40
Quarterly Report | intouch | www.wwha.co.uk | 1 intouch RHIFYN 85 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West Yn y rhifyn hwn... Cynllun gofal ychwanegol newydd yn dod i’r Drenewydd Granau gwneud gwahaniaeth: sut rydyn ni wedi eich helpu chi CYFLE I ENNILL: Llyfr ‘Everyday Superfood’ Jamie Oliver Staff WWH yn rhoi cartref i gŵn tywys

Intouch

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Rhifyn 85

Citation preview

Page 1: Intouch

Quarterly Report | intouch | www.wwha.co.uk | 1

intouchRHIFYN 85 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn...

Cynllun gofal ychwanegol newydd yn dod i’r Drenewydd

Grantiau gwneud gwahaniaeth: sut rydyn ni wedi eich helpu chi

CYFLE I ENNILL: Llyfr ‘Everyday Superfood’ Jamie Oliver

Staff WWH yn rhoi cartref i gŵn tywys

Page 2: Intouch

Ydych chi’n byw yn un o’n cartrefi ?Oes gennych chi ddiddordeb mewn:

• Lleoliadau gwaith• Dychwelyd

i weithio

• Ailhyff ordd• Prenti siaethau

Adeiladu a Chrefft au

Arlwyo Gofal

Gweinyddu/Gwasanaethau Cwsmeriaid

[email protected] 052 2526www.wwha.co.uk @wwha

Page 3: Intouch

Croeso i rifyn 85 InTouch - cylchgrawn arbennig ar gyfer preswylwyr Tai Wales & West. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn edrych yn ôl ar sut rydyn ni wedi eich helpu chi yn 2015 drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth. Ar dudalen 12 fe welwch chi rai o’r gerddi cymunedol gwych rydym wedi eich helpu chi i’w creu gyda’n grant Gwneud Gwahaniaeth Amgylcheddol. Mae ein grant Gwneud Gwahaniaeth Cymunedol hefyd wedi caniatáu i lawer ohonoch roi cychwyn ar weithgareddau grŵp (tudalen 26).

Yn olaf ond yn sicr nid y lleiaf, cafodd ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol ei gyflwyno y llynedd i’ch helpu chi gyda chyfleoedd gwaith, hyfforddiant ac addysg, ac ar dudalen 23, cewch wybod sut mae cyd-breswylwyr wedi elwa.

Efallai eich bod chi wedi sylwi ar y clawr blaen fod ffrindiau ar bedair coes wedi ymuno â’n tîm... Yn dilyn apêl gan elusen Cŵn Tywys Cymru, fe wnaeth tri o staff WWH - gan gynnwys ein Prif Weithredwr Anne Hinchey – gymryd cŵn tywys dan hyfforddiant fel rhan o fenter lety’r elusen. Mae’n deg dweud fod ein cydweithwyr blewog newydd yn boblogaidd iawn yn y swyddfa! Cewch wybod mwy ar dudalen 8.

Rydym hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cynllun gofal ychwanegol blaenllaw, Llys Glan-yr-Afon, i fod i agor yn ddiweddarach eleni yn y Drenewydd, Powys. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn byw yn y cynllun, a byddwn yn cynnal diwrnod gwybodaeth yn y dref ym mis Mawrth ar gyfer darpar breswylwyr a’u teuluoedd. Am fanylion, trowch at dudalen 9.

Ac yn olaf, oes gennych chi syniadau ar gyfer InTouch neu syniadau ar sut y gallwn ei wella? Wel, fe hoffen ni glywed gennych chi! Pa un ai awgrym ar gyfer nodwedd reolaidd sydd gennych chi, neu beth hoffech chi weld rhagor ohono, rhowch wybod i ni (tudalen 4).

Dyna rhai o uchafbwyntiau’r rhifyn hwn o InTouch! Rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ei ddarllen, a than y tro nesaf, cymerwch ofal.

Y Tîm Golygyddol

Llythyr y Golygydd a Chynnwys | intouch | www.wwha.co.uk | 03

Llythyr y Golygydd Cynnwys

Ieithoedd a fformatau eraillOs hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er enghraifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UDFfôn: 0800 052 2526 Testun: 07788 310420 E-bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Er enghraifft, [email protected]

Newyddion a gwybodaeth am WWH 4Datblygiadau diweddaraf 9Byw’n wyrdd 12Materion ariannol 15Adroddiad chwarterol 17Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol 22Y diweddaraf am elusennau 25Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned 26Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 29Byw’n iach 30Cyfle i ennill llyfr ‘Everyday Superfood’ Jamie Oliver 32Cystadleuaeth PH Jones 33Cyfranogiad preswylwyr 34Eich newyddion a’ch safbwyntiau 36Pen-blwyddi a dathliadau 39

Ydych chi’n byw yn un o’n cartrefi ?Oes gennych chi ddiddordeb mewn:

• Lleoliadau gwaith• Dychwelyd

i weithio

• Ailhyff ordd• Prenti siaethau

Adeiladu a Chrefft au

Arlwyo Gofal

Gweinyddu/Gwasanaethau Cwsmeriaid

[email protected] 052 2526www.wwha.co.uk @wwha

Page 4: Intouch

04 | www.wwha.co.uk | intouch |Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC/CSSIW), mae’r sefydliad yn darparu gwasanaeth gofal a chymorth, sy’n canolbwyntio ar unigolion, i oedolion sydd angen cymorth gydag amrywiaeth o dasgau byw bob dydd.

Mae Gofal a Chymorth Castell yn cael ei arwain gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a nod y sefydliad yw gwella

Allech chi fod yn weithiwr cymorth?

bywydau lle bynnag y bo modd. Mae’n credu mewn galluogi a grymuso pobl i fod â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Bydd y tîm o recriwtiaid newydd cyntaf yn dechrau gweithio ar ddatblygiad newydd cyffrous sy’n werth £2.3 miliwn o 23 o gartrefi yn Abergele, sydd i fod i agor yn ystod yr haf.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 123 2998.

Mae Gofal a Chymorth Castell - sefydliad newydd sbon sy’n gweithredu ar ran Castell Ventures, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West - yn bwriadu recriwtio gweithwyr cymorth a rhywun i’w harwain.

Mae InTouch ar eich cyfer chi – ein preswylwyr. Felly, rydyn ni eisiau gwybod beth hoffech chi ei weld!

Oes gennych chi syniad am erthygl neu nodwedd reolaidd rydych chi’n meddwl fyddai o ddiddordeb i breswylwyr? Neu oes gennych chi syniadau am sut gallen ni wella? Os felly, rhowch wybod i ni!

Gallwch gysylltu â ni i anfon eich syniadau atom drwy e-bostio [email protected] neu ffonio ein Tîm Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ar 0800 052 2526.

Rydyn ni eisiau eich safbwyntiau!

Page 5: Intouch

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 05

Nid yw Juliette Poynton, sy’n 44 oed, wedi difaru ymuno â thîm Castell Catering yn Llys Jasmine, Sir y Fflint.Mae hi nid yn unig wedi dod o hyd i waith sydd wrth ei bodd, ond mae hi hefyd wedi ennill sgiliau a chael NVQ Lefel 2.

“Roeddwn i yma o’r dechrau, dros ddwy flynedd yn ôl, pan agorodd Llys Jasmine ac y dechreuodd Castell Catering weithredu gyntaf. Roeddwn i’n helpu i ddadbacio bocsys a gosod y silffoedd!” meddai Juliette, a oedd yn gynorthwyydd arlwyo ac sydd wedi symud ymlaen i fod yn gogydd.

“Roeddwn i’n gynorthwyydd arlwyo i Toyota cyn hynny, ac roeddwn i wedi bod yn gweithio fel glanhawraig yng Ngholeg Cambria hefyd. Mae hyn yn wahanol; mae’r oriau’n cyd-fynd yn well â bywyd teuluol.

“Rhoddodd Castell Catering gyfle i mi hefyd ennill cymwysterau - mae’r cyfan yn seiliedig ar waith, felly mae’r tiwtor o Goleg Cambria yn ymweld â mi ac yn asesu fy ngwaith sy’n ymwneud â hylendid bwyd, pysgod, cig, llysiau, sawsiau poeth a chacennau. Rydw i wrth fy modd yn pobi! “

Mae Juliette yn awr yn mynd ymlaen i NVQ Lefel 3. “Dim ond drwy brofiad ymarferol mae rhywun yn dysgu. Rydw i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Mae’r tîm yn wych yma – rydyn ni’n helpu ein gilydd ac rydw i wedi dod i adnabod y preswylwyr yn dda – maen nhw’n dod yn ffrindiau i chi. Hoffwn ddiolch i Castell Catering am eu holl gefnogaeth.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i Castell Catering? Ffoniwch 0800 052 2526 am ragor o wybodaeth, ewch i www.wwha.co.uk neu e-bostiwch [email protected]

“Rydw i wrth fy modd yn gweithio i

Castell Catering”

Page 6: Intouch

06 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Oes gan eich cisglodyn micro?O 6 Ebrill 2016, fe fydd hi’n anghyfreithlon peidio â chael sglodyn micro ar eich ci.Bydd Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn 2014 yn cael eu gorfodi gan awdurdodau lleol a heddluoedd. Fe fydd hi hefyd yn drosedd methu â chadw eich manylion cofrestru yn gyfoes - er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu’r ci, yn newid eich manylion cyswllt neu’n symud i fyw.

Mae polisi anifeiliaid anwes WWH eisoes yn datgan os byddwn yn rhoi caniatâd i chi gael ci yn eich cartref, fod yn rhaid iddo gael microsglodyn.

Bydd yr Ymddiriedolaeth Cŵn yn cynnig gosod microsglodion am ddim mewn digwyddiadau ledled y wlad mewn ymgais i helpu cymaint â phosibl o berchnogion i roi microsglodyn ar eu cŵn cyn 6 Ebrill.

