Upload
amgueddfa-cymru
View
229
Download
6
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Diwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Tachwedd 2013 - Chwefror 2014.
Citation preview
DigwyddiadauTachwedd 2013 – Chwefror 2014
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
ww
w.am
gu
edd
facymru
.ac.uk 0300 111 2 333
Pŵer i’r Bobl
Cynhyrchu Trydan
yng Nghymru
26 Hydref –
30 Mawrth 2014
O Benwythnosau Hwyl yr Wyl i ddangos rhaglenni Nadolig arbennig Doctor Who, bydd rhywbeth at ddant pawb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y gaeaf.
I gyd-fynd â’n harddangosfa, Pwer i’r Bobl: Cynhyrchu Trydan yng Nghymru (26 Hydref – 30 Mawrth), gall ymwelwyr fwynhau gweithdai electroneg gwych gan gynnwys Cylchedau Cwl (9 – 10 Tachwedd ac 11 – 12 Ionawr), Creu Cell Solar (25 – 26 Ionawr), Goleuo Gercin (15 – 16 Chwefror) neu
gymryd rhan mewn sesiwn Dangos a Dweud mewn 60 eiliad (2 Mawrth).
Yng nghanol hwyl yr wyl, bydd corau, tylluanod ac, wrth gwrs, ymweliad gan Siôn Corn. Bydd penwythnos gorlawn i deuluoedd ar 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr a Ffair Nadolig ‘Vintage’ ar ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.
I ddathlu hanner canrif o Doctor Who, byddwn yn cynnal Sioe Wyddoniaeth unigryw (14 Rhagfyr) lle caiff ymwelwyr deithio’n ôl drwy amser gyda Jon Chase (CBBC)
a’r awdur Mark Brake ac archwilio byd hynod estroniaid o’r gofod, peiriannau amser a daleks.
Bydd digonedd i’ch diddanu dros y flwyddyn newydd hefyd gyda ffilmiau, gweithgareddau i ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, clwb llyfrau, gweithdai crefft a llawer mwy.
Galwch draw!
Paned o de neu goffi ffilter AM
DDIM o brynu powlen o gawl
cartref a rhôl grensiog gynnes.
Llenwch y daleb er mwyn ei defnyddio
Cod post _______________________Un daleb i bob person ar bob ymweliad, yn unol â thelerau ac amodau.
Hoffwch ni ar Facebook /waterfrontmuseum
Dilynwch ni ar Twitter @the_waterfront
Dywedwch wrth y byd trwy wefan Trip Advisor
Croeso…
Chwiliwch am y bwlb golau gwyrdd ar gyfer digwyddiadau arddangosfa Pwer i’r Bobl!
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ble ydyn ni? Dafliad carreg o arfordir arbennig Bae Abertawe, a phum munud ar droed o ganol y ddinas, mae’r Amgueddfa yn yr Ardal Forwrol sy’n llawn atyniadau diddorol a hanesyddol. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk i lawrlwytho Llwybr y Marina a dechrau cynllunio’ch diwrnod.
Ar y bws Ewch i www.cymraeg.traveline-cymru.info am amserlenni ac arosfannau.
Ar y ffordd O’r tu allan i Abertawe, gadewch yr M4 wrth gyffordd 42 a dilyn yr arwyddion brown. O’r tu mewn i Abertawe, mae’r
Amgueddfa ar Ffordd Ystumllwynarth, drws nesaf i Ganolfan Hamdden Abertawe (LC). Ar gyfer teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post SA1 3ST.
