14
Mae oedran ar ein cyfer ni i gyd ...gan fod oedran yn rhan o fywyd C y n g h ori Y m gyr ch u C ynorth w y o

Impact Report Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Find out about the work of Age Cymru

Citation preview

Page 1: Impact Report Welsh

Mae oedran ar ein cyfer ni i gyd...gan fod oedran yn rhan o fywyd

Cynghori Ymgyrchu Cynorthwyo

Page 2: Impact Report Welsh

Cynnwys

Neges gan y CadeiryddNeges gan y Prif Weithredwr

Byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu

Heneiddio’n well gyda’n gilydd

My Home Life CymruGwanwyn

Hysbysu a dylanwadu

Gweithio mewn partneriaeth

Diogelu ein dyfodol

Incom/gwariant elusennol

Ni fyddem yn gallu ei wneud hebddoch chi

Cymryd rhan

01

02

04

06

07

08

09

10

11

12

Rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl hŷn yn cymryd eu lle dilys mewn cymdeithas.

Rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran sy’n parhau i fod yn gyffredin yn ein cymunedau.

Page 3: Impact Report Welsh

Rwy’n falch iawn cael cyflwyno adroddiad effaith Age Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf (hyd at 31 Mawrth 2012). Mae’r pamffled hwn yn arddangos, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd lem bresennol, mae Age Cymru’n parhau i gyflwyno ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru. Wrth i ni edrych yn ôl ar yr hyn rydw i’n ei hystyried yn flwyddyn ryfeddol, rydym hefyd yn rhoi cipolwg i chi o’n gwaith yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch yn bersonol yn ogystal i bawb sy’n gysylltiedig ag Age Cymru am eu gwaith caled ac ymdrech parhaus.

Dr Bernadette Fuge MB BCH, LLM, MPHCadeirydd

Mae’n bleser mawr edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at y dyfodol. Mae ein gwaith ymgyrchu’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn yng Nghymru, ac rydym yn ei ategu gyda’n gwaith ymchwil a pholisi annibynnol ein hunain i sicrhau bod yr hyn rydym ni’n ei ddweud wedi’i seilio ar yr hyn y mae pobl hŷn ei eisiau mewn gwirionedd.

Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’n teulu o bartneriaid Age Cymru annibynnol, lleol, sy’n darparu ystod eang o wasanaethau gwerthfawr, ar sail angen lleol, yn uniongyrchol i’w cymunedau.

Rydym ni wedi gweithio’n galed eleni i sefydlu sylfaen gadarn i ddatblygu ein gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor blaenllaw arni – gwasanaeth sy’n hanfodol bwysig i bobl hŷn, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Mae ein cefnogwyr ymroddedig, yn rhai unigol a chorfforaethol, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Age Cymru, ac ar ran ein helusen, hoffwn eu diolch yn bersonol am eu cyfraniad ni waeth beth yw ei ffurf. Mae Age Cymru’n parhau’n ymrwymedig i weledigaeth o fyd lle mae pobl hŷn yn ffynnu. Rwy’n eich gwahodd a’ch annog i weithio gyda ni i wireddu’r weledigaeth honno.

Robert Taylor OBEPrif Weithredwr

Robert Taylor OBE a Dr Bernadette Fuge

Mae oedran yn rhan naturiol o fywyd

helo

Cynghori

Page 4: Impact Report Welsh

02 Age Cymru Impact Report 2011

Byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu

02

Page 5: Impact Report Welsh

Oedran yw popeth sy’n eich gwneud chi’n chi

Gweledigaeth Age Cymru yw byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu. Ysbrydolodd y weledigaeth hon sefydlwyr Age Cymru i greu sefydliad, a oedd eisoes â mwy na 60 mlynedd o brofiad, yn dwyn Age Concern Cymru a Help the Aged yng Nghymru ynghyd.Rydym yn cydnabod bod ffordd bell i fynd hyd nes i ni ei gwireddu, ond byddwn yn chwarae’n rhan ac yn gofyn i chi wneud yr un peth.

