31
Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol Llyfr gwaith saith Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol Rhagfyr 2017

Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal … · 2018. 4. 26. · Cynhelir asesiadau risg iechyd a diogelwch ar gyfer unrhyw weithgareddau neu dasgau a allai fod yn beryglus

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 1

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasolLlyfr gwaith saithIechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasolRhagfyr 2017

  • 2 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    Manylion cyswllt

    Gofal Cymdeithasol CymruSouth Gate HouseWood StreetCaerdydd CF10 1EW

    Ffôn: 0300 3033 444Minicom: 029 2078 0680

    E-bost: [email protected]

    @GofCymdeithasol

    © 2018 Gofal Cymdeithasol Cymru

    Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn system adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng heb ganiatad ysgrifenedig Gofal Cymdeithasol Cymru ymlaen llaw. Dylai ymholiadau am atgynhyrchu y tu hwnt i’r hyn a ganiateir yn benodol gan y gyfraith gael eu hanfon at Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru yn y cyfeiriad a roddir uchod.

    Fformatau eraill:Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 3

    Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gweithlyfr 7:Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasolBydd y gweithlyfr hwn yn eich helpu i ystyried y gofynion cyfreithiol ar gyfer

    iechyd a diogelwch mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol a gwybod

    beth yw eich cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau eich cyflogwr o ran cynnal

    diogelwch yn y gwaith. Gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau rydych

    chi’n eu cwblhau yn y gweithlyfr fel tystiolaeth tuag at gyflawni Fframwaith

    Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Fframwaith

    Sefydlu). Gellir ei gyfrif hefyd tuag at y cymhwyster y byddwch angen ei

    gwblhau’n ddiweddarach ar gyfer eich ymarfer.

  • 4 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    Cynnwys

    7.1 Iechyd a diogelwch yn y gweithle . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 5

    7.2 Asesiadau risg ar gyfer iechyd a diogelwch . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 6

    7.3 Diogelwch tân . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 10

    7.4 Symud a thrafod a symud a gosod . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 12

    7.5 Cymorth cyntaf brys . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 15

    7.6 Atal a rheoli haint . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 16

    7.7 Diogelwch bwyd . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 20

    7.8 Sylweddau peryglus . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 22

    7.9 Diogelwch yn y lleoliad gwaith . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 23

    7.10 Rheoli straen . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 25

    7.11 Myfyrio ar y gweithlyfr . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 27

    7.12 Polisïau a gweithdrefnau . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 28

    7.13 Myfyrio ar leoliad ymarfer . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 29

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 5

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.1 Iechyd a diogelwch yn y gweithle

    Fel gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol rydych yn gyfrifol am gymryd gofal rhesymol ohonoch chi’ch hun ac eraill yn y gweithle. Er bod gan eich cyflogwr rai cyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau eich bod chi a’r unigolion rydych chi’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, mae gennych chi gyfrifoldeb hefyd. Mae iechyd a diogelwch yn gyfrifoldeb i bawb.

    Gweithgaredd dysguYn y grid isod amlinellwch y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a / neu gyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. (Efallai na fydd yna ddeddfwriaeth benodol ar gyfer pob maes yn y grid. Pan nad oes, dim ond amlinellu cyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr sydd angen i chi ei wneud).

    Maes Deddfwriaeth Cyfrifoldebau cyflogwyr

    Cyfrifoldebau gweithwyr

    Iechyd a diogelwch cyffredinol

    Asesiad risg

    Diogelwch tân

    Symud a thrafod

    Symud a gosod

    Cymorth cyntaf brys

    Atal a rheoli haint

    Diogelwch bwyd

    Sylweddau peryglus

    Diogelwch yn y lleoliad gwaith

    Rheoli straen

  • 6 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.2 Asesiadau risg ar gyfer iechyd a diogelwch

    Mae asesu risg yn rhan hanfodol o gynnal iechyd a diogelwch yn y gweithle ac o sicrhau lles a diogelwch unigolion ac eraill.

