Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 7, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Cape Town a Chynulleidfaoliaeth - parhadgollwng ni’n rhydd! Felly gwnewch yn siŵr
eich bod yn aros felly, a gwrthod cario’r
baich o fod yn gaeth byth eto.’ Yn wir, dyma
bwnc sylfaenol i’r Cristion ei astudio ym
mhob oes.
Ar ddiwrnod
cyntaf y gynhadledd
cawsom ddarlith
arbennig iawn gan Dr
Coenie Burger ar
ddysgeidiaeth y
Diwygwyr
Protestannaidd am
ryddid y Cristion.
Llwyddodd Dr Burger
i ddangos pa mor
bwysig oedd ‘rhyddid’ i Martin Luther, John
Calfin a’r Protestaniaid cynnar. Pwysleisia
Luther fod y Cristion yn rhydd oddi wrth y
gosb mae’n ei haeddu o ganlyniad i’w
anufudd-dod i’r Gyfraith trwy waith Iesu ar
groes Calfaria. Mae’r Cristion yn awr yn
rhydd i addoli Duw a gwasanaethu eraill. Yn
wir, dywedodd Luther yn ei draethawd ar
‘Rhyddid y Cristion’ (1520) fod y ‘Cristion
yn gwbl rydd oddi wrth bawb heb fod yn
ddarostyngedig i neb; er hynny, mae’r
Cristion yn was ufudd i bawb, ac yn
ddarostyngedig i bawb’. Yn ogystal,
siaradodd Dr Burger am egwyddor bwysig y
Diwygiad Protestannaidd sy’n ganolog i’r
traddodiad cynulleidfaol sef offeiriadaeth yr
holl saint. Roedd sylwadau Dr Burger yn
arbennig o amserol o feddwl fod Martin
Luther wedi hoelio ei 95 thesis ar ddrws
eglwys Castell Wittenberg bum can mlynedd
yn ôl i’r flwyddyn hon.
Un o
uchafbwyntiau’r
gynhadledd oedd darlith
Dr John W. de Gruchy
ei hun ar neges yr
Arglwydd Iesu at y
saith eglwys yn llyfr
Datguddiad (Dat. 2–3).
Yn ei anerchiad,
dywedodd Dr Gruchy
fod yn rhaid i ni fel cynulleidfaolwyr ymatal
rhag dau berygl penodol. Yn ei dyb ef, y
perygl cyntaf ydyw ein bod ni fel annibynwyr
yn gwrthod cydweithio ag eglwysi eraill dros
achos efengyl yr Arglwydd Iesu. Yr ail
berygl, ydy ein bod ni’n peidio â chymryd yr
eglwysi lleol o ddifrif gan edrych yn unig ar
sefyllfa’r eglwys fyd-eang. Pwysleisiodd Dr
Gruchy fod yn rhaid i ni gymryd yr eglwys
leol a’r eglwys fyd-eang ill dau o ddifrif. Yn
wir, dyma a wna’r Apostol Ioan yn ei
Ddatguddiad.
Table Mountain a Robben Island
Er ein bod wedi treulio llawer o amser yn
cynadledda yn brysur, cawsom hefyd amser i
edrych ar fannau pwysig Cape Town gan
gynnwys Table Mountain a Robben Island.
Oherwydd gwyntoedd cryfion y môr, roedd
yn rhy beryglus i ni deithio i fyny i gopa’r
mynydd yn y cerbyd cebl. Er hynny, cawsom
gyfle i ddringo i fan uchel ar ymyl Table
Mountain. Roedd yr olygfa yn gwbl
ysblennydd. O fy mlaen roedd dinas fawr
Cape Town wedi ei hamsugno i’r gwagle
hwnnw sydd rwng y môr glas tymhestlog a’r
mynydd hirsgwar sy’n amgylchynu’r ddinas.
