8
Gair sy’n nodweddu’n bywydau yn ystod y misoedd diwethaf ydy ANSICRWYDD. Mae o’n rhedeg trwy ein cymdeithas heddiw wrth i ni ofyn cwestiynau fel ydy hi’n saff i mi fynd allan i siopa? Alla’i fynd i weld y teulu? Beth sydd am ddigwydd os byddaf yn gorfod mynd i’r ‘sbyty? Pryd byddaf yn cael cynnig y brechiad? Fydd o’n saff i mi ei gymryd? Ac mae ansicrwydd yn medru’n llethu ni gan achosi i ni golli hunan hyder. Y flwyddyn Eglwysig Mae rhai rhannau o’r flwyddyn eglwysig yn cael fwy o sylw nag eraill a does ddim amheuaeth mai’r Nadolig a’r Pasg ydy’r ddau rydym yn canolbwyntio arnynt tra mae’r gweddill fel y Grawys, y Dyrchafael, y Pentecost a’r Adfent yn cael lawer llai o sylw gennym. Ychydig iawn o sôn am yr Adfent oedd yn bod ymysg capelwyr blynyddoedd yn ôl. Hwyrach bod poblogrwydd y calendr Adfent wedi gwneud rhywfaint o wahaniaeth i ni. Ond y gwir ydy bod themâu y Nadolig yn apelio mwy atom na themâu Adfent sy’n sôn am farn ac am y diwedd. Disgwyliad Un o’r geiriau rydym yn cysylltu â’r Adfent ydy DISGWYL -rhywbeth nad ydym yn dda am wneud -disgwyl i’r tegell ferwi, disgwyl am i’r goleuadau traffig newid, disgwyl am y trên, disgwyl am ganlyniadau arholiad ayyb a hefyd disgwyl i addewidion y Beibl gael eu cyflawni. Rhai cannoedd o flynyddoedd cyn iddyn nhw ddigwydd, roedd Eseia wedi proffwydo y byddai ‘y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch yn gweld goleuni mawr’ wrth i fachgen gael Ei eni, ac oherwydd hyn, ‘fe drig y blaidd gyda’r oen.’ Oedi a disgwyl Tra roedd llawer wedi rhoi gorau i ddisgwyl, roedd yna bobl fel Simeon, yr hen fir y darllenwn ei hanes yn yr ail bennod o Luc, yn dal i ddisgwyl, yn dal i gofio’r hyn a broffwydodd Eseia ganrifoedd ynghynt. Duw yn cadw at Ei air. A beth oedd mwy rhyfeddol na’r ffaith bod yr Ymerawdwr Rhufeinig wedi penodi cyfrifiad trwy’r Ymerodraeth fyddai’n achosi i Joseff a Mair fod ym Methlehem er mwyn cyflawni’r ysgrythur ym mhroffwydoliaeth Micha, ‘Ond ti, Bethlehem Effrata sy’n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi Un i fod yn llywodraethwr yn Israel.’ Ie, ar ôl disgwyl yn hir, roedd Duw am gyflawni’r hyn roedd Ef ei hun wedi addo trwy Ei broffwydi. Maen nhw’n dweud bod yna rhyw deimlad o ddisgwyl yn bod trwy’r byd yr adeg yma. Roedd ysgolheigion fel Suetonius a Tacitus yn dweud bod y Rhufeiniaid a’r Groegiaid yn disgwyl i rywbeth mawr ddigwydd, ond wrth gwrs, i’r Iddew, disgwyl am y Meseia oedd y peth pwysig. Baban a barnwr Ac fel roedd yr Hen Destament wedi proffwydo dyfodiad yr Iesu i’r byd fel Baban, roedd y Testament Newydd yn proffwydo dyfodiad yr Iesu am yr ail dro fel Arglwydd a Barnwr. Soniodd yr Iesu lawer iawn am hyn yn ystod Ei weinidogaeth, ac yn syth ar ôl iddo gael Ei gymeryd oddi wrth Ei ddisgyblion ar ddydd yr Esgyniad, fe glywsant dau CYFROL CXLVIII RHIF 49 DYDD GWENER, RHAGFYR 4, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Cofio a gwerthfawrogi … t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 Ansicrwydd a Thangnefedd Gobaith Tangnefedd Cariad Llawenydd ‘y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr’ (parhad ar y dualen nesaf)

EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Ansicrwydd a Thangnefedd · 2020. 12. 2. · Bangor, i astudio Cymraeg, Hanes, ac Ieithyddiaeth. Oddi yno mynychodd y Coleg Diwinyddol Aberystwyth rhwng

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Gair sy’n nodweddu’n bywydau ynystod y misoedd diwethaf ydyANSICRWYDD. Mae o’n rhedeg trwy eincymdeithas heddiw wrth i ni ofyncwestiynau fel ydy hi’n saff i mi fyndallan i siopa? Alla’i fynd i weld y teulu?Beth sydd am ddigwydd os byddaf yngorfod mynd i’r ‘sbyty? Pryd byddaf yncael cynnig y brechiad? Fydd o’n saff imi ei gymryd?

    Ac mae ansicrwydd yn medru’n llethu nigan achosi i ni golli hunan hyder.

    Y flwyddyn Eglwysig

    Mae rhai rhannau o’r flwyddyn eglwysigyn cael fwy o sylw nag eraill a doesddim amheuaeth mai’r Nadolig a’r Pasgydy’r ddau rydym yn canolbwyntioarnynt tra mae’r gweddill fel y Grawys,y Dyrchafael, y Pentecost a’r Adfent yncael lawer llai o sylw gennym. Ychydigiawn o sôn am yr Adfent oedd yn bodymysg capelwyr blynyddoedd yn ôl.Hwyrach bod poblogrwydd y calendrAdfent wedi gwneud rhywfaint owahaniaeth i ni. Ond y gwir ydy bodthemâu y Nadolig yn apelio mwy atomna themâu Adfent sy’n sôn am farn acam y diwedd.

    Disgwyliad

    Un o’r geiriau rydym yn cysylltu â’rAdfent ydy DISGWYL -rhywbeth nadydym yn dda am wneud -disgwyl i’rtegell ferwi, disgwyl am i’r goleuadautraffig newid, disgwyl am y trên, disgwylam ganlyniadau arholiad ayyb a hefyddisgwyl i addewidion y Beibl gael eucyflawni.

    Rhai cannoedd o flynyddoedd cyn iddynnhw ddigwydd, roedd Eseia wediproffwydo y byddai ‘y bobl oedd ynrhodio mewn tywyllwch yn gweld goleunimawr’ wrth i fachgen gael Ei eni, acoherwydd hyn, ‘fe drig y blaidd gyda’roen.’

    Oedi a disgwyl

    Tra roedd llawer wedi rhoi gorau iddisgwyl, roedd yna bobl fel Simeon, yrhen fir y darllenwn ei hanes yn yr ailbennod o Luc, yn dal i ddisgwyl, yn dal igofio’r hyn a broffwydodd Eseiaganrifoedd ynghynt. Duw yn cadw at Eiair. A beth oedd mwy rhyfeddol na’r ffaithbod yr Ymerawdwr Rhufeinig wedipenodi cyfrifiad trwy’r Ymerodraethfyddai’n achosi i Joseff a Mair fod ym

    Methlehem er mwyn cyflawni’r ysgrythurym mhroffwydoliaeth Micha, ‘Ond ti,Bethlehem Effrata sy’n fechan i fodymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y dawallan i mi Un i fod yn llywodraethwr ynIsrael.’

    Ie, ar ôl disgwyl yn hir, roedd Duw amgyflawni’r hyn roedd Ef ei hun wedi addotrwy Ei broffwydi. Maen nhw’n dweudbod yna rhyw deimlad o ddisgwyl yn bodtrwy’r byd yr adeg yma. Roeddysgolheigion fel Suetonius a Tacitus yndweud bod y Rhufeiniaid a’r Groegiaidyn disgwyl i rywbeth mawr ddigwydd,ond wrth gwrs, i’r Iddew, disgwyl am yMeseia oedd y peth pwysig.

