Alun Jones,Fferm Glan y Môr am ei ganiatâd yngadael i'r Gymdeithas ymweldLlyn y Warin, ble nad oes mynediadi'r cyhoedd fel rheol. GOL.)

13

Page 14: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Adar Coedydd Llyn MairSadwrn, Tachwedd 15fed 2008.

Huw Dafydd Jones

A hithau'n fore gwlyb, annifyr, daeth criw da at ei gilydd i'w harwain ardaith gan Twm Elias ar garreg ei ddrws ym Mhlas Tan y Bwlch. Gangyfarfod yn y maes parcio ger Llyn Mair, 'roedd taith drwy'r coed derw atOrsaf Tan y Bwlch ar y lein fach cyn mynd ymlaen drwy'r coedyddconifferaidd ac yn ôl i'r Plas yn Nhan y Bwlch yn amlwg ei hap61...

Y criw yn ymgynnull ym maes parcio Llyn

Croesi'r ffordd yn gyntaf at lan LlynMair i weld pa adar oedd yn nofio'rwyneb. Digon tlawd oedd hi, hefodim ond ychydig hwyaid dof / croesger y lan, gyda thua chwe phâr ohwyaid gwylltion ymhellach allan ary Ilyn. 'Roedd tri cheiliog deryn du arobin goch yn y Ilwyni gwern ar lany Ilyn hefyd.

Ail groesi'r ffordd yn ôl i'r coed adringo'r Ilechwedd tuag at stesionTan y Bwlch a rhyfeddu panddywedodd Twm fod GwybedogBrith yn y canghennau. Buan ysylweddolwyd mai arwydd am ygoedlan dderw oedd y gwybedog!

Mantais mynd ar daith efo Twm ywyr wybodaeth a roddir ganddo amnatur yn gyffredinol yn y Ileoedd yrymwelir â hwy. Y tro hwndangosodd Ile y tyfai lysieuyn prin,sef ceo Ilabed yr ysgyfaint(lungwort, Lobaria pulmonaria).

Y gwybedog brith yng nghoedydd Llyn Mair

Digon prin oedd yr adar mân yn ycoedydd, ar wahân i'r titw mawr a'rtitw glas. Mae'n debyg i ni weldmwy o amrywiaeth wrth fwrdd adara chewyll bwydo mewn bwthyn asafai uwchlaw y stesion. Dilyn yffordd am Groesor am ychydig agweld dryw, dau ddryw eurben athitw penddu, cyn troi i'r chwith ac ilawr drwy'r coed pin. MewnIlannerch yn y coed adroddoddTwm iddo weld Gwalch Marth yno,yn disgyn o'i wylfan ar un o'r

14

Page 15: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

40141

VLIDDIRIEDOLAETH

nciturwiunirE TRUST

GOGLEDO CYMRUNORTH WALES

22ain lonawr 2009, 7:30 Galeri, Caernarfon

Achlysur a drefnwyd gan ac er buddYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Rhyfeddodau Byd Natur Cymrugan

lolo Williams

Sgwrs a Iluniau gan gyflwynydd naturamlycaf Cymru ar y teledu, ac un sy'n hoff owylio byd natur. Mae gwybodaeth eang loloam fyd natur Cymru a'i ddull unigryw oweithio wedi sicrhau ei fod wedi cael cyfle igyflwyno rhaglenni gyda'r cwmni teleduannibynnol, Telesgop, ar gyfer S4C, a sawlcyfres gyda BBC Wales, yn cynnwys WildWales, Wild Winter, lolo's Special Reserves,lolo's Natural History of Wales a'i gyfres yn2005, lolo's Welsh Safari.

Tocynnau £10.00 ac £8.00 am ostyngiadau

Cyflwynir yr achlysur hwn drwy gyfrwng y Gymraegond bydd gwasanaeth cyfieithu i'r Saesneg ar gael.

Frances CattanachCyfarwyddwraigYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

canghennau uchel i hela un o'rniferoedd o adar bychan a hedai ardraws y Ilannerch. Mae'r gwalchMarth hefyd, yn wahanol i Fwncath,yn medru hedfan ar 61 ei brae imewn i'r prysglwyn. Croesi'r ffordd`fawr' redai i'r Rhyd a Llanfrothen, agweld dau ddryw eurben arall.Ymlaen heibio Llyn Hafod y Llyn athrwy goed y Plas i Stablau'r Plasam ginio. Gwelwyd piod, brain,sguthanod, niferoedd o'r gwahanolditws a dringwr bach.

Mwynhau cinio yn y Stablau."Oes raid i ni fynd allan eto, Twm?"

Anodd iawn oedd ail gychwyn ar 61cael cinio yng nghysgod cynnes yStablau. Ar y ffordd yn 61 gwelwydsensor a chamera arbennig oeddwedi eu gosod i geisio tynnu IlunBele Goed petai'n cael ei ddenu atyr abwyd! Tybid mai taith ddigyffroyn (51 i'r maes parcio fyddai hon ondyn wir bu rhai yn ddigon ffodus iweld Bronwen y Dwr ym mhyllau'rafon a redai o Lyn Mair.

Bronwen y Dwr yn sefyll ar foncyff uwchun o'r pyllau

Ymhellach ymlaen ar hyd y Ilwybrdrwy'r coed heibio'r Ilyn, gwelwyd

Dringwr bach unwaith eto, ac arhen foncyff pydredig gwelwyd hendyllau crynion y gnocell fraith.

Tyllau crynion y gnocell

Digon annifyr oedd y tywydd a'rgolau yn annigonol ar gyfer tynnuIluniau. Er hyn, cafwyd diwrnoddifyr ymysg ein cyfeillion yngNghymdeithas Ted.

15

Page 16: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Adar Lwcus

Rhodri Dafydd

Pan ddaw'r gwanwyn, a fydd gennych wenoliaid yn nythu ar dalcen eichty tybed? Ydyach chi'n poeni am yr holl lanast meant yn ei greu? Welstopiwch boeni — oherwydd rydych yn frentiedig dros ben. Mae hyn, yn61 hen goel Gymreig, yn arwydd eich bod yn bobl Iwcus a bod y ty yn unIlawn hapusrwydd.

Ie, hen gred am wenoliaid yw eubod yn cael yn nythu o dan fargodty yn arwydd hynod o dda. Henaderyn Iwcus ydy'r wennol. Ceirhefyd goelion am wenoliaid ynhedfan yn uchel fel arwydd ohindda ar ei ffordd.

Yr hyn sy'n ddiddorol wrth gwrs ywfod nifer o'r arwyddion am adar'Iwcus' yn deillio neu yn cyfeiriomewn rhyw ffordd at dywydd ffafriolsydd ar ei ffordd. Y rhai amlycafwrth gwrs yw dywediadau megis:

16

Page 17: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

`Yr wylan fach adnebyddpan fo'n gyfnewid tywyddHi hed yn deg ar adain wenO'r môr i ben y mynydd'

Un arall yr adrodda Evan Isaacamdano yn ei lyfr `Coelion Cymru'(1938) yw:

`Dwy frân ar ben bore yn hedfan,A'r nyth yn y goedwig o'u hol;Cymylau a gollir o'r wybrenA gelwir pladuriau i'r ddôl.

Ond af i ddim i draethu ymhellachar arwyddion tywydd — mynnwchgopi o 'Am y Tywydd', (2008) ganTwm Elias am enghreifftiau lu oddywediadau a choelion tebyg!

Diddorol yw nodi fod Ilawer mwy ohanesion am adar fel arwyddion oanlwc nag a geir ohonynt fel Iwcdda — rwy'n sicr fod Ilawer ohonochy gyfarwydd a'r ofergoel fod dimond cael Ilun aderyn yn y ty ynddigon i ddod ag anffawd (yr adeghon o'r flwyddyn mae'n siwr fodacw nifer o gardiau `Dolig a IlunRobin arnynt?!). Ond mae yna raiadar eraill heblaw'r wennol sydd yncael eu hystyried yn Iwcus.