    Gweithgaredd dysguRydych newydd gael swydd fel gweithiwr gofal yn cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain. Rydych wedi bod yn cysgodi aelod arall o staff, Stacey.

    Un o’r rhai rydych chi’n ei helpu yw Mrs Pearce, gan ei helpu i ymolchi a gwisgo yn y bore. Mae hi angen defnyddio hoist yn yr ystafell ymolchi ond nid ydych wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ar symud a lleoli eto. Mae Stacey yn dweud wrthych am beidio â phoeni am hyn, ac y bydd hi’n dangos i chi beth i’w wneud wrth fynd ymlaen.

    Wrth helpu Mrs Pearce gyda’r hoist mae’n colli ei chydbwysedd, yn syrthio a tharo ei phen. Mae Stacey yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n iawn ac yn dweud wrthych chi y bydd hi’n rhoi gwybod i’r swyddfa am y digwyddiad yn ddiweddarach ond rydych chi’n sylwi nad yw hi’n cofnodi’r digwyddiad yn y log.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Pa gamau fyddech chi’n eu cymryd?

    2. Beth ddylai Stacey fod wedi’i wneud yn wahanol?

    3. Beth ddylech chi fod wedi’i wneud pan ofynnodd Stacey i chi helpu Mrs Pearce i symud gan ddefnyddio’r hoist?

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 7

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Mae’n bwysig bod y gweithle’n cael ei gadw mor ddiogel â phosibl i chi a’r unigolyn. Byddai hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg ffurfiol ac o ddydd i ddydd. Mae yna wahanol fathau o ddamweiniau, digwyddiadau, argyfyngau a pheryglon iechyd a diogelwch.

    Gweithgaredd dysguRhowch dair enghraifft o’r gwahanol fathau o ddamweiniau, digwyddiadau, argyfyngau a pheryglon a allai ddigwydd yn y gweithle.

    Damweiniau

    Digwyddiadau

    Argyfyngau

    Peryglon

  • 8 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Beth yw’r camau pwysig y dylech eu cymryd wrth nodi perygl yn y gweithle?

    Cynhelir asesiadau risg iechyd a diogelwch ar gyfer unrhyw weithgareddau neu dasgau a allai fod yn beryglus. Byddai yna asesiad risg ffurfiol ar gyfer cynorthwyo Mrs Pearce i symud gan ddefnyddio hoist. Bydd disgwyl i chi wybod am yr holl asesiadau risg ysgrifenedig yn eich lleoliad gwaith a’u dilyn. Bydd disgwyl i chi gynnal asesiadau risg anffurfiol hefyd gydol eich diwrnod gwaith e.e. byddech yn cadw llygad am beryglon baglu bob amser, fel llanast neu garpedi neu fatiau rhydd ac ati mewn ystafelloedd.

    Rhowch dair enghraifft arall o asesiadau risg iechyd a diogelwch a fyddai’n cael eu cynnal yn y gweithle.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw’r corff gwarchod annibynnol cenedlaethol ar gyfer iechyd, diogelwch a salwch cysylltiedig â gwaith. Mae’n gweithredu er lles y cyhoedd i leihau marwolaethau ac anafiadau difrifol cysylltiedig â gwaith mewn gweithleoedd ledled Prydain. Ar asesu risg mae’n dweud:

    ‘When considering the care needs of an individual, everyday activities are often identified that will benefit their lives, but also put them at some level of risk. This requires a balanced decision to be made between the needs, freedom and dignity of the individual and their safety – with the aim of enabling them to live fulfilled lives safely rather than providing reasons for restricting them.’1

    1 Health and Safety in Care Homes | Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 2014

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 9

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Gweithgaredd dysguSiaradwch â’ch rheolwr am y pethau sydd angen eu hystyried wrth asesu a rheoli risg wrth weithio gydag unigolion a’r gweithdrefnau sy’n rhaid i chi eu dilyn. Os nad ydych wedi’ch cyflogi eto, gadewch hwn yn wag a dychwelwch ato eto.

