7
Ymdriniaeth deg o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru Gwyliwch Allan

Gwyliwch Allan

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Ymdriniaeth deg o bobl lesbaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.

Citation preview

Page 1: Gwyliwch Allan

Ymdriniaeth deg o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru

Gwyliwch Allan

Page 2: Gwyliwch Allan

Iaith “Rwyt ti mor ‘gay’”

Mae’r cyfryngau’n offeryn pwerus.Mae gan y teledu, radio, papuraunewydd a chylchgronau'r gallu iaddysgu, rhoi gwybodaeth a heriounigolion. Ond gallant hefyd fod ynniweidiol i bobl lesbiaidd, hoyw adeurywiol drwy gynnal agweddauhomoffobaidd. Mae’r defnydddifeddwl o iaith homoffobaidd yn ycyfryngau yn destun prydercynyddol. Defnyddir ‘gay’ yn gysongan bersonoliaethau yn y cyfryngau iolygu bod rhywbeth, neu rywun, yn‘anobeithiol’ neu ‘wan’. Tynnwydsylw at Chris Moyles, JeremyClarkson a Patrick Kielty o’r BBC gangefnogwyr Stonewall Cymru am eudefnydd o sylwadau homoffobaiddar yr awyr. Galwodd ‘Rose Tyler’,cyfaill Doctor Who, y Doctor yn “sogay”, hyd yn oed, ar ôl iddo gwynoam gael ei daro ar ei wyneb.

Pan fo sêr uchel eu proffil neugymeriadau dychmygol yn defnyddio‘gay’ fel ymadrodd difrïol, mae’nanfon neges glir i’w cynulleidfa, niferohonynt yn bobl ifanc argraffadwy,bod ‘hoyw’ yn rhywbeth i’wgywilyddio ynddo neu ‘ychydig ojôc’.

Mae cysylltiad cryf rhwng defnydddifeddwl iaith homoffobaidd ar rairhaglenni radio a theledu, a defnyddeang yr un ymadroddion i fwlio plantmewn ysgolion ledled Prydain. Gall ycyfryngau chwarae rhan sylweddol

wrth drawsnewid bywydaudisgyblion ifanc lesbiaidd a hoywsy’n rhy ofnus i fynd i’r ysgol rhagofn dioddef ymosodiadau yngorfforol neu ar lafar.

Mae The School Report Stonewall,arolwg o dros 1100 o bobl ifanc agyhoeddwyd ym Mehefin 2007, yndangos bod iaith homoffobaidd ynendemig mewn ysgolion. Mae 98%o ddisgyblion hoyw yn clywedymadroddion dilornus megis “maemor gay” neu “rwyt ti mor gay” ynyr ysgol. Mae saith allan o bob degyn dweud bod y bwlio yn effeithio areu gwaith ysgol. Hyd yn oed os nadyw disgyblion hoyw yn dioddef bwliouniongyrchol; maent yn dysgu mewnawyrgylch lle mae iaithhomoffobaidd yn gyffredin.

“Mae anwybyddu’r broblem honcystal â chyfrannu ati. Mae troillygad ddall tuag at alw enwaudifeddwl, gan edrych y ffordd arallgan ei bod yn haws, yn hollolannerbyniol”

Kevin Brennan AS, Gweinidog Plant, yn siarad yngNghynhadledd Addysg i Bawb Stonewall, 2007

I glywed sut mae Stonewall Cymruyn taclo bwlio homoffobaidd ewchat ein gwefan Addysg i Bawb: www.stonewallcymru.org.uk/educationforallcymru

Gwyliwch Allan

Mae Prosiect CyfryngauGwyliwch Allan Stonewall Cymruyn hyrwyddo ymdriniaeth deg ofaterion lesbiaidd, hoyw adeurywiol yn y cyfryngau yngNghymru. O Wales Today i’rWestern Mail, Post Prynhawn iPobol y Cwm rydym yn gweithiogyda newyddiadurwyr acymchwilwyr ledled Cymru i geisiosicrhau bod y portread o fywydhoyw yn cynrychioli Cymru’runfed ganrif ar hugain.