Ar y trên Mae Abertawe ar brif lein Paddington Llundain. Mae cysylltiadau gwych hefyd i Gaerfyrddin a’r gorllewin, ac i orsafoedd y canolbarth ar lein Calon Cymru.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ffordd Ystumllwynarth, Ardal Forwrol, Abertawe SA1 3RD Ffôn: (029) 2057 3600 neu 0300 111 2 333 (galwadau cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol) 3
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Cyfleusterau• Siop roddion• Caffi a man chwarae i blant• Mynediad a pharcio i’r
anabl• Cadeiriau olwyn ar gael
drwy ofyn• Cyfleusterau newid cewyn • Ty bach Lleoedd Newid• Dolen sain ar gael• Loceri• Ystafell Bicnic (ar gael yn
ystod gwyliau ysgol)• WiFi am ddim• Maes parcio talu ac
arddangos (ar bwys LC, Ffordd Ystumllwynarth)
Ymweliadau Grŵp Diwrnod delfrydol ar gyfer grwpiau. Archebwch ymlaen llaw i gael: • Taith dywys am ddim• Gostyngiad o 10% yn y caffi
(o wario o leiaf £5 y pen)• Gostyngiad o 10% yn y siop
(o wario o leiaf £5 y pen)• Lluniaeth am ddim i yrwyr
bysiau
Manylion yn gywir wrth fynd i’r wasg. Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk cyn teithio’n unswydd.
Dylunio gilladvertising.com
MYNEDIAD AM D
DIM
MYN
EDIAD AM DDIM
Dweud eich
dweud!Cofiwch lenwi Taflen
Adborth yn y dderbynfa er mwyn cael dweud eich dweud am ein
gwasanaeth.
4 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tachwedd Llun 28 Hydref – Sul 3
Tachwedd, 12pm – 3.30pm
Gwyddoniaeth Wych
Dewch i greu pwti penwan a dysgu sut mae goleuo rhywbeth heb olau.
Sad 2 Tachwedd, 10.30am
Clonc ar y Cei
Taith o’r orielau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phaned am ddim.
Sad 9 Tachwedd, 11am
Taith Gerdded:
O Gwmpas y Marina
Ymunwch â’r hanesydd lleol a thywysydd bathodyn gwyrdd, Alun Jones, am gipolwg diddorol ar hanes a datblygiad Marina Abertawe.Taith: hawdd.Man cyfarfod: desg wybodaeth yr Amgueddfa. Gwisgwch esgidiau addas a chofiwch y gall y llawr fod yn wlyb, llithrig ac anwastad. O gymryd rhan, byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. Y bwriad yw cynnal y daith boed law neu hindda ond, os ydych yn ansicr, ffoniwch yr Amgueddfa (029) 2057 3600.
Sad 9 a Sul 10 Tachwedd
Sad (11am, 1pm a 2.30pm)
Sul (1pm a 2.30pm)
Cylchedau Cŵl:
Seiniau
Syfrdanol!
Dewch i greu eich bwrdd cylched eich hun i fynd adre gyda chi gan ddefnyddio cit arbennig, yna ei brofi gyda stylus i gynhyrchu 8 sain electronig gwahanol! £2.50 y plentyn.
oed
8+
Stryd y G
wyn
t © G
wasan
aeth A
rchifau
Go
rllewin
Mo
rgan
nw
g
Sad 2 Tachwedd, 11am
Taith Gerdded:
Tref Hardd a Hyll
Ymunwch â’r hanesydd lleol a thywysydd bathodyn gwyrdd, Alun Jones, am gipolwg diddorol ar hanes canol dinas Abertawe.Taith: hawdd.
Man cyfarfod: desg wybodaeth yr Amgueddfa.Gwisgwch esgidiau addas a chofiwch y gall y llawr fod yn wlyb, llithrig ac anwastad. O gymryd rhan, byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. Y bwriad yw cynnal y daith boed law neu hindda ond, os ydych yn ansicr, ffoniwch yr Amgueddfa ar (029) 2057 3600.
Sul 10 Tachwedd, 2pm
Clwb Llyfrau’r Glannau
Bydd digonedd i’w drafod y mis hwn wrth i ni ddarllen a thrafod Seating Arrangements gan Maggie Shipstead, enillydd gwobr Dylan Thomas. Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!
