17
Amgueddfa Lechi Cymru Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Amgueddfa Wlân Cymru Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru Digwyddiadau Amgueddfa Cymru Arddangosfeydd a digwyddiadau i chi Mawrth – Mehefin 2011 amgueddfacymru.ac.uk

Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dewch i ddarganfod casgliadau rhyfeddol mewn saith amgueddfa odidog fydd yn datgelu hanes a diwylliant pobl Cymru a thu hwnt.O bwll glo i felin wrth ei gwaith, casgliad celf syfrdanol o safon rhyngwladol, peirianwaith ac arloesi, deinosoriaid,mamothiaid blewog, Llengfilwyr Rhufeinig a thrysor cudd – mae digon i’w ddarganfod, a’r cyfan AM DDIM. Dyma eich canllaw i’r hyn sydd yn digwydd yn ein holl amgueddfeydd rhwng Mawrth a Mehefin 2011. Gobeithio y gwelwch chi rywbethsy’n eich cyffroi neu’ch ysbrydoli. Welwn ni chi’n fuan!

Citation preview

Page 1: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

DigwyddiadauAmgueddfa Cymru

Arddangosfeydd a digwyddiadau i chiMawrth – Mehefin 2011amgueddfacymru.ac.uk

Page 2: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

AmgueddfaWlân Cymru

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa LlengRufeinig Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan:AmgueddfaWerin Cymru

AmgueddfaGenedlaethol yGlannau

Am fersiwn print bras o’r llyfryn hwn ffoniwch: (029) 2057 3174

Croeso i Amgueddfa CymruDewch i ddarganfod casgliadau rhyfeddol mewn saith amgueddfa odidog fydd yn datgelu hanes a diwylliant pobl Cymru a thu hwnt.

O bwll glo i felin wrth ei gwaith, casgliad celf syfrdanol o safon rhyngwladol, peirianwaith ac arloesi, deinosoriaid, mamothiaid blewog, Llengfilwyr Rhufeinig a thrysor cudd – mae digon i’w ddarganfod, a’r cyfan AM DDIM.

Dyma eich canllaw i’r hyn sydd yn digwydd yn ein holl amgueddfeydd rhwng Mawrth a Mehefin 2011. Gobeithio y gwelwch chi rywbethsy’n eich cyffroi neu’ch ysbrydoli. Welwnni chi’n fuan!

Ymwelwch â’n gwefanwww.amgueddfacymru.ac.ukam y newyddion diweddaraf.

Tud 12 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Cyfle i ddianc a chamu nôl i’r gorffennol: blas ar fywyd yng Nghymru drwy’r oesoedd mewn lleoliad godidog ar gyrion Caerdydd. Dewch i weld dros 40 o gartrefi ac adeiladau sydd wedi’u hailgodi yma, sgwrsio â’n crefftwyr traddodiadol a chwrdd â’r anifeiliaid fferm. Neu, dewch am dro bach hamddenol yn yr awyr iach, cael cinio blasus a rhyfeddu at yr olygfa odidog.

Tud 26 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru: dewch i weld cyfoeth ein treftadaeth ddiwydiannol a morwrol mewn cyfuniad o arddangosfeydd rhyngweithiol ac arloesol, law yn llaw a rhai mwy traddodiadol. Dyma gyfle i ymwelwyr gael profiad ymarferol heb ei ail.

Tud 3 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Amser am antur: cewch ddarganfod gwrthrychau o’r oes a fu, deinosoriaid i’ch dychryn, gwyddoniaeth i’ch gwefreiddio, creaduriaid anhygoel, trysorau’r pridd a gweithiau celf rhyngwladol rhyfeddol – y cyfan dan un to. Gallwch alw acw am awr amser cinio neu dreulio diwrnod cyfan yma – bydd rhywbeth newydd i’ch diddanu bob tro.

Tud 21 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Rhufeiniaid yn y dre: yn y flwyddyn 75 OC, fe ymgartrefodd y Rhufeiniaid yng Nghaerllion. Dewch i glywed eu hanes arswydus, a dysgu am eu dylanwad ar Gymru. Cewch gyfle i wisgo fel un ohonynt, a dysgu am fywyd a gwaith y cyfnod gyda’n dinasyddion a’n milwyr Rhufeinig.

Tud 23 Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru Yng nghrombil y ddaear: bydd ein glowyr yn eich tywys yn ôl i’r gorffennol ac yn rhannu straeon rhyfeddol am weithio mewn pwll glo go iawn. Gallwch dreulio diwrnod yma – mynd ar daith danddaear, ymweld â’r orielau rhyngweithiol, a chael cip ar y baddondai pen pwll.

Tud 24 Amgueddfa Wlân Cymru O ddafad i ddefnydd: dyma’r lle i glywed hanes diwydiant gwlân llewyrchus Dyffryn Teifi ’slawer dydd. Dewch i grwydro o amgylch hen ffatri wlân Melinau Cambrian a gadewch i’n tywyswyr ddangos sut y cafodd ein siolau, carthenni a dillad eu gwneud i’w gwerthu ym mhedwar ban byd. Ymunwch â ni am bryd bach blasus neu arhoswch i ddarganfod a dysgu mwy.

Amgueddfa Lechi Cymru Dros drothwy amser: dewch i glywed stori ryfeddol y diwydiant llechi ar lan Llyn Padarn. Ewch am dro o amgylch yr hen weithdai Fictoriaidd ar safle’r hen chwarel, a chael clywed gan ein crefftwyr sut y cafodd llechi eu cloddio a’u hallforio i bob cwr o’r byd.

Tud 25

Amgueddfa Cymru 2amgueddfacymru.ac.uk

Page 3: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

3 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 4

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Claude Monet, The Palazzo Dario, 1908

O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, TsieinaTan 3 Ebrill Ar lethrau serth safle treftadaeth y byd yn Dazu, ger Chongqing, saif cyfres aruthrol o gerfiadau carreg. Dechreuwyd eu cerfio tua canol y seithfed ganrif, a cafodd y safle ei ddatblygu ymhellach rhwng y nawfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae dros 50,000 o ffigurau yn Dazu ac maen nhw’n hynod am eu hansawdd esthetig, amrywiaeth gyfoethog y pynciau seciwlar a chrefyddol sydd i’w gweld, a’r hyn maen nhw’n ei ddysgu i ni am fywyd bob dydd yn Tsieina’r cyfnod. Mae’r arddangosfa’n gyfle unigryw i weld rhai o’r cerfluniau hyn, sydd erioed wedi cael eu dangos tu allan i Tsieina o’r blaen. Mae Dazu yn drysorfa o hanes celf Tsieina ac mae’n fynegiant pwysig o syniadau Bwdhaeth, Taoaeth a Confuciaeth. Mae hefyd yn gipolwg diddorol dros ben ar fywyd bob dydd yn Tsieina.Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn falch iawn o groesawu’r arddangosfa bwysig hon – yr unig amgueddfa i gael gwneud hynny – cyn iddi ddychwelyd i Dazu.

Llinellau Llafar: Darluniau ac ysgythriadau Augustus John (1878-1961)Tan 5 Mehefin Roedd Augustus John yn enwog am ei ddrafftsmonaeth ragorol. Mae’r arddangosiad arbennig hwn yn casglu rhai o ddarluniau ac ysgythriadau gorau John o gasgliadau’r Amgueddfa at ei gilydd. Mae’r arddangosiad hwn yn nodi hanner can mlynedd ers marwolaeth yr artist.

Ei Fywyd a’i Etifeddiaeth: Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams25 Mawrth-5 Mehefin Arddangosfa o gasgliad Prydeinig Modern a chyfoes arbennig y Cymro o gasglwr, Derek Williams. Bydd yr arddangosfa hefyd yn dangos gwaith celf modern a chyfoes a brynwyd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams, gan gynnwys gwaith Michael Andrews, Henry Moore, Ben Nicholson, John Piper, Ceri Richards, Sean Scully a nifer o artistiaid Cymreig eraill.

High Kicks and Low Life: Printiau Toulouse-Lautrec21 Ebrill-26 Mehefin Pan symudodd Henri de Toulouse-Lautrec (1864-1901) i Baris ym 1884, cafodd ei ysbrydoli gan nosweithiau lliwgar ardal Montmartre. Ac yntau’n artist toreithiog, roedd ei bortreadau o actoresau, dawnswyr a phuteiniaid yr ardal yn gipolwg ar fywydau tywyllach Paris yr oes. Mae’r arddangosfa wych hon o tua 50 o brintiau gan yr artist o gasgliadau’r Amgueddfa Brydeinig mewn dwy ran, ‘Public Passions’ a ‘Private Passions’. Mae ‘Public Passions’ yn cynnwys delweddau trawiadol o ddawnswraig y can-can, Louise Weber, neu La Goulue (‘Yr Un Barus’) ac yn ‘Private Passions’ gwelwn sut oedd Toulouse-Lautrec yn portreadu bywydau hynod breifat y puteiniaid â chryn sensitifrwydd.Taith yr Amgueddfa Brydeinig.

Gyda chymorth hael Sefydliad Dorset.

Datblygiadau newydd

Cofiwch y byddwn yn agor rhagor o orielaucelf yn ystod haf 2011, gan roi mwy o le nag erioed i gelf gyfoes. Dyma fydd penllanw’r gwaith gwerth£6.5m i droi llawrcyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol.Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth.

Gweler tudalen 5 am ragor o arddangosfeydd ac arddangosiadau.

Page 4: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Arddangosfeydd ac ArddangosiadauTeithiau Trawiadol Tan 31 Mawrth Technoleg lloerennau yn agor ein llygaid i batrymau mudo anghredadwy bywyd gwyllt.

Pobl, Personoliaethau a Phwer: Wynebau o GymruTan 8 MaiArddangosiad o bortreadau Cymreig o’r casgliad i ddathlu Mis Hanes LGBT.

