Upload
alvis
View
67
Download
1
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Pwyswch ‘Esc’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Dyn ifanc yn ymuno -. Edward Clement. gan Des Quinn a Martin Williams. Pwy yw'r bobl hyn?. Ysgrifennwch pwy yn eich barn chi yw pob aelod o’r teulu hwn a nodwch eu perthynas a’i gilydd, e.e. tad, merch …. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
gan Des Quinn a Martin Williams
Pwyswch ‘Esc’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad.
Ysgrifennwch pwy yn eich barn chi yw pob aelod o’r teulu hwn a nodwch eu perthynas a’i gilydd, e.e. tad, merch …
Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn
Dyma’r teulu Clement oedd yn byw yn yr Hafod, Abertawe, pan
ddechreuodd y rhyfel yn 1914. Cafodd eu bywydau eu tynnu’n
ddarnau gan y gwrthdaro – fel y gwnaeth i lawer teulu arall yng
Nghymru a thrwy’r byd.
Wrth ddilyn y gwersi nesaf, byddwch yn dysgu beth a
ddigwyddodd i’r bobl hyn.
1. David Clement(Tad)
2. Ann Clement (Mam)
3. Mary Clement(Merch a Chwaer)
4. William Clement(Mab a Brawd)
5. Edward Clement(Mab a Brawd)
Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn
Dechreuwch eich ymchwil trwy gymryd cipolwg y tu mewn i’r
ddogfen hon o’r flwyddyn 1915
Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.
1) Pwy sydd piau’r ddogfen hon?
Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.
1) Pwy sydd piau’r ddogfen hon?
2) Beth oedd swydd y person hwnnw yn 1915?
Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.
1) Pwy sydd piau’r ddogfen hon?
2) Beth oedd swydd y person hwnnw yn 1915?
3) Ble roedd y person hwnnw’n byw?
Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.
Trafodwch: Pam rydych chi’n credu fod y person hwn wedi’i gofrestru (‘registered’)?
Amlygwch y rhannau o’r ddogfen sy’n rhoi gwybodaeth benodol am ei pherchennog.
1) Pwy sydd piau’r ddogfen hon?
2) Beth oedd swydd y person hwnnw yn 1915?
3) Ble roedd y person hwnnw’n byw?
Pwy sydd piau’r ddogfen hon?
Amlygwch ar y ddogfen enw’r sefydliad a gynhyrchodd y ffurflen hon.
Trafodwch: Pam roedd y dogfennau hyn yn cael eu cyhoeddi ar y pryd?
Beth yw ystyr y term ‘attested’’
(ardystiwyd)?
Pam yn eich barn chi roedd cymaint o ddynion yn gwneud hynny rhwng 1914 a 1918?
Pam yn eich barn chi y gwnaeth Edward Clement ymuno ar 8 Rhagfyr,
a pham y cafodd ei drosglwyddo wedyn i’r Fyddin Wrth Gefn nes y deuai’r alwad iddo wasanaethu?
Attested (Ardystiwyd) – Ystyr hynny yw bod rhywun wedi cymryd llw i gyflawni’r hyn a gytunodd i’w wneud …
Yn achos Edward Clement roedd hynny’n golygu gwneud ei ddyletswydd ac ymladd dros ei wlad ym Myddin Prydain, pe bai’n cael ei alw i wneud hynny.
Wedi ardystio rhywun, gallai’r lluoedd arfog ychwanegu enw’r person hwnnw at eu ffigurau wrth iddynt gyfrif cyfanswm y milwyr oedd ar gael i ymladd.
Rhoddwyd Edward yng Ngrŵp 2.
Beth oedd ystyr y rhif hwnnw?
