11
Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithas Dai Cymdeithas Tai Taf Cyf Rhif cofrestru: L009 Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2012 Llywodraeth Cymru Y Gyfarwyddiaeth Dai - Rheoleiddio

HARA (CY)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Llywodraeth Cymru Y Gyfarwyddiaeth Dai - Rheoleiddio Cymdeithas Tai Taf Cyf Rhif cofrestru: L009 Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2012

Citation preview

Page 1: HARA (CY)

Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithas Dai

Cymdeithas Tai Taf Cyf

Rhif cofrestru: L009

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2012

Llywodraeth Cymru

Y Gyfarwyddiaeth Dai - Rheoleiddio

Page 2: HARA (CY)

© Hawlfraint y Goron 2012WG14186ISBN 978 0 7504 7333 0

Llywodraeth Cymru

Asesiad Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithas Dai

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan Ddeddf Tai 1996 i reoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru mewn perthynas â’u darpariaeth o ran tai ac mewn perthynas â materion yn ymwneud â llywodraethu a rheolaeth ariannol. Diwygiwyd Rhan 1 o Ddeddf 1996 gan Ran 2 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“Y Mesur”) ac mae’n rhoi pwerau rheoleiddio ac ymyrryd ychwanegol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â darpariaeth o ran tai gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r camau gorfodi y gellir eu cymryd yn eu herbyn. Mae Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi’r adroddiad hwn ynghylch yr asesiad rheoleiddiol o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996.

Y dull o reoleiddio ar sail risg a ddefnyddir wrth baratoi’r asesiad rheoleiddiol, a’r nod yw nodi cryfderau a’r meysydd hynny lle mae angen gwella er mwyn bodloni gofynion y “Canlyniadau Cyflawni” (safonau perfformiad). Nodir y safonau hynny yn y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u Cofrestru yng Nghymru, neu’r “fframwaith rheoleiddio” fel y’i gelwir.

Asesiad Llywodraeth Cymru sydd yn yr adroddiad hwn, a’i ddiben yw sicrhau bod y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, ei denantiaid, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill yn cael gwybod sut y mae’n dod yn ei flaen o ran bodloni gofynion y “Canlyniadau Cyflawni” (y safonau perfformiad) ar gyfer:

• Gwasanaethaulandlordiaid• LlywodraethuaRheolaethAriannol

Page 3: HARA (CY)

1

Disgrifiad o Gymdeithas Tai Taf Cyf Sefydlwyd Cymdeithas Tai Taf Cyf (Taf) ym 1975 ac mae’n gymdeithas gymunedol a thraddodiadol sy’n darparu tua 1,200 o gartrefi yn ardal Caerdydd. Mae wedi’i chorffori o dan y Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus ac mae wedi mabwysiadu rheolau elusennol.

Yn ogystal â thai anghenion cyffredinol, mae’r Gymdeithas yn darparu gwasanaethau cymorth i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys amrywiaeth o gymorth arbenigol. Mae hyn yn cynnwys tua 240 o dai â chymorth a mwy na 600 o ddefnyddwyr cymorth sy’n byw mewn llety arall yn Ne-ddwyrain Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i ddatblygu 16 o dai â chymorth a 75 o unedau anghenion cyffredinol. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd yn parhau i ddatblygu rhwng 20 a 40 o unedau anghenion cyffredinol y flwyddyn.

Gweledigaeth Taf yw bod yn Ddarparwr, Partner a Chyflogwr Delfrydol.

Asesiad Cyffredinol

Crynodeb: Gwasanaethau Landlordiaid

Mae Taf yn adeiladu cartrefi newydd o ansawdd da sy’n diwallu anghenion lleol. Mae’n gweithio gydag eraill i atal a lliniaru digartrefedd drwy gymorth sy’n helpu pobl i gadw eu tenantiaethau a thrwy broses osod agored a hygyrch. Mae’n cynnal a chadw cartrefi’n effeithiol.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Taf wedi gwneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau sy’n bwysig i denantiaid, gan gynnwys ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atgyweiriadau ymatebol, ac mae’r rhain bellach yn perfformio’n dda ac yn ennyn lefel uchel o foddhad ymhlith tenantiaid.