Adroddwyd eisoes yn LlygadBarcud 9 (Nadolig 2006) fod y drywbach a ddaliwyd ac a osodid mewnty bychan yn Iwcus i drigolion y taihynny yr ymwelid a hwy - ynenwedig felly os byddai pâr ifancoedd newydd briodi yn gobeithiocenhedlu llond ty o blant —(oherwydd wrth gwrs fod y dryw ynenwog am fagu nythaid dda ogywion yn bur rheolaidd!)

Aderyn a ystyriwyd yn un ffodus, ynnwyrain Ewrop ble mae'n gynhenid,yw'r Ciconia (stork). Os dewisa pâro'r adar hyn do eich ty fel safleaddas i nythu yna ystyrid hynny'n

fraint o'r mwya gan y doi yr adarhyn a Iwc dda gyda hwy. Fel ynachos y dryw cysylltid y 'Iwc' hwn affrwythlondeb hefyd, gan esgor ar ygred mai'r Ciconia sy'n cario babis ibawb o bobl y byd — delwedd awelir yn aml iawn mewn straeon achartwnau i blant. Mae'n dda caelesboniad diniwed o dro i droyndydy?!

A dyma ni unwaith eto yn dod atdeulu'r frân — os bu teulu yrhoddwyd enw drwg iddynt erioedwel y brain yw'r rheini! Gwyddomfod nifer o goelion yn deweud maiadar anlwcus ydynt, ond mae ynahefyd rai coelion s'n dweud ygallant ddod a Iwc, os cant eu trinyn iawn hynny yw!

Gall y bioden ddod a Iwc dda, ondmae'n rhaid ichi dynnu'ch het panwelwch hi — gwyliwch eich hun felarall! Rhaid dangos parch at yr henbioden `ma wyddoch chi!

Yn ei 'Casgliad o Len Gwerin SirGarfyrddin' (Parch DG Williams1886) ceir yr hanes canlynol ambeth a ddylid ei wneud i ddod a Iwcdda os gwelir pioden — sef gwneudarwydd croes ar y Ilawr Nch troed aphoeri ar ganol y groes.

Yn yr un casgliad dywedid os byddpioden yn croesi o'ch blaen o'rchwith i'r dde yna bydd Iwc dda iddilyn (ond os bydd yn croesi yffordd arall yna gwae chi! Yn yr unmodd, os coda pioden o'r ddaearneu o goeden o flaen rhywun ahedfan i'r dde, daw Iwc dda - ondIwc ddrwg os hedfana tua'r chwith.Cofnodwyd hyn yn benodol ynardal Llanwnog, Sir Drefaldwyn ganElias Owen (Welsh Folklore, 1896).

Ceid y canlynol yn Llén Gwerin SirGarfyrddin hefyd:

17

Page 18: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

`Os disgyn pioden ar fuwch tua'ramser y byddir yn troi da allan,arwydd dda yw, ni yrra'rperchennog hi ffwrdd, y syniad ywmai dod l dynnu'r chwilod syddweithiau ar gefnau'r gwartheg allany mae, ac arwydda hynny ffafrrhagluniaeth'— wel o leiaf mae hyn yn gwneudsynnwyr ecolegol yndydy?! (Sy'nfwy nag a ellir ei ddweud am raicoelion gwerin eraill mae'ndebyg...)

A dyma ddyfynnu D.G. Williamseto:`Dywed ambell un fod un frân yndynodi gofid, dwy llawennydd, tairpriodas, pedair angladd'

Mae'r hen ddywediad enwog arallhwnnw yn ategu rhan o'r uchod:`Dwy frân dduLwc dda i mi!'

Pam fod dwy frân yn Iwcus tybed?!Gallai casgliad mawr o frain hefydfod yn beth da — mae cael 'pentrebrain' (hynny yw haid o ydfrain) ynnythu ger y ty yn Iwc hynod o dda.

A wyddoch chi fod y Jac y do hefydyn aderyn Iwcus? Yn ôl Elias Owenyn y 'Welsh Folklore' (1896) yrheswm dros yr hen gred oeddoherwydd fod cynifer ohonynt ynarfer nythu mewn tyrau Eglwysi —golygai hyn na fynnai'r diafolwneud unpeth â hwy, a'u bod, felly,yn adar Duwiol.

Ond dyna ni ddigon am y brain amrwan. Beth am adar eraill Iwcus?

