16
Rhagfyr 2009 Papur Bro Dinas Caerdydd a’r Cylch Rhif 343 www.dinesydd.com Côr Caerdydd yn Rwmania Ddiwedd Hydref aeth Côr Caerdydd ar daith i ddwyrain Ewrop a pherfformio’r Petite Messe Solenelle gan Rossini yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Oradea, Rwmania. Hon yw’r gadeirlan fwyaf yn Rwmania, ac roedd yr adeilad yn orlawn ar y noson a’r gynulleidfa ar ei thraed i ddangos ei gwerthfawrogiad ar ddiwedd yr achlysur arbennig. Roedd Côr Caerdydd yn rhannu llwyfan gyda chôr a cherddorfa Ffilharmonig Stâd Oradea ac roedd e’n brofiad anhygoel i’r côr ganu gwaith crefyddol Rossini mewn adeilad mor ysblennydd. Yn ystod yr ymweliad ag Oradea, cafodd aelodau Côr Caerdydd gyfle i ymweld ag adeiladau pwysig y ddinas a’u croesawu gan lywydd cyngor sir Bihor. Cyflwynwyd llun o Ganolfan Mileniwm Cymru iddo ac roedd y llywydd wrth ei fodd pan ganodd y côr alawon o Gymru yn adeilad y cyngor. Wythnos ar ôl dychwelyd o Rwmania, canodd y côr yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêm Cymru v Seland Newydd, a’r wythnos ganlynol, roedd Côr Caerdydd ynghyd â chorau eraill o’r brifddinas yn rhan o gyngerdd dathlu Karl Jenkins, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Darlledwyd y gyngerdd ar S4C ar 21 Tachwedd. Ym mis Rhagfyr bydd y côr yn canu yn Sain Ffagan, mewn gwasanaeth Naw Llith a Charol yng Nghapel Ararat ar 14 Rhagfyr, Coleg Penybont, a phentre’r Eglwys Newydd ar y bore Sadwrn cyn y Nadolig i godi arian at Hosbis Gofal George Thomas. O Wlad Pwyl i Neuadd Dewi Sant, bu mis Tachwedd yn fis cyffrous iawn i Gôr CF1. Ddechrau’r mis buom yn cystadlu yng Ngŵyl Gorawl Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Cawsom amser wrth ein boddau, ac enillom y drydedd wobr yn y gystadleuaeth corau cymysg. Ar y 24ain o Dachwedd, buom yn rhan o brosiect Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Neuadd Dewi Sant. Yr oedd yn noson liwgar iawn. Carmina Burana oedd y gwaith ac roeddem yn cydganu gyda Chôr Godre’r Garth, Corau Ieuenctid a Iau y Sir a Chôr Ysgol Uwchradd Radyr. Yr unawdwyr oedd Jeremy Huw Williams, Gareth Lloyd Davis, a Rhiannon Llywelyn. Roeddem ni a’r gerddorfa Branwen Evans, Rhiannon Pritchard a cherddorfa daro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, oll dan faton Eilir OwenGriffiths. Daethpwyd â’r gerddoriaeth, y ddawns a ffilm ynghyd yn y prosiect anarferol hwn. Noson i’w chofio! Bydd ddigon o hwyl i’w gael ym mis Rhagfyr hefyd, gyda’n cyngerdd Nadolig ar y 6ed o Ragfyr yng Nghapel Y Crwys am 8.00. Byddwn yn perfformio rhaglen amrywiol o’r hen ffefrynnau i weithiau newydd. Pris tocyn yw £5.00 Bydd ein parti Nadolig ar y 12fed o Ragfyr. Mae’r côr yn ymarfer am 7.00 bob nos Lun yng Nghapel Y Crwys. Croeso cynnes iawn i bawb. Talu am Y Dinesydd Bwriedir codi tâl o 80ceiniog am bob copi o’r Dinesydd o fis Ebrill 2010 ymlaen ac felly er mwyn sicrhau eich copi o Ebrill ymlaen bydd angen i chi weithredu mewn un o dair ffordd sef – Tanysgrifio £8 yn flynyddol am ddeg rhifyn drwy rwydwaith o ddosbarthwyr yn y Capeli, Ysgolion, Mudiadau a sefydliadau eraill. Tanysgrifio £15 yn flynyddol am ddeg rhifyn drwy’r post Ei brynu mewn un o nifer o siopau ledled y ddinas. (Rhestrir y siopau yn rhifyn Mawrth 2010). Rhoddir rhagor o fanylion am y cynllun yn y rhifynnau nesaf o’r Dinesydd. Gobeithio bydd darllenwyr presennol y papur yn barod i gefnogi eu papur bro er gwaethaf y ffaith y bydd angen talu amdano o Ebrill ymlaen! Cefnogi’r Dinesydd Noddir y rhifyn hwn o’r ‘Dinesydd’ gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina (am fanylion ffoniwch 20692164). Bydd y nawdd o £300 yn mynd tuag at gostau argraffu y Dinesydd. (Mae’r gost o argraffu un rhifyn yn £800.) Os oes unrhyw Gymdeithas, Clwb, Capel ac ati yn fodlon noddi’r papur byddwn yn ddiolchgar i glywed oddi wrthych. Diolch hefyd i Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd am eu rhodd i’r Dinesydd. Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina yn noddi’r Dinesydd Sefydlwyd y Gymdeithas nôl yn 1992 ar awgrym Mair Dyfri Jones a byth ers hynny mae’r Gymdeithas wedi ffynnu. Trefnir Cymanfa Ganu, Taith Haf a Chyngerdd yn flynyddol a gwahoddir nifer o siaradwyr i annerch yr aelodau. Hefyd dewisir elusen i’w chefnogi bob blwyddyn a llynedd cyflwynwyd siec am £1,300 i Apêl Arch Noa. Mae’r Gymdeithas yn falch o’r cyfle i noddi y rhifyn hwn o’r Dinesydd. Côr CF1 Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl darllenwyr

Dinesydd Rhagfyr 2009

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Dinesydd Rhagfyr 2009

Rhagfyr 2009 Papur Bro Dinas Caerdydd a ’r Cylch Rhif 343

www.dinesydd.com

Côr Caerdydd yn Rwmania

Ddiwedd Hydref aeth Côr Caerdydd ar daith i ddwyrain Ewrop a pherfformio’r Petite Messe Solenelle gan Rossini yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Oradea, Rwmania. Hon yw’r gadeirlan fwyaf yn Rwmania, ac roedd yr adeilad yn orlawn ar y noson a’r gynulleidfa ar ei thraed i ddangos ei gwerthfawrogiad ar ddiwedd yr achlysur arbennig. Roedd Côr Caerdydd yn rhannu llwyfan gyda chôr a cherddorfa Ffilharmonig Stâd Oradea ac roedd e’n brofiad anhygoel i’r côr ganu gwaith crefyddol Rossini mewn adeilad mor ysblennydd. Yn ystod yr ymweliad ag Oradea, cafodd

aelodau Côr Caerdydd gyfle i ymweld ag adeiladau pwysig y ddinas a’u croesawu gan lywydd cyngor sir Bihor. Cyflwynwyd llun o Ganolfan Mileniwm Cymru iddo ac roedd y llywydd wrth ei fodd pan ganodd y côr alawon o Gymru yn adeilad y cyngor. Wythnos ar ôl dychwelyd o Rwmania,

canodd y côr yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêm Cymru v Seland Newydd, a’r wythnos ganlynol, roedd Côr Caerdydd ynghyd â chorau eraill o’r brifddinas yn rhan o gyngerdd dathlu Karl Jenkins, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Darlledwyd y gyngerdd ar S4C ar 21 Tachwedd. Ym mis Rhagfyr bydd y côr yn canu yn

Sain Ffagan, mewn gwasanaeth Naw Llith a Charol yng Nghapel Ararat ar 14 Rhagfyr, Coleg Penybont, a phentre’r Eglwys Newydd ar y bore Sadwrn cyn y Nadolig i godi arian at Hosbis Gofal George Thomas.

O Wlad Pwyl i Neuadd Dewi Sant, bu mis Tachwedd yn fis cyffrous iawn i Gôr CF1. Ddechrau’r mis buom yn cystadlu yng Ngŵyl Gorawl Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Cawsom amser wrth ein boddau, ac enillom y drydedd wobr yn y gystadleuaeth corau cymysg. Ar y 24ain o Dachwedd, buom yn rhan o brosiect Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Neuadd Dewi Sant. Yr oedd yn noson liwgar iawn. Carmina Burana oedd y gwaith ac roeddem yn cyd­ganu gyda Chôr Godre’r Garth, Corau Ieuenctid a Iau y Sir a Chôr Ysgol Uwchradd Radyr. Yr unawdwyr oedd Jeremy Huw Williams, Gareth Lloyd Davis, a Rhiannon Llywelyn. Roeddem ni a’r gerddorfa – Branwen Evans, Rhiannon Pritchard a cherddorfa daro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, oll dan faton Eilir Owen­Griffiths. Daethpwyd â’r gerddoriaeth, y ddawns a ffilm ynghyd yn y prosiect anarferol hwn. Noson i’w chofio! Bydd ddigon o hwyl i’w gael ym mis Rhagfyr hefyd, gyda’n cyngerdd Nadolig ar y 6ed o Ragfyr yng Nghapel Y Crwys am 8.00. Byddwn yn perfformio rhaglen amrywiol o’r hen ffefrynnau i weithiau newydd. Pris tocyn yw £5.00 Bydd ein parti Nadolig ar y 12fed o Ragfyr. Mae’r côr yn ymarfer am 7.00 bob nos Lun

yng Nghapel Y Crwys. Croeso cynnes iawn i bawb.

Talu am Y Dinesydd

Bwriedir codi tâl o 80ceiniog am bob copi o’r Dinesydd o fis Ebrill 2010 ymlaen ac felly er mwyn sicrhau eich copi o Ebrill ymlaen bydd angen i chi weithredu mewn un o dair ffordd sef – • Tanysgrifio £8 yn flynyddol am ddeg rhifyn drwy rwydwaith o ddosbarthwyr yn y Capeli, Ysgolion, Mudiadau a sefydliadau eraill.

• Tanysgrifio £15 yn flynyddol am ddeg rhifyn drwy’r post

• Ei brynu mewn un o nifer o siopau ledled y ddinas. (Rhestrir y siopau yn rhifyn Mawrth 2010). Rhoddir rhagor o fanylion am y cynllun yn

y rhifynnau nesaf o’r Dinesydd. Gobeithio bydd darllenwyr presennol y papur yn barod i gefnogi eu papur bro er gwaethaf y ffaith y bydd angen talu amdano o Ebrill ymlaen!

Cefnogi’r Dinesydd Noddir y rhifyn hwn o’r ‘Dinesydd’ gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina (am fanylion ffoniwch 20692164). Bydd y nawdd o £300 yn mynd tuag at gostau argraffu y Dinesydd. (Mae’r gost o argraffu un rhifyn yn £800.) Os oes unrhyw Gymdeithas, Clwb, Capel ac ati yn fodlon noddi’r papur byddwn yn ddiolchgar i glywed oddi wrthych. Diolch hefyd i Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd am eu rhodd i’r Dinesydd.

Cymdeithas Gymraeg Rhiwbeina yn noddi’r

Dinesydd Sefydlwyd y Gymdeithas nôl yn 1992 ar awgrym Mair Dyfri Jones a byth ers hynny mae’r Gymdeithas wedi ffynnu. Trefnir Cymanfa Ganu, Taith Haf a Chyngerdd yn flynyddol a gwahoddir nifer o siaradwyr i annerch yr aelodau. Hefyd dewisir elusen i’w chefnogi bob blwyddyn a llynedd cyflwynwyd siec am £1,300 i Apêl Arch Noa. Mae’r Gymdeithas yn falch o’r cyfle i noddi y rhifyn hwn o’r Dinesydd.

Côr CF1

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

i’n holl darllenwyr

Page 2: Dinesydd Rhagfyr 2009

Golygydd y rhifyn hwn: Hywel Jones

Golygydd y rhifyn nesaf: Richard Lewis

Anfonwch ddeunydd ar gyfer rhifyn Chwefror 2010

erbyn 20 Ionawr at: Richard Lewis

Y Rheithordy, Llanbedr­y­fro, Caerdydd. CF5 6LH

ebost: [email protected] ffôn: 01446­760687

MANYLION CYSYLLTU Calendr y Dinesydd

Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ

([email protected] 029­2062­8754)

Hysbysebion Menter Caerdydd, 42 Lambourne Cres, Parc Busnes Caerdydd,

Llanisien, Caerdydd CF14 5GG

([email protected]; 029­20689888)

Derbyn a dosbarthu copïau Ceri Morgan, 24 Cwm Gwynlais, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7HU

([email protected] 07774­816­209)

Cyhoeddir Y Dinesydd gan Bwyllgor Y Dinesydd.

Fe’i cysodir gan Penri Williams a’i argraffu gan

Wasg Morgannwg, Mynachlog Nedd.

Y Dinesydd www.dinesydd.com

2 ISSN 1362­7546 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Cyfarchion gan Elin M Smith (Yr Eglwys Newydd)

‘Oherwydd fy amgylchiadau presennol, ni fyddaf yn anfon cardiau Nadolig eleni eto, ond mae fy nghyfarchion atoch yr un mor ddidwyll. Diolch i chi i gyd am eich caredigrwydd tuag ataf yn ystod fy salwch hir yn yr ysbyty. Byddaf yn cyfrannu tuag at Diabetes UK (Cymru) a Tenovus yn lle talu am gardiau a stampiau. Mae arnaf angen cymorth dros nos pan

ddof adref o'r ysbyty ar ôl bod yno am flwyddyn a hanner. Ni fydd angen gofal nyrsio arbennig ond hoffwn gwmni dros nos gan fy mod yn dioddef o glefyd y siwgr. Mwy na thebyg mai am gyfnod o fis i 6 wythnos y bydd angen cwmni arnaf ond gellir trafod. Bydd angen geirda arnoch. Ffoniwch 07891826814.’

ADDYSG GYMRAEG ­ 3 llwyddiant, 2 arall i ddod?

Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi rhoi sêl ei bendith ar ddau gynllun arall Cyngor Caerdydd sy'n fuddiol i addysg Gymraeg yn ychwanegol at y cyntaf, sef sefydlu ysgol newydd y dwyrain yn barhaol ar safle ysgol fabanod Trowbridge. Mae ysgol newydd y gorllewin yn cael ei symud o'r safle dros dro ym Mhentrebaen a’i sefydlu’n barhaol ar safle ysgol fabanod y Caerau yn ardal Trelai. Bydd ysgol gynradd Cefn Onn yn cau gan ryddhau’r adeilad at ddefnydd Ysgol Y Wern. Rhaid parhau i ddisgwyl am y dyfarniadau

ar agor ysgol newydd ar safle ysgol gynradd Gabalfa ac ar ad­drefnu Treganna, Tan yr Eos a Lansdowne. Mae'r sir wedi cyhoeddi ar ei gwefan ei hymatebion i'r gwrthwynebiadau i'r cynllun olaf. Gwneir achos cryf iawn dros roi adeiladau digonol i blant Treganna, tra'n cyfaddef ar yr un pryd na fydd pedair ffrwd Pwll Coch a Threganna yn ddigon er mwyn diwallu'r galw am addysg Gymraeg yn wardiau Treganna, Pontcanna a Threfynach (Grangetown).