    Nodiadau’r gweithlyfr

  • 10 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.3 Diogelwch tân

    Mae tân yn berygl difrifol iawn. Fel gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol mae angen i chi wybod beth i’w wneud i atal tanau rhag digwydd a beth i’w wneud pe bai tân. Mae gan sefydliadau weithdrefnau penodol i’w dilyn ar gyfer atal tân ac amddiffyn rhag tân/ Dylech fod wedi cael hyfforddiant ar hyn. Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’ch cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau’ch cyflogwr mewn perthynas â diogelwch tân.

    Gweithgaredd dysgu Rydych newydd ddechrau cefnogi Gwyn sy’n ysmygu’n drwm. Ar ôl cael strôc yn ddiweddar mae ei allu i symud a’i sgiliau corfforol yn gyfyngedig. Wrth ymweld ag ef rydych chi’n sylwi ar lwch sigarét ar ei ddillad a marciau llosgi ar freichiau ei gadair. Mae ei ystafell yn tueddu i fod yn llawn llanast ac mae yna bentwr o bapurau newydd ger ei gadair bob amser.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth yw’r risgiau yma?

    2. Pwy allai ddarparu cymorth neu gyngor ychwanegol i gadw Gwyn yn ddiogel?

    3. Beth allech chi ei wneud i helpu Gwyn i ddeall y risgiau?

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 11

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    4. Gyda pha bethau ymarferol y gellid helpu Gwyn i leihau’r risgiau?

    5. I bwy fyddech chi’n rhoi gwybod am eich pryderon a sut fyddech chi’n gwneud hyn?

    Gweithgaredd dysguYn y lle isod nodwch y prif ddarnau o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â diogelwch tân a chrynhowch eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb eich cyflogwr mewn perthynas â hyn.

    Deddfwriaeth Eich cyfrifoldeb chi Cyfrifoldeb eich cyflogwr

  • 12 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.4 Symud a thrafod a symud a lleoli

    Mae symud a thrafod yn rhan allweddol o ddiwrnod gwaith y rhan fwyaf o weithwyr, o gario bagiau siopa trwm rhywun i symud cyfarpar. Gall eich swydd gynnwys symud a lleoli pobl hefyd, fel yn astudiaeth achos Mrs Pearce.

    Gweithgaredd dysgu Disgrifiwch ystyr y termau canlynol

    • Symud a thrafod

    • Symud a lleoli

    Gall arferion symud a thrafod / lleoli gwael arwain at

    • boen cefn ac anhwylderau cyhyrysgerbydol, a all arwain at fethu gweithio

    • damweiniau symud a thrafod – a all anafu’r person sy’n cael ei symud a’r gweithiwr

    • anesmwythyd a diffyg urddas i’r person sy’n cael ei symud.

    Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod sut i symud a thrafod / lleoli’n ddiogel fel nad ydych yn brifo’ch hun neu unigolion rydych chi’n ei helpu.

    Mae angen i chi gwblhau hyfforddiant penodol cyn helpu unigolion i symud neu leoli neu gyda gweithgareddau sy’n cynnwys symud neu drafod, a bydd eich cyflogwr yn trefnu hyn.

    Fodd bynnag, mae yna rai egwyddorion pwysig yn ymwneud â symud a thrafod sydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt ar ddechrau eich cyflogaeth fel na fyddwch yn rhoi eich hun mewn perygl o anaf.

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 13

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Yn y lle isod, amlinellwch brif egwyddorion trafod diogel â llaw.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    Gweithgaredd dysgu Gofynnwch i’ch rheolwr gofnodi sut mae wedi arsylwi arnoch chi’n symud a thrafod a / neu leoli yn ddiogel yn eich gwaith bob dydd. Trafodwch beth rydych wedi’i ddysgu o’r hyfforddiant a gawsoch a sut rydych wedi rhoi egwyddorion a thechnegau symud a thrafod / lleoli diogel ar waith. Os nad ydych wedi’ch cyflogi eto, gadewch hwn yn wag a dychwelwch ato eto.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    Adborth rheolwr

  • 14 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Gweithgaredd dysguMae Dafydd wedi gofyn i chi nôl bocs o gemau sydd ar ben y cwpwrdd yn ei ystafell wely. Mae’n dweud ei fod wedi sefyll ar ben cadair i geisio nôl y bocs ond nad oedd yn gallu cyrrraedd.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth yw’r risgiau yn y sefyllfa hon?