Cenhadaeth Age Cymru yw gwella bywyd i bobl hŷn, gan wneud gwahaniaeth ymarferol gwirioneddol i bobl heddiw, wrth weithio ar gyfer bywyd hwyrach gwell yn y dyfodol.

Rydym yn ymgyrchu, yn codi arian, yn ymchwilio, yn gwneud i’r rhai sydd mewn grym i wrando, a’u herio pan maen nhw’n methu, gan roi gwybod iddyn nhw sut dylid gwneud pethau.

Dyma beth rydym ni’n ei wneud a dyma sut rydym ni’n ei wneud... Age Cymru ydym ni.

Rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl hŷn yn cymryd eu lle dilys mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran sy’n parhau i fod yn gyffredin yn ein cymunedau.Nid oes dim mor bwerus â chlywed pobl hŷn yn dweud eu dweud. Trwy ein gwaith ymgysylltu, rydym yn sicrhau y clywir lleisiau pobl hŷn, wrth ffurfio a

dylanwadu ar bolisi, neu ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau allweddol.

Mae’n ffaith drist bod gan Gymru niferoedd uwch o achosion o gam-drin bobl hŷn nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae ein hymgyrch Diwedd ar Gam-drin yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu oedolion rhag camdriniaeth. Cyflwynom ddeiseb â 6,000 o lofnodion i’r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol i gefnogi ein hachos.

Trwy gydol 2011, cyflwynodd Age Cymru hyfforddiant Mynd yn hŷn yng Nghymru ledled Cymru. Hyfforddwyd cannoedd o gynrychiolwyr, i’w cynorthwyo nhw i herio gwahaniaethu ar sail oed.

Rydym yn parhau i gynnal a chynorthwyo rhwydweithiau allweddol o bobl hŷn – gan gynnwys Cynghrair Pobl Hŷn Cymru; Cymdeithas Genedlaethol y Pensiynwyr; Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol; Fforwm Pensiynwyr Cymru; a Senedd Pobl Hŷn Cymru. Mae Rhwydweithiau Lleiafrifoedd Ethnig, a Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Hŷn, yn sicrhau y rhoddir llais i ystod amrywiol o safbwyntiau.

Byddwn yn parhau i herio gwahaniaethu ar sail oed o bob math. Byddwn yn ceisio dylanwadu ar ddeddfwriaeth ac ymarfer ar gyfer diogelu pobl hŷn. Byddwn yn datblygu’r cymorth a’r cyngor rydym yn ei ddarparu i eiriolwyr.

Gwaith yn y dyfodol

Cymryd rhan gyda’n gilydd

Cyflwyno deiseb Diwedd ar Gam-drin ar 14 Mehefin 2012 y tu allan i’r Senedd, Caerdydd.

Ymgyrchu

Page 6: Impact Report Welsh

04

Heneiddio’n wellgyda’n gilydd

Cyf w

yno 4,000 o brof adau Cerdded Nordig

Page 7: Impact Report Welsh

Oedran yw bod yn gysurus â chi’ch hun

O fynd am dro hanner milltir i daith gerdded pum milltir, mae ein rhaglen Cerdded Nordig yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd a gallu. Mae’n un o’r gweithgareddau corfforol sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Yn ystod 2011, cyflwynodd Age Cymru dros 4,000 o brofiadau Cerdded Nordig trwy ein harweinwyr cerdded hyfforddedig gwirfoddol. Cydlynodd Age Cymru raglen Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn Llywodraeth Cymru. O thermomedrau ystafelloedd i’r llyfryn ‘Yn Gynnes Dros y Gaeaf’, dosbarthom fwy na 70,000 o adnoddau i 150 o bartneriaid, a darparom wybodaeth gynhwysfawr ar-lein.

Mae arwahanrwydd ac unigrwydd yn parhau mewn cymunedau ledled Cymru; dosbarthodd Age Cymru 38 o Grantiau Dathlu i grwpiau bobl hŷn, i gynorthwyo digwyddiadau i fynd i’r afael â’r broblem wirioneddol hon.