Yn y pellter, roedd llongau mawrion du yn
llusgo eu llwyth i wledydd pell. Yr oedd
morgrug o geir yn clogio’r strydoedd llydan
wrth ddisgwyl i’r goleuadau traffig droi’n
wyrdd. Dyma’r math o olygfa sy’n cipio eich
gwynt wrth i chi feddwl am ffordd addas i
ddisgrifio’r hyn a welwch. Dyma olygfa sy’n
eich atgoffa fod Duw grymus wedi creu’r byd
hwn.
Profiad dirdynnol arall oedd ymweld a
charchar Robben Island sydd ychydig
filltiroedd i ffwrdd o arfordir De Affrica.
Wedi cyrraedd yr ynys fechan wedi taith dri
chwarter awr ar y cwch, cawsom fynd i
mewn i’r carchar concrit. Cefais fy atgoffa
yno pa mor ddrygionus mae dynoliaeth yn
gallu bod ar ei gwaethaf. Roedd mor erchyll
clywed sut roedd pobl yn derbyn cosbau
gwahanol yn dibynnu ar liw eu croen. Er
hynny, yr hyn wnaeth fy nharo fwyaf oedd pa
mor ddiweddar oedd hyn wedi digwydd.
Dim ond yn 1991 y cafodd Robben Island ei
gau fel carchar i ‘droseddwyr’ gwleidyddol.
Cawsom hefyd weld cell fechan Mandela a’i
ardd werdd lle bu’n cuddio copïau o’i lyfr
Long Walk to Freedom (1994). Er bod
Mandela wedi treulio deunaw mlynedd yn y
carchar hwn a naw mlynedd mewn
carchardai eraill, dyfalbarhaodd ei
freuddwyd am degwch cymdeithasol i Dde
Affrica. Erbyn heddiw mae breuddwyd
Mandela yn fyw. Arwr yw Mandela a gwag
yw celloedd Robben Island.
Geraint a’r Cymry
Roedd hefyd yn fraint
aruthrol cael cefnogi
Geraint Tudur, fy ewythr,
wrth iddo gadeirio’r
gynhadledd fel Llywydd
Annibynwyr y Byd.
Roedd Geraint yn dilyn
ôl troed ei dad, R. Tudur
Jones, a fu’n llywydd ar
y gynhadledd yn y
gorffennol. Hefyd, roedd
deg o Gymry eraill wedi
dod i’r gynhadledd ac
roedd yn braf iawn clywed y Gymraeg yn
Ne Affrica. Mae’n rhyfeddol meddwl fod
cenedl mor fechan â Chymru wedi cael
dylanwad mor enfawr ar gynulleidfaoliaeth
fyd-eang. Mae’r dylanwad hwn yn parhau.
Ar ddiwedd y gynhadledd, trosglwyddwyd
llywyddiaeth yr ICF i’r Parchg Ddr Bruce
Theron a fydd yn cadeirio’r gynhadledd
nesaf yn America mewn tair blynedd. Diau
y bydd yr Annibynwyr Cymraeg yn cael
dylanwad pwysig ar y gynhadledd hon
hefyd. Gwilym Tudur
Golygfa o Cape Town a Table Mountain o’r cwch i Robben Island
Dr Coenie Burger
yn annerch y
gynhadledd
Y Parchg Ddr
Geraint Tudur,
Cyn-lywydd
Annibynwyr y
Byd
Carchar Robben Island, Cape Town
Dr John W.
de Gruchy
Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 36 Medi 7, 2017 50c.
TAITH Y PERERINIONPererindod Bethania, TymblUchaf i Gapel Hermon, Treorciac Eglwys Unedig Llanfair ymMhen-rhys
Dydd Sul, 16 Gorffennaf ac er bod y tywydd
yn ddiflas a niwlog, daeth llond bws o
aelodau Eglwys Annibynnol Bethania,
Tymbl Uchaf at ei gilydd i fynd ar ein
Pererindod flynyddol.
