15
Cyhoeddi Galwadau Rhaglen Iechyd yr UE ar gyfer 2016 Nawr! Mwy ar dudalen 6 Y Drydedd Raglen Iechyd Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Mawrth 2016

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cyhoeddi Galwadau Rhaglen Iechyd yr UE ar gyfer 2016 Nawr!Mwy ar dudalen 6

Y Drydedd Raglen Iechyd

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w FfiniauMawrth 2016

Page 2: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cynnwys

Croeso i e-fwletin Ewropeaidd a Rhyngwladol newydd IHCC!

Mae ein cylchlythyr ar ei newydd wedd yn ffynhonnell wybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a phroffesiynau cysylltiedig yng Nghymru am weithgareddau Ewropeaidd allweddol, galwadau am gyllid, digwyddiadau a chyfleoedd sy’n berthnasol i iechyd a lles a’u penderfynyddion ehangach. Mae hefyd yn cynnwys datblygiadau iechyd rhyngwladol / byd-eang sydd yn bwysig i Gymru.

Dilynwch IHCC ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd #IHCCCymru ac ar wefan IHCC.

Croeso

Eglurdeb - Ewrop 2

Eglurder - Cymru 4

Opportunities 6

International Organisations and Newsletters 12

Page 3: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

EwropEglurdeb

Iechyd Mudwyr a Ffoaduriaid

Datblygiadau ac ymatebion diweddar Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO, y Comisiwn Ewropeaidd a Chymru i’r argyfwng ffoaduriaid:

Briffiau Iechyd Cyhoeddus Cymru Mae cyfres o friffiau wedi cael eu datblygu a’u cyhoeddi gan yr IHCC, Gofal Sylfaenol a Diogelu Iechyd a’u dosbarthu ar draws GIG Cymru i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar yr argyfwng mudwyr a ffoaduriaid presennol.

Cytundeb WHO EURO ar fframwaith cyffredinol ar weithredu wedi ei gydlynu ar iechyd ffoaduriaid a mudwyr, yn seiliedig ar gadernid a chymorth ar y ddwy ochr. Darllenwch fwy ar wefan WHO Ewrop.

Y Sefyllfa Bresennol: Diweddariad y CE ar Fesuriadau i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng Ffoaduriaid ar feysydd fel addewidion ariannol, cynlluniau adleoli, ardaloedd â phroblem a dychweliadau. Darllenwch fwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Porth WHO EURO ar gyfer mudo ac iechyd gyda newyddion, digwyddiadau a Chylchlythyr prosiect Agweddau Iechyd y Cyhoedd ar Fudo yn Ewrop (PHAME). Darllenwch fwy ar wefan WHO Ewrop.

© lassedesignen - Fotolia.com #52167920

Page 4: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Mabwysiadodd Cynulliad Iechyd y Byd darged byd-eang ar gyfer bob gwlad i adnewyddu eu hymdrechion i atal y cynnydd mewn gordewdra ymysg plant o dan 5 erbyn 2025. Darllenwch fwy ar wefan WHO Ewrop.

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO wedi datgan bod y clwstwr diweddar o ficroseffali ac anhwylderau niwrolegol yn America Ladin a’r Caribî yn argyfwng iechyd y cyhoedd sy’n peri pryder rhyngwladol y mae angen ymateb unedig iddo. Darllenwch fwy ar wefan WHO Ewrop.

Mae Dr Piroska Östlin, arbenigwr mewn Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd a Bregusder, yn ddiweddar wedi dod yn Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Llywodraethu ar gyfer Iechyd a Lles yn WHO EURO. Yn ogystal, mae Monika Kosinska, sydd yn arwain ar lywodraethu rhyngsectoraidd ar gyfer iechyd, wedi cymryd yr awenau yn Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop. Prif genhadaeth yr Is-adran yw arwain a chydlynu’r gwaith o weithredu’r polisi a strategaeth Ewropeaidd ar gyfer iechyd a lles ‘Iechyd 2020.

Lansio Argymhellion Byd-eang i Atal

Gordewdra mewn Plentyndod

WHO yn Annog Gwledydd Ewropeaidd i Atal

Feirws Zika Rhag Lledaenu Nawr

Swyddfa Ranbarthol WHO ar gyfer Penodiadau Newydd Ewropeaidd - Llongyfarchiadau!

