20
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 449 449 449 449 449 Tachwedd 2019 achwedd 2019 achwedd 2019 achwedd 2019 achwedd 2019 60c Ar Fedi yr 21ain cynhaliwyd Pencampwriaeth Aredig a Phlygu Gwrych Cymru ar fferm Gwern-y-go, Sarn drwy garedigrwydd Edward a Judith Gethin. Mae Judith yn ferch i’r diweddar Maldwyn Bennett, Mount Pleasant, Adfa a Kaye sydd bellach yn byw yn Abermiwl. Yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth aredig roedd Evans Watkin, Tybrith, Cefn Coch. Mae Evan wedi ennill sawl pencampwriaeth dros y blynyddoedd ac mae’n bleser dweud mai fo enillodd Bencampwriaeth Cymru yn Sarn eleni. O ganlyniad i ennill y gystadleuaeth mae Evan yn cymhwyso i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Aredig y Byd yn St Petersburgh, Rwsia ym mis Awst 2020. Daeth Evan yn gyntaf hefyd yn Cruckton ond yr eisin ar y gacen eleni oedd ennill Prif Bencampwriaeth Prydain a gynhaliwyd yn Beeswax Dyson Farm, Nocton Lincolnshire ar Hydref y 12fed a 13eg. Dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i Gymro ennill y bencampwriaeth. Rydym fel ardal yn ymfalchio yn ei lwyddiant ysgubol ac yn dymuno’n dda iawn iddo yr haf nesaf yn Rwsia. OND, dwi’n credu fod Menna yn haeddu medal hefyd am bolisio yr holl gwpanau yna! Er i Hen Fegin ffurfio nôl yn 2015, a hwythau wedi perfformio’n eang ledled Cymru, dyma fydd eu halbwm gyntaf. Mae’r band yn cynnwys pedwar aelod. Pedwar o gogie Maldwyn! Roy Griffiths o Gwm Nant y Meichiaid a Jac Gittins o Bentre Beirdd – y ddau’n adnabyddus ar y sîn werin yng Nghymru ers eu dyddiau gyda’r band Plethyn, Bryn Davies o Foelfre – gynt o Ci Du a Phen Tennyn, a Rhys Jones o’r Drenewydd. Mae’r albwm newydd yn gyfuniad o’r hen a’r newydd. Ceir cymysgedd o alawon Cymreig offerynnol, caneuon di-gyfeiliant a chanu harmoni tri llais. Mae’r caneuon gwreiddiol yn cynnwys geiriau ac alawon newydd sbon gan aelodau o’r band, a chan y Prifardd Penri Roberts (Theatr Maldwyn) a’r bardd Arwyn Groe - dau arall o gogie Maldwyn. Bydd y CDs ar werth yn fuan yn eich siop Gymraeg leol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â henfegin @gmail.com neu Facebook/HenFegin. Ceir yno hefyd linc i Soundcloud i gael rhagflas o’r albwm. LANSIO ALBWM CYNTAF HEN FEGIN - “HWYL I TI NGWAS” DATHLU 50 MLYNEDD CANGEN Y FOEL A’R CYLCH Ar brynhawn dydd Sul y 6ed o Hydref daeth aelodau Cangen Merched y Wawr y Foel a’r Cylch i Fwyty’r Dyffryn i fwynhau te prynhawn arbennig. Y rheswm dros y te parti yma oedd i nodi hanner can mlynedd ers sefydlu’r gangen. Roedd sawl llyfr lloffion a chasgliad o luniau i’w gweld y prynhawn hwnnw a sylweddolwyd fod y gangen wedi gwneud pethau rhyfeddol dros y blynyddoedd! Rydym wedi cymryd rhan mewn amrywiaethau o weithgareddau ac wedi croesawu cannoedd o siaradwyr diddorol i’n plith ac mae’n debyg wedi tynnu ambell i raffl a gwneud galwyni o de. EVAN YN BENCAMPWR PRYDAIN

EVAN YN BENCAMPWR PRYDAIN · 2020. 2. 14. · Cyswllt Arfon Gwilym a Sioned Webb A fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyn ddydd Sadwrn, ... Daeth cynulleidfa

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    449449449449449 TTTTTachwedd 2019achwedd 2019achwedd 2019achwedd 2019achwedd 2019 6666600000ccccc

    Ar Fedi yr 21ain cynhaliwyd PencampwriaethAredig a Phlygu Gwrych Cymru ar ffermGwern-y-go, Sarn drwy garedigrwydd Edwarda Judith Gethin. Mae Judith yn ferch i’rdiweddar Maldwyn Bennett, Mount Pleasant,Adfa a Kaye sydd bellach yn byw ynAbermiwl.Yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth aredigroedd Evans Watkin, Tybrith, Cefn Coch. MaeEvan wedi ennill sawl pencampwriaeth drosy blynyddoedd ac mae’n bleser dweud mai foenillodd Bencampwriaeth Cymru yn Sarneleni. O ganlyniad i ennill y gystadleuaethmae Evan yn cymhwyso i gynrychioli Cymru

    ym Mhencampwriaeth Aredig y Byd yn StPetersburgh, Rwsia ym mis Awst 2020. DaethEvan yn gyntaf hefyd yn Cruckton ond yr eisinar y gacen eleni oedd ennill PrifBencampwriaeth Prydain a gynhaliwyd ynBeeswax Dyson Farm, Nocton Lincolnshirear Hydref y 12fed a 13eg. Dyma’r tro cyntafers blynyddoedd i Gymro ennill ybencampwriaeth.Rydym fel ardal yn ymfalchio yn ei lwyddiantysgubol ac yn dymuno’n dda iawn iddo yrhaf nesaf yn Rwsia. OND, dwi’n credu fodMenna yn haeddu medal hefyd am bolisio yrholl gwpanau yna!

    Er i Hen Fegin ffurfio nôl yn 2015, a hwythauwedi perfformio’n eang ledled Cymru, dymafydd eu halbwm gyntaf. Mae’r band yncynnwys pedwar aelod. Pedwar o gogieMaldwyn! Roy Griffiths o Gwm Nant yMeichiaid a Jac Gittins o Bentre Beirdd – yddau’n adnabyddus ar y sîn werin yngNghymru ers eu dyddiau gyda’r band Plethyn,Bryn Davies o Foelfre – gynt o Ci Du a PhenTennyn, a Rhys Jones o’r Drenewydd.Mae’r albwm newydd yn gyfuniad o’r hen a’rnewydd. Ceir cymysgedd o alawon Cymreigofferynnol, caneuon di-gyfeiliant a chanuharmoni tri llais. Mae’r caneuon gwreiddiol yncynnwys geiriau ac alawon newydd sbon ganaelodau o’r band, a chan y Prifardd PenriRoberts (Theatr Maldwyn) a’r bardd ArwynGroe - dau arall o gogie Maldwyn.Bydd y CDs ar werth yn fuan yn eich siopGymraeg leol. Am fwy o wybodaethcysylltwch â [email protected] neuFacebook/HenFegin. Ceir yno hefyd linc iSoundcloud i gael rhagflas o’r albwm.

    LANSIO ALBWM CYNTAF HENFEGIN - “HWYL I TI ’NGWAS”

    DATHLU 50 MLYNEDD CANGEN Y FOEL A’R CYLCHAr brynhawn dydd Sul y 6ed o Hydref daeth aelodau Cangen Merched y Wawry Foel a’r Cylch i Fwyty’r Dyffryn i fwynhau te prynhawn arbennig. Y rheswmdros y te parti yma oedd i nodi hanner can mlynedd ers sefydlu’r gangen. Roeddsawl llyfr lloffion a chasgliad o luniau i’w gweld y prynhawn hwnnw a

    sylweddolwyd fod y gangen wedi gwneud pethau rhyfeddol dros y blynyddoedd! Rydym wedicymryd rhan mewn amrywiaethau o weithgareddau ac wedi croesawu cannoedd o siaradwyrdiddorol i’n plith ac mae’n debyg wedi tynnu ambell i raffl a gwneud galwyni o de.

    EVAN YN BENCAMPWR PRYDAIN

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    DYDDIADURTach. 2 Coelcerth a Thân Gwyllt RhiwhiriaethTach. 9 (Sadwrn) am 2 o’r gloch yn Oriel Davies

    Y Drenewydd. Sgwrs a phaned yngSgwrs a phaned yngSgwrs a phaned yngSgwrs a phaned yngSgwrs a phaned yngnghwmni Eleri Millsnghwmni Eleri Millsnghwmni Eleri Millsnghwmni Eleri Millsnghwmni Eleri Mills. Dewch i ddysguam ei gwaith celf sydd yn pontioarddulliau paentio, lluniadu, a thecstilau.Cyflwyniad unigryw i’wharddangosfa ‘Egni: degawd ogreadigrwydd’ yn Oriel Davies sy’nparhau tan Ragfyr 18. £10 yncynnwys te prynhawn. Mae angenarchebu: orieldavies.org 01686 625041Mae’r sgwrs hon trwy gyfrwng yGymraeg.

    Tach. 15 Cymanfa Werin yn Neuadd Llanerfyl am7.30 i ddathlu can mlynedd ersgenedigaeth Merêd. Arweinwyr ArfonGwilym a Sioned Webb. Dan nawddG@yl Gerdd Dant 2020. Mynediad £8

    Tach. 19 Clwb Hanes Pontrobert yn cynnal nosonefo Carol Pearce yn trafod hanes JohnKelsall. 7.00yh yn neuadd y Pentre

    Tach. 21 Darlith ar ‘Cann Offis’ gan Alwyn Hughesyn Nhafarn y Cann Offis am 7.30. Dannawdd Cymdeithas Hanes DyffrynBanw.

    Tach. 23 Eisteddfod y Foel yng Nghanolfan yBanw

    Tach. 24 Ras Santa (1pm o Lanerfyl) a FfairNadolig yn Cann Offis 2.30pm. Elw erbudd Cylch Meithrin Dyffryn Banw

    Tach. 25 Cymdeithas Gymraeg Pont a Meifod.Cwis dan ofal Roy ac Anwen Griffiths ynNeuadd Pontrobert am 7.30 o’r gloch

    Tach. 26/27/28 Sioe Gerdd ‘Dal Sownd’ (Hairspray)gan ddisgyblion Ysgol UwchraddCaereinion yn y Ganolfan Hamdden.Ffoniwch yr Ysgol Uwchradd 01938810888 i archebu tocynnau.

    Tach. 28 Cylch Darllen Dyffryn Banw yn trafod‘Perthyn’ gan Siân Northey yn y CannOffis am 7.30

    Tach. 30 Cyngerdd yn Neuadd Pontrobert efoCôr Meibion Penybontfawr am 7.30.

    Rhagfyr 6 (Nos Wener)Ffair Nadolig Llanerfyl gydastondinau a bingo Nadolig. Mins peis agwin poeth ac adloniant. I logistondin(£5) cysylltwch â Becki 07778273833, Jane 07850 388741 neuaelodau Pwyllgor Llanerfyl

    Rhagfyr 7 Nadolig Celtaidd yng Nghymru gydaCalan. Theatr Llwyn, Ysgol UwchraddLlanfyllin - gig codi arian i #yl CerddDant Bro Nansi

    Rhagfyr 25 yn Hen Gapel John Hughes Pontrobertam 6 y bore, PLYGAIN. Gwin poeth amins pei wedyn. Croeso i bawb. (01938500631)

    Ionawr 9 Cymdeithas Gymraeg Pont a Meifod.Noson gyda Tegwyn Jones,Talyglannau. Neuadd Meifod am 7.30.

    Ionawr 24 Dathlu Noson Santes Dwynwen ynneuadd bentref Llanerfyl gyda GeraintLovgreen a’r Enw Da. Bwyd a Bar. Dannawdd Ffrindiau Ysgol Llanerfyl

    Ionawr 25 Swper Santes Dwynwen ar gyfer G@ylCerdd Dant Bro Nansi ac Adran Dramaa Cherdd Ysgol Uwchradd Caereinionyn yr Institiwt. Adloniant gan ddisgybliona chyn ddisgyblion Ysgol UwchraddCaereinion. Tocynnau £12 i oedolion, £6i blant. Swper a phwdin a bar. 7.30pm.Tocynnau gan Ruth 07786 361 346Glandon 810643 ac Alun

    Chwef. 3 Cymdeithas Gymraeg Pont a Meifod.Noson yng nghwmni Lowri Davies,Meter a Busnes yn Neuadd Pontrobertam 7.30.

    Mawrth 6 Cymdeithas Gymraeg Pont a Meifod ynDathlu G@yl Ddewi gyda Linda Griffithsyn Neuadd Pontrobert am 7.30.

    DiolchPleser mawr i mi oedd darllen erthygl Mari oGaerdydd yn dweud fod Rose, ei chwaer, yndarllen a mwynhau fy llyfr, er ei hafiechyd.Da yw bod mewn cysylltiad gyda ffrindiau oamser ysgol. Gobeithiaf glywed oddi wrthyntrhywbryd.Glenys Sweeting

    DiolchDymuna Ruth a theulu’r diweddar Tom Jones,Pentalar, Adfa ddiolch am y caredigrwydd a’rcydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn euprofedigaeth. Diolch am y cardiau, llythyron,galwadau ffôn, presenoldeb yn yr angladd a’rrhoddion hael er cof.Diolch i’r Parch Peter Williams am arwain ygwasanaeth ac i’r Parchedigion EuronHughes, Roger Ellis Humphreys a GwyndafRichards am eu cymorth. Diolch i’rorganyddes Mrs Doreen Jones a MaldwynEvans am arwain y canu. Diolch am yteyrngedau diffuant gan Maldwyn Evans, JohnYeomans a Sarah Mesruther (gor-nith); i RoyWatkin, Milton Jones, Linda James a DavidJones y tywyswyr; i Terry Foulkes, Ian Lewis,Wyn Jenkins a John Yeomans y cludwyr; iEdgar Jones a Hefin Jones am eu gofal efo’rparcio. Diolch i Sian Foulkes am y blodauhyfryd yn y Capel ac i Menna Watkin amddarparu lluniaeth.Diolch yn fawr iawn i Geraint ac Anne Peateam eu caredigrwydd a’u gofal proffesiynolgyda threfniadau’r angladd. Gwerthfawrogwydy cyfan yn fawr iawn.

    DiolchDymuna Gwyneth Tudor ddiolch o waelodcalon am bob arwydd o gyfeillgarwch yn ystodei gwaeledd yn ddiweddar. Diolch i gyfeilliona chymdogion a’r teulu i gyd am eu consyrnac am lu o ddanteithion. Diolch yn fawr iawn.

    DiolchDymuna David Davies, Glanymorfa,Llangadfan ddiolch yn ddiffuant i’w gymdogiona’i gyfeillion am yr ymholiadau a’rcaredigrwydd a ddangoswyd tuag ato tra buyn yr ysbyty. Gwerthfawrogir y cyfan yn fawriawn.

    RhoddDiolch i Mrs Joyce Ellis am ei rhodd i’r Plu, ercof am Wynn.