Treorci
Eleni aethom dros y Rhigos i Gwm
Rhondda ac i Gapel Hermon, Treorci a
chael oedfa yno dan ofal ein Gweinidog, y
Parchg Gareth Morgan Jones ynghyd ag
aelodau’r eglwys. Diolch iddo am drefnu’r
daith ac am ei fewnbwn gwybodus am yr
ardal. Cawsom groeso cynnes yn Hermon
gan un o’i diaconiaid, Cennard Davies,
awdur, hanesydd a gweithiwr brwd dros yr
iaith Gymraeg. Cyflwynodd hanes diddorol
Hermon i ni a’r cyfnod pan oedd yr organ
yn organ bwmp (cyn iddi gael ei
thrydaneiddio) a fe wrth y fegin. Ar ôl y
gwasanaeth, ymgasglwyd yn y Festri i gael
ein brechdanau ac aelodau Hermon yn
garedig iawn yn gweini te a chofi a
danteithion melys. Cafwyd cyfle i
gymdeithasu a chael rhagor o hanes Treorci
cyn i ni droedio ’nôl at y bws a chael ein
cludo o amgylch y dref gyda Cennard yn
dywysydd gwybodus diddorol iawn.
Pen-rhys
Ar ôl ymadael a Threorci, siwrnai hwylus
i’n lleoliad nesaf, Eglwys Unedig Llanfair
ym Mhen-rhys sy’n dathlu 25 mlynedd o
wasanaeth i’r ardal. Pentref bychan a leolir
1,100 troedfedd i fyny ar fryn rhwng y
Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach yw Pen-
rhys. Mae’n bentref difreintiedig sy’n elwa
llawer ar y gwasanaethau mae’r Eglwys yn
eu darparu. Mae’n ganolfan i’r gymuned ac
yn cynnig cymorth i’r holl bentrefwyr.
Ynghyd â gwasanaethau Cristnogol ar
ddyddiau Sul, Llun, Mercher a Gwener,
mae caffi, siop ddillad, golchdy, clwb
gwaith cartre a chwaraeon yn cael eu
cynnal – popeth sydd ei angen i
gymdeithasu.
Cymwynaswyr
Cawsom groeso
cynnes gan
Sharon Rees a
chael cyfle i
gwrdd â rhai o’r
trigolion a
chlywed ei
storïau. Mae
Sharon wedi bod
ynghlwm ag
Eglwys Llanfair
ers y cychwyn ac
mae’n aelod
ffyddlon yng
Nghapel yr
Alltwen, un o gapeli’r Parchedig Gareth
Morgan Jones. Mae pâr o India a
Madagascar a’u teulu ifanc yn genhadon
yno ac yn weithgar iawn – fel mae’r olwyn
yn troi; dwy ganrif yn ôl, Cymry oedd yn
cenhadu i’w gwledydd hwy.
Cynhaliwyd gwasanaeth yn yr Eglwys a
phawb yn cymryd rhan gan gynnwys y
plant a ganodd gân i ni. Cyflwynodd y
Parchedig Gareth Morgan Jones siec
sylweddol oddi wrth Fethania i Sharon er
mwyn cefnogi’r gwaith. Yn ystod y te a
chacennau ar ôl y gwasanaeth cafwyd cyfle
i gymdeithasu a gweld y lle yn ei
gyfanrwydd
Melys moes mwy
Erbyn y prynhawn, gwellodd y tywydd a
chawsom gyfle i fwynhau golygfeydd yr
ardal. Doedd dim pawb yn ysu am ein
swper yn Glancynon Arms,
Hirwaun, am ein bod wedi cael
cymaint o fwyd yn Hermon a
Phen-rhys, ond rhoddwyd cynnig
da arni a phawb wedi mwynhau’r
wledd a osodwyd o’n blaenau.