    Baban a barnwr

    Ac fel roedd yr Hen Destament wediproffwydo dyfodiad yr Iesu i’r byd felBaban, roedd y Testament Newydd ynproffwydo dyfodiad yr Iesu am yr ail drofel Arglwydd a Barnwr. Soniodd yr Iesulawer iawn am hyn yn ystod Eiweinidogaeth, ac yn syth ar ôl iddo gaelEi gymeryd oddi wrth Ei ddisgyblion arddydd yr Esgyniad, fe glywsant dau

    CYFROL CXLVIII RHIF 49 DYDD GWENER, RHAGFYR 4, 2020 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Cofio a gwerthfawrogi… t. 2 • O hwnt ac yma … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    Ansicrwydd a Thangnefedd Gobaith Tangnefedd Cariad Llawenydd

    ‘y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welsant oleuni mawr’

    (parhad ar y dualen nesaf)

  • Ganed Adrian Pugh Williams ar13 Tachwedd 1945 yn Llai Hall Farm,Wrecsam yn fab i Dorothy May ac EllisWynne Williams. Bu iddynt symud wedyni fyw i Abergele.

    Gyda’i dad yn Brifathro ar YsgolDinorben, Abergele, cafodd Adrian eiaddysg gynradd ac uwchradd yn y dref,cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru,Bangor, i astudio Cymraeg, Hanes, acIeithyddiaeth. Oddi yno mynychodd yColeg Diwinyddol Aberystwyth rhwng1968 a 1972 i baratoi am yrfa felgweinidog gydag Eglwys BresbyteraiddCymru. Cafodd ei ordeinio ganddynt ymmis Medi 1972 ym Maengwyn,Machynlleth. Yn Aberystwyth y daethom iadnabod ein gilydd. Talaf deyrnged, felly,i gyfaill a ffrind ers dyddiau coleg hydddiwedd ein hoes gwaith yn EBC (1972 iryw 2012). Diolch am un a fu’n ffrindcyson a chynnes ar hyd y blynyddoedd.

    Cyfarfu â Nan yn nosbarth Ysgol SulMyfyrwyr Capel Twrgwyn, Bangor yn1965. Priodwyd hwy ar 1 Awst 1970 yngNghapel Mawr, Dinbych, gyda’r Parchgn.Cynwil Williams, Isaac Jones, W.H.Williams (ewythr Adrian), Richard Lloyd(hen ewythr Nan) yn gweinyddu. Ganed Menai yn 1974 ac yna Hedd yn1976. Bu’n teuluoedd ni’n dau yncefnogi’n gilydd ar hyd y ffordd. Acymserchai Adrian ym mywyd ei deulugydol ei ddyddiau.

    Ei ofalaeth gyntaf yn 1972 oeddLlandrillo ger Corwen, oedd yn cynnwysHermon, Llandrillo a Bethel, Cynwyd cynychwanegu Saron, Llandderfel ynddiweddarach. Symudwyd i ofalaethBlaenau Ffestiniog yn 1977.

    Gwasanaethodd y fro honno tan 2004,yn gweithio gydag eglwysi Peniel(Ffestiniog), Bethesda (Manod),Tabernacl a Maenofferen yn y dre. Wedicau Tabernacl a Maenofferen,ychwanegwyd Eglwys y Bowydd a’rCapel Saesneg yng nghanol y dre. Ar ôl iGapel Peniel gau, ychwanegwyd CapeliGorffwysfa, Penrhyndeudraeth, aChroesor at ei ofalaeth.

    Yn 2004, penderfynwyd anelu trwyn ycar tua’r môr yn Aberystwyth ac aros yngnghwmni Eglwys St David’s, Bath Street,tan iddo ymddeol ar ddiwedd 2012. Elaiallan i bregethu hyd y diwedd un – ac ynystod 2020 a’i chyfnod clo fe feistrolodd ydechnoleg o gynnal oedfaon Zoom! Eri’w iechyd wanhau beth erbyn hyn, niwrthododd yr alwad i fynd allan yn enw’iArglwydd.

    Bu’n Ysgrifennydd Henaduriaeth amgyfnod maith yng NgorllewinMeirionnydd, a gwasanaethu felYsgrifennydd Panel Ecwmenaidd yrEglwys Bresbyteraidd am nifer oflynyddoedd gan deithio’n helaeth iNorwy, Harare a Buenos Aires igyfarfodydd Cyngor Eglwysi’r Byd.Cafodd ymweld â’r India deirgwaith:unwaith i agor llyfrgell er cof amddiweddar fir Mrs Margaret Jones (StDavid’s), sef y Parch. Basil Jones a fu’ncenhadu ym Mizoram. Ac wedyn iShillong i bregethu yn yr eglwys ple bu eiewythr yntau, y Parch. W.H. Williams, yncenhadu yn Aizawl. Bu’n aelod oweithgor Churches Together in Britainand Ireland, Free Church FederalCouncil, Enfys, Cytûn: Eglwysi ynghydyng Nghymru, Pwyllgor Cytûn Waunfawrac yn Ysgrifennydd Cymorth Cristnogol

    (Aberystwyth) am nifer o flynyddoedd –ymhlith cyfrifoldebau eraill!

    Trwy’r arholiad Lefel A, roedd gan Adriangymhwyster mewn Almaeneg a phleseriddo oedd arfer yr iaith. Gwrandawai ar yroedfa Almaenig ar foreau Sul ac arraglenni perthnasol eraill, diolch i’r soserlloeren ar ochr y tª. Gfir a chanddoorwelion eang!

    Ymddiddorai mewn hanes a byddai wrthei fodd yn rhannu ei wybodaeth gydageraill, nid y lleiaf ohonynt ei blant ei hun.Prosiect oedd ar y gweill ganddo ynawroedd ymchwil i effaith dyfodiad ytrên o Riwabon i’r Bermo ar fywydcymdeithasol a chrefyddol y cyfnod. Aceto, hoffai loffa yng ngweithiau R. S.Thomas, Gwenallt, John Spong ac eraillgan ddyfynnu’n helaeth ohonynt dros yblynyddoedd.

    Wynebai un o anawsterau bywydgweinidog – sef yr angen i gadw’n heiniac yn iach. Y beic oedd ei ddewis arf yn ymaes hwn. Roedd wrth ei fodd yn myndar brynhawn Sadwrn o ‘Stiniog i lawr amHarlech – er bod rhaid dychwelyd i fyny’rgelltydd wedyn. Ond mantais y beic oeddy gallai aros a chael sgwrs gydag unrhywun yr oedd yn ei adnabod. Roedd pobl‘Stiniog, ac Aber yn ddiweddarach, yn eiadnabod yntau a’i feic yn dda!

    A dyna ddychwelyd at un o brif bwyntiaugweinidogaeth Adrian – sef ei wasanaethi bobl.

    Bu Adrian yn Gaplan yn yr Ysbyty Goffayn ‘Stiniog am flynyddoedd – yn mynd iymweld yn selog bob prynhawn Llun gansgwrsio gyda’r cleifion a’u teuluoedd achwarae emynau o’i gof ar y piano yn ylolfa ddydd.

    Gyda’r sylw hwnnw, aeth y cylch atgofionâ ni yn ôl i ddyddiau’r Coleg Diwinyddol.Adrian a minnau gan mwyaf (gydag eraillmewn oedfaon Saesneg ac ati) oedd yncyfeilio i’r gynulleidfa wrth addoli’nrheolaidd yn ein capel ni. Roeddem yngytûn yn credu bod ein doniau yn rhaiaddas i hybu a chynnal bywyd ein capelia’u pobl. Cawsom hwyl wrth arfer ydoniau ymarferol hyn. Yn y capel drwsnesaf i’r mans yn Y Manod, byddaiAdrian (a minnau ambell dro) yn eisteddwrth yr organ bib ac yn teimlo’r sainhyfryd yn ein codi yn yr ysbryd a’natgyfnerthu i’n gwaith. Ac o ailadrodd yfath brofiad mewn capeli diri drwyGymru, rhoddwyd gwasanaeth aml aphwrpasol. Addoli, ymroi, gwasanaethu –a chael blas wrth wneud beth bynnagfyddai hinsawdd grefyddol y cyfnod.