Sad 16 Tachwedd, 11am
Yswain o Abertawe:
Creu Cerddoriaeth
yn Abertawe’r
19eg Ganrif
Sgwrs gan John Hugh Thomas, sy’n arweinydd, hyfforddwr corawl, athro canu, darlithydd a darlledwr. Trefnir gan y Gymdeithas Hanes.
Sad 16 a Sul 17 Tachwedd
1pm a 3pm
Gwyddoniaeth
Stryd: Pŵer yn eich
Dwylo
Gweithdy rhyngweithiol llawn hwyl yn trafod y wyddoniaeth sy’n sail i drydan a phwer gyda chyflwynydd gwyddoniaeth CBBC, Jon Chase.
Sul 17 Tachwedd, 2.30pm
Batteries Not Included (PG 1987) Dewch i fwynhau clasur o’r 80au.
Sad 23 Tachwedd, 11am
Taith Gerdded:
Gorllewin y Ddinas
Dewch i ddarganfod cyrion canol y ddinas ar daith fydd yn ein harwain i Sain Helen ac yna’n ôl ar hyd glannau hanesyddol Abertawe.Taith: hawdd.Man cyfarfod: desg wybodaeth yr Amgueddfa.Gwisgwch esgidiau addas a chofiwch y gall y llawr fod yn wlyb, llithrig ac anwastad. O gymryd rhan, byddwch yn gwneud hynny ar eich risg eich hun. Y bwriad yw cynnal y daith boed law neu hindda ond, os ydych yn ansicr, ffoniwch yr Amgueddfa ar (029) 2057 3600.
Sad 23 a Sul 24 Tachwedd
10am – 4pm
Ffair WerddSyniadau, cyngor a rhoddion fydd yn sicrhau Nadolig gwyrdd i chi. Trefnir gan y Ganolfan Amgylchedd.
Gwe 29 Tachwedd – Sul 1
Rhagfyr, 10am – 4pm
Ffair Wydr
NadoligaiddGwaith gwydr unigryw a ddyluniwyd ac a wnaed â llaw gan fyfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe.
Gwe 29 Tachwedd, 7pm
Noson Blasu Gwin
Paratowch ar gyfer y Nadolig gyda detholiad o winoedd Portiwgal. Gyda cherddoriaeth yr ardal yn y cefndir a mapiau. Tocynnau £12.50 y pen/£10 â gostyngiad o siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600.
Sad 30 Tachwedd – Sul 1
Rhagfyr, 12pm – 4pm
Penwythnos
Hwyl yr Ŵyl
Straeon gyda Siôn Corn, creu cerdyn Nadolig, cyfarfod â thylluan o Ganolfan Heboga Cymru a mwynhau caneuon yr wyl.
Sad 30 Tachwedd
12.30pm a 2.30pm
Cerddorfa Acordion
AbertaweDewch i mewn i dwymo a gwrando ar glasuron Nadoligaidd gan Gerddorfa Acordion Abertawe.
oed
7-12
5 Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Rhagfyr
Sad 7 Rhagfyr, 1pm a 2.30pm
Côr Meibion Hoyw
De Cymru
Sul 1 Rhagfyr
12.30pm a 2.30pm
Côr Cefnogwyr
y Gweilch Ymunwch â ni i fwynhau hoff alawon yr wyl.
Sul 1 Rhagfyr, 3pm
The Snowman
(U 1982) a The
Snowman and The
Snowdog (U 2012)
Dewch i fwynhau ffilm Nadoligaidd gyda ni bob dydd Sul ym mis Rhagfyr.
Sad 7 Rhagfyr, 10.30am
Clonc ar y Cei
Taith o’r orielau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phaned am ddim.
Sad 7 Rhagfyr
10am – 4pm
Ffair Nadolig
‘Vintage’ Gwledd o hen bethau a nwyddau a wnaed â llaw – cyfle i brynu’r anrheg unigryw berffaith.