Roedd wedi naw o’r gloch yr
hwyr erbyn i ni gyrraedd ’nôl ym
Methania, a phawb wedi blino’n
lân ond wedi cael diwrnod
bendithiol. Bethan Owen Evans
(Ysgrifennydd)
DathluTrichanmlwyddiantEglwys Rhydybont,
Llanybydder.Mae’r flwyddyn 2017 yn un arbennig
i Eglwys Rhydybont oherwydd
sefydlwyd yr Eglwys yn 1717.
Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar
ddydd Sadwrn yr 22 Gorffennaf am
ddau o’r gloch y prynhawn o dan
lywyddiaeth ein gweinidog y Parchg
D. Huw Roberts.
Dewiswyd yr emynau yn ofalus am eu
cynnwys a’u priodoldeb i’r achlysur
gan Mrs Elonwy Davies a rhannwyd y
gwaith o chwarae’r organ rhwng Mrs
Davies a Mrs Elma Jones.
Cyflwynwyd yr emynau gan Mrs Bety
Jones, Mr Merfyn Thomas a Mrs
Irene Davies. Gweddïodd Mrs
Noelene Davies ac amlinellodd Mr J.
Stanley Evans hanes yr Eglwys.
Cafwyd anerchiadau pwrpasol a
diddorol gan y cyn-weinidogion sef y
Parchedigion Aled D. Jones a Meirion
Sewell. Cyflwynodd Mr Peter Harris,
Arweinydd Capel lsaac a Llywydd
Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a
Brycheiniog, longyfarchion i’r Eglwys
ar ran Capel Isaac a’r Cyfundeb.
Cafwyd pregeth fer i gloi’r
gwasanaeth gan ein gweinidog.
Wedi’r gwasanaeth gwahoddwyd
y gynulleidfa i de ysgafn yn festri
Aberduar a ble yr oedd llyfr ar werth
yn olrhain hanes yr Eglwys dros y
dair canrif wedi ei ysgrifennu gan J.
Stanley Evans.
J. S. Evans
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 7, 2017Y TYsT
Lleisiau Grymus o LeipzigPumed ran adroddiad o Gyngor
Cyffredinol Cymundeb Byd-eang yr
Eglwysi Diwygiedig gan Noel Davies
Cawsom fewnbwn diwinyddol a Beiblaidd
heriol a bywiog o sawl cyfeiriad yn y
Cyngor cyffredinol yn Leipzig ond yr
uchafbwyntiau i mi oedd darlith gan un o
gewri diwinyddol yr ugeinfed ganrif a dwy
astudiaeth Feiblaidd, un o Fecsico ac un o
Balestina.
Cyfiawnder a Moltmann
Ychydig a feddyliais pan
ddarllenais lyfr cyntaf
Jürgen Moltmann,
Theology of Hope, yn y
coleg yn 1967 y byddwn
yn gwrando arno’n rhoi
anerchiad grymus dros
50 mlynedd yn
ddiweddarach ac yntau’n
91 oed! Yn Leipzig
rhoddodd bwyslais arbennig ar un o
themâu canolog y
Cyngor, cyfiawnder
(righteousness,
justice). Yn ôl
Moltmann, ‘Mae
cyfiawnder wastad yn
dod yn rhy hwyr, ond
y mae’n rhaid iddo
ddod… Nid barnu
rhwng daioni a
drygioni yn unig a
wna cyfiawnder Duw. Y mae’n gyfiawnder
creadigol sy’n gweithredu cyfiawnder. I
ddioddefwyr anghyfiawnder y mae’n dod â
chyfiawnder iddynt. I wneuthurwyr
drygioni y mae’n adfer cyfiawnder ac yn
gwneud pethau’n iawn
eto.’
Ar ddiwedd ei
anerchiad, soniodd am
gyfarwyddyd a roddir i
beilot awyren pan
mae’n cael hyfforddiant
am y defnydd o’r holl
offer electronig a
chyfrifiadurol sydd
mewn awyren heddiw:
‘Always think ahead of the aircraft!’
