Upload
caine
View
106
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol. Yr Athro Amanda Kirby. Nodau’r drafodaeth. 1. Rhai ffeithiau sylfaenol am lythrennedd, dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol (ADP) 2. Uchafbwyntiau o’r astudiaeth feincnodi ac o’r adolygiad o’r llenyddiaeth ar ddyslecsia ac ADP. Ffeithiau allweddol. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol
Yr Athro Amanda Kirby
Nodau’r drafodaeth
1. Rhai ffeithiau sylfaenol am lythrennedd, dyslecsia ac anawsterau dysgu penodol (ADP)2. Uchafbwyntiau o’r astudiaeth feincnodi ac o’r adolygiad o’r llenyddiaeth ar ddyslecsia ac ADP
Ffeithiau allweddol• Mae nodi anawsterau darllen yn gynnar yn bwysig er mwyn
dangos pa blant sydd angen cymorth ychwanegol• Mae ffoneg fel arfer yn dda i bawb• Mae’r holl anawsterau dysgu penodol yn gorgyffwrdd –
felly os oes gennych un anhawster mae’n debygol bod gennych heriau eraill hefyd
• Gall deall datblygiad nodweddiadol helpu i adnabod datblygiad annodweddiadol
• Gall anawsterau llythrennedd effeithio ar bob maes dysgu felly mae angen eu hystyried yn enwedig yng nghwricwlwm yr ysgol uwchradd, e.e. mathemateg, daearyddiaeth, a gwneud addasiadau rhesymol
Angen meddwl am resymau eraill hefyd am y gall heriau llythrennedd
fod yn gysylltiedig â:• Nam iaith penodol• Dulliau addysgu anghyson• Nam gwybyddol• Anawsterau emosiynol ac ymddygiadol• Diffyg canolbwyntio (ADCG)
Adroddiad Meincnodi Dyslecsia
Prif Ganfyddiadau
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/researchandevaluation/research/
literacyreview/?skip=1&lang=cy >
Adroddiad wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru
• Yr Athro Markéta Caravolas • Yr Athro Angela Fawcett • Yr Athro Amanda Kirby • Kathleen Glendenning
Adolygiad yn cynnwys gwybodaeth ar:
• Y diffiniadau presennol o ddyslecsia • Y prif adroddiadau damcaniaethol ac empeiraidd ar yr hyn sy’n achosi dyslecsia • Gwybodaeth gyfredol o’r ffordd y bydd dyslecsia’n ei amlygu ei hun
mewn gwahanol ieithoedd ac mewn unigolion dwyieithog • Adolygiad o ymchwil i anhwylderau datblygiadol a all gyd-ddigwydd â dyslecsia • Adolygiad o ddeilliannau addysgol a seicogymdeithasol tymor hwy unigolion
â dyslecsia • Trosolwg o faterion yn gysylltiedig â sgrinio ac asesu dyslecsia• Adolygiad o sail resymegol ac effeithiolrwydd dulliau ymyrryd llythrennedd y
credir ar hyn o bryd eu bod yn adlewyrchu’r arfer orau • Adolygiad o rai dulliau ymyrryd cydategol sydd ar gael yn fasnachol • Ystyried y goblygiadau i’r arferion gorau o ran cynorthwyo plant â dyslecsia ac
ADP eraill yn ysgolion Cymru
Adolygiad Dyslecsia Rose 2009
Anhawster dysgu yw dyslecsia sy’n effeithio’n bennaf ar y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarllen a sillafu geiriau yn gywir ac yn rhugl.
Dyma briod nodweddion dyslecsia: •Anawsterau o ran ymwybyddiaeth ffonolegol, cof geiriol a chyflymder prosesu geiriau. •Mae dyslecsia’n digwydd ar draws yr ystod o alluoedd deallusol.
Y peth gorau yw meddwl amdano fel continwwm, yn hytrach nag fel categori ar wahân, ac nid oes torbwyntiau clir.