Page 5: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Yma hoffem rannu enghreifftiau diweddar o weithgareddau, cydweithredu, digwyddiadau a gwaith arall yng Nghymru sy’n ymwneud â diogelu, gwella a hybu iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau sy’n gy-sylltiedig ag Ewrop a’r byd. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu mewn proffesiwn cysylltiedig sy’n ymwneud â gwaith rhyngwladol o’r fath ac eisiau ei rannu gyda’ch cydweithwyr. Anfonwch e-bost i [email protected] Croesewir pob cyfraniad!

Mae’n bleser gennyf ymuno ag IHCC fel y Swyddog Polisi Iechyd Rhyngwladol newydd. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at waith Ewropeaidd a Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ers i mi adael fy mamwlad, Ffrainc, rwyf wedi cael y cyfle i weithio i sawl Sefydliad Anllywodraethol ar draws Ewrop ar faterion a pholisïau iechyd byd-eang ac Ewropeaidd gwahanol. Mae’r amrywiaeth hwn wedi bod yn brofiad dysgu anhygoel fydd, gobeithio, o gymorth i mi gefnogi a hyrwyddo amcanion IHCC yng Nghymru a thramor. Edrychaf ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda’n holl bartneriaid yng Nghymru a thramor.

Elodie Besnier, Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru

CymruEglurder

Aelod Newydd o Dîm IHCC

Page 6: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Pontio’r Bwlch rhwng Cyllid Ewropeaidd ac Iechyd

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ar 8-9/02/16. Rhoddodd y diwrnod cyntaf drosolwg o’r cyllid sydd ar gael yn yr UE, gyda’r prynhawn yn canolbwyntio ar fanylion dwy raglen gyllid fawr yn yr UE, y Drydedd Raglen Iechyd a Horizon 2020. Roedd yr ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar faterion penodol yn ymwneud â chael mynediad i gyllid yr UE fel y partneriaid ymgeisio a chanfod. Roedd hefyd yn gyfle i’r cyfranogwyr gyfarfod ag arbenigwyr a siaradwyr mewn sesiynau 1 i 1. Darllenwch fwy ar wefan IHCC.

Cyllid a Chydweithredu Ewropeaidd ar gyfer Iechyd a Lles yng Nghymru

Mae WHIASU wedi bod yn darparu hyfforddiant ar draws y DU, comisiynodd Awdurdod Llundain Fwyaf 2 Gwrs Cymhwysedd HIA Cyflym i gynrychiolwyr o 20 Bwrdeistref yn cynnwys Swyddfa Maer Llundain. Bydd WHIASU yn cyflenwi’r un peth i Ogledd Iwerddon gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) ym mis Ebrill a fersiwn wedi ei deilwra i ymarferwyr a gwneuthurwyr polisïau Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, yr Iseldiroedd (RIVM) yn ystod haf 2016

Gweithgaredd Diweddar Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Aberystwyth wedi datblygu ‘Cynl-lun Braenaru’ yn cyflwyno ymateb ac ymagweddau posibl Cymru i bryderon ac argymhellion 23ain Cyfarfod Llawn Blynyddol Cyngor InterAction 2015 i’r Argyfyngau Iechyd Byd-eang. Mae’r ddogfen yn cydnabod bod globaleiddio, heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn gysylltiedig ag iechyd planedol a dynol a datblygu cynaliadwy. Mae’n cynnig enghreifftiau o ddatblygiadau cenedlaethol sy’n cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch iechyd byd-eang a chryfhau’r ymateb iddo ac mae’n ceisio cryfhau sefyllfa Cymru, hyrwyddo partneriaeth a chyfrannu at gydweithrediadau o fudd i’r ddwy ochr yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Cynllun Braenaru Iechyd Byd-eang: Ymagweddau Posibl yng Nghymru

Penodwyd Llysgenhadon Cyllid yr UE ar gyfer Cymru, Dr Grahame Guilford, Dr Hywel Ceri Jones, a Gaynor Richards MBE gan y Gweinidog Cyllid a Busnes i helpu i hyrwyddo a chynyddu’r cyfleoedd a gyflwynir gan raglenni a reolir yn uniongyrchol gan yr UE. Cyhoeddwyd Adroddiad Interim (Rhagfyr 2015) sydd yn amlinellu rhai o’u casgliadau a’u hargymhellion cychwynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru, a bydd yr adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi’r mis yma.Gallwch ddarllen mwy ar wefan WEFO.

