6
www.gwyneddbusnes. net 01 Mae busnesau Gwynedd yn ffynnu gyda chymorth grant gan y Gronfa Buddsoddiad Lleol (LIF). Dangosir rhai o’u prif lwyddiannau yma. Cwmni teuluol yw GL Jones Playgrounds Cyf o Fethesda sy’n gwerthu eu cynnyrch yn fyd-eang. Hefin Jones a sefydlodd y cwmni gyda’i ddau frawd ym 1978 ac ef sy’n ei redeg. Prosiect diweddaraf y cwmni oedd darparu cylchfan arbennig AbilityWhirl i ddinas Bunbury, ger Perth yng Ngorllewin Awstralia. Syniad Hefin ei hun oedd AbilityWhirl sydd eisioes wedi ennill gwobr. Ac yntau’n dad i chwech o blant, gosododd y dasg iddo ei hun o greu ffordd ddiogel i rai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn gael hwyl ochr yn ochr â phlant mwy abl. Mae’r llwyfan chwarae hwn yn cael ei ystyried yn garreg filltir wirioneddol ym maes chwarae rhydd. Meddai Hefin: “Diolch i’r grant, rydym erbyn hyn yn gallu cyfathrebu’n electronig rhwng y gwahanol adrannau er mwyn symleiddio’r prosesau - dilyniant pwysig wrth inni ymgymryd â phrosiectau mwy.” Mae Cambrian Park and Leisure Homes Porthmadog yn gwyrdroi’r duedd genedlaethol drwy barhau i ehangu eu busnes. Mae’r cwmni, sy’n cynhyrchu cartrefi parc a chartrefi hamdden moethus ac sydd hefyd wedi mentro i faes cynllunio a chynhyrchu ceginau, wedi gwneud defnydd da o’r cymorth grant, yn cynnwys cyfraniad sylweddol gan LIF. Maent yn cyflogi tua 94 o bobl yn yr ardal, gyda phedwar o weithwyr newydd wedi cychwyn ym mis Gorffennaf. Mae Richard Watson, cydberchennog ar Cambrian gyda’i wraig Esme, yn pwysleisio pwysigrwydd LIF. Meddai: “Diolch i hyn a chymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ymysg eraill, rydym wedi gallu cyflogi aelodau newydd o staff ac ehangu’r busnes yn sylweddol.” Mae tafarn leol Glan Yr Afon ym mhentref Pennal yn bwriadu cael ei chydnabod fel un o brif fwytai’r ardal. Mae’r perchnogion, Glyn a Corina Davies, newydd brynu gwesty cyfagos, sef Brynawel, a byddant yn paratoi’r arlwyo yng Nglan Yr Afon. Defnyddiwyd y cymorth gan LIF i brynu dodrefn ystafell fwyta, ynghyd â pheiriant coffi arbenigol ac oergell i ddal gwin. Meddai Corina: “Roedd yn gymorth sylweddol iawn at ein buddsoddiad enfawr yn y gwesty yn gyffredinol. Roedd yn caniatáu inni barhau i gyflogi ein staff ac erbyn hyn mae gennym 8 gweithiwr llawn amser a 15 rhan amser. Byddem yn annog busnesau eraill i edrych ar yr hyn sydd ar gael.” Gweinyddir menter LIF sy’n cynorthwyo busnesau lleol i ddatblygu a ffynnu drwy gymorth grant ar gyfer prosiectau cyfalaf gan Gyngor Gwynedd. Meddai John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae oddeutu £600,000 eisoes wedi eu hymrwymo i’r cynllun ac rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n busnesau lleol yn ystod cyfnod heriol fel hwn.” Bwriedir y grant ar gyfer cynorthwyo busnesau drwy hyrwyddo twf, creu neu gynnal swyddi, annog cystadleuaeth, sicrhau cynaladwyedd a sbarduno buddsoddiad i’r dyfodol. Mae cymorth ar gael i gyflwyno cynnyrch a gwasanaethau newydd neu i ddatblygu marchnadoedd newydd, ynghyd â chefnogaeth i sectorau diwydiannol allweddol. Mae LIF, sy’n cael ei ariannu’n rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yn becyn o gymorth ariannol hyblyg i gynorthwyo busnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes drwy gynnig grantiau cyfalaf. Mae’r cynllun yn rhoi hyd at 40% o arian ar gyfer prosiectau cymwys, ym mhedair sir gogledd orllewin Cymru. Cysylltwch â: (01286) 679231 neu [email protected] www.lifcymru.co.uk Cymorth Grant yn Rhoi Hwb i Fusnesau Gwynedd Hefin gyda’i wyrion Medi, Osian (chwith), a Jac Richard ac Esme Watson Corina a Glyn Davies Rhifyn 6, Hydref 2012 RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD

Cymorth Grant yn Rhoi Hwb i Fusnesau GwyneddHefin gyda’i wyrion Medi, Osian (chwith), a Jac Richard ac Esme Watson Corina a Glyn Davies Rhifyn 6, Hydref 2012 Rhwydwaith Busnes Gwynedd

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • www.gwyneddbusnes. net 01

    Mae busnesau Gwynedd yn ffynnu gyda chymorth grant gan y Gronfa Buddsoddiad Lleol (LIF). Dangosir rhai o’u prif lwyddiannau yma.

    Cwmni teuluol yw GL Jones Playgrounds Cyf o Fethesda sy’n gwerthu eu cynnyrch yn fyd-eang. Hefin Jones a sefydlodd y cwmni gyda’i ddau frawd ym 1978 ac ef sy’n ei redeg.

    Prosiect diweddaraf y cwmni oedd darparu cylchfan arbennig AbilityWhirl i ddinas Bunbury, ger Perth yng NgorllewinAwstralia.

    Syniad Hefin ei hun oedd AbilityWhirl sydd eisioes wedi ennill gwobr. Ac yntau’n dad i chwech o blant, gosododd y dasg iddo ei hun o greu ffordd ddiogel i rai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn gael hwyl ochr yn ochr â phlant mwy abl.

    Mae’r llwyfan chwarae hwn yn cael ei ystyried yn garreg filltir wirioneddol ym maes chwarae rhydd. Meddai Hefin: “Diolch i’r grant, rydym erbyn hyn yn gallu cyfathrebu’n electronig rhwng y gwahanol adrannau er mwyn symleiddio’r prosesau - dilyniant pwysig wrth inni ymgymryd â phrosiectau mwy.”

    Mae Cambrian Park and Leisure Homes Porthmadog yn gwyrdroi’r duedd genedlaethol drwy barhau i ehangu eu busnes. Mae’r cwmni, sy’n cynhyrchu cartrefi parc a chartrefi hamdden moethus ac sydd hefyd wedi mentro i faes cynllunio a chynhyrchu ceginau, wedi gwneud defnydd da o’r cymorth grant, yn cynnwys cyfraniad sylweddol gan LIF. Maent yn cyflogi tua 94 o boblyn yr ardal, gyda phedwar o weithwyr newydd wedi cychwyn ym mis Gorffennaf.

    Mae Richard Watson, cydberchennog ar Cambrian gyda’i wraig Esme, yn pwysleisio pwysigrwydd LIF. Meddai: “Diolch i hyn a chymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ymysg eraill, rydym wedi gallu cyflogi aelodau newydd o staff ac ehangu’r busnes yn sylweddol.”

    Mae tafarn leol Glan Yr Afon ym mhentref Pennal yn bwriadu cael ei chydnabod fel un o brif fwytai’r ardal. Mae’r perchnogion, Glyn a Corina Davies, newydd brynu gwesty cyfagos, sef Brynawel, a byddant yn paratoi’r arlwyo yng Nglan Yr Afon.

    Defnyddiwyd y cymorth gan LIF i brynu dodrefn ystafell fwyta, ynghyd â pheiriant coffi arbenigol ac oergell i ddal gwin. Meddai Corina: “Roedd yn gymorth sylweddol iawn at ein buddsoddiad enfawr yn y gwesty yn gyffredinol. Roedd yn caniatáu inni barhau i gyflogi ein staff ac erbyn hyn mae gennym 8

    gweithiwr llawn amser a 15 rhan amser. Byddem yn annog busnesau eraill i edrych ar yr hyn sydd ar gael.”