    2. Pa gamau ydych chi’n eu cymryd?

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 15

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.5 Cymorth cyntaf brys

    Disgwylir i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol fynychu cwrs cymorth cyntaf achrededig i gwblhau’r maes dysgu hwn os yw’n berthnasol i’w swydd. Diweddarwch eich log cynnydd fel bo’n berthnasol.

    Os nad ydych wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ni ddylech geisio rhoi unrhyw fath o gymorth cyntaf. Dylech ofyn am gymorth yn syth.

  • 16 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.6 Atal a rheoli haint

    Yn wahanol i glefydau fel clefyd y galon a diabetes, gall clefydau heintus ledaenu o un person i’r llall. Fel gyda phob salwch, mae atal yn well na gwella. Er mwyn derbyn gofal diogel ac effeithiol mae’n rhaid i reoli ac atal haint fod yn rhan o ymarfer bob dydd a chael ei weithredu’n gyson gan bawb.

    Gweithgaredd dysgua. Cwblhewch y tabl canlynol i ddangos eich bod chi’n deall

    • y prif wahaniaethau rhwng bacteria, firysau, ffyngau a pharasitiaid

    • y mathau cyffredin o salwch / heintiau maent yn eu hachosi

    • effaith bosibl y rhain ar yr unigolion rydych chi’n gweithio gyda nhw.

    Llwybrau i haint Salwch / haint cyffredin Effaith bosibl

    Bacteria

    Firysau

    Ffyngau

    Parasitiaid

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 17

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    b. Beth yw ystyr y termau

    • Haint

    • Cytrefu

    • Haint systemig

    • Haint cyfyngedig

  • 18 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    c. Rydych yn ymweld â Mr Williams sydd wedi bod yn teimlo’n anhwylus ers ychydig ddyddiau. Ar ôl holi sut mae’n teimlo rydych yn ei helpu i fynd i’r toiled, ac yn sylwi bod sedd y toiled yn fudr, felly’n ei glanhau cyn iddo ei ddefnyddio. Yna, rydych chi’n ei helpu i gymryd ei feddyginiaeth amser cinio ac yn mynd i baratoi cinio.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth yw’r risgiau posibl o ledaenu haint?

    2. Amlinellwch beth fyddai’n ymarfer hylendid da wrth gynorthwyo Mr Williams yn ystod yr ymweliad hwn.

    3. Pa gyfarpar amddiffyn personol fyddech chi’n ei ddefnyddio i atal lledaenu haint a phryd fyddech chi wedi’i ddefnyddio yn yr achos hwn?

    4. Mae golchi dwylo yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel ac o atal croes-heintio.

    Rhestrwch yr adegau pan fo angen golchi dwylo.

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 19

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Yn y lle isod gofynnwch i’ch rheolwr gofnodi sut mae wedi arsylwi ar eich techneg golchi dwylo.

    Adborth rheolwr

  • 20 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.7 Diogelwch bwyd

    Mae hyfforddiant diogelwch bwyd yn ofyniad cyfreithiol i unigolion sy’n paratoi, trafod neu goginio bwyd. Os yw eich swydd yn cynnwys paratoi neu weini bwyd mae’n bwysig eich bod yn cynnal y safonau hylendid llymaf, yn enwedig wrth weithio gyda phobl fregus agored i niwed.

    Gweithgaredd dysgu

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Nodwch rai o’r peryglon diogelwch bwyd a all godi wrth baratoi, gweini, clirio a storio bwyd a diod.

