13
© Shakespeare Schools Foundation Delir hawlfraint sgriptiau a dalfyrrwyd gyda Shakespeare Schools Foundation (SSF). . Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas Addaswyd gan Martin Lamb

Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

  • Upload
    others

  • View
    9

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

© Shakespeare Schools Foundation Delir hawlfraint sgriptiau a dalfyrrwyd gyda Shakespeare Schools Foundation (SSF).

.

Gan William Shakespeare

Cyfieithiad gan Gwyn Thomas Addaswyd gan Martin Lamb

Page 2: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Nodiadau Cymeriadau Macbeth

Nodiadau Cymeriadau

DUNCAN Brenin da yr Alban, a lofruddiwyd gan Macbeth. Mae Duncan yn fodel o lywodraethwr rhinweddol, caredig a chraff. MALCOLM Mab hynaf Duncan, sy’n ffoi mewn braw gyda’i frawd Donalbain ar ôl i’w tad gael ei lofruddio. Daw Malcolm yn her ddifrifol i Macbeth gyda chymorth Macduff (a chefnogaeth Lloegr). Gallwn dybio y byddai’n teyrnasu’n deg, fel ei dad, a rhoi terfyn ar ormes Macbeth. DONALBAIN Mab Duncan a brawd iau Malcolm. MACBETH Cadfridog dewr a phwerus yw Macbeth, ac ef yw Pendefig Glamis; mae ei uchelgais i gipio’r goron yn ei sbarduno i lofruddio. Mae Macbeth yn fwy cartrefol ar faes y gad nag ydyw mewn gwleidyddiaeth, gan mai ei ffordd o ymateb i bob problem yw trais a llofruddiaeth. Fodd bynnag, nid yw Macbeth fyth yn gyfforddus yn ei rôl fel troseddwr. Ni all ddioddef canlyniadau seicolegol ei erchyllterau, yn enwedig ar ôl marwolaeth ei wraig annwyl. YR ARGLWYDDES MACBETH Gwraig Macbeth, menyw hynod o uchelgeisiol sy’n awchu am bŵer a statws. Yn gynnar yn y ddrama ymddengys mai hi yw’r gryfaf o’r ddau, wrth iddi annog ei gŵr i ladd Duncan a chipio’r goron. Fodd bynnag, ar ôl y tywallt gwaed, mae euogrwydd yr Arglwyddes yn arwain at orffwylledd. Mae ei chydwybod yn ei heffeithio i’r fath raddau fel ei bod, yn y diwedd, yn cyflawni hunanladdiad. Mae Macbeth a hithau mewn cariad dwfn â’i gilydd, a’u cyd-droseddu fel petai’n cryfhau eu hatyniad y naill at y llall BANQUO – Cadfridog Y cadfridog dewr a bonheddig nad yw’n gadael i’w uchelgais arwain at deyrnfradwriaeth a thrais. Yn ôl proffwydoliaeth y gwrachod, bydd plant Banquo’n etifeddu gorsedd yr Alban ond – yn wahanol i Macbeth – nid yw’n gweithredu ar hynny. Mae ysbryd Banquo’n aflonyddu ar Macbeth, gan ei atgoffa o’i euogrwydd.

Page 3: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Nodiadau Cymeriadau Macbeth

MACDUFF Pendefig o’r Alban sy’n gwrthwynebu brenhiniaeth Macbeth, ac sy’n dod yn arweinydd y crwsâd i ddiorseddu Macbeth. Pwrpas y crwsâd yw gosod y brenin cyfreithlon, Malcolm, ar yr orsedd, ond mae Macduff hefyd yn awyddus i ddial am y ffaith fod Macbeth wedi llofruddio’i wraig a’i fab ifanc tra oedd ef yn Lloegr yn ymgynnull byddin. Ni all fyth faddau iddo’i hun am adael ei deulu a’i weision yn ddiamddiffyn. Lladdwyd hwy, un ac oll.