Sad 7 Rhagfyr
1pm a 2.30pm
Côr Meibion Hoyw
De Cymru Ymunwch â’r gwyr sydd mor hoff o ganu ar gyfer detholiad o ganeuon Nadoligaidd!
Sad 7 Rhagfyr, 2pm
Comedau:
Arwyddion Hanes
Ymunwch â’r awdur Andrew Lound ar gyfer Darlith Nadolig Cymdeithas Seryddol Abertawe wrth i gomed Ison saethu ar draws ein hawyr.
6 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
7
Sul 8 Rhagfyr, 2pm
Clwb Llyfrau’r
Glannau
Dwsin o straeon Nadoligaidd â neges yw llyfr y mis hwn, Missing The Midnight gan Jane Gardam. Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!
Sul 8 Rhagfyr, 2.30pm
The Nightmare
Before Christmas
3D (PG 1993)
Dewch draw i fwynhau ffilm Nadoligaidd gyda ni bob dydd Sul ym mis Rhagfyr.
Iau 12 Rhagfyr, 7pm
Noson Gwis
Nadoligaidd yr
Amgueddfa
Dewch at eich gilydd i gystadlu yn y rowndiau cerdd, lluniau, gwrthrych cudd a blasu! Pris y tocyn i gynnwys gwydraid o win y gaeaf a danteithion. Bydd bar ar gael (rhaid talu). Tocynnau £3.50 y pen yn siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600.
Sad 21 Rhagfyr, 11am
Dymunwn Nadolig
Llawen: hanes y
cerdyn Nadolig
Sgwrs â darluniau gan Bennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, fydd yn olrhain hanes y cerdyn Nadolig a datblygiad technegol y cerdyn yn y DU. Trefnir gan y Gymdeithas Hanes.
Sul 22 Rhagfyr, 2.30pm
It’s a Wonderful
Life (U 1946)Ar noswyl Nadolig, daw angel i helpu dyn busnes anhapus trwy ddangos iddo beth fyddai bywyd pe na bai ef yn bod.
Gwe 27 – Maw 31 Rhagfyr
a Iau 2 – Sul 5 Ionawr
12.30pm – 3.30pm
Calendrau sy’n Troi
Galwch draw i greu calendr cwl o hen grynoddisg mewn pryd i ddathlu’r flwyddyn newydd!
Gwe 13 Rhagfyr
10.30am – 12.30pm
Parti Nadolig y Plant
Straeon gyda Siôn Corn, celf a chrefft Nadoligaidd, canu ac ymweliad gan gorachod hud. Gyda Twf, Menter Iaith a Mudiad Meithrin.
Sad 14 Rhagfyr, 2pm
Sioe Wyddoniaeth
Dr Who I ddathlu hanner can mlynedd o’r gyfres ffuglen wyddonol eiconig hon, dewch i ddysgu’r gwir a’r gau yn y sioe ryngweithiol hon. Gyda’r awdur Mark Brake a’r rapiwr Jon Chase.
Sul 15 Rhagfyr, 2pm
A Christmas Carol
(PG 2010) a
The Doctor,
the Widow and the
Wardrobe (PG 2011)
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Ionawr
Sad 4 Ionawr, 10.30am
Clonc ar y Cei
Taith o’r orielau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phaned am ddim.
Sad 11 a Sul 12 Ionawr
Sad (11am, 1pm a 2.30pm)
Sul (1pm a 2.30pm)
Cylchedau Cŵl:
Stopiwch
y Lleidr!
Gan ddefnyddio cit bwrdd cylched, dewch i greu larwm lladron fydd yn ddigon i’w dychryn! £2.50 y plentyn.
Sad 11 a Sul 12 Ionawr
1pm – 3.30pm
Y Fari Lwyd
Dewch i ddysgu am y traddodiad gaeafol anarferol hwn.