I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau gosod microsglodion yn eich ardal chi, ewch i www.chipmydog.org.uk

Nid yw cofrestru i bleidleisio’n rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl amdano y tu allan i gyfnod etholiad cyffredinol. Ond oeddech chi’n gwybod y bydd etholiadau’r Cynulliad a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn digwydd cyn bo hir?Mae gallu pleidleisio yn gyfle i chi ddweud eich dweud ynglŷn â phwy sy’n eich cynrychioli chi yn eich cyngor lleol, yn Senedd y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Yng Nghymru, mae cofrestru hefyd yn rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud ynglŷn â phwy sy’n eich cynrychioli chi yma.

Er mwyn pleidleisio, mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol. Mae’n hawdd gwneud hynny – ewch i www.gov.uk/register-to-vote

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi cofrestru’n barod, gallwch gysylltu â’ch swyddfa gofrestru etholiadol leol.

I gael rhagor o wybodaeth am bleidleisio, ewch i www.aboutmyvote.co.uk

Fyddwch chi’n pleidleisio?

Page 7: Intouch

Newyddion a gwybodaeth gyffredinol | intouch | www.wwha.co.uk | 07

Gweinidog yn ymweld â Caerau Court yn dilyn £3 miliwn o arian adfywio

Yn olaf, cafodd dros £90,000 ei wario ar wella ymddangosiad cyffredinol Caerau Court Road. Aeth y Gweinidog ar daith o gwmpas y cynllun ochr yn ochr â’r Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Llesiant.

Roedd cynrychiolwyr o Melin Homes a’r contractwr SMK hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â’n Prif Weithredwr Anne Hinchey a Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH.

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths: “Roeddwn i wrth fy modd fy mod i wedi cael ymweld â Caerau Court i weld y gwaith adfywio mawr sydd wedi digwydd yno.

“Mae tai cymdeithasol o safon yn helpu i drawsnewid bywydau miloedd o bobl yng Nghymru, gan eu galluogi nhw i fyw mewn cartref saff, diogel a chynnes.”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae WWH a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £3 miliwn rhyngddyn nhw i drawsnewid Caerau Court a chwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru – gan wella ymddangosiad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi yno’n ddramatig.

Wedi ei adeiladu yn 1967 ac yn cynnwys 107 o dai, mae Caerau Court Road yn gartref i dros 250 o bobl. Mae’r gwaith wedi arwain at inswleiddio waliau o’r newydd, inswleiddio’r to, gosod ffenestri, a systemau awyru a gwres canolog mewn cartrefi i helpu lleihau biliau ynni preswylwyr. Mae CCTV newydd, systemau mynediad y drws a goleuadau allanol hefyd, wedi cael eu gosod er mwyn helpu preswylwyr i deimlo’n ddiogel. Ar ben hynny, fe wnaeth y bloc tŵr elwa ar system chwistrellu arloesol newydd i wella diogelwch tân - un o’r rhai cyntaf o’i bath yng Nghaerdydd.

Bu’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, ar ymweliad â Caerau Court Road yng Nghaerdydd yn ddiweddar yn dilyn gwaith adfywio mawr ar y cynllun.

Page 8: Intouch

08 | www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a gwybodaeth gyffredinol

Cymerodd tri aelod o’r tîm yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gŵn tywys dan hyfforddiant, sef Yaron, Berry a Brooke, gan roi cartref i’r cŵn tra’r oedden nhw’n cael eu hyfforddi.

Roedd hyn yn rhan o fenter ‘llety’ Cŵn Tywys Cymru, sy’n chwilio am wirfoddolwyr i ddarparu cartref dros dro i gŵn dan hyfforddiant am gyfnod rhwng 6 a 12 wythnos.

Cymerodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, adargi melyn hyfryd o’r enw Berry, tra bod y Swyddog Datblygu Cynorthwyol Rachel Stephens wedi gofalu am Labrador serchog o’r enw Brooke. Yn y cyfamser, fe wnaeth y Cynorthwyydd Gweinyddol Kate Solomon roi cartref i Labradoodle chwareus o’r enw Yaron.

Wrth siarad am ei phrofiad, dywedodd Kate: “Roeddwn i wrth fy modd yn gofalu am Yaron, ac roedd y profiad o helpu i hyfforddi ci tywys yn wych. Rydw i mor falch ei fod o gyda theulu hyfryd erbyn hyn, a bydd yn gallu bod yn gymaint o help iddyn nhw.”

Drwy gydol eu profiad lletya, mae gwirfoddolwyr yn cael cefnogaeth, cyngor ar sgiliau trafod, cymorth cyntaf sylfaenol

a chyngor ar ofal a lles cyffredinol eu cŵn. Yn ystod yr wythnos, roedd y cŵn yn mynd i ysgol hyfforddi’r elusen yng Nghaerdydd cyn dychwelyd at eu gofalwyr gyda’r nos.

Dywedodd Jonathan Mudd, pennaeth Cŵn Tywys Cymru: “Rydyn ni’n ehangu ein tîm ac yn hyfforddi rhagor o gŵn, sy’n golygu ein bod ni angen mwy o wirfoddolwyr i roi llety iddyn nhw. Mae’n rôl sy’n aml yn addas i bobl sy’n gweithio ac sy’n hoffi cŵn, ond sy’n rhy brysur i ofalu am anifail anwes eu hunain.

“Mae’n rhoi boddhad mawr bod yn rhan o fagwraeth a hyfforddiant ci tywys, a fydd maes o law yn rhoi rhyddid ac annibyniaeth i rywun dall neu rannol ddall.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH a’r un a fu’n gofalu am Berry, y ci tywys: “Mae cynorthwyo â’r gwaith o hyfforddi’r cŵn tywys hyn wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

Mae Cefnogi Cŵn Tywys Cymru gyda’r fenter llety wedi bod yn brofiad gwerth chweil, gan wybod ein bod ni wedi helpu’r achos gwych hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Staff WWH yn rhoi

cartrefi gŵn tywysFe wnaeth staff WWH groesawu ffrindiau arbennig ar bedair coes i’r tîm yn ddiweddar i gefnogi Cŵn Tywys Cymru.

Kate a Yaron y ci tywys

Page 9: Intouch

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 09

Cynllun gofal ychwanegol yn dod i’r Drenewydd!

O fewn cyrraedd hawdd at ganol tref brysur y Drenewydd, mae’r 48 fflat – 37 ag un ystafell wely ac 11 â dwy ystafell wely – yn debygol o gael eu cwblhau yn ystod hydref 2016.

Bydd y fflatiau ar gael i’w rhentu gan WWH i’r bobl hynny sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster.

Nid dim ond fflat neu dŷ yw gofal ychwanegol - eich cartref chi eich hun ydyw, gyda’ch drws ffrynt eich hun. Drwy symud i’n cynllun, gallwch gael gwedd newydd ar fywyd, gan wybod eich bod chi’n gallu byw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth gan y tîm gofal ar y safle pan fyddwch ei angen.

Bydd y 48 fflat yn natblygiad gofal ychwanegol Tai Wales & West, Llys Glan-yr-Afon, yn agor yn y Drenewydd, Powys, yn ddiweddarach eleni.

Mae nodweddion allweddol Llys Glan-yr-Afon yn cynnwys:

- Staff gofal ar y safle 24 awr y dydd

- Mae’r holl fflatiau yn cynnwys ystafelloedd gwlyb en-suite a cheginau gyda’r holl gyfarpar

- Ystafelloedd ymolchi â chymorth

- Lolfeydd

- Swît i westeion

- Salon trin gwallt

- Terasau

- Gerddi

- Bwyty

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar y rhif Rhadffôn 0800 052 2526 neu ewch i www.wwha.co.uk

Page 10: Intouch

10 | www.wwha.co.uk | intouch | Datblygiadau diweddaraf

Cartrefi newyddyn dod i Fro Morgannwg

Mae’r eiddo ar gael i brynwyr tro cyntaf lleol sy’n gweithio ac yn gallu cael morgais, ond yn methu fforddio eiddo addas ar y farchnad agored.

Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd â chysylltiad lleol ag ardal Gwenfô. Mae’r cynllun wedi ei seilio ar ecwiti a rennir, sy’n golygu mai dim ond ar gyfer 70% o’r pris prynu fydd yn rhaid i chi drefnu morgais ar gyfer yr eiddo, er mai chi fydd yn berchen arno.

Mae gan WWH 16 o gartrefi dwy ystafell wely newydd sbon ar werth am 70% eu gwerth at y farchnad yng Ngwenfô, Bro Morgannwg.

70% o werth un o’r cartrefi newydd hyn yw £ 125,000 - felly fe fyddai angen i chi fod yn gallu trefnu morgais ar gyfer y swm hwn.

Mae’r cartrefi yn rhan o ddatblygiad newydd sbon ac yn cael eu hadeiladu i gyrraedd lefel uchel o gynaliadwyedd. Fe fyddan nhw hefyd yn elwa ar 10 mlynedd o warant NHBC.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Datblygu ar 0800 052 2526.

Page 11: Intouch

Datblygiadau diweddaraf | intouch | www.wwha.co.uk | 11

Gweinidogyn ymweld â datblygiad newydd yn y Rhyl

Mae Parc Brickfields, sydd ar restr fer y Gwobrau Arloesi ym maes Tai, yn cael ei gefnogi gan £2.1 miliwn o gynllun Grant Cyllid Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Cyfarfu’r Gweinidog â phreswylwyr sydd wedi symud yno’n ddiweddar a chafodd daith o gwmpas y cynllun, sy’n cynnwys 24 o gartrefi fforddiadwy - 16 o dai ac wyth o fflatiau, ac a adeiladwyd gan Anwyl Construction.

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog: “Roeddwn i’n falch o gwrdd â phreswylwyr sydd wedi symud i Barc Brickfields yn ddiweddar a chlywed y

Bu’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros dai, Lesley Griffiths, yn ymweld â’n datblygiad gwerth £2.3 miliwn o gartrefi fforddiadwy yn y Rhyl yn ddiweddar.

gwahaniaeth cadarnhaol y mae wedi ei wneud i’w bywydau.

