14
Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 Rhif Elusen Gofrestredig: 1116774 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 05093332 www.cymorthcymru.org.uk

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Rhif Elusen Gofrestredig: 1116774

Rhif Cofrestru’r Cwmni: 05093332

www.cymorthcymru.org.uk

Page 2: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

2

Croeso i Adroddiad Blynyddol Cymorth Cymru ar gyfer 2014/15

Llythyr gan y Cadeirydd

Ewan Hilton

cysylltu • cryfhau • dylanwadu

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Mae hon wedi bod yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol iawn i Cymorth. Un o’r pethau allweddol y buon ni’n canolbwyntio arnynt oedd cynnal proses cynllunio strategol gyfranogol gyda’n haelodau ledled Cymru.Roedd hynny o gymorth i ‘adnewyddu diben’ y sefydliad er mwyn ymateb yn well i heriau’r hinsawdd ariannol anodd y cawn ein hunain ynddi, yn ogystal â manteisio ar y cyfleoedd pwysig i ‘wneud pethau’n wahanol’, fel bod pobl y mae angen cefnogaeth arnynt yn gallu dewis sut mae’r gefnogaeth honno’n cael ei darparu.

Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ac rydyn ni’n bendant ynghylch ein nod o fod yn sefydliad ‘sy’n cysylltu’, gan arwain meddylfryd ar draws y sector, a gweithio ar y cyd i feithrin partneriaethau effeithiol fel bod ein heffaith gronnol yn fwy fyth. Rydym wedi adnewyddu ein brand yn unol â’n gweledigaeth newydd, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd, a byddwn ni’n lansio gwefan lawer gwell a mwy rhyngweithiol yn gynnar yn 2015/16.

Eleni hefyd fe wnaethon ni gwblhau ein hadolygiad llywodraethu a rhoi ein Herthyglau Cymdeithasiad newydd ar waith. Ar ran Cymorth Cymru, carwn fynegi diolch diffuant i’r rhai oedd yn ymadael o Fwrdd Cymorth yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2014. Fe roesant wasanaeth gwerthfawr, cefnogol i’n Bwrdd dros flynyddoedd lawer: Angelina Rodriguez o BAWSO; Barry Gallagher o Drive; Chris Rutson o Gymdeithas Tai United Welsh; Elwen Roberts o Wasanaeth Cam-drin Domestig De Gwynedd; Liz Slade o Brosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe; Lynne Evans o Gymdeithas Tai Gogledd Cymru; a Shelagh Iles o Gymdeithas Tai’r Rhondda.

Yn 2015/16 byddwn ni’n cychwyn ar y broses o benodi ein pedwar Ymddiriedolwr Annibynnol cyntaf, gyda’r nod o wneud y penodiadau ym mis Ionawr 2016.

I grynhoi, rydym wedi ymrwymo o’r newydd i fod yn sefydliad aelodaeth a ddewisir gan ddarparwyr cymorth cysylltiedig â thai a gofal gwerth cymdeithasol yng Nghymru – gan fodelu llywodraethu da, natur agored, atebolrwydd a dull cyfeillgar, hawdd dod atom o gefnogi ein haelodau. Rydym yn cydnabod bod llu o heriau bob amser yn wynebu cyrff trydydd sector sy’n darparu cymorth, ac rwy’n hyderus y gall Cymorth ddefnyddio’i ddoniau, ei adnoddau a’i rwydwaith i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â’n haelodau wrth iddynt barhau i gael hyd i lwybr trwy gyfnod anodd.

Fel bob amser, rwy’n ddiolchgar i’m cyd-Ymddiriedolwyr, y staff a’r aelodau am eu cefnogaeth i Cymorth, a charwn ddiolch hefyd i’n Cyfarwyddwr am ei harweiniad i’r sefydliad. Edrychaf ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall.

Ewan Hilton Cadeirydd, Cymorth Cymru

I grynhoi, rydym wedi ymrwymo o’r newydd i fod yn sefydliad aelodaeth a ddewisir

gan ddarparwyr cymorth cysylltiedig â thai a gofal gwerth cymdeithasol yng Nghymru.

Page 3: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 3

cysylltu • cryfhau • dylanwadu

Mae’r adroddiad hwn yn gyfle defnyddiol i gymryd cam yn ôl a myfyrio ar y flwyddyn a aeth heibio, pan fu’r cyd-destun economaidd yn parhau i gael effaith arwyddocaol ar ein haelodau a’r bobl mae’n nhw’n eu cefnogi.Fel sefydliad, rydym wedi cael ein hadnewyddu a’n hailfywiogi gan ganlyniad ein proses cynllunio strategol, gan i ni dderbyn mandad clir gan ein haelodau i ganolbwyntio ar ein gwaith polisi, sef yr elfen sy’n fwyaf gwerthfawr iddyn nhw. Rydym ni’n falch iawn bod yr is-bennawd newydd a ddewiswyd gennym – Cysylltu, Cryfhau, Dylanwadu – yn crisialu hanfod ein gwaith, ac mae ein strategaeth a’n brandio newydd yn adlewyrchu ein hawydd i gefnogi a herio ein haelodau ar yr un pryd.