Eglurhad o’r term ‘Grŵp’
Di-briod
Oedran Grŵp
18-19 1
19-20 2
20-21 3
21-22 4
22-23 5
23-24 6
24-25 7
25-26 8
26-27 9
27-28 10
28-29 11
29-30 12
30-31 13
31-32 14
Di-briod
Oedran Grŵp
32-33 15
33-34 16
34-35 17
35-36 18
36-37 19
37-38 20
39-40 21
40-41 22
Over 41 23
Wedi iddynt ymrestru,
rhoddwyd y dynion mewn
grwpiau. Roedd y grwpiau
hyn yn cymryd i ystyriaeth
eich oedran a’ch statws
priodasol. Dynion di-briod
fyddai’n cael eu galw
gyntaf – gan ddechrau
gydag aelodau o Grŵp 1,
yna Grŵp 2, Grŵp 3, ac yn
y blaen.
Byddai gwŷr priod 18-19
oed yng Ngrŵp 24, a gwŷr
priod rhwng 40-41 yn y
grŵp olaf, sef 46.
Meddyliwch am y dynion yn eich teulu
chi. I ba grŵp y bydden nhw’n
perthyn a pham?
Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn
Pa un yw Edward yn y ffotograff hwn a dynnwyd yng Ngwersyll Hyfforddi Parc Cinmel yng Ngogledd Cymru?
Ffotograff trwy garedigrwydd Des Quinn
Pa un yw Edward yn y ffotograff hwn a dynnwyd yng Ngwersyll Hyfforddi Parc Cinmel yng Ngogledd Cymru?
Cerdyn post Gwersyll Cinmel
Very busy with choir. Having a grand time. Tomorrow – oranges, apples, nuts, plum pudding after dinner. Will
let you know all about it later. Haddocks for breakfast. Had tongue
and cake for tea. Choir singing at concert tonight. All well and jolly.
Best love from Old Tom.
Nos da, merch.
Cerdyn post doniol a anfonwyd o Wersyll Cinmel
The Regimental Pet
Signalling Practice
Eyes Right!
Despatch Riding
Lights Out!
Nerves!
Ceisiwch roi’r capsiwn cywir ar bob darlun.
Cafodd Edward Clement ei alw ym mis Ionawr 1916.
Rhoddwyd Llyfr Bach (Small-Book) iddo lle’r oedd i gadw’r dogfennau a welsoch eisoes ac unrhyw ‘bapurau swyddogol’ eraill.
Mae’r llyfr hwn yn dweud llawer wrthym am Edward Clement a beth a ddigwyddodd iddo tra’n gwasanaethu yn Ffrainc.
Edward Clement
also had a ‘Small Book’ in which he
kept the documents
that you have
already seen.
1)Aelod o ba Gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon?
Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig
Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th
Service Battalion.
Edward Clement
also had a ‘Small Book’ in which he
kept the documents
that you have
already seen.
1)Aelod o ba gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon?
2) Beth oedd ei rif yn y gatrawd? (yr un cyntaf)Cadwch hwn yn ofalus gan y gall y bydd ei angen arnoch eto os y byddwch am ymchwilio yng ngwefan y Commonwealth War Graves.
Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th
Service Battalion.
Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig
Edward Clement
also had a ‘Small Book’ in which he
kept the documents
that you have
already seen.
1)Aelod o ba gatrawd oedd Edward Clement yn ôl y ddogfen hon?
2) Beth oedd ei rif yn y gatrawd? (yr un cyntaf) Cadwch hwn yn ofalus gan y gall y bydd ei angen arnoch eto os y byddwch am ymchwilio yng ngwefan y Commonwealth War Graves.
3) Pam rydych chi’n meddwl fod dau rif wedi’u rhoi iddo?
Cliciwch yma i weld rhestr o’r catrodau Cymreig
Tra roedd yn Ffrainc yn 1916, roedd Edward yn gwasanaethu gyda’r 14th
Service Battalion.
