4
Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Gorffennaf 2013 Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Gorffennaf Cynhadledd Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol 2013 Trosolwg o’n cynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill Helo Ddarllenwyr Mae’r haf wedi cyrraedd, wrth i mi eistedd mewn swyddfa boeth yng Nghastell-nedd. Mae’r timau wedi dweud wrthym am eu cynlluniau gwych ar gyfer yr haf gyda theithiau i ffwrdd, teithiau’n agosach at adref, cyrsiau a gweithgareddau yn digwydd ar draws pob un o’r naw ardal. Tynnwch lawer o luniau a rhowch wybod i ni trwy ein tudalennau Twitter a Facebook am yr hwyl yr ydych yn ei gael. Mae Hannah yn paratoi i fynd i Thorpe Park gyda thîm Caerffili ac mae’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnod gyda phobl ifanc yn cael llawer o hwyl. Mae hi’n ‘awyddus’ iawn i roi cynnig ar ‘SAW’, y gert sglefrio fwyaf brawychus. Gadewch i ni wybod am bopeth y byddwch yn ei wneud dros yr haf. Gobeithio erbyn y rhifyn nesaf bydd newyddion gennym am fabi newydd Laura, ond ar 11.12am ar 22 Gorffennaf rydym yn dal i aros. Zoe Richards

July 2013 final welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: July 2013 final welsh

Yn darparu Cyfleoedd

Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod

yn Oedolion

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Gorffennaf 2013Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Gorffennaf

Cynhadledd Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol 2013Trosolwg o’n cynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddolHyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill

Helo DdarllenwyrMae’r haf wedi cyrraedd, wrth i mi eistedd mewn swyddfa boeth yng Nghastell-nedd. Mae’r timau wedi dweud wrthym am eu cynlluniau gwych ar gyfer yr haf gyda theithiau i ffwrdd, teithiau’n agosach at adref, cyrsiau a gweithgareddau yn digwydd ar draws pob un o’r naw ardal. Tynnwch lawer o luniau a rhowch wybod i ni trwy ein tudalennau Twitter a Facebook am yr hwyl yr ydych yn ei gael. Mae Hannah yn paratoi i fynd i Thorpe Park gyda thîm Caerffili ac mae’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnod gyda phobl ifanc yn cael llawer o hwyl. Mae hi’n ‘awyddus’ iawn i roi cynnig ar ‘SAW’, y gert sglefrio fwyaf brawychus. Gadewch i ni wybod am bopeth y byddwch yn ei wneud dros yr haf. Gobeithio erbyn y rhifyn nesaf bydd newyddion gennym am fabi newydd Laura, ond ar 11.12am ar 22 Gorffennaf rydym yn dal i aros. Zoe Richards

Page 2: July 2013 final welsh

Cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol ei gynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol ‘Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol’ eleni ar ddydd Mawrth 25 Mehefin yng Ngwesty’r Marriott Abertawe. Dechreuwyd y diwrnod gan Jack Cox a Rebecca Smith, dau berson ifanc o’r prosiect a gadeiriodd y diwrnod cyfan mewn modd bywiog iawn, a llwyddo i ymgysylltu a diddanu’r cynadleddwyr.

2

CYFLEOEDD GWIRIONEDDOL CANLYNIADAU GWIRIONEDDOL 2013

Pobl Ifanc

Nod y diwrnod oedd rhannu’r gwaith da mae’r prosiect wedi bod yn ei wneud gyda phobl ifanc dros y 3 blynedd diwethaf, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy glywed gan y bobl ifanc eu hunain. Roedd gennym dîm o 22 o bobl ifanc a gyfrannodd at y diwrnod,

gyda rhai yn rhan o’r tîm

gweinyddol ac eraill yn hwyluso byrddau ac yn arwain trafodaethau o gwmpas byrddau’r cynadleddwyr. Roedd gennym nifer o bobl ifanc eraill a gyflwynodd cyflwyniadau am eu profiadau a’r effaith y mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’i chael iddyn nhw a rhai a gynorthwyodd staff gyda chyflwyno gweithdai. Derbyniodd y bobl ifanc adborth ardderchog gan y cynadleddwyr yr oeddent yn falch iawn o’r ffordd y gwnaethant ymddwyn a chyfrannu trwy gydol y dydd. Ysgrifennodd Karenza Cassidy:

Rwy’n rhiant i blentyn gydag awtistiaeth sy’n mynd trwy drawsnewid ar hyn o bryd. Roedd y diwrnod yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig iawn. Roeddwn yn arbennig o falch i weld y bobl ifanc yn cymryd rhan ar bob lefel a’r gefnogaeth a gawsant wrth wneud hynny. Roedd yn anodd iawn peidio â chyffroi wrth weld y ddau gyflwynydd – Rebecca a Jack.