Gyda ffocws allanol cliriach sy’n cael ei ddeall a’i werthfawrogi’n well gan ein haelodau a’n rhanddeiliaid, rydym yn medru gwneud y penderfyniadau anodd ynghylch ble mae dyrannu ein hadnoddau mewn modd agored, tryloyw, sy’n glynu at ein gwerthoedd, gan gydnabod na fyddwn byth yn gallu gwneud popeth a ddymunem.

O safbwynt polisi, mae’r flwyddyn hon yn un pryd y bu Cymorth yn datblygu arweinyddiaeth weithredol mewn gwaith pwysig ar draws y sector – yn fwyaf nodedig yng nghyswllt monitro canlyniadau, a sicrhau bod lleisiau’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau i’r aelodau yn cael eu clywed yn glir ac yn dylanwadu ar ddyfodol y rhaglen Cefnogi Pobl. Rydyn ni’n dal i ymwneud yn agos â datblygu’r fframwaith deddfwriaeth newydd yng Nghymru – o ran tai a gofal cymdeithasol – ac rydym wedi parhau i eiriol yn egnïol ar ran ein haelodau fel eu bod mewn sefyllfa well i ymateb i anghenion y bobl maen nhw’n eu cefnogi, ym mha ffurf bynnag fydd fwyaf addas i’w cleientiaid.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi ffarwelio â rhai aelodau staff tymor hir o Cymorth: Mike Vigar, Lisa Noice, Nicola Evans a Karen Dronfield, aelod staff cyntaf Cymorth, a symudodd ymlaen wedi 11 mlynedd gyda’r sefydliad. Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonynt, a dymunwn yn dda iddynt at y dyfodol.

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom ni groesawu Richard Barningham (Hyfforddiant a Digwyddiadau), Oliver Townsend (Polisi), Lisa Pryce-Jones (Cyllid) yn ogystal â dau weinyddydd newydd, Owen Brown a Lowrie Walker-Smith, sydd ers hynny wedi symud ymlaen i feysydd newydd. Mae ein tîm yn dal i ganolbwyntio ar anghenion ein haelodau: rydym yn edrych allan, yn hyblyg, yn ddiwastraff ac yn gydlynus – ac yn gwneud yn fawr o’n cryfderau. O ganlyniad, roeddem wrth ein bodd wrth sicrhau ein hardystiad Buddsoddwyr mewn Pobl cyntaf gyda chlod uchel ym mis Medi 2014, a byddwn ni’n ceisio datblygu hynny ymhellach yn y blynyddoedd sy’n dod.

Auriol Miller Director

Llythyr gan y Cyfarwyddwr

Auriol Miller

Fel sefydliad, rydym wedi cael ein hadnewyddu a’n hailfywiogi gan ganlyniad ein proses cynllunio strategol, gan i ni dderbyn mandad clir gan ein haelodau i ganolbwyntio ar

ein gwaith polisi, sef yr elfen sy’n fwyaf gwerthfawr iddyn nhw.

Page 4: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/154

Cyflwyniad Uchafbwyntiau

2014/15Cymorth Cymru yw’r corff trosfwaol ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, cymorth cysylltiedig â thai a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ein haelodau’n cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol, gan reoli eu bywydau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain.

GweledigaethBod gan bob person yng Nghymru hawl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol, gan reoli eu bywydau eu hunain yn eu cartrefi eu hunain

CenhadaethCysylltu, cryfhau a dylanwadu ar ddarparwyr gwasanaeth, llunwyr polisi a phartneriaid er mwyn:

• Atal digartrefedd

• Gwella ansawdd bywyd a dewisiadau i’r bobl y mae ein haelodau’n eu cefnogi

cysylltu • cryfhau • dylanwadu

Hyfforddwyd dros 400 o bobl ar draws y sector

400

Cynhaliwyd 11 o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, gan ddenu mwy na 450 o lunwyr polisi a darparwyr

Hwyluswyd 20 o Fforymau Darparwyr Rhanbarthol yn 2014/15

Dros 3,600 o ddilynwyr ar Twitter

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect

Page 5: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 5

Uchafbwyntiau

2014/15Rhoddwyd sylw i Cymorth Cymru mewn 19 o gyfryngau printiedig, ar-lein a chyfryngau darlledu

Cynhaliwyd 5 ‘sioe deithiol’ Cymorth mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn ymgynghori â’r aelodau ar y Cynllun Strategol newydd

Mwy na 750 tweets o negeseuon trydar am yr ymgyrch Mae Bywyd yn Dechrau Gartref, a gyrhaeddodd 300,000+ o unigolion