Y Bataliwn 1af Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 Glaniodd yn Ffrainc ym mis Ionawr 1915
Yr 2il Fataliwn Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 Glaniodd yn Ffrainc ym mis Awst 1914
Y 3ydd Bataliwn (Wrth Gefn)
Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 yng Nghaerdydd. Symudwyd i’r Barri, yna i Ginmel yn 1916
1/4ydd Bataliwn (Diriogaethol)
Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 yng Nghaerfyrddin
Glaniodd ym Mae Suvla ym mis Awst 1915
1/5ed Bataliwn (Diriogaethol)
Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 ym Mhontypridd
Glaniodd ym Mae Suvla ym mis Awst 1915
1/6ed Bataliwn Diriogaethol (Morgannwg)
Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 yn Abertawe
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Hydref 1914
1/7fed Bataliwn Diriogaethol (Beicwyr)
Ffurfiwyd ar 4 Awst 1914 yn Newport Road, Caerdydd. I’r Alban yn 1914, yna i Saltburn, Seaton Carew a Middlesbrough yn 1917
2/4ydd Bataliwn Diriogaethol
Ffurfiwyd ym mis Hydref 1914 yng Nghaerfyrddin. Aeth yn rhan o’r 2/4th K.S.L.I. yn Bedford.
2/5ed Bataliwn Diriogaethol
Ffurfiwyd ym mis Tachwedd 1914 ym Mhontypridd. Aeth yn rhan o’r 2/6th Cheshire Regiment yn Bedford.
2/6ed Bataliwn Diriogaethol (Morgannwg)
Ffurfiwyd ym mis Rhagfyr 1914 yn Abertawe. Aeth yn rhan o’r 2/5ed Gatrawd o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn 1915.
2/7fed Bataliwn Diriogaethol (Beicwyr)
Ffurfiwyd yn Hydref 1914 yng Nghaerdydd. Symudodd i Holt, Norfolk yn 1916.
3/4ed Bataliwn Diriogaethol, ynghyd â’r 3/5ed a’r 3/6ed
Ffurfiwyd yng Nghaerfyrddin, Pontypridd ac Abertawe tua Mawrth 1915. Symudodd i ffurfio garsiwn Aberdaugleddau
3/7th Bataliwn Diriogaethol (Beicwyr)
Ffurfiwyd yng Ngwanwyn 1915 yng Nghaerdydd. Dadfyddinwyd yn 1916
8fed Bataliwn (Gwasanaeth) – Arloeswyr
Ffurfiwyd ym mis Awst 1914 yng Nghaerdydd
Hwyliodd i Murdos ym Mehefin 1915. Glaniodd yn Gallipoli ym mis Awst 1915
9fed Bataliwn (Gwasanaeth)
Ffurfiwyd ym mis Medi 1914 yng Nghaerdydd
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Gorffennaf 1915
10fed Bataliwn (Gwasanaeth) (1af Rhondda)
Ffurfiwyd ym mis Medi 1914 yng Nghwm Rhondda
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
11eg Bataliwn (Gwasanaeth)
Ffurfiwyd ym mis Medi 1914 yng Nghaerdydd
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Medi 1915
12fed Bataliwn (Wrth Gefn)
Ffurfiwyd ym mis Hydref 1914 yng Nghaerdydd. Symudodd i Ginmel yn 1915
13eg Bataliwn (Gwasanaeth) (2il Rhondda)
Ffurfiwyd ym mis Hydref 1914 yng Nghaerdydd. Symudodd i’r Rhyl i hyfforddi
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
14eg Bataliwn (Gwasanaeth) (Abertawe)
Ffurfiwyd yn Abertawe gan y Maer a’r Cyngor, ynghyd â chlybiau pêl-droed a chriced y dref