Arianfollt12 Ebrill-24 Gorffennaf Daw Arianfollt a chasgliad o waith cyffrous grwp o ofaint arian at ei gilydd. Cafodd y gweithiau eu creu rhwng 2000 a 2010. Trefnwyd gyda Chanolfan Grefft Rhuthun fel rhan o gynllun Celf Cymru Gyfan, sef cynllun partneriaeth celf weledol Amgueddfa Cymru sy’n cael nawdd hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Beirdd ac AwduronYn agor 10 Mai Casgliad o bortreadau o rai o ffigurau llenyddol enwog Cymru. Mae’n cynnwys portread Augustus John o’r bardd Dylan Thomas.

Adnabod yr Artist Graham Sutherland11 Mehefin-30 HydrefMae Graham Sutherland yn un o artistiaid Prydeinig pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Fel ymwelydd cyson â Chymru, cafodd ei ysbrydoli gan dirlun unigryw Sir Benfro. Mae’r arddangosfa hon yn ddetholiad o weithiau a dogfennau archifol o gasgliadau pwysig a chynhwysfawr yr Amgueddfa.

Gwreiddiau: Gwneud eich Marc10 Mai-2 HydrefRoedd cyflwyno’r wyddor Rufeinig i Gymru’n drobwynt allweddol wrth bontio o gyfnod cynhanes i hanes. Bydd tystiolaeth o waith ysgrifennu, gan swyddogion a’r werin bobl, yn y Gymru Rufeinig i’w gweld yng nghyd-destun ehangach defnydd cyffredinol ysgrifen yn y byd Rhufeinig.Archwilir tarddiad yr wyddor Rufeinig, a’i hetifeddiaeth - defnyddir hi heddiw ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir dilyn ôl y defnydd o Ladin ymhell wedi diwedd teyrnasiad y Rhufeiniaid drwy arysgrifen cerrig canoloesol cynnar ac yn yr orielau hanes natur, lle mae’n sail i enwau gwyddonol anifeiliaid a phlanhigion.

Nerys Johnson (1942-2001): Arddangosiad yn dathlu gwaith yr artist Cymreig6 Mehefin Bydd yr arddangosiad hwn hefyd yn cynnwys print gan Howard Hodgkin, gafodd ei brynu’n ddiweddar gyda chymorth hael Cronfa Gelf Gyfoes Nerys Johnson ac Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Gwreiddiau: Canfod y Gymru gynnarMae’r arddangosfa barhaol hynod boblogaidd hon yn datgloi dirgelion ein cyndeidiau o dystiolaeth o Neanderthaliaid yng Nghymru dros 230,000 o flynyddoedd yn ôl drwy’r goncwest Rufeinig a bywyd yr Oesoedd Canol. Cofiwch fod rhaglen newidiol o arddangosiadau archaeolegol yn oriel Gwreiddiau.

Gweithgareddau i’r TeuluCanolfan Ddarganfod CloreCewch drin a thrafod eitemau go iawn o’n droriau darganfod neu ddilyn taith am ddim drwy’r orielau. Gallwch ddod â’ch gwrthrych eich hun yma hyd yn oed ac fe allwn ni helpu i ateb eich cwestiynau.

Cracio’r cod12 a 13 Mawrth,11am-4pm Allwch chi gracio’r codau a chwblhau’r sialensiau? Dysgwch sut i gyfathrebu gan ddefnyddio hieroglyffau ac ieithoedd hynafol eraill, a cheisiwch ddatrys posau mathemategol.Addas i blant 6+. Rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Arddangos Byd Ffasiwn – diwrnod o hwyl i’r teulu19 Mawrth, 11am-4pm Dyma arddangosfa ddillad â chydwybod i’ch ysbrydoli! Ym myd ffasiwn, a ddylen ni boeni am yr hyn sy’n digwydd cyn i’r dillad gyrraedd y siop? Ymunwch â ni i ddarganfod mwy a throi’ch llaw at weithgareddau crefft hwyliog, a bydd cyfle i weld sioe ffasiwn foesegol. Rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Diwrnod Seryddol i’r Teulu2 Ebrill, 11am-4pm Ymunwch â ni am gyfres o sgyrsiau ar gyfer dechreuwyr yn y maes, bydd gweithgareddau ymarferol i’r teulu yn cynnwys sioe sêr a phlanedau yn y planetariwm. Bydd cyfle hefyd i weld samplau go iawn o’r lleuad a gweld yr offer a’r telesgopau diweddaraf. Archwiliwch hanes casgliad gwibfeini’r Amgueddfa, ymunwch â’r gweithgareddau hwyliog i ddysgu mwy am y cerrig rhyfeddol hyn o’r gofod, a dysgu beth fyddai’n digwydd i’ch pentref chi petai gwibfaen

yn glanio ar ei ben gyda’n hefelychydd effaith. Cewch brofi seryddiaeth drwy’r oesau – sut beth oedd edrych trwy delesgopau Galileo a Newton?Peidiwch â cholli allan!Ar y cyd â Chymdeithas Seryddol Caerdydd.

Gweithdai teuluol archwilio, darganfod, creu16-21 Ebrill, 11am-1pm a 2pm-4pm Ymunwch â ni yn ein gofod dysgu newydd wrth i ni archwilio’r orielau newydd a darganfod beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni. Gadewch i’n casgliadau eich ysbrydoli i fod yn greadigol ac ewch ati i greu eich celf eich hun.

Hanes Natur: Diwrnod Agored20 Ebrill, 11 am-4pm Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd yn y cefndir mewn amgueddfa? Dyma’ch cyfle i ddysgu mwy! Dewch i weld ein casgliadau mewn storfeydd, archebu taith arbennig tu ôl i’r llenni a chwrdd â’n harbenigwyr.Arddangosiadau’r Brif Neuadd yn addas i bawb.Teithiau am 11.30am a 2.30pm. Addas i bawb dros 8 oed. Nid yw’r daith yn addas i bobl ag anawsterau symud.

Helfa Wyau Pasg22-25 Ebrill Allwch chi ddod o hyd i’r wyau sydd wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa? Bydd gwobr i chi os allwch chi ddod o hyd i’r cyfan.

‘Dweud eich dweud’26 a 27 Ebrill, 11am, 1pm a 3pm Gweithiwch gyda’r awdures Elizabeth Worth i ddatblygu eich syniadau eich hunain am rai o’r paentiadau a’r cerfluniau yn ein horielau. Archebwch le wrth gyrraedd.Gyda chefnogaeth yr Academi.

Sgwrs i’r Teulu27 Ebrill Ystlumod – trafod fel teulu: bod yn dditectif ystlumodCatalena Angele, Adran Fioamrywiaeth, Amgueddfa Cymru.

Gweithdy gwneud Print28-30 Ebrill, 1 a 2 Mai, 11am, 1pm a 3pm Dysgwch rywbeth newydd, a gadewch i waith Toulouse-Lautrec eich ysbrydoli i wneud eich print eich hun i fynd adre gyda chi. £2 y plentyn, cadwch le wrth gyrraedd.

Mae coed yn hwyl! Mai 28-2 Mehefin, 11am, 1pm a 3pm Cymrwch ran mewn gweithgareddau a chwis i ddathlu Wythnos Amgylchedd y Byd a dysgu pam mae coed mor bwysig. Archebwch le wrth gyrraedd.

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 65 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Page 5: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 87 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Hanes Natur: Diwrnod Agored 1 Mehefin, 11am-4pm Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd yn y cefndir mewn amgueddfa? Dyma’ch cyfle i ateb eich cwestiynau! Dewch i weld y casgliadau mewn storfeydd, archebu taith arbennig tu ôl i’r llenni a chwrdd â’n harbenigwyr.Arddangosiadau’r Brif Neuadd yn addas i bawb.Teithiau am 11.30am a 2.30pm. Addas i bawb dros 8 oed. Nid yw’r daith yn addas i bobl ag anawsterau symud.

Gwyl Ifan18 Mehefin, 12pm Dewch i wylio cerddorion a dawnswyr o Gymru a gwledydd eraill yn eu dillad lliwgar yn perfformio yn y Brif Neuadd. Bydd yn dilyn Codi’r Pawl Haf tu allan i Neuadd y Ddinas lle bydd digonedd o ddawnsio o’i gwmpas i ddathlu Gŵyl Ifan, gwyl dawnsio gwerin canol haf Cymru.

Teithiau, Sgyrsiau, Cyngherddau a MwyAm ddim oni nodir fel arall

Taith Dywys: Gwreiddiau – Canfod y Gymru gynnarBob dydd Iau a dydd Sadwrn, 2.30pm Gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Taith Dywys: Uchafbwyntiau Celf, Orielau Celf Hanesyddol, Argraffiadaeth a Chasgliad y Chwiorydd Davies neu Orielau Celf Argraffiadol a ChyfoesBob dydd, 12.30pm am 35 munud Taith o amgylch yr orielau celf gyda Thywysydd Gwirfoddol.

Llyfr Y MisBob mis, bydd y Llyfrgell yn arddangos detholiad o eitemau o’i chasgliadau arbennig.

MawrthSgwrs Amser Cinio: Y Llychlynwyr yn y Gorllewin: yr ymsefydliad Llychlynnaidd yn Ynysoedd Heledd2 Mawrth, 1.05pm Niall Sharples, Darlithydd Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd.

Gwasanaeth Barn ar Gelf4 Mawrth, 2pm-4pm Dewch â llun neu wrthrych celf i gael barn neu gymorth yr Adran Gelf.Ni ellir prisio gwaith.

Cyngerdd Awr Ginio: Adran Cerddoriaeth Newydd6 Mawrth, 1pm Perfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru.Mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cyngerdd Coffi Caerdydd: The Bridge Duo13 Mawrth, 11.30am Mozart: Sonata i’r Feiolin yn E leiaf, K 304, Michael Parkin: Inevitable Inventions, Schumann: Marchenbilder, Op 133, Prokofiev: Romeo a JulietOedolion £8*, gostyngiadau £6* ar gael o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant: (029) 2087 8440 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk Tocynnau wrth ddrws yr Amgueddfa ar ddiwrnod y cyngerdd, £10. * Codir tâl trafod. Ar y cyd â CwpanAur.

