8
East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, Wrexham Argraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam 1914 – Review of the Year Adolygiad o’r Flwyddyn – 1914 Revolver Shooting at Rhostyllen football match Extraordinary incidents followed a football match at Rhostyllen on Monday between Gwersyllt Rangers and Esclusham White Stars. A sequel was furnished by the Police Court on Tuesday morning of a young man named Emlyn Roberts of Gwersyllt. D.C.C. Tippett, in opening the case, said he believed there was considerable feeling during the match. There was disorder after the match and one or two scrimmages. He thought he would be able to prove that the accused produced a revolver and that had it not been for one man knocking the revolver up, then somebody must have been shot. There was a crowd of people in the road after the match and when some of the men attempted to stop him he pointed the revolver at them. He threw the revolver away and tried to conceal himself. The defendant’s solicitor asked for an adjournment until Thursday to prepare his defence and bail was given. At the adjourned hearing, the court heard that the revolver was recovered 3 or 4 yards from where the defendant was hiding. The defendant said ‘there were 5 live charges and one discharged. I only did it to frighten them.’ The defendant pleaded ‘Not Guilty’. His solicitor said that it must be proved absolutely that there was intent to do someone harm. Witnesses for the prosecution admitted that he shouted “heigh up” thus giving them a warning. The Magistrates retired and after a few minutes retirement, the Chairman said they were of the opinion that the defendant was guilty of an extremely wrong act in taking a revolver to a football match and still more in discharging it on the highway. The Bench was of the opinion that the present charge should be dismissed as there was not sufficient evidence to put the defendant on trial. A second person, Emlyn Jones, a professional footballer of the Wrexham club, living at Gwersyllt has been charged with inflicting grievous bodily harm at the same match. (Wrexham Advertiser, 14 & 28.03.1914) Ergyd o Lawddryll mewn gêm bêl-droed yn Rhostyllen Bu digwyddiadau syfrdanol yn dilyn gêm bêl- droed yn Rhostyllen ddydd Llun rhwng Gwersyllt Rangers ac Esclusham White Stars. Rhoddwyd dilyniant gan Lys yr Heddlu fore dydd Mawrth o ddyn ifanc o’r enw Emlyn Roberts Gwersyllt. Dywedodd D.C.C. Tippett, wrth agor yr achos, ei fod yn credu bod cryn deimlad yn ystod y gêm. Bu anhrefn ar ôl y gêm ac un neu ddau o sgarmesau. Credai y gallai brofi bod y cyhuddedig wedi estyn llawddryll ac oni bai am un dyn a darodd y llawddryll tuag i fyny, byddai rhywun wedi cael ei saethu. Roedd torf o bobl yn y ffordd ar ôl y gêm a phan geisiodd rhai o’r dynion ei atal, pwyntiodd y llawddryll tuag atynt. Taflodd y llawddryll i ffwrdd a cheisiodd guddio ei hun. Gofynnodd cyfreithiwr y diffynnydd am ohiriad tan ddydd Iau i baratoi ei amddiffyniad a chytunwyd i roi mechnïaeth. Yn y gwrandawiad gohiriedig, clywodd y llys fod y llawddryll a ddaethpwyd o hyd iddo 3 neu 4 llath o’r fan lle’r oedd y diffynnydd yn cuddio. Dywedodd y diffynnydd ‘yr oedd 5 cetris fyw ac yr oedd un wedi ei thanio. Fe’i saethais i beri braw iddynt.’ Plediodd y diffynnydd yn ‘Ddieuog’. Dywedodd ei gyfreithiwr fod yn rhaid profi’n ddigamsyniol bod bwriad i beri niwed i rywun. Cyfaddefodd tystion ar ran yr erlyniad ei fod wedi gweiddi “heigh up” gan felly roi rhybudd iddynt. Ymneilltuodd yr Ynadon ac wedi ychydig funudau o’r neilltu, dywedodd y Cadeirydd eu bod o’r farn bod y diffynnydd yn euog o weithred hynod anghywir drwy fynd â llawddryll i gêm bêl-droed ac yn fwy fyth i’w danio ar y briffordd. Yr oedd y Fainc o’r farn y dylid diystyru’r cyhuddiad presennol gan nad oedd tystiolaeth ddigonol i gynnal achos yn erbyn y diffynnydd. Cyhuddwyd ail unigolyn, Emlyn Jones, pêl-droediwr proffesiynol o glwb Wrecsam, sydd yn byw yng Ngwersyllt o achosi niwed corfforol difrifol yn yr un gêm. (Wrexham Advertiser, 14 & 28.03.1914) Three leadminers, Minera - The United Minera Mining Co has recently announced the closure of the last working lead mine at Minera. (© Denbighshire Archives) Mwyngloddwyr lleol, y Mwynglawdd - Mae’r United Minera Mining Co wedi cyhoeddi eu bod yn cau’r mwynglawdd olaf ym Mwynglawdd yn ddiweddar. (© Archifdy Sir Ddinbych) Colliery fatality at Brynmally The deceased, Edward Harrison of Summerhill, was married and aged 25 years. He was injured on 9 December and died on 17 January. Harrison was trimming the side of the road to insert a bar when a roof fall occurred. The roof had been examined a little before but no fault was found. The length of the stone that came down was a yard and half a foot wide. They had to pull the stone off him which took 10 mins. In summing up the Coroner said no blame could be attached to the officials and the jury returned a verdict of ‘Accidental Death’. (Wrexham Advertiser, 24.01.1914) Marwolaeth yn y pwll glo Brynmally Yr oedd yr ymadawedig, Edward Harrison o Frynhyfryd, yn briod ac yn 25 mlwydd oed. Cafodd ei anafu ar 9 Rhagfyr a bu farw ar 17 Ionawr. Roedd Harrison yn tacluso ymyl y ffordd i osod bar pan syrthiodd y to. Cynhaliwyd archwiliad ar y to ychydig yn gynharach ond ni chanfuwyd unrhyw ddiffyg. Hyd y garreg a syrthiodd i lawr oedd un llathen ac yr oedd iddi led o hanner troedfedd. Bu’n rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno a chymerodd hyn 10 munud. Wrth grynhoi, dywedodd y Crwner na ellid rhoi unrhyw fai ar y swyddogion a dychwelodd y rheithgor reithfarn o ‘Farwolaeth Ddamweiniol’. (Wrexham Advertiser, 24.01.1914) Outdoor Relief in Wrexham Union Effects of Old-Age Pensions A report presented to the Wrexham Board of Guardians by the finance committee stated that there were now 386 more persons in receipt of outdoor relief than in 1894. The present staff of three relieving officers was inadequate and an assistant was to be appointed. The ratio per cent of out-door paupers to the population was, in September last, 3.0 in Cefn and Minera, 2.8 in Rhos and only 1.4 in Wrexham. In Wrexham with a population of 18,379 the amount given in out-door relief was £1,403; in Rhos with a population of 11,005 £1,893; Cefn 7,151 £1,403 and Minera 1,401 £306. The committee reported that although the immediate saving owing to the Old Age Pension Act was at a rate of £2,574 due to the increase in the number of outdoor paupers particularly outside the Wrexham Borough, the actual saving was only £592. (Rhos Herald, 14.02.1914) Cymorth Allanol yn Undeb Wrecsam Effeithiau Pensiynau i’r Henoed Yr oedd adroddiad a gyflwynwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Wrecsam gan y pwyllgor cyllid yn datgan bod 386 yn fwy o bobl yn awr yn derbyn cymorth allanol nag ym 1894. Yr oedd y staff presennol o dri swyddog cymorth yn annigonol a byddai chymhorthydd yn cael ei benodi. Y gymhareb o dlodion allanol fesul pob cant o’r boblogaeth, fis Medi diwethaf, oedd 3.0 yng Nghefn Mawr a’r Mwynglawdd, 2.8 yn y Rhos a dim ond 1.4 yn Wrecsam. Yn Wrecsam gyda phoblogaeth o 18,379 y swm a roddwyd mewn cymorth allanol oedd £1,403; yn y Rhos gyda phoblogaeth o 11,005 £1,893; Cefn 7,151 £1,403 a’r Mwynglawdd 1,401 £306. Adroddodd y pwyllgor, er y byddai’r arbediad uniongyrchol yn sgil y Ddeddf Pensiwn Henoed ar gyfradd o £2,574, oherwydd y cynnydd yn nifer y tlodion allanol yn arbennig y tu allan i Fwrdeistref Wrecsam, dim ond £592 fyddai’r arbediad gwirioneddol. (Rhos Herald, 14.02.1914) The Tramps’ Refusal Tickets for bread without cheese At the Corwen Board of Guardians, on Friday, the workhouse master reported on the way-ticket system adopted in common with other North Wales unions, under which tramps leaving the workhouse are given tickets, in exchange for which they receive food at certain bread stations midway between workhouses. Forty-three tramps received bread and cheese tickets during the week, and twenty-five refused to accept tickets. The Chairman: - Why did they refuse? The Master:- Those refusing declined to take orders for bread because it was not accompanied by cheese. The Clerk:- Bona-fide seekers for work get bread and cheese. Professional tramps only get bread. The way-ticket system was begun to put a stop to the vagrant nuisance in North Wales. The unions of North Wales had gone to a great deal of expense in this matter, and asked for the Bench and the Police to commit to prison any vagrants brought before them for begging as there was now no necessity for any man on the road to beg. (Wrexham Advertiser, 21.02.1914) Gwrthodiad y Trampiaid Tocynnau am fara heb gaws Yng nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Corwen, ddydd Gwener, adroddodd meistr y tloty ar y system tocynnau ffordd a fabwysiadwyd yn yr un modd ag undebau eraill Gogledd Cymru, a roddai docynnau i drampiaid a adawai’r tlotai, y gallent dderbyn bwyd yn gyfnewid amdanynt mewn gorsafoedd bara penodol ar y ffordd rhwng tlotai. Derbyniodd deugain a thri o drampiaid docynnau bara a chaws yn ystod yr wythnos, a gwrthododd bump ar hugain i dderbyn tocynnau. Y Cadeirydd: - Pam y gwnaethant wrthod? Y Meistr: - Y rheswm y gwrthododd rhai gymryd archebion am fara oedd y ffaith nad oedd yn dod gyda chaws. Y Clerc: - Mae’r rhai sy’n wirioneddol geisio am waith yn derbyn bara a chaws. Bara yn unig y rhoddir i drampiaid proffesiynol. Sefydlwyd y system tocynnau ffordd i roi terfyn ar niwsans crwydriaid yng Ngogledd Cymru. Perwyd cryn dipyn o gostau i undebau Gogledd Cymru yn y mater hwn, a gofynnwyd i’r Fainc ac yr Heddlu i anfon unrhyw grwydriaid a gai eu dwyn ger eu bron i garchar am gardota gan nad oedd bellach unrhyw angen i unrhyw ddyn gardota ar y ffordd. (Wrexham Advertiser, 21.02.1914) DISTRICT NEWS Dangerous driving – Ruabon motor hearse Ernest Charles Bateman was charged by Sgt. Fox with having driven a motor hearse to the danger of the public on 20th March. Fox gave evidence that Bateman was driving at a dangerous speed through High Street. He did not sound his horn and there was a large number of children coming from the Council School. Bateman was called upon to stop but did not do so, but was stopped at Wrexham. The defendant asserted that the claim he was travelling at 20-25mph was absurd. The car weighed a ton and was of small horse power. It was not built for speed. Defendant was fined £1 and costs. (Wrexham Advertiser, 28.03.1914) NEWYDDION BRO Gyrru peryglus – hers fodur Rhiwabon Cyhuddwyd Ernest Charles Bateman gan y Rhingyll Fox o yrru hers fodur gan beryglu’r cyhoedd ar 20 Mawrth. Rhoddodd Fox dystiolaeth PLEASE DO NOT REMOVE THIS NEWSPAPER FROM THE GALLERY. PEIDIWCH Â SYMUD Y PAPUR NEWYDD YMA O’R ORIEL. DIOLCH.