Michael L N Jones

Dyfodol Ysgol Melin Gruffydd – cyfle i

ddweud eich dweud Mae Cyngor Sir Caerdydd yn ymgynghori ar ddyfodol trefniadaeth ysgolion yn Yr Eglwys Newydd. Mae’r ymgynghoriad, sydd yn cynnwys cynigion a fydd yn effeithio ar Ysgol Melin Gruffydd, yn parhau hyd y 18fed o Ragfyr. Mae’r newidiadau arfaethedig yn rhan o raglen adrefnu ysgolion sy’n effeithio’r ddinas gyfan ac mae’r opsiynau gwahanol ar gyfer Yr Eglwys Newydd i’w gweld ar www.caerdydd.gov.uk/ cynigionysgolion. “Tra bo’r twf yn y galw am addysg

Gymraeg, heb os, yn destun dathlu, mae’r diffyg blaengynllunio sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu bod nifer o’n plant yn cael eu haddysgu mewn ysgolion nad ydynt bellach yn addas,” medd Arfon Jones, cadeirydd ymgyrch Llawn Dop, sef grŵp o rieni sy’n ymgyrchu am well adnoddau ar gyfer Ysgol Melin Gruffydd. “O ganlyniad, mae plant ac athrawon Ysgol Melin Gruffydd yn wynebu problemau cynyddol.” Un o’r problemau sy’n deillio o orlenwi yw

bod dros hanner y plant yn cael eu haddysgu mewn cabanau dros dro ac mae diffyg cyfleusterau ar gyfer gwersi allgyrsiol megis cerddoriaeth. “Bellach, mae’r cyngor yn ymateb ac yn

cynllunio ar gyfer y dyfodol yn Yr Eglwys Newydd,” ategodd Arfon. “Hoffwn erfyn yn daer ar i drigolion Caerdydd ein cefnogi yn ein hymgyrch i wella’r ddarpriaeth yn yr ysgol a llenwi’r ffurflen ymgynghori. Does dim rhaid nodi pa opsiwn fyddai orau dim ond mynegi cefnogaeth ar gyfer darpariaeth ddigonol.”

Mwy o alw am Addysg Gymraeg yn y Fro

Mae pum ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg ond oherwydd y galw am addysg Gymraeg bwriedir agor dosbarthiadau yn y Barri a Llanilltud Fawr fydd yn datblygu’n Ysgolion Cymraeg faes o law. Bydd rhai o’r ysgolion presennol yn cael eu hehangu hefyd yn y dyfodol i gwrdd â’r galw.

Page 3: Dinesydd Rhagfyr 2009

3 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Lleisiau dau ddisgybl o ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal, Siwan Rhys a Macsen Prys­Davies sydd i’w clywed ochr yn ochr â Ioan Gruffudd mewn cyfres wedi ei hanimeiddio newydd. Llwyddodd Siwan, naw oed o Clive Road,

Treganna, a Macsen, sy’n wyth oed ac yn dod o Bendeulwyn yn y Fro, i ennill y prif rannau lleisio ar gyfer Igam Ogam, animeiddiad newydd ar gyfer plant bach oed cyn ysgol gan y cwmni Calon. Siwan, sydd yn ddisgybl yn Ysgol Pwll

Coch, yw llais y prif gymeriad Igam Ogam, merch fach hynod sydd yn byw mewn ogof. Mae Macsen yn ddisgybl yn Ysgol Iolo Morganwg yn y Bontfaen a fe yw llais ei ffrind, y mwnci Roli. Bydd y ddau yn ymddangos ochr yn ochr

â’r actor, Ioan Gruffudd sydd yn adrodd y stori ym mhob un o’r chwe phennod ar hugain. Mae Igam Ogam yn rhannu ei hogof gyda’i theulu od jiwrasig, Deino, Hen Daid, Deryn a Roli. Mae Siwan a Macsen eisoes wedi cael blas

ar enwogrwydd y byd teledu. Ymddangosodd Macsen ar y rhaglen Gorsaf Hud a gwelwyd Siwan mewn hysbyseb yn hyrwyddo ymgyrch llythrennedd Sgiliau Sylfaenol Cymru. Recordiodd Ioan ei ran trwy linc arbennig â

stiwdio ger ei gartref yn Los Angeles. Daeth yr actor o Gaerdydd yn dad am y tro cyntaf ym mis Medi a dywed fod darllen y sgriptiau i’w ferch fach Ella Betsi wedi bod yn rhan bwysig o’r ymarfer. Ruth Jones, seren Gavin and Stacey yw

storïwr y fersiwn Saesneg, fydd yn cael ei ddangos ar slot Milkshake! Five yn y gwanwyn.

Cymrodorion Caerdydd

Y siaradwr yn ein hail gyfarfod y tymor hwn, yn festri’r Tabernacl ar nos Wener 6 Tachwedd oedd y Dr Huw Thomas, cyn brifathro Ysgol Glantaf, a’i destun pwysig oedd “Breuddwyd y Llyfrau Gleision: Twf Addysg Gymraeg”. Eglurodd wrth agor mai ei bwnc trafod fyddai'r modd yr aeth ati i ymchwilio twf addysg Gymraeg yn y De Ddwyrain ar gyfer ei ddoethuriaeth. Talodd deyrnged i'w diwtor, yr Athro Colin Williams o Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, gan ddiolch iddo am ei gyfarwyddyd effeithiol wrth iddo geisio mynd ati i egluro sut y llwyddwyd i oresgyn gwrthwynebiad ffyrnig y 50au tuag at ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu plant. Araf fu'r symud ymlaen ar ôl agor Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth ym 1940. Esgorodd llwyddiant Ysgol Rhydfelen ar dwf rhyfeddol ysgolion Cymraeg ar ôl y chwedegau yn y sector cynradd ac uwchradd. Gan mai ef oedd y cyntaf i ymchwilio’r maes hwn, nid hawdd oedd dod o hyd i lwybr clir drwy ddryswch yr opsiynau posibl. Nododd dri phrif reswm dros lwyddiant yr

ysgolion Cymraeg. Yn gyntaf, penderfyniad y rhieni i brotestio'n ddigon ffyrnig nes troi "Na" yn "Ie". Yn ail, ymroddiad Cymry o weledigaeth arbennig mewn uchel swyddi (fel y diweddar Emyr Currie­Jones, un o gyn lywyddion y Cymrodorion, a lwyddodd i ddarbwyllo Pwyllgor Addysg Caerdydd o werth agor ysgolion Cymraeg). Yn drydydd, gwasanaeth ail filltir athrawon a ymroddodd i oresgyn prinder adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg. Wrth lunio meini prawf i ymchwilio'r

maes, eglurodd iddo bwyso'n bennaf ar atebion holiaduron a chofnod cyfweliadau ar dâp ­ a chlywsom un enghraifft liwgar o ddifyr mewn cyfweliad, drwy'r Saesneg, gan fam yn un o gymoedd Gwent a oedd yn effro ac yn hyddysg iawn yn y problemau roedd yn rhaid eu trechu i sicrhau sefydlu ysgol Gymraeg. Wrth drafod parhad y llwyddiant i'r

dyfodol, pwysleisiwyd bod yna broblemau y mae’n rhaid eu datrys. Cyfeiriwyd at ddau yn arbennig: Yn gyntaf, sut mae llwyddo i gael

disgyblion ysgolion Cymraeg i gymdeithasu â’i gilydd drwy’r Gymraeg. Yn ail, mae angen pwyllo cyn agor ysgolion newydd a allai niweidio ysgolion sydd eisoes yn llwyddo mewn ardaloedd cyfagos. Serch hynny, wrth gloi rhoes Dr Huw Thomas berspectif gobeithiol ar ddyfodol yr ysgolion Cymraeg eu cyfrwng: bydd eu harweinwyr newydd yn sicr o ddod o hyd i ffordd ymlaen i barhau â llwyddiant yr hanner canrif diwethaf.

Hywel W. Jeffreys

HWYLIO Llongyfyrchiadau mawr i blant Bl 5 ar basio eu prawf hwylio lefel 1 yng Nghronfa Ddŵr Llanishen. Roedd y disgyblion wedi bod yn datblygu eu sgiliau hwylio o dan hyfforddiant criw Canolfan Hwylio Llanishen am 6 wythnos.

GWENER PINC Ar ddydd Gwener, Hydref 23ain, neu ‘dydd Gwener Pinc’, aeth y plant a staff yr ysgol ati i godi arian i elusen Breast Cancer Care Wales. Cafodd pawb gyfle i wisgo dillad pinc, lliwio eu gwallt a’u hewinedd yn binc, a phrynu cacennau wedi’u haddurno’n binc. Casglwyd £650.00 Da iawn i bawb!

FFERM GREENMEADOW Aeth plant blwyddyn 1 ar drip i Fferm Greenmeadow. Cawson nhw lawer o hwyl yn godro’r fuwch a bwydo pob math o anifeiliaid. Yn y prynhawn cafodd pawb gyfle i fynd ar daith o amgylch y fferm yn y tractor!

RIMBOJAM Fe ymunodd Blwyddyn 6 a channoedd o blant eraill Caerdydd a’r Fro, yn sioe Rimbojam yr Urdd yn Neuadd Goffa, Y Bari. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r disgyblion ymuno â’r hwyl a sbri gyda’r ddau gyflwynydd bywiog, Dai a Cadi.

SAIN FFAGAN Bu cyfle i flynyddoedd 5 a 6 fynd i Ysgol Maestir yn Sain Ffagan. Cafodd y plant eu dysgu gan ‘Mr Roberts’ a chafodd sawl un sioc i weld pa mor wahanol oedd athrawon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn anffodus cafodd ambell blentyn y gansen gan mai nhw oedd yn gwisgo’r ‘Welsh Not’ erbyn diwedd y dydd!

CYMRU YN ERBYN SAMOA Ar nos Wener, Tachwedd 13eg aeth 78 o blant a nifer o staff yr ysgol i weld y gêm rygbi rhwng Cymru a Samoa yn Stadiwm y Mileniwm.

GWRTH FWLIO Dathlwyd wythnos gwrth fwlio gyda phob dosbarth yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau o goeden dwylo caredig i siarter gwrth fwlio. Daeth yr Ysgol at ei gilydd i ddathlu ac i drafod yr holl weithgareddau yma.

PLANT MEWN ANGEN Unwaith eto cafwyd cyfle i bawb ddangos eu haelioni ar ddiwrnod Plant Mewn Angen. Gwisgwyd gwahanol bethau gwirion o wigiau lliwgar i sanau gwirion. Addurnodd y cyngor ysgol gacennau bach er mwyn eu gwerthu i godi hyd yn oed rhagor o arian. Casglwyd £480 i Blant mewn Angen.

MRS RHIAN DESOUZA Ar ddiwedd y tymor bydd staff a phlant Coed­Y­Gof yn ffarwelio â Mrs DeSouza. Diwrnod trist fydd hwn yn wir i’r ysgol ond dymunwn y gorau iddi wrth iddi ddechrau swydd newydd ym mis Ionawr fel Dirprwy Brifathrawes Ysgol Trebannws.

Plant ysgol yn serennu gyda Ioan Gruffudd

YSGOL COED­Y­GOF

Page 4: Dinesydd Rhagfyr 2009

4 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

BWRLWM BRO EIRWG

Wal Bowldro Er mwyn hybu sgiliau corfforol, gwaith tîm, hyder a hapusrwydd wrth chwarae, rydym wedi sefydlu wal bowldro wrth ymyl iard yr ysgol. Mae’r plant wrth eu bodd yn symud yn heini ar hyd y wal gan ymateb i bob sialens sydd yn eu hwynebu. Gwelwyd ysbryd gystadleuol yr athrawon wrth iddynt gael cyfle i brofi’r her yn ystod ein sesiwn hyfforddiant !!

ABCh Er mwyn codi ymwybyddiaeth y plant ynglŷn â chadw’n iach ym mhob ffordd, mae plant y Feithrin a Blwyddyn 1 wedi cofrestru i fod yn rhan o Gynllun Gwên – cynllun sydd yn hybu dannedd glân ac a fydd yn y pendraw yn diogelu dannedd y plant am amser hir. Y gobaith yw y bydd y plant yn wynebu llai o sesiynau di­angen yng nghadair y deintydd.

Yn ogystal â hyn, mae plant Blwyddyn 3 yn dysgu sut i dylino (massage) ei gilydd er mwyn ymlacio. Braf eu byd!

Rydym wedi cyflwyno ‘Yn y Parthed ar iard yr ysgol”. Mae’r plant hynaf wedi cael eu hyfforddi i helpu plant eraill i chwarae gwahanol gemau ar yr iard yn ystod eu hamser chwarae.

Daeth dynion y frigad dân i siarad â’r plant ar ddiwrnod Guto Ffowc i’w hatgoffa am beryglon chwarae â thân. Roedd y plant wrth eu bodd i weld gwisg dyn tân a chael cyfle i wisgo’r het fawr galed !

Bu aelodau’r Cyngor Ysgol yn cydweithio gyda’r heddlu er mwyn atgoffa’r rhieni pa mor bwysig yw hi i barcio yn gall wrth fynedfa’r ysgol. Cynhaliwyd cystadleuaeth ar

gyfer cynllunio posteri i’w harddangos ar gatiau’r ysgol a daeth un o brif arolygwyr yr heddlu i’r ysgol i wobrwyo’r enillwyr.

Rygbi Llongyfarchiadau mawr i Owain Newson, Owen Jones, Siôn O’Brien, Tom Ireland­Life ar gael eu dewis i garfan rygbi ysgolion Caerdydd. Edychwn ymlaen at ddilyn eu llwyddiant.

Tripiau Roedd iard yr ysgol yn edrych yn hollol wahanol un bore – gallech dyngu eich bod wedi teithio nôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd gan fod y plant wedi gwisgo i fyny fel ifaciwiws! Roeddynt ar eu ffordd i’r amgueddfa yn Abertawe i ddysgu mwy am fywyd yn yr amser hynny. Cawsant amser gwych. Fel rhan o’u themau bu plant Blynyddoedd

2 a 3 yn ymweld â Sain Ffagan. Aeth plant Blwyddyn 6 i Langrannog am wythnos llawn hwyl. Cawsant brofiadau gwych wrth weld y dolffiniaid yn nofio ym Mae Cerdigion ac wrth brofi holl weithgareddau’r gwersyll.