    Caiff un o’n plant ni’r gair olaf fan hyn:“Mae’r chwerthiniad wedi mynd!”

    Parch Roger Ellis Humphreys

    2 Y Goleuad Rhagfyr 4, 2020

    ddyn mewn dillad gwyn yn dweud: ‘YrIesu hwn sydd wedi Ei gymryd oddiwrthych i’r nef, bydd yn dod yn yr unmodd ag y gwelsoch Ef yn mynd i’r nef.’

    Dal i ddisgwyl

    Roedd yna rywrai ymysg yr Eglwys Foreoedd yn disgwyl i hyn ddigwydd yn fuaniawn ac roedd yna bobl a roddoddheibio weithio am eu bod yn disgwyliddo ddigwydd unrhyw ddiwrnod. Ondroedden nhw wedi anghofio geiriau’rIesu ei Hun y byddai yn dod yn sydynfel lleidr yn y nos pan oedd neb yn Eiddisgwyl, fel dyfodiad y priodfab i’rbriodas ac yn canfod pump o ferched ffolnad oeddynt yn barod am nad oeddganddyn nhw olew yn eu lampau a’rdrws yn cael ei gau yn eu hwynebau.Mae’r ddysgeidiaeth yma yn Mathew

    pennod 24 yn gorffen efo geiriau’r Iesu,‘Byddwch felly barod, canys yn yr awr niwyddoch y daw Mab y Dyn.’

    Bod yn barod heddiw

    Mae’r diweddar Dr.Tudur Jones yndweud bod disgwyl am yr ailddyfodiadyn rhan hanfodol o’r Adfent. ‘Y maecyhoeddi Ailddyfodiad Iesu Grist yngymaint rhan o’r efengyl a chyhoeddi EiAtgyfodiad, a hynny oherwydd bod CristEi Hun wedi ei wneud yn rhan hanfodolo’i Ddysgeidiaeth.’

    Mewn dyddiau pan fo’r holl ansicrwyddo’n cwmpas ni, rhown ein ffydd yngngair Duw a’r holl addewidion syddynddo.

    (Parch Eric Greene, Darpar Lywyddy Gymdeithasfa yn y Gogledd)

    Ansicrwydd a Gobaith (parhad)

    Cofio a diolch am fywydy Parch. Adrian Pugh Williams, B.A., B.D., M.Th.

  • Gwers 22

    Adfent 2: Mair, mam Iesu

    GweddiNefol Dad, plygwn yn wylaidd o’thflaen a meddwl am un sy’n cynrychiolimamau’r byd. Pan fydd ein sylw yntroi’n reddfol at y baban Iesu, mae’nbwysig ein bod yn cofio’r fam, aroddodd enedigaeth i’w chyntaf-anediggan brofi’r holl straen corfforol, hebgwmni ei theulu ei hun, mewn sefyllfaag anfanteision amlwg. Wrth feddwl amei hanes, cofiwn am y miliynau oferched beichiog yn ein byd heddiw sy’nwynebu anfanteision o bob math. Amen.

    Darlleniad Luc 1: 26–66; Ioan 19:23–7.

    CyflwyniadO blith holl wragedd y TestamentNewydd, prin fod unrhyw un a gafoddfwy o sylw gan yr arlunwyr a’rcerflunwyr na’r ‘wraig ddistadl’ hon.Daw i lwyfan hanes yn ei distadledd a’idiniweidrwydd, ac erys yn enw amlwg aphwysig i Gristnogion yn gyffredinol.Cyflwynir hi gan Mathew a Luc ynnaratif geni Iesu, ac mae’n amlwg fodLuc wedi cael gwybodaeth nad oedd argael i Mathew. Mae hi’n cynrychioli’ranamlwg a’r dibwys mewn cymdeithas,sy’n gyson â gwerthoedd Iddewiaeth ynamser Iesu. Dyna oedd agweddcenhedloedd eraill y byd ar y pryd, ac ynanffodus, bydd rhai diwylliannau yn dali osod merched ar haen is na’r dynionheddiw. Ychydig iawn a wyddom am ei

    chefndir, ac eithrio bod Luc wedi deallei bod yn perthyn i lwyth Jwda ac olinach Dafydd. Dywedir i Ioan dderbynMair i’w gartref ar ôl y croeshoeliad, athybir, yn ôl traddodiad, iddi fyw amarw yn Effesus. Nid oes unrhywddatganiad Beiblaidd am eimorwyndod, er bod y term ‘y ForwynFair’ yn cael ei ddefnyddio gan amryw.

    MyfyrdodBydd y drafodaeth am statws merchedyn bwysig am lu o resymau, ac er bodbreninesau wedi bod yn Lloegr a Rwsiaa llawer o wledydd Ewropeaidd eraill, amerched wedi dod i’r amlwg mewn sawl

    gwlad, eithriadau ydynt. Ni wnaethElisabeth I wella statws merched yn eidydd, ac anodd gweld bod Mrs MargaretThatcher wedi unioni camau cymdeithasdrwy wneud llawer i wella cyfleoedd yferch chwaith. Mae’r Eglwys Babyddolyn dal â phroblem o ran caniatáu iferched fod yn offeiriaid, heb sôn amestyn iddynt gyfrifoldebau uwch yn eustrwythurau eglwysig. Camodd yrEglwys Wladol ym Mhrydain ymlaen ary daith o ganiatáu i ferched fod ynoffeiriaid ac esgobion, ond erys llaweryn y drefn eglwysig honno ynanghyfforddus gyda’r syniad.Eto, wrth sôn am enedigaeth Iesu,

    dewisodd Duw ferch anamlwg,gyffredin a chwbl ddibwys i Iddewiaeth,i fod yn fam i’r plentyn Iesu. Roedd hwnyn bwyslais pwysig na wnaeth yrEglwys ar draws y cyfandiroedd a’rcanrifoedd ei gydnabod, a gweld bodgwªr a gwragedd yn gyfartal yngngolwg Duw. *Ai’r Eglwys sy’n arwaincymdeithas, neu a yw’r Eglwys yn dilyneraill wrth sôn am gyfiawnder i wrageddmewn bywyd cymdeithasol?* Gwelwydllawer o newid yn ystod ail ddegawd yr21g; tybed a fydd 2030 yn tystio i fwy o

    newidiadau o blaid gwragedd ynbenodol ac y bydd hawliau merchedwedi eu sicrhau ym mhob gwlad ardraws y byd?

    Gweddi Arglwydd Dduw, diolch i ti am ddewisMair, dyweddi Joseff y saer, yn fam iGeidwad byd, a bod y Beibl yn eichydnabod yn amlwg iawn. Diolchwnam ein mamau ein hunain, gan gofioiddynt wynebu poen ac ing yn ein genini, a’u bod wedi poeni a gweddïodrosom ar hyd y daith. Gwerth -fawrogwn fod y reddf famol ynnodwedd anhygoel a hardd, a chofiwnhynny wrth glywed am bobgenedigaeth. Boed dy fendith ar famau’rbyd heddiw, ac y byddant yn meithrinplant a fydd yn gweld bod cariad yn wellna chasineb, a bod gobaith yn medruffynnu yn y tir mwyaf diffaith. Amen.