Cyd-ddigwydd (gorgyffwrdd, cydforbidrwydd)
Gall gyd-ddigwydd â’r canlynol:•anhwylderau iaith•anawsterau cydsymud echddygol•anawsterau cyfrifo yn y pen•anawsterau canolbwyntio •anawsterau trefnu personolOND nid yw’r rhain, ar eu pennau eu hunain yn arwyddion o ddyslecsia
Mae siâp gwahanol i bob myfyriwr
Hawlfraint 2013 Amanda Kirby 12
Amanda Kirby 2013
Felly gallai myfyriwr fod yn wynebu heriau o ran:
• Darllen (ond yn gallu sillafu)• Ysgrifennu (ond yn dda mewn chwaraeon)• Siarad (ond yn deall yn dda)• Rheoli amser (ond yn gallu ei drefnu ei hun yn
dda)
Hawlfraint 2013 Amanda Kirby 14
Mae gan bob myfyriwr fryniau gwahanol i’w goresgyn a… ffyrdd gwahanol o wneud hynny
Hawlfraint 2013 Amanda Kirby 15
Ymateb i Ymyrraeth
Gellir cael syniad da o ddifrifoldeb a dycnwch anawsterau dyslecsig drwy edrych ar sut y mae’r unigolyn yn ymateb neu wedi ymateb i ymyrraeth resymol.
Astudiaeth feincnodi i Gymru
• Cymerodd pob awdurdod lleol ran• Edrychodd ar sgrinio, ymyrraeth ac arferion
ADP ledled Cymru
Amlygodd y canlyniadau: amrywioldeb
• Yn strwythur y gwasanaethau ADP a ddarperir gan ALlau
• Yn y ffordd y cynorthwyir plant â dyslecsia ledled Cymru
• Yn y dulliau a ddefnyddir i asesu am ddyslecsia• Yn y torbwyntiau a ddefnyddir i gael cymorth
ychwanegol ac i beidio â bod yn gymwys mwyach i gael cymorth ychwanegol
• Yn y llwybrau amlasiantaeth ar gyfer ADP gwahanol • Fodd bynnag, nod POB ALl yw cynorthwyo plant heb
fod angen diagnosis nac asesiad statudol
Sgrinio
• Anghysondeb rhwng ALlau o ran sgrinio am ADP eraill
• Ni fydd Unedau Cyfeirio Disgyblion yn sgrinio’n rheolaidd am anawsterau llythrennedd er bod lefelau uchel o broblemau llythrennedd, NIP, ADCG ac ADP yn cael eu nodi (Place, 2000)
Ymyriadau
• 69 o becynnau/dulliau ymyrryd gwahanol yn cael eu defnyddio
• Amlder yr ymyrryd yn amrywio ledled Cymru– Amrywio o ymyrryd yn yr ysgol yn ôl anghenion y
disgybl i 1 hanner diwrnod o ymyrraeth ddwywaith yr wythnos
• Amrywioldeb yn y ffordd y darperir ymyriadau– Yn yr ysgol– Tîm canolog o athrawon arbenigol– Prynu ymyriadau gan ddarparwr allanol
Adnoddau
Diffyg cyfartalwch rhwng adnoddau Cymraeg a Saesneg– I asesu anawsterau– I gynorthwyo plant ag anawsterau– Sawl ALl yn datblygu eu deunyddiau da eu hunain
yn y Gymraeg
Y Ddarpariaeth Gymraeg
• Diffyg deunyddiau asesu/ymyrryd• Prinder arbenigwyr cymwysedig sy’n siarad
Cymraeg– E.e. Seicolegwyr Addysg
Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY)
• Wedi’u tangynrychioli yn yr ystadegau, o bosibl yn cael eu hanwybyddu
• 59% o ALlau yn annog cydweithredu rhwng arbenigwyr dyslecsia a staff cymorth SIY
• Canran fach o staff cymorth SIY sydd â chymhwyster mewn dyslecsia neu ADP
• Nododd hanner yr ALlau eu bod yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng problemau llythrennedd Iaith 2 a dyslecsia
Hyfforddiant
• Nid oes gan lawer o ALlau gronfa ddata o athrawon sydd wedi cael hyfforddiant ADP
• Roedd yr holl ALlau yn cynnig hyfforddiant anachrededig i staff
• Roedd 68% yn cynnig hyfforddiant achrededig i staff
• Roedd 59% yn cynnig hyfforddiant yn y Gymraeg a’r Saesneg
Rhieni
• Mae’r holl ALlau’n annog rhieni i gymryd rhan yn y broses o asesu a chynorthwyo
• Peth gwybodaeth dda i rieni ar gael ledled Cymru– Angen ei chyfieithu i wahanol ieithoedd lleiafrifol
• Mae 32% yn cynnig hyfforddiant i rieni gan ysgolion
• Mae 32% yn cynnig hyfforddiant gan yr ALl
Hysbysu am ADP