MERCHED Y WAWR CANGEN

CAERDYDD Nos Fawrth 10 Tachwedd a dyna ni yn ein cartref newydd cyfforddus yn yr Eglwys Fethodistaidd, Heol Cyncoed (ar y gornel â Westminster Crescent), ac yno yr oedd wynebau newydd ynghyd â nifer dda o wynebau cyfarwydd yn eiddgar i wrando ar wraig y gellid ei disgrifio fel “menyw a hanner”. Ond ‘dyw hyn ddim yn hollol gywir, gan fod gan ein gwraig wậdd ddwsinau o haneri i’w dangos i ni, Beryl Williams a’i ‘doliau pincas’. Mae Beryl wedi bod wrthi’n casglu ers tua 30 o flynyddoedd ac yn enw cydnabyddedig ymysg casglwyr o America, ac yr oedd yn braf gweld y Ddraig Goch y tu fewn i lyfr oedd yn nodi ffynhonnell rhai o’r doliau a welwyd. Mae’n anhygoel fel y gall hanner doli o ddauddegau’r ganrif ddiwetha agor byd newydd i’r casglwyr. Bydd pawb ohonom yn cofio gweld hanner

doli gyda sgert ‘grinolin’ yn orchudd tebot ar aml fwrdd te cyn i’r tebot fynd allan o ffasiwn. Pwysleisiodd Beryl mai anrhegion bach digon rhad oedd y doliau pan brynwyd nhw. Ond erbyn heddiw nid yw pris a gwerth yn perthyn i’w gilydd, mae hanner doli a gostiodd swllt i’w phrynu i’w gweld ar y wê am £40.00, a chawsom rybudd am fod yn ofalus dros ben os am brynu yn y dull cyfoes hwn. Yr oedd y doliau yma yn rhan o ffasiwn

‘cuddio’ pethau cyffredin iawn ­ o deliffon i gâs gwn nos a hancesi, ac fe welsom ddol gyda haenau o sgertiau, gyda phob haen yn lle priodol i nodwyddau a phinau, a phob sgert wedi ei brodio hefyd. Ac fe gafodd un ddoli’r gwaith pwysig o ddal diferion te o big tebot. Difyr oedd gweld un hanner doli oedd yn berchen un goes a oedd yn dafod i gloch! Hoffais y ddoli oedd yn addurno cartref piniau het bendigedig, roedd hon yn gwisgo dillad ffasiynol dros ben. Doli ar glawr bocs rouge ac un arall yn eistedd yn urddasol ar focs o siocledi – ac fe allwn fynd ymlaen a sôn am ddoliau o wahanol rannau o’r byd, rhai o wahanol liwiau a gwahanol steil gwallt. Feddyliais i erioed fod y fath fyd doliaidd yn bod. Ac yng nghanol y pethau gweladwy dysgu bod yna ddoliau o ‘Meissen’ a ‘Capo di Monte’ i’w cael. Yr Almaen cyn y Rhyfel Mawr oedd man

cychwyn ein doliau, ac er i’r cyfan fynd yn deilchion adeg y gyflafan mae yna arwyddion o adfywiad yn y gwaith. Dyma gyfle i ddechrau casglu doliau modern, syniad gododd o wrando a gweld “menyw a hanner” (llawer o hanneri) wrthi yn rhannu ei diddordeb â ni. Diolch yn fawr Beryl, edrychwn ymlaen at

gael dod i ‘nabod bataliwn arall o’r drysorfa. Am 7.30 nos Fawrth, 8 Rhagfyr edrychwn

ymlaen at gael cip ar drysorau coginio Nadolig Marian Evans. Gan edrych ymlaen at weld nifer dda i rannu ‘paned a chael sgwrs cyn rhuthr y Nadolig.

PRIODAS

Ar 26 Hydref priododd Luned Emyr, y Mynydd Bychan, Caerdydd, gyda Huw Aaron, yn wreiddiol o Sgeti, Abertawe, yn Eglwys Park End, R h y d y p e n n a u , Caerdydd. Mae Luned yn ferch i John a Gwen Emyr, y Mynydd Bychan, ac mae Huw yn fab i’r Dr John a Jenny Aaron, Abertawe. Cynhaliwyd y wledd briodas ym Maenordy Meisgyn. Dymunwn bob hapusrwydd i’r pâr ifanc yn eu bywyd newydd gyda’i gilydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

Llun: Richard Dutkowski.

Aelodau’r Cyngor Ysgol

Page 5: Dinesydd Rhagfyr 2009

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 5

Sesiynau Hei-di-Ho Dydd Llun: Yr Eglwys Newydd,

Eglwys Ararat, Y Philog 10.00yb ­ 11.00yb

Dydd Mawrth: Treganna, Neuadd Heol Y Brenin 10.00yb – 11.00yb Dydd Iau: Cyncoed,

Yr Eglwys Fethodistaidd, Westminster Cres 10.00yb – 11.00yb

Dydd Gwener: Y Rhath, Christ Church, Heol Ogleddol y Llyn

1.30yp – 2.30yp

Am fwy o fanylion cysylltwch â Stephanie:

029 20655031 neu [email protected]

Ysgol Iolo Morganwg

Wythnos ABCh Cafwyd tymor prysur yn y Bontfaen! Dechreuwyd y tymor yn llawn cyffro gydag wythnos ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol). Croesawyd nifer fawr o ymwelwyr i’r ysgol gan gynnwys Iona Needs o elusen Barnados, PC Emma Warner a Heini er mwyn cynnal sesiynau ffitrwydd i blant y babanod. O ganlyniad i ddigwyddiad noddedig a bore coffi codwyd dros £750 tuag at elusen Barnado’s. Aeth plant yr adran iau i’r ganolfan hamdden yn y Bontfaen lle treuliwyd prynhawn yn chwarae gemau potes.

Gwasanaethau’r Cynhaeaf Dathlwyd y cynhaeaf yng nghwmni Carwyn Arthur a phlant Blwyddyn 5. Roedd y gwasanaethau yn arbennig a chafodd hanes elusen Barnado’s ei adrodd mewn cyflwyniad dramatig gwefreiddiol.

Prynhawn Sgiliau Meddwl Prynhawn Sgiliau Meddwl oedd uchafbwynt yr hanner tymor cyntaf. Gwahoddwyd rhieni a gwarchodwyr plant yr ysgol i arsylwi ar bob dosbarth a chafodd y disgyblion brofiadau anhygoel yn trin a thrafod a datrys problemau. Roedd grwpiau o blant y dosbarth derbyn wrthi’n creu llwybr dŵr er mwyn newid cyfeiriad y llif. Ar frig yr ysgol ym mlwyddyn chwech datblygu strategaethau meddwl yn feirniadol oedd y nod, a bu’r plant yn trefnu, dadansoddi, cymharu a chyferbynnu'r hyn yr oedd ei angen arnynt i fyw ar ynys baradwys. Gwnaethpwyd sesiynau Addysg Gorfforol yn ymwneud â sgiliau meddwl a bu rhaid i’r plant ddysgu sut i weithio fel tîm er mwyn llwyddo. Prynhawn yn llawn bwrlwm!

Llyfrgell Symudol Er mwyn codi ymhellach ymwybyddiaeth o ddarllen, mae’r llyfrgell symudol nawr yn ymweld â’r ysgol bob pythefnos. Braf yw gweld gwên lydan y plant yn croesawu’r bws ac yn mwynhau’r profiad newydd o ddarllen a chyfnewid llyfrau.

Ysgol Pencae Apêl Rwmania Daeth y disgyblion â bocs esgidiau yn llawn anrhegion i’r ysgol er mwyn eu cyflwyno i Mr Penrose fel rhan o apêl Rwmania. Bydd bechgyn a merched Rwmania wrth eu boddau yn derbyn y bocs ar fore Nadolig. Diolch i bawb am eu haelioni.

Wythnos Gwrth­Fwlio C yn h a l i w yd p o b ma t h o weithgareddau yn yr ysgol er mwyn dathlu’r gwaith da a gyflawnir yngl ŷn â mater ion gwr th­fwl io. Ysgrifennwyd barddoniaeth, gwnaethpwyd cadwyn ffrindiau a chrewyd posteri fel rhan o’r gweithgarwch. Cyflwynodd disgyblion Blwyddyn 6 wybodaeth ddiddorol mewn amrywiaeth o gyfryngau mewn gwasanaeth arbennig ar derfyn yr wythnos.

Arddangosfa Anne Frank Aeth disgyblion Blwyddyn 5 i arddangosfa Anne Frank yn yr Hen Lyfrgell yn y dref. Dysgon nhw am ddewrder y ferch ac am amodau byw pobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Diddorol oedd nodi dyfyniadau o ddyddiadur enwog Anne Frank, dyfyniadau sy’n berthnsol i’n bywydau ni heddiw.

Perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm Cydweithiodd disgyblion Blwyddyn 5 gyda cherddorion er mwyn creu cyfanwaith cerddorol yn cwmpasu cerddoriaeth a diwylliannau ledled y byd. Ymunon nhw gyda grwpiau o ysgolion eraill er mwyn drymio a chanu pob math o offerynnau yn y ganolfan. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.

Adeiladu Pontydd Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 y cyfle i adeiladu pontydd fel rhan o weithgareddau wythnos beirianneg yn ddiweddar. Cydweithion nhw gyda pheirianwyr profiadol er mwyn cynllunio a chreu pont oedd yn ymestyn o’r naill ochr o’r neuadd i’r llall. Roedd hwn yn brofiad gwerth chweil i’r disgyblion gael bod yn ddyfeisgar.

Yr Ŵyl Gerdd Dant Llongyfarchiadau i’r parti bechgyn a lwyddodd i gipio’r wobr gyntaf am ganu Sosban Fach yn y gystadleuaeth parti gwerin yn yr Ŵyl yng Nghasnewydd. Roedd Dafydd Iwan, y beirniad, wrth ei fodd gydag afiaith naturiol a lleisiau swynol y bechgyn ynghyd â chyflwyniad oedd yn ymylu ar gân actol!

Llongyfarchiadau Pob dymuniad da i Ms Sandra De Pol sydd wedi derbyn swydd fel athrawes Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Diolch iddi am ei brwdfrydedd a’i chefnogaeth i’r ysgol ac am gyfoethogi gwybodaeth a phrofiadau’r disgyblion am Ariannin.

Y Parti Bechgyn yn yr Ŵyl Gerdd Dant

Cyrraedd y Brig Cafwyd newyddion arbennig am lwyddiant un o ddisgyblion yr ysgol yn ddiweddar. Mae Ben Hunter yn ddisgybl ym mlwyddyn pump ac yn derbyn cymorth gan yr Uned Dyslecsia yng Nghaerdydd. Braf oedd clywed am y wobr ardderchog a enillodd. Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth trwy Brydain gyfan ac yn dathlu’r ffaith taw ef yw’r disgybl sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf. Dymuniadau gorau iddo wrth gasglu’r wobr yng Ngwesty’r Dorchester yn Llundain.

Ehangu Sgiliau Meddwl

Page 6: Dinesydd Rhagfyr 2009

6 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

www.mentercaerdydd.org 029 2068 9888

Swyddfa Newydd Menter Caerdydd

42 Lambourne Crescent Parc Busnes Caerdydd, Llanisien

Caerdydd. CF14 5GG 029 2068 9888

Siaradwyr Gwadd Bore Coffi Dysgwyr

Dydd Mawrth, 26 Ionawr,Lynda Newcombe Bydd Lynda yn trafod ei llyfr newydd ‘Think without limits – You can speak Welsh’

11 – 12pm, Tafarn Y Mochyn Du

Cwis Tafarn y Mochyn Du Fe fydd cwis nesaf y Fenter yn cael ei gynnal Nos Sul, 20 Rhagfyr, Tafarn Y Mochyn Du. 8pm. Croeso i bawb

Gwersi Oedolion Tymor y Gwanwyn Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno i gyllido 12 o wersi dydd a nos ar gyfer Cymry Cymraeg y Ddinas ar gyfer tymor y Gwanwyn mewn partneriaeth â Menter Caerdydd. Cyrsiau yn cychwyn 13 Ionawr 2010. Peidiwch ag oedi cyn cofrestru: Yoga, Cyfrifiaduron i ddechreuwyr, Sbaeneg, Gitar, Circuits i Ferched, Boxercise i bawb, Gwnio, Dawns – Salsa a Latin, Coginio, Arlunio, Colur a Ffasiwn, Welsh for Parents Lefel 1, Cwrs Magu Hyder. I gofrestru cysylltwch ag Awel – Menter

C a e r d yd d 0 2 9 2 0 6 8 9 8 8 8 n e u [email protected]

Ffarwelio â Heledd Wyn Fe fydd Heledd yn gadael y Fenter ddiwedd mis Rhagfyr ar ôl treulio 2 flynedd prysur iawn gyda ni. Diolch iddi am ei chyfraniad tuag at Prosiect Treftadaeth ac Ieuenctid y Fenter, mae’r wybodaeth i gyd i’w weld ar ein gwefan. Fe fyddwn yn gweld ei heisiau yma yn y swyddfa, diolch eto a phob hwyl yn dy brosiectau newydd.

Clybiau Wythnosol i Blant. Bydd y clybiau isod yn ail­ gychwyn ym mis Ionawr – cofrestrwch nawr! Clwb Gymnasteg, Tenis, Nofio, Canŵio, Rygbi, Peldroed, Clocsio, Ffwrnais Awen, Drama Bach, Sbargo. Cysylltwch â Leanne am ragor o wybodaeth ­ [email protected]

'Does dim angen cyflwyniad yng Nghymru i un o'n "trysorau cenedlaethol" ­Heather Jones y feinwen o Gaerdydd sy'n meddu ar un o leisiau mwyaf adnabyddus y wlad. Yma mae'r "eicon" roc, pop a gwerin—a

hithau'n dathlu penblwydd arbennig (!) yn ogystal â 40 mlynedd ym myd canu cyfoes yn 2009 yn cyflwyno casgliad cynhyrfus,amrywiol o'r gwerin a'r gwreiddiol gan rai o gyfansoddwyr amlycaf y byd canu cyfoes mewn cynhyrchiad graenus gan Tudur Morgan a recordiad safonol gan Simon Gardner yn ei stiwdio (Rockcliffe) yn Llandudno. Mwynhewch!

Penwythnos Teulu i Langrannog

Mawrth 26 ­ 28, 2010

Penwythnos o hwyl i’r teulu cyfan! Am fwy o wybodaeth a phrisau,

cysylltwch â [email protected]

Cysylltu â Chaerdydd yn Gymraeg…

Ffoniwch ni ar 029 2087 2088

Rydym ni yn Cysylltu â Chaerdydd (C2C) yn ymdrin yn uniongyrchol ag ymholiadau sy'n ymwneud â holl wasanaethau Cyngor Caerdydd e.e. talu eich biliau cyngor, cwynion, ceisiadau i gasglu gwastraff swmpus ayyb. Rydym ni wedi datblygu gwasanaeth cyson a systematig i siaradwyr Cymraeg gan ein bod ni yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau i chi yn eich dewis iaith. Rydym ni yn C2C wedi ymuno â Bwrdd Yr

Iaith Gymraeg mewn ymgyrch farchnata o’r enw Mae Gen Ti Ddewis sydd wedi'i hanelu at gynyddu'r defnydd o’n gwasanaeth Cymraeg. Rydym eisiau annog mwy o siaradwyr Cymraeg i wneud y gorau o'r gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gennym. Ffoniwch ni ar 029 2087 2088.