East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, Wrexham

Argraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam1914 – Review of the Year

Adolygiad o’r Flwyddyn – 1914

Revolver Shooting atRhostyllen football match

Extraordinary incidents followed a football match at Rhostyllen on Monday between Gwersyllt Rangers and Esclusham White Stars. A sequel was furnished by the Police Court on Tuesday morning of a young man named Emlyn Roberts of Gwersyllt. D.C.C. Tippett, in opening the case, said he believed there was considerable feeling during the match. There was disorder after the match and one or two scrimmages. He thought he would be able to prove that the accused produced a revolver and that had it not been for one man knocking the revolver up, then somebody must have been shot. There was a crowd of people in the road after the match and when some of the men attempted to stop him he pointed the revolver at them. He threw the revolver away and tried to conceal himself. The defendant’s solicitor asked for an adjournment until Thursday to prepare his defence and bail was given. At the adjourned hearing, the court heard that the revolver was recovered 3 or 4 yards from where the defendant was hiding. The defendant said ‘there were 5 live charges and one discharged. I only did it to frighten them.’ The defendant pleaded ‘Not Guilty’. His solicitor said that it must be proved absolutely that there was intent to do someone harm. Witnesses for the prosecution admitted that he shouted “heigh up” thus giving them a warning. The Magistrates retired and after a few minutes retirement, the Chairman said they were of the opinion that the defendant was guilty of an extremely wrong act in taking a revolver to a football match and still more in discharging it on the highway. The Bench was of the opinion that the present charge should be dismissed as there was not sufficient evidence to put the defendant on trial. A second person, Emlyn Jones, a professional footballer of the Wrexham club, living at Gwersyllt has been charged with inflicting grievous bodily harm at the same match. (Wrexham Advertiser, 14 & 28.03.1914)

Ergyd o Lawddryll mewngêm bêl-droed yn

RhostyllenBu digwyddiadau syfrdanol yn dilyn gêm bêl-droed yn Rhostyllen ddydd Llun rhwng Gwersyllt Rangers ac Esclusham White Stars. Rhoddwyd dilyniant gan Lys yr Heddlu fore dydd Mawrth o ddyn ifanc o’r enw Emlyn Roberts Gwersyllt. Dywedodd D.C.C. Tippett, wrth agor yr achos, ei fod yn credu bod cryn deimlad yn ystod y gêm. Bu anhrefn ar ôl y gêm ac un neu ddau o sgarmesau. Credai y gallai brofi bod y cyhuddedig wedi estyn llawddryll ac oni bai am un dyn a darodd y llawddryll tuag i fyny, byddai rhywun wedi cael ei saethu. Roedd torf o bobl yn y ffordd ar ôl y gêm a phan geisiodd rhai o’r dynion ei atal, pwyntiodd y llawddryll tuag atynt. Taflodd y llawddryll i ffwrdd a cheisiodd guddio ei hun. Gofynnodd cyfreithiwr y diffynnydd am ohiriad tan ddydd Iau i baratoi ei amddiffyniad a chytunwyd i roi mechnïaeth. Yn y gwrandawiad gohiriedig, clywodd y llys fod y llawddryll a ddaethpwyd o hyd iddo 3 neu 4 llath o’r fan lle’r oedd y diffynnydd yn cuddio. Dywedodd y diffynnydd ‘yr oedd 5 cetris fyw ac yr oedd un wedi ei thanio. Fe’i saethais i beri braw iddynt.’ Plediodd y diffynnydd yn ‘Ddieuog’. Dywedodd ei gyfreithiwr fod yn rhaid profi’n ddigamsyniol bod bwriad i beri niwed i rywun. Cyfaddefodd tystion ar ran yr erlyniad ei fod wedi gweiddi “heigh up” gan felly roi rhybudd iddynt. Ymneilltuodd yr Ynadon ac wedi ychydig funudau o’r neilltu, dywedodd y Cadeirydd eu bod o’r farn bod y diffynnydd yn euog o weithred hynod anghywir drwy fynd â llawddryll i gêm bêl-droed

ac yn fwy fyth i’w danio ar y briffordd. Yr oedd y Fainc o’r farn y dylid diystyru’r cyhuddiad presennol gan nad oedd tystiolaeth ddigonol i gynnal achos yn erbyn y diffynnydd. Cyhuddwyd ail unigolyn, Emlyn Jones, pêl-droediwr proffesiynol o glwb Wrecsam, sydd yn byw yng Ngwersyllt o achosi niwed corfforol difrifol yn yr un gêm. (Wrexham Advertiser, 14 & 28.03.1914)

Three leadminers, Minera - The United Minera Mining Co has recently announced the closure of the last working lead mine at Minera. (© Denbighshire Archives)

Mwyngloddwyr lleol, y Mwynglawdd - Mae’r United Minera Mining Co wedi cyhoeddi eu bod yn cau’r mwynglawdd olaf ym Mwynglawdd yn ddiweddar. (© Archifdy Sir Ddinbych)

Colliery fatality at Brynmally

The deceased, Edward Harrison of Summerhill, was married and aged 25 years. He was injured on 9 December and died on 17 January. Harrison was trimming the side of the road to insert a bar when a roof fall occurred. The roof had been examined a little before but no fault was found. The length of the stone that came down was a yard and half a foot wide. They had to pull the stone off him which took 10 mins. In summing up the Coroner said no blame could be attached to the officials and the jury returned a verdict of ‘Accidental Death’. (Wrexham Advertiser, 24.01.1914)

Marwolaeth yn y pwll glo Brynmally

Yr oedd yr ymadawedig, Edward Harrison o Frynhyfryd, yn briod ac yn 25 mlwydd oed. Cafodd ei anafu ar 9 Rhagfyr a bu farw ar 17 Ionawr. Roedd Harrison yn tacluso ymyl y ffordd i osod bar pan syrthiodd y to. Cynhaliwyd archwiliad ar y to ychydig yn gynharach ond ni chanfuwyd unrhyw ddiffyg. Hyd y garreg a syrthiodd i lawr oedd un llathen ac yr oedd iddi led o hanner troedfedd. Bu’n rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno a chymerodd hyn 10 munud. Wrth grynhoi, dywedodd y Crwner na ellid rhoi unrhyw fai ar y swyddogion a dychwelodd y rheithgor reithfarn o ‘Farwolaeth Ddamweiniol’. (Wrexham Advertiser, 24.01.1914)

Outdoor Relief in Wrexham Union

Effects of Old-Age Pensions

A report presented to the Wrexham Board of Guardians by the finance committee stated that there were now 386 more persons in receipt of outdoor relief than in 1894. The present staff of three relieving officers was inadequate and an assistant was to be appointed.

The ratio per cent of out-door paupers to the population was, in September last, 3.0 in Cefn and Minera, 2.8 in Rhos and only 1.4 in Wrexham. In Wrexham with a population of 18,379 the amount given in out-door relief was £1,403; in Rhos with a population of 11,005 £1,893; Cefn 7,151 £1,403 and Minera 1,401 £306.

The committee reported that although the immediate saving owing to the Old Age Pension Act was at a rate of £2,574 due to the increase in the number of outdoor paupers particularly outside the Wrexham Borough, the actual saving was only £592. (Rhos Herald, 14.02.1914)

Cymorth Allanol yn Undeb Wrecsam

Effeithiau Pensiynau i’r Henoed

Yr oedd adroddiad a gyflwynwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Wrecsam gan y pwyllgor cyllid yn datgan bod 386 yn fwy o bobl yn awr yn derbyn cymorth allanol nag ym 1894. Yr oedd y staff presennol o dri swyddog cymorth yn annigonol a byddai chymhorthydd yn cael ei benodi.

Y gymhareb o dlodion allanol fesul pob cant o’r boblogaeth, fis Medi diwethaf, oedd 3.0 yng Nghefn Mawr a’r Mwynglawdd, 2.8 yn y Rhos a dim ond 1.4 yn Wrecsam. Yn Wrecsam gyda phoblogaeth o 18,379 y swm a roddwyd mewn cymorth allanol oedd £1,403; yn y Rhos gyda phoblogaeth o 11,005 £1,893; Cefn 7,151 £1,403 a’r Mwynglawdd 1,401 £306.

Adroddodd y pwyllgor, er y byddai’r arbediad uniongyrchol yn sgil y Ddeddf Pensiwn Henoed ar gyfradd o £2,574, oherwydd y cynnydd yn nifer y tlodion allanol yn arbennig y tu allan i Fwrdeistref Wrecsam, dim ond £592 fyddai’r arbediad gwirioneddol. (Rhos Herald, 14.02.1914)

The Tramps’ RefusalTickets for bread

without cheeseAt the Corwen Board of Guardians, on Friday, the workhouse master reported on the way-ticket system adopted in common with other North Wales unions, under which tramps leaving the workhouse are given tickets, in exchange for which they receive food at certain bread stations midway between workhouses. Forty-three tramps received bread and cheese tickets during the week, and twenty-five refused to accept tickets.

The Chairman: - Why did they refuse?

The Master:- Those refusing declined to take orders for bread because it was not accompanied by cheese.