FLEANCE Mab Banquo, sy’n goroesi ymdrech Macbeth i’w lofruddio. Ar ddiwedd y ddrama, does neb yn gwybod ble mae Fleance. Efallai y bydd yn dychwelyd i reoli’r Alban, gan gyflawni proffwydoliaeth y gwrachod y bydd meibion Banquo yn eistedd ar orsedd yr Alban. SIWARD Iarll Northumberland, Sais sy’n cefnogi’r crwsâd i ddisodli Macbeth a gosod Malcolm yn Frenin yr Alban. PORTHOR Porthor meddw yng nghastell Macbeth. SEYTON Gwas Macbeth. TRI LLOFRUDD Grŵp o ddihirod a orfodwyd gan Macbeth i lofruddio Banquo, Fleance (na lwyddant i’w ladd), a gwraig a phlant Macduff. . TAIR GWRACH Tri ffigur cyfriniol sy’n cynllunio drygioni yn erbyn Macbeth gan ddefnyddio swyndlysau, swyngyfaredd a phroffwydoliaethau. Mae eu proffwydoliaethau’n ei annog i lofruddio Duncan, i roi gorchymyn i ladd Banquo a’i fab, ac i gredu’n gibddall yn ei anfarwoldeb ei hun. Mae’n amlwg eu bod yn cymryd pleser gwrthnysig mewn defnyddio’u gwybodaeth o’r dyfodol i chwarae â, a dinistrio, bodau dynol. Maent yn cydnabod bod ganddynt hwythau feistri sy’n awdurdodi’r rhithiau. DRYCHIOLAETHAU Tair drychiolaeth wedi eu creu gan y gwrachod ar gyfer Macbeth. Pen arfog yw’r ddrychiolaeth cyntaf sy’n dweud wrth Macbeth y dylai ofni Macduff. Plentyn gwaedlyd yw’r ail ddrychiolaeth sy’n tawelu meddwl Macbeth. Plentyn yn gwisgo coron gyda choeden yn ei law yw’r trydedd ddrychiolaeth sy’n dweud nad oes gan Macbeth ddim i'w ofni.

Page 4: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Nodiadau Cymeriadau Macbeth

LENNOX ROSS Uchelwyr Albanaidd sy’n ymuno gyda Macduff yn erbyn Macbeth. ANGUS MENTIETH

Page 5: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

10 Digwyddiad

1. Yn nheyrnas y Brenin Duncan o’r Alban, mae dau Bendefig brenhinol – Macbeth a Banquo – yn dychwelyd o ryfel. Maent yn cwrdd â thair Gwrach sy’n proffwydoliaethu y bydd Macbeth yn cael ei goroni’n Frenin, ac y bydd disgynyddion Banquo yn Frenhinoedd.

2. Mae Macbeth yn ysgrifennu at ei wraig yn sôn wrthi am y broffwydoliaeth, ac

mae hithau’n ei dehongli fel gorchymyn i ladd Duncan, oedd yn Frenin ar y pryd.

3. Mae Duncan a’i osgordd yn cyrraedd Castell Macbeth wrth i Macbeth a’r Arglwyddes Macbeth ddadlau p’un ai i’w ladd ai peidio.

4. Mae Macbeth yn lladd Duncan wrth iddo gysgu.

5. Ar y dechrau, caiff meibion Duncan eu beio am ei farwolaeth, ac maent yn ffoi

mewn braw gan adael i Macbeth gael ei goroni’n Frenin.

6. Mae Macbeth yn trefnu i ladd Banquo. Mae e’n ofni bod ysbryd Banquo’n aflonyddu arno, ac aiff yn ôl at y gwrachod. Maent hwythau’n ei gysuro â rhagor o broffwydoliaethau ynghylch ei bŵer.

7. Mae ei ffrind, Macduff, yn dianc i Loegr i ofyn i fab Duncan – Malcolm –

ddychwelyd ac ymladd yn erbyn Macbeth gan fod yr Alban yn dadfeilio dan ei deyrnasiad. Am y diffyg teyrngarwch hwn, mae Macbeth yn trefnu bod gwraig a phlant Macduff yn cael eu lladd.

8. Mae’r Arglwyddes Macbeth yn marw.

9. Daw Macbeth dan ymosodiad wrth i broffwydoliaethau’r gwrachod gael eu

gwireddu fesul un. 10. Caiff Macbeth ei ladd gan Macduff, a choronir Malcolm yn Frenin.

