3
Gobeithio y caiff y plant yn eich ysgol hwyl fawr yn torri allan a lliwio’r lluniau llysiau. Cafodd y rhain eu creu a’u cyflwyno gan TastEd (byr am Taste Education) a’u rhannu’n garedig gyda Veg Power i’w defnyddio yn eich dosbarth. Mae’r gwaith celf gan Annabel Lee a’r geiriau gan Bee Wilson. Rhaglen lythrennedd bwyd llawn hwyl yw hon a luniwyd gyda’r nod o gael plant i garu llysiau a ffrwythau. Credwn fod dod yn gyfarwydd trwy chwarae yn ffordd dda o wneud llysiau’n gyffrous ac apelgar. Ar gyfer dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol. Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd Gyda phob llun, os gwelwch yn dda, rhannwch y ffeithiau difyr gyda’r plant. Hefyd, ar gyfer yr ysgolion sy’n medru dod ag ychydig lysiau i’r dosbarth, rydym wedi cynnwys awgrymiadau ar gyfer dysgu drwy ddefnyddio’r synhwyrau. Wythnos 24 Chwefror Moron Wythnos 3 Mawrth Pys Wythnos 10 Mawrth Pys Melyn Wythnos 17 Mawrth Brocoli Wythnos 24 Mawrth Tomatos Wythnos 31 Mawrth Pupur Dod yn gyfarwydd drwy ddysgu a chwarae

Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd · a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol. Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd · a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol. Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd

Gobeithio y caiff y plant yn eich ysgol hwyl fawr yn torri allan a lliwio’r lluniau llysiau. Cafodd y rhain eu creu a’u cyflwyno gan TastEd (byr am Taste Education) a’u rhannu’n garedig gyda Veg Power i’w defnyddio yn eich dosbarth. Mae’r gwaith celf gan Annabel Lee a’r geiriau gan Bee Wilson. Rhaglen lythrennedd bwyd llawn hwyl yw hon a luniwyd gyda’r nod o gael plant i garu llysiau a ffrwythau.

Credwn fod dod yn gyfarwydd trwy chwarae yn ffordd dda o wneud llysiau’n gyffrous ac apelgar. Ar gyfer dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol.

Ffeithiau difyr a chanllaw

addysg synhwyraidd

Gyda phob llun, os gwelwch yn dda, rhannwch y ffeithiau difyr gyda’r plant. Hefyd, ar gyfer yr ysgolion sy’n medru dod ag ychydig lysiau i’r dosbarth, rydym wedi cynnwys

awgrymiadau ar gyfer dysgu drwy ddefnyddio’r synhwyrau.

Wythnos 24 ChwefrorMoron

Wythnos 3 MawrthPys

Wythnos 10 MawrthPys Melyn

Wythnos 17 MawrthBrocoli

Wythnos 24 MawrthTomatos

Wythnos 31 MawrthPupur

Dod yn gyfarwydd drwy ddysgu a chwarae

Page 2: Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd · a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol. Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd

Tomatos yw’r llysiau mwyaf poblogaidd yn y byd o lawer (er bod botanegwyr yn dweud mai ffrwythau

ydynt am fod ganddynt hadau y tu mewn).

AROGLI: Cymerwch ychydig o domatos gwinwydd

ceirios (cherry vine tomatoes) (coch neu felyn). Golchwch nhw ac yna arogli’r tu allan. Ceisiwch

ddweud beth y mae’r arogl yn eich atgoffa ohono. Yna torrwch un o’r tomatos yn ddau

ac arogli unwaith eto. A yw’r arogl yn gryfach yntau’n wannach? Nawr

blaswch y tomato os dymunwch, a gweld a yw’r blas yr un peth

â’r arogl.

Yn yr Unol Daleithiau, mae pobl yn galw pupurau yn ‘bupurau cloch’ (bell peppers). Pam hynny tybed? Cliw:

edrychwch ar y siâp.

GWELD Defnyddiwch eich synnwyr GWELD i edrych

yn agos ar ychydig o bupurau gwahanol (rhai mawr coch a melyn, rhai Romano hir, rhai

bychan bach). Pa liwiau a siapiau allwch chi eu gweld? Beth mae siâp y pupur yn eich atgoffa ohono? Nawr torrwch bupur yn

agored. Allwch chi ddisgrifio’r hyn rydych chi’n ei weld y tu mewn? Fel

beth mae’r hadau’n edrych?

Mae’r gair brocoli yn golygu “breichiau bach” neu “ysgewyll bach” mewn Eidaleg.

Pam hynny tybed? Cliw: edrychwch ar y blodigyn (floret).