Cynrychiolwyd aelodau Cymorth ar fwy na 22 o weithgorau a rhwydweithiau polisi

Rhannwyd astudiaethau achos 12 o aelodau gyda Llywodraeth Cymru

Cyflawnwyd ein dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl cyntaf. Cawsom ein canmol am ‘waith tîm trawiadol... staff cadarnhaol, ymroddedig ac angerddol... a chyfleoedd i weithio ar y cyd ac ar draws swyddogaethau’

Daeth mwy na 70 o gynigion i law gan 43 o sefydliadau ar gyfer y Gwobrau Hybu Annibyniaeth

Cefnogwyd dros 16 o grwpiau cleientiaid gan ein haelodau

Cefnogwyd dros 60,000 o bobl gan Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl

120+ o aelodau ledled Cymru

£

Page 6: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/156

Cyflawniadau

Yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Mawrth

cawson ni Hawl i Holi ‘go iawn’ – panel o bobl sydd wedi

defnyddio gwasanaethau yn gofyn cwestiynau i gynulleidfa o ymarferwyr a llunwyr polisi.

Page 7: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 7

Mae Cymorth yn cyflawni rôl ‘gysylltu’ allweddol, gan gysylltu’r aelodau â materion a dadleuon ehangach, cyfuno edafedd gwaith polisi ar draws gwahanol sectorau, ac ymarfer a hyrwyddo gwaith partneriaeth effeithiol.

Gwaith partneriaethYn 2014/15 daliwyd ati i feithrin a chryfhau ein perthnasoedd gyda phartneriaid allweddol ar draws y sector yng Nghymru, gan gynnwys Shelter Cymru, CIH, CHC, Tai Pawb, Cyngor ar Bopeth, Canolfan Gydweithredol Cymru, WCVA, Sefydliad Bevan ac eraill.

Ar hyd y flwyddyn fe wnaethon ni drefnu ymweliadau â gwasanaethau ein haelodau ar gyfer nifer o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad, gan ddarparu cyfleoedd i ddysgu am waith ein haelodau a chlywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac yn gosod gwerth arnynt.

Buom hefyd yn creu cysylltiadau rhwng ein haelodau a swyddogion awdurdodau lleol, aelodau etholedig, ac asiantaethau statudol eraill, ac yn cryfhau ein perthnasoedd ein hunain â sefydliadau academaidd a seiadau doethion er mwyn i ni fedru, gyda’n gilydd, ddarparu gwell tystiolaeth o effaith ein gwaith a gwella canlyniadau i’r bobl mae ein haelodau yn eu cefnogi.

Ymhellach oddi cartref, rydym wedi helpu i gryfhau partneriaeth o sefydliadau i’r digartref ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys Cymorth, Homeless Link, CHNI a Homeless Action Scotland. Mae’r grw^ p yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gymharu’r sefyllfa ar draws y Deyrnas Unedig, ac rydym wedi dechrau cynllunio ein prosiect cyntaf ar y cyd.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo partneriaethau ar draws y sector er mwyn sicrhau bod llais y sector digartrefedd a chymorth yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd Cyfarwyddwr Cymorth, Auriol Miller, yn rhan o’r grw^ p cynllunio ffurfiol ar gyfer cynhadledd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, gan helpu i sicrhau bod arweinydd ym maes tai yn cael llwyfan amlwg yn y digwyddiad.

Cynnwys Defnyddwyr GwasanaethRoedd cynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio a darparu ein gwasanaethau yn dal yn flaenoriaeth allweddol i’r sector yn 2014/15.

Roedd ein gwaith ar Fwrdd Partneriaeth Rhanddeiliaid Strategol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn galw am sicrhau bod lleisiau pobl sy’n cyrchu gwasanaethau Cefnogi Pobl yn cael eu clywed yn glir, a bod camau’n cael eu cymryd i symleiddio prosesau sy’n amharu ar eu cynnydd.

Buom yn hwyluso dau gyfarfod o Fwrdd Ymgynghorol Cenedlaethol Cefnogi Pobl yng ngogledd a de Cymru, fel rhan o’n hymdrechion i sicrhau bod barn ac awgrymiadau pobl yn cael gwrandawiad ac yn cael eu cymryd o ddifri. Mae’r hyn mae pobl wedi’i ddweud wrthym wedi cael dylanwad uniongyrchol ar weledigaeth ddiweddaraf a gwerthoedd y rhaglen Cefnogi Pobl ar draws y wlad.

Yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Mawrth cawson ni Hawl i Holi ‘go iawn’ – panel o bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau yn gofyn cwestiynau i gynulleidfa o ymarferwyr a llunwyr polisi. Bu’r digwyddiad hefyd yn arddangos nifer o weithdai llai a luniwyd ac a gyflwynwyd gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.

Cyflawniadau

cysylltu

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect

Rydym wedi parhau i hyrwyddo partneriaethau ar draws y sector er mwyn sicrhau bod llais y sector digartrefedd a chymorth yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

Page 8: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Mae Cymorth Cymru yn dal yn ymroddedig i gryfhau a herio’r sector.