Wel, yn ôl rhai straeon, bydd bwytacig gwydd yn Iwcus, yn enwedig osgwneir hynny ar wyl Mihangel (y29ain o Fedi). Pe gwneid hynbyddarn-: golygu na fyddai'r un afyddai wedi bwyta cig yr wydd yn

gweld angen am fwyd nag ariangydol y flwyddyn ddilynol.

Fel y gwyddom, mae'r rhan fwyafo'r straeon sydd gennym yma yngNghymru am dylluanod yn cyfeirioatynt fel arwyddion o farwolaeth acanlwc. Onid y dylluan ydi'r 'aderyncorff' y byddai pobl cymaint o'uhofn ar un adeg?

Ond gallai'r dylluan fod yn aderyn addeuai a doethineb i bobl mewnamryw o wledydd yn Ewrop. Acystyriai rhai o Iwythau brodorolgogledd America hefyd fod i'rdyllan alluoedd i ragweld arhagfynegi Ilwyddiant mewnbrwydrau.

Yn wir, mae'n ddifyr nodi y dawnifer o adar yn symbolau a allaibroffwydo buddugoliaeth (neugolled) mewn amser o ryfel.

Yn Sgandinafia byddai'r gigfran yndarogan Iwc ag anlwc — ac o'idefnyddio ar eu baner ryfel, gallantragweld canlyniad y frwydr. Pebyddai'r faner yn chwifio yn y gwyntgan edrych fel pe bai'r aderyn ynfyw yna ceid buddugoliaeth yn sicr.Ond pe bai'r faner yn Ilipa, fel bod ygigfran yn ymddangos yn ddifywydyna ceid colledion enbyd.

Bu'r hen Geltiaid yng Nghâl ynaddoli ceiliogod fel rhan o gred yDuw Mercher (duw Rhyfel). Byddaiceiliog yn canu gyda'r wawr ynarwydd o Iwc gan ei fod yn cyfarchy dydd newydd a hyder ac yn cefnuar ofnau a thywyllwch y nos (amserperyglus yn ystod unrhyw frwydrwrth gwrs gan y gallai'r gelynymosod heb rybudd).

Mae'r hen goel bod y ceiliog ynaderyn Iwcus yn fyw heddiw yn

18

Page 19: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Ffrainc — welsoch chi'r logo hwn o'rblaen?

`Os bydd arian yn llogell un panglyw y gwcw gyntaf bydd arian ynei logell drwy y flwyddyn'

le, logo Undeb Rygbi Ffrainc wrthgwrs. Bydd ceiliog yn cael ei ollwngyn rhydd ar y cae cyn pob gé'mrygbi ryngwladol oni bydd? `Dwn iddim os bydd yr hen geiliog ynIwcus i dim rygbi Ffrainc ygwanwyn hwn chwaith, ymmhencampwriaeth y chwe gwlad,thim Cymru mor gryf - gobeithioddim ynte!

Ond gall y ceiliog fod yn Iwcus i ni'rCymry hefyd —

`Os can y ceiliog o flaen drws y tyyn y boreu gellir disgwyl rhywymwelydd y diwrnod hwnnw'ebe'r Parch D.G. Williams — pethda os ydych yn hoff o gwmni (ondefallai nid cystal os oeddech yngobeithio am ar foreSadwrn! Go drapio'r ceiliogswnllyd!)

Aderyn arall a all fod yn Iwcus(neu'n anlwcus, yn dibynnu ar eichsefyllfa pan glywch ef am y trocyntaf!) yw'r gog. Ys dywed yParch DG Williams (1886), eto:

Mae aml i ystyr i gân y gog cofiwch:

`Cynifer gwaith ag yr â y gog drosei chân y tro cyntaf y clywir hi syddo flynyddoedd gan yr un ai clyw iaros cyn priodi'

Lle byddai gweld neu glywedambell i aderyn tra'n wael ynarwydd o anlwc ar ddod, mae ungred yn bodoli am aderyn (neu oleiaf blu aderyn) yn gwneud ygwrthwyneb —

`Os rhoir plu colomen yng ngwelyclaf, yna ni fydd farw'.