Mae’r gymdeithas yn cydnabod bod angen iddi adeiladu ar y gwelliannau hyn i wella’r gwasanaethau a ddarperir ymhellach. Yn benodol mae angen iddi ddadansoddi data ar osod eiddo yn fwy effeithiol i ddangos tegwch ac asesu p’un a all barhau i ailosod cartrefi gwag yn gyflymach.

Page 4: HARA (CY)

2

Crynodeb: Llywodraethu a Rheolaeth AriannolMae Taf yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mhob un o’r gwasanaethau a ddarperir, sy’n arwain at lefel uchel o foddhad ymhlith tenantiaid â gwasanaethau unigol a’r gwasanaeth a ddarperir gan y Gymdeithas yn gyffredinol.

Mae arweinyddiaeth gref wedi helpu i feithrin diwylliant ym mhob rhan o’r Gymdeithas, sy’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a chymunedau lleol.

Mae Taf yn gwerthfawrogi natur amrywiol y cymunedau y mae’n gweithio ynddynt ac mae’n adnabod ei chwsmeriaid yn dda - mae’n defnyddio’r wybodaeth hon i deilwra’r ffordd y mae’n diwallu anghenion unigol. Mae hefyd yn gwerthfawrogi barn ei chwsmeriaid ac yn casglu adborth mewn amrywiol ffyrdd, gan alluogi defnyddwyr gwasanaethau i ddylanwadu ar ei blaenoriaethau fel rhan o’i phroses gynllunio.

Mae Taf mewn sefyllfa ariannol gadarn ac mae ganddi fframwaith rheolaeth ariannol cadarn.

Gall y gymdeithas gyflawni mwy eto drwy alluogi tenantiaid i gyfrannu mwy at y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chraffu ar berfformiad. Mae angen iddi hefyd barhau i ddatblygu ffocws cliriach ar ganlyniadau yn ei threfniadau cynllunio a rheoli perfformiad a deall yn gliriach pa mor dda mae’n darparu gwasanaethau a mentrau mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y cymunedau y mae’n gweithio ynddynt.

Cyswllt Rheoleiddiol yn y Dyfodol

Aseswyd bod angen cyswllt rheoleiddiol lefel isel ar Taf yn y dyfodol. Bydd y cyswllt hwn yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:-

• Datblygu ffocws ar ganlyniadau ym mhob rhan o’r Gymdeithas, er mwyn deall y canlyniadau a ddisgwylir pan gaiff penderfyniadau eu gwneud ac effaith a gwerth am arian unrhyw waith a wneir;

• Gwella atebolrwydd a chyfranogiad tenantiaid/defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chraffu ar berfformiad;

• Dadansoddi’r gwasanaethau a ddarperir yn erbyn data ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, er mwyn sicrhau canlyniadau gwasanaeth teg a helpu i dargedu adnoddau yn y mannau lle gallant gael yr effaith fwyaf; a

• Gweithio gyda thenantiaid i ddeall pa welliannau yr hoffent eu gweld, cynyddu eu lefelau boddhad â gwerth am arian y taliadau gwasanaethau.

Bydd sawl elfen i’r cyswllt rheoleiddiol gan gynnwys cysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, uwch reolwyr, staff gweithredol a’r bwrdd, arsylwi digwyddiadau a mentrau a monitro cynnydd Taf yn erbyn ei chynlluniau gwella.

Page 5: HARA (CY)

3

Gwasanaethau LandlordiaidRhestrir y canlyniadau cyflawni isod gan roi asesiad, ym mhob achos, o’r cryfderau allweddol ac o’r meysydd lle mae angen gwella.

1. Wrth adeiladu ac adnewyddu cartrefi, rydym yn gwneud gwaith o ansawdd da

Mae’r Gymdeithas yn adeiladu ac yn adnewyddu cartrefi i safon dda er mwyn diwallu anghenion lleol a ddiffiniwyd gan yr awdurdod lleol. Mae’n sicrhau bod ei chartrefi newydd a rhai a adnewyddir yn dangos hyfywedd ariannol ac yn rhoi gwerth am arian, a’i bod yn ystyried pob risg berthnasol.

