15
www.llgc.org.uk Hydref 2017 Ffilmiau Perfformiadau byw Sioeau Cyflwyniadau Teithiau

Hydref 2017 - National Library of Wales...Dydd Mercher 25 Hydref 1.15pm Pontarddulais – a Cradle of Creativity Donald Treharne Golwg ar fywyd a gwaith yr artist Elizabeth Vera Bassett

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • www.llgc.org.uk

    Hydref 2017Ffilmiau Perfformiadau byw Sioeau Cyflwyniadau Teithiau

  • 2 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 3

    CROESO CYNNWYS CIPOLWG

    Mae 2017 yn ‘Flwyddyn Chwedlau’ – dewch i ddarganfod chwedlau Cymru #GwladGwlad

    Cipolwg 3

    Arddangosfeydd 4

    Caffi Pen Dinas 8

    Siop 8

    Darlithoedd a Chyflwyniadau 9

    Cerddoriaeth 20

    Gweithgaredd Teulu 21

    Adnoddau 22

    Gwybodaeth i Ymwelwyr 24

    Cadwch mewn Cysylltiad 26

    Tocynnau: Swyddfa Docynnau 01970 632 548 digwyddiadau.llyfrgell.cymru Gostyngiad i grwpiau o 5 neu fwy

    Digwyddiadau Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg

    Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg

    Digwyddiad dwyieithog

    Darperir cyfieithu ar y pryd

    C

    E

    B

    T

    Medi 06 Williams Pantycelyn trwy Lygad ei Lythyrau 1.15pm16 Strata Florida: Sacred Landscape and National Identity 2.00pm20 Drysau Agored 2017: Yn y Ffrâm 10.00am – 4.00pm28 Perfformiad: Y Gadair Wag 7.30pm

    Hydref 04 Beth Sy’n Newydd? Derbynion Diweddar 1.15pm06 Gig: Ragsy 7.30pm11 The Arthurian Place Names of Wales 1.15pm21 Y Gwyll – Tirweddau Ceredigion 11.00am + 2.00pm25 Pontarddulais – a Cradle of Creativity 1.15pm

    Tachwedd01 The Sounds of Sinai: A Sonic Intervention in the Book of Exodus 1.15pm02 Gweithdy print leino (Gweithgaredd teulu) 9.30am – 12.00pm 03 Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol: Gender, Power and Knowledge in the Welsh Academy 5.30pm04 LENS 2017: Dathlu Ffotograffiaeth 10.00am – 5.00pm08 Rewriting The Mabinogi 1.15pm15 Diwrnod Archwilio Eich Archifau 10.00am – 3.30pm Sgwrs Oriel: Ar Drywydd y Brenin Arthur 11.15am Locating the Legends: Archaeological Tales from the Royal Commission’s Archives. 1.15pm Taith drwy’r Llyfrgell 2.15pm 18 Henry Vaughan – a poet of Breconshire 2.00pm22 Place and Myth in Poetry 1.15pm29 Cysgodion y Paith 1.15pm

    Rhagfyr 06 Bewnans Ke: A Cornish Play on the Life of St Ke and Arthur 1.15pm Siopa Dolig + Ffair Grefftau 12.00pm – 7.30pm

    Ionawr10 Gwyddonydd Fictorianaidd: William Robert Grove 1.00pmRhif Elusen Gofrestredig 525775

  • Arthur a Chwedloniaeth CymruOrielau Hengwrt a Gregynog, tan 16.12.17 Y mae yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ddweud stori. Mae’r Mabinogi, chwedlau gwerin a mythau a hanesion lleol wedi bod yn rhan o’n hetifeddiaeth ddiwylliannol o gyfnod cynnar iawn ac yn parhau felly hyd heddiw.