Llysgenhadon Cyllid yr UE yng Nghymru

Page 7: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cyfleoedd

Y drydedd raglen iechyd yw’r prif offeryn y mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ei ddefnyddio i weithredu strategaeth iechyd yr UE. Caiff ei weithredu trwy gynlluniau gwaith blynyddol sy’n nodi meysydd blaenoriaeth a’r meini prawf ar gyfer ariannu gweithredoedd yn unol â’r rhaglen. Mae’r Asiantaeth Defnyddwyr, Iechyd, Amaethyddiaeth a Bwyd wedi cyhoeddi galwad newydd am gynigion ar gyfer rhaglenni - HP-PJ-2016 - yn unol â Rhaglen Iechyd y Cyhoedd. Mae’r alwad yn seiliedig ar y drydedd raglen ar gyfer gweithredu gan yr Undeb ym maes iechyd (2014-2020) a Rhaglen Waith Flynyddol 2016.

Mae cynllun gwaith 2016 yn nodi manylion y dulliau ariannu a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i roi’r rhaglen ar waith.

Y Drydedd Raglen Iechyd - cynllun gwaith

Horizon 2020

Mae Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesi’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cyfres o al-wadau o dan y testun heriau cymdeithasol.

Cyllid

Page 8: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd Yn ystod 2014–2020, bydd Cymru’n elwa ar fuddsoddiad o ryw £1.8bn o Gronfeydd Strwythurol Ewrope-aidd. Ewch i wefan WEFO i weld y cyfleoedd presennol.

Rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon

Mae rhaglen Gydweithredu Cymru Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau ar draws y ddwy wlad. Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar arloesi, newid yn yr hinsawdd, a chymorth diwylliannol a naturiol, a threftadaeth a thwristiaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan WEFO.

Rhaglen Grantiau Affrica THET 2016Mae Rhaglen Grantiau Affrica 2016 (AGP) yn cefnogi hyfforddiant gweithwyr iechyd mewn gwledydd incwm isel a chanolig, trwy ymgysylltu partneriaethau rhwng sefydliadau iechyd yn y DU ac Iwerddon, a’u cymheiriaid yn Affrica. Ffrwd 1: Gofal Llawfeddygol ac Anaesthetig, Ffrwd 2L Gofal Iechyd Cymunedol.

Grantiau Hub Cymru AffricaMae’r grantiau ar gael hyd at £1000, hyd at £5000 a hyd at £15000.Y meysydd thematig yw Bywoliaeth Gynaliadwy a Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd.

Page 9: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cyhoeddiadau ac OfferAstudiaeth Achos Cymru mewn Cyhoeddiad diweddar gan y WHO ar Ymagweddau CyfranogolMae astudiaeth achos yn canolbwyntio ar ddatblygiad Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) wedi cael ei gyhoeddi yn llyfr WHO ‘Taking a participatory approach to development and better health. Examples from the Regions for Health Network (2015)’ Lawrlwythwch y cyhoeddiad ar wefan cyhoeddiadau WHO.

Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru – Synergedd rhwng Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus CymruMae Malcolm Ward, Arbenigwr Hybu Iechyd a Carolyn Lester, Arweinydd Anghydraddoldebau Iechyd wedi cyhoeddi erthygl yng Nghylchgrawn diweddaraf EuroHealthNet, yn cyflwyno enghreifftiau o waith ar y cyd ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Cyhoeddiad Rhyngwladol Iechyd Mewn Carchardai yng Nghymru

Mae Noel Craine, Gwyddonydd Ymchwil, Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gydawdur yr erthygl, ‘Injecting drug use, sexual risk, HIV knowledge and harm reduction uptake in a large prison in Bali, Indonesia’. Deilliodd y gwaith hwn o waith sabothol dros dri mis yn yr Ysgol Feddygol yn Denpasar Indonesia fel rhan o Raglen Hyfforddiant Ymchwil maes sefydliad Kirby. Gallwch ddarllen mwy ar wefan yr International Journal of Prisoner Health.