BLASU: Defnyddiwch eich synnwyr BLASU i flasu

gwahanol rannau o’r brocoli. Sut mae coes yn brocoli yn blasu o gymharu â’r blodigyn? A

yw yn fwy neu yn llai melys? Sut mae’r gwa-hanol rannau yn teimlo yn eich ceg? (Os nad ydych eisiau bwyta’r brocoli, gallwch arogli,

cyffwrdd neu lyfu yn lle hynny).

Math o laswellt yw pys melyn neu india-

corn mewn gwirionedd. Casgliad o hadau yw pen y cob. Pan fyddwch chi’n bwyta pys melyn,

rydych chi’n bwyta hadau!

GafaelwchGafaelwch mewn cob cyfan o bys melyn a

rhedeg eich bysedd i fyny ac i lawr y cob. Sut mae’n teimlo? Os oes plisgyn o ddail gwyrdd o amgylch y cob, gallwch chi deimlo hwnnw

hefyd. Nawr gofynnwch i oedolyn dorri darnau pys melyn oddi ar y cob a’u blasu (os dymunwch). Sut mae’r pys melyn yn teimlo yn

eich ceg?

Page 3: Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd · a Blwyddyn 2 mae llun o lysieuyn gwahanol ar gyfer pob wythnos yn eich pecyn ysgol. Ffeithiau difyr a chanllaw addysg synhwyraidd

Mae pob un o’r lluniau llysiau yn cynnwys gweithgaredd synhwyraidd syml gan TastEd. Dyma ffordd newydd o ddysgu am fwyd, yn seiliedig ar y dull Sapere sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y Ffindir, Sweden a Ffrainc, ymhlith gwledydd eraill. Hanfod dull TastEd (a ddatblygwyd yn Academi Washingborough yn Swydd Lincoln) yw cymell yn hytrach na chosbi – more carrot and less stick. Credwn fod plant yn dysgu orau am fwydydd drwy brofiad uniongyrchol – defnyddio eu synhwyrau eu hunain yn hytrach na gwrando ar bregethau am “bump y diwrnod”. Mae gwersi TastEd

wedi eu teilwra i gwrdd â gofynion cwricwlwm y Deyrnas Unedig ar gyfer Dylunio a Thechnoleg yn ogystal â iaith a lleferydd. Cawsant eu llunio i feithrin chwilfrydedd a pharodrwydd plant i flasu bwydydd newydd, yn arbennig llysiau. Profiadau blasu cyfyng iawn sydd gan lawer o blant

heddiw am eu bod wedi eu magu ar fwydydd llawn siwgwr a rhai wedi eu prosesu’n helaeth. Mae gwersi TastEd yn rhoi cyfle i blant ddatblygu eu llythrennedd bwyd a siawns iddynt ddod wyneb yn wyneb mewn ffordd gadarnhaol a diddorol ag amrywiaeth o fwydydd iach. Maent yn eu harfogi â thechnegau fydd yn eu galluogi i fwynhau rhagor o lysiau a dod yn fwytawyr mwy hyderus. I ganfod mwy am ddefnyddio TastEd yn eich ysgol a gweld amrywiaeth o gynlluniau gwersi a sleidiau PowerPoint rhad ac am ddim, ewch i…. www.tasteeducation.com

Mwy am TastEd

Yn y gorffennol, tan yn ddiweddar, nid oedd moron yn oren. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, prif liwiau moron yn

Ewrop oedd gwyn, coch, porffor a melyn.

GWRANDO: Cymerwch ddwy foronen a’u plicio. Torrwch

un foronen yn ffyn a gratiwch yr un arall. Defnyddiwch eich synnwyr GWRANDO i

glywed y synau y mae’r gwahanol fathau o foron yn eu gwneud pan fyddwch chi’n eu bwyta. Pa un sy’n gwneud mwyaf o sŵn

pan fyddwch yn ei bwyta, ffon foron grensiog yntau moron wedi’i gratio? Allwch chi ddisgrifio’r

sŵn?

Roedd yr hen Roegiaid a Rhufeiniaid wrth eu bodd yn bwyta pys. Yn wahanol i ni, nid

oedd ganddyn nhw bys yn barod i’w bwyta o’r rhewgell - roedd yn rhaid iddyn nhw dynnu bob

pysen o’i choden, fesul un!

POB SYNNWYR: Cymerwch bysen siwgwr (sugarsnap pea) ac

edrychwch arni’n ofalus iawn. Sut fyddech chi’n disgrifio ei lliw a’i siâp? Sut mae’r goden yn teimlo? Nawr agorwch hi i weld y pys bach y tu mewn. Blaswch y goden a’r pys. Sut maen

nhw’n teimlo yn eich ceg? Sut mae’r pys yn blasu? A yw’n well gennych flas y pys yntau’r

goden ac a allwch chi ddweud pam?