DIM DIFARU ­ CD NEWYDD

HEATHER JONES

Page 7: Dinesydd Rhagfyr 2009

7 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Ar Draws 1. Arswyda ferw’r afon (4) 8. ‘Wrth ___ ___ adref

Mi glywais gwcw lon.’ (J.C.H) (6,4) 9. Testun newid maeth (4) 10.Cael hawl diolch mewn cerdd (8) 12. ‘Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn

lle ____ y cyfyd myrtwydd’ (Eseia) (5) 13.Mae bragio ar yn ail yn ddiffyg (3) 16 Canol hysbys annedd i’r claf (6)

CROESAIR Rhif 98

gan Rhian Williams

Atebion i: 22, Heol Cae Rhys,

Rhiwbeina, Caerdydd. CF14 6AN

i gyrraedd erbyn 10 Ionawr 2010.

17.Arwydd symud tŷ yr arth wêr wedi toddi (2,4) 18 Cadarn yw sail gwlad seintiau disglair

(3) 21.Mae hon yn hudo yn ôl hanner cant. (5) 22.Meddwl am doriad y tresi ŷd. (8) 24. Nid drwg dechrau noddi telynor â min.

(4) 25. Tŷ o wair gei wedi trwsio (10) 26. Tamaid i drwsio yn Lloegr (4)

I Lawr 2. ‘A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg

yr olwg arno i ___ ___ a sardin.’ (Datguddiad) (4,6)

3 ‘O! f’enaid gwêl ___ Y Person rhyfedd hwn.’ (A.G.) (8)

4. Casglu ffrwyth o Gamwy ar amrant (6) 5. Briw hanner cant mewn ymdrech (5) 6. Arian am gwch ar y Cam (4) 7. Dwg i fyny cyn diwedd oes y pistyll (4) 11.Mae pren a banner ynghudd yma. (10) 13. ‘Doe ysgubai’r noethwynt

Dros farian llwyd y ____’ (J.M.G) (3) 14.Aderyn o’r lli arian (3) 15.Gallu sy’n dwad o’r du efallai (8) 19. 21 heb arweiniad yn rhannol unig fel

tîm. (6) 20. ‘Ti sy’n rhoddi y tymhorau,

Amser hau a chasglu’r ____’ (W.N.W) (5)

22. Ai dyna ddyn yr hedwch? (4) 23 Cywasgu talent mamgu nes ei fygu (4)

Atebion Croesair Rhif 97 Ar draws: 1 Talentog. 5 Ffagl. 7 Soffia. 9 Arogli. 10 Draethell unig. 11 Tarddle. 14 Dagrau. 16 Y fro Gymraeg. 20 Yn Eden. 21 Nythle. 22 Odli. 23 Amgueddfa. I Lawr. 2 Ansad. 3 Traeth. 4 Gwanllyd. 5 Ffroen. 6 Golygfa. 8 Ffiaidd. 12 Asynnod. 13 Esgynfa. 15 Gwaith. 17 Rydw i 18 Menig. 19 Gaeaf.

Enillydd croesair rhif 97 Derbyniwyd 19 ymgais ac 17 yn gywir. Danfonir y tocyn llyfr i Gareth Wyn Huws, Caernarfon.

1 2 3 3 4 4 5 5 6 6 7

7 8

9 9

8 10 11

12

11 13 14 15

16 17

18 19

16 17 20 18 21

22 23 20

21 24

25

23 26

Brewin Dolphin yn ehangu yng Nghaerdydd

Mae Brewin Dolphin, un o’r cwmnïau mwyaf yn y Deyrnas Unedig sydd yn darparu gwasanaethau buddsoddi i gwsmeriaid preifat, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi denu tîm profiadol i’w swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd y tîm, sydd yn dod o froceriaid

stoc WH Ireland, yn cynnwys cyfarwyddwr rhanbarthol, Dafydd Hampson­Jones, rheolwr buddsoddi, G e r a i n t Ham p s on ­ J o n e s a c ysgrifenyddes, Ann Porter. Mae gan y tîm lawer o brofiad o reoli asedau a buddsoddiadau a bydd yn cryfhau darpariaeth gwasanaethau buddsoddi Brewin Dolphin yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Dywedodd Geraint Hampson­Jones,

“Rwy’n hynod o faIch fy mod wedi ymuno â Brewin Dolphin, sydd yn gwmni FTSE 250 ac yn gallu darparu gwasanaethau ymchwil a gweinyddu o’r radd flaenaf ar gyfer cwsmeriaid preifat, elusennau, ymddiriedolaethau a chynlluniau pensiwn.” Ychwanegodd David Myrddin­Evans,

pennaeth swyddfa Brewin Dolphin yng Nghaerdydd, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu’r tîm i gyd. Bydd nifer y staff yn cynyddu i 17, gan gynnwys y rheolwyr buddsoddi, ac fe fydd y tîm yn ychwanegiad pwysig i’r ddarpariaeth y medrwn ei chynnig i’n cwsmeriaid.” Mae Brewin Dolphin yn un o gwmnïau

mwyaf y Deyrnas Unedig yn y maes ac yn rheoli buddsoddiadau gwerth dros £17bl, £10.1bl. ar sail dewisol, o 40 swyddfa ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel. Am wybodaeth bellach ffoniwch David

Myrddin­Evans ar 0845 213 2913 neu Charlotte Black Pennaeth Materion Corfforaethol ar 0845 213 3331.

NOSON MEWN DU A GWYN

Nos Wener 20 Tachwedd cafwyd noson arbennig iawn yn Neuadd y Pentref Dinas Powys. Noson elusennol flynyddol y Gymdeithas Gymraeg oedd hon a'r Ysgol Feithrin newydd yn y pentref oedd yr elusen i elwa eleni. Galwyd y noson yn "Noson mewn du a gwyn" ac fe gafwyd mwynhad mawr wrth wylio unwaith eto y ffilm "David" a gynhyrchwyd yn Rhydaman yn 1951 a sydd nawr yn rhan o gasgliad gwerthfawr yr Archif Sgrin a Sain yn Aberystwyth. Hanes Dafydd Rhys Griffiths, "Amanwy" yw hwn ac mae’n bortread hyfryd o'r gŵr annwyl yma a ffilmiwyd yn lleol yn ei filltir sgwâr gan ddefnyddio pobl a phlant yr ardal yn y golygfeydd. Ac yn y llun yma fe welwch rai o "ex­pats" Rhydaman / Garnant / Brynaman (Upper and Lower!) oedd wedi dod ynghyd i gefnogi’r fenter ­ rhai ohonynt yn grots ifainc

yn y ffilm ond pob un yn gyn­fyfyrwyr Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Cafwyd buffet blasus ac, yn goron ar y noson, canu cynulleidfaol a gododd y to ­ pedwar llais yn cynganeddu heb unrhyw fath o rihyrsal ac emyn mawr Amanwy yn agor y canu o dan anogaeth Rhodri Jones a Mags a Phil Harries with y piano. Noson i’w chofio yn wir.

Page 8: Dinesydd Rhagfyr 2009

Ebeneser, Heol Siarl 8 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Newyddion o’r Eglwysi

Tabernacl, Caerdydd ‘Llawenydd Jerwsalem’ Cyflwynwyd cynhyrchiad o Llawenydd Jerwsalem ar ffurf cyngerdd yn y Tabernacl nos Fercher y 18ed o Dachwedd. Daeth cynulleidfa dda i gefnogi pobl ifanc eglwysi Caerdydd a’r cymoedd – diolch iddyn nhw am yr holl waith paratoi.Yn sicr roedd hi’n noson wefreiddiol. Cynhyrchwyd y gwaith gan Verina Matthews, oedd wrth ei bodd i weld llwyddiant y noson ar ôl ei hymroddiad dibaid.

Swydd newydd. Llongyfarchiadau i Rhian Williams ar gael ei phenodi’n ddirprwy brifathrawes yn Ysgol Coed y Gôf. Bydd colled Ysgol Glan Morfa yn hafal i ennill Ysgol Coed y Gôf.

Bore Coffi. Daeth nifer dda ynghyd i gartref Siân a Huw Thomas yn ystod mis Hydref a diolchwn iddynt am eu darpariaeth. Ar yr 11eg o Dachwedd gwahoddwyd pawb i aelwyd Mair Owen yng Nghasnewydd a phrofwyd yr un croeso yno hefyd.

Cyfarfodydd Diolchgarwch. Cynhaliwyd pedair oedfa ddiolchgarwch yn y Tabernacl dros gyfnod o bythefnos, a rhaid diolch i Alwen Kemp am drefnu’r bwrdd diolchgarwch bob tro.

Cymdeithas y Chwiorydd. Ann Penrose ddaeth i siarad â’r chwiorydd ar ail ddydd Mawrth mis Tachwedd – ei thema oedd Hanes Rwmania. Syfrdanwyd y chwiorydd pan glywyd am y gwaith anhygoel a wneir ganddi yn y maes hwn. Wythnos yn ddiweddarach, Patrick Whelan a ddaeth i’n difyrru gyda sgwrs ar Dri Maes ei Fywyd. Yn ôl pob tystiolaeth mae’r ‘te bach’ ar ddiwedd pob cyfarfod yn parhau i gynnal y safonau uchel sy’n nodweddu’r gymdeithas hon.

Cymdeithas Nos Fawrth. ‘Gwasanaeth a Gobaith’ oedd thema Nora a John Morgan – noson ddiddorol iawn wrth iddyn nhw sôn am eu gwaith gyda’r difreintiedig ym Mhenrhys, Y Rhondda.. Gerallt Nash o’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan oedd y gŵr gwadd ar y 10fed o’r mis. ‘Symud Eglwys’ oedd teitl ei sgwrs a bu’n olrhain hanes symud Eglwys Sant Teilo o ardal Pontarddulais i’r Amgueddfa – noson arbennig eto.

Swper Ann a Nerys. (Cronfa’r Organ) Daeth nifer dda ynghyd i dderbyn o ddarpariaeth Ann Beynon a Nerys Snowsill yng nghartref Ann. Roedd yr arlwy yn fendigedig a’r gwmnïaeth yn felys. Amcan y noson oedd codi arian at gronfa’r organ ­ bydd dros £200 arall yn y ‘crochan’ oherwydd y fenter hon. Gobeithio y gwêl eraill yn dda i feddwl am ffurfiau tebyg i hyrwyddo’r gronfa.

Ar Ionawr 30ain am 7.00, yn festri'r Tabernacl, cynhelir Dathlu Dwynwen. Bydd Siriol Burford a'i band yn ddiddanu gyda noson o Jazz, ac mae pryd o fwyd yn gynwysedig yn y pris o £15. Dim ond 90 o docynnau fydd ar gael o Ionawr 1af, 2010 ymlaen. Archebwch gan Euros Rhys [email protected], 01446701335, neu Calan McGreevy 02920 555150.

Y Gymdeithas Ar nos Fawrth 10 Tachwedd daeth un o siaradwyr mwyaf amryddawn Cymru i’n plith ­ R. Alun Evans. Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn ar Llwyd o’r Bryn, y ffermwr, diddanwr a’r eisteddfodwr o Landderfel ger y Bala. Storïwr heb ei ail a’i ddawn yn hudo llawer. Diolch i R Alun am roi cipolwg i ni ar un o eiconau mwyaf ein diwylliant a’n cymdeithas.

Bocsys O. C. Eleni daeth 44 o focsys i law ar gyfer elusen ‘Operation Christmas Child’. Bydd y bocsys yn mynd ynghanol miloedd o focsys eraill. Hyd yn hyn eleni casglwyd 22,501 er mwyn rhoi gwên ar wynebau plant a phobol ifanc rhai o wledydd tlotaf dwyrain Ewrop. Gawsoch chi gyfle i gyfrannu? Ewch i’w safle nhw www.opc.com.au i ddysgu mwy am y gwaith gwych sy’n cael ei wneud.

Llawenydd Jerwsalem Cafwyd cyngerdd gwych ar nos Fercher, 18 Tachwedd yn Y Tabernacl am fywyd Iesu yn ystod yr wythnos olaf honno a arweiniodd at ei groeshoelio a’i atgyfodiad. Roedd doniau’r ieuenctid yn disgleirio drwy’r perfformiad. Llongyfarchiadau i’n hieuenctid, Carys Mair Jones, Esyllt Jones, Ifan Jones, Sara Lewis, Gwilym Tudur, Lowri Tudur, a Cai Maxwell ar eu rhan nhw yn y sioe.

Sul yr Aelodau Fore Sul, 22 Tachwedd trefnwyd y gwasanaeth gan Arwel Peleg Williams a chafwyd bwrlwm a bendith yng nghwmni ein gilydd. Roedd y plant wrth eu bodd gyda’r pyped o gi, Doug, ddysgodd wers iddynt i beidio â dweud celwydd. Diolch i Adam Coleman y pypedwr, gyda chymorth Doug, am ei neges i’r plant ac ambell i dric consuriwr. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan nifer o’r aelodau, y côr a’r gerddorfa a chafwyd neges gan Arwel am Iesu’r bachgen ifanc. Gyda’r nos wedyn trefnwyd y gwasanaeth

gan Freda Evans. Cymerwyd rhan ar lafar ac ar gân gan y chwiorydd wrth iddynt gyflwyno hanes rhai o eiconau mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd yn Gristnogion o wyddonwyr.

Minny Street

Bedydd: Hyfrydwch fu tystio i fedydd dau frawd, Gruffudd Morgan a Cai Morgan Llywelyn (meibion Catrin a Rhodri) fore Sul, Tachwedd 15 fed .

Myfyrwyr a Phobl Ifanc: Gwerthfawrogwn gwmni a chyfraniad nifer o fyfyrwyr yn ein hoedfaon o Sul i Sul. Dechreuwyd ar gyfres fisol Wedi 7 i roi cyfle iddynt gymdeithasu dros swper wrth drafod pynciau diwinyddol cyfredol. Bob blwyddyn bydd Pobl Ifanc Minny Street (PIMS) yn dilyn cyfres o gyfarfodydd amrywiol sy’n rhoi cyfle iddynt gymdeithasu, trafod ac ehangu gorwelion am y ffydd Gristnogol. Byddant yn cyfarfod bob yn ail wythnos a chanol mis Tachwedd buont yn ymweld â Mosg Butetown. Cafwyd sgwrs addysgiadol iawn am y ffydd Islamaidd a rhoddodd y cyflwyniad gyfle i drafod y tebygrwydd a’r gwahaniaeth rhyngddi a’r ffydd Gristnogol.

Elusen yr Eglwys: Gobaith y Cylch Elusen yw casglu £2000 ar gyfer Touch Trust erbyn diwedd y flwyddyn. Eisoes mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynnal. Cafwyd anerchiad addysgiadol a diddorol gan y Dr Rosina Davies fel rhan o Oedfa’r Gymdeithas. Tynnodd ein sylw at bwys i grwydd y pum s ynnwyr . Canolbwyntiwyd yn benodol ar “gyffwrdd” ac “ymddiriedaeth” yn oedfa gynnar mis Hydref dan arweiniad Owain, Lona, Shani a Connor, a chyflwynwyd pwysigrwydd y pum synnwyr gan ein hieuenctid mewn oedfa arbennig ganol Tachwedd. Mawr yw ein diolch i Gôr Meibion Tâf, dan arweiniad Rob Nicholls, am gynnal cyngerdd er budd yr elusen ganol Hydref. Cafwyd anerchiad heintus a brwdfrydig gan Dilys Price, sylfaenydd a chyfarwyddwr Touch Trust. Cynhaliwyd swper y cynhaeaf yn y festri ddechrau Tachwedd, ac mae taith gerdded a pharti coluro wedi’u trefnu cyn diwedd y mis.