The Clerk:- Bona-fide seekers for work get bread and cheese. Professional tramps only get bread.The way-ticket system was begun to put a stop to the vagrant nuisance in North Wales. The unions of North Wales had gone to a great deal of expense in this matter, and asked for the Bench and the Police to commit to prison any vagrants brought before them for begging as there was now no necessity for any man on the road to beg. (Wrexham Advertiser, 21.02.1914)

Gwrthodiad y TrampiaidTocynnau am fara

heb gawsYng nghyfarfod Bwrdd Gwarcheidwaid Corwen, ddydd Gwener, adroddodd meistr y tloty ar y system tocynnau ffordd a fabwysiadwyd yn yr un modd ag undebau eraill Gogledd Cymru, a roddai docynnau i drampiaid a adawai’r tlotai, y gallent dderbyn bwyd yn gyfnewid amdanynt mewn gorsafoedd bara penodol ar y ffordd rhwng tlotai. Derbyniodd deugain a thri o drampiaid docynnau bara a chaws yn ystod yr wythnos, a gwrthododd bump ar hugain i dderbyn tocynnau.

Y Cadeirydd: - Pam y gwnaethant wrthod?Y Meistr: - Y rheswm y gwrthododd rhai gymryd archebion am fara oedd y ffaith nad oedd yn dod gyda chaws.

Y Clerc: - Mae’r rhai sy’n wirioneddol geisio am waith yn derbyn bara a chaws. Bara yn unig y rhoddir i drampiaid proffesiynol.

Sefydlwyd y system tocynnau ffordd i roi terfyn ar niwsans crwydriaid yng Ngogledd Cymru. Perwyd cryn dipyn o gostau i undebau Gogledd Cymru yn y mater hwn, a gofynnwyd i’r Fainc ac yr Heddlu i anfon unrhyw grwydriaid a gai eu dwyn ger eu bron i garchar am gardota gan nad oedd bellach unrhyw angen i unrhyw ddyn gardota ar y ffordd. (Wrexham Advertiser, 21.02.1914)

DISTRICT NEWSDangerous driving –

Ruabon motor hearseErnest Charles Bateman was charged by Sgt. Fox with having driven a motor hearse to the danger of the public on 20th March. Fox gave evidence that Bateman was driving at a dangerous speed through High Street. He did not sound his horn and there was a large number of children coming from the Council School. Bateman was called upon to stop but did not do so, but was stopped at Wrexham. The defendant asserted that the claim he was travelling at 20-25mph was absurd. The car weighed a ton and was of small horse power. It was not built for speed. Defendant was fined £1 and costs.(Wrexham Advertiser, 28.03.1914)

NEWYDDION BROGyrru peryglus – hers

fodur RhiwabonCyhuddwyd Ernest Charles Bateman gan y Rhingyll Fox o yrru hers fodur gan beryglu’r cyhoedd ar 20 Mawrth. Rhoddodd Fox dystiolaeth

PLEASE DO NOT REMOVE THIS NEWSPAPER FROM THE GALLERY. PEIDIWCH Â SYMUD Y PAPUR NEWYDD YMA O’R ORIEL. DIOLCH.

Page 2: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

bod Bateman yn gyrru ar gyflymder peryglus drwy’r Stryt Fawr. Nid chanodd ei gorn ac roedd nifer fawr o blant yn dod o Ysgol y Cyngor. Galwyd ar Bateman i stopio, ond ni wnaeth hynny, ond cafodd ei atal yn Wrecsam. Heurodd y diffynnydd fod yr honiad iddo deithio ar gyflymder o 20-25mya yn hurt. Pwysai’r car dunnell ac yr oedd iddo yriant isel. Ni chafodd ei adeiladu ar gyfer gyrru ar gyflymder. Derbyniodd y diffynnydd ddirwy o £1 a chostau.(Wrexham Advertiser, 28.03.1914)

From Our London Correspondent

Sir E. Shackleton’s Expedition

Sir Ernest Shackleton explains in regard to his forthcoming Imperial Transantartic expedition that two oil fuel ships will be used with a total personnel of forty-two. They will leave Buenos Aires next October. A party of twelve will endeavour to cross the South Polar continent from the Weddell Sea to the Ross Sea, about 1,700 statute miles. This will be the biggest journey of the kind ever attempted. New ground would be struck, and the geographical and other scientific results should be of the greatest value. The equipment will include two sledges driven by aeroplane propellers and an aeroplane with clipped wings to travel over the ice.(Wrexham Advertiser, 03.01.1914)

Gan Ein Gohebydd yn Llundain

Alltaith Syr E. ShackletonEglura Syr Ernest Shackleton mewn perthynas â’i alltaith Trawsantartig Imperial y caiff dwy o longau tanwydd olew eu defnyddio gyda chyfanswm o ddeugain a dau o deithwyr. Byddant yn gadael Buenos Aires fis Hydref nesaf. Bydd parti o ddeuddeg yn ymdrechu i groesi cyfandir Pegwn y De o Fôr Weddell i Fôr Ross, oddeutu 1,700 milltir statudol. Hon fydd y daith hiraf o’i bath i gael ei hymdrechu erioed. Byddai’n braenaru tir newydd, a dylai’r canlyniadau daearyddol a chanlyniadau gwyddonol eraill fod o’r gwerth mwyaf. Bydd y cyfarpar yn cynnwys dau gar llusg wedi’u gyrru gan sgriwiau gyrru awyren ac awyren gydag adenydd cwta i deithio dros y rhew.(Wrexham Advertiser, 03.01.1914)

THE OBSERVER ABROAD

The Caergwrle Bowl, which was presented to the National Museum of Wales by Sir Foster Cunliffe, Bart., of Acton Park, Wrexham, has now been received at Cardiff, having been restored by an expert. The bowl came to the Museum Authorities through the good offices of the Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire, and when the King laid the foundation stone of the Museum he referred to the donation. The specimen is a beautiful oval cup or bowl of black oak* overlaid with gold leaf in finely tooled bands. It was found about the year 1820 during drainage work in a boggy field near Caergwrle Castle, and purchased from the workmen by the late Rev. George (afterwards Canon) Cunliffe of Wrexham. (Wrexham Advertiser, 28.03.1914)

(* The Editor has been reliably informed by Prof. Newstead of the Grosvenor Museum, Chester, that the bowl is made from shale.)

YR ARSYLLYDD TRAMOR

Mae Powlen Caergwrle, a gyflwynwyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan Syr Foster Cunliffe, Bart., Parc Acton, Wrecsam, wedi cael ei derbyn yng Nghaerdydd bellach, ar ôl cael ei hadfer gan arbenigwr. Daeth y bowlen i law’r Awdurdodau Amgueddfa drwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru a Sir Fynwy, a phan osododd y Brenin garreg sylfaen yr Amgueddfa, cyfeiriodd at y rhodd. Y mae’r sbesimen yn gwpan neu’n bowlen hirgrwn hardd o dderw du* a orchuddiwyd â dalen aur mewn bandiau o fân rigolau. Daethpwyd o hyd iddi ym 1820 yn ystod gwaith draenio mewn cae corslyd ger Castell Caergwrle, a’i phrynu gan y gweithwyr gan y diweddar Barchedig George (Canon yn ddiweddarach) Cunliffe Wrecsam. (Wrexham Advertiser, 28.03.1914)

(* Mae’r Golygydd wedi derbyn gwybodaeth ddibynadwy gan yr Athro Newstead, Amgueddfa Grosvenor, Caer, bod y bowlen o wneuthuriad siâl.)

Caergwrle bowl, following its recent restoration (© National Museum of Wales)

Powlen Caergwrle, yn dilyn ei adferiad yn ddiweddar (© Amgueddfa Genedlaethol Cymru)

District NewsHolt

Huge lorry loads of spring cabbages are this week being sent to the Railway Station at Broxton, and thence to Liverpool and Manchester. Many hands are already employed in cutting and packing.(Wrexham Advertiser, 24.01.1914)

CefnThere were great rejoicings at Messrs Graesser’s Chemical Works and in the district generally when the news was received on Tuesday that a son and heir had been born to Mr Norman Graesser at Edinburgh. The news was welcomed at the works with the discharge of detonators and the blowing of hooters. Mr Norman Graesser is extremely popular with employees.(Wrexham Advertiser, 07.02.1914)

Rabbit Coursing in Johnstown

There was a large number of spectators at the rabbit coursing match at Moreton. The match, between Nell (Wrexham) and Mona (Rhos) was for the best of 21 courses. The dogs finished at 11 to 4, the winner being Mona. The stakes were £20 a side.(Wrexham Advertiser, 28.02.1914)

RossettTHE CUCKOO — The welcome harbinger of Spring has been heard in this neighbourhood several times within the past week.(Wrexham Advertiser, 25.04.1914)

Holt

Mae lloriau gyda llwythi enfawr o fresych y gwanwyn yn cael eu hanfon yr wythnos hon i’r Orsaf Drenau yn Broxton, ac oddi yno i Lerpwl a Manceinion. Cyflogir sawl pâr o ddwylo eisoes i dorri a phacio.(Wrexham Advertiser, 24.01.1914)

CefnBu llawenychu mawr yng Ngwaith Cemegol y Meistri Graesser ac yn y cylch yn gyffredinol pan dderbyniwyd y newyddion ddydd Mawrth ynglŷn â genedigaeth mab ac etifedd i Mr Norman Graesser yng Nghaeredin. Croesawyd y newyddion yn y gwaith drwy danio ffrwydron a chanu cyrn. Mae Mr Norman Graesser yn hynod boblogaidd gyda gweithwyr.(Wrexham Advertiser, 07.02.1914)

Ymlid Cwningod yn Johnstown

Roedd nifer fawr o wylwyr yn y gystadleuaeth ymlid cwningod yn Moreton. Roedd y gystadleuaeth, rhwng Nell (Wrecsam) a Mona (Rhos) am y gorau o 21 cwrs. Gorffennodd y cŵn ar 11 i 4, gyda Mona yn enillydd. Yr arian a chwaraewyd amdano oedd £20 bob ochr.(Wrexham Advertiser, 1914/02/28)

Yr OrseddY GWCW – Y mae rhagredegydd hoff y Gwanwyn wedi cael ei chlywed yn y gymdogaeth hon ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos ddiwethaf.(Wrexham Advertiser, 25.04.1914)

Great Fire at Coedpoeth

Railway Station Completely Gutted

An outbreak of fire took place at Coedpoeth Passenger G.W. Railway station early on Saturday morning last, when the booking hall, waiting room, &c., were completely gutted, and considerable damage was the result.

An eye witness told our representative that shortly after 3:30 in the morning he was aroused from his slumbers by crackling sounds, and on looking through his bedroom window he saw the station was one mass of smoke. At once he gave the alarm, and called out the Coedpoeth Fire Brigade, who were quickly on the scene, and through their efforts and those of other willing workers, an adjoining signal box was kept intact, whilst several valuable things were got from the booking hall at considerable risk to the rescuers. In a very short time the buildings were completely gutted, so it is assumed that when the outbreak was first noticed the fire must have had considerable hold on the building.

The Wrexham Fire Brigade received a call to attend the fire at 4 a.m. but they did not turn out, we are authoritatively informed because they had no horses.