    Meredydd Evans yn 100: CymanfaoeddGwerin (Cymanfaoedd Codi’r To) i’w cynnalledled Cymru i ddathlu.Eleni fe fyddai’r ymgyrchydd a’r canwr gwerinMeredydd Evans yn gant oed.I ddathlu’r ganrif mae Ymddiriedolaeth WilliamSalesbury yn trefnu cyfres o gymanfaoeddCodi’r To - cymanfaoedd gwerin anffurfiol -ledled Cymru.Pam? Pan oedd Merêd ac eraill yn codi ariani sefydlu a chynnal y Dinesydd, papur broCaerdydd, yng nghanol y 1970au fe drefnoddgyfres o gymanfaoedd codi’r to i godi arian atyr achos. Felly pa ffordd well o ddathlu’r 100na thrwy atgyfodi’r syniad hwnnw?Yn dilyn sefydlu’r Coleg CymraegCenedlaethol fe sefydlodd MerêdYmddiriedolaeth William Salesbury i gynnigysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyneu cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeggyda’r Coleg. Mae’r gronfa’n cynnig cefnogaeth hael i nifero fyfyrwyr yn flynyddol ac mae angenymdrechu’n gyson i sicrhau bod arian ar gaelyn y gronfa. Yn gwbl nodweddiadol ohono, feweithiodd Merêd yn ddiflino i godi arian i’rgronfa hon i gefnogi cenhedlaeth newydd obobl ifanc. Felly dyma dynnu’r pethau hynynghyd - dathlu pen-blwydd Merêd trwyddathlu ei hoffter o ganu gwerin a thrwy hynnygodi arian at yr elusen oedd agosaf at ei galon.Bydd rhai’n cofio’r cymanfaoedd gwreiddiol.Cynhaliwyd y gyntaf yn Neuadd y Cory,Caerdydd, ar 23 Tachwedd 1973. Mae rhai yncofio bod yno. Mae rhyw gof o Ryan Daviesar ben bwrdd yn codi canu. Efallai bodrhaglenni yn dal mewn cypyrddau?Bydd nosweithiau yn cael eu cynnal ynPwllheli, Bala, Tanygrisiau, Dinbych,Llanegryn, Caernarfon, Aberystwyth,Llanerfyl, Crymych, Pontypridd aChasnewydd.Cysylltiadau: Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd yrYmddiriedolaeth, 01970 639639 Gwefan: http://cronfasalesbury.org/ LlanerfylNeuadd LlanerfylNeuadd LlanerfylNeuadd LlanerfylNeuadd LlanerfylNeuadd Llanerfyl7:30, 15 7:30, 15 7:30, 15 7:30, 15 7:30, 15 TTTTTachwedd, 2019achwedd, 2019achwedd, 2019achwedd, 2019achwedd, 2019Ar y cyd a G@yl Cerdd Dant Bro Nansi 2020Cyswllt Arfon Gwilym a Sioned Webb

    A fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadauat y rhifyn nesaf erbyn ddydd Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,Sadwrn,TTTTTachwedd 16achwedd 16achwedd 16achwedd 16achwedd 16 Bydd y papur yn cael eiddosbarthu nos Fercher Fercher Fercher Fercher Fercher TTTTTachwedd 27achwedd 27achwedd 27achwedd 27achwedd 27

    RHIFYN NESAF

    CYFARCHION Y NADOLIGMethu wynebu ysgrifennu cardiauNadolig eleni? Beth am ddymunocyfarchion yr @yl i deulu a chyfeillionym Mhlu’r Gweunydd. Anfonwch eichcyfarchion at Catrin Hughes, LlaisAfon, Llangadfan neu Mary Steele,Eirianfa, Llanfair Caereinion yn ddimyn ddimyn ddimyn ddimyn ddimhwyrach na dyddhwyrach na dyddhwyrach na dyddhwyrach na dyddhwyrach na dyddSadwrn, Sadwrn, Sadwrn, Sadwrn, Sadwrn, TTTTTachwedd 23.achwedd 23.achwedd 23.achwedd 23.achwedd 23.Gwerthfawrogir taliad o £5efo’r cyfarchiad.

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

    Ffordd Salop,Y Trallwm.

    Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 33333

    ClusfeinioClusfeinioClusfeinioClusfeinioClusfeinioyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pincyn y Cwpan Pinc Cylch Llenyddol Maldwyn

    Daeth cynulleidfa gref i gyfarfod olaf CylchLlenyddol Maldwyn am eleni. Y siaradwrgwadd oedd yr Athro Geraint H Jenkins achawsom ddarlith wefreiddiol ganddo ar IoloIoloIoloIoloIoloMorgannwg – GwladgarwrMorgannwg – GwladgarwrMorgannwg – GwladgarwrMorgannwg – GwladgarwrMorgannwg – Gwladgarwr. . . . . Ar ddiwedd ynoson cafwyd trafodaeth ar yr angen i godicofgolofn i Iolo y tu allan i’r Senedd yngNghaerdydd. Y gobaith oedd y gwelem hynnyyn digwydd erbyn 2026 (pan fyddwn yn cofiodau canmlwyddiant ei farw).Mae mwy o bobl wedi mynychu’r CylchLlenyddol ers i ni symud i’r Institiwt yn LlanfairCaereinion ac mae hynny wedi codi awyddarnom i drefnu rhaglen arall yn 2020. Ygobaith yw y byddwn yn cyfarfod eto ym misEbrill.Yn y llun gyferbyn gweler yr Athro GeraintJenkins gyda Dr David Jenkins, Tregynongynt. Mae David yn un o gyfeillion y Plu adymunwn yn dda i’w fam Eurwen syddnewydd ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed acwedi symud i gartref y Rallt, Trallwm.

    Crwydro MynwentyddRhyw with o englynion beddausydd ym Mynwent NewyddLlangadfan. Gan iddi ddod ifwrw glaw arnaf methais a

    chofnodi y ddau ddiweddaraf. Ond maennhw’n rhai gwych ac rwy’n addo eu rhannuefo chi eto.Gutyn Ebrill yw awdur yr englyn cyntaf. Fe’iceir ar fedd Caleb Evans, fu’n weinidog yn yFoel a Llanerfyl. Bu farw yn 1891 a fo oedd ydyn cyntaf i gael ei gladdu yn y fynwent.Dyma’r englyn:Yn ei wlad annwyl ydoedd @r uniawn, Arweinydd i’r nefoedd,Goleuad teg i luoedd –Ei sain ef i Seion oedd.Bu William Williams farw yn 1905 a’i fabEdward yw awdur yr englyn ar ei garreg fedd:Er croester ar lwybr y Cristion - dicell- Bu’n rhedegydd ffyddlon,Cywir sant! Carai sôn – am enw’i DadGolud ei gariad a Gwlad y goron.Ar fedd David Jones (marw 1920) fe geir yrenglyn hwn:Di-fwlch fu einioes Dafydd – g@r ydoedd Yn garedig beunydd:Cawr a’i afael mewn crefyddTir fu’n dal hyd derfyn dydd.John Penry Jones yw awdur yr englyn nesaf,Fe’i ceir ar fedd Alun Roberts, Melin y Graig(Pentre Bach cyn hynny) a fu farw yn 1950:Er i Alun ffarwelio - â’i aelwyd Cawn ei weled eto,Os awn i felys unoYn Salem wen â’i salm o.

    Yna cawn ar fedd David Poole (marw 1967)yr englyn hwn:Fe orwedd ar ôl llefaru – oes dros Drefn fawr y gwareduBu ddiwyd iawn ond bedd duGlodd was yr Arglwydd Iesu.

    Daw hyn â ni at englyn Emrys Roberts er cofam Richard Lewis (marw 2002):Drwy’i oes pelydrai’r Iesu – gwynias oedd Ei gonsyrn am Gymru.Nid lamp oel i’r Foel a fuY gwladwr ond goleudy.

    Janus

    Pa un ai newid hinsawddNeu Brecsit sydd ar fai,Mae rhai’n darogan eiraO Dachwedd i fis Mai,Bydd hwnnw’n eira helaeth,Lluwchfeydd o glawdd i glawddAc efo’r ffyrdd mor llithrigFydd teithio ddim yn hawdd.

    Ond beth yw’r ots am hynnyDyfarna’r Cyngor Sir,Cwtogi raid ar halltuY ffyrdd sy’n britho’r tir,Bydd raid i ffarmwrs MaldwynSy’n byw’n y bryniau pellAros yn eu cartrefiNes daw yr hin yn well.

    Bydd pobol Nant yr Eira,Cwm Twrch a llawer man,Heb allu troi o’r aelwydI neuadd, siop na llan.Yn gaeth i’w tai trwy’r gaeafAm nad yw’r ffyrdd yn ffit,A hyn am nad yw’r CownsilAm wario pres ar grit.

    Bydd ambell un fe fentrwnWaeth pa mor wael yw’r hinYn gorfod herio’r tywyddGan ddiodde’ damwain flin.Fe’u cludir i’r YsbytyAr ôl y trwstan droA hyn am na fu gritioAr hyd ffyrdd bach y fro.

    Ond tra bod ein trigolionMewn ‘sbyty rôl cael crashFe fydd Cynghorwyr PowysYn dathlu arbed cash.Meddent, ‘Os bydd rhai pobolYn torri coes neu fraich,Bydd arbed ar yr halen I ni yn llai o faich.

    A mynnu mae MyfanwyFod hyn yn newydd da,*“Rhaid dathlu,” medd, “fod MaldwynTan eira gwyn ac iâ,Bydd bywyd gwyllt yn ffynnuA gwelir blodau fyrddOs peidiwn â gwasgaruYr halen ar y ffyrdd.”

    Lili Wen Fach

    Gwarchod Bywyd Gwyllt ?Ymateb sydd yma i’r newyddion fod Cyngor Sir Powys

    am wario llai ar halltu’r ffyrdd y gaeaf hwn.

    *Dywedodd aelod arall o’r cabinet, Myfanwy Alexander y byddai yna rai manteisionamgylcheddol o leihau’r niwed a achosir gan halen i flodau a bywyd gwyllt sydd ymysggogoniannau Sir Drefaldwyn a Phowys.’ Cyfieithiad o sylw ar safle newyddion y BBC.Pob math o waith tractor,

    yn cynnwys-

    Teilo gyda chwalwr

    10 tunnell,

    Chwalu gwrtaith neu galch,

    Unrhyw waith gyda

    Amryw o beiriannau eraill ar

    gael.

    Ffôn: 01938 820 305

    07889 929 672

    ANDREANDREANDREANDREANDREW W W W W WWWWWAAAAATKITKITKITKITKIN CyfN CyfN CyfN CyfN Cyf.....Froneithin,Llanfair Caereinion

    Ffôn: 01938 810330

    Adeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr TAdeiladwr Taiaiaiaiaiac Estyniadauac Estyniadauac Estyniadauac Estyniadauac Estyniadau

    GwGwGwGwGwaith Bricaith Bricaith Bricaith Bricaith Bric, Bloc, Bloc, Bloc, Bloc, Blocneu Gerrigneu Gerrigneu Gerrigneu Gerrigneu Gerrig

    DILDILDILDILDILYNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD YNWCH NI HEFYD AR ‘FAR ‘FAR ‘FAR ‘FAR ‘FACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’ACEBOOK’

    cacennau dathlu unigrywPenblwydd, Nadolig,Priodas, Bedyddio,Ymddeol,Pob Lwc

    01938 820856 neu07811 181719

    CEGIN KATE

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    FOEL aLLANGADFAN

    CydymdeimladDaeth y newyddion trist am farwolaeth AlanTynewydd ganol mis Tachwedd. Mae eincydymdeimlad yn ddwys iawn efo Gill a’r teului gyd ar gyfnod anodd iawn.Gwobr i FflurLlongyfarchiadau i Fflur Roberts, Abernodwyddam ennill Gwobr Prif Weithredwr ColegauNPTC yn ogystal â gwobr Myfyriwr yFlwyddyn – Arlwyo, Amaethyddiaeth aLletygarwch yn y seremoni wobrwyo agynhaliwyd yng Ngholeg Castell Nedd ynddiweddar. Yn gynharach eleni, enillodd Fflurwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2019 Sioe FrenhinolCymru, felly mae hi’n cael blwyddyn arbennig.Pob dymuniad da i ti yn y dyfodol, Fflur.Hen NainLlongyfarchiadau i Annie, Pencoed sydd wedidod yn hen-nain unwaith eto. Ganed mabbach arall i’w hwyres Jennifer a’r g@r. Rwy’nsi@r fod Taid a Nain Malvern sef Michael aHeulwen yn hapus iawn hefyd gyda’r cog bachnewydd.Croeso adreRoeddem i gyd yn falch o glywed fod DavidDavies, Glanymorfa wedi cael dod adre o’rysbyty. Rwy’n gobeithio dy fod yn teimlo’nwell ac yn falch o gael bod nôl yn dy gartrefclyd.Yn yr YsbytyYn ystod y mis daeth y newyddion fod Dei,Pantgwyn wedi ei gymryd i’r ysbyty yn waeliawn. Rydym yn falch o glywed ei fod yn wellac yn cryfhau bob yn dipyn. Derbynia eindymuniadau gorau fel ardal.Mynwent LlangadfanMae Pwyllgor y Fynwent wedi bod yn brysuriawn yn ddiweddar yn tacluso o amgylch yfynwent newydd yn Llangadfan. Mae’r hen‘railings’ rhydlyd wedi mynd ac mae’r pystbach haearn wedi eu peintio yn barod i osodtsiaen newydd rhyngddynt. Mae’n debyg eubod wedi gosod ‘railings’ o amgylch y fynwentyn y lle cyntaf i stopio gwartheg a fyddai’ncael eu hebrwng ar y ffordd y pryd hynny rhagneidio dros y wal i’r fynwent.Merched y WawrRhiannon, Elinor, Nerys ac Olwen yn ‘llyfu euplatiau yn lân’ yn y te dathlu yn Dyffryn.

    Mae’r Cylch Darllen heb os yn mynd o nerth i nerth. Daeth unarddeg i’r cyfarfod diwethaf idrafod Ingrid Ingrid Ingrid Ingrid Ingrid y nofel enillodd y Fedal Ryddiaith i Rhiannon Ifans.Rhiannon Ifans.Rhiannon Ifans.Rhiannon Ifans.Rhiannon Ifans. Brwd fu’r trafod ac wrthwneud hynny fe dyfodd ein hedmygedd o’r nofel. Roedd rhai yn awyddus i ni wahodd RhiannonIfans i Gylch Llenyddol Maldwyn y flwyddyn nesa fel y gallem drafod y gwaith ymhellach.Bydd y Cylch Darllen yn cyfarfod nesaf ar nos Iau nos Iau nos Iau nos Iau nos Iau TTTTTachwedd 28 am 7.30 achwedd 28 am 7.30 achwedd 28 am 7.30 achwedd 28 am 7.30 achwedd 28 am 7.30 yn y CannOffis. Byddwn yn trafod ‘Perthyn’‘Perthyn’‘Perthyn’‘Perthyn’‘Perthyn’ nofelig gan Sian NortheySian NortheySian NortheySian NortheySian Northey.....Gan fod hon yn nofel gymharolfer ni ddylai neb gael llawer o drafferth i’w darllen.Arddangosfa Eleri

    Gyda Changen Merched y Wawr y Foel a’r Cylch yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu eleni,dyma edrych ar un o’r lluniau cynharaf sydd gennym o’r gangen. Tynnwyd y llun yn yr #ylRanbarth yn Mellington Hall ym 1970.Rhes gefn: Annie, Pencoed; Mrs Morris, Llwyn; Kathleen Brynbanw; Dwynwen Parc, BerylEvans; Marcia Blainey; ...... ac Enid BryncyrchAil Res: Mary Blainey; Elen, Llechwedd Newydd; .........; Mrs Jones, Parc; Dilys, PentreBach; Myfi Maes; Glenys, Tynewydd ac Ann Tynllan3ydd Res: Mary Lewis; Gwyneth Caergof; Mona Jones; Delyth Rees, Mrs Morgan, Moelpart;Enid Baines; Maggie Evans ac Eluned HughesRhes flaen: Laura, Foel Lwyd; Elinor, Cefnau; Marion, Rhiwfelen; Katie, Tynfedw a MrsMorris, WernCylch Darllen Dyffryn Banw

    Mae arddangosfa o waith Eleri Mills gyda’r teitl ‘Egni: degawd o greadigrwydd’ i’w gweld ynOriel Davies Y Drenewydd ar hyn o bryd tan 18ed Rhagfyr. Mae’n cynnwys dros 50 o weithiaua hon yw’r arddangosfa fawr gynta o waith Eleri yng Nghanolbarth Cymru ers 30 mlynedd achafodd ei hagor gan Yr Arglwydd Elis-Thomas ar 28ain Medi.