2. Rydym yn gosod cartrefi mewn ffordd deg, dryloyw ac effeithiol

Mae Taf yn gosod ei stoc tai mewn ffordd agored a hygyrch fel rhan o’r gofrestr tai gyffredin leol yng Nghaerdydd. Mae eiddo ar osod yn cyrraedd safon y cytunwyd arni â thenantiaid y Gymdeithas.

Mae Taf yn addasu eiddo i ddiwallu anghenion newidiol tenantiaid ac yn paru eiddo sydd eisoes wedi’i addasu â’r rhai sydd ei angen. Caiff cartrefi eu dyrannu i’r rhai sydd â’r flaenoriaeth fwyaf, gan helpu i liniaru digartrefedd yng Nghaerdydd. Mae’r gymdeithas hefyd yn darparu gwasanaethau sy’n helpu i atal digartrefedd neu’r bygythiad o ddigartrefedd mynych, gan gynnwys cymorth tai a chyngor ar arian, a hynny ar ei phen ei hun ac mewn partneriaeth ag eraill.

Mae Taf yn cydnabod y gallai ddadansoddi data ar osod eiddo’n well er mwyn dangos yn gliriach ei bod yn gosod eiddo’n deg. Mae angen iddi hefyd barhau i anelu at ailosod ei chartrefi gwag yn gyflymach.

3. Rydym yn rheoli ein cartrefi’n effeithiol

Mae Taf yn defnyddio’r math mwyaf diogel o denantiaeth.

Mae’n hynod o lwyddiannus o ran helpu tenantiaid newydd i newid o denantiaethau cychwynnol i denantiaethau sicr llawn, ac mae trefniadau cofrestru ac ymgartrefu ar waith i helpu pobl i ymgartrefu yn eu cartrefi newydd.

Mae gwasanaethau cymorth a llety â chymorth yn greiddiol i wasanaethau Taf, gan ddiwallu amrywiaeth o anghenion a helpu pobl i gynnal eu tenantiaethau a chadw eu hannibyniaeth. Caiff y gwasanaethau hyn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan ddefnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid.

Mae hefyd wedi gwneud gwelliannau i’r ffordd y mae’n rheoli ac yn ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n golygu bod tenantiaid sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn llawer mwy bodlon ar y ffordd y mae achosion o’r fath wedi’u trin.

Page 6: HARA (CY)

4

Mae Taf yn cydnabod bod angen iddi ddeall effaith ei gwaith cymorth yn well. Mae wedi cyfrannu at ddatblygu’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymorth a ariennir drwy grantiau ac mae’n cynnal ‘archwiliad cymdeithasol’ o un o’i phrosiectau tai â chymorth. Mae’n bwriadu ystyried sut y gellir defnyddio’r adnoddau asesu effaith hyn mewn agweddau eraill ar ei gwaith, megis cynhwysiant ariannol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, i wella ei gwybodaeth am berfformiad ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn astudio barn tenantiaid ar werth am arian ei thaliadau gwasanaeth, gan nad oedd cymaint o foddhad yn y maes hwn o’i gymharu â meysydd eraill yn ei harolwg o denantiaid yn 2011.

4. Rydym yn atgyweirio cartrefi ac yn eu cynnal a’u cadw mewn modd sy’n effeithlon, yn gosteffeithiol ac o fewn yr amser a bennwyd

Mae gan Taf gynlluniau ymarferol sydd wedi’u datblygu’n sylweddol a’u costio’n llwyr ar gyfer cynnal a chadw a gwella’i chartrefi gydol eu hoes. Bydd y gymdeithas yn bodloni’r amserlen ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn mis Mawrth 2013.

Mae ei pherfformiad o ran atgyweiriadau ymatebol wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn lefelau boddhad tenantiaid â’r gwasanaeth atgyweirio, gan gynnwys elfennau allweddol fel cyflymdra wrth gwblhau gwaith ac ansawdd gwaith yn gyffredinol.