Sul 12 Ionawr, 2pm
Clwb Llyfrau’r
Glannau
Mae llyfr y mis hwn, Life of Pi gan Yann Martel, yn stori antur wreiddiol a chwbl wefreiddiol. Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!
Gwe 17 Ionawr, 7pm
Noson o Wylio’r Sêr Ymunwch â Chymdeithas Seryddol Abertawe am noson arbennig o wylio’r sêr tra fo’r nos yn hir. Cewch weld sut mae defnyddio telesgop a gwylio ffilm 3D – dewch i anelu am y sêr!
Gwe 17 Ionawr, 7pm
SPACE STATION 3D
(U 2002) Dyma antur 3D IMAX heb ei thebyg!
oed
8+
Sad 25 Ionawr
12pm – 4pm
Dydd Sadwrn
Santes Dwynwen
8 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Gwe 17 Ionawr, 8pm
SPACE JUNK 3D
(U 2012) Dewch i brofi gwrthdrawiadau amhosib yr olwg a hedfan fry i uchelfannau crater meteor am gipolwg ar ein cylchdroeon gorlawn.
Sad 18 Ionawr, 11am
Mwyngloddwyr De
Cymru a Chwmnïau
Twnelu’r Rhyfel Mawr
Sgwrs gan Dr Richie Wood fydd yn talu teyrnged i’r grwp dethol o fwyngloddwyr o’r De a fu’n brwydro’r gelyn dan ddaear. Trefnir gan y Gymdeithas Hanes.
Sad 18 a Sul 19 Ionawr
1pm a 3pm
Gwyddoniaeth
Stryd: Gêm
Weiren Gloch
Dewch i greu eich gêm weiren swnllyd eich hun yn ein gweithdy trydanol.
Sad 18 Ionawr
1pm – 6.30pm
Sgyrsiau TEDx
Prynhawn o sgyrsiau TEDx gan gynnwys 8 sgwrs byw a 2 sgwrs a recordiwyd ymlaen llaw fydd yn trafod amrywiol bynciau o gerddoriaeth i wyddoniaeth ac o dechnoleg i chwaraeon. Tocynnau: £5 y pen o Siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600.
Sul 19 Ionawr, 2pm
Life of Pi
(PG 2012) Dewch i fwynhau’r ffilm 3D wych hon gan y cyfarwyddwr sydd wedi ennill Oscar, Ang Lee.
Sad 25 a Sul 26 Ionawr
10am – 4pm
Hoffi Gwydr
Abertawe: Ar Werth Dewch i siopa gwaith gwydr cain myfyrwyr Ysgol Wydr Prifysgol Fetropolitan Abertawe – a phrynu anrhegion i rywun arbennig yn barod ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen.
Sad 25 Ionawr
12pm – 4pm
Dydd Sadwrn
Santes Dwynwen
Dewch i ddathlu nawddsant cariadon Cymru gyda diwrnod rhamantus llawn llwyau caru, rhoddion, cerddoriaeth werin fyw gan Olion Byw a chlocsio. Gyda Trac Cymru, Menter Iaith Abertawe, Twf a Mudiad Meithrin.
Sad 25 a Sul 26 Ionawr
12.30pm a 2.30pm
Creu Cell Solar
Dewch i droi golau’r haul yn drydan trwy greu cell solar o ddeunyddiau bob dydd, a’i brofi i weld faint o bwer rydyn ni wedi’i gynhyrchu.
oed
7-12
9 Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
oed
7+
Chwefror Sad 1 Chwefror, 10.30am
Clonc ar y Cei
Taith o’r orielau yn arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg a phaned am ddim.
Sul 2 Chwefror
11am – 4.30pm
Dathlu’r Flwyddyn
Newydd Tsieineaidd
Ymunwch â ni i groesawu Blwyddyn y Ceffyl gyda diwrnod llawn cerddoriaeth, perfformiadau, crefftau a dawns draig Tsieineaidd wych. Gyda Chanolfan Cymuned Tsieineaidd Abertawe.