    Yn ein harddangosfa, Arthur a Chwedloniaeth Cymru, byddwn yn cwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar ein chwedloniaeth, ac yn cyflwyno eu storïau ar dudalennau llawysgrifau, ar gynfasau gweithiau celf a thrwy ein casgliad sgrin a sain helaeth. #GwladGwladDelwedd: Branwen Ivor Davies

    ORIEL

    4 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 5

    Arddangosfeydd Dewch i fwynhau casgliadau hynod y Llyfrgell Genedlaethol sy’n cael eu harddangos yn ein horielau. Os mai dyma’ch ymweliad cyntaf neu os ydych wedi ymweld o’r blaen, mae’r croeso wastad yn gynnes. Mae ein holl arddangosfeydd am ddim ac rydym yn croesawu teuluoedd. I ychwanegu at eich ymweliad beth am alw yn ein siop am brofiad siopa unigryw, a mwynhau golygfeydd arbennig Bae Ceredigion wrth ymlacio yng Nghaffi Pen Dinas?

  • ORIEL Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    6 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 7

    ORIEL Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    Beth Sy’n Newydd? Derbynion Diweddar Anecs Gregynog, 16.09.17 – 16.12.17Cyfle i weld rhai o’r trysorau diweddaraf i gyrraedd casgliad y Llyfrgell.Delwedd: Dylan Thomas Philippa Jacobs

    Arwyr!Uwch Gyntedd, tan Fawrth 2018 Cyfle i ddod wyneb yn wyneb ag arwyr Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol.#GwladGwladDelwedd: Together Stronger Owain Fôn Williams

    Clawr i Glawr Byd y Llyfr, Llawr Gwaelod, tan 03.02.18Byddwn yn olrhain hanes y llyfr ar ei daith o’r Aifft i’r e-lyfr, gan edrych ar fathau o lyfrau, y broses o greu llyfr, a llyfrau fel darnau o gelf ynddynt eu hunain. Delwedd: Old King Cole, the smallest book in the world

    Cofiwch weld… Cyfle i weld rhai o’n trysorau cenedlaethol – Llyfr Du Caerfyrddin: y llawysgrif hynaf i oroesi yn yr iaith Gymraeg. Cymru yw gwlad y gân, a dyma gyfle i weld ein hanthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau, fâs yr Hafod, a llawer iawn mwy!Mynediad am ddim Delwedd: Hafod Vase

  • CAFFI PEN DINAS LIBRARY SHOP

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    8 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 9

    DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    Caffi Pen DinasMae Caffi Pen Dinas yn ymfalchïo mewn darparu bwyd o ansawdd uchel sy’n cael ei baratoi yma gyda chynnyrch Cymreig lleol.Dewch i fwynhau yr amrywiaeth o frechdanau, paninis, tatws trwy’u crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd. Mae diodydd poeth ac oer ar gael trwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godidog?Lleolir Caffi Pen Dinas mewn man cyfleus yn ymyl y brif fynedfa, a darperir mynediad rhwydd a chyfleusterau i deuluoedd. Rydym yn agored o 9.00am hyd 5.00pm ddydd Llun hyd ddydd Gwener, ac o 10.00am hyd 4.00pm ar ddydd Sadwrn.

    Siop Mae siop y Llyfrgell yn cynnig eitemau unigryw, gwaith wedi ei wneud â llaw a chrefftau a rhoddion anarferol a ysbrydolir gan gasgliadau’r Llyfrgell.Rydym yn gwerthu nwyddau hardd i’r cartref, gemwaith o ansawdd uchel a wneir â llaw yng Nghymru, teganau, llyfrau, cryno ddisgiau, a llawer mwy...Rydym ar agor o 9.00am hyd 5.00pm, ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn.Siop Ar-lein: siop.llgc.org.uk

    Dydd Mercher 6 Medi1.15pm

    Williams Pantycelyn trwy Lygad ei Lythyrau Yr Athro E. Wyn JamesYn y sgwrs hon, cawn olwg trwy gyfrwng ei lythyrau ar fywyd a gwaith y ‘Pêr Ganiedydd’, un o gewri’r diwylliant Cymraeg ac awdur rhyngwladol ei safle a’i arwyddocâd – a hynny ym mlwyddyn dathlu 300 mlwyddiant ei eni.Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: William Williams, Pantycelyn