(Rhaid iti geisio dychmygu, y tu hwnt i’r
dechnoleg, beth fydd yn digwydd i’r
awyren.) Rhaid inni ymestyn ein
dychymyg a’i ddefnyddio i ddychmygu
Teyrnas Dduw a bywyd a’i brydferthwch.
Nid oes angen inni fod yn broffwydi i
wneud hyn. Dychmygwn y dyfodol.
Mynnwn gael ein meddiannu gan Ysbryd
creadigol Duw. Cofiwn: ‘Roedd yr haul
wedi codi.’ (Marc 16.2) (Roedd Iesu’n fyw
a’r byd newydd wedi gwawrio.)
Tamez a Phebe
Yn ei hastudiaeth
Feiblaidd rhoddodd
Elsa Tamez o
Fecsico gyfle inni
wrando ar lais
Phebe, y mae Paul
yn sôn amdani ym
mhennod olaf
Rhufeiniaid. Yn ôl Paul, ‘Dim ond pethau
da sydd gen i i’w dweud am Phebe, ein
chwaer sy’n gwasanaethu (diaconia yw’r
gair gwreiddiol) yn eglwys Cenchrea.’ Yn
ôl Tamez, ‘Geilw Paul yma am
drawsffurfiad parhaol a dwfn o
gymunedau. Rhaid i Gristnogion fod yn
esiampl. Rhaid i ni wybod fod modd inni
fod yn wahanol i’r rhai a lywodraethir gan
eiddigedd, cystadlu a blys personol. Y mae
anghyfiawnder yn erbyn gwragedd mewn
gwledydd ar draws y byd yn gyfystyr â
hunanladdiad neu lofruddiaeth … Y mae
Duw yn cadw’n dawel er mwyn i ferched a
dynion lefaru, protestio ac ymdrechu. Mae
Duw’n cadw’n dawel er mwyn i bobl fod
yn bobl … Mae Duw’n disgwyl am y
waedd o brotest.’ Dychmygodd Tamez
Phebe’n dweud, ‘Mae fy nghaethferch yn
fy ngalw i’n chwaer, a byddaf fi’n ei galw
hithau’n chwaer hefyd. Dyma ddechrau’r
byd newydd: troi gwerthoedd â’u pen i
waered.’
Raheb a Phalesteina
Mae Mitri Raheb yn weinidog a diwinydd
ym Methlehem ac yn llais radical a heriol
dros y Palesteiniaid.
Mewn astudiaeth ar
Luc 4, 16–20, sef,
pregeth Iesu yn
synagog Nasareth,
cawsom ein
hatgoffa y ‘ganwyd
Iesu dan
feddiannaeth
Rhufain, treuliodd
ei holl fywyd dan yr
ymerodraeth, ac fe’i lladdwyd ar y groes
dan yr ymerodraeth. Sut y gallwn ddeall
Iesu hanes heb ddeall sut mae
meddiannaeth o’r fath yn effeithio ar bob
agwedd ar fywyd?’
Mynnodd Mitri Raheb na ellir deall
pregeth Iesu oni bai ein bod yn deall mai
Palestina a than feddiannaeth Rhufain oedd
y cyd-destun. ‘Nid neges ysbrydol oedd
hon yn gyntaf ond neges wleidyddol. Nid
eneidiau oedd y grŵp targed ond “y bobl
dlawd”. Mab Mair sydd yma ac y mae’n
rhannu â’i fam ddiwinyddiaeth y
Magnificat … Ni chyflawnodd Iesu ei
amcanion o dan iau’r Ymerodraeth
Rufeinig, fwy nag y cyflawnwyd amcanion
Eseia 61 (a ddyfynnir gan Iesu) o dan iau
Babilon.’