Sad 8 Chwefror, 11am
Graham Sutherland: From Darkness into Light – Mining, Metal and Machines
Taith o’r arddangosfa a chipolwg manylach ar gymeriad Graham Sutherland. Dan arweiniad y curadur a darlithydd, Sally Moss.
Gwe 14 Chwefror, 7pm
Gwyddoniaeth Rhyw
Ymunwch â Rosie Wilby (rownd derfynol Funny Women) ar gyfer ei sioe uchel ei bri sy’n ymchwilio i wyddoniaeth beth sy’n ein denu, cemeg rhyw a hunaniaeth rhyw. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y sioe ddwy flynedd yn olynol yng Ngwyl Wyddoniaeth Caergrawnt. Tocynnau: £5 y pen o Siop yr Amgueddfa neu ffoniwch (029) 2057 3600.
Sad 15 Chwefror, 11am
Crefftau Cynnil i Blant:
Y Blwch Botymau
Dewch i dwrio drwy’n blwch botymau er mwyn addurno ffrâm luniau a chreu tusw arbennig o flodau â phetalau ffabrig. £2.50 y plentyn.
Sad 15 Chwefror, 11am
Dal dy Dir! Aeneas Tacticus a’r ddinas-wladwriaeth yng Ngroeg y 4edd ganrif CC Sgwrs gan Nick Barley, awdur How to Survive Under Siege. Trefnir gan y Gymdeithas Hanes.
oed
7+
Sul 9 Chwefror
1pm – 3.30pm
Braslunio!
Galwch draw i weithio gyda’n hartistiaid i fraslunio gan gymryd ysbrydoliaeth o arddangosfa Graham Sutherland.
Sul 9 Chwefror, 2pm
Racing Stripes
(U 2005) I ddathlu blwyddyn newydd Tsieineaidd y Ceffyl, dewch i weld y ffilm anarferol hon am zebra amddifad a gaiff ei fagu i feddwl mai ceffyl rasio ydyw!
Sul 9 Chwefror, 2pm
Clwb Llyfrau’r
Glannau
Llyfr y mis fydd The Rebecca Rioter gan yr awdur o Abertawe, a ffigwr lesbiaidd pwysig, Amy Dillwyn. Dyma ffordd ddelfrydol o dreulio prynhawn Sul, a bydd paned am ddim!
10 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Sad 15 a Sul 16 Chwefror
1pm a 3pm
Gwyddoniaeth
Stryd: Goleuo
Gercin!
Dewch i weld arbrawf rhyfeddol wrth i ni drydanu picl!
Sad 15 Chwefror, 2pm
Sgwrs Mis Hanes
LHDT: Amy Dillwyn:
caru menywod ym
myd y gwrywod
Sgwrs gan Dr Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe am Amy Dillwyn, ‘y dyn busnes’ o fenyw o Abertawe.
Sad 15 Chwefror, 1.30pm
Gweithdy
Uwchgylchu:
Botymau a Thrimins
Creu croglun hardd o fotymau a rhuban i addurno drws neu galon lafant â phersawr moethus. £5 y pen.
Sul 16 Chwefror, 2.30pm
The Englishman
Who Went Up
a Hill But Came
Down a Mountain
(PG 1995)
Rhaid archebu lle Teuluoedd Oedolion Sgwrs Ymarferol
Mae pob digwyddiad am ddim heblaw am y rhai â symbol
Hanner tymor
Sad 22 – Merch 26 Chwefror
12.30pm – 3.30pm
Creu 3 Pheth Cŵl
gyda Chlip Papur
Galwch draw ar gyfer crefftau clyfar gan gynnwys hofrennydd sy’n troi a gêm bysgota fagnetig.