Roedd rhoi hyder i bobl hŷn ddefnyddio technoleg ddigidol yn thema allweddol i Age Cymru yn 2011. Daethom â thechnoleg ddigidol at bobl trwy fentrau fel ‘i Te a Bisgedi’, ac yn y Sioe Amaethyddol

Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol, roedd cyfrifiaduron ar gael i ymwelwyr fynd ar-lein. Dangosom fuddion e-bost, Skype a pha mor hawdd yw hi i gael mynediad at y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan. Yn ein cynhadledd lwyddiannus, Heneiddio’n Dda, arddangosom y defnydd o dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol, gan gynnwys ei rôl o ran mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol.

Mewn lleoliad cymunedol, mae rhaglen Hyfforddiant Ymarferol Effaith Isel (LIFT) Age Cymru yn mynd o nerth i nerth. Cynhaliwyd dros 2,000 o sesiynau ledled Cymru yn ystod y flwyddyn.

Byddwn yn sicrhau y gall pobl hŷn wneud dewisiadau gwybodus o ran cynnal eu hiechyd a’u hannibyniaeth. Byddwn yn cynyddu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ac yn creu cyfleoedd i gymryd rhan. Trwy gyfres o fentrau, byddwn yn ceisio gwella gwybodaeth pobl hŷn am heneiddio’n iach.

2,000o sesiynau LIFT

Cyflwynwyd

Cynorthwyo

Heneiddio’n wellGwaith yn y dyfodol

Page 8: Impact Report Welsh

Mae My Home Life Cymru yn ymwneud â hyrwyddo ansawdd bywyd mewn cartrefi gofal.

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â mwy na 25% o gartrefi gofal yng Nghymru, ac eleni, derbyniodd bob cartref set lawn o ganllawiau arfer da sy’n cwmpasu themâu allweddol My Home Life.

Mae’r canllawiau’n darparu trafodaethau, hyfforddiant ac ysgogiad i ysbrydoli pob cartref i ganolbwyntio ar ansawdd bywyd. Eleni, bu mwy na 1,500 o staff proffesiynol cartrefi gofal, perthnasau a phreswylwyr yn bresennol mewn digwyddiadau i glywed am My Home Life Cymru, ac i rannu arfer da.

My Home LifeCymru

06

Ym mis Mai 2011, dathlodd Gwanwyn, sef gŵyl gelfyddydol Age Cymru ar gyfer pobl hŷn, ei phen-blwydd yn bump oed. Cynhaliom bedwar digwyddiad arddangos mewn lleoliadau mawr ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, a Galeri yng Nghaernarfon. Trefnwyd bron 300 o ddigwyddiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau a dderbyniodd grantiau Gwanwyn.

Cymerodd dri pherfformiwr hŷn ran yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd yn dilyn gweithdy lle rhoddwyd awgrymiadau a hyfforddiant iddyn nhw, a darpar gomediwyr eraill, gan gomediwyr proffesiynol ar sut i berffeithio eu perfformiad.

Gweithiom mewn partneriaeth ag uned asesu dementia Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar brosiect uchelgeisiol i ddod â byd nyrsio a’r byd artistig at ei gilydd. Bydd y gwaith hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i arsylwi cleifion sy’n cymryd rhan yn y celfyddydau; mae wedi gwella amgylchedd ward yr ysbyty, ac mae wedi cynnwys y gymuned artistig leol i greu’r gelf.

Gwanwyn

296o ddigwyddiadau gyda 9,500 o bobl yn cymryd rhan

Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu My Home Life Cymru, ac rydym yn awyddus i’w weld yn ehangu. Rydym yn credu petai pob cartref yn ceisio dilyn egwyddorion My Home Life Cymru, y byddai gofal preswyl a nyrsio yng Nghymru yn ffynnu.

Gwaith yn y dyfodol

Mae Gwanwyn yn ymwneud â dathlu creadigrwydd yn hwyrach mewn bywyd. Mae’n unigryw yng Nghymru, ac nid yw wedi’i gyfyngu i fathau penodol o gelf. Mae Age Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chael mynediad atynt.