Dangosodd arolwg Taf yn 2011 fod lefelau uchel o foddhad ymhlith tenantiaid o ran cael gwybod pryd y byddai gweithwyr atgyweirio yn galw a’r gwaith atgyweirio diwethaf a wnaed. Fodd bynnag, dangosodd hefyd fod tenantiaid o’r farn bod gwella’r system apwyntiadau yn flaenoriaeth uchel a bod nifer sylweddol yn teimlo bod yn rhaid iddynt gysylltu eto â’r Gymdeithas yn dilyn eu gwaith atgyweirio diwethaf. Awgryma hyn y gall Taf wneud mwy i gyflawni disgwyliadau tenantiad yn llawn a sicrhau bod mwy o’i gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn gywir y tro cyntaf.

Mae’r Gymdeithas yn gweithio i atgyweirio cartrefi gwag yn gyflymach, gan adeiladu ar waith y mae eisoes wedi’i wneud yn y maes hwn hyd yma.

5. Rydym yn darparu gwasanaethau teg ac effeithlon i berchenogion

Nid yw’r Canlyniad Cyflawni hwn wedi’i gynnwys yn yr asesiad hwn gan mai dim ond nifer fach iawn o berchenogion tai y mae Taf yn darparu gwasanaethau iddynt.

Page 7: HARA (CY)

5

Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol

Llywodraethu

Rhestrir y canlyniadau cyflawni isod gan roi asesiad, ym mhob achos, o’r cryfderau allweddol ac o’r meysydd lle mae angen gwella.

1. Rydym yn rhoi lle canolog yn ein gwaith i bobl sydd am ddefnyddio ein gwasanaethau - gan roi’r dinesydd yn gyntaf

Mae Taf yn dangos ymrwymiad cryf i roi’r gymuned wrth wraidd popeth a wna. Mae’n adnabod ei chwsmeriaid ac mae ganddi ddiwylliant sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r wybodaeth hon i deilwra gwasanaethau yn unol ag anghenion unigol pobl amrywiol yn y gymuned.

Mae’n rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i’w defnyddwyr gwasanaethau gymryd rhan ac mae’n gwerthfawrogi barn ei chwsmeriaid a’i phartneriaid ac yn ei defnyddio i bennu ei blaenoriaethau a gwella ei gwasanaethau. Mae ganddi agwedd gadarnhaol at ddefnyddio’r adborth hwn pan fo pethau’n mynd o chwith.

Mae’n hawdd cysylltu â’r gymdeithas ac mae’n rhoi gwybodaeth dda am drefniadau gwasanaeth i’w thenantiaid a’i defnyddwyr gwasanaethau.

Dengys adborth o arolwg tenantiaid Taf yn 2011 fod lefel uchel o foddhad ymhlith tenantiaid â’r rhan fwyaf o elfennau allweddol gwasanaethau unigol.

Gallai’r Gymdeithas wella canlyniadau ymhellach drwy annog tenantiaid i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chraffu ar berfformiad. Mae wrthi’n adolygu ei gwefan i wella ei chynnwys a’i gwneud yn haws i’w gwe-lywio.

Gallai hefyd gynyddu atebolrwydd drwy weithio gyda thenantiaid sydd â diddordeb mewn monitro perfformiad i ddatblygu gwybodaeth am ganlyniadau o safbwynt defnyddiwr gwasanaeth. Gallai’r Gymdeithas wella hyn hefyd drwy gynnwys mwy o ddata ar dueddiadau a data cymharol, lle bo data o’r fath ar gael, yn yr adroddiadau perfformiad cyhoeddedig y mae’n eu rhoi i denantiaid.

2. Rydym yn byw yn unol â gwerthoedd y sector cyhoeddus, drwy gynnal ein busnes gyda gonestrwydd ac uniondeb, gan ddangos, drwy ein hymddygiad, ein bod yn llywodraethu’n dda

Mae Taf yn rhannu’r wybodaeth y mae’n ei pharatoi yn agored.

Mae ganddi ymrwymiad cryf i’r gymuned yn gyffredinol ac mae’n cynnal amrywiaeth o fentrau i ymateb i anghenion amrywiol cymunedau a gwella eu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae lefelau boddhad yn parhau i fod yn uchel pan gânt eu dadansoddi ar sail nodweddion amrywiaeth gwahanol, sy’n awgrymu bod pobl o bob rhan o’r gymuned yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau y maent yn eu cael.

Page 8: HARA (CY)

6

Mae ganddi Gynllun Iaith cymeradwy i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo’r tenant neu’r defnyddiwr gwasanaeth yn dewis hynny.