• Anawsterau wedi’u nodi o ran codau hysbysu– Anodd disgrifio’n foddhaol ddisgybl ag ADP sy’n
gorgyffwrdd
Adroddiad Meincnodi Dyslecsia
Goblygiadau’r Prif Ganfyddiadau
Cynllunio Angen grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Cymraeg– Cydgysylltu’r gwaith o ddarparu adnoddau ar
gyfer adnabod, asesu a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg
– Adnoddau’n cael eu datblygu’n annibynnol ac mae angen eu cyfuno er mwyn i bawb eu defnyddio
– Nodi bylchau yn y ddarpariaeth a datblygu adnoddau
– Dylai adnoddau gael eu datblygu’n broffesiynol a dylent fod ar gael trwy storfa ganolog, e.e. GCaD
Ymchwil i Gymorth Cymraeg
• Angen deall y ffordd orau o gynorthwyo plant ag anawsterau llythrennedd yn y cyd-destun dwyieithog Cymraeg/Saesneg
• Angen ystyried amrywiaeth sefyllfa’r cartref o ran iaith
• Angen datblygu dulliau sgrinio ac asesu priodol yn Gymraeg
Canllawiau i Awdurdodau Lleol
• Egluro pa ddulliau sgrinio/asesu sy’n briodol ac yn ddilys– Dylid ymchwilio i’r ‘bylchau’ yn y dulliau
• Ystyried diffinio’r meini prawf ar gyfer cychwyn/terfynu ymyrraeth er mwyn osgoi loteri cod post
• Llwybrau amlasiantaeth clir ar gyfer yr holl ADP i ddisgyblion o oedrannau gwahanol ac mewn cyfnodau gwahanol
Argymhellion Eraill
• Adolygiad o godau CYBLD i sicrhau bod disgrifiadau’n gywir ac y gellir nodi gorgyffwrdd
• Sgrinio’r holl blant a dderbynnir i Unedau Cyfeirio Disgyblion am anghenion dysgu ychwanegol– Darllen, sillafu, ysgrifennu, mathemateg,
dealltwriaeth o leiaf• Dylid cynnwys llais y disgybl yn y penderfyniadau
cynllunio• Paratoi canllawiau ar gynorthwyo ADY ac SIY a
lledaenu’r arferion gorau
Argymhellion o ran Hyfforddiant• Angen iddo gynnwys gwybodaeth ar ddatblygiad nodweddiadol fel
y gellir adnabod anghysonderau (mae LlC bellach wedi creu modiwl.. http://learning.wales.gov.uk/improvementareas/child-adolescent-development/;jsessionid=DCF2732530FE17DAD515EC2077845D2E?skip=1&lang=cy#/improvementareas/child-adolescent-development/?lang=cy
• Dylai pob athro ar draws holl bynciau’r cwricwlwm gael hyfforddiant ar ADP hyd at lefel ofynnol
• Dylai pob ANG a holl staff yr Unedau Cyfeirio Disgyblion gael hyfforddiant ar adnabod a chynorthwyo dyslecsia ac ADP eraill
• Dylai fod o leiaf 1 athro arbenigol ADP i bob clwstwr o ysgolion• Dylai pob Awdurdod Lleol gadw cronfa ddata o hyfforddiant ac o
staff sydd â chymwysterau ADP
Argymhellion o ran Arferion• Dylai asesiadau llythrennedd gynnwys pob
agwedd ar anawsterau llythrennedd– Darllen a deall, cyflymder darllen, sillafu, gallu i
ysgrifennu, darllen geiriau unigol– Ystyried cynnal profion am anawsterau gweld
• Cymorth ar gyfer ADP eraill yn unol â dyslecsia• Storfa ganolog o wybodaeth a deunyddiau
mynediad agored i athrawon, rhieni ac eraill• Cyfieithu gwybodaeth i rieni i brif ieithoedd
cymunedau a sicrhau ei bod ar gael yn rhwydd
Cofiwch
Mae gan bob myfyriwr fryniau gwahanol i’w goresgyn a…
ffyrdd gwahanol o wneud hynny
Hawlfraint 2013 Amanda Kirby 35
Take 10 students all with a diagnosis of Dyslexia (literacy difficulties)
Amanda Kirby 2013
Sgoriau Graddfa Deallusrwydd Oedolion Wechsler (WAIS)
Amanda Kirby 2013
Is-sgoriau
Amanda Kirby 2013
Amanda Kirby 2013
Faint sy’n nodi anawsterau talu sylw
Cyf: Kirby, Do-IT Profiler,2013
Amanda Kirby 2013
…Ac anawsterau cymdeithasol
Amanda Kirby 2013
….Ac anawsterau cydsymud/trefnu
Amanda Kirby 2013
…a’u ffyrdd o astudio …