Gwaith yn y dyfodol

Page 9: Impact Report Welsh

Oedran yw bod yn falch o’ch cyflawniadau

Mae Age Cymru wrth galon gwleidyddiaeth yng Nghymru, a chaiff ei barchu am gynnig barn wybodus. Yn y fwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:

• darparu 36 o ymatebion ffurfol i ymgynghoriadau

• llunio gwybodaeth allweddol ar amrywiaeth o bynciau o Gymryd Rhan mewn Chwaraeon i Ddiogelwch Cymunedol

• llunio maniffesto Llywodraeth Leol yn galw ar ymgeiswyr i gofrestru fel llysgenhadon ar gyfer pobl hŷn

• ailsefydlu’r grŵp trawsbleidiol ar Bobl Hŷn a Heneiddio

• cyfwyno cyfarfodydd ymylol yng nghynadleddau’r Pleidiau yng Nghymru yn y Gwanwyn

• cael ein penodi’n ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer Ymchwiliad i Ofal Preswyl. AC

Byddwn yn arwain a llunio dadleuon ynglŷn â materion sy’n ymwneud â phobl hŷn, ac yn gweithredu fel ffynhonnell arbenigedd i wleidyddion, gwneuthurwyr polisïau a rhanddeiliaid allweddol. Bydd ein gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn parhau i alluogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a gwneud y mwyaf o’u lles.

Gwaith yn y dyfodolHysbysu a dylanwadu

Ers cenedlaethau lawer, mae pobl wedi ymddiried ynom i ymdrin â phob mater sy’n ymwneud ag oed. Rydym ni yma i ddarparu cymorth ymarferol a chyngor i bob unigolyn hŷn, eu ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol. Mae Age Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor cywir, perthnasol, diduedd ac arbenigol mewn partneriaeth ag Age UK, trwy wasanaeth ffôn rhad ac am ddim a chyfrinachol.

Bob blwyddyn, rydym yn cynhyrchu ystod gynhwysfawr o ffeithlenni a chanllawiau.

Page 10: Impact Report Welsh

Mae Age Cymru yn falch o gael saith partner Age Cymru lleol sy’n darparu cyfoeth o wasanaethau’n uniongyrchol i bobl hŷn yn eu cymuned. Mae’r gwasanaethau hyn yn amrywio o ardal o ardal, ac yn cynnwys eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth am fudd-daliadau, torri ewinedd traed, clybiau cinio, cyfeillio, dosbarthiadau rhyngrwyd, gwasanaethau rhyddhau o’r ysbyty, tasgmon, cyngor ar dreth a siopa.Mae pob partner yn darparu gwasanaethau ‘blaenllaw’ o’r safon uchaf, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl am gysondeb ac ansawdd ym mha le bynnag y gwelwch enw a logo Age Cymru.

Mae rhai canghennau llai Age Concern yn darparu llinell bywyd i’w cymdogaeth trwy gynnal gweithgareddau fel clybiau cinio a theithiau dydd. Rydym ni nawr yn gweithio tuag at eu galluogi i fod yn ‘Ffrindiau Age Cymru’ swyddogol.

Mae Age Cymru yn rhoi cymorth i Gynghrair Henoed Cymru, sydd ag 20 o aelodau elusennol a Senedd Pobl Hŷn Cymru, sy’n dod â 57 o sefydliadau pobl hŷn at ei gilydd i ddarparu llais cryfach i bobl hŷn.

Mae ein gwaith gyda’n partneriaid cenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn parhau, a chafwyd llwyddiant nodedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn arbennig, y consesiynau a gyflawnwyd pan ddaeth yr elusennau cenedlaethol at ei gilydd i ymgyrchu yn erbyn cyflymder y newid i oedrannau pensiwn gwladol.

Mae nifer o Age Concerns wedi mabwysiadu brand Age Cymru. Dyma ein Partneriaid Age Cymru Lleol:

partneriaethGweithio mewn

08

www.agecymru.org.uk/local

Age Cymru BangorAge Cymru Cardiff*Age Cymru Colwyn BayAge Cymru Ebbw ValeAge Cymru MoldAge Cymru MonmouthAge Cymru Pontypridd*Age Cymru PorthcawlAge Cymru RhylAge Cymru ShottonAge Cymru Wrexham

Age Cymru CeredigionAge Cymru Gwent*Age Cymru Gwynedd a Môn*Age Cymru Afan NeddAge Cymru PowysAge Cymru Sir GârAge Cymru Swansea Bay*

Byddwn yn arwain trwy enghraifft – yn gwella’r amrywiaeth o wasanaethau rydym ni’n eu cynnig. Byddwn yn parhau i gynorthwyo cydweithio ymhlith sefydliadau sydd wedi ymrwymo i bobl hŷn yng Nghymru.