    Trafod ac ymateb

    • Mae’r gwaith o fod yn fam yn unpwysig eithriadol a ffurfiannol iunrhyw blentyn a gaiff y fraint odderbyn gofal ei fam. Faint osynnwyr o’r fraint a’r cyfrifoldeb aroddwyd iddi hi i fagu ‘Mab yGoruchaf’ (adn. 32) oedd gan Mair,tybed?• Sut mae cwestiwn Mair i’r angelGabriel (2:34) yn wahanol igwestiwn Sachareias i’r un angel(1:18) ac yn arddangos agweddwahanol o ran yr hyn sy’n bosibltrwy lygaid ffydd?• Myfyriwch ar Emyn Mawl Mair(Luc 2:46–55). Mae’n amlwg fodgan Mair afael da ar rediad yrYsgrythurau Iddewig ac yn adleisiorhai o ganeuon yr Hen Destament ynei hemyn hithau o foliant i Dduw. Aydym ni’n euog o ddibrisio a chyfrifyn ddistadl rai sydd â phrofiadysbrydol pwerus?• Trafodwch y cwestiwn yn yparagraff olaf **.

    Rhagfyr 4, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    Y cyhoeddi i Fair gan Syr EdwardBurne-Jones (1857)

    Llun gan Birmingham Museums

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • O fewn ein hadran Nadolig ar y wefan hon ceir:

    Adnoddau Newydd 2020

    Ymysg yr arlwy yno mae:

    Ffilm newydd ar gyfer Nadolig 2020 wedi ei chreu gan GwynRhydderch, sgript gan Gwenda Jenkins ac yn cael eichyflwyno’n hwyliog gan Martyn Geraint. Yn y ffilm12 munud yma cawn wir ystyr y Nadolig yn cael ei esbonio’nglir gan Martyn. Mae modd ei lawrlwytho a’i defnyddio mewnoedfa dros y Nadolig neu ei rhannu ar eich tudalen Facebook.

    Adnoddau cenhadol Cyngor yr Ysgolion Sul ar gyfer 2020

    Mae dau adnodd newydd penodol, sef: Clywch lu’r Nef ynseinio’n un!Ar gyfer Nadolig 2020 mae Cyngor yr Ysgolion Sul wedi

    paratoi cyfres newydd o adnoddau a fydd yn galluogi eglwysi igyflwyno neges a llawenydd y Nadolig o fewn ein cymunedaumewn ffordd drawiadol ac effeithiol. Yn ganolbwynt i’r cyfanmae cylchgrawn lliwgar, 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadauBeiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan ArfonJones, posau, croesair, rysáit cacen Nadolig, cerddi, gweddïau,tudalen i’r plant, a nifer o erthyglau diddorol. Mae modd prynucopïau o’r cylchgrawn am 99c yr un, neu becynnau o 100 copiam £50 (50c yr un). Hefyd, mae modd archebu copïau âthudalen ôl a all gynnwys manylion lleol eicheglwys/amseroedd oedfaon Nadolig ayyb.

    Yn ogystal hefyd, mae baner liwgar ar gyfer ei harddangos ytu allan i’ch capel (2 fetr wrth 0.5 metr) ar gael am £25 yr un.

    Comic Beiblaidd y NadoligWedi ei ailargraffu ar gyfer 2020 maecomic Nadolig a gynhyrchwyd ar ycyd â Scripture Union Cymru ar gael,sef Comic Beiblaidd Nadolig. Maehwn yn gomic lliwgar, 16 tudalen, sy’ncynnwys stori’r Nadolig ar ffurf comica thudalennau sy’n cynnwys cwisNadolig, ffeithiau am y Nadolig acamrywiol bosau. Maent yn ddelfrydoli’w cyflwyno i blant oed cynradd, ac argael am y pris arbennig o 75c yr un

    mewn pecynnau o 10, neu 99c yr un. Gellir hefyd archebupecynau mawr o 50 am £35 neu 100 am £50. Mae hyn yncynnwys cost cludiant. Cysylltwch â Chyngor yr Ysgolion Suli archebu.

    Adnoddau Newydd Cymdeithas y Beibl ar gyfer 2020Yn ôl eu harfer, mae gan Gymdeithas y Beibl adnoddaunewydd ar gyfer 2020 gan gynnwys llyfryn i’w gyflwyno iblant, ffurf ar wasanaeth ar gyfer oedfa Nadolig sy’n cynnwyscyflwyniad PowerPoint o’r stori, sef ‘Mae’n Dechrau Draw ymMethlehem – Rhigwm Stori’r Geni ar gyfer Nadolig’. Mae’rllyfryn newydd i blant, Mae’n Dechrau Draw ym Methlehem –Rhigwm Stori’r Geni argyfer Nadolig eleni, ynrhoi golwg newydd i niar y geni gydarhigymau hyfryd wedieu haddasu o’r fersiwngwreiddiol gan BobHartman a lluniaubywiog gan MarkBeech. Mae moddarchebu copïau o’rwefan.

    Bagiau Bendith y NadoligWrth inni nesáu at dymor yr Adfent, mae’n debygol y bydd yNadolig yn teimlo’n dra gwahanol eleni. Er efallai na fydd ynbosibl inni groesawu cynifer o ymwelwyr i wasanaethautraddodiadol, hoffem dynnu eich sylw at un syniad sy’n eichgalluogi chi i fynd â bendith y Nadolig i’ch cymuned. Mae’rprosiect ‘Bagiau Bendith’ yn syniad syml iawn sy’n gwahoddeglwysi i rannu bagiau anrhegion bach gyda chymdogion,teuluoedd, cartrefi gofal, hosteli, llochesi ac aelwydydd yn eucymunedau lleol. Yn ogystal â bod yn anrheg, mae’r bag bachhefyd yn gyfle i atgoffa pobl o wir obaith y Nadolig. Ceir mwyo wybodaeth ar y wefan.

    Byw Ben i Waered: pedwar myfyrdod ar y thema ‘Plygain –traddodiad i’w rannu’

    Adnodd Cymraeg a dwyieithog gan yrEglwys Fethodistaidd yn cynnwyspedwar myfyrdod ar gyfer cyfnod yrAdfent a’r Nadolig. Seiliwyd ymyfyrdodau ar gyfoeth carolautraddodiadol y plygain. Ar ddiwedd pobmyfyrdod ceir cwestiynau i ennyntrafodaeth ac ar gyfer rhoi ffydd arwaith yn ein bywydau ac o fewn eincymunedau. Mae dolen i lawrlwytho’radnodd ar ein gwefan.

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 4, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnoddau lu gan lawer mudiadYn gryno i gyd o ddilyn y ddolen yma

    Ar gyfer Nadolig 2020, a fydd yn Nadolig gwahanol iawn i’r hynrydym wedi arfer ag o mewn blynyddoedd arferol, mae Cyngoryr Ysgolion Sul wedi creu gwefan arbennig er mwyn crynhoi’rholl adnoddau Cymraeg Cristnogol sydd wedi eu paratoi ganwahanol enwadau a mudiadau. Mae gofod arbennig wedi eigreu ar www.cristnogaeth.cymru/Nadolig er mwyn arddangosyr holl adnoddau sydd ar gael i eglwysi ac ysgolion Sul. Ceir yma adnoddau y mae modd i chi eu rhannu ag eraill,

    gan gynnwys ffilmiau byr, deunydd defosiynol a gwybodaetham lyfrau i blant ac oedolion. Wrth i fwy o adnoddau newyddein cyrraedd, byddant yn cael eu llwytho ar y wefan, fellycofiwch alw yn ôl yn rheolaidd er mwyn gweld yr adnoddaudiweddaraf.Cofiwch hefyd, os oes gennych chi adnoddau addas i’w

    rhannu – boed yn sgript neu ffilm, mae croeso i chi eu gyrru [email protected] er mwyn eu cynnwys.

  • Apêl Nadolig 2020Cymorth CristnogolMae gan GymorthCristnogol apêl Nadoligarbennig ar gyfer 2020.Maent hefyd wedirecordio carol newyddsbon gan Meilyr Gerainta Cadi Gwyn. Eto, mae’r dolenni perthnasol ar ein gwefan.