Macbeth 10 Events Page 1

C Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Page 6: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

Cymeriadau

Duncan Brenin yr Alban Malcolm Mab Duncan Donalbain Mab Duncan Macbeth Cadfridog ym myddin y Brenin, nes ymlaen yn Frenin Arglwyddes Macbeth Banquo Macduff Uchelwr Albanaidd Lennox Uchelwr Albanaidd Ross Uchelwr Albanaidd Angus Uchelwr Albanaidd Mentieth Uchelwr Albanaidd Fleance Mab Banquo Siward Arglwydd Northumberland, aelod o fyddin Lloegr Siward Ifanc Ei fab Porthor Meddyg

Llofrudd 1af 2il Lofrudd Gwrach 1af

Page 7: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

2il Wrach 3ydd Wrach Drychiolaeth 1 Drychiolaeth 2 Drychiolaeth 3 Arglwyddi, Swyddogion, Milwyr, Gwasanaethwyr a Negeswyr

Page 8: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

Golygfa 1 Llain agored1 Daw TAIR GWRACH i mewn. Y WRACH 1AF Eto ynghyd, ein tair, pa bryd?

Yn nh’ranau, mellt, neu law y byd? YR 2IL WRACH Ar ôl yr hwrli-bwrli byr,

Colli ac ennill y frwydr. Y 3EDD WRACH Bydd hynny cyn bod machlud haul. Y WRACH 1AF Ym mha le? YR 2IL WRACH Wel, ar y waun.

Y 3EDD WRACH Yno i gwrdd â Macbeth. Y DAIR WRACH Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;

Hofran yn yr aflan niwl ‘r gwyll. Exeunt.

Golygfa 2 Llain agored Daw TAIR GWRACH i mewn. Sŵn Drwm. Y 3EDD WRACH Sŵn drwm sy draw!

Macbeth a ddaw. Daw MACBETH a BANQUO i mewn. MACBETH Welais i’r un dydd mor hyll a theg â hwn. BANQUO Beth ydi’r rhain,

1 Yn yr Alban.

Page 9: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

Nad ŷn nhw’n debyg i fodau o’r byd hwn, Ac eto maen nhw yma?

MACBETH Dywedwch, os gellwch – pwy ydych chi? Y WRACH 1AF Henffych, Macbeth! Henffych iti, Arglwydd Glamis! YR 2IL WRACH Henffych, Macbeth! Henffych iti, Arglwydd Cawdor!2 Y 3EDD WRACH Henffych, Macbeth, a fyddi – wedi hyn – yn Frenin!3 MACBETH yn sefyll o’r neilltu i ystyried y newyddion. BANQUO (wrth y GWRACHOD)

Os gellwch chi archwilio hadau amser, A dweud pa rawn a dyf, pa rai na dyfith ddim, Lleferwch wrthyf finnau ynteu, sef Un nad ydw-i am fegera Nac am ofni eich casineb na’ch ffafr.

Y WRACH 1AF Henffych! YR 2IL WRACH Henffych! Y 3EDD WRACH Henffych! Y WRACH 1AF Llai na Macbeth, a mwy. YR 2IL WRACH Nid mor ddedwydd, eto yn fwy dedwydd. Y 3EDD WRACH Fe genhedli di frenhinoedd, er na fyddi di yn Frenin.4

Felly henffych well, Macbeth a Banquo! MACBETH Gwn ‘mod i yn Arglwydd Glamis;

Ond Cawdor? Mae Cawdor eto’n fyw; A dydi bod yn Frenin ddim o fewn i gylch crediniaeth. Ddim mwy na bod yn Cawdor. Rwy’n eich siarsio: dywedwch..

2 Dyma’r teitl newydd mae Macbeth wedi’i ennill, ond nid yw’n gwybod hynny eto. 3 Nid oes gan Macbeth unrhyw linach i’r Goron. 4 Bydd disgynyddion Banquo yn frenin, ond nid ef.

Page 10: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

Diflanna’r GWRACHOD.

BANQUO I ble y gwnaethon nhw ddiflannu? MACBETH I’r awyr. BANQUO A fu yna yma y fath bethau y soniwn ni amdanyn nhw? Daw ROSS ac ANGUS i mewn. ROSS Mae’r Brenin wedi derbyn yn llawen, Macbeth,

Y newydd am dy lwyddiant;5 Fe barodd imi, ar ein ran, dy alw di yn Arglwydd Cawdor.

BANQUO [o’r neilltu] Beth, a all y diafol ddweud y gwir? MACBETH Mae Cawdor eto’n fyw; pam rydych chi’n

Fy ngwisgo i mewn dillad benthyg? ANGUS Mae bradwriaethau mawr wedi’i daflu o i lawr.6 MACBETH [o’r neilltu] Glamis, ac Arglwydd Cawdor;

Mae’r mwyaf oll i ddod. BANQUO [wrth MACBETH] Yn aml,

I’n hennill i wneud niwed inni Y mae cyfryngau y tywyllwch Yn dwedyd gwirioneddau, i’n hennill Gyda manion cywir, er mwyn ein twyllo ni I’r canlyniadau dyfnaf.