“Yn barod, rydyn ni 91% o’r ffordd at gyrraedd ein targed o ddarparu 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru erbyn diwedd tymor cyfredol y Cynulliad ac mae ein Cynllun Grantiau Tai yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni’r nod.

“Mae’r datblygiad yma yn y Rhyl hefyd yn enghraifft dda o weithio mewn partneriaeth tuag at yr un nod o adeiladu tai fforddiadwy.”

Page 12: Intouch

12 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Dyfarnwyd ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Amgylchedd i 13 o brosiectau garddio ac amgylcheddol gan breswylwyr WWH ledled Cymru y llynedd – gan ddod â chyfanswm y prosiectau rydym wedi eu cefnogi i gyfanswm o 51! Dyma rai yn unig o’r prosiectau gwych rydym wedi eu helpu yn 2015.

Sut wnaethon ni helpu eich gerddi i dyfu

yn 2015Drwy gydol 2015, buom yn helpu llawer ohonoch chi i ddatblygu gerddi cymunedol er mwyn dod â phobl at ei gilydd, gwella llesiant yn eich cymuned a dysgu sgiliau newydd.

Hope Court, CaerdyddYng ngwanwyn 2015, ymunodd aelodau o dîm WWH â phreswylwyr Hope Court i adeiladu gardd gymunedol newydd yn y cynllun. Bu’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau fod dau wely plannu mawr wedi eu codi a sied wedi eu hadeiladu mewn pryd i’r preswylwyr dyfu digon o lysiau a blodau ffres ar gyfer y tymor dilynol.

Ers hynny, mae dau arddwr o blith y preswylwyr, Malcolm Green a Lewis Rimmer, wedi tyfu amrywiaeth drawiadol o ffrwythau a llysiau - gan gynnwys betys, tatws, tomatos, radis, letys, ac afalau. Mae’r preswylwyr yn talu am dwf y cynnyrch eu hunain, gyda’r rhai sy’n byw yn y cynllun yn rhoi arian tuag at hadau, pridd a phlanhigion.

Mae cynnyrch a dyfir yn y cynllun yn symud o’r ardd i’r plât, gyda’r preswylwyr yn defnyddio’r llysiau a dyfir i goginio prydau yng nghegin Hope Court, gan gynnwys pastai stêc a llysiau blasus a chawl cennin a thatws.

Cafodd aelodau grŵp garddio Hope Court eu cydnabod hefyd am eu doniau yn yr ardd yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015, lle’r oedden nhw yn rownd derfynol y categori Eco Bencampwyr.

Page 13: Intouch

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 13

Cwrt Andrew Buchan,

CaerffiliCafodd preswyliwr ysbrydoledig o’r enw Royston Hill o Gwrt Andrew Buchan syniad i ddod â chymuned Rhymni, Caerffili, at ei gilydd drwy greu gardd gymunedol. Roedd gan y cynllun lawer iawn o dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio, felly cysylltodd Royston â WWH i gael cyllid drwy ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’r Amgylchedd.

Yn dilyn llawer o gynllunio, dechreuodd y prosiect o ddifrif ym mis Hydref y llynedd. Cynigiodd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria eu cefnogaeth, gyda’r gweithredwyr yn gwirfoddoli i adeiladu llwybr gwastad a phatio hygyrch ar gyfer rhai sydd â symudedd gwael. Mewn Diwrnod gwirfoddolwyr llwyddiannus arall, bu staff WWH a Cambria yn gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr a gwirfoddolwyr o ganolfan ddydd leol Hafod Deg i adeiladu sied a gwely plannu wedi ei godi.

Cwblhawyd y prosiect ym mis Rhagfyr 2015 ac mae’r preswylwyr wedi bod yn gwneud yn rhyfeddol eisoes drwy dyfu cynnyrch o hadau yn eu tŷ gwydr newydd. Mae gan Royston gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol ac mae wedi sicrhau rhagor o gyllid gan Cymunedau yn Gyntaf, gyda gobeithion i wneud y prosiect yn gynaliadwy drwy werthu cynnyrch ffres i godi arian i’w fuddsoddi yn yr ardd.

Deilliodd y prosiect hwn o bartneriaeth rhwng WWH a Hafan Cymru, sy’n darparu cymorth i oedolion â salwch meddwl. Daeth y ddau sefydliad at ei gilydd i adeiladu gardd gymunedol ar gyfer preswylwyr Salisbury Road, oherwydd y manteision a all ddod i unigolion drwy arddio.

Fe wnaeth gweithredwyr o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wirfoddoli’n garedig i adeiladu llwybr a phatio hygyrch, ac yn dilyn hynny daeth staff WWH a Hafan Cymru at ei gilydd gyda phreswylwyr i adeiladu dau wely plannu mawr wedi eu codi. Darparwyd tŷ gwydr hefyd, felly roedd gan y preswylwyr ddigon o le i dyfu cynnyrch o hadau.

Mae’r preswylwyr, a fu’n gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol Vy Cochran, yn awr yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol – mynd ar gyrsiau hyfforddi a sicrhau

rhagor o gyllid ar gyfer offer a chyfarpar ar gyfer eu prosiect garddio sydd ar gynnydd.

Salisbury Road, Wrecsam

Page 14: Intouch

14 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

preswylwyr, fe wnaeth y rhai sy’n byw yng Nghwrt Anghorfa gyflwyno diwrnod gardd agored ysblennydd. Daeth y cyngor cymuned lleol a Phrif Weithredwr WWH, Anne Hinchey, yno, a hi agorodd yr ardd yn swyddogol.

Mae’r preswylwyr yn awr yn edrych ymlaen at dymor tyfu llwyddiannus arall yn eu gardd gymunedol, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i les a hapusrwydd llawer sy’n byw yn y cynllun er ymddeol.

Ty Ddewi, Rhondda Cynon Taf

gan gynnwys pys, betys, moron, pannas a chnwd toreithiog o ffa Ffrengig, ac mae’r grŵp yn gobeithio eu gwerthu er mwyn buddsoddi’r arian yn yr ardd.

Cafodd y grŵp y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth y llynedd, lle’r oedden nhw’n fuddugol yng nghategori’r Garddwyr Gorau.

Fe wnaethon nhw hefyd gynnal diwrnod gardd agored hynod lwyddiannus yn ddiweddar, lle bu’r preswylwyr yn gwneud bwffe gwych a lle daeth y gymuned ynghyd i ddathlu eu cyflawniadau.

Mae prosiect hynod lwyddiannus arall, sef gardd gymunedol Tŷ Ddewi, wedi mynd o nerth i nerth. Darparodd WWH gyllid ar gyfer llwybr mynediad gwastad a phatio yn y cynllun, yn ogystal â thŷ gwydr a dau wely plannu wedi eu codi hygyrch a adeiladwyd yn ystod diwrnod gwirfoddoli.

Mae’r prif arddwyr yn Nhŷ Ddewi - sef Dee Thorne, John Mann, Alan Bargewell a Wyndham Rowe - wedi gweithio’n hynod o galed i wneud gardd flodeuog hardd i bawb ei mwynhau. Mae’r gwelyau plannu wedi eu codi yn awr yn cynnwys amrywiaeth o lysiau blasus ar gyfer preswylwyr Tŷ Ddewi,

Cwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr A hwythau’n fuddugol yng nghategori Eco Bencampwyr Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2015, gardd Cwrt Anghorfa yw un o’n llwyddiannau mwyaf.

Dechreuodd y prosiect yn 2014, pan fu grant gan WWH yn fodd i ddarparu llwybr a phatio mynediad gwastad yn y cynllun. Cafodd dau wely plannu mawr wedi eu codi eu hadeiladu hefyd gan staff a phreswylwyr yn ystod diwrnod gwirfoddoli - yn wir, roedd un o’r preswylwyr, Maurice Wood, yn brysur yn hau garlleg a nionod y prynhawn hwnnw!

Yn ystod haf 2015, ac ar ôl llawer o waith caled gan arddwyr medrus o blith y

Page 15: Intouch

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 15

Paratoi ar gyfer y Credyd Cynhwysol

Bydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2016, ond dim ond pobl sengl sy’n gwneud cais newydd am Lwfans Ceisio Gwaith fydd yn cael eu heffeithio.

Er na fydd y mwyafrif helaeth o breswylwyr yn cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol yn y dyfodol agos, mae’n werth nodi y bydd angen i rai pobl baratoi ar gyfer rhai rhannau ohono.

Cyllidebu misol: Bydd y Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol, a allai fod yn wahanol i’r ffordd rydych yn cael eich incwm ar hyn o bryd. Gan hynny, mae’n bwysig sicrhau bod eich cyllideb yn iach er mwyn i chi allu wynebu’r newid hwn yn haws. Er nad yw’n debygol y bydd y Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch chi’n fuan, nawr yw’r amser i weithredu, gan nad yw cael gafael ar eich arian yn hawdd bob amser. Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol - www.moneyadviceservice.org.uk - gyngor gwych a rhad ac am ddim ynghylch cyllidebu.

Cael cyfrif banc: Efallai eich bod yn defnyddio cyfrif Swyddfa’r Post sydd ddim ond yn caniatáu i chi godi eich arian, neu efallai y gwelwch chi y byddwch chi’n gorfod gwneud taliadau o’r cyfrif rydych chi’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Os yw hyn yn wir, nawr yw’r amser i agor cyfrif banc newydd

Y Credyd Cynhwysol yw system fudd-daliadau newydd y Llywodraeth sy’n cyfuno nifer o fudd-daliadau’n un taliad misol.

er mwyn eich galluogi chi i ddechrau rheoli eich arian yn effeithiol. Bydd hyn yn gadael i chi dalu biliau fel eich rhent a’r dreth gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy’n golygu nad oes rhaid i chi gofio talu neu fynd i siop neu Swyddfa’r Post. I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol heb ffi, ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol neu siaradwch â’ch Swyddog Cefnogi Tenantiaeth.