Gwaith yn y dyfodol

Cynnyrch a gwasanaethau masnachu ar gael yma *

Ein siopau elusennol a mannau masnachu:

Page 11: Impact Report Welsh

dyfodoldiogelu ein

ers 1947

Mae cynhyrchu incwm newydd ar gyfer Age Cymru yn hanfodol i sicrhau ein cynaliadwyedd. Mewn un ffordd neu’r llall, rydym ni wedi bod yma ers cenedlaethau, ers 1947, a gwyddom nad yw’r daith honno yn bell o fod drosodd.Mae eisoes gennym ni rai pobl wych sy’n codi arian trwy ddringo mynyddoedd, beicio o Lands End i John O’Groats, a gwau’r hetiau gwlanog mwyaf rhyfeddol. Ond mae angen i ni wneud mwy, ac mae arnom angen eich help i wireddu ein gweledigaeth i greu byd lle mae pobl hŷn yn ffynnu.

Rydym yn deall bod yn rhaid i unrhyw berthynas gorfforaethol fod o fudd i bawb. Mae gennym ni rai cefnogwyr gwych yn y sector preifat, ac rydym yn diolch iddyn nhw i gyd o waelod calon.

Nid codi arian yn unig sydd o bwys – rydym yn gwybod bod arian yn dynn i nifer o bobl. Dyna pam rydym ni’n buddsoddi mewn menter gymdeithasol gyda swyddfeydd newydd ar y stryd fawr yn hyrwyddo cyfres o gynhyrchion a gwasanaethau wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer pobl hŷn. Rydym hefyd yn cynnig cyngor wyneb yn wyneb amhrisiadwy.

Ac nid dyna’r cyfan... yn ystod 2012, rydym ni wedi prynu cadwyn o siopau manwerthu ledled Cymru i roi hyd yn oed mwy o bresenoldeb i Age Cymru ar y stryd fawr. Bydd yn ddechrau cyfnod newydd i Age Cymru a bydd yn cynnig llawer mwy na siop yn unig.

Oedran yw gwybod ei bod hi’n iawn i ofyn am help

Byddwn yn parhau i werthfawrogi ein cefnogwyr gwych ac yn ceisio recriwtio mwy ohonynt. Yn sgil ein presenoldeb newydd ar y stryd fawr, bydd cymaint yn fwy ar gael. Ochr yn ochr â’r siop draddodiadol, mae cynigion gwych o ran yswiriant a gwasanaethau, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb.

Gwaith yn y dyfodol

Page 12: Impact Report Welsh

Mae’r siartiau cylch uchod yn siartiau cynrychioliadol o’r ffigurau a dynnwyd o adroddiad blynyddol llawn yr Ymddiriedolwyr a datganiadau ariannol cyfunol a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ac a lofnodwyd ar eu rhan ar 20 Awst 2012. Lluniodd yr archwilwyr Broomfield & Alexander adroddiad archwilio

diamod yn seiliedig ar y datganiadau ariannol llawn ar 23 Awst 2012. Mae’r archwilwyr wedi cadarnhau i’r Ymddiriedolwyr, yn eu barn nhw, bod y datganiadau ariannol cryno yn gyson â’r datganiadau ariannol llawn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2012. Efallai na fydd y datganiadau ariannol cryno hyn yn

cynnwys gwybodaeth ddigonol i gael dealltwriaeth lawn o faterion ariannol yr elusen. Gellir cael copïau o adroddiad llawn yr Ymddiriedolwyr, datganiadau ariannol ac adroddiad yr archwilwyr o: Age Cymru, Tŷ John Pathy, 13/14 Cwrt Neptune, Ffordd Blaen y Gad, Caerdydd, CF24 5PJ.