Cyhoeddi astudiaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

Mae oedolion yng Nghymru a gafodd eu cam-drin yn gorfforol neu’n rhywiol pan yn blant neu eu magu ar aelwydydd lle’r oedd trais domestig, cam-drin alcohol neu gyffuriau, yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy’ n niweidio iechyd neu wrthgymdeithasol fel oedolion. Gallwch ddarllen mwy ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cyllid yr UE ar gyfer Cymru

Edrychwch ar grid rhaglenni polisi ac ariannu’r UE a ddatblygwyd gan WEFO. Darllenwch fwy ar wefan WEFO.

Cyhoeddi Mapio Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) mewn Iechyd Mae mapio cymorth wedi ei gynllunio ar gyfer ESIF mewn iechyd ar gyfer y 28 Aelod-wladwriaeth ar gyfer 2014-2020 wedi cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Y Canllaw ar gyfer buddsoddiadau effeithiol mewn iechyd o dan ESIF Y Pecyn Cymorth Technegol

Page 10: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Datganiad Minsk ar Ymagwedd Cwrs Bywyd yng Nghyd-destun Iechyd 2020Mabwysiadwyd y datganiad yng Nghynhadledd Gweinidogion Ewropeaidd WHO “Act Early, Act on Time, Act Together” Gallwch ddarllen mwy ar wefan UNFPA.

Ail Adroddiad ar Hugain Blynyddol Rhanbarthau er IechydAdroddiad yn cynnwys gwybodaeth am wella iechyd a thegwch ar draws rhanbarthau a sectorau, ceir mynediad i’r adroddiad llawn ar y wefan Rhanbarthau er Iechyd.

Hyrwyddo Hawliau a Bywyd Cymunedol ar gyfer Plant ag Anableddau Mae rhai plant yn cael eu geni gydag anableddau, ac mae eraill yn datblygu anableddau yn eu blynyddoedd cynnar. Mae’r adroddiad hwn yn tanlinellu’r angen brys i wledydd symud o ofal sefydliadol i ofal yn y gymuned. allwch ddarllen mwy ar wefan WHO.

Côd Ewropeaidd yn erbyn CanserBob blwyddyn, ar 4 Chwefror, mae’r WHO yn hyrwyddo ffyrdd o leddfu baich byd-eang canser. O dan y pennawd “We can. I can.”, bydd Diwrnod Canser y Byd 2016 yn dangos sut y gall pawb gyda’i gilydd ac fel unigolion wneud eu rhan yn lleihau baich byd-eang canser gan ddefnyddio’r ‘Côd Ewropeaidd yn erbyn Canser’.

Rhestr Wirio Cyllid yr UE Rhowch gynnig ar restr wirio ar-lein Cyllid yr UE i nodi’r math o gyllid a allai fod ar gael ar eich cyfer chi.

Briff Horizon 2020 Mae Swyddfa Ewropeaidd y GIG wedi darparu briff ar gyfer cyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesi’r GIG.

Page 11: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod

Cynhadledd Ryngwladol Fuse ar Gyfnewid Gwybodaeth ym maes Iechyd y Cyhoedd – Tystiolaeth i Effeithio ar Iechyd y Cyhoedd

Bydd y gynhadledd yn archwilio’r drafodaeth yn ymwneud â’r hyn sy’n cyfrif fel ‘tystiolaeth’ ac a ellir creu effaith mewn perthynas ag iechyd a lles y cyhoedd. Gallwch ddarllen mwy ar wefan WHO.

27–28 Ebrill 2016Newcastle-Gateshead, DU

Cynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Iechyd y Cyhoedd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd

Mae Cyfadran Iechyd y Cyhoedd yn ymuno â’r Coleg Brenhinol Nyrsio ac yn mynd i arfordir y de yn 2016 ar gyfer ei chynhadledd flynyddol ac arddangosfa iechyd y cyhoedd. ‘Public health in a cold climate: melting hearts and minds with evidence’. Gallwch ddarllen mwy ar wefan Cyfadran Iechyd y Cyhoedd.