    CYFRES FFILMIAU’R NADOLIGMewn prosiect ar y cyd ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru mae’rCyngor Ysgolion Sul wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr ygellid eu defnyddio mewn gwasanaethau Nadolig agwasanaethau carolau. Cynhyrchydd y ffilmiau yw GwynRhydderch; diolch am ei waith ef ac Eglwys BresbyteraiddCymru yn paratoi’r adnodd gwerthfawr yma sydd at ddefnyddeglwysi o bob enwad a thraddodiad. Mae’r gyfres yn cynnwysy ffilmiau canlynol:

    ‘Pam Dathlu’r Nadolig?’ – ffilm fer, 6 munud, gan Arfon Jones

    Darlleniad o Mathew1:18–25 (Geni Iesu yMeseia) ar ffilm

    Darlleniad o Luc2:18–25 (Y Bugeil -iaid a’r Angylion) arffilm

    ‘Yn y Dechreuad …’– myfyrdod 3 munud ar ffilm

    ‘Gweddi’r Nadolig’ – gweddi 3 munud yn cael ei chyflwyno arffilm.

    ‘Wele, cawsom y Meseia’Hefyd ar gyfer oedolion mae llyfrynlliwgar ‘Wele cawsom y Meseia’,20 tudalen lliw llawn sy’n cynnwysdarlleniadau, gweddïau a myfyrdodauNadoligaidd. Maent ar gael am 50c yrun neu becyn o 100 am £30. Ceir mwyo wybodaeth yn ein hadran adnoddaucenhadol.

    Yn yr adran ‘Deunydd Ffilm Nadolig’, ceir 4 categori offilmiau byr, sef:

    • carolau cynulleidfaol a chaneuon Nadoligaidd, • ffilmiau’n cynnwys myfyrdodau i oedolion, • carolau a chaneuon Nadolig i blant,• cartwnau Nadolig i blant.

    Yn yr adran ‘Adnoddau Nadolig Defosiynol’, mae tua 500 oeitemau, yn cynnwys myfyrdodau, sgetsys, gweddïau adarlleniadau – y cyfan ar gael yn rhad ac am ddim i’wlawrlwytho a’u rhannu mewn oedfaon dros y Nadolig.

    Ceir adran benodol ar gyfer gwasanaethau Cristingl.Mae dathlu Cristingl yn ffordd o rannu neges y ffyddGristnogol. Golyga Cristingl ‘Goleuni Crist’ ac mae’n symbolo’r ffydd Gristnogol. Ar ein gwefan mae modd lawrlwytho pob

    dim sydd ei angen arnoch i gynnal gwasanaeth Cristingl yn yrawyr agored. Dyma ystyr yr elfennau yn y Cristingl:

    • Mae’r oren yn grwn fel y byd.• Mae’r gannwyll yn dal a syth, ac yn rhoi goleuni yn y

    tywyllwch fel cariad Duw.• Mae’r ruban yn mynd o amgylch y ‘byd’ ac yn symbol o

    waed Crist pan fu farw drosom ar y groes.• Mae’r pedair ffon yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol ac yn

    cynrychioli Gogledd, De, Dwyrain a’r Gorllewin, a hefyd yncynrychioli’r pedwar tymor.

    • Mae’r ffrwythau a’r cnau (ac ambell dro melysion!) yncynrychioli ffrwythau’r ddaear, wedi eu maethu gan yr haula’r glaw.

    Yn yr adran ‘Adnodau a Phosteri i’w Lawrlwytho’ ceirdetholiad o luniau gydag adnod arnynt i eglwysi ac unigolioneu rhannu ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

    Adran Cardiau NadoligMae yna amrywiaeth o gardiau Nadolig Cymraeg ar gael ac awerthir er budd gwaith yr Ysgol Sul yng Nghymru, gydachyfarchiad ac adnod ar bob cerdyn, ynghyd â llun lliwpwrpasol. Mae yna gynllun arbennig ar gyfer eglwysi acysgolion Sul. Am bob pecyn a werthir, bydd 50c yn mynd igronfa eich ysgol Sul chi. Dyma gyfle gwych felly i gefnogiCyngor yr Ysgolion Sul a’ch ysgol Sul leol chi! Mi fyddwchchi’n talu £1.50 y pecyn amdanynt ac yn eu gwerthu am £2 ypecyn. Cynigir y cardiau ar gynllun dychwel neu werthu! Mwyo wybodaeth a lluniau ar y wefan.

    Rhannu neges y Nadolig trwy gyfnod yr Adfent – trwygyfrwng y cyfryngau cymdeithasol

    Eleni, bydd Cyngor yr Ysgolion Sul, trwy ei dudalennauFacebook, yn rhannu adnoddau yn ddyddiol y gall eraill eudefnyddio a’u rhannu mor eang â phosib.

    Ar dudalen Beibl Byw / Cristnogaeth Cymru, byddwn ynrhannu dau fyfyrdod bob dydd, yn dilyn hanes y Goeden Jesse,gan rannu stori’r Beibl cyfan dros y 28 diwrnod. Byddmyfyrdod dyddiol i oedolion yn ogystal â fersiwn arbennig ideuluoedd.

    Ar dudalen Cyngor yr Ysgolion Sul, byddwn yn rhannugweithgaredd dyddiol i blant, yn cynnwys darlleniad, gweddi allun i’w liwio.

    Ar dudalen Emynau Gobaith, byddwn yn rhannu carol newyddbob dydd.

    Ar dudalen Gair o Weddi, byddwn yn rhannu gweddiNadoligaidd bob dydd.

    Ar dudalen beibl.net, byddwn yn rhannu adnod ddyddiol, ynogystal â darlleniadau i’n harwain at y Nadolig.

    Cofiwch hefyd am yr adnoddau sydd ar wefan www.beibl.net awww.gair.cymru a’r carolau sydd ar wefan www.gobaith.cymru

    Aled Davies,Cyfarwyddwr Cyngor yr Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau’r Gair

    Cyfeiriad/Address: Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, GwyneddLL53 6SH. Ffôn/Tel: 01766 819120 Symudol/Mob: 07894580192 Gwefan/Website: www.ysgolsul.com Ebost/Email:[email protected]

    Rhagfyr 4, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    ar gyfer Nadolig 2020www.cristnogaeth.cymru/Nadolig

  • Rwy’n cofio darllen ychydig yn ôl fodWaldo o’r farn mai pwrpas barddoniaethyw rhoi mwynhad, a hynny er morddifrifol a dwys yw’r testun. Wel, cefaisfwynhad aruthrol o ddarllen yflodeugerdd hon am y dyn ei hun.Gwnaeth Eirwyn George gymwynas fawrâ ni wrth gasglu cynifer o gerddi amWaldo mewn un gyfrol hylaw,100 tudalen, a’r cerddi hynny’nrhychwantu dros drigain o flynyddoedd. Fel y dywed yn ei ragair, diddordeb

    personol oedd y cymhelliad i fynd ati igasglu cerddi a chyhoeddi blodeugerddgoffa i Waldo. Mae ynddi drigain a dwy ogerddi ac englynion gan ddeugain ofeirdd, ac mae’r amrywiaeth yncyfoethogi’r gyfrol gyda phob math offurfiau a mesurau. Ynddi ceir cynifer oleisiau gwahanol hefyd, nifer wedi eingadael erbyn hyn ond pob un yn llawnedmygedd o waith Waldo. Dosbarthwyd y gyfrol yn bedair adran.