Wedi’i gyllido am 3 blynedd ganComic Relief, rydym wedigwneud cynnydd sylweddol yn yffordd y mae materion lesbiaidd,hoyw a deurywiol (LHD) bellachyn cael eu hadrodd, yn cyfrannuat nifer o raglenni teledu a radio,ac erthyglau cylchgronau aphapur newydd proffil uchel, ynGymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r adroddiad prosiect hwn yntynnu sylw at ganfyddiadauallweddol a llwyddiannau prosiectGwyliwch Allan, ac yn awgrymuargymhellion a fydd yn sicrhaubod pobl lesbiaidd a hoyw ynparhau i gael eu portreadu’nrealistig yn allbwn teledu, radio aphrint Cymru.

I lwytho’r adroddiad hwn i lawr a chael mwy o wybodaeth am yprosiect ac adnoddau ar-lein argyfer newyddiadurwyr,ymchwilwyr a chynulleidfaoeddlesbiaidd, hoyw a deurywiol ewch at:

www.stonewallcymru.org.uk/gwyliwchallan

Liz MorganCyfarwyddydd

Matthew BattenSwyddog Polisi a Materion Cyhoeddus

Page 3: Gwyliwch Allan

Cafwyd beirniadaeth lem hefydgan ein cefnogwyr yn sgilerthyglau am leoliadau rhywcyhoeddus, neu ‘cruising’. Yn aml,mae’r erthyglau hyn yn awgrymubod dynion hoyw yn llac eumoesau ac yn rheibus yn rhywiol,gan anwybyddu’r ffaith y gall ydynion sy’n crwydro am ryw alw’ihunain yn heterorywiol. Maeerthyglau o’r fath yn cyffredinoli’nannheg am foesoldeb dynionhoyw a deurywiol ac, oherwyddbod y mannau lleol yn aml yn caeleu rhestru, mae’n bosib eu bod ynhwyluso ysgogiad troseddaucasineb yn erbyn y dynion.

Mae’r cyfryngau yn chwarae rhanenfawr wrth ddylanwadu ar farngyhoeddus tuag at bobl lesbiaidd,hoyw a deurywiol. Mae’n rhwyddiawn diystyru rhagdybiaethauystrydebol fel hwyl ddiddrwg,ddiniwed, ond mae ystrydebau,pan mai dyna’r unig ddelweddausy’n cael eu portreadu, ynniweidiol ac yn medru ysgogierledigaeth bobl lesbiaidd a hoyw.

Canfu ymchwil a gomisiynwyd ganStonewall Cymru (Eich CyfrifNeu’ch Eithrio, 2003) bod cyfranfawr o bobl lesbiaidd a hoyw ynteimlo eu bod wedi dioddefcamwahaniaethu a chamdriniaetho achos y portreadau yn ycyfryngau. Roedd y ffurfiau mwyafcyffredin o gamwahaniaethu, a

brofwyd gan 65-69% o’r rhai aymatebodd, yn cynnwys “cael eichtramgwyddo gan ddatganiadaucyhoeddus am foesoldeb hoywon”a “cael eich tramgwyddo ganerthyglau neu erthyglaugolygyddol yn y cyfryngau print”.Sefydlwyd Gwyliwch Allan oganlyniad uniongyrchol i’rcanfyddiadau hyn.

Er gwaethaf ymdrechion GwyliwchAllan i adeiladu perthynas gyda’rcyfryngau yng Nghymru a’rcynnydd sylweddol yn yradroddiadau teg am fywydau LHD,mae barn bobl LHD yng Nghymruyn parhau i fod yn negyddol iawnam y cyfryngau print a darlledu.Datgelodd canlyniadau trydyddarolwg Stonewall Cymru o bobllesbiaidd, hoyw a deurywiol yngNghymru (Eich Cyfrif a’chCynnwys, 2007) bod:

60% o bobl lesbiaidd, hoyw adeurywiol wedi’u tramgwyddogan bortread o bobl hoyw ar yteledu

63% wedi’u tramgwyddo ganerthyglau yn y wasg, a

59% gan ddatganiadaucyhoeddus am bobl LHD

65% wedi’u tramgwyddo gany diffyg portread cadarnhaol obobl LHD ledled bob cyfrwng.

