6
Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol NEWYDDION Gwanwyn 2014 CROESO I GYLCHLYTHYR Y GANOLFAN HYFFORDDI RYNGWLADOL Croeso! Mae'n bleser gennyf lansio rhifyn cyntaf cylchlythyr y Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol. Lansiwyd y Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol (ITC) dros flwyddyn yn ôl ac mae'n amserol i adrodd ar rai o'r gweithgareddau sydd wedi eu cynnal ers hynny. Caiff y cylchlythyr hwn ei ddosbarthu ddwywaith y flwyddyn a bydd yn cwmpasu rhai o'r datblygiadau cyffrous ac arloesol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd mewn perthynas ag addysgu a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am rai o'r gweithgareddau a nodir yma. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn: www.cardiffmet.ac.uk/itc Peter Sykes Cyfarwyddwr Menter, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Yr Athro Adrian Peters Deon Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd TU MEWN: Lansiad ITC | E-ddysgu | ArcopolPlus | Addysgu a Hyfforddi Rhyngwladol Digwyddiadau Diweddar a Digwyddiadau i Ddod | Sefydliad Ymchwil Chulabhorn | Cwrdd â'r Tîm

Itc newsletter welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Newyddion Ganolfan Hyfforddi Ryngwladol

Citation preview

Page 1: Itc newsletter welsh

Ganolfan Hyfforddi RyngwladolNEWYDDION

Gwanwyn 2014

CROESO I GYLCHLYTHYR YGANOLFAN HYFFORDDIRYNGWLADOL

Croeso! Mae'n bleser gennyf lansiorhifyn cyntaf cylchlythyr y GanolfanHyfforddi Ryngwladol. Lansiwyd yGanolfan Hyfforddi Ryngwladol (ITC)dros flwyddyn yn ôl ac mae'n amserol iadrodd ar rai o'r gweithgareddau syddwedi eu cynnal ers hynny.

Caiff y cylchlythyr hwn ei ddosbarthuddwywaith y flwyddyn a bydd yn cwmpasurhai o'r datblygiadau cyffrous ac arloesol ynYsgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd mewnperthynas ag addysgu a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen amrai o'r gweithgareddau a nodir yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn:www.cardiffmet.ac.uk/itc

Peter SykesCyfarwyddwr Menter, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Yr Athro Adrian PetersDeon Ysgol Gwyddorau IechydCaerdydd

TU MEWN: Lansiad ITC | E-ddysgu | ArcopolPlus | Addysgu a Hyfforddi RhyngwladolDigwyddiadau Diweddar a Digwyddiadau i Ddod | Sefydliad Ymchwil Chulabhorn | Cwrdd â'r Tîm

Page 2: Itc newsletter welsh

Lansiwyd y Ganolfan ar Ebrill 20 fed 2012 ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yrAsiantaeth Diogelu Iechyd (sydd bellach yn rhan o Public Health England), Gr�p Gweithredu DiogeluIechyd y Byd G7+ Mecsico, SefydliadIechyd y Byd ac Iechyd CyhoeddusCymru. Cefnogwyd y lansiad hefyd gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd.

Nod pennaf ITC yw cyfuno arbenigedd ameithrin partneriaethau er mwyn darparucanolfan ragoriaeth ar gyfer addysgu ahyfforddi newydd, arloesol, ac o'r raddflaenaf. Mae ITC wrthi'n datblygu llwyfan argyfer datblygiad proffesiynol rhyngwladolparhaus ym mhob maes disgyblaeth sydd ymmhortffolio Ysgol Gwyddorau IechydCaerdydd. Caiff y rhaglenni hyn eu cyflwynoar-lein a thrwy weithgareddau allgymorthgyda phartneriaid byd-eang.

Lansiad ITCNod Pennaf ITC yw

cyfuno arbenigedd a meithrin partneriaethau er

mwyn darparu canolfanragoriaeth ar gyfer

addysgu a hyfforddinewydd, arloesol, ac o'r

radd flaenaf

Mae ITC wedi datblygu deunyddiaue-ddysgu ar gyfer gweithwyr

proffesiynol iechyd cyhoeddus apherthynol ym maes rheoli digwyddiadaucemegol. Mae'r deunyddiau'n cwmpasuprif gydrannau rheoli digwyddiadaucemegol er iechyd cyhoeddus ac mae'ncynnwys y cydrannau hanfodol, sef nodiperyglon ac asesu risg, blaenoriaethu risg,lleihau risg, cynllunio a pharatoi ar gyferargyfwng, ymateb ac adfer.