    Mae’r gyntaf yn cynnwys cerddi teyrngeda gyfansoddwyd i Waldo yn ystod ei oes,ac yn yr ail ran ceir cerddi coffa’rblynyddoedd yn dilyn ei farw yn 1971. Yny drydedd adran ceir cynnyrch yblynyddoedd yn dilyn canmlwyddiant eieni yn 2004, ac yna i gloi ceir casgliad oenglynion. Mae nifer o feirdd wedicyfrannu at sawl un o’r cyfnodau, beirddmegis James Nicholas, T. Llew Jones, DicJones, Alan Llwyd ac Eirwyn George. Mae’r cerddi a luniwyd yn ystod

    bywyd Waldo gan ei gyfoedion a’igyfeillion yn aml yn cyfeirio atddigwyddiadau penodol a fu’n rhan osafiad Waldo dros ei fro, ei iaith a throsheddwch. Cyfeirir at ei gyfnod yn ycarchar gan sawl bardd, ac mae T. LlewJones yn adleisio’r gefnogaeth i ymgyrchWaldo dros heddwch drwy wrthod talutreth incwm:

    Ynghanol ein bydolrwyddDiolch fod un, ta beth,Yn ddigon egwyddorol I wrthod talu’r dreth.

    Yn yr adran hon hefyd mae cerdd rymusgan T. E. Nicholas, Niclas y Glais, un aaned ar lethrau’r Preselau ac agarcharwyd hefyd yn Abertawe am eiddaliadau dros heddwch flynyddoeddynghynt. Mae’n darlunio’r ystafell gydagymwelwyr a chefnogwyr Waldo:

    Eisteddai Waldo yn llawen a syn Â’i lyfr a’i bensel a’i bapur gwyn,A Chymry gwlatgar yn llenwi’r gell, Cyfeillion y bardd o agos a phell.

    Ceir nifer o gerddi coffa yn y cyfnod sy’ndilyn marwolaeth Waldo yn 1971 ac ynsgil dadorchuddio’r gofeb iddo ymMynachlog-ddu yn 1978. Mae’rcyfeiriadau at ymgyrchoedd y bardd acherddi’r gyfrol Dail Pren yn britho’r

    cerddi hyn. Hoffais yn fawr y gerdd ‘Cipar Waldo’ gan Eirwyn George, golygydd ygyfrol, un a gafodd y fraint o adnabodWaldo a bardd sydd wedi cyfannu cyfnody flodeugerdd. Dyma ran o’r gerdd hon:

    A gweld Un yn eu canol Yn uwch o ben ac ysgwyddau Yn rhodio’r maes â rhychwant ei oleuni’n Gafael ynom Yn nhawelwch iasol y Ddau Gae.

    Teimlais yn aml wrth ddarllen y cerddifod y beirdd yn llwyddo i ychwanegu achyfoethogi barddoniaeth Waldo ei hunwrth ddarlunio’u profiadau personol.Dysgais lawer amdano wrth ddarllen ygyfrol. Fe’m swynwyd gan gywydd Mererid

    Hopwood, un o ddwy wraig yn unig syddâ cherdd yn y gyfrol. Mae cynildeb ydweud yn nodweddiadol ohoni, un syddâ’i gwreiddiau teuluol yn sir Waldo ac ynun o’i ffans mwyaf. Mae’r cywydd yncychwyn fel hyn:

    Ynddo fe cawn neuadd fwyo hyd, pob wal yn adwy,ac yn y bwlch gwyn ein byd,cawn fan lle cân y funudgân daer holl genadwristori’r awr; di-stfir yw hi;

    Ac ar y dudalen ganlynol mae perl ogywydd gan Eurig Salisbury, ganbwysleisio cyfoeth y beirdd sydd wedi eucynrychioli yn y gyfrol. Fe yw un o’rbeirdd ifancaf a gynrychiolir yn y gyfrol,ac fel eraill wedi dod i edmygu Waldodrwy ei farddoniaeth a darllen amdano.Mae cerdd rydd Menna Elfyn yn

    seiliedig ar gof plentyn o glywed amsafiad Waldo ac yn cyferbynnu’n odidogâ’r ddau gywydd hyn. Dyna sy’n wych amyr amrywiaeth o ganu a geir yma, gan

    ddangos sut mae ein barddoniaeth wediesblygu yn ystod y cyfnod hwn. Mae honyn gyfrol hyfryd ym mhob ystyr, a dylaifodloni’r rhai fu’n gyfrifol am ei hysgogi. Pwysleisia rhai o’r cerddi mwy

    diweddar mor gyfoes ac o flaen ei amseryr oedd Waldo. Dywed Wyn Owens yn eigywydd:

    Enw a ddeil i linachY broydd hyn, bardd yw ef I’n dyddiau a’n dioddef.

    Mae’r detholiad o englynion sy’n cloi’rflodeugerdd hefyd yn crynhoi bywyd abarddoniaeth Waldo yn drawiadol iawn.Beth am un gan Ceri Wyn Jones feltamaid i aros pryd?

    Tra bo iaith byd natur bydd – geiriauy gfir mwyn o’r newydd [mawr

    yn mydryddu’r awyr rydda throi’r waun yn athronydd.

    Gallwn ddyfynnu’n helaeth o’r cerddi, abyddaf yn sifir o estyn amdani i’w darllenyn rheolaidd. Ond mae’r flodeugerdd yn fwy na

    hynny hefyd: mae’n cynnwysbywgraffiad byr o Waldo, nodiadau am raio’r beirdd a phwt o wybodaeth am ambellgerdd, sy’n hynod werthfawr. Gosodwydy cyfan gyda darlun nodweddiadol o’rPreselau gan Wynne Melvlle Jones ar yclawr, ac mae’r gyfrol yn gyfanwaith sy’ngwneud cyfraniad amhrisiadwy i’nbarddoniaeth ac yn anrheg Nadoligardderchog.

    Geraint Roberts

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 4, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Blodeugerdd Waldo: Teyrnged y BeirddGolygydd: Eirwyn George – Gwasg y Lolfa, £7.99

    Sul, 6 Rhagfyr

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr wythnos yma Nia fydd yn sgwrsiogyda Cynan Llwyd i glywed mwy amnod apêl Nadolig Cymorth Cristnogoleleni, ac fe gawn ddysgu am gefndircarol arbennig sydd wedi ei chyfansoddiar gyfer yr apêl. Daw’r carolau o bobrhan o Gymru.––––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru6 Rhagfyr am 12:00yp

    yng ngofalDelwyn Sion, Caerdydd –dan seren yn y Dwyrain

  • CWESTIWN Y DOETHION‘Ble mae’r hwn a anwyd?’ Dyna gwestiwn ytri Gfir Doeth wedi iddynt gyrraeddJerwsalem. Fe wyddom i gyd am y profiado golli’n ffordd mewn lle dieithr, a hynny, ynamlach na pheidio, wrth i ni nesu at benein taith. Ar filltiroedd olaf eu taith hir o’rDwyrain pell, wedi dilyn y seren, a hwythauwedi dod i olwg dinas Jerwsalem, maennhw’n colli eu ffordd. Cael eu hunain ymmhalas y brenin y maen nhw, gan eu bodyn tybio eu bod yn gwybod ble roeddbrenin wedi ei eni.

    Dros fiyl y Nadolig fe awn ninnau ar einpererindod flynyddol at grud y babanIesu. Ond y mae perygl i ninnau, fel ytri Gfir Doeth, fynd ar goll am ein bodyn tybio ein bod yn gwybod ble y mae.Ond mae’r baban hwn i’w gael mewnlleoedd rhyfedd ac annisgwyl.

    Yn ei lyfr God of Surprises dywed ydiweddar Gerald Hughes fod Duw ynein cyfarfod yn lleoedd dirgel acannhebygol ein bywydau ond inni fodyn ddisgwylgar ac yn agored iddo.Heddiw, fel erioed y mae lle i ofni einbod yn methu â’i adnabod am ein bodyn tybio ein bod yn gwybod yr ateb i’rcwestiwn: ‘Ble mae’r hwn a anwyd?’

    Ateb yr anffyddiwr ydi fod y Crist hwnyn perthyn i’r gorffennol pell: ar y goraunid yw’n ddim mwy na ffigur annelwigar goll yn niwloedd hanes ac yngymysg â chwedloniaeth acofergoeliaeth. Perthyn i’r gorffennol ymae ac o ganlyniad y mae’namherthnasol i’n hoes oleuedig ni.