    2. Eglurwch pam mae’n rhaid i arwynebau, offer a chyfarpar fod yn lân ar gyfer paratoi bwyd.

    3. Pa ddillad amddiffyn personol ddylech chi wisgo wrth drafod bwyd?

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 21

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    4. Rydych yn gweithio gyda Ruth sydd ag anabledd dysgu ysgafn. Wrth ei helpu i ddatblygu ei rhestr siopa wythnosol rydych yn mynd gyda hi i’r gegin i weld beth sydd angen ei brynu. Mae Ruth yn mwynhau bwyta tatws pob gyda llawer o lenwadau gwahanol i ginio ac ar gownter y gegin rydych chi’n gweld pecyn o ham wedi’i agor gyda phryfaid o’i amgylch, a chaws wedi llwydo. Pan rydych chi’n gofyn i Ruth agor yr oergell i weld a oes mwy yno gan fod angen iddi eu taflu, rydych chi’n gweld bod yna gyw iâr heb ei goginio sydd wedi mynd heibio’i ddyddiad defnyddio ac sydd wedi gollwng ychydig ar ben ei phecyn newydd o ham.

    • Beth yw’r problemau o ran hylendid bwyd?

    • Sut allech chi helpu Ruth i storio a gwaredu bwyd yn fwy diogel.

    5. Eglurwch beth allai ddigwydd os nad yw mesurau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn wrth ddarparu bwyd a diod i unigolion yn eich lleoliad/mewn lleoliad gwaith.

    6. Nodwch gamau y byddai’n rhaid i chi eu cymryd i ddysgu am alergeddau bwyd a’u hystyried.

  • 22 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.8 Sylweddau peryglus

    Bydd yr adran hon yn eich helpu chi i ddangos eich bod yn gwybod sut i storio, defnyddio a gwaredu sylweddau peryglus yn ddiogel.

    Gweithgaredd dysgu

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth yw ystyr y termau ‘sylweddau peryglus’ a ‘rheoli sylweddau peryglus’?

    2. Rhestrwch y mathau o sylweddau peryglus a allai fod yn y gweithle.

    3. Mewn trafodaeth gyda’ch rheolwr amlinellwch beth yw’r trefniadau ar gyfer storio, defnyddio, ymdrin â sylweddau peryglus sy’n gollwng a gwaredu sylweddau peryglus yn eich lleoliad gwaith. Gan feddwl am Mr Williams, pa sylweddau peryglus ddylech chi fod wedi’u gwaredu ar ôl ei helpu yn y toiled a sut fyddech chi’n gwneud hyn.

    Gwnewch nodiadau o’r drafodaeth isod.

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 23

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.9 Diogelwch yn y lleoliad gwaith

    Mae mesurau diogelwch da yn bwysig i sicrhau eich bod chi a’r unigolion rydych chi’n gweithio gyda nhw, yn ddiogel. Bydd gan eich sefydliad weithdrefnau diogelwch y dylech fod yn gyfarwydd â nhw i’ch diogelu chi ac eraill rydych chi’n gweithio gyda nhw.

    Gweithgaredd dysgu

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth allai fod yn risgiau posibl i ddiogelwch yn y lleoliad gwaith?

    2. Bydd rhai swyddi’n cynnwys gweithio ar eich pen eich hun. Beth yw’r risgiau penodol ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain a sut y dylid eu rheoli?

    3. Gall ymddygiad ymosodol fod yn anodd a niweidiol. Rhestrwch y mathau o ymddygiad ymosodol y gallai gweithwyr ei brofi gan unigolion y tu allan i’w lleoliad gwaith.

  • 24 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    4. Mae Bethan newydd gychwyn ei shifft ac mae’n dod wyneb yn wyneb ag ymwelydd blin yn y coridor sy’n chwilio am aelod o staff i wneud cwyn am y ffordd mae’r staff yn darparu gofal i’w ffrind. Mae’n flin iawn ac yn dechrau gweiddi ar Bethan. Sut ddylai Bethan ymdrin â’r sefyllfa?