Sgwrs Amser Cinio: Olion yr oesoedd: Dyddio cylchoedd coed a Dendrocronoleg16 Mawrth, 1.05pm Nigel Nayling, Darlithydd Archaeoleg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Page 6: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Datganiad ar yr Organ27 Mai, 1pm Unawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r 18fed ganrif.Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

MehefinSgwrs Amser Cinio: Yn y Niwl: Archaeoleg yn y Cymoedd1 Mehefin, 1.05pmFrank Olding, Swyddog Treftadaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Gwasanaeth Barn am Gelf3 Mehefin, 2pm-4pm Gweler 4 Mawrth am fanylion.

Sgwrs Amser Cinio: Golygfa o’r Palazzo Loredan gan Francesco Guardi: Dadorchuddio caffaeliad diweddar10 Mehefin, 1.05pmAnne Pritchard, Curadur Cynorthwyol - Celfyddyd Hanesyddol, Amgueddfa Cymru.

Cyngerdd Awr Ginio: Adran Gerddoriaeth Siambr12 Mehefin, 1pmPerfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.Mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 109 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgwrs Amser Cinio: Cyflwyniad i Llinellau llafar: darluniau ac ysgythriadau Augustus John (1878-1961)18 Mawrth, 1.05pm Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau, Amgueddfa Cymru.

Darlith Hwyrol Arbennig23 Mawrth, 7.30pm Theatr Reardon SmithLliw Adar a Deinosoriaid Ffosil o Tsieina.Yr Athro Mike Benton, Adran Gwyddorau’r Ddaear, Prifysgol Bryste.Ers canfyddiadau Darwin, mae wedi bod yn amlwg taw deinosoriaid sy’n hedfan yw adar. Nifer cyfyngedig o lefydd, rhaid archebu lle: (029) 2057 3148.Rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Sgwrs Amser Cinio: Siopa moesegol: taith crys T cotwm cyffredin24 Mawrth, 1.05pm Llyr Roberts, MA (Oxon), MBA, MSC, Ymchwilydd Doethurol, BRASS ac Ysgol Fusnes CaerdyddRhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Datganiad ar yr Organ25 Mawrth, 1pm Unawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r 18fed ganrif.Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Bywyd J.F.Jackson: Athrylith o Fachgen a Daearegwr Aruthrol30 Mawrth, 1.05pm Cindy Howells, Adran Ddaeareg, Amgueddfa Cymru.

EbrillSgwrs Amser Cinio: Golwg fanylach ar ysgythriadau Augustus John (ar y cyd â’r arddangosfa Llinellau Llafar: darluniau ac ysgythriadau Augustus John (1878-1961))1 Ebrill, 1.05pmCharlotte Topsfield, Curadur Cynorthwyol Printiau a Darluniau, Amgueddfa Cymru.

Gwasanaeth Barn ar Gelf1 Ebrill, 2pm-4pm Gweler Mawrth 4 am fanylion.

Cyngerdd Coffi Caerdydd: Pedwarawd Llinynnol Brodowski3 Ebrill, 11.30am Shostakovich: Pedwarawd Llinynnol Rhif 8 yn C leiaf, Op 110Tchaikovsky: Pedwarawd Llinynnol Rhif 1 yn D, Op 11Oedolion £8*, gostyngiadau £6* ar gael o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant: (029) 2087 8440 neu ar-lein www.stdavidshallcardiff.co.uk Tocynnau wrth ddrws yr Amgueddfa ar ddiwrnod y cyngerdd, £10. * Codir tâl trafod. Ar y cyd â CwpanAur.

Sgwrs Amser Cinio: Chwarae Mig â’r Meirw: claddedigaethau ogof Neolithig o Goldsland Wood ym Mro Morgannwg6 Ebrill, 1.05pm Dr Rick Peterson, Uwch-ddarlithydd Archaeoleg, Prifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn.

Sgwrs Amser Cinio: Derek Williams: caru casglu (cyflwyniad i’r arddangosfa)8 Ebrill, 1.05pm Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams, Amgueddfa Cymru.

Cyngerdd Awr Ginio: Adran y Gitarau10 Ebrill, 1pm Perfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.Mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Bryngaer Dinas Powys: Neuadd brenin o’r Oesoedd Tywyll neu nyth lladron Gwyddelig?13 Ebrill, 1.05pmDr Alan Lane, Uwch-ddarlithydd Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd.

Sgwrs Amser Cinio: Rhodd Barhaus: Gwaith Ymddiriedolaeth Derek Williams15 Ebrill,1.05pm William Wilkins CBE, Ymddiriedolwr Derek Williams.

Datganiad ar yr Organ29 Ebrill, 1pm Unawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r 18fed ganrif.Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

MaiSgwrs Amser Cinio: Dadorchuddio Archaeoleg: rhan y gymuned ym Mhroject y Grug a’r Caerau4 Mai, 1.05pmFiona Gale, Archaeolegydd Sir Ddinbych.

Gwasanaeth Barn ar Gelf6 Mai, 2pm-4pm Gweler 4 Mawrth am fanylion.

Sgwrs Amser Cinio: Celfyddyd Enwogion: golwg mwy manwl ar bosteri a phrintiau Toulouse-Lautrec6 Mai, 1.05pmJennifer Ramkalawon, Curadur yr Arddangosfa a Churadur yr Amgueddfa Brydeinig (ar y cyd ag arddangosfa High Kicks and Low Life: Toulouse-Lautrec Prints)

Cyngerdd Awr Ginio: Adran Delynau8 Mai, 1pm Perfformiad gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.Mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Taith o amgylch High Kicks and Low Life: Toulouse-Lautrec Prints13 Mai, 1.05pm Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau, Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Creu cyfres A History of the World in 100 Objects18 Mai, 1.05pmDr J. D. Hill, yr Amgueddfa Brydeinig.

Sgwrs Amser Cinio: High kicks in context: noson allan gyda Toulouse-Lautrec a’i gyfoedion20 Mai, 1.05pmAnne Pritchard, Curadur Cynorthwyol, Celfyddyd Hanesyddol, Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Cadwraeth Ddaearegol25 Mai, 1.05pm Dr Caroline Buttler, Adran Ddaeareg, Amgueddfa Cymru.

Taith Iaith26 Mai, 1pmCyfle i ymarfer eich Cymraeg a dysgu mwy am ein horielau hanes natur.

Page 7: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 1211 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgwrs Amser Cinio: Canfyddiadau o’r Cyffindir: Canfyddiadau newydd o’r gaer Rufeinig yn Aberhonddu 15 Mehefin, 1.05pmJoe Lewis, myfyriwr Archaeoleg Ôl-raddedig, Prifysgol Caerdydd.

Sgwrs Amser Cinio: Arloesi ac Arbrofi: canolbwyntio ar Glaw – Auvers Vincent van Gogh 17 Mehefin, 1.05pmOwen Brown, Hanesydd Celf.

Datganiad ar yr Organ 24 Mehefin, 1pm Unawdwyr gwadd yn rhoi datganiad ar organ Williams-Wynn o’r 18fed ganrif.Noddwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Sgwrs Amser Cinio: Piclo Pethau: Gofalu am gasgliadau’r Amgueddfa sy’n cael eu cadw mewn hylif gyda29 Mehefin, 1.05pmJulian Carter, Adran Fioamrywiaeth, Amgueddfa Cymru.

Taith Iaith30 Mehefin, 1pmCyfle i ymarfer eich Cymraeg a dysgu mwy am ein horielau celf.

Page 8: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 1413 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Mae Sain Ffagan wedi esblygu llawer ers agor fel amgueddfa werin dros 60 mlynedd yn ôl, ac rydym yn parhau i feddwl am ffyrdd o wella’r trysor cenedlaethol hwn.

Rydym am ymestyn llinell amser y straeon sy’n cael eu hadrodd yn yr Amgueddfa er mwyn i ymwelwyr allu dilyn datblygiad Cymru o ddyddiau’r bobl gyntaf i fyw yma, hyd heddiwac ymlaen tua’r dyfodol.

Yr hyn rydym yn gobeithio’igyflawni

Ymestyn y llinell amser

Mae Sain Ffagan yn canolbwyntio ar hanes pobl Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf ar hyn o bryd. Byddwn yn symud y Casgliad ArchaeolegCenedlaethol o’i gartref presennol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno straeon y bobl gyntaf i fyw yng Nghymru 250,000 o flynyddoedd yn ôl a gosod stori Cymru a’i phobl yn ei chyd-destun yn nhermau hanes y byd.

Creu atyniad at bob tywydd

Yn ogystal â gwella’r profiad awyr agored ynSain Ffagan byddwn yn datblygu’r ddarpariaeth dan do. Bydd yr orielau yn y prif adeilad yn cael eu hailwampio’n llwyr er mwyn creu mannau dysgu ac arddangos newydd a hyblyg, a bydd adeilad newydd sbon yn cael ei godi yng nghoedwigoedd Sain Ffagan er mwyn i ymwelwyr gael profi hanes Cymru a’i thrysorau cenedlaethol.

Digwyddiadau

Bydd mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau i adlewyrchu’r llinell amser newydd gyda mwy o bwyslais ar roi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan. Bydd cyfleoedd i brofi archaeoleg yn yr awyragored ac mae’r Amgueddfa’n awyddus hefyd i gynnig mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr yn ogystal â chydweithio’n agos â grwpiau cymunedol.

Cynnig ffyrdd newydd i ddeall hanes Cymru

Drwy awgrymu llwybrau gwahanol o gwmpas Sain Ffagan a diweddaru’r deunyddiau dehongli o gwmpas y safle, byddwn yn ei gwneud hi’n haws i ddarganfod mwy am agweddau penodol ar hanes Cymru a chynllunio ymweliad yn ôl gofynion amser a diddordeb.