10

Cymynroddion

Grantiau

Rhoddion

Age UK

Digwyddiadau

Incwm ofuddsoddiadau

Menter gymdeithasol

Manwerthu

Arall

Llywodraethu

Cydraddoldeb a hawliau dynol

Heneiddio’n iach

Cynhwysiad a chyfrannu

Esgeulustod a thlodi

Menter gymdeithasol

Partneriaid a fforymau

Adnoddau incwm

Grantiau

Incwm elusennol Gwariant elusennol

Incwm elusennol

Gwariant elusennol

Page 13: Impact Report Welsh

hebddoch

Oedran yw cael rhywbeth gwerth chweil i’w roi’n ôl

Ni allem ei wneud Age UKCyfreithwyr Hugh JamesCyngor Celfyddydau CymruCyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruDŵr CymruGo WalesGrunvigLlywodraeth CymruNwy PrydainPwyllgor Codi Arian CaerdyddRLE LawSefydliad RayneTrenau Arriva CymruWales and West UtilitiesWestern Power DistributionWilkinsons Stores CyfY Gronfa Loteri FawrY Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

Derek BrockwayShân CothiWarren GatlandRhod GilbertRhys IfansCerys MatthewsRoy NobleRhydian RobertsMark Taylor

Ystad y diweddar

LC BaldwynH DaviesT DaviesB EvansWJH EvansD HobbsJC Howells BrownJ JonesGH LadlowCE Smith

Rhys Ifans Cerys MatthewsRhod Gilbert

Page 14: Impact Report Welsh

12

Cymryd rhan

Tŷ John Pathy13/14 Cwrt Neptune,Ffordd Blaen y Gad,Caerdydd CF24 5PJ

Ffôn 029 2043 1555Ffacs 029 2047 1418e-bost [email protected] elusen gofrestredig 1128436

Rydych chi nawr wedi gweld y gwaith gwych rydym ni’n ei wneud, ac rydych chi’n gwybod bod Age Cymru, ers cenedlaethau, wedi bod yma ar eich cyfer chi. Allwch chi roi ychydig bach yn ôl?

Codi arianMae cymaint o ffyrdd gwahanol ac unigryw y gallwch godi arian ar ein cyfer ni. O bobi cacennau i naid bungee, bydd ein tîm codi arian ymroddedig yn eich helpu chi i wneud y mwyaf o’ch digwyddiad a sicrhau eich bod chi’n cael y boddhad a’r gydnabyddiaeth rydych chi’n ei haeddu.

GwirfoddoliGwirfoddolwch ar gyfer un o’n gwasanaethau elusennol, gan gynnwys ein siopau, yn ein swyddfeydd neu yn un o’n digwyddiadau codi arian. Noddi

Ydych chi eisiau codi proffil eich busnes? Siaradwch â ni am bartneriaeth gorfforaethol gydag Age Cymru a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu. www.agecymru.org.uk/getinvolvedRhif ffôn: 029 2043 1555

PrynuMae nifer ohonom eisiau parhau i fod yn annibynnol, felly dyma pam rydym yn cynnig cynhyrchion a gwasanaethau gwych. Mae nifer o bobl hŷn yn dewis trefnu eu hyswiriant* trwy Age Cymru neu un o bartneriaid lleol Age Cymru. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth wych o gynigion cystadleuol ar gynhyrchion, gan gynnwys lifftiau grisiau, cymhorthion bath a chynhyrchion symudedd eraill. www.agecymru.org.uk/local

RhoddiGwerthfawrogir pob rhodd, boed yn fach neu fawr, gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n gwaith parhaus.

Mae ein siopau elusennol ledled Cymru angen rhoddion bob amser o ddillad, llyfrau, addurniadau, gemwaith a dodrefn cartref. Rydym yn falch bod yr arian rydym ni’n ei godi trwy ein siopau yn cael ei wario ar brosiectau yng Nghymru.

Cofiwch amdanom yn eich ewyllys Bydd gadael rhodd i Age Cymru yn sicrhau ein bod yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

*Darperir yswiriant cartref, teithio a moduro gan Ageas Insurance Limited.