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
15fed Bataliwn (Gwasaneth) (Sir Gaerfyrddin)
Ffurfiwyd yn Hydref 1914 gan Bwyllgor Sirol Caerfyrddin
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
16eg Bataliwn (Gwasanaeth) (Dinas Caerdydd)
Ffurfiwyd ym mis Tachwedd 1914 yng Nghaerdydd. Symudodd i Fae Colwyn ym mis Rhagfyr 1914
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
17eg Bataliwn (Gwasanaeth) (1af Morgannwg)
Ffurfiwyd ym mis Rhagfyr 1914 fel bataliwn ysgafn. Symudodd i’r Rhyl ym mis Chwefror 1915
Glaniodd yn Ffrainc ym Mehefin 1916
18fed Bataliwn (Gwasanaeth) (2ail Morgannwg)
Ffurfiwyd ym mis Ionawr 1915 fel bataliwn ysgafn. Symudodd i Borthcawl
Glaniodd yn Ffrainc ym Mehefin 1916
19eg Bataliwn (Gwasanaeth) (Arloeswyr Morgannwg)
Ffurfiwyd yn 1915 ym Mae Colwyn
Glaniodd yn Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915
20fed Bataliwn (Wrth Gefn) (3ydd Rhondda)
Ffurfiwyd ym mis Gorffennaf 1915 yn Llanelwy. Ar 1 Medi 1916, newidiwyd i’r 60fed Bataliwn Hyfforddi Wrth Gefn yng Nghinmel
21ain Bataliwn (Wrth Gefn)
Ffurfiwyd ym mis Gorffennaf 1915 ym Mae Colwyn.Yn 1916, newidiwyd i’r 61fed Bataliwn Hyfforddi Wrth Gefn yng Nghinmel.
22ain Bataliwn (Wrth Gefn)
Ffurfiwyd ym mis Medi 1915 yn Prees Heath fel bataliwn wrth gefn leol. Newidiwyd i’r 66ed Bataliwn Hyfforddi Wrth Gefn yng Nghinmel.
23ain Bataliwn (Wrth Gefn) (Arloeswyr Cymreig)
Ffurfiwyd ym mis Medi 1915 ym Mhorthcawl
Glaniodd yn Salonika ym mis Awst 1916
Beth allwn ni ei ddysgu am Edward Clement o’r
dudalen hon?
Edrychwch ar dudalen 7 o’r Llyfr Bach. Nawr edrychwch eto ar y ffotograff o’r teulu. Nodwch unrhyw newidiadau yn hanes teuluol Edward (e.e. cyfeiriadau, galwedigaethau).
Tad
Mam
Brawd
Chwaer
Pam yr anfonodd y Fyddin Lyfr Bach Edward
at ei dad?
Sut yn eich barn chi roedd tad Edward yn
teimlo wrth iddo afael yn Llyfr Bach Edward am y
tro cyntaf?Geiriau Disgrifiadol
Pam yr anfonodd y Fyddin Lyfr Bach Edward
at ei dad?
Tudalen fewnol
Llyfr Bach Edward
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Amlygwch y rhesymau pam roedd pob milwr yn gorfod
cario Llyfr Bach.
Amlygwch y wybodaeth oedd i fod gael ei gofnodi
yn y Llyfr Bach.
Ymhle roeddech yn cael eich cynghori i gadw’r
cerdyn?
Pam rydych chi’n meddwl fod cymaint o
filwyr yn cario’r cardiau hyn?
Cefn y cerdyn.
Roedd Edward yn cadw’r cerdyn hwn
yn ei Lyfr Bach.
Roedd Edward yn cario’r Beibl poced
hwn.Beth ddylai’r milwyr ei
wneud â’r Beibl?
Cerdyn gyda chynghorion arno a roddwyd hefyd i’r milwyr…
Beth yn eich barn chi fyddai’n digwydd i filwyr Almaenig a ddaliwyd mewn gwisg Brydeinig?
DIWEDD
Beth yn eich barn chi fyddai’n digwydd i filwyr Almaenig a ddaliwyd mewn gwisg Brydeinig?
Yn ôl yr erthyglau rhyfela (Confensiwn Genefa), gallai cael eich dal yng ngwisg y gelyn arwain at y gosb eithaf.