YmgysylltuYn 2014/15 fe wnaethon ni gynnal proses gynllunio strategol, gan wrando ar ein haelodau ledled Cymru a defnyddio’u hadborth i lywio ein strategaeth newydd. Daliwyd ati hefyd i weithio ar y cyd â’n haelodau, a chynhaliwyd 5 ‘sioe deithiol’ ar draws y wlad i’n helpu i sicrhau bod eu profiadau’n llywio ein gwaith polisi.

Dyrannwyd portffolio o ryw 15 o aelod-sefydliadau i bob aelod o staff Cymorth. Mae’r fenter hon wedi cael derbyniad da, a bydd yn helpu i sicrhau llinellau cyfathrebu clir rhwng Cymorth a’n haelodau.

Cawsom ein canmol yn ein hasesiad Buddsoddwyr mewn Pobl cyntaf am ein gweithgareddau ymgysylltu oedd “wedi’u strwythuro’n dda, yn drefnus ac yn ystyrlon”, gyda dull gweithredu “cynhwysol, agored a thryloyw”.

HyfforddiantMae rhaglen hyfforddi Cymorth yn helpu ein haelodau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a deddfwriaeth, er mwyn medru darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Ymhlith y cyrsiau a gyflwynwyd yn 2014/15 roedd:

• Cyflwyniad i Gymorth Cysylltiedig â Thai• Cyfweliadau Symbylol• Ffiniau Personol a Phroffesiynol• Diogelu

DigwyddiadauFe wnaethon ni barhau i gynnig rhaglen amrywiol, arloesol o ddigwyddiadau, gan ganolbwyntio ar faterion polisi allweddol ar gyfer ein haelodau a’r sector ehangach. Yn 2014/15 fe wnaethon ni gynnal 11 o ddigwyddiadau, a denu cyfanswm o fwy na 450 i’w mynychu.

Cynhadledd FlynyddolMewn ymateb i gyni parhaus ac anghydraddoldeb cynyddol yn ein cymunedau, edrychodd Cynhadledd Flynyddol Cymorth Cymru 2015 ar sut gallwn ni ‘unioni’r fantol’ a

gwella bywydau pobl agored i niwed a rhai sydd ar y cyrion yng Nghymru. Bu’r digwyddiad yn canolbwyntio ar waith tlodi ac ataliaeth, a denodd 120 o bobl ar draws y sector. Ymhlith y siaradwyr roedd Syr Mansel Aylward a Dr Tracey Cooper o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sue Evans o ADSS Cymru, Dr Kerry Bailey o SPNAB ac Ian Shenstone o St Mungo’s Broadway. Roedd hefyd gynrychiolaeth gref o blith defnyddwyr gwasanaeth, ac arweiniwyd sawl sesiwn gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau.

Symposiwm Digartrefedd y Deyrnas UnedigDaeth ein Symposiwm Digartrefedd ym mis Hydref 2014 â siaradwyr ynghyd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i helpu awdurdodau lleol a darparwyr i baratoi ar gyfer gweithredu Deddf Tai (Cymru) 2014. Roedd rhaglen amrywiol yn cwmpasu pynciau oedd yn cynnwys gosodiadau cymdeithasol, atal digartrefedd ymhlith y rhai sy’n gadael gofal a diweddariadau polisi o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Briffiad Llety PenodedigWrth i ddiwygio lles ddal i symud ymlaen yn gyflym, fe wnaethon ni sicrhau bod newidiadau’n cael eu cyfleu’n eglur i’n haelodau i’w helpu i liniaru’r effeithiau. Bu ein briffiadau Llety Penodedig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr cefnogaeth ynghylch Budd-dal Tai yng nghyswllt llety â chymorth, ac yn cynnig cipolwg ar y cynlluniau posibl at y dyfodol ar gyfer Budd-dal Tai i lety â chymorth yng Nghymru.

Sicrhau bod Gwaith yn LlwyddoFel rhan o’n hymgyrch i greu’r cysylltiadau rhwng Cefnogi Pobl a Threchu Tlodi, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad Cyflogadwyedd i edrych ar sut gellir cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i symud i gyflogaeth ystyrlon a goresgyn y rhwystrau niferus i lwyddiant. Roedd y rhaglen yn cynnwys safbwyntiau darparwyr cymorth, cyflogwyr masnachol a phobl oedd yn derbyn gwasanaethau cefnogi.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/158

Cyflawniadau

cryfhau Yn 2014/15 fe wnaethon ni gynnal 11 o ddigwyddiadau, a denu cyfanswm o fwy na 450 i’w mynychu.

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect

“Cefais fy synnu gan wybodaeth yr hyfforddwr, a’i allu i esbonio pethau mewn ffordd syml. Hyfforddiant hynod bleserus!”