Exeunt.

Golygfa 7 Castell Macbeth, Forres Daw ARGLWYDDES MACBETH i mewn

5 Mae Brenin Duncan wedi clywed am lwyddiant Macbeth yn y frwydr. 6 Mae Arglwydd Cawdor dal yn fyw ond mae o wedi colli ei deitl a’i dir fel cosb am frwydro’n erbyn y Brenin.

Page 11: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

MACBETH Petai hyn wedi’i wneud, pan gaiff o ei wneud, Yna byddai’n dda pe bai o’n cael ei wneud Yn sydyn.7 Y mae o yma Ar ymddiriedaeth ddwbl: yn gyntaf, Am fy mod yn perthyn iddo; yna fel ei Westeiwr, un ddylai gau y ddôr yn erbyn Ei lofruddiwr, nid dwyn fy hun y gyllell.

Daw ARGLWYDDES MACBETH i mewn. Pa hwyl! A pha newyddion? ARGLWYDDES MACBETH

Mae o bron wedi darfod swpera. Pam y gadewaist ti’r siambr?

MACBETH Awn ni ddim pellach gyda’r mater hwn. ARGLWYDDES MACBETH

Oes gen ti ofn bod ‘run fath yn dy weithred Di dy hun a’th ddewrder ag wyt ti Yn dy ddymuniadau?

MACBETH Fe fentra’i wneud

Pob peth sy’n gweddu i ddyn ei wneud; Pwy bynnag fentrith fwy, nid dyn mohono.

ARGLWYDDES MACBETH

Pan fentret ti ei wneud, yr adeg honno Yr oeddet ti yn ddyn; ac i fod yn fwy Na’r hyn oeddet ti, fe fyddet ti Yn gymaint mwy o ddyn. Bu gen i blentyn-sugno, ac fe wn Mor dyner ydi caru’r baban sy’n Fy ngodro i; fe fyddwn i, ac yntau’n gwenu Yn fy wyneb, wedi plycio ‘nheth O’i geg ddi-ddant, a bwrw’i ‘mennydd allan, Pe bawn-i wedi tyngu llw Fel y gwnest ti am hyn.

MACBETH Beth petaem ni’n methu? ARGLWYDDES Yn methu?

7 Mae’n well i mi ladd Duncan yn sydyn a diwedd arni.

Page 12: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

MACBETH Tynna dy ddewder hyd at yr eithaf A wnawn ni ddim methu. Beth na elli di a mi ei wneud I’r Duncan diamddiffyn? Beth fydd yna Na allwn ni ei feio ar swyddogion soeglyd,8 A fydd yn dwyn baich euogrwydd Ein hanturiaeth fawr?

MACBETH Paid ti ag esgor ond ar fabanod

Gwryw’n unig, am na ddylai d’ysbryd Di-ofn di lunio dim ond dynion. I ffwrdd a ni, A gwawdio’r byd ag ymddangosiad teg; Rhaid i wyneb ffals gadw yn guddiedig Yr hyn sydd, yn y gallon ffals, yn ddatguddedig.

Exeunt.

Golygfa 8 Castell Macbeth Daw MACBETH i mewn. MACBETH Ai dagr ydi’r hyn a wela’ i

O ‘mlaen, a’r carn tuag at fy llaw? Tyrd, gad imi afael ynot. Methu gafael, ac eto rydw i’n Dy weld o hyd. Rwyt ti’n fy arwain i ar hyd y ffordd Yr oeddwn i’n ei dilyn, I ddefnyddio offeryn tebyg i’r un Yr oeddwn innau am ei drin.

Mae cloch yn canu9. Mi a-i, a dyna ben. Gwahodda’r gloch.

Paid ti âi chlywed, Duncan, am mai cnul yw hi Sydd i nef neu uffern yn dy alw di.

8 Maent yn bwriadu cynllwynio’n erbyn y gweision. 9 Arwydd gan Lady Macbeth? Cloc yn canu’r awr?

Page 13: Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas ...theatr.cymru/wp-content/uploads/2015/08/Act-II-Pecyn-Addysg-Theatr... · Gan William Shakespeare Cyfieithiad gan Gwyn Thomas

Crëwyd gan www.shakespeareschools.org

Macbeth Sgript Cwmni Uwchradd

Exit MACBETH.