Mwynhewch

Mae profiad yr ymwelydd yn ganolog i’r project hwn ac rydym am ddatblygu’r cyfleusterau er mwyn cynnig yr ymweliad gorau posib. Bydd ardaloedd diogel i’n hymwelwyr ieuengaf alludysgu wrth chwarae a llefydd bwyd a diod newydd. Bydd y gwelliannau dan do yn sicrhau bod Sain Ffagan yn amgueddfa i’w mwynhau gydol y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd.

O fudd i Gymru

Gyda 600,000 yn ymweld pob blwyddyn, Sain Ffagan yw’r ail amgueddfa awyr-agored fwyafpoblogaidd yn Ewrop. Mae wedi dod yn gartref i hanes Cymru — yn ganolog i’r hunaniaeth Gymreig ac yn fangre arbennig ble mae pobl Cymru a thu hwnt yn dod ar bererindod er mwyn dysgu am stori Cymru.

Bydd y buddsoddi yn Sain Ffagan dros y 10 mlynedd nesaf yn cyflwyno neges gref fydd yn adlewyrchu newid a chyfeiriad newydd cyffrous. Bydd yn adnewyddu statws Sain Ffagan felatyniad sydd yn rhaid i ymwelwyr â Chymru Gymru ymweld ag ef — elfen hanfodol o dwristiaeth dreftadaeth yng Nghymru sydd o fudd i Gymru gyfan.

Creu Hanes yn Sain FfaganFel rhan o’r cynllun Creu Hanes byddwn yn adrodd hydnoed mwy o straeon am bobloedd Cymru.

Rydym yn dechrau gyda’r cyfnod 1500 - 1700, adeg y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, y Deddfau Uno, cyfieithu’r Beibl a Rhyfeloedd Cartref Prydain. Dewch i weld arddangosfa 1500-1700 o Ebrill 2 ymlaen a dewch i gymryd rhan mewn digwyddiadau a dilyn teithiau arbennig drwy’r flwyddyn.

Page 9: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 1615 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

ArddangosfeyddPlentyndod yng NghymruTan 2 Mawrth, 10am-5pm Partïon pen-blwydd, gemau pêl droed, gwersi piano, cyngherddau Nadolig – beth yw plentyndod i chi?

Creu Hanes 1500-1700 Ebrill-Mawrth 2012, 10am-5pm Arddangosfa gyffrous am Gymru 1500-1700: cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, y Ddeddf Uno, y Beibl Cymraeg cyntaf a Rhyfeloedd Cartref Prydain.

Ffair Briodas 20 Mawrth, 11am-4pm Dewch i weld ein hamgueddfa unigryw a chyfarfod ag arddangoswyr sydd wedi’u dewis yn arbennig. Siaradwch â’n cydlynwyr priodasau a gadewch i ni helpu’ch diwrnod mawr i redeg yn ddidrafferth!

Gweithgareddau i’r TeuluDydd Gwyl Dewi Sant1 Mawrth, 11am-3pm Dathlwch Dydd Gwyl Dewi yn yr Amgueddfa gyda Pice ar y Maen i gyfeiliant ein hofferyn cenedlaethol – y delyn.

Clwb Cwiltio 5 Mawrth, 11am-12.30pm Ymunwch â’r sesiwn hamddenol hon gyda’r Clwb Cwiltio. Dewch â’ch projectau eich hun neu dechreuwch rywbeth newydd yn Oriel 1. Addas i oedrannau 16+. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Sut Beth Oedd Bywyd i Bobl Oes yr Haearn? 5 a 12 Mawrth, 12pm-12.30pm (Cymraeg), 2pm-2.30pm (Saesneg) Sgwrs yn y Pentref Celtaidd. Addas i oedolion a theuluoedd â phlant dros 8 oed.

Archwilio Natur yn Sain Ffagan 5 Mawrth, 12pm, 2pm a 3pm o Oriel 1 Ymunwch â ni am daith drwy dir yr Amgueddfa yn y gwanwyn. Fydd y planhigion wedi blaguro? Dewch i weld drwy ymweld â’n cuddfan adar a defnyddio’n camerâu natur. Cofiwch wisgo’n gynnes! Archebwch le wrth gyrraedd.

Byw’n Wyrdd yn Ty Gwyrdd 5 Mawrth, 11am-1pm a 2pm-4pm Dysgwch am nodweddion arbed ynni Ty Gwyrdd a chael cyngor defnyddiol ar sut i fyw bywyd sy’n ffafriol i’r amgylchedd.

Drama yn yr Amgueddfa 26 Mawrth, 11am-3pm Dewch i gyfarfod llysieuydd o’r ail ganrif ar bymtheg a’i merch wrth iddyn nhw baratoi moddion i drin y cymdogion – ond mae dieithriaid yn y dre a si am wrachod!

Cerddi a Chrwydro – Ivy Alvarez 27 Mawrth, 2pm-3pm Cafodd y bardd Ivy Alvarez ei hysbrydoli i ysgrifennu barddoniaeth yn Sain Ffagan. Ymunwch ag Ivy ar daith o amgylch y safle tra’n gwrando ar ei cherddi.

Diwrnod Lansio Archwilio Natur 2 Ebrill, 11am-1pm a 2pm-4pm Lansiad am 11am yn Oriel 1Ymunwch â ni am lansiad ein project cyffrous: Archwilio Natur. Amrywiaeth o weithgareddau ar thema natur gan gynnwys hela bwystfilod bach, chwilio’r llynnoedd ac ymweld â’n cuddfan adar.

Gyda chefnogaeth:

Sut Beth Oedd Bywyd i Bobl Oes yr Haearn? 9 a 23 Ebrill, 12pm-12.30pm (Cymraeg), 2pm-2.30pm (Saesneg) Sgwrs yn y Pentref Celtaidd. Addas i oedolion a theuluoedd â phlant dros 8 oed.

Bwyd Tymhorol yn Oes yr Haearn 16-18 Ebrill, 11am-12.30pm a 2.15pm-3.30pm Cyfle i deuluoedd ddysgu technegau coginio yn y Pentref Celtaidd.

Byw’n Wyrdd yn Ty Gwyrdd 16 Ebrill-2 MaiDiwrnodau Gweithgareddau: Ebrill 18-21 a 26 -29, 11am-1pm a 2pm-3pm Dysgwch am nodweddion arbed ynni Ty Gwyrdd a chael cyngor defnyddiol ar sut i fyw bywyd sy’n ffafriol i’r amgylchedd.

Hel Achau 16 Ebrill, 11am-4pm Pwy ydych chi ac o ble ydych chi’n dod? Ymunwch â’n arbenigwyr i drafod sut i olrhain eich coeden teulu.

Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt yn Sain Ffagan 18-20 Ebrill, 12pm, 2pm a 3pm o Oriel 1 Dewch i ddarganfod peth o’r bywyd gwyllt gwych a phrin sydd i’w weld yn Sain Ffagan. Ymunwch â ni ar daith gerdded drwy dir yr amgueddfa gan ymweld â’n cuddfan adar a defnyddio’r camerâu natur. Archebwch le wrth gyrraedd.

Ailgodi Adeilad Canoloesol Sant Teilo 22-25 Ebrill, 11am-4pm Sul y Pasg oedd uchafbwynt y flwyddyn ym 1500. Ymgollwch

yng ngwledda, chwaraeon a cherddoriaeth y cyfnod.

Helfa Wyau Pasg 22-25 Ebrill, 11am-3pm Chwiliwch y safle i ganfod ein wyau anferth a chopïo’r patrwm cyn dychwelyd i Oriel 1 i gasglu’ch gwobr!

Archwilio Natur yn Sain Ffagan 30 Ebrill, 11am-1pm a 2pm-4pm Dewch i weld a yw’r ystlumod wedi dychwelyd i glwydo gan ddefnyddio’n camerâu newydd! Oes mwy o fywyd gwyllt i’w weld? Sesiwn galw draw yn y Tanerdy.

Calan Mai: Anhrefn!

Page 10: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 1817 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Calan Mai: Anhrefn! 30 Ebrill-2 Mai, 11am-4pm Moddion a cherddoriaeth, bwyd a ffasiwn. Dyma’ch pasport i deithio drwy hanes i gyfnod y Tuduriaid.

Cert Celf: Hetiau a Mygydau 30 Ebrill-3 Mai, 11am-1pm a 2pm-4pmDewch i wneud hetiau a mygydau a mwynhau Anhrefn Mis Mai.

Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach 1 Mai, 5.30am Codwch gyda’r wawr i brofi un o ryfeddodau naturiol Ynysoedd Prydain. Ymunwch â’n adarwr preswyl ar daith hamddenol drwy dir Sain Ffagan cyn claddu brecwast cyfandirol. Addas ar gyfer oedolion a phlant dros 8 oed. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Clwb Cwiltio 7 Mai, 11am-12.30pm Ymunwch â’r sesiwn hamddenol hon gyda’r Clwb Cwiltio. Dewch â’ch projectau eich hun neu dechreuwch rywbeth newydd yn Oriel 1. Addas i oedrannau 16+. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Cyfarfod y Cerfwyr Coed 14 Mai, 10am-5pm Llwyau caru a barilau, clwydi a modelau – dewch i weld y cerfwyr coed wrth eu gwaith yn yr Amgueddfa.

Wythnos Addysg i Oedolion: Chwilota yn Sain Ffagan 15 Mai Casglwch fwyd tymhorol gyda’n harbenigwr chwilota Michele Fitzsimmonz ar daith hamddenol o amgylch y safle. Byddwch yn gorffen y diwrnod drwy greu a bwyta powlen o gawl danadl hufennog blasus. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Wythnos Addysg i Oedolion: Byddwch yn Greadigol 17 Mai Gadewch i Eglwys Sant Teilo ysbrydoli’ch doniau celfyddydol. Dysgwch am bigmentau Tuduraidd a rhoi tro ar eu cymysgu. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Mania Morris Minor! 22 Mai, 10am-5pm Boed yn dwli ar y Morris Minor neu’n ymweld â’r Amgueddfa’n unig – dewch i fwynhau’r amrywiaeth o geir fydd yn cael eu dangos.