“Digwyddiad addysgiadol, a chyfle gwych i rannu arfer da.”

Page 9: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Uwch-gynhadledd Darparwyr GofalYm mis Tachwedd bu Cymorth Cymru, mewn partneriaeth â Fforwm Gofal Cymru, yn cynnal yr Uwch-gynhadledd Darparwyr Gofal gyntaf ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol a chefnogaeth ledled Cymru. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddarparwyr a llunwyr polisi ddod at ei gilydd ac archwilio’r materion allweddol mae’r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, gan gynnwys datblygiadau deddfwriaethol, diogelu a chomisiynu. Daeth mwy na 150 o bobl i’r uwch-gynhadledd, a’n bwriad yw ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol.

Codi proffil ein haelodauElfen allweddol o’n rôl yw cynyddu ymwybyddiaeth o waith ein haelodau a hwyluso rhannu arfer da.

Daliwyd ati i gasglu astudiaethau achos gan ein haelodau a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, mewn e-newyddlenni ac ar ein gwefan. Buom hefyd yn rhannu 12 o astudiaethau achos gan ein haelodau gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod cyflawniadau ein haelodau a manteision eu gwasanaethau yn cael eu cydnabod a’u deall yn eang.

Wrth gynnal sesiynau briffio a digwyddiadau, ein nod bob amser yw defnyddio arbenigedd o blith aelodau Cymorth. Yn 2014/15, roedd rhaglen pob digwyddiad yn cynnwys o leiaf un sesiwn yng ngofal aelod o Cymorth.

Gwobrau Hybu AnnibyniaethMae Gwobrau Hybu Annibyniaeth, a gynhelir ym mis Rhagfyr bob blwyddyn, yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Cymorth Cymru ac Awdurdodau Lleol Cymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas i gyflawni eu potensial a mwyafu eu hannibyniaeth. Denodd digwyddiad eleni fwy na 180 o bobl o bob rhan o’r sector a’r tu hwnt, a chyflwynwyd 12 o wobrau ar y noson.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 9

Enillwyr Gwobrau Hybu Annibyniaeth• Buddsoddi mewn Staff – Cymdeithas Tai Clwyd

Alyn – Cartref Gofal Chirk Court

• Atal Digartrefedd – Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – Gwasanaeth Atebion Tai Arbenigol i droseddwyr

• Cyfranogiad ac Ymrwymiad – Prosiect Dod o Hyd i’ch Dyfodol, Cymdeithas Tai y Rhondda

• Byw a Gofalu â Chymorth – Dimensions Cymru

• Arloeswyr – Prosiect Lesio Preswyl Calon

• Cyflogaeth, Hyfforddiant a Sgiliau – Cyflogaeth a Hyfforddiant Cyrenians Cyf.

• Arloesi mewn Technoleg – Mirus

• Rhoi Grym i Oroeswyr – Cymorth i Fenywod Sir Fynwy (WAIMON)

• Y Tîm Mwyaf Llwyddiannus – Cymdeithas Tai Clwyd Alyn – Cartref Gofal Plas Bod Llwyd

• Gweithio mewn Partneriaeth – Prosiect Cyrenians’ ReTreat

• Cyflawniad Personol – Lisa Pritchard, yn cael ei chefnogi gan Cadwyn

• Cydweithiwr Ysbrydoledig – Jonathan ‘Ozzy’ Aldridge, Y Wallich

Daeth ein Symposiwm Digartrefedd ym mis Hydref 2014 â siaradwyr ynghyd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Digwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig a diddorol.”

‘‘Yn sbarduno’r meddwl, yn llawn gwybodaeth, ac yn gyfle defnyddiol iawn i rwydweithio.”

Page 10: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Mae cynrychioli barn ein haelodau a dylanwadu ar ddatblygiad polisi a deddfwriaeth yn parhau’n ganolog i’n gweithgareddau.

Gwaith polisiRoedd 2014/15 yn flwyddyn bwysig o ran deddfwriaeth. Rhoddodd Cymorth dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ar Ddeddf Tai (Cymru), y Bil Rhentu Cartrefi, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a chynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chwarae rôl weithredol yng ngrw^ p rhanddeiliaid y Bil Rhentu Cartrefi.

Daliwyd ati i greu cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd polisi. Ym mis Chwefror, yn sgîl gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru, bu Cymorth yn cadeirio cynhadledd traws-sector ar dai, iechyd a gofal cymdeithasol i garcharorion. Rydym hefyd wedi cryfhau’r cysylltiadau ag agenda Trechu Tlodi, gan ddysgu gwersi allweddol ynghylch mesur canlyniadau a fframweithiau canlyniadau ar y cyd.