Mynd ar-lein: Mae’r Llywodraeth eisiau i hawliadau’r Credyd Cynhwysol gael eu gwneud a’u rheoli ar-lein. Os nad ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ar hyn o bryd, efallai y bydd angen i chi ddechrau meddwl am ffyrdd y gallech ei ddefnyddio. Mae gan lawer o lyfrgelloedd gyrsiau i ddechreuwyr i ddangos sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol i chi. Yn ogystal â helpu i baratoi ar gyfer y Credyd Cynhwysol, mae’r rhyngrwyd yn agor cyfleoedd niferus i arbed arian - o ddefnyddio safleoedd cymharu i fonitro eich defnydd o ynni a biliau.

Os ydych chi eisiau help gyda’ch arian, peidiwch ag anghofio bod ein Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth wrth law i helpu. Cysylltwch drwy ein ffonio ni ar 0800 052 2526.

Page 16: Intouch

16 | www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Yswiriant cynnwys: ydych chi wedi diogelu eich eiddo?

Eich cyfrifoldeb chi yw yswirio eich dodrefn, eich meddiannau ac eitemau personol eraill o fewn eich cartref.

Nid oes yn rhaid i yswiriant cynnwys fod yn ddrud. Mae’r cynllun My Home yn cynnig y cyfle i yswirio eich cynnwys mewn ffordd hawdd a fforddiadwy – am gyn lleied â £2 yr wythnos.

Mae yswiriant cynnwys My Home yn gynllun arbennig a ddarperir gan y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol ar y cyd â Thistle Tenant Risks ac Allianz Insurance plc. Mae ar gael i bob tenant a phreswyliwr sy’n byw mewn tai

cymdeithasol a thai fforddiadwy.

Bydd yr yswiriant hwn yn cynnwys y rhan fwyaf o nwyddau a’r eiddo

yn eich cartref: gan gynnwys eich dodrefn, teledu, dillad,

carpedi, nwyddau trydanol a nwyddau cartref

Efallai eich bod chi wedi gweld darllediadau yn ymwneud â’r tywydd eithafol diweddar ar y newyddion, lle’r oedd pobl yn taflu eu heiddo a ddifrodwyd oherwydd y llifogydd. Er mor drawmatig oedd hyn, mae’r ergyd yn cael ei lleddfu i lawer gan eu bod nhw wedi yswirio cynnwys eu cartref.

cyffredinol - a chynnwys eich rhewgell, hyd yn oed.

Rhai o fanteision polisi My Home yw:

• Gellir talu’r premiymau yn wythnosol

• Gellir yswirio symiau isafswm isel

• Yswiriant “rhai newydd am yr hen rai”

• Dim gordal polisi i’w dalu ar hawliadau (heblaw am £50 am ddifrod damweiniol)

• Yswiriant atebolrwydd personol yn ogystal ag yswiriant yn erbyn tân, lladrad, difrod damweiniol, fandaliaeth a difrod dŵr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.thistlemyhome.co.uk neu ffoniwch My Home ar 0345 450 7288

Page 17: Intouch

Adroddiad chwarterol | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Adroddiad chwarterol:Rhoi’r diweddaraf i chi

Mae’r graffigau gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth allweddol am sut mae Tai Wales & West yn perfformio, fel y gwelwch ar y tudalennau nesaf.

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pob un o’n prif systemau, sef: adeiladu cartrefi, atgyweiriadau, rhent a niwsans yn y gymdogaeth.

Felly, mae modd i chi gael gwybod popeth - o faint o dai rydym wedi eu hadeiladu hyd yn hyn eleni i ba mor hir mae’n ei gymryd i atgyweirio rhywbeth.

Ym mhob rhifyn o Intouch, rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol i chi am un o’r meysydd allweddol hyn fel rhan o nodwedd arbennig.

Y tro hwn, rydym yn edrych ar ein system gosod tai (t20-21).

Felly, cymerwch olwg ar y graffigau, ac os oes gennych chi sylwadau, rhowch wybod i ni drwy e-bostio [email protected] neu ein ffonio ni ar 0800 052 2526.

Mae ein hadroddiad chwarterol wedi ei gynllunio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut hwyl rydym yn ei gael ar ein gwaith fel sefydliad a beth rydym yn ei wneud i wella ein gwasanaethau i chi - ein preswylwyr.

TRWSIO’R TRO CYNTAF

ATGYWEIRIAD LLWYDDIANNUS

DIWRNOD I GWBLHAU

ATGYWEIRIAD

CYFANSWM YR ATGYWEIRIADAU A

GWBLHAWYD

98% 18 diwrnod 6,678

NIWSANS SŴN YMDDYGIAD BYGYTHIOL

CAMDRINIAETH AR LAFAR

Y PRIF FATERION YNGHYLCH YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

64%

ADRODDIADAU AM YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Rydyn ni wedi adeiladu

157o gartrefi newydd

ER YMDDEOLANGHENIONCYFFREDINOLGOFAL YCHWANEGOL

Niwsans yn y gymdogaeth

Atgyweiriadau

Rhent

1162

TENANTIAETH MEWN DYLED

250

02013 2015

Rydym wedi gosod

190o gartrefi yn ystod y

chwarter hwn

Ar gyfartaledd mae hi wedi

cymryd

55diwrnod i osod

cartref

0-5diwrnod

11-15diwrnod

16+diwrnod

6-10diwrnod

Cartrefi

cyfanswm o 765 o gartrefi wedi eu gosod

yn 2015

75 55

110 55

5 33

Wyddech chi…?Rydyn ni eisiau i chi gael mynediad hawdd at yr holl wybodaeth am ein perfformiad a’n cynlluniau yn y dyfodol. O ganlyniad, rydym wedi rhoi ein holl adroddiadau mewn un lle ar ein gwefan i chi.

Mae hyn yn cynnwys ein graffigau gwybodaeth, ein hadroddiad blynyddol, datganiadau ariannol, dyfarniad ynghylch hyfywedd ariannol gan Lywodraeth Cymru ac adroddiad rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.

I weld yr adroddiadau hyn, ewch i’n gwefan - www.wwha.co.uk – a chliciwch ar y ddolen ‘ein perfformiad/ our performance’ ar ochr dde isaf y dudalen hafan.

Page 18: Intouch

TRWSIO’R TRO CYNTAF

ATGYWEIRIAD LLWYDDIANNUS

DIWRNOD I GWBLHAU

ATGYWEIRIAD

CYFANSWM YR ATGYWEIRIADAU A

GWBLHAWYD

98% 18 diwrnod 6,678

NIWSANS SŴN YMDDYGIAD BYGYTHIOL

CAMDRINIAETH AR LAFAR

Y PRIF FATERION YNGHYLCH YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

64%

ADRODDIADAU AM YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Rydyn ni wedi adeiladu

157o gartrefi newydd

ER YMDDEOLANGHENIONCYFFREDINOLGOFAL YCHWANEGOL

Niwsans yn y gymdogaeth

Atgyweiriadau

Rhent

1162

TENANTIAETH MEWN DYLED

250

02013 2015

Rydym wedi gosod

190o gartrefi yn ystod y

chwarter hwn

Ar gyfartaledd mae hi wedi

cymryd

55diwrnod i osod

cartref

0-5diwrnod

11-15diwrnod

16+diwrnod

6-10diwrnod

Cartrefi

cyfanswm o 765 o gartrefi wedi eu gosod

yn 2015

75 55

110 55

5 33

Page 19: Intouch

Rhoddodd preswylwyr newydd sgôr bodlonrwydd o 9.3 allan o 10 i ni am y gwasanaeth a gawson nhw gennym ni wrth ddod o hyd i gartref iddyn nhw

Rhoddodd preswylwyr sgôr bodlonrwydd o 8.8 allan o 10 i ni am y gwasanaeth atgyweirio a gawson nhw gennym ni

Rhoddodd preswylwyr sgôr bodlonrwydd o 8.3 allan o 10 i ni am y gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol a gawson nhw gennym ni

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth oedden nhw’n ei hoffi fwyaf wrth symud i un o’n cartrefi

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella wrth symud i un o’n cartrefi

ANSAWDD YR ATGYWEIRIAD A

GWBLHAWYDCAFODD YR

ATGYWEIRIAD EI WNEUD YN GYFLYM

GW

EITHRED

WYR

CYFEILLGAR A CH

WRTAIS

LLAI O AMSER YN AROS WRTH ROI

GWYBOD AM ATGYWEIRIAD

RHAGOR O ATGYWEIRIADAU’N CAEL EU CWBLHAU

MEWN UN YMWELIAD

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth roedden nhw’n ei hoffi fwyaf am ein gwasanaeth atgyweiriadau

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr beth oedden nhw’n ei hoffi fwyaf am ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr newydd beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella am ein gwasanaeth atgyweiriadau

Fe wnaethon ni ofyn i breswylwyr beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn cael ei wella am ein gwasanaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol

LLEOLIAD EU CARTREF

NODWEDDION EU CARTREF

STAFF CYM

WYN

ASGAR

A CHYFEILLG

AR

TEIMLO’N DDIOGEL YN EU CARTREF EU

HUNAINGWELLA

ANSAWDD BYWYD

Y GEFN

OG

AETH

GAN

STAFF

CWBLHAU ATGYWEIRIADAU’N

GYNT

EIDDO GLANACH

CAEL YCHYD

IG

BACH M

WY O

AM

SER I SYMU

D

GALLU WWH I DROI RHAGOR O

BOBL ALLAN

CAEL GAFAEL AR YR

UNIGOLYN PRIODOL

CAEL GW

YBOD

BETH

SY’N D

IGW

YDD

O DENANTIAETHAU YN TALU EURHENT YN BRYDLON NEU’N

TALU EU HÔL-DDYLEDION

86%

Fe wnaethon ni adeiladu cyfanswm o 77 o

gartrefi yn ystod 2014CW

BLHAU

ATGYW

EIRIADAU

’N

GYN

T

Chwarter 4

Hyd – Rhag 2015

Page 20: Intouch

Rydw i eisiau

cartref

cartrefi a osodwyd gennym yn 2015

922

yw nifer yr eiddo a all fod

yn wag ar unrhyw adeg tra

maen nhw

’n cael eu paratoi

ar gyfer cael eu gosod

eiddo sydd wedi bod yn wag am

fw

y na 3 mis

Mae’r rhan fwyaf o

breswylwyr yn dod oddi

ar restr aros sy’n cael ei

rheoli gan y cyngor, gyda’r

gweddill yn dod o WWH

Rydyn ni’n gosod

cartrefi’n sydyn i bobl sydd eu heisiauo’

r am

ser, b

ydd

y

cynt

af i w

eld ei

n

heid

do yn

der

byn

y

cynn

ig

60-80

60

30

2012 2013 2014 201560%

Mae

pre

swylw

yr n

ewyd

d

yn fo

dlon

â’u

cartr

ef

new

ydd

Ar gyfartaledd mae

pobl yn aros am 7

mlynedd10

5 2012

2

013

20

14

201

5

7Ar gyfarta

ledd

mae’n cymryd dau

gynnig cyn i ni ddod

o hyd i rywun sy’n

addas ac yn barod i

symud i’r eiddo

Mae gosod tai er ymddeol wedi gwella er 2012,

gyda’r cyfartaledd yn awr yn 36 diwrnod

323 oddi ar ein rhestr

599 oddi ar restr y

cyngor (yn 2015)

Mae 22 o gartrefi wedi bod

yn wag am lai nag wythnos

459 Anghenion cyffredinol306 Er ymddeol

157 Gosod o’r newydd

Mae

’r rh

esym

au’n

cynn

wys:

Nodwed

dion e

u car

tref, l

leolia

d

eu ca

rtref,

a sta

ff cym

wynas

gar a

chyfe

illgar

12

EIN SYSTEM GOSODEIDDO

SGÔR

DIWRNOD

GWEI

THRE

DU

Fe w

naw

n ni

dda

ngos

yr

eidd

o i b

resw

ylwyr

new

ydd

yn g

ynna

r, a

lle b

o hy

nny’

n

bosib

l, fe

wna

wn

ni e

u

cyflw

yno

nhw

i’r p

resw

yliw

r

sydd

yno

ar h

yn o

bry

d cy

n

iddy

n nh

w sy

mud

odd

i yno

Fe w

naw

n ni

roi’r

cym

orth

pr

iodo

l i br

esw

ylwyr

ne

wyd

d, o

s oes

ei a

ngen

, fe

l y ga

llan

nhw

sefy

dlu

eu

cartr

ef n

ewyd

d

Fe wnaw

n ni roi digon

o amser i bresw

ylwyr

newydd w

neud trefniadau

a lleihau’r amser y bydd

cartref yn wag

Fe wnawn ni weithio’n

agos gydag awdurdodau

lleol i ddod o hyd i

breswyliwr addas sy’n

barod i symud i gartref

newydd

Fe wnawn ni gynnal yr

atgyweiriadau priodol ar gyfer

pob preswyliwr newydd i’w

helpu nhw i ymgartrefu’n

sydyn a llwyddiannus

Dilynwch ein proses

i ddeall ein system

gosod eiddo a gweld

pa gamau rydyn ni’n

eu cymryd

GWEI

THRE

DUGWEITHREDU

GWEITHREDU

GWEITHREDU

Page 21: Intouch

Rydw i eisiau

cartref

cartrefi a osodwyd gennym yn 2015

922

yw nifer yr eiddo a all fod

yn wag ar unrhyw adeg tra

maen nhw

’n cael eu paratoi

ar gyfer cael eu gosod

eiddo sydd wedi bod yn wag am

fw

y na 3 mis

Mae’r rhan fwyaf o

breswylwyr yn dod oddi

ar restr aros sy’n cael ei

rheoli gan y cyngor, gyda’r

gweddill yn dod o WWH

Rydyn ni’n gosod

cartrefi’n sydyn i bobl sydd eu heisiauo’

r am

ser, b

ydd

y

cynt

af i w

eld ei

n

heid

do yn

der

byn

y

cynn

ig

60-80

60

30

2012 2013 2014 201560%

Mae

pre

swylw

yr n

ewyd

d

yn fo

dlon

â’u

cartr

ef

new

ydd

Ar gyfartaledd mae

pobl yn aros am 7

mlynedd

10

5 2012

2

013

20

14

201

5

7Ar gyfarta

ledd

mae’n cymryd dau

gynnig cyn i ni ddod

o hyd i rywun sy’n

addas ac yn barod i

symud i’r eiddo

Mae gosod tai er ymddeol wedi gwella er 2012,

gyda’r cyfartaledd yn awr yn 36 diwrnod

323 oddi ar ein rhestr

599 oddi ar restr y

cyngor (yn 2015)

Mae 22 o gartrefi wedi bod

yn wag am lai nag wythnos

459 Anghenion cyffredinol306 Er ymddeol

157 Gosod o’r newydd

Mae

’r rh

esym

au’n

cynn

wys:

Nodwed

dion e

u car

tref, l

leolia

d

eu ca

rtref,

a sta

ff cym

wynas

gar a

chyfe

illgar

12

EIN SYSTEM GOSODEIDDO

SGÔR

DIWRNOD

GWEI

THRE

DU

Fe w

naw

n ni

dda

ngos

yr

eidd

o i b

resw

ylwyr

new

ydd

yn g

ynna

r, a

lle b

o hy

nny’

n

bosib

l, fe

wna

wn

ni e

u

cyflw

yno

nhw

i’r p

resw

yliw

r

sydd

yno

ar h

yn o

bry

d cy

n

iddy

n nh

w sy

mud

odd

i yno

Fe w

naw

n ni

roi’r

cym

orth

pr

iodo

l i br

esw

ylwyr

ne

wyd

d, o

s oes

ei a

ngen

, fe

l y ga

llan

nhw

sefy

dlu

eu

cartr

ef n

ewyd

d

Fe wnaw

n ni roi digon

o amser i bresw

ylwyr

newydd w

neud trefniadau

a lleihau’r amser y bydd

cartref yn wag

Fe wnawn ni weithio’n

agos gydag awdurdodau

lleol i ddod o hyd i

breswyliwr addas sy’n

barod i symud i gartref

newydd

Fe wnawn ni gynnal yr

atgyweiriadau priodol ar gyfer

pob preswyliwr newydd i’w

helpu nhw i ymgartrefu’n

sydyn a llwyddiannus

Dilynwch ein proses

i ddeall ein system

gosod eiddo a gweld

pa gamau rydyn ni’n

eu cymryd

GWEI

THRE

DU

GWEITHREDU

GWEITHREDU

GWEITHREDU

Page 22: Intouch

22 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol

Sut rydyn ni wedi helpu

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethon ni wario dros £30,000 a chefnogi o leiaf 60 o breswylwyr yn y ffyrdd a ganlyn:

Cafodd ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol ei lansio yn 2015 i helpu preswylwyr oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd i fyd gwaith, addysg a hyfforddiant.

Cyrraedd y gwaith

Dechrau busnes

Mynd i’r coleg

Gweithio ar safle

3 beic i deithio i’r gwaith

3 threfniant costau teithio i’r gwaith yn y

tymor byr

2 docyn bws blynyddol

1 cwrs hyfforddiant beiciau modur a

helmed

12 busnes newydd wedi cael help i’w

sefydlu

6 pecyn cyfarpar arbenigol wedi eu

prynu

5 cwrs hyfforddiant arbenigol

2 drwydded tacsi

Cael swydd

4 set o ddillad cyfweliad/gwaith

6 cyrsiau coleg

14 gliniadur i gefnogi astudiaethau

8 argraffydd/camera digidol

2 set o werslyfrau ar gyfer cyrsiau

5 set o eitemau arbenigol ar gyfer

cyrsiau

2 trwydded wagen fforch godi

1 hyfforddiant ymwybyddiaeth o

asbestos

2 hyfforddiant cledrau rheilffordd

1 pasbort diogelwch safle

1 tocyn goruchwyliwr safle

1 hyfforddiant peiriannau safle

gwaith

Page 23: Intouch

Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol | intouch | www.wwha.co.uk | 23

A dyma rai yn unig o’ch storïau llwyddiant yn dilyn cymorth gan ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol!

Cheryl Litchfield-PayneCheryl, o Ferthyr Tudful, oedd ein preswyliwr cyntaf i elwa ar grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol. Roedd hi wedi colli ei gwaith fel tiwtor cymunedol ac wedi penderfynu ei bod yn amser iddi droi ei diddordeb mewn celf a chrefft yn fusnes.

Gyda chefnogaeth gan ein Tîm Menter Gymunedol, cyfarfu Cheryl â Blas ar Fenter i gwblhau cynllun busnes, a ninnau wedyn yn darparu arweiniad ynghylch bod yn hunangyflogedig a phrynu offer i Cheryl allu dechrau arni.

Flwyddyn ar ôl ein cefnogaeth gychwynnol, mae Cheryl yn gwneud yn dda iawn. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar gasgliad o luniau o anifeiliaid i’w harddangos mewn oriel a fydd hefyd yn cefnogi elusennau anifeiliaid

- rhywbeth sy’n agos at ei chalon. Dywedodd Cheryl: “Mae’n syndod pa mor brysur ydw i! Mae fy enw i’n cael sylw ac mae cwsmeriaid rheolaidd yn dod yn ôl ataf yn gyson.”