    Ateb y rhamantydd ydi fod y Baban i’wganfod yng nghanol y celyn a’r cardiau,y trimins a’r tinsel. Ac mae’r crefyddwryr un mor bendant ei ateb. Mae Iesu i’wganfod ymysg pethau crefydd a chapel.Ond y mae perygl inni i gyd golli’r ffordd iFethlehem am ein bod yn gaeth i’nrhagdybiaethau ac i hen draddodiadau.

    Mewn lle gwahanol iawn i’wrhagdybiaethau y cafodd y tri Gfir Doeth

    hyd iddo yn y diwedd. Syrpreis iddynt oeddcael hyd iddo mewn preseb. Bob blwyddyndarlledir y Gwasanaeth Naw Llith NawCarol o Gapel Coleg y Brenin, Caergrawnt.Y tu cefn i’r allor yn y capel hwnnw y maedarlun enwog Reubens o’r Doethion ar eugliniau yn y gwellt yn addoli’r Baban yn eigrud. Fe’i gwelir yn eu gwisgoedd hardd yncyflwyno rhoddion drudfawr iddo. Ond yrhyn sy’n drawiadol yw bod yr arlunyddwedi llwyddo i gyfleu’r syndod ar wynebau’rTri – y syndod o weld brenin mewn beudy,o weld gwaredwr ymysg y gwartheg.

    I ganfod y Baban ynghanol ein dathliadauy mae’n bwysig ein bod ninnau yn ei geisioyn y mannau hynny lle mae i’w gael ac nidcael ein camarwain gan ein rhagdybiadau.Yn hytrach cawn hyd iddo yn yr un mannauag y cafodd y Doethion hyd iddo.

    Yn gyntaf y mae i’w ganfod ym mynwesteulu. Gyda Mair ei fam a Joseff y cafodd yDoethion ef. A byth oddi ar y Nadolig cyntafy mae Cristnogion wedi pwysleisiopwysigrwydd a sancteiddrwydd aelwyd achartref.

    Yn ein cartrefi y daeth y rhan fwyafohonom i ganfod Iesu Grist gyntaf. Cariada gofal rhieni a’u hesiampl a’u dylanwadhwy a argraffodd arnon ni gariad aphrydferthwch ein Gwaredwr. Ond erbynheddiw y mae secwlariaeth a’r cefnu argrefydd yn arwain at danseilio bywyd teulugyda’r canlyniad fod nifer fawr o gartrefi’nchwalu ac effaith hynny ar gymdeithas acar blant a phobl ifanc yn arbennig yn

    amlwg. Y mae cyfrifoldeb arnom felCristnogion amser y Nadolig isicrhau fod Iesu Grist yn cael ei le arein haelwydydd.

    Lle arall i ganfod y Baban yw ymhlithy tlodion. Nid yng nghanol cyfoeth amoethusrwydd palas y brenin ynJerwsalem yr oedd hwn, ond ‘heb leyn y llety, heb aelwyd, heb wely.’ Nidmewn digonedd a chyfoeth y mae’rBaban Iesu i’w ganfod heddiw, ondble bynnag y mae pobl mewntristwch, mewn adfyd, ac mewncynni. Arwyddocâd yr ymgnawdoliadyw bod Duw wedi dod mewn cnawdi’n daear ni ac wedi ei uniaethu eihun â dyn yn ei gyflwr isaf, yn eiwendid, ei dlodi a’i drallod.Yn drydydd, y mae i’w ganfodymhlith y tangnefeddwyr. Y mae ynyr hanes gyferbyniad bwriadol rhwngbyd Cesar Awgwstws a’i filwyr â bydy bugeiliaid ac awyrgylch y stabl ymMethlehem. ‘Gwyn eu byd ytangnefeddwyr’ meddai Iesu, a‘Gwyn eu byd’ y rhai sydd, heddiw,yn byw yn ôl egwyddorion teyrnas yBaban a anwyd dwy fil oflynyddoedd yn ôl, ‘canys hwy a elwiryn blant i Dduw.’

    Elfed ap Nefydd Roberts

    (Cynhwysir yr ysgrif olaf hon gan ydiweddar Barch Ddr. Elfed ap NefyddRoberts drwy ganiatâd a chydsyniadEiddwen Jones)

    Rhagfyr 4, 2020 Y Goleuad 7

    O hwnt ac yma

    Gweddi am dangnefedd‘Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy’n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.Bydd ffyddlondeb yn tarddu o’r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd.’

    Salm 85:9-11.

    Arglwydd Iesu Grist, Dywysog ein Tangnefedd fe’th geisiwn di.

    Ar draws y ddaear oll yn grwn clywn am rwygiadau mewncymdeithas – y cyfoethog yn ymgyfoethogi, y tlawd yn dlotach oddydd i ddydd. Clywn am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd. Clywnam afiechydon a heintiau’n bygwth bywydau miliynau. O Grist, erna haeddwn hyn a wneid di ‘gusanu euog fyd’ yn dy ras a’thgariad.

    Arglwydd Iesu Grist fe’th geisiwn ar ran ein byd. Cyffeswn einhunanoldeb. Cyffeswn ei fod yn rhwyddach gau’n llygaid a

    chaledu’n calonnau rhag gweld a chlywed angen byd nag ydyw iymateb i ddioddefaint.

    O Grist, tywysog ein tangnefedd, Arglwydd ein heddwch ni,trugarha wrth ein byd. Lle mae rhyfel a thrais, bygythiad ac ofn,ansicrwydd a phryder tyrd Arglwydd Iesu, drwy dy Ysbryd Glân âheddwch i’n byd.

    O Arglwydd, Dduw, Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,dywysog ein heddwch ni, caniatâ i ninnau ymrwymo i weithio oblaid heddwch er lliniaru poen y byd. Caniatâ i ninnau yn dyeglwys fod yn rhan o’r ateb ac nid yn rhan o’r broblem. Yn nhymoryr Adfent a ddoi di atom drwy dy Ysbryd Glân i’n hadnewyddu a’ncryfhau i fod yn dystion i’th ‘dangnefedd’ ac yn gyfryngau dyhedd.

    O Grist, o Dywysog ein Tangnefedd fe’th geisiwn mewngostyngeiddrwydd, yn ein hangen, mewn hiraeth am dyymweliad. Maranatha. Tyrd Arglwydd Iesu. Bydded i’thdangnefedd di sydd uwchlaw pob deall warchod ein calonnau a’nmeddyliau yng Nghrist Iesu yn ystod y tymor Adfent hwn.

    Amen

  • 8 Y Goleuad Rhagfyr 4, 2020

    • Wythnos nesaf – Sylw o’r seidin •

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…EMYN 441:

    GWEDDIDad Nefol, diolchwn dy fod yn Arglwyddhollbresennol, a thrwy dy ysbryd, gydaninnau wrth inni ymlonyddu i dy addoli.Boed i’r munudau hyn o addoliad fod yngyfrwng inni ymlonyddu ac i agosáu atat,a phrofi dy gwmnïaeth a’th fendith.Gofynnwn hyn yn enw’r baban ddaeth yngeidwad byd, Iesu Grist. Amen.

    DARLLENIAD: Eseia 40:1-11

    Bydd cychwyn tymor yr Adfent, i lawer, ynfodd i sylweddoli fod y Nadolig yn prysuragosáu. Yn naturiol, cyfnod o ymbaratoiyw’r tymor hwn i’r Cristion hefyd, a hynnydrwy fyfyrdod a gweddi, i nodi Duw’nymweld â’n byd ar ffurf baban. Yn amliawn mewn Eglwysi, darperir torch yrAdfent, a symbolaeth pob cannwyll yngyfle i baratoi ein hunain ac ystyriedgwahanol agweddau o’r hanes rhyfeddolhwn am ddyfodiad y Crist.