    Gweinyddir menter LIF sy’n cynorthwyo busnesau lleol i ddatblygu a ffynnu drwy gymorth grant ar gyfer prosiectau cyfalaf gan Gyngor Gwynedd. Meddai John Wynn Jones, Arweinydd Portffolio Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae oddeutu £600,000 eisoes wedi eu hymrwymo i’r cynllun ac rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n busnesau lleol yn ystod cyfnod heriol fel hwn.”

    Bwriedir y grant ar gyfer cynorthwyo busnesau drwy hyrwyddo twf, creu neu gynnal swyddi, annog cystadleuaeth, sicrhau cynaladwyedd a sbarduno buddsoddiad i’r dyfodol. Mae cymorth ar gael i gyflwyno cynnyrch a gwasanaethau newydd neu i ddatblygu marchnadoedd newydd, ynghyd â chefnogaeth i sectorau diwydiannol allweddol.

    Mae LIF, sy’n cael ei ariannu’n rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yn becyn o gymorth ariannol hyblyg i gynorthwyo busnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes drwy gynnig grantiau cyfalaf. Mae’r cynllun yn rhoi hyd at 40% o arian ar gyfer prosiectau cymwys, ym mhedair

    sir gogledd orllewin Cymru.

    Cysylltwch â: (01286) 679231 neu [email protected] www.lifcymru.co.uk

    Cymorth Grant yn Rhoi Hwb i Fusnesau Gwynedd

    Hefin gyda’i wyrion Medi, Osian (chwith), a Jac

    Richard ac Esme Watson

    Corina a Glyn Davies

    Rhifyn 6, Hydref 2012

    Rhwydwaith Busnes Gwynedd

  • www.gwyneddbusnes. net02

    Busnesau Gwynedd yn hyrwyddo Cymraeg yn y GweithleMynychodd mwy na 50 o gynrychiolwyr o fusnesau yng Ngwynedd seminarau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gweithle. Daw’r newydd hwn o Adroddiad Blynyddol hunaniaith, partneriaeth o gyrff sector cyhoeddus sy’n ffurfio strwythur i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd hunaniaith i ganolbwyntio ar strategaeth gynhwysfawr i hyrwyddo’r iaith yn yr ardal, a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a sefydliadau eraill i’r diben hwn.

    Yn dilyn un o’u prif themâu, Gweithleoedd Dwyieithog, cynhaliwyd nifer o brosiectau yn ystod y cyfnod 2011 - 12 yn cynnwys:

    Seminar yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gweithle dan arweiniad Cadeirydd hunaniaith, Walis George, gyda 51 o fynychwyr •yn cynrychioli o leiaf 21 gweithleCwrs Academi Sgiliau Cymreig i Reolwyr, a fwriadwyd i godi hyder a hyfedredd rheolwyr sy’n siarad Cymraeg, er mwyn iddynt •ddefnyddio mwy ar yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Mynychwyd y cwrs gan 13 o reolwyrRhaglen hyfforddi i greu “Pencampwyr yr Iaith Gymraeg” yng Nghanolfannau Hamdden Gwynedd, gyda 25 o bobl o bedair sir •yn mynychuYmchwil i’r ffordd orau o hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yng nghyd-destun twristiaeth•

    Cred hunaniaith fod y gweithle yn hanfodol bwysig o ran rhoi cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a chefnogi’r staff yn eu hymdrechion i wneud hynny. Mae gan fusnesau rôl allweddol i’w chwarae wrth ddarparu amrediad o wasanaethau yn y Gymraeg, gan annog cwsmeriaid i ddefnyddio’r iaith, a chodi proffil yr iaith.