Y Gymdeithas: Un o’n haelodau, Gillian Green, fu’n sôn am waith yr elusen “Live Music Now” yng nghyfarfod cyntaf mis Tachwedd. Dyma elusen sydd am sicrhau bod cerddoriaeth ar gael i bawb yn unol â’i harwyddair, “Ysbrydoli Cerddorion; Ysbrydoli Cymunedau”. Ac o fyd cerddoriaeth i fyd llenyddiaeth bythefnos yn ddiweddarach pan ddaeth Tegwyn Jones atom i sôn am limrigau. Cawsom orig ddifyr

o wrando ar hanes a thwf poblogrwydd y limrig ynghyd, wrth gwrs, â chael cyfle i wrando ar nifer o enghreifftiau!

Newid Hinsawdd: Gyda’r Uwch­gynhadledd yn Copenhagen ar y gorwel, newid hinsawdd oedd thema’r oedfa gynnar ym mis Tachwedd. Aelodau’r Cylch Dinasyddiaeth oedd yn gyfrifol am yr addoliad. Cafwyd esboniad o beth sy’n achosi newid hinsawdd, beth fydd y canlyniadau ar ein byd a beth medrwn ni, yn unigolion, eglwysi a chymunedau, ei wneud i leihau’r effeithiau. Rhoddwyd amser i ni hefyd i lofnodi, ar ran eglwys Minny Street, neges i’r Prif Weinidog yn mynnu ei bresenoldeb a’i gefnogaeth i’r uwch­gynhadledd dyngedfennol hon.

Page 9: Dinesydd Rhagfyr 2009

Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Salem Treganna 9

Bedyddiadau Ddechrau Tachwedd bedyddiwyd plant Morgan ac Anwen Hopkins, Gwenan, Cadog ac Eos, chwiorydd a brawd i Mefyn. Ar yr 22ain bedyddiwyd Steffan, mab i Rhydian a Carys Lloyd, a brawd bach i Alaw. Llongyfarchiadau i'r ddau deulu a dymuniadau gorau i'r dyfodol.

Y Clwb Brecwast Mae'r Clwb yn mynd o nerth i nerth, bob pythefnos yn Salem, i rieni a'u babanod.

Cis (Cyfeillion Iau Salem) Mwynhaodd pawb noson lwyddiannus iawn wrth chwarae ceilys yn yr Halfway.

Y Gadwyn Cafwyd noson wych ar y 18fed wrth i John Pierce Jones son am ei yrfa a'i gefndir. Roedd yn hynod ffraeth, yn ddifyr iawn ac yn llawn hiwmor. Diolch am ei gyfraniad, cafwyd noson arbennig iawn.

Clwb y Bobl Ifanc Cawsom noson lwyddiannus o fowlio deg ar yr 20fed o Dachwedd.

Ocsiwn Cynhaliwyd noson odidog er mwyn codi arian tuag at estyniad Salem yn Gôl yn ddiweddar. Daeth Brigyn i'n diddanu, ac rydym yn ddiolchgar iawn i John Pierce Jones ac Arfon Haines Davies am gyflwyno'r eitemau ac am eu double act drwy gydol y noson! Diolch yn fawr hefyd i Gôl am y lleoliad. Codwyd £4,800 tuag at y gronfa.

50 mlynedd yn y weinidogaeth Rydym yn awyddus i gydnabod yn ddiolchgar gyfraniad o 50 mlynedd Y Parch Dafydd Owen, ers iddo ddechrau yn y weinidogaeth. Cafodd hyn ei gydnabod hefyd yn yr oedfa ddechrau Tachwedd.

I'r calendr: Mawrth 18ed, 'Cyngerdd 4 cor' yn Salem, Stryd y Farchnad, Treganna, 7.30 (Y corau fydd Côr Canna, Côr Bechgyn Bro Taf, Côrdydd a Chôr y Mochyn Du)

“MERV” Cyfaill da. Cynhyrchydd da. Cymro da. Cristion da.

Braint oedd cael cyd­ysgwyddo arch Merfyn Williams drwy gyntedd Eglwys Sanctaidd y Grog, Y Bontfaen, ar y 6ed o Dachwedd. Rhoddwyd yr arch i orwedd rhwng pedwar canhwyllbren, a phedair cannwyll ynghỳn, arwyddion gweladwy o’r hyn oedd Merv yn ei olygu i mi, ac i sawl un arall ymhlith y gynulleidfa niferus. Roedd o’n gyfaill da, yn gynhyrchydd da, yn Gymro da ac yn Gristion da. Rwy’n cofio megis ddoe fore Llun y 5ed o

Fedi 1966, fy niwrnod cyntaf yn y BBC. Yn fy mhrofiad i, roedd diwrnod gwaith pob sefydliad addysgol, boed ysgol neu goleg, yn dechrau am naw o`r gloch y bore, ac felly hefyd, dybiwn i, y BBC. Cerdded i mewn i adeilad y BBC yn Newport Road, Caerdydd, a chael fy nghyfarch gan borthor swyddogol ei wisg a hynod awdurdodol ei osgo. Yn y man, cefais fy nhywys i stafell foel lle’r oedd bwrdd a chadair wedi’u gosod ar fy nghyfer. Dysgais yn fuan nad oedd diwrnod gwaith yn y BBC yn dechrau`n brydlon am naw y bore.Yno y bûm yn eistedd fel adyn am gryn dri chwarter awr cyn clywed cyffro yn y coridor, ac yn y man, daeth Merfyn i mewn, gyda’i bapur newydd boreol dan ei fraich, a dyna ddechrau cyfnod o gyfeillgarwch oedd i barhau am dros ddeugain mlynedd. Os nad oedd diwrnod gwaith Merfyn yn dechrau am naw y bore, gallai barhau ymhell tu hwnt i oriau gwaith arferol. Aderyn y nos oedd Merv, ac ar adegau byddai’n trafodaethau’n parhau hyd oriau mân y bore, er mawr ofid i’n gwragedd. Oedd, roedd yn gwmniwr difyr, ei frwdfrydedd a’i afiaith yn heintus. Bron yn ddieithriad y ddau bwnc trafod fyddai teledu a chrefydd. Afraid yw crybwyll wrth y sawl a fydd yn

darllen hyn o sylwadau, fod Merfyn yn gynhyrchydd gwirioneddol dalentog, yn ymroddedig, dyfeisgar a sensitif. Ein priod waith yn ystod y dyddiau cynnar hynny oedd darparu rhaglenni teledu ar gyfer ysgolion Cymru. Roedd darparu arlwy safonol ar gyfer ysgolion, a hynny yn y Gymraeg, yn bwysig iawn iddo. Roedd yn awyddus i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio i drafod pob math o destunau. Pam na ellid cyflwyno ffilmiau i ysgolion Cymru ar destunau megis Ogofàu Perigord, Pyramidiau`r Aifft, Diwylliant y Celtiaid neu Drychineb Pompei, a hynny yn ein hiaith ein hunain. Prin oedd rhaglenni o’r fath yn y Gymraeg bryd hynny, a doedd dim yn yr arlwy ar gyfer ysgolion. Ond oni bai bod arian ychwanegol wrth law ar gyfer prosiectau o’r fath, sut yn y byd oedd cael y maen i’r wal? Dyma faes lle’r oedd Merfyn yn ei elfen. Heblaw am fod yn ddyn syniadau gwreiddiol ac uchelgeisiol, roedd hefyd yn ddyfeisgar yn y ffordd y byddai’n mynd ati i sicrhau’r gyllideb angenrheidiol. Yn ei dyb o, roedd hyn yn rhan o briod­waith cynhyrchydd da ­ darganfod ffyrdd o oresgyn problemau, a gwyddai cystal â neb sut i daro bargen dda! Byddai’n mynd ati gyda brwdfrydedd i ddarparu sawl fersiwn o’i

raglenni, a’u gwerthu hwnt ac yma. Gwelwyd addasiadau o raglenni, a gynhyrchwyd ganddo’n wreiddiol ar gyfer ysgolion Cymru, yn ymddangos ar wasanaeth cyffredinol BBC Cymru a hefyd ar y rhwydwaith mewn cyfresi megis Chronicle a World About Us. Parodd i’r amrywiol fersiynau hyn i un golygydd ffilm, â`i dafod yn ei foch, holi onid oedd ganddo fersiwn ar gyfer y deillion! Bu’n drefn rhyngom o’r dechrau’n deg, pe

bai galw am ffilmio tu hwnt i ffiniau Prydain, a hynny`n golygu hedfan, byddai`r dasg yn disgyn i mi. Pe bai’r testun yn galw am deithio dros fôr a thir, Merfyn fyddai`n ymgymryd â`r gwaith. A pham hynny? Wel roedd arno ofn hedfan. Ofer fu’n hymdrechion ni i`w gael i fentro i`r awyr, ac yn ôl y sôn, gwrthododd hypno­therapydd cydnabyddedig hedfan yn dilyn ymweliad gan Merv. Ond daeth yn amlwg i mi nad oedd doniau Merv yn ymestyn i bob maes. Roedd yr hyn fyddai`n digwydd dan fonet car yn ddirgelwch iddo, a chofiaf iddo fynnu nad oedd angen rhoi dŵr yn nhrwyn ryw Austin 1100 (oedd yn digwydd bod yn ferw ar y pryd) gan fod yr hysbyseb yn dweud yn glir fod gan y car arbennig hwnnw “hydro­elastic suspension”. Credaf hefyd iddo fynd ati i lifo modfedd go dda oddi ar waelod drws y stafell wely wedi i Rhiannon brynu carped newydd mwy trwchus na’i gilydd. Ond pan aethpwyd ati i ail­osod y drws, gwelwyd fod y saer wedi llifo pen anghywir y drws! Pawb at y peth y bo! Ffilm oedd ei hoff gyfrwng, ac roedd yn

deall y cyfrwng i’r dim.Wn i ddim a oedd o mor gartrefol yn trafod OB, y byd aml­ gamera electronig. Yn y maes hwnnw, dyn syniadau oedd Merfyn, a’r syniadau hynny’n ddisglair a chyffrous. Yn 1980 gadawodd Adran Addysg y BBC pan gafodd ei benodi’n bennaeth Adran Gerdd BBC Cymru, a dyna agor pennod arall gyffrous yn ei fywyd. Cerddor wrth reddf oedd Merv yn hytrach na thrwy hyfforddiant, a bu camau breision o fewn yr adran yn ystod cyfnod ei oruchwyliaeth. Dyma’r cyfnod pan oedd Cerddorfa BBC Cymru`n ymddangos yn gyson ar y Rhwydwaith ac ar sgrin S4C. Wn i ddim a oedd gorweddian yn y bath, fel Archimedes gynt, yn gyfrwng ysbrydoliaeth iddo, ond yno roedd o pan ddaeth egin y syniad o gynnal gŵyl leisiol gystadleuol byd eang ar gyfer cantorion ifanc, a dyna eni`r gyfres Canwr y Byd, Caerdydd. Yn wreiddiol, cafodd y syniad ei wrthod gan BBC 2 , (er mawr gywilydd i`r penaethiaid) ond gyda chefnogaeth Geraint Stanley Jones, llwyddwyd i gael y maen i’r wal, ac roedd hi’n briodol mai merch o`r Ffindir, gwlad oedd yn gefnogol i’r syniad o`r dechrau’n deg, Karita Mattila, gipiodd y tlws ym mlwyddyn sefydlu`r ŵyl yn 1983. Priodol bellach fyddai cynnig gwobr arbennig er cof am y sawl a’i sefydlodd. Yn 1985 bu newid byd eto, a gadawodd

Merfyn y BBC er mwyn sefydlu cwmni annibynnol, a dyma ddechrau cyfnod arall o gyd­weithio agos, nid yn unig ar raglenni cerdd ond hefyd ar raglenni dogfen.

Marw cyn­gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol

Cymru

Bu farw’r Dr Douglas Bassett ar 9 Tachwedd yn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu. Fe’i ganwyd yn Llwynhendy ger Llanelli ac astudiodd yng Ngoleg y Brifysgol Aberystwyth cyn mynd yn ddarlithydd mewn Daeareg ym Mhrifysgol Glasgow. Fe’i penodwyd yn Geidwad Adran Ddaeareg yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1959. Yna fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr yr Amgueddfa yn 1977 ond ymddeolodd yn 1985 oherwydd afiechyd. Cynhaliwyd ei angladd yn amlosgfa’r Ddraenen ar 20 Tachwedd. Parhad ar dudalen 10

Page 10: Dinesydd Rhagfyr 2009

PLASMAWR

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 10

Apêl Beibl Braille Cymraeg Mae nifer o Gymry yn methu darllen eu Beibl ­ am eu bod nhw’n ddall. Byddai cael y Testament Newydd a’r Salmau yn Gymraeg mewn Braille yn fendith fawr iddyn nhw. Dyna yw nod yr apêl hwn. Mae Cymdeithas y Beibl

ac eraill wedi addo cyfrannu symiau sylweddol yn barod. Ond mae angen codi £10,000 eto. Mae pwyllgor yr apêl yn gobeithio y bydd yr eglwysi a’u haelodau yn barod i ymateb yn hael, er mwyn cyflawni’r gwaith yn fuan. Yn wir, mae’r apêl yma at bawb sydd am wella byd pobl sy'n ddall. Mae’n wir mai nifer fechan o bobl fydd

yn elwa o gael y Testament Newydd a’r Salmau yn Gymraeg mewn Braille, ond credwn fod gan bawb yr hawl i ddarllen y Beibl yn ei iaith ei hun. Ac unwaith mae’r gwaith wedi ei wneud, bydd yno ar gyfer cenedlaethau i ddod. Dywedodd y cyn­ddarlledwr adnabyddus

Sulwyn Thomas, wrth gefnogi’r apêl: “Rwy’n eithriadol falch o gael rhoi hwb i’r ymgyrch arbennig hwn. Gyda chymorth

Dros y blynyddoedd gwnaeth Opus gyfraniad gwerthfawr a phwysig i wasanaeth S4C a hyd y diwedd roedd y syniadau’n dal i lifo, a’r brwdfrydedd heintus yn parhau. Heblaw bod yn gyfaill da, yn gynhyrchydd da ac yn Gymro da, roedd Merfyn

hefyd yn Gristion da, Cristion anghonfensiynol ar sawl cyfri, a fyddwn i ddim yn ei gyfri ymhlith y blaenoriaid ym maes eciwmeniaeth. Eglwyswr oedd Merfyn, ac roedd ei ffydd yn gwbl ddiysgog. Roedd y sefydliad eglwysig ynghyd â threfn a defodau’r eglwys yn bwysig iddo, ac wrth gwrs, roedd cerddoriaeth eglwysig, campweithiau Bach a Mozart, Haydn a Handel, yn agos iawn at ei galon. Fe’n hanogir ni i ganmol ein gwŷr mawrion, ond gwyddai Rhiannon na fynnai

Merfyn i eiriau canmoliaethus darfu ar gysegredigrwydd y gwasanaeth angladdol. Da serch hynny oedd clywed darlleniad o ddwy gerdd gan ddau o hoff feirdd Merfyn ­ “Moelni” Syr T H Parry William, a “The Road not Taken“ Robert Frost. Bydd, fe fydd colled enfawr ar ôl Merv. Diolch iddo am ei gyfeillgarwch, a

diolch iddo am ei gyfraniad sylweddol. Heddwch i`w lwch. Dilwyn Jones

eglwysi a chapeli Cymru, rwy’n siwr y byddwn wedi cyrraedd y nod o godi £10,000 mewn fawr o dro. Eisoes mae Rhian, un o fy ffrindiau pennaf, yn medru canu emynau bob Sul am fod y geiriau mewn Braille. Mae cannoedd o lyfrau mewn Braille. Cam bach fyddai paratoi’r llyfr pwysicaf ohonynt i gyd mewn Braille Cymraeg. Dewch i ni ddod â hyn i fwcwl cyn y Nadolig. Dyma sialens i Gristnogion Cymru. Diolch.” Fe’ch gwahoddir yn garedig i gyfrannu

trwy ysgrifennu siec allan i Cymdeithas y Beibl a’i anfon at : Dr Watcyn James ( Apêl Beibl Braille Cymraeg ) 94 Ffordd Penygarn, Tycroes, Rhydaman, Sir Gâr SA18 3PF

Pwyllgor Apêl Beibl Braille Cymraeg : Parchg Beti­Wyn James, Alun Lenny,

Rhian Evans, Parchg Ddr Watcyn James (Cymdeithas y Beibl, Cadeirydd) a’r

Parchg Aled Edwards (Cytun).