Caiff y deunyddiau eu cyflwyno trwyMoodle, sy'n becyn meddalwedd ar gyferllunio cyrsiau rhyngrwyd. Gellir cyrchuMoodle o unrhyw le gyda chyswlltRhyngrwyd. Mae deunyddiau dysgu'ncynnwys cymysgedd o gyflwyniadaupowerpoint, cyfweliadau gydagarbenigwyr, astudiaethau achos, senariosac ymarferion yn ogystal â rhestrau gwirioa chwestiynau hunan-asesu.

Gellir dod o hyd i'r deunyddiau ynwww.moodle.uwic.ac.uk a byddangen manylion mewngofnodiarnoch. Anfonwch eich manylion [email protected] a chaiff cyfrif eiagor ar eich cyfer

Astudio gyda ni

Yn ddiweddar, cynhaliodd ITC ygynhadledd ryngwladol ARCOPOLplus

gyda phartneriaid o'r DU, GweriniaethIwerddon, Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal, acroedd y gynhadledd yn cwmpasu pynciaucyfoes ym maes llygredd morol gan gynnwyscyfathrebu â'r cyhoedd, nodi a defnyddio'radnoddau a'r strategaethau cynllunio sydd euhangen er mwyn helpu i ymateb iddigwyddiadau morwrol ac adfer wedi hynny.

Trafododd y cynadleddwyr y risgiau sy'ngysylltiedig â chynnydd yn yr arfer o gludosylweddau peryglus a gwenwynig ledled ybyd ac yn Ewrop yn benodol. Maecydnabyddiaeth ryngwladol bod gollyngiadauo'r sylweddau hyn yn peri risgiau posibl i'ramgylchedd, i ecoleg ac i iechyd y cyhoedd.

ARCOPOL Plus

Page 3: Itc newsletter welsh

Belgrade, SerbiaYm mis Mawrth 2013, cynhaliwydgweithdy deuddydd yn Sefydliad Iechydy Cyhoedd yn Belgrade, Serbia.Cynhaliwyd y gweithdy mewncydweithrediad â Sefydliad Iechyd y BydEwrop a gyda chyfranogwyr o Serbia,Albania, Moldofa a Bosnia, aeth i'r afael ynbenodol â rhwymedigaethau'r RheoliadauIechyd Rhyngwladol (IHR) mewnperthynas ag adeiladu gallu ac adnoddauym maes iechyd y cyhoedd a gwydnwchym maes rheoli digwyddiadau cemegol.Ymdriniodd ag agweddau allweddol erenghraifft perygl a risg, blaenoriaethu alleihau risg a rheoli ac ymateb i argyfyngaumewn modd integredig.

Miami, FloridaCynhaliodd y Sefydliad Iechyd TrawsAmerica (PAHO) weithdy ym Miami,Fflorida ym mis Mai eleni. Cymerodd 15 owledydd y Caribî ran a chynrychiolwydITC gan Danny Sokolowski o HealthCanada a hwylusodd y broses o gynnalymarfer a oedd yn canolbwyntio argynllunio a pharatoi at argyfyngau. Roeddyr ymarfer yn darparu senario a oedd ynprofi cynllun ymateb cenedlaethol pobgwlad unigol. Daeth y gweithdy i'r casgliadbod cynllunio a pharatoi ar gyferdigwyddiadau cemegol mawr yn dueddolo adlewyrchu cymhlethdod y diwydiantcemegol mewn gwlad benodol. Gobeithiry caiff hyfforddiant pellach ei drefnu yn ydyfodol.

Hong KongYm mis Ebrill 2013, cynhaliodd aelodauCanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechydy Byd a Phrifysgol Metropolitan Caerdyddweithdy ar reoli iechyd y cyhoedd mewnachosion cemegol yn yr Ysgol AddysgProffesiynol a Pharhaus, ym MhrifysgolHong Kong. Mynychwyd y gweithdy ganfeddygon brys lleol, swyddogion iechyd yramgylchedd, ymgynghorwyr iechyd ycyhoedd a gwneuthurwyr polisi, ac roeddyn canolbwyntio ar nodi a rheoli risg,datblygu a diweddaru cynlluniau cemegolac ymatebion ar y cyd i argyfyngau. I gloi,cafwyd ymarfer yn ymchwilio i'r cynllunioa fyddai ei angen ar gyfer digwyddiadcemegol morwrol mawr lle byddaihydrogen fflworid yn cael ei ryddhau ymmhorthladd Hong Kong a'n ymateb ihynny.