    I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: [email protected]

    Ailgylchu Olew Coginio yng NgwyneddMae John Nicholson, gŵr busnes o Fangor, yn pryderu am gystadleuaeth gan gynllun Cyngor Gwynedd i ailgylchu olew coginio. Meddai, Nicholson, sy’n rhedeg gwasanaeth cyflenwi olew coginio newydd a chasglu’r gwastraff o dai bwyta

    yng Nghonwy, Gogledd Gwynedd ac Ynys Môn fel rhan o rwydwaith Bio-Power yn y DU:

    “Yn fy marn i, mae’n gwbl anghywir fod awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar arian cyhoeddus er mwyn cystadlu â mentrau preifat.”

    Ychwanegodd Nicholson: “Mae hyn yn wastraff o adnoddau cyhoeddus ac mae’n llesteirio datblygiad economi leol sefydlog. Petai fforwm neu fan cyfarfod lleol yn bodoli i bawb sy’n gweithio yn y sector hwn byddai hynny’n cynorthwyo i optimeiddio’r buddion economaidd a ddeilliai o gasglu ac ailbrosesu gwastraff lleol yn effeithiol.”

    Dyma ymateb siaradwr ar ran y Cyngor:

    “Bydd cynllun Cyngor Gwynedd yn cael cynwysyddion yn y canolfannau ailgylchu i gael gwared o olew coginio. Dyfarnwyd grant i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru i gasglu olew llysiau gwastraff. Bydd cynwysyddion arbennig yn cael eu gosod ym mhob canolfan ailgylchu i gael gwared o olew coginio o gartrefi. Mae’n bwysig ein bod yn gofalu fod cymaint o wastraff ag sydd bosib unai’n cael ei ailddefnyddio / ailgylchu neu ei gompostio er mwyn cwrdd â’r targedau statudol. Bydd rhaid cyrraedd y targed nesaf o 52% erbyn mis Mawrth 2013.

    “Yn ddiweddar estynnodd Gyngor Gwynedd dendr ar gyfer casglu a thrin olew coginio gwastraff, gan gynnig cyfle arall i fusnesau lleol gydweithio â’r Cyngor.”

    www.bio-power.co.uk

    http://tinyurl.com/GwyneddRecycling

  • Mae busnesau yng nghanol Bangor yn edrych ymlaen at elwa ar linell amser newydd, a osodwyd mewn efydd a llechen Gymreig ar hyd y Stryd Fawr. O helwyr Neolithig, drwy gampweithiau peirianyddol Telford, hyd at y Beatles a thu hwnt, daw hanes y ddinas yn fyw mewn rhaglen bwysig o welliannau ym Mangor.

    Gall ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd weld sut y newidiodd y ddinas ar hyd y canrifoedd. Er enghraifft, yn hen Dŷ’r Archddiacon ym Mangor y lleolwyd Act 3, Golygfa 1 y ddrama Henry IV Part 1 (Shakespeare). Yn y ddrama ceir dadlau chwyrn ac mae’n digwydd yng nghartref yr Archddiacon. Mae rhan o adeiladwaith yr adeilad hynafol hwn yn dal i fodoli hyd heddiw ar y Stryd Fawr ac erbyn hyn yn siop ddillad merched So Chic. Mae So Chic yn fanwerthwyr dillad designer, cyfwisgoedd a gemwaith ac mae’r busnes wedi ennill Dyfarniad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwisg Achlysur Gorau ac maent yn llawn cynnwrf wrth feddwl y gallai mwy o ymwelwyr ddod i ganol y ddinas. Meddai’r perchennog Carys Davies: “Mae’n ardderchog gwybod ein bod ni’n rhan o hanes Bangor a bod gennym gysylltiad, mewn rhyw ffordd, â’r awdur mwyaf adnabyddus erioed. Mae’r llinell amser yn ffordd wirioneddol dda o hyrwyddo’r ddinas, o addysgu pobl ynglŷn â’i gorffennol, a’u hannog i ddod i’r Stryd Fawr a gweld yr hyn sydd gan y sector manwerthu i’w gynnig yma.” Mae Pat Jones, Cydlynydd y Prosiect, yn cytuno: “Wrth i bobl ddilyn y llinell amser rydym yn gobeithio y byddant hefyd yn cael eu hysbrydoli i weld elfennau gorau dinas fodern Bangor, ac ymweld â rhai o’r nifer fawr o fusnesau lleol sydd yn ein Stryd Fawr enwog.”