Cydymdeimlo â…

• theulu’r diweddar Mary Brownhill, Penarth ond gynt o ardal Rhydlewis, Ceredigion a fu farw yn Ysbyty Llandochau ar 12 Tachwedd. Bu’r angladd yng Nghapel Bethel Penarth ar 19 Tachwedd ac yna ym mynwent Capel Hawen, Rhydlewis.

• teulu’r diweddar Eira Lee a fu farw’n sydyn yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 8 Tachwedd. Bu’r angladd yng Nghapel y Crwys ar 25 Tachwedd ac wedi hynny yn amlosgfa’r Ddraenen.

• teulu’r diweddar Elen Rhys, pennaeth Cwmni Acen a fu farw wedi salwch byr yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd ar 19 Hydref yn 52 oed. Bu’r angladd yn Eglwys yr Holl Saint, Heol y Parc, y Barri ar 5 Tachwedd ac wedi hynny ym mynwent Eglwys Pedr Sant, Penarth.

• teulu’r diweddar Hilda Williams, yr Eglwys Newydd, ond gynt o Fachynlleth a fu farw yn Ysbyty’r Brifysgol ar 5 Tachwedd yn 87 oed. Bu’r angladd yn amlosgfa’r Ddraenen ar 19 Tachwedd.

Teyrnged i ‘Merv’ (Parhad)

Page 11: Dinesydd Rhagfyr 2009

Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Calendr y Dinesydd 11

Llun, 7 Rhagfyr Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwraig: Mari Beynon Owen. Manylion pellach: Tony Couch (029­2075­3625 neu [email protected]). Llun, 7 Rhagfyr Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. ‘Ffliw’r Moch a Phroblemau Eraill.’ Sgwrs gan Dr Meirion Evans (Canolfan Wyliadwriaeth Clefydau Heintus). Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Mawrth, 8 Rhagfyr Merched y Wawr Caerdydd. Sgwrs gan Marian Evans am fwydydd y Nadolig, yn festri Capel Methodistaidd Ffordd Cyncoed am 7.30pm. Mercher, 9 Rhagfyr Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Dathlu’r Nadolig, yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm. Gwener, 11 Rhagfyr Clwb y Diwc: Parti Dolig yn y ‘Duke of Clarence’, Clive Road, Treganna am 8.00pm. Llun, 14 Rhagfyr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Swper Nadolig ac adloniant yng nghapel Bethany am 7.00pm. Llun, Mawrth, Mercher 14 ­16 Rhagfyr Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn cyflwyno'r Sioe Gerdd HSM ( High School Musical) am 7.30 y.h. Tocynnau ar gael drwy ffonio'r ysgol ar 01446 450280 Mercher, 16 Rhagfyr Aelwyd Hamdden Cymry Caerdydd. Gwasanaeth Nadolig gyda’r Parch. Hywel Davies (Eglwys Dewi Sant), am 1.00pm (noder yr amser) yng Nghapel Minny Street. Te parti i ddilyn y gwasanaeth. Iau, 17 Rhagfyr Gwasanaeth Carolau (dwyieithog) i weithwyr swyddfeydd Cilgant Sant Andreas a’r tu hwnt yn Eglwys Dewi Sant am 1.00pm. Darperir lluniaeth ysgafn. Casgliad er budd 25ain pen­ blwydd Gofal Hospis George Thomas. Sadwrn, 19 Rhagfyr Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Dathlu’r Nadolig. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Sadwrn, 19 Rhagfyr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Canu carolau yn Morrisons am 1.30pm. Sul, 20 Rhagfyr Gwasanaeth Llithiau a Charolau ynghyd â datganiadau gan y côr yn Eglwys Dewi Sant am 6.00pm. Iau, 24 Rhagfyr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Carolau a chanhwyllau yng nghapel Bethel am 11.00pm. Mercher, 6 Ionawr Merched y Wawr Radur. Sgwrs gan Miriam Bowen ar ragoriaethau Aloe Vera, am 7.30pm yng Nghapel y Methodistiaid, Windsor Road, Radur.

Llun, 11 Ionawr Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Siaradwr: Yr Athro Thomas G. Watkin. Manylion pellach: Tony Couch (029­2075­3625 neu [email protected]). Mawrth, 12 Ionawr Merched y Wawr Caerdydd. Sgwrs am y Wladfa gan Walter Brooks, yn festri Capel Methodistaidd Ffordd Cyncoed am 7.30pm. Mercher, 13 Ionawr Cymdeithas Tŷ’r Cymry. Trafod ‘Stori Sydyn’: Tacsi i’r Tywyllwch (Gareth F. Williams), yn Nhŷ’r Cymry, 11 Heol Gordon, am 7.30pm. Gwener, 15 Ionawr Clwb y Diwc: Beirdd yn y Bar, yn y ‘Duke of Clarence’, Clive Road, Treganna am 8.00pm. Sadwrn, 16 Ionawr Bore coffi i ddysgwyr yn adeilad yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Rhymney St, Cathays, rhwng 10.30 a 12.00. Sgwrs gan Dr Christine James am y gerdd ‘Y Meirwon’ gan Gwenallt am 11.00am. Croeso cynnes i bobl nad ydynt yn aelodau o’r Eglwys. Llun, 18 Ionawr Cymdeithas Gymraeg Rhiwbina. Noson yng nghwmni Don Llewelyn (Pen­tyrch) yng nghapel Bethany am 7.30pm. Llun, 18 Ionawr Cymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd. Synhwyro Nwyon Gwenwynig.’ Sgwrs gan John B Jones (Cwmni PPM Technology, Cibyn). Yn Ystafell G77 ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays, am 7.30pm. Croeso i bobl nad ydynt yn ‘arbenigwyr’ gwyddonol. Gwener, 22 Ionawr Cylch Llyfryddol Caerdydd. Sgwrs gan Dr Neville Evans ar y testun ‘Barddoniaeth Gymraeg a Gwyddoniaeth’, yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, am 7.00pm. Cydnabyddir nawdd yr Academi. Gwener, 22 Ionawr Merched y Wawr Radur. Noson Santes Dwynwen yng nghlwb golff Radur. Gŵr gwadd: Clive Rowlands. Cinio am 7.30pm. Tocynnau: 029­2084­2946. Gwener, 29 Ionawr Cylch Cadwgan: Y Prifardd Ceri Wyn Jones yn siarad ar y testun ‘Mynd a Dod mewn Dwy Iaith’, yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys am 8.00pm. Cydnabyddir cefnogaeth yr Academi Gymreig. Llun, 1 Chwefror Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd yng Ngwesty Churchills am 7.30 pm. Manylion pellach: Tony Couch (029­2075­3625 neu [email protected]). Gwener, 5 Chwefror Cymrodorion Caerdydd. ‘Argyfwng y Cyfrwng.’ Trafodaeth ar sefyllfa byd teledu gydag Euryn Ogwen Williams, Rachel Evans a Garfild Lloyd Lewis. Yn festri Capel Minny Street am 7.30pm.

Anfonwch fanylion ar gyfer y Calendr at Dr E. Wyn James, 16 Kelston Rd., Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 2AJ (Ffôn: 029­ 2062­8754; ebost: [email protected]).

Clwb Cymric Cafwyd dechrau eitha llwyddiannus i dymor y tîm cyntaf gyda'r tîm ar hyn o bryd yn bedwerydd yn y cynghrair ac yn edrych ymlaen at ddechrau cystadlaethau'r cwpanau. Mae'r ail dîm wedi bod yn anlwcus ac wedi dioddef ychydig ar ddechrau'r tymor cyn i'r myfyrwyr ddychwelyd ond mae gobaith y bydd y canlyniadau yn gwella o hyn ymlaen. Mae'r clwb yn hyfforddi bob nos Lun ar gae

astroturf stadiwm athletau Leckwith rhwng 7.30 a 9. Mae croeso i unrhyw chwaraewyr newydd ymuno â'r hyfforddi.

Yn dilyn llwyddiant y dathliadau 40 mlynedd mae Clwb Cymric yn gweithio ar ddatblygu gwefan newydd a gaiff ei lansio yn y flwyddyn newydd. Rydym yn awyddus iawn i gynnwys hanesion rhai o'r cyn chwaraewyr yn ogystal ag unrhyw hen luniau. Mae hanes y clwb yn bwysig a'r gobaith yw y bydd y wefan hon yn ddull o gofnodi hanes y clwb ers ei sefydlu yn 1969. Pe baech yn hoffi gyfrannu mewn unrhyw ffordd cysylltwch â’r ysgrifennydd Rhys Meilir, [email protected] ffôn: 07947 487 534.

Ymddeoliad prif weithredwr Cyngor Dinas Caerdydd

Ar ôl dwy flynedd ar bymtheg yn y swydd mae Byron Davies wedi cyhoeddi ei ymddeoliad. Yn ystod ei gyfnod yn ei swydd mae Caerdydd wedi ehangu a datblygu yn aruthrol. Dymunwn ymddeoliad hapus a hir i’r gŵr o Drimsaran.

Page 12: Dinesydd Rhagfyr 2009

Fflap, Seren a’r Dyn Tywydd

Sgwn i a ydych chi wedi gweld Derek Brockway, y dyn tywydd poblogaidd, yn cyfarch ac yn ffarwelio â’r genedl gydag ambell ‘Shwmai?’, ‘Hwyl fawr’ neu ‘Nos da’ yn Gymraeg wrth iddo ddweud rhagolygon y tywydd yn Saesneg ar BBC Cymru? Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn iddo ac mae ef bellach yn teimlo’n rhan o ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Mae Derek yn fwy adnabyddus fel ‘Derek the Weatherman’, ond ar ôl cael ysbrydoliaeth wrth ymlacio ar draeth ar ei wyliau, penderfynodd droi ei law at ysgrifennu i blant bach. Sblash! gyda Fflap a Seren, a gyhoeddir gan Wasg Gomer, yw llyfr cyntaf Derek Brockway i blant. Daw’r cymeriadau’n fyw yn y stori Sblash! gyda Fflap a Seren gyda’r defnydd o liwiau cynnes a llachar. Mae darluniadau atyniadol Suzanne Carpenter, y darlunydd profiadol o Gaerleon, bob tro yn boblogaidd gyda phlant ifanc ac mae’n siŵr y bydd Fflap, Seren a’r cymeriadau eraill yn apelio atynt hefyd. Mae Suzanne wedi dysgu Cymraeg hefyd ac mae hi’n aml yn cynnal gweithdai celf drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion. Mae Derek yn awyddus iawn i annog rhieni a’u plant i fynd ati i ddysgu’r iaith Gymraeg gyda’i gilydd ac mae’r stori Sblash! gyda Fflap a Seren yng nghyfres Bant â Ni: Easy­ peasy Welsh yn ddelfrydol ar gyfer gwneud hyn. Mae’r gyfres hon wedi ei chyhoeddi’n benodol ar gyfer dysgwyr. Yn nhudalennau cefn y llyfr ceir cyfieithiad o bob tudalen o’r stori yn ogystal â rhestr o eirfa allweddol berthnasol. Does dim syndod hefyd bod pwt bach yn cynnwys brawddegau syml sy’n disgrifio cyflwr y tywydd; nodweddiadol iawn o Derek Brockway! Mae’r stori wedi ei hanelu at blant 4 – 7

oed. Dyma stori am gyfeillgarwch a fydd yn siŵr o apelio atynt. Cafodd Derek lawer o hwyl yn creu’r stori

hon ac mae e’n edrych ymlaen at gwrdd â darllenwyr ifanc y genedl. Bydd canran o incwm pob llyfr yn cael ei roi tuag at hosbis Tŷ Hafan sydd wedi ei sefydlu ym Mro Morgannwg ond sy’n cynnig ei gwasanaeth i deuluoedd ar draws Cymru. Mae Derek a Suzanne yn gobeithio y bydd y llyfr nid yn unig yn codi llawer o arian ar gyfer yr elusen ond hefyd yn codi calon y plant yn yr hosbis.

Miloedd o bobl ifanc yn helpu i wneud bywyd yn

well yng Nghymru O gefnogi pobl o bob oed i helpu i geisio datrys problemau amgylcheddol y blaned, mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru’n gwirfoddoli o’u hamser i wneud bywyd yn well i eraill. Mae hyd yn oed y rheini sy’n dod i Gymru i

astudio mewn prifysgol yn cymryd rhan ym mywyd cymunedau, diolch i raglen grantiau genedlaethol Gwirfoddolwyr y Mileniwm (GM). Rheolir Gwirfoddolwyr y Mileniwm yng

Nghymru gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhaglen, sy’n annog pobl ifanc rhwng

16 a 24 oed i ymuno â chyfoeth o weithgareddau cymunedol, yn cydnabod ymroddiad gwirfoddolwyr gyda dyfarniad a gefnogir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac a lofnodir gan Brif Weinidog Cymru. Bu’r rhaglen mor boblogaidd yn y naw

mlynedd ers iddi gychwyn fel bod dros 15,000 o bobl ifanc wedi ymuno â hi. Yn ystod mis Hydref dyfarnwyd y trydydd

swp o grantiau eleni i helpu mudiadau i gynnig cydnabyddiaeth GM i’w gwirfoddolwyr ac yn eu plith dyfarnwyd grant i’r mudiad Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr Caerdydd. Diolch i’r rhaglen Gwirfoddolwyr y

Mileniwm, gall Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr Caerdydd gynnig hyd yn oed mwy o gefnogaeth i blant ac oedolion dan anfantais sy’n agored i niwed yn y ddinas a’r ardaloedd cyfagos. Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi

o’u hamser i helpu mewn dros 35 o brosiectau. Mae’r rhain yn cynnwys: addysg – helpu plant i wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd; iechyd meddwl – magu hunan­ barch a hyder; digartrefedd ­ cynnig cyfeillgarwch a chlust i wrando; cynnal clybiau ar ôl ysgol sy’n darparu gweithgareddau llawn hwyl a chyfleoedd chwarae; a phrosiectau cyfeillio ar gyfer plant ac oedolion a chanddynt anableddau dysgu a phobl hŷn a allai fod wedi’u hynysu. ‘Mae ein myfyrwyr sy’n gwirfoddoli’n

gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth a gânt drwy eu tystysgrifau a’u gwobrau Gwirfoddolwyr y Mileniwm,' dywedodd Andrea Dare, Rheolwraig Gwirfoddoli ymhlith Myfyrwyr. ‘Fel y dywed un: “Dyma’r hufen ar y deisen – rwyf wrth fy modd yn gwirfoddoli ac mae’n dda gwybod ei fod yn cael ei werthfawrogi”. ‘Cafodd y gwahaniaeth y mae

gwirfoddolwyr yn ei wneud i’n cymuned ei grynhoi mewn un gair gan un o’r rhieni: amhrisiadwy.’ Cysylltwch ag: Andrea Dare ­ 029 2078

1494; [email protected]

Cerddi Campus Caryl

Mae’r amryddawn Caryl Parry Jones wedi bod yn brysur yn barddoni unwaith yn rhagor. Mae ei chasgliad diweddaraf o gerddi, sydd yn bennaf ar gyfer plant, ar gael mewn cyfrol o’r enw Siocled Poeth a Marshmalos. Fel y disgwylir gan Caryl, mae’r cerddi yn hwyliog, yn ddoniol ac yn carlamu ar draws y tudalennau. Mae ei champwaith yn tywys y darllenwr

yn braf drwy fyd y dychymyg ac yn ymdrin â themâu sydd yn apelio’n fawr at blant. Cawn hanes Anifeiliaid Anhwylder, cerddi am Gar Mam ac am Gwpan Rygbi’r Byd. Cawn hefyd gerddi am gyflythrennu a chawn resait bisgedi Nadolig mewn barddoniaeth. Agwedd unigryw ar y llyfr yw ei fod yn

cynnwys dwy gerdd sy’n annog y darllenwr i ddyfalu’r odl goll. Mae felly yn gyflwyniad i blant i gyfansoddi penillion ac yn eu hannog i werthfawrogi synau geiriau. Wedi’r cyfan, mae plant ifanc yn hoff iawn o odli, yn enwedig pan mae’r geiriau yn pinc a sinc neu llw a mŵ. Wrth gwblhau’r brawddegau caiff y darllenwr ifanc dipyn o foddhad a hwyl. Mae’n newid y profiad o ddarllen i fod yn un byrlymus a bywiog. Yn ychwanegu at y cerddi mae darluniau’r

arlunydd talentog o Abergwyngregyn, Helen Flook. Mae’r lluniau llawn lliw yn cyfleu ystyr a digrifwch y penillion yn wych. Meddai Caryl Parry Jones, “Ces i dipyn o

hwyl yn ysgrifennu’r cerddi hyn. Dwi’n hoff iawn o sgwennu ar gyfer plant ifanc ­ mae’n rhoi gymaint o sgôp i chi. Mae popeth yn bosib ym myd y dychymyg.” Ychwanegodd Helen Flook, “Mae bob

amser yn bleser dylunio ar gyfer cerddi Caryl Parry Jones. Maent yn fywiog ac yn ddisgrifiadwy, ac mae’r broses o’u troi yn luniau yn un pleserus iawn. Un funud dwi’n dylunio bisgedi Nadoligaidd a’r nesa dwi’n tynnu llun o gorila! ” Mae Siocled Poeth a Marshmalos ar gael

nawr yn y siopau am £4.99.

Cyngerdd Côr Philharmonig Caerdydd

Roedd neuadd gerdd Prifysgol Caerdydd yn llawn ar nos Sadwrn 14 Tachwedd i fwynhau cyngerdd gan Gôr Philharmonig Caerdydd dan arweiniad Alun Guy gyda David Martin Jones a Lowri Evans yn cyfeilio. Canwyd caneuon o sioeau cerdd Cymraeg a Saesneg a’r unawdwyr oedd Alun Rhys Jenkins ac Alison Henson Jones. Bydd eu cyngerdd nesaf ar 1 Mai 2010 pan gyflwynir perfformiad o Requiem Mozart.

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 12

Canolfan Chapter ar ei newydd wedd

Ar ôl gwario pedair miliwn yn adnewyddu’r ganolfan dros gyfnod o 16 mis, ailagorodd Chapter ar ei newydd wedd ar 21 Hydref. Agorwyd y ganolfan gyntaf nôl yn 1971 mewn adeilad a arferai fod yn ysgol uwchradd a thros y blynyddoedd daeth yn lle pwysig yn y byd celfyddydol yn y ddinas gan ddenu cefnogaeth miloedd o drigolion Caerdydd.

Page 13: Dinesydd Rhagfyr 2009

Ysgol Gyfun Bro Morgannwg

Enillwyr Cenedlaethol Testun balchder yn ddiweddar fu llwyddiant yr ysgol i gipio gwobr genedlaethol BECTA ar gyfer ardderchogrwydd ym maes y dechnoleg fodern. Cyhoeddwyd mewn seremoni wobrwyo ym mis Tachwedd ym Mryste bod Ysgol Gyfun Bro Morgannwg wedi ei dyfarnu fel yr ysgol orau yng Nghymru yn 2009. Cyflwynwyd y wobr i Mr Dilwyn Owen, Arweinydd TGCh ar draws yr ysgol, Y Pennaeth Dr Dylan Jones a Mrs Rhian Davies o’r Adran TGCh gan yr actores amryddawn Meera Syal. Dyfernir y wobr hon yn flynyddol i ysgol sy’n gallu profi bod technoleg wrth wraidd y dysgu ac addysgu ac yn ganolog i reolaeth yr ysgol o ddydd i ddydd. Canmolwyd y ffaith bod yr ysgol wedi dangos tystiolaeth o fewn gwersi ac yn allgyrsiol ond hefyd ei bod ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg wrth hybu’r cyswllt cartref / ysgol. Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yw’r ysgol cyfrwng Cymareg gyntaf i ennill y fath anrhydedd gan BECTA.

Llwyddiant Siarad Cyhoeddus Mae disgyblion y chweched dosbarth yn prysur fagu traddodiad ym maes siarad cyhoeddus gyda’r criw diweddaraf sef Mollie Arbuthnot, Ruth Pilcher a Jacob Ellis yn llwyddo i drechu nifer o ddisgyblion ysgolion eraill y de­ ddwyrain yng nghystadleuaeth flynyddol y Rotari i ennill eu lle yn y rownd nesaf a gynhelir yn Ysgol Gyfun Bryntawe.

O’r gegin Llongyfarchiadau gwresog i ddwy gogyddes arbennig iawn. Mae prif gogyddes yr ysgol sef Jane Pitman, wedi ennill lle yng nghystadleuaeth Cogydd Ysgol y flwyddyn am eleni. Mae eisoes wedi cystadlu mewn rowndiau lleol a bydd nawr yn cynrychioli’r Fro yn nghystadleuaeth Cymru. Cogyddes ifanc sy’n prysur gwneud ei marc ym maes arlwyo yw Zoe Kelland o flwyddyn 11. Mae wedi bod yn cystadlu yn ddiweddar yng nghystadleuaeth Future Chef ac wedi ennill ei lle yn y rownd nesaf sef y rownd genedlaethol a gynhelir yn Wrecsam ym mis Chwefror. Dymuniadau gorau i’r ddwy ohonynt.

Cyflwyno yn y Cynulliad Yn ddiweddar, dewiswyd dau o ddisgyblion blwyddyn 12 sef Eleri Roberts a Jacob Ellis i gyflwyno siaradwyr gwadd sef y Prif Weinidog Rhodri Morgan, Jane Hutt AC a Keith Towler, Comisiyndd Plant Cymru mewn cynhadledd arbennig iawn yn y Cynulliad i ddathlu ugeinfed penblwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn. Cyflwynodd y ddau mewn modd proffesiynol a meistrolgar ac roedd y cyfle i areithio o flaen y fath wahoddedigion anrhydeddus yn brofiad bythgofiadwy i’r ddau.

Ar y sgrîn fach Rydym wedi hen arfer erbyn hyn â gweld disgyblion yr ysgol yn cyfrannu i’r gyfres Mosgito ar S4C ond mae rhaglen newydd Y Garej wedi mynd â bryd rhai o ddisgyblion blwyddyn 10 sy’n astudio Technoleg a braf iawn iddynt yn ddiweddar oedd cael y cyfle i ymweld â stiwdio Enfys i ffilmio eitemau ar gyfer y rhaglen. Edrychwn ymlaen at weld y gystadleuaeth beirianneg rhwng y bechgyn a’r merched yn cael ei darlledu. Yn yr un modd, byddwn cyn hir yn clywed lleisiau rhai o ferched yr ysgol sydd wedi eu dewis i leisio hysbysebion cenedlaethol ar frechiadau canser ceg y groth. Teithiodd y criw o ferched i Lundain yn ystod hanner tymor i recordio eu cyfraniadau hwy ar gyfer yr ymgyrch hysbysebu hon.

Llwyddiant rygbi yn parhau Mae tîm rygbi cyntaf yr ysgol yn parhau yn ddi­guro yn ystod y tymor hwn ac mae ymdrechion yr ail dîm yn y cynghrair canol wythnos i’w canmol yn fawr. Mae’r bechgyn wrth eu bodd yn cael y cyfle i deithio i ysgolion ledled y de ddwyrain, neu wahodd timoedd eraill i Fro Morgannwg, ac yn ogystal â buddugoliaethau nodedig yn erbyn y Bontfaen a Brynteg, mae’r tîm cyntaf wedi ennill gornest glos yn erbyn tîm cyntaf Glantaf ac wedi llwyddo i ennill gêm gwpan yn erbyn Brynmawr.

Derbyn Gwobr BECTA

Tîm Siarad Cyhoeddus

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 13

Gwersyll Caerdydd a’r anturiaeth fawr

Canolfan Mileniwm Cymru – un o brif ganolfannau celfyddydol y byd gyda’i hadeilad trawiadol, yw un o eiconau prifddinas Cymru erbyn hyn. Y ganolfan unigryw hon a Stadiwm y Mileniwm sy’n serennu ar glawr cyfrol ddiweddaraf Cyfres Cawdel, Dirgelwch Gwersyll Caerdydd gan Gareth Lloyd James. Wyddech chi fod Canolfan Mileniwm Cymru hefyd yn gartref i un o wersylloedd yr Urdd gyda lle i 153 o bobl aros dros nos? Glyn, Jac, Deian a Rhodri yw’r criw

ffrindiau sy’n ymweld â Gwersyll Caerdydd yn ail nofel y gyfres a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Mae tynnu nyth cacwn am eu pennau’n dod yn rhwydd iawn i’r bechgyn hyn ac mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth wedi i un o brif actorion Cwmni Theatr yr Urdd ddiflannu. Tybed a fydd drygioni ganol nos y bechgyn o gymorth i’r heddlu ddatrys y dirgelwch a datgelu ambell gyfrinach arall ddigon defnyddiol ynglŷn â’r Gwersyll? Mae’r Urdd yn chwarae rhan bwysig ym

mywyd yr awdur. Ef yw is­gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ceredigion 2010 a bu’n llywydd y mudiad rhwng 2007­2008.

Page 14: Dinesydd Rhagfyr 2009

Ysgol Gymraeg Melin

Gruffydd

Y 100 lle i'w gweld cyn marw

Mae’r Lolfa wedi rhyddhau un o’r cyfrolau pwysicaf a mwyaf uchelgeisiol i gael ei chyhoeddi yn Gymraeg y ganrif yma. Mae Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw yn ffrwyth pum mlynedd o gydweithio rhwng yr hanesydd John Davies a’r ffotograffydd Marian Delyth. Yn ogystal â fersiwn clawr meddal (£19.95) bydd Y Lolfa yn cyhoeddi argraffiad clawr caled cyfyngedig wedi’i arwyddo (£29.95). Gan fod disgwyl galw mawr am yr

argraffiad cyfyngedig byddem yn awgrymu, os am sicrhau copi, eich bod yn archebu’r gyfrol yn eich siop Gymraeg lleol, neu ar wefan Y Lolfa www.ylolfa.com mor fuan â phosib. Bydd yr argraffiad cyfyngedig yn cael ei ryddhau ar y 1af o Ragfyr. Os ydych yn cael trafferth dewis anrhegion Nadolig bydd y gyfrol hardd a chynhwysfawr yma yn siwr o blesio pob Cymro gwerth ei halen.

Strategaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg – cyfle i ddweud eich

dweud Ydych chi am chwarae rhan yn llunio strategaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg? Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu ei strategaeth iaith Gymraeg, ‘Iaith Pawb’, a gyhoeddwyd yn 2003. Bydd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones yn ymweld â gwahanol rannau o Gymru yn ystod mis Rhagfyr a Ionawr er mwyn trafod cynnwys y strategaeth newydd – a dyfodol yr iaith Gymraeg. Dewch yn llu i rannu eich syniadau gyda ni. Cynhelir digwyddiad ar ddydd Mawrth 12

Ionawr yn Stadiwm Swalec, Caerdydd am 7pm. Mae hwn yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg i ddysgu mwy am y strategaeth, rhannu syniadau a chynnig awgrymiadau ar ei datblygiad. Mae’r digwyddiad ar agor i bawb felly does dim ots os ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn dysgu’r iaith neu â diddordeb ynddi. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Meddai’r Gweinidog Treftadaeth Alun

Ffred Jones: “Mae datblygu strategaeth gadarn ar gyfer yr iaith Gymraeg yn hynod o bwysig, ac rydym angen mewnbwn oddi wrth gymaint o bobl â phosib. Mae Llywodraeth y Cynulliad eisiau gweithio i wneud yn siwr fod pobl, hen ac ifanc, yn gallu dysgu, siarad a defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob

Merched y Wawr Bro Radur

Cawsom noson arbennig o ddifyr yng nghyfarfod mis Tachwedd yng nghwmni un o'n haelodau, Megan Morris. Daeth a chasgliad cynhwysfawr ac amrywiol o ddillad ac ategolion a b e r t h y n a i i ' w h e n fodryb. Ymhlith y casgliad roedd ffedogau, crysau nos, s i o l i a u l l iwga r , h e t i a u a ffrogiau. Dangoswyd un ffrog arbennig a gynlluniwyd gan Harrods yn dyddio o 1834 a wnaed o ddefnydd 'crepe de Chine'. Casglwyd popeth dros gyfnod pan fu'r

fodryb yn gwasanaethu yn Llundain ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Dangoswyd enghreifftiau o waith cywrain ar ddefnyddiau unigryw a safonol. Golygodd y noson oriau o waith paratoi i Megan a'i gŵr Wyn. Roedd y gynulleidfa wedi ymateb yn gynnes iawn i'r arlwy. Erys y noson yn hir yn y cof. Diolch yn fawr i Mary Thomas am arwain noson mor hwyliog. Edrychwn ymlaen i wahodd disgyblion Plasmawr i'n diddanu ar yr ail o Ragfyr. Mae'r gangen yn cyfarfod yng Nghapel y Methodistiaid Windsor Road, Radur am 7.30pm ar nos Fercher cyntaf y mis, fel rheol. Croeso mawr i gyn­aelodau ac aelodau newydd.