Gareth SansomRoedd Gareth yn gweithio’n agos gyda’i Swyddog Cefnogi Tenantiaeth, Will Brooks, a awgrymodd y dylai wneud cais am grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol i’w gynorthwyo gyda’i ragolygon cyflogaeth.

Ar ôl bod allan o waith am 14 mlynedd, ac yntau wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau, roedd Gareth yn gwybod fod angen iddo fynd yn ôl i hyfforddi neu i fyd addysg i wella ei gyfleoedd.

Roedd Gareth wedi bod yn awyddus erioed i ddysgu sut i weldio, felly fe wnaeth ein grant dalu cost cwrs i Gareth yn ei goleg lleol, yn ogystal â darparu offer amddiffynnol iddo.

Mwynhaodd Gareth y cwrs gymaint, ac fe wnaeth mor dda fel iddo wneud cais llwyddiannus am grant pellach i symud ymlaen i lefel nesaf yr hyfforddiant weldio a chynyddu ei gyfle o gael swydd ymhellach.

Mae Gareth yn parhau i wneud yn dda iawn ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

i newid eich dyfodol

Page 24: Intouch

24 | www.wwha.co.uk | intouch | Gwneud gwahaniaeth i’ch dyfodol

Royston HillMae Royston, sy’n byw yng Nghwm Rhymni, wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’n tîm i ddatblygu gardd gymunedol yng Nghwrt Andrew Buchan. Cafodd Royston ei ddewis o blith 200 o wirfoddolwyr eraill i ddechrau ar gwrs diploma mewn Garddwriaeth, Amaethyddiaeth a Garddio Domestig i roi’r sgiliau angenrheidiol iddo gynnal yr ardd a chreu meithrinfa blanhigion i werthu cynnyrch i bobl leol a chynhyrchu arian i’w ail-fuddsoddi.

Fe wnaeth Royston gais am grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Dyfodol ym mis Gorffennaf 2015, pan ofynnodd am liniadur ac argraffydd i’w alluogi i gwblhau ei ddiploma. Dywedodd: “Rydw i eisiau parhau i astudio i gadw fy meddwl yn iach, gwella lle rwy’n byw a rhannu’r hyn rydw i wedi ei ddysgu gyda phobl eraill.”

Mae Royston wedi bod yn gwirfoddoli mewn prosiect garddio lleol arall hefyd am ddau ddiwrnod yr wythnos dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ei frwdfrydedd dros arddio a dysgu wedi ysbrydoli preswylwyr a staff WWH fel ei gilydd.

O ganlyniad i’w ymroddiad a’i ymdrechion, cafodd Royston ei enwi ar restr fer categori’r Arwr Lleol yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn 2015.

Natalie RohmanDechreuodd Natalie ei busnes gofalu am anifeiliaid anwes y llynedd, gan ofalu am anifeiliaid tra mae eu perchnogion yn y gwaith neu ar wyliau.

Doedd dim car gan Natalie i fynd i’w hapwyntiadau, felly daeth atom ni am gymorth. Ar ôl trafod anghenion Natalie ac adolygu ei chynllun busnes, fe wnaethon ni ddarparu beic a’r offer diogelwch angenrheidiol.

Mae’r beic wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i Natalie a dechreuodd ei busnes dyfu. Ers hynny, mae Natalie wedi symud ymlaen i gael ei char ei hun ar gyfer gwaith, ond mae hi’n dal i ddefnyddio ei beic ar gyfer apwyntiadau lleol.

Dywed Natalie fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn brysur iawn o ran ei gwaith. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ei busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth!

Page 25: Intouch

Y diweddaraf am elusennau | intouch | www.wwha.co.uk | 25

WWH yn cyfrannu £12,000 i helpu dioddefwyr cam-drin domestig

Cafodd y cyfraniad ei rannu rhwng 12 o sefydliadau cymorth ar draws y wlad, a gafodd £1000 yr un, gyda’r holl grwpiau wedi eu lleoli yn yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n gweithredu.

Cafodd y grwpiau eu dewis oherwydd eu gwaith yng nghymunedau Cymru yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig.

Y sefydliadau a gafodd gyfraniad oedd Cymorth i Fenywod Caerdydd, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy, Cymorth i Ferched CAHA (Treffynnon), Calan DVS (Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys), Gwasanaeth Cam-drin Domestig Colwyn, Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Sir y Fflint, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gogledd Sir Ddinbych, Cymorth i Ferched Glyndwr (Dinbych), Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf a Chymorth i Fenywod Abertawe.

Roedd BAWSO, grŵp Cymru gyfan sy’n

Mae WWH wedi cyfrannu £12,000 at wasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol i helpu menywod a phlant sy’n dioddef cam-drin domestig.

darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ddomestig a ffurfiau eraill o gamdriniaeth, hefyd yn un o’r 12 o grwpiau a elwodd.

Dywedodd Kathy Smart, Cadeirydd Bwrdd WWH: “Yn Tai Wales & West, rydym yn credu mewn gwneud yr hyn a allwn ni er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

“Dewisodd ein Bwrdd y sefydliadau hyn oherwydd y gwaith uniongyrchol maen nhw’n ei wneud yn ein cymunedau i helpu’r menywod a’r plant hynny sy’n agored i niwed ac sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig.

“ Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r anawsterau mae dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yn eu hwynebu - mae’n fater hynod gymhleth sy’n effeithio ar lawer o bobl o bob cefndir, yn anffodus. Rwy’n gobeithio y bydd ein cyfraniad yn mynd rywfaint o’r ffordd at gynorthwyo’n uniongyrchol y rhai sydd angen cymorth a chefnogaeth.”

Anne Hinchey a Kathy Smart o WWH yn cyflwyno cyfraniad o £1000 tuag at Cymorth i Fenywod Caerdydd

Page 26: Intouch

26 | www.wwha.co.uk | intouch Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Ers i’r grant ddechrau yn 2007, rydyn ni wedi dyfarnu dros £40,000 i 139 o grwpiau, gyda thros 7,000 o breswylwyr wedi elwa.

Gall ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned eich helpu chi i ddod â’ch cymuned at ei gilydd drwy weithgareddau cymdeithasol hwyliog. Dyma rai o’r grwpiau y gwnaethon ni roi arian iddyn nhw y llynedd.

Helpu i wneud gwahaniaeth i’ch cymunedCafodd ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch cymuned flwyddyn lwyddiannus arall unwaith eto yn 2015, gyda 15 o grantiau yn cael eu dyfarnu i’n preswylwyr ar draws Cymru - dyna gyfanswm o bron i £5,000!

Cyllid i’r Crefftau!Cafodd tri grŵp - y Crafty Tuesdays o Hanover Court, y Barri (yn y llun), Can Do Club Tŷ Ddewi, y Rhondda, a Craftynanas.com o Oakmeadow Court, Caerdydd - grantiau ar gyfer deunyddiau ac offer i wneud cardiau decoupage, crefftau papur a phlaciau pren gwych.

Mae’r grwpiau yn awr yn brysur yn rhannu eu sgiliau gyda’i gilydd ac maen nhw’n barod i helpu grwpiau newydd sydd wrthi’n sefydlu.

Y Crafty Tuesday’s yn Hanover Court yn y Barri

Page 27: Intouch

Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned | intouch | www.wwha.co.uk | 27

Cadw’n heini! Mae preswylwyr yng nghynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr, Prestatyn, wedi bod yn dod at ei gilydd bob wythnos i wneud ioga mewn cadeiriau!

Fe wnaeth ein grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned dalu am

Cymdeithasu!Cafodd clybiau brecinio a chinio Hope Court yng Nghaerdydd, Oak Court ym Mhenarth (yn y llun) a Llys Hafren yn y Drenewydd grantiau ar gyfer offer cegin.

Mae’r clybiau’n trefnu bod preswylwyr yn dod at ei gilydd i wneud ffrindiau a sgwrsio, gan fwynhau bwyd cartref wedi ei wneud gan wirfoddolwyr dawnus o blith y preswylwyr.

Mae’r cogyddion a’r cynorthwywyr gwirfoddol i gyd wedi cwblhau cyrsiau hylendid bwyd i sicrhau fod popeth yn cael ei wneud yn ddiogel. Trefnodd WWH yr hyfforddiant a thalu amdano, ac roedd

hanner costau’r tiwtor ioga, gyda’r preswylwyr yn cyfrannu’r hanner arall. Mae’r dosbarthiadau’n addas i rai o bob gallu ac mae’r preswylwyr yn dweud eu bod nhw’n mwynhau gwella eu hiechyd a chymdeithasu ar yr un pryd.

Ioga mewn cadeiriau yn Nant y Môr

modd ei wneud yn eich cynllun, neu yn eich cartref, ac ar eich cyflymder eich hun.

Clwb Brecinio Oak Court ym Mhenarth

Page 28: Intouch

28 | www.wwha.co.uk | intouch Gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned

Ac nid dyna’r cyfan..!• Cafodd rhai o’n rheolwyr cynllun yng Nghaerdydd eu hyfforddi mewn ymarfer corff ysgafn, felly fe wnaethon ni dalu am offer cerddoriaeth a bandiau ymestyn i breswylwyr fwynhau dosbarthiadau gyda’i gilydd.

• Cafodd preswylwyr Hanover Court, y Barri, gonsol chwarae gemau Wii Fit. Maen nhw nawr yn cael llawer o hwyl yn cadw’n heini, yn chwarae chwaraeon rhithwir a hyd yn oed yn canu a dawnsio i sioeau cerdd!

• Cafodd Hafal Homegrown yn Wrecsam, Cwrt Anghorfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Grŵp Cymdeithasol Plas Gorffwysfa ym Mhrestatyn a Gardd Gymunedol Llaneirwg yng Nghaerdydd grantiau ar gyfer gasebos ac offer awyr agored ar gyfer cynnal gweithgareddau cymdeithasol yn eu gerddi cymunedol.