    Dyluniwyd y llinell amser gan yr artist David Mackie a fu’n gweithio â phlant ysgolion yr ardal. Mae’r prosiect newydd hwn yn rhan o Strategaeth Mannau Cyhoeddus gwerth £3.5 miliwn Cyngor Gwynedd, a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a chynllun Adfywio Ardal Môn Menai. Ymgynghoriaeth Gwynedd oedd yn gyfrifol am ddylunio’r prosiect a Dawnus Construction oedd prif gontractwyr y cynllun.

    www.gwyneddbusnes. net 03

    Hanes Bangor yn dod â Buddion Newydd

    A wyddech chi?Fod tref Bangor heddiw yn dyddio’n ôl i sefydlu mynachlog ar safle’r Eglwys Gadeiriol gan Ddeiniol Sant, y sant Celtaidd, yn nechrau’r 6ed ganrif.

    Fod y Llychlynwyr wedi ymosod ar aneddiadau arfordir Gogledd Cymru. Cafodd dau gasgliad o arian y Llychlynwyr o’r 10fed ganrif eu darganfod ar dir yr hen fynachlog, sef Cadeirlan Bangor heddiw.

    Fod Pier y Garth wedi ei agor ym 1896. Dyma’r ail bier hwyaf yng Nghymru, a’r nawfed hwyaf ym Mhrydain. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd ei dorri yn ei hanner i atal milwyr Almaenig rhag glanio!

    Fod Bwa Coffa Arwyr Gogledd Cymru yn cynnwys enwau mwy na 8,500 o filwyr, morwyr ac aelodau o’r llu awyr o siroedd Gogledd Cymru, a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

    Fod y Beatles wedi dod i Fangor ym 1967, i ymweld â’r Brifysgol i wrando ar ddarlith gan eu gwrw Maharishi Mahesh Yogi.

    Hen Weithdy yn Rhoi Cyfleoedd Newydd i Artistiaid LleolRhoddodd grŵp o artistiaid talentog sy’n gweithio yn ardal Bangor wahoddiad i’r cyhoedd ddod i’w stiwdios a’u gweithdai preifat ym mis Medi. Bu’r Helfa Gelf flynyddol,

    sef Digwyddiad Stiwdio Agored mwyaf Gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth i’r artistiaid greu gwaith celf a chelfyddyd perfformio newydd.

    Ym mis Ionawr, daeth saith aelod Bangor Greadigol - y grŵp o artistiaid a

    pherfformwyr - i ddefnyddio hen weithdy gwaith coed - a ffurfiwyd TOGYG, ‘Treborth Old Goods Yard Group’. Mae’r saith yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau yn cynnwys peintio, arlunio, darlunio, cerflunio, celfyddydau perfformio, fideo, ffilm, ffotograffiaeth a gosodiadau celfyddyd.

    Agorodd 300 a mwy o artistiaid ddrysau eu stiwdio ar draws Gogledd Cymru ym mis Medi fel rhan o’r prosiect Helfa Gelf.

    http://bangorgreadigol.blogspot.co.uk

  • www.gwyneddbusnes. net04

    Hyfforddiant Datblygu Hyfforddwr ILM yn Rhad ac am ddimMae Worth Consulting o Gaernarfon newydd ennill cytundeb gyda Llywodraeth Cymru i gynnal Rhaglenni Hyfforddi a Mentora ILM Lefel 3 neu 5 wedi eu hariannu’n llawn. Mark Sykes a Sara Lodge fydd yn darparu’r hyfforddiant hwn ac mae’n cael ei gynnig i bob sefydliad preifat a thrydydd sector yng Nghymru.

    Dyma ddyddiadau’r ddwy raglen gyntaf:

    Rhaglen 1: Medi 13eg a 14eg; Hydref 11eg a 12fed; Tachwedd 9fed; Tachwedd 26ain a 27ain

    Rhaglen 2: Hydref 25ain a 26ain; Tachwedd 15fed a 16eg; Tachwedd 30ain; Rhagfyr 10fed ac 11eg Bydd y cymhwyster llawn a rhaglen “hyfforddi’r hyfforddwr” yn cael eu cynnwys i helpu’r sawl sy’n cael eu hyfforddi raeadru hyfforddiant a mentora drwy ei sefydliad ei hun. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflymu’r diwylliant o hyfforddi a mentora drwy fusnesau yng Nghymru. Y gobaith yw y gellir cynnig hyfforddiant ILM Lefel 7 fel opsiwn yn ddiweddarach.

    ‘coachwales’ yw brand y rhaglen ac mae’n bosibl cael golwg gyffredinol ar y cwrs yn www.coachwales.com.

    Cysylltwch â: [email protected]

    www.worthconsulting.co.uk

    Keith Barker

    Mark Sykes a Sara Lodge

    Cyngor Ariannol Arbenigol i fentrau bychain a chanoligMewn cyfnod pan yw busnesau bychain yn brwydro i ddarganfod cyllid, mae Williams Denton, cwmni cyfrifwyr blaenllaw o Ogledd Cymru, yn lansio gwasanaeth arbenigol i helpu mentrau bychain a chanolig i froceru cytundebau o hyd at £3 miliwn. Mae’r practis ym Mangor a Llandudno erbyn hyn yn rhan o’r Corporate Finance Network (CFN), grŵp o gwmnïau o gyfrifwyr annibynnol y DU sy’n cynnig hyfforddiant penodol ym maes cyllid i fusnesau bychain a chanolig.

    Eglurodd Keith Barker o Williams Denton: “Yn rhy aml mae perchnogion un ai’n gwerthu eu cwmnïau yn rhy rhad neu nid ydynt yn eu gwerthu o gwbl, a bydd y busnes yn dod i ben pan fyddant yn ymddeol. Nid yw’n gyfrinach ychwaith fod nifer o gwmnïau yn brwydro i gael gafael ar yr arian sydd ei angen arnynt. Gyda chefnogaeth y Corporate Finance Network mae gennym yr wybodaeth a’r arbenigedd i drin cytundebau mawr.”

    Williams Denton yw unig aelod y CFN sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru a bydd yn lansio ei wasanaeth newydd ym Mangor gyda brecwast arbennig yn Nhŷ Menai, Parc Menai ar 19 Hydref 19.

    Mae’r newid hwn yn atgyfnerthu rôl gynyddol Williams Denton fel hyrwyddwr busnesau bychain a chanolig yng Ngogledd Cymru. Yn gynharach eleni roedd Peter Denton, y partner sefydlol, yn rhan o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion oedd yn ymwneud â chwmnïau llai, ac mae’r cwmni hefyd yn lobïo San Steffan ar ran busnesau bychain a chanolig.

    www.williamsdenton.co.uk neu ffoniwch Bangor 01248 670370

  • www.gwyneddbusnes. net 05

    Go Dda MOGO!

    Mae’r dechnoleg ffôn symudol ddiweddaraf yn llwyddiant o safbwynt busnesau Gogledd Cymru, a phob un o’ch hoff gyrchfannau gweithgareddau yng Ngwynedd yng nghyrraedd un glic. Mae arwyddion newydd lliwgar yn ymddangos mewn arosfannau bysiau ym mhob rhan o’r Sir wrth i fyrddau MOGO rhyngweithiol ddod â gwybodaeth gyflym, gyfredol a chywir i deithwyr.

    Mae’r pedwar prif atyniad i ymwelwyr sy’n ffurfio Eryri – Un Antur Fawr yn safleoedd Canolfan Rhagoriaeth yn gobeithio cael budd sylweddol o’r cynllun byrddau MOGO wrth iddo annog pobl i ymweld â’u cyfleusterau o safon fyd-eang. Mae