The cause of the fire is not definitely known, but it is supposed to be the work of an incendiary. On examining the coaches stabled near the station a number of matches were found in two compartments, the doors of which had been opened. The cushions were singed. The discovery was made by Inspector Jones of the Great Western Railway.(North Wales Guardian, 26.06.1914)

Tân Mawr yng Nghoed-poeth

Gorsaf Drenau wedi Llosgi’n Ulw

Cafwyd achos o dân yng ngorsaf Deithwyr Rheilffordd G.W. yng Nghoed-poeth yn gynnar fore Sadwrn diwethaf, pan losgwyd y neuadd archebu, ystafell aros, ac ati , yn ulw, ac achoswyd difrod sylweddol o ganlyniad i hyn.

Dywedodd llygad dyst wrth gynrychiolydd ei fod wedi deffro o’i gwsg yn fuan ar ôl 3:30 yn y bore gan synau clecian, a phan edrychodd drwy ffenestr ei ystafell wely gwelodd fod yr orsaf wedi ei gorchuddio dan fwg. Tynnodd sylw at hyn ar unwaith, gan alw ar Frigâd Dân Coed-poeth, a oedd yn y fan a’r lle’n gyflym iawn, a thrwy eu hymdrechion a rhai gweithwyr parod eraill, achubwyd y blwch signalau cyfagos, a llwyddwyd i achub nifer o bethau gwerthfawr o’r neuadd archebu er perygl sylweddol i’r achubwyr. Mewn cyfnod byr iawn llosgwyd yr adeiladau’n ulw, felly tybir fod y tân wedi cael gafael sylweddol ar yr adeilad pan sylwyd yn gyntaf ar y digwyddiad.

Derbyniodd Brigâd Dân Wrecsam alwad i roi sylw i’r tân am 4:00 a.m. ond yr ydym wedi derbyn gwybodaeth bendant na wnaethant ymateb i’r alwad, am nad oedd ganddynt geffylau.

Nid ydym yn gwybod yn bendant beth oedd achos y tân, ond tybir i’r tân gael ei ddechrau yn fwriadol. Pan archwiliwyd y cerbydau a gadwyd ger yr orsaf daethpwyd ar draws nifer o fatsis mewn dwy o adrannau cerbyd, a oedd â’u drysau ar agor. Yr oedd y clustogau wedi’u harwyddo. Gwnaed y darganfyddiad gan yr Arolygydd Jones o Reilffordd y Great Western.(North Wales Guardian, 26.06.1914)

Members of the Borough of Wrexham Fire Brigade, outside the Fire Station, Chester Street, Wrexham (© Denbighshire Archives, PPD 101/266)

Aelodau Brigâd Dân Bwrdeistref Wrecsam, tu allan i’r Orsaf Dân, Stryt Caer, Wrecsam (© Archifdy Sir Ddinbych, PPD 101/266)

THE OBSERVER ABROAD

German bandDuring the past few days Wrexham – and probably the surrounding localities have shared its good fate – has been visited by a real German Band. There was no mistaking it but the playing was not up to standard one expects from the Fatherland of Beethoven. There were two violins and a double bass, and they were playing the tune which is usually associated with the hymn commencing ‘All Hail the Power’. It is perhaps putting it mildly to say that their devotion was greater than their executive ability, for while the violins did fairly well, the double bass was anything but orthodox and wobbled about in a reckless way.

Page 3: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

But why I refer to the presence of this little band which may have come over as a counterblast to the Royal visit to Paris, is to point out that since they have been here, the weather has had a little jolt. The almost summer temperature has fallen somewhat, and clouds have drifted across the sky in a rather ominous fashion. An old friend of mine used to declare that these German bands were not so much musicians as spies, who while they played, drew plans (on the drum heads) of the country roads, so that upon ‘That Day’, German guns would find a way where German bands had passed. If the German gunners cannot shoot any better than the German banders can play, the risk is small. (Wrexham Advertiser, 02.05.1914)

YR ARSYLLYDD TRAMOR

Band AlmaenaiddYn ystod y dyddiau diwethaf y mae Wrecsam - ac y mae’n debyg fod yr ardaloedd cyfagos wedi rhannu’r un ffawd - wedi derbyn ymweliad gan Fand Almaenaidd gwirioneddol. Nid oedd modd ei gamgymryd ond nid oedd y chwarae yn cyrraedd y safon y byddech yn ei disgwyl o Famwlad Beethoven. Roedd dwy ffidil a bas dwbl, ac yr oeddent yn chwarae’r alaw a gysylltir fel arfer gyda’r emyn sy’n dechrau gyda’r llinell ‘All Hail the Power’. Teg efallai yw nodi, a dweud y lleiaf fod eu hymroddiad yn fwy nac eu gallu ymarferol, ac er i chwaraewyr y ffidil wneud yn gymharol dda, yr oedd y bas dwbl yn unrhyw beth ond confensiynol ac yn siglo o gwmpas mewn modd di-hid.

Ond pam wyf yn cyfeirio at bresenoldeb y band bach hwn a allai fod wedi dod drosodd fel gwrthdaraniad i’r ymweliad Brenhinol â Pharis, yw nodi bod y tywydd wedi cael ychydig o ysgytwad ers iddynt gyrraedd. Mae’r tymheredd a fu bron yn hafaidd wedi gostwng rhywfaint, a chymylau wedi crwydro ar draws yr awyr mewn modd braidd yn fygythiol. Dywedai hen gyfaill i mi fod y bandiau Almaenaidd hyn yn fwy o ysbiwyr nag o gerddorion, ac wrth iddynt chwarae, roeddent yn creu cynlluniau (ar bennau drymiau) o ffyrdd gwledig, fel y gallai’r gynnau Almaenaidd ganfod y ffordd a ddefnyddiwyd gan y bandiau Almaenaidd ar y ‘Diwrnod hwnnw’. Os na all y saethwyr Almaenaidd saethu’n well nag y gall aelodau’r bandiau Almaenaidd chwarae, mae’r perygl yn fychan. (Wrexham Advertiser, 02.05.1914)

DISTRICT NEWS

Gwersyllt - Unprecedented

enthusiasmUnprecedented scenes of enthusiasm were witnessed in Gwersyllt on Thursday evening when the local football team brought home their fourth trophy of the season viz the Denbighshire and Flintshire Charity Cup. The team drove home from Wrexham and were met at Willow Lee by a cheering crowd and by the Rhosddu Band. They marched, displaying all their trophies, through the village amid great enthusiasm and were afterwards hospitably entertained by some of the residents. Several congratulatory speeches were delivered which were acknowledged by Mr K. Davies (captain) and Mr H. Tilston (chairman). Mr J.T. Hughes, the scorer of the winning goal, was carried shoulder high. (Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

NEWYDDION BRO

Gwersyllt - Brwdfrydedd na welwyd mo’i debyg

Profwyd golygfeydd o frwdfrydedd na welwyd mo’u tebyg yng Ngwersyllt nos Iau pan ddychwelodd y tîm pêl-droed lleol gartref â’u pedwerydd tlws o’r tymor sef Cwpan Elusennol Siroedd Dinbych a’r Fflint. Gyrrodd y tîm gartref o Wrecsam a daeth torf i’w cwrdd yn Willow Lee yn bloeddio mewn gorfoledd ac yr oedd Band Rhosddu hefyd yno. Gorymdeithiont, gan arddangos eu holl dlysau, drwy’r pentref yng nghanol brwdfrydedd mawr ac wedyn cawsant eu diddanu’n lletygar gan rai o’r trigolion. Traddodwyd nifer o areithiau llongyfarch a gafodd eu cydnabod gan Mr K. Davies (capten) a Mr H. Tilston (Cadeirydd). Cludwyd Mr J.T. Hughes, sgoriwr y gôl fuddugol, ar gefn ysgwyddau rhai o’r cefnogwyr. (Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

SAD FATALITY AT WESTMINSTER

COLLIERY

The InquestMr Llewelyn Kenrick, the East Denbighshire Coroner, held an inquiry at Summerhill on Thursday afternoon into the circumstances connected with the death of Thomas Davies, Summerhill, who met with a fatal accident at the Westminster Colliery.

John Roberts, charter master, said that the deceased worked for him as a filler. They were working in the Powell seam on Tuesday morning. About 7.30 they fired a shot for the purpose of ripping the roof. When the shot went off the deceased stood about fifty or sixty yards away. The fireman again examined the place and he reported it to be safe. He (witness) went down to ‘dress’ the bad roof down before anybody started work there. He ‘filled’ there himself for about an hour before the deceased started filling. The shot had brought some stuff down and while the deceased was filling, the fall was disturbed and a stone rolled down and knocked away the prop. Another large stone was then dislodged and it fell on the deceased.

Joseph Henry Jones, fireman, said that he examined the place twice that day before the accident occurred. After the shot was fired he gave the necessary instructions to John Roberts and they were carried out, and the place appeared to be quite safe. If the stone had not rolled down and knocked the prop away, the accident would not have occurred.

The jury returned a verdict of “accidental death”.

Mr Percy Harrop, on behalf of the colliery proprietors, moved a vote of condolence with the relatives, and the jury associated themselves with it.

The deceased was only 21 years of age and was a son of Mr Henry James Davies. He was married about five weeks ago and much sympathy is felt with the young widow.(Wrexham Advertiser, 23.05.1914)

MARWOLAETH DRIST YNG NGLOFA

WESTMINSTER

Y CwestCynhaliodd Mr Llewelyn Kenrick, Crwner Dwyrain Sir Ddinbych, ymchwiliad ym Mrynhyfryd brynhawn dydd Iau i’r amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â marwolaeth Thomas Davies, Brynhyfryd, a ddioddefodd ddamwain angheuol yng Nglofa Westminster.

Dywedodd John Roberts, y meistr siarter, bod yr ymadawedig yn gweithio iddo fel llenwr. Yr oeddent yn gweithio yng ngwythïen Powell fore Mawrth. Am oddeutu 7.30 taniwyd ergyd at y diben o rwygo’r to. Pan daniwyd yr ergyd safai’r ymadawedig oddeutu hanner cant neu drigain llath i ffwrdd. Archwiliodd y dyn tân y lle unwaith yn rhagor ac adroddodd ei fod yn ddiogel. Aeth ef (y tyst) i lawr i ‘drin’ y to diffygiol cyn i unrhyw un ddechrau gweithio yno. ‘Llenwodd’ yno ei hun am tuag awr cyn i’r ymadawedig ddechrau llenwi. Yr oedd yr ergyd wedi tynnu rhywfaint o ddeunydd i lawr ac wrth i’r ymadawedig lenwi, tarfwyd ar y cwymp a rholiodd carreg i lawr gan fwrw’r postyn ymaith. Daeth carreg fawr arall yn rhydd gan syrthiodd ar yr ymadawedig.