Roedd eu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu yn wych! Roeddent wedi ymlacio, yn anadlu, oedi, gwenu a rhannu jôcs hefyd! Roeddent wedi ymgysylltu’r gynulleidfa yn dda ac nid oedd ofn arnynt ofyn am help a rhyngweithio. Roedd yr holl bobl ifanc yn broffesiynol

ac yn gymwynasgar yn ystod y dydd. Roedd y siaradwyr yn ddewr ac yn fedrus wrth gyflwyno. Da iawn chi, a diolch am ddiwrnod ardderchog!

Profiad RhiantClywsom hefyd gan yr arbennig Julia Cox, mam i ddau fachgen gydag awtistiaeth, y mae’r ddau ohonynt yn ymwneud â’r prosiect. Siaradodd Julia yn agored ac yn angerddol am yr anawsterau a wynebwyd ganddi hi a’i theulu wrth i’r bechgyn dyfu i fyny, a disgrifiodd sut roedd gadael yr ysgol fel “cerdded oddi ar ymyl clogwyn” oherwydd nad oeddent yn gwybod ble i fynd nesaf. Aeth Julia ymlaen i ddisgrifio sut ddaeth eu bechgyn i ymwneud â’r prosiect a sut mae eu bywydau wedi newid yn llwyr ers y diwrnod hwnnw.

Cafwyd cyflwyniad gan Richard Mulcahy, Pennaeth Diwygio ADY Llywodraeth Cymru, yn trafod yr angen am ddiwygio a phwysigrwydd cynllunio seiliedig ar y person a gweithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau’r ‘frwydr’ o ran y broses asesu statudol flaenorol, yn ôl rhieni. Dywedodd Richard fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno cynllunio seiliedig ar y person ar draws Cymru, yn datblygu system Sicrhau Ansawdd i rannu gwybodaeth ac yn trafod ffactorau pwysig eraill fel pa newidiadau oedd eu hangen i’r gyfraith. Soniodd Richard hefyd am yr esiampl dda y mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei ddangos yn y maes hwn a’r tebygrwydd rhwng y model Cyfleoedd Gwirioneddol a’r Cynllun Datblygu Unigol (IDP).

Jack Cox and Rebecca Smith, Conference Chairs.

Julia Cox yn rhannu ei stori o safbwynt rhiant

Page 3: July 2013 final welsh

3

Gwerthuso’r prosiectCafwyd y newyddion diweddaraf gan Dr Stephen Beyer, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Anabledd Dysgu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd am y gwerthusiad sy’n cael ei gynnal gan ei dîm o ganlyniadau’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Dechreuodd trwy ein hatgoffa pa mor unigryw yw’r prosiect ac aeth ymlaen i ddweud bod y prosiect yn adnabod ei wasanaethau lawer o’r rhwystrau i drawsnewid llwyddiannus a nodwyd mewn ymchwil blaenorol. Yn bennaf trafododd Steve y canfyddiadau o’r astudiaeth ddilynol ar deuluoedd, lle mae ei dîm yn cyfweld â tharged o 120 o deuluoedd am y gwasanaethau y maent wedi’u derbyn, eu profiadau a lle mae eu pobl ifanc nawr. Yn eithaf addawol, hanner ffordd drwy’r astudiaeth hon adroddodd Steve fod 72% o deuluoedd yn credu bod y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi cael effaith bositif iddynt hwy ar y cyfan. Nododd hefyd yr effaith bositif y mae elfen Cyflogaeth â Chymorth y prosiect yn ei chael ar bobl ifanc, teuluoedd a chyflogwyr.

Cyflogaeth â Chymorth

Cafwyd cyflwyniad gan Andrea Wayman, Cyfarwyddwr Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite a Thrysorydd Cymdeithas Cymru Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth, yn cynrychioli effaith y gwasanaeth cyflogaeth â chymorth a ddarperir gan Elite, Mencap, Remploy a’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ar draws y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Yn benodol, edrychodd Andrea ar gyflawniadau o safbwynt nifer y cyfranogwyr oedd yn ymwneud â gwasanaethau cyflogaeth â chymorth, cyflogwyr oedd wedi’u hymgysylltu i ddarparu cyfleoedd, profiad gwaith a ddarparwyd, cymwysterau a enillwyd, gwaith cyflogedig a gafwyd a sesiynau rhieni/cyflogwyr a ddarparwyd ar draws 9 Awdurdod Lleol y prosiect o’u cymharu â ffigurau o’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd Andrea fod 790 o achosion profiad gwaith wedi’u darparu yn ystod y prosiect, a bod 30 o bobl ifanc mewn gwaith cyflogedig ar hyn o bryd, ffigur nad oedd yn bodoli cyn y prosiect.

Gallwch weld yr holl ystadegau a’r wybodaeth

o gyflwyniadau Andrea, Steve a Richard ar ein gwefan yn www.realopportunities.org.uk/news/real-opportunities-real-results-2013 lle y gwelwch hefyd drawsgrifiad o gyflwyniad Julia Cox.Gweithdai Ymarferol Cyflwynodd staff y prosiect 5 gweithdy hefyd yn seiliedig ar y ‘5 llwybr’ i fyw’n annibynnol:• Byw’n Annibynnol

• Cyflogaeth

• Perthnasoedd

• Cyfleoedd Hamdden

• Dysgu Gydol OesRoedd y gweithdai yn rhyngweithiol ac wedi’u dylunio i roi offer a syniadau ymarferol i gynadleddwyr am sut mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cefnogi pobl ifanc yn y meysydd bywyd gwahanol hyn. Cynorthwyodd bobl ifanc wrth gyflwyno rhai o’r gweithdai ac roeddent yn gallu dangos sut roedd y gefnogaeth wedi bod o fudd iddynt. Roedd adborth o’r gweithdai yn cynnwys:Fe wnes i fwynhau’r gweithdy perthnasoedd. Roedd yn braf clywed faint o bobl oedd wedi cael eu helpu, pa mor dda maent wedi gwneud a chymaint y maent wedi datblygu.

Blas ardderchog ar yr hyfforddiant sgiliau bywyd y mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei ddarparu.

Mae cyflwyniadau o’r gweithdai ar gael hefyd ar-lein trwy’r ddolen uchod. Mae adnoddau a ddatblygwyd gan staff o’r prosiect hefyd ar gael am ddim trwy ein pecyn offer ar-lein y gellir ei weld yn adran Adnoddau’r wefan: www.realopportunities.org.uk/professionals/resources

Diolch i’r holl bobl ifanc, staff a siaradwyr oedd yn gyfrifol am lwyddiant y gynhadledd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, unrhyw rai o’r cyflwyniadau, y gweithdai neu adnoddau am ddim cysylltwch â Zoe Richards neu Hannah Cox o’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth ar 01639 635650 neu yn realopportunities.org.uk

Scott ‘Scotty’ Roberts yn rhoi cyflwyniad gyda chymorth gan Ian Broad, tîm both RrCT

Dr Steve Beyer yn trafod gwerthuso’r prosiect

Page 4: July 2013 final welsh

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hannah Cox neu Zoe Richards yn 01639 635650 neu [email protected]. Gellir golygu

cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital Print.

Hyfforddiant a digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650

Dosbarth Meistr Hawliau GyrfaoeddForge Fach CRC, ClydachDydd Mawrth 30 Gorffennaf – 10:00-1:002 le i bob tîm both

Dosbarth Meistr BwlioDydd Mercher 7 Awst – 9:30-1:002 le i bob tîm both

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddForge Fach CRC, ClydachDydd Mercher 21 Awst – 10:00-1:00I Weithwyr Allweddol Trawsnewid, Cydlynwyr Mentrau Cymdeithasol, Cynrychiolwyr Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDydd Iau 12 Medi – 10:00-1:00I Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol

Cyflwyniad i PCPForge Fach CRC, ClydachDydd Mawrth 17 Medi - 10:00-4:00Unrhyw un sy’n gweithio ochr yn ochr â’r prosiect neu â diddordeb mewn PCP

Rhwydwaith CynhwysiadForge Fach CRC, ClydachDydd Mercher 25 Medi - 10:00-1:00Gweithwyr Cynhwysiad Ieuenctid, Hyfforddwyr Mentoriaid Cymheiriaid, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg

Cyflwyniad i PCPConsortiwm Canolbarth De, NantgarwUnrhyw un sy’n gweithio ochr yn ochr â’r prosiect neu â diddordeb mewn PCP