Un erthygl a ysgogodd fwy ogwynion nag unrhyw un arall ynystod tair blynedd y prosiect oeddmyfyrdodau Lowri ‘Celebrity FitClub’ Turner ar ddynion hoywmewn gwleidyddiaeth.Yn ei cholofn wythnosol yn yWestern Mail, honnodd Ms Turnernad yw dynion hoyw yn addas ilywodraethu’r wlad gan fod euffyrdd o fyw yn “rhy bell o’rnorm.” Gan mai cur pen mwyaf eichyfeillion hoyw oedd penderfynurhwng soffa lliw hufen neu unddu, meddai Lowri Turner, “nid yw dynion hoyw yn addas i gynrychioli diddordebau’rboblogaeth yn gyffredinol.”

Yn amlwg, derbyniodd GwyliwchAllan nifer fawr o lythyron cwynooddi wrth bobl lesbiaidd a hoywledled Cymru a oedd wedi’utramgwyddo gyda’r fath syniadystrydebol o ddynion hoyw adeurywiol. Fel y nodwyd gan uncefnogwr:“Ymddengys bod Ms Turner ynbyw mewn Cymru arall, lle maepob dyn a menyw heterorywiolyn gadarn a chryf, ac eto ynempathetig a gofalus. Yn ei bydhi, mae’n amlwg bod pob unhoyw yn bobl sy’n mwydro, ac naellir ymddiried ynddynt. Dynagysur yw byw mewn ymennyddmor syml!”

Ystrydebau a datganiadau negyddol

Page 4: Gwyliwch Allan

Yr effaith oedd gwneud 49% o’rrhai a holwyd yn bryderus amerledigaeth homoffobaidd yn sgilportreadau yn y cyfryngau.

Mae Gwyliwch Allan yn ymateb inifer o enghreifftiau o ystrydebausarhaus neu ddatganiadaucyhoeddus ar foesoldeb bobllesbiaidd, hoyw a deurywiol.Gofynnwn i gael cwrdd gydagolygyddion neu wneuthurwyrrhaglenni ac rydym yn anfon ein

hadroddiadau ymchwildiweddaraf er gwybodaeth. Acrydym bob amser yn annog pobllesbiaidd a hoyw i herionewyddiadurwyr a gwneuthurwyrrhaglenni os ydynt wedi’utramgwyddo gan y ffordd ymaent yn cael eu portreadu.Wedi’r cyfan, nhw sy’n edrych ary radio neu deledu, neu’n gwarioeu harian prin ar gyhoeddiadau’rwasg.

Amlygrwydd cymeriadauhoyw ar y teledu

Mae cymeriadau lesbiaidd, hoywa deurywiol yn amlwg ar nifer obrif raglenni BBC Cymru ac S4C.Yr un amlycaf yw’r cymeriadcarismataidd, Capten Jack, abortreadir gan yr actor agored,John Barrowman, yn Doctor Whoa Torchwood. Mae Capten Jackyn fflyrtio gyda’r Doctor a’igydymaith benywaidd, mewnrhaglen amser te sydd wedi’ianelu at gynulleidfa deuluol, aceto mae’n parhau i fod yngymeriad poblogaidd iawn, a’irywioldeb yn ymylol i’r rhaglen.

Cafwyd cymeriadau lesbiaidd adeurywiol yn yr opera sebonGymraeg, Pobol y Cwm, yn fwyafdiweddar mewn stori bwysiggyda ‘Brit’ a ‘Gwyneth’, ac mae’rcymeriadau hynny yn parhau igael straeon sydd ar wahân i’wrhywioldeb. Mae’r ddramaCaerdydd ar S4C yn cynnwysstraeon hoyw amlwg, ac mae gany gyfres ddrama Belonging arBBC One Wales gymeriadau hoywamlwg gan gynnwys, yn y gyfresyn 2007, stori’n datblygu rhwngmenyw ganol oed, agoredlesbiaidd, a menyw wedi ysgaru.

Eto roedd canfyddiadauadroddiad Tuned Out Stonewall,2006, a oedd yn ymchwilio i’r

portreadau o bobl lesbiaidd ahoyw yn ystod 168 munud oraglenni oriau brig ar BBC Un aBBC Dau, yn dangos nad oeddpobl hoyw sy’n talu am eutrwydded deledu yn derbyngwerth eu harian. Portreadwydbywyd hoyw yn realistig am ddimond chwe munud, ac allan o 168munud o raglenni, 38 munud ynunig oedd o gyfeiriadau hoyw,cadarnhaol neu negyddol.Nodwyd nad oedd lesbiaid “prinyn bodoli ar y BBC.” (Tuned Out,2006).