Dywedodd Joseph Henry Jones, y dyn tân, iddo archwilio’r lle ddwywaith y diwrnod cyn y ddamwain. Wedi i’r ergyd gael ei thanio, rhoddodd y cyfarwyddiadau angenrheidiol i John Roberts a chawsant eu gweithredu, ac ymddangosai fod y lle’n eithaf diogel. Pe na bai’r garreg wedi rholio i lawr a tharo’r postyn o’r neilltu, ni fyddai’r ddamwain wedi digwydd.

Rhoddodd y rheithgor reithfarn o “farwolaeth ddamweiniol”.

Cyflwynodd Mr Percy Harrop, ar ran perchnogion y lofa, bleidlais o gydymdeimlad gyda’r perthnasau, a dymunai’r rheithgor ymgysylltu eu hunain â hyn.

Dim ond 21 mlwydd oed oedd yr ymadawedig ac yr oedd yn fab i Mr Henry James Davies. Priododd oddeutu pum wythnos yn gynharach a theimlir cydymdeimlad mawr gyda’r weddw ifanc.(Wrexham Advertiser, 23.05.1914)

Westminster Colliery, Moss Valley (90.74.6)

Pwll Glo Westminster, Dyffryn Moss (90.74.6)

Westminster Gwersyllt ‘B’ and Wrexham & Acton ‘B’ rescue team, outside the Mines Rescue Station, Maesgwyn Road, Wrexham (632/2)

Tîm Achub San Steffan Gwersyllt ‘B’ a Wrecsam ac Acton ‘B’, tu allan i Orsaf Achub y Mwyngloddiau, Ffordd Maesgwyn, Wrecsam (632/2)

DISTRICT NEWS

Holt & FarndonRAIN AT LAST — At 8 o’clock on Sunday night the long expected rain fell for a considerable time. Fruit and vegetable growers welcomed it with delight after many days’ continued drought. The clayey land had become hard, and grass for the cattle had not grown to its usual height for the first week in May. All the rain tubs had been exhausted. By Monday all this was changed, and the land presents a most refreshing hue.(Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

CefnTHE LATE MISS BEATRICE TAYLOR — A memorial service to the late Miss Beatrice Taylor, Australian Arms, was held at the Trevor Mission on Sunday night. The deceased was a very clever young musician, having passed several examinations in pianoforte playing. Deep and general sympathy is felt with the parents.(Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

CaergwrleCOLLIERY OPERATIONS — Preparations are now being made for the opening up of the proposed new colliery at Llay. A new branch railway is about to be constructed connecting the colliery with the G.C. Railway between Caergwrle Castle and Cefnybedd stations.(Wrexham Advertiser, 30.05.1914)

RhosCAMPING OUT — The old tram car bought by a local man for camping out purposes has been duly installed on a favourable spot on the mountain side. This novel residence is attracting considerable attention.(Wrexham Advertiser, 30.05.1914)

NEWYDDION BRO

Holt a FarndonGLAW O’R DIWEDD - Am 8 o’r gloch nos Sul syrthiodd y glaw hirddisgwyliedig am gryn amser. Croesawyd hyn gyda llawenydd gan dyfwyr ffrwythau a llysiau ar ôl llawer diwrnod o sychder parhaus. Aeth y tir cleiog yn galed, ac ni thyfodd y gwair ar gyfer y gwartheg i’w uchder arferol ar gyfer yr wythnos gyntaf ym mis Mai. Yr oedd pob un o’r tybiau glaw wedi eu gwacau. Erbyn dydd Llun yr oedd y cyfan wedi newid, ac y mae lliw braf i’r tir.(Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

CefnY DIWEDDAR MISS BEATRICE TAYLOR – Cynhaliwyd gwasanaeth coffa i’r diweddar Miss Beatrice Taylor, Australian Arms, yn y Trevor Mission nos Sul. Yr oedd yr ymadawedig yn gerddor ifanc clyfar iawn, ac wedi llwyddo mewn sawl arholiad mewn chwarae’r piano. Teimlir cydymdeimlad dwys a chyffredinol gyda’r rhieni.(Wrexham Advertiser, 09.05.1914)

CaergwrleGWEITHREDIADAU GLOFA - Mae paratoadau bellach yn cael eu gwneud ar gyfer agor y pwll glo newydd arfaethedig yn Llai. Y mae rheilffordd gangen newydd ar fin cael ei hadeiladu yn cysylltu’r lofa gyda Rheilffordd G.C. rhwng gorsafoedd Castell Caergwrle a Chefnybedd. (Wrexham Advertiser, 30.05.1924)

Page 4: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

RhosGWERSYLLA TU ALLAN – Y mae’r hen gerbyd tram a brynwyd gan ddyn lleol at ddibenion gwersylla wedi cael ei osod yn briodol mewn llecyn ffafriol ar lethrau’r mynydd. Y mae’r breswylfa newydd yn denu cryn dipyn o sylw.(Wrexham Advertiser, 30.05.1914)

An Unwhipped Generation

Famous Physician’s Lament

Sir Dyke Duckworth, the famous physician, stated at a London meeting of the Church Army that parental authority is very much at a discount today. When the cane was removed from the schools they took away Solomon’s rod, which was meant to punish wickedness, naughty boys and naughty girls too. In the absence of that we are surrounded by an unwhipped generation which for the want of proper correction has become full of self sufficiency. We do not rebuke wickedness and vice when we see it, and one sees bad manners and want of respect in young people of all ranks. There is no real respect or reverence for anything. We want to see Christian teaching in all our schools, and we can get it if we were to have courage in our opinions and simply tell any government that we insist upon it.(Wrexham Advertiser, 20.06.1914)

Cenhedlaeth Nas Chwipiwyd

Galargan Ffisegydd EnwogDywedodd y ffisegydd enwog Syr Dyke Duckworth, mewn cyfarfod o Fyddin yr Eglwys yn Llundain fod awdurdod rhieni wedi’i ostwng yn fawr iawn heddiw. Pan aethpwyd â’r gansen o’r ysgolion aethpwyd ymaith â gwialen Solomon, a oedd â’r bwriad o gosbi drygioni, bechgyn drwg a merched drwg hefyd. Yn ei habsenoldeb yr ydym wedi cael ein hamgylchynu â chenhedlaeth nas chwipiwyd, ble y daeth y diffyg cywiriad priodol yn llawn hunangynhaliaeth. Nid ydym yn ceryddu drygioni a phechod pan y’i gwelwn, ac y mae dyn yn tystio i foesau gwael a diffyg parch ymhlith pobl ifanc o bob rheng. Ni ddangosir unrhyw wir barch na pharchedig ofn tuag at unrhyw beth. Carem weld dysgeidiaeth Gristnogol ym mhob un o’n ysgolion, a gallem gyflawni hyn drwy fod yn ddewr ein barn a dweud wrth unrhyw lywodraeth ein bod yn mynnu hyn.(Wrexham Advertiser, 20.06.1914)

THE OBSERVER ABROAD

There was further proof this week of the need to equip the Wrexham Fire Brigade Station with a motor engine. On Wednesday morning, the brigade was notified of a fire which had broken out at Bangor Isycoed. The men were not able to respond to the call for some time as the horses were not forthcoming. When the animals were eventually brought to the station, the crowd which had gathered raised an ironical cheer. But I noticed it was not taken up with anything like enthusiasm. The majority of people assembled there realised that much might be at stake. Some, however, were blind to that. The situation evidently struck them as being remarkably funny. (Wrexham Advertiser, 18.07.1914)

YR ARSYLLYDD TRAMOR

Cafwyd prawf pellach yr wythnos hon o’r angen i sicrhau bod gan Orsaf Brigâd Dân Wrecsam injan fodur. Fore dydd Mercher, hysbyswyd y frigâd ynglŷn â thân a oedd wedi cynnau ym Mangor Is-coed. Ni allai’r dynion ymateb i’r alwad am beth amser gan nad oedd y ceffylau gerllaw. Pan yn y pen draw y llwyddwyd i ddod â’r anifeiliaid i’r orsaf, cafwyd bloedd eironig gan y dorf a oedd wedi ymgasglu. Ond sylwais na ymunwyd yn hyn gyda brwdfrydedd mawr. Sylweddolai mwyafrif y bobl hynny a oedd wedi ymgynnull yno y gallai llawer fod yn y fantol. Yr oedd rhai, fodd bynnag, yn ddall i hynny. Yr oedd yn amlwg fod y sefyllfa yn eu taro yn un hynod o ddoniol. (Wrexham Advertiser, 18.07.1914)

An example of the new motorized fire engines that the Borough Corporation is considering purchasing for the Fire Brigade. (© Denbighshire Archives, DD/G/2270)

Esiampl o injan dân modur newydd y mae Corfforaeth y Fwrdeistref yn ystyried eu prynu ar gyfer y Frigâd Dân. (© Archifdy Sir Ddinbych, DD/G/2270)

STOP PRESS

Two Rhos Residents Arrested As Spies

The Rev. W. Williams, Freemount, Iowa, U.S.A., a Baptist minister and a native of Rhos, and Mr. T.E. Charles, Pentredwr, were the victims of an amazing mistake. They were taken to be foreigners. It appears that when they were standing in Wrexham Station on Wednesday week, a number of soldiers approached them and told them they were wanted. They were taken to the County Buildings, where they were questioned. Their examination was very brief and they were soon allowed to go.(Wrexham Advertiser, 22.08.1914)

STOPIWCH Y WASG

Dau o Drigolion Rhos yn cael eu Harestio Fel

YsbiwyrDioddefodd y Parch W. Williams, Freemount, Iowa, UDA, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a brodor o’r Rhos, a Mr T.E. Charles, Pentredwr, yn sgil camgymeriad anhygoel. Fe’u cymerwyd i fod yn dramorwyr. Ymddengys fod nifer o filwyr wedi dod atynt ddydd Mercher yr wythnos diwethaf pan yr oeddynt yn sefyll yng Ngorsaf Wrecsam a dweud wrthynt eu bod yn eisiau. Aethpwyd â nhw i Adeiladau’r Sir, lle y cawsant eu holi. Yr oedd eu harchwiliad yn fyr iawn a chawsant eu caniatáu i fynd yn fuan.(Wrexham Advertiser, 22.08.1914)

DISTRICT NEWS

Holt & FarndonHAY AND FRUIT HARVESTS — This year these occur simultaneously, and the mowers are already employed in the large fields and extensive meadows near the river Dee. The season is now in full swing and all the pickers are now employed. The growers and the pickers say that in a fortnight’s time the general gathering of the fruit will be over.