Gallai’r Gymdeithas ddeall ei heffaith ar y gymuned yn well drwy ddadansoddi’r gwasanaethau a’r mentrau a ddarperir yn ebryn data ar gydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n gysylltiedig â phroffil y cymunedau y mae’n gweithio ynddynt. Byddai hyn yn ei helpu i dargedu adnoddau pe bai unrhyw anghydbwysedd yn dod i’r amlwg.

3. Rydym yn sicrhau bod ein diben yn glir ac rydym yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd gennym - gan wybod pwy sy’n gwneud beth a pham

Mae Taf yn dangos arweinyddiaeth gadarn sy’n llywio diwylliant sy’n canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a chymunedau lleol, gan adlewyrchu ei diben.

Mae’r gymdeithas yn cynyddu ei gallu a’i hadnoddau drwy fuddsoddi yn sgiliau staff a’r ffordd y caiff staff eu cynorthwyo i ddeall eu rôl o ran darparu gwasanaethau effeithiol ac ymatebol, sy’n cefnogi gweledigaeth y Gymdeithas.

Mae fframwaith cynllunio a rheoli perfformiad Taf yn cyd-fynd â’i gweledigaeth ac mae partneriaid o’r farn ei bod yn sefydliad arloesol sy’n dod o hyd i atebion i broblemau lleol.

Mae’r gymdeithas wedi gwella gwerth am arian drwy gaffael yn effeithlon a buddsoddi yn y meysydd pwysicaf i denantiaid.

Fodd bynnag, mae angen iddi wella ei dealltwriaeth o’r canlyniadau yr hoffai eu gweld wrth wneud penderfyniadau ac wrth fesur effaith a gwerth am arian ei gwaith yn gyffredinol. Mae wrthi’n gweithio i ddatblygu fframwaith cliriach yn seiliedig ar ganlyniadau i fesur ei pherfformiad, fel rhan o’i threfniadau cynllunio busnes.

Gellid cynyddu gallu ac adnoddau Taf ymhellach gan nad yw wedi defnyddio ei systemau TG i’r eithaf eto i’w helpu i ddadansoddi ei data ar ganlyniadau.

4. Rydym yn ymgysylltu ag eraill i wella ac i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a’r gymuned

Mae Taf yn gweithio’n dda gyda’i phartneriaid. Mae’n cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu rolau strategol o ran tai ac mae’n gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid eraill, gan gynnwys cymdeithasau eraill, asiantaethau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.

Mae hyn wedi cynyddu ei gallu i gyflawni canlyniadau o ran darparu cartrefi newydd, cefnogi pobl sy’n agored i niwed a gwella lles economaidd a chymdeithasol pobl leol.

Mae partneriaid yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae Taf yn gweithredu a’i chydberthnasau cadarnhaol â hwy, fel y cadarnhawyd yn arolwg rhanddeiliaid Taf ei hun (2010) ac adborth a roddwyd i ni.

Page 9: HARA (CY)

7

Rheolaeth Ariannol

5. Rydym yn fusnes ariannol cadarn a hyfyw

Mae Taf mewn sefyllfa ariannol gref ac mae ganddi fframwaith rheolaeth ariannol cadarn. Mae’n nodi, yn arfarnu ac yn rheoli risgiau mewn ffordd ddoeth. Mae ei gweithgareddau yn dangos safonau da o ran gonestrwydd ariannol.

Cyhoeddwyd dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol ym mis Mawrth 2012. Y dyfarniad oedd: “Llwyddo - Mae gan y Gymdeithas ddigon o adnoddau i fodloni ymrwymiadau busnes ac ariannol ar hyn o bryd a’r rhai y rhagwelir y bydd ganddi yn y dyfodol”.

Page 10: HARA (CY)

8

Ffynonellau gwybodaeth a gweithgarwch rheoleiddiol Fel arfer, mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn darparu’r wybodaeth a ganlyn:

• Cyfrifon blynyddol archwiliedig, gan gynnwys y datganiad sicrwydd ynghylch rheolaethau mewnol;

• Llythyr rheoli’r archwilwyr mewnol; a• Rhagolygon ariannol.