David Russell gyda chynrychiolwyr ygweithdy Rheoli Iechyd y Cyhoeddmewn Digwyddiadau Cemegol ymMhrifysgol Hong Kong

Sefydliad Ymchwil ChulabhornCyfrannodd Aelodau'r ITC at raglenGwenwyneg Amgylcheddol flynyddolSefydliad Ymchwil Chulabhorn ynddiweddar yn Bangkok, Gwlad y Thai ymmis Rhagfyr. Roedd y cwrs, a fynychwydgan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol odde-ddwyrain Asia, yn cwmpasu prifagweddau perygl a risg, a nodweddionffiseg-gemegol prif lygryddion aer, d�r,pridd a bwyd. I gloi, cafwyd sesiwn asesurisg ymarferol yn seiliedig ar astudiaethauachos yn dangos agweddau allweddol arsenarios yn ymwneud â llygredd d�r ac aer,a halogi bwyd

Lledaenu'r Gair: Addysgu a Hyfforddi Rhyngwladol

Digwyddiadau Diweddar aDigwyddiadau i Ddod

28 Tach - 13 Rhag 2013Cwrs Hyfforddi Rhyngwladol arHanfodion Diogelwch Cemegol:

Egwyddorion Asesu Gwenwyneg a Risg,Bangkok, Gwlad y Thai

5 - 6 Chwefror 2014Gweithdy yng Nghanada ar Gyfyngau

Cemegol at ddiben Terfysgaeth, Ottowa, Canada

Dyddiad i’w gadarnhauAddysgu Iechyd y Cyhoedd

Amgylcheddol, Coleg HyfforddiMeddygol Cenia, Nairobi, Cenia

Page 4: Itc newsletter welsh

Cwrdd â'r Tîm

David Russell yn athro gwadd mewnAmgylchedd ac Iechyd ym MhrifysgolMetropolitan Caerdydd. Mae'n rhedegCanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd yByd ar gyfer Digwyddiadau Cemegol ac yngyd-gadeirydd ar Weithgor DigwyddiadauCemegol G7+ Mecsico.

Peter Sykes yn brif ddarlithydd ac ynGyfarwyddwr Menter yn Ysgol GwyddorauIechyd Caerdydd. Mae Peter yn uwchgynghorydd addysg ar gyfer CanolfanGydweithredol Sefydliad Iechyd y byd acmae'n cymryd rhan weithredol mewnaddysgu, hyfforddi ac ymchwil mewnagweddau a chymwysiadau Asesiad RisgAmgylcheddol a Galwedigaethol.

Andrew Kibble yw'r RheolwrGweithrediadau yn Swyddfa Cymru yGanolfan ar gyfer Pelydriad, Cemegion aPheryglon Amgylcheddol i Public HealthEngland. Mae ei ddiddordebau'ncanolbwyntio ar asesiadau risg cemegol,iechyd y cyhoedd amgylcheddol achyfathrebu risg. Mae Andrew wedicyhoeddi llawer ar bynciau megis tir aciechyd halogedig, ansawdd aer a chanser,monitro a modelu’r amgylchedd ac yn fwyafdiweddar nwy siâl. Mae'n ymgynghoryddmewn asesiad risg ar gyfer CanolfanGydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd argyfer Digwyddiadau Cemegol.

Gayle Davis yn ddarlithydd prifysgol ac ynhyfforddwr proffesiynol, sy'n cyflwynodarlithoedd, seminarau a gweithdai ynrheolaidd i fyfyrwyr a gweithwyrproffesiynol. Ymunodd Gayle â'r YsgolGwyddorau Iechyd yn 2011 ac mae bellachyn arwain agweddau diogelu'r amgylcheddar gyfer y rhaglen Iechyd Amgylcheddol BSc(Anrh). Roedd ganddi rôl ehangach ynflaenorol ym maes iechyd y cyhoedd, felrheolwr partneriaeth iechyd cyhoeddusstrategol rhwng awdurdodau lleol, byrddauiechyd a phartneriaid y trydydd sector.

Danny Sokolowski yn Ymgynghorydd iGanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd yByd ar gyfer Digwyddiadau Cemegol yngNghaerdydd. Mae wedi hwyluso gweithdaiyn ddiweddar yn Belgrade a Miami gyda'rnod o wella parodrwydd ar gyfer argyfyngauac ymateb i ddigwyddiadau cemegol.

Sian Westcombe sy'n gyfrifol am ddatblygue-ddysgu yn Ysgol Gwyddorau IechydCaerdydd. Ynghyd ag arbenigwyr yn y maesmae'n datblygu cyrsiau e-ddysgu ar ReoliIechyd y Cyhoedd mewn DigwyddiadauCemegol a Rheoli Ymateb i DdigwyddiadauTraethlin Morwrol.

Page 5: Itc newsletter welsh
Page 6: Itc newsletter welsh

Canolfan Hyfforddi RhyngwladolPrifysgol Metropolitan Caerdydd

Campws LlandafRhodfa’r Gorllewin

Llandaf CaerdyddCF5 2YB

Dewch o hyd i ni ar-lein:www.cardiffmet.ac.uk/itc