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 55555

    BWRLWM O’R BANW

    Ymweliad gan Fardd Plant CymruMae cyflwyno ymwelwyr newydd i’r ysgol bobamser yn brofiad pleserus, ond rhaid diolch ogalon i Gruffudd Eifion Owen, Bardd PlantCymru am ei frwdfrydedd a’i angerdd igyflwyno barddoniaeth gyfoes i’r plant. RoeddMiss Llwyd wrth ei bodd yn croesawu ei ffrindo’r brifysgol i’w hystafell ddosbarth. Bu’r plantyn ysgrifennu am eu teuluoedd a lluniwydcerdd wych o dan y teitl ‘Rysait Ysgol DyffrynBanw.’Clwb coginioBob prynhawn Dydd Mercher mae bron pobdisgybl yn aros yn yr ysgol tan 4:30pm igoginio. Rydym wedi cael cymaint o hwyl yndatblygu eu sgiliau, gan roi pwyslais arhylendid bwyd. Dyma gogyddion y dyfodol!Diwrnod Shwmae SumaeLlwyddiannus iawn oedd ein diwrnod agoredthematig eto eleni. Diolch i’r rhieni a’rllywodraethwyr am ymuno â ni i hyrwyddodefnyddio’r Gymraeg. Gan fod disgyblion ycyfnod sylfaen yn astudio deinosoriaid felrhan o’u thema ‘Bang!’ dyma nhw’npenderfynu cynllunio holl weithgareddau’rdiwrnod ar ddeinosoriaid. Bu plant y cyfnodsylfaen yn brysur ddylunio a gwneud nythodar gyfer wyau’r deinosoriaid, yn dilyn ryseitiaui wneud bisgedi olion traed ac yn ysgrifennucyfarwyddiadau, creu ffosiliau trwy bwyso amesur a hyd yn oed ddefnyddio eu sgiliaucodio i gwblhau llwybrau. Bu disgyblion cyfnodallweddol 2 yn creu ffrwydriadaullosgfynyddoedd trwy ddatblygu eu sgiliaucymarebu ac yn datrys problemau rhifyddol arfeintiau gwahanol ddeinosoriaid. Bu Blwyddyn6 yn gyfrifol am reoli cyllideb ar gyfer creu parcdeinosoriaid newydd, a daeth y diwrnod iderfyn wrth i blant y cyfnod sylfaen ganu adawnsio am y deinosor wrth fwynhaubisgeden, darn o gacen o Gegin Kate aphaned.Ymweliadau gan staff a disgyblionyr Ysgol Uwchradd.Diolch o galon i Mr Tudor Jones am gytuno igynnal ymholiad ar blanhigion gyda ni.Llwyddodd disgyblion cyfnod allweddol 2 iddarganfod pam bod mwy o orchudd glaswelltymhellach oddi wrth y goedlan, a phlannwydhadau barlys gyda gwahanol fwynau o fewny pridd er mwyn ateb y cwestiwn ‘pa fath ofwynau sydd eu hangen ar blanhigion i dyfuorau?’Diolch hefyd i staff yr Ysgol Uwchradd amdrefnu ymweliad i holl ysgolion cynradd yclwstwr i hyrwyddo casgliad bocsys OperationChristmas Child. Braf iawn oedd gweld ydisgyblion mor awyddus i helpu plant llaiffodus dros gyfnod y Nadolig.Disgo Calan GaeafDiolch yn fawr i Ffrindiau’r Ysgol am drefnudisgo i’r plant eto eleni. Roedd y swper ynflasus iawn hefyd - byrger, c@n poeth, hufen iâa jeli a llawer mwy!Rhywbeth at ddant pawb!

    Diolchgarwch‘Nid ydym yn etifeddu y tir dan ein traed gan ein cyndeidiau, ond yn ei fenthyg gan ein plant.’Cynhaliwyd ein gwasanaeth Diolchgarwch ar yr 22ail o Hydref. Thema’r gwasanaeth elenioedd Cynaliadwyedd, a’r plant lywiodd trywydd y neges wedi ymweliad Gerald o Uganda ac ynfwy diweddar, Ffion Jones sy’n gweithio i Masnach Deg Cymru. Diolch i Mrs Buddug Bates,un o’r llywodraethwyr am fod yn siaradwraig wadd ac i’r rhieni ac aelodau o’r cyhoedd am eucefnogaeth. Paratowyd paned a phwdin i bawb, ac eto i gyd-fynd â’r thema coginiwyd pwdin aoedd yn cynnwys cynnyrch ein coed o berllan yr ysgol. Casglwyd dros £160 a fydd yn mynd atyr elusennau Dolen Ffermio a Masnach Deg Cymru - dewis y plant eto.

    Ffôn: 07496 023660Instagram: @therapiau_eh_therapies

    fb: Therapiau-Elinor-Hughes-Therapies

    DENO LOCKSMITH

    Ffôn: 07828-951215

    Ebost: [email protected] Gwefan: www.denolocksmiths.co.uk

    Busnes teuluol yn LlangadfanGwasanaeth gosod a newid cloeon

    domestig a masnacholGwasanaeth Galwad Brys

    Gwaith mynediad, dim problem

    ELINOR HUGHES (BSc)CHWILIO AM ANRHEG NADOLIG?

    Mae tocynnau rhodd ar werth rwan- cysylltwch ag Elinor

    Hysbyseb:Stondin Cyngor Llyfrau Cymru- Canolfan Dyffryn Banw 2:30pm -4:00pm ar y 12fed o Dachwedd.Bydd Mari Lovgreen yn darllen stori am 3:00pm. Croeso i bawb.Bags2School- 20/11/19- Cysylltwch os hoffech i rywun gasglu eich bagiau.Sioe Nadolig- 10/12/19 6pm

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    Gwasanaeth Diolchgarwch CapelSeiloNos Fawrth, Hydref 8ed am 6.30 y.h., daethaelodau a ffrindiau o’r ardal i WasanaethDiolchgarwch y Cynhaeaf. Gwasanaethwydgan y gweinidog Y Parchg. Euron Hughes,Llanuwchllyn. Yr organydd oedd RhiannonMorris, a’r casglyddion oedd Henry Hughes.Croesawyd a diolchwyd i’r gweinidog ganMeinir Hughes. Ar ddiwedd yr oedfa cafwydsgwrs a lluniaeth wedi ei drefnu a’i baratoigan chwiorydd Seilo. Anfonwyd cofion atGwynfryn Thomas, blaenor Seilo a oedd ynYsbyty Amwythig ar y pryd.Gwasanaeth Diolchgarwch Eglwys ySantes FairNos Sul, Hydref 13eg am 6.00 y.h. daeth niferdda ynghyd i’r Gwasanaeth Diolchgarwch danarweiniad y Parch. Hermione Morris, ficerLlanfyllin a’r ardal. Cyflwynwyd y darlleniadaugan Parchg. Glyn Jones a Kathleen Morgan.Y casglyddion oeed Eifion Morgan a BrianJones a’r organydd oedd Eirlys Richards. Yndilyn y Gwasanaeth cafwyd lluniaeth yngngofal y Chwiorydd. Cafwyd cyfle i edmyguyr arddurno hardd a wnaed gan KathleenDavies Morgan.Adref o’r YsbytyDa oedd deall fod Mr Gwynfryn Thomas aMrs Nesta Owen wedi dychwelyd adref ar ôlcyfnod yn yr Ysbyty. Dymunwn adferiad buani’r ddau.Sefydliad y MerchedCyfarfod Medi 2019Cyfarfod Medi 2019Cyfarfod Medi 2019Cyfarfod Medi 2019Cyfarfod Medi 2019Braf oedd cael croesawu Elinor Hughes nôlatom. Atgoffwyd ni bod hi’n 5 mlynedd ers eihymweliad diwethaf. Ers hynny mae hi wedibod nôl yn y brifysgol yn dilyn cwrs therapicyflenwol ym Mhrifysgol Glynd@r. Mae hir@an yn gweithio rhan amser yn y Spa yngNgwesty Llyn Efyrnwy a hefyd yn gweithiorhan amser fel therapydd cyflenwol yn ycartref, gan arbenigo mewn adweitheg (reflex-ology). Dyma oedd pwnc ei sgwrs ganddangos ei sgiliau a rhannu gyda ni beth maehi wedi ei ddysgu am adweitheg. DiolchoddLinda iddi ac rydym yn dymuno’r gorau iddiyn ei menter newydd. Meinir a Morwennaofalodd am y baned a Meinir enillodd y raffl.Cyfarfod mis HydrefCyfarfod mis HydrefCyfarfod mis HydrefCyfarfod mis HydrefCyfarfod mis HydrefCroesawodd Kath, y Llywydd, bawb i’rCyfarfod ar Nos Lun, Hydref 14eg. Cawsom yCollect gan Val. Anfonwn ein cofion at Dilys,a Mabel sydd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd.Ein gwraig gwadd oedd Bronwen Lloyd,Penybontfawr. Coginio oedd ei phwnc tro yma,er mae ambell i sgil arall ganddi hefyd.Rhannwyd rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni.Diolchodd Gwyneth iddi. Janet a Kathofalodd am y baned. Braf oedd cael clywedbod ein cangen wedi dod yn drydydd yn ygystadleuaeth Bwgan Brain. Roeddcanghennau’r Sir wedi cystadlu a dangos eubwganod yn eu pentrefi.

    Rali Cymru GBUnwaith eto daeth degau o geir rali a channoedd o’u cefnogwyr i Goedwig Dyfnant ar ddyddGwener y 4ydd o Hydref i wylio’r cystadlu ym Mhencampwriaeth Rali Cymru GB. Mae hwn ynddigwyddiad mawr yng nghalendr y byd rali. Mae’r trefnwyr yn yr ardal am wythnosau ynparatoi ar gyfer y cam arbennig hwn. Ond, wedi’r holl gyffro a’r bwrlwm ar y dydd Gwener,erbyn dydd Sadwrn does dim o’u hôl heblaw y baw a’r sbwriel. Ond diolch i griw o ‘wombles’lleol yn Llwydiarth sy’n fodlon mynd ati i gasglu’r sbwriel a gwneud yn si@r fod ein cynefin ynlân unwaith eto.

    Cylch Meithrin a Ti a Fi Dyffryn BanwRoedd plant bach Cylch Dyffryn Banw wrth euboddau yn dangos eu cefnogaeth i dîm rygbiCymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ynJapan yn ddiweddar. Mi wnaethon nhw yrruneges o gefnogaeth i’r bechgyn yn y crysaucoch fel rhan o ymgyrch BBC Radio Cymru,ond yn anffodus doedd hyd yn oed bawd i fynygan rai o drigolion ieuengaf yr ardal ddim ynddigon i gael Cymru i’r ffeinal.

    Mae staff ac ymddiriedolwyr pwyllgor y Cylchwedi bod ar hyfforddiant yn ddiweddar, ac yneu plith mae Anti Mirain wedi bod ar gwrsgwaith coed yn y cyfnod sylfaen, lle cafoddhi gwmni Anti Alwen eto! Rydyn ni’n edrychymlaen i weld beth fydd y plant yn cael rhoitro ar greu dros y misoedd nesaf. Ac maemwy o hwyl fyth ar y gorwel achos mae staffwedi cofrestru i fynd i weithdy Mudiad Meithringanol mis Tachwedd i gael syniadau ar sut iwneud y defnydd gorau o gymeriadau’rMudiad, Dewin a Doti. Mae’n swnio fel sesiwnhwyliog iawn a bydd y plant wrth eu boddaupan ddaw’r cymeriadau’n rhan amlycach o’uprofiadau yn y sesiynau Cylch dwi’n si@r!Mae codi arian yn hanfodol er mwyn i ni allucynnal y Cylch a chadw cost gofal ynrhesymol i rieni’r dyffryn, felly rydyn ni weditrefnu Ras Santa a Ffair Nadolig at ddydd Sul24ain o Dachwedd. Bydd y Ras Santa yn 5k,

    ac yn dechrau o faes parcio Llanerfyl am 1 o’rgloch ac yn gorffen yn Cann Offis. Dewch iredeg, jogio, cerdded neu gropian (!) – ras hwylydi hon, efo cyfle i gymdeithasu a chodi arian.Mae’n costio £5 i oedolion gymryd rhan a £3 iblant – dewch mewn gwisg ffansi os ydech chiawydd, i roi naws mwy Nadoligaidd fyth i’rdiwrnod. Mae’n si@r o fod yn ddigwyddiadhwyliog ac yn gyfle gwych i bob aelod o’r teulugymryd rhan a chodi arian er budd plant bachyr ardal. Yn y prynhawn, o 2.30pm ymlaenbydd Ffair Nadolig yn y babell yng nghefnCann Offis efo stondinau o bob math, grotoSion Corn ac ymweliad gan Elsa ac Anna oFrozen! Dewch draw i roi cychwyn ar y siopaNadolig, neu i groesawu’r criw Ras Santa ynôl.Hoffem dynnu sylw teuluoedd yr ardal at yroriau hwy sy’n cael eu cynnig yn y Cylcherbyn hyn, a diwrnod llawn (9am-3pm) arddydd Mercher neu opsiwn i ddewis dim ondbore ar y diwrnod hwnnw (9am-1pm).Cysylltwch ar [email protected] i gaelrhagor o wybodaeth ac unrhyw gyngor am yroriau Addysg 3+ a Gofal Plant 3+ wedi’uhariannu sydd hefyd ar gael gennym. I’chatgoffa, dyma ein horiau newydd:Pnawn Llun - 12pm-4pmBore Mawrth - 9am-1pmDydd Mercher - 9am-3pm (neu 9am-1pm)Bore Gwener - 9am-1pmMae Ti a Fi hefyd yn cwrdd ar fore dydd Iau(heblaw bore Iau cyntaf bob mis) rhwng10.30am a ganol dydd yn Neuadd Llanerfyl.Croeso cynnes i bawb!Ym mis Chwefror, byddwn ni’n trefnu nosonPamper, Pwdin a Prosecco – manylion i ddilynyn fuan. Os hoffech chi gael stondin yn ydigwyddiad (colur, gwasanaethau pampro,therapïau, harddwch, nwyddau moethus acati) cysylltwch â ni [email protected] neu Mererid Haf ar07811 404293.