Gwerth cadw llond Ilaw o blucolomen wrth law felly efallai, efo'rholl hanesion diweddar am y firws`nero' yma sy'n blagus yr adeg hono'r flwyddyn!

Un peth arall all godi calon rhywunyn ei waeledd ynghanol tywydd oera gwlyb y gaeaf, pan fo annwydacha ffliwiau yn rhemp yw edrychymlaen at y dydd yn ymestyn('Mestyn cam ceiliog cyn y Calan'yn 61yr hen ddywediad), ac at wresa heulwen y gwanwyn - sydd ar eiffordd yn rhywle!

Ydy hi braidd yn gynnar meddwlam hyn ym mis lonawr a Chwefrord'eudwch, a ninnau ynghanolgaeaf? Wel efallai ddim. Oherwyddmae'n debyg fod hen gred arall yngNghymru sef fod clywed titw yncanu unrhyw bryd yn Chwefror panfydd rhew ac eira o gwmpas ar yddaear yn arwydd fod y tywydd ardroi a fod gwanwyn braf a chynnesar ddod...a 'tydy Chwefror ddimmor bell a hynny i ffwrdd rwannacydy?!

19

Page 20: CYMEIAS E EEE OES - cymdeithastedbreezejones.org.uk Barcud... · Gwesya a a Ao Macae, a goso y ae e o y ws y ago a iiiés o yyoe eia. Miioe o o gwaw o wy ygo au ewioe, ac a y iiog,

Gweithqareddau Cvmdeithas Ted Breeze Jones (Ion. - Mawrth, 2009)

Nos Fawrth lonawr 20fedSeiat holi / noson gymdeithasolY Stablau, Plas Tan y Bwlch, 7.30y.h.

Dydd Sadwrn, lonawr 31ainTaith — Ardal y Foryd a Dinas DinlleDan arweiniad Rhodri Dafydd.Cyfarfod yn y maes parcio, Dinas Dinlle, 10.00y.b. (SH435 565)

Nos lau, Chwefror 12fedDarlith — Adar y Migneint, Rhys Jenkins, RSPBY Stablau, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog,7.30 y.h.

Dydd Sadwrn Chwefror 28ainTaith — Ardal Cricieth a Llan'stumdwyDan arweiniad Twm Elias.Cyfarfod ym maes parcio'r traeth, Cricieth, 10.00y.b. (SHSO6 381)

Penwythnos 13-15 MawrthCwrs — Penwythnos o wylio adar (ar y cyd a Chymdeithas Edward Llwyd)Plas Tan y Bwlch, Maentwrog.Ffoniwch y rhif isod am fanylion pellach a thelerau'r penwythnos. Mae'n bosib dod un aiyn breswyl neu yn ddibreswyl. (Ffoniwch 01766 772 600)

Dydd Sadwrn, Mawrth 28ainTaith — croesawu teloriaid helyg cynta'r tymorCyfarfod yn Ynys, Talsarnau, 10.00y.b. (SH600 355)

Atlas Adar 2007- 2011Bydd Cymdeithas Ted Breeze Jones yn parhau i gymryd rhan yn arolygon Atlas Adaryddol newyddy BTO yn ystod 2009. Mae croeso i bawb ymuno â ni ar ein teithiau i gymryd rhan yn y gwaithdiddorol a phwysig hwn. Bydd yn gyfle i rai ohonoch ddysgu sut mae arolygon o'r fath yn digwydd achewch weld fod y gwaith yn hwyl yn ogystal a bod yn ddefnyddiol! Bydd cofnodion yr adar a welwnar deithiau'r Gymdeithas yn cael eu hanfon i'r BTO fel rhan o'n cyfraniad tuag at yr Atlas Adar.

4bLACI

SNOWDONIANATIONAL PARK Plas Tan y Bwlch

Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri

Pob Ilwyddiant i

Gymdeithas Ted Breeze Jonesac i

LLYGAD BARCUD

Holwch am raglen o'r cyrsiau byd natur yr ydym yn eu cynnig,neu am ein darpariaeth i grwpiau / cymdeithasau ymweld gyda'r nos am bryd bwyd,

a thro rownd y gerddi

Am ragor o wybodaeth a rhaglen lawn ffoniwch: 01766 772600

20