Hwyl Gwyl y Banc! 28-30 Mai, 11am-4pm Amrywiaeth o weithgareddau gwych i’w gweld gydag Arddangosiad Cwn Rockwood yn ganolbwynt i’r cyfan!

Byw’n Wyrdd yn Ty Gwyrdd 28 Mai-5 MehefinDiwrnodau Gweithgareddau: 30 Mai-2 Mehefin, 11am-1pm a 2pm-4pm Dysgwch am nodweddion arbed ynni Ty Gwyrdd a chael cyngor defnyddiol ar sut i fyw bywyd sy’n ffafriol i’r amgylchedd.

Cert Celf: Ceiniogau ac Arian 28 Mai-5 Mehefin, 11am-1pm a 2pm-4pm Cert celf Creu Hanes. Ymunwch yn ein gweithgareddau celf a chrefft wedi’u seilio ar Gelc Tregwynt – copïwch rai o’r ceiniogau neu gwnewch eich arian eich hun.

Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt yn Sain Ffagan 30 Mai-1 Mehefin, 12pm, 2pm a 3pm yn Oriel 1 Ymunwch â ni am daith gerdded drwy dir yr Amgueddfa i ddarganfod toreth o fywyd gwyllt wrth i Wythnos Bioamrywiaeth Cymru agosáu. Archebwch le wrth gyrraedd.

Ffair Planhigion Anarferol 30 Mai, 10am-5pm Cyfle gwych i gyfarfod â’r garddwyr a dysgu sut i gael gafael ar rai o’r rhywogaethau prinnaf.

Casglu Cynnyrch a’i Goginio! 4 Mehefin, 11am a 2pm Dewch ar daith gerdded drwy ardd y bwthyn lle byddwn yn cynaeafu cynnyrch ffres, tymhorol, cyn dychwelyd i gegin Ty Gwyrdd i goginio danteithion blasus. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Archwilio Natur yn Sain Ffagan 4 Mehefin, 12pm, 2pm a 3pm o Oriel 1 Dechrau wythnos Bioamrywiaeth Cymru. Dewch draw i fwynhau taith gerdded drwy’r Amgueddfa gan weld cyfoeth o fywyd gwyllt o’n cuddfan adar a defnyddio’n camerâu natur. Archebwch le wrth gyrraedd.

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 6-8 Mehefin, 12pm, 2pm a 3pm o Oriel 1 Byddwn ni’n dathlu’r cyfoeth o fywyd gwyllt sydd i’w weld yma yn Sain Ffagan drwy’r wythnos. Dewch ar daith gerdded i ganfod bywyd gwyllt ar dir yr Amgueddfa gan ddefnyddio’r guddfan adar a’r camerâu natur, a chanfod pa anifeiliaid sy’n byw yma. Archebwch le wrth gyrraedd.

Gwyl Plant Morgannwg 11 Mehefin, 10am-3pm Cyfle gwych i weld plant o bob cwr o siroedd Morgannwg yn mwynhau ein diwylliant unigryw ac yn dawnsio gwerin ar y safle.

Gwyl Ifan 18 Mehefin, 2pm-3pm Dewch i weld dawnsio gwerin a cherddoriaeth draddodiadol wrth ddathlu’r wyl arbennig hon.

Sul y Tadau 19 Mehefin, 11am-4pm Dewch a Dad i fwynhau diwrnod o yrru tractorau, heboga a saethyddiaeth.

Teithiau Sgyrsiau a ChyngherddauSgwrs: Tommy Vile – Cysegri’i Fywyd i Rygbi 5 Mawrth 2pm-3pm Yr hanesydd rygbi Philip J Grant yn siarad am lwyddiannau ysgubol Tommy Vile ar y maes rygbi ac wedi hynny yn ei yrfa fel dyfarnwr a gweinyddwr.

Gweithdai Gwydr Lliw 19-20 Mawrth, 11pm-1pm & 2pm-4pm Yr arbenigwr gwydr lliw Roger Hayman yn trafod y grefft canol oesol hon ac yn esbonio’r broses, a’r arbenigwr Alun Adams o Ysgol Gwydr Pensaernïol Cymru, a gynhyrchodd ffenestri prydferth Sant Teilo, yn siarad am ddatblygiadau newydd mewn hen wydr.

Sgwrs: Creu Hanes – Chwalu’r Chwedlau 26 Mawrth, 2pm-3pm Dadl liwgar a bywiog fel rhan o amserlen Creu Hanes. Mae’r haneswyr Maddy Grey a Katherine Olson yn adnabyddus am herio stereoteipiau hanes Cymru.

Noddir Oriel 1 yn garedig gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Page 11: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru 2019 Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Sgwrs: Juliette Wood 30 Ebrill, 2pm-3pm Juliette Wood yn trafod ysbrydion, ellyllon, eglwysi llawn bwganod a’r byd goruwchnaturiol.

Sgwrs: Y Gymru Fodern Gynnar – Yr Oes Fonheddig 28 Mai, 2pm-3pm Sgwrs gan yr hanesydd enwog John Davies (Cymraeg gyda chyfieithiad Saesneg).

Taith Gerdded Duduraidd 28-30 Mai, 12pm (Saesneg), 3.30pm (Cymraeg) o Oriel 1 Archwiliwch y gemau cudd ym mhridd gerddi Tuduraidd Sain Ffagan. Dysgwch sut i warchod eich hun rhag ellyllon, trwsio asgwrn wedi torri, rhagweld y dyfodol a gwneud salad Tuduraidd blasus.

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru – Cyfri Ystlumod 10 Mehefin, 8.30pm-11pm Helpwch ni i gynnal arolwg o’r ystlumod sy’n byw yn Sain Ffagan. Byddwn ni’n dysgu sut i ddefnyddio canfodydd ystlumod ac yn cyfri a chofnodi ein hystlumod lleol fel rhan o’r Rhaglen Monitro Ystlumod Genedlaethol. Does dim rhaid i chi fod â phrofiad. Dewch a thorsh, dillad cynnes ac esgidiau addas. Mae’n anaddas i blant o dan 14 oed a rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Rhaid archebu lle: (029) 2057 3424.

Sgwrs: Ysblander Cudd 25 Mehefin, 2pm-3pm Ym 1850 canfuwyd ffigwr pren o Grist mewn wal eglwys. Am faint fuodd yno a pam y cafodd ei guddio? Dilynwch y broses o geisio ateb y cwestiynau yma ac ailddarganfod ei ysblander coll.

Gofynnwch i’r GarddwrTaith dywys drwy erddi’r bwthyn 15 Mawrth, 11am-2pm Ewch am daith drwy erddi’r bwthyn gyda aelod o’n tîm garddio. Cyfle i dderbyn cyngor garddio a dysgu am sêr ein casgliadau llysiau hanesyddol.

Y gwanwyn a’r Borderi llysieuol 19 Mawrth, 2pm-3pm Dysgwch fwy am baratoadau’r gwanwyn yn y border perlysiau ar frig Terasau’r Castell.

Paratoi pridd 24 Mawrth, 2pm-3pm Dewch i ardd y Tŵ Prefab i weld sut i baratoi’r pridd ar gyfer plannu tatws.

Plannu tatws traddodiadol 26 Mawrth, 2pm-3pm Galwch draw i Ryd-y-car i weld tatws traddodiadol yn cael eu plannu.

Hau hadau traddodiadol 27 Mawrth, 2pm-3pm Rydyn ni’n tyfu nifer o hadau na ellir eu prynu yn y siopau erbyn hyn yn Abernodwydd. Galwch draw i’r ardd i ddysgu beth allwch chi ei hau nawr.

Plannu tatws 31 Mawrth, 2pm-3pm Dysgwch am blannu tatws ym Mhrydain wedi’r rhyfel yng ngardd y Ty Prefab.

Hau ffa’r gerddi 6 Ebrill, 2pm-3pm Rydyn ni’n tyfu nifer o hadau na ellir eu prynu yn y siopau erbyn hyn, gan gynnwys ffeuen Martock – ffeuen fechan â hadau y credir ei bod yn dyddio o’r oesoedd canol. Galwch draw i ardd Nant Wallter i weld yr hadau traddodiadol yma yn cael eu hau.

Tyfu gwinwydd dan wydr 24 Ebrill a 19 Mehefin, 2pm-3pm Dysgwch beth ddylech chi ei wneud yn y Gwinwydd-dy y mis hwn.

Rhosod yn Blaguro 18 Mehefin, 2pm-3pm Dewch i’r Ardd Rosod i ddysgu sut byddwn ni’n lluosogi’n rhosod prin.

Digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd, yn cynnwys trefniadau archebu lle, ewch i’n gwefan www.amgueddfacymru.ac.uk

amgueddfacymru.ac.uk

Page 12: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Gweithgareddau i’r TeuluPenwythnosau Cenedlaethol Gwyddoniaeth a PheiriannegJinglarins12 a 13 Mawrth, Sadwrn 11am-4pm a Sul 2pm-4pmRoedd y Rhufeiniad yn hoffi gwisgo gemwaith lawn cymaint â ni. Cewch wylio gemwaith yn cael ei greu a rhoi cynnig ar greu darn syml. Codir ffi fechan.

Penwythnosau Cenedlaethol Gwyddoniaeth a PheiriannegHaearn bob dydd19 a 20 Mawrth, Sadwrn 11am-4pm a Sul 2pm-4pmMewn oes cyn plastig, roedd gwneud pethau o fetel yn swydd bwysig, a chyfriniol weithiau. Dysgwch am ofaint Rhufeinig a gwyliwch of modern wrth ei waith.

Plentyndod Rhufeinig 16 Ebrill-1 Mai, Llun-Sadwrn 11am-4pm a Sul 2pm-4pmBeth yn y byd oedd plant yn ei wneud cyn yr Xbox?! Rhowch dro ar ambell i gêm Rufeinig a chewch greu tegan ceffyl i fynd adre gyda chi. £2 y plentyn.