    C T

    Dydd Sadwrn 16 Medi2.00pm

    Digwyddiad Cyfeillion y Llyfrgell: Strata Florida: Sacred Landscape and National Identity Yr Athro David AustinYn dilyn gwaith ymchwil diweddar, mae’r Abaty wedi datgelu union raddau’r cynllun gwreiddiol yn dilyn ailsefydliad yr Arglwydd Rhys ym 1184. Roedd ar raddfa fawreddog Abaty Sistersaidd, ac yn cynnwys nodweddion sy’n unigryw i abaty o’r fath. Mae’r rhain yn ymestyn ystyr y lle yn ôl mewn amser ac wedi gadael etifeddiaeth gref ar gyfer y dyfodol. Bydd y cyflwyniad yn gyfle i arddangos y dystiolaeth gyfredol ynghylch y ddamcaniaeth mai bwriad yr Arglwydd Rhys a’r mynachod oedd creu sefydliad ‘cenedlaethol’ fel un elfen o uchelgais ehangach i Gymru.Mynediad trwy docyn £4.00. Am ddim i Gyfeillion y Llyfrgell Delwedd: Yr Athro David Austin

    EI gyd-fynd â’r cyflwyniad, fe fydd deunydd gwreiddiol o waith Williams Pantycelyn

    yn cael ei arddangos yn Ystafell Summers.

    A wyddech chi fod Cwpan Nanteos yn cael ei arddangos

    yn y Llyfrgell?

  • DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tickets 01970 632 548 | events.library.wales

    10 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 11

    DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    Dydd Mercher 20 Medi10.00am – 5.00pm

    Drysau Agored 2017: Yn y FfrâmMynediad arbennig i gasgliad celf y Llyfrgell ac ardaloedd archif y Comisiwn Brenhinol. Bydd deunydd gwreiddiol o’r archif a gwaith celf y ddau sefydliad ar gael i’w gweld. Dyma gyfle i weld y cyfleusterau storio ar gyfer gwaith gan Syr Kyffin Williams, a’r artist tirluniau diwydiannol, Falcon Hildred, ynghyd â’r pensaer Celf a Chrefft, Herbert North.

    Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly mae archebu tocyn yn hanfodol.

    Bydd pob taith yn para tua 75 munud ac yn cyfuno ystorfa casgliad Syr Kyffin Williams ynghyd ag ardaloedd storio’r Comisiwn Brenhinol.

    Cynhelir teithiau yn y Gymraeg am 10.00am + 2.00pm

    Cynhelir teithiau Saesneg am 11.15am + 3.45pm

    Mynediad am ddim trwy docyn

    Delwedd: Hunan Bortread - Kyffin Wiiliams 1968

    Delwedd: Tŷ Uncorn, Falcon Hildred 1810 Delwedd: Farmer on the Mountain, Kyffin Williams 1984-1990

    Dydd Iau 28 Medi 7.30pm

    Y Gadair WagBu farw Hedd Wyn yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf ganrif union yn ôl, a daeth yn symbol yng Nghymru o golledion enbyd y rhyfel. Gadawyd cadair wag ar nifer o aelwydydd ledled Ewrop yn sgil y Rhyfel Mawr, a dyma sioe farddoniaeth gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, sy’n edrych ar hanes Bardd y Gadair Ddu o’r newydd. Bydd y cynhyrchiad arbrofol hwn, wedi ei gyfarwyddo gan Ian Rowlands, yn cyfuno ffilm a barddoniaeth i archwilio natur colled, ffiniau a hunaniaeth.Mae Y Gadair Wag yn rhan o brosiect Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss a gaiff ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, a ariennir gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914–1918, ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Fflandrys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol EryriMynediad trwy docyn £9.00 Bar ar gaelDelwedd: Ifor ap Glyn Rhys Lloyd

    C

    A wyddech chi fod awdl fuddugol ‘Yr Arwr’, yn llaw Hedd Wyn, yn

    rhan o gasgliad y Llyfrgell?

  • DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    12 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Dydd Mercher 11 Hydref 1.15pm

    The Arthurian Place Names of Wales Scott Lloyd Mae enwau lleoedd sydd â chysylltiad â’r Brenin Arthur i’w gweld ledled Cymru ac fe fydd y cyflwyniad hwn yn archwilio tarddiad yr enwau hyn, eu datblygiad a’u cysylltiadau, boed wir neu gau, â chwedl ehangach Arthur. Scott Lloyd yw awdur The Arthurian Place Names of Wales a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Cymru.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Clawr y gyfrol

    E

    E

    Dydd Mercher 25 Hydref 1.15pm

    Pontarddulais – a Cradle of Creativity Donald Treharne Golwg ar fywyd a gwaith yr artist Elizabeth Vera Bassett (1912–1997) a’r cerflunydd Ezzelina Gwenhwyfar Jones (1921–2012), y ddwy yn ystod eu hoes wedi sicrhau llwyfan rhyngwladol ar gyfer eu creadigaethau artistig er mai prin oedd y sylw a roddwyd iddynt yng Nghymru. Nod y cyflwyniad hwn yw dangos y mwynhad mawr a’r amrywiaeth yn eu gwaith.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: The Cardinal - Ezzelina Gwenhwyfar Jones

    A wyddech chi fod y Llyfrgell wedi derbyn 56,366 o lyfrau drwy

    adnau cyfreithiol llynedd?

    Dydd Mercher 4 Hydref1.15pm

    Beth Sy’n Newydd? Derbynion DiweddarStaff y Llyfrgell sy’n datgelu rhai o’r trysorau diweddaraf i gyrraedd ein casgliadau. Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Tirlun, Gwilym Prichard Claudia Williams [c. 1994-1995]

    B

    Dydd Sadwrn 21 Hydref11.00am + 2.00pm

    Y Gwyll - Tirweddau CeredigionDavid Wilson ffotograffydd, Ed Talfan a Ed Thomas crewyr a uwch-gynhyrchwyr yn siarad am y gyfres deledu boblogaidd a’u llyfr newydd am y tirwedd a’u hysbrydolodd i osod y lleoliad yng Ngheredigion. Bydd y drafodaeth yn cynnwys dangosiad o’r gyfres a’r cyfle i brynu copïau wedi’i llofnodi. Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Clawr y gyfrol

    B

  • DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 15

    DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    14 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Dydd Mercher 1 Tachwedd1.15pm

    The Sounds of Sinai: A Sonic Intervention in the Book of Exodus Yr Athro John Harvey Yn 2016, cyfansoddodd Yr Athro John Harvey ‘Image and Inscription’ – gwaith celf sain, a ryddhawyd ar Gryno Ddisg wedi hynny gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Mae ei ymchwil yn archwilio trawsnewidiad ac uniad y geiriau o fewn fframwaith astudiaethau Beiblaidd, peintio Beiblaidd, astudiaethau tirlun, cerddoriaeth ac addasiadau a sgoriau ffilm sy’n portreadu stori Moses a’r Israeliaid.Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Yr Athro John Harvey

    EE

    Dydd Gwener 3 Tachwedd 5.30pm

    Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig: Gender, Power and Knowledge in the Welsh Academy Yr Athro Teresa Rees DBE FAcSS FLSW Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dyst i’r wybodaeth a’r syniadau a gasglwyd gan ysgolheigion, awduron creadigol ac artistiaid a gynhyrchwyd dros flynyddoedd lawer. Ond pwy sy’n llunio’r wybodaeth sy’n werthfawr i ni? Pwy sy’n penderfynu ynghylch yr hyn yr ydyn ni’n ei bennu’n ‘rhagorol’, ac ar ba sail? Archwilia’r ddarlith hon wrywdod a benyweidd-dra yn y cysyniad o ‘ragoriaeth’ yn ein gweithgareddau deallusol. I ba raddau y mae rhyw yn cael sylw teilwng yn natblygiad biowyddoniaeth a meddygaeth, wrth ddylunio mewn peirianneg ac wrth gynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwyddoniaeth a gwyddonwyr i sicrhau bod Cymru’n wlad ddoeth sy’n seiliedig ar economi gwybodaeth, dyma’r union amser i edrych ar ryw, pŵer a gwybodaeth yn yr Academi Gymreig.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Yr Athro Teresa Rees