• Cafodd Cymdeithas Tenantiaid Barracksfield yn Wrecsam grant Gwneud Gwahaniaeth i’ch Cymuned er mwyn helpu i dalu tuag at eu Diwrnod Hwyl i’r Teulu blynyddol, a ddaeth â thros 150 o breswylwyr at ei gilydd.

Os cawsoch chi eich ysbrydoli gan y storïau hyn a’ch bod chi’n awyddus i ddechrau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, cewch ragor o wybodaeth a chyfle i wneud cais ar ein gwefan - www.wwha.co.uk

Neu cysylltwch â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, am sgwrs am eich syniad.E-bost: [email protected] Ffôn: 0800 052 2526 Neges destun: 0776 683 2692

Page 29: Intouch

Cynnal a chadw wedi ei gynllunio | | intouch | www.wwha.co.uk | 29

Un o drydanwyr Cambria, Mike Lancaster, yn gosod y goleuadau newydd.

Bu Uwch Drydanwr a Rheolwr Gweithrediadau Cambria yn ymgynghori gyda’r cwpl cyn gosod y goleuadau, a daeth i’r amlwg bod angen goleuo gwahanol ar gyfer y naill a’r llall.

Roedd un o’n preswylwyr angen golau uniongyrchol a disglair iawn, tra byddai’r llall yn cael trafferth pe bai’n wynebu golau uniongyrchol. Roedd hyn yn golygu y byddai angen i’r goleuadau fod yn hawdd eu haddasu ar gyfer pa bynnag breswyliwr oedd yn eu defnyddio.

Yn seiliedig ar hyn, nid ffitiad golau safonol oedd y dewis iawn ar gyfer anghenion ein preswylwyr. Felly, gosododd Cambria oleuadau LED mwy addas, gan gynnwys goleuadau trac a goleuadau dan gypyrddau gyda phelmet.

Roedd y preswylwyr wrth eu bodd gyda’u goleuadau newydd gwell, gan ddweud: “Mae wedi gwneud y broses o baratoi prydau bwyd yn llawer haws gan y gallwn droi’r golau i’r safle cywir.

“Mae’r golau hefyd yn hynod hyblyg gan ei fod yn ymestyn ar draws yr ystafell gyfan, felly nid ydyn ni’n ceisio gweithio o amgylch y goleuadau - mae’n gweithio o’n cwmpas ni yn lle hynny.

Cambria yn gosod goleuadau arbenigol i helpu preswylwyrYn ddiweddar, mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi gosod goleuadau arbenigol yng nghartref dau o breswylwyr WWH sy’n cael anhawster gyda’u golwg.

“Mae hyn nid yn unig wedi gwella ein bywydau o ddydd i ddydd, ond mae wedi gwella ein hiechyd hefyd wrth i ni gael llai o gur pen gan mai LED yw’r goleuadau.”

Page 30: Intouch

30 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Ataliwch eich dant melys!Mae siwgr ychwanegol wedi dod yn rhan allweddol o’n diet, wedi ei guddio mewn llawer o’r bwydydd a’r diodydd rydyn ni’n eu hoffi. Yma, mae NHS Choices yn dweud mwy wrthym am bethau melys a sut gallwn leihau faint ohono rydyn ni’n ei fwyta a’i yfed.Ym Mhrydain, bydd unigolyn yn bwyta 700g o siwgr yr wythnos ar gyfartaledd. Dyna werth 140 llwy de!Mae hyn yn golygu bod llawer ohonom yn bwyta gormod o galorïau, sydd yn un o achosion y tu ôl i ordewdra. Er bod llawer ohonom yn gwybod bod angen i ni fwyta llai o siwgr, gall fod yn arferiad anodd ei dorri.

Bwydydd sy’n uchel mewn siwgr ychwanegol, fel diodydd pop a melysion, yw’r rhai y mae angen i ni fwyta llai ohonyn nhw. Mae siwgrau sydd i’w cael yn naturiol, fel y rhai a geir mewn ffrwythau a chynhyrchion llaeth, yn well i ni gan eu bod nhw’n cynnwys mwy o faetholion.

Pan fyddwch chi’n siopa, mae’n syniad da edrych ar labeli maeth i weld faint o siwgr sydd mewn cynnyrch.

Os yw cyfanswm cynnwys siwgr yr eitem yn fwy na 22.5g fesul 100g, mae’n cael ei gyfrif fel cynnyrch â llawer o siwgr ynddo. Mae’r eitemau hynny sydd â chyfanswm siwgrau dan 5g fesul 100g yn isel mewn siwgr.

Mae rhai pecynnau’n defnyddio system â chodau lliw sy’n ei gwneud yn hawdd dewis bwydydd â llai o siwgr, halen a braster ynddyn nhw. Chwiliwch am fwy o fwydydd “gwyrdd” ac “ambr”, a llai o rai “coch”, i’w rhoi yn eich basged.

Wyddech chi?Mae Pwyllgor Cynghori Gwyddonol y Llywodraeth ar Faeth (SACN) yn rhoi canllawiau ar ein defnydd o siwgr wedi ei ychwanegu. Maen nhw’n argymell y dylai ein cymeriant dyddiol fod yn llai na 5% o gyfanswm ein cymeriant egni. Felly, mae hynny’n cyfateb â:

• Plant 4-6 oed: dim mwy na 19g (5 llwy de y dydd)• Plant 7-10 oed: dim mwy na 24g (6 llwy de y dydd)• Plant 11+ oed ac oedolion: dim mwy na 30g (7 llwy de y dydd)

Page 31: Intouch

Byw’n iach | intouch | www.wwha.co.uk | 31

BrecwastOeddech chi’n gwybod fod llawer o rawnfwydydd brecwast yn uchel mewn siwgr? Ceisiwch newid i rawnfwydydd â llai o siwgr neu rhai heb siwgr ychwanegol, fel uwd plaen neu rawnfwyd gwenith cyflawn. Gallai’r newid hwn ar ei ben ei hun dorri 70g o siwgr (hyd at 22 o giwbiau siwgr) o’ch diet dros gyfnod o wythnos.

Os ydych chi’n hoffi tost amser brecwast, rhowch gynnig ar fara gwenith cyflawn neu fara graneri -mae’n cynnwys mwy o ffibr na bara gwyn. Mae modd cael dewisiadau heb siwgr o gwbl neu lai o siwgr na’r arfer o’r rhan fwyaf o jamiau a thaeniadau.

Prif brydauMae rhai mathau o gawl parod, sawsiau cymysgu a phrydau parod yn cynnwys mwy o siwgr nag y byddech chi’n ei feddwl.

Cadwch olwg am brydau bwyd parod sydd fel arfer yn uchel mewn siwgr, fel prydau melys a sur, tsili melys a rhai sawsiau cyri. Yn ogystal, gall sawsiau fel sos coch gynnwys cymaint â 23g o siwgr fesul 100g - tua hanner llwy de fesul cyfran.

DiodyddMae bron i chwarter y siwgr ychwanegol yn ein diet yn dod o ddiodydd llawn siwgr - diodydd pop, sudd wedi ei felysu, diod ffrwythau a chordialau. Rhowch gynnig ar fathau di-siwgr, dŵr neu ddŵr soda gyda mymryn o sudd ffrwythau. Os ydych chi’n cymryd siwgr mewn te neu goffi, ceisiwch leihau faint rydych chi’n ei gymryd nes gallwch wneud hebddo’n gyfan gwbl, neu rhowch gynnig ar newid i felysyddion yn lle hynny.

PwdinOes angen i chi gael pwdinau neu ddanteithion melys bob dydd? Ceisiwch leihau pa mor aml rydych chi’n cael y bwydydd hyn - dim ond ar benwythnosau, efallai, neu ar ddiwrnodau penodol o’r mis.

Os oes gennych chi ddant melys, rhowch gynnig ar bwdinau llai melys fel ffrwythau, sy’n is mewn braster a phwdin reis â llai o siwgr ynddo, ac iogwrt plaen braster is.

Nid oes yn rhaid i chi gael gwared ar siwgr yn gyfan gwbl o’ch diet. Gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr! Dyma rai awgrymiadau syml ar gyfer eich diwrnod:

Page 32: Intouch

32 | www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

Gofal piau hi!

Nid yw braster isel o reidrwydd yn golygu siwgr

isel! Mae rhai mathau o iogwrt braster isel, er enghraifft, yn gallu

cael eu melysu â siwgr wedi ei goethi, sudd ffrwythau wedi ei gyddwyso, glwcos a surop ffrwctos. Edrychwch ar y label bob tro.

Mae gan raglen Newid am Oes y GIG ap newydd gwych o’r enw Sugar Smart! Cofrestrwch i ddefnyddio awgrymiadau dietegol doeth, talebau i’w defnyddio ar gyfer bwydydd iachach a ryseitiau gwych. Ewch i www.nhs.uk/change4life am ragor o wybodaeth.

Synnwyr gyda siwgr

CYSTADLEUAETH! Cyfle i ENNILL copi o lyfr ‘Everyday Super Food’ Jamie Oliver!Oes gennych chi hoff rysáit iachus rydych chi wrth eich bodd yn ei pharatoi yn y gegin? Wel, rydym eisiau clywed gennych chi! Anfonwch eich rysáit atom ni (gan gynnwys y cynhwysion, meintiau a’r dull) erbyn dydd Mercher 20 Ebrill ac fe wnawn ni ei rhannu gyda’n holl breswylwyr yn yr InTouch nesaf! Fe fyddwch chi hefyd yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill copi o lyfr newydd gwych Jamie – sy’n llawn ryseitiau i’ch gwneud chi’n iachach a hapusach.

Hwyl ar y coginio!