Gofal CymdeithasolMae Cymorth wedi ymweud yn sylweddol â datblygu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rhoesom dystiolaeth wrth i’r ddeddfwriaeth gael ei datblygu, a buom yn chwarae rhan bwysig yn y Grwpiau Technegol oedd yn gweithio i weithredu’r Ddeddf. Buom hefyd yn helpu i ddylanwadu ar sut mae darparwyr gofal gwerth cymdeithasol yn ymgysylltu â’r Ddeddf newydd, ac yn cynrychioli buddiannau darparwyr yn Fforwm Genedlaethol y Darparwyr Gofal.

Bydd y gwaith hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa gadarn y flwyddyn nesaf wrth i ni geisio datblygu ein rôl fel corff cynrychioliadol i ddarparwyr gofal gwerth cymdeithasol yng Nghymru.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/1510

Mae Cymorth wedi ymweud yn sylweddol â datblygu a gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Rydym hefyd wedi cryfhau’r cysylltiadau ag agenda Trechu Tlodi, gan ddysgu gwersi allweddol ynghylch mesur canlyniadau a fframweithiau canlyniadau ar y cyd.

Cyflawniadau

connect • strengthen • influence

strengthen influenceconnect dylanwadu

Page 11: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Cefnogi PoblYn ystod 2014/15 daliwyd ati i chwarae rôl hanfodol yn y rhaglen Cefnogi Pobl – yn arbennig ym maes canlyniadau a darparu tystiolaeth o effaith.

Gan weithio gyda Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl fe wnaethon ni gynhyrchu argymhellion ar gyfer y fframwaith canlyniadau, yn ogystal â mynd ati i gadeirio’r Grw^ p Llywio Ymchwil a Gwerthuso. Rhoesom gyfle hefyd i dri chynrychiolydd o aelod-sefydliadau gyfrannu a rhoi mewnbwn i Grw^ p Data Canlyniadau Cefnogi Pobl, gan arwain meddylfryd a bod yn fodd i wirio beth sy’n wir yn gweithio.

Gadewch i ni Barhau i Gefnogi PoblYm mis Mawrth fe fuon ni’n gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Cymunedol Cymru i lansio ymgyrch ‘Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl’. Nod yr ymgyrch yw cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision Cefnogi Pobl a lobïo o blaid parhau i amddiffyn y rhaglen. Ar drothwy 2015/16, rhoddwyd hwb pellach i weithgareddau’r ymgyrch, a chynhaliwyd lansiad swyddogol yn y Senedd ym mis Mai.

Ein RhwydweithiauElfen allweddol o’n gwaith yw cyfranogi mewn gweithgorau, rhwydweithiau polisi a mentrau. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod barn ein haelodau’n cael ei hadlewyrchu ar bob lefel ac ar draws yr holl faterion cysylltiedig.

Fel rhan o’n gwaith ar yr agenda Trechu Tlodi, rydyn ni’n cyfranogi yng Ngrw^ p Ymgynghorol yr Adran Gwaith a Phensiynau – adolygiad a gomisiynwyd o dai â chymorth ar draws y Deyrnas Unedig. Buom hefyd yn cyfranogi ym Mwrdd Partneriaeth Rhanddeiliaid Strategol yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch effaith diwygio lles ar y bobl mae ein haelodau’n eu cefnogi.

Mae rhestr lawn o’r rhwydweithiau a’r grwpiau rydyn ni’n ymwneud â nhw i’w gweld ar ein gwefan: www.cymorthcymru.org.uk

Cynyddu ymwybyddiaethMae Bywyd yn Dechrau GartrefEleni, fe aethon ni â’n hymgyrch flynyddol ‘Mae Bywyd yn Dechrau Gartref’ i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ymgyrch yn amlygu’r rhesymau pam gall pobl gael eu hunain yn ddigartref, ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael i helpu yng Nghymru. Gofynnwyd i bobl nodi beth yw ystyr cartref iddyn nhw, tynnu ffotograff a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #lifebeginsathome. Bu dros 250 o bobl yn cymryd rhan – gan gynnwys pobl sy’n cael eu cefnogi – gyda mwy na 750 o negeseuon trydar a chyfryngau cymdeithasol oedd yn cyrraedd dros 300,000 o bobl.

Gwaith cyfryngauYn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i sicrhau proffil amlycach yn y cyfryngau, gan gynyddu ymwybyddiaeth o’r sector a’r heriau mae’n eu hwynebu. Mae ein sylwadau ar ddigartrefedd, Deddf Tai (Cymru), a’r Rhaglen Cefnogi Pobl wedi derbyn sylw mewn cyfryngau print, ar-lein a darlledu, gan gynnwys Inside Housing, bbc.co.uk, BBC Radio Cymru ac S4C.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 11

Mae ein sylwadau ar ddigartrefedd, Deddf Tai (Cymru), a’r Rhaglen Cefnogi Pobl wedi derbyn sylw mewn cyfryngau print, ar-lein a darlledu.