21 Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Helfa Wyau Pasg 24 Ebrill, 2pm-4pmDilynwch y cliwiau i ddod o hyd i’r siocled!

Bwytewch, yfwch a byddwch lawen! 2 Mai, 11am-4pmDathlu – yn null y Rhufeiniaid! Cewch drio bwyd Rhufeinig, gwylio fersiwn Rufeinig o Ready, Steady, Cook a gwrando ar ddrama fer – A Bad Cook.

Wythnos Addysg i Oedolion Blas ar Rufain Dydd Sadwrn 14 Mai, 11am-4pm a Dydd Iau 19 Mai, 6pm-8pmDewch i’r Amgueddfa i brofi bywyd Rhufeinig; creu mosaig, coginio bwyd Rhufeinig neu ddysgu’r iaith! Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

Gwisgoedd Gwych 30 Mai-3 Mehefin,11am-4pmPa fath o ddillad oedd y Rhufeiniaid yn eu gwisgo? Dewch i weld, a chewch geisio gwneud rhai gan ddefnyddio ffelt. £2 y plentyn.

Gladiator! 2 a 3 Gorffennaf, 10am-5pmYmunwch â ni yng ngardd yr Amgueddfa wrth i’r gladiatoriaid gorau yng Nghaerllion baratoi i ymladd - dewiswch eich enillydd! Dysgwch sut oedd brwydrau rhwng gladiatoriaid yn dechrau, pa draddodiadau oedd ganddyn nhw, a chymryd rhan yn ein hysgol gladiatoriaid. Cewch siopa yn ein marchnad Rufeinig, gwylio crefftwyr wrth eu gwaith a bwyta yn nhafarn y Baedd Bodlon.Oedolion £3, plant £2, plant dan 5 am ddim. Bydd cost fechan ychwanegol am y bwyd.

ArddangosfeyddUn Teulu Mawr Chwefror-Mai, 10am-5pmMae teuluoedd o bob lliw a llun i’w cael heddiw, yr un fath â theuluoedd y byd Rhufeinig. Dewch i ddarganfod pa mor amrywiol oedd bywyd teuluoedd Rhufeinig.

Castell? Pa gastell? Mai-Ionawr 2012, 10am-5pmRoedd Caerllion yn dref Ganoloesol brysur, a’r castell yn ganolbwynt iddi. Dewch i ddarganfod mwy am y castell a’r bobl oedd yn byw yno.

Teithiau, Sgyrsiau a ChyngherddauDrwy’r Ddrysfa: Crefydd ddirgel Prydeinig-Rufeinig Arthur Machen 14 Mawrth, 6pm-8pmDrysau’n agor am 6pmGwreiddiau hynafol Rhufeinig a Phrydeinig y dref a’r wlad o’i chwmpas ysbrydolodd syniadau a straeon yr awdur Arthur Machen. Esboniad gan Dr Juliette Wood am sut y llwyddodd i gyfuno archaeoleg a chwedloniaeth yn ei athroniaeth a’i ffuglen unigryw. Tocynnau: £3.50. Addas i oedolion yn unig. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

Penderfynwch Chi… Caethwasiaeth: peth da neu ddrwg? 26 Mai, 6pm-8pmDrysau’n agor am 6pmHeb gaethwasiaeth, fyddai’n byd ni heddiw ddim yn bod. Ymunwch â Dr Mike Thomas a Liz Mayor am drafodaeth ar gaethwasiaeth a chyfle i ddweud eich dweud! Tocynnau: £3.50. Addas i oedolion yn unig. Rhaid archebu lle ymlaen llaw: (01633) 423134.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion 22 amgueddfacymru.ac.uk

Page 13: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Gweithgareddau DyddiolLlwybr y Pentref10am-4.30pmDilynwch y llwybr a datgloi cyfrinachau gwlân Dre-fach.

Y Stori Wlanog 10am-5pmTaith hwyliog ac addysgiadol i deuluoedd fydd yn gymorth i ddeall y broses O Ddafad i Ddefnydd.

Teithiau TywysCysylltwch â ni am fanylion: (01559) 370929.

Gweithgareddau i’r TeuluGweithgareddau Cert Celf y Pasg 15 Ebrill-2 Mai, 10am-4pm Gweithgareddau’r cert celf llawn hwyl y Pasg a llwybrau tymhorol.

Crefftau’r Pasg – Hwyl yr wy 2 Mai, 10am-3pm Ffeltio, crefft papur, carpedu clytiau, gweu, cwiltio a llawer mwy. Rhannwch a dysgwch dechnegau newydd drwy arddangosiadau, gweithdai a stondinau. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am weithdai. Rhaid archebu lle ar gyfer rhai gweithdai: (01559) 370929.

Diwrnod Rhyngwladol y Picnic 18 Mehefin, 10am-4pm Mwynhewch bicnic, archebwch le ar daith dywys ar lwybrau’r pentref, neu ymunwch â’r helfa dedis i ddathlu diwrnod rhyngwladol y picnic. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth: (01559) 370929.

Teithiau, Sgyrsiau a ChyngherddauCyngerdd yr Ysgolion Cynradd Lleol 14 Ebrill, 6.30pm Dathliad o’r doniau sydd yn ein hysgolion lleol.

Clwb Gweu Dydd Mawrth cyntaf a thrydydd bob mis, 2pm Dewch i weu gyda grwp yr Amgueddfa.

Troellwyr Caerfyrddin a Throellwyr Ceredigion, Gwehyddion a LliwyddionBob yn 2il ddydd Mercher bob mis, 10.30pm-3pm Cyfle i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

Grwp Carpedu Clytiau Dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd bob mis, 2pm Cyfle i weld y grwp yn arddangos eu sgiliau.

ArddangosfeyddJulia Griffiths Jones 10am-5pm Arddangosfa barhaol o waith yr artist tecstilau Julia Griffiths Jones

Sasha Kagan – Pedair Degawd o Glasuron GweuMawrth ac Ebril, 10am-5pm

Amgueddfa Wlân Cymru

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre 24

Caffi1-5 Mawrth, 10am-4pm

Dewch i fwynhau bwydlen Gymreig arbennig sy’n defnyddio ryseitiau traddodiadol yng nghaffi’r Amgueddfa, Y Gorlan.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

23 Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Sgyrsiau a FfilmiauDarlith Flynyddol – Cartwns y Cymoedd 2 Ebrill, 2.30pmYr Athro Chris Williams, Prifysgol Abertawe, yn siarad am y cartwnydd J. M. Staniforth a’i bortread o lowyr de Cymru, 1893-1921.

Clwb Ffilmiau Big Pit 18 Mai, 1.30pmCyfle prin i weld clasur o Gymru, gyda chyfle i drafod y materion sy’n codi yn y ffilm wedi hynny.£1.50 y pen – gan gynnwys lluniaeth.Ewch i’r wefan neu ffoniwch: (01495) 790311 i gael manylion y ffilm.

ArddangosfeyddGlo Cymru – Dur Llydaw4 Ebrill-24 Mehefin, 11am-4pmArddangosfa mewn pedair iaith fydd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng y Gymru ddiwydiannol a Llydaw, gwlad y dur.

Gweithgareddau i’r TeuluBonjour Byti! 16-25 Ebrill a 28 Mai-4 Mehefin, 11am-4pmGemau, celf a chrefft a digonedd o weithgareddau eraill llawn hwyl i’r teulu cyfan fydd yn edrych ar gysylltiadau ieithyddol.

Page 14: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

GweithgareddauOs ydych chi’n awchu am wybodaeth byddwch yn siwˆr o fwynhau un o’n teithiau, ein sgyrsiau neu ein harddangosiadau arbennig! Cewch weld llechen yn cael ei hollti; ymgolli mewn llwch coed ar un o deithiau cerdded y Saer; neu archwilio injan y chwarel, UNA! Dyddiadau ac amseroedd amrywiol – ewch i wefan yr Amgueddfa am wybodaeth.

Patrymau perffaith! 28 Ebrill, 2 Mehefin, 30 Mehefin a 28 Gorffennaf, 1pm-3pmDewch i ddarganfod y byd tu ôl i’r llenni gyda’n Curadur yn y storfa patrymau pren newydd.

Arddangosfeydd

Dyddiau Du/Dark Days 26 Mawrth-3 Ebrill Yr arddangosiad cyntaf o waith John Cale yng ngogledd Cymru. Ef oedd artist gwadd Cymru ym 53fed Arddangosfa Eilflwydd Celf Fenis yn 2009. Mae John Cale yn bennaf enwog am ei gerddoriaeth arbrofol, o’i waith gyda bandiau megis yr arloesol Velvet Underground yn Efrog Newydd hyd heddiw. Mae Dyddiau Du/Dark Days yn waith awdio-weledol sy’n adlewyrchu poen a phwer etifeddiaeth ddiwylliannol a’i chymhlethdod a’i hystyr iddo. Ffilmiwyd y gwaith mewn sawl lleoliad yng Nghymru gan gynnwys hen gartref y teulu (sydd bellach yn wag) yn Garnant, Rhydaman a Chwarel Dinorwig yn Llanberis.

Digwyddiadau i’r Teulu Sioe Trenau Bach 24-27 Chwefror, 10am-4pmInjans mawr, bach, rhai go iawn a modelau – bydd pob

math i’w gweld yma. Cewch godi stêm wrth wylio’r modelau wedi’u gosod allan neu fynd am dro ar y trenau; a pheidiwch ag anghofio dod â’ch trenau lled ‘00’ eich hun i’w defnyddio ar y ‘trac prawf’! Digwyddiad i’r teulu cyfan!

Dydd Gwyl Dewi 1 Mawrth, 11am-3pmDewch i ddathlu’r ‘mwyaf Cymreig o ddiwydiannau Cymru’ ar ddiwrnod dathlu’r genedl.

Llwybrau’r Pasg 18-25 Ebrill, 10am-4pmDilynwch lwybrau’r Pasg drwy’n gweithdai i ennill gwobr!