Mae profiad Gwyliwch Allan oraglenni BBC Cymru ychydig ynwahanol i rwydwaith BBC Un aBBC Dau. Cynrychiolir cymeriadaulesbiaidd, hoyw a deurywiolmewn rhai rhaglenni Cymraeg aSaesneg. Rydym wedi gweithio’nagos gydag adrannau materioncyfoes a drama er mwyn sicrhaueu bod yn derbyn gwybodaethgywir a phrofiadau gwirioneddolpobl LHD er mwyn sicrhau bodbywyd hoyw yng Nghymru yncael ei bortreadu’n realistig.

Serch hynny, er gwaethaf ygwaith cadarnhaol sy’n digwyddyng Nghymru, gall enw da’r BBCgael ei danseilio gan sylwadauhomoffobaidd gan sêr yrhwydwaith megis Chris Moyles aJeremy Clarkson.

Page 5: Gwyliwch Allan

Er mwyn i Gwyliwch Allanymgysylltu yn llawn gydachynulleidfaoedd ledled Cymru,roedd angen i ni fod ynrhagweithiol gyda’n defnydd ogyfryngau newydd er mwyncyrraedd at bobl nad ydynt yndefnyddio cyfryngau traddodiadolCymreig. Mae’r rhyngrwyd ynffordd boblogaidd o gyrraedd atwybodaeth, yn arbennig ymysgbobl ifanc, ac roedd ymgynghoriadgyda grwpiau LHD a rhai nadydynt yn LHD yn awgrymu bodangen gwefan yn cynnwysgwybodaeth LHD penodol iGymru. Roeddem hefyd yncydnabod bod newyddiadurwyrangen mynediad uniongyrchol atwybodaeth gywir ar ystod eang ofaterion LHD penodol i Gymru.Gan gofio hynny, datblygwydgwefan ddwyieithog, glir, hawddei defnyddio, sy’n darparu’rnewyddion, gwybodaeth acymchwil ddiweddaraf ar ystodeang o faterion LHD penodol iGymru. Lansiwyd gwefanStonewall Cymru ym mis Medi2005 ac mae’n parhau i dderbyndros 2000 o ymweliadau bob mis.

Mewn partneriaeth gyda CanllawOnline, sy’n datblygu a chefnogigwasanaethau gwybodaeth i boblifanc, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiauar y we, er mwyn i bobl ifancsgwrsio gyda’i gilydd a gyda phoblbroffesiynol, a rhannu profiadau

am fwlio homoffobaidd adiogelwch personol. Roedd modd ibobl ifanc siarad gydachynrychiolwyr o sefydliadau megisChildLine, Ymddiriedolaeth SuzyLamplugh, Llinell Gymorth LHDTCymru ac Uned CefnogaethLleiafrifoedd De Cymru a gofyn amgyngor a chefnogaeth bellach.Mae sgyrsiau ar y we yn ffyrddardderchog o ymgysylltu gydaphobl ifanc mewn ffordd sy’nberthnasol iddynt. Bu’r ymateb yngadarnhaol iawn ac mae wedi einhannog i barhau i ddefnyddiosgyrsiau ar y we i gyrraedd atgynulleidfaoedd newydd.

Ar hyn o bryd rydym yn edrych aropsiynau o ddefnyddio podlediada vodlediad, a fydd yn galluogipobl i lwytho deunydd sain a fideoi lawr i’w ffonau symudol,chwaraewyr MP3 a gliniaduron.Mae podledu yn boblogaiddymysg pobl iau felly byddwn yncanolbwyntio yn y lle cyntaf arwneud rhaglenni ar fwliohomoffobaidd mewnysgolion/colegau a’r gweithle, acyna yn datblygu pod a vodlediadaui edrych ar ymgyrchoedd eraill, erenghraifft; troseddau casineb,gofal iechyd a chynrychiolaeth LHDyn y cyfryngau. Bydd cynhyrchuein cynnwys sain/fideo ein hunainyn rhoi cyfle i ni drosglwyddogwybodaeth hanfodol mewnffyrdd newydd a chyffrous.