Page 12: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Yn sgîl toriadau pellach i wariant cyhoeddus a newidiadau parhaus i ddeddfwriaeth, ymddengys y bydd 2015/16 yn flwyddyn heriol i Cymorth a’n haelodau. Fodd bynnag, mae cyfleoedd hefyd i gydweithio a gwneud pethau’n wahanol er mwyn gwella canlyniadau i’r bobl mae ein haelodau’n eu cefnogi.Wrth i ni symud i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd, byddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â’n haelodau, llunwyr polisi a phartneriaid i leihau digartrefedd a gwella ansawdd bywyd i bobl agored i niwed yng Nghymru.

• Rydyn ni’n ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn, gan ddarparu tystiolaeth glir o’i heffaith fel rhaglen ataliol allweddol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau ar draws y llywodraeth. Gyda’r nod hwn mewn golwg, byddwn ni’n parhau i weithredu fel partneriaid i Cartrefi Cymunedol Cymru yn yr ymgyrch ‘Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl’. Gallwch chi ddilyn yr ymgyrch ar Twitter drwy ddefnyddio #supportingpeoplewales.

• O ystyried effeithiau bygythiol diwygio lles, byddwn ni’n ailgychwyn cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer grwpiau diddordeb arbennig – bydd y cyntaf o’r rhain yn canolbwynio ar Anableddau.

• Ein nod fydd datblygu ein capasiti ymchwil trwy wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau ymchwil perthnasol. Ochr yn ochr â hyn, byddwn ni’n datblygu ein capasiti i gynhyrchu ‘gwaith i gnoi cil arno’, sy’n ysgogi trafodaeth ar faterion allweddol i’n haelodau.

• Rydyn ni’n dal i ymwneud â’r Grw^ p Ymgynghorol ar Iechyd Pobl Ddigartref a gynullwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac yn 2015/16 byddwn ni’n gweithio gyda nhw i gynllunio a chefnogi cyfnod nesaf y gweithredu a’r monitro ar HavGHAPS mewn byrddau iechyd.

• Ym mis Medi byddwn ni’n cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru i ddod yn gorff cynrychioliadol cydnabyddedig ar gyfer darparwyr gofal gwerth cymdeithasol yng Nghymru.

• Wrth i ni symud ymhellach i faes gofal cymdeithasol, byddwn ni’n gweithio i sicrhau bod lleisiau ac arbenigedd ein haelodau yn cael eu gwerthfawrogi mewn gweithgorau lefel uchel sy’n canolbwyntio ar drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru.

• Yn ystod 2015/16 bydd Rough Sleepers Cymru yn cael ei ‘ail-lansio’, gyda ffocws o’r newydd a blaenoriaethau clir ar gyfer y flwyddyn sy’n dod. Bydd Cymorth yn parhau i gefnogi’r rhwydwaith er mwyn sicrhau bod lleisiau’r rhai sy’n cysgu allan yng Nghymru yn cael eu clywed, yn cael gwrandawiad, a bod gweithredu yn sgîl hynny.

• Ym mis Ionawr 2016 byddwn ni’n cynnal ein Harolwg blynyddol cyntaf o Foddhad yr Aelodau, er mwyn sicrhau ein bod yn ymateb yn llawn i anghenion ein haelodau, ac i’n helpu i ganfod unrhyw feysydd y gallwn eu datblygu er mwyn cynnig gwerth ychwanegol iddynt.

• Yn gynnar yn 2015/16 byddwn ni’n lansio gwefan newydd Cymorth Cymru fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth, yn fwy rhyngweithiol ac yn haws ei defnyddio.

• Byddwn ni’n datblygu gwasanaeth ymgynghorol wedi’i deilwra, yn arbennig ar gyfer ein haelodau llai na fyddant o reidrwydd yn gallu manteisio ar yr un adnoddau â chyrff mwy o faint.

• Yn unol â’n Herthyglau Cymdeithasiad newydd byddwn ni’n recriwtio ein Hymddiriedolwyr Annibynnol cyntaf.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/1512

Edrych ymlaencysylltu • cryfhau • dylanwadu

Yn gynnar yn 2015/16 byddwn ni’n lansio gwefan newydd Cymorth Cymru fydd yn cynnwys mwy o wybodaeth, yn fwy rhyngweithiol ac yn haws ei defnyddio.

Page 13: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Mae’r ffigurau isod wedi eu cymryd o ddatganiadau llawn archwiliedig Cymorth Cymru am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2015, a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 23 Medi 2015 ac a gyflwynwyd i’r Comisiwn Elusennau ac i Gofrestrydd y Cwmnïau. Mae’r archwilwyr, Watts Gregory LLP, yr oedd eu barn heb ei newid, wedi cadarnhau bod y crynodeb hwn yn gyson â’r adroddiad llawn.

Mae’n bosibl na fydd y crynodeb hwn o’r cyfrifon yn cynnwys digon o wybodaeth i ganiatáu dealltwriaeth lawn o faterion ariannol yr Elusen. Am ragor o wybodaeth, dylid ymgynghori â’r cyfrifon llawn, adroddiad yr archwilwyr ar y cyfrifon hynny, ac adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolwyr; gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy gysylltu â Cymorth Cymru, Ty^ Norbury, Heol Norbury, y Tyllgoed, Caerdydd CF5 3AS.

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15 13

Datganiadau Ariannol

cysylltu • cryfhau • dylanwadu

2015 2014£ £

Asedau Sefydlog 5,704 889 Dyledwyr - yr hyn sy’n ddyledus i’r elusen oddi wrth:Dyledwyr grant a rhagdaliadau 111,592 79,535 Arian, sef symiau arian sydd yn y banc ac mewn llaw 146,502 231,005

263,798 311,429

Llai: Yr hyn sy’n ddyledus gan yr elusenCyllid a Thollau EM (5,077) (7,558) Cyflenwyr a chredydwyr eraill (21,122) (52,845)

(26,199) (60,403)

Yn gadael yr hyn mae’r elusen yn berchen arno £237,599 £251,026

Sut y crëwyd hyn::Drwy gronfeydd cyfyngedig - 1,284 Drwy gronfeydd digyfyngiad: Cronfeydd dynodedig 89,671 51,671 Cronfeydd cyffredinol 147,928 198,071

£237,599 £251,026

Gweithrediadau Blynyddol: O ble daeth ein arian:Cronfeydd Cronfeydd 2015 2014

Digyfyngiad Cyfyngedig Cyfanswm Cyfanswm

Adnoddau sy’n dod i mewn o weithgareddau elusennol 367,883 24,250 392,133 419,398 Incwm buddsoddi 380 - 380 434 Adnoddau eraill sy’n dod i mewn - - - -

368,263 24,250 392,513 419,832

Llai: Gwariant sy’n gysylltiedig â darpariaeth gwasanaethau elusennol”

380,406

25,534

405,940 422,641

Adnoddau sy’n dod i mewn net (12,143) (1,284) (13,427) (2,809)

Cyfanswm y cronfeydd a ddygwyd ymlaen 249,742 1,284 251,026 253,835

Cyfanswm y cronfeydd a ddygwyd ymlaen £ 237,599 £ - £ 237,599 £ 251,026

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol gan yr Ymddiriedolwyr ac fe’u harwyddwyd ar eu rhan gan Ewan Hilton (Cadeirydd).

Page 14: Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/15

Alan NuttCarrick CreativeCartrefi Cymoedd MerthyrCIH CymruCreoCymdeithas Tai Clwyd Alyn Cymdeithas Tai Gogledd CymruCymdeithas Tai RhonddaCymorth i Ferched CymruDigartref Ynys MônGeldardsGofalGrw^ p Cartrefi Cymunedol Cymru

Grw^ p GwaliaLlwyodraeth CymruPractice SolutionsPrifysgol CaerdyddPro-CopyShelter CymruTai PawbTamsin StirlingTPAS CymruUnited Welsh Working LinksY Brifysgol Agored CymruYmddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Diolch hefyd i:

CaisGwasanaeth Cam-drin Domestig AberconwyGwesty Copthorne Gwesty Radisson Blu Ikon CreativeMedia Resource CentrePrifysgol Metropolitan CaerdyddStadiwm Dinas CaerdyddWatts Gregory LLP

Cymorth Cymru Adroddiad Blynyddol 2014/1514

Diolch!

cysylltu • cryfhau • dylanwadu

Sut yr ariannwyd ein gweithgareddau Cyfanswm y diffyg cyffredinol net am y flwyddyn oedd £13,427. Y diffyg ar gronfeydd anghyfyngedig oedd £12,143.Ar 31 Mawrth 2015 roedd gan yr elusen gronfeydd anghyfyngedig gwerth £237,599. Mae’r bwrdd wedi clustnodi’r swm o £89,671 ar gyfer pwrpasau penodol, gan adael £147,928 ym mantolen y gronfa gyffredinol.

A chymryd llyfrwerth net yr asedau sefydlog i ystyriaeth, mae gan yr elusen gronfeydd rhydd gwerth £142,224.

Cost y gweithgareddau Elusennol yn ôl math Aelodaeth – 20%

Ymchwil, Polisi ac Ymarfer – 33%

Hyfforddiant a Digwyddiadau – 39%

Llywodraethu – 7%

Gwasanaethau ymgynghoriaeth – 1%

£

£

Cyllid Cymorth Cymru

Gweithgareddau elusennol

Gronfeydd Rhydd £142,224

Asedau Sefydlog £5,704

Pwrpasau Penodol £89,671

Ymchwil, Polisi ac Ymarfer

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Aelodaeth

Llywodraethu

Gwasanaethau ymgynghoriaeth

Hoffem ddiolch yn benodol i’r noddwyr a’r partneriaid ca nlynol a m eu cymorth eleni:

cysylltu • cryfhau • dylanwadu