Haf o Lechen 25 Gorffennaf-31 AwstGalwch draw i’n gweithdai i fwynhau hwyl yr haf – perffaith i oedolion a phlant! Ewch ati i addurno darn o lechen, gwneud bathodyn, neu fynd i brofi’ch creadigrwydd ar y safle! £1 y plentyn.

Digwyddiadau Rheolaidd

Gwneud a Thrwsio5 Mawrth – Decoupage 2 Ebrill – Llyfrau 7 Mai – Planhigion a Blodau4 Mehefin – Crochenwaith 1.30pmTwriwch drwy fasgedi o hen betheuach a’u troi yn rhywbeth newydd a gwahanol. Croeso i ymwelwyr o bob gallu. Addas i oedolion. £3 y pen. Awgrymir archebu lle. (01792) 638950.

Canu gyda Babi 7 Mawrth, 4 Ebrill a 6 Mehefin, 11.30am Galwch draw gyda’ch plant i ddysgu rhigymau a chaneuon Cymraeg poblogaidd. Perffaith ar gyfer oedrannau 0-3. Dan arweiniad Menter Iaith a Twf.

Plantos y Glannau 25 Mawrth – Pobl o’r Gorffennol27 Mai – Peiriannau a Dyfeisiadau24 Mehefin – Cerrig a Ffosilau 10.30am a 1.30pmSesiwn chwarae a dysgu thematig i blant rhwng 18 mis a 5 oed. Dan arweiniad Holibods.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 2625 Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Taith Iaith 19 Mawrth, 16 Ebrill, 14 Mai a 18 Mehefin, 10.30am Ydy chi’n dysgu Cymraeg? Dewch i ymarfer eich sgiliau gyda thaith iaith Gymraeg drwy’r orielau gyda chwpaned o de am ddim i ddilyn. Croeso i ddysgwyr o bob gallu.

Hwyl i’r TeuluParti Dydd Gwyl Dewi Sant 27 Chwefror, 12pm-4.30pm Paratowch at Ddydd Gwyl Dewi gyda phrynhawn o weithgareddau Cymreig. Beth am wisgo eich dillad Cymreig gorau a chystadlu yn y gystadleuaeth ‘gwisg orau’.

Page 15: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

Creu eich Siampw eich hun 12 a 13 Mawrth, 11.30am, 12.30pm, 1.30pm a 2.30pm Cyfle i wyddonwyr brwd roi cynnig ar gymysgu persawrau a lliwiau cyn potelu eu siampw personol i’w gymryd adref. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950. Gweithgaredd arbennig ar gyfer Wythnos Gwyddoniaeth a Pheiriannu ar y cyd ag Alberto Culver.

Gweithdy Gwyddoniaeth Ffotograffiaeth 19 a 20 Mawrth, 2pm Fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth a Pheiriannu, dysgwch sut mae camera yn dal golau ac yn creu delwedd gydag arbrofion ac arddangosiadau diddorol. Addas i deuluoedd gyda phlant rhwng 7-11 oed. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Gweithdy Crefft Llyfrau 2 a 3 Ebrill, 2pm Gweithdy galw draw lle cewch chi gyfle i droi hen lyfrau rhacs yn greadigaethau crefftus newydd.

Hwyl i’r Plantos ar y Glannau 10 Mai, 10.30am-12pm Bore llawn hwyl o ganu, adrodd straeon a chelf a chrefft yn Gymraeg. Addas i deuluoedd â phlant meithrin. Dan arweiniad Menter Iaith a Twf.

Nos yn yr Amgueddfa 13 Mai, 6pm Maen ddydd Gwener y 13eg a bydd hud ar yr Amgueddfa wedi amser cau. Cymerwch ran mewn gweithgareddau hwyliog cyn gwylio’r ffilm Harri Potter gyntaf ar y sgrin fawr – Harry Potter and the Philosopher’s Stone. £2 y pen. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Trafnidiaeth y Dyfodol 28 Mai-5 Mehefin, 12.30pm a 2.30pm Gan ddwyn ysbrydoliaeth o Sioeau Gradd Prifysgol Fetropolitan Abertawe, gweithiwch gyda’r myfyrwyr i ddylunio a chreu eich model eich hun. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950. Addas i deuluoedd â plant 6+.

Bant â Hi! 5 Mehefin, 12pm-3.30pm Dewch i weld ein replica o’r injan stem gyntaf yn y byd yn gweithio wrth i ni roi tân yn ei bol a’i gyrru ar hyd y cledrau. Os bydd y tywydd yn caniatáu.

Wythnos Ffoaduriaid – Diwrnod o Hwyl 25 Mehefin, 12pm-4.30pm Dathlu Wythnos Ffoaduriaid gyda chymysgedd o gerddoriaeth, dawns, stondinau crefft ac arddangosiadau o bedwar ban byd. ewch i www.refugeeweek.org.uk am ragor o fanylion.

Gwledd Gwyliau’r Pasg!Cyfarfod y Cwningod a’r Cywion! 16 Ebrill-2 Mai, 10am-5pmGalwch draw i ardd yr Amgueddfa i gyfarfod trigolion newydd sy’n aros gyda ni dros y gwyliau o Fferm Gymunedol Abertawe.

Planhigion ac Anifeiliaid y Gwanwyn 16-21 a 26-29 Ebrill, 1.30pm-4.30pmDewch draw at y bwrdd gweithgareddau dros y Pasg i gael hwyl yn creu ar thema planhigion, anifeiliaid a natur.

Cwningod, Ffrindiau a Bwyd 17 Ebrill, 2.30pmYmunwch â Chris Jones, Rheolwr Fferm Gymunedol Abertawe, dros y Pasg am olwg ddiddorol ar gadw cwningod.

Helfa Wyau Pasg Fawr yr Amgueddfa 22 a 25 Ebrill, 11.30am a 2.30pmChwiliwch ym mhob twll a chornel o’r orielau am wyau lliwgar i ennill siocled masnach deg. Rhaid archebu lle: (01792) 638950. Gyda chefnogaeth Masnach Deg Cymru.

amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 2827 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Adeiladu Mawr 23 a 24 Ebrill, 1.30pmDewch i’n helpu ni gyda’n sialens FAWR i adeiladu castell anferth gan ddefnyddio system adeiladu K’NEX a deunyddiau sgrap. Sesiwn galw draw. Dan arweiniad XL Wales.

Gwasgu Planhigion 30, 31 Ebrill a 1 Mai, 2pm-4pmDewch i roi cynnig ar wneud printiau anhygoel o’r byd natur o’n hamgylch gan ddefnyddio dull sy’n ganrifoedd oed. Sesiwn galw draw.

Dangos Ffilmiau yn yr OrielProud Valley (1940) PG 20 Mawrth, 2.30pmClasur sy’n rhaid ei gweld gyda Paul Robeson yn chwarae rhan David Goliath, taniwr llong sy’n dod i Gymru i chwilio am waith ac yn canfod ei hun mewn tref lofaol fechan. Pan arweinia cwymp twnnel at drychineb caiff y lofa ei chau gan adael y gweithwyr yn ddi-waith. Gan obeithio perswadio’r perchnogion i ailagor y lofa, mae Goliath yn arwain grw p o brotestwyr ar daith i Lundain.

How Green Was My Valley (1941) U 27 Mawrth, 2.30pmMae’r ffilm wedi’i seilio ar nofel Richard Llewellyn, ac yn canolbwyntio ar Huw (Roddy McDowall), sy’n 10 mlwydd oed a’r ifancaf o saith plentyn Mr a Mrs Morgan (Donald Crisp a Sarah Allgood), pâr gwydn sydd ar fin wynebu un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes eu tref lofaol fechan yn ne Cymru wrth i Mr Morgan wrthod ymuno â streic y glowyr.

Eisteddfod yr Urdd 30 Mai-4 MehefinCofiwch ddod i ymweld â ni yn yr Eisteddfod. Bydd cornel celf a chrefft yno a chyfle i eistedd mewn Sinclair C5!

Page 16: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

29 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe amgueddfacymru.ac.uk Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 30

The World of Peter Rabbit and Friends (2006) U 24 Ebrill, 2.30pmDyma animeiddiad twymgalon o dair o straeon enwocaf Beatrix Potter. The Tale of Peter Rabbit and Benjamin Bunny, The Tale of the Flopsy Bunnies and Mrs Tittlemouse a The Tale of Tom Kitten and Jemima Puddleduck.

Wallace & Gromit: The Curse of the Were-Rabbit (2005) PG 1 Mai, 2.30pmGwyliwch Wallace a’i gi ffyddlon Gromit, yn mynd ati i geisio datrys dirgelwch yn eu pentref. Pwy sy’n difrodi’r gerddi ac yn bygwth difetha’r gystadleuaeth tyfu planhigion flynyddol?

Sgyrsiau a DarlithoeddPan Oeddem yn Lowyr 12 Mawrth, 11amYmunwch ag Ian Isaac fydd yn archwilio – drwy gyfrwng profiadau personol – sawl agwedd o streic glowyr 1984/85 yn cynnwys datblygu’r diwydiant glo, yr undebau a’i rôl yntau yn y streic.

Ffaith a Ffuglen Dic Penderyn 19 Mawrth,11amSgwrs gan Viv Pugh, cadeirydd cymdeithas Dic Penderyn, ar hanes y digwyddiadau arweiniodd at Wrthryfel Merthyr a’i ganlyniadau.

Pererindod yng Nghymru 25 Mawrth, 4pmSgwrs gan William G. Zajac ar gyfer Cymdeithas Hanesyddol Abertawe. Addas i oedolion yn unig.

Terfysgoedd Tonypandy 26 Mawrth, 11amSgwrs am derfysgoedd 1910, neu Streiciau’r Cambrian Combine, gan yr arbenigwr lleol David Maddox.

Esgobaethau Cymru a Lloegr yn y Modern Cynnar 9 Ebrill, 11amSgwrs gan Dr Andrew Foster ar gyfer Cymdeithas Hanesyddol Abertawe.