Ymgysylltu gydachynulleidfaoedd

Rhan hanfodol o waith GwyliwchAllan fu cychwyn grymuso bobllesbiaidd, hoyw a deurywiol ideimlo bod modd iddynt gyfranogimewn trafodaethau yn ycyfryngau. Bu hyn yn arbennig obwysig gan ein bod yn derbynceisiadau yn gyson gannewyddiadurwyr i ddarparuastudiaethau achos ar gyferadroddiadau newyddion neuraglenni dogfen.

Buom yn gweithio gyda QuadrantMedia & Communications Ltd igynllunio rhaglen hyfforddiant ycyfryngau, a oedd yn cynnwystechnegau cyfweliadau cyfryngaullwyddiannus a phrofiadau

ymarferol o wneud cyfweliadauradio a theledu, yn fyw ac wedi’urecordio o flaen llaw, a pharatoi argyfer cyfweliadau ar gyfer y wasg adros y ffôn. Derbyniodd dros 30 obobl LHD, yn cynrychioli grwpiauLHD a rhai nad ydynt yn LHD, neubobl yn siarad am brofiad personol,yr hyfforddiant cynhwysfawr hwn.Rydym wedi ymrwymo igynrychioli’r amrywiaeth o fewn ygymuned LHD, ac wedi hyfforddipobl lesbiaidd, deurywiol, dynionhoyw, pobl hyn ac iau, pobl offydd a phobl ag anabledd, ac maenifer wedi rhoi cyfweliadau i’rcyfryngau lleol a chenedlaethol.

Page 6: Gwyliwch Allan

Mwy o wybodaeth

Prosiect Cyfryngau Gwyliwch Allanwww.stonewallcymru.org.uk/lookout www.stonewallcymru.org.uk/gwyliwchallan

Tuned Out: Portread y BBC o bobl lesbiaidd a hoywwww.stonewall.org.uk/tunedout

Cynlluniwyd a chynhyrchwyd ganCommediaCardiff HouseCardiff Road CF63 2AW0845 130 1508

Argymhellion

Mae cynrychiolaeth o bobllesbiaidd, hoyw a deurywiol wedigwella ers i Gwyliwch Allangychwyn monitro’r cyfryngau yngNghymru. Serch hynny, rydym yncydnabod bod angen gwneudmwy o waith er mwyn sicrhaubod materion LHD yn cael euportreadu yn gywir yn ycyfryngau Cymraeg a Saesneg.

Rydym wedi datblygu nifer oargymhellion er mwyn annogcynrychiolaeth deg o bobl hoywyng nghyfryngau Cymru.

Mae Gwyliwch Allan yn argymelly dylai newyddiadurwyr agwneuthurwyr rhaglenni:

gymryd camau brys i edrych arsylwadau homoffobaidddifeddwl yn eu hallbwn

ddefnyddio rhestr termaucydraddoldeb Gwyliwch Allanar-lein, sy’n rhestri iaithsarhaus ac yn awgrymutermau gwahanol. www.stonewallcymru.org.uk/language

sicrhau bod ymdriniaeth ofaterion lesbiaidd, hoyw adeurywiol yn osgoi gor-gynnwrf, a deall effaith cynnalystrydebau

ymgynghori gyda StonewallCymru a grwpiau cymunedolLHD lleol er mwyn sicrhau body portread o bobl LHD yncynrychioli Cymru’r unfedganrif ar hugain yn realistig

sicrhau bod cymeriadaulesbiaidd, hoyw a deurywiol yncael eu portreadu yn realistig achywir.

Gall Gwyliwch Allan hefyd ddodo hyd i bobl ‘go iawn’ ar rannewyddiadurwyr, i siarad am euprofiadau personol ar ystod ofaterion LHD. Os hoffech weithiogyda ni, cysylltwch â:[email protected] ffoniwch 029 2023 7744.

www.stonewallcymru.org.uk

ARIANNWYD GAN

Page 7: Gwyliwch Allan

Stonewall Cymru

Cardiff3ydd llawrTransport House1 Heol y GadeirlanCaerdyddCF11 9SBFfôn 029 2023 7744

BangorTy^ Gwydr1 Rhes TrefelyanStryd FawrBangorLL57 1AXFfôn 0845 4569823Fax 07092 333962

[email protected]