    partneriaid y prosiect Canolfan Ragoriaeth yn cynnwys Antur Stiniog, sy’n arloesi hyrwyddo pecynnau gweithgareddau yng Ngogledd Cymru gyda’u llwybrau beicio sydd newydd agor ym Mlaenau Ffestiniog. Draw yng Nglan-llyn yn y Bala mae canolfan addysg awyr agored Urdd Gobaith Cymru yn cael ei gwella gyda chyfleuster cegin newydd sydd wedi ei gwblhau ac sy’n cael ei ddefnyddio, ac erbyn y flwyddyn nesaf bydd y bloc ystafelloedd newydd wedi cael ei adeiladu. Mae amser cyffrous ar y gorwel i Prysor Angling yn Llyn Trawsfynydd gyda phontŵn a chyfleusterau newydd ar gyfer 2013, ac yng nghanolfan beicio mynydd Coed y Brenin mae’r llwybr MinorTaur i deuluoedd erbyn hyn ar agor, a’r ganolfan sgiliau newydd wrthi’n cael ei pharatoi.

    Mae Simon Williams, Swyddog Datblygu Prosiect Antur Stiniog, wrth ei fodd gyda menter MOGO. Meddai: “Rydym wedi ymrwymo i gynaladwyedd ac i helpu pobl i ddarganfod y pethau ardderchog sydd gennym i’w cynnig yn yr ardal. Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl hyd yn oed i weld yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i gymryd rhan.”

    Mae’r MOGO Ecosign System yn gweithio gyda ffonau symudol o bob math. Mae’n caniatáu i’r defnyddiwr gyrchu gwybodaeth amserlen mewn pedair ffordd: drwy destun SMS safonol i’ch ffôn, drwy fynd i wefan gan ddefnyddio smartphone â mynediad rhyngrwyd, drwy sganio côd QR os oes gan eich ffôn gamera a darllennydd côd bar, neu drwy’r dechnoleg “magic-touch” ddiweddaraf, Near Field Communication (NFC). Drwy ddefnyddio technoleg NFC, mae’r ffôn yn agor tag o fewn yr arwydd pan fydd yn cael ei roi o fewn rhai milimetrau i’r logo “N” glas ar y panel arddangos, ac mae’r wybodaeth yn cael ei harddangos ar sgrîn eich ffôn.

    Mae’r byrddau i’w cael mewn lleoliadau strategol yn y trefi canlynol: Caernarfon, Bangor, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Bermo, Dolgellau a Machynlleth.

    Diolch i fenter cludiant cynaladwy Cyngor Gwynedd ac arian gan Visit Wales, mae Canolfan Rhagoriaeth Eryri ar flaen y gad yn arloesol. Meddai Llŷr Jones, Uwch Reolwr Adran Economeg a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae hwn yn gam mawr tuag at fanteisio’n llawn ar amgylchedd naturiol wych yr ardal, yn breswylwyr neu’n ymwelwyr. Rydym yn ymfalchïo’n haeddiannol yn ein sector awyr agored yma yn Eryri, ac rydym mor falch o gael y cyfle i’w rannu â mwy o bobl hyd yn oed, boed hwy’n breslwyr neu ymwelwyr.”

    Y partneriaid y tu ôl i’r prosiect hwn sy’n werth £4 miliwn, sydd wedi derbyn arian gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru yw: Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Bysgota Prysor, Antur Stiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

    www.visitsnowdonia.info/onebigadventure

  • Yn GrynoDigwyddiad Serog

    Roedd Sam Warburton, capten rygbi Cymru yn un o’r enwogion o fyd chwaraeon, yn bencampwyr Olympaidd, archwilwyr a gweithwyr proffesiynol blaenllaw a fu’n rhannu cyfrinachau perfformio yn ystod symposiwm busnes newydd y mis diwethaf. Yn y digwyddiad undydd ar 27ain Medi cafwyd cyfraniadau hefyd gan Sam Brearey, pencampwr hwylio (Olympaidd, y Byd ac Ewrop (2 waith), hyfforddwr saethu’r Lluoedd Arbennig a phrif lawfeddyg, ymhlith eraill. Roedd “Walking the Tightrope” - Symposiwm Perfformiad Uchel ac Arweinyddiaeth Elît - yn trafod pynciau fel cyfathrebu, gwneud penderfyniadau dan bwysau, rheoli straen a pherfformio ar y lefel uchaf. Cafwyd cefnogaeth gan Supertemps, asiantaeth recriwtio Gogledd Cymru, a daeth y syniad gan Dr Paul Thomas, ‘Business Doctor’ BBC Radio Wales. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Menai ym Mharc Busnes Menai ger Bangor.