LADY ARTHUR GROSVENOR AND THE PICKERS — On Thursday evening of last week, her ladyship drove down in her motor-car and brought for the fruit pickers a large parcel of different kinds of periodicals. Needless to say, the pickers scanned them most eagerly, and felt thankful to Lady Grosvenor for her thoughtfulness and kindness. Only a few seem unable to read through weakness of sight or lack of early education. (Wrexham Advertiser, 04.07.1914)

Strawberry pickers are known locally as ‘dodgers’

Casglwyr mefus a elwid yn ‘osgowyr’ yn lleol

Telephone deafness The Postmaster General was asked ‘whether his attention has been called to the fact that the new instrument used for the telephone is causing ear trouble and whether he will immediately take advice from leading aural authorities as to its effects.’ In reply the P.G. said ‘In the more modern telephone exchange systems stronger electric currents are used than formerly in order to obtain quicker communication and clearer speech. The drawback to these systems is that if the receiver is kept close to the ear at the moment when the current is turned on or off the resulting click of the diaphragm is disagreeable. Subscribers soon learn, however, not to put the receiver close to the ear while communication is being established or broken. It was at present too early to be able to make a definite attribution to ear trouble to the “howler” (the name given to the new instrument).’ (Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

Byddardod Ffôn Holwyd y Postfeistr Cyffredinol ‘a dynnwyd ei sylw at y ffaith fod yr offeryn newydd a ddefnyddir ar gyfer y teleffon yn achosi trafferth i’r glust ac a fydd yn cymryd cyngor ar unwaith gan awdurdodau blaenllaw ar y glust mewn perthynas â’i effeithiau.’ Wrth ymateb dywedodd y Postfeistr Cyffredinol ‘Defnyddir cerrynt cryfach yn y systemau cyfnewidfa teleffon mwy modern nag a ddefnyddiwyd yn flaenorol er mwyn sicrhau cyfathrebu cyflymach a lleferydd cliriach. Anfantais y systemau hyn yw bod glicied y diaffram yn annymunol os cedwir y derbynnydd yn agos at y glust pan fydd y cerrynt yn cael ei gynnau neu ei ddiffodd. Bydd tanysgrifwyr yn dysgu’n fuan, fodd bynnag, i beidio â rhoi’r derbynnydd yn agos at y glust wrth sefydlu cysylltiad neu ei dorri. Yr oedd ar hyn o bryd yn rhy gynnar i allu priodoli’r trafferthion clust yn bendant i’r “Howler” (yr enw a roddir i’r offeryn newydd).’ (Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

LEGAL AND PUBLIC NOTICES

WREXHAM GARDEN VILLAGE

THE DIRECTORS of the WREXHAM GARDEN VILLAGE have pleasure in announcing that arrangements have been made to completely Furnish Four Homes at the Garden Village. The Model Houses are now open daily for inspection by the Public, and will remain so until Saturday, the 15th Day of AUGUST.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

HYSBYSIADAU CYFREITHIOL A CHYHOEDDUS

PENTREF GERDDI WRECSAMY mae’n bleser gan GYFARWYDDWYR PENTREF GERDDI WRECSAM gyhoeddi bod trefniadau wedi eu gwneud i Ddodrefnu Pedwar Cartref yn gyfan gwbl yn y Pentref Gerddi. Mae’r Tai Model bellach ar agor bob dydd i’w harchwilio gan y cyhoedd, a byddant yn parhau ar agor hyd nes dydd Sadwrn, y 15fed diwrnod o AWST.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

Ffordd Estyn, Garden Village, Wrexham (286)

Ffordd Estyn, Garden Village, Wrecsam (286)

ENTERTAINMENTS & MEETINGS

Mr E.H. BOSTOCKBritain’s Greatest Entrepreneur, Proprietor of

Bostocks & Wombwell’s Menagerie and Continental Circuses

THE ROYALITALIAN CIRCUS

Which he has recently acquired

WILL VISITRACECOURSE, WREXHAM

TUESDAY, JULY 28th

200 PERFORMING ANIMALSThe Greatest Assemblage of Trained Animals

in the Universe

THE ONE AND ONLY CIRCUS OF ITSKIND IN THE WORLD

WONDERFUL PERFORMING ELEPHANTS, ZEBRAS, PONIES

EDUCATED DOGS, GOATS, BEARS, ETC.

SEA LIONS AND SEALS

PERFORMANCES AT 3 and 8Admission, 6d, 1s, 2s and 3s

(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

Page 5: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

ADLONIANT A CHYFARFODYDD

Mr E.H. BOSTOCKEntrepreneur Gorau Prydain, PerchennogBostocks & Wombwell’s Menagerie and

Continental Circuses

THE ROYALITALIAN CIRCUS

Y gwnaeth ei gaffael yn ddiweddar

YN YMWELD ÂY CAE RAS, WRECSAM

DYDD MAWRTH 28 GORFFENNAF

200 O ANIFEILIAID PERFFORMIOYr Ymgynulliad Mwyaf o Anifeiliaid a

Hyfforddwydyn y Bydysawd

YR UNIG SYRCAS O’I BATHYN Y BYD

PERFFORMIADAU GWYCH ELIFFANTOD, SEBRAS, MERLOD

CŴN ADDYSGEDIG, GEIFR, EIRTH, AC ATI

MORLEWOD A MORLOI

PERFFORMIADAU AM 3 AC AM 8Pris Mynediad, 6d, 1s, 2s a 3s

(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

LABOUR DISPUTE AT JOHNSTOWN

MESSRS ASTON’S FURNITURE

WORKS IDLEA serious labour dispute has arisen at the Furniture Works of the Aston Manufacturing Co. at the Aberderfyn Works, Johnstown, as of which over 30 workmen are out on strike and the works are practically at a standstill.

The strike began among the cabinet makers on Tuesday. The men are claiming an advance in wages to 9d per hour and 50 hours per week, which they assert is the standard rate.

A number of the pickets were in Wrexham parading Regent-street on Thursday and one of the men’s officials declared that not only the cabinet makers, but the polishers and labourers had all come out, the only persons employed at the works being four foremen and two lady polishers.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

ANGHYDFOD LLAFUR YN JOHNSTOWN

GWAITH DODREFN Y MEISTRI ASTON

YN SEGURMae anghydfod llafur difrifol wedi codi yng Ngwaith Dodrefn Aston Manufacturing Co. yng Ngwaith Aberderfyn, Johnstown, lle y mae mwy na 30 o weithwyr ar streic ac y mae’r gwaith wedi dod i stop i bob pwrpas.

Dechreuodd y streic ymhlith y gwneuthurwyr cabinet ddydd Mawrth. Y mae’r dynion yn hawlio cyflog ymlaen llaw ar gyfradd o 9d yr awr am 50 awr yr wythnos, yr hyn y maent yn honni yw’r gyfradd safonol.

Yr oedd nifer o’r picedwyr yn Wrecsam yn gorymdeithio ar hyd Stryt y Rhaglaw ddydd Iau a datganodd un o swyddogion y dynion nad gwneuthurwyr cypyrddau yn unig oedd yn gorymdeithio, ond cabolwyr a llafurwyr hefyd, ac mai’r unig bobl a gyflogir yn y gwaith yw pedwar fforman a dwy gabolwraig.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

Regent Street, looking towards Bryn y Ffynnon, Wrexham (90.28.225)

Stryt y Rhaglaw, gan edrych tuag at Bryn y Ffynnon, Wrecsam (90.28.225)

Regent Street, looking towards County Buildings and the Imperial Hotel (90.28.201)

Stryt y Rhaglaw, gan edrych tuag at Adeiladau’r Sir a Gwesty’r Imperial (90.28.201)

The Enemy in Our Midst

Arrests in Wrexham and District

The wholesale arrests of German and Austrian subjects in all parts of the country, on Wednesday, made it clear that the authorities now intend interning all male alien enemies of military age and residing in this country, as prisoners during the period of the war.

In common with other places, the police of Denbighshire effectively and quietly made arrests on Wednesday, and completed their work on Thursday, when sixteen Germans were detained at the County Buildings, Wrexham, pending their removal to a detention camp. They were arrested in the districts of Llangollen, Brymbo, Llay, Ruabon and Wrexham and those arrested include drapers’ assistants, men of the merchant service and navy, mechanics, waiters and a merchant’s clerk.

Included in the arrests made by the Llangollen police were several Germans who have for some time been on a visit to the vale of Llangollen.(North Wales Guardian, 25.10.1914)

Y Gelyn yn ein Plith

Arestiadau yn Wrecsam a’r Cylch

Dangosodd yr arestiadau cyffredinol o ddinasyddion Almaenaidd ac Awstraidd ym mhob rhan o’r wlad, ddydd Mercher, yn glir bod yr awdurdodau bellach yn bwriadu caethiwo pob

gelyn estron gwrywaidd o oedran milwrol sydd yn byw yn y wlad hon, fel carcharorion yn ystod y cyfnod y rhyfel. Yn yr un modd â lleoedd eraill, gwnaeth heddlu Sir Ddinbych arestiadau effeithiol a thawel ddydd Mercher, a chwblhau eu gwaith ddydd Iau, pan gadwyd un Almaenwr ar bymtheg yn Adeiladau’r Sir, Wrecsam, cyn iddynt gael eu symud i wersyll cadw. Cawsant eu harestio yn ardaloedd Llangollen, Brymbo, Llai, Rhiwabon a Wrecsam ac yr oedd y rhai a arestiwyd yn cynnwys cymhorthwyr siopau ddillad, dynion o’r gwasanaeth a’r llynges fasnachol, peirianwyr, gweinyddion a chlerc masnachwr.Yr oedd yr arestiadau a wnaed gan yr heddlu yn Llangollen yn cynnwys nifer o Almaenwyr sydd ers peth amser wedi bod ar ymweliad â Dyffryn Llangollen.(North Wales Guardian, 25.10.1914)

The aliens were detained in the cells at Wrexham Police Station, County Buildings, Regent Street (© Denbighshire Archives, DD/G/2457)

Cadwyd yr estroniaid mewn celloedd yng Ngorsaf Heddlu Wrecsam, Adeiladau’r Sir, Stryt y Rhaglaw (© Archifdy Sir Ddinbych, DD/G/2457)

FROM OUR LONDON CORRESPONDENT

MILITANT WITH A CHOPPERSENTENCE FOR NATIONAL

PORTRAITGALLERY OUTRAGE

Ann Hunt, 31, was found “Guilty” at the London Sessions on Tuesday of maliciously damaging Sir John Millais’s picture of Thomas Carlyle in the National Portrait Gallery with a chopper.

The prisoner did her best to interrupt the proceedings and said —”I refuse to acknowledge the right of this Court to try me”. The Court, however, proceeded with the trial, and she went on to complain of forcible feeding in Holloway.

When she was found guilty Hunt added “The picture will have an added value because it has been honoured with the attention of a militant.”

It was said that her real name was Margaret Gibbs and that she had been previously convicted at Wimbledon. She was sentenced to six months’ imprisonment.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

GAN EIN GOHEBYDD YN LLUNDAIN

YMGYRCHYDD MILWRIAETHUS GYDA

BWYELLDEDFRYD AR GYFER DICLLONEDD YN YR ORIEL BORTREADAU

GENEDLAETHOLCafwyd Ann Hunt, 31, yn “Euog” yn Llys Sesiynau Llundain ddydd Mawrth o beri niwed maleisus i lun Syr John Millais o Thomas Carlyle yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol gyda bwyell.