Heddiw
‘Actau’r Apostolion yw parhad y
weinidogaeth hon. “Pryd fyddi di’n adfer y
deyrnas i Israel?” “Fe ddaw’r Ysbryd Glân
arnoch chwi …” (Actau 1.6–7). Y mae
diwedd Actau yn benagored. Rhaid cadw’n
traed ar y ddaear a’n dwylo’n barod i
waith. Heddiw! Roedd cwestiwn y
disgyblion ynglŷn â rhyddhad gwleidyddol.
Roedd ateb Iesu yn trosglwyddo
cenhadaeth y Deyrnas i’n dwylo ni.
‘Nid yw ffydd adnewyddol y Diwygiad
Protestannaidd,’ meddai Mitri Raheb, ‘yn
fater o ddychymyg yn unig ond yn fater o
obaith, o weledigaeth ar waith heddiw.
Gobaith yw byw yn y byd real a buddsoddi
mewn ffordd wahanol HEDDIW. Felly,
mae’n rhaid inni gyfieithu’r Diwygiad i
heddiw a’i ddeall fel trawsffurfiad, wyneb
yn wyneb â grymoedd ymerodraeth.’
Yn y tri chyfraniad hyn dyma’n
hatgoffa fel teulu Diwygiedig byd-eang ac
fel Annibynwyr yng Nghymru y gall y
Beibl ein herio o hyd ac y gall
diwinyddiaeth ein hysgogi a’n harfogi.
Peidiwn fyth â bychanu’r naill na’r llall yn
ein prifiant Cristnogol heddiw. Y mae’r
ddau yn greiddiol i’n tystiolaeth Gristnogol
gyfoes.
I’w barhau
Medi 7, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Cape Town a ChynulleidfaoliaethRhwng 4 a 12 Gorffennaf cefais i’r fraint
aruthrol o fynychu cynhadledd
Cymdeithas Annibynwyr y Byd neu’r
ICF (International Congregational
Fellowship) ym Mhrifysgol Stellenbosch,
De Affrica. Nid cynulleidfaoliaeth ydy’r
peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan
sonnir am Dde Affrica. Yn wir, De
Affrica ydyw gwlad Nelson Rolihlahla
Mandela, Desmond Tutu a’r iaith
Afrikaans. Serch hynny, mae
cynulleidfaoliaeth yn fudiad pwysig yn
hanes y genedl hon. Yn wir, y mae
sylfeini’r eglwysi cynulleidfaol i’w
canfod yng ngwaith y London Missionary
Society (LMS). Yn 1799 anfonodd yr
LMS Dr Theodorus van der Kemp i’r
penrhyn fel cennad i rannu’r newyddion
da am Iesu Grist. Wedi hynny, yn 1801,
sefydlodd ef yr eglwys annibynnol gyntaf
yn Cape Town. Er bod amryw o enwadau
Cristnogol wedi cefnogi’r system erchyll
hwnnw o arwahanu a elwir yn apartheid,
daeth gwrthwynebiad i’r system gan
annibynwyr nodweddiadol o’r enw John
W. de Gruchy. Ymgyrchodd ef yn erbyn
y drefn apartheid ac ysgrifennodd y llyfr
pwysig hwnnw Reconciliation: Restoring
Justice (2002) sy’n dadlau fod
Cristnogaeth yn allweddol ar gyfer
sicrhau cyfiawnder a chymod yn Ne
Affrica a’r byd. Erbyn heddiw mae gan
yr United Congregational Church of
Southern Africa 500,000 o aelodau mewn
450 o eglwysi. Mae’r eglwysi
cynulleidfaol felly yn dystion pwysig i’r
newyddion da am yr Arglwydd Iesu yn
Ne Affrica. Braint oedd cael treulio amser
yn eu cwmni yn Stellenbosch.
Y Gynhadledd: Rhyddid, Luther aDatguddiad Ioan
Thema fawr y gynhadledd hon oedd
‘rhyddid’ y Cristion. Dyma thema
arwyddocaol iawn o feddwl pa mor
bwysig ydyw rhyddid i Dde Affrica.