    E

    Dydd Mercher 8 Tachwedd1.15pm

    Rewriting The Mabinogi Yr Athro Matthew Francis Mae’r Mabinogi wedi swyno darllenwyr ar draws y byd gyda’i straeon am y rhyfel a lledrith, antur a rhamant. Bydd Yr Athro Matthew Francis o Brifysgol Aberystwyth yn darllen darnau o’i fersiwn Faber newydd, ac yn trafod yr heriau a wynebodd wrth drawsosod y clasur rhyddiaith ganoloesol hon i mewn i farddoniaeth Saesneg gyfoes. Mynediad am ddim trwy docyn #GwladGwlad Delwedd: Yr Athro Mathew Francis

    A wyddech chi fod gan y Llyfrgell dros 950,000

    o ffotograffau yn ei chasgliad?

    Dydd Sadwrn 4 Tachwedd10.00am – 5.00pm

    LENS 2017: Dathlu Ffotograffiaeth Diwrnod llawn cyflwyniadau a sgyrsiau a fydd yn cynnwys siaradwyr nodedig yn y maes. Siaradwyr yn cynnwys Sebastian Bruno, Richard Jones, Christopher Webster van Tonder, Gerallt Llewelyn, Bernard Mitchell a William Troughton.Mynediad trwy docyn £10.00 – yn cynnwys paned wrth gofrestru (gostyngiad i grwpiau o 5 neu fwy). Darperir cinio yng Nghaffi Pen Dinas am bris rhesymol.Delwedd: Roy & John The Ascot Gents Bruce Cardwell

    B

  • HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 17

    DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    16 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Dydd Mercher 15 Tachwedd 10.00am – 3.30pm

    Diwrnod Archwilio Eich ArchifauDiwrnod llawn o ddigwyddiadau sy’n dathlu ein harchifau a’n casgliadau

    2.15pm

    Taith: Ymunwch gyda ni ar gyfer ein taith dywys tu ôl i lenni’r Llyfrgell* *Codir tâl am y daith dywys, gweler tudalen 24 am fanylion pellach.

    10.00am

    Sgwrs Oriel: Ar Drywydd y Brenin Arthur Dr Maredudd ap HuwTaith o Gymru, trwy Loegr i weddill cyfandir Ewrop, a hynny yng nghwmni curadur ein harddangosfa Arthuraidd. Beth yw’r cyswllt rhwng Brenin Ynys Prydain a Brenhines y Tylwyth Teg? Sut y trodd gwrthwynebydd i fod yn gyfaill gwarcheidiol? Cyfle i ddysgu sut y bu i Arthur gyrraedd yr entrychion fel un o’r enwocaf o frenhinoedd y byd. Cynhelir sgwrs oriel yn Saesneg am 11.15am Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: King Arthur, 1634

    E

    1.15pm

    Locating the Legends: Archaeological Tales from the Royal Commission’s Archives Scott Lloyd o’r Comisiwn Brenhinol sy’n trafod chwedlau ac archeoleg, gan dynnu ar enghreifftiau o dros ganrif o archifo gan y Comisiwn Brenhinol.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Pentre Ifan, Nanhyfer Hawlfraint y Goron

    E

    Dydd Mercher 22 Tachwedd1.15pm

    Place and Myth in Poetry Hilary Davies Hilary Davies sy’n sôn am bwysigrwydd lle ar gyfer ei gwaith ac yn darllen ohono i ddangos sut mae lle wedi llunio siâp ei barddoniaeth.Mynediad am ddim trwy docyn#GwladGwlad Delwedd: Hilary Davies

    E

    A wyddech chi fod y cyfeiriad cyntaf at Arthur

    i’w ganfod yn Llyfr Aneirin, a gedwir

    yn y Llyfrgell?