Y Faner Werdd / Cyngor ECO Yn sgil asesiad allanol, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Melin Gruffydd wedi ei dyfarnu yn ysgol ECO am ei gwaith yn ymwneud â’r amgylchedd, cynaliadwyedd a chadwraeth. Llongyfarchiadau mawr hefyd i’r Cyngor ECO am eu gwaith yn hyn o beth.

Beicio Rydym yn falch o gyhoeddi bod Melin Gruffydd wedi cael ei dewis i fod yn un o’r deuddeg ysgol yng Nghaerdydd a fydd yn rhan o’r prosiect Bike It sydd yn gysylltiedig â mudiad Sustrans. Yn ystod y flwyddyn, mi fyddwn yn cynnal nifer o weithgareddau yn ymwneud â beicio e.e. diogelwch, beicio medrus, gofalu am feiciau a’u trwsio ac wrth gwrs mwynhau beicio trwy drefnu teithiau beicio. Bwriad arall sydd gennym yw cynyddu’n sylweddol y nifer o ddisgyblion sydd yn beicio i’r ysgol. Mae hwn yn brosiect cyffrous a gobeithiwn y bydd yn mynd o nerth i nerth!

Dragons Den Da iawn i’r holl blant a fu’n cystadlu yn Dragons Den Melin Gruffydd. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal y digwyddiad yma ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Dangosodd y plant nifer helaeth o sgiliau yn cynnwys llythrennedd, rhifedd, technoleg gwybodaeth a dealltwriaeth dda wrth gynllunio eu cynnyrch. Cafwyd syniadau a chyflwyniadau graenus ac aeddfed, ac anodd iawn oedd hi i Mr Mark Soanes, (y ddraig!) o gwmni Call of the Wild, i ddewis enillydd. Enillwyr Dragons Den Melin Gruffydd 2009 yw Elin Hawkey a Catrin Williams am gynllunio Cute and Elegant Cards. Mi fydd eu dosbarth yn cynhyrchu’r cardiau yma yn ystod yr wythnosau nesaf, eu gwerthu ac yna’n rhoi’r elw at achos da. Heb os, mi fydd y gystadleuaeth yma yn cael ei chynnal eto yn 2010. Diolch i gwmni Call of the Wild (www.callofthewild.co.uk) am wobrwyo’r buddugwyr trwy roi diwrnod o weithgareddau awyr agored iddynt.

Cerddora Daeth Dylan Adams i mewn i’r ysgol i weithio gydag amrywiol ddosbarthiadau ar gyfansoddi ac animeiddio yn seiliedig ar rai o chwedlau Cymru. Cafwyd sesiynau diddorol, ac roedd y plant wrth eu boddau yn creu effeithiau sain a recordio cryno ddisgiau.

Genedigaeth Llongyfarchiadau mawr i Mrs Gwenith Davies ar enedigaeth mab yn ddiweddar. Dymuniadau gorau ichi fel teulu.

Tair aelod a fu yn modelu ar y noson: Marian Jones, Elen Lewis a Carys Tudor

Williams

dydd. Rydym ni hefyd yn ceisio trosglwyddo cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; bydd cael y cymhwysedd hwn yn ein galluogi i gynnig Mesurau’r Cynulliad i ddeddfu dros yr iaith. Bydd yr holl waith yma yn cyfrannu tuag at ein nod o greu Cymru gwbl ddwyieithog.” Bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sy’n cynghori’r Llywodraeth ar faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, hefyd yn bresennol yn y cyfarfodydd. Meddai ef: “Rydym fel Bwrdd yn edrych

ymlaen at y cyfarfodydd hyn ac at gael trafodaeth lawn ar y strategaeth. Mae yna lawer o ddatblygiadau cyffrous yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae angen cael trafodaeth ehangach ynglŷn â sut mae adeiladu ymhellach ar y datblygiadau hyn.” Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Non

Jones ar 029 2089 8980 neu Gareth John ar 029 2089 8931.

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 14

Page 15: Dinesydd Rhagfyr 2009

Llongyfarchiadau i

Meithrinfa Blueberry Bears

Ar agor nawr ym Mae Caerdydd

Cyfle gwych i nyrs feithrin sy’n siarad Cymraeg

Ffoniwch am ragor o wybodaeth

Amy Badcock (02920 498333)

Ysgol y Berllan Deg

Bosys Bach y Berllan Sefydlwyd pwyllgor busnes newydd sy’n cynnwys rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 a chynhaliwyd Wythnos Fenter ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Roedd cyfle gan bob plentyn i greu cynnyrch a’u gwerthu i’w rhieni. Er mwyn paratoi ar gyfer yr wythnos bu’r pwyllgor yn ymweld â 3 busnes gwahanol – archfarchnad Waitrose, gwesty’r Park Inn a chwmni te ledu Boomerang l le’ r ymddangoson nhw’n fyw ar Planed Plant. Diolch i bawb am eu croeso.

Clybiau Dechreuodd Clwb yr Urdd ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Hefyd, mae’r Clwb Darllen wedi ailddechrau. Yn ogystal, mae Blwyddyn 5 yn cael y cyfle i ddysgu Sbaeneg yn ystod amser cinio ar ddydd Gwener.

Plant Mewn Angen Trefnodd Cyngor yr Ysgol lu o weithgareddau ar gyfer Diwrnod Plant Mewn Angen. Daeth pawb i’r ysgol yn eu pyjamas. Bu plant y Dosbarthiadau Meithrin a’r Derbyn yn addurno bisgedi, Blwyddyn 1 yn creu llun Pudsey, Blwyddyn 2 yn creu mygydau Pudsey, a Blynyddoedd 3­6 yn creu collage Pudsey. Llwyddodd yr ysgol i godi £513.80. Diolch i bawb am bob dimau goch!

Tripiau Bu cyngor yr ysgol a Blwyddyn 4 ar ymweliad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Braf oedd gweld Miss Davies oedd yn arfer gweithio gyda ni! Hefyd, bu Blwyddyn 5 yn cymryd rhan mewn gwasanaeth carolau yng Nghapel y Tabernacl gyda disgyblion o ysgolion cynradd Cymraeg y Brifddinas. Bu aelodau’r Urdd o Flwyddyn 3 a 4 yn lwcus o gael bod yn rhan o fwrlwm Rimbojam yn y Barri.

Chwaraeon Bu nifer o blant yr ysgol yn cymryd rhan mewn treialon nofio yn y Bae. Bu tîm rygbi’r ysgol yn chwarae yn erbyn Ysgol St Cadocs – yn anffodus colli fu eu hanes. Hefyd er gwaetha’r tywydd garw, buont yn chwarae yn erbyn Ysgol Bro Eirwg – ennill un a cholli un. Mae Blwyddyn 4 yn lwcus iawn o gael gwersi rygbi gyda Gleision Caerdydd a daeth hyfforddwr y Gleision – Gareth Baber – i’r ysgol i arsylwi gwers.

Pwyllgor Eco Mae’r Pwyllgor Eco wedi bod yn brysur yn ymweld â Chyngor Dinas Caerdydd, yn plannu coeden, a chyflwyno eu targedau am y flwyddyn sydd i ddod o flaen yr ysgol. Mae pawb yn hoff iawn o’r mochyn rholio pinc (bin compost symudol)!

Amrywiol Cafodd Blwyddyn 1 a 2 gyfle i weld sioe bypedau ‘Clustiau March’. Hefyd, daeth Mrs Baber o’r R.S.P.C.A. i mewn i drafod sut mae trin anifeiliaid anwes. Mae Blwyddyn 5 Elen yn cymryd rhan yng nghywaith START mewn partneriaeth ag Amgueddfa

Dysgwyr ar Dân

Mwyn h e u od d d y s g wyr Caerdydd a’r Fro mas draw yn y Cwrs Sadwrn yn y Castell ar 31 Hydref 2009. Daeth 50 o ddysgwyr i fwynhau gwersi, taith o amgylch y Castell ac wedyn ymlaen i wylio’r tân gwyllt yn Mharc Biwt. Roedd y dysgwyr a oedd ar

bedair lefel wahanol o ddysgu, wrth eu bodd yn cael gwersi yn y tŵr mawr ac wedyn ymlaen i gael cinio blasus yn y Ganolfan Ddehongli newydd sbon. Roeddent yn ffodus iawn hefyd i gael taith o amgylch y Castell trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gorffennon nhw’r diwrnod gyda’r uchafbwynt mawr – y tân gwyllt. Dywedodd trefnydd y diwrnod, Gwenllian Willis: “Roedd hi’n hyfryd i weld y dysgwyr o bedair lefel wwahanol yn mwynhau ac yn siarad llawer o Gymraeg ar yr un pryd”. Mae Cyrsiau Sadwrn yn cael eu trefnu’n

fisol gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg a chynhelir yr un nesaf ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr. Mae croeso i chi gysylltu â’r Ganolfan ar 029 20 874 710 am ragor o fanylion.

Ydych chi eisiau helpu i gadw’r iaith Gymraeg

yn fyw? Dyma’r ffordd ymlaen… Cynllun Pontio ­ mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg eisiau gwirfoddolwyr i ymweld â llu o ddosbarthiadau er mwyn helpu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg. Gallwch ddewis faint o ddosbarthiadau hoffech chi ymweld â nhw. Gallwch ymweld ag un yn unig neu 20 ­ does dim ots! Byddwch yn derbyn £20 bob tro rydych chi’n gwneud a bydd pob sesiwn yn para tua awr.

I dderbyn ffurflen neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gwenllian Willis ar [email protected] neu 029 20 876 451.

Genedlaethol Cymru sy’n cyfuno cerdd gyda chelf, tra bod Blwyddyn 5 Macsen wedi bod yn cymryd rhan mewn cywaith cerddorol yn cydweithio gyda cherddorion o Arts Active i baratoi cynhyrchiad i gyd­fynd â Carmina Burana yn Neuadd Dewi Sant ddiwedd mis Tachwedd.

Sioeau’r Nadolig Mae pawb ar hyn o bryd yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer y sioeau Nadolig. Caiff Sioe y Dosbarthiadau Derbyn a’r Meithrin – ‘Babwshca’ ­ ei pherfformio ar 2il o Ragfyr. Yna, bydd Blwyddyn 1 yn perfformio ‘Dolig Orau Erioed’ ar Ragfyr 8­9, ac i orffen y sioeau am eleni, bydd Blwyddyn 3­6 yn perfformio’r sioe ‘Oliver’ yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd ar 15fed o Ragfyr. Nadolig Llawen i bawb.

Gwenan a Huw Thomas, Rhiwbeina, ar enedigaeth Awen Mair ar 27 Hydref yn Ysbyty'r Brifysgol, chwaer fach i Megan Alys.

Geraint a Miriam Tilsley, Rhiwbeina ar enedigaeth Rebeca (Beca) Camwy yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd ar yr 22 Tachwedd. Chwaer fach i Iestyn Camwy a Gwenllian Camwy.

Walter a Geraldine Brooks, Treganna ar enedigaeth eu cyntaf anedig, Ioan Llŷr yn Ysbyty’r Brifysgol Caerdydd ar yr 22 Tachwedd.

Owain Doull, Llanisien sy’n 16 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Glantaf ar gael ei dderbyn ar raglen ddatblygu Olympaidd. Ei gamp yw seiclo ac mae eisoes yn bencampwr Prydain yn ei grŵp oedran. Pob lwc Owain.

Dr Ben Barr ar dderbyn medal gan Sefydliad y Peiranwyr Sifil am ei waith ym myd addysg. Dyfernir y fedal yn flynyddol am y gwaith gorau a gyhoeddir gan y sefydliad y flwyddyn flaenorol.

Y DINESYDD RHAGFYR 2009 15

Page 16: Dinesydd Rhagfyr 2009

16 ISSN 1362­7546 Y DINESYDD RHAGFYR 2009

Ysgol Gyfun Plasmawr

Sgwad Sgwennu Plasmawr Bu dathlu yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddiwedd Medi. Dathlu deng mlwyddiant y Cynulliad yn ogystal â dathlu deng mlwyddiant Sgwadiau Sgwennu’r Academi a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a ddatblygwyd yn ddiweddar gyda nawdd Cwmni Disglair y Cyngor Celfyddydau. Fel rhan o’r dathliadau aeth criw Sgwad Sgwennu Ysgol Plasmawr i gwrdd â sgwadiau sgwennu eraill o dde Cymru. Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â’r siambr ddadlau ac yna bu dadl rhwng aelodau’r holl sgwadiau sgwennu yn Siambr Hywel. Pwy fyddai’n meddwl y byddai modd trafod y defnydd o fagiau plastig am awr gyfan? Treuliwyd y prynhawn yn mwynhau straeon difyr y Prifardd Ceri Wyn Jones ac yna cyfle i ddatblygu doniau ysgrifennu’r criw ifanc. Gweler gerdd Plasmawr a Ceri Wyn Jones gyferbyn. Pa ffordd well i ddathlu gwaith dau o sefydliadau pwysicaf Cymru, Yr Academi a’r Cynulliad.

Agoriad swyddogol Canolfannau Dysgu Newydd Plasmawr Ar Nos Wener Tachwedd 6ed, cynhaliwyd noson i agor y Canolfannau Dysgu Newydd a adeiladwyd dros yr haf. Daeth llu o wahoddedigion i ddathlu’r digwyddiad ynghyd â’r Cynghorydd Freda Salway, cadeirydd pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol

Sgwad Sgwennu Plasmawr: Gwenllian, Elisa, Broni, Megan, Lauren, Greta, Ela

Hawlfraint: Academi / John Briggs

Y Sgwad Sgwennu yn gweithio gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones Hawlfraint: Academi / John Briggs

Oes Cyngor Caerdydd. Roedd cyfle hefyd i rieni a disgyblion ymweld yn ystod y noson ac i fynd am daith o amgylch yr adrannau i weld adnoddau a chwrdd â staff.

Y SENEDD

Yn y Bae mae’n Senedd ninnau fel madarchen bren dan wydrau. Seddi’r Siambr sy’n rhesymu, botwm sgrîn sy’n penderfynu.

Yn y gwydr gwelwn ddadlau, yn y pren, fe glywn y pleidiau’n cynrychioli ac yn craffu, a chreu cyfraith er mwyn Cymru.

Y mae’r wlad a’r dre yn siffrwd yn llawn cyffro dan ei nenfwd. Ar y llawr cawn wylio gobaith yn y llechi’n gwawrio eilwaith.

Uwch y Senedd y mae newid, yn yr awyr y mae rhyddid fel y môr o amgylch Cymru weithiau’n sibrwd, weithiau’n gweiddi.

Yn y Bae mae llais y bobol, ac mae cychod ein dyfodol; yn yr haul mae hawliau’n bloeddio, yn y dŵr mae fory’n sgleinio.