    Ceir sawl enghraifft yn llyfr y ProffwydEseia o’r rhagfynegiad am ddyfodiad MabDuw i’r byd, a’r angen i baratoi ar gyfer ydyfodiad hwnnw, a cheir hynny yn ydarlleniad heddiw.

    Y Duw personol

    Mae Eseia 40-66 yn gyfres o benodausydd â’r thema o gysur yn rhedegdrwyddynt, a hynny’n cychwyn gyda’rgeiriau cyfarwydd, ‘Cysurwch, cysurwchfy mhobl…’. Siarad yn uniongyrchol â’ibobl y mae Duw yma, gyda’r defnydd o’rgair ‘fy’ yn creu’r ddolen bersonolrhyngddynt. Roedd Duw yn eu hadnabod,yn gwybod eu sefyllfa, wedi clywed eu cri,ac yn llwyr ymwybodol o’r hyn oedd wedidigwydd iddynt, megis dinistr y Deml.Dyma Dduw, drwy’r proffwyd, yn siarad ynuniongyrchol â nhw eiriau o gysur ac oobaith. Mae’r Duw byw a addolwn ac agydnabyddwn yn Arglwydd yr un ymmhob cenhedlaeth, a diolch ei fod yn einhadnabod ninnau hefyd, yn ymwybodolo’n amrywiol sefyllfaoedd acamgylchiadau, yn adnabod ein cryfderaua’n gwendidau, a thrwy ei adnabyddiaethbersonol ohonom, a’i gariad diderfyn tuagatom, yn cynnig i ninnau gysur a gobaith.

    Yn nyfodiad Iesu, bu i Dduw agosáuatom. Drwy ddyfodiad ei unig-anedig Fab,yr Emaniwel, profwyd ‘Duw gyda ni.’ Drwyei ras a’i gariad yn Iesu Grist, agorwyd yffordd, i bawb ohonom, brofi bendithadnabyddiaeth bersonol â Duw.Rhyfeddod hanes y geni yw, nid yn unig i’r

    ‘Gair ddod yn gnawd’, ond hefyd iddo‘breswylio yn ein plith.’ Diolch ei fod yn dali breswylio yn ein plith, ac yn Arglwyddhollbresennol sy’n rhoddi cysur a gobaithinni yn ei gariad.

    Y ffordd.

    Fel y nodir ym mhennod 44, mae sawlpeth wrth i’r bobl edrych ymlaen yngynwysedig yn y gobaith hwn, gangynnwys adfer Jerwsalem. Ond mae’ncynnig gobaith llawer mwy hefyd, amddyfodiad y Meseia.

    Dyfynnir geiriau Eseia 40:3 yn Mathew3:3, ac mae awdur yr Efengyl yn nodi maicyfeirio at ddyfodiad Iesu i’r byd maeEseia. Dyma, felly, gyhoeddiad llawncysur a gobaith a gwahoddir y bobl, drwy’ralwad, i baratoi’r ffordd. Pan fyddaiymweliad o bwys yn digwydd, neu wrthddod ag eicon o un o’r duwiau, byddai’narferiad gan bobl y cyfnod hwnnw ibaratoi ffordd iddynt allu teithio ar hyd-ddi.Ond y tro hwn, nid ymwelydd o bwysfyddai’n dod, neu un o’r duwiau, ond yDuw byw yn ymweld â’i bobl, y Crist, yMeseia. Dyma’r dyfodiad mwyaf yn hanesy byd, a rhaid oedd paratoi’r ffordd. Panfydd y ffordd yn barod, a phan fydd Ef yncerdded y llwybr, ‘Datguddir gogoniant yrArglwydd….’

    Yn nyfodiad Crist, daeth teyrnas Duw ynagos, ac agorwyd y ffordd pob cam at yTad i bawb a gredai ynddo.

    Gras a chariad yw sylfeini’r ffordd honno,a’r ffordd yn agored i ninnau ei cherdded.A ydym yn barod i’w cherdded, heibioBethlehem y Nadolig hwn, drwy barthauGalilea, a thua Chalfaria a’r bedd gwag?Os ydym, gallwn ninnau weld a phrofi, allawenhau yn y newyddion da drwy’rmodd y ‘Datguddir gogoniant yrArglwydd’.

    Cyhoeddwch!

    Wrth syllu ar ddarlun o’r geni ymmhasiant Nadolig y Plant, hawdd ywedrych ar y pictiwr perffaith hwnnw feldiwedd y stori a grëwyd canrifoeddynghynt; tadogi’r digwyddiad i ddoe ynunig. Yn adnodau 6-8, cawn ein hatgoffa,er bod geiriau pobl yn amrywio ogenhedlaeth i genhedlaeth, ‘mae gair einDuw ni yn sefyll byth’, a’r un ywgwahoddiad yr Arglwydd i’w bobl ymmhob cenhedlaeth.

    Yr un yw ei wahoddiad i ddod at erchwyny gwely gwair a syllu, canfod ac adnabodyr Emaniwel, Duw gyda ni, ac o’i brofi’n

    Dduw sy’n parhau i fod yn hollbresennol,a chyda ni yn ogystal â’r bugeiliaid a’rdoethion, sylwn ar rym yr Efengyl a’iberthnasedd i’n byd a’n bywydau ninnauheddiw. Am Efengyl, am newyddion da!Am hynny, fel y mae adnodau 9-11 yn eingwahodd, cyhoeddwn hyn, a phrofwnfendith, drwy’r baban, o gael adnabod abod yn blant Duw.

    EMYN 458:

    GWEDDI

    O Dduw ein Tad, diolchwn am Dy air inniheddiw. Drwy’r proffwyd, cawsom einharwain unwaith eto i gael ein hatgoffamai Duw agos atom wyt Ti, sy’n einhadnabod ac sy’n ein caru. Drwyddyfodiad dy fab, Iesu Grist, gwahoddwydni i berthynas llawn â Thi, a phrofi o’th ofalâ’th gysur, dy nerth â’th arweiniad.

    Rhyfeddu ‘rwyf, O Dduw, dy ddyfod yn y cnawd, rhyfeddod heb ddim diwedd yw fod Iesu imi’n Frawd.

    Maddau inni os byddwn yn colli golwg ary rhyfeddod hwn, ac yn cymryd einperthynas â Thi yn ganiataol.

    Diolch am y rhai sydd, o genhedlaeth igenhedlaeth, wedi cerdded dy ffordd, acwedi tywys eraill at y ffordd honno. Arwainninnau, yn ystod y tymor hwn o baratoi, igerdded y ffordd honno, ac i dywys eraillat y llwybr atat Ti. Cyflwynwn waith yrEglwysi yn ystod y Nadolig hwn; yr her ynogystal â’r cyfleoedd mewn cyfnodgwahanol iawn yn hanes ein byd.

    Cod ein golygon tuag atat Ti yn ystod ytymor hwn o baratoi, yn ystod y Nadolig.Caniatâ inni ganfod y ffordd atat Ti, ac osyr aiff y daith yn dywyll ar brydiau, ogodi’n golygon, gallwn fod yn sicr, yngnghanol duwch y nos, y bydd dy serenDi yn disgleirio, yn ein tywys a’n harwain.

    Y Fendith (Y Colect ar gyfer yr ail Sulyn Adfent o’r Llyfr Gweddi 1984):

    Deffro ein calonnau, erfyniwn arnat,O Arglwydd, i baratoi’r ffordd ar gyferdyfodiad dy unig-anedig Fab; fel y bo i ni,a’n meddyliau wedi eu puro, trwy ras eiddyfodiad, allu dy wasanaethu’n ffyddlonholl ddyddiau ein bywyd; trwy’r un IesuGrist ein Harglwydd, sy’n byw ac ynteyrnasu gyda Thi a’r Ysbryd Glân, yr awrhon ac yn dragywydd. Amen.

    Parch Carwyn Siddall, Llanuwchllyn

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.