    Dydd Sadwrn 18 Tachwedd2.00pm

    Digwyddiad Cyfeillion y Llyfrgell: Henry Vaughan– a poet of Breconshire Dr Elizabeth SiberryBydd Elizabeth Siberry, cyd-olygydd Henry Vaughan and the Usk Valley a gyhoeddwyd yn 2016, yn siarad am fywyd a gwaith y bardd o’r ail ganrif ar bymtheg, a aned yn Nyffryn Wysg ac a dreuliodd ran fwyaf ei fywyd yno cyn marw yno. Roedd yn cael ei adnabod fel Alarch Wysg, ac erbyn hyn mae ei fedd yn Eglwys Llansantffraid yn gyrchfan i bererindodau llenyddol. Ni chofiwyd yn dda amdano yn ei sir ei hun nac yng Nghymru ar bob adeg, ond fe fydd Elizabeth yn trafod yr enw a oedd ganddo’n ddiweddarach, gan dynnu ar ffynonellau o gasgliad helaeth y Llyfrgell Genedlaethol.Mynediad trwy docyn £4.00, Am ddim i Gyfeillion y LlyfrgellDelwedd: Olor Iscanus

    E

  • HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 19

    DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    18 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Dydd Mercher 6 Rhagfyr12.00pm – 7.30pm

    Christmas ShoppingDyma gyfle i chi chwilio am yr anrheg berffaith i’ch teulu a’ch cyfeillion yn Siop a Ffair Grefftau’r Llyfrgell.Bydd arlwy’r dydd yn cynnwys Cinio Nadolig yng Nghaffi Pen Dinas (12.00 – 2.00pm), cyflwyniad yn y Drwm: Bewnans Ke*,Taith o’r Llyfrgell*,Ymweliad gan Siôn Corn, Ffair Grefftau (o 4.30pm ymlaen) ac adloniant.Edrychwch allan am fanylion llawn*Bydd angen trefnu tocyn ymlaen llaw. Am fanylion pellach gweler tudalennau19 + 24

    Sylwer! Bydd cyflwyniadau awr

    ginio’r Llyfrgell o fis Ionawr ymlaen yn cael

    eu cynnal am 1.00pm

    Dydd Mercher 6 Rhagfyr1.15pm

    Bewnans Ke: A Cornish Play on the Life of St Ke and Arthur Graham Thomas I fynd law yn llaw â Blwyddyn Chwedlau 2017 a’n harddangosfa gyfredol ar Arthur a Chwedloniaeth Cymru, cyflwyniad am lawysgrif Ganoloesol Gernyweg.Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Bewnans Ke (NLW MS 23849D, f.2r)

    E

    Dydd Mercher 10 Ionawr 1.00pm

    Gwyddonydd Fictorianaidd: William Robert Grove Yr Athro Iwan Morus Cyflwyniad gan ei gofiannydd yn gosod gyrfa a chyfraniadau Grove yn eu cyd-destun, gan roi sylw arbennig i rôl diwylliant Cymreig yn ffurfio ei ymagwedd wyddonol.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: William Robert Grove

    C T

    Dydd Mercher 29 Tachwedd1.15pm

    Cysgodion y Paith Cefyn Burgess Cynllunydd tecstilau mwyaf blaenllaw Cymru sy’n trafod ei waith, ei greadigrwydd a’i ysbrydoliaeth, yn dilyn ei ymweliad diweddar â Phatagonia.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Tai Michael D. Jones Cefyn Burgess C

  • CERDDORIAETH

    HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 21

    GWEITHGAREDD TEULU Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    Dydd Gwener 6 Hydref 7.30pm

    Gig: Ragsy

    Y canwr a’r cyfansoddwr o Aberdâr a seren y gyfres deledu boblogaidd The Voice – Ragsy, sy’n rhoi ei berfformiad cyntaf yn Aberystwyth

    “Mae yna lawer o gantorion gwych yng Nghymru, ac mae e’n un ohonynt.” Syr Tom Jones

    Mynediad trwy docyn £7.00 Bar ar gael. Cynigir gostyngiad i grwpiau o 5 neu fwyE

    Dydd Iau 2 Tachwedd9.30am – 12.00pm

    Gweithdy print leino Elin Vaughan CrowleySesiwn greadigol i’r teulu oll ei mwynhau dros gyfnod hanner tymor yr Hydref, gyda chyfle i greu print leino gyda’r artist o Ddyffryn Dyfi, Elin Vaughan Crowley. Sesiwn yn cynnwys taith fer o amgylch y Llyfrgell fydd yn gyfle i ysbrydoli ac annog eich creadigrwydd, cyn mynd ati i greu darnau celf unigryw i chi eu cadw am byth! Croeso i deuluoedd neu unigolion (rhaid i unigolion fod dros 12 oed os nad oes oedolyn yn bresennol). Nifer cyfyngedig o lefydd, felly y cyntaf i’r felin…Mynediad trwy docyn £12.00 Delwedd: Elin Vaughan Crowley

    B

  • ADNODDAU Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 23

    ADNODDAU Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    22 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Lleoedd CymruMae gwefan Lleoedd Cymru yn caniatau i chi chwilio a darganfod eitemau neu wybodaeth berthnasol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ryngwyneb daearyddol.Mae ar hyn o bryd yn canoli ar haenen fapio a grewyd o fapiau degwm Cymru er mwyn creu map cyflawn o Gymru ar gyfer y cyfnod o gwmpas 1840.

    lleoedd.llyfrgell.cymru

    Dros 1,220 mapiau degwm wedi eu digidoDros 1,837,350 mynegai cofnod

    Papurau Newydd Cymru Ar-leinMae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd ar-lein di-dâl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell.Ar hyn o bryd mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad at dros 1,100,000 o dudalennau allan o dros 120 o gyhoeddiadau papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910.

    papuraunewydd.llyfrgell.cymru

    Dros 15,000,000 o erthyglauDros 124 o deitlauDros 1,100,000 o dudalennau

    Cylchgronau CymruMae Cylchgronau Cymru yn darparu mynediad at gylchgronau’n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2006. Mae’r teitlau’n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.Mae’r adnodd yn dwyn ynghyd gylchgronau a ddigidwyd fel rhan o brosiectau a ariannwyd gan JISC, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

    cylchgronau.llyfrgell.cymru

    Dros 450 o deitlauDros 1,200,000 o dudalennau

    Newydd i Hydref

  • GWYBODAETH I YMWELWYR

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    24 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017 HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 25

    GWYBODAETH I YMWELWYR

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    GWASANAETH LLETYGARWCH Os ydych yn chwilio am leoliad godidog ac unigryw ar gyfer eich seremoni briodas, cynhadledd neu ddigwyddiad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig nifer o ystafelloedd i’w hurio, chymorth technegol a gwasanaeth arlwyo i hyd at 100 o bobl. Cysylltwch â’r Swyddog Lletygarwch ar [email protected] neu 01970 632 801 i drafod eich anghenion ymhellach.Delwedd: Y Drwm

    Dylai pobl sy’n ymweld â digwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir yn y Llyfrgell fod yn ymwybodol y gallai ffotograffwyr y Llyfrgell fod yno’n tynnu lluniau a fideos. Efallai y bydd y Llyfrgell yn dymuno defnyddio’r lluniau hyn mewn deunydd hyrwyddo a marchnata. Os oes gennych unrhyw wrthwynebiad i’r fath ddefnydd o lun y gallech fod ynddo, rhowch wybod i aelod o staff y Llyfrgell.Mae’r Llyfrgell yn cadw’r hawl i newid amserau a dyddiadau unrhyw ddigwyddiad neu arddangosfa. Mae’r manylion a geir yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.Os bydd digwyddiad yn cael ei ohirio, gwneir pob ymdrech i hysbysu deiliaid y tocynnau.