Gwragedd Busnes Dysgedig 4 Mehefin, 11amBydd y drafodaeth hon yn taflu golwg ar Elizabeth Montagu, rheolwraig glofeydd Newcastle a Hester Thrale (Salusbury yn wreiddiol), Cymraes ddysgedig a reolodd fragdy ei gw r wedi ei farwolaeth.

Cymru a’r Ymerodraeth Brydeinig 1650-1830 11 Mehefin, 11amSgwrs gan yr Athro Huw Bowen, Prifysgol Abertawe ar gyfer Cymdeithas Hanesyddol Abertawe.

Oedolion a Phobl Ifanc (16 years+)Diwrnod Copr 5 Mawrth, 11am-4pmDewch i fwynhau gw yl ledled y ddinas i ddathlu treftadaeth gopr Cymru. Am ragor o wybodaeth a manylion archebu, ewch i amgueddfacymru.ac.uk neu dilynwch y project ar twitter.com/copperhistories

Ffair Briodas y Glannau 6 Mawrth, 11am-4pmParatowch i gael eich hysbrydoli yn Ffair Briodas y Glannau. Dewch i weld ein hamgueddfa unigryw a chyfarfod ag arddangoswyr sydd wedi’u dewis yn arbennig a gadewch i ni eich helpu i drefnu’ch diwrnod arbennig. Ar y cyd â Val Slater Wedding Fayres a Digby Trout Restaurants.

Hel Achau 26 Mawrth a 7 Mai, 2pmAm wybod mwy am hanes eich teulu? Ymunwch â Chymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg mewn sesiwn ymarferol fydd yn defnyddio’r cyfrifiad i ganfod gwybodaeth. Awgrymir archebu lle: (01792) 638950.

Cyfnewid Llyfrau 2 a 3 Ebrill, 11am-4pmY ty braidd yn llawn? Beth am gael gwared â llyfrau diangen a’u cyfnewid am gasgliad newydd. Dylai pob llyfr fod mewn cyflwr da, darllenadwy a cewch docyn am bob llyfr dilys. Mewn partneriaeth ag Oxfam Bookshop a Chanolfan yr Amgylchedd.

Gweithdy Enamlo Blodau’r Gwanwyn 7 a 8 Mai, 10.30am a 2pmDysgwch am y dechneg ddiddorol hon sy’n defnyddio powdwr gwydr a chopr mewn sesiwn gyflwyno ymarferol dan arweiniad yr artist Maggie Jones. £6 y pen. Rhaid archebu lle: (01792) 638950.

O Forthwyl i Fwyell 18 Mai, 2pmDysgwch am offer llaw traddodiadol yn ein sesiwn trin gwrthrychau arbennig dan arweiniad Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion.Sesiwn galw draw.

Beth sydd yn y Fasged Siopa? 19 Mai, 2pmYmunwch ag Ian Smith, ein Curadur Diwydiant Modern yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, i hel atgofion a gweld nwyddau cartref a nwyddau siopa mor bell yn ôl â’r 1920au yn y sesiwn trin gwrthrychau hon. Sesiwn galw draw.

Blasu Gwin yn yr Haf 10 Mehefin, 7pmDigwyddiad hafaidd arbennig i oedolion gyda gwinoedd o Chile i gyfeiliant cerddoriaeth o’r ardal a mapiau lleoliadau.Tocynnau £10 neu £8 gyda gostyngiad. Awgrymir bwcio: (01792) 638950.

ArddangosfeyddStreic a Therfysg Tan 3 Ebrill, 10am-5pmGolwg fanwl ar amseroedd cythryblus yn hanes diwydiannol Cymru. Beth sy’n achosi dynion i wrthod gweithio a streicio? Yw’r perchnogion wastad yn anghywir a’r undebau wastad yn iawn, neu yw’r dorf wastad yn drafferthus? Gwrthdaro, drama, barn gref a dadl rymus o Ferched Beca i Borth y Lofa – pwy ydych chi’n eu cefnogi?

Ffoli ar Wydr Abertawe Tan 27 Mawrth, 10am-5pmHamddena yn y golofnfa wrth i haul y gwanwyn oleuo calonnau, penillion a chyflwyniadau rhagorol. Dan arweiniad myfyrwyr o Ysgol Wydr Bensaernïol Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Blwyddyn Cyfrifiad 2011 5 Mawrth-22 Mai, 10am-5pmWyddoch chi y bydd pawb yn y DU yn cael ei gofrestru yn y Cyfrifiad Cenedlaethol ar 27 Mawrth 2011? Dysgwch sut y cawn ni i gyd ein cyfri a sut y defnyddiwyd cyfrifiadau yn y gorffennol gyda chymorth Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Locws Art International 16 Ebrill-15 Mai, 10am-5pmCyfle i weld celf gan amrywiaeth o artistiaid rhyngwladol sydd wedi creu gweithiau syfrdanol fydd yn cael eu harddangos mewn lleoliadau cyhoeddus ledled Abertawe.

Sioeau Gradd 15-22 Mai, Dylunio Hysbysebion28 Mai-19 Mehefin, Dylunio Cynnyrch a Gwydr PensaernïolArddangosiadau o ddylunio a chreadigrwydd sydd ar flaen y gad gan fyfyrwyr Gwydr Pensaernïol, Dylunio Cynnyrch a Hysbysebu o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.

Ffasau Glo a Chopr 28 Mai-29 Awst, 10am-5pmRoedd William Logan yn feistr copr yn y 1830au a dynnodd fapiau manwl o ffasau glo lleol a ddefnyddiwyd ar gyfer y map Arolwg Daearegol cyntaf a wnaed o Gymru gan y llywodraeth. Mae’r arddangosfa hon yn cymharu’r mapiau yma â’r map daearegol diweddaraf o Abertawe gan yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

Page 17: Digwyddiadau Mawrth-Mehefin 2011 Amgueddfa Cymru

31 Amgueddfa Cymru

Anrhegion o Amgueddfa Cymru

Beth am roi anrheg arbennig o’r Amgueddfa i Mam a Dad y gwanwyn yma?

Os nad yw’r anrheg berffaith yn siopau’r stryd fawr, ewch i’n siop ar-lein ar gyfer anrhegion garddio, nwyddau i’r cartref a gemwaith arbennig. Neu os yw prynnu anrheg i Dad yn broblem, porwch drwy ein hadran Argraffu yn ôl y Galw i weld lluniau diddorol a phrydferth y gellir eu hargraffu ar bapur neu gynfas yn barod i chi eu fframio.

Yn olaf, cofiwch fynd i’r adran lyfrau i weld y casgliad cyfareddol o lyfrau am gelf, trafnidiaeth, gwyddoniaeth, diwydiant a hanes.

A chofiwch, byddwch yn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru bob tro y byddwch chi’n prynu.

Cydnabyddiaeth

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth y busnesau a’r sefydliadau isod:

– Alberto Culver – Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru– Athrofa Confucius Caerdydd– BiffawardCymdeithas Seryddol Caerdydd– Canolfan yr Amgylchedd– Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru– Cronfa Dreftadaeth y Loteri– Cronfa Gyfoes Nerys Johnson– CwpanAur– Cyfeillion Amgueddfa Cymru– Cymdeithas Adeiladu’r Principality– Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd– Cymdeithas Hanesyddol Abertawe– Cymdeithas Seryddol Caerdydd– Cyngor Caerdydd– Cyngor Celfyddydau Cymru– Digby Trout Resturants– Dowle Horrigan– Fferm Gymunedol Abertawe– G39– Holibods– Legal & General– Llywodraeth Cynulliad Cymru– Masnach Deg Cymru – Menter Iaith– Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd

Prifysgol Caerdydd– Noddwyr Amgueddfa Cymru– Prifysgol Caerdydd– Prifysgol Fetropolitan Abertawe– Really Welsh– RSPB– Sefydliad Clore Duffield– Sefydliad Dorset– Sefydliad Garfield Weston– Sefydliad Henry Moore– Sefydliad Wolfson– Setliad Elusennol GC Gibson– Siop Lyfrau Oxfam– Twf– Val Slater– XL Cymru– Y Gronfa Gelf– Y Gymdeithas Frenhinol– Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr

Cavatina– Ymddiriedolaeth Derek Williams– Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn– Yr Amgueddfa Brydeinig

Mae’r manylion yn gywir wrth i’r llyfryn fynd i’r wasg.Edrychwch ar y wefan www.amgueddfacymru.ac.uk cyn gwneud trefniadau arbennig.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP Ffôn: (029) 2039 7951 Ar agor: Dydd Mawrth-Dydd Sul a’r mwyafrif o Wyliau banc 10am-5pm. Bydd rhai orielau ar gau yn ystod ein cyfnos ailwapio.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru Caerdydd, CF5 6XB Ffôn: (029) 2057 3500 Ar agor: 10am -5pm bob dydd.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru Blaenafon, Torfaen, NP4 9XP Ffôn: (01495) 790311 Ar agor: bob dydd 9.30am -5pm. Teithiau cyson danddaear 10am -3.30pm. Amserau agor dros y gaeaf: 9.30am-4.30pm Teithiau danddaear: 10am-3pm. Ffoniwch i holi am ddyddidau’r teithiau danddear ym mis Ionawr.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AE Ffôn: (01633) 423134 Ar agor: Llun-sadwrn 10am-5pm Sul 2pm-5pm.

Amgueddfa Lechi Cymru Gilfach Ddu, Parc Gwledig Padarn, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TY Ffôn: (01286) 870630 Ar agor: Pasg-diwedd Hydref 10am-5pm bob dydd. Dechrau Tachwedd-Pasg 10am -4pm Sul-Gwener.

Amgueddfa Wlân Cymru Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Sir Gâr, SA44 5UP Ffôn: (01559) 370929 Ar agor: Ebrill-Medi: 10am–5pm, bob dydd; Hydref-Mawrth: 10am–5pm, Mawrth–Sadwrn.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ffordd Ystumllwynarth, Ardal Forwol Abertawe SA1 3RD Ffôn: (01792) 638950 Ar agor: 10am–5pm bob dydd.