2

Gweithdy dyn bach sinsir anrheg Nadolig€¦ · iawn fyddan ni’n llwytho’r sled efo teganau i ddod i rywle arbennig iawn y ‘Dolig yma. Mi fyddan ni’n hedfan i Gelli Gyffwrdd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Annwyl

    Dw i’n gobeithio bod y llythyr hwn wedi dy gyrraedd yn saff. Mae’r corachod wedi

    bod yn brysur yn fy helpu i baratoi ar gyfer cyfnod prysura’r flwyddyn i ni, a buan

    iawn fyddan ni’n llwytho’r sled efo teganau i ddod i rywle arbennig iawn y ‘Dolig yma.

    Mi fyddan ni’n hedfan i Gelli Gyffwrdd i fynd â phlant arbennig iawn ar daith trwy’r

    Goedwig Hudolus i ddod i fy ngweld i yn fy nghaban pren clyd. Mae ‘deryn bach wedi

    dweud wrtha’ i dy fod ti wedi bod yn arbennig o dda eleni, a dwi’n falch iawn o

    gael dweud dy fod ti’n cael dod hefo ni ar ein hantur Nadolig hudolus.

    Mi fydd dy daith yn dechrau pan gei di dy Basbort Hudolus â thocynnau ac yna

    ymlaen i’r Gweithdy dyn bach sinsir. Yna, bydd fy nghorrach mwyaf dibynadwy yn dy

    arwain i’r cam nesaf, y Goedwig Hudolus.

    Wrth i ti deithio trwy’r Goedwig, cei fwynhau siocled poeth blasus a rhyfeddu ar yr

    amgylchedd llawen yng nghanol yr holl oleuadau a chaneuon. Yna bydd hi’n amser

    i ti ddod i fy ngweld i, cael tynnu dy lun a chasglu dy docyn aur. Cadwa hwn yn ddiogel

    tra’n gwneud dy ffordd i’r siop i ddewis dy anrheg Nadolig.

    Wel, mae’n rhaid i mi fynd yn ôl i weithio rŵan, mae yna lot fawr i’w wneud! Mi fydd

    y corachod yn gweithio trwy’r dydd a thrwy’r nos i wneud yn siŵr ein bod yn

    barod i ymweld â Gelli Gyffwrdd!

    Rŵan, cofia fyhafio a thrio dy ora’!

    Ta-ta tan toc,