Gwnaeth y garcharorwraig ei gorau glas i darfu ar yr achos a dywedodd – “Yr wyf yn gwrthod cydnabod hawl y Llys hwn i gynnal achos yn fy erbyn”. Bwriodd y Llys, fodd bynnag, yn eu blaen â’r achos, ac aeth yn ei blaen i gwyno ynglŷn â bwydo drwy rym yn Holloway.

Pan y’i cafwyd hi yn euog ychwanegodd Hunt “Bydd yn rhoi gwerth ychwanegol i’r llun gan iddo gael ei anrhydeddu gyda sylw gan ymgyrchydd milwriaethus.”

Dywedwyd mai ei henw mewn gwirionedd oedd Margaret Gibbs ac y cafwyd hi yn euog yn flaenorol yn Wimbledon. Cafodd ei dedfrydu i chwe mis o garchar.(Wrexham Advertiser, 25.07.1914)

BRITAIN’S DECLARATION

The terms of the declaration by Great Britain are as follows:

“owing to the summary rejection by the German Government of the request made by His Majesty’s Government for assurances that the neutrality of Belgium will be respected, His Majesty’s Ambassador at Berlin has received his passports, and His Majesty’s Government has declared to the German Government that a state of war exists between Britain and Germany as from 11 p.m. on August 4th.”(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

DATGANIAD PRYDAIN

Y mae telerau’r datganiad gan Brydain Fawr fel a ganlyn:

“oherwydd i Lywodraeth yr Almaen wrthod yn ddiannod y cais a wnaed gan Lywodraeth Ei Fawrhydi i barchu’r sicrwydd ynglŷn â niwtraliaeth Gwlad Belg, y mae Llysgennad ei Fawrhydi ym Merlin wedi derbyn ei basportau, ac y mae Llywodraeth ei Fawrhydi wedi datgan i Lywodraeth yr Almaen fod stad o ryfel yn bodoli rhwng Prydain a’r Almaen o 11 p.m. ar 4 Awst.”(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

Page 6: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

LEGAL AND PUBLIC NOTICESRETIRED MILITARY OFFICERS AND PENSIONERS from the ARMY are NOTIFIED THAT THEIR SERVICES ARE URGENTLY REQUIRED in the present crisis, to assist in obtaining RECRUITS FOR THE ARMY. Liberal terms are offered for their services — Apply at once to the Recruiting Officer, Barracks, Wrexham(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

YOUR KING AND COUNTRY NEED

YOU

MOBILISATIONNOW is the time for the YOUNG MEN of the County who have not hitherto joined the Territorial Force, to show their Patriotism in the hour of the country’s urgent need, and rally round the flag.

Any man between the ages of 17 and 35, not serving in the National Reserve, and anxious to give in their names, should go to the person whose name he will see on Posters which are about to be issued throughout Denbighshire.

GOD SAVE THE KING!(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

HYSBYSIADAU CYFREITHIOL A CHYHOEDDUS

HYSBYSIR SWYDDOGION A PHENSIYNWYR MILWROL o’r FYDDIN BOD ANGEN EU GWASANAETHAU AR UNWAITH yn yr argyfwng presennol, er mwyn helpu i sicrhau recriwtiaid AR GYFER Y FYDDIN. Cynigir telerau hael am eu gwasanaethau – Ymgeisiwch ar unwaith i’r Swyddog Recriwtio, y Barics, Wrecsam(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

Y MAE EICH BRENIN A’CH GWLAD EICH

ANGEN

YMFYDDINO YN AWR yw’r amser i DDYNION IFANC y Sir nad ydynt hyd yma wedi ymuno â’r Llu Tiriogaethol, i ddangos eu Gwladgarwch yn awr o gyfyngder brys y wlad, ac i dyrru o amgylch y faner.

Dylai unrhyw un rhwng 17 a 35 mlwydd oed, nad ydynt yn gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cenedlaethol, ac yn awyddus i gynnig eu henwau, fynd at yr unigolyn y gwelant ar Bosteri sydd ar fin cael eu cyhoeddi ar draws Sir Ddinbych.

DUW A GADWO’R BRENIN!(Wrexham Advertiser, 08.08.1914)

Band of the Royal Welch Fusiliers marching along Regent Street, Wrexham (294/13)

Band y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn gorymdeithio ar hyd Stryt y Rhaglaw, Wrecsam (294/13)

THE WAR

IN THE DISTRICTS

COEDPOETHAfter being mobilised during the week, the local Territorials returned home on Saturday afternoon, and assembling together at the Parish Hall at night, marched to Wrexham, being headed by a portion of the Coedpoeth Silver Band.

RUABONGreat enthusiasm prevailed at Ruabon on Saturday night when the local company of Territorials left to join the Battalion at Wrexham. The streets were thickly lined people and the men, who looked very fit, were given a very hearty ‘send off’. In the medical examination, only one member of the company was rejected, and two were certified as being temporarily unfit.

Station Road, Ruabon

Ffordd yr Orsaf, Rhiwabon

RUABON VOLUNTARY AID DETACHMENT

Mrs Pilkington, the Commandant of the Ruabon V.A.D., this week called the members together. It was decided to forthwith arrange sewing classes, where garments, etc., will be made for the use of the soldiers.

BRYMBOScenes of remarkable enthusiasm and patriotism were witnessed in Brymbo. The local Territorials marched from their Headquarters, the Drill Hall, Black Lane, through the village and entrained for Wrexham. In many instances women were unable to suppress their feelings at the departure of their husbands and sons. On the other hand, their

patriotism was made evident when the Brymbo Institute Band played the National Anthem.

For some time past a number of Germans have been employed doing special work at the Brymbo Steel Works and they are still engaged there.(Wrexham Advertiser, 15.08.1914)

Y RHYFEL

YN YR ARDALOEDD

COED-POETHWedi iddynt gael eu hymfyddino yn ystod yr wythnos, dychwelodd y Milwyr Tiriogaethol lleol adref brynhawn Sadwrn, ac wedi iddynt ymgynnull yn Neuadd y Plwyf liw nos, gorymdeithiont i Wrecsam, dan arweiniad cyfran o Fand Arian Coed-poeth.

RHIWABONBrwdfrydedd mawr a fu drechaf yn Rhiwabon nos Sadwrn pan yr ymadawodd y cwmni lleol o Filwyr Tiriogaethol i ymuno â’r Bataliwn yn Wrecsam. Yr oedd y strydoedd yn orlawn â phobl a rhoddwyd ffarwel hynod dwymgalon i’r dynion, a ymddangosai’n heini iawn. Yn yr archwiliad meddygol, dim ond un aelod o’r cwmni a wrthodwyd, ac ardystiwyd nad oedd dau ohonynt yn ddigon heini i wasanaethau am y tro.

DIDOLIAD CYMORTH GWIRFODDOL

RHIWABONYr wythnos hon galwodd Mrs Pilkington, Cadfridog V.A.D. Rhiwabon, yr aelodau ynghyd. Penderfynwyd trefnu dosbarthiadau gwnïo yn ddiymdroi, lle y bydd dillad, ac ati yn cael eu gwneud i’w defnyddio gan y milwyr.

BRYMBOBu golygfeydd o frwdfrydedd a gwladgarwch hynod i’w gweld ym Mrymbo. Gorymdeithiodd y Milwyr Tiriogaethol lleol o’u Pencadlys, i’r Neuadd Ymarfer, Lôn Ddu, drwy’r pentref tuag at gyfeiriad Wrecsam. Mewn sawl achos, ni allai’r merched gelu eu teimladau yn sgil ymadawiad eu gwŷr a’u meibion. Ar y llaw arall, yr oedd eu gwladgarwch yn glir i’w weld pan chwaraeodd Band Sefydliad Brymbo yr Anthem Genedlaethol.

Ers peth amser yn awr y mae nifer o Almaenwyr wedi cael eu cyflogi i ymgymryd â gwaith arbennig yng Ngwaith Dur Brymbo ac y maent yn parhau i fod wedi’u cyflogi yno.(Wrexham Advertiser, 15.08.1914)

Territorial Companies’ Parade, The Racecourse, Wrexham, August 1914 (90.28.663)

Gorymdaith y Cwmnïau Tiriogaethol, Y Cae Ras,

Wrecsam, Awst 1914 (90.28.663)

LEGAL AND PUBLIC NOTICES

NO GERMANOWING to a RUMOUR which is gaining currency in Wrexham since the War commenced that T.W.DORROFIELD, CONFECTIONER, 8, CHURCH STREET AND 4, EGERTON STREET, is a German or Austrian, he wishes to state that he was BORN IN WARWICKSHIRE of Parents of SCOTCH and FRENCH EXTRACTION, who were both BORN IN HERTFORDSHIRE, therefore he cannot be of either German or Austrian descent. — God save the King!(Wrexham Advertiser, 15.08.1914)

HYSBYSIADAU CYFREITHIOL A CHYHOEDDUS

DIM ALMAENWR OHERWYDD SI sydd yn ennill ei blwyf yn Wrecsam ers dyfodiad y Rhyfel bod T.W.DORROFIELD, CYFREITHIWR, 8, STRYT YR EGLWYS A 4, STRYT EGERTON, yn Almaenwr neu o dras Awstriaidd, dymuna ddatgan iddo gael ei ENI YN SWYDD WARWICK i Rieni o DARDDIAD ALBANAIDD A FFRENGIG, a ANWYD ill dau YN SWYDD HERTFORD, ac felly ni all fod naill o dras Almaenaidd nac Awstriaidd. - Duw a gadwo’r Brenin!(Wrexham Advertiser, 15.08.1914)

CONCEALING ADESERTER

FULL PENALTY IMPOSED

POLICE COURT PROCEEDINGS AT

RUABONAt Ruabon Petty Sessions yesterday (Friday), Wm. Davidson*, Stryt Issa, Penycae, was summoned by P.C. Shone for concealing a deserter.

The Clerk said that as no solicitors were engaged in the case, he might explain that a man named Samuel Bright*, a private in the Cheshire Regiment, who was a reservist, had been called to rejoin the Colours. He reported himself, and was drafted to headquarters in Londonderry. It appeared that after being there for three days, he deserted and went into hiding in this district. It was further alleged that while he was a deserter his relatives received relief intended for the support of the relatives of those men serving their country. If that was correct, it was about as mean an act as anyone could commit. Private Bright was brought before the Court and handed over to a military escort from Chester, where he was taken and dealt with by court martial.