Hanner tymor
Llun 24 – Merch 26 Chwefror
12.30pm a 2.30pm
Clociau Lemwn
Dyluniwch wyneb eich cloc, ei gysylltu â mecanwaith a defnyddio lemwn yn drydan! Un da i ddangos i’ch ffrindiau. £2 y plentyn.
Hanner tymor
Gwe 28 Chwefror
10.30am – 12.30pm
Dathliadau Gŵyl
Ddewi’r Plantos
Galwch draw i fwynhau celf a chrefft, caneuon Cymraeg ac ymwelydd arbennig o Holi Hana! Gyda Menter Iaith Abertawe, Twf a Mudiad Meithrin.
11
Mawrth
Sad 1 Mawrth, 12pm – 4.30pm
Parti Dydd Gŵyl Dewi
Dathlu Cymru a Chymreictod – o grefftau i gorau ac o ddreigiau i gennin Pedr!
Sul 2 Mawrth, 2pm
Dangos a Dweud
mewn 60 eiliad
Dewch i weld ein curaduron yn cyffroi wrth geisio esbonio gwrthrych heb oedi mewn un funud fach!
Sad 22 Chwefror, 1pm a 3pm
Zap! Bzzz!
BANG! Sioe
Wyddoniaeth Ymunwch â Fran Scott, y gwyddonydd ar raglen Absolute Genius with Dick ‘n’ Dom wrth iddi ddatgelu’r cysylltiad cyffrous rhwng trydan a ffrwydradau!
Hanner tymor
oed
5+
oed
7+
oed
7-12
Arddangosfeydd
Neuadd Weston
26 Hydref – 30 Mawrth
Pŵer i’r Bobl:
Cynhyrchu Trydan
yng Nghymru Bob tro byddwch chi’n cynnau golau, rydych chi’n cysylltu â grid cenedlaethol o geblau, newidyddion a gorsafoedd pwer. O ble y daw ein trydan? Sut mae’n cyrraedd ein cartrefi, gweithleoedd ac ysgolion? All Cymru gynhyrchu digon o ynni i gadw’r golau ymlaen yn y dyfodol? Bydd atebion i’r holl gwestiynau hyn a mwy yn yr arddangosfa drydanol hon.
Feed
ing
a st
eel f
urna
ce, S
wan
sea,
194
2 ga
n G
raha
m S
uthe
rland
Cag
liad
Prei
fat
© Y
stâd
Gra
ham
Sut
herla
nd
Oriel y Wal Goch
Sad 7 Rhagfyr – Sul 23 Mawrth
Graham Sutherland:
From Darkness into Light –
Mining, Metal and MachinesYn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Graham Sutherland yn gweithio fel Artist Rhyfel Swyddogol a brasluniodd lawer o safleoedd diwydiannol De Cymru, Dyfnaint a Chernyw. Dyma gyfle prin i weld dros 60 o frasluniau o gasgliad preifat. Dyma arddangosfa deithiol a drefnwyd gan Amgueddfa ac Oriel Penlee House, Cernyw. Gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Oriel y Wal Wen
Sad 23 Tachwedd –
Sul 5 Ionawr
A Christmas Carol Arddangosfa fydd yn dangos doniau creadigol disgyblion Ysgol Pen-y-bryn gyda fersiwn wedi’i hanimeiddio o A Christmas Carol gan Charles Dickens, gyda llais Brian Blessed a recordiwyd yn arbennig. Oriel y Golofnres
Sad 25 Ionawr – Sul 11 Mai
Hoffi Gwydr AbertaweDewch i weld y calonnau gwydr bregus yn ein dathliad poblogaidd o gariad a rhamant – yn barod ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant.
Rhaglen
Arddangosfeydd
TeithiolMae copi ar gael ar-lein
neu ffoniwch (029) 2057 3600
12 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau www.amgueddfacymru.ac.uk 0300 111 2 333 (cyfradd leol)
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bob dydd10am i 5pm