Page 33: Intouch

Cystadleuaeth PH Jones | intouch | www.wwha.co.uk | 33

Mrs Helen Connell (ar y dde) oedd yr enillydd lwcus o Brestatyn, gogledd Cymru. Dywedodd: “Roedd yn syrpreis hyfryd gan nad ydw i byth yn ennill unrhyw beth. Rydw i’n falch iawn! “

Mr a Mrs Fry o Dongwynlais (uchod) oedd yr enillwyr yn ne Cymru. Roedden nhw’n falch iawn ac fe wnaethon nhw roi eu henillion tuag at adeg y Nadolig.

Cystadleuaeth PH Jones Cyfle i ENNILL £250, siampên, siocledi a thusw o flodau drwy drefnu bod eich bwyler nwy yn cael ei wasanaethu ar yr apwyntiad cyntaf, neu eich bod chi’n rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i ni aildrefnu’r ymweliad ar gyfer amser sy’n fwy cyfleus i chi.

Page 34: Intouch

34 | www.wwha.co.uk | intouch | Cyfranogiad preswylwyr

Preswylwyr yn ein helpu ni i wneud pethau’n iawn!Mae ein Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) yn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n byw ym mhob rhan o Gymru, ac sy’n ein helpu ni i sicrhau ein bod ni’n eich cynnwys chi yn y ffordd iawn.

Mae’r RPSG yn ein helpu ni i fonitro sut rydyn ni’n ymdrin â chyfranogiad preswylwyr (sut rydych chi’n cymryd rhan ac yn rhoi eich barn ar ein gwasanaethau) a gwirio bod gwybodaeth sy’n mynd at yr holl breswylwyr yn glir ac yn hawdd ei deall.

Y llynedd, fe wnaeth yr RPSG ein helpu ni i:

• Ddatblygu arolygon er mwyn gofyn i chi sut rydych chi’n teimlo am gymryd rhan yn WWH• Dylunio ffurflenni, nodiadau cyfarwyddyd, meini prawf a thudalennau gwe ar gyfer ein grantiau Gwneud Gwahaniaeth

• Llunio cwestiynau i breswylwyr ynghylch sut rydych chi eisiau defnyddio’r rhyngrwyd pan fyddwn ni’n gosod Wifi mewn cynlluniau• Meddwl am ffyrdd o roi gwybod am atgyweiriadau a sut gallwn wella’r broses

Page 35: Intouch

Cyfranogiad preswylwyr | intouch | www.wwha.co.uk | 35

Maen nhw hefyd wedi bod yn mynd i lawer o sesiynau hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio i ddysgu a dod â syniadau yn ôl o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys rhwydwaith Big Lunch Extras yr Eden Project, cynhadledd TPAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid), Rhwydweithiau Tenantiaid ac Anabledd, a Chanolfan Genedlaethol Adnoddau Tenantiaid (Trafford Hall).

Fe wnaeth un o’n haelodau RPSG hyd yn oed helpu i drefnu digwyddiad arbed ynni yn Wrecsam yn ddiweddar.

Cafodd gwaith y grŵp ei gydnabod yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn 2014 gyda Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig (gweler y llun). Haeddiannol iawn!

• Gwirio, datblygu a dylunio pob cam o’n strategaeth cyfranogiad preswylwyr ddiwygiedig• Monitro sut rydym yn cyllido cyfranogiad preswylwyr• Meddwl am ein llawlyfr i breswylwyr a beth sydd angen ei ddiweddaru• Dweud wrth Reolydd Tai Llywodraeth Cymru am eu barn ar gyfleoedd i gymryd rhan yn WWH• Ystyried sut rydyn ni’n cyflwyno ein gwybodaeth perfformiad allweddol i breswylwyr yn InTouch

Os hoffech chi gael gwybod mwy am yr RPSG cysylltwch â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr:

E-bost: [email protected]

Ffôn: 0800 052 2526

Neges destun: 07766832692

Page 36: Intouch

36 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Eich newyddion a’ch safbwyntiau Preswylwyr Henllan yn cael cyllid ar gyfer garddMae prosiect garddio o Henllan wedi elwa ar hwb ariannol diolch i gynllun grant amgylcheddol gan Cadwch Gymru’n Daclus a Tesco.

Roedd aelodau o Grŵp Gardd y Ddraig Cil-y-Coed wrth eu bodd pan glywson nhw eu bod wedi llwyddo gyda’u cais am Grant Cymru Gyfan o £140.10, y gwnaethon nhw ei ddefnyddio i brynu offer garddio.

Yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus, a’i gyllido drwy dâl am fagiau siopa untro yn Tesco, nod Cynllun Grant Cymru Gyfan yw helpu

cymunedau ledled Cymru i wella eu hamgylchedd lleol. Fel rhan o’u prosiect, dysgodd aelodau o Grŵp Gardd y Ddraig Cil-y-Coed sut i dyfu planhigion, adnabod planhigion a pherlysiau, defnyddio perlysiau i ategu ffordd iach o fyw, gwneud compost a dysgu hefyd sut i integreiddio i’r gymuned leol.

Dywedodd Vy Cochran, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol gyda WWH: “Mae hwn o fantais fawr i’n preswylwyr – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gerddi yn y Gwanwyn.”

Dywedodd Gareth Jones, o Cadwch Gymru’n Daclus, a gyflwynodd y siec am yr offer: “Mae’n brosiect gwych i’w gefnogi ac mae o fudd clir i’r safle, i’r preswylwyr a’r gymuned leol.”

Vy Cochran, un o’r preswylwyr Dominic Hughes, Gareth Jones o Cadwch Gymru’n Daclus, a staff WWH yn derbyn y siec am offer garddio newydd.

Page 37: Intouch

Eich newyddion a’ch safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Fe wnaeth preswylwyr St Clements Court, Caerdydd, ffarwelio a dymuno’r gorau i’r rheolwr cynllun Anna Cordery yn ddiweddar ar ei hymddeoliad.Cafodd Anna, sydd wedi gweithio i WWH am dros 22 mlynedd, deisen hyfryd i ddathlu, teisen yr oedd y preswylwyr wedi bod yn ddigon caredig i’w phobi ar gyfer yr achlysur.

Mae Mrs Janet Meredith, sydd wedi byw yn y cynllun am 22 mlynedd, yn dweud bod Anna bob amser wedi mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau.

Ychwanega Mrs Meredith yn ei llythyr atom: “Nid wyf erioed wedi cael fy siomi gan Anna ac mae llawer o bobl yma’n teimlo’n drist wrth ei gweld hi’n ymddeol. Mae hi’n un o foneddigesau bywyd.”

Mae pawb ohonom yn dymuno ymddeoliad hapus iawn i Anna.

Preswylwyr yn ffarwelio ag Anna

Page 38: Intouch

38 | www.wwha.co.uk | intouch | Eich newyddion a’ch safbwyntiau

Fe wnaeth preswylwyr Llys Ben Bowen Thomas yn Ystrad, Pentre, Rhondda Cynon Taf, gynnal arddangosfa crefftau creadigol yn ddiweddar.

Yn yr arddangosfa bu preswylwyr dawnus yn arddangos a thrafod eu gwaith ceramig yn falch, sef gwaith y buon nhw’n gweithio arno dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant go iawn a daeth nifer dda yno, gyda llawer o aelodau’r gymuned yn dod draw i weld yr arddangosfa, ynghyd â Leighton Andrews AC.

Preswylwyr crefftus!

Mae gwneuthurwyr rhaglenni dogfen Channel 4 yn chwilio am gyplau dros 70 oed a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn rhaglen i gynhesu’r galon am gariad a phriodas yn ddiweddarach mewn bywyd.Wedi ei disgrifio fel rhaglen sensitif sy’n cadarnhau gwirioneddau bywyd, bydd y rhaglen ddogfen sy’n para am awr yn dilyn cyplau sy’n priodi yn 2016 ar eu taith tuag at eu diwrnod mawr.

Bydd yn dangos yr holl gyffro nerfus mae unrhyw gwpl sy’n priodi yn ei brofi, ond hefyd yn edrych ar yr heriau mae angen i gyplau hŷn eu goresgyn i wneud eu diwrnod mawr yn realiti.

Os hoffech chi gymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen, Emma Linstead, ar 020 7704 3310 neu e-bostio [email protected]

Fyddwch chi’n priodi eleni?

Page 39: Intouch

Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Pen-blwydd hapus yn 90 oed, Peggy!

Mae Peggy, sydd wedi byw yn y cynllun ers dros 30 mlynedd, yn aelod poblogaidd o gymuned Western Court.

I nodi ei phen-blwydd, daeth yr holl breswylwyr at ei gilydd yn nhŷ haf y cynllun ar gyfer parti pen-blwydd arbennig.

Bu Peggy a’i ffrindiau yn dathlu mewn steil gyda bwffe a theisen ben-blwydd syfrdanol... yn ogystal â sieri neu ddau, wrth gwrs!

Wrth siarad am Peggy, dywedodd cyd-breswyliwr a chyfaill, Jeff Bunce: “Mae Peggy yn fenyw mor hyfryd. Mae hi’n llawn hwyl ac mae hi’n hoffi dweud straeon am flynyddoedd yn ôl. Hi oedd y preswyliwr cyntaf yma ac mae pawb yn gofalu amdani.”

Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi wedi cael pen-blwydd gwych, Peggy, a longyfarchiadau mawr gan bawb ohonom!

Dathlodd y wraig hyfryd, Peggy Higginson, o Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, ei phen-blwydd yn 90 oed ar 16 Tachwedd 2015.

Page 40: Intouch

40 | www.wwha.co.uk | intouch Making a Difference to Your Community

YOU CAN’T VOTE.ALLWCH CHI DDIM PLEIDLEISIO.

Yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu... Heb i chi gofrestru erbyn 18 Ebrill.

In the National Assembly for Wales and Police and Crime Commissioner elections... Unless you’ve registered by 18 April.

Mae ond yn cymryd munudau. Ewch i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

It only takes a few minutes. Go to gov.uk/register-to-vote

Y Comisiwn EtholiadolThe Electoral Commission

2904631 Electoral Commission Press Ads A5 v1_1.indd 1 14/12/2015 16:25