    TEITHIOMae maes parcio cyfleus ger y Llyfrgell neu gallwch deithio ar fws 03 sy’n dilyn taith gylch rhwng tref Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

    YSTAFELLOEDD DARLLEN • Hanes Lleol • Hanes y Teulu • Ymchwil Beth bynnag fo’ch diddordebau, dyma’r lle delfrydol i gael mynediad at gasgliadau eang y Llyfrgell. Dewch i ddefnyddio ein dwy ystafell ddarllen groesawgar a deniadol a gwneud y gorau o’n holl adnoddau, gyda chymorth staff profiadol a chyfeillgar. Delwedd: Ystafell Ddarllen y De

    YMWELDMae teithiau tywys o amgylch y Llyfrgell ar gael bob dydd Llun am 11.00am a phob dydd Mercher am 2.15pm. I archebu tocyn cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01970 632 548 neu archebwch ar y we drwy fynd i digwyddiadau.llyfrgell.cymru.Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnig teithiau tywys i grwpiau a chymdeithasau – am ragor o wybodaeth ffoniwch 01970 632 800 neu e-bostiwch [email protected]

    DARGANFOD Eisiau manteisio i’r eithaf ar gasgliadau a gwasanaethau’r Llyfrgell? Os felly, cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y pynciau canlynol:• Sesiwn Groeso• Catalogau ac e-adnoddau• Hanes y Teulu a Hanes Lleol• Hanes AdeiladauAm ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn un o’r sesiynau, ewch i www.llgc.org.uk/cymorthfeydd neu ffoniwch 01970 632 933

  • HYDREF 2017 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 27

    CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

    Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

    26 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HYDREF 2017

    Cyfle i ennill taleb gwerth £20.00 i’w wario yn Siop y Llyfrgell. Danfonwch eich syniadau at yr Uned Hyrwyddo, [email protected]

    CADWCH MEWN CYSYLLTIAD!Ymunwch â’n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Llyfrgell. Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r cyfeiriad isod.Enw

    Cyfeiriad

    Rhif ffôn

    E-bost

    Sut hoffech chi dderbyn eich copi?

    Drwy’r post Drwy e-bost

    Cefais y llyfryn hwn yn

    (nodwch ble, er enghraifft, y Llyfrgell Genedlaethol, Canolfan Groeso Aberystwyth ayb)

    Rwy’n deall y caiff yr wybodaeth uchod ei chadw yn y Llyfrgell yn unig, ac na fydd unrhyw gwmni na sefydliad arall yn ei defnyddio.

    Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau at: Uned HyrwyddoLlyfrgell Genedlaethol CymruAberystwyth SY23 3BUNeu drwy e-bost at [email protected]

    Llyfrgell Genedlaethol CymruThe National Library of WalesAberystwythCeredigionSY23 3BU

    01970 632 [email protected]

    Oriau Agor Cyffredinol Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.00pmDydd Sadwrn 9.30am – 5.00pm

    BARN Y BOBLBeth, neu bwy, hoffech chi eu gweld yn y Llyfrgell? Os oes gennych unrhyw awgrym am siaradwr, cerddor neu ddigwyddiad yr hoffech ei gynnig, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.

    CYSYLLTWCH Â:Uned Hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU01970 632 471 [email protected]

    CEFNOGI CYFEILLION Y LLYFRGELL Ymunwch â Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gefnogi ac i chwarae eich rhan yn ein dyfodol. Cewch ostyngiad o 10% ar rai o’r eitemau yn Siop y Llyfrgell:

    www.llgc.org.uk/cyfeillion

    PENODAU Mae cefnogaeth yn ei hamryfal ffyrdd yn allweddol i ffyniant Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â ni fel Noddwr:

    www.llgc.org.uk/cy/am-llgc/gweithio-gyda-ni/cefnogwch-ni/penodau/

    RHODDI’N RHEOLAIDD Sefydlwyd y Llyfrgell gan roddion pobl Cymru. Wrth ddewis rhoi’n rheolaidd fe fyddwch chi’n parhau â’r traddodiad hwnnw:

    www.llgc.org.uk/cy/am-llgc/gweithio-gyda-ni/cefnogwch-ni/rhoin-rheolaidd/

    Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni: [email protected]

  • Dydd Mercher 29 Tachwedd Wednesday 29 November1.15pm

    Rhyd yr Indiaid Cefyn Burgess