    www.supertemps.co.uk

    Newyddion Da i Blasty yng Ngwynedd

    Cafodd Plas Gwynfryn, Llanbedr, newyddion da yn ddiweddar, pan adferwyd trwydded y safle yn llawn yn dilyn apêl lwyddiannus. Eglurodd y perchennog, Caroline Evans, fod y drwydded wedi ei dirymu dros dro o ganlyniad i gŵyn ynghylch sŵn, ond fod tystiolaeth gan arbenigwr acwstig annibynnol wedi arwain at wrthdroi’r penderfyniad.

    Canolfan adloniant a gwesty yw Plas Gwynfryn ar gyfer gwyliau gwesty a hunanarlwy. Ar ôl adfer y drwydded, bydd cerddoriaeth fyw awyr agored unwaith eto yn rhan o’r digwyddiadau a gynhelir yn y plasty hardd Cymreig hwn, sy’n swatio mewn wyth acer o erddi godidog rhwng y mynyddoedd ac arfordir garw Bae Ceredigion.

    www.plasgwynfryn.co.uk

    Awydd Ennill Blackberry?

    Bydd Rhwydwaith Busnes Gwynedd a Ffederasiwn Busnesau Bychain yn cynnal cyfarfod anffurfiol ar y cyd i aelodau hen a newydd ar 5.30pm ar Ddydd Mawrth, Hydref 30, pan gynhelir Digwyddiad Cefnogi Busnes a Rhwydweithio a Bachu Busnes yng Nghlwb Golff, Dolgellau. Bydd cyfle i ennill gwobr yn rhad ac am ddim a bydd un busnes lwcus yn gadael gyda ffôn Blackberry.

    Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi hefyd gan Fenter a Busnes. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Derwenna Bridle ar 01248 672610 neu e-bostiwch: [email protected] i gadw lle. Bydd llawer iawn o fusnesau yn cael gwahoddiad ac felly’r cyntaf i’r felin fydd hi.

    Gwefan Cymorth Busnes y Llywodraeth

    Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd gwefan newydd ganolog https://www.gov.uk/browse/business yn disodli Businesslink.co.uk a Direct.gov.uk ar 17 Hydref. Bydd hyn yn gwneud gwasanaethau a gwybodaeth yn fwy syml, yn fwy eglur ac yn gynt i’w defnyddio a’u deall, er y byddant yn parhau i roi atebion cynhwysfawr i ddefnyddwyr. Darllenwch fwy am y newid yn:

    http://tinyurl.com/BusiSupport

    Cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

    O Hydref 1af, 2012 ymlaen bydd y cyfraddau newydd fel a ganlyn: £6.19 yr awr i weithwyr 21 oed a hŷn – cynnydd o 11c£4.98 yr awr i weithwyr 18-20 oed – dim newid£3.68 yr awr i weithwyr hŷn nag oedran gadael ysgol ond dan 18 oed – dim newid£2.65 yr awr i brentisiaid – cynnydd o 5c

    Cyfarfod Blynyddol PEG

    Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Partnership Economaidd Gwynedd (PEG) ar 5ed Hydref ym Mhorthmadog. Yn y cyfarfod cafwyd anerchiad gan Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd. Mae’r Bartneriaeth yn hwyluso cydweithio er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i bobl, cymunedau a busnesau Gwynedd, ac mae’n monitro Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn y wlad ac yn hyrwyddo datblygiad economaidd.

    http://tinyurl.com/PEG-link

    Unrhyw Sylwadau

    Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef y Cylchlythyr Rhwydwaith Busnes Gwynedd diweddaraf. Byddem yn werthfawrogol iawn o dderbyn unrhyw ymateb gennych. Os oes gennych unrhyw sylwadau, neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod. E-bostiwch Editor Jacquie Knowles ar: [email protected] ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i: www.gwyneddbusnes.net

    www.gwyneddbusnes. net 06

    Sam Warburton

    © 2012 Rhwydwaith Busnes Gwynedd Ysgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.