Yn ogystal â’r uchod, cymerwyd y camau penodol a ganlyn rhwng mis Rhagfyr 2009 a mis Ionawr 2012:

• Gweithgarwch rheoleiddiol sy’n seiliedig ar reoli perthynas, gan gynnwys cyswllt gyda thenantiaid a defnyddwyr y gwasanaethau, uwch staff, staff gweithredol, aelodau’r bwrdd a rhanddeiliaid allweddol

• Adolygiad o’r hunanasesiad ac o’r dystiolaeth “galed” a “meddal” atodol sy’n gysylltiedig â’r canlyniadau cyflawni.

Sail yr asesiad rheoleiddiol

Mae’r asesiad rheoleiddiol hwn yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, ar yr wybodaeth yr ydym wedi’i chasglu amdano ac am y modd y mae’n rheoli ei wasanaethau, ac ar ein profiad ohono. Mae’n seiliedig hefyd ar yr wybodaeth sydd gennym o’r sector Landlordiaid Cymdeithasol yn ei gyfanrwydd.

Wrth baratoi’r adroddiad hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu ar ei ran. Cyfarwyddwyr y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod yr wybodaeth honno yn gyflawn ac yn gywir.

Asesiad rheoleiddiol ar gyfer y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yw’r adroddiad hwn. Ni ddylai unrhyw unigolyn na sefydliad arall ddibynnu arno ac ni ddylid dibynnu arno at unrhyw ddiben arall. Mae unrhyw unigolion neu sefydliadau eraill yn gyfrifol am gynnal eu hymchwiliadau neu eu hymholiadau eu hunain.

Page 11: HARA (CY)

9

Esboniad o Lefelau Uchel, Canolig neu Isel o Gyswllt Rheoleiddiol

Lefel uchel o gyswllt rheoleiddiol

Bydd lefel uchel o gyswllt â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os yw’r asesiad yn dangos bod angen i ni feithrin perthynas ddwys neu barhaus sydd wedi’i theilwra’n arbennig. Mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu y bydd cysylltiad rhyngom a’r sefydliad am gyfnod mwy estynedig er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o’r meysydd lle mae risg ar hyn o bryd, o’r meysydd lle gallai risg godi yn y dyfodol ac o’r modd y mae’r sefydliad yn mynd ati i reoli’r risgiau hynny. Mae’n bosibl y bydd ein cynllun cyswllt yn cynnwys amrywiaeth ehangach o weithgareddau rheoleiddio e.e. monitro cynnydd; mynd i gyfarfodydd y Bwrdd, cyfarfodydd yr uwch-reolwyr a chyfarfodydd gyda thenantiaid/preswylwyr. Dichon y bydd angen lefel uchel o gyswllt rheoleiddiol hefyd os oes risgiau penodol yn debygol o ddod i’r amlwg, neu os oes risgiau o’r fath wedi dod i’r amlwg eisoes, ac os oes angen i ni gynorthwyo sefydliad i wneud yn well o ran bodloni gofynion y canlyniadau cyflawni.

Lefel ganolig o gyswllt rheoleiddiol

Bydd lefel ganolig o gyswllt rheoleiddiol â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os gwelir, ar ôl cynnal yr asesiad, bod angen mwy o sicrwydd arnom. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, neu efallai y bydd angen i ni feithrin cysylltiadau agosach ag uwch-reolwyr y sefydliad a/neu ei gorff llywodraethu. Dichon hefyd y bydd angen i ni fonitro cynnydd yn unol â’r canlyniadau cyflawni a/neu’r cynlluniau gwella.

Lefel isel o gyswllt rheoleiddiol

Bydd lefel isel o gyswllt rheoleiddio â’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig os nad yw problemau’n cael fawr o effaith ac os yw hi’n debygol mai ychydig yn unig o broblemau a ddaw i’r amlwg. Mewn achosion o’r fath, cyswllt cyfyngedig fydd rhyngom a’r sefydliad, oni bai bod materion eraill yn codi. O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwella, ac yn monitro’r meysydd hynny, ond mewn ffyrdd llai dwys nag ar gyfer sefydliadau lle mae angen lefel ganolig neu uchel o gyswllt rheoleiddiol.