Mae’r darlun o Nelson Mandela yn cael
ei ryddhau o’r carchar yn 1990 gydag
Winnie wrth ei ochr a’i fraich wedi ei
godi mewn buddugoliaeth bellach wedi
dod yn symbol rhyngwladol o ryddid.
Bwriad y thema hon oedd ystyried sut
mae’r Cristion wedi cael ei ryddhau trwy
waith achubol yr Arglwydd Iesu Grist.
Yn wir, mae Galatiaid 5:1 yn dweud:
‘Dŷn ni’n rhydd! Mae’r Meseia wedi’n
parhad ar y dudalen gefn
Y Glec Fawr, y Cread a Duw Lansiwyd cyfrol eithriadol o bwysig i ni
fel Cristnogion ym Mhabell y Coleg
Cymraeg yn
Eisteddfod
Genedlaethol
Môn sef,
Cristnogaeth a
Gwyddoniaeth.
Dau Gristion
gyda chefndir
gwyddonol sydd
wedi mynd ati i
lunio’r gwaith
hwn sef Dr Noel
Davies, Abertawe
a Dr Hefin Jones,
Caerdydd. Mae’r
gyfrol hon yn
mynd ati i drafod
dau bwnc sydd yn
aml yn cael eu gwahanu yn llwyr gan y
gymdeithas wrth iddynt dybio nad oes
unrhyw dir cyffredin rhyngddynt, sef
Cristnogaeth a Gwyddoniaeth. Rwy’n sicr
y bydd rhai o benodau’r llyfr hwn at eich
dant os oes gennych ddiddordeb yn y
drafodaeth gyfoes hon sydd ar brydiau yn
troi’n wenfflam. Dyma benawdau rhai o’r
penodau, ‘Gwyddoniaeth a
Diwinyddiaeth: Rhai Seiliau
Athronyddol’; ‘Y Glec Fawr, y Cread a
Duw’; ‘Darwin, DNA a Duw’;
‘Biotechnoleg a Datblygiadau Meddygol’.
Efallai fod eich ffydd yn cael ei herio gan
ddatblygiadau gwyddonol a’r hyn a
ddywed rhai gwyddonwyr
blaenllaw anghrediniol. Byddai’n
werth i chi ddarllen y Llyfr hwn
Cadeiriwyd y lansiad gan y
Parchg Ddr R. Alun Evans, cyn
Lywydd Undeb yr Annibynwyr,
yn wir roedd chwech o gyn-
lywyddion yr Undeb yn bresennol
yn y digwyddiad. Dywedodd Noel
a Hefin air am eu cydweithio wrth
baratoi’r gwaith ac
fe gyfrannodd y
Parchg Dr Denzil
Morgan gan nodi
pa mor bwysig
oedd y cyfraniad
hwn. Dywedodd
Hefin,
‘Ymgais yw’r llyfr i
ysgogi trafodaeth. Nid
yw’n fwriad gan yr un
ohonom (rwy’n credu y
medraf siarad ar ran Noel)
i droi unrhyw Gristion yn
anffyddiwr o wyddonydd,
nac unrhyw wyddonydd yn
Gristion efengylaidd. Ein bwriad, hyd y
gwelaf i, yw sbarduno trafodaeth fel bod y
berthynas rhwng Cristnogaeth a
gwyddoniaeth yn derbyn y chwarae teg
dyladwy. Hynny yn y gobaith y gall y
ddwy garfan, os carfannau ydynt mewn
gwirionedd, ddod i ddeall ei gilydd yn
well … a phwy a ŵyr, efallai ddod i
sylweddoli, nad dau begwn cwbl ar wahân
sydd gennym ond dau lwybr yn ceisio, yn
ymdrechu, yn eu ffyrdd eu hunan, i ateb
yr un cwestiwn.’
Diolch o galon i Noel Davies a Hefin
Jones am eu gwaith mawr. Cyhoeddir y
gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru ac y
mae ar werth mewn siopau llyfrau am
£16.99.