    5. Os ydych wedi’ch cyflogi eisoes, disgrifiwch rai o’r mesurau diogelwch sydd gan eich lleoliad gwaith.

    Yn y lle isod siaradwch â’ch rheolwr am y ffyrdd rydych chi’n gweithio i sicrhau diogelwch yn y gweithle. Os nad ydych wedi’ch cyflogi eto, gadewch hwn yn wag a dychwelwch ato eto.

    Adborth rheolwr

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 25

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.10 Rheoli straen

    Mae bod o dan straen yn rhan arferol o fywyd. Gall fod yn rym cadarnhaol sy’n ein helpu i weithredu, teimlo’n fwy egnïol a chyflawni pethau ond gall fod yn negyddol hefyd os ydyn ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein llethu, o dan bwysau gormodol ac wedi’n gorlwytho gyda gwaith. Gall teimladau o’r fath effeithio ar ein lles ac achosi salwch. Mae’n bwysig cydnabod straen yn ein bywydau a sut i’w reoli os ydym dan straen.

    Gweithgaredd dysguGall straen effeithio arnom ni’n emosiynol, yn gorfforol ac ar y ffordd rydym ni’n ymddwyn h.y. ein hiechyd a lles meddyliol. Rhestrwch bum arwydd cyffredin o straen o dan bob pennawd.

    Sut allech chi fod yn teimlo

    Sut allech chi gael eich effeithio’n gorfforol

    Sut allech chi ymddwyn

    1.

    2.

    3.

    4.

    5.

  • 26 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Nodiadau’r gweithlyfr

    1. Beth yw’r gwahanol fathau o sefyllfaoedd a all achosi straen? Rhestrwch bump isod

    2. Meddyliwch am amser pan oeddech chi dan straen. Beth wnaethoch chi i helpu’ch hun i ymdopi ag ef?

    3. Mae’n bwysig eich bod chi’n gallu deall pryd yr ydych chi o dan straen fel y gallwch gyflwyno mesurau i’ch helpu i’w reoli Bydd rheoli straen yn dda yn lleihau effeithiau negyddol straen ar eich iechyd a’ch lles. Trafodwch gyda’ch rheolwr pa gymorth allai fod ar gael os ydych chi dan straen. Gwnewch nodiadau yma.

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 27

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.11 Myfyrio ar y gweithlyfr

    Gweithgaredd dysguMae myfyrio’n rhan hanfodol o ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y lle isod, nodwch dri pheth rydych wedi’i ddysgu o gwblhau’r gweithlyfr hwn a sut y byddwch chi’n rhoi hyn ar waith.

    Nodiadau’r gweithlyfr

  • 28 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.12 Polisïau a gweithdrefnau

    Os ydych eisoes yn gweithio i sefydliad bydd gan eich cyflogwr rai polisïau a gweithdrefnau sy’n berthnasol i’r adran hon.

    Rhestrwch y rhain yn y lle isod.

    Nodiadau’r gweithlyfr

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 29

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    7.13 Myfyrio ar leoliad ymarfer

    Siaradwch â rheolwr yn eich lleoliad gwaith ynglŷn â sut rydych wedi rhoi iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar waith.

    Ysgrifennwch adroddiad myfyriol byr a gofynnwch i’r rheolwr gofnodi crynodeb yn y lle isod.

    Nodiadau’r gweithlyfr

    Adborth rheolwr

  • 30 / Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Defnyddiwch y lle isod i gofnodi unrhyw drafodaethau rhyngoch chi a’ch asesydd cymwysterau.

    Nodiadau trafodaeth gyda’r asesydd cymwysterau

  • Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol llyfr gwaith saith: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol / 31

    I’w defnyddio gan aseswyr cymhwyster

    Os yw tystiolaeth o’r gweithlyfr yn cael ei defnyddio tuag at y cymhwyster mae’n rhaid i’r asesydd gwblhau’r datganiad isod.