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybont sydd yn ei argraffu

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 77777

    LLANERFYL LLYFR LLOFFION YSGOL LLANERFYL

    Salwch ac ysbytaiCael penglin newydd fu hanes Eirwyn (Fred)– bydd angen bod yn amyneddgar a gofalus –fydd yn anodd iawn iddo!Anffawd gafodd Olwen Penperthi – llithro athorri’i choes mewn dau le. Cafoddlawdriniaeth i osod pin ac mae hi bellach adrea’r plant i gyd yn tendio arni’n dda iawn.Yn yr ysbyty mae Barry Tynberth unwaith eto– anfonwn ein cofion at y teulu oll gan obeithiodaw o adre’n fuan.Mae Miriam ac Eryl yn derbyn triniaeth ar hyno bryd yn Ysbyty’r Amwythig – dymunwn ygorau iddynt hwythau hefyd.CydymdeimladCydymdeimlwn ag Anwen (Tanfoel gynt) a Deiyn dilyn marwolaeth sydyn Gareth eu mabyn ddim ond 27ain oed. Yr oedd Gareth wedibyw bywyd i’r eithaf yn dilyn y ddamwain agafodd ac wedi teithio’n helaeth gyda’i chwaerBethan.Swydd newyddLlongyfarchiadau i Carol Ann, Neuaddwen arei phenodiad yn Is-Lywydd y Sir gyda’rFfermwyr Ifanc. Mae hi’n weithgar iawn felun o arweinwyr Clwb Dyffryn Banw ac fellymae’r penodiad yma yn un haeddiannol iawn.DiolchgarwchMae tymor diolchgarwch wedi cyrraeddunwaith eto ac yn ôl yr arfer cynhaliwydgwasanaeth y plant yn yr Eglwys. Cafwydpnawn difyr iawn yng nghwmni’r plant yndangos eu doniau amrywiol. Mrs CatrinJones, Talglannau, cyn athrawes yn YsgolLlanerfyl yn y 70au hwyr a’r 80au roddodd yranerchiad a’r plant yn ymateb yn naturiol iawn.

    Prynhawn Te - MacmillanAr ddiwedd mis Medi trefnodd y disgyblionBrynhawn Te Macmillan yn Neuadd Llanerfyl.Diolchwn i’r gymuned am gefnogi ac i’rdisgyblion am eu gwaith caled yn coginio athrefnu.Codwyd £303 tuag at yr elusen gwerthchweil.FfotograffiaethDaeth Mrs Llinos Evans i siarad gyda’rdisgyblion am ei phrofiad o dynnu lluniau.Dangosodd enghreifftiau o luniau amrywiolcyn i’r disgyblion fynd allan eu hunain i arbrofigyda ffotograffiaeth.Shwmae Su’maeAr ddiwrnod Shwmae Su’mae dewisiodd ydisgyblion wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

    Cyfarfod DiolchgarwchRoedd yr eglwys yn llawn ar gyfer ygwasanaeth a oedd wedi ei seilio ar y thema‘Y cyfan allan o un hedyn bach’. Cymharwyddechrau llysiau a ffrwythau gyda dechraudisgyblion a dechrau syml yr afal Bramleygyda hanes dechrau Ysgol Llanerfyl. Brafoedd croesawu Sioned Gittins ac Erica Jones,cyn ddisgyblion a bellach yn aelodau’rchweched yn Ysgol Uwchradd Caereinion ifod yn rhan o’r gwasanaeth. Anerchwyd ydisgyblion gyda stori am y blodyn haul ganMrs Catrin Jones, cyn athrawes yn yr ysgol.Paratodd y digyblion fasgedi ffrwythau ynrhodd i’r gynulleidfa. Codwyd dros £200 yn ycasgliad tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.Cafwyd paned a chacen nôl yn yr ysgol ar ôly gwasanaeth wedi ei baratoi gan Ffrindiau’rYsgol. Braf oedd hel atgofion gyda hen luniaupan oedd Mrs Jones yn yr ysgol.

    Ymweliad TechniquestCafwyd gweithdai gan Techniquest gydadisgyblion Cyfnod Sylfaen yn cael eu rhyfeddugan y bocs teganau gwyddonol. Egni solaroedd thema CA2 gyda’r disgyblion yncynllunio a chreu yn defnyddio K’nex.

    Cafwyd diwrnod o goginio, crefftau, creu cwisa derbyn stensil y ddraig heb sôn am wrandoar gerddoriaeth Cymraeg.Cerdyn Coch i HiliaethDydd Gwener, 18ain o Hydref oedd DiwrnodCenedlaethol ‘Cerdyn Coch i Hiliaeth’ gyda’rdisgyblion yn gwisgo coch ac yn trafod effaithhiliaeth ar y gymdeithas yn arbennig ym mydpêl-droed ar hyn o bryd.

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    LLANFAIRCAEREINION

    Eisteddfod y Ffermwyr IfancCynhaliwyd yr Eisteddfod yn Llanfair eleni adeallwn i’r diwrnod fod yn llwyddiannus iawn,er gwaetha’r glaw mawr y tu allan. Bydd yrenillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yn Ei-steddfod Cymru ym mis Tachwedd.Cyfarfodydd DiolchgarwchCynhaliwyd Cyfarfodydd Diolchgarwch ycapeli eleni yn Ebeneser ar Hydref 2ail. Daethplant yr ysgol gynradd gyda’u hasbri arferoli’r capel yn y prynhawn a chyflwynogwasanaeth hyfryd i lond capel o rieni achyfeillion. Cyflwynodd y Parch. EuronHughes neges i’r plant ar y diwedd. Yna yn yrhwyr daeth y Parch. Dilys Jones, Amwythigatom a rhoddodd bregeth amserol iawn arbwysigrwydd d@r drwy’r byd. Roedd y capelwedi ei addurno’n hardd iawn – diolch i Gwilymac Eiry, Berwyn, am eu gwaith.Priodas AurLlongyfarchiadau i Bill a Diana Burns, 26,Hafan Deg sydd wedi dathlu eu Priodas Auryn ddiweddar.Yn gwellaDa deall fod Richard Peate, mab Geraint acAnne Peate yn gwella wedi iddo gael ei daro’nbur wael a threulio cyfnod yn YsbytyAmwythig.Bu Mrs Beryl Hoyle yn yr ysbyty hefyd amrai dyddiau ond deallwn ei bod yn ôl yngNghartre Hermitage, yn y Trallwm erbyn hyn.Anfonwn ein cofion atynt ac at bawb syddwedi dioddef salwch yn ystod y mis.Y Cylch LlenyddolCynhaliwyd cyfarfod olaf y tymor yn yrInstitiwt nos Iau, Hydref 17 pan ddaeth yr AthroGeraint H Jenkins i ddarlithio ar ‘ ‘ ‘ ‘ ‘IoloMorganwg, y Gwladgarwr’. Braf oedd gweldcriw da wedi dod i wrando ar ddarlith arbennig.Bydd y Cylch yn ail gyfarfod yn awr yn yGwanwyn.Llyfr newyddMae llyfr Tom Jones, Plascoch, ‘Rhwng DauGlawdd’ wedi ei gyfieithu i’r Saesneg erbynhyn o dan y teitl ‘In Between’ ac mae copïauar werth yn siop Haydn ac yn Londis ynLlanfair. Mae’r llyfr yn rhoi hanes y flwyddyn2015 yn hanes Tom, sy’n aelod o BwyllgorEconomaidd a Chymdeithasol Ewrop sy’n uno gyrff ymgynghorol yr Undeb Ewropeaidd.Steffan yn dod i LundainMae Steffan Harri, Plascoch yn teithioAmerica a Chanada gyda’r sioe ‘Girl from theNorth Country’ sy’n cynnwys llu o ganeuonBob Dylan ar hyn o bryd ond mae’n dychwelydi Lundain ar Ragfyr 10fed a bydd y sioe i’wgweld am wyth wythnos yn Theatr Gielgudcyn dychwelyd i Efrog Newydd.

    Teithiodd rhyw wyth o aelodau’r gangen i #yl Rhanbarth Merched y Wawr Maldwyn agynhaliwyd ym Mroneirion, Llandinam ddydd Sadwrn, Hydref 19. Cafwyd prynhawn difyr yngwrando ar dair siaradwraig o Ddyffryn Dyfi sydd wedi sefydlu eu busnesau eu hunain sefElin Evans, Gwerfyl Harding a Mererid Wigley. Mae’n braf clywed am lwyddiant busnesaunewydd yn enwedig yng nghefn gwlad.Cafwyd noson go wahanol i aelodau’r gangen ar Hydref 23. Aeth criw ohonom i weld FfermIeir Rhiwhiriaeth a derbyn croeso cynnes gan Gareth a Rhianon a’r teulu cyfan. Wedi i ni gaelein tywys trwy’r sied ieir a gweld sut mae’r wyau yn cael eu didoli a’u dosbarthu, cawsomgwis wedi ei baratoi gan Rhianon a chyfle i ddysgu ffeithiau rhyfeddol. Wyddech chi er enghraifftfod yna saith fferm ieir o fewn radiws o dair milltir o fferm Rhiwhiriaeth? Diolch am nosonddifyr ac am y bwyd a’r baned ar y diwedd.

    Merched y Wawr

    Mererid, Elin a Gwerfyl yn dangos eu gwaith

    KATH AC EIFION MORGAN

    yn gwerthu pob math o nwyddau,petrol a’r Plu

    POST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPPOST A SIOPLLLLLLLLLLWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARWYDIARTHTHTHTHTH

    Ffôn: 820208

    Rona, Sian a Dianne yn edrych ymlaen at y danteithion

    https://www.facebook.com/plurgweunydd

    Cofiwch:Tudalen Facebook

    Plu’r Gweunydd

    TTTTTwitter: witter: witter: witter: witter: @PluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunydd

    Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

    MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

    Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.Ffôn: 01650 531210

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 99999

    Wedi’r awr droi yn ei hol a dail y coed yn eugogoniant mae’r Hydref wedi wir gyrraedd acoglau tân ar yr aelwyd yn ddigon i roi teimlado gysur a chynhesrwydd a’r cyfle i ddechraugwylio Pointless unwaith eto am ychydigfisoedd! Ond am fis gwlyb a diflas oedd misHydref –‘bydd hi’n well wythnos nesaf’ oeddy gobaith ond yn anffodus, ni chafwyd hynnya’r mis yn gorffen efo llifogydd - a dagrau ynllifo wrth i Gymru golli i Dde Affrica yn rowndgyn-derfynol Cwpan y Byd. Mae Brexit wedigael ei ohirio unwaith eto, er holl addewidionBoris, ac etholiad yn debygol iawn cyn yNadolig, ond er gwaetha’r holl chwaraegwleidyddol mae’n rhaid i fywyd dyddiol abusnes barhau ynghanol yr holl ansicrwydd acannibendod. Mae’r bygythiad o ‘No Deal’ i’wweld wedi cilio am nawr sydd yn rhyddhadmawr i’r diwydiant amaeth sydd yn dibynnucymaint ar delerau masnach ffafriol a theg ifedru allforio ein cynnyrch i wledydd tramor -Ewrop yn arbennig. Beth bynnag yw eich barnar Brexit mae angen cael cytundeb adiweddglo ar y broses er lles holl wledydd athrigolion y DU.Erbyn hyn mae’r ymgynghoriad ar ‘FfermioCynaliadwy a’n Tir’ (sef polisi amaeth newyddLlywodraeth Cymru) wedi cau, a gobeithio bodsawl un ohonoch wedi ymateb i’rymgynghoriad. Bwriad y Cynulliad yw caelbusnesau sydd yn amodi i fynegi diddordebyn y cynllun newydd ac yna byddcynghorydd/ymgynghorydd yn ymweld â phobffarm neu fusnes ac yn ffurfio cynllungweithredol unigryw ar eu cyfer. Efo dros15,000 o fusnesau yn hawlio’r Taliad Sengl ary funud, pa obaith sydd gan y llywodraeth ddodo hyd i ddigon o gynghorwyr, heb sôn am ygost o cyflogi’r holl bobol a gweinyddu’rcynllun. Mae gan RPW Online ein holl fanylionyn barod efo pob cae wedi ei fapio a phobcoeden, craig a llyn wedi’i manylu, felly, gwellfyddai defnyddio’r data hyn a chydweithiogyda’r ffermwyr yn ddigidol. Nid oes unrhywdaliad sylfaenol o dan y cynllun newydd fellyer mwyn derbyn cymorth bydd rhaid i bawbfynegi diddordeb a dilyn y broses.Mae Leslie Griffiths hefyd wedi cyhoeddi ybydd Cymru gyfan yn ardal NVZ (Nitrate Vul-nerable Zone) o fis Ionawr ymlaen, sydd yngolygu y bydd yn rhaid i bob ffarm fod â digono le/stôr i gadw tail a slyri am 5 mis ac ni fyddhawl chwalu dim gwrtaith, slyri neu dail o ganolmis Hydref hyd at fis Chwefror o dan y rheolaunewydd. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol aniweidiol iawn ar y nifer o wartheg fydd yn caeleu cadw yn yr ucheldiroedd efo’r buddsoddiadsylweddol y bydd ei angen ar sawl ffarm yngolygu nad yw’n bosib cadw gwartheg. Maegwartheg yn rhan bwysig iawn o’r cylch car-bon ac yn bwysig iawn i gadw’r amgylchedda’n cefn gwlad yn gynaliadwy ac yn edrych fely mae. Er yr holl newyddion negatif a niweidiolsydd wedi bod yngl~n a bwyta cig coch a’ramgylchedd mae’r olwyn yn dechrau troi efogwir gwerth a phwysigrwydd anifeiliaid a phoriyn dechrau dod yn fwy amlwg - er gwaethafymdrechion swta Tesco i hysbysebu cigartiffisial.

    Er bod y rhan fwyaf o ffermwyr wedi cofrestruesemptiadau gwastraff (waste exemptions)mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bawbail gofrestru ar-lein i gael eu trwydded wedi’iadnewyddu. Felly cliciwch ar wefan CyfoethNaturiol Cymru ac edrychwch am y linc. Maecyfle unwaith eto eleni i dderbyn 90% o’chTaliad Sengl ar y 1af o Ragfyr, ond er mwynsicrhau taliad mae’n rhaid cofrestru neu fynegididdordeb trwy gysylltu â www.gov.wales/ba-sic-payment-scheme erbyn y 29ain oDachwedd.

    Mae prisiau’r @yn yn siomedig iawn - i lawr tua25c/kg (ar y bachyn) o brisiau llynedd, ondmae prisiau gwartheg tewion yn codi llawermwy o bryder efo’u gwerth lawr tua £100 syddyn cael effaith mawr ar brisiau gwartheg stôr.Mae’r sefyllfa yr un fath ar draws Ewrop erbod y ffigyrau diweddaraf yn dangos cynnyddyn y galwad am gig eidion a’rarchfarchnadoedd wedi gwerthu mwy nallynedd. Mae hen ddefaid yn gwerthu’n syndodefo galwad cadarn amdanynt gan y gymunedethnig, efo’r rhan fwyaf yn mynd i wneud cyri a

    cebabs.Cefais fy ngwahodd i ddiwrnod agoredPickstocks yn fferm Brongain, Llanfechain ynddiweddar, a’r cyfle i weld a dysgu mwy ameu cynlluniau ar gyfer cynhyrchu cig eidionyn gynaliadwy. Mae buddsoddiad sylweddolwedi bod ar y ffarm i alluogi derbyn lloi Angusi mewn o fuchesi godro, eu magu, pori amgyfnod ac yna eu pesgi erbyn 22 mis oed. Maeeu gweledigaeth yn un sydd yn seiliedig ar fodyn gynaliadwy ac mae’n rhaid canmol y teuluam fuddsoddi’n helaeth o fewn yr ardal achefnogi busnesau lleol a chyflogi pobol lleol.Braf oedd croesawu ymweliad blynyddoldosbarth Amaeth yr Ysgol Uwchradd i ddewis@yn tewion wythnos diwethaf, a da oedd gweldy fath frwdfrydedd yn y genhedlaeth nesaf.Roedd yn rhaid i bob disgybl ddewis dau oeno ran siâp a braster, eu pwyso a chofnodi’r rhifyn eu clust ac yna bydd cyfle iddyntddadansoddi’r canlyniadau ar ôl i’r @yn gaeleu lladd a’u graddio. Mae’n gystadleuaethddwys iawn i ddod o hyd i’r oen gorau efo nebyn fwy cystadleuol na Mr Griffiths!Efo’r tywydd gwlyb mae rhai o’r heffrod wedigorfod dod i mewn ac ychydig o rhigolaeth ygaeaf wedi dechrau wrth agor y pit silwair agwellta. Mae ychydig o kale a forage rape argael i rai o’r heffrod, ac er bod llawer o fwd oganlyniad i’r holl law, mae’r heffrod i’w gweldyn llawer hapusach allan na’r rhai sydd i mewnar goncrit. Cadw’r tacle tu ôl i’r ffens electrigyw’r sialens!Mae’r parlwr godro wedi cyrraedd o SelandNewydd a’r criw o arbenigwyr wedi dechrauar y gwaith o’i roi yn ei le. Y gobaith yw ybydd y gwaith parlwr wedi ei orffen erbyn yNadolig fel bod cyfle i ddechrau hyfforddi’rheffrod i fynd ymlaen i’r ‘platform’ cyn eu bodyn dechrau lloio a godro yn mis Mawrth. Mae’rgwaith on-trac ond mae llawer eto i’w wneud.Rhaid canmol mudiad Ffermwyr Ifanc y siram gynnal Eisteddfod wych yn y Ganolfan ynLlanfair ddydd Sadwrn diwethaf. Mae’r hollgystadlu a’r talent yn anhygoel ac hefyd daoedd gweld y Ganolfan yn llawn o gefnogaethcryf. Llongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu ada iawn i glwb Dyffryn Banw am ddod yn ailar y diwrnod.Hwyl am y tro @RichTudorLLysun

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    Ann y Foty yn edrych ymlaen at fis RhagfyrCOLOFN MAIDod i adnabod ein sbeis at y Nadolig! Maeamrywiaeth mawr ohonynt a’r rhan fwyaf ynddieithr i ni. Mae nifer o sbeisys wedi eucymysgu yn barod gan wahanol wledydd ydwyrain pell. Yn ystod yr oesoedd canol daethmasnachwyr Prydain a Phortiwgal a sbeis drosy môr i Ewrop ac ar yr amser hynny mi roeddsbeis yn cael ei drysori yn fwy nag aur!Mae enwau rhyfeddol ar y sbeis sydd yntarddu o wahanol wledydd – ‘Ras el Hanout’o Morocco, gall gynnwys rhwng 50 a 100 owahanol sbeis. ‘Berbere’ o Ethiopia. ‘Panchphoran’ o’r India a llawer mwy.Mi fu hi yn wythnos genedlaethol Cyri rhwng7-4 o Hydref ac mi roedd Tai Cyri yn brysuriawn yn denu cwsmeriaid ac yn cymysgu eudewis eu hunain o sbeis mae’n [email protected] ychwanegu blasau, mae sbeis arhinweddau meddygol hefyd. Ceir llawer osôn heddiw am tiwmerig, y sbeis llacharmelyn. Dyma un o’r sbeisys cyntaf i’wddefnyddio yn feddygol a hynny rhyw 4,000 oflynyddoedd yn ôl yn yrIndia. Mae’r sbeis yncynnwys y planhigyn‘Curcuma longa’ sydd âmaeth effeithiol atdawelu arthritis, asma, yffliw ac ati.Mae sbeis wedi chwarae rhan sylweddolmewn crefydd dros y byd hefyd.

    Dyma rysait y gellir ei ddefnyddio at swper dyddNadolig neu drannoeth gyda’r tatws neu lysiaugwyrdd sydd ar ôl.

    Sag Aloo400g (pwys) o datws200g ( ½ pwys) o spinais neu fresych gwyrdd2 nionyn coch2 glôf o arlleg150ml (¼ peint) o dd@r25g (owns) o fenynllond llwy fwrdd o olewllond llwy de wastad o’r canlynol – sinsir,tiwmerig, ciwmin, corriander, paprica,sinamon, pinsied o bupur a halen.

    Coginio’r tatws a’rspinais/bresych a’u torriyn ddarnau cymhedroleu maint. Sleisio’rnionod a’r garlleg a’uffrio’n ysgafn yn yr olewa’r menyn. Ynaychwanegu’r tatws a’rllysiau gwyrdd a’r blasauun ar y tro, gan droi ycymysgedd yn araf a

    thrylwyr. Ychwanegu 150ml o dd@r poeth athroi i’r cymysgedd a’i boethi am rhyw 5 munudymhellach.Gellir ychwanegu unrhyw fwydydd safri at ySag Aloo a’i fwynhau yn boeth. Nadolig hapusynghanol y sbeis!

    Paratoi fy hun at y tymor plygeiniauoeddwn i, trwy hymian canu ‘Ganolgaeaf noethlwm/cwynai’r rhewyntoer’ pan ddaeth Guto i’r t~� agolwg braidd yn ddigalon arno.Roedd o wedi cwarfod John yFeliarth yn rhywle, a hwnnw wedi

    dweud wrtho fod Boris Jonson a’i fryd ar alwetholiad.”“Roeddwn i’n ame fod rhywbeth yn y gwynt”meddwn i, “gan ein bod ni wedi cael tunelli odaflenni gan y Toriaid a’r DemocratiaidRhyddfrydol yn barod. Mi fydd yn rhaid i miwneud trip arbennig i Potters yn fuan iawnneu mi fyddwn ni wedi cael ein claddu danbapur cyn bo’ hir.”“A,” meddai Guto, efo golau newydd oddealltwriaeth yn dod i’w lygaid, “dyna pammae llun Elwyn Vaughan yn y County Timesmor amal y dyddiau hyn?”Roeddwn i wedi sylwi ar hynny hefyd, ac wediclywed fod yna hen wragedd, yn rhedeg ar eiôl rownd archfarchnadoedd Powys yn gofynam ei lofnod!Wnes i ddim dechrau poeni rhyw lawer am ynewyddion nes i Guto ddweud wedyn mai’rdyddiad roedd Boris wedi ei glusnodi ar gyfery lecsiwn oedd dydd Iau Rhagfyr ydeuddegfed.“Mae’n bosib na fyddwn ni yma i fotio ydiwrnod hwnnw,” meddwn i braidd yn wyllt.“Mi fyddai’n ofnadwy o beth pe bai ElwynVaughan yn colli ein pleidleisiau. Rwy’n reitsi@r y bydd ar y creadur bach ddigon o’uhangen nhw.”Y gwir oedd fy mod i a Guto wedi trefnu i fyndam wyliau i dde Powys tua’r amser hwnnw adoedden ni ddim wedi bwriadu dod adre tanddydd Gwener Rhagfyr y trydydd ar ddeg.Mae rhai ohonoch chi si@r o fod yn ein gweldni’n od, ac yn holi pam mynd ar ein gwyliauym mis Rhagfyr?Odiach fyth i eraill, efallai, yw ein bod ni am

    fynd i Frycheiniog a Maesyfed. Mae yna reswmcoeliwch fi.Rhagfyr yr unfed ar ddeg (diwrnod cyn yretholiad arfaethedig) yw’r union ddydd y byddnifer o wladgarwyr yn ymgynnull yng Nghilmeriger Llanfair-ym-Muallt i gofio Llywelyn apGruffydd. Fo oedd Tywysog olaf Cymru acfe’i lladdwyd yma yn 1282.Roedden ni am fynd i Gilmeri i gofio hyn.Roedd Rhagfyr 11 1282 yn ddiwrnod ofnadwyyn hanes y Cymry. Diwedd y byd osdarllenwch chi farwnad Gruffydd Goch i’wdywysog, efo’r gwynt yn rhuo’n y deri, y môryn gorlifo’r tir a’r ser yn syrthio o’r awyr.”“Digwyddiad trychinebus. Tebyg i Brecsit?”Holodd Guto braidd yn ddiniwed.“O bosib,” atebais.Bu Guto a finne yn trafod wedyn, morrhyfeddol oedd hi fod pobl tros saith canmlynedd yn ddiweddarach yn dal i gofiocwymp Llywelyn. A bod yna feirdd lawer, yncael eu hysgogi, hyd yn oed heddiw, iysgrifennu barddoniaeth ingol o wych am yrhyn a fu. Yn union fel pe bai y cyfan wedidigwydd ddoe.“Wyt ti yn meddwl y byddwn ni yn dal i gofioBrecsit mewn saith can mlynedd,” holoddGuto wedyn.“Mi fyddwn ni’n dal i drafod efo’r UndebEwropeaidd, cred ti fi ,” atebais, “ac mi fydddisgynyddion Jacob Rees-Mogg a BorisJohnson yn sefyll o hyd ar glogwyni Dofer,yn gweiddi, “Let’s take back control” “We’llstand alone” ac ‘independence day’, gan wgu’ngas ar y Ffrancwyr tros y Sianel. Mi weli di nhwyn hiraethu o hyd am y blits, Duncirc a D-Dayac yn breuddwydio am y dyddiau dedwyddhynny pan oedd map y byd yn binc drosto”Mae Guto a fi wedi penderfynu mynd i Gilmeri,doed a ddelo, ac os bydd yna lecsiwn yna feddown yn ôl mewn da bryd i fotio i ElwynVaughan.

    Atebion i’r Pos Geirfa:Atebion i’r Pos Geirfa:Atebion i’r Pos Geirfa:Atebion i’r Pos Geirfa:Atebion i’r Pos Geirfa:De Affrica, Iwerddon, Japan, Awstralia,Ffrainc, Yr Ariannin, Seland Newydd,Lloegr, Namibia, Rwsia, Yr Eidal, Yr Alban,Cymru, Canada. ‘I lawr’ – Cwpan Rygbi’rByd.

    IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

    Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

    Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs:Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol:Ffôn symudol: 07967 386151

    Ebost:Ebost:Ebost:Ebost:Ebost: [email protected]

    G wasanaethau A deiladu D avies

    Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

    Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

    Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

    Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

    www.davies-building-services.co.uk

    Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannoldomestig a gwaith diwydiannol

    Ffôn: Meifod 500 286

    Post a Siop MeifodHuw Lewis

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 1111111111

    Mae tymor arall bellach yn ei chanol hi gydanewid yn y tîm rheoli a chriw o chwaraewyrifanc newydd. Yn cymryd gofal o’r rheoli elenimae Awi Williams a Jon Higgins wedi ymunoo fod yn arwain tîm o dan 16 yn y Trallwngllynedd, ac wedi gallu arwyddo y rhan fwyafo’r tîm llwyddiannus oedd hefo nhw yno. Mae10 chwaraewyr ifanc 16 oed wedi arwyddo yndod a brwdfrydedd, cystadleuaeth ac yn fwypwysig cyfartaledd oedran y garfan i lawr ersy tymhorau diwethaf! Yn dilyn 8 gêm yn ygynghrair mae’r record yn dangos 5buddugoliaeth, 1 gêm gyfartal a 2 golled.Dechrau sydd yn gadael y clwb yn 5ed yn ygynghrair ac yn edrych ymlaen i weddill ytymor. Buasai’r clwb yn hoffi ymestyn eu diolchi Gareth ‘Tucker’ Jones am ei holl waith dros yblynyddoedd yn rhedeg y tîm a gobeithio byddymddeoliad o reoli yn llai o stress.Ar ddydd Sadwrn Hydref 12fed cafodd y clwbddwy bêl newydd wedi eu noddi gan Gwyndaf‘Cogs’ Evans. Yn y llun gwelir Jon, Awi, Cogsa Gerallt Davies capten y clwb yn derbyn uno’r peli. Diolch am y rhodd hael, efo lwc maentyn hawdd i’w rhoi yng nghefn y rhwyd.Ar nos Sadwrn Tachwedd 23ain bydd y clwbyn cynnal noson ar y cyd hefo clwb pel-droedLlanfair Caereinion. Bydd pryd dau gwrs T~Cerrig a band byw Built4Comfort yng

    Clwb Pêl DroedDyffryn Banw

    Nghanolfan Llanfair, y noson i ddechrau 7yh. Tocynnau ar gael gan Gerallt Dolmaen neu GeralltDolerw. Ni fydd ticedi yn cael eu gwerthu ar y noson felly bydd rhaid prynu o flaen llaw!Cadwch eich llygaid allan am fwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol neu dewch lawr i Gae Morfa igefnogi’r bechgyn! Gêm gartref fydd nesa ar Dachwedd 16eg yn erbyn Llanfyllin yng nghwpancanolbarth Cymru. Dilynwch ni ar Facebook am adroddiadau bob wythnos hefyd.

    G#YL CERDD DANT BROG#YL CERDD DANT BROG#YL CERDD DANT BROG#YL CERDD DANT BROG#YL CERDD DANT BRONANSINANSINANSINANSINANSIENILLENILLENILLENILLENILLYDDYDDYDDYDDYDDCYSTCYSTCYSTCYSTCYSTADLEUAETH LOGOADLEUAETH LOGOADLEUAETH LOGOADLEUAETH LOGOADLEUAETH LOGOMewn cydweithrediad â PwyllgorGwaith G@yl Cerdd Dant BroNansi 2020, cynhaliodd y Fentergystadleuaeth dylunio logo ar gyferyr @yl. Cafwyd cryn dipyn o sylwyn y wasg leol, a derbyniwyd 14 ogeisiadau gan ddylunwyr o bob cwro Faldwyn. Ffurfiwyd panel oarbenigwyr i ddewis y logobuddugol. Roedd rhain yn cynnwys Steffan Jones-Hughes o OrielDavies yn y Drenewydd, Sioned Camlin o Cyswllt Celf yn Llanfyllin aStephen Page o Castle Fine Arts Foundry yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bydd Castle Fine Arts yn creu tlysau wedi’u seilio ar y logoterfynol ar gyfer yr @yl yn mis Tachwedd 2020. Braf oedd gweld yramrediad oedran ymysg y cystadleuwyr, gyda’r logo buddugol yn caelei greu gan Eos Jones, 8 oed o Ros y Brithdir, a’r ail yn cael ei greu ganMr Wyn Daives (sydd yn ei wythdegau) o Foelfre! Mae Eos yn ddisgyblym Mlwyddyn 4 yn Ysgol Pennant, Penybontfawr. Llongyfarchiadaumawr iddi am ennill y wobr o £50 ac am greu logo trawiadol o delyndeires wedi ei greu allan o redyn.Mae’r logo terfynol, sydd wedi ei seilio ar ddyluniad Eos i’w weld arglawr y Rhestr Testunau, sydd ar gael nawr am £2 gan aelodau’rPwyllgor Gwaith, yn eich Siop Gymraeg leol, neu gan Menter IaithMaldwyn.

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    LLANLLUGANI.P.E. 810658

    ADFARuth Jones,

    Pentalar (810313)

    DiolchgarwchCynhaliwyd gwasanaethau Diochgarwch yreglwys ar ddyddiau Mercher ac Iau. Ar ynos Fercher pregethwyd yn Gymraeg gan yParch. Bethan Scotford. Yna ar y nos Iaucafwyd y gwasanaeth Saesneg gan y pregethwr gwadd y Parch. Steve Willson,gyda chymorth y Parchedigion Kushi a GlynJones. Yr organyddion oedd Paul Waddell aMrs Beryl Jones.

    DiolchMae Mrs Dora Davies a’r teulu gynt o Tynllanyn diolch o galon am bob ymholiad, cardiau arhoddion er cof am ei diweddar @r, MrStanley Davies.AnffawdYn ddiweddar cwympodd Mrs Hill, Rhos(aelod o’r eglwys) a thorri ei garddwn.CarwUnwaith y mis rwyf yn mynd i’r Clwb Diabetesyn y Drenewydd. Wrth deithio adref rhwngtroiad Felin Newydd a Bont Llanwyddelan ynddiweddar, ar noson wlyb a diflas, ymddangosodd rhywbeth o’r llwydni, methua choelio fy llygaid... carw! Tybed o ble ydaeth ac i ble yn y byd yr aeth?TristCydymdeimlwn yn ddwys gyda Mrs DoraDavies gynt o Tynllan a’i theulu a’i brodyr ar ôlclywed fod eu brawd Norman Humphreysgynt o Ty-hir yng Nghwm Carmel wedi eingadael yn ddiweddar.

    Roedd y gosodiad blodau yma gan ShanJones fel un o luniau Van Gogh! Hyfryd aHydrefol iawn.

    GenedigaethLlongyfarchiadau i Luke a Katie Jones,Chirbury ar enedigaeth eu mab Harvey Ewanar y 9fed o Awst. Mae Harvey yn @yr i Jeremyac Elaine, Awelon a gor-@yr i Milton ac AnnaJones, Minffordd.Y GymdeithasCyfarfu’r gymdeithas yn neuadd y pentref‘pnawn dydd Mercher y 16eg o Hydref.Llywyddwyd gan y Parch Peter Williams achyflwynodd Mrs Eleri Williams o Garno i sônwrthym am ‘Ystyr Blodau’. Cawsom amserdifyr ac addysgiadol yn ei chwmni a’igwybodaeth a’i diddordeb yn y pwnc ynamlwg. Aeth â ni nôl i gyfnod yr Eifftiaid aphwysigrwydd blodau ym mywydau pobl arhyd y canrifoedd. Daliwyd ein sylw gan luniaulliwgar ar y sgrîn o bob cyfnod. Diolchwydiddi ac fe fwynhawyd paned a sgwrs ar ydiwedd.DiolchgarwchMae’r haf wedi mynd am eleni a thymor ycyfarfodydd Diolchgarwch yn eu hanterth.Cafwyd cyfarfod diolchgarwch bendithiol iawnyng Nghapel yr Adfa nos Iau Medi 26ain danofal ein gweinidog y Parch Euron Hughes aneges bwrpasol ganddo i Ddiolchgarwch.Maldwyn Evans oedd yn arwain y gân a MrsMary Steele oedd wrth yr organ, gwnaed ycasgliad gan Sian Foulkes ac Edgar Jones.Diolch yn fawr i bawb am eu presenoldeb a’ucefnogaeth.ColledionMae’r ardal wedi ei bylchu yn ystod y misoedddiwetha’, ym mis Gorffennaf bu farw MrsDorothy Clements gynt o’r Castell, Adfa,gweddw y diweddar Ron Clements. Daeth yteulu yma o ardal Wolverhampton lle buont yn

    cadw siop beics. Roedd y ddau yn hoff iawn odreulio penwythnosau yn beicio ar lwybraucefn gwlad a hoffent yn fawr fryniau a phoblgroesawgar Sir Drefaldwyn, y canlyniad oeddiddynt brynu ffarm y Castell ym 1968. Buontyn amaethu yno am flynyddoedd cyn ymddeoli’r Drenewydd a Llanbrynmair. Mae eincydymdeimlad yn ddwys iawn a’u mab Davida’r teulu, Drenewydd a Jane eu merch a’r teuluyn Amwythig.Eto ym mis Awst bu farw un arall o’r trigolionyn sydyn iawn sef Philip Pugh gynt oPantycelyn. Daeth teulu Philip i’r ardal o SirAmwythig yn niwedd 1940au wedi’r ail ryfelbyd. Roedd yn ymddiddori yn y cobiauCymraeg ac enillodd y brif wobr yn SioeFrenhinol Cymru yn Llanelwedd efo un o’rceffylau oedd wedi ei fagu ar y fferm. Daeth âchlod mawr iddo ac i’r ardal. Mae eincydymdeimlad yn ddwys iawn â’i briod Jaquia’r plant Jeff, Tony, Janet a Jared.MacmillanRoedd bore coffi Macmillan yn llwyddiant etoeleni, daeth nifer dda ynghyd i gefnogi yrachos teilwng hwn. Codwyd y swm sylweddolo £1,170 hyd yma. Mae Marion y trefnyddyn diolch o galon i bawb am eu cefnogaetha’u haelioni.EglwysCynhaliwyd cyfarfod Diolchgarwch yn EglwysLlanwyddelan ar nos Fawrth Hydref 8fed.Roedd y merched wedi addurno’r Eglwys yndlws iawn a chafwyd cyfle i brynu’r ffrwythaua’r llysiau er budd yr Eglwys ar y diwedd. YFicer y Parch Norman Morris oedd yng ngofaly gwasanaeth, ef hefyd a draddododd negeso ddiolchgarwch. Cafwyd lluniaeth yn yrysgoldy ar ddiwedd y noson wedi ei baratoigan y chwiorydd.NeuaddCofiwch y dyddiad Tachwedd 5ed yn Neuaddyr Adfa am 2 o’r gloch, bydd prynhawn o flasute efo Morgan Brew. Bydd croeso cynnes ibawb.

    Garej Llanerfyl

    Ffôn LLANGADFAN 820211

    Arbenigwyr mewn atgyweirioGwasanaeth ac MOT

    ar ddydd Llun a dydd Gwener

    PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

    yn ymarfer uwch ben

    Salon Trin GwalltAJ’s

    Stryd y BontLlanfair Caereinion

    Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

    E-bost: [email protected]

    ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

    Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost. YR HELYGLLANFAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r Newydd

    Atgyweirio Hen DaiGwaith Cerrig

    CEFIN PRYCE

    Brian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisBrian LewisGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymio

    a Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

    Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

    Ffôn 07969687916 neu 01938 820618

    Nid yw Golygyddion na Phwyllgor Plu’rGweunydd o anghenraid yn cytuno

    gydag unrhyw farn a fynegir yn y papurnac mewn unrhyw atodiad iddo.

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 1313131313

    Colofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrColofn y DysgwyrLois Martin-Short

    Sadwrn Siarad Tachwedd 16Cofiwch am y Sadwrn Siarad y mis yma.Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yng NghanolfanGymunedol Buttington Trewern, ar 16Tachwedd, rhwng 9.30 a 4.00. Mae’n costio£10. Bydd dosbarthiadau ar lefelau Mynediad,Sylfaen, Canolradd, ac Uwch. I gofrestru arlein, ewch i www.learnwelsh.cymru, adewiswch y lefel sy’n addas i chi. Am fwy owybodaeth neu am help i gofrestru, ffoniwchDebbie neu Sue ar 01686 614226.Sianel Ar-Lein Newydd i Ddysgwyr

    Mae S4C wedi lansio sianel ar-lein newyddyn arbennig i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae’nrhan o wasanaeth ‘S4C Clic’. Mae rhaglennipoblogaidd o’r archif ar gael, yn ogystal ârhaglenni mwy diweddar. Mae S4C eisoes yndarlledu rhaglenni addas ar gyfer dysgwyr bobbore dydd Sul. Mae pytiau digidol hefyd argael i ddechreuwyr ac yn y Gwanwyn byddcyfres wreiddiol, newydd am ddysgwyr, yncael ei darlledu. Ewch i www.s4c.cymru/clic/Pos GeirfaMae llawer o bobl yn mwynhau’r rygbi ar hyno bryd. Wrth imi ysgrifennu’r golofn hon, mae

    Yn y llun, o’r chwith, Alun Bowen, Julie Pearce, Barry Lord,David Thomas, Sue Hyland, Bryan Hyland.

    Gwobr i Ddysgwyr Clwb EiddewMae dysgwyr sy’n cyfarfod yn Nhrefaldwyn wedi ennill cystadleuaeth Gr@p y Flwyddyn2019. Mae’r wobr o £100 yn cael ei dyfarnu i grwpiau sy’n dod ynghyd i drefnu a chynnalgweithgareddau rheolaidd yn y Gymraeg trwy Geredigion, Powys a Sir Gâr. Mae ClwbEiddew yn cyfarfod i drafod llyfrau, i wrando ar siaradwyr gwadd, ac i gymryd rhan mewngweithdai. Dywedodd Julie Pearce, “Aethon ni i’r seremoni wobrwyo yn Aberystwyth ar yr22ain o Hydref. ’Dan ni’n gobeithio trefnu gweithdai yn y dyfodol efo’r arian. Ond yn ycyfamser bydd croeso mawr ichi ymuno â ni yn y cyfarfodydd nesa – 5ed o Dachwedd a3ydd o Ragfyr, pan fyddwn ni’n dathlu ein llwyddiant eleni efo parti bach. ’Dan ni’n cyfarfodyn The Ivy House Cafe, Trefaldwyn, 6.30 – 8.30pm. £2 yn cynnwys panad a chacen.”

    ‘Ariennir Plu’r Gweunyddyn rhannol gan Lywodraeth Cymru’

    Cymru trwodd i’r rownd gyn-derfynol. Felly mae’r pos y mis yma yn cynnwys enwau 14o’r 20 gwlad sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth ar ochr arall y byd. Llenwch yrenwau i weld term sy’n disgrifio’r cwbl. Cofiwch, bydd y llythrennau ‘dwbl’ (ff, th, ch,dd, ll etc) yn cymryd UN sgwâr, nid dau. Bydd yr atebion ar dudalen ....

    1. Gwlad sy’n cynnwys Penrhyn Gobaith Dda. (2-6)2 . Gwlad Geltaidd dros y môr i’r gorllewin. (7)3. Y wlad lle mae’r gemau yn cael eu cynnal. (6)4. Gwlad sydd hefyd yn enw ar gyfandir cyfan. (9)5. Ein cymdogion dros y sianel.(6)

    6. Gwlad lle aeth llawer o Gymru ym 1865. (2, 8)7 . Gwlad gyda dwy ynys fawr. (6, 5)8. Ein cymdogion dros Glawdd Offa. (5)9. Gwlad efo arlywydd o’r enw Hifikepunye Pohamba. (7)10. Y wlad fwyaf yn y byd o ran arwynebedd. (5)

    11. Gwlad a roddodd opera i’r byd (2, 5)12. Gwlad Geltaidd i’r gogledd (2, 5)13. Gwlad y Gân (5)14. Ail wlad fwyaf yn y byd o ran arwynebedd (6)

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    01938 500355 a 500222

    Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

    Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Derv acOlew Iro a

    Thanciau StorioGWERTHWR GLO CYDNABYDDEDIG

    AR AGORLlun – Gwener 7.30 a.m. – 5.00 p.m

    Sadwrn 7.30 a.m. – 2.00 p.m.

    BANWY BAKERY

    STRYD Y BONT, LLANFAIR CAEREINION, SY21 0RZ

    CAFFIBara a Chacennau CartrefPopty Talerddig yn dod â

    Bara a Chacennau bob dydd IauBara Henllan yma bob dydd ond dydd Sul

    Te Angladdau. Arlwyo i Bartïon. Saladau

    Cysylltwch â Rita Waters ar 01938 810952neu e-bostiwch:

    [email protected]

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    MEIFODMorfudd Richards

    01938 [email protected]

    DOLANOG

    YsbytyMae sawl un o'r ardal wedi bod yn yr ysbytyyn ddiweddar. Anfonwn ein dymuniadau gorauam adferiad buan i Kelly Hartshorn Rhoslangafodd ei chymryd yn wael yn sydyn, iMyrddin Jones Rhydarwydd ar ôl cael triniaethar ei benglin, i Dorothy Jones Penygeulan arôl torri ei hysgwydd yn dilyn codwm ac i ElvetLewis Brynhyfryd sy’n parhau i gael profion ynysbyty Amwythig.Anfonwn ein cyfarchion hefyd at Kathryn GavinY Glyn sydd ddim mewn iechyd da y dyddiauyma.Babi NewyddLlongyfarchiadau i Rob a Ruth Pentre Herinar ddod yn Daid a Nain unwaith eto ac iGwyneth Jones Pentrecoed ar ddod yn HenNain i Jos, sef mab bach newydd Siân ac IanProbert yn Sarn ger Y Drenewydd. Deallwnfod Elis wrth ei fodd gyda'i frawd bach, ac ynofalus iawn ohono.Cymdeithas y Merched DolanogMedi’r 10fedMedi’r 10fedMedi’r 10fedMedi’r 10fedMedi’r 10fed. I gychwyn y tymor newyddaeth criw ohonom i fferm Coedtalog i weldmenter newydd y teulu. Maent i gyd yn brysuriawn yn tyfu ac yn casglu madarch ar gyfer eugwerthu yn ffres neu eu sychu. Roedd llawerohonom wedi prynu ar y noson er mwyn caeleu profi. Aethom ymlaen wedyn i’r CwpanPinc yn Llangadfan am bryd o fwyd hyfryd.Hefina Oliver oedd yn rhoi’r raffl. Beryl Robertsoedd yn diolch i deulu Coedtalog a NerysJones ddiolchodd i bawb yn y Cwpan Pinc.Hydref 8fedHydref 8fedHydref 8fedHydref 8fedHydref 8fed. Cafodd deg ohonom nosonhwyliog yn Coco Pzzaz, Bwlch y Ffridd.Roeddem yn gwneud eitemau siocled yn ygweithdy yno gyda help ac arweiniad.Llwyddodd pawb i gynhyrchu eitemau a’upacio i focsys hyfryd i fynd adre ar ddiwedd ynoson.Diolchwyd i bawb gan JennyHalewoodEglwys Sant IoanAr nos Sadwrn y 5ed o Hydref cynhaliwydSwper Cynhaeaf yn y Ganolfan Gymunedol.Daeth nifer dda ynghyd i fwynhau pryd blasusa baratowyd gan aelodau’r Eglwys.Rhoddwyd y gras gan y Ficer y Parch JaneJames a diolchwyd i bawb oedd wedi bod ynbrysur yn paratoi’r wledd gan y Parch IvorHawkins. Cynhaliwyd GwasanaethDiolchgarwch yr Eglwys ar ddydd Sul y 13ego Hydref. Roedd gwragedd yr Eglwys wedibod yn brysur yn glanhau ac yn addurno’rEglwys ar gyfer y gwasanaeth. Y Parch JaneJames oedd yng ngofal y gwasanaeth a’rorganydd oedd Mrs Nelian Vaughan Evans.Darparwyd lluniaeth ysgafn i bawb ar ddiweddy gwasanaeth.

    Cymdeithas GymraegCawsom noson agoriadol wych dan arweiniadtriawd o Lanfyllin sef Mazy, Richard a Huw aMargaret Celyn yn cyfeilio. Roedd hi’n nosonyn llawn o gerddoriaeth Gymreig. Braf oeddcael croesawu Angharad Gwalchmai o ardalLlangyniew fel aelod ifanc newydd i’rgymdeithas.Diolch i ferched Pont am y baned a’r bwydblasus ar ddiwedd y noson.Gwellhad buanDymuniadau gorau am wellhad buan i John aIeu Newbridge y ddau wedi derbyn triniaethyn ddiweddar.Hoffem hefyd ddymuno gwellhad buan i ArwelGrwnamlwg sydd wedi treulio peth amser ynyr ysbyty.

    GraddioLlongyfarchiadau mawr i Nia Breeze, Tan yGraig ar ennill gradd dosbarth cyntaf mewnffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd. Dymunwnyn dda iddi yn ei swydd newydd felffisiotherapydd yn ysbyty Casnewydd.Pen-blwydd arbennigLlongyfarchiadau i nain Nia sef Mrs RhiannonJones, Glynd@r ar ddathlu ei phen-blwydd yn90 oed yn ystod yr Haf, gobeithio i chi gael hwylar y dathlu.CFfI Dyffryn EfyrnwyMae aelodau’r clwb wedi bod yn brysur ynparatoi ar gyfer yr Eisteddfod a fydd yn caelei chynnal yn Llanfair eleni, pob lwc i chi,edrychwn ymlaen at glywed ychydig o’r hanesmis nesaf.Clwb 250Aeth yr arian y mis yma i….£25 - Charlie Owen Dolobran Hall, Pontrobert£15 - Amrio Jo Morris, Ceunant, Meifod£10 - Hazel Jones, Four Crosses£10 - Mary Ronnie, Maesteg, Meifod£10 - Heulwen Owen, Tan y Coed

    Yvonne Steilydd Gwallt

    Ffôn: 01938 820695

    neu: 07704 539512

    Hefyd, tyllu

    clustiaclustiau a

    thalebau rhodd.

    Ar gAr gyfer eich holl

    ofynion gwallt. HUW EVHUW EVHUW EVHUW EVHUW EVANSANSANSANSANS

    GorGorGorGorGorsssss, Llang, Llang, Llang, Llang, LlangadfadfadfadfadfanananananArbenigwr mewn gwaith:

    * Torwr Coed ar Diger* Ffensio

    * Unrhyw waith tractor* Troi gydag arad 3 cwys ‘spring’

    a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’ * Torri Gwrych

    01938 820296 / 07801 583546 001938 810242/01938 811281

    [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

    TANWYDD

    OLEWON AMAETHYDDOL

    POTELI NWY

    BAGIAU GLO A CHOED TAN

    TANCIAU OLEW

    BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

    ANIFEILIAID ANWES

    A BWYDYDD FFERM

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 1515151515

    Y TRALLWMRona Evans

    01938 552369

    Cymdeithas Mair a MarthaAr y trydydd o Hydref cafwyd pnawn difyrdros ben yng nghwmni Dewi Roberts. Diddoroloedd clywed sut mae’n archwilio’r afonydd amfywyd gwyllt a hefyd gweld ei luniau diddorolo’r tirlun ac o fyd natur. Ar y seithfed oDachwedd ni fydd siaradwr a gobeithia’raelodau ddifyrru ei gilydd gan ddod â lluniauo’u priodasau a rhai ohonynt yn fabis!Cymdeithas ParkinsonsukAr ddiwedd Mis Medi daeth y gr@p at ei gilyddi gael eu cinio blynyddol yn y LakesideAbermiwl. Diolchwyd yn gynnes i Anne aGwyneth am y trefniadau. Ar yr 28ain oDachwedd ceir pnawn cymdeithasol a chyflei gysylltu a holi Debbie Evans, nyrs arbenigolsydd yn edrych ar ôl yr holl gleifion sydd âParkinson’s yn yr hen sir Drefaldwyn. Mae’rcyfarfod blynyddol yma yn boblogaidd iawn,ac mae croeso i rywun ddod draw i’r cyfarfodac i holi Debbie yn y Cowshac. Am fwy owybodaeth, cysylltwch ag Anne Smedley ar01938 554062.Y Gymdeithas GymraegDaeth nifer dda ynghyd i gyfarfod cyntaf ytymor o’r Gymdeithas. Croesawyd BethanScotford atom a darllenodd ddarnau o’i hofffarddoniaeth. Yn dilyn cafwyd trafodaethynglyn â rhaglen 2019 -2020. Cytunodd BrynJones ymgymryd â swydd ysgrifennydd gydachefnogaeth Josephine Jones.Seicotherapydd, ‘Naturopath’ ac awdur ydyBryn sy’n enedigol o Gaernarfon ond wedi bywyn y Swistir a’r Almaen. Yn dilyn ei ymddeoliadsymudodd yn ôl i Gymru a nawr mae wediymgartrefu yn y Trallwm.Cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas nosFercher Tachwedd 20fed am 7 o’r gloch a’rsiaradwraig fydd Diane Stirling Jones.Cofiwch am y Blygain a gynhelir yn y CapelCymraeg, Nos Fawrth Rhagfyr 10fed.Gwasanaeth DiolchgarwchPnawn Dydd Mercher Hydref 23ain cafwydgwasanaeth diolchgarwch hyfryd ganddisgyblion yr Ysgol Gymraeg. Rhoddwydeitemau o ganu a chyflwyniadau gan y pedwardosbarth yn yr ysgol. Cawsant anerchiad astori fer gan Bethan Scotford a daeth ygwasanaeth i ben gyda’r plant yn cyd ganuyn swynol y gân Byd o Heddwch. Braf oeddgweld y capel yn orlawn gyda chynulleidfa orieni a ffrindiau’r ysgol.

    Diolchgarwch yn y Capel CymraegDiolch o galon i bob un wan jac oedd yn y capel yn barod i wrando ar ein neges yn ymwneudâ Chwpan y Byd a’n breuddwyd o ‘Fyd o Heddwch’. Braf oedd rhannu ein neges â holl deuluoedda ffrindiau sydd ynghlwm â’r ysgol hon. Hoffem ddiolch yn arbennig i’r disgyblion, staff, BethanScotford a Ffrindiau’r Ysgol am eu gwaith called.Cyswllt â ChaereinionCyswllt â ChaereinionCyswllt â ChaereinionCyswllt â ChaereinionCyswllt â ChaereinionPleser oedd croesawu Mr Humphreys o Ysgol Uwchradd Caereinion i flwyddyn 5 a 6 i ddarlunioa chreu cestyll 2D yn defnyddio ystod o dechnegau. Mae ei arbenigedd, ei egni a’i angerdd ynysbrydoledig.Hefyd, diolch o galon i Manon o Ysgol Uwchradd Caereinion am ei harbenigedd pêl-rwyd.Disgybl hyderus ac egwyddorol sydd â chymaint i’w gynnig. Diolch eto, gwerthfawrogir dyfrwdfrydedd.

    Gorau Chwarae Cyd ChwaraeDyma nhw...y pencampwyr! Y tro cyntaf erioed i dîm Ysgol Gymraeg Y Trallwng gyrraedd ailrownd pêl-droed yr Urdd. Ysgol sydd â 77 o blant ar y gofrestr yn cystadlu yn erbyn ysgolionllawer mwy...am lwyddiant! ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ YMLAEN!!!!Llysgenhadon ChwaraeonMae’r Llysgenhadon Chwaraeon wedi bod yn brysur iawn yn darparu sesiynau Iechyd a Llesi Gartref Gofal y Rallt. Am syniad arbennig. Hoffem ddiolch i Ryan, ein swyddog Iechyd aLles am ei fewnbwn o wireddu’r syniad unigryw. Da iawn chi blant.

    Y TRALLWM

    Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540Ffôn: 01938 554540

    PETHE POWYS

    MAE’R SIOP ARGAU BOB

    DYDD MAWRTH

    Oriauagor

    10 y borehyd 3.00

    argraffu daam bris da

    holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

    ym mhentre Llangadfan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

    ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU ORIAU AGORAGORAGORAGORAGORDydd Llun i Ddydd IauDydd Llun i Ddydd IauDydd Llun i Ddydd IauDydd Llun i Ddydd IauDydd Llun i Ddydd Iau

    8.30 - 4.308.30 - 4.308.30 - 4.308.30 - 4.308.30 - 4.30Gwener i Sadwrn 8.00 - 4.30Gwener i Sadwrn 8.00 - 4.30Gwener i Sadwrn 8.00 - 4.30Gwener i Sadwrn 8.00 - 4.30Gwener i Sadwrn 8.00 - 4.30

    Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30Dydd Sul 8.30 - 3.30

    Cinio 3 cwrs arbennig bob dyddMawrth yn dechrau ar y 5ed oDachwedd

    Cinio Nadolig 3 cwrs ar y 10fed,12fed, 17eg a’r 19eg o Ragfyr. Rhaidbwcio ymlaen llaw

    Rydym nawr yn cymryd archebion argyfer cacennau Nadolig a mins peis

    YSGOL GYMRAEG Y TRALLWM

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    O’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANO’R GORLANGwyndaf Roberts

    CYSTADLEUAETH SUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: ____________________

    ____________________________________

    A.J.’sAnn a Kathy

    Stryd y Bont, Llanfair

    Siop Trin Gwallt

    Ar agor o ddydd Mawrth iddydd Sadwrn

    ac hwyr nos WenerFfôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227Ffôn: 811227

    DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

    Pob math o waith adeiladu at eich gwasanaeth

    ADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYRADEILADWYR

    Ffôn: 01938820387 / 596Ebost: [email protected]

    Wedi i’r teulu symud o sir Gaernarfon i sirDdinbych, fe fûm yn mynychu ysgol eglwysam y pum mlynedd olaf o’m cyfnod cynradd.Saesneg oedd yr iaith weithredol a thrwyddihi y rhoddwyd gwersi crefyddol i bawb. Rhano’r gwersi oedd cyd-adrodd y colectau a’rCredo nes ein bod yn eu gwybod ar ein cof.Yn anffodus ni wnaed unrhyw ymdrech iesbonio’r geiriau astrus a ddysgwyd gennym.Fe arhosodd un penbleth am amser wrth imigredu mai Eglwys Babyddol oedd Eglwys yPlwy’ gan fod y Credo yn sôn am yr Eglwyslân gatholig!! Clywsom am Gristnogion yn caeleu llarpio gan lewod ond fe fyddai esboniadsyml o gefndir Credo Nicea wedi bod o les ibawb.Bu canrifoedd cynnar Cristnogaeth yn rhaitymhestlog iawn. Yn y flwyddyn 202 OC, feddeddfwyd fod tröedigaeth Gristnogol ynanghyfreithlon yn yr Ymerodraeth Rufeinig acerbyn canol y ganrif roedd erledigaeth ffyrnigyn rhan o fywyd adloniadol dyddiol yboblogaeth. Pan ddaeth Diocletian ynymerawdwr yn 284, ei nod bersonol oedd llwyrddiddymu Cristnogaeth. Llosgodd ei filwyreglwysi a sgroliau sanctaidd yn ystod y cyfnoda elwir Yr Erledigaeth Fawr. Daeth yr erlid iben yn ddisymwth pan ymddeolodd Diocletiana phenodi dau ymerawdwr, ifanc a h~n, i reoliyn y Gorllewin a dau arall i weithredu yn yDwyrain. Canlyniad hyn oedd rhyfel cartref a’rg@r a ddaeth yn Ymerawdwr yn 312 oeddCwstenin. Y noson cyn y frwydr ar lan yr afonTiber, cafodd freuddwyd a gwelodd groes ooleuni yn yr awyr a’r geiriau Gorchfyga gydahon. Y bore canlynol rhoddwyd darlun o groesar dariannau’r milwyr wedi’u llunio o lythrennauenw Crist yn yr iaith Roeg sef CHI RHO. Ganfeddwl bod ei lwyddiant yn deillio o arweiniadDuw’r Cristnogion, mabwysiadodd slogantrawiadol: Un Duw, Un Ymerawdwr.Er mawr syndod i Cwstenin, darganfu’ngynnar nad oedd cytundeb ymhlith Cristnogionyngl~n â natur Duw na’i berthynas ag Iesu Grist.Roedd rhai yn pwysleisio Duwdod Crist tra boeraill yn gwadu ei Ddyndod. Roedd eraill yn eiweld fel proffwyd a allai wneud gwyrthiau acyn llefaru gyda grym dwyfol ond heb fod ynddwyfol ei hunan. Os oedd Cwstenin amsefydlu ei hun fel arweinydd yr Ymerodraethroedd yn rhaid cael cytundeb ar bwy oeddarweinydd y nefoedd. I geisio’r cytundeb hwn,galwodd holl arweinwyr yr eglwys i Nicea yn325 a’r hyn a gafwyd yno oedd Credo Nicea.Bellach i Cwstenin roedd Iesu Grist y Mab o’run hanfod â Duw y Tad.Yn anffodus roedd y Credo yn arwainCristnogion i ofyn llawer mwy o gwestiynau

    astrus, yn arbennig felly yngl~n â’r YsbrydGlân. Ymhen amser Agwstin o Hippo (354-430) a ddyfarnodd bod Duw yn Un ond bodganddo Dair Ffurf, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.Roedd y tri yn meddu ar yr un mesur oddwyfoldeb ac yn bodoli ar ddechreuad amser.Os oedd athrawiaeth y Drindod yn eglur iAgwstin, roedd eraill mewn penbleth mawr.Ond os oedd y pethau hyn yn anodd i’w deallac yn tresmasu ar reswm, ac yn gwrthddweudy diffiniad traddodiadol o Dduw, y cyngor agafwyd oedd y dylai credinwyr dderbyn yDrindod fel dirgelwch fel y dylid gyda dirgelioneraill y ffydd.Cam nesaf yr Eglwys oedd galw CyngorChalcedon yn 451 i gadarnhau bod Iesu Grist,er ei fod yn wir Dduw, roedd hefyd yn wirDdyn. Gyda’r gosodiad hwn roeddCristnogaeth yn dileu’r syniad Iddewig am unDuw anwahanadwy. Ychydig dros ganrifwedyn yn Arabia dechreuodd cred newyddunduwiaeth ar ei thaith a fyddai, ymhen amser,yn herio’r syniad Cristnogol am Dduw wedi’iddynoli. Heriau mwyaf Cristnogaeth ein cyfnodni yw twf Islam a’r modd y gallwn gyd-fyw ynheddychlon gyda deiliaid y grefydd honno.Nodwedd amlwg bywyd yr Eglwys yn yGorllewin a’r Dwyrain yn ystod y cyfnod o’rbumed ganrif i’r 11eg ganrif oedd yr ymrafaelrhwng Rhufain ac arweinwyr yr eglwys ynConstantinople. Tra bo eglwys y Gorllewin ynddiwinyddol dawel, roedd yna ddadlau di-baidyn y Dwyrain. Yn athroniaeth y Groegiaidroedd gwreiddiau diwinyddiaeth y Dwyrain trabo llawer o syniadau Eglwys y Gorllewin ynseiliedig ar y ddeddf Rufeinig. Penllanw’rdadlau mawr oedd pwyslais y Gorllewin ar ysyniad bod yr Ysbryd Glân yn deillio o’r Tada’r Mab tra bo’r Dwyrain yn dal mai o’r Tad ynunig y daeth. Ychwanegwyd o’r Mab i GredoNicea gan y Gorllewin heb drafod gyda’rDwyrain. Gan nad oedd Eglwys y Dwyrain ynderbyn dibriodrwydd offeiriaid nac yn fodlon iesgobion yn unig weinyddu conffyrmasiwndwysaodd y cweryl. Bu’r defnydd o fara hebei lefeinio yn y sacrament yn broblem ac nidoedd offeiriaid y Dwyrain yn fodlon cyd-addoligydag offeiriaid oedd wedi eillio eu gwallt a’ubarfau. Yn 1054 esgymunodd y Pab Eglwysy Dwyrain a gwnaeth y Patriarch yntau’r unfath i Eglwys y Gorllewin. Hwn oedd y rhaniadmwyaf yn hanes yr Eglwys hyd nes byddai’rDiwygiad Protestaniaid yn rhwygo’r EglwysGristnogol unwaith eto.Mae penderfyniadau crefyddol y gorffennol ynrhan annatod o sefyllfa’r Eglwys Gristnogolheddiw. Ond mewn byd o wahanol gredoaumae’n rhaid inni ddarganfod ffordd o ymddwynsy’n parchu gwahanol farnau tra ar yr un prydyn hawlio’r rhyddid i ddatgan y gwirioneddaurydym yn eu harddel. Ffordd trwy ddrain syddgennym a bydd rhaid ei theithio yng nghwmni’rUn a ddioddefodd y Goron Ddrain dros bawb.

    Diolch yn fawr iawn i’r 30 darllenydd amgystadlu. Mae hi’n neis cael rhywbeth heblawtaflenni gan rai o’r pleidiau gwleidyddol yn doddrwy y blwch llythyrau. Eirys Jones, Dolanog;Neil Ellis, Coed Siencyn; Rhiannon Gittins,Llanerfyl; Gwenda Evans, Corwen; BethanLewis, Pennal; Eirwen Robinson; Tom Bebb,Caermynach; Cleds Evans, Llanfyllin;Maureen Talar deg; Oswyn Evan,sPenmaenmawr; Glenys Richards, Pontrobert;Leslie Vaughan, Abermaw; Arfona Davies,Bangor; Linda James, Llanerfyl; DavidSmyth, Foel; Hywel Edwards, Pont Robert;Ann Lloyd, Rhuthun; Meirion Jones, PenybontFawr; Linda Roberts, Abertridwr; MeganRoberts, Llanfihangel; Ann Gwyn Evans,Llanfihangel; Tudor Jones, Abermiwl; DelythThomas, Carno; Jean Preston, DinasMawddwy; Ann Evans, Bryncudyn; MoyraRowlands-Goodger, Nantycaws; Ivy; J.Jones, Y Trallwm; Beryl Jacques, Cegidfaac Ifor Roberts, Llanymawddwy

    Yr enw cyntaf i ddod allan o’r fasged ac ynderbyn tocyn £10 i’w wario yn un o siopauCharlies ydi Linda Roberts, Abertridwr.

    Y mis nesaf bydd yr enillydd lwcus yn derbyntocyn gwerth £10 i’w wario yn un o siopauCharlie’s. Anfonwch eich atebion at MarySteele, Eirianfa, Llanfair Caereinion, YTrallwm, Powys, SY21 0SB neu CatrinHughes, Llais Afon, Llangadfan, Y Trallwm,Powys, SY21 0PW yn ddim hwyrach na dyddSadwrn Tachwedd 16.

    https://www.facebook.com/plurgweunydd

    Cofiwch:Plu’r Gweunydd

    TTTTTwitter: witter: witter: witter: witter: @PluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunyddPluGweunydd

    Gwefan: plurgweunydd.cymruGwefan: plurgweunydd.cymruGwefan: plurgweunydd.cymruGwefan: plurgweunydd.cymruGwefan: plurgweunydd.cymru

  • Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019 1717171717

    AR GRWYDYRgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Robertsgyda Dewi Roberts

    Gweithgaredd cymharolnewydd i mi ac un dw i wedi eiwneud lawer gwaith bellach ywsnorclo mewn afonydd. Golygahyn wisgo ‘wetsuit’ (fel arfer) a

    defnyddio offer pwrpasol megis masg asnorcel er mwyn gweld beth sydd o dan yrwyneb yn haws. Yn ogystal â bod ynweithgaredd eithriadol o foddhaol, mae’n ddaiawn ar gyfer ffitrwydd hefyd.

    Gan fod d@r afon yn weddol oer ar y cyfanmae angen gwisgo menyg, het ac esgidiauaddas hefyd er mwyn gwrthsefyll effaith yroerni. Weithiau byddaf yn defnyddio ffliparshefyd er mwyn symud drwy y d@r yngyflymach. Er fy mod wedi bod yn edrych arbe sydd o dan y wyneb ers blynyddoedd,mae’r diddordeb newydd yma wedi dod â lefelnewydd sbon, mewn mwy nag un ystyr, i fyanturiaethau afonol! O ran iechyd a diogelwch,ni fyddaf yn mentro i ddyfroedd wedi glawtrwm a byddaf yn cymryd pwyll bob amser.Hyd yma, dw i wedi cael anturiaethau gwychyn afon Efyrnwy, Dyfi, Dulas, Gwy ac Irfon.Rwyf wedi gweld nifer fawr o ryfeddodau drosyr wythnosau diwetha’ a byddaf wrth fy moddyn treulio oriau mewn afon. Nid un daith syddgen i y tro yma ond tameidiau allan o nifer orai gwahanol.Y daith hiraf – o ran pellter a amser – oedd arafon Gwy i’r gogledd o Raeadr, ardal dw i’n eihadnabod yn gymharol dda erbyn hyn.Roeddwn allan ar yr afon am tua 9 awr i gyd achefais flas ar bob munud. Mi welais nifer fawro ffurfiau trawiadol ar wely’r afon gan gynnwysceudyllau, cwysi, pedestalau a cherfluniaunaturiol eraill yn y graig. Mewn ambell i leroedd yr afon wedi gwneud twll mawr yn glirdrwy graig. Byddai’r broses erydol yma wedicymryd amser maith gan ddefnyddio offermegis cerrig a thywod yn ogystal â’r cerrynt.

    Un o’r pethau mwyaf hudolus am anturio odan yr wyneb mewn afon yw bod ymysg ybywyd gwyllt. Yn gyffredinol, unwaith maecreadur yn deall nad ydych yn fygythiadmaent yn cario ‘mlaen efo’i bywyd a da o bethyw hynny. Mi weles i nifer o bysgod gwahanolyn amrywio o rai bach, bach fel silod mân i’rrhai mawr fel yr eog ysblennydd. Mae pobpysgodyn wedi ei addasu i’r cynefin gwychyma gyda phob un yn gul a llyfn.

    Cefais daith arbennig ger Dolanog a gweldnifer o eogiaid ifanc o oedrannau gwahanol –maen nhw’n diriogaethol gydag unigolion ynaros ar garreg neu graig am gryn amser. Yngyffredinol, mae pysgod yn nofio yn wynebuy cerrynt a gallwn weld ambell un yn bwytatameidiau o fwyd oedd yn dod i lawr yr afon.Roedd y rhan fwyaf o bysgod mewn pwll dwfnond roedd ambell un mewn lle gwahanol. Uno’r llefydd mwya diddorol y gweles un oedd arsilff o graig islaw rhaeadr fechan – mae’namlwg roedd yn lle delfrydol ar ei gyfer.

    Wrth grwydro, byddaf yn tynnu lluniau a ffilmiohefyd. Efallai y cofiwch i mi sôn fy mod yngweithio ar broject ffilmio ar afon Dyfi ar y fo-ment a dyna reswm arall i grwydro! Treuliaisgryn dipyn o amser yn yr afon ger Derwenlas,Mallwyd a Dinas yn ogystal ag ambell i lednantfel afon Dulas ger Mach (mae dwy gyda’r unenw yn yr ardal ond yr un yn dod lawr heibioCorris yw’r un dw i wedi bod yn crwydro). Miweles nifer fawr o bethau yn ychwanegol i beoedd dan yr wyneb wrth gwrs gan gynnwysglas y dorlan ond ro’n i’n canolbwyntio ar beoedd yn yr afon. Un o’r pethau mwyafannisgwyl i mi oedd gweld pysgod fflat gydachuddliw perffaith sef lledod mwd (flounders);wedi gweld un yn symud dros y tywod misylwais bod nifer mwy o ohynyn nhw; bachoedd y rhan fwya ond mi weles i un neu ddauo rai mwy; roeddynt yn edrych yn union fel ygwely o dywod.Mae afon Dyfi yn enwog am ei sewin sef brithyllsydd yn treulio amser yn y môr gyda chylchredbywyd yn debyg i eog. Ro’n i wedi gweldambell un o bell ond roeddwn eisiau eu gweldyn nes er mwyn eu ffilmio. Islaw rhaeadrfechan ar y Dulas, mi weles fwy nag un sewinmawr gydag ambell un nofio yn gryf mewn unlle yn erbyn y cerrynt. Mi weles ambell i bârhefyd. Wrth nofio o dan yr wyneb mewn un llegwelais glamp o bysgodyn yn syth o fy mlaen– mi nofiodd yn hamddenol heibio i mi gan ynanewid gêr – gallwn ei ddychmygu’n dweud‘Dyna sut mae rhywun yn nofio yma’! Dw i’ncredu mai sewin gwrywaidd mawr oedd o. Maesewin yn wahanol i eog mewn mwy nag unffordd – maent ychydig yn dewach yn y gynffoner enghraifft ac maent yn oleuach o ran lliw.

    Mi weles i amryw o bysgod yn aflon Dyfi gerMallwyd a Dinas hefyd a llwyddais i ffilmio mwy

    nag un yn agos. Roedd yn fraint bod yngymharol agos atyn nhw gan eu harsylwi ynnofio yn bwerus yn wyneb llif cryf.Mae afon Dyfi yn gymharol glir ac felly yn hawsi weld a ffilmio pethau. Er mai byr yw’r afonmae hi yn glasur gan gwympo’n gyflym o droedAran Fawddwy heibio rhannau creigiog a chulcyn ymlwybro at Aberdyfi. Rwyf wedi dysgu aphrofi nifer o bethau yn barod wrth fod mewnafonydd gan gynnwys pwêr anferthol d@r a sutmae bywyd wedi addasu i hyn. Mewn nifer olefydd mae’r cerrynt yn mynd ar yn ôl ac maellif islaw rhaeadrau yn arbennig gydachreaduriaid yn cymryd mantais o hyn.Mae nifer fawr o bethau y gallwn ychwaneguam snorclo - gan gynnwys rhywbeth negyddolsef faint o sbwriel o bob math sydd yn einhafonydd – ond o leia dw i wedi crybwyllambell i beth i roi syniad i chi.Gan fy mod yn symud o Langadfan ac ardaly Plu i fyw, y mis nesa fydd fy erthygl ola.Hoffwn ddiolch i chi ddarllenwyr am ddarlleny golofn hon a chefnogi y Plu yn gyffredinol.Dwi wedi mwynhau byw yn ôl yn Nyffryn Banwond mae’n amser dechrau ar bennod newyddsbon yn fy mywyd!Diolch i Dewi am ei golofnau diddorol dros yblynyddoedd a phob dymuniad da iddo yn ydyfodol.

  • 1818181818 Plu’r Gweunydd, Tachwedd 2019

    JANE VAUGHAN GRONOW:07789 711757

    Nia Roberts: 07884 472502

    LLANGYNYW

    Gyrfa ChwilodTrefnwyd gyrfa chwilod hwyliog iawn ganBronwen a Michael Poole yn yr Hen Ysgolym mis Hydref i godi arian i’r RNLI.Llwyddwyd i godi £85 tuag at yr achos pwysighwn.

    Digwyddiadau mis TachweddBydd Gr@p Cymunedol Llangynyw yn cynnaltri digwyddiad yn ystod mis Tachwedd.Cynhelir y cyntaf ar ddydd Sadwrn yr 2il oDachwedd am 10 o’r gloch - sef cyfle i daclusoo amgylch yr Hen Ysgol, bydd paned o goffia chacen i’r rheini sy’n gwirfoddoli. Dewch igynnig help llaw os ydych ar gael. Ar ddyddMawrth 12fed Tachwedd rydym yn dathlugorffen murlun Llangynyw. Mae’r murlun yncynnwys nifer o ddarnau unigol o waith sy’n

    Carrie, Bronwen a Ruth Cinio yn HenllanAeth Gr@p Cymunedol Llangynyw ati i drefnu cinio yn Henllan yng nghanol mis Hydref.Daeth nifer dda ynghyd i fwynhau pryd blasus iawn. Hoffem ddiolch yn fawr i’r tîm yn Henllanam bryd o fwyd traddodiadol da iawn. Bydd ein cinio nesaf yn y Gwanwyn.

    dehongli golygfeydd gwahanol o amgylchLlangynyw - mae yn unigryw ac yn brydferthiawn. Bydd yn cael ei grogi yn yr Hen Ysgolfel bod pawb yn cael ei weld. Yn anffodus nidyw’n siaradwr gwadd yn gallu bod ynbresennol oherwydd materion Ewropeaidd,ond byddwn yn parhau gyda’r dathliadau abydd gwin a lluniaeth ysgafn ar gael a chyfle i

    edmygu’r gwaith arbennig. Gobeithio y byddTom ar gael i roi sgwrs inni ym mis Ionawr. Byddy noson yn dechrau am 7.30, mynediad £5. Ynolaf ar nos Iau Tachwedd 28ain byddwn yncynnal ein noson Grefftau Nadolig flynyddol.Dyma gyfle gwych i ddod at ein gilydd iddechrau paratoi at y Nadolig. Bydd gwinpoeth, mins peis a chyfle i greu torch Nadolig.

    Pytion o YsgolPontrobert

    Dydd Iau IachusMae iechyd corfforol a meddyliol ynflaenoriaeth yn ein bywydau y dyddiau ymaac felly rydym yn cael gweithgareddaugwahanol ar bob dydd Iau - Iau Iachus- i hybuhyn. Mae’r plant wedi bod yn cael sesiynauymwybyddiaeth ofalgar, chwaraeon, sesiynausain a bydd llawer mwy o brofiadau newyddo’u blaenau i’w profi.DiolchgarwchCymru oedd ein thema ar gyfer eingwasanaeth diolchgarwch eleni a braf oeddgweld y Neuadd yn llawn o rieni, teidiau,neiniau a ffrindiau. Cafodd y plant anerchiaddiddorol gan y Parchedig Jane James. Daethpob plentyn â chynnyrch gwahanol gyda nhwac ar y dydd Gwener cafwyd arwerthiant ynyr ysgol. Llwyddwyd i godi £209 a bydd yrarian i gyd yn mynd tuag elusen Cardiac Riskin the Young - elusen a ddewiswyd gan gyngoryr ysgol.Diwrnod JapaneegGan fod Cwpan Rygbi’r Byd ymlaen eleni maedosbarth Mrs Parry wedi bod yn astudioychydig ar y wlad a phenllanw’r dysgu oedddiwrnod Japaneeg lle roedd disgyblion acathrawon y dosbarth i gyd wedi dod i’r ysgolyn eu gwisgoedd arbennig. Cafwyd diwrnod ohwyl yn dysgu caneuon Japaneeg, ysgrifennu

    yn yr iaith, ynghyd â llunio gwaith celf ynarddull y Japaneeg.YmwelwyrRydym wrth ein bodd yn croesawu ymwelwyri’r ysgol ac yn ddiweddar daeth Joe Breeden,pencampwr beicio mynydd Prydain, ac ail yn

    Croeso cynnes a FfarwelRoeddym yn falch iawn o groesawu 13 o ddisgyblion newydd i’r ysgol ar ddechrau Medi acerbyn hyn maent wedi hen setlo i lawr. Ond hefyd roeddym yn drist i ffarwelio â Miss HafHowells sydd wedi gadael y dosbarth Cyfnod Sylfaen a mynd i weithi