13- 15 Mehefin Brighton, Lloegr

8fed Cynhadledd Ymchwil Hybu Iechyd Nordig (NHPRC)

Cynhalir yr NHPRC yn Jyväskylä, y Ffindir ar 20-22 Mehefin 2016. Prif thema 8fed cynhadledd NHPRC yw: “20 years of Health Promotion Research in the Nordic countries: health, wellbeing and physical activity”. Mae’r alwad am grynodebau bellach wedi cau. Gallwch ddarllen mwy ar wefan y gynhadledd.

20-22 Mehefin 2016 Jyväskylä, y Ffindir

Page 12: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

ArallMae’r Alwad am Safleoedd Cyfeirio y Bartneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar Agor hyd at Ebrill 2016Mae’r alwad ar gyfer y rheiny sy’n arloeswyr ym maes Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach, gan greu atebion ymarferol sy’n gwella bywydau ac iechyd pobl hŷn. Gallwch ddarllen mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Gweithgorau Technegol EuroHealthNet: Cyfle ar gyfer Staff Iechyd Cyhoeddus Cymru Yn 2015, cafodd chwe Gweithgor Technegol (TWIG) eu lansio ar gyfer aelod-sefydliadau a sefydliadau partner EuroHealthNet gyda’r nod o gysylltu cydweithwyr arbenigol; cyfnewid tystiolaeth, profiadau ac arfer da; dadansoddi datblygiadau Ewropeaidd; a gweithio gyda’i gilydd ar safbwyntiau a gweithgareddau cyffredin. Gallwch ddarllen mwy ar wefan EuroHealthNet.

Ymgynghoriad WHO/Ewrop ar baratoi’r Cynllun Gweithredu Ewropeaidd ar gyfer Hawliau ac Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol

Nod yr ymgynghoriad yw datblygu cynllun gweithredu gyda fframwaith ar gyfer ymatebion polisi sy’n benodol i wlad, cynlluniau gweithredu a rhaglenni ar gyfer gwella iechyd rhywiol ac atgenhedlol. Byddai EuroHealthNet yn awyddus i fod yn rhan o Gonsortiwm. Os oes gennych ddiddordeb yn yr alwad hon, cysylltwch â Claudia Marinetti. Gallwch ddarllen mwy ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Page 13: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Sefydliadau a Chylchlythyra Rhyngwladol

WHO EuropeGallwch gael y newyddion diweddaraf am iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy ddarllen e-fwletin Chwefror WHO Europe.

Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHOMae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith Rhanbarthau er Iechyd WHO, gyda’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys eu 22ain cyfarfod ym Milan, yr Eidal a chyfarfodydd perthnasol eraill.

Panorama WHOMae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn darparu llwyfan i wyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd gyhoeddi gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

EuroHealthNetTrwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio ei brosiectau, ei amcanion a’u ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd (EUREGHA)Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 Awdurdod Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewropeaidd sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Gallwch ddarllen y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Page 14: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Conffederasiwn y GIGMae Conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf am Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar Wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

WHO Europe

Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA)Mae rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd 2016 a’r 6ed Gynhadledd Ewrope-aidd ar Iechyd Mudwyr a Lleiafrifoedd MEMH 2016.

WHO EuropeComisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU

Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gael gwybodaeth am Newyddi-on o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, Digwyddiadau i ddod, Cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.

Cylchlythyr InterburnsCylchlythyr cyntaf Interburns, yn cynnwys gwaith yn 2015 a’r cynlluniau i ddod ar gyfer 2016. Darllenwch Gylchlythyr Interburns ar-lein.

Conffederasiwn GIG Ewrop

Page 15: Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Contact Us

[email protected]

ffôn02921 841938

swyddInternational Health Coordination Centre

c/o Public Health WalesHadyn Ellis Building

Maindy RoadCardiff

CF24 4HQ

gwefanwww.internationalhealth.nhs.uk

Twitter@IHCCWales