P.C. Shone attested to arresting Pte. Bright in the house of the defendant at one o’clock in the early morning of Oct. 11th. He secured the assistance of Acting Sergt. Roberts and P.C. Lloyd, of Rhos, and the house was surrounded. Pte. Bright and the defendant were the only two people in the house. When he charged Bright with being a deserter, he did not say anything, but the defendant said “You might as well speak out, and tell the truth. It would

Page 7: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

1914 – Review of the YearAdolygiad o’r Flwyddyn – 1914

have been better for you to have given yourself up than for them to come and fetch you like this.” Defendant further stated that Bright came to the house on Sept. 29th and had not come out of the house at all since.

P.C. Lloyd said that he concealed himself at the back of the defendant’s house near the window. Pte. Bright opened the window and was being helped through by the defendant. When he was getting through the window, Bright exclaimed “Oh, I am done for. There’s another one here.”

Sergt. Fox said that when received into custody, Bright admitted that he had deserted from Londonderry, and that he threw away his clothing.

Defendant, on oath, said Bright came to his house at 11.55 one wet night, and asked if he could stay the night. Witness did not like to turn him away. Witness went to work the next morning, and when he returned Bright was still there. Bright assured him that he was on a temporary discharge, but witness told him he would have to go, as with such a large family he could not afford to keep him, whilst there was also no room in the house.

He started crying and witness did not like to turn him out. Bright’s wife also promised to keep him in food. He could not get to know positively whether Bright was a deserter or not, as he said if he was a deserter his wife’s relief would have been stopped.

The Chairman said the defendant would be sentenced to imprisonment for six months with hard labour. It was a severe sentence, in fact, the maximum penalty. The Bench were of the opinion that it was necessary in view of the circumstances. The present time was a time of war and by concealing this man he was practically aiding the enemy. They hoped the case would be a warning to others.(Wrexham Advertiser, 24.10.1914)

CUDDIOENCILIWR

RHODDWYD COSB LLAWN

ACHOS LLYS YR HEDDLU YNRHIWABON

Yn Sesiwn Fach Rhiwabon ddoe (dydd Gwener), gwysiwyd Wm. Davidson*, Stryt Issa, Penycae gan Gwnstabl yr Heddlu Shone am guddio enciliwr.

Gan nad oedd unrhyw gyfreithwyr ynghlwm yn yr achos, dywedodd y Clerc y gallai esbonio fod dyn o’r enw Samuel Bright*, milwr cyffredin yng Nghatrawd Sir Gaer, a oedd yn filwr wrth gefn, wedi ei alw i ailymuno â’r fyddin. Cyflwynodd ei hun, a chafodd ei alw i’r pencadlys yn Londonderry. Wedi iddo dreulio tridiau yno, ymddengys iddo encilio ac aeth i guddio yn yr ardal hon. Honnwyd yn ogystal, er ei fod yn enciliwr, i’w berthnasau dderbyn cymorth a fwriedir ar gyfer rhoi cefnogaeth i berthnasau’r dynion hynny sy’n gwasanaethu eu gwlad. Pe bai hynny’n gywir, yr oedd yn weithred mor fileinig ag y gallai unrhyw un ei chyflawni. Daethpwyd â’r Preifat Bright gerbron y Llys a’i drosglwyddo i osgordd filwrol o Gaer, lle y cymerwyd ef ac ymdriniwyd ag ef gan lys milwrol.

Tystiodd P.C. Shone i arestio’r Milwr Cyffredin Bright yn nhŷ’r diffynnydd am un o’r gloch ar fore cynnar 11 Hydref. Sicrhaodd gymorth y Rhingyll Dro Dro Roberts a’r Cwnstabl Lloyd, o’r Rhos, ac fe amgylchynwyd y tŷ. Y Milwr Cyffredin Bright a’r diffynnydd oedd yr unig ddau unigolyn yn y tŷ. Pan gyhuddodd Bright o fod yn enciliwr,

ni ddywedodd unrhyw beth, ond dywedodd y diffynnydd “Cystal i ti siarad â nhw, a dweud y gwirionedd wrthynt. Byddai wedi bod yn well pe byddet wedi ildio yn hytrach na gadael iddynt ddod ar dy ôl.” Dywedodd y diffynnydd ymhellach bod Bright wedi dod i’r tŷ ar 29 Medi ac nad oedd wedi gadael y tŷ o gwbl ers hynny.

Dywedodd P.C. Lloyd ei fod yn cuddio ei hun yng nghefn tŷ’r diffynnydd gerllaw’r ffenestr. Agorodd y Milwr Cyffredin Bright y ffenestr ac yr oedd yn cael ei helpu drwyddi gan y diffynnydd. Pan yr oedd yn mynd drwy’r ffenestr, ebychodd Bright “O na, mae hi ar ben arnaf. Mae un arall yma.”

Dywedodd y Rhingyll Fox fod Bright wedi cyfaddef pan y’i derbyniwyd i’r ddalfa, iddo encilio o Londonderry, a’i fod wedi taflu ymaith ei ddillad.

Dywedodd y diffynnydd, ar lw, fod Bright wedi cyrraedd ei dŷ am 11. 55 ar un noson wlyb, ac wedi gofyn a allai aros dros nos. Nid oedd y tyst yn hoffi ei droi allan. Aeth y tyst i’w waith y bore wedyn, a phan ddychwelodd yr oedd Bright yn dal yno. Rhoddodd Bright sicrwydd iddo ei fod wedi cael ei ryddhau dros dro, ond dywedodd y tyst wrtho y byddai’n rhaid iddo fynd, gan na allai fforddio ei gadw gan fod ganddo deulu mor fawr, ac nad oedd lle iddo yn y tŷ ychwaith. Dechreuodd grio ac nid oedd y tyst yn hoffi ei droi allan. Addawodd gwraig Bright hefyd y byddai yn ei fwydo. Ni allai ddarganfod yn bendant a oedd Bright yn enciliwr ai peidio, gan y dywedodd pe bai’n enciliwr y byddai cymorth ei wraig yn cael ei atal.

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r diffynnydd yn cael ei ddedfrydu i garchar am chwe mis gyda llafur caled. Yr oedd yn ddedfryd hallt, yn wir, y gosb uchaf bosibl. Yr oedd y Fainc o’r farn fod hyn yn angenrheidiol o ystyried yr amgylchiadau. Yr oedd y cyfnod presennol yn gyfnod o ryfel a thrwy guddio’r dyn hwn yr oedd i bob pwrpas yn cynorthwyo’r gelyn. Gobeithient y byddai’r achos yn rhybudd i eraill.(Wrexham Advertiser, 24.10.1914)

Support the Royal Welch Fusiliers! (1049/67)

Cefnogwch y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig! (1049/67)

Patriotic postcards, on sale during the Great War (1049/67)

Cardiau post gwladgarol, ar werth yn ystod y Rhyfel Mawr (1049/67)

DISTRICT NEWS

RhosymedreBELGIAN REFUGEES — The refugees which the Co-operative Society are entertaining, were given a cordial reception on their arrival. The party, which comes from Ostend, consists of two ladies and five gentlemen. One of the ladies is suffering from shock due to the falling of a bomb from a German aeroplane. One of the gentlemen is suffering from the shock as a result of a bomb from a Zeppelin.(Wrexham Advertiser, 14.11.1914)

Christmas card from the Belgian Refugees, Wrexham, 1914 (© Wrexham Archives, DWL231/1)

Cerdyn Nadolig gan y Ffoaduriaid o Wlad Belg, Wrecsam 1914 (© Archifdy Wrecsam, DWL231/1)

HOLT and FARNDONCIVILIAN GUARDS — There are altogether 50 young men who form the guards. They are drilled at the Schoolrooms and Kenyon Hall and they occasionally parade the streets at about 8 p.m.

WOOD PIGEONS — Few birds of any value are being shot by those who have taken out licences. Wood pigeons are seen flying about, together with a few snipe in the marshy areas formed in the meadows. Rabbits have been driven out of their burrows by the recent flood and sought refuge in the upper fields. Wild ducks are scarcer than usual.(Wrexham Advertiser, 05.12.1914)

NEWYDDION BRO

RhosymedreFFOADURIAID O WLAD BELG - Rhoddwyd derbyniad twymgalon i’r ffoaduriaid y mae’r Gymdeithas Gydweithredol yn eu gwesteia, pan gyraeddasant. Y mae’r criw, sy’n dod o Ostend, yn cynnwys dwy ferch a phum gŵr. Y mae un o’r merched yn dioddef o sioc oherwydd y bom a syrthiodd o awyren Almaenaidd. Y mae un o’r gwŷr yn dioddef o sioc o ganlyniad i fom a ollyngwyd o Zeppelin.(Wrexham Advertiser, 14.11.1914)

HOLT a FARNDONGWARCHODWYR SIFIL – At ei gilydd y mae 50 o ddynion ifanc yn perthyn i’r gwarchodwyr. Y maent yn cael eu hyfforddi yn yr Ysgoldy a Neuadd Kenyon ac yn gorymdeithio’r strydoedd am tua 8 p.m. o bryd i’w gilydd.

COLOMENNOD PREN - Ychydig adar o unrhyw werth sy’n cael eu saethu gan y rhai hynny sydd wedi cymryd trwyddedau. Gwelir colomennod gwyllt yn hedfan o amgylch, ynghyd ag ychydig o giachod yn yr ardaloedd corsiog a ffurfiwyd yn y dolydd. Y mae cwningod wedi cael eu gyrru o’u tyllau gan y llifogydd diweddar ac yn ceisio lloches yn y caeau uchaf. Y mae hwyaid gwyllt yn brinnach nag yr arfer.(Wrexham Advertiser, 05.12.1914)

The Cross, Holt (90.28.450)

Y Groes, Holt (90.28.450)

The Editor wishes to acknowledge the assistance of Mr Trevor Britton of Marford, Mr Gordon Griffiths of Wrexham and Mr J.K. Plant, the Archivist, in the preparation of this publication.

Mae’r Golygydd yn dymuno cydnabod cymorth Mr Trevor Britton o Marford, Mr Gordon Griffiths o Wrecsam a Mr J.K. Plant, yr Archifydd, wrth baratoi’r cyhoeddiad hwn.

All images, unless otherwise stated © Wrexham Archives, Wrexham Heritage Service

Page 8: East Denbighshire Echo - Wrexham...East Denbighshire Echo incorporating the Maelor Messenger Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, ... rhaid iddynt dynnu’r garreg oddi arno

Printed at Caxton Buildings, by Hughes & Son, WrexhamArgraffwyd yn Adeiladau Caxton, gan Hughes a’i Fab, Wrecsam

Review of the Year Adolygiad o’r Flwyddyn

PLEASE DO NOT REMOVE THIS NEWSPAPER FROM THE GALLERY. PEIDIWCH Â SYMUD Y PAPUR NEWYDD YMA O’R ORIEL. DIOLCH.