    Datganiad gweithiwr newyddRwy’n cadarnhau bod y dystiolaeth a roddwyd ar gyfer y gweithlyfr yn ddilys ac yn cynrychioli fy ngwaith i’n gywir.

    Llofnod y dysgwr

    Dyddiad

    Datganiad y rheolwrRwy’n cadarnhau bod y gweithiwr newydd wedi cyflawni holl ofynion y gweithlyfr gyda’r dystiolaeth a gyflwynwyd.

    Llofnod y rheolwr

    Dyddiad

    Datganiad asesydd cymwysterauRwy’n cadarnhau bod y dysgwr wedi cyflawni holl ofynion y gweithlyfr gyda’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Cynhaliwyd asesiad o dan yr amodau penodedig ac mae’r dystiolaeth yn ddilys, gwir, dibynadwy, cyfredol a digonol.

    Llofnod asesydd cymwysterau

    Dyddiad

    Page05Page06Page10Page12Page15Page16Page20Page22Page23Page25Page27Page28Page29

    Button 1: Button 2: Button 3: Button 4: Button 5: Button 6: Button 7: Button 8: Button 9: Button 10: Button 11: Button 12: Button 13: Text Field 4: Text Field 7: Text Field 10: Text Field 13: Text Field 16: Text Field 19: Text Field 22: Text Field 25: Text Field 28: Text Field 31: Text Field 34: Text Field 5: Text Field 8: Text Field 11: Text Field 14: Text Field 17: Text Field 20: Text Field 23: Text Field 26: Text Field 29: Text Field 32: Text Field 35: Text Field 6: Text Field 9: Text Field 12: Text Field 15: Text Field 18: Text Field 21: Text Field 24: Text Field 27: Text Field 30: Text Field 33: Text Field 36: Text Field 37: Text Field 38: Text Field 39: Text Field 40: Text Field 41: Text Field 42: Text Field 43: Text Field 44: Text Field 45: Text Field 46: Text Field 47: Text Field 48: Text Field 49: Text Field 50: Text Field 51: Text Field 52: Text Field 53: Text Field 54: Text Field 55: Text Field 56: Text Field 57: Text Field 58: Text Field 59: Text Field 69: Text Field 60: Text Field 63: Text Field 66: Text Field 61: Text Field 64: Text Field 67: Text Field 62: Text Field 65: Text Field 68: Text Field 70: Text Field 71: Text Field 72: Text Field 73: Text Field 74: Text Field 75: Text Field 76: Text Field 77: Text Field 78: Text Field 79: Text Field 80: Text Field 81: Text Field 82: Text Field 83: Text Field 86: Text Field 89: Text Field 92: Text Field 84: Text Field 87: Text Field 90: Text Field 93: Text Field 85: Text Field 88: Text Field 91: Text Field 94: Text Field 95: Text Field 96: Text Field 97: Text Field 98: Text Field 99: Text Field 100: Text Field 101: Text Field 102: Text Field 103: Text Field 104: Text Field 105: Text Field 106: Text Field 107: Text Field 108: Text Field 109: Text Field 110: Text Field 1010: Text Field 111: Text Field 112: Text Field 113: Text Field 114: Text Field 1011: Text Field 115: Text Field 116: Text Field 117: Text Field 118: Text Field 1012: Text Field 119: Text Field 120: Text Field 121: Text Field 122: Text Field 1013: Text Field 123: Text Field 124: Text Field 125: Text Field 1014: Text Field 1015: Text Field 126: Text Field 129: Text Field 132: Text Field 135: Text Field 138: Text Field 127: Text Field 130: Text Field 133: Text Field 136: Text Field 139: Text Field 128: Text Field 131: Text Field 134: Text Field 137: Text Field 140: Text Field 141: Text Field 142: Text Field 143: Text Field 144: Text Field 1016: Text Field 145: Text Field 1017: Text Field 146: Text Field 1018: Text Field 147: Text Field 148: Text Field 1019: Text Field 149: Text Field 1020: Text Field 150: